– Senedd Cymru ar 19 Mehefin 2019.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Brexit: gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n galw ar—pwy sy'n dechrau gyda ni? Mark Reckless. Mae'n ddrwg gyda fi. Galwaf ar Mark Reckless i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7071 Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
2. Yn gresynu na wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, er gwaethaf sawl addewid gan Lywodraeth y DU i wneud hynny, a bod 498 o ASau wedi pleidleisio i gychwyn proses Erthygl 50 i adael erbyn y dyddiad hwnnw.
3. Yn gwrthod unrhyw estyniad i aelodaeth y DU o'r UE ar ôl 31 Hydref 2019.
4. Yn nodi y gallai gadael heb fargen leihau costau bwyd, dillad ac esgidiau yn sylweddol, ac y bydd yn arbed £39 biliwn i drethdalwyr y DU.
5. Yn penderfynu y dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref 2019 oni bai bod yr UE, o leiaf:
a) yn cynnig cytundeb masnach rydd cynhwysfawr i'r DU; a
b) yn derbyn trefniadau amgen yn lle protocol Gogledd Iwerddon.
Diolch am fy ngalw, gadeirydd, ac rwy'n ddiolchgar am yr amser hwn i gyflwyno dadl gyntaf Plaid Brexit yn y Cynulliad Cenedlaethol, lle rydym yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, yn ddelfrydol, ni ddylai hynny fod yn angenrheidiol, ond fe wnaethom bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, nid os yw'r UE yn cytuno neu'n amodol ar gael cytundeb gwych. Mae'r rhain yn amodau y ceisir eu gosod yn ôl-weithredol gan y rhai sydd eisiau aros ac sydd ddim eisiau derbyn canlyniad y refferendwm. Nawr, rydym yn gresynu na wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth eleni, er gwaethaf addewidion dro ar ôl tro gan Lywodraeth y DU y byddent yn gwneud hynny a’r 498 AS a bleidleisiodd dros sbarduno proses erthygl 50 i adael ar y dyddiad hwnnw gyda neu heb gytundeb.
Rwy’n gresynu hefyd at welliant y Ceidwadwyr i'n cynnig, yn enwedig gan ei fod yn dechrau gyda 'Dileu popeth', ac i'r graddau y gallwn gyfleu'r pethau hyn, hyderaf y bydd llawer o'u cefnogwyr yn y gorffennol yn nodi mai dyna eu bwriad. Prif ran yr hyn y maent am ei ychwanegu yw, ar bwynt 1, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn rhoi dyddiad Mehefin 2016 i mewn, mae'n debyg, ac yna ym mhwynt 2, mae'n hynod o bwysig ein bod yn tynnu’r dyddiad 29 Mawrth allan. Cawn glywed maes o law efallai pa un a yw hyn ond er mwyn rhoi esgus i ddiwygio'r cynnig ar ôl dileu'r cyfan neu am fod rhyw reswm ofnadwy o bwysig pam fod angen dyddiad arnom ar un ac nid y llall. Ond yr hyn y credaf sydd mor bwysig am hyn yw y dylem adael yr UE ar 31 Hydref eleni. Wrth gwrs, dyna'r trydydd dyddiad gadael; cawsom 12 Ebrill fel un yn y cyfamser hefyd. Mae'n ofid gweld yr ymgyrch etholiadol hon am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn mynd rhagddi, oherwydd roedd gennym un ymgeisydd a oedd yn dweud yn glir iawn—Dominic Raab—y byddem yn gadael yr UE ar 31 Hydref, gyda neu heb gytundeb, doed a ddelo. Ni allai fod wedi bod yn gliriach ar hynny. Ond yn anffodus, mae'r ffaith na chafodd ond 30 o bleidleisiau, o'i gymharu â 37 i Rory Stewart, yn dweud llawer wrthym, rwy'n meddwl, am gyflwr y blaid seneddol Geidwadol a phwysau cymharol gwahanol garfanau o’i mewn. Nawr, wrth gwrs, mae Boris Johnson ymhell o flaen y gweddill. Cafwyd awgrym ei fod ef hefyd yn dweud bod yn rhaid i ni adael ar 31 Hydref, neu y byddai'n hoffi gwneud hynny, ond nid yw'n gwbl glir y bydd yn gwneud hynny. Ychydig iawn o gyfweliadau a wnaeth. Clywais yr un a wnaeth ar The World at One, a phan ofynnwyd iddo beth oedd ganddo i’w ddweud am hynny, dywedodd ei fod yn credu ei bod yn bwysig iawn na ddylem ddynodi ar hyn o bryd efallai na fyddem yn gadael ar y dyddiad hwnnw. Ac yna neithiwr, mewn dadl arall, gofynnwyd iddo a fyddai'n diystyru unrhyw beth heblaw gadael ar y diwrnod hwnnw. Gwrthododd wneud hynny, ac yna dywedodd ei bod yn 'eithriadol o ddichonadwy' y gallem adael ar 31 Hydref.
Felly, hynny yw, yn ein plaid ni, ond yn bwysicach fyth, yn fy marn i, ymhlith ei negodwyr Ewropeaidd, mae'n ymddangos nad yw Boris Johnson mor ddifrifol â hynny ynglŷn â gadael ar 31 Hydref, ac mae'n ddigon posibl—. [Torri ar draws.] Gall hynny fod yn wir neu beidio. Ond gallai’n hawdd ystyried newid y dyddiad hwnnw—edrych am estyniad arall. Credaf mai'r broblem sylfaenol, o leiaf, yw fod y Blaid Geidwadol wedi—ac fe drof at y Blaid Lafur maes o law—ar gyfer 29 Mawrth, roeddent yn wynebu dewis rhwng dim cytundeb a dim Brexit, ac fe wnaethant ddewis dim Brexit. Credaf eu bod yn dechrau deall canlyniadau etholiadol posibl hynny, ond rwy'n credu, ar ddiwedd mis Mawrth yn ôl pob tebyg, y gallent fod wedi gadael heb gytundeb pe bai ganddynt Brif Weinidog a Chabinet, a phlaid seneddol o bosibl, a oedd yn ddigon cryf i wneud hynny. Yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny, a phob tro y caiff ei ohirio, bob tro y caiff y dyddiad hwnnw ei ymestyn, mae'n dod yn llai tebygol y byddwn yn gadael, ac wrth gwrs dyna yw bwriad cynifer ar ochr Llafur nad ydynt eisiau inni adael yr Undeb Ewropeaidd, y rhai a ymgyrchodd dros 'aros', a honni ar ôl y canlyniad eu bod yn derbyn a pharchu'r canlyniad, ond sydd byth ers hynny, ac yn fwyfwy amlwg, wedi ymgyrchu dros wrthdroi canlyniad y refferendwm hwnnw, rhwystro Brexit a gwadu democratiaeth.
Rydym hefyd yn nodi rhai o ganlyniadau gadael heb gytundeb, nad yw'n opsiwn a ffefrir gennym. Fodd bynnag, rydym wedi dod i fan lle mae'n fwyfwy tebygol, oherwydd methiant y Llywodraeth Geidwadol i adael a llwyddiant y Blaid Lafur i’n rhwystro rhag gadael. Pe baem yn gadael heb gytundeb, mae'n bwysig sylweddoli na fyddai arnom £39 biliwn i'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n teimlo'n rhwystredig iawn wrth ddarllen cymaint gan y rhai sydd o blaid 'aros' ynglŷn â sut na fyddai neb byth yn benthyg unrhyw beth i ni eto ac y byddem yn dinistrio ein statws credyd rhyngwladol. Nid dyled sofran yw hon. Nid oes rhwymedigaeth arnom i dalu unrhyw beth y tu hwnt i'r hyn a bennir gan broses erthygl 50, y cytuniad sy'n nodi sut y gall aelod-wladwriaeth adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydych yn parhau i fod yn atebol am eich holl rwymedigaethau—gyda'r holl fanteision tybiedig o aros, yn rhannol, gellid dadlau, yn gwrthbwyso'r rheini—am y cyfnod rhybudd o ddwy flynedd, ond ar ôl y ddwy flynedd hynny, heb gytundeb, mae'r cytundebau’n peidio â bod yn gymwys. Ni fydd arnom arian iddynt. Byddwn yn arbed y £39 biliwn. Yn wir, dylem fod yn arbed rhywfaint o'r £39 biliwn hwnnw eisoes.
Fe ildiaf i Gadeirydd y pwyllgor.
Diolch i'r Aelod am ildio. Gwrandewais ar yr hyn roedd yn ei ddweud, ac yn amlwg dangoswyd yn Nhŷ'r Arglwyddi fod yr achos cyfreithiol—nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol i dalu’r £39 biliwn. Mae yna gwestiwn ynghylch gofyniad moesol. Ond rydych chi newydd grybwyll bod yna rai rhwymedigaethau. A ydych wedi cael ffigur ar gyfer y rhwymedigaethau hynny, o ran y swm y mae'n ofynnol i ni ei dalu oherwydd y rhaglenni rydym wedi ymrwymo iddynt? Daw hynny allan o'r £39 biliwn rydych chi'n sôn amdano.
Gallaf roi’r union ffigur i'r gŵr bonheddig, sef dim. Ar ôl i'r cyfnod rhybudd o ddwy flynedd ddod i ben, daw ein rhwymedigaethau o dan y cytuniad i ben. Yn union fel pan wnaethom ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, pan na wnaethant hwy ein digolledu am swm tybiannol ar gyfer cyfraniadau pensiwn pobl a oedd wedi bod yn gweithio iddynt ond nid i ni cyn i ni ymuno. Pan fydd rhywun yn gadael cwmni, mae gennych gytundeb contract. Mewn cyfraith ryngwladol, mae gennych gytuniad rhyngwladol, yn seiliedig ar gytuniad Rhufain a'r cytuniadau a’i holynodd. Ers cytuniad Lisbon, maent wedi darparu mecanwaith cytuniad penodol a gytunwyd ymlaen llaw ar gyfer gadael, sef eich bod yn rhoi dwy flynedd o rybudd dan erthygl 50. Nid yw'r cytuniadau’n gymwys wedyn. Nid oes arnoch unrhyw rwymedigaethau ariannol pellach, fel y nodwyd yn gywir gan Dŷ'r Arglwyddi.
Wrth gwrs, os ydych chi eisiau aros mewn rhai rhaglenni a chymryd rhan ynddynt, byddwch yn negodi pris am wneud hynny. Ond mae'r syniad fod arnom y swm hwn a'n bod yn torri rhwymedigaeth dyled sofran yn gwbl hurt. Daw gan bobl sydd am aros, ac sydd i’w gweld yn hoffi'r syniad o roi arian eu hetholwyr i sefydliadau tramor. Nid oes arnom yr arian hwn. Mae’r cwestiwn a ydym am dalu rhywbeth yn gyfnewid am rywbeth arall yn fater cwbl wahanol.
Nodaf hefyd, o ran masnach, os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb—mewn senario ‘dim bargen’ neu reolau Sefydliad Masnach y Byd—nid oes rheidrwydd arnom i osod y tariffau mawr hyn ar sectorau penodol. Mae'r syniad y bydd prisiau bwyd yn codi i’r entrychion yn sydyn yn rhagdybio y byddem yn dewis cymhwyso'r un tariff y mae'r UE yn ei gymhwyso ar gyfer nwyddau nad ydynt yn dod o'r UE. Nawr, os ydym yn gweithredu yn ôl rheolau Sefydliad Masnach y Byd, mae’n briodol fod angen i ni fod yn anwahaniaethol. Felly, beth bynnag yw'r tariff, byddai'n cael ei gymhwyso ar sail gyfartal i'r UE â’r hyn a fyddai y tu allan i'r UE os na cheir cytundeb masnach neu os na cheir trefniant erthygl 24 Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach (GATT). Ond nid oes rhaid i'r tariff hwnnw fod yr uchafswm y caniateir i'r UE ei osod, yn ôl ei atodlenni Sefydliad Masnach y Byd.
Fe ildiaf unwaith eto.
Unwaith eto, rwy’n derbyn y cwestiwn a roesoch i mi ar erthygl 24 y GATT, sy’n amlwg ond yn berthnasol os ydych chi mewn trafodaethau ar gytundeb masnach gan nad yw'n berthnasol os nad ydych yn cael y trafodaethau hynny. Hefyd, os ydych yn mynd i leihau tariffau i ganiatáu mewnforio masnach yn rhatach—rhywbeth y gallai’r DU ei wneud, fel y dywedwch yn gywir—fe nodwch fod yn rhaid eu cymhwyso ar draws holl aelodau Sefydliad Masnach y Byd, sy'n golygu felly, ei bod hi’n debygol y bydd gennych fewnforion ar lefel is ac yn arwain at golli swyddi yn y DU. Bydd mewnforion o wledydd y byddem wedi bod â chytundebau a thariffau uwch â hwy yn dod i mewn bellach ar dariffau is ac yn peryglu swyddi yn y DU. A ydych yn derbyn bod hynny'n bosibilrwydd o ganlyniad i ostwng prisiau'n unochrog?
Wel, mae'n dibynnu beth yw'r tariff, ond ymddengys mai safbwynt yr Aelod yw bod unrhyw gytundeb masnach yn wych cyn belled â bod yr Undeb Ewropeaidd yn ei negodi a’n bod yn rhan ohono fel yr UE, ond bod unrhyw drefniant arall yn ddrwg yn awtomatig, heb edrych ar rinweddau maint a chydbwysedd y tariffau. [Torri ar draws.] Dywed yr Aelod yn ei sedd nad oedd wedi dweud hynny, ac fe dderbyniaf hynny. Ond mater i ni yw’r hyn a wnawn.
Yn y bôn, mae Llywodraeth y DU wedi pennu rhestr o dariffau i'w gosod. Yn rhai o'r sectorau mwyaf sensitif, yr hyn y mae'n ceisio'i wneud yw cael tariff i roi rhywfaint o amddiffyniad i gynhyrchwyr domestig, ond un sy'n is na'r tariff a osodir ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd. Felly, bydd hynny'n arwain at gydbwyso'r ddwy effaith a nodwyd. Mewn rhai o'r meysydd lle ceir tariffau uchel, megis dillad ac esgidiau, heblaw ym mhen uchaf y farchnad, nid ydym yn cynhyrchu dim yn y wlad hon, ac eto mae gennym dariffau anferth i ddiogelu mesur cyfyngedig o gynhyrchiant yn ne Ewrop, ac rydym yn atal Tsieina rhag mewnforio ar y tariffau hynny, lle rydym yn rhoi eithriadau i rai gwledydd eraill. Pe baem yn cael gwared ar y tariffau hynny ar ddillad ac esgidiau, byddai gostyngiad sylweddol iawn yn y gost, a byddai hynny'n fwyaf pwysig i'r rhai tlotaf yn ein cymunedau, sy'n gwario'r gyfran uchaf o incwm ar y nwyddau hynny.
Os caf dynnu tua'r terfyn, cawsom werth £172 biliwn o allforion y llynedd i'r UE yn erbyn £266 biliwn o fewnforion. Pe bai tariffau'n cael eu gosod ar y rheini y ddwy ffordd, a'r tariff wedi'i bwysoli yn uwch mewn gwirionedd ar yr hyn a fewnforiwn na'r hyn a allforiwn, byddai hwnnw'n swm sylweddol iawn o gynhyrchiant yn lle mewnforio a fyddai ar gael i'r economi ddomestig. Yn ogystal ag unrhyw amharu tymor byr a'r dadansoddiad economaidd hirdymor sydd o fudd i fasnach rydd, yn y tymor byr, os ydych wedi symud i sefyllfa o dariffau lle nad oedd gennych ddim o'r blaen gydag economi lle mae gennych ddiffyg masnach enfawr o £94 biliwn, mae'r effaith ar eich economi ddomestig yn y tymor agos o ran galw yn debygol o fod ag elfen gadarnhaol cynhyrchu yn lle mewnforio, nad yw prin yn cael ei drafod yn y ddadl hon ac mae angen ei osod yn erbyn y costau y mae eraill yn eu nodi.
Felly, i gloi, hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn, a byddem yn hoffi cael cytundeb os gallwn. Mae amser yn brin, ond dylem adael ar 31 Hydref gyda neu heb gytundeb, ac os yw'r UE am gael cytundeb, dylai gynnig o leiaf yr hyn y bu'n barod i'w gynnig i Ganada o ran cytundeb masnach rydd, nid un lle mae'n rhaid inni ildio Gogledd Iwerddon, neu un lle rydym yn cael ein cloi i mewn i undeb tollau na allwn ei adael heb eu caniatâd hwy.
Rwyf wedi dethol un gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Darren Millar i gynnig y gwelliant hynny a gyflwynwyd yn ei enw ei hunan. Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant. Rhaid i mi ddweud, mae'n teimlo'n debyg iawn i sawl diwrnod arall yn y Siambr hon. Dadl arall ar Brexit pan nad yw'r sefyllfa y tu allan i'r Siambr hon wedi newid rhyw lawer ers ein dadl ddiwethaf. Fel grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn sefyll unwaith eto rhwng dau begwn eithaf, os caf eich cyflwyno felly. Mae gennym begwn eithaf Plaid Brexit, sydd am fynd â ni allan ar 31 Hydref heb gytundeb fel eich hoff ddewis, gan mai dyna mae Nigel Farage wedi ei ddweud. Mae arno eisiau Brexit glân erbyn 31 Hydref. Nid yw wedi dweud mai ei nod yw sicrhau cytundeb. [Torri ar draws.] Gwnaf, â phleser.
Diolch i Darren Millar. Pa begwn eithafol rydych chi'n ei gefnogi—pegwn eithafol Rory Stewart neu begwn eithafol Boris Johnson?
Fe wnaf fi feddwl am hynny yn nes ymlaen, efallai. Felly, mae gennym y pegwn eithafol hwnnw a fynegwyd gan Nigel Farage, arweinydd eich plaid. Mae wedi dweud yn hollol glir mai Brexit glân yw ei nod.
A wnaiff yr Aelod ildio? Rwyf am ddweud bod Rory Stewart wedi cael ei fwrw allan, felly mae'n ddiogel iddo gefnogi Boris.
Fel cefnogwr Boris Johnson a wnaeth ddatgan hynny cyn heddiw, yn amlwg byddai hynny'n plesio.
Ac ar yr ochr arall mae gennym y pegwn arall, sef y rhai sy'n gwadu Brexit, ac sydd ond yn credu mewn democratiaeth mewn refferendwm pan fydd yn mynd eu ffordd hwy. Grŵp o wleidyddion sydd eisiau mynd yn ôl i'r dechrau a chael refferendwm arall am nad ydynt yn hoffi beth ddywedodd pobl Cymru wrthynt yn yr un cyntaf. Ac wrth gwrs dyna'r union reswm pam nad ydym wedi gadael yr UE fel yr addawyd ar 29 Mawrth, am nad yw'r naill ochr na'r llall, ar y ddau begwn—[Torri ar draws.] Nid wyf wedi gwneud llawer o gynnydd. Fe gymeraf un ymhen ychydig eiliadau, os caf.
Nid yw'r naill ochr na'r llall yn y pegynau eithafol hynny wedi gallu cyfaddawdu nac ildio dim, a chlywn yn y Siambr hon dro ar ôl tro fod pobl wedi blino ar yr ansicrwydd, fod yn rhaid inni roi diwedd ar y cyfan, ac eto rydym wedi cael cyfle i roi diwedd ar y cyfan. Cawsom gyfle gyda'r cytundeb ymadael a negodwyd, a dyma'r unig gytundeb a negodwyd rhwng yr UE a'r DU, ac eto pleidleisiodd eich ASau, yn enwedig ASau Plaid Cymru a Llafur, yn erbyn y peth hwn. Felly, mae'n rhyfeddol i mi, mewn gwirionedd, ein bod yn y sefyllfa hon, ac os caf eich cywiro, y rheswm pam ein bod wedi rhoi Mehefin 2016 yn y cynnig yw ein bod am atgoffa pobl ei bod yn dair blynedd ers y bleidlais a'i bod yn hen bryd i ni fwrw ati a chyflawni'r canlyniad, a oedd yn glir—pleidleisiodd pobl dros adael yr UE. Fe gymeraf yr ymyriad gan Helen Mary.
Diolch i'r Aelod. Hoffwn ddweud wrtho mai'r rheswm pam nad ydym wedi gadael yr UE yw am fod ei Lywodraeth wedi methu'n lân â chael sgyrsiau gyda Llywodraethau eraill yn y DU, sgyrsiau gyda phleidiau eraill a allai fod wedi arwain at ryw fath o gyfaddawd â'r rheini ohonom nad oedd eisiau canlyniad y refferendwm hwnnw ond a oedd yn barod i'w dderbyn yn y lle cyntaf, ond ni chynigiwyd cyfle i ni, na'r pleidiau eraill, i gymryd rhan. Dim ond ar y funud olaf y digwyddodd y sgyrsiau hynny. Mae'n rhaid i'w blaid gymryd cyfrifoldeb am hynny, a hoffwn ddweud wrtho fod gan y bobl ifanc a gyrhaeddodd oedran pleidleisio yn y tair blynedd ddiwethaf hawl i gael llais yn eu dyfodol eu hunain bellach am na allai ei blaid ef gael trefn arni ei hun.
Y gwir amdani yw bod Llywodraeth y DU, yn gwbl briodol, wedi treulio ei hamser yn negodi gyda'r UE a oedd yn cynrychioli 27 o wladwriaethau. Ond beth am ddychwelyd at y ddadl hon, oherwydd mae'n bwysig iawn. Yn wahanol i'ch plaid chi, Helen Mary, ac yn wahanol i'r Blaid Lafur yma, rydym ni'n parchu canlyniad y refferendwm ac yn credu y dylid gweithredu ewyllys y bobl. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r gwelliant hwn heddiw. Rydym bob amser, fel gwlad, wedi gweithredu canlyniadau refferenda. Nid ydym yn credu y dylem fod yn nawddoglyd wrth bobl Cymru a dweud wrthynt, 'Rydym yn gwybod yn well na chi, ac rydym yn mynd i'ch gorfodi chi i ddychwelyd i'r blwch pleidleisio, ac mae'n rhaid i chi bleidleisio yn y ffordd rydym am i chi bleidleisio y tro nesaf'.
Nawr, rydym wedi datgan yn glir ein bod yn cefnogi'r nod o adael yr UE erbyn 31 Hydref, yn gynt os yn bosibl. Hoffwn ei weld cyn gynted ag y bo modd, ac rydym wedi dweud yn gwbl glir yn y Siambr hon ar sawl achlysur y byddai'n well gennym adael gyda chytundeb, a dyna pam ein bod wedi cefnogi'r cytundeb ymadael, a oedd yn gyfaddawd rhwng y ddau begwn a welwn yma yn y Siambr ar ffurf Plaid Brexit ac echel Llafur a Phlaid Cymru, os caf ei alw'n hynny. Ond fel yr eglurais yn y Siambr hon yn y gorffennol hefyd, er mai'r hyn fyddai orau gennym fyddai gadael gyda chytundeb—ac rydym yn sicr am weld pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau un—os na fydd yr UE yn barod i newid eu safbwynt, efallai na fydd dewis heblaw'r gadael heb gytundeb er mwyn parchu canlyniad y refferendwm. I mi, mae'n bwysicach parchu canlyniad y refferendwm nag ymestyn y cyfnod hwnnw a pheidio â chyflawni ewyllys y bobl.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Rwy'n hapus i dderbyn—.
A allai egluro: ai safbwynt y Blaid Geidwadol o hyd yw cefnogi'r cytundeb ymadael, neu a yw ei safbwynt yr un fath ag un ei harweinydd tybiedig, Boris Johnson, fod y cytundeb yn un taeogaidd ac yn fest hunanladdiad o amgylch y wlad?
Mae'n gwbl glir nad oes unrhyw obaith y gall y cytundeb ymadael ar ei ffurf bresennol fynd drwy Senedd y DU, felly bydd yn rhaid cael trafodaeth gyda'r UE i weld a oes modd negodi rhywbeth gwahanol a fyddai'n dderbyniol. Felly, rydym wedi—. Ac oherwydd y bragmatiaeth hon ar ein hochr ni rydym wedi cefnogi ymdrechion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i baratoi a gwneud ymdrech ychwanegol i baratoi ar gyfer Brexit 'dim bargen', oherwydd mae'n ddigon posibl mai dyna fydd y canlyniad y byddwn ei eisiau, er nad ydym eisiau gweld hynny'n digwydd o gwbl mewn gwirionedd. Felly, rwy'n dweud wrth bawb yn y Siambr, yn lle eich eithafion—a dyna ydych chi; rydych i gyd yn eithafwyr o'm rhan ni—[Torri ar draws.]—mae angen i chi ddychwelyd—[Torri ar draws.]—mae angen ichi ddychwelyd at safbwynt lle rydych yn cyfaddawdu yn yr un ffordd ag yr ydym ni ar y meinciau hyn wedi'i wneud er mwyn symud y sefyllfa yn ei blaen a sicrhau'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru drosto.
Ni fydd llawer o achlysuron y prynhawn hwn nac unrhyw brynhawn arall lle caf reswm i ddiolch i Blaid Brexit, ond rwy'n gwneud eithriad heddiw i ddiolch iddynt am eglurder eu cynnig, sy'n galw'n benodol am Brexit 'dim bargen' ac i'r diawl â'r canlyniadau i gymunedau fel Torfaen. [Torri ar draws.] Ydy, mae. Mae cyfuno'r brwdfrydedd newydd hwn o blaid dim cytundeb gan wrthod cydnabod yr angen am bleidlais gadarnhaol yn ailysgrifennu hanes refferendwm 2016 ac mae'n gwbl annemocrataidd. Dywedwyd wrth bleidleiswyr yn Nhorfaen y byddai cael cytundeb yn haws na dim yn y byd, y byddai gwledydd yn curo ar ein drysau i lunio cytundebau masnach cyffrous â ni. Cannoedd o filiynau o bunnoedd yn llifo i mewn i'r GIG—dyna'r camargraff a werthwyd ar garreg y drws. Nid ydym wedi pleidleisio ar realiti eto.
Ni ddywedwyd wrth y bobl sy'n dibynnu ar y sector gweithgynhyrchu yn fy etholaeth mai'r pris am bleidlais 'adael' fyddai eu bywoliaeth o bosibl—y gwaith a'r glud sy'n dal cymunedau at ei gilydd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Make UK wrth y pwyllgor dethol ar Brexit fod cysylltiad uniongyrchol rhwng gwleidyddion yn sôn am y posibilrwydd o 'ddim bargen' a chwmnïau Prydeinig yn colli cwsmeriaid tramor a phobl Prydain yn colli eu swyddi. Ni ellir diystyru hyn fel prosiect ofn—prosiect ffaith yw hyn. Mae'n digwydd yn awr. Mae ffatrïoedd yn cau, mae swyddi'n mynd, mae cymunedau'n wynebu dyfodol llwm. A dim ond yr hyn y mae'r posibilrwydd o 'ddim bargen' yn ei wneud i ni yw hyn. Dychmygwch beth sy'n digwydd pan ddaw'r rhagolygon yn realiti, a dyna y mae'r cynnig hwn sydd ger ein bron heddiw yn galw amdano.
Ar yr union foment y mae ein gweithgynhyrchwyr yn dweud wrthym fod galw am Brexit 'dim bargen' yn weithred o fandaliaeth economaidd, dyma'r foment pan fo Plaid Brexit yn cyflwyno cynnig yn galw amdano. Dyma'r adeg hefyd pan fo Boris Johnson yn lansio ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, sy'n rhoi 'dim bargen' yn gadarn ar y bwrdd fel canlyniad posibl i'w wneud yn Brif Weinidog. A chydag un arall o'r rhai sydd yn y ras am yr arweinyddiaeth yn cefnogi 150 y cant y ffordd hiliol y sarhaodd Katie Hopkins faer Llundain, nid yw natur wenwynig dadl Brexit yn dangos unrhyw arwydd o leihau. Nawr, nid wyf yn disgwyl y byddaf yn argyhoeddi Plaid Brexit ynghylch y dadleuon economaidd yn erbyn y llwybr y dewisant ei ddilyn heddiw, ond rwy'n gobeithio eu hargyhoeddi o un peth. Wedi'r cyfan, dyma'r wythnos y cofiwn am farwolaeth ein cyd-Aelod, Jo Cox—AS ifanc a siaradai o blaid amrywiaeth fel cryfder ac a lofruddiwyd ar y stryd gan derfysgwr asgell dde. Mae'r iaith y dewiswn ei defnyddio yn y Siambr hon yn bwysig. Mae'n wirioneddol bwysig. Mae'r iaith y mae ein Haelodau a'n cefnogwyr yn ei defnyddio ar y stryd ac ar-lein yn bwysig. Mae'n wirioneddol bwysig. Mae'r labeli a roddwn i wleidyddion eraill a phobl eraill yn ein taflenni, ein colofnau papur newydd a ffrydiau Twitter yn bwysig iawn. Ni ddowch o hyd i feirniad mwy croch yn erbyn rhai sy'n cyflawni camweddau o fewn ei phlaid ei hun na fi. Ni fyddaf byth yn esgusodi ymddygiad bygythiol, bwlio neu ymddygiad rhagfarnllyd gan neb. Felly, rwyf am roi'r un cyfle i arweinydd Plaid Brexit heddiw i egluro lle mae ef a'i blaid yn sefyll ar hyn. Ers i Mark Reckless fy nghyhuddo yn y Siambr hon o amharchu fy etholwyr, dioddefais lif parhaus o gam-drin geiriol gan giwed fechan ond swnllyd iawn yn lleol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae un o Aelodau Plaid Brexit newydd ochneidio a dweud, 'O God', pan sonioch am farwolaeth drasig Jo Cox. A ydych yn ymuno â mi i gondemnio hynny?
Ydw, yn sicr, a chredaf fod hynny'n gwbl warthus.
Rydych chi'n meddwl nad yw'r pethau a ddywedwch yn y fan hon—[Torri ar draws.] Rydych chi'n meddwl nad yw'r pethau rydych chi'n eu dweud yma yn cael effaith go iawn. Wel, maent yn cael effaith. Gallwn anghytuno—anghytuno'n angerddol—am yr hyn y credwn sydd orau i economi Torfaen, ond mae fy nghyhuddo o beidio â malio am farn pobl Torfaen yn hollol anghywir. Gallwn fod wedi cael gyrfa haws o lawer mewn gwleidyddiaeth pe na bawn wedi rhoi Torfaen yn gyntaf bob tro, ond nid dyna oedd fy ffordd. Eisoes, bu'n rhaid ailwampio'r trefniadau diogelwch yn fy swyddfa. Yn ystod rali Plaid Brexit ym Merthyr Tudful, cefais fy nghondemnio gydag Aelodau Llafur eraill yn y Siambr hon o'r llwyfan. Cafodd swyddfa Dawn Bowden ei fandaleiddio y diwrnod wedyn. Mae pobl yn cael eu harwain gan yr hyn y gwelant ac y clywant eu harweinwyr yn ei ddweud. Pan ddywedodd Nigel Farage ei fod yn barod i wisgo dillad caci er mwyn sicrhau Brexit, efallai ei fod wedi meddwl ei bod yn jôc wych. I bobl sy'n cael eu targedu gan gam-drin treisgar, mae'n unrhyw beth ond jôc. Dyma wleidyddiaeth o fath arall, mae'n beryglus, a galwaf ar arweinydd Plaid Brexit i gondemnio'n ddiwyro y rhethreg a'r ymddygiad bygythiol a threisgar hwn.
Rwy'n tybio bod yr Aelod—[Torri ar draws.] Rwy'n cymryd bod yr Aelod eisiau imi ymyrryd. Rwy'n condemnio trais a bygythiadau gwleidyddol o bob math. Rwyf wedi ymladd isetholiad lle dioddefais gryn dipyn o fygythiadau ac rwy'n credu bod angen i ni dynnu sylw ato pryd bynnag y byddwn yn ei weld. Rwy'n cytuno'n llwyr â hyn. Rwy'n credu mewn democratiaeth. Rwy'n credu bod angen inni weithredu canlyniadau democrataidd. Dyna sut y dylem wneud gwleidyddiaeth yn ein gwlad.
Wel, gobeithio y byddwch hefyd yn ystyried yr iaith a ddefnyddiwch yma yn y dyfodol felly, nid dim ond cyhuddo rhai ohonom o amharchu pobl, ond rwyf wedi clywed y term 'brad' yn rhy aml, ac mae'r term 'brad' yn arwain at gyhuddo pobl o fod yn fradwyr. Fe ildiaf eto.
Nid wyf yn credu fy mod i wedi defnyddio'r gair hwnnw. Os ydw i'n anghywir ac os hoffech ddangos i mi lle y defnyddiais y gair hwnnw erioed mewn cyd-destun gwleidyddol i gondemnio unrhyw un, gwnewch hynny. Ond nid wyf yn credu fy mod wedi'i ddweud.
Wel, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny, ond yn sicr mae rhai Aelodau wedi gwneud. Nid oes angen—
Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf am gymryd—
Rydych wedi gwneud eich araith, Mark. Rwy'n siarad—
Mae angen i mi—. Hoffwn gywiro'r hyn rwyf newydd ei ddweud. Nid wyf yn credu fy mod wedi defnyddio'r gair 'bradwr'. Nid yw hwnnw'n air rwy'n ei ddefnyddio.
Na, rwy'n—
Rwy'n defnyddio'r gair 'bradychu' mewn rhai cyd-destunau. Ond dylem feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â sut y byddwn yn defnyddio geiriau, rwy'n cytuno.
Ni wneuthum eich cyhuddo o ddefnyddio'r gair 'bradwr', roeddwn yn siarad am y gair 'brad' sy'n—
Nid wyf yn gwadu defnyddio'r gair hwnnw.
O'r gorau. O'r gorau.
Dylwn ddatgan ar gyfer y cyd-destun fy mod—. Nid wyf wedi defnyddio'r gair 'bradwr'.
Iawn. Rwy'n credu eich bod wedi egluro hynny.
Diolch yn fawr, ond hoffwn orffen fy araith yn awr, a gobeithio y byddwch yn ystyried y sylwadau a wneuthum.
Afraid dweud na fyddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw. Rwy'n aros ar ochr y cynhyrchwyr sy'n gweld unrhyw fath o Brexit fel rhywbeth niweidiol a 'dim bargen' fel fandaliaeth economaidd syml. Ymhell o ddangos diffyg parch at bobl Torfaen, y parch mawr sydd gennyf at wead pob cymuned yn yr etholaeth sy'n rhoi egni i mi frwydro dros gael llais terfynol, pan all pobl ddweud eu barn go iawn ar y dewisiadau go iawn sy'n wynebu'r wlad hon ac nid ar y telerau annelwig ac anonest a gawsom yn 2016.
Cyn imi ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn ofyn am y parch rwy'n ei haeddu fel un o'ch cymheiriaid hefyd. Rwy'n ystyried bod heclo a beirniadaeth—a ddaw i raddau helaeth o gyfeiriad y meinciau Llafur—yn blentynnaidd ac yn aflonyddgar. Yn yr ysbryd hwnnw o barch cydradd y gwnaf y sylwadau hyn.
Nid wyf yn meddwl y byddai unrhyw un yn y DU neu sy'n gwylio ffiasgo Brexit o'r tu allan yn anghytuno ei fod yn llanast—llanast mawr. Ni wnaf ailadrodd yma y dadleuon, y gwrthddadleuon, yr ystadegau, yr arolygon barn un ffordd a'r ffordd arall a fu'n sylfaen i lawer o'r dadleuon yma yn y Siambr neu unrhyw le arall. Mae pawb ohonom wedi'u clywed o'r blaen, ac mae ein hetholwyr wedi eu clywed o'r blaen, a gallwn oll eu troi i gyd-fynd ag unrhyw un o'n naratifau.
Yn amlwg, rwy'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ac ni allaf ond meddwl mai dyma ben draw naturiol y tair blynedd diwethaf o ddadlau, ailystyried, arweinyddiaeth wael, agenda gudd, diffyg paratoi a chymryd yr etholwyr yn ganiataol. Mae gennym wlad ranedig iawn sydd bellach yn ymddangos i mi ei bod wedi'i hollti ar hyd llinellau gadael/aros. Rydym i gyd yn gwybod hynny, ac mae'n ymddangos bod y llinellau hyn yn goresgyn teyrngarwch pleidiol arferol.
Un enghraifft a welais ddoe: cyfarfûm â chwpl y tu allan yn siarad, a chawsom hwyl arni am 20 munud tu allan yn siarad am y defaid a'r moch, a'r hyn yr arferwn ei wneud ym maes ffermio yn flaenorol a phethau felly. Ac yna, wrth i mi ysgwyd eu llaw—roeddem wedi cytuno ar bethau fel rheolau'r UE hefyd, am drogod a ffermio a phethau felly—ac yna wrth i mi anelu i fynd i mewn, fe wnaeth hi ysgwyd fy llaw a dweud, 'O, mae'n hyfryd eich cyfarfod, pa blaid rydych chi'n ei chynrychioli?' a dywedais, 'Plaid Brexit', ac roedd fel pe bawn i wedi tyfu cyrn. Camodd yn ôl a dywedodd, 'Wel, mae'n ddrwg gennyf, fe bleidleision ni dros 'aros' a bydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno', ac eto roeddem wedi cytuno am yr 20 munud diwethaf pan ddywedais bethau wrthi. Roedd hi'n cytuno â phopeth, wyddoch chi—felly, mae'n rhyfedd iawn.
Ni fyddwch yn synnu clywed fy mod yn credu bod llwyddiant cymharol parhaus ein democratiaeth yn golygu fy mod yn credu bod angen gweithredu'r bleidlais a gynhaliwyd yn 2016. Mae holl gynsail ein democratiaeth wedi ei seilio ar gydsyniad y collwr. Dyna'r egwyddor sylfaenol. Os nad yw hynny'n berthnasol bellach, beth wedyn? Clywais ormod o bobl yn dweud wrthyf na fyddant byth yn pleidleisio eto oherwydd bod eu pleidlais yn 2016 wedi'i diystyru, ac mae llawer o'r rheini ar ochr Llafur. Maent yn dweud wrthyf fod pleidleisio'n ddibwrpas ac yn ddiystyr. Ac mae pawb ohonom yn colli os yw ein democratiaeth wedi'i hadeiladu ar ddifaterwch a diffyg ymddiriedaeth ynddi. Nid yw hon yn sylfaen gynaliadwy.
Mynychais fy nghyfarfod cyntaf o bwyllgor Brexit ddydd Llun, a hoffwn ddiolch i'r clercod a'r Aelodau am eu croeso cynnes iawn. Diolch. Roedd yn sesiwn dystiolaeth ddiddorol, lle buom yn trafod datblygiad parhaus fframweithiau cyffredin. Yr eiliad a safai allan i mi oedd y cyfaddefiad nad yw'n ymddangos bod cytundeb ar draws gwahanol Lywodraethau'r DU ynglŷn â beth yw fframwaith cyffredin mewn gwirionedd a beth mae'n ei wneud. Yn ffodus, mae'r pwyllgor yn ceisio eglurhad ar hyn bellach drwy ysgrifennu at San Steffan, Llywodraeth Cymru a'r Alban hefyd, gobeithio. Mae'n ymddangos bod yna broblem gyfathrebu fawr yr holl ffordd drwodd, ac mae hyn yn gwneud anghymwynas â'n gwlad. Yn wir, roedd adroddiad fy nghyn bwyllgor ar lywodraethu'r DU ar ôl Brexit yn tynnu sylw at hyn a gwnaeth argymhellion ynglŷn â hyn yn 2018.
Yn fy marn i, rydym ar bwynt di-droi'n-ôl ar hyn o bryd o ran ein hymadawiad â'r UE—a rhaid i hynny ddigwydd—o ran ein cysylltiadau go gamweithredol â Llywodraethau eraill y wlad hon, rhywbeth sydd angen ei ddatrys, ac o ran adfer hyder yn ein democratiaeth. Am y rhesymau hyn, byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn gennym heddiw. Diolch yn fawr.
Lywydd, nid yw Plaid Cymru wedi ceisio diwygio'r cynnig hwn gan Blaid Brexit; mae mor bell oddi wrth realiti fel mai'r peth mwyaf caredig i'w wneud yw ei wared o'i ddioddefaint cyn iddo suddo o dan bwysau ei wrthddywediadau ei hun. Ag ystyried mai un peth yn unig sydd o bwys i Blaid Brexit—Brexit—mae'n gwbl ryfeddol wynebu dyfnder eu hanwybodaeth ynglŷn â sut y byddai'n gweithio. Mae'n weddol debyg i weld cystadleuydd ar Mastermind yn methu sgorio pwynt ar eu pwnc arbenigol addefedig eu hunan. Mae'r cynnig yn nodi bod 498 o ASau wedi pleidleisio dros sbarduno erthygl 50 yn ôl ym mis Mawrth 2017. Mae hynny, o leiaf, yn gywir. Dyna 498 o ASau Torïaidd a Llafur yn bennaf a bleidleisiodd o blaid cychwyn ar daith antur heb fap, cwmpawd nac unrhyw syniad lle roeddent yn gobeithio ei gyrraedd. [Torri ar draws.] Na, ni wnaf ildio, Mark.
Rhybuddiodd Plaid Cymru ar y pryd mai camgymeriad aruthrol oedd gosod y cloc ar gyfer gadael, pan nad oedd gan Lywodraeth y DU set glir o amcanion. Gwyddai'r Llywodraeth fod problemau difrifol gyda phob math o Brexit, felly, yng ngoleuni'r anhawster hwnnw, penderfynasant beidio â phenderfynu pa un i'w ddilyn yn y gobaith na fyddai neb yn sylwi. Nid oeddent am ddewis Brexit meddal, gan y byddai'n golygu'n syml y byddai'n rhaid iddynt barhau ag aelodaeth o'r UE heb rai o'r manteision. Nid oeddent am ddewis Brexit caled, am fod eu hasesiadau effaith eu hunain yn dangos yn glir y byddai hynny'n achosi niwed difrifol dros gyfnod maith i'r economi. A chan nad oedd unrhyw Brexit cyfaddawdol i'w gael, ni wnaethant ddewis yr un o'r ddau, a bwrw iddi i negodi cytundeb nad oedd yn plesio neb.
Nawr, yn ôl y cynnig hwn gan Blaid Brexit, gallai gadael yr UE heb gytundeb ar noson Calan Gaeaf ostwng cost bwyd, dillad a—gwrandewch ar hyn—esgidiau. Gadewch inni adael i hynny suddo i mewn. Rydym wedi mynd o £350 miliwn ychwanegol yr wythnos i'r GIG i'r gobaith niwlog y gallwn gael £3.50 oddi ar ein pâr nesaf o esgidiau. Ac nid yw'r honiad llai na beiddgar hwn hyd yn oed yn dal dŵr—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, fe gymeraf ymyriad.
Mae ar yr union bwynt hwnnw. Fe sonioch chi am wrthddywediadau yn gynharach ac wrth gwrs, rydym wedi clywed am yr effaith bosibl ar bris dillad. Rydym newydd gael dadl ar newid hinsawdd a diffyg cynaliadwyedd, ac eto i gyd ymddengys bod y cynnig yn gwahodd dillad ffasiwn rhad wedi'u mewnforio, yn y bôn, fel ffordd o ddenu pobl i gefnogi Brexit 'dim bargen'. A fyddech chi'n rhannu fy marn fod hwnnw'n wrthddywediad arall nad yw Plaid Brexit i'w gweld yn ei ddeall?
Ar hynny, o leiaf, efallai y gallwn gytuno, o ran Brexit.
Byddai gadael heb gytundeb yn debygol o arwain at ddirywiad sydyn yng ngwerth sterling, a fyddai'n golygu na fyddai dim byd yn rhatach, felly beth yw ateb Plaid Brexit i hyn? Sut y byddent yn cadw prisiau i lawr? Eu polisi, hyd y gellir gweld, fyddai lleihau tariffau'n unochrog i sero. Wrth gwrs, o dan reol 'cenedl a ffefrir fwyaf' Sefydliad Masnach y Byd, byddai'n anghyfreithlon i wahaniaethu ar dariffau y tu allan i gytundeb masnach. Felly, byddai'n rhaid i'r DU ollwng tariffau ar nwyddau dewisol ar gyfer y byd i gyd. Byddai hyn, yn amlwg, yn drychineb i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu ar yr ynysoedd hyn, ac yn boddi'r farchnad â nwyddau rhad ac yn gwneud cynnyrch o Gymru yn anghystadleuol dros nos.
A wnaiff yr Aelod ildio? Nid ydym wedi cynnig torri pob tariff i sero. Yn gyffredinol, roeddem o'r farn fod rhestr dariffau'r Llywodraeth yn un synhwyrol. Ceir achos cryf ar ddillad ac esgidiau. Ar fwyd, byddem yn gweld achos dros gael rhywfaint o amddiffyniad i gynhyrchwyr domestig.
Diolch i chi am y cyfraniad hwnnw i'n goleuo, Mark.
Serch hynny, byddai Brexit Sefydliad Masnach y Byd yn arwain at embargo masnachol, gan arwain at atal allforio cynhyrchion anifeiliaid o'r DU fel cig, wyau a chynnyrch llaeth i'r UE—tybed a fyddech chi'n anghytuno â hynny hefyd—ergyd ddwbl i ffermwyr Cymru trwy garedigrwydd Plaid Brexit. Hefyd, wrth gwrs, mae gennym yr honiad truenus hwn y gallai'r DU arbed £39 biliwn drwy atal y Bil ysgaru fel y'i gelwir. Byddai hyn yn atal cytundeb masnach â'r UE, rhywbeth y mae Plaid Brexit ei eisiau yn ôl pob golwg, byddai'n niweidio statws credyd y DU, ac fel y mae Llywodraeth Ffrainc wedi dweud yn glir, byddai gwledydd yr UE yn ystyried hynny'n fethiant i dalu dyled sofran. Gadewch inni fod yn gwbl glir ynghylch beth sy'n cael ei gynnig yma. Mae Plaid Brexit yn argymell gwneud y DU yn wlad mewn trafferthion economaidd dwys.
Nawr, gadewch i mi droi at fy hoff ran o'r cynnig rhyfeddol hwn, pwynt 5, sy'n galw am adael yr UE heb gytundeb oni bai eu bod yn cynnig cytundeb masnach rydd cynhwysfawr i'r DU ac yn derbyn trefniadau amgen yn lle'r protocol ar gyfer Gogledd Iwerddon. Wel, mae'r rhain yn alwadau am bethau y mae'r UE eisoes wedi'u cynnig a phethau y mae Plaid Brexit yn eu gwrthwynebu. Cynigiodd yr UE gytundebau masnach cynhwysfawr heb unrhyw dariffau ac maent wedi derbyn trefniadau amgen ar gyfer y ffin—mae yn y protocol Gwyddelig, a wrthodir gan Blaid Brexit. Ni ddaw'r trefniadau 'backstop' i rym oni bai fod y trefniadau amgen hynny'n methu gwneud yr hyn y mae cefnogwyr Brexit yn dweud y byddant yn ei wneud, sef creu ffin ddiffrithiant. Felly, dyna ni. Mae'r llanast o gynnig o'n blaenau yn gwneud addewidion cwbl chwerthinllyd. Esgidiau rhatach—a'n gwaredo—ac nid yw hynny hyd yn oed yn gyflawnadwy. Mae'n mynnu bod yr UE yn cynnig cytundeb y mae eisoes wedi'i gynnig, a bydd yn sefyll fel prawf ar hyd yr oesoedd nad oedd Plaid Brexit yn ddim mwy na phlaid un pwnc heb unrhyw ddealltwriaeth o'r un pwnc y bodolai er mwyn dadlau drosto. Rhag ofn nad oedd yn amlwg, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn a byddwn ni'n sicr yn gwneud hynny.
Unwaith eto, rwy'n cytuno â Darren; rydym yn ôl gyda'r un peth unwaith eto. Clywn eto mai'r cynnig cyntaf gan Blaid Brexit yw cynnig i gefnogi eu cred fod gadael yr UE heb gytundeb yn weithred rinweddol ac y bydd yn gwella bywydau pobl Cymru. Er hynny, y tro hwn, maent wedi ychwanegu mân bethau er mwyn ceisio ein hannog drwy ddweud y bydd gostyngiadau ar fwyd, dillad ac esgidiau, fel y nodwyd. Mae gennyf fy esgidiau amdanaf; fe fyddaf i'n iawn.
Ond yn y drafodaeth honno, maent yn dweud na fyddwn ni'n talu'r £39 biliwn. Wel, cawsom y drafodaeth a'r sgwrs a gawsom yn gynharach, a dangoswyd nad oes gofyniad cyfreithiol am y £39 biliwn cyfan, ond fel y mae Delyth Jewell wedi nodi rwy'n credu, fe allai ac fe fydd y methiant i gyflawni eich rhwymedigaethau moesegol—a cheir rhwymedigaethau moesegol yma—yn debygol o gael ei weld gan y byd fel methiant i anrhydeddu cytuniadau y maent yn ymrwymo iddynt. Ac yna, rydych chi'n ceisio dweud, 'Wel, rydym eisiau masnachu gyda chi a negodi cytundeb gyda chi, ond ar yr un pryd, ni fyddwn yn rhoi'r hyn y credwn y dylech fod yn ei gael'.
Mae'r cynnig hwn yn llawn o ffantasïau, ac mae'n adlewyrchu anallu llwyr y blaid gyferbyn i lunio dadl gydlynol dros adael yr UE. Maent am anwybyddu rhwymedigaethau. A chredaf fod y pwynt olaf, mewn gwirionedd, yn sôn am flacmelio'r UE: 'Ni chewch eich arian oni bai eich bod yn ymrwymo i gytundeb â ni'. Mae hynny'n ffurf ar flacmel. A ydych yn credu bod gwledydd eraill yn mynd i fodloni ar hynny? [Torri ar draws.] Nid negodi ydyw, ac mae'r Aelod sy'n ceisio dweud o'i sedd mai dyna ydyw yn gwybod hynny'n iawn. Pe bai erioed wedi bod mewn negodiadau, byddai'n gwybod yn well na hynny. Mewn ffordd, rwyf wedi bod mewn negodiadau ychydig yn wahanol—nid gyda gwledydd, ond yn bwysicach, gyda fy aelodau.
Lywydd, rwy'n derbyn bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yn refferendwm 2016. Yn wir, yn fy etholaeth i, pleidleisiodd y mwyafrif dros adael yn y refferendwm hwnnw. Felly, nid wyf yn sefyll yma i herio'r hyn roeddent eisiau ei wneud. Roeddent eisiau gadael. Efallai ein bod yn gwahaniaethu o ran yr hyn oedd 'gadael' yn ei olygu, ond roeddent eisiau gadael. A rhaid i ni feddwl am ffordd o gyflawni hynny gymaint â phosibl, ond mae'n rhaid i ni wneud hynny gan ddiogelu pobl Cymru rhag y canlyniadau gwaethaf posibl, oherwydd rydym am ddiogelu eu safonau byw yn ogystal.
Roedd y cyn-Brif Weinidog, a oedd yn eistedd yma y prynhawn yma, yn ei gwneud yn gwbl glir, ar ôl y refferendwm, y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at gyflawni canlyniad y refferendwm, ond ar ôl bron i dair blynedd o ymgais flêr yn San Steffan i ddyfeisio cynllun ar gyfer Brexit, bellach fe'n gadawyd gyda phlaid lywodraethol yn San Steffan mewn cythrwfl, a ras am arweinyddiaeth y Llywodraeth gyda phedwar ymgeisydd ar ôl—pob un ohonynt, gyda llaw, yn y Cabinet yn ystod y ddwy flynedd—yn ceisio ailnegodi cytundeb y dywedwyd wrthynt na allant ei ailnegodi, na gadael heb gytundeb, ac mae pawb ohonom yn gwybod y byddai gadael heb gytundeb yn niweidiol iawn i'r wlad hon.
Nawr, mae'n ddyletswydd ar y Cynulliad hwn i gymryd pob cam posibl i ddiogelu economi Cymru, ac rydym bellach mewn sefyllfa sy'n golygu nad oes gennym fawr ddim opsiynau yn hynny, ond un opsiwn sy'n rhaid inni ei dderbyn yw brwydro yn erbyn gadael yr UE heb gytundeb. Dyna'r sefyllfa waethaf posibl. Mae'r dystiolaeth a glywais yn adlewyrchu hynny'n glir. Nawr, clywsom straeon heddiw gan yr Aelodau gyferbyn y daw pethau mawr o adael yn y fath fodd ac y cawn gytundebau masnach gwych gyda gwledydd eraill, gyda'r UE yn ymrwymo i gytundeb â ni o bosibl, caiff ein tariffau eu defnyddio ar draws y byd, yn unochrog ar draws pawb, i roi esgidiau am bris is i ni a dillad ym mhen uchaf y farchnad am brisiau is. Wel, ni fydd y rhan fwyaf o fy etholwyr i'n prynu dillad ym mhen uchaf y farchnad.
Clywsom hefyd y ddadl gan arweinydd y blaid gyferbyn yn genedlaethol y gellir rhoi erthygl 24 y Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach mewn grym a byddwn yn parhau i fasnachu heb unrhyw dariffau ar draws yr UE. Wel, nid wyf yn credu ei fod wedi darllen erthygl 24 mewn gwirionedd, achos os darllenwch erthygl 24—ac mae'r holl dystiolaeth yno; ewch at y bobl sy'n ymchwilio yn Nhŷ'r Cyffredin os ydych am ei ddarllen—caiff erthygl 24 ei rhoi mewn grym pan fyddwch wrthi'n negodi, nid ar y cam hwn. Nid ydym wrthi'n negodi. A phan fyddwn yn gadael, ni fyddwn wrthi'n negodi, felly ni fyddwn yn rhoi erthygl 24 mewn grym. Felly, ni fyddwn mewn sefyllfa lle gallwn ddweud mewn gwirionedd, 'Gadewch inni gadw'r status quo', oherwydd ni fydd yn berthnasol.
Cofiwn hefyd nad yw erthygl 24 ond yn berthnasol i nwyddau'n unig. Nid yw'n berthnasol i wasanaethau. Felly, nid yw un o elfennau mwyaf ein heconomi wedi'i chynnwys yn erthygl 24. Felly, unwaith eto, ni fydd gennym status quo yn ein heconomi. Bydd yn rhaid inni dalu tariffau, a dywedodd Delyth fod rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn gymwys i bob gwlad sy'n aelod o reolau Sefydliad Masnach y Byd, ac os ydych yn cael gwared ar unrhyw dariffau i geisio annog mewnforion, rydych yn cael eu gwared ar gyfer pob gwlad, a gallai hynny roi ein swyddi yn y wlad hon mewn perygl, gan nad oes gennych amddiffyniadau rhag rhai o'r nwyddau sy'n dod i mewn, nad ydynt o bosibl o'r safon neu'r ansawdd a ddymunwn am nad oes unrhyw gwestiwn o reoleiddio chwaith ar gyfer yr agweddau hynny.
Datganiad anghywir arall sy'n cael ei ledaenu gan Blaid Brexit—rwyf wedi darllen eu herthyglau—yw y gallwch yrru ar draws Ewrop heb unrhyw broblem: 'Peidiwch â phoeni; gall cerbydau nwyddau trwm fynd ar draws, maent i gyd yn iawn'. Rydym wedi cael 102 o drwyddedau ECMT—edrychwch i weld os nad ydych yn gwybod beth yw ystyr ECMT. Mae'n golygu bod 5 y cant o system cludo nwyddau'r DU yn gallu teithio ar draws Ewrop. Ni all 95 y cant wneud hynny. Faint o gludwyr nwyddau Cymru fydd hynny'n eu peryglu? Mae'n rhaid i'r ffantasi hon fod gadael heb gytundeb yn dda i'n heconomi gael ei dangos yn glir i'r cyhoedd—mai ffantasi ydyw. Y realiti yw bod gadael heb gytundeb yn niweidio'r economi hon yn ddirfawr. Ac rydym yn cynrychioli pobl, pob un ohonom, hyd yn oed y pedwar Aelod acw, ac yn gorfod sicrhau nad yw eu safonau byw yn gostwng. Mae gadael heb gytundeb yn gwneud i hynny ddigwydd. Mae'r cynnig hwn yn llawn o ffantasi, yn llawn o anwiredd ac yn llawn o anobaith i bobl ac economi'r wlad hon, a hoffwn awgrymu bod pawb yn ei wrthwynebu.
Y Gweinidog Brexit i ymateb i'r ddadl—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Mewn datganiad bythefnos yn ôl fe ddywedais i, er gwaethaf yr estyniad pellach i broses erthygl 50, nad ydym ni damaid yn agosach at ddod o hyd i ffordd ymlaen ar ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu â delifro ar y mater pwysicaf oll yn ein hanes mewn cyfnod o heddwch, ac wedi methu gwella'r rhaniadau yn ein cymdeithas. Yn 2016, yn dilyn blynyddoedd o gyni llethol gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan, roedd sawl un yn ein cymdeithas yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl, a'u hanghofio, gan y rhai sydd â chyfrifoldeb i amddiffyn y bobl mwyaf agored i niwed.
Yn ôl rhai, ymgyrch y refferendwm yn dilyn hynny oedd y digwyddiad democrataidd mwyaf yn ein hanes, ond dyma'r digwyddiad a achosodd y mwyaf o raniadau, hefyd. Fe gafodd y rhaniadau a oedd eisoes yn bodoli eu porthi gan yr ymgyrch 'ymadael', a oedd yn ceisio perswadio etholwyr mewn unrhyw ffordd bosib y byddai ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn datrys y problemau yn ein cymdeithas. Roedd hon yn ymgyrch a gafodd ei hadeiladu ar ddelweddau effeithiol ond gwbl ddisylwedd, fel 'taking back control'. Fyddwn ni ddim yn gweld y Deyrnas Unedig yn cael £350 miliwn yr wythnos, fel cafodd ei honni; i'r gwrthwyneb, mae'r ymgais aflwyddiannus i gyflawni Brexit eisoes wedi costio biliynau o bunnoedd—punnoedd y gellid bod wedi'u gwario ar ysbytai, ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill, ac wedi eisoes arwain at economi sy'n dipyn yn llai na'r hyn y byddem ni wedi'i weld fel arall.
Fe honnwyd y byddai cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd gyda'r hawsaf yn hanes dynoliaeth i'w gytuno, ond doedd hynny ddim yn wir. Dŷn ni wedi cael ein llethu mewn trafodaethau sydd wedi profi pa mor anghywir oedd y camargraff bod yr Undeb Ewropeaidd ein hangen ni yn fwy nag ydym ni eu hangen nhw. Dydyn ni ddim wedi hyd yn oed dechrau eto ar drafodaethau go iawn gyda rhannau eraill o'r byd, a dydy Liam Fox ddim hyd yn oed wedi medru sicrhau y bydd gyda ni unrhyw beth yn debyg i'r un mynediad at gwledydd fel Canada a Japan, lle rŷn ni'n manteisio ar hyn o bryd ar gytundeb masnach rydd drwy'r Undeb Ewropeaidd. Yn y cyfamser, mae mwy a mwy o dystiolaeth yn codi o hyd sy'n dangos y bydd unrhyw fath o Brexit yn niweidiol ac y bydd Brexit heb gytundeb yn drychinebus.
Wrth inni nesáu at ymyl y clogwyn cyntaf ym mis Mawrth buom yn trafod goblygiadau gadael heb gytundeb ar sail ein dealltwriaeth o'r dystiolaeth a'r graddau y gallai llywodraethau, y sector preifat a'r gymdeithas ddinesig ehangach geisio lliniaru'r effeithiau hynny. Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn amcangyfrif y byddai economi'r DU rhwng 6.3 y cant a 9 y cant yn llai yn y tymor hir mewn senario 'dim bargen'. Yn frawychus, mae'r ffigur cychwynnol ar gyfer Cymru cymaint ag 8.1 y cant yn llai, ac nid yw'r ffigurau hynny hyd yn oed yn cyfrif unrhyw amharu yn y tymor byr a fyddai'n debygol o waethygu effeithiau senario 'dim bargen' yn ddifrifol.
Mae Mark Carney, llywodraethwr Banc Lloegr, wedi rhybuddio y gallai prisiau bwyd godi'n barhaol, ac mae Consortiwm Manwerthu Prydain yn amcangyfrif y gallai teuluoedd yn y pen draw dalu £1,000 y flwyddyn yn ychwanegol am eu siopa. Mae Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron yn dweud bod Brexit 'dim bargen' yn gamblo gyda busnesau, bywoliaeth a swyddi pobl eraill. Byddwn dan anfantais, a chaiff hynny effaith ar benderfyniadau busnes a phenderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd y farn honno'n taro tant gyda gweithwyr modurol ledled Cymru. Gallwn fynd ymlaen.
Rwy'n gwybod nad yw arweinwyr yr ymgyrch dros 'adael' yn hoffi arbenigwyr a thystiolaeth, ond mae gennym ddewis. Gallwn wrando ar asesiadau rhesymol yn seiliedig ar y ffaith y byddai gadael heb gytundeb yn rhoi diwedd ar fasnachu diffrithiant, neu fel Plaid Brexit, gallem roi ein bysedd yn ein clustiau a dweud wrthym ein hunain fod adegau da ar fin dod i'n rhan. Lywydd, mae'n rhyfeddol a dweud y gwir, er gwaethaf y dystiolaeth sydd gennym am oblygiadau llym Brexit 'dim bargen', fod gennym y cynnig hwn ger ein bron heddiw, yn gwneud yr un honiadau di-sail a gamwerthwyd i'r cyhoedd yn ystod y refferendwm yn 2016. Mae'n syndod, a dweud y gwir, mai newydd daro Mandy Jones y mae fod yna broblemau enfawr wrth geisio trafod yr anawsterau sy'n ein hwynebu wrth inni edrych ar Brexit.
Mae'r Llywodraeth yn gwrthod y cynnig hwn a galwaf ar y Cynulliad i wneud hynny hefyd. Nid oes neb yn gwadu'r ffaith bod mwyafrif yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Ceisiodd llawer ohonom ddod o hyd i ffordd o adael yr UE a oedd yn parchu canlyniad y refferendwm heb ddinistrio ein heconomi. Nododd Llywodraeth Cymru ein hymagwedd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a manteisiodd ar bob cyfle i gyflwyno ein hachos sy'n seiliedig ar dystiolaeth i Lywodraeth y DU a'r UE. Ond yn yr un modd nad oes neb yn amau canlyniadau'r refferendwm, does bosibl nad oes neb yn credu bod y rhai a bleidleisiodd dros adael yr UE yn gwneud hynny gan ddymuno chwalu'r economi yn y ffordd y byddai canlyniad 'dim bargen' yn ei wneud. Ni wnaeth neb ddadlau o blaid gadael heb gytundeb, ni wnaeth neb bleidleisio o blaid gadael heb gytundeb, nid oes mandad i adael heb gytundeb.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â Senedd yr Alban, wedi gwrthod canlyniad 'dim bargen'. Mae mwyafrif yr Aelodau Seneddol hefyd yn parhau i bleidleisio yn erbyn gadael heb gytundeb dro ar ôl tro. Mae'r rhai sy'n parhau i anwybyddu realiti canlyniadau trychinebus Brexit 'dim bargen' yn gweithredu'n ddiofal gyda bywoliaeth ein dinasyddion a'u diogelwch yn y dyfodol. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig gwelliannau i'r cynnig hwn. Mynegwyd safbwynt y Llywodraeth yn glir yn y cynnig a basiwyd bythefnos yn ôl.
Mae datblygiadau diweddar yn yr ornest i fod yn arweinydd nesaf y Torïaid wedi cadarnhau ein safbwynt ymhellach, sef y bydd Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig, naill ai drwy fwriad neu drwy ddiffyg, yn mynd â'r DU tuag at ganlyniad 'dim bargen'. Yn wyneb y dewis syml hwnnw rhwng 'dim bargen' trychinebus neu'n aros yn yr UE, rydym yn bendant yn cefnogi 'aros' ac rydym yn parhau i alw ar y Senedd i gymryd rheolaeth ar y broses hon a deddfu ar gyfer refferendwm fel modd o aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Galwaf ar Caroline Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon. Er gwaethaf y gwahaniaeth barn, mae pob cyfraniad yn y ddadl hon wedi bod yn werthfawr ac yn haeddu parch.
Wrth agor, tynnodd Mark Reckless sylw at gynnig 'dileu popeth' y Ceidwadwyr. Hoffwn ddweud bod dryswch ac anhrefn Llywodraeth Geidwadol y DU bellach wedi'i drosglwyddo i Gymru. Gwnaeth Helen Mary Jones bwynt dilys yn ei hymyriad a dywedodd, pe bai negodiadau llwyddiannus wedi bod gan y Llywodraeth Geidwadol, efallai y gallai pobl, sut bynnag roeddent wedi pleidleisio, fod wedi dod at ei gilydd, wedi negodi, wedi siarad, ac y byddem wedi cael rhyw fath o ganlyniad a fyddai wedi bod yn dderbyniol i bobl Cymru. Dywedodd Mark yn ei gyfraniad y byddai'n well ganddo gael cytundeb, ond nid ydym yn gwybod a yw hynny'n bosibl oherwydd pŵer negodi'r DU.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae gennyf dri munud, Darren; mae'n ddrwg gennyf.
Felly, er bod llawer ohonoch efallai'n anghytuno â'n safbwynt, ac rydych chi'n anghytuno, rhaid i chi dderbyn bod pobl Cymru wedi pleidleisio yn un o'r prosesau democrataidd mwyaf yn hanes ein cenedl. Fe wnaethant bleidleisio'n bendant dros adael y fiwrocratiaeth a'r ddiffynnaeth ac o blaid dyfodol yn rhydd o fod yn yr UE. [Torri ar draws.] Fe fyddaf.
Felly, i'r rhai sy'n gwneud popeth yn eu gallu i rwystro Brexit, cofiwch fod ein hetholwyr am i ni adael yr UE ac wedi ymddiried yn Llywodraeth y DU i gyflawni'r broses hon, rhywbeth nad ydynt wedi gallu ei wneud. Mae pobl yn dweud wrthyf lawer o'r amser eu bod wedi cael llond bol ar wleidyddion yn dweud wrthynt nad oeddent yn gwybod dros beth roeddent yn pleidleisio a bod gwleidyddion yn gwybod yn well. Dangosodd canlyniad diweddar etholiadau'r UE yn wir fod pobl yn gwybod dros beth roeddent yn pleidleisio. Daeth fy mhlaid i, Plaid Brexit, nad oedd yn bodoli tan ychydig fisoedd yn ôl, yn gyntaf mewn 86 y cant o ardaloedd cyngor yng Nghymru, a dylai hynny ddweud wrth bobl yn awr pa mor gryf yw'r teimlad yma yng Nghymru.
Felly, credaf fod cyfle i bawb yma roi gwahaniaethau o'r neilltu er mwyn anrhydeddu'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto, a gadewch inni geisio gyflawni'r gorau sy'n bosibl i'r bobl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.