2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 23 Hydref 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn gyfarwydd iawn ag egwyddorion craidd GIG Cymru, ac rwy'n siŵr eich bod chithau, fel finnau, wedi darllen y gwahanol ddatganiadau cenhadaeth ac wedi clywed y nodau sy'n cael eu hyrwyddo gan y byrddau iechyd. Uchelgeisiau fel sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn, a gofalu am bobl, cadw pobl yn iach, a fy ffefryn personol a'r mantra newydd a ddyfynnir yn aml wrthyf bellach yw 'bod yn garedig'. Ac mae'r egwyddorion eu hunain yn sôn llawer am roi cleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn gyntaf, a dysgu o brofiad, ac ati.
Roedd llawdriniaeth asgwrn cefn frys wedi'i threfnu ar gyfer fy etholwr, Georgina, ym mis Ionawr eleni. Hebddi, byddai ei hasgwrn cefn yn dirywio i'r fath raddau fel y byddai ei pharlys dros dro yn dod yn barhaol. O fis Ionawr ymlaen, cafodd llawdriniaeth Georgina ei chanslo pum gwaith gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, tan inni gael canlyniad yr wythnos diwethaf, a hynny i raddau helaeth am fod aelodau o fy staff wedi gwersylla wrth ddrws yr ysbyty hwnnw. Nid yn unig fod ansawdd ei bywyd yn y dyfodol wedi'i gyfaddawdu, ond, a dyfynnaf yn uniongyrchol o lythyr gan feddyg ymgynghorol sy’n dweud,
Mae'n ddrwg gennyf roi gwybod i chi fod y sefyllfa o ran mynediad at lawdriniaeth asgwrn cefn yn Abertawe yn creu cymaint o oedi fel fy mod yn gweld pobl yn cael niwed. Adroddwyd yn briodol am yr achosion hyn wrth iddynt ddigwydd.
Mae hyn yn peri cryn bryder ynghylch diogelwch clinigol, Weinidog. Ni chredaf fod hwn yn wasanaeth sy'n cadw at yr egwyddorion a'r datganiadau cenhadaeth sy'n cael eu crybwyll yn aml gan GIG Cymru a'n byrddau iechyd. A ydych chi?
Wel, yn amlwg, nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau unigol y cyfeiria'r Aelod atynt, ond ni fuaswn yn ceisio amddiffyn achos o ganslo llawdriniaeth ddifrifol bum gwaith. Buaswn yn awyddus i ddeall beth sydd wedi digwydd a pham. Ac ym mhob un o'r achosion hyn lle nad yw ein system yn cyflawni'r canlyniadau y byddem yn dymuno'u cael mewn modd amserol, mae gwersi i'w dysgu bob amser ynglŷn â beth i'w wneud yn y dyfodol, yn ogystal ag angen i roi gwybod i'r unigolyn dan sylw a bod yn onest am y ffaith nad ydynt wedi cael y gofal na'r gefnogaeth y byddem am iddynt eu cael. Ond os dymuna'r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion mwy penodol, rwy'n fwy na pharod i ystyried hynny'n fwy manwl er mwyn deall beth sydd wedi digwydd yn yr achos hwn, yn ogystal â'r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthym yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, rwy'n poeni bod un clinigydd yn dweud bod pobl yn cael niwed.
Weinidog, roedd fy etholwr, Mr Chell, yn 91 oed. Syrthiodd ar ward Santes Non, sydd gyferbyn â phrif adeilad ysbyty Llwynhelyg, ac i'r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod, efallai, byddai'r pellter fwy neu lai yr un peth â'r pellter rhwng y Siambr hon a phumed llawr Tŷ Hywel. Bu Mr Chell druan, a oedd eisoes yn sâl ac yn fregus iawn, gyda chymhlethdodau ychwanegol tri thoriad i'w glun, yn aros ar lawr ward Santes Non am bum awr tan i ambiwlans ddod i'w gludo'r 380 llath i ysbyty Llwynhelyg. Yna, bu'n rhaid i Mr Chell aros yn yr ambiwlans am ddwy awr arall oherwydd oedi wrth drosglwyddo o ambiwlansys. Nawr, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, darganfûm, tra bu Mr Chell druan yn ceisio cyrraedd ysbyty Llwynhelyg, fod 13 ambiwlans yn aros i drosglwyddo cleifion yn ysbyty Llwynhelyg. Ni chredaf fod hwn yn wasanaeth sy'n glynu at yr egwyddorion a'r datganiadau cenhadaeth sy'n cael eu crybwyll yn aml gan y bwrdd iechyd penodol hwnnw, a GIG Cymru. Beth a ddywedwch wrth deulu Mr Chell, ac a ydych yn credu bod hwn yn wasanaeth derbyniol?
Unwaith eto, yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar achos unigol nad wyf wedi clywed amdano o'r blaen. Ond unwaith eto, nid wyf yn mynd i geisio amddiffyn yr hyn nad yw'n swnio fel gofal priodol a'r hyn nad yw'n swnio fel y math o brofiad neu ganlyniad y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno'i gael. Mae gennyf ddiddordeb mewn deall amgylchiadau'r unigolyn a beth y mae hynny'n ei ddweud wrthym am y system gyfan. Ac fel y gwyddoch, mae'n gwbl bosibl cael profiad gwael iawn, ac eto mae'r system yn gyffredinol yn darparu gofal o ansawdd uchel y rhan fwyaf o'r amser. Gwyddom o'r arolwg cenedlaethol fod profiad y rhan fwyaf o bobl o'r gwasanaeth iechyd, mewn ysbyty neu mewn gofal sylfaenol, yn un cadarnhaol iawn dros 90 y cant o'r amser. Nid yw hynny'n golygu ein bod yn anwybyddu'r achosion lle nad yw hynny'n digwydd, ac nid yw'n golygu ein bod yn anwybyddu'r pwysau yn ein system nac wrth gwrs ein cyfrifoldeb i wella hynny.
Weinidog, rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 12 mlynedd a hanner, ac yn y 12 mlynedd a hanner hynny rwyf wedi cael bywyd eithaf da, mewn gwirionedd. Ond mae un o fy etholwyr—ac rydych yn ei hadnabod—Ayla Haines, mewn 12 mlynedd a hanner, wedi cael ei thrin yn debycach i garcharor na rhywun sydd angen gofal iechyd. Dynes ifanc oedd hi pan gyfarfûm â hi gyntaf—roedd hi'n 17 oed. Mae hi bellach yn 25. Mae hi mewn uned ddiogel yn Northampton. Fe’i hanfonwyd yno yn 2016 er mwyn iddi allu dod oddi ar ei meddyginiaethau. Ers iddi fod yno, mae ei hiechyd wedi dirywio. Mae hi'n hunan-niweidio, mae hi'n colli pwysau, mae rhywun wedi ymosod arni, felly mae hi'n ymladd yn ôl, ac mae hi bellach yn ymosodwr yn ogystal â rhywun yr ymosodwyd arni. Mae'r staff yn gwybod bod ganddi OCD, er enghraifft, ond maent yn dweud wrthi am frysio a cheisio ei hatal rhag cwblhau ei harferion, felly mae hi'n gwaethygu. Mae hi'n colli pwysau, mae hi ar feddyginiaeth waeth a meddyginiaeth gryfach na'r feddyginiaeth roedd hi arni pan aeth yno. Mae'n wynebu peryglon corfforol.
Ond yr hyn sy'n dân ar fy nghroen, a'r rheswm pam rwyf wedi tynnu eich sylw at hyn heddiw, yw oherwydd na allaf, ar ôl 12 mlynedd a hanner, gael unrhyw un i gyfaddef a dweud, 'Mae'r broblem hon, y ferch hon, ar fy nesg i ac rwy'n mynd i ddatrys ei phroblem.' Rwyf wedi ysgrifennu atoch chi, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda—pob un ohonynt: 'Nid fy mhroblem i, nid fy mhroblem i, nid fy mhroblem i'. Rydych chi, diolch byth—diolch—wedi dweud o'r diwedd fod ei lleoliad yn Northampton o dan oruchwyliaeth uniongyrchol bwrdd iechyd Hywel Dda. Iawn. Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal; nid oes unrhyw un o Gymru yn eu mynychu, nid oes unrhyw un o'r bwrdd iechyd yn mynd, nid yw ei heiriolwr yn mynd, ni chaniateir i'w rhieni fynd—maent wedi eu hymyleiddio. Mae iechyd meddwl y ferch honno, a oedd yn fregus bryd hynny, yn waeth byth bellach, gan ei bod dros 200 milltir oddi wrth ei rhwydwaith cymorth. Nid yw ei theulu'n gyfoethog iawn, maent yn byw yn Llansteffan, ni allant fforddio mynd yno i'w gweld. Gyda llaw, nid ydynt yn cael gwneud hynny, gan fod Northampton yn dweud wrthynt fod ei galwadau ffôn yn cael eu monitro, maent yn cael eu canslo ar fyr rybudd, nid ydynt yn cael ymweld â hi, mae'n rhaid i'w hymweliadau gael eu goruchwylio. Mae'r ferch hon yn cael ei gyrru i mewn i dwll bach.
Nid wyf yn gwybod, yn glinigol, beth sy'n bod arni, ond yr hyn a wn yw nad oes unrhyw un yma yng Nghymru yn derbyn cyfrifoldeb am fonitro hynny, am oruchwylio, i sicrhau ei bod yn y lle iawn yn gyson, yn cael ei gweld, gyda'r driniaeth iawn, gan y bobl iawn. Mae pawb wedi golchi eu dwylo ohoni—mae hi gannoedd o filltiroedd i ffwrdd, nid oes ots amdani mwyach. Ond mae ots amdani—mae ots gennyf fi amdani, gan fy mod yn meddwl amdani y rhan fwyaf o wythnosau. Fe ddywedoch chi y diwrnod o'r blaen, ar y teledu, fod meddwl am yr amseroedd aros am rai pethau yn eich cadw'n effro'r nos. Wel, mae Ayla Haines yn fy nghadw innau'n effro'r nos. Mae hi'n 25; sawl blwyddyn arall mae hi'n mynd i'w treulio yno? A'r unig beth rwy'n dymuno'i weld yw un unigolyn yng Nghymru yn dweud, 'Fy nghyfrifoldeb i yw hi. Rwy'n mynd i wneud yn siŵr ei bod hi'n cael y driniaeth orau bosibl'. Mae'r diffyg atebolrwydd, y diffyg cyfrifoldeb—. Ac fe ddywedaf wrthych beth yw'r broblem: dyma ganlyniad bod yn un person. Os oes gennych broblem fawr, fel sydd gennym yng Nghwm Taf—grwpiau gorchwyl a gorffen hyd dragwyddoldeb. Ond fel un person tlawd, nid oes unrhyw un i ddadlau ar eu rhan mewn gwirionedd. Os gwelwch yn dda, Weinidog, a wnewch chi edrych ar hyn? Mae'r byrddau iechyd hyn yn treulio eu holl amser yn dweud wrthym eu bod yn rhoi pobl yn y canol yn yr hyn a wnânt. Ond eto, ac eto, ac eto, ac eto, maent yn methu. Dyna dair enghraifft o fethiant—gall pob un yma sôn wrthych am ragor. Ar ryw bwynt, mae'n rhaid inni ddwyn y bobl hyn i gyfrif. Dyna'ch swydd chi—gwnewch hynny.
Wel, credaf fod y cyfeiriad at Gwm Taf yn anffodus, gan ein bod yn ymdrin â methiant yn y system yno gyda'r niwed gwirioneddol y mae wedi'i achosi i unigolion, ac rydym yn ystyried y broblem ar lefel system. Nid oes digwyddiad wedi bod erioed lle rwyf wedi ceisio dweud nad oes gan y system gofal iechyd gyfrifoldeb am unigolion drwyddi draw, ac rwy'n disgwyl i'n system allu ymdrin â'r rheini.
Yn y ffigurau y cyfeiriais atynt yn gynharach, ynglŷn â boddhad â'r gwasanaeth iechyd, nid yw'r rheini ynddynt eu hunain yn dweud bod pob unigolyn yn dweud eu bod yn fodlon â phob un dim. Ceir gwersi i'w dysgu bob amser pan fo pethau'n mynd o chwith. Ac yn yr achos unigol y cyfeirioch chi ato, unwaith eto, fe wyddoch na allaf wneud sylwadau arno. Mae gennyf ddiddordeb, wrth gwrs, ym mhob unigolyn sydd â rheswm i gwyno a rheswm i bryderu am y gwasanaeth iechyd. Ond nid oes wahaniaeth a ydynt yn cael eu trin neu'n derbyn gofal yng Nghymru neu yn Lloegr. Rwy'n disgwyl i bobl sy'n comisiynu ac sy'n gyfrifol am y gofal hwnnw gynnal eu diddordeb yn ansawdd y gofal a ddarperir hefyd, gan fod nifer o'r datganiadau rydych wedi'u gwneud heddiw yn peri pryder gwirioneddol ynglŷn ag ansawdd y gofal ac ynglŷn â'r hyn a ddylai fod o ddiddordeb i'r arolygiaethau perthnasol yma ac yn Lloegr, o ystyried difrifoldeb yr hyn a ddisgrifiwyd gennych.
Drwy fy swyddfa, fe edrychaf i weld faint o sylw y mae'r bwrdd iechyd yn parhau i'w roi i hyn a'r ymatebion i'r pryderon a godwyd gan eich etholwr, ei theulu a'i heiriolwyr. Rwy'n cydnabod mai fi sy'n gyfrifol am y system gyfan, y rhannau da a'r rhannau y mae angen eu gwella. Nid wyf yn troi cefn ar hynny, a byddaf yn sicr yn mynd i'r afael â'r materion unigol. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech ysgrifennu ataf gyda manylion am y tri mater, a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael sylw.
Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn holi'r Gweinidog eto am y sefyllfa yng Nghwm Taf. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod datganiad pellach wedi'i wneud i'r Cynulliad hwn bythefnos yn ôl—credaf mai pythefnos yn ôl y'i gwnaed. Yn anffodus, nid oedd modd i mi fod yn bresennol bryd hynny, ond rwyf wedi cael cyfle i ddarllen y Cofnod. Ac rwy'n derbyn, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei ymateb i sylwadau fy nghyd-Aelod, Dr Dai Lloyd, nad yw'n bosibl trawsnewid diwylliant yn llwyr mewn ychydig fisoedd, ond tybed a wnaiff y Gweinidog dderbyn ei bod yn anodd iawn i bobl ddeall pam na ellir gwneud gwasanaeth yn ddiogel o fewn chwe mis. Ac a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw pryd y mae'n disgwyl gallu rhoi sicrwydd i bobl Merthyr Tudful a'r cyffiniau fod y gwasanaeth hwnnw'n ddiogel?
Wel, rwyf wedi nodi proses o ymyrraeth i roi'r sicrwydd priodol y byddai pawb yn dymuno'i gael, p'un a'u bod yn byw yn ardal Cwm Taf ai peidio, ynghylch diogelwch y gwasanaeth hwnnw a'r rhagolygon ar gyfer ei ddyfodol, ac rwyf wedi nodi nid yn unig y panel trosolwg annibynnol, ond y gwaith sy'n mynd rhagddo o amgylch y bwrdd. A byddaf yn gwneud datganiadau pan fyddaf mewn sefyllfa i wneud hynny. Mae'n bwysig iawn nad wyf yn darparu amserlenni artiffisial sy'n gyfleus i mi, yn hytrach na darparu'r sicrwydd cadarn y byddai pobl yn ei ddisgwyl ac yn dymuno'i weld. Mae swyddogion a'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd a'r panel trosolwg yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd, a chyda'u hadroddiad chwarterol nesaf, bydd gennym syniad o'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y chwarter diwethaf hefyd. Dyna'r broses onest a gwrthrychol sydd wedi'i sefydlu a dyna'r un y byddaf yn cadw ati.
Rwy’n derbyn yr hyn a ddywed y Gweinidog, wrth gwrs, ynglŷn â pheidio â chreu amserlenni artiffisial, ond rwy’n sicr yn gwybod, pe bawn yn ddynes o oedran cael plant ac yn byw yn y rhanbarth hwnnw, buaswn yn awyddus i wybod bod amserlen ar waith ac y gallwn ddisgwyl i'r gwasanaeth hwnnw fod yn ddiogel ar ryw adeg.
Rwyf wedi derbyn sylwadau, a gwn fod cyd-Aelodau eraill wedi derbyn sylwadau, a oedd yn awgrymu i mi—wel, yn profi i mi—fod y problemau diwylliannol, ac rwy'n derbyn unwaith eto na ellir eu newid dros nos, yng Nghwm Taf yn ymestyn ymhell y tu hwnt i wasanaethau mamolaeth. Yn ddiweddar, cyfarfûm â theulu a roddodd dystiolaeth i mi ynghylch materion difrifol yn ymwneud â thriniaeth eu rhieni oedrannus ar wahân mewn gwahanol rannau o wasanaeth Cwm Taf dros gyfnod o ddwy flynedd. Nawr, mae'r materion hyn yn codi themâu tebyg i rai o'r problemau mewn perthynas â phrofiadau menywod yn y gwasanaeth mamolaeth—problemau sy'n ymwneud â diffyg parch, diffyg gwrando ar gleifion a'u teuluoedd, diffyg gofal sylfaenol, fel cynorthwyo pobl hŷn i fwyta ac yfed. Cafodd y teulu hwn brofiad anfoddhaol iawn, unwaith eto'n debyg i rai o'r bobl a oedd wedi defnyddio gwasanaethau mamolaeth, wrth ddefnyddio'r weithdrefn gwyno. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog heddiw a fydd yr ymyriadau presennol a roddwyd ar waith ganddo yng Nghwm Taf yn nodi pryderon ehangach, fel y rhain, ynglŷn â'r diwylliant yn y sefydliad y tu hwnt i wasanaethau mamolaeth? Ac a yw'n derbyn y gallai fod angen iddo gynyddu ei ymyrraeth os daw pethau o'r fath yn gyhoeddus?
O ran y gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes, mae'n siŵr y byddwch wedi darllen y sylwadau a wnaed nid yn unig gan y panel trosolwg annibynnol, ond maent yn ymestyn ac maent yn cydnabod y gwelliannau mwy eang sy'n cael eu gwneud o dan arweinyddiaeth y prif weithredwr dros dro, a bod newid mewn diwylliant yn digwydd ar lefel y bwrdd, o'r adroddiadau a ddarparwyd gan David Jenkins. Nid wyf yn siŵr a yw wedi rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor iechyd eto. Os nad yw wedi gwneud hynny, gwn ei fod ar fin digwydd. Ac fe fyddwch yn deall bod cydnabyddiaeth wirioneddol fod angen iddynt edrych ar draws y gwasanaethau a ddarperir i dawelu eu meddyliau eu hunain ar lefel y bwrdd fod y gwaith y maent yn ei wneud i unioni, yn benodol, heriau yn y swyddogaeth gwyno yn mynd i'r afael hefyd â'r diwylliant a darpariaeth y gwasanaeth. Mae hynny ar gyfer staff yn y system yn ogystal â'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Nawr, nid wyf am ddenu helynt drwy sôn am yr hyn a allai neu na allai ddigwydd yn y dyfodol. Wrth gwrs, rwy'n cael fy arwain ac yn ffurfio barn ar sail cyngor, cyngor a roddir gan swyddogion, ond hefyd y broses deirochrog, ynghyd â phrif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Os daw materion newydd i'r amlwg sy'n gofyn am ymyrraeth bellach, byddaf yn gwneud hynny. Os nad oes angen ymyrraeth bellach ar y materion hynny, ond bod angen eu gwella o hyd, disgwyliaf i'r gwelliannau hynny ddigwydd heb yr angen am ymyrraeth uniongyrchol gan y Llywodraeth.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb ac rwy'n falch iddo sôn am y bwrdd iechyd. Nid wyf yn gwybod a yw'r Gweinidog wedi cael cyfle i adolygu trafodion y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf, ond does bosibl mai fi oedd yr unig un a gafodd sioc wrth glywed yr hyn oedd gan David Jenkins, y cynghorydd annibynnol, i'w ddweud am gyflwr y bwrdd iechyd lleol. Dywedodd yn glir iawn fod y gwaith craffu yn dra annigonol, a phan gafodd ei holi ynglŷn â hynny, dywedodd mai pobl yw'r aelodau annibynnol wedi'r cyfan ac y gellid disgwyl dweud wrthynt beth roeddent yn ei gredu.
Cyflogir y bobl hyn i graffu ar y swyddogion gweithredol. Mae'r cadeirydd yn cael o leiaf £55,000 y flwyddyn; mae'r is-gadeirydd yn cael o leiaf £45,000; ac mae saith aelod annibynnol yn cael £10,000 y flwyddyn yr un. Ac eto, dywedodd David Jenkins yn glir iawn nad oeddent yn gymwys—nid ydynt yn gallu craffu'n effeithiol. Bellach, yn ôl yr hyn a ddeallaf—ac fel enghraifft o’u hanallu i graffu’n effeithiol—yr haf hwn, gwnaethant adael i’r prif weithredwr aflwyddiannus ddianc yn ddi-gosb heb unrhyw frycheuyn o gwbl ar ei chymeriad.
Deallaf bellach fod y bwrdd yn cael rhaglen ddatblygu 12 mis, a ddarperir gan Deloitte UK. Ni allaf ddychmygu bod hynny'n rhad a deallaf fod hynny'n dod allan o gyllideb y Gweinidog. Mae'n rhaid imi ddweud na allaf ddeall sut y caniatawyd i'r bobl hyn nad oeddent yn gallu craffu ar eu gweithrediaeth gael eu penodi yn y lle cyntaf. Unwaith eto, mewn ymateb i gwestiynau gan y pwyllgor, dywedodd David Jenkins ei fod yn teimlo bod problemau gwirioneddol gyda'r broses benodi. Ond Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud bod yn rhaid i'r Gweinidog dderbyn cyfrifoldeb am hyn. Ef a benododd yr holl bobl hynny. Ef sy'n pennu'r broses, ac eto, pobl ydynt wedi'r cyfan a gellid disgwyl iddynt gredu'r hyn a ddywedir wrthynt.
Nawr, mae gennym sefyllfa lle mae gennym bump o'r saith bwrdd iechyd lleol mewn rhyw fath o fesurau arbennig—
Nid yw hynny'n wir.
—mae gennym bobl yn cael eu penodi pan fo'n amlwg na allant wneud eu gwaith, ac yna mae'n rhaid iddynt gael ymyrraeth ddrud iawn i'w galluogi i'w wneud. Onid yw'n bryd i'r Gweinidog gydnabod nad yw system y byrddau iechyd lleol yn gweithio? Ei holl bwynt oedd galluogi gwaith craffu annibynnol ar y gweithwyr proffesiynol. Mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Onid yw'n bryd ailfeddwl yn sylfaenol ynglŷn â sut y caiff ein gwasanaethau iechyd a gofal eu llywodraethu?
Wel, rwy'n gresynu at gywair a chynnwys cryn dipyn o'r hyn a ddywedodd yr Aelod.
Rwy'n siŵr eich bod.
Pan ddywed yr Aelod fod pum bwrdd iechyd mewn rhyw ffurf ar fesurau arbennig, nid yw hynny'n wir o gwbl—nid yw'n wir o gwbl—
Wel, dyna a ddywedodd eich cynghorydd annibynnol.
Dylai'r Aelod ymdrin â ffeithiau'r mater a realiti'r ymrwymiad i wella, a realiti'r hyn a ddywedir. Nid wyf yn derbyn disgrifiad yr Aelod o union eiriau David Jenkins, ond yn y cyfarfodydd a gefais gydag ef yn uniongyrchol, gwn mai ei farn ef yw eu bod wedi gwneud popeth y gallech ddisgwyl iddynt ei wneud i sicrhau'r gwelliannau sy'n ofynnol. Maent wedi dangos mewnwelediad; maent wedi dangos ymrwymiad i ymddwyn yn wahanol ac maent yn ymddwyn yn wahanol o ran y lefel o graffu a throsolwg y byddech yn ei disgwyl ganddynt.
Rydym wedi gwneud newidiadau i'r broses sefydlu a sut y mae aelodau annibynnol yn deall natur eu rôl a'u swydd. Felly, rydym yn gwrando ar yr hyn sy'n digwydd yn ein system ac yn dysgu amdano. Nid wyf yn rhannu barn yr Aelod fod angen ad-drefnu'r ffordd rydym yn darparu gofal iechyd a throsolwg yn gyfan gwbl. Dyna'n union nad oes ei angen ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Ac mewn gwirionedd, mae'r holl adolygiadau annibynnol rydym wedi'u cael o'n system gofal iechyd, gan gynnwys yr adolygiad seneddol wrth gwrs, wedi nodi nad dyna sydd angen inni ei wneud i sicrhau gwelliannau yn ein gwasanaeth. Rwyf wedi ymrwymo i wella'r system gofal iechyd ar gyfer ein staff a'r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu ac edrychaf ymlaen at wneud hynny gyda'r holl bobl resymol ar draws y Siambr a'r tu allan iddi.
Llefarydd Plaid Brexit, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, unwaith eto, rydym yn brwydro yn erbyn achosion o'r frech goch a chlwy'r pennau ymhlith myfyrwyr prifysgol. Cafwyd oddeutu 30 o achosion tybiedig o glwy'r pennau ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae hyn yn dilyn colli statws heb frech goch y DU yn gynharach eleni, dair blynedd yn unig ar ôl i ni gael gwared ar un o afiechydon mwyaf heintus y byd. Gellir priodoli'r cynnydd yn y clefydau ofnadwy hyn i'r niferoedd rhy isel o bobl sy'n cael eu brechu. Rydym ar y blaen i weddill y DU o ran cyfraddau brechu, gyda 92 y cant o blant Cymru yn cael y brechlyn MMR, ond mae hyn yn dal i fod yn is na'r targed. Weinidog, pa fesurau newydd rydych yn eu hystyried i gynyddu cyfraddau brechu yng Nghymru, yn enwedig ymhlith myfyrwyr prifysgol?
Mewn gwirionedd, y dasg gyntaf yw edrych ar gyfraddau imiwneiddio plant yn ychwanegol at y potensial i ddal i fyny, oherwydd pe baem yn brechu cyfran hyd yn oed yn uwch o'r boblogaeth yn ddiogel, dyna fyddai'r amddiffyniad gorau i bob un ohonom. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda chydweithwyr a thimau iechyd y cyhoedd ym mhob un o'r byrddau iechyd, yn edrych eto ar beth y gellir ei wneud i godi'r lefel uchel o frechu sydd gennym eisoes er mwyn gwella hynny hyd yn oed ymhellach. Ond y rheswm pam y collodd y DU ei statws heb frech goch gan Sefydliad Iechyd y Byd oedd oherwydd y lefel arbennig o isel o frechlynnau a gafwyd dros gyfnod o amser yn Lloegr, lle maent wedi cwympo i tua 85 y cant. Ac mae'n dangos effaith buddsoddi yn rhan y blynyddoedd cynnar o'n system iechyd a gofal, ond mae hefyd yn dangos y niwed gwirioneddol a wnaed gan y mudiad gwrth-frechu, ac yn enwedig gan waddol Dr Wakefield, sydd bellach yn destun cywilydd ac wedi'i ddiswyddo, ond mae rhai pobl yn barod i gefnogi a hyrwyddo ei waith o hyd. Yr effaith wirioneddol yw'r perygl y mae hynny wedi'i achosi i iechyd y cyhoedd ledled y Deyrnas Unedig, yn enwedig yn Lloegr, ond ceir bylchau go iawn mewn rhannau o Gymru hefyd.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, un o'r rhwystrau mwyaf o ran cynyddu cyfraddau brechu yw cynnydd mewn gwybodaeth anghywir ar-lein, ac fel y dywedoch chi, y mudiad gwrth-frechu. Pan fo enwogion ac arbenigwyr honedig yn lledaenu mythau ac yn dweud celwyddau yn wir am frechu ar Facebook a Twitter, mae'n gwneud gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llawer anos. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch swyddogion cyfatebol yng ngweddill y DU i fynd i'r afael â gwybodaeth anghywir am frechlynnau, ac a ydych wedi ystyried ymgyrch wybodaeth gyhoeddus i sôn am ddiogelwch ac effeithiolrwydd brechlynnau?
Rydym yn gwneud datganiadau rheolaidd i dawelu meddwl y cyhoedd ynghylch diogelwch ac effeithiolrwydd yr holl frechlynnau a ddarperir a'r wyddoniaeth a'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail iddynt, yn hytrach na'r amheuaeth a'r twf mewn newyddion ffug yn enwedig, gydag ystod o'i gefnogwyr sy'n ddylanwadol mewn gwahanol ffyrdd. Nid ydym mewn sefyllfa lle mae angen i ni ystyried yr hyn y mae Matt Hancock wedi sôn amdano o ran ceisio gwneud brechu'n orfodol. Credaf fod hynny'n anodd iawn i'w gyflawni a chredaf y gallai hynny achosi mwy o niwed nag o les i'r rhai nad ydynt eisoes yn brechu eu plant, gan y gallai eu gyrru hyd yn oed ymhellach i ffwrdd.
Credaf fod hyn yn ymwneud â sut rydym yn perswadio ac yn darparu tystiolaeth gan bobl y maent yn ymddiried ynddynt, a dyna pam, unwaith eto, fod buddsoddi yn ein blynyddoedd cynharaf ac mewn gwasanaethau pan fydd pobl yn feichiog yn wirioneddol bwysig, o ran lefel yr ymddiriedaeth a ddarperir a'r sicrwydd ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu o ran gwneud y peth iawn iddynt hwy a'u plant. Byddwn yn parhau i wneud hynny. Credaf mai'r her gydag ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus ehangach yw na cheir fawr ddim enillion yn aml. Mae angen inni ddeall o ble y mae pobl yn cael eu gwybodaeth a chan bwy y maent yn debygol o gael eu perswadio er mwyn sicrhau'r enillion mwyaf ar unrhyw fuddsoddiad a wnawn.