3. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

– Senedd Cymru am 3:06 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:06, 11 Chwefror 2020

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:07, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) i'r Senedd. Mae hwn yn Fil pwysig, ac yn Fil anarferol yn yr ystyr y bydd yn diwygio Deddf gan y Senedd, sef Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, na ddaeth eto i rym. Fe fydd gennyf i ragor i'w ddweud ynglŷn â hynny mewn ychydig, ond yn gyntaf, fe hoffwn i gymryd ychydig funudau i egluro'r hyn y mae'r Bil hwn yn ceisio ei gyflawni, a sut y bydd yn newid y berthynas rhwng landlordiaid a thenantiaid, neu 'ddeiliaid contract' fel y cânt eu disgrifio yn Neddf 2016.

Fe fydd y Bil hwn yn diwygio Deddf 2016 i roi mwy o sicrwydd deiliadaeth i ddeiliaid contract sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n byw yn y sector rhentu preifat ac a fydd, pan ddaw darpariaethau Ddeddf 2016 i rym, yn gwneud hynny trwy gontractau meddiannaeth safonol gyda'u landlord. Y contractau safonol hyn fydd y math o gontract rhagosodedig yn y sector, gan ddisodli tenantiaethau byrddaliol sicr a wnaed o dan Ddeddf Tai 1988.

Fe fydd y Bil yn golygu mwy o sicrwydd meddiannaeth o dan gontract safonol cyfnodol yn y ffyrdd canlynol: fe fydd yn ymestyn y cyfnod rhybudd gofynnol ar gyfer hysbysiad gan landlord a roddir o dan adran 173 o Ddeddf 2016, sy'n debyg i adran 21 y Ddeddf Tai 1988, o ddau fis i chwe mis; fe fydd yn cyfyngu ar roi hysbysiad o'r fath tan o leiaf chwe mis ar ôl dyddiad y feddiannaeth ar y contract—ar hyn o bryd mae Deddf 2016 yn nodi hyn yn bedwar mis. Ynghyd â'r cyfnod rhybudd estynedig, fe fydd hyn yn dyblu, o chwe mis i flwyddyn, yr isafswm cyfnod meddiannaeth ar gyfer rhywun nad yw'n torri ei gontract.

Yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil yn atal landlord rhag cyflwyno hysbysiad newydd o dan adran 173 tan o leiaf chwe mis wedi i'r hysbysiad blaenorol yn ôl adran 173 ddod i ben neu gael ei dynnu'n ôl. Fe wneir hyn ar gyfer sicrhau nad yw landlordiaid yn cael eu temtio i gyhoeddi sawl hysbysiad adran 173 'rhag ofn', a fyddai'n niweidiol i ymdeimlad deiliad y contract o ddiogelwch a sicrwydd. Serch hynny, i gydnabod y ffaith bod landlordiaid, ar brydiau, yn gwneud camgymeriadau technegol wrth gyflwyno hysbysiadau, mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi landlord i dynnu hysbysiad yn ôl a'i ailgyhoeddi cyn pen 14 diwrnod.

Fe fydd y Bil yn gwneud nifer o newidiadau hefyd i'r ffordd y mae contractau safonol cyfnod penodol yn gweithio fel na chaiff landlordiaid eu temtio i ddefnyddio contractau cyfnod penodol fel ffordd o osgoi'r diogelwch ychwanegol a gaiff ei ddarparu o dan gontractau safonol cyfnodol. Fe fydd yn dileu'r gallu a fyddai gan landlord fel arall i roi hysbysiad yn ystod contract safonol cyfnod penodol gan ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract adael ar ddiwedd y cyfnod penodol. Yn hytrach na hynny, fe fydd yn ofynnol i landlord gyflwyno hysbysiad adran 173 i derfynu'r contract safonol cyfnodol a fydd yn codi'n awtomatig ar ddiwedd y cyfnod penodol. Fe fyddai'r hysbysiad adran 173 hwnnw, wrth gwrs, yn ddarostyngedig i'r cyfnod rhybudd estynedig o chwe mis, heb unrhyw ystyriaeth i hyd y cyfnod gwreiddiol yn y tymor penodedig.

Yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil yn atal cynnwys cymal terfynu gan landlord mewn contractau safonol cyfnod penodol o lai na 24 mis, ac yn atal gweithrediad unrhyw gymal terfynu cyn mis 18 o gontract cyfnod penodol. Unwaith eto, fe fydd hyn yn amodol ar gyfnod rhybudd o chwe mis.

I sicrhau nad oes yna unrhyw fylchau y gallai landlordiaid diegwyddor geisio manteisio arnyn nhw, fe fyddwn hefyd yn dileu'r trefniant o dan Ddeddf 2016, sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i landlord geisio meddiant os na fydd deiliad contract yn cadarnhau, o fewn dau fis o'i hysbysu, ei fod yn fodlon ag amrywiad a wnaethpwyd i amod yn ei gontract. Yn ogystal â hynny, defnyddir pŵer i wneud rheoliadau i gyfyngu ar y defnydd o amod, sy'n caniatáu i ddeiliad y contract gael ei wahardd o'r eiddo am gyfnodau penodol, er enghraifft, i gontractau ar gyfer llety myfyrwyr a osodir gan sefydliadau addysg uwch.

Ac yn olaf, mae'r Bil yn gwneud nifer o ddiwygiadau amrywiol i Ddeddf 2016 hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys dileu'r elfen oddrychol yn y prawf sy'n pennu a yw addasiad i amod sylfaenol mewn contract yn gwella sefyllfa deiliad y contract. Fe wneir hyn i atal landlordiaid diegwyddor rhag ceisio tanseilio sicrwydd meddiannaeth drwy roi pwysau ar ddeiliaid contractau i gytuno y byddai cyfnod rhybudd o lai na chwe mis, er enghraifft, er eu budd nhw.

Mae'r Bil yn cynnig rhyddhad hefyd o ran mathau arbennig o gontractau penodol iawn, fel contractau safonol ymddygiad gwaharddedig, deiliadaeth gwasanaeth neu lety â chymorth, lle derbynnir y ceir cyfnodau byrrach o rybudd ac mae angen mwy o sicrwydd ynghylch dyddiadau dod â chontractau i ben. Caiff y rhain eu rheoli'n gaeth iawn yn y Bil i atal unrhyw gamddefnydd posibl, gan alluogi landlordiaid cymdeithasol, yn ogystal â chyflogwyr sy'n cyflawni swyddogaeth landlord o ran rhai o'u gweithwyr nhw, i gael y sicrwydd sydd ei angen arnynt mewn amgylchiadau arbennig.

Gwnes fy natganiad blaenorol i'r Aelodau ynglŷn â'r Bil hwn yn ôl ym mis Medi, pan roddais grynodeb byr o'n cynigion ni fel yr oedden nhw'r adeg honno a'r adborth cychwynnol o'r ymarfer ymgynghori a ddaeth i ben yn ddiweddar. Fe wyddoch chi o'r datganiad a gyhoeddais i fis diwethaf fod yr ymateb terfynol i'r ymgynghoriad wedi cael ei gyhoeddi ers hynny, ac ni chafwyd cytundeb cyffredinol i'r holl newidiadau yr ydym yn ceisio eu gwneud. Mae hynny i'w ddisgwyl. Ond nid yw'r Llywodraeth hon yn ymddiheuro am gyflwyno deddfwriaeth a fydd, fel rhan o'n rhaglen ehangach o gefnogi sector proffesiynol a reoleiddir yn dda ac sy'n cynnig cartrefi o ansawdd uchel i'r rhai sy'n dymuno rhentu, yn creu amodau gwell o ran diogelwch a sicrwydd i'r nifer gynyddol o'n dinasyddion ni sy'n ddibynnol ar y sector rhentu preifat am eu cartrefi.

Yn gynharach, fe soniais fod y Bil hwn yn anarferol am ei fod yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 na ddaeth eto i rym. Mae'r rhesymau am yr oedi wrth weithredu Deddf 2016 yn gymhleth. Ond rwy'n hyderus erbyn hyn fod gennym y sicrwydd sydd ei angen arnom gan Lywodraeth y DU y bydd y seilwaith angenrheidiol ar waith i'n galluogi i roi'r trefniadau newydd ar waith cyn diwedd y tymor Seneddol hwn. Fe fydd Deddf 2016, pan gaiff ei rhoi ar waith, yn dod â nifer o fuddion ehangach sylweddol i'r rhai sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru. Fe ysgrifennais at bob Aelod ym mis Hydref y llynedd i amlinellu'r manteision hyn, ac rwyf wedi ailanfon y llythyr hwnnw gan ei fod yn rhoi mwy o fanylion nag y mae amser yn ei ganiatáu nawr.

Fe fydd y Bil hwn, os caiff ei basio, yn ychwanegu budd sylweddol arall drwy sicrhau na ellir cyflwyno hysbysiad adennill meddiant, pan nad oes unrhyw achos o dorri contract, am y chwe mis cyntaf o feddiannaeth, a phan geisir meddiant, gan roi chwe mis o hysbysiad i ddeiliad y contract. Fe fydd hyn yn rhoi amser gwerthfawr i unigolion a theuluoedd sy'n wynebu meddiant o dan adran 173, a'r sefydliadau a'r asiantaethau sy'n eu cefnogi nhw, i ddod o hyd i gartref newydd sy'n addas iddyn nhw a gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo'n ddidrafferth i'w cartref newydd.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn modd adeiladol gyda chi a'n holl randdeiliaid ni yn ystod y misoedd nesaf, wrth i'r Bil hwn wneud ei ffordd drwy'r broses graffu. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:13, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Ni wn ai hwn yw'r tro cyntaf; mae fwy na thebyg wedi digwydd mewn deddfwrfeydd eraill, ond nid sefyllfa arferol yw cael Bil sy'n diwygio Deddf nad yw wedi cychwyn eto, er ei bod dros dair blwydd oed—nid wyf am ei eirio'n gryfach na hynny. Yn wir, rydym yn clywed nawr na chaiff Deddf 2016 ei chychwyn tan ddiwedd y tymor Seneddol hwn, felly fe fydd hynny'r nesaf peth i bedair blynedd a hanner ar ôl ei phasio.

Rwy'n credu bod y Bil diwygio, beth bynnag, yn adlewyrchu newid yn Lloegr i roi terfyn ar droi allan heb fai. Serch hynny, Dirprwy Lywydd, nid yw Llywodraeth Cymru yn mynd mor bell â'r cynigion yn Lloegr gan y bydd adran 173 yn parhau i fod yn weithredol gydag amseroedd rhybudd hwy a chyfyngiadau eraill. Felly, rwy'n credu bod angen inni esbonio'r rhesymau am y gwahaniaeth. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu diddymu adran 21 Deddf Tai 1988, sydd yn ei hanfod yn cyfateb i'n hadran 173 ni, ac mae newydd ailddatgan ym mis Rhagfyr y bydd yn mynd ati i wneud hyn. Felly, nid yw'r newid yn y weinyddiaeth Geidwadol wedi gwyro oddi wrth y diben deddfwriaethol hwnnw. Wedi dweud hynny—ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi esboniad clir ynghylch pam rydym yn ystyried y cwestiwn hwn mewn ffordd ychydig yn fwy cwmpasog—fe fyddwn ni'n cefnogi'r cyfeiriad cyffredinol. Credwn fod angen cryfhau'r sector tai rhent preifat i roi sicrwydd a hyder i genhedlaeth newydd o denantiaid. Wedi dweud hynny, mae angen gwarchod hawliau cyfreithlon landlordiaid hefyd. Mae angen system deg a chytbwys arnom ni, fel bod gennym gyflenwad effeithiol o eiddo preifat ar rent.

Mae cyfyngu neu ddiddymu adran 173 yn ei gwneud yn ofynnol i adran 8 fod yn gadarn ac yn effeithiol. Mae caniatáu dadfeddiannu am resymau arbennig yn hanfodol ar gyfer sector rhentu preifat iach. Ar hyn o bryd, mae costau—costau llys yn benodol—yn broblem, yn ogystal â'r amser y mae'n ei gymryd i gyflwyno hysbysiad adran 8, ac fe godwyd cwestiynau dilys eraill, er enghraifft, gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, gan gynnwys a ddylai adran 8 gael ei hymestyn pan fydd angen gwneud hynny. Er enghraifft, nid yw ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn rheswm dros ddefnyddio adran 8 ar hyn o bryd.

A hefyd—a'm sylw olaf i yw hwn—mae gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl bryderon arbennig ynghylch sut y bydd y farchnad rhentu i fyfyrwyr yn gweithio o dan y diwygiadau a gynigir. Gwn, yn amlwg, y bydd cyfle i ni fynd trwy'r rhain yn ystod y Cam Pwyllgor, ac fe fyddaf i'n sicr o wthio'r eitemau hyn yn ddyfal. Felly rwy'n gobeithio y cawn ni ychydig mwy o oleuni'r prynhawn yma. Ond pan fydd y Bil yn dechrau ar ei waith craffu deddfwriaethol, fe fyddwn ni'n ceisio gwella'r Bil hwn, oherwydd credwn ei bod hi'n bryd cael y diwygiadau hyn.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:17, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i chi am hynny. Rwy'n credu ein bod ni'n lled gytûn; ond mae'n ymwneud â'r ffordd orau o fynd ati. Felly, rydym wedi tueddu i sgwrsio am ddileu troi allan heb fai. Ond mewn gwirionedd, yr unig beth a wnaeth yr holl ddeddfwrfeydd sydd wedi dileu troi allan heb fai oedd disodli cyfres gyfan o drefniadau lle gellir troi tenant allan heb fod yna fai arno ef. Felly, er enghraifft, mae 18 o resymau ar wahân ar gyfer gwneud hyn yn yr Alban. Nid yw'n glir eto beth fydd yn cyfateb i hynny yn Lloegr. Ond, er enghraifft, os oes gennych chi landlord sy'n gofyn am feddiannu eiddo oherwydd fel arall fe fyddai ef ei hun yn ddigartref, yna, yn yr Alban, byddai'n ofynnol iddo fynd trwy broses o brofi ei fod naill ai'n mynd i werthu'r tŷ neu fod ei angen arno ef ei hun, ac yn y blaen. Bu hyn yn gostus ac yn eithaf anodd ei orfodi. Nid wyf yn hollol glir eto i ba gyfeiriad y mae Lloegr yn mynd gyda hynny, ond dychmygwn ei fod yn rhywbeth tebyg i hynny.

Yng Nghymru, mae gennym nifer fawr iawn o landlordiaid sector preifat, sy'n landlordiaid da a rhagorol i gael perthynas gyda nhw, ac maen nhw'n berchen ar un tŷ, oherwydd, er enghraifft, mae pâr wedi dod at ei gilydd ac roedd ganddyn nhw ddau dŷ ond bellach maent yn byw yn un ohonyn nhw, ac os yw'r berthynas honno'n chwalu, mae'n ddigon posibl y bydd angen y tŷ hwnnw'n ôl ar y pâr. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ceisio cael cydbwysedd rhwng anghenion landlord yn yr amgylchiadau hynny ac anghenion y tenantiaid i allu trefnu eu bywydau a chael rhywle arall iddyn nhw fyw mewn amgylchiadau rhesymol.

Felly, mae'n rhaid cadw cydbwysedd rhwng y rhain i gyd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r Pwyllgor i weithio drwy'r hyn y gallai'r cydbwysedd ei olygu. Credwn ein bod ni wedi cael y cydbwysedd iawn o ran ymestyn y cyfnod rhybudd, fel bod blwyddyn gennych chi, yn y cyfnod dechreuol, ond mewn unrhyw amgylchiad arall mae gennych chwe mis i gael rywle arall i chi eich hun a'ch teulu fynd iddo, ac, yn y cyfamser, mae'n debyg y gall y landlord wneud trefniadau eraill ar gyfer y cyfnod hwnnw er mwyn cadw'r tŷ.

Mewn amgylchiadau mewn awdurdodaethau eraill, lle mae'r landlord, er enghraifft, yn dweud bod angen iddo werthu—yn hytrach na threulio amser nawr, fe all pob un ohonom feddwl am amgylchiadau lle gallai landlord teg ddymuno gwerthu a'r gwerthiant yn syrthio trwyddo, neu fe allai nifer fawr o bethau eraill ddigwydd. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw ceisio rhoi rhywfaint o sicrwydd ar y ddwy ochr a chael cydbwysedd da rhwng hawliau'r tenant a hawliau'r landlord.

Ac rwyf wedi nodi heddiw, Dirprwy Lywydd, yr hyn y mae Deddf 2016 yn ei wneud o ran sicrwydd deiliadaeth hefyd, oherwydd rwy'n credu ei bod yn wir—. Gan nad yw'r Ddeddf wedi dod i rym, mae'n bosibl ystyried yr estyniad hwn i'r cyfnod rhybudd o ran Deddf Tai 1998 ei hun, yn hytrach nag o ran ein Deddf ni, a fyddai'n newid y dirwedd yn sylfaenol yng Nghymru beth bynnag.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:20, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn croesawu'r ddeddfwriaeth hon fel cam i'r cyfeiriad cywir. Am y rhan fwyaf o'r 25 mlynedd diwethaf, mae'r sector rhentu preifat wedi rhoi cymaint o bŵer i landlordiaid ac wedi gwneud y sector yn rhwydd i rai pobl elwa ar ddefnyddio dulliau diegwyddor, fel y dywedodd y Gweinidog.

Rwy'n credu ei bod yn werth nodi, ac fe gafodd hyn ei grybwyll eisoes, mewn sector lle mae'r cydbwysedd wedi bod cymaint o blaid un ochr, yn anochel fe gewch chi bobl sy'n awyddus i gadw pethau fel ag y maent. Yng Nghymru, rwy'n credu bod o leiaf ddau sefydliad proffesiynol wedi talu staff materion cyhoeddus i gynrychioli landlordiaid. Nawr, nid oes dim o gwbl o'i le ar hynny, ond mae hynny i'w gymharu, unwaith eto, rwy'n credu, ag un unigolyn yn unig yn cynrychioli tenantiaid yn y sector preifat, ac mae'n ymddangos ei bod yn gwneud hynny yn ei hamser sbâr.

Fe fydd yna rai sy'n nodi'r ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog yn ei ymgyrch ef ar gyfer yr arweinyddiaeth i roi terfyn ar ddefnyddio troi allan heb fai, sydd, fel y dywedwyd, yn wahanol i'r cynnig sydd gennym ni heddiw. Efallai y bydd rhai yn tybio a yw'r genhedlaeth rhent yn dal i wynebu gwrthwynebiad wrth wneud y sector yn decach.

Rwyf wedi gwrando ar yr hyn oedd gan y Gweinidog i'w ddweud, a gallaf ragweld rhai o'r rhesymau pam nad yw'r hyn sydd gennym yma'n golygu diwedd ar droi allan heb fai, dim ond newid yn unig yn y cyfnod rhybudd. Er enghraifft, mae'n ddigon teg y gallai fod gan landlordiaid fecanwaith ar gyfer gallu adfeddiannu eu heiddo fel y gallant adael y sector, ac mae'n well bod tenantiaid yn gallu symud ymlaen heb fod unrhyw amheuaeth ohonynt yn gwneud rhywbeth o'i le. Ond rwy'n pryderu nad yw chwe mis yn mynd i fod yn ddigon i allu diogelu rhai o'r tenantiaid mwyaf agored i niwed—y rhai sy'n hawlio budd-daliadau, a'r rhai sydd â phlant ifanc iawn lle na fyddai symud tŷ'n aml yn gwneud lles i'w datblygiad nhw. Felly, rwy'n edrych ymlaen at graffu ar y cynlluniau a'r terfyn amser hwnnw, a gweld a oes unrhyw le i symud yn hyn o beth.

Tybed hefyd a yw'r Gweinidog wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i rai mecanweithiau polisi y gellid eu defnyddio i ganiatáu i landlordiaid adael y farchnad heb roi'r bobl hyn sy'n agored i niwed mewn perygl. Yn gyntaf, fe fyddwn i'n gofyn, a fyddech chi'n ystyried sefydlu cronfa gyfalaf i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i gaffael cartrefi sydd yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd—cronfa, wrth gwrs, a allai ddatblygu i fod yn hunangynhaliol—a sicrhau bod y tenantiaid presennol yn gallu symud yn syml i'r sector cymdeithasol? Wedi'r cyfan, bydd llawer o deuluoedd ar y rhestrau aros eisoes.

Yn ail, a fyddech chi'n ystyried sefydlu'r hyn y gallem ni ei alw'n hawl i brynu i denantiaid yn y sector preifat? Rwy'n pwysleisio 'yn y sector preifat'. O ran hyn, rwy'n golygu rhoi'r hawl i denantiaid sydd wedi bod yn eu cartrefi am gyfnod penodol gael y cynnig cyntaf pan fydd y landlord yn dymuno gwerthu, a sefydlu cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'r unigolyn hwnnw i ddringo'r ysgol fel ffordd o helpu prynwr am y tro cyntaf, gyda'r rhybuddion amlwg ynglŷn â meini prawf, wrth gwrs.

Yn olaf, a fyddech chi'n ystyried archwilio ffyrdd y gallai landlord adael y farchnad yn gynharach drwy sefydlu dulliau o werthu'r eiddo'n unig i unigolyn sy'n gwarantu y bydd y denantiaeth yn parhau? Pe gallech chi roi'r rhain ar waith—y mesurau hyn—yna fe fyddwn i'n awgrymu y gallem gynnig mwy na dim ond cyfnod rhybudd o chwe mis, ac y gallem hyd yn oed roi diwedd ar droi allan heb fai yn gyfan gwbl.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:23, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae yna rai materion diddorol yn bodoli yn hyn o beth. Mae'r holl fater o gaffael cartref cymdeithasol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu'r cyngor lleol yn un diddorol ac, yn wir, rydym eisoes yn annog hynny. Fe all cynghorau a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ddefnyddio amrywiaeth o arian grant o Gymru i wneud yr union beth hwnnw.

Yr anhawster sy'n bodoli yw pan nad yw'r cartref dan sylw yn bodloni unrhyw un o'r safonau. Felly, yn amlwg, ni allan nhw dderbyn cartref sector preifat sy'n is na'r safon am fod yr ystafelloedd yn fach iawn, yn rhy llawn, a phob math o resymau eraill. Felly, mae yna rai cyfyngiadau yno, ac fe fyddwn i'n gyndyn iawn o lacio'r nifer o dai cymdeithasol er mwyn hwyluso hynny. Rydym wedi cael rhai sgyrsiau ynglŷn â thai dros dro ac ati, ond mae'n anodd iawn i baratoi'r ffordd honno heb lacio safonau y byddem ni i gyd yn awyddus i'w cadw. Ond, i fod yn glir, fe allai hynny ddigwydd eisoes mewn amgylchiadau lle nad oes yna rwystrau, os yw'r tŷ yn cyrraedd safon tai cymdeithasol.

Mae'r holl fater ynghylch a all landlord werthu tŷ gyda thenant ynddo, wrth gwrs, yn un diddorol. Mater i'r farchnad yw hwnnw. Wrth gwrs, mae rhai landlordiaid yn gwneud hynny, oherwydd os ydyn nhw'n gwerthu ymlaen fel busnes i fuddsoddwr sy'n dymuno ei gadw fel eiddo i fuddsoddi ynddo ac yn dymuno cael yr incwm, yna mae hynny'n digwydd nawr. Yn anffodus, serch hynny, os ydyn nhw'n dymuno ehangu'r ystod o brynwyr i gynnwys pobl a allai fod yn awyddus i fod yn berchen-feddianwyr, yna, yn amlwg, mae cael eiddo gwag yn hanfodol ar gyfer hynny. Ac mae hynny, rwy'n ofni, yn rhan o weithrediad y farchnad a'r hyn sy'n bosibl ei gael neu beidio. Yn anffodus, nid ydym yn rheoli—nid yw'r cyfan wedi ei ddatganoli i ni, felly nid ydym yn rheoli rhai agweddau ar hynny, ond mae'n rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i weithio arno.

Pe bai Cymorth i Brynu yn cael ei ymestyn, yna fe fyddai'r Llywodraeth hon yn siŵr o ystyried a allwn ni ymestyn hynny i gynnwys amgylchiadau lle mae rhywun yn byw mewn cartref eisoes, a allai helpu gyda rhai agweddau ar hynny. Ond, unwaith eto, mae safon y tŷ yn broblem, ac mae llawer o dai yn y sector rhentu preifat, rwy'n ofni, ymhell islaw'r safon ar gyfer tai cymdeithasol.

Y mater arall yw gwarchod y denantiaeth dan yr amgylchiadau hynny, ac, unwaith eto, mae hwnnw'n weithrediad i'r farchnad, rwy'n ofni. Felly, yn fy etholaeth i fy hun, rwy'n ymwybodol iawn o denantiaid sydd wedi cael eu trosglwyddo o landlord i landlord am fod y tai wedi cael eu gwerthu â'r tenantiaid ynddyn nhw, ac mae hynny'n gweithio'n berffaith iawn. Ond, eto i gyd, os oes yna gystadleuaeth am dai i fyfyrwyr ac yn y blaen, yna mae'r tŷ'n cael ei rannu ac fe geir amryw o broblemau gyda'r farchnad.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU—fe ddylwn i fod wedi mynegi hynny wrth ymateb i David Melding hefyd, mewn gwirionedd—o ran rheoleiddio'r hyn a ganiateir i arwerthwyr tai ac asiantau rheoli ei ddweud yn eu pecynnau nhw pan fyddan nhw'n gwerthu a beth yw'r amgylchiadau. Nid yw hynny wedi ei ddatganoli i ni, ond rydym yn gweithio'n effeithiol iawn, mewn gwirionedd, gyda'r DU o ran sut y gallai'r farchnad honno fod o ran rheoleiddio hyn. Felly, rydym yn edrych ar bob un o'r materion hyn ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at archwilio yn y Pwyllgor rai o'r syniadau eraill yr ydych chi wedi eu datblygu.

O ran ei ddileu'n gyfan gwbl, ni all neb wneud hynny oherwydd, yn amlwg, mae gan landlord yr hawl i adfeddiannu ei gartref o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 A1P1, a defnyddio'r jargon. Mae hyn yn ymwneud ag Erthygl 1 o brotocol 1 y Ddeddf Hawliau Dynol: mae gennych yr hawl i feddiannu eich eiddo. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw sicrhau ei fod yn faes chwarae sy'n deg i bawb sy'n gysylltiedig ag ef.  

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:26, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Rwyf i o'r farn mai tai yw un o'r pethau pwysicaf sydd gennym ac rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol bwysig bod y sector tai, boed yn breifat, yn dai'r awdurdodau lleol a landlordiaid tai cymdeithasol eraill a'r sector preifat o safon uchel i gyd.

Mae gan y rhan fwyaf o denantiaid a landlordiaid berthynas dda â'i gilydd. Hynny yw, mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yn gofalu am eu heiddo ac yn trin eu tenantiaid yn dda, ac rwy'n credu, weithiau, pan fyddwn ni'n dechrau cyflwyno deddfwriaeth, ac yn trafod y pethau hyn, ein bod ni'n creu'r argraff ein bod ni o'r farn mai landlordiaid gwael yw'r cyfan ohonynt. Hefyd, mae'r rhan fwyaf o denantiaid yn talu eu rhent yn brydlon, yn edrych ar ôl y tŷ, heb achosi unrhyw broblemau i'r rhai sy'n byw o'u cwmpas nhw, ac mewn llawer man, gan gynnwys rhannau helaeth o'm hetholaeth i, ni fyddech chi'n gwybod pa dai sydd yn nwylo perchen-feddianwyr a pha rai y mae pobl yn eu rhentu'n breifat, ac mae rhai ohonyn nhw'n gwneud hynny am nifer o flynyddoedd. Ac mae rhai o'r ardaloedd mwyaf dymunol—. Os caf fynd i'ch etholaeth chi, Gweinidog, pe byddech yn mynd i'r marina, mae nifer fawr o'r eiddo sydd yno'n cael eu rhentu'n breifat, maen nhw o ansawdd da i gyd, ac nid ydyn nhw'n achosi unrhyw broblemau, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n fwy ymwybodol o hynny na mi.

Yn anffodus, mae yna rai landlordiaid gwael ac mae yna rai tenantiaid gwael. Rwyf wedi siarad â phobl sydd wedi rhentu eu tai nhw allan ac wedi eu cael nhw'n ôl gyda'r drysau mewnol wedi diflannu a llawer o ddinistr. Felly, mae yna denantiaid gwael. Rwyf hefyd wedi gweld pobl sy'n denantiaid yn byw mewn eiddo lle mae modd rhoi eich dwrn yn y bwlch rhwng y wal a ffrâm y ffenestr. Felly, mae gennych chi ddihirod ar y ddwy ochr. Rwy'n credu bod angen cydnabod hynny.

Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod am roi terfyn ar droi allan am resymau dialgar. Rwy'n credu bod hynny wedi bod yn wir bob amser: 'A wnewch chi drwsio fy nhŷ i, os gwelwch chi'n dda?', roedd ofn yr ateb, 'Allan â chi mewn tri mis' yn atal pobl rhag gofyn yn y lle cyntaf.

Fe sylwais nad oeddech wedi sôn am hyn yn eich datganiad, ond, fel y gwyddoch chi, rwy'n gefnogwr brwd iawn o larymau mwg, tystysgrifau trydan a nwy a'r gwiriadau hynny. Hynny yw, maen nhw'n parhau i fod yn y Ddeddf, rwy'n deall. A ydych chi'n mynd i ddweud pa mor aml y bydd yn rhaid eu gwirio nhw ar ôl iddyn nhw gael eu gosod? Oherwydd mae hynny'n rhywbeth y mae llawer o bobl yn pryderu'n fawr yn ei gylch, gan eu bod nhw'n cael eu gwirio unwaith, ond os oes rhywun yn byw yno am naw neu 10 mlynedd, a fydden nhw'n cael eu gwirio eto? A dyna gwestiwn, efallai, y byddai rhai ohonom sy'n berchen-feddianwyr yn ei ofyn i ni ein hunain: 'Pa mor aml ydym ni'n gwirio ein larymau mwg, yn sicrhau bod ein nwy yn ddiogel ac yn gwirio diogelwch trydanol?' Felly, rwy'n credu y gallai rhai ohonom ni ddysgu o hynny hefyd, yn sicr.

Y cwestiwn olaf sydd gennyf i yw—. Hynny yw, mae'n amlwg fod yna groeso i fwy o ddiogelwch. Roeddech chi'n sôn am chwe mis lawer gwaith wrth ichi siarad. Nid wyf yn mynd i'w darllen nhw i gyd allan ichi oherwydd ni fyddai'r Dirprwy Lywydd, ymysg eraill, yn caniatáu imi wneud hynny, ond roeddech chi'n crybwyll chwe mis yn aml. Pam ydych chi wedi dewis chwe mis yn hytrach na thri mis neu 12 mis? Rwy'n clywed yr hyn a ddywedasoch am droi allan heb fai, sef bod yn rhaid cael rhesymau pam y gall pobl gael eu troi allan hyd yn oed os nad ydynt ar fai. Ond rwy'n credu bod yr egwyddor gyffredinol o droi allan heb fai yn un y mae llawer ohonom ni'n ei hoffi ac mae'n golygu, pan fydd pobl yn gadael, ei bod yn dangos nad ydyn nhw wedi cael eu troi allan oherwydd hynny. Fe ellir eu troi nhw allan os oes raid i rywun gael byw yn y tŷ neu fod y sawl sy'n berchen ar y tŷ'n mynd yn fethdalwr neu ba reswm bynnag oherwydd problemau ariannol, ond nid wyf yn hollol siŵr pam nad ydych chi'n dymuno cael ar y llyfrau statud ein bod ni'n cefnogi troi allan heb fai.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:30, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod y mwyafrif helaeth o landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru yn bobl berffaith resymol sy'n cael bywyd perffaith resymol mewn trefniant perffaith dda, y naill gyda'r llall. Ac roeddech chi'n sôn am ran o'm hetholaeth i fy hun, ac rydych chi yn llygad eich lle—ychydig iawn o broblemau sydd gennym yr wyf i'n ymwybodol ohonyn nhw gyda'r sector rhentu preifat, mewn tai o ansawdd da, gyda phobl ddymunol yn byw ynddo.

Mae'r Bil hwn yn ymwneud â threfnu'r darpariaethau ar gyfer landlordiaid diegwyddor a thenantiaid twyllodrus. Ac fel rwyf i wedi pwysleisio, os yw eich tenant chi'n camymddwyn, yna nid yw'r Bil hwn yn gwneud dim i ddileu eich hawl chi i droi allan tenant sydd heb dalu ei rent, neu sy'n ymhél ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sy'n difrodi'r eiddo, neu nifer fawr o bethau eraill. Mae'r llwybrau hynny at adfeddiannu yn bodoli o hyd.

O ran y ffordd yr ydych chi'n disgrifio troi allan heb fai, y pwynt yw'r holl bethau hynny—os ydych chi eisiau cael y tŷ yn ôl oherwydd eich bod chi am ei werthu, neu os ydych chi eisiau cael y tŷ yn ôl oherwydd eich bod chi am fyw ynddo, troi allan heb fai yw hynny, oherwydd ni fydd y tenant wedi gwneud unrhyw beth o'i le. Nid yw'r ffaith eich bod chi'n profi eich achos yn tynnu oddi wrth y ffaith na wnaeth y tenant ddim byd o'i le a'i fod yn cael ei droi allan heb fod yna unrhyw fai arno ef. Felly, nid yw'n bosibl i fod heb unrhyw amgylchiad lle nad yw tenant sydd ei hun yn ymddwyn yn berffaith gywir yn gallu cael ei droi allan, oherwydd, mewn gwirionedd, fe fyddai gan y landlord, mewn amgylchiadau lle gallai fod yn ddigartref, er enghraifft, yr hawl i feddiannu ei eiddo ei hun, ac nid wyf i'n credu y byddai unrhyw un ohonom ni'n wir yn gweld honno'n broblem.

A'r broblem yw'r busnes hwn ynglŷn â chadw'r cydbwysedd cywir rhwng y ddau fater. Un tŷ sydd gan y mwyafrif helaeth o landlordiaid yng Nghymru. Wrth gwrs, mae gennym ni lawer o landlordiaid sydd â mwy nag un tŷ, ond un tŷ'n unig sydd gan y mwyafrif helaeth ohonyn nhw. Ac felly mae angen inni wneud yn siŵr bod y sector rhentu preifat yn addas i'r diben, ar gyfer y rhai sy'n dymuno rhentu'r tŷ hwnnw—rydym ni'n awyddus iawn iddyn nhw allu rhoi eu tai ar rent a chael cyfradd resymol o enillion, a gallu fforddio llety o ansawdd da i'r rhai sydd am rentu—ond hefyd, os byddan nhw'n eu cael eu hunain mewn amgylchiadau lle mae angen y tŷ hwnnw arnyn nhw, neu os bydd eu hamgylchiadau nhw'n newid a bod angen arian am y tŷ arnyn nhw, fe allan nhw wneud hynny, ac nid yw'n eu rhwystro  rhag rhoi'r tŷ ar y farchnad, a bod gennym ni gartref gwag arall ar un o'n strydoedd ni, nad oes neb yn ei ddymuno ychwaith. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â'r cydbwysedd o ran sut y cawn ni hynny. Ac yn hytrach na chael amgylchiadau cyfreithiol cymhleth lle mae'n rhaid ichi brofi cyfres benodol o amgylchiadau, y gwyddom eu bod nhw'n achosi problemau gwirioneddol mewn awdurdodaethau eraill o ran lefel y prawf a'r hyn y mae'n rhaid ichi ei wneud, rydym ni o'r farn fod hwn yn gyfaddawd gwell.

Mae'r chwe mis yn ymwneud â'r ffordd y mae Deddf 2016 yn gweithio, fel ei bod yn rhoi 12 mis llawn i rywun o ddechrau ei gontract hyd ddiwedd y contract. Felly, mewn gwirionedd, fe gewch chi 12 mis ar eu hyd. Pan ewch chi dros y 12 mis, dyna pryd fydd y chwe mis yn dechrau. Felly, os ydych chi yno ers dwy flynedd yn barod, er enghraifft, fe fydd gennych chi chwe mis ychwanegol. Felly, mae'r cyfan yn ymwneud â sut mae'r contractau safonol newydd yn Neddf 2016 yn gweithredu mewn gwirionedd.  

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:33, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant ar y pwynt hwn gan fy mod i'n landlord ar un neu ddau o dai ar rent yn y sector preifat.

Felly, diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac rwy'n cytuno â'ch datganiad fod yn rhaid inni roi sicrwydd i ddeiliadaeth. Ond mae'n rhaid i hynny weithio'r ddwy ffordd. Mae'n rhaid i hynny fod yn gytbwys ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd, ar gyfer ateb y galw a'r cyflenwad. Mae'n rhaid cael diogelwch ar gyfer landlordiaid hefyd, ac ychydig iawn o landlordiaid sydd i'w cael na fydden nhw'n annog tenantiaethau hir, oherwydd mae rhent y mis cyntaf yn cael ei lyncu gan yr holl gostau, sy'n cael eu talu gan y landlord nawr. Felly, nid yw'n argoeli'n dda i rywun fod â thenantiaeth o chwe mis. Felly, mae tenantiaethau hir yn cael eu hannog gan landlordiaid.

Ond rwyf i wedi bod yn landlord rhagorol, gan ystyried amgylchiadau personol pobl. Ond hoffwn i ddweud bod y mesurau yr ydych chi wedi eu cymryd yn peryglu dieithrio'r mwyafrif helaeth o landlordiaid sector preifat sy'n gydwybodol a chyfrifol ac yn cydymffurfio â'r gyfraith. Ac fe fydd y mesurau hyn yn digalonni llawer o bobl sy'n ceisio bod yn landlordiaid yn y dyfodol. Maen nhw wedi siarad â mi ac wedi dweud hyn—'Rwyf i wedi penderfynu peidio â rhentu mwyach; rwyf am roi fy eiddo ar werth.' Ac mae hyn yn beth cyffredin iawn, sy'n gorfodi llawer i adael y sector. Felly, a bod yn onest, pe byddai'r mesurau hyn ar waith, ni fyddwn i eisiau bod yn landlord.

Fe ddylai'r ffaith y bydd y Ddeddf rhentu cartrefi, sydd eto i'w gweithredu, a'r ychwanegiadau newydd hyn i'r ddeddfwriaeth, yn digalonni landlordiaid newydd beri pryder difrifol i Lywodraeth Cymru. Felly, heb y sector rhentu preifat, fe fyddai ein hargyfwng ni o ran digartrefedd a thai yn llawer gwaeth. Ac mae eich Llywodraeth chi, Gweinidog, wedi methu'n drychinebus â mynd i'r afael â'r diffyg tai.

Rydych wedi adeiladu llai na 8,000 o gartrefi newydd. Fe fyddai'n rhaid ichi adeiladu 12,000 o dai fforddiadwy newydd dros y 12 mis nesaf i gyrraedd eich nod chi eich hun, sydd eisoes yn drychinebus o annigonol. Felly, i wneud hynny, fe fyddai'n rhaid i chi gyflogi pob adeiladwr tai yn y DU. Felly, heb landlordiaid, fe fyddai digartrefedd yn llawer uwch. Ond yn hytrach nag annog landlordiaid preifat, mae eich Llywodraeth chi'n benderfynol o'i gwneud hi'n amhosibl i landlordiaid preifat sydd ag un neu ddau eiddo allu gweithredu.

Felly, Gweinidog, pan wnaethoch chi ymgynghori ynglŷn â'r cynigion hyn, roedd yna wrthwynebiad enfawr iddyn nhw. Pam wnaethoch chi anwybyddu barn y sector? Roedd perygl hefyd i'ch newidiadau arfaethedig darfu ar y farchnad o ran myfyrwyr a phobl ifanc broffesiynol. Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n bwriadu lliniaru'r amhariad ar y cylch blynyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer y mathau hyn o osodiadau? Methodd eich Bil gwreiddiol chi ag ystyried effaith tenantiaid gwrthgymdeithasol, ac unwaith eto rydych chi wedi methu â rhoi sylw i hyn yn eich cynigion newydd. Er hynny, mae eich datganiad chi'n sôn am gau'r bylchau i landlordiaid diegwyddor. Felly, Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod yna lawer mwy o denantiaid gwael na landlordiaid gwael, ac na fydd pardduo landlordiaid yn gwneud dim i fynd i'r afael â'n prinder tai? Ar wahân i'r effaith negyddol y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei chael ar landlordiaid, pa asesiad a wnaethoch chi o'r effaith a gaiff hyn ar gytundebau rhentu sy'n llai na chwe mis? Ac yn olaf, Gweinidog, rydych chi'n sôn eich bod chi'n gobeithio deddfu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 erbyn diwedd y tymor Seneddol hwn. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym a fydd y Ddeddf yn cael ei chychwyn cyn i'r Bil hwn gael ei basio, neu a fyddwch chi'n aros i'r diwygiadau hyn gael eu gwneud cyn ei chychwyn? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:37, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod Caroline Jones wedi gwrth-ddweud ei hun fwy nag unwaith yn ystod ei haraith. Ar y naill law, mae hi'n dweud wrthym fod landlordiaid yn hoffi tenantiaethau hir, ac ar y llaw arall, mae'n hi dweud wrthym na allan nhw fodoli os nad oes yna denantiaethau sicr o chwe mis. Felly, nid oes modd cael y ddau beth hwn. Y Ddeddf rhentu cartrefi, sydd wedi ei deddfu eisoes—nid oes angen iddi gael ei deddfu, fe gafodd ei deddfu eisoes gan y Senedd hon, mae hi eisoes yn Ddeddf—mae angen ei chychwyn hi. Mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng y ddau beth. Bydd yn cael ei chychwyn erbyn diwedd y tymor Seneddol hwn. Yn amlwg, ni allwn gychwyn unrhyw ddiwygiadau i'r Ddeddf cyn inni gychwyn y Ddeddf, felly fe fyddan nhw'n cychwyn ar yr un pryd. Cafwyd anawsterau gweinyddol a TGCh difrifol wrth gychwyn y Ddeddf, ond mae'n sicr yn Ddeddf.

Mae'r cyfnod sicrwydd deiliadaeth byrraf o 12 mis yng Nghymru yn cael ei roi ar waith gan y Ddeddf honno, y gwelodd y Senedd hon yn dda i'w phasio. Mae hon yn Ddeddf arloesol, ac yn sicr mae'n newid yr amgylchiadau ar gyfer y sector rhentu preifat yng Nghymru. Eto i gyd, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth o gwbl y bydd landlordiaid da yn cael eu drysu gan y Ddeddf—pam ddylai hynny ddigwydd? Fe fyddai unrhyw landlord da ar hyn o bryd yn awyddus i gael sicrwydd deiliadaeth o 12 mis ar gyfer tenant addas—pam fyddai hynny'n newid? Yr unig beth y bydd hyn yn ei wneud yw sicrhau na fydd landlordiaid twyllodrus, sy'n trin eu tenantiaid yn wael iawn, drwy eu rhoi nhw o dan rybudd i ymadael yn barhaus ac yn eu troi nhw allan yn ddialgar, yn gallu gweithredu mwyach o fewn y sector rhentu preifat yng Nghymru.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:38, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu bod eich datganiad chi'n dangos pa mor anodd y mae i denant cyffredin lawn ddeall y gyfraith sy'n llywodraethu ei berthynas â'i landlord. Mae'n eithaf cymhleth. Rwy'n awyddus i sôn am rywbeth y cyfeiriodd Delyth Jewell ato, sef sicrwydd deiliadaeth ar gyfer tenantiaid rhentu preifat. Oherwydd, fel yr ydych chi'n dweud, dim ond un cartref sydd gan y rhan fwyaf o landlordiaid, ac felly os byddan nhw'n mynd i ffwrdd—i gael gwaith neu beth bynnag—maen nhw'n dymuno rhoi eu lle nhw ar rent gan wybod yn iawn y bydden nhw'n cael symud yn ôl i mewn eto pan fyddan nhw'n dychwelyd. Er hynny, mae'r system drethu eisoes yn nodi'r rhai sy'n byw mewn cartref yn lleoliad A, ac yna'n buddsoddi mewn tŷ arall ar gyfer ei roi ar rent. Felly, fe hoffwn i ystyried gyda chi onid oes modd rhoi cyfnod hwy o sicrwydd deiliadaeth na 12 mis i rywun sy'n byw mewn cartref sy'n gyfle i fuddsoddi gan y landlord. Oherwydd yn yr hen ddyddiau, yn yr ail ryfel byd, roedd gan bobl sicrwydd deiliadaeth; pe byddai rhywun eisiau gwerthu'r eiddo hwnnw, roedd yn rhaid iddyn nhw werthu i rywun gyda sicrwydd deiliadaeth yr oedd y perchennog newydd i'w barchu. Rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn yn achos teuluoedd â phlant a fyddai o bosibl yn gorfod symud o gwmpas bob 12 mis, os oes gennych chi landlord sy'n mynd yn gyfan gwbl yn ôl llythyren y gyfraith yn hyn o beth, ac fe fyddai hynny'n amlwg yn amharu'n fawr ar addysg unrhyw blentyn. Felly, tybed a wnewch chi egluro a fydd modd gwahaniaethu rhwng rhywun sy'n rhoi ei unig eiddo ar osod neu rywun sy'n gosod eiddo sydd ganddo fel buddsoddiad.

Yn ail, pwynt arbenigol, sef eich bod chi'n mynd i newid y pwerau rheoleiddio i gyfyngu ar y defnydd o amod fel y gall pobl gael eu gwahardd o eiddo am gyfnodau penodol. Rwy'n credu ein bod ni'n sôn am lety myfyrwyr yn y fan hon, fwy na thebyg. Gwn fod rhai prifysgolion yn defnyddio'r cyfnod rhwng misoedd Mehefin a Medi i ennill rhywfaint o incwm drwy rentu i bobl sy'n mynychu cynadleddau a phethau o'r fath. Felly, tybed na fydd hynny'n bosibl bellach, oherwydd yn amlwg mae'n debygol o gynyddu'r rhent y bydd yn rhaid i'r myfyriwr ei dalu, pe byddai hynny'n digwydd.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:41, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Ar y pwynt hwnnw, dyna'n union pam yr ydym yn newid y rheoliadau. Ar hyn o bryd, nid yw'r rheoliadau'n glir ac, mewn gwirionedd, gall unrhyw landlord wneud hynny am amryw o resymau. Rydym wedi cael cryn dipyn o ymatebion i'r ymgynghoriad yn dweud mai bwlch yw hwnnw mewn gwirionedd. Felly, os oeddech chi'n bwriadu gweithredu troi allan heb fai y tu allan i hynny, gallech chi wahardd y tenant am nifer o gyfnodau amser a'i gwneud hi'n anodd iawn iddo fyw yn unrhyw le. Felly, yr hyn yr ydym yn ei wneud yw dweud y byddem, drwy reoleiddio, yn cyfyngu hynny i rai amgylchiadau—mae myfyrwyr yn enghraifft amlwg. Mewn gwirionedd, mae eiddo eglwysig clwm ac eiddo arall o'r fath a fyddai, mae'n debyg, yn syrthio oddi mewn i hyn, ond rydym yn bwriadu rheoleiddio pa denantiaethau penodol all gael hynny'n digwydd am yr union reswm hwnnw. Mae'n beth cyffredin i brifysgolion gael cynadleddau ac ati yn ystod y toriad hir. Felly, mae'n golygu hwyluso hynny, ond nid y nhw yw'r unig rai. Mae eiddo arall yn perthyn i'r categori hwnnw. Yr hyn nad oes arnom ei eisiau yw rhyw fath o siec wag i alluogi hynny i ddigwydd. Felly, dyna pam yr oeddem yn ystyried rheoleiddio ar gyfer hynny.

O ran y cyfnod byrraf ar gyfer sicrwydd deiliadaeth, mae'n rhoi 12 mis. Mae'n chwech ar hyn o bryd. Felly, mae'n welliant mawr. Mae'n anodd iawn deddfu ar gyfer y math o fuddsoddiad eiddo/eiddo nad yw'n fuddsoddiad yr ydych yn sôn amdano, oherwydd byddai pobl yn—[Anghlywadwy.] Os dywedwn pe byddai gennych ddau dŷ ni fyddech yn ddarostyngedig iddo ond pe byddai gennych bedwar tŷ y byddech yn ddarostyngedig iddo, yna byddai pobl yn gwneud tri chwmni. Felly, mae cyfres gyfan o ddarpariaethau gwrth-osgoi y mae'n rhaid ichi edrych arnynt. Felly, mewn gwirionedd, mae'n anodd iawn gwneud hynny heb gael gormodedd o ddarpariaethau gwrth-osgoi yn digwydd.

Rydym wedi ceisio gwneud pethau'n syml fel y gall pobl ei ddeall a'i wneud yn sicr ac mewn gwirionedd ni fydd y rhan fwyaf o landlordiaid yn gwneud hyn mwyach, oherwydd nid yw'n ffordd o gael gwared ar rywun yn hawdd a chael rhywun i dalu mwy o rent, sef y rheswm mwyaf sylfaenol y mae'n digwydd. Dirprwy Lywydd, yn bersonol mae gennyf lwyth achosion eithaf mawr o bobl sydd wedi cael eu troi allan heb unrhyw fai arnynt eu hunain, ond oherwydd bod tenant a all dalu'n well wedi'i ganfod, a bydd y rheoliadau hyn yn sicr yn atal hynny.  

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:43, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gweinidog.