– Senedd Cymru am 5:03 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Trefn, trefn. Eitem 16 yw dadl y Pwyllgor Cyllid: blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb ddrafft 2021-22 oherwydd COVID, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y cynnig—Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, ac, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rwy’n falch iawn o allu agor y ddadl yma heddiw ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Fel y bydd y Siambr yma'n gwybod, wrth gwrs, ers cryn amser mae’r Pwyllgor Cyllid wedi mynegi ei bryder nad yw’r Senedd yn cael cyfle ffurfiol i drafod a, gobeithio, drwy hynny, ddylanwadu ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei gosod. Y llynedd oedd y tro cyntaf i ni gynnal y math hwn o ddadl, a oedd yn arbennig o berthnasol, wrth gwrs, o ystyried goblygiadau Brexit a'r etholiad cyffredinol ddaeth ddiwedd y flwyddyn.
Yn ein hadroddiad ar gyllideb ddrafft 2020-21, mi wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gallai dadl ar flaenoriaethau gwariant gael ei chynnwys yn amserlen y gyllideb er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried barn y Senedd cyn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft. Dwi'n falch iawn bod y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a'r Pwyllgor Busnes hefyd, wedi cytuno y dylid cynnal dadl o'r math hwn nawr bob blwyddyn.
Mae'n anochel y bydd y gyllideb ddrafft sydd ar ddod yn cael ei heffeithio, wrth gwrs, fel rŷn ni'n clywed yn gyson, gan COVID-19, hefyd gan ddiwedd cyfnod pontio Brexit, a’r adolygiad o wariant y Deyrnas Unedig, sydd wedi'i ohirio. Yr wythnos diwethaf, fe gawsom ni ddatganiad haf gan Lywodraeth y DU a oedd yn cynnwys symiau ychwanegol o gyllid canlyniadol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, does gennym ni ddim ffigurau cyllido ar gyfer 2021-22 o hyd. Er mwyn i Lywodraeth Cymru gynllunio'n effeithiol a sicrhau'r lefel briodol o waith craffu seneddol, mae'n amlwg bod cyllidebau'r llywodraethau datganoledig yn dibynnu ar amseriad cyllideb y Deyrnas Unedig. Felly, dwi a fy nghymheiriaid yn Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi ysgrifennu ar y cyd at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn gofyn am arwydd cynnar ynglŷn ag amseriad cyllideb y Deyrnas Unedig a sicrwydd y rhoddir ystyriaeth i effaith yr amseriad hwnnw ar y prosesau cyllidebol priodol ar draws y gwledydd datganoledig.
Fel arfer, mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal digwyddiad blynyddol i randdeiliaid ar y gyllideb, ond yn anffodus eleni, o ystyried y cyfyngiadau symud ledled y wlad, dyw hynny ddim wedi bod yn bosib. Mae hyn yn siomedig i'r pwyllgor a, dwi'n siŵr, i randdeiliaid hefyd, gan fod y digwyddiadau yma wedi cael derbyniad da iawn yn y gorffennol. Mae’n gyfle gwych i glywed safbwyntiau cynnar rhanddeiliaid am beth ddylai blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru fod. Fe gaiff hyn ei ddefnyddio wedyn gan y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau polisi eraill i nodi nifer o feysydd i ganolbwyntio eu gwaith craffu ar y gyllideb o'u cwmpas nhw. Yn lle hynny, eleni rŷn ni wedi ymgysylltu ar-lein er mwyn ceisio safbwyntiau o ran yr hyn y mae rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn credu y dylai blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru fod. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein harolygon barn ni yn hynny o beth. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod yr ymarfer ymgysylltu hwn yn gyfyngedig, wrth gwrs, o ran cwmpas gan mai sampl hunanddewis, heb ei seilio ar sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth, a ddefnyddiwyd. Fodd bynnag, mae'n rhoi cipolwg diddorol i ni ar safbwyntiau gwahanol bobl, ac rŷm ni wedi nodi nifer o feysydd yr hoffem ni ganolbwyntio arnyn nhw yn sgil hynny.
Roedd sylwadau a gafwyd o'r gwaith ymgysylltu yn dangos bod y gwasanaeth iechyd ac addysg yn feysydd blaenoriaeth allweddol, gydag un cyfranogwr yn nodi bod angen mwy o fuddsoddiad cychwynnol mewn iechyd ac addysg i helpu i ysgogi diwylliant o ffyrdd o fyw’n iach i leihau'r straen ar y gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol, ac wrth gwrs i ryddhau cyllidebau yn y tymor hir. Yn amlwg, bydd effaith COVID-19 yn fater i Lywodraeth Cymru wrth bennu ei chyllideb nesaf. Roedd 49 y cant o'r cyfranogwyr o'r farn y dylid gwneud newidiadau sylweddol i'r swm sy’n cael ei wario ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a'r blynyddoedd i ddod o ganlyniad i'r pandemig. Fodd bynnag, doedd dim llawer o awydd ymhlith y cyfranogwyr i godi trethi er mwyn cynyddu'r swm sydd gan Lywodraeth Cymru i’w wario yng Nghymru. Roedd rhai yn dadlau y byddai lleihau trethi yn ysgogi mewnlif cyfalaf a gwariant domestig. Fe gafwyd ymateb cadarnhaol o ran mwy o fenthyca er mwyn manteisio ar gyfraddau llog sydd, wrth gwrs, is nag erioed, ac rŷm ni wedi cefnogi cais y Gweinidog am hyblygrwydd dros fenthyca a mynediad at gronfa wrth gefn Cymru yn ein hadroddiad diweddar ar y gyllideb atodol. Fodd bynnag, gwnaeth 27 y cant o'r cyfranogwyr hepgor y cwestiwn am drethiant a benthyca, a gallai hyn fod yn arwydd o’r ffaith bod angen i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon wneud mwy i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch datganoli cyllidol yng Nghymru.
Roedd cyfranogwyr yn teimlo'n gryf y dylai newid hinsawdd a chynaliadwyedd gael eu hystyried mewn penderfyniadau ar wariant gan Lywodraeth Cymru. Roedd cyfranogwyr yn credu y dylid canolbwyntio ar drafnidiaeth werdd, gan ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gerdded, i feicio neu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, er mwyn sicrhau buddion iechyd a hefyd i leihau’r baich ar wasanaethau iechyd. Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill y llynedd, ac mae'n amlwg bod cyfleoedd i fanteisio ar y newidiadau helaeth mewn ymddygiad dynol o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws i ddefnyddio’r gwariant yng nghyllideb 2021-22 i fwrw ymlaen ag adferiad gwyrdd o COVID-19.
Roedd datganiad yr haf yr wythnos diwethaf yn cynnwys rhywfaint o arian ychwanegol, sydd i’w groesawu, mesurau megis y bonws cadw swyddi a chymorth i'r sector lletygarwch a thwristiaeth. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod risgiau sylweddol i economi Cymru, ac mae angen mwy o fuddsoddiad yn ogystal ag ystod o bolisïau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i lywio’r economi allan o ddirwasgiad. Mae'n hanfodol bod gan Lywodraeth Cymru fwy o sicrwydd o ran cyllid a mwy o hyblygrwydd hefyd i gael mynediad at fenthyciadau a chronfeydd wrth gefn i gyflawni hyn.
Mae hyn oll, ynghyd â'r ansicrwydd ynghylch sut y bydd argyfwng COVID-19 yn parhau, ac ansicrwydd o ran yr arian sydd ar gael i Gymru, yn ei gwneud yn bwysicach fyth i ni gael y ddadl yma heddiw. Mae angen inni ddefnyddio'r cyfle hwn i ystyried yn ofalus pa fath o economi, pa fath o wasanaethau cyhoeddus a chymdeithas rŷn ni'n dymuno eu gweld wrth inni ddod allan o'r argyfwng yma a beth y gallai hyn ei olygu o ran blaenoriaethau a phenderfyniadau buddsoddi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.
Gyda’n gilydd, mae angen inni sicrhau bod y gyllideb yn cael ei defnyddio mor effeithiol â phosibl er mwyn diwallu anghenion Cymru yn y ffordd orau, i sicrhau bod y boblogaeth yn iach, yn addysgedig, ac yn ddiogel, a bod yr economi'n adfer ac yn ffynnu. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn, felly, at glywed cyfraniadau'r Aelodau eraill i'r cyfle yma sydd i drafod y mater yma y prynhawn yma.
Yn rhy aml, y peth amlwg i'w wneud yn y dadleuon hyn yw rhestru'r holl flaenoriaethau sy'n eich wynebu chi neu eich etholaeth. Yn hytrach na darllen rhestr o feysydd lle'r wyf i'n credu y byddai gwariant ychwanegol yn helpu Blaenau Gwent—boed yn addysg, iechyd, cymorth busnes, llywodraeth leol neu hyd yn oed lliniaru effaith Brexit 'heb gytundeb' trychinebus, yr hyn yr hoffwn i ei wneud y prynhawn yma yw gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol a chanolbwyntio ar sut yr wyf i'n credu y dylai'r Llywodraeth fod yn mynd ati yn y cylch cyllideb hwn, a rhai o'r camau a fyddai'n deillio o'r pwyntiau egwyddor hynny.
Mae pennu cyllideb heddiw yn wahanol iawn i'r broses o bennu cyllideb pan gefais fy ethol gyntaf, 13 mlynedd yn ôl, pan oedd pennu cyllideb yn ei hanfod yn ymwneud â gwneud penderfyniadau gwario—penderfyniadau ynghylch ble y byddai gwahanol rannau o'r gyllideb yn cael eu gwario. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni bennu cyllideb fantoledig, ac mae'n rhaid i ni ystyried sut yr ydym yn codi arian yn ogystal â sut yr ydym yn gwario arian. Ac mae hynny yn galw am broses gyllidebol wahanol iawn. Mae hefyd yn mynnu bod y lle hwn yn gweithredu mewn ffordd wahanol. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ymchwilio i gyllideb a phroses ariannol ddeddfwriaethol. Rwy'n credu bod yr amser hwnnw wedi dod. Dywedodd y Prif Weinidog, yn ei dystiolaeth, y daw'r amser ar ryw adeg. Rwyf i'n credu bod yr amser wedi dod heddiw pan ddylem ni fod yn rhoi systemau a strwythurau priodol ar waith ar gyfer craffu ar bob gwariant a phob elfen o godi trethi. Nid wyf i'n credu ei bod yn iawn ein bod yn trethu pobl yn y wlad hon heb basio darn o ddeddfwriaeth sy'n gosod y sail ar gyfer hynny. Mae angen mwy o oruchwyliaeth arnom ni a mwy o atebolrwydd o ran pennu cyllidebau, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod gennym ni gylch cyllideb deddfwriaethol sydd wedi ei sefydlu yma mewn statud, a hynny, mae'n debyg, ar ddechrau'r Senedd nesaf. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi sylw i hynny.
Ond wrth fwrw ymlaen â hynny, rwy'n credu bod rhai egwyddorion y mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn yn eu cylch. Mae llawer o bobl wedi sôn am ddychwelyd i normalrwydd ar ôl yr argyfwng COVID, ond gadewch i mi ddweud hyn: i lawer o bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli yn y wlad hon, nid oedd yr hen normal yn brofiad hapus iawn. Nid oedd yn brofiad hapus iawn i fod yn gweithio dwy neu dair swydd wahanol am yr isafswm cyflog, gyda thelerau ac amodau ofnadwy. Nid oedd yn brofiad da iawn i fod yn byw mewn tai gwael, heb unrhyw ymdeimlad o ddyfodol y gallem edrych ymlaen ato. Mae angen normal newydd arnom ni sy'n well na'r hen normal—normal newydd lle gallwn ni ddal bysiau a gweithio mewn cyflogaeth ddiogel am gyflog teilwng a lle mae telerau ac amodau teilwng. Ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod cynaliadwyedd yn elfen gwbl ganolog i'r penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud.
Roeddwn i wedi siomi'n fawr fod y Gweinidogion cyllid blaenorol—nid y deiliad presennol—wedi gwrthod yn llwyr cynnwys cynaliadwyedd yn un o egwyddorion arweiniol allweddol penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y gyllideb. Rwy'n gobeithio y caf i fwy o lwyddiant gyda'r Gweinidog cyllid hwn nag yr wyf i wedi ei gael gyda'i rhagflaenwyr, ond byddwn i'n sicr yn dadlau bod cynaliadwyedd yn allweddol i'r gyllideb. Ond yn ail, ac yn drydydd hefyd, mae cyfiawnder cymdeithasol, tegwch, cydraddoldeb a deall beth fydd y dyfodol. Yn rhy aml o lawer pan fyddwn yn pennu ein cyllidebau, rydym yn ystyried yr hyn a gafodd ei wario y llynedd ac wedyn yn ceisio ei gynyddu rhywfaint neu, o bosibl, ei leihau rhywfaint y flwyddyn nesaf. Rwyf i'n credu bod angen i ni edrych yn fanwl ar beth fydd y dyfodol. Rydym ni'n gwybod y byddwn yn gweld newid diwydiannol sylweddol yng Nghymru o ganlyniad i newid technolegol. Fe wyddom ni fod COVID eisoes wedi newid y ffordd y mae llawer ohonom ni'n ymddwyn, a bydd rhai o'r newidiadau hynny yn barhaol. Mae angen i ni allu edrych yn fanwl a deall y dyfodol hwnnw, ac yna gwneud penderfyniadau sydd â'u gwreiddiau yn egwyddorion gwleidyddol cynaliadwyedd, tegwch a chydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ac wedyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut yr ydym yn gwario yr arian sydd ar gael i ni.
Ond rwyf i hefyd yn awyddus i weld polisi treth yn rhan ganolog o hyn. Nid wyf i o'r farn y gallwn ni gyflawni ein huchelgeisiau o fewn y cwantwm cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Dorïaidd yn Llundain nad yw'n rhannu ein hegwyddorion, yr un gwerthoedd a'r un gweledigaethau, ac mae angen i ni fod yn barod i ddadlau hynny drwy broses yn y fan yma wrth bennu cyllideb.
Felly, beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Dirprwy Lywydd dros dro, rwyf i'n dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn pobl, mewn lleoedd, mewn swyddi, mewn ansawdd bywyd. Rwyf i'n dymuno ein gweld yn buddsoddi yn nyfodol canol trefi, ac mae angen i'r rhain fod yn wahanol iawn i'r hyn yr oedden nhw pan oeddwn i'n ifanc. Ni fydd y canol trefi hynny o flynyddoedd fy ieuenctid yn y Cymoedd fyth yr un fath eto. Mae angen i ni ail-ddyfeisio hynny ac mae angen i ni allu ariannu hynny. Mae angen i ni fuddsoddi yn ein cymunedau, felly maen nhw'n lleoedd lle gall pobl deimlo'n ddiogel a lle rydym ni bobl eisiau byw ac yn mwynhau byw. Rydym ni hefyd yn gweld nifer enfawr o ddiswyddiadau ar hyd a lled y wlad, ac nid dim ond y diswyddiadau yr ydym yn eu gweld yn y penawdau, ond pobl yn colli eu swyddi mewn cwmnïau bach a busnesau nad ydyn nhw'n cyrraedd y penawdau, ond gyda'i gilydd sy'n newid llawer o gymunedau a bywydau llawer o bobl.
Rwy'n gobeithio y byddwn ni—ac wnaf i ddim trethu eich amynedd, Llywydd dros dro; fe ddywedaf i hyn i gloi—y gall y Llywodraeth weithredu'n gyflym, yn ystwyth ac ar fyrder. Nid oes gennym ni'r moethusrwydd o fod â digon o amser ar gael i ni, ac nid oes gan lawer o'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli y moethusrwydd o fod â digon o amser ar gael iddyn nhw. Nid yw'n ddigon da gwneud areithiau am yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld; mae angen cyllideb arnom ni a fydd yn cyflawni'r hyn y mae angen i ni ei weld. Diolch.
Iawn. Os byddwn yn cadw at bum munud neu oddeutu hynny, byddaf i'n gallu cynnwys pawb. Mae gen i dri aelod Llafur arall sy'n dymuno cyfrannu ac rwy'n awyddus iawn i'w galw nhw. Nick Ramsay.
Rwy'n deall, Cadeirydd; byddaf i'n gryno. Diolch, ac rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon ac, yn wir, i ddilyn y Gweinidog emeritws—mae bob amser yn dda gwrando ar yr hyn sydd gan Alun Davies i'w ddweud. Roedd yn ddoniol braidd pan ddywedsoch chi, Alun, eich bod yn gobeithio y caech chi fwy o lwyddiant gyda Rebecca na'i rhagflaenydd, gan mai ei rhagflaenydd, wrth gwrs, oedd y Prif Weinidog, felly rwy'n tybio y bydd angen i chi siarad ag ef hefyd ynghylch gwneud yn siŵr bod rhai o'r materion hynny ynglŷn â chynaliadwyedd yn wirioneddol gyfrif yn y dyfodol.
Mae cael y ddadl hon cyn proses Llywodraeth Cymru o bennu'r gyllideb ddrafft yn sicr yn ffordd wahanol o wneud pethau; nid wyf i'n cofio pryd yr ydym ni wedi cael y math hwn o ddadl, y math hwn o drafodaeth o'r blaen. Ac wrth edrych ar yr agenda, mae 2021-22 yn ymddangos yn bell i ffwrdd ar lawer ystyr, ond gall y Senedd hon gyfrannu rhywfaint at y broses honno nawr, ac rwy'n credu ei bod hi'n beth da ein bod ni yn ceisio gwneud rhyw fath o gyfraniad at hynny.
O ran y mater a gododd Alun Davies ynghylch symud at broses cyllideb ddeddfwriaethol, mae hyn yn rhywbeth yr oedd gen i feddwl agored yn ei gylch am gyfnod hir, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef, wrth i amser fynd heibio, fod cryfder y ddadl dros Fil cyllid priodol i amrywio trethi, ac yn y blaen, wedi fy argyhoeddi ei bod yn ffordd dda o fynd ati. Fel y dywedodd Alun, mae hyn yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn ei ystyried yn fanwl ar hyn o bryd, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni wneud mwy o waith arno ac yn rhywbeth y dylem ni ei argymell fel ffordd dda o fynd ati yn y dyfodol, yn enwedig wrth i bwerau trethu y Cynulliad ymsefydlu ac ehangu.
Wrth gwrs, yr anhawster o gael y ddadl hon ar hyn o bryd, er ein bod ni yn ceisio cynnal dadleuon mor normal ag sy'n bosibl, yw cefndir y pandemig a natur y sefyllfa sy'n parhau. O ran y broses o bennu'r gyllideb nesaf ar gyfer Llywodraeth Cymru, bydd llawer yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd dros weddill y flwyddyn hon, yn ystod yr hydref ac, yn wir, wrth symud drwy'r blynyddoedd nesaf o ran y pandemig ac a fydd ail gynnydd sydyn.
Ac wrth gwrs, ar wahân i hynny, rydym ni yn awyddus i ail-adeiladu yn well, ymadrodd a ddefnyddiais yn gynharach yn y cwestiynau, ac sy'n un da yn fy marn i. Rwy'n credu ei fod yn esbonio'n gwbl eglur sut y dylem ni fel Senedd, a sut y dylai Llywodraeth Cymru, geisio ailadeiladu'r economi. Mae'n fwy na dim ond mater, fel sydd newydd gael ei ddweud, o fynd yn ôl at yr hen normalrwydd. Rydym ni'n awyddus i ddod allan o'r pandemig hwn drwy adeiladu ar gyfer y dyfodol mewn modd mwy cynaliadwy nag a wnaethom ni yn y gorffennol, a manteisio ar y cyfleoedd sydd wedi eu cyflwyno ac nid ymateb yn unig i rai o'r heriau, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ei wneud.
Felly, dylai cyllideb Llywodraeth Cymru fod yn dangos ymrwymiadau clir i'r broses honno o ailadeiladu mewn modd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol bod cynaliadwyedd yn ganolog i bob agwedd ar waith y Llywodraeth, gan gynnwys y gyllideb, ond yn llawer rhy aml nid fel yna y mae hi. Mae argyfwng yr hinsawdd wedi gwneud hyn yn hanfodol; byddwn yn aml yn sôn am yr argyfwng newid yn yr hinsawdd, ond yn rhy aml, nid yw'n argyfwng sy'n cael y math o sylw a phwyslais y dylai eu cael mewn gwirionedd. Felly ie, dylai'r rhain i gyd fod wrth wraidd y broses o bennu cyllideb, nid dim ond yn ychwanegiad ar y diwedd, dylen nhw gael eu cynnwys ar y dechrau a thrwy gydol y broses. Ac os, am ba reswm da bynnag, bydd angen i Lywodraeth Cymru wyro, neu'n teimlo bod angen iddi wyro oddi wrth rai o'r egwyddorion hynny, yna iawn, ond mae angen i ni fel Senedd gael gwybod am hyn ac mae'n rhaid iddo fod yn dryloyw pam mae hynny'n digwydd. Mae'n rhaid i broses y gyllideb ddrafft nesaf wneud yr economi yn fwy gwyrdd wrth i ni ail-godi o'r pandemig.
Rwy'n credu bod band eang—fe wnes i sôn am hyn yn gynharach; dyma fydd fy mhrif sylw heddiw—yn gwbl hanfodol. Gallwn, fe allwn ni wella'r rhwydwaith ffyrdd, gallwn, fe allwn ni wella'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae'r rhain i gyd yn bethau y dylem ni fod yn eu gwneud. Ond os byddwn ni'n cael y band eang a'r seilwaith digidol yn iawn ar y dechrau, yna ni fydd angen i ni greu yr un lefel o gapasiti a chynnal yr un lefel o gapasiti ag yr ydym ni wedi gwneud yn y gorffennol. Mae llawer gormod o ardaloedd yng Nghymru wledig o hyd heb ddarpariaeth band eang ddigonol. Mae camgymeriadau wedi eu gwneud yn y gorffennol wrth ymdrin â rhai o'r contractau hynny, ac mae angen cywiro hynny. Rwy'n gobeithio bod cyllideb 2021-22 yn cynnwys penderfyniad gwirioneddol, ar bob lefel ac ar draws adrannau, i gael seilwaith band eang y wlad hon yn iawn, i ddarparu ar gyfer y mannau gwan, ac i geisio cael hyd at 100 y cant o signal gymaint ag y bo modd, ond signal dibynadwy hefyd.
Byddaf i yn dweud, i ddod i gasgliad, Cadeirydd, o ran rhai o'r pethau yr hoffai'r Ceidwadwyr Cymreig eu gweld, wel, rydym ni wedi bod yn dadlau ers tro bod angen ailgyfeirio gwariant er mwyn creu cronfa adfer yr economi ar ôl COVID. Hoffem ni weld cronfa o £250 miliwn y gellid ei defnyddio i helpu trefi a chymunedau ledled Cymru. Mae dadl gref hefyd, rwy'n dal i ddweud, dros ddileu ardrethi busnes i fusnesau hyd at werth ardrethol o £15,000, i roi hwb i'r economi ac i gefnogi busnesau ar yr adeg hon a rhoi arian iddyn nhw fuddsoddi yn eu gweithlu ac yn y dyfodol. Rydym ni hefyd wedi dweud y byddem ni'n creu parthau sy'n rhydd rhag ardrethi busnes, gyda gwyliau ardrethi busnes am hyd at dair blynedd ar gyfer busnesau sy'n gymwys i fynd i'r parthau hynny. Dim ond rhai meysydd yw hynny yr ydym ni'n credu y gellid eu cynnwys yn y gyllideb nesaf.
Ond ar wahân i gynnwys gwirioneddol y gyllideb honno, rwyf i'n credu bod hon yn ffordd dda iawn o symud ymlaen. Rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn yn cael mwy o drafodaethau ar ddechrau'r broses o bennu cyllideb y Senedd, er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o safbwyntiau'r Senedd hon ar y cyfle cyntaf i lunio'i chyllidebau.
Rwyf i hefyd yn falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi. Mae hyn yn golygu nad ydym ni'n ymateb i gyllideb ddrafft, ond yn cynnig awgrymiadau i'w hystyried. Mae hefyd yn golygu y gall pleidiau gwleidyddol eraill lunio eu cynigion cyllideb eu hunain. Yn anffodus, hyd yn hyn, y cyfan a gawn yw galwadau am drethi llai yn fan hyn a chynnydd yn y gwariant yn y fan yna. A gaf i annog y Ceidwadwyr a Plaid Cymru i lunio cyllideb fel y gallwn ni ei thrafod yn rhan o broses y gyllideb, yn hytrach na gwneud dim byd ond dweud, 'Rydym ni eisiau trethu'n llai a gwario'n fwy'? Nid oes angen iddi fod yn ddim mwy na phrif symiau ar gyfer y prif feysydd gwariant ac unrhyw newidiadau mewn trethiant.
Bydd cyllideb eleni yn wahanol oherwydd effaith COVID arni. Mae COVID wedi newid y ffordd y mae llawer ohonom ni yn gweithio ac yn siopa. A yw hyn yn newid tymor byr? Ydy pobl yn mynd i roi'r gorau i siopa ar-lein a mynd yn ôl i'r siopau? Ydy pobl yn mynd i beidio â gweithio gartref a dychwelyd i'w swyddfeydd? Nid ydym ni'n gwybod. Rwyf i'n disgwyl y bydd rhai yn gwneud ond y bydd rhai na fyddan nhw'n gwneud, ond yn sicr bydd yn wahanol. Mae'r sector manwerthu wedi wynebu ailstrwythuro busnes ar raddfa fawr—85,000 o swyddi wedi eu colli, dros 9,000 o swyddfeydd wedi eu cau—ond er gwaethaf hyn, mae gwerthiannau ar-lein yn parhau i dyfu, gan gyrraedd 21 y cant o gyfanswm y gwerthiannau. Yn yr un modd, o ran gweithio gartref: tuedd o dwf araf mewn gweithio gartref i naid anferth yn ystod y cyfyngiadau symud.
Mae perygl y bydd y Cynulliad yn cytuno ar gyllideb a fydd yn gweithio ar gyfer y llynedd, ond na fydd yn gweithio ar gyfer eleni—rydym ni'n datrys problemau y llynedd. Y peth cyntaf am gyllideb yw'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni, ac rwyf i'n dweud ein bod ni eisiau cenedl werdd, ffyniannus ac iach. Wel, ni fyddwch yn pleidleisio yn erbyn hynny, na fyddwch? Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud—. Beth ydym ni'n mynd i geisio ei wneud a beth ydym ni'n anghytuno ag ef?
A gaf i ddechrau gyda'r economi? Mae darparu cymhellion ariannol i ddod â ffatrïoedd cangen i Gymru wedi arwain at sawl canlyniad anhapus. Os oes rhaid i chi lwgrwobrwyo cwmni i ddod yma, gallaf i ddweud wrthych chi: nid ydyn nhw'n dymuno dod. Dim ond oherwydd eich bod chi'n eu llwgrwobrwyo maen nhw'n dod ac os ydyn nhw'n cael gwell cynnig yn rhywle arall, maen nhw'n gadel. Rydym ni i gyd yn gwybod am enghreifftiau o hyn. Roedd Vincent Kane yn arfer siarad am 25 i 30 munud ynghylch yr holl gwmnïau a ddaeth, ond na wnaeth greu'r swyddi y gwnaethon nhw eu gaddo ac yna gadael yn y pen draw.
Rwy'n cofio Gweinidog yn y Llywodraeth yn dweud bod gennym ni'r cymhellion ariannol gorau ar gyfer mewnfuddsoddi—mae'n wir mae'n debyg. Roedden nhw'n ystyried hynny yn arwydd mawr o gryfder—ni oedd y gorau. Roeddwn i yn ei ystyried yn arwydd o wendid. Yn syml, os oes rhaid i chi gynnig cymhelliad ariannol mwy na neb arall, yna, pan ddaw rhywun, byddant yn gadael pan fydd rhywun arall yn gwneud cynnig gwell.
Pa fath o gymhellion ariannol ydyn nhw'n eu rhoi yng Nghaergrawnt? Pa fath o gymhellion ariannol ydyn nhw'n eu rhoi yn Silicon Valley? Nid ydyn nhw, oherwydd bod pobl yn dymuno mynd yno. Ein problem ni yw bod angen i ni greu economi, mae angen i ni greu gweithlu medrus er mwyn i bobl ddymuno dod yma. Byddaf yn rhoi dwy enghraifft i chi. Ydych chi'n cofio LG yn y 1990au? Cafodd cyllideb gyfan Awdurdod Datblygu Cymru ei defnyddio i ddod ag LG yma. Ni fu diweddglo da iawn i'r hanes, na fu? Cymharwch hynny ag Admiral—cwmni newydd drwy gyllid egino. Roedd diweddglo da iawn i'r hanes yna. Mae angen i ni feithrin ein heconomi ac i wneud hynny mae angen i ni fuddsoddi mewn addysg a defnyddio llwybrau ymchwil a phrifysgolion i dyfu'r economi. Dyna beth sy'n digwydd yng ngweddill y byd. Pam nad ydym ni'n ymuno yn y drefn, wn i ddim.
Arian sy'n cael ei wario ar addysg yw'r gwariant datblygu economaidd gorau o bell ffordd. Gyda gweithlu medrus a hydddysg, bydd cwmnïau yn dymuno dod yma, heb i ni orfod dweud, 'Dyma'r arian.'
Mae nifer o bethau da wedi eu gwneud yn ystod argyfwng COVID. Yn gyntaf, mae digartrefedd ar y stryd wedi diflannu bron yn llwyr. Nid wyf i, na llawer o bobl eraill yn y Siambr hon, yn dymuno iddo ddychwelyd ar ôl COVID. Rydym ni wedi cael dadleuon hir yn y fan yma, yn drawsbleidiol, gan eich cynnwys chi, Llywydd dros dro, ynghylch y ffaith nad oes arnom ni eisiau digartrefedd ar y stryd ac y dylem ni fod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Wel, daeth COVID, ac fe lwyddon ni i wneud hynny. Allwn ni ddim mynd yn ôl. Os gallwn ni fynd i'r afael â digartrefedd ar y stryd yn ystod argyfwng COVID, yna gallwn ni fynd i'r afael ag ef mewn cyfnod nad yw'n argyfwng.
Yn ail, rydym ni wedi darparu bwyd i blant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau. Rwyf i wedi bod yn gofyn am hyn yr holl amser rydym ni wedi bod yma. Mae hyn wedi digwydd eleni. Mae'n rhaid iddo barhau.
Yn drydydd, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yn ystod y pandemig yw pa mor bwysig yw llywodraeth leol a pha mor dda yw llywodraeth leol a sut y mae llywodraeth leol wedi perfformio'n eithriadol o dda yn ystod hyn.
Rhagfynegiadau: y gyllideb iechyd fydd yn cael y cynnydd mwyaf a'r lleiaf o graffu o ran canlyniadau. Beth fydd iechyd yn ei wneud gyda'r arian ychwanegol? Mae angen i ni gael canlyniadau iechyd a gwelliannau iechyd. Dylai pob ymyriad wella bywyd y claf. Yn rhy aml, mae llawdriniaeth yn llwyddiannus, nid yw'r claf yn gallu mynd adref, felly mae'n gorfod mynd i gartref nyrsio. Nid wyf i'n siŵr mai llwyddiant yw hynny, ond rwy'n siŵr y bydd ysbytai a meddygon ymgynghorol yn dweud mai llwyddiant ydyw oherwydd bod y llawdriniaeth wedi gweithio.
Yn olaf, mae angen i ni warchod cynefinoedd a'r amgylchedd, ac mae llawer o hyn yn ymwneud llawer yn fwy ag agwedd nag arian. Gellir gwneud llawer o'r pethau hyn gydag ychydig iawn o arian, ond ymrwymiad gwirioneddol, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau meddwl ar y trywydd hwnnw.
Cadw amser rhagorol. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma. Diolch i'r Pwyllgor Cyllid am ddod â'r ddadl yma gerbron. Yn anffodus, oherwydd amser eleni yn y lle yma, dydw i ddim yn gallu bod yn Aelod o'r Pwyllgor Cyllid bellach ac rwy'n gresynu at hynny, ond rydw i yn ddiolchgar bob amser am waith trylwyr y pwyllgor wrth roi ystyriaeth i'r blaenoriaethau sydd o'n blaenau ni mewn cyd-destun newydd iawn.
Fel bob amser, mae yna ystod eang o flaenoriaethau wedi cael eu nodi gan y rhai a wnaeth ymateb i waith ymgysylltu'r pwyllgor, ond nid cyfnod normal ydy hwn, felly gall y blaenoriaethau ddim bod yn rhai normal ychwaith. Mae gennym ni gyd-destun di-gynsail, yn dilyn pedwar mis di-gynsail, sy'n mynd i olygu llawer mwy na phedwar mis o gyfnod anodd o'n blaenau ni. Mae canlyniadau a goblygiadau'r hyn rydyn ni wedi bod yn byw drwyddo fo, ac yn parhau i fyw drwyddo fo, yn mynd i fod efo ni o ran penderfyniadau gwariant am flynyddoedd i ddod.
Mae'n rhaid, dwi'n meddwl, inni fod yn feiddgar yn ein hymateb i'r sefyllfa yma. Mae yna gymaint o bethau unigol yn ein bywydau ni—edrychwch o'n cwmpas ni—sydd wedi newid yn sgil y pandemig yma. Mae yna bethau rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni eu rhoi nhw y tu cefn inni mor fuan â phosib, a dychwelyd i normalrwydd, mae yna bethau eraill rydyn ni gyd yn gobeithio fydd yn aros efo ni am yn hir—o brofiadau positif rydyn ni wedi eu dysgu, a'r newidiadau mewn meddylfryd sydd wedi dod i'r amlwg dros y misoedd diwethaf. A dyna fuaswn i'n leicio ei weld yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd mae cyllidebu yn digwydd o fewn Llywodraeth Cymru ac yn sgrwtini ein Senedd ni ohono fo.
Mae yna bethau penodol iawn, fel ein dealltwriaeth ni, unwaith eto, o werth llywodraeth leol. Fel dywedodd Mike Hedges, mae eisiau sicrhau ein bod ni, drwy brosesau cyllido, yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni unwaith eto wedi dod i werthfawrogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan lywodraeth leol. Mae eisiau cofio bod gofal tuag at eraill wedi dod yn commodity mwy gwerthfawr yn ein meddyliau ni gyd erbyn hyn. Tra dwi i wedi bod, ym Mhlaid Cymru, yn galw am fabwysiadu prosesau cyllido llesol—well-being budgeting—fel sydd wedi bod yn digwydd mewn gwledydd eraill—dwi wedi bod yn galw am hyn ers tro—mae yna gyd-destun gwahanol i hynny rŵan, dwi'n meddwl. Ac mae meddwl am wneud penderfyniadau gwariant mewn ffordd sydd go iawn yn ystyried pa effaith mae'r rhain yn mynd i gael ar bobl a'u hamgylchiadau nhw yn dod yn fwy pwysig nag erioed—am wn i, bod penderfyniadau ar wariant ar faterion amgylcheddol yn rhan o hynny.
Rydyn ni wedi dod i werthfawrogi y byd o'n cwmpas ni a'r bygythiad i'r byd o'n cwmpas ni mewn ffordd wahanol yn ystod y pandemig yma. Felly, tra mae llawer ohonon ni wedi bod yn galw am flaenoriaethu'r gwariant a'r ymateb i'r argyfwng hinsawdd, mae hynny wedi dod yn fwy pwysig rŵan. A beth mae'r gwaith ymchwil gan y Pwyllgor Cyllid yn ei wneud ydy dangos yn gryf iawn fod pobl am i hynny gael ei adlewyrchu yng nghyllidebau Cymru. Os ydw i'n cofio'n iawn, roedd 78 y cant o'r rheini wnaeth ymateb i'r pôl ar Twitter—. Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn gallu rhoi gwerth llwyr ar bethau felly, ond mae o'n rhoi arwydd inni fod bron i 80 y cant yn meddwl y dylai penderfyniadau amgylcheddol fod yn gyrru penderfyniadau ar wariant ac ar y gyllideb.
Mae yna bethau penodol y gallwn i sôn amdanyn nhw y buaswn i'n dymuno eu gweld mewn cyllideb sy'n ymateb i'r argyfwng—pethau fel guarantee cyflogaeth i bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed; arian ar gyfer ailsgilio Cymru yn sgil yr argyfwng yma, a'r angen i daro nôl yn economaidd a sgilio ein pobl ifanc i wneud hynny; yr angen am gael cronfa i adnewyddu Cymru—biliynau o bunnau, a rhagor o allu benthyca er mwyn delifro'r rheini. Ac mi fyddaf i'n annog a chefnogi'r Llywodraeth wrth wthio am newidiadau i'n rheolau fiscal ni i sicrhau ein bod ni yn gallu gwneud y buddsoddiadau hynny rŵan, yn y cyfnod sydd i ddod, achos rŵan rydyn ni angen edrych ar bethau mewn ffordd wahanol ac adeiladu Cymru sy'n ffit ar gyfer y dyfodol.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro, am y cyfle i wneud cyfraniad byr yn y ddadl bwysig hon a groesewir yn fawr. Rwy'n credu ei fod yn fenter ardderchog, un yr wyf i'n gobeithio y gallwn barhau â hi, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando'n astud ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i sylwadau'r Aelodau.
Rwy'n cydnabod y bu'r pandemig yn gyfnod heriol iawn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau cyllidebol. Rydym ni'n gwybod bod cyllidebau o dan bwysau aruthrol ac rwy'n credu ei bod hi'n ddealladwy y bu'r Llywodraethau yn awyddus i wneud penderfyniadau cyflym i wario arian er mwyn gwneud gwahaniaeth. Ond nid yw hynny bob amser yn golygu mai'r penderfyniadau cywir yw'r rhai hynny.
Un penderfyniad o'r fath yr hoffwn i ei grybwyll heddiw, a thynnu sylw ato fel blaenoriaeth o ran gwariant yn y dyfodol, yw'r £7 miliwn a dynnwyd o'r gronfa trawsnewid iechyd meddwl, ac rwyf i wedi codi pryderon ynghylch hyn o'r blaen yn y Siambr. Ac, yn fy marn i, bu diffyg tryloywder, sy'n peri cryn bryder, ynghylch yr hyn a wnaed gyda'r arian hwnnw. Nawr, rwy'n gwybod bod rhywfaint ohono wedi ei ddyrannu i iechyd meddwl staff oherwydd yr argyfwng COVID, ac mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl briodol—y dylem ni geisio cefnogi iechyd meddwl ein staff sydd wedi bod ar y rheng flaen yn yr argyfwng hwn. Ond fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, rwy'n teimlo'n gryf y dylai'r arian hwnnw fod wedi bod yn arian ychwanegol, ac nid wedi ei dynnu o gronfa drawsnewid hanfodol.
Nawr, mae'r Aelodau yn gwybod fy mod i wedi bod yn ymwneud llawer ag ymgyrchu dros welliannau i wasanaethau iechyd meddwl plant yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a gallaf i ddweud wrth yr Aelodau fod ffordd bell iawn i fynd o ran cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen arnom ni. Nawr, roedd y gronfa honno, yn ogystal â bod ar gyfer plant, ar gyfer oedolion hefyd, a gallaf ddweud wrth yr Aelodau, mewn gwirionedd, fy mod i'n credu bod y sefyllfa o ran oedolion yn waeth o lawer, a bod angen hyd yn oed mwy dybryd am fuddsoddiad parhaus yn y maes hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn sôn llawer am yr angen am gydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol, ond o fy safbwynt i, rydym ni'n bell iawn o fod yn y sefyllfa honno yng Nghymru.
Byddwn i wedi gwneud y sylwadau hynny cyn pandemig iechyd byd-eang, ond mae'r ffaith ein bod ni wedi cael y pandemig hwn yn gwneud y sylwadau hynny yn fwy taer byth. Mae hwn yn bandemig sydd wedi effeithio ar iechyd meddwl pob un ohonom ni—rydym ni i gyd wedi teimlo gorbryder, ofn a thrawma—ond i rai pobl, bydd y pandemig hwn yn arwain at broblemau iechyd meddwl parhaol. Rydym ni wedi cael pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain nad ydyn nhw wedi gweld unrhyw un ers misoedd lawer. Rydym ni wedi cael pobl sydd wedi wynebu profedigaeth yn y sefyllfaoedd mwyaf annormal, lle nad ydyn nhw wedi gallu dal llaw y rhai maen nhw'n eu caru. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ddirwasgiad o'n blaenau ac yn nesáu, ac rydym ni i gyd yn gwybod y cysylltiadau rhwng dirwasgiadau economaidd ac iechyd meddwl gwael, a hyd yn oed hunanladdiad. Felly, nid wyf i'n credu y bu erioed amser pwysicach i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'n wirioneddol amser bellach, yn fy marn i, i'r Llywodraeth roi eu harian ar eu gair o ran dweud y dylai fod cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. A, Gweinidog, dechrau da cyntaf i mi fyddai rhoi'r £7 miliwn hwnnw yn ôl yn y gronfa trawsnewid iechyd meddwl.
Roeddwn i'n dymuno gwneud dau sylw arall ynglŷn ag egwyddorion a ddylai fod yn sail i'r gyllideb. Rwy'n credu mai anghydraddoldeb yw un ohonyn nhw. Mae'r pandemig wedi bod yn un sy'n gwneud i anfantais ymwreiddio. Rydym ni wedi gweld hynny yn y rhai sy'n marw—bron i ddwbl y marwolaethau mewn cymunedau mwy difreintiedig. Rydym ni wedi ei weld yn yr effaith ar y rhai hynny sydd wedi dioddef fwyaf, o ran plant sydd wedi ei chael hi'n anodd mewn teuluoedd tlotach i allu dysgu oherwydd diffyg adnoddau digidol, a hyd yn oed y bobl sydd wedi gallu cadw'n ddiogel drwy weithio gartref. Mae'n hanfodol bod y gyllideb yn cydnabod hynny, ac rwy'n ategu sylw Mike Hedges yn llwyr—nid oes unrhyw fuddsoddiad strategol pwysicach y gallwn ei wneud nag yn addysg ein pobl ifanc. A fu adeg erioed pan fu'r buddsoddiad hwnnw i'n pobl ifanc yn fwy pwysig pan fo'r dyfodol yn edrych mor ddu?
Ac yn olaf, felly, o ran anghydraddoldeb, hoffwn dynnu sylw, unwaith eto, at y materion sy'n ymwneud â chyllid iechyd. Treuliais fy mlynyddoedd cynnar yn y Cynulliad hwn yn ymgyrchu dros fformiwla ddyrannu i'r GIG wedi ei seilio ar anghenion. Yn y pen draw, creodd Llywodraeth Cymru fformiwla Townsend, a oedd i fod i ddyrannu adnoddau i'r cymunedau sydd â'r angen mwyaf am wariant iechyd. Nid yw'r fformiwla honno erioed wedi ei gweithredu yn iawn. Rwy'n credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru edrych o ddifrif ar sut y mae'r penderfyniadau gwariant hynny yr ydych yn eu gwneud yn gweithredu yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Gallaf i ddweud wrthych, yn achos Torfaen, ein bod ni'n teimlo ein bod ni wedi aros yn ddigon hir. Diolch.
Ac yn olaf, cyn i mi alw'r Gweinidog—Rhianon Passmore.
Diolch, Llywydd dros dro. Mae'r rhagolygon ar gyfer economïau Cymru a'r Deyrnas Unedig yn peri gofid. Wrth i Lywodraeth Cymru ystyried ei blaenoriaethau gwario ar gyfer y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-2, na foed i neb yn y Senedd hon esgus nad yw'r rhagolygon economaidd y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu yn ddim ond arswydus ac yn gwbl ddifrifol i Gymru.
Ddoe, diweddarodd y Swyddfa dros Gyfrifoldeb am y Gyllideb ei sefyllfa o ran y coronafeirws ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei hadroddiad ar gynaliadwyedd ariannol. Mae'n cynnig rhagolygon dramatig a brawychus i ni ar gyfer cyllid cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Mae'r Swyddfa dros Gyfrifoldeb am y Gyllideb yn tybio bod 1.8 miliwn eisoes wedi colli eu swyddi, a bod diweithdra yn 9 y cant, o'i gymharu â'r ffigur swyddogol o 3.9 y cant. Mae'r gyfradd hon yn cyrraedd uchafbwynt o 10 y cant wrth i'r cynllun ffyrlo ddod i ben yn y sefyllfa orau, 12 y cant yn y sefyllfa ganolig, a 13 y cant yn y sefyllfa waethaf. Felly, i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yng nghymunedau Islwyn, mae hwn yn rhagolwg brawychus.
Nid yw'r pandemig COVID-19 drosodd eto a bernir bod ail gynnydd mawr yn debygol, ac, wrth i ni edrych tua'r gorwel, rydym ni nawr yn gweld corwynt economaidd yn prysur agosáu, ac mae'n ddyletswydd arnaf i fel cynrychiolydd cymunedau Cymoedd balch Gwent fel Aberbargoed, Trecelyn, Crosskeys ac eraill i fynnu bod y Senedd yn cefnogi'r Llywodraeth hon sydd gan Gymru yn ei phenderfyniad i ddiogelu pobl Cymru, ac rwyf i hefyd yn croesawu cyhoeddiadau heddiw ynghylch cyllid.
Mae Aelodau'r wrthblaid wedi dweud wrthyf i o'r blaen eu bod nhw'n credu mai 'cyni' yw fy hoff air, gan fy mod i'n ei ddefnyddio yn aml, ond mae hynny oherwydd fy mod i'n ffieiddio wrth y polisïau cyni, oherwydd eu bod wedi eu dewis o wirfodd ac maen nhw wedi achosi niwed gwirioneddol ac anghydraddoldeb gwirioneddol. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU o dan Cameron ac Osborne, wedi mynd ati yn ddidrugaredd i ddinistrio bywydau pobl go iawn yn Islwyn heb unrhyw elw a heb unrhyw fudd, ac erbyn hyn mae coed arian hudol gwych—coedwigoedd cyfan—wedi ymrithio. Ond yr hyn sydd o'n blaenau yn economaidd bellach yw perygl a niwed enfawr posibl i Gymru. Drwy ddirwasgiad 2008, y crebachu chwarterol mwyaf yn y cynnyrch domestig gros oedd 2.1 y cant. Yn y tri mis hyd at fis Mai, roedd y cynnyrch domestig gros wedi crebachu 19.1 y cant, sy'n anhygoel. Y tu hwnt i'r ffigyrau diweithdra hyn sy'n gwgu arnom ni, a'r rhagfynegiadau oherwydd C-19, rydym ni fel cenedl hefyd yn wynebu y mater byw a real iawn bod ymadael yn ddisymwth â'r UE o dan delerau 'dim cytundeb' yn debygol a'r golled fasnachol a'r cynnydd cyfatebol mewn tariffau allforio a ragwelir ar gyfer busnes yng Nghymru, a'r cyfan yn arwain at ragfynegiad o fwy o ddirywiad cyffredinol ychwanegol o ran allforion a masnach.
Er gwaethaf trafodaethau brwd dros fasnach ryngwladol yng Nghymru a'r trafodaethau archwiliadol, nid ydym ni wedi clywed dim gan Lywodraeth y DU o hyd ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer yr arian gan yr UE a gaiff ei golli. Mae materion macro-economaidd difrifol o'r fath yn galw am ddull seilwaith er mwyn i Gymru gymryd rhan, fel y dywedwyd, gyda pharch cydradd, yn rheolaidd ac yn gyson, ac y gall hi ryngweithio fel cenedl ddatganoledig mewn modd rynglywodraethol aeddfed â Llywodraeth y DU. Mae prinder mawr yn hyn o beth o hyd, yn anffodus iawn.
Fel aelod o Bwyllgor Cyllid y Senedd, rwy'n croesawu'r ffordd dryloyw a gonest y mae'r Gweinidog cyllid, Rebecca Evans, yn ymwneud â gwaith y pwyllgor a byddaf i hefyd yn cymeradwyo effeithiolrwydd cynlluniau cymhorthdal cyflogaeth Llywodraeth y DU. Ac er fy mod i'n deall bod yn rhaid i'r Canghellor gynllunio ar gyfer dirwyn y cynlluniau cymhorthdal cyflogaeth i ben, mae'n hanfodol y cânt eu dirwyn i ben pan fydd yn amlwg nad yw'r feirws yn berygl i iechyd y cyhoedd mwyach. Fodd bynnag, ni allwn fod yn sicr o gwbl na fydd y pandemig yn fygythiad sylweddol mwyach ym mis Hydref, pan fydd y cynlluniau cadw swyddi o achos y coronafeirws yn dod i ben. Rydym ni'n gwybod beth sy'n debygol.
Rwy'n cefnogi greddf a gweithredoedd Llywodraeth Lafur Cymru sy'n ceisio sicrhau dull ymyraethol o gefnogi busnesau, cymunedau ac unigolion yng Nghymru, fel y dengys cronfa cadernid economaidd Cymru ac ail gam ei chyflwyno. Mae'n galonogol gweld hefyd bod Canghellor y DU yn bwriadu efelychu i bob pwrpas gynllun Twf Swyddi Cymru Llywodraeth Cymru yn ei gynllun swyddi.
Llywydd dros dro, ar ran cymunedau Islwyn, rwy'n annog Llywodraeth Lafur Cymru i lynu wrth ei hegwyddorion sosialaidd ymyraethol er mwyn llywio ei chyllideb ddrafft ac i ddwyn i gyfrif Llywodraeth Dorïaidd y DU o ran maint yr heriau gwirioneddol sy'n wynebu pob un ohonom ni. Wrth i allbwn economaidd gynyddu wrth ddim ond 1.8 y cant ym mis Mai, yn hytrach na'r adlam disgwyliedig o 5.5 y cant, nid yw'n syndod bod economegwyr fel Thomas Pugh yn Capital Economics wedi dweud bod perygl gwirioneddol y bydd yr adferiad cychwynnol yn dirywio yn ail hanner y flwyddyn wrth i ddiweithdra gynyddu a chymorth gan y Llywodraeth gael ei ddiddymu.
Er gwaethaf y pecyn cymorth busnes COVID-19 mwyaf hael o bedair gwlad y DU, rydym ni yng Nghymru bellach yn syllu yn wyneb materion gwirioneddol ddyrys o ymadael 'heb gytundeb' a'r adferiad ar ôl C-19. Rydym ni hefyd, fel y soniwyd, yn wynebu trefniant ariannol islaw'r safon wedi'i seilio ar angen â Llywodraeth y DU a diffyg rhyngweithio aeddfed â Llywodraeth y DU. Mae angen dulliau rhynglywodraethol priodol ac aeddfed ar Gymru a'r DU, nid melysion mympwyol o'r brig i lawr wedi eu taflu o'r bwrdd, i fynd i'r afael yn strategol â'r niferoedd canlyniadol o ddiweithdra nas gwelwyd yng Nghymru ers y 1980au. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i weithio—
Rhianon, rydych chi dros chwe munud, felly rwy'n credu bod hwnnw'n gasgliad naturiol. Felly, galwaf ar y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.
Rwyf i'n croesawu yn fawr y cyfle heddiw i edrych tua'r dyfodol wrth i ni ystyried y ffordd orau o sefydlogi ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus ac ailadeiladu ein cymdeithas ar sail newydd, ac rwyf i'n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle cynnar hwn i glywed syniadau yr ydych yn gwybod y byddaf yn eu hystyried o ddifrif, ac rwy'n gwybod ein bod ni hefyd yn rhannu llawer o'r un nodau wrth sicrhau adferiad Cymru o'r pandemig hwn, ac mae'r arolwg digidol y cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid yn gyfraniad pwysig iawn at y ddadl honno.
Cyn i mi amlinellu'r ystyriaethau sy'n llywio ein cynlluniau, dylem ni gydnabod yr amgylchiadau eithriadol o anodd yr ydym ni'n eu hwynebu a maint yr her ariannol wrth i ni edrych i'r dyfodol. Rydym ni yn y dirwasgiad dyfnaf mewn cof, ac nid yw'r farchnad lafur wedi gweld yr effeithiau gwaethaf eto pan fydd cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn dod i ben. Mae llawer o dystiolaeth erbyn hyn fod y pandemig yn cael effaith anghymesur. Gallai craith diweithdra ar ei ben ei hun effeithio waethaf ar bobl ifanc, y rhai ar y cyflogau isaf, pobl anabl a'r bobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig.
Rydym ni'n wynebu ymadawiad y DU â'r UE heb gytundeb masnach rydd cynhwysfawr, a fyddai'n hynod niweidiol o dan amgylchiadau arferol, a bydd unrhyw beth llai na chytundeb yn gwaethygu difrod y pandemig ac yn gwanhau cyllid cyhoeddus. Mae'n rhaid i ni hefyd barhau i ymateb i argyfwng yr hinsawdd a'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae'r rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus yn adlewyrchu'r cyd-destun hwn, ac fel y dywedodd Rhianon Passmore, mae adroddiad newydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gynaliadwyedd ariannol, a gyhoeddwyd ddoe ddiwethaf, yn ein hatgoffa'n ddifrifol iawn o'r heriau economaidd ac ariannol sydd o'n blaenau. Dangosodd yr adroddiad fod y DU ar y trywydd cywir i gofnodi'r gostyngiad mwyaf mewn cynnyrch domestig gros blynyddol a'r benthyciadau net uchaf yn y sector cyhoeddus mewn cyfnod o heddwch ers o leiaf 300 mlynedd. Disgrifiodd Rhianon Passmore y sefyllfa fel un 'arswydus', ac ni fyddwn i'n anghytuno â hi ar hynny.
Er bod datganiad y Canghellor yr wythnos diwethaf yn cynnwys rhai cyhoeddiadau i'w croesawu, ni wnaeth roi'r hwb sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yr oeddem ni'n gobeithio amdano, na'r arfau ariannol y mae eu dirfawr angen arnom ni. Bydd gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol cadarn yn gwbl hanfodol i adferiad parhaus ac mae hon yn thema sy'n cael ei hadlewyrchu yn ymgysylltiad digidol y Pwyllgor Cyllid a'n harolwg cenedlaethol ein hunain. Ac, wrth gwrs, nododd Lynne Neagle yn hynod glir yr effaith y mae'r argyfwng wedi ei chael ar iechyd meddwl, a bydd angen i'r gwasanaethau iechyd meddwl hynny fod yno i bobl wrth i ni ddod allan o'r argyfwng.
O ran cyllid eleni, mae'n rhaid yn wir i mi egluro'r sefyllfa, ac nid yw'r honiad bod Cymru wedi cael £500 miliwn ychwanegol o'r mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf yn ddim byd ond camarweiniol. Y gwir amdani yw na fyddwn ni ond yn derbyn £12.5 miliwn o symiau refeniw newydd canlyniadol o ganlyniad uniongyrchol i'r mesurau a gyhoeddwyd yn y diweddariad economaidd, a dim cyllid cyfalaf ychwanegol. Hyd yn hyn rydym ni wedi derbyn tua £2.8 biliwn o gyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ac mae rhan helaeth o hwnnw eisoes wedi ei ymrwymo yn rhan o'n hymateb cychwynnol i'r pandemig. Yn syml, nid oes gennym ni ddigon o arian i wneud yr holl bethau y byddem ni'n hoffi eu gwneud na hyd yn oed yr holl bethau yr oeddem ni wedi bwriadu eu gwneud. Bydd maint yr her ariannol sydd o'n blaenau yn fater allweddol i'w drafod yng nghyfarfod Gweinidogion cyllid y pedair gwlad yn ystod yr wythnos nesaf, a byddaf i hefyd yn pwyso am eglurder ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer yr adolygiad cynhwysfawr o wariant a addawyd ers tro.
Gan ragweld na fyddwn yn gwybod ein setliad ar gyfer 2021-22 tan ddiwedd yr hydref, rydym ni eisoes wedi nodi y gallai fod yn bosibl na fyddwn yn gallu cyhoeddi ein cyllideb ein hunain tan ddiwedd y tymor nesaf. Byddaf i'n ysgrifennu at gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar ôl y cyfarfod rhwng y pedair gwlad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y symiau canlyniadol yr ydym ni wedi eu cael ers cyflwyno'r gyllideb atodol.
Gan droi at ein paratoadau cynnar ar gyfer y gyllideb, rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu Cymru ffyniannus o'r pandemig hwn. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dwyn ynghyd ein strategaeth ar gyfer ailadeiladu a bydd ein paratoadau ni yn cyd-fynd â'r gwaith hwn, a byddwch chi wedi gweld bod y datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd ddoe gen i a'r Cwnsler Cyffredinol yn nodi'r egwyddorion a fydd yn ein harwain.
Byddwn yn adeiladu ar y sylfaen sydd wedi ei sefydlu pan fyddwn yn gosod ein cynlluniau ar gyfer 2021 ar gyfer Cymru fwy cyfartal, ffyniannus a gwyrddach. Rydym ni'n awyddus i sicrhau adferiad gwyrdd a fydd yn cynnal Cymru yn y dyfodol, gan adeiladu ar y pecyn cyfalaf o £140 miliwn ar gyfer datgarboneiddio a diogelu ein hamgylchedd gwych. Ac rwy'n gwybod bod hyn yn bryder y mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi ei gydnabod y prynhawn yma, ac mae hefyd wedi ei gydnabod yn helaeth gan y bobl a gymerodd ran ym mhroses ymgysylltu y pwyllgor.
Rwyf i'n awyddus i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau buddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith i greu swyddi, gan barhau i ddatblygu ein cynlluniau buddsoddi uchelgeisiol ar gyfer Cymru gyfan, ac rwyf i wedi clywed yr hyn y mae Nick Ramsay wedi ei ddweud y prynhawn yma ynglŷn â rhai o'r materion hynny. Yn ôl yr hyn yr wyf i wedi bod yn gwrando arno yn ehangach, mae rhanddeiliaid yn dweud eu bod nhw'n dymuno ein gweld yn parhau i ganolbwyntio ar dai, ac yn ychwanegu at y £2 biliwn yr ydym ni eisoes wedi ei fuddsoddi yn ystod y Cynulliad hwn—yn ystod y tymor Senedd hwn—ar dai fforddiadwy o ansawdd da, sydd eisoes wedi ei fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd, ochr yn ochr â chyflawni'r ôl-osodiadau effeithlonrwydd ynni angenrheidiol yn y stoc dai bresennol.
Roeddwn i'n hoffi rhybudd Mike Hedges rhag gwneud cyllideb ar gyfer y llynedd, ac rwy'n credu bod cymaint wedi newid dim ond yn ystod y misoedd diwethaf, onid yw? Mae'r newidiadau dim ond ers ein cyllideb bedwar mis yn ôl yn cadarnhau hynny yn fy marn i. Mae ein cronfa cadernid economaidd eisoes wedi cefnogi dros 9,000 o fusnesau, ac mae'n diogelu dros 77,000 o swyddi gweithwyr. Ac rwy'n credu mai'r hyn yr wyf i'n ei glywed y prynhawn yma yw bod cyd-Aelodau yn dymuno i ni gynyddu'r ymdrechion yn hyn o beth, gan ganolbwyntio ar helpu busnesau, ac yn enwedig y rhai hynny mewn sectorau carbon isel, y rhai hynny sy'n cefnogi ein cwmnïau cartref, er mwyn creu a diogelu swyddi, a'ch bod yn dymuno gweld pwyslais cryf iawn ar sgiliau a chyflogadwyedd, ac yn dymuno ein gweld yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi'r cyfle gorau posibl i bobl ifanc.
Yn rhan o'n cynlluniau ymgysylltu, byddwn ni hefyd yn parhau i sicrhau bod sgwrs genedlaethol, sydd eisoes wedi ei dechrau gan y Cwnsler Cyffredinol, a bydd hynny yn ein helpu i lywio'r dewisiadau anodd y bydd yn rhaid i ni yn ddiamau eu gwneud. Mae'n amlwg eisoes fod yn rhaid i ni fynd y tu hwnt i fusnes fel arfer a chanolbwyntio ar newid ac arloesi. Mae'r coronafeirws wedi newid ein byd, ac, ar ddiwedd cyfnod pontio'r UE, bydd hynny yn ychwanegu at yr her. Ond mae gennym ni gyfle sydd yno i ni lunio adferiad sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. A soniodd Rhun ap Iorwerth am y ffordd y mae'r pandemig wedi newid y ffordd yr ydym yn gwerthfawrogi pethau, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn aelod o'r rhwydwaith o genhedloedd cyllidebu llesiant, ac rydym ni hefyd yn ceisio dylanwadu ar waith Llywodraeth y DU i adolygu Llyfr Gwyrdd Trysorlys y DU, ac rydym ni'n awyddus i weld mwy o bwyslais ar sut yr ydym ni'n gwerthfawrogi—sut yr ydym ni'n rhoi gwerth ar ganlyniadau cymdeithasol a chanlyniadau amgylcheddol yn hynny o beth.
Felly, byddaf i'n ystyried y pwyntiau a wnaed heddiw wrth lunio ein cynlluniau, a byddaf i'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd yn yr hydref. Cyfeiriodd Alun Davies at y broses o wneud penderfyniadau, ac yn fuan iawn rwyf i'n edrych ymlaen at lansio ymgynghoriad ar Fil cyllid posibl ar ddeddfwriaeth dreth, y gellid ei ddwyn ymlaen yn y Senedd nesaf, ac rwy'n gwybod bod hynny yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi mynegi diddordeb arbennig ynddo. Diolch.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Cyn i mi alw ar Gadeirydd y pwyllgor, mae gen i un Aelod a fyddai'n hoffi gwneud ymyriad byr. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd dros dro, a hoffwn i siarad am y llwybr troed gwylaidd, oherwydd yr hyn y mae pobl wedi'i ddarganfod yn ystod y coronafeirws, er ei holl heriau, yw'r llawenydd o gerdded ar eu llwybrau cerdded lleol mewn gwirionedd. Mae wedi helpu yn wirioneddol gyda materion yn ymwneud ag iechyd meddwl hefyd a lles meddyliol, a bydd yr un peth yn wir yn y dyfodol. Ond, oherwydd y blynyddoedd o galedi, rhwng 2014-15 a 2018-19, mae'r cyllidebau ar gyfer cynnal a chadw llwybrau troed wedi gostwng 22 y cant. Erbyn hyn, rydym ni'n gwario 79c y pen yng Nghymru; dylem ni fod yn gwario tua £1. Roeddem ni'n arfer bod—roedd gennym ni enw da am arwain y ffordd o ran cynnal a chadw llwybrau troed ymysg yr holl genhedloedd. Felly, mae'n gais bach, ond, yn y wlad â nawddsant y pethau bychain sy'n bwysig iawn, byddwn i'n dweud wrth y Gweinidog: mewn seilwaith gwyrdd, mewn gwariant amgylcheddol, gadewch i ni wneud ein gorau a rhoi'r arian i gynnal a chadw llwybrau troed ar gyfer ein hawdurdodau lleol a hawliau tramwy—mae'n dda ar gyfer iechyd meddwl, yn dda ar gyfer cynifer o bethau. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Roedd gwerth aros amdano. Galwaf yn awr ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth.
Roeddwn i'n mynd i ddechrau drwy ddweud nad dadl ynglŷn â rhestr siopa o ofynion buddsoddi oedd hwn. Ond, wrth gwrs, mae'n naturiol bod pobl yn teimlo'n gryf am nifer fawr o wahanol feysydd. Ond, nid rhyw fath o lythyr estynedig i Siôn Corn yw'r ddadl yma, wrth gwrs, fel roedd Alun Davies efallai yn awgrymu reit ar y dechrau.
Mae hwn yn gyfle i ni ystyried, wrth gwrs, y newid diwylliannol yna o fod mewn sefyllfa lle rŷn ni wedi bod yn rhannu arian ac yn penderfynu ar sut rŷn ni'n gwario arian, i sut rŷn ni'n mynd i greu cyllid hefyd ein hunain drwy drethi. Mae'r newid yna yn mynd i olygu newid meddylfryd, wrth gwrs, fel sydd yn digwydd yn y broses esblygol yma rŷn ni'n mynd drwyddi fel Senedd, ond hefyd mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn gyfansoddiadol hefyd yn y ffordd efallai rŷn ni'n cyflwyno'r broses gyllidebu yn ehangach. Yn amlwg, mae'r pwyllgor wedi bod yn edrych ar broses ddeddfwriaethol o gwmpas y gyllideb, ac mae hynny yn destun adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ac yn amlwg yn drafodaeth ac yn ddadl y gallwn ni ei chael fan hyn yn yr hydref.
Nawr, mae cynaliadwyedd—mae yna dair C wedi dod drwyddo'n glir yn y ddadl yna. Tair C yn y Gymraeg, beth bynnag, efallai bod e ddim yn gweithio pan rŷch chi'n cyfieithu. Ond, yn sicr, mae cynaliadwyedd wedi dod drwyddo ym mron iawn bob un o'r cyfraniadau; mae cyfiawnder cymdeithasol hefyd wedi bod yn flaenllaw; a chydraddoldeb. A dwi'n meddwl bod y neges yna yn rhyw fath o linyn arian sydd yn gorfod rhedeg drwy ystyriaethau'r Llywodraeth yma pan mae'n dod i baratoi cyllideb, yn enwedig wrth gwrs yng ngoleuni Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'r newid yna yn y dehongliad, yn y disgwrs o gwmpas beth yw gwerth am arian mewn gwirionedd, pan rŷn ni'n edrych ar y modd y mae'r Llywodraeth yma yn gwario ei chyllideb.
Nawr, mae Mike Hedges yn berffaith iawn i ddweud mae COVID wedi newid popeth. Rŷn ni'n gwybod hynny. A fel dywedodd e, dyw cyllideb llynedd yn sicr ddim yn mynd i weithio eleni, a dwi'n cydnabod bod buddsoddi mewn addysg, wrth gwrs, yn un o'r cyfryngau ac un o'r arfau mwyaf pwerus sydd gyda ni o safbwynt mynd i'r afael â'r adfywiad economaidd y byddwn ni angen ei sbarduno yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd.
Ac mae'n iawn i ddweud bod y pandemig yma wedi dangos i ni beth sydd yn bosib pan fydd yr ewyllys gwleidyddol yna i gyflawni pethau, yng nghyd-destun digartrefedd yn sicr. Pwy feddylia, petai gwleidyddion wedi penderfynu bod angen mynd i'r afael â digartrefedd yn y modd y mae hynny wedi digwydd yn y misoedd diwethaf, mi fyddem ni wedi wrth gwrs cyrraedd y pwynt lle rŷn ni arni ar hyn o bryd lawer yn gynt.
Nawr, mi fentrodd e gael ei belen grisial mas a darogan y byddai iechyd yn gweld y cynnydd mwyaf yn ei chyllideb a'r lefel isaf o graffu efallai. Wel, cawn ni weld, cawn ni weld, oherwydd dyna efallai sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
Ac roedd Rhun yn iawn i'n hatgoffa ni o'r rôl mae llywodraeth leol wedi ei chwarae, yn sicr, a'r angen am broses gyllidol llesol fel rhywbeth sydd angen bod yn ganolog yn ein hystyriaethau ni. Ac mae hynny wrth gwrs yn dilyn wedyn i fod yn ystyried rhai o'r meysydd roedd Lynne Neagle yn cyfeirio atyn nhw o safbwynt iechyd meddwl a'r hyn sydd wedi digwydd i'r gronfa trawsnewid iechyd meddwl. Yn sicr, mae'r pandemig yma yn dwysáu yr angen am gefnogaeth i faes iechyd meddwl, heb sôn am y dirwasgiad economaidd fydd yn dod yn ei sgil e, a hynny wrth gwrs yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth.
Mae lefel yr heriau y mae'r pandemig yma wedi ei amlygu, mae dirwasgiad economaidd hefyd yn mynd i ddod yn ei sgil ef, ac wrth gwrs dŷn ni wedi clywed lawer gwaith heddiw ynglŷn â'r heriau fydd yn dod yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr un pryd—mae'r rhain i gyd gyda'i gilydd yn golygu bod angen ymateb uchelgeisiol eithriadol gan Lywodraeth Cymru pan ddaw i osod ei chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'n rhaid i bob ceiniog weithio mor galed ag sy'n bosib.
A dwi'n rhannu rhwystredigaeth Rhianon Passmore pan oedd hi'n cyfeirio at arafwch manylion y shared prosperity fund, sydd wrth gwrs yn thema i ni fel pwyllgor, ac mae eraill fan hyn wedi ei chodi dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yn hynny o beth. Achos rŷn ni'n gwybod, pa fwyaf o sicrwydd sydd yna ynglŷn â pha gyllideb, faint o gyllideb ac at ba bwrpas sydd yn dod, po fwyaf o rybudd, po fwyaf o wybodaeth gynnar rŷn ni'n ei chael, yna mae'n sefyll i reswm po fwyaf effeithiol y bydd effaith a dylanwad y modd y mae'r cyllid yna yn cael ei ddefnyddio.
Roedd y Gweinidog yn iawn i ddweud ein bod ni'n byw mewn amgylchiadau eithriadol, ond mae yn eithaf eithriadol yn fy marn i bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn honni bod £500 miliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru a bod Gweinidog yng Nghymru yn dweud mai dim ond £12.5 miliwn sydd yna mewn gwirionedd o refeniw canlyniadol. Mi gawsom ni'r Ysgrifennydd Gwladol o flaen y Pwyllgor Cyllid yn gynharach yr wythnos yma ac mi godwyd y pwynt: 'Wel, beth mae hynny'n dweud wrthym ni os oes dau ddehongliad mor wahanol i'w gilydd yn cael eu cyflwyno? Beth mae hynny'n ei ddweud wrthym ni am y gyfundrefn sydd gyda ni ar hyn o bryd?'
Ac fel atgoffodd Mike Hedges ni yn y pwyllgor, yr her yw, 'Show us your workings', ac nid dim ond i'r Ysgrifennydd Gwladol ond i'r ddau Weinidog. Hynny yw, mae'n rhaid inni fod yn dod o fanna i fod mewn sefyllfa lle mae yna dipyn mwy o dryloywder i bobl Cymru ynglŷn â beth yn union yw effeithiau canlyniadol buddsoddiadau sydd yn dod o Lundain i Gaerdydd, ac mae hynny, dwi'n meddwl, yn rhywbeth sydd yn rhaid i bawb weithio yn galetach arno fe.
Ond, beth bynnag yw lefel y gyllideb, mae yna benderfyniadau anodd o flaen y Llywodraeth, wrth gwrs, yn y flwyddyn sydd i ddod, a gobeithio y bydd y ddadl yma wedi helpu'r Gweinidog a'r Llywodraeth i bwyso a mesur y blaenoriaethau hynny tra'u bod nhw, wrth gwrs, yn paratoi'r gyllideb ddrafft.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.