– Senedd Cymru ar 11 Chwefror 2020.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol y rhaglen lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Ar ddiwedd mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2019 sy'n nodi'r cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at wella llesiant pobl drwy Gymru gyfan. Mae llawer o benderfyniadau'r Llywodraeth yn torri ar draws portffolios Gweinidogion unigol, ac mae'r adroddiad yn adlewyrchu'r sylw penodol rydym wedi'i roi i'r cyfrifoldebau sy'n perthyn i'r Llywodraeth gyfan dros y 12 mis diwethaf. Ac mae'r ymdrech honno, Dirprwy Lywydd, yn ehangach na'r Llywodraeth, oherwydd rydym ni'n gwneud y cynnydd gorau a mwyaf cynaliadwy pan fydd y Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio gyda'i gilydd, gan gydweithredu a chynnwys pobl sy'n deall y problemau ar lawr gwlad, ac integreiddio gwasanaethau i roi'r budd mwyaf posibl i bobl.
Hoffwn edrych yn gyntaf y prynhawn yma ar y materion trawsbynciol hyn. O ran y blynyddoedd cynnar, rydym yn parhau i siapio a gwella bywydau pob plentyn yng Nghymru. Mae dros 36,000 o blant bellach yn defnyddio'r rhaglen Dechrau'n Deg, sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal, gan weithio gyda theuluoedd cyfan i atal problemau rhag gwaethygu, a dod â gwasanaethau at ei gilydd i wella cyfleoedd plant.
Mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth gyfan i wneud yn siŵr bod mwy o gartrefi fforddiadwy o safon ar gael. Rydym yn parhau ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn y tymor hwn, ac mae cynghorau yn adeiladu cartrefi unwaith eto. Ac, fel dŷn ni wedi ei glywed yn y datganiad diwethaf, mae rhai pobl angen cymorth dwys i dorri'r cylch o gysgu tu fas, ac mae saith project newydd yn y rhaglen Tai yn Gyntaf, sydd i'w gweld yn yr adroddiad blynyddol hwn, sy'n gwneud yr union beth hwnnw: torri'r cylch hwnnw a chynnig dyfodol mwy diogel i bobl sydd â hanes o gysgu tu fas yn rheolaidd.
Mae lleihau effeithiau tlodi yn flaenoriaeth i bob Gweinidog, fel sydd yn amlwg yn y gyllideb ddrafft eleni. Rydym wedi cynyddu ein grant datblygu disgyblion i £5 miliwn, wedi ymestyn ein cymorth ar gyfer urddas mislif drwy gyflwyno eitemau mislif yn rhad ac am ddim i bob ysgol yng Nghymru, ac wedi ehangu mynediad at brydiau ysgol am ddim i leihau effeithiau credyd cynhwysol.
Gwaith teg sy'n rhoi boddhad yw'r ffordd orau o hyd i ddod allan o dlodi. Ac mae yn hanfodol i unrhyw genedl ffyniannus. Mae'r prentisiaethau yn cynnig llwybr at gymwysterau ac yn darparu ffordd i bawb hybu eu sgiliau. Rydym ar y trywydd iawn i wireddu ein hymrwymiad ar gyfer 100,000 o brentisiaethau pob oed.
Mae'r Siambr hon wedi dadlau ers tro fod adnabod a thrin materion iechyd meddwl yn fater i fwy na gwasanaethau iechyd yn unig. Yn 2019 a 2020, gwnaethom gynyddu cyllideb iechyd meddwl i £679 miliwn ac rydym yn mynd ag iechyd meddwl ymhell tu hwnt i'r gwasanaethau iechyd—yn y gweithle, trwy ein dull ysgol gyfan, ac mewn strategaethau siarad.
Ym maes gofal cymdeithasol, gwnaethom gynyddu faint o arian y gall pobl ei gadw cyn gorfod talu am ofal preswyl i £50,000, sef y lefel uchaf yn y Deyrnas Unedig, ac fe wnaethom hynny ddwy flynedd yn gynt na'r cynllun gwreiddiol.
Mae Cymru yn arwain y byd mewn cyfraddau ailgylchu, ond mae angen inni wneud mwy, drwy symud tuag at economi fwy cylchol, a chyfrannu cymaint ag y gallwn at ddatgarboneiddio. Yn barod, mae dros hanner ein trydan nawr yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac rydym yn sefydlu sector ynni'r môr i arwain y byd. Mae ein gweithgarwch i hybu ffyrdd cynaliadwy o reoli'r tir yn cyfrannu at adfer bioamrywiaeth ein cenedl, ac at ddiogelu'r asedau amgylcheddol rhagorol yr ydym yn ffodus o'u cael.
Ac, yn olaf, yn y blaenoriaethau hyn i'r Llywodraeth gyfan, rydym yn tynnu popeth yr ydym yn ei wneud at ei gilydd i adfer bioamrywiaeth ledled Cymru, gan hyrwyddo ffermio cynaliadwy, wrth gwrs, ond gwneud yr holl bethau bach hynny hefyd, ar hyd ochrau'r ffyrdd, wrth greu ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a defnyddio tir y gwasanaeth iechyd i adfer rhywogaethau.
Llywydd, caiff yr holl feysydd hanfodol hynny eu hadlewyrchu yn ein cyllideb ac yn y rhaglen ddeddfwriaethol radical, sy'n parhau i greu newidiadau gwirioneddol a phellgyrhaeddol ym mywydau pobl Cymru. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, rydym wedi deddfu ar gyfer isafbris uned am alcohol er mwyn mynd i'r afael â'r risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig â goryfed alcohol, sy'n un o brif achosion marwolaeth a salwch yng Nghymru. Rydym wedi gweithredu Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 i ddiogelu ein stoc o dai cymdeithasol fforddiadwy. Rydym wedi pasio'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), gan roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru a chwblhau taith sydd wedi para bron â bod dros y cyfnod datganoli cyfan; a chefnogodd y Llywodraeth Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 i'r llyfr statud.
Ac rydym wedi gwneud y gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf i baratoi ar gyfer y flwyddyn i ddod, trwy sicrhau bod bysiau yn rhedeg ar gyfer pobl, nid elw; cyflwyno ein Bil cwricwlwm eleni, i sicrhau bod yr hyn a ddysgir yn ein hysgolion mor eithriadol â'r adeiladau a grëwyd trwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; bwrw ymlaen â Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i ehangu'r etholfraint yng Nghymru, i gryfhau pwerau a chyfrifoldebau llywodraeth leol yn y gwaith hanfodol maen nhw'n ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru gyfan. Ddoe ddiwethaf, Llywydd, fe wnaethom gyflwyno'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), sydd â'r nod o roi mwy o sicrwydd i bobl sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n byw yn y sector rhentu preifat, gan ychwanegu at y rhestr o ddeddfwriaeth y mae'r Senedd hon wedi ei phasio yn y maes tai yn ystod y degawd diwethaf.
Gwnaed hyn oll, Llywydd, yng nghyd-destun Brexit, sydd wedi golygu bod ein rhaglen ddeddfwriaethol wedi cynnwys swm digyffelyb o ddeddfwriaeth, gan gynnwys dros 150 o offerynnau statudol yr oedd eu hangen i gywiro'r llyfr statud yn sgil y posibilrwydd y byddai'r DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 29 Mawrth 2019. A gaf i, am eiliad, dalu teyrnged i'r holl aelodau hynny, o'ch staff chi, y rhai sydd wedi gweithio yn Llywodraeth Cymru, ac Aelodau ar lawr y Cynulliad hwn, am bopeth a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf i roi trefn weithredol dda ar y llyfr statud hwnnw?
Yn olaf, Llywydd, mae'r adroddiad blynyddol hwn yn gofnod o addewidion a wnaed ac addewidion a gadwyd. Fe wnaethom ni addo Cymru fwy ffyniannus, a gostyngodd y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru i 3 y cant yn ystod y tri mis hyd at fis Tachwedd 2019—y gyfradd isaf ers dechrau cadw cofnodion. Rydym yn sicrhau bod yr holl waith hwn yn deg ac yn werthfawr, ac rydym wedi ymrwymo i roi ein dull partneriaeth gymdeithasol ar y llyfr statud yn ystod y flwyddyn nesaf. Fe wnaethom ni addo Cymru decach, ac mae ein cronfa triniaethau newydd yn helpu pobl i gael gafael ar y meddyginiaethau angenrheidiol—mae 228 o feddyginiaethau newydd yn y tymor Senedd hwn ar gael yn gyflymach ac ym mhob man ledled Cymru. Rydym wedi cyflwyno ein cynnig gofal plant flwyddyn yn gynharach na'r bwriad, gan ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim—sy'n cyfateb i £135 bob wythnos ym mhocedi rhieni. Ac yn olaf, rydym ni wedi addo Cymru wyrddach. Fel y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatgan argyfwng hinsawdd, rydym wedi cyhoeddi ein cynllun cyflawni ar gyfer carbon isel, 100 o bolisïau a chynigion ar gyfer lleihau ein hallyriadau carbon, rydym ni wedi plannu dros 10 miliwn o goed ers 2014, a bydd ein coedwig genedlaethol yn ategu'r gwaith hwn ac yn gweithredu fel symbol o falchder cenedlaethol.
Am yr holl resymau hyn, Llywydd, rwy'n argymell yr adroddiad blynyddol i lawr y Senedd ac edrychaf ymlaen at y ddadl arno'r prynhawn yma.
Dwi wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Adam Price i gynnig y ddau welliant a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Adam Price.
Diolch, Llywydd. Piwis, wrth gwrs, fyddai peidio ag adnabod llwyddiannau'r Llywodraeth, sydd yn cael eu gosod mas yn yr adroddiad blynyddol yma, ac, wrth gwrs, pan fo lle i gytuno er lles pobl Cymru, hyd yn oed fel gwrthbleidiau, mae'n bwysig i wneud hynny. Dyna pam y rhoesom ni fel plaid gefnogaeth, yr haf diwethaf, i rai o'r mesurau yn y datganiad deddfwriaethol. Ond rhaid gochel, wrth gwrs, rhag gadael i'r clodwiw ein dallu i ddiffygion, a'r angen am newid trawsnewidiol. Dyna, wrth gwrs, i ni, ydy'r gwendid amlycaf yn holl strategaeth y Llywodraeth at ei gilydd.
Mae'r gwelliannau yn ffocysu ar ddau brif fater, a dweud y gwir, hynny yw y berthynas rhwng addewidion ym maniffesto personol y Prif Weinidog a'r rhaglen lywodraethol, ac, yn ail, yr angen am nifer gweddol gyfyngedig o ddangosyddion er mwyn cael tryloywedd a'r gallu i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif yn effeithiol, nid yn unig o ran gwrthbleidiau, ond yn bwysicach na hynny o ran dinasyddion.
Mae'r ddogfen yma yn cynrychioli'r cyfle cyntaf inni weld yn glir ble mae blaenoriaethau'r Prif Weinidog, ac mae hynny i'w groesawu o ran yr eglurder y mae e'n rhoi inni. Ond mae'r cwestiwn yma, dwi'n credu, o ran perthynas yr addewidion yr oedd y Prif Weinidog wedi'u gosod mas yn ystod ei ymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur a rhaglen y Llywodraeth yn un mae angen cael ychydig bach mwy o eglurder ynglŷn â fe. Mân beth, efallai, o ran yr ieithwedd sy'n cael ei defnyddio—hynny yw, mae atodiad y ddogfen yn sôn am ymrwymiad maniffesto arweinyddiaeth Prif Weinidog Cymru. Wel, maniffesto, wrth gwrs, ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur oedd e.
Nawr, yn fuan ar ôl i'r ras am arweinyddiaeth Llafur ddod i ben, roedd copi o faniffesto'r Prif Weinidog yn anoddach i gael hyd iddo na ffordd osgoi Llandeilo ond diolch byth, mae copïau ar gael rwy'n credu, yn llyfrgell y Senedd. Ond mae rhai cwestiynau pwysig nad oes ateb iddyn nhw hyd yn hyn y mae angen eu hateb yn fy marn i, ynglŷn â'r berthynas rhwng y ddogfen honno a'r rhaglen lywodraethu. Yr un canolog yw: a yw'r holl ymrwymiadau yn y maniffesto hwnnw wedi eu hymgorffori yn rhaglen y Llywodraeth erbyn hyn, neu a oes eithriadau? A oes rhai wedi eu hymgorffori ac eraill wedi eu hepgor? Rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol o ran sut yr ydym yn dwyn y Prif Weinidog i gyfrif am yr addewidion, fel y cyfeiriodd atyn nhw, sydd wedi eu gwneud. Er enghraifft, o ran y banc cymunedol mae yna golofn, onid oes, yn yr adroddiad blynyddol sy'n cyfeirio at—? Rwy'n credu bod maniffesto'r Prif Weinidog newydd gyrraedd, mewn gwirionedd. [Chwerthin.] Dyna ni; ychydig o ddrama. Mae'n dal i fod ar gael, o bob siop lyfrau dda, rwy'n siŵr. Rwy'n ei ddarllen yn rheolaidd.
Rwy'n credu bod yna gyfeiriad—a gall y Prif Weinidog fy nghywiro os wyf i'n anghywir—at sefydlu banc cymunedol yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rwy'n credu bod yr adroddiad blynyddol ar y rhaglen lywodraethu yn sôn yn awr am drafodaeth gyda rhanddeiliaid heb unrhyw ymrwymiad cadarn i amserlen ar gyfer cyflawni. Ceir cyfeiriad at uned ddata newydd i weithio mewn partneriaeth â phrifysgolion Cymru a'r gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio dadansoddi data i wella perfformiad. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd roi hynny yn y golofn o bethau da, ond yn y maniffesto, mae'r iaith yn ymddangos yn galetach o ran yr addewid na'r iaith sydd yn y rhaglen lywodraethu erbyn hyn, sy'n sôn am fod yn y cyfnod achos busnes. Cafwyd ymrwymiad i ddatblygu Deddf aer glân. Wel, mae hynny'n sicr wedi ei ohirio, onid yw? Felly, rwy'n credu bod angen i ni wybod beth yw statws yr holl addewidion a wnaed ym maniffesto'r Prif Weinidog? A ydyn nhw i gyd wedi eu mabwysiadu fel polisi'r Llywodraeth erbyn hyn?
Yn olaf, o ran yr ail welliant, mae'n ddarlun dryslyd gan ein bod ni wedi cael 'Symud Cymru Ymlaen' fel y rhaglen lywodraethu gychwynnol. Yna, flwyddyn yn ddiweddarach, cawsom 'Ffyniant i Bawb'. Erbyn hyn mae gennym ni raglen lywodraethu ddiwygiedig sy'n cynnwys rhai, o leiaf, o addewidion personol y Prif Weinidog. Mae gennym ni saith amcan llesiant, 12 nod llesiant, 46 dangosydd cenedlaethol, a thros 150 o fesurau gwahanol yn y ddogfen hon o ran yr adroddiad blynyddol. Llawer o adrodd, ond dim digon o atebolrwydd, oherwydd un peth yw bod yn agored, ond mae angen symleiddio hyn i gael tryloywder a gallu i fod ag atebolrwydd gwirioneddol. Ceir dangosyddion perfformiad allweddol hyd yn oed sy'n cael eu datblygu gan wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ar wahân. Ac fel y dywedodd yr archwilydd cyffredinol ei hun, mae angen i chi gyfochri gweithgareddau cyllidebau â dangosyddion a mesurau canlyniad. Ar hyn o bryd, rwy'n credu ei bod yn anodd i unrhyw un ddeall yn iawn a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Nawr, mae 'Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019' yn rhoi pwyslais i ni ar greu Cymru fwy ffyniannus, mwy cyfartal a mwy gwyrdd, ac er y bu rhywfaint o gynnydd ym mhob un o'r meysydd hyn, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn amau'n fawr bod canlyniadau rhai o weithredoedd Llywodraeth Cymru yn dangos bod Cymru ymhell o'r fan lle dylem ni fod. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, er mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng newid hinsawdd, mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd yn y maes hwn.
Cafodd y safbwynt hwn, yn wir, ei adleisio gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad, a ddywedodd yn ddiweddar er bod y Gweinidog wedi dweud wrth y pwyllgor y byddai cyllideb 2020-21 yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gefnogi ei datganiad o argyfwng hinsawdd â chamau gweithredu ac arian cysylltiedig, ni allai'r realiti fod ymhellach o'r gwir. Yn wir, dywedodd y Pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:
'Ar y sail hon, roeddem yn disgwyl cyllideb drawsnewidiol a radical. Nid ydym wedi gweld tystiolaeth o hyn. Rydym yn siomedig i ddod i'r casgliad bod y gyllideb ddrafft hon yn “fusnes fel arfer”.'
Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i dynnu sylw yn yr adroddiad blynyddol at ei chyflawniadau ym maes trafnidiaeth, ac er efallai fod y Llywodraeth o'r farn bod y gwaith uwchraddio sy'n parhau ar ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465 yn rhywbeth i'w ddathlu, nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae'n ffaith ddiymwad bod swm anferth o arian wedi ei wario ac yn parhau i gael ei wario ar y rhan hon o ffordd, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyfiawnhau'r gwerth am arian i'r trethdalwr hyd yn hyn, nac ychwaith wedi ymdrin â'r effaith rwystredig y mae'r oedi wedi ei chael ar drigolion lleol.
Nawr, mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd o ansawdd uchel ac yn hawdd cael gafael arnyn nhw, ac eto dim ond trwy edrych ar gyflwr presennol y gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn y gogledd drwy fwrdd iechyd sydd wedi bod o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru am bron i bum mlynedd y byddwch yn gweld bod pethau ymhell o fod yn berffaith. Dim ond 66.8 y cant o gleifion sy'n cael eu hasesu o fewn y cyfnod pedair awr hollbwysig. Mae diffygion difrifol o ran darparu gwasanaethau iechyd meddwl, ac mae'r bwrdd iechyd ar fin nodi diffyg o £35 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Ac eto nid oes unrhyw beth yn y ddogfen hon sy'n cydnabod yr heriau hynny nac yn egluro beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud ynglyn â nhw.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir bod iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol drwy amlygu'r ffaith bod timau iechyd meddwl amenedigol wedi eu sefydlu ym mhob bwrdd iechyd. Fodd bynnag, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, yn Lloegr y mae'r unig gymorth iechyd meddwl i gleifion mewnol sydd ar gael i famau yng Nghymru, felly heb uned mamau a babanod yma, mae menywod yng Nghymru a chanddyn nhw broblemau iechyd meddwl acíwt naill ai'n cael eu derbyn i gyfleusterau seiciatrig heb eu plentyn, neu'n cael eu hanfon i unedau sydd milltiroedd i ffwrdd. Mae Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad wedi dweud yn gywir bod angen newid y sefyllfa ar frys, ac felly mae'n annheg i Lywodraeth Cymru ddweud ei bod yn rhoi blaenoriaeth i gymorth iechyd meddwl pan nad yw camau gweithredu y mae angen taer amdanynt ar waith.
Llywydd, mae rhai llwyddiannau wedi eu cyflawni eleni wrth gwrs. Er enghraifft, rwy'n falch o ddarllen bod cyfradd cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru wedi cynyddu i 49.2 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2019, a bod y bwlch rhwng cyfradd cyflogaeth pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru wedi lleihau o fwy na dau bwynt canran yn yr un cyfnod, ac mae hynny'n newyddion da.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod cyfraddau treth incwm Cymru wedi eu cyflwyno ers mis Ebrill 2019, gan roi cyfle i ni ddweud ein dweud ynghylch cyfran o'r dreth incwm sydd i gael ei thalu yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw sôn o gwbl yn yr adran ar drethiant yn y ddogfen ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu ei phwerau codi treth yn fwy—dim byd am y cynlluniau ar gyfer treth tir wag, y dreth gofal cymdeithasol, na'r dreth twristiaeth leol. Wrth gwrs, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn anghytuno'n llwyr ag agwedd Llywodraeth Cymru at drethiant, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau economi treth isel i Gymru.
Llywydd, wrth droi yn awr at raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gwneud pob dim a allwn i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio mor effeithiol â phosibl, ac yn darparu gwerth am arian. Mae'r Cynulliad hwn yn benodol, fodd bynnag, wedi tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud mwy i gefnogi ymgyrchoedd deddfwriaethol gan bleidiau eraill, ac ni fydd yn syndod i'r Aelodau fy mod i'n gresynu'n fawr at y ffaith na chafodd fy Mil awtistiaeth ei ddwyn ymlaen. Yn yr un modd, rwyf hefyd wedi galw, ers sawl blwyddyn bellach, am ddeddfwriaeth i warchod cofebion rhyfel Cymru, ac, er gwaethaf geiriau cynnes gan nifer o Weinidogion, prin iawn sydd wedi ei wneud mewn gwirionedd. Fodd bynnag, rwyf yn derbyn bod deddfwriaeth bwysig yn digwydd dros y 12 mis nesaf. Er enghraifft, mae'r Bil anifeiliaid gwyllt a syrcasau ar ei hynt drwy'r Cynulliad, a fydd yn gam ymlaen angenrheidiol a phwysig ar gyfer agenda lles anifeiliaid Cymru.
Felly, i gloi, Llywydd, er bod y bwriad i greu Cymru fwy ffyniannus, mwy cyfartal a mwy gwyrdd yn glodwiw, mae gan Lywodraeth Cymru ffordd bell i fynd o hyd, a bydd fy nghyd-Aelodau a minnau yn parhau i ymgysylltu yn adeiladol â'r Llywodraeth, pan fo'n bosibl, i weld Cymru yn ffynnu ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Prif Weinidog, un o'r materion yr ydych yn cyfeirio ato yn yr adroddiad yw cymunedau bywiog a chydnerth. A hoffwn i longyfarch Llywodraeth Cymru am y trawsnewid a fu ym mholisïau Llywodraeth Cymru, trwy weithio mewn partneriaeth â chyngor Rhondda Cynon Taf, ynghylch Pontypridd. Erbyn hyn, mae'n dref sydd â gwefr ynddo o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru a wnaeth alluogi'r cyngor, er enghraifft, i brynu'r rhydd-ddaliad. Rydych ch'n edrych ar y dref nawr ac yn gweld datblygiad sy'n digwydd ar ganolfan Taf. Dyna dref sy'n trawsnewid ei hun, yn cynyddu ffyniant. Ac wrth edrych hefyd ar yr hyn sy'n digwydd o ran Trafnidiaeth Cymru yno, o fewn hynny, y buddsoddiad sy'n digwydd yno, mae'n gwbl syfrdanol—swyddi'n cael eu creu, yr orsaf yn cael ei moderneiddio, hamdden, holl ethos y dref, ac mae hynny o ganlyniad, mewn gwirionedd, i'r bartneriaeth honno sydd wedi bod. Ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn, ac yn gweld hynny'n fodel posibl. Ac mae penderfyniad Trafnidiaeth Cymru i beidio â mynd i Gaerdydd, ond yn hytrach lleoli ei hun yn y Cymoedd, wedi bod yn gwbl sylfaenol yn y newid hwnnw. A gobeithio y bydd mantais hynny yn un ehangach, nid ar gyfer ardal Pontypridd yn unig.
A gaf fi ddweud hefyd, pan fyddwch yn ystyried hynny ar y cyd â'r ffordd y mae'r bartneriaeth dros ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, y cyfleusterau addysg—? Roeddwn i'n siarad gydag arweinydd y cyngor y diwrnod o'r blaen, ac roedd e'n dweud wrthym eu bod, dros y cyfnod o 10 mlynedd, wedi gallu defnyddio'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu—wedi defnyddio capasiti benthyca'r cyngor, ac wedi cynorthwyo gyda chyllido hynny—. Byddan nhw wedi buddsoddi £0.75 biliwn mewn ysgolion newydd, gan drawsnewid fframwaith a strwythur addysgol ein plant mewn ffordd sy'n ennyn cenfigen siroedd yn Lloegr sy'n edrych dros y ffin.
Ond a gaf fi ddweud mai'r un maes sy'n fy nghyffroi i'n wirioneddol o fewn hynny yw'r cyfeiriad at y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol? Oherwydd bod gennym ni'r lefelau uchaf o gyflogaeth yr ydym ni wedi eu gweld ers amser maith—ers cenedlaethau. Ond mae gennym ni hefyd y lefelau uchaf o dlodi mewn gwaith, ac, wrth gwrs, mae gennym ni ganlyniadau polisïau economaidd ehangach. Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru yn adrodd bod nifer y contractau dim oriau wedi neidio i fyny 35 y cant mewn un flwyddyn o 37,000 i 50,000, o 2018 i 2019—sy'n bwysig gan ei bod yn golygu nad oes unrhyw sicrwydd gan y bobl sy'n defnyddio'r contractau dim oriau hynny. Nid ydyn nhw'n gallu cadw morgais; nid ydyn nhw'n gallu cynllunio ar gyfer eu dyfodol. Maen nhw yn un o'r datblygiadau mwyaf creulon sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd. Ac wrth i ni edrych hefyd wedyn ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae 23 y cant o'n pobl mewn gwaith, ond mewn tlodi mewn gwaith, lle nad yw gwaith yn llwybr allan o dlodi mwyach. Ac os ydym ni hefyd wedyn yn edrych ar y ffug hunangyflogaeth, sydd mewn gwirionedd yn ddull i gyflogwyr gamddefnyddio'r gyfundrefn treth ac yn ffordd o osgoi amddiffyniadau swyddi a diogelwch swyddi i weithwyr. Mae'r ffaith bod gennym ni lefelau cyflogaeth mor uchel yn amlwg yn dda iawn, ond mae'n rhaid i ni yn awr roi sylw i safonau moesegol a safonau cymdeithasol cyflogaeth.
Felly, mae Deddf partneriaeth gymdeithasol, y mae TUC Cymru wedi galw amdani—ac rwy'n falch iawn o'r ymrwymiad, Prif Weinidog, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i hynny—yn gyfle i drawsnewid statws cyflogaeth drwy ddefnyddio ein caffael gwerth £6 biliwn i fynd i gwmnïau a fydd yn dechrau ystyried cystadlu mewn gwirionedd yn ansawdd y safonau mewn gwirionedd, yn hytrach na chystadlu ar ddirywiad o ran cyflogaeth a safonau cymdeithasol, gan gynnig cyflog parchus, bargeinio ar y cyd, cydnabod undebau llafur, a'r holl agweddau ar yr amgylchedd, iechyd a diogelwch a rhai cymdeithasol y byddem ni'n eu disgwyl gan gymdeithas yn yr unfed ganrif ar hugain a chyflogwyr yn yr unfed ganrif ar hugain, ac, i gyd-fynd â hynny, yr angen i fonitro yn amlwg ac i orfodi ac i ategu'r codau sydd eisoes wedi eu datblygu gan Lywodraeth Cymru. Tybed, Prif Weinidog, a wnewch chi efallai amlinellu ychydig yn fwy y cynlluniau ar gyfer hynny, yr amserlen bosibl ar gyfer pryd y gallem ni ddechrau gweld y Bil drafft mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod y bu ymgynghoriad, ond rwyf i'n ystyried bod hwn yn un o'r darnau o ddeddfwriaeth mwyaf arloesol a chyffrous, y gall Cymru arwain arno yng ngweddill y DU.
Fe wnaf i gadw fy sylwadau i'n fyr, oherwydd dim ond yn fy swyddogaeth fel Cadeirydd cyfrifon cyhoeddus yr wyf i'n dymuno siarad yn bennaf, ac yn benodol, wrth edrych ar y gwelliannau, mae gwelliant 2 Plaid Cymru yn galw am
'restr glir a syml o ddangosyddion y gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu herbyn', gwelliant da, sy'n sicr yn ein tywys ni i'r cyfeiriad cywir. Hyn, fwy neu lai yw pwyslais gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth graffu ar y cyfrifon yn gynharach eleni a'r llynedd. Gwn fod Adam Price yn aelod o'r pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw, felly bydd e'n cofio'r pwyntiau a gafodd eu cyflwyno yn y dystiolaeth. Nid yw'r adroddiad ar y cyfrifon hynny wedi eu cyhoeddi eto—rwy'n credu y bydd yn cael ei ryddhau ychydig cyn y Pasg—felly mae hynny'n rhywbeth i ni ddychwelyd ato yn y dyfodol, ac i ystyried yr wybodaeth a gawsom gan dystion i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r gwelliant y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno heddiw a gweld a allwn ni ddod o hyd i ryw ffordd ymlaen gydsyniol sydd yn darparu yn wirioneddol broses graffu fwy effeithiol ar gyfrifon yn y dyfodol. Rwy'n credu y byddai hynny o fudd i bob plaid yn y Siambr hon.
Y tu hwnt i hynny, o ran rhai o'r sylwadau eraill a wnaeth y Prif Weinidog ar y dechrau, byddwn ni ar y meinciau hyn yn cytuno ar rai elfennau—fel y gwyddoch, Prif Weinidog—a bydd elfennau eraill na fyddwn ni'n cytuno â nhw. Byddwn i'n sicr yn croesawu'r pwyslais parhaus ar iechyd meddwl, ac fe wnaethoch chi rai sylwadau dilys iawn ynghylch yr angen i ddileu rhywfaint o'r stigma sy'n gysylltiedig â'r maes hwn. Rwy'n credu bod llawer o waith wedi ei wneud yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n gwybod bod nifer o Aelodau'r Cynulliad wedi siarad yn angerddol am eu profiadau o iechyd meddwl yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n credu bod cynnydd wedi ei wneud. Ond rwy'n sicr yn derbyn eich sylwadau bod angen i ni wneud mwy, ac mae angen i faterion iechyd meddwl fod yn wirioneddol ar yr un lefel ag iechyd corfforol.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ni wnaeth y Prif Weinidog—. Soniais am hyn wrth—. Yr oedd mewn un o'r areithiau yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu, o bosibl, mai'r araith ar y gyllideb ydoedd, a dweud y gwir—y ddadl ar y gyllideb yr wythnos diwethaf—ac roeddwn i'n edrych ar y cloc, ac rwy'n credu y gwnaethoch chi sôn am yr argyfwng yn yr hinsawdd ryw 10 munud ar ôl dechrau eich araith, Prif Weinidog, felly roedd y pwnc yno, ac fe wnaethoch chi sôn am wneud y gyllideb yn fwy gwyrdd hefyd. Mae gen i bryderon, er ein bod yn sôn am y gyllideb werdd—sydd i'w chroesawu yn bendant, ac rwy'n credu y bydd hynny er budd i bob un ohonom ni yma ac i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru—rwyf i yn teimlo nad yw'n cael ei brif ffrydio o hyd yn y ffordd y dylai fod, ac er mwyn i gyllideb werdd weithio'n wirioneddol effeithiol, felly mae angen i'r gyllideb werdd honno fod yn ganolbwynt o'r pwynt cynnar hwnnw yn y broses o bennu'r gyllideb a'r broses graffu. Ac, ydych, rydych chi yn iawn i ddweud bod argyfwng yr hinsawdd yn galw am weithredu eithafol iawn yn wirioneddol. Felly, rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, mewn cyllidebau yn y dyfodol, y gallwn ni weld yr elfennau gwyrdd hynny yn cael eu hystyried yn llawer manylach yn gynharach. Mae gennych chi bolisi gwych o blannu—rwy'n credu miliwn o goed. Rwy'n gwybod bod plannu coed yn digwydd yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod cefnogaeth i blannu coed yn Affrica hefyd. Rwy'n credu bod hynny yn bolisi gwych. Ond nid yw hynny ar ei ben ei hun yn ddigon. Mae angen i ni weld, oes, welliant yn ein hamgylchedd naturiol, ond mae hefyd angen i ni weld pob portffolio o fewn y Llywodraeth yn ymgorffori'r agenda werdd honno a'r agenda newid hinsawdd honno, er mwyn sicrhau bod cenedlaethau Cymru yn y dyfodol yn gallu derbyn gennym ni blaned sydd mewn cyflwr y gallan nhw a'u plant nhw fyw arni ac elwa arni yn y dyfodol.
Mae yn iawn i amlinellu cyd-destun 10 mlynedd o doriadau cyllido gan San Steffan hyd yn hyn, ond rwy'n croesawu adroddiad blynyddol heddiw yn fawr, a hoffwn i ganolbwyntio fy nghyfraniad yn bennaf ar ddau faes—addysg a'r blynyddoedd cynnar, a'r economi.
Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn i'n cynnal fy nghymorthfa etholaethol yn sefydliad Markham, adeilad yr ydym ni'n ei rannu â chylch chwarae Markham sy'n ffynnu. Ac roeddwn i'n sgwrsio gyda'r aelod o staff yn y cylch chwarae, ac roedd yn hyfryd ac yn wych clywed yn uniongyrchol ynghylch yr effaith gadarnhaol, wirioneddol y mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru wedi ei chael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—nid yn unig yn addysgol i'r plant, ond i'r teuluoedd, y gweithle ac yn amlwg cyflogaeth, ac, yn y pen draw, cynhyrchiant i Gymru. Mae'r polisi hwn yn helpu i roi dechrau da mewn bywyd i blant. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae'n helpu rhieni drwy eu cefnogi, eu cael yn ôl i'r gwaith, ac rwy'n credu bod hynny wedi bod yn gwbl drawsnewidiol i lawer. Ac rwy'n falch iawn bod dros 50 y cant o'r rhai sy'n gymwys yn manteisio ar y cynnig erbyn hyn, sydd wedi ei ddarparu ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru ers mis Ebrill 2019. Ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod ar flaen y gad wrth weinyddu'r fenter hon. Er mor wych y mae hyn wedi bod, a'i fod wedi ei ddefnyddio yn lleol, byddwn i hefyd yn croesawu'n fawr, gamau pellach gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y teuluoedd sy'n defnyddio'r cynnig hwn ledled Cymru.
Rwyf i hefyd yn falch bod 20,000 o ddysgwyr wedi elwa ar y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru—yn wahanol i Loegr—ac mae 36,000 o blant wedi cael cefnogaeth gan Dechrau'n Deg yn 2019. Mae'r rhain yn bolisïau trawsnewidiol i'r rhai sy'n cymryd rhan, a'r cyfan wrth i'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan gwtogi a dirwyn i ben y gefnogaeth i lawer o'r prosiectau hyn, gan gynnwys Sure Start. Yma yng Nghymru, rydym ni wedi gweithio i ddiogelu a meithrin y cynlluniau hyn, gan eu bod yn cynnig y cymorth mwyaf i'r rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig, ac mae hynny oherwydd ein bod ni'n credu mewn gwneud hynny.
O ran yr economi, un o'r prif addewidion a wnaeth Llafur Cymru cyn etholiad 2016 oedd addewid i ddarparu 100,000 o brentisiaethau newydd. Rwyf i wrth fy modd ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r addewid hwn erbyn 2021. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein prentisiaethau yn datblygu'n gyson er mwyn ymateb i anghenion economi Cymru, a'u bod yn parhau'n brentisiaethau i bob oed. Felly, Prif Weinidog, hoffwn i ofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru, yn y blynyddoedd sydd i ddod, yn parhau i addasu'r prentisiaethau hyn, o ansawdd uchel, i bob oed er mwyn sicrhau eu bod yn ymateb i anghenion ein heconomi.
Yn olaf, rwy'n croesawu'r ffigurau bod cyfraddau cyflogaeth yn parhau i fod yn uchel, a bod diweithdra ar ei lefel isaf erioed. Mae hyn yn newyddion i'w groesawu yn fawr, ac yn dangos llwyddiant Llywodraeth Cymru o ran cefnogi ein heconomi. Ond, fel y mae Mick Antoniw wedi ei grybwyll, trwy wadu a dirwyn i ben gredydau treth gwaith a budd-daliadau plant a thoriadau lles cyffredinol, mae tlodi mewn gwaith yn wirionedd. Felly, ar ôl 10 mlynedd o gyllid y DU heb fod yn gyllid seilwaith, sy'n golled o £1 biliwn i'r rheilffyrdd yn unig, mae ein gwasanaethau rheilffyrdd erbyn hyn, yn ystod y blynyddoedd nesaf, ar ddechrau taith drawsnewidiol gan wasanaeth newydd sbon sgleiniog Trafnidiaeth Cymru. Mae gwella ein cysylltiadau rheilffyrdd yn hollbwysig ac yn hanfodol i gefnogi ein heconomi, a bydd yn hwb arbennig i etholaethau'r Cymoedd fel fy un i, gyda gwasanaethau i Gasnewydd yn y dyfodol. Cafodd rheilffyrdd y Cymoedd eu hadeiladu i gludo'r glo o'n Cymoedd, a wnaeth gynhyrchu gymaint o gyfoeth ein gwlad. Wrth sicrhau ffyniant i bawb, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cymunedau yn y Cymoedd yn parhau i fod yn ganolog i'n blaenoriaethau economaidd yng Nghymru. Ac rwy'n gwybod y bydd y Llywodraeth Lafur radical a thrawsnewidiol hon yn cyflawni'r hyn y mae'n ei addo.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn myfyrio ar yr hyn sydd wedi cael ei wneud, a hefyd rhai o'r heriau sydd o'n blaenau. Un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth yw datgarboneiddio, ac mae hynny'n gwbl briodol, o gofio mai ni oedd y Llywodraeth gyntaf i gyhoeddi argyfwng hinsawdd. Fodd bynnag, rhaid i ni gydnabod—ac yr ydym ni gyd yn cydnabod, rwy'n siŵr—fod gennym ni lawer mwy o waith i'w wneud i ddileu tlodi tanwydd, sy'n her allweddol i ni, i sicrhau bod pawb yn byw mewn cartref cynnes, nid yn unig o ran y cyfiawnder cymdeithasol y mae hynny'n ei greu, ond hefyd fel ffordd o leihau'r maint o ynni y mae angen i ni ei ddefnyddio. Rwy'n credu ei fod yn gyflawniad mawr iawn ein bod ni wedi llwyddo i symud o 19 y cant o'n hynni yn cael ei gynhyrchi o ffynonellau adnewyddadwy yn ôl yn 2014 i 50 y cant o ynni adnewyddadwy bedair blynedd yn ddiweddarach, a hyd yn oed mwy, gobeithio, yn y cyfnod diweddaraf. Nid wyf yn credu bod unrhyw reswm pam na allwn ni symud at fod yn adnewyddadwy 100 y cant yn y dyfodol, dim ond oherwydd ein bod wedi'n bendithio â chyflenwadau hael o ynni'r gwynt a'r llanw, yn ogystal ag ynni solar a phympiau gwres o'r ddaear ac o'r ffynhonnell aer. Drwy ein rhaglen cartrefi arloesol, rydym ni wedi gallu dangos ein bod ni yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau i adeiladu'r math o gartrefi sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Mae hynny'n golygu y bydd angen llai o ynni i wresogi ein cartrefi a rhagor, wedyn, ar gael ar ffurf ynni adnewyddadwy yn lle tanwyddau ffosil yn y ffordd yr ydym ni'n symud o gwmpas, yn ein ceir a'n bysiau. Ond mae gennym gyfle hefyd i symud at hydrogen o ffynonellau adnewyddadwy, cyn belled â'n bod yn parhau â'r cynnydd yr ydym ni eisoes yn ei wneud ar symud tuag at ddarpariaeth ynni adnewyddadwy llawn, o 100 y cant.
Rydym ni'n falch iawn o'n record o fod y trydydd neu'r pedwerydd ailgylchwr gorau yn y byd, ond mae'r economi gylchol yn dangos y gallwn ni symud hyd yn oed ymhellach. Mae'n annerbyniol bod traean o'r holl fwyd yn cael ei daflu i ffwrdd, yn enwedig yng nghyd-destun gormod o blant nad ydyn nhw'n cael y prydau o fwyd maethlon sydd eu hangen arnyn nhw i dyfu'n oedolion iach. Mae angen i ni sicrhau bod y bwyd yr ydym ni'n ei weini yn y sector cyhoeddus gydag arian cyhoeddus, cyn belled ag y bo modd, yn cael ei gynhyrchu'n lleol ac yn helpu i gadw pobl yn iach. Mae canolbwyntio ar amaethyddiaeth fanwl yn un o'r ffyrdd y gallwn ni wneud hynny. Os ewch i farchnad Sul Caerdydd, gallwch brynu sprigau pys a sprigau brocoli a yn cael eu gwerthu gan gwmni lleol, ac mae hwn yn fwyd sy'n uchel iawn o ran maeth ac felly'n ddefnyddiol iawn ar gyfer gweini yn ein hysbytai, lle mae'n bosibl nad oes gan gleifion awydd mawr am fwyd. Mae angen i ni sicrhau bod yr hyn y maen nhw yn ei fwyta yn helpu i'w gwneud yn well. Mae'r £4.5 miliwn sydd wedi'i neilltuo i'r gronfa her economi sylfaenol yn helpu i ysgogi'r swyddi lleol hynny gyda'r ffyrdd newydd hyn o wneud pethau.
Mae Gwelliant 1 yn galw am eglurder ynglŷn â'r berthynas rhwng addewidion y Prif Weinidog pan oedd yn ymgyrchu i fod yn arweinydd Cymru ac i ba raddau y maen nhw wedi'u cynnwys yn rhaglen y Llywodraeth. Mae un ohonyn nhw ynghylch yr angen am goedwig genedlaethol. Mae miliwn o goed yn gyfraniad pwysig iawn i ddatgarboneiddio, ac wrth graffu ar y gyllideb newid hinsawdd, amgylchedd a materion gwledig, roedd yn amlwg bod y goedwig genedlaethol yn rhan annatod o'r gyllideb honno a'i bod yn darparu llawer o gyfleoedd i sicrhau bod lleiniau gwyrdd priodol ar gael rhwng, er enghraifft, Caerdydd a Chaerffili, a Chaerdydd a Chasnewydd, i'w hatal rhag datblygu i fod yn un o blerdwf trefol enfawr. Bydd coedwig genedlaethol rhwng y tair dinas hon yn sicrhau bod hynny am byth.
Rwy'n credu mai un o gyflawniadau mawr y Llywodraeth hon yw'r cwricwlwm newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i sefyll dros ei hegwyddorion wrth wynebu rhai o'r buddiannau breintiedig sydd â chysyniadau hen ffasiwn, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwn ni'n sicrhau bod pob plentyn yn mynd i gael addysg cydberthynas a rhywioldeb, er mwyn sicrhau eu bod yn deall sut mae eu corff yn gweithio a sut beth yw perthynas briodol. Rwy'n credu bod y swm bach o arian rydym ni wedi'i roi i urddas mislif wedi sicrhau bod pob plentyn yn gallu mynychu'r ysgol, nid dim ond y rhai sy'n gallu fforddio prynu'r cynhyrchion hyn.
Gallwn i fynd ymlaen, ond mae fy amser wedi dod i ben, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn deall beth yw ein cyflawniadau ond bod angen i ni barhau i fod yn radical yn ein hymagwedd oherwydd y cyd-destun newid hinsawdd yr ydym ni'n gweithredu ynddo.
Galwaf ar y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddweud gair o ddiolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl mewn ysbryd mor adeiladol?
Rwy'n credu iddi fod yn gyfres ddiddorol iawn o gyfraniadau a hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau amdanyn nhw. Roeddwn i wedi dechrau fy nghyflwyniad fy hun i'r ddadl drwy ganolbwyntio ar y themâu trawsbynciol sydd y tu ôl i'r adroddiad blynyddol eleni, ymdrech i geisio ymestyn y tu hwnt i'r dull portffolio, yr ydym ni'n ei ddefnyddio fel arfer i adrodd ar faterion i lawr y Cynulliad, ac i ddangos y ffordd y mae gweithredu ledled y Llywodraeth yn cael ei ddwyn ynghyd i geisio gwneud gwahaniaeth.
Roedd llawer o'r cyfraniadau yn y ddadl yn canolbwyntio yn yr un modd. Canolbwyntiodd Rhianon Passmore ar y blynyddoedd cynnar, sy'n un o'n themâu trawsbynciol. Mae hi'n llygaid ei lle; mae'r cynnig gofal plant yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn. Mae'n wych gweld mwy na hanner y plant sy'n gymwys yn ei ddefnyddio erbyn hyn. Mae'n 85 y cant o blant ym Mhowys, mae'n dros 75 y cant o blant ar draws y gogledd, ac mae'n wych gweld y nifer sy'n manteisio ar y lefel honno. Mae hefyd yn wych gweld effaith addysg ddwyieithog yn gynnar iawn ym mywyd plentyn, gyda thwf gwirioneddol yn nifer y lleoliadau meithrin sy'n cynnig lleoedd dwyieithog drwy'r cynnig gofal plant ac adroddiadau cryf gan ddarparwyr bod y ffordd y mae'n cael ei gynllunio a'i ddarparu drwy Lywodraeth Cymru yn eu helpu i deimlo'n ffyddiog bod gan eu busnesau ddyfodol hirdymor, ac felly eu bod nhw eu hunain yn barod i fuddsoddi i greu'r amrywiaeth ehangach honno o wasanaethau.
Cyfeiriodd Rhianon at y prentisiaethau hefyd, a'r wythnos diwethaf oedd Wythnos Prentisiaethau. Cefais i ymweliad calonogol iawn ag Undeb Rygbi Cymru i weld eu rhaglen brentisiaethau ar waith; roedd menywod a dynion ifanc yn rhan o'r rhaglen brentisiaeth honno—ac mae'n hynod gystadleuol i gael lle arni—yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau. Roedden nhw yno, menywod ifanc, yn dysgu 40 o fenywod ifanc o'r gymuned Fwslimaidd yng Nghaerdydd i chwarae rygbi cadair olwyn. Roedd hi'n achlysur amlddiwylliannol tu hwnt, ac yn un hefyd a oedd yn dangos gwerth y rhaglen brentisiaeth honno ym mywydau'r bobl ifanc a oedd yn ei dilyn.
Cyfeiriodd Jenny at yr economi sylfaenol hefyd, ac mae'r adroddiad hwn yn dangos y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn Llywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd yr hyn sy'n cael ei galw weithiau yr economi ddibwys, yr economi bob dydd, yr economi nad yw'n bosibl ei symud rywle arall o amgylch y byd, i gymunedau ar hyd a lled Cymru.
Roeddwn i eisiau cytuno â'r hyn y dywedodd Mick Antoniw ynghylch pwysigrwydd partneriaeth, oherwydd fel y dywedais i yn fy nghyflwyniad, bydd y pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud bob amser yn fwy effeithiol pan fyddwn ni'n eu gwneud ar y cyd ag eraill. Boed hynny drwy Trafnidiaeth Cymru neu ag awdurdodau lleol, mae'r effaith ym Mhontypridd yn amlwg iawn pan ewch chi yno. Ac mae'n tanio dychymyg y sector preifat hefyd. Ymwelais i â marchnad Pontypridd gyda'r Aelod dros Bontypridd a gwelais i frwdfrydedd enfawr y stondinwyr bach yno i gyfrannu at ddyfodol Pontypridd; lle yr oedden nhw yn gallu gweld bod ganddo ddyfodol, a dyfodol llwyddiannus o'i flaen. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl swyddi rydym ni'n eu creu yma yng Nghymru yn cyfrannu at ein hagenda gwaith teg, a dyna pam mae'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol mor bwysig, gan ei bod yn rhoi gwaith teg, caffael a dull moesegol o wario ein harian a chreu cyfleoedd yng Nghymru wrth wraidd yr hyn y byddwn ni'n ei wneud.
Canolbwyntiodd Nick Ramsay ar ddau beth, ar stigma ac iechyd meddwl, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd yn hynny o beth, gan fod hynny yn gyfrifoldeb trawslywodraethol llwyr. Rwy'n credu bod gan bob Gweinidog, yn wir, pob Aelod o'r Cynulliad, gyfrifoldeb i wneud y pethau y gallwn ni eu gwneud i sicrhau ein bod yn dileu'r ymdeimlad hwnnw o stigma sy'n dod yn sgil heriau iechyd meddwl i rai pobl. Mi oeddwn i ond eisiau dweud wrth Nick Ramsay bod prif ffrydio datgarboneiddio a bioamrywiaeth wrth wraidd ein proses gyllidebu eleni. Nid wyf yn dweud ei bod yn berffaith, nid wyf yn dweud nad oes angen i ni ei wneud mwyach, ond o'r cychwyn cyntaf roedd Aelod Cabinet yn gyfrifol am sicrhau, ym mhob trafodaeth ynghylch y gyllideb, bod yn rhaid i bob Gweinidog adrodd sut yr oedd yn sicrhau bod ei gyllideb a'i gyfrifoldebau yn cyfrannu at uchelgeisiau'r Llywodraeth o ran datgarboneiddio bioamrywiaeth.
Gan droi at yr hyn a ddywedodd Adam Price wrth agor y cyfraniadau i'r ddadl, byddwn ni'n pleidleisio o blaid gwelliant cyntaf Plaid Cymru, oherwydd rwy'n credu bod y ffordd y gwnaethoch chi gyflwyno'r adroddiad blynyddol yn gwneud ymdrech wirioneddol i ddangos sut y mae'r ymrwymiadau y gwnes i yn yr etholiad arweinyddiaeth ar gyfer y Blaid Lafur yn ategu ein maniffesto 2016 ac yn ehangu arno. Rwyf i yn gobeithio y byddwn yn dechrau ar y banc cymunedol yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Mae'r Papur Gwyn ar aer glân yn arwydd clir o'n bwriad i ddeddfu dros Ddeddf aer glân.
Canolbwyntiodd Paul Davies hefyd ar yr argyfwng newid yn yr hinsawdd. Mae £140 miliwn yn y gyllideb hon. Mae pethau anodd y mae'n rhaid i ni eu gwneud, a bydd llygredd amaethyddol a mynd i'r afael â hynny yn un ohonyn nhw. Os ydym ni wir o ddifrif ynghylch yr argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid i ni fod yn barod i weithredu pan fo'n achosi heriau i ni, yn ogystal â phan fo'n hawdd—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Rydych chi'n cyfeirio at yr argyfwng newid yn yr hinsawdd. Wrth gwrs, un o'r pethau sydd wedi ei nodi ynghylch gweithredoedd eich Llywodraeth chi hyd yn hyn ar y mater hwn, yw'r ffaith eich bod chi'n rhoi cymorthdaliadau sylweddol, i bob pwrpas, i Faes Awyr Caerdydd trwy fenthyciadau a chadw'r lle hwnnw yn gweithredu, ond wrth gwrs, trafnidiaeth awyr yw'r math o drafnidiaeth sy'n llygru fwyaf. Felly, sut y mae hynny'n cyd-fynd â gweithredoedd eich Llywodraeth?
Mae'n cyd-fynd â'n huchelgeisiau ni yn yr un modd ag y mae estyniad ei Lywodraeth ef yn Heathrow yn cyd-fynd â honiadau'r Prif Weinidog ei fod o ddifrif ynghylch newid yn yr hinsawdd hefyd. Mae Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd yn glir: nid ydyn nhw o'r farn y bydd teithio drwy hedfan yn dod i ben yn rhan o'r argyfwng hinsawdd. Fel y gwnes i egluro wrth ateb cwestiynau yn gynharach y prynhawn yma, ein huchelgais ni ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yw denu teithiau awyr i Gaerdydd sy'n digwydd mewn mannau eraill ar hyn o bryd a lleihau yr effaith garbon yn sgil pobl sy'n gorfod teithio y tu allan i Gymru i fynd ar deithiau hedfan y byddai'n bosibl eu darparu gan ein maes awyr cenedlaethol ni yma yng Nghymru.
Rwy'n agos iawn at orffen, Llywydd, diolch. Roeddwn i'n awyddus i gyfeirio'n benodol at gwestiwn Paul Davies ynghylch iechyd meddwl cleifion mewnol amenedigol a rhoi gwybod iddo y bydd y cyfalaf ychwanegol a gyhoeddodd y Gweinidog iechyd yn ddiweddar yn arwain at uned cleifion mewnol yn Ysbyty Tonna a fydd yn cael ei chyd-leoli â'r gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol cymunedol y cyfeiriodd ato. Bydd y Llywodraeth hon yn cyflawni'r addewid honno.
Yn wir, dywedodd Paul Davies fod uchelgeisiau'r Llywodraeth hon ar gyfer Cymru lewyrchus, fwy cyfartal a gwyrddach yn glodwiw; Llywydd, rwyf yn cytuno â Paul y hynny o beth. Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonoch chi hefyd, ac y byddwch chi'n pleidleisio o blaid y cynnig y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio tan y cyfnod pleidleisio.