– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Symudwn at grŵp 4 yn awr, sef grŵp o welliannau'n ymwneud ag estyn yr hawl i wladolion tramor bleidleisio a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig. Y gwelliant arweiniol yn y grŵp hwn yw gwelliant 5, a galwaf ar David Melding i gynnig a siarad am y gwelliant arweiniol a gwelliannau eraill yn y grŵp. David.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig yr holl welliannau yn y grŵp hwn, sef yr unig welliannau. Fy mwriad yma, Ddirprwy Lywydd, yw gwrthdroi’r gwelliannau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yng Nghyfnod 2, sy’n estyn yr hawl i bleidleisio i ddinasyddion tramor cymwys. Rwy’n dal i deimlo’n hynod rwystredig oherwydd y ffordd ddiofal y mae Llywodraeth Cymru yn gwthio newidiadau mor sylweddol i’n system etholiadol yng Nghymru. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, nid yw defnyddio'r ddeddfwriaeth hon i gario'r diwygiad penodol hwn ar ei chefn yn foddhaol. Mewn gwirionedd, mae'n ffordd wael iawn o ddeddfu a dweud y lleiaf, ac mae'n gosod cynsail gwael yn fwy cyffredinol ar gyfer datblygu cynigion deddfwriaethol a'u craffu ar y camau perthnasol.
Rhaid imi ddweud, os oeddwn i'n ansicr o hyn yng Nghyfnod 2, mae presenoldeb gwelliannau anwadal yng Nghyfnod 3 newydd gadarnhau nad yw rhai o'r newidiadau etholiadol sylweddol wedi cael eu hystyried yn drylwyr, a chredaf fod gan y Llywodraeth lawer o waith egluro yn hyn o beth. Yn y pen draw mae hon—yr adran hon—yn ddeddfwriaeth anghyflawn, ac mae'n mynd yn groes i bopeth y mae'r sefydliad hwn wedi'i gyflawni dros yr wyth mlynedd diwethaf o ran gwella eglurder a thryloywder y broses ddeddfu.
Ni fyddai gennyf unrhyw wrthwynebiad pe bai'r Gweinidog yn cyflwyno cynigion yn ei Fil ei hun, y gellid craffu'n drylwyr arno wedyn. Ar hyn o bryd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd dinasyddion Iwerddon a dinasyddion y Gymanwlad yn dal yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Mae'r hyn sy'n digwydd i ddinasyddion Ewropeaidd sydd ar hyn o bryd yn gymwys i bleidleisio yn fater pwysig, ac mae'n un y credaf y buaswn yn ei gefnogi yn ôl pob tebyg o ran sicrhau eu bod yn cadw eu hawl i'r etholfraint.
Ond rwy’n cael trafferth go iawn gyda dinasyddion sydd wedi cael eu croesawu i Gymru ac sy’n gweithio yma ac sydd wedi setlo yma, ond sydd heb unrhyw ddinasyddiaeth gadarn a heb fod yn perthyn i gategori dinasyddion y Gymanwlad na dinasyddion Ewropeaidd cyfredol, yn cael y bleidlais heb unrhyw ystyriaeth ddifrifol. Credaf fod angen inni edrych ar y seiliau y credwn y byddai hynny'n briodol, ac os yw’n briodol ai peidio. Felly, dyna'r math o archwiliad nad ydym wedi'i gael. Felly, credaf ei fod yn gwneud y rhan hon o'r Bil, fel y'i diwygiwyd erbyn hyn, yn gamweithredol.
Rhaid imi ddweud hefyd, Lywydd—ac mae’n debyg y bydd eich calon yn suddo—pe bai hyn yn aros yn y Bil, mae’n debyg y bydd ein grŵp yn cael ei chwipio yng Nghyfnod 4 i bleidleisio yn erbyn y Bil. Rhaid imi ddweud bod hynny'n destun gofid dwys imi, ac ni chredaf y dylid colli Bil Comisiwn—pe bai hynny'n ganlyniad; yn amlwg, mater i'r Cynulliad fyddai hynny—o ganlyniad i ddiwygio mawr na chafodd ei gyflwyno gan yr Aelod cyfrifol, ond a gafodd ei herwgipio mewn rhyw ffordd a’i gyflwyno gan y Llywodraeth. Rwy’n meddwl o ddifrif fod hynny'n siomedig iawn.
Felly, gadewch i ni gadw'r Bil hwn i ganolbwyntio ar yr elfennau sydd wedi cael eu craffu. Does bosibl na ddylem gytuno ar yr egwyddor honno. Ailenwi'r Cynulliad, estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed a'r diwygiadau i'r meini prawf anghymhwyso: mae'r rhain yn enillion gwirioneddol sylweddol. Maent yn cryfhau ein democratiaeth. Rwy’n meddwl o ddifrif na ddylid cyflwyno'r cynnig hwn i ganiatáu i bobl nad ydynt yn ddinasyddion neu sydd heb unrhyw berthynas debyg i ddinasyddiaeth ar hyn o bryd heb unrhyw archwilio a chraffu go iawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno i wrthdroi'r gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod 2 a dileu'r ddarpariaeth hon o'r Bil, ac rwy'n cynnig hynny.
Mae Plaid Cymru yn credu bod gan bawb sy'n byw yng Nghymru ran yn nyfodol ein cenedl a bod ganddynt hawl i helpu i'w siapio. Dyna pam ein bod yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth i estyn yr hawl i bleidleisio. Fodd bynnag, mae gennym gwestiynau ynghylch dehongliad y Llywodraeth o'i gwelliannau ei hun ar estyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor sy'n byw yng Nghymru. Yn benodol, hoffem eglurder gan y Llywodraeth ynglŷn ag a yw'r gwelliannau hyn wedi'u bwriadu er mwyn estyn yr etholfraint i bobl sy'n ceisio lloches, gan fy mod yn deall nad yw'r Llywodraeth yn credu eu bod yn gwneud hynny. Credwn y gellir ac y dylid dehongli'r gwelliannau hyn i gynnwys pobl sy'n ceisio lloches. Mae'r gwelliannau’n estyn yr hawl i bleidleisio i 'ddinasyddion tramor cymwys', y diffinnir eu bod yn cynnwys pobl sydd angen caniatâd i aros, ond sydd, am y tro, yn meddu ar (neu sydd, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, i’w trin fel pe baent yn meddu ar) unrhyw ddisgrifiad o ganiatâd o’r fath.
Dylai pobl sy'n ceisio lloches gael eu cynnwys yn yr etholfraint oherwydd gellir deall eu bod yn perthyn i’r categori hwn. Y rheswm am hyn yw, er bod pobl yn dal i geisio lloches, mae'n amlwg eu bod, mewn sawl ffordd, yn cael eu trin fel rhai sydd â rhyw fath o ganiatâd i aros. Mae pobl sy'n ceisio lloches ar fechnïaeth fewnfudo, sy'n golygu eu bod yn cael byw yn y DU tra’u bod yn aros am benderfyniad ar eu cais. Gall eu caniatâd i aros fod yn amodol, ond maent yma yn gyfreithiol, ac nid oes unrhyw reswm cynhenid felly pam na ellir rhoi hawl iddynt bleidleisio.
Rydym yn gwybod bod cynsail yn Iwerddon, lle gall pobl sy'n ceisio lloches bleidleisio a sefyll mewn etholiadau lleol. Felly, hoffwn ofyn i'r Llywodraeth egluro pam y credir nad yw'r gwelliannau hyn yn cynnwys pobl sy'n ceisio lloches, a beth yw'r cyfiawnhad dros hynny? Gan fod hwn yn symudiad tuag at etholfraint ar sail preswyliad, yn hytrach nag ar sail dinasyddiaeth, pam y bwriedir i rai pobl sy'n preswylio'n gyfreithiol yng Nghymru gael eu heithrio o'r etholfraint, a sut y mae'r bwriad hwn yn gydnaws â nod datganedig Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl noddfa gyntaf y byd ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches?
Mae rhai pobl yn byw yng Nghymru am flynyddoedd wrth aros am benderfyniad ar eu cais am loches oherwydd prosesau gwael ac agweddau gelyniaethus Llywodraeth y DU. Sut y gallwn ddweud nad ydynt hwythau hefyd yn drigolion y wlad hon? Cânt eu heffeithio gan y penderfyniadau a wnawn fel gwleidyddion lawn cymaint ag unrhyw un arall sy'n byw yng Nghymru, ac mae ganddynt hawl gyfartal i ddylanwadu ar y penderfyniadau hynny. Os ydym yn cydnabod yr egwyddor hon mewn perthynas ag ymfudwyr a ffoaduriaid eraill sy'n byw yng Nghymru, mae hi yr un mor berthnasol i bobl sy'n dal i aros am benderfyniad ar eu cais am amddiffyniad. Ni ddylai statws mewnfudo fod yn rhwystr i gyfranogiad gwleidyddol.
Ar y ddealltwriaeth fod y gwelliannau hyn yn sicrhau y gall pawb sy'n byw yng Nghymru gymryd rhan yn wleidyddol, nid oes dadl foesol nac ymarferol yn fy marn i dros eithrio pobl sy'n ceisio lloches. Bydd bwlch rhwng bwriad y gwelliannau hyn a'u heffaith oni bai ein bod yn eu deall yn eu hystyr fwyaf eang, i gynnwys yr holl bobl sy'n byw yng Nghymru. Rwy’n llwyr gefnogi’r weledigaeth o wneud Cymru yn genedl noddfa gyntaf y byd, ond os ydym yn mynd i gyflawni hynny, rhaid inni ei hymgorffori yn ein holl weithredoedd. Rhaid inni ddweud wrth bobl sy'n ceisio lloches fod croeso iddynt, eu bod yn cael eu cynnwys, ac y byddant hwythau hefyd yn gallu arfer ein hawl ddemocrataidd fwyaf sylfaenol.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n derbyn wrth gwrs eich bod wedi cael cyngor cyfreithiol i ganiatáu’r gwelliannau Cyfnod 2 sydd bellach yn ysgogi'r gwelliannau hyn yng Nghyfnod 3. Nid wyf yn herio hynny, ond rwy'n credu ei bod yn werth atgyfnerthu'r pwyntiau pam y cytunodd y Comisiwn, sy'n cynrychioli'r pedair plaid fwyaf yn y Siambr hon wrth gwrs, na ddylid cynnwys yr estyniad penodol hwn i'r etholfraint yn y Bil fel y'i gosodwyd.
Fel nifer o faterion dadleuol eraill—efallai mai'r cynnydd yn nifer yr Aelodau yw'r un a wyntyllwyd orau—roedd y Comisiynwyr yn cytuno y dylai hwn fod yn fater i'w archwilio ymhellach cyn cyflwyno ail Fil. A'r rheswm cyntaf dros y safbwynt hwnnw oedd diffyg consensws gwleidyddol. Ni fu unrhyw ymdrech i ddod i gonsensws gwleidyddol ers hynny, ac mae hyn yn bwysig. Ac mae hyn yn bwysig oherwydd nod datganedig y Llywydd i sicrhau bod y Bil hwn, Bil Comisiwn, yn cael cefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol—nod aruchel iawn, ac un pwysig, gan nad yw hwn yn Fil Llywodraeth; esgorwyd arno gan y Cynulliad hwn.
A'r ail reswm na wnaethom ei gynnwys yw oherwydd nad oedd cyflwyno pleidleisiau ar gyfer categori newydd gwladolion tramor preswyl, yn wahanol i bleidleisiau i bobl ifanc 16 oed neu gynnydd yn nifer yr Aelodau, yn destun trafodaeth gyhoeddus nac unrhyw graffu gan y Cynulliad ar y pwynt hwnnw. Ac nid yw wedi bod yn destun trafodaeth gyhoeddus na chraffu gan y Cynulliad ers hynny.
Pe bai gwelliant wedi'i gyflwyno o blaid pleidleisiau i garcharorion, gallai cefnogwyr o leiaf fod wedi tynnu sylw at waith pwyllgor Cynulliad a dadl ar ei ganfyddiadau. Byddai pleidleisiau ar gyfer gwladolion tramor preswyl wedi bod yn ychwanegiad cwbl briodol i agenda'r pwyllgor ar gyfer diwygio'r Cynulliad neu—fel y rhagwelwyd yn wreiddiol gan y Comisiwn—y Cynulliad nesaf.
Er fy mod yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar y cwestiwn hwn yng nghyd-destun llywodraeth leol, nid oedd cynnwys y gwelliannau hyn ym maniffesto Cynulliad unrhyw blaid yn 2016 a dim ond yn ddiweddar iawn y daeth i sylw'r cyhoedd yn dilyn cyhoeddiadau a wnaed yng nghynhadledd Plaid Lafur y DU eleni. Nawr, yn lle cyflwyno ei Bil ei hun, mae Llywodraeth Cymru wedi herwgipio'r Bil hwn—rwy’n ategu’r gair a ddefnyddiodd David Melding, ac yn rhyfedd iawn ar yr achlysur hwn caiff gefnogaeth gan Blaid Cymru, a oedd yn dadlau ynglŷn â’r union herwgipio hwn pan oeddem yn siarad am enw’r Bil.
Felly, mae gennym hyn o'n blaenau yn awr heb unrhyw beth tebyg i dystiolaeth wedi’i chraffu o blaid estyn yr etholfraint i wladolion tramor preswyl. Buaswn wedi hoffi clywed y dystiolaeth honno, fel y gwnaethom o blaid pleidleisiau i garcharorion, ond ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i'r Cynulliad hwn—ni cheir cwestiynau ynglŷn â sut i gyrraedd y pleidleiswyr newydd hyn, sut i sicrhau eu bod yn deall eu hawliau newydd, holl fater ffoaduriaid a cheiswyr lloches, fel y’i crybwyllwyd gan Leanne, ni cheir ystyriaeth o gyfnod preswyl priodol, nac archwilio hyn yng nghyd-destun dinasyddiaeth, ac yn sicr ni cheir ystyriaeth o unrhyw gost newydd i'r Comisiwn am y gwaith codi ymwybyddiaeth sydd ei angen i gyrraedd 30,000 amcangyfrifedig o bleidleiswyr newydd. Ni cheir unrhyw ddarpariaeth newydd ar gyfer hyn yn y gyllideb rydych newydd bleidleisio arni.
Ni ddylem fod yn pasio deddfau yn y ffordd hon. Pan euthum i ymgyrchu dros Senedd Cymru 40 mlynedd yn ôl, ni allwn fod wedi rhagweld cyn lleied o barch a fyddai ganddi o bryd i'w gilydd at drylwyredd y broses ddeddfwriaethol. Cwynodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y diffyg craffu a wnaethpwyd ar gynigion y Comisiwn Etholiadol, ond o leiaf fe wnaethpwyd peth gwaith craffu. Dychmygwch beth y byddent yn ei ddweud am hyn?
Ddoe, roeddem yn llenwi'r bylchau yn y ddeddfwriaeth ar isafbris am alcohol, deddf a basiwyd gennym heb dystiolaeth ynglŷn â beth fyddai’n isafbris effeithiol am alcohol. Rydym yn y broses o basio Bil yn gwahardd smacio, heb unrhyw sicrwydd ynglŷn â sut y mae'r heddlu a gwasanaeth erlyn y goron yn bwriadu ymdrin â rhieni. Ac yn awr mae gennym y gwelliannau hyn yn pasio mewn gwagle, gwelliannau a ddaw'n gyfraith heb fod ar sail unrhyw fandad cyhoeddus. Pam ar y ddaear na wnaethoch chi fynd yr holl ffordd a chyflwyno gwelliannau ar Aelodau ychwanegol neu'r system bleidleisio?
Rwyf am wybod ateb i hyn: pam nawr? Beth yw'r brys? Beth yw'r fantais ac i bwy? Nid yw'r Bil hwn yn creu etholfraint gyffredin ar gyfer etholiadau Cymru. Mae'r gwelliannau hyn yn rhagdybio y bydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyflwyno hawliau cyfatebol mewn etholiadau llywodraeth leol ar ryw adeg. Ac o leiaf mae'r gobaith bach hwnnw yn llygad y Llywodraeth wedi arwain at rywfaint o waith rhagarweiniol a bydd yn ysgogi ymgynghori a chraffu llawn. Fe wneir gwaith craffu llawn ar y syniad o wladolion tramor preswyl yn pleidleisio mewn etholiadau lleol a threfol, fel y bydd wedi’i wneud mewn sawl gwlad arall sydd wedi caniatáu hyn. Ond wrth greu hawl i bleidleisio mewn etholiadau i ddeddfwrfa genedlaethol, mae rhywbeth sy’n anghyffredin yn fyd-eang yn digwydd drwy benderfyniad ymlaen llaw i ddefnyddio'r Bil at y diben hwnnw.
Mae'r Bil hwn yn ffordd newydd a chyffrous o ddeddfu, ond mae arnaf ofn ei fod bellach yn siom enbyd. Bydd yn cymryd llawer yn awr i fy mherswadio o rinweddau Comisiwn yn cyflwyno Biliau yn y dyfodol. Ac i rywun sydd o ddifrif yn teimlo’r fraint o fod yn seneddwr, mae hynny’n fy nhristáu’n ddirfawr.
A gaf fi alw ar y Cwnsler Cyffredinol?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gwelliannau David Melding yn delio â'r darpar hawliau pleidleisio a darpar ymgeisyddiaeth ac aelodaeth y Senedd gan ddinasyddion tramor cymwys.
Ac rwy'n credu, wrth ymdrin â'r gwelliannau, fy mod am ystyried sut ein bod yn ein sefyllfa bresennol. Fel y mae sylwadau David a Suzy wedi nodi wrth gwrs, ni wnaeth y Bil fel y'i cyflwynwyd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer yr estyniad, ond yng Nghyfnod 2 mae'r Cynulliad wedi cefnogi'r egwyddor honno, fel y cefnogodd yr egwyddor o ymestyn hawliau ymgeisyddiaeth ac aelodaeth y Senedd.
Mae gwelliannau David yn y grŵp hwn yn amlwg yn ein gwahodd i wrthdroi'r set honno o benderfyniadau Cyfnod 2 trwy ddileu'r holl gyfeiriadau newydd a fewnosodwyd ar y cam hwnnw—byddai gwelliant 5 yn dileu adran 11, sy'n rhoi'r hawliau pleidleisio, a byddai gwelliant 61 yn hepgor y ddarpariaeth yn Atodlen 3 i'r Bil, sydd i bob pwrpas yn caniatáu i ddinasyddion tramor cymwys sefyll etholiad a bod yn Aelodau. Mae'r gwelliannau eraill yn ganlyniadol i hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch am hynny, Gwnsler Cyffredinol. Yng ngwelliant 160 yn y grŵp blaenorol, fe wnaethoch ymrwymo i ganiatáu craffu ar ôl deddfu ar ystod o ffactorau sy'n ymwneud â'r Bil hwn. A wnewch chi ymrwymo yma i gynnwys yr adolygiad ar effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth hon mewn perthynas â gwladolion tramor hefyd?
Diolch i'r Aelod am yr ymyriad. Mae'r darpariaethau craffu eisoes yn cwmpasu'r ddarpariaeth i adrodd ar effeithiolrwydd y darpariaethau hyn mewn perthynas ag estyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor cymwys a hefyd y darpariaethau ymgeisyddiaeth a'r darpariaethau aelodaeth. Felly, o fewn y mecanwaith adolygu ehangach hwnnw roeddwn eisiau cynnwys sbectrwm llawn y newidiadau i'r Bil y gobeithiwn y byddant yn parhau i Gyfnod 4, am y rheswm y mae ei chwestiwn yn ei awgrymu.
Ym marn y Llywodraeth, dylid gwrthod gwelliannau 5 a 61, a'r elfennau canlyniadol. Mae effaith ymarferol adfer y sefyllfa i'r sefyllfa cyn i'r gwelliannau hyn gael eu cyflwyno yn y Bil yn golygu bod yna wahaniaethau na fyddai'r un ohonom, rwy'n credu, yn eu hystyried yn arbennig o synhwyrol. Felly, gall dinesydd o Sweden sy'n byw yng Nghymru fod wedi'i gofrestru i bleidleisio, ond ni all dinesydd o Norwy sy'n byw yma fod wedi'i gofrestru i bleidleisio am fod Norwy'n digwydd bod yn aelod o'r AEE, nid o'r UE. Buaswn yn dadlau nad oes modd amddiffyn y gwahaniaethau hynny yn ein byd global. Ac ar yr adeg hon, dylem fod yn atgoffa pawb fod Cymru’n parhau i fod yn agored i'r byd ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb sydd wedi gwneud eu cartref yma yng Nghymru.
Ac ar y pwynt ynglŷn ag ymgysylltiad y cyhoedd â'r cwestiwn hwn, gofynnodd ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ei hun ar greu Senedd i Gymru a ddylid caniatáu i bawb sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad, ni waeth beth yw eu cenedligrwydd neu eu dinasyddiaeth, ac roedd 66 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno y dylent gael gwneud hynny. Felly, dylai’r prawf a ddylai rhywun allu pleidleisio dros Senedd, sefyll drosti neu fod yn aelod ohoni, ymwneud ag a ydynt yn preswylio'n gyfreithlon yma yng Nghymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rydych chi newydd ddadlau bod y Comisiwn ei hun wedi ymgynghori rhywfaint ar hyn, ac eto fe wnaethoch anwybyddu canlyniad yr ymgynghoriad yn llwyr mewn perthynas â mater enw'r Senedd—neu mae rhai pobl wedi gwneud hynny. Beth fyddech chi'n ei ddweud am anghysondeb dadleuon? Rwy'n derbyn eich bod wedi cefnogi enw dwyieithog ar gyfer y sefydliad hwn, ond yn sicr ni wnaethoch hynny ar gyfer Aelodau'r sefydliad hwn.
Wel, mae'r ymateb i'r ymgynghoriad ar enw'r sefydliad yn amlwg wedi bod yn ffactor yn ein hystyriaethau mewn perthynas â hynny am y rheswm y mae'n ei roi. Felly, rwy'n credu bod ymateb yr ymgynghoriad wedi bod yn gyfraniad pwysig i ddatblygu’r safbwynt mewn perthynas â hyn ac mewn perthynas ag enw'r sefydliad.
I gloi felly, rwyf am wahodd y Senedd i wrthod y gwelliannau gan David a fyddai’n atal dinasyddion tramor cymwys rhag pleidleisio a sefyll yn etholiadau’r Senedd, a rhag bod yn Aelodau yma.
Mewn ymateb i'r pwyntiau a gododd Leanne Wood yn ei chyfraniad i'r ddadl, bydd gan unigolion y caniatawyd eu cais am loches statws ffoadur a chaniatâd i aros yn y DU a byddant yn gallu cofrestru a phleidleisio. A gellir dweud yr un peth am y rhai sydd wedi cael amddiffyniad dros dro neu amddiffyniad dyngarol, neu fathau eraill o ganiatâd i aros yn y DU. Ac o dan y diffiniad yn y Bil, mae unrhyw gyfnod o ganiatâd i aros yn rhoi hawl i berson gofrestru i bleidleisio.
A gaf fi alw ar y Llywydd?
A gaf fi ofyn—? Mae'n ddrwg gennyf, ni allwn ddeall esboniad y Cwnsler Cyffredinol ar y pwynt olaf hwnnw. Buaswn yn ddiolchgar pe bai—
A ydych yn gofyn am bwynt o esboniad?
Ydw.
Iawn. Pwynt o esboniad, Gwnsler Cyffredinol.
Pan fydd cais am loches wedi'i ganiatáu, a bod caniatâd i aros yn dod gyda hynny, bydd unigolion yn cael cofrestru a phleidleisio. Rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi’r esboniad.
Felly mae estyn—. Mae'n ddrwg gennyf—[Torri ar draws.] Mae hwn yn bwynt pwysig, ac mae'n adlewyrchu peth o'r hyn a glywsom y prynhawn yma. Felly, mae'r etholfraint yn cael ei hymestyn yn llawer ehangach nag y sylweddolodd rhai ohonom efallai pan wnaethom bleidleisio gyntaf ar y materion hyn.
Wel, yr un yw'r diffiniad o 'ddinesydd tramor cymwys' a ddefnyddir yn y Bil â’r hyn ddefnyddir mewn cyfraith fewnfudo yn gyffredinol, ac mae'n clymu'r hawl i bleidleisio wrth ganiatâd i aros, neu beidio â bod angen caniatâd i aros. A cheir rhai enghreifftiau sy'n is-setiau o hynny, sef yr enghreifftiau rwyf newydd eu rhoi. Ond y prawf yw p'un a yw rhywun wedi cael caniatâd i aros neu nad oes angen caniatâd arnynt i aros, ac mae'r diffiniad yn y Bil yn adlewyrchu'r prawf hwnnw.
O'r gorau. Diolch. Galwaf ar y Llywydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae memorandwm esboniadol y Bil yma yn nodi rhesymeg Comisiwn y Cynulliad wrth ddewis yn fwriadol i beidio â chynnwys etholfreinio gwladolion tramor yn y Bil wrth ei gyflwyno. Penderfynodd Comisiwn y Cynulliad nad oedd consensws gwleidyddol trawsbleidiol clir ar y mater yma oherwydd y dadleuon dyrys ar bob ochr yn ei gylch. Yn absenoldeb consensws o'r fath, nid oedd y Comisiwn o'r farn ei bod yn briodol i'r Comisiwn wneud newidiadau i'r gyfraith yn yr etholfraint bresennol i gynnwys gwladolion tramor yn y Mesur yma. Fodd bynnag, dwi eisiau cynnig ychydig o sylwadau ar gyd-destun y pwnc yma i Aelodau eu hystyried cyn pleidleisio'r prynhawn yma.
Yn gyntaf, mae'n bwysig atgoffa'n hunain o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a wnaeth nodi yn ei adroddiad Cyfnod 1 y byddai ymestyn hawliau pleidleisio i wladolion tramor yn cynrychioli newid sylweddol i'r etholfraint etholiadol. Roedd y pwyllgor o'r farn y dylid cynnwys darpariaethau o'r natur hon mewn Bil wrth ei gyflwyno, yn hytrach na diwygio'r Bil Senedd ac etholiadau'n hwyrach yn y broses ddeddfu. Roedd y pwyntiau yma wrth wraidd yr hyn roedd David Melding yn ei gynnig fel sylwadau. Ac fel atgoffodd David Melding fi yn benodol, fel y Llywydd yn cyflwyno'r Mesur yma, bydd angen mwyafrif o ddwy ran o dair o'r Aelodau i bleidleisio o blaid y Bil yma yng Nghyfnod 4 er mwyn iddo gael ei basio. Felly, mae cynnal consensws trawsbleidiol yn bwysig i lwyddiant y ddeddfwriaeth yma yn ei chyfanrwydd, ac mae yn fy mhryderu i os bydd un agwedd yn unig yn peryglu y mwyafrif sydd yn angenrheidiol ar gyfer Cyfnod 4.
Ar y llaw arall, mae'n bwysig hefyd, fel y gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ddweud a sôn, bydd Aelodau yn cofio bod 66 y cant o ymatebwyr i ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad wedi cefnogi datganiad y dylai holl drigolion Cymru fedru pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad, waeth beth yw eu cenedligrwydd nhw. Wrth gwrs, rydym ni'n ymwybodol bod yr ymgynghoriad hynny hefyd wedi nodi manteision gweinyddol drwy gysoni etholfraint y Cynulliad ac etholfraint llywodraeth leol. Rydym ni'n ymwybodol o'r newid sydd i'w gyflwyno gan y Llywodraeth maes o law yn y maes yna.
Byddai gwelliannau 61 i 63 David Melding hefyd yn anghymwyso dinasyddion tramor cymwys rhag sefyll i'w hethol i'r Cynulliad, gan ddileu darpariaethau a fewnosodwyd yn y Bil yng Nghyfnod 2. Unwaith eto, nid yw hyn yn fater y mae gan Gomisiwn y Cynulliad safbwynt arno, ond nid ymgynghorodd y Comisiwn ar y mater yma o gwbl, felly ni chyflwynwyd hyn yn y Bil yn wreiddiol. Wedi dweud hynny, gall rhai Aelodau ystyried y byddai galluogi dinasyddion tramor cymwys i sefyll yn gyson â'r egwyddor sy'n sail i'r cynigion polisi ar anghymwyso sydd wedi eu cynnwys yn y Bil, sef caniatáu i gynifer â phosibl o bobl i sefyll i'w hethol i'r Cynulliad.
Nid fi fel yr Aelod yn cyflwyno'r Mesur yma sydd biau'r polisi yma, nac ychwaith fel nododd Suzy Davies yn glir iawn, nid polisi Comisiwn y Cynulliad yw'r agwedd yma ar y Bil. Ond y Cynulliad cyfan fydd biau'r Bil yma ar ddiwedd y pleidleisio heddiw, ac mae'n bwysig i gadw hynny mewn cof wrth i ni symud at Gyfnod 4.
Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i ymateb i'r ddadl?
Diolch i chi, Lywydd. Mae'r materion hyn wedi'u gwyntyllu'n llawn bellach, ond erys un ffaith: nid yw'r newid pwysig hwn yn yr etholfraint wedi'i graffu'n llawn. Mewn gwirionedd, ni wnaethpwyd unrhyw graffu deddfwriaethol sylfaenol ar y camau priodol, pan all pwyllgorau edrych ar yr egwyddor, galw tystion, gofyn am esboniad ynglŷn â sut y gellir cymhwyso'r newidiadau hyn yn ymarferol. Mae pob math o broblemau’n codi ar hyn o bryd wrth symud oddi wrth yr egwyddor o gydnabod rhyw sail o ddinasyddiaeth. Ar y funud, dyna sut rydym yn caniatáu i ddinasyddion Gwyddelig, dinasyddion Ewropeaidd a dinasyddion y Gymanwlad bleidleisio. Nid ydym wedi gallu archwilio unrhyw beth tebyg i ba mor hir y byddai'n rhaid iddynt breswylio, os oes hawl ganddynt i breswylio. Beth sy'n digwydd pan fydd pobl gyfoethog iawn sydd wedi ymgartrefu yma, gan ddod â symiau mawr o arian i mewn, eisiau ymgyrchu wedyn a sefyll fel ymgeiswyr. Nawr, mae pob math o bethau’n digwydd yn y byd sy'n anodd eu rhagweld. A oes gan bobl sydd wedi cadw dinasyddiaeth gwlad arall hawl i bleidleisio yn yr etholiadau ar lefel gyfatebol yn y wlad honno tra’u bod hefyd yn pleidleisio yn y wlad hon? Fe wnaethom ddileu pleidleisio dwbl mewn llywodraeth leol yng nghanol y 1940au, rwy’n meddwl, os cofiaf yn iawn. Nawr, mae'r rhain yn faterion sylfaenol. Efallai na fyddant yn ddigon sylweddol i atal cynnydd ar y mater hwn. Hynny yw, nid wyf yn gwybod yr atebion i'r cwestiynau rwyf newydd eu gofyn. Ond y broblem yw nad oes neb ohonom wedi cael cyfle i'w gofyn na'u cael wedi'u harchwilio'n briodol. Ac os oeddech chi o ddifrif yn meddwl bod hon yn egwyddor bwysig, byddech yn ei wneud yn eich deddfwriaeth eich hun yng ngolwg Aelodau'r Cynulliad. Nid ydych yn gwneud hynny. Mae hyn yn ddiofal neu'n waeth. Fe ddylech chi wybod yn well.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 5. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais. Agor y bleidlais. A yw pawb sydd eisiau pleidleisio wedi pleidleisio? Nac ydych. [Torri ar draws.] Esgusodwch fi, byddaf yn cau'r bleidlais pan fyddaf yn barod, diolch. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig 17, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.
David Melding, gwelliant 6.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Darren Millar, gwelliant 103.
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 103. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Iawn, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 103.
David Melding, gwelliant 7.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Darren Millar, gwelliant 104. Cynnig?
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 104. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, awn ymlaen i bleidleisio'n electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, un yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd 104.
Darren Millar, 105.
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 105. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, un yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
David Melding, gwelliant 8.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Darren Millar, gwelliant 106.
A gaf fi argymell, Ddirprwy Lywydd, y dylid cymryd 106 i 109 en bloc?
Na chewch, oherwydd rydym wedi bod drwyddo.
Na chaf? Er fy mod yn cynnig. Dim ond ceisio gwneud pethau'n fwy effeithlon.
Na, na. Felly, Darren Millar, gwelliant 106.
Iawn, cynnig.
Cynigiwyd. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 106. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd 106.
Darren Millar, gwelliant 107.
Cynigiwyd.
Cynigiwyd. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 107. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 107.
Darren Millar, gwelliant 108.
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 108. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 108.
Darren Millar, gwelliant 109.
Cynigiwyd.
Os derbynnir gwelliant 109, bydd gwelliannau 9 a 10 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 109. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 109.
David Melding, gwelliant 9.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
David Melding, gwelliant 10.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig.
Darren Millar, gwelliant 110.
Cynigiwyd.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 110. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 110.
Darren Millar, gwelliant 111.
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 111. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 111.
Darren Millar, 112.
Cynigiwyd.
Cynigiwyd. Os derbynnir gwelliant 112, mae gwelliannau 11 a 12 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 112. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 112.
David Melding, gwelliant 11.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig.
David Melding, gwelliant 12.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig.
Darren Millar, gwelliant 113.
Cynigiwyd.
Os derbynnir gwelliant 113, bydd gwelliannau 13, 14 a 15 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 113. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 113.
David Melding, gwelliant 13.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
David Melding, gwelliant 14.
Heb ei gynnig.
Diolch.
David Melding, gwelliant 15.
Heb ei gynnig.
Darren Millar, gwelliant 114.
Ie, rwy'n barod i'w cynnig yr holl ffordd i lawr i 118 a phleidleisio en bloc, pe bai modd.
Na. Darren Millar, gwelliant 114.
Rwy'n cynnig. Rwy'n cynnig.
A ydych chi wedi cynnig gwelliant 114?
Rwyf wedi ei gynnig. Do.
Mae'n ddrwg gennyf.
Rwy'n mynnu cynnig pob un. Er mwyn i mi gael rhybuddio pawb.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 114. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig ar welliant 114. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 114.
Darren Millar, gwelliant 115.
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 115. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Darren Millar, gwelliant 116.
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 116. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 116.
Darren Millar, gwelliant 117.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 117. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 117.
Darren Millar, 118.
Rwy'n cynnig.
Os derbynnir gwelliant 118, mae gwelliant 16 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 118. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 118.
David Melding, gwelliant 16.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Darren Millar, gwelliant 119.
Rwy'n cynnig.
Os derbynnir gwelliant 119, bydd gwelliant 86 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 119. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 119.
Lywydd, gwelliant 86.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 86. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Derbynnir gwelliant 86 felly.
David Melding, gwelliant 17.
Heb ei gynnig.
Diolch.
Darren Millar, gwelliant 120.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 120. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 120.
David Melding, gwelliant 18.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Darren Millar, gwelliant 121.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 121. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 121.
David Melding, gwelliant 19.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Darren Millar, gwelliant 122.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 122. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 122.
Carwyn Jones, gwelliant 129.
Yn ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 129. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 45, wyth yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 129.
Rwy'n bwriadu cymryd egwyl o 10 munud yn awr. Cenir y gloch bum munud cyn hynny, felly os gallwch fod yn ôl yn y Siambr erbyn chwarter wedi. Diolch.