– Senedd Cymru am 3:25 pm ar 15 Medi 2020.
[Anghlywadwy.]—yr egwyl fer honno, a chydag eitem 3 ar ein hagenda ni'r prynhawn yma, sef datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ailagor ysgolion. Rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae cydweithwyr a dysgwyr yng Nghymru wedi dychwelyd i'r meithrinfeydd, ysgolion a cholegau dros y pythefnos diwethaf, ac rwy'n awyddus i ddiolch iddyn nhw, i'r athrawon, y tiwtoriaid a'r holl staff addysgol am y ffordd y maen nhw wedi ymdrin ac, yn wir, yn parhau i ymdrin â COVID-19. Fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled, eu cydnerthedd a'u cydweithrediad wrth inni ymlwybro drwy'r cyfnod mwyaf dyrys hwn.
Wrth gwrs, rwy'n cydnabod nad oes modd, mewn unrhyw sefyllfa fel hon, peidio â chael unrhyw risg o gwbl. Er hynny, y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf sy'n fy nhywys i wrth wneud unrhyw benderfyniad am ddysgwyr yn dychwelyd i'w haddysg yn ddiogel. Fy mlaenoriaethau i drwy gydol y pandemig hwn fu diogelwch a lles staff a dysgwyr, gan ddarparu'r addysg orau bosibl gyda chyn lleied â phosibl o amharu yn digwydd i'n pobl ifanc ni.
Rwyf i o'r farn fod mynd yn ôl i'r ysgol yn hanfodol i ddatblygiad plant ac i'w hiechyd a'u lles nhw, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymdrech a wnaeth ysgolion, colegau, awdurdodau lleol ac undebau llafur i sicrhau bod yr amgylchedd mewn ysgolion a cholegau mor ddiogel ag sy'n bosibl i bob dysgwr. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys mwy o lanhau, gorsafoedd hylendid i staff a dysgwyr, a llai o symud a chyswllt rhwng grwpiau.
Roedd grŵp cynghori technegol Cymru yn eglur hefyd fod yn rhaid inni sefydlu strategaeth gadarn o olrhain a diogelu fel un o'r rhagofynion ar gyfer ailagor ysgolion yn ehangach. Ac fel y mynegwyd yn gynharach yn y Siambr, mae hyn wedi bod yn llwyddiant mawr yma yng Nghymru. Mae nifer fawr o gysylltiadau yn cael eu holrhain o fewn 24 awr, ond hefyd gwelwyd dull clir o reoli achosion, a fydd yn help i gefnogi ysgolion i symud ymlaen.
Wrth gwrs, efallai fod ein lleoliadau addysg a meithrin ar agor yn llawn, ond nid yw hyn yn golygu normalrwydd. I staff a dysgwyr fel ei gilydd mae'n her barhaus ar ôl misoedd lawer o ddysgu o bell, a'r posibilrwydd o achosion pellach a'r tarfu a achosir gan hynny. Cyfnod anodd iawn yw hwn gan fod lleoliadau addysg yn dal i orfod cynllunio ar gyfer gwahanol fodelau dysgu yn ogystal â rheoli cyswllt a chadw pellter cymdeithasol o fewn amgylchedd eu hysgolion. Felly, ynghyd â'r rhanbarthau, rydym wedi darparu canllawiau i sicrhau bod dysgu a dilyniant yn parhau ac yn aros yn ddiogel.
Mae'n debygol iawn bod amser i ffwrdd o'r ysgol wedi cael effaith negyddol ar lawer o'n pobl ifanc ni. Efallai y bydd angen cymorth arnyn nhw i fod yn barod i ddysgu unwaith eto ac ailintegreiddio i amgylchedd yr ysgol. Efallai y gwelwn ni heriau sylweddol o ran llesiant, yn ychwanegol at yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl fel arfer ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd. Efallai fod meysydd dysgu allweddol wedi mynd ar goll yn ystod yr amser i ffwrdd o'r ysgol a bydd angen hyblygrwydd ar ysgolion i fynd i'r afael â'r materion hyn. Rwy'n awyddus i ysgolion a lleoliadau eraill allu ymateb i hynny a buddsoddi amser er mwyn cefnogi llesiant y dysgwyr. Ni allwn ddisgwyl i ysgolion gyflawni eu holl ddyletswyddau mewn cysylltiad â'r cwricwlwm i bob dysgwr mewn pob amgylchiad, o ystyried yr amgylchiadau yr ydym i gyd yn eu hwynebu. Felly, rwyf wedi penderfynu addasu'r cwricwlwm sylfaenol a'r gofynion asesu cysylltiedig ar sail 'ymdrech resymol' ar gyfer 30 diwrnod cyntaf mis Medi. Wrth wneud hyn rwy'n awyddus i roi hyblygrwydd i ysgolion wrth ailintegreiddio myfyrwyr a datblygu cynlluniau addysg sy'n gadarn ac yn berthnasol. Mae hyn yn golygu helpu ysgolion wrth iddyn nhw ailddechrau addysg amser llawn yn eu hadeiladau.
Ond fe wyddom fod yna lawer o ddysgwyr nad ydyn nhw wedi datblygu cymaint ag y byddent wedi ei wneud fel arfer, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny. Wrth i athrawon a phenaethiaid barhau i groesawu disgyblion yn ôl, gwn y byddant yn asesu anghenion a datblygiad dysgwyr, gan adeiladu ar y cyfnod ailgydio i bawb cyn toriad yr haf. Fy neges glir i iddyn nhw yw bod yr arian ar gael yng nghyllidebau'r cynghorau ac ysgolion i recriwtio staff a chynorthwywyr addysgu ychwanegol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Gan adeiladu ar eu dealltwriaeth nhw o sefyllfa addysgol eu dysgwyr nhw, mae ein buddsoddiad ni o dros £29 miliwn wedi ei dargedu i sicrhau bod athrawon a chymorth ychwanegol yno ar gyfer blynyddoedd 11, 12 ac 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oedran.
Gwn fod athrawon, yn ogystal â rhieni, yn pryderu fel minnau am y dysgu a gollwyd a'r bwlch cyrhaeddiad. Fe fydd y mis hwn yn helpu penaethiaid ac athrawon i ddeall yn well sut y gallan nhw ddefnyddio'r arian a ddarperir i gefnogi hyfforddiant ychwanegol, rhaglenni addysg bersonol ac amser ac adnoddau ychwanegol i'r disgyblion hynny sy'n wynebu arholiadau.
Rydym wedi bod yn gweithio hefyd gyda chyfarwyddwyr addysg ac undebau llafur addysg i ddatblygu canllawiau i gefnogi darpariaeth gyfredol mewn ysgolion, ac mae hyn yn cynnwys cyngor clir ar gadw pellter cymdeithasol. Rydym wedi darparu cyngor i ysgolion ac undebau'r gweithlu addysg ar COVID-19 yn fwy cyffredinol, a thrwy Dysg, ac fe fyddwn ni'n parhau i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad wrth i'r anghenion godi.
Rydym wedi bod yn cydweithio hefyd ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chludiant i'r ysgol, a dyranwyd £10 miliwn o arian ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol. Mae'r arian hwn wedi eu helpu i ddarparu capasiti ychwanegol i fodloni gofynion statudol yn dilyn y canllawiau diweddaraf a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y comisiynydd traffig.
Fel yr ydym ni i gyd yn deall, fe all sefyllfaoedd newid yn gyflym iawn mewn cyfnod o bandemig. Gallaf eich sicrhau chi, er hynny, y byddwn ni'n parhau i weithio o fewn ac ar draws y Llywodraeth, a chyda'n partneriaid eraill ni, i roi arweiniad a chyngor i sicrhau diogelwch i'n staff a'n pobl ifanc ni. A chyda'n gilydd, hyd yn oed yn y cyfnod ansicr hwn, fe fyddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar godi safonau i bawb, a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, ac yn sicrhau bod gennym system sy'n destun balchder ac y mae'r cyhoedd yn ymddiried ynddi.
Diolch, Gweinidog. Fe hoffwn innau ategu eich sylwadau agoriadol chi ynglŷn ag athrawon a staff, ac a gaf i gynnwys llywodraethwyr gyda'r rhain? Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, gan eich cynnwys chi, ond yn bwysicaf oll, i'n hetholwyr.
Diolch yn fawr ichi am eich datganiad. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddechrau gyda'r peth pwysicaf o ran fy safbwynt i, sef mae'n rhaid i ysgolion aros ar agor onid oes rheidrwydd gwirioneddol—gwirioneddol—iddyn nhw gau. Ac er bod y sefyllfa gydag arholiadau, wrth gwrs, yn anodd, ac efallai ar gyfer rhyw ddiwrnod eto, rwy'n credu bod angen inni edrych ychydig ar yr hanes o ran agor a chau ysgolion oherwydd, yn amlwg, yn ôl ym mis Mawrth, roedd pawb yn deall pwysigrwydd cyfyngu ar gyswllt o bob math ar fyrder. Roedd yna elyn peryglus nad oeddem ni'n deall fawr ddim amdano mewn gwirionedd, ond roeddem hefyd yn deall y byddai'n ergyd anochel i addysg ein plan. Ac er i arweinwyr ysgolion wneud eu gorau glas wrth geisio darparu'r cyfan y gallen nhw i'n dysgwyr ni, rwy'n credu y gwyddom bellach fod yna anghysondeb mawr wedi bod o ran cyswllt â disgyblion, o ran hygyrchedd cynnwys ar-lein, gallu teuluoedd i ymgysylltu'n wirioneddol â'r cynnwys hwnnw ar-lein, a pharodrwydd plant i ddal ati, i fod yn barod i ddal ati gyda'r addysg honno. Mae COVID wedi peri blinder mawr inni, fe gredaf.
A dyna pam y buom ni'n gefnogol iawn, mewn gwirionedd, i'ch cynlluniau chi i agor ysgolion am bedair wythnos yn nhymor yr haf er mwyn ailgydio a dal i fyny, fel yr oeddech chi'n dweud, fel y gallai athrawon a dysgwyr werthuso'r hyn yr oedd angen ei wneud nesaf. Ac rwy'n credu efallai mai dyna lle y dechreuodd pethau fynd ar chwâl i'r Llywodraeth. Gan adael i'r wlad feddwl un peth, pan nad oeddech chi, mewn gwirionedd, wedi llwyddo o ran darpariaeth y bedwaredd wythnos honno, pan roedd y pwerau gennych chi y gallech fod wedi eu defnyddio i atal y cynghorau rhag dweud Na wrth ysgolion, dyna lle roeddwn i'n dechrau anghytuno â'r hyn a oedd, yn fy marn i, yn ddechrau da, a bod yn onest. Ers hynny, yn sicr yn ddiweddar, mae rhyw deimlad o 'fel y mynnoch chi, ysgolion' wedi bod yn digwydd. Wrth gwrs, dim ond yr ysgolion a all wneud rhai o'r penderfyniadau gweithredol, ac mae eich canllawiau chi wedi bod o gymorth mawr gyda hynny, ond mae yna adegau pan fydd angen mandadau; mae yna adegau pan fydd angen rheolau. Nid yw ysgolion yn deall yr wyddoniaeth, ond rydych chi, fel yr oeddech chi'n dweud heddiw, wedi parhau i gael eich tywys gan y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf wrth wneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â chael y dysgwyr yn ôl yn ddiogel. Mae'r wybodaeth honno gennych chi; ond nid yw gan arweinwyr ysgolion o reidrwydd. Ac maen nhw'n sicr yn ei chael hi'n anodd gweinyddu'r syniadau hyn pan nad oes yno'r sicrwydd a ddaw o gael Gweinidog yn dweud, 'Fel hyn y dywed y gyfraith, ac fe allwch chi ddibynnu ar hynny.'
Pan ddywedwch nad yw bod ar agor yn llawnamser yn golygu normalrwydd, yn amlwg mae hynny'n wir o ran cynllun adeiladau ein hysgolion ni, ond rwy'n credu bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom fod angen i lefel a safon caffaeliad addysg fod yn nes at yr hyn sydd yn normal. Nid oes gennyf hyder yn eich datganiad sy'n dweud na allwn ddisgwyl i ysgolion gyflawni eu holl ddyletswyddau o ran y cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr ym mhob amgylchiad yn ystod y cyfnod hwn. Ac rydym yn gwybod eu bod wedi cael yr amser. Roeddem ni wedi cytuno â chi fod pythefnos yn ddigon da i ganiatáu i ysgolion ddod o hyd i'r hyn oedd ei angen ar eu dysgwyr. Ac rwy'n awyddus i wybod a yw'r estyniad hwn i 30 diwrnod cyntaf mis Medi yn rhywbeth yr ydych chi wedi ymgynghori arno, oherwydd nid wyf i'n credu hynny. Ac a ydym ni mewn sefyllfa eto lle'r ydym ni'n gohirio'r angen i gadw at y cwricwlwm.
A ydych chi wedi llwyddo i berswadio eich cyd-Aelodau o'r hyn a ddywedais i yn fy natganiad agoriadol, mai ysgolion ddylai fod y rhai olaf i gau, yn enwedig os bydd yna gyfnod clo arall? Rwy'n nodi eich bod wedi mynegi hyder mawr yn y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, felly rwy'n gobeithio mai dyna'r arf yr ydych wedi ei ddefnyddio i ddadlau â'ch cydweithwyr yn y Cabinet y dylai'r ysgolion aros ar agor. Ond os nad oeddech chi'n llwyddiannus yn hynny o beth, a ydych eisoes wedi penderfynu beth fyddwch chi'n ei fandadu os daw'n gyfnod clo cenedlaethol, i wneud yn siŵr nad yw dysgu'n cael ei lesteirio yn yr un modd â'r tro diwethaf? A ydych chi'n ystyried mandadu ffrydio gwersi'n fyw, er enghraifft? A ydych chi wedi cael asesiad o'r offer TG a ddosbarthwyd—rhywbeth yr oeddem ni'n ei gefnogi—i sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud yn fawr ohono? Neu, mewn sefyllfa fwy tebygol o gyfnodau clo lleol, a fydd, gobeithio, yn golygu bod myfyrwyr yn colli dysgu wyneb yn wyneb am bythefnos ar y tro ar y mwyaf, a fyddwch chi'n mynnu y dylai ysgolion wneud presenoldeb yn orfodol ar gyfer gwersi rhithwir, y dylid eu darparu yn y mwyafrif o achosion bron yn union fel y'u hamserlennwyd?
Fe hoffwn i gael ychydig o fanylder am yr arian y daethoch o hyd iddo ar gyfer athrawon newydd ac ar gyfer dal i fyny, sut y bydd yn cael ei ddefnyddio, a sut y caiff ei ddefnyddio mewn colegau addysg bellach. Ac rwy'n awyddus i gael gwybod sut mae'r gwaith monitro a gwerthuso hwyr o'r hyn a ddigwyddodd rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf wedi effeithio ar benderfyniadau yr ydych chi'n debygol o'u gwneud. Ac rwy'n awyddus i glywed yr hyn yr ydych chi am ei ddweud wrthym ni'n awr ynghylch sut y byddai unrhyw gyfnod clo pellach yn debygol o effeithio ar y maes llafur a gwtogwyd yr ydych chi wedi sôn amdano eisoes, yn enwedig i'r rhai sy'n ymgeisio am gymwysterau cyffredinol yn ddiweddarach—ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, mae'n ddrwg gennyf i.
Nid oedd gennych lawer i'w ddweud am brofion mewn ysgolion. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym a ydych chi neu Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud unrhyw beth ynglŷn â phrofion tymheredd mewn ysgolion o gwbl. Os felly—cwestiwn agored yw hwn; rwy'n wirioneddol awyddus i glywed rhywbeth am hynny. Ac yna mae'n debyg fy mod i am ailadrodd fy nghwestiynau i yn yr un cyd-destun o ran addysg bellach, lle mae'r proffiliau oedran amrywiol yn gwneud dysgu wyneb yn wyneb yn fwy heriol, oherwydd mae yna reoliadau ar gadw pellter cymdeithasol sy'n amrywio yn ôl gwahanol grwpiau oedran. Tybed a wnewch chi egluro i mi i ba raddau y gallwch chi orfodi rhai camau gweithredu mewn coleg o'u cymharu â rhai mewn ysgolion, ac a oes gennych chi unrhyw bwerau penodol y gallwch chi eu defnyddio i fodloni eich hun ynghylch y cwestiwn hwn o ansawdd y dysgu yn ystod cyfnod clo mewn sefydliadau addysg bellach yn ogystal ag ysgolion? Diolch.
Mae hon yn rhestr faith iawn o gwestiynau—fe geisiaf i fwrw ymlaen drwyddyn nhw cyn gynted â phosibl. A gaf i ddechrau, serch hynny, drwy ddiolch i Suzy Davies am ei chydnabyddiaeth hi o'r ymdrechion enfawr sydd wedi cael eu gwneud yn y gweithlu addysg cyfan yn ystod y cyfnod hwn? Rwy'n ddiolchgar iawn iddi am gydnabod hynny.
A gaf i ei sicrhau hi bod cadw addysg ar agor yn flaenoriaeth ledled y Llywodraeth, ac fe fyddwn ni'n cymryd yr holl gamau sy'n angenrheidiol yn y Llywodraeth i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o amharu ar ddysgu i blant? Yn wir, rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd yn siarad eisoes am rai o'r materion sy'n ymwneud â mwy o gymysgu rhwng aelwydydd, nad ydym ni wedi bwrw ymlaen â nhw, i roi'r hyblygrwydd i ni ganiatáu i ysgolion agor. Felly, mae penderfyniadau anodd wedi eu gwneud gan y Llywodraeth hon yn barod, sydd wedi ein galluogi ni i flaenoriaethu agor ysgolion. Ac fe ddylwn i ddweud wrth yr Aelod—roedd hi'n cyfeirio at blant yn colli allan ar addysg oherwydd cyfnod clo lleol. Wel, yn amlwg, mae gennym ni'r cyfnod clo lleol cyntaf yng Nghymru ar hyn o bryd, yng Nghaerffili, ac mae ysgolion a cholegau yn parhau i fod ar agor. Ac rydym ni wedi bod yn eglur iawn mai ein disgwyliad ni yw y dylai ysgolion a cholegau, yng Nghaerffili, aros ar agor, ac o ran y rhai sy'n teithio i mewn ac allan o Gaerffili am eu bod nhw'n athrawon ac yn gweithio yn y sefydliadau hynny—mae hwnnw'n rheswm digonol ar gyfer teithio. Ac er bod yna broblemau gyda Chaerffili, ac mae'r achosion yn y gymuned honno'n uchel iawn—roedd dros 70 y cant o blant Caerffili wedi mynd i'r ysgol ddoe. Dyma un o'r ffigurau isaf yng Nghymru ar hyn o bryd, ond o ystyried eu bod nhw'n cael cyfnod clo yno, mae'n dda gweld hyn.
O ran y cwricwlwm, gadewch inni fod yn gwbl glir am y normal newydd. Mae Suzy Davies yn iawn—mae golwg a naws yr ysgolion ychydig yn wahanol. Ond mae'n bwysig, ar ôl cysylltu â'r proffesiwn addysgu, fod rhywfaint o hyblygrwydd ar gael i ni am y mis cyntaf hwn o weithredu, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw gael profi eu gweithdrefnau, gweld sut mae pethau'n gweithio, ac, yn hollbwysig, ganiatáu iddyn nhw gael yr amser ychwanegol y gallai fod ei angen ar gyfer ymdrin â llesiant plant, a deall eu sefyllfa o ran eu dysgu. Ac yn wir, gyda rhai agweddau ar y cwricwlwm, mae yna resymau o ran iechyd y cyhoedd pam na fyddem ni'n dymuno iddynt gynnal rhai gweithgareddau. Rydym ni'n parhau i fod yn bryderus ynglŷn â rhai gweithgareddau cerddorol mewn ysgolion, yn enwedig mewn grwpiau; a materion sy'n ymwneud â gwibdeithiau sy'n golygu aros dros nos—nid ydym ni'n argymell y rhain ar hyn o bryd, lle byddent yn rhan arferol o ddiwrnod ysgol. Felly, mae yna rai cyfyngiadau arnom ni. Ond os siaradwch â'r rhan fwyaf o ysgolion, maent yn bwrw ymlaen, fel y dywedais i, gan nodi'r anghenion dysgu, rhoi ystyriaeth i brofiad y plentyn o'r cyfnod clo, a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
O ran allgáu digidol, fe hoffwn i atgoffa'r Aelod ein bod ni wedi dosbarthu 10,848 o ddyfeisiau MiFi cyn gwyliau'r haf, ac fe wnaethom ni ddosbarthu bron 10,000 o drwyddedau i awdurdodau lleol hefyd er mwyn iddynt addasu pob dyfais ac mae'r rhain wedi cael eu rhannu allan i'r plant. Rydym ni wedi gweld y niferoedd mwyaf erioed yn mewngofnodi i Hwb, sef ein llwyfan dysgu digidol ni. Ond mae'r Aelod yn llygad ei lle, Dirprwy Lywydd: roedd yna ormod o amrywiaeth yng ngallu'r ysgolion i ddarparu dysgu o bell. Rydym wedi dysgu gwersi; ac rydym yn dysgu'r gwersi o ran yr hyn a oedd yn gweithio'n dda, a'r hyn a oedd yn rhwystr i hynny.
Ac wrth imi siarad nawr, er nad yw rhai o'r awdurdodau lleol yn arbennig o hoff ohono, mae Estyn yn ymweld â phob awdurdod lleol unigol i'w sicrhau eu hunain bod yr awdurdod lleol yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod cynlluniau cadarn ganddynt sy'n caniatáu iddynt ystwytho eu darpariaeth, pe byddai'r feirws yn effeithio ar ddosbarthiadau unigol neu ysgolion unigol. Ac fel y dywedais i, mae'r arolygwyr allan yno ar hyn o bryd, ac fe fyddan nhw'n adrodd yn ôl i mi. Rydym ni wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny. Rydym ni o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael y lefel honno o sicrwydd.
O ran dysgu cydamserol ac anghydamserol, cyhoeddwyd cyngor yn ôl ym mis Ebrill ynghylch sut y gall ysgolion wneud hynny'n ddiogel ac effeithiol. O ran profion tymheredd, ar hyn o bryd, nid yw'r Prif Swyddog Meddygol yn cynghori bod tymheredd yn cael ei wirio mewn ysgolion, er bod rhai ysgolion yn gwneud hynny. Ni ddylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn dymheredd uchel fod yn anfon eu plentyn i'r ysgol. Mae tymheredd uchel yn symptom o goronafeirws. Os ydych chi'n amau bod tymheredd uchel gan eich plentyn, mae angen i'r plentyn hwnnw gael ei brofi ac ni ddylai'r plentyn hwnnw fod yn mynd i'r ysgol. Fe fyddwn ni'n parhau i ddarparu gwybodaeth a chyfleoedd ychwanegol drwy gydol y cyfnod hwn i drafod gyda phenaethiaid a'u cynrychiolwyr sut y gallwn sicrhau eglurder ynghylch yr hyn y mae angen i ysgol ei wneud pe byddai plentyn yn cael ei daro'n wael. Ond yr hyn a welsom ni hyd yma yw bod ysgolion, lle mae hynny wedi digwydd, wedi cymryd camau ar unwaith i amddiffyn plant a staff.
O ran Addysg Bellach, wel, mae'n amlwg bod ein colegau ni'n atebol hefyd i bwerau arolygu sydd gan Estyn, ac fe fyddem ni'n disgwyl i Estyn barhau i weithio law yn llaw â'n colegau addysg bellach i fodloni ein hunain bod y ddarpariaeth yn y colegau hynny cystal ag y gallai fod. Fel y gwyddoch, mae Addysg Bellach yn rhan gadarn o'n system addysg ni yng Nghymru sydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn cyflawni canlyniadau rhagorol, ac mae colegau wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r Llywodraeth i sicrhau y gall eu dysgwyr nhw ddychwelyd yn ddiogel.
O ran arian ar gyfer dal i fyny, fe ddarparwyd £29 miliwn. Mae pob awdurdod lleol wedi cael dyraniad ar gyfer ysgolion unigol. Rhoddwyd swm o arian i bob partneriaeth ranbarthol hefyd i gynorthwyo ysgolion i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn dull sydd â sail tystiolaeth iddo, ac felly bydd pob ysgol wedi cael dyraniad. Mae'r arian hwnnw ar gael, ac fe fyddwn i'n disgwyl y bydd penaethiaid a'r awdurdodau addysg lleol yn cynllunio'r tymor hwn, ar sail yr wythnosau cyntaf hyn yn ôl yn yr ysgol, o amgylch sut y gellir defnyddio'r arian hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol. Roeddwn i mewn ysgol gynradd yn y Gelli Gandryll yr wythnos diwethaf, ac roedd gan Mrs B, pennaeth gwydn yr ysgol gynradd honno, gynllun cadarn yn ei le eisoes ynglŷn â sut yr oedd yn bwriadu defnyddio'r dyraniad i'w hysgol hi.
Diolch am y datganiad. Hoffwn innau hefyd ddiolch yn fawr iawn i bawb sy'n ceisio sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc ni yn gallu dychwelyd at eu haddysg mewn ffordd ddiogel, sydd yn her enfawr, wrth gwrs, yn enwedig wrth inni weld achosion positif o'r COVID ar gynnydd ymhlith ein plant a'n pobl ifanc ni, efo dwsinau o ysgolion wedi cael eu heffeithio yn barod gan yr argyfwng coronafeirws.
Mae'n rhaid i fi ddweud, dwi'n methu credu eich bod chi'n meddwl bod y strategaeth olrhain, profi ac amddiffyn yn 'llwyddiannus'. Dyna'r gair rydych chi'n ei ddefnyddio. Hwn ydy'r gair lleiaf addas i ddisgrifio'r sefyllfa sy'n datblygu efo profion yn ein hysgolion ni. Ar hyn o bryd, mae yna wendid mawr efo rhan o'r strategaeth, sef y cam cyntaf: y profi. Ac mae gweithredu'r rhan honno o'r strategaeth yn simsan iawn ar hyn o bryd. Dwi yn gwybod mai mater i'r Gweinidog iechyd ydy'r profion COVID, ond mae o'n gyfrifoldeb arnoch chi fel Gweinidog Addysg pan fo'r diffyg profi a'r oedi gyda chael prawf yn golygu bod llawer gormod o ddisgyblion yn absennol o'r ysgol yn ddianghenraid ac felly'n colli allan ar eu haddysg unwaith eto. Yn anffodus, mae fy inbox i'n llawn o e-byst gan rieni o bob rhan o Gymru—nid Arfon yn unig, ond o bob cwr o Gymru—sydd yn dweud bod eu hysgol wedi anfon eu plentyn adref o'r ysgol efo symptomau, sef y peth iawn i'w wneud, fel rydych chi newydd sôn, ond wedyn bod disgwyl gan yr ysgol bod y plentyn yn cael prawf cyn dychwelyd i'r ysgol ond mae'r rhieni'n methu'n lân â chael prawf innau drwy'r post neu mewn canolfan dreifio drwodd.
Felly, byddwn i'n hoffi gwybod pa drafodaethau rydych chi'n eu cael ar ran plant a phobl ifanc Cymru sydd ddim eisiau colli mwy o'u haddysg am y sefyllfa gwbl annerbyniol yma efo profion a pham na all adran addysg Llywodraeth Cymru greu mecanwaith penodol ar gyfer rhieni, disgyblion a staff ysgolion fel bod modd i ysgolion gael mynediad rhwydd at brofion. Beth, er enghraifft, am greu un pwynt cyswllt i ysgolion ynglŷn â'r sefyllfa profion er mwyn iddyn nhw gael gafael arnyn nhw yn llawer iawn cynt na maen nhw ar hyn o bryd? Mae'n rhaid inni ddatrys hyn, a buaswn i'n leicio clywed beth rydych chi wedi bod yn ei wneud am y sefyllfa.
Mater arall sy'n peri pryder i rieni a disgyblion ydy'r sefyllfa efo mygydau ar fysiau ysgol. Dwi'n credu bod yna ddiffyg eglurder, felly hoffwn i wybod yn union pwy sydd efo'r cyfrifoldeb am orfodaeth ynglŷn â mygydau ar fysiau ysgol. Eto, mae fy inbox i'n llawn o bobl sydd yn poeni wrth weld problemau'n codi ar y daith ar y bws i'r ysgol. Rydych chi wedi rhoi mwy o arian tuag at drafnidiaeth ysgol, ond dydy hynny ar ben ei hun ddim yn mynd i wella sefyllfa lle nad oes yna ganllawiau clir ac eglurder i rieni a disgyblion ynglŷn â'r orfodaeth ar yr agwedd yma efo'r mygydau.
Ac i gloi, mae'r cwestiwn mawr yn parhau ynglŷn ag arholiadau a beth sydd i ddigwydd yr haf nesaf. Mae'r cynnydd mewn achosion a'r sefyllfa annerbyniol efo'r profion yn golygu bod addysg rhai o'n disgyblion ni'n cael ei amharu arno fo'n barod a dim ond newydd ddechrau ailgychwyn mae pethau. Pam na wnewch chi gyhoeddi na fydd arholiadau'n cael eu cynnal flwyddyn nesaf ac y byddwch chi'n canolbwyntio'n hytrach ar greu system gadarn o ddefnyddio asesiadau sydd ddim yn cynnwys gorfod bod yn yr ysgol yn gorfforol i eistedd arholiad? Does yna ddim sôn am hynny yn eich datganiad chi, ac mi fyddai cyhoeddiad cynnar am hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr iawn.
A gaf i ei gwneud yn hollol glir bod yr wybodaeth sydd gennyf i am achosion cadarnhaol o COVID mewn ysgolion ar hyn o bryd yn ymwneud â heintio yn digwydd y tu allan i safle'r ysgol? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi hynny. Pan mae plant yn cael prawf cadarnhaol am COVID, mae hynny fel arfer yn rhan o grŵp teuluol, a phan mae oedolion yn cael prawf cadarnhaol am COVID ar hyn o bryd, mae'r data sydd gennyf i'n awgrymu bod y feirws, unwaith eto, wedi ei gael y tu allan i'r ysgol. A dyna pam mae hi'n wirioneddol bwysig—os ydym yn awyddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei ddymuno yn y Siambr hon, sef cadw ein hysgolion ni ar agor, felly mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i wneud yr hyn a allwn i gadw cyfraddau trosglwyddo cymunedol y feirws yn isel iawn. Mae'r mannau lle'r ydym ni'n gweld yr amharu mwyaf ar addysg ar hyn o bryd yn adlewyrchu'r mannau hynny lle mae'r feirws yn y gymuned, yng Nghaerffili, yn Rhondda Cynon Taf, yng Nghasnewydd—nid yn unig y mannau hyn, wrth gwrs, oherwydd mae yna ysgolion wedi'u heffeithio mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, ond mae'n rhaid inni gadw cyfraddau trosglwyddo i lawr ac mae hynny'n wirioneddol bwysig.
Rwyf wedi clywed adroddiadau, er enghraifft, am rieni'n ymgynnull yn agos at ei gilydd heb gadw pellter cymdeithasol wrth fynedfa'r ysgol. Mae hyn yn beth syml y gallwn ni ei osgoi—gallwn ni osgoi gwneud hynny. Mae'n arbennig o bwysig bod staff yn ein hysgolion yn cofio cadw pellter cymdeithasol oddi wrth aelodau eraill o staff. Mae achos gennym ni o uwch reolwyr ysgol yn hunan-ynysu ar hyn o bryd oherwydd achos o COVID ac oherwydd bod y grŵp hwnnw o staff wedi bod yn cyfarfod â'i gilydd mewn ystafell staff a heb wneud hynny gan gadw pellter cymdeithasol—ac felly roedd yn rhaid i aelodau eraill o'r staff fynd adref i ynysu. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'r negeseuon hyn mewn cof.
O ran profi, mae materion sy'n ymwneud â chapasiti labordy goleudy wedi cael eu trafod yn eang yma yn y Siambr eto heddiw, a'r Gweinidog Iechyd yw'r nesaf i siarad. Ond fe allaf eich sicrhau chi, Siân, fy mod i'n cael sgyrsiau gyda'r Gweinidog Iechyd fwy nag unwaith y dydd am yr angen i sicrhau bod Profi, Olrhain, Diogelu gystal ag y gall fod er mwyn gallu cynnal yr addysg yn rhwydd. Ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i wneud hynny, i sicrhau bod capasiti uwchlaw a thu hwnt i hynny ar gael yn y labordai goleudy, gan ganolbwyntio ar y cymunedau hynny'n benodol lle gwyddom fod haint yn y gymuned yn her ar hyn o bryd, ac mae cynlluniau pellach i gynyddu cyfleusterau galw i mewn lleol, a fydd yn bwysig wrth i'r hydref fynd yn ei flaen.
A gaf i ddweud fod yna becynnau profi wedi cael eu dosbarthu i bob ysgol a choleg, y gellid eu defnyddio nhw mewn argyfwng os nad oes ffordd arall i blentyn allu cael prawf? Felly, fe fydd 10 pecyn yn cael eu cyflwyno i ysgolion, ac, fel y dywedais i, maen nhw ar gael mewn sefyllfaoedd cwbl argyfyngus. Rhoddwyd pecynnau i golegau Addysg Bellach hefyd. Ond rwyf i yn cydnabod—a dyna pam mae'r Llywodraeth yn gweithio mor galed â phosibl i sicrhau bod profion ar gael mewn da bryd, oherwydd mae hynny'n ein galluogi ni i gyfyngu ar amhariadau.
O ran mygydau, mae'r canllawiau ar fygydau yn gwbl glir. Ein disgwyliadau ni o ran ysgolion, a'n canllawiau gweithredu ni yw, y byddan nhw'n cymryd camau i gyfyngu ar gyswllt rhwng grwpiau o ddisgyblion. Ac mae ysgolion yn gwneud hyn mewn ffyrdd amrywiol: er enghraifft, parthau; systemau un ffordd; dechrau'r diwrnod fesul cam; amseroedd egwyl fesul cam, amseroedd cinio a threfniadau ar ddiwedd diwrnod ysgol. Pan fydd yr holl bethau hyn wedi eu gwneud—oherwydd mae'n rhaid gwneud y pethau hynny'n gyntaf—pan fydd yr holl bethau hynny wedi eu gwneud a'i bod hi'n amhosibl wedyn gadw swigod o ddisgyblion ar wahân mewn mannau cymunedol, dyna pryd y dylid gwisgo mygydau. Ac mae'n well gwneud hynny ar sail asesu risg unigol mewn ysgol unigol, oherwydd mae ein hysgolion ni'n amrywio'n fawr o ran maint a chynllun. Mae yna ysgolion uwchradd yn fy etholaeth i a fyddai'n edrych fel ysgolion cynradd bach yng nghyd-destun Caerdydd. Mae rhai o'n hysgolion mewn adeiladau ysgol gwych yr unfed ganrif ar hugain, ac yna mae rhai o'n hysgolion yn dal i fod, pe byddwn i'n onest, mewn adeiladau o oes Fictoria, ac felly fe fydd eich gallu chi i gyflawni'r pethau hyn yn eich ysgol chi'n amrywio o ysgol i ysgol. Os na allwch gadw grwpiau o ddisgyblion 2m oddi wrth ei gilydd mewn mannau cymunedol, yna fe ddylen nhw wisgo mygydau, ac rwy'n siŵr fod trefnu hynny o fewn gallu'r penaethiaid sy'n rhedeg ein hysgolion ni. Maent yn ymdrin yn feunyddiol â phroblemau sy'n llawer mwy cymhleth na gweithio allan sut i gadw plant 2m ar wahân mewn coridor.
O ran bysiau a chludiant rhwng y cartref a'r ysgol, mae 17 o'n 22 awdurdod lleol ni wedi mandadu neu argymell yn gryf eisoes y dylid defnyddio mygydau ar gludiant o'r cartref i'r ysgol. Ac unwaith eto, Dirprwy Lywydd, mae'r cyngor yn glir: os nad oes digon o le ar y bws i gadw'r plant ar wahân—a gadwech inni fod yn onest, mae hynny'n wir am y rhan fwyaf o fysiau—yna, unwaith eto, mae mwgwd yn briodol. Ac o ran pwy sy'n gyfrifol am hynny, yna mae'n rhaid i rieni a gofalwyr a'r plant eu hunain gael y sgyrsiau hynny am yr hyn y gallan nhw ei wneud i sicrhau eu bod nhw'n lleihau'r perygl o amharu ar eu haddysg nhw drwy wisgo mwgwd. Ac rwy'n credu mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle mae'r Llywodraeth wedi darparu adnoddau ariannol i ganiatáu i awdurdodau lleol brynu, ac i ysgolion brynu, mygydau i'w disgyblion nhw, fel nad oes yna unrhyw blentyn mewn sefyllfa lle nad oes ganddo'r mwgwd priodol os oes ei angen. Ac, unwaith eto, fel y dywedais, rwy'n credu mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig i wneud hynny'n bosibl.
Diolch yn fawr am eich datganiad a'r sylwadau a wnaethoch chi i'r Aelodau eraill.
Rwy'n cytuno â chi mai llesiant emosiynol ddylai fod yn brif flaenoriaeth, oherwydd nid yw plentyn sy'n bryderus yn mynd i allu dysgu'n effeithiol. Felly, mae'n rhaid i hynny fod yn brif flaenoriaeth. A hyfryd o beth yw clywed sŵn plant yn chwarae ar yr iard, oherwydd yna rydym yn gwybod eu bod nhw'n ôl yn mwynhau bywyd.
Rwyf i o'r farn, gan nodi'n syml rai o'r sylwadau a wnaethoch chi am ddefnyddio mygydau pan nad oes modd cadw pobl ifanc ar wahân, ac mae hynny'n cynnwys pan fyddan nhw'n teithio ar y bysiau hyn i fynd yn ôl i ble bynnag, nad yw'n bosibl darparu bysiau ysgol yn ôl grwpiau blwyddyn—nid yw hynny'n mynd i ddigwydd; nid oes gennym y lefel honno o fysiau. Ond rwy'n credu—pan fydd rhieni'n mynegi pryder yn hyn o beth, tybed a allem ni eu hannog nhw i feddwl y tu hwnt i hynny a meddwl, 'A allai fy mhlentyn i fynd ar y beic i'r ysgol, neu gerdded?', gan ddibynnu ar ba mor bell i ffwrdd y mae'n rhaid iddyn nhw deithio. Oherwydd, yn fy mhrofiad i, nid yw'r trawsnewid hwnnw wedi digwydd ym mhennau pobl—y rhieni—eto.
Fe hoffwn i dalu teyrnged i'r ddwy ysgol lle cafwyd achosion cyfyngedig iawn o'r coronafeirws ar ddechrau'r tymor. Yn amlwg, mae'n rhaid mai yn y gymuned y daliwyd y feirws; nid oeddent wedi bod yn yr ysgol yn ddigon hir i'w gael yno. Felly, rwy'n llwyr atgyfnerthu'r negeseuon yr ydych chi'n eu datgan ynglŷn â sut mae angen i bob un ohonom ni gadw'r gymuned gyfan rhag lledu'r clefyd fel y gallwn ni gadw ein hysgolion ar agor.
Fodd bynnag, fe hoffwn i ddod yn ôl at y pwynt am allgau digidol, oherwydd nid oeddech chi yn y Siambr pan gefais ddeialog â'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â nifer y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sydd â chysylltiad digidol, ac fe ddywedodd hi fod gan eu hanner nhw rywfaint o gysylltiad. Wel, gwn o brofiad personol yr hyn y mae hynny'n ei olygu—nid yw 1Mb yr eiliad yn caniatáu ichi gael unrhyw ddysgu o bell, yn anffodus. Ac rwy'n bryderus am yr holl safleoedd eraill lle mae'n amlwg nad oes unrhyw ddysgu digidol. Felly, waeth faint o lechi neu liniaduron sy'n cael eu dosbarthu, ni fydd y plant hynny'n gallu cael mynediad i'r cwricwlwm oni bai ein bod yn darparu'r band eang i allu gwneud defnydd ohonynt. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi siarad â'r Gweinidog Llywodraeth Leol am sut y gallwn ni gael yr awdurdodau lleol i wneud hyn yn brif flaenoriaeth. Mae'r arian ar gael ar gyfer gwneud y cysylltiadau hyn, ond nid yw awdurdodau lleol wedi manteisio ar hynny dros yr haf pan oedd cyfle i wneud hynny. Felly, mae hon yn ymddangos yn brif flaenoriaeth i mi, a diolch am yr holl waith yr ydych chi'n ei wneud.
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi yn llygad eich lle: mae llesiant yn allweddol. Nid yw dysgu'n gweddu i blentyn sy'n ofidus, a'r hyn a wyddom ni yw y bydd y cyfnod clo wedi cael effaith ar bob un o'n plant ni, ond fe fydd effaith hynny'n amrywio o blentyn i blentyn. Fe fu'r cyfnod clo yn gyfnod anhapus iawn i rai o'r plant, ac fe fydd angen mynd i'r afael â hynny. Gwyddom fod hyn yn wir am rai o'n dysgwyr, mewn gwirionedd—ac fe gafwyd rhai arolygon diweddar yn dangos bod pobl ifanc yn eu harddegau wedi teimlo llai o straen y tu allan i'r ysgol, felly rhaid rheoli ailintegreiddio i'r ysgol yn briodol. Ac, o leiaf, mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd y dull ysgol gyfan, onid yw e, am wneud yr ysgol yn lle hapus i'n dysgwyr ni i gyd. A dyna pam mae angen inni gymryd yr amser hwn ar ddechrau'r tymor i roi cyfle i ysgolion allu mynd i'r afael â hynny, fel y gall gweddill y flwyddyn academaidd fynd yn ei blaen gystal ag y gall. A dyna pam yr ydym ni, y Gweinidog Iechyd a minnau, wedi sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i gynnal sesiynau cwnsela ychwanegol i'r plant hynny lle mae cwnsela'n briodol. Ac o ran plant ysgol gynradd, lle nad yw cwnsela traddodiadol yn ddull priodol i gyfryngu â phlant, fe geir gwaith teuluol a gwaith grŵp, sy'n llawer mwy priodol.
Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn iawn: yn ein canllawiau ni, rydym yn dweud yn eglur iawn mai teithio llesol ddylai fod y dewis cyntaf i rieni lle bo'n ymarferol gwneud felly, ac os nad am unrhyw reswm arall mae'n ddechrau perffaith i'r diwrnod i blentyn—gan losgi ychydig o'r egni hwnnw sydd dros ben, a chael rhywfaint o awyr iach ac ymarfer corff cyn dechrau'r diwrnod ysgol. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda chydweithwyr yn yr adran drafnidiaeth i gyfleu'r negeseuon hynny a sicrhau bod ysgolion mewn sefyllfa dda i wneud hynny. Ar draws y ffordd yn y fan hon, yn Ysgol Hamadryad, mae gennym ein hysgol teithio llesol gyntaf, lle ni chaniateir i geir deithio i'r ysgol. Felly, mewn rhai amgylchiadau, mewn rhai cymunedau, gellir gwneud hynny'n llwyddiannus ac mae angen inni barhau i weithio ar greu'r amodau—nid yn unig dros dro, ond i'r dyfodol—i annog teithio llesol.
O ran allgau digidol, fe fyddaf i'n sicr yn codi'r pwynt gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol ynglŷn â chysylltiadau parhaol i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Ond, fel y dywedais pan atebais Suzy Davies, nid yn unig fe wnaethom roi gliniaduron a dyfeisiau i blant, dosbarthwyd 10,848 o ddyfeisiau MiFi gennym hefyd. Weithiau, nid diffyg dyfais yn unig yw'r broblem, ond y cysylltedd. Efallai eich bod chi mewn safle Sipsiwn a Theithwyr, neu efallai eich bod chi yng nghefn gwlad, lle nad yw'r cysylltiad hwnnw ar gael. Felly, roeddem ni'n gallu cynorthwyo, fel y dywedais i, bron 11,000 o blant drwy ddarparu cysylltedd iddyn nhw yn ystod y cyfnod hwn.
Beth yw eich ymateb chi i bryderon a godwyd gyda mi gan staff mewn ysgolion bod cadw pellter cymdeithasol yn cael ei anwybyddu neu ei fod yn amhosibl i ddisgyblion mewn ysgol lle mae gofyn iddyn nhw symud o un ystafell ddosbarth i'r llall; bod cysondeb a safon yr addysg ar-lein wedi amrywio'n fawr, gan holi a yw Cymru wedi buddsoddi ymhellach mewn datblygu addysg ac adnoddau ar-lein i baratoi ar gyfer ail don bosibl; bod athrawes sector cynradd wedi cael ei dwrdio am ddefnyddio gormod o bapur yn ei hystafell ddosbarth yn ystod sesiynau golchi dwylo, a dywedwyd wrthi am annog disgyblion i sychu eu dwylo nhw yn yr aer—ac fe wyddom ni i gyd pa mor beryglus yw hynny; bod y staff addysgu mewn rhai awdurdodau yn gorfod glanhau eu hystafelloedd dosbarth nhw eu hunain, gyda glanhawyr yn dod i mewn i lanhau'n ddwfn yn wythnosol yn unig, gan greu risgiau iechyd ychwanegol a chynyddu'r pwysau sydd arnynt; a bod Kirsty Williams yn dweud mai'r pennaeth sydd yn y sefyllfa orau i gynghori, ond nid ymarferwyr meddygol na gwyddonwyr mohonynt, ac mae'r rheini, hyd yn oed, wedi gwneud camgymeriadau, a bod angen cyngor cadarn arnom y gellir ei orfodi trwy Gymru gyfan?
Yn gyntaf oll, o ran dysgu digidol, fel y dywedais i wrth ateb Jenny Rathbone a Suzy Davies, rydym wedi buddsoddi llawer i sicrhau bod dysgwyr sydd wedi eu hallgau'n ddigidol yn cael dyfeisiau a chysylltiadau MiFi. Fe fydd dyfeisiau newydd yn cael eu rhoi i blant yn yr ysgolion hynny a roddodd dyfeisiau i blant yn rhan o'n cynllun Technoleg Addysg.
O ran pa fuddsoddiad pellach a roddwyd, Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd â bargen gyda Microsoft. Felly, mae pob plentyn a phob athro yn cael defnyddio'r gyfres lawn o raglenni Microsoft ar gyfer addysg—Office a'r holl bethau hynny y byddai eu hangen ar ysgol ac ar blentyn i gymryd rhan mewn dysgu ar-lein. Mae ein platfform digidol ni, Hwb, wedi bod yn fendithiol tu hwnt yn ystod y cyfnod hwn. Yn ystod y cyfnod clo, roeddem ni'n gallu sicrhau bod meddalwedd Adobe Spark ar gael hefyd i bob plentyn ac athro unigol. Unwaith eto, mae'r rhain yn adnoddau unigryw nad ydyn nhw ar gael ar y raddfa hon, yn rhad ac am ddim, yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.
O ran glanhau, mae'r canllawiau gweithredol yn eglur iawn ynghylch glanhau. Cyn tymor yr haf, o'r gyllideb addysg, rhoddwyd dros £1 miliwn, ymlaen llaw, i awdurdodau lleol brynu deunyddiau glanhau ychwanegol. Mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Llywodraeth Leol, wedi darparu £29 miliwn, rwy'n credu, y gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i dalu am y costau ychwanegol o lanhau eu hysgolion. Mae hwnnw'n swm sylweddol o arian y cytunwyd arno gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, felly nid oes unrhyw reswm dros ddiffyg glanhau. Roedd yr adnoddau ariannol ar gael cyn mis Medi, ac maen nhw ar gael i awdurdodau lleol wrth inni symud ymlaen.
O ran gorfodi, mae'r HSE, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch—er dicter i rai undebau, yn wir—wedi bod yn ffonio ysgolion yn ystod yr wythnos gyntaf yn ôl a'r wythnos ddiwethaf yn ôl, gan sicrhau bod yr ysgolion yn cadw at y ddeddfwriaeth a roddwyd ar waith gennym ni ar gyfer gweithleoedd diogel. Nid yn unig maen nhw'n safleoedd addysg, maen nhw'n weithleoedd, ac mae angen iddyn nhw gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a roddwyd ar waith. Mae'r HSE wedi bod wrthi'n ffonio ysgolion i sicrhau eu bod nhw'n cymryd yr holl gamau angenrheidiol.
O ran symud plant o amgylch ysgolion, mae llawer o ysgolion yn dewis cyfyngu ar symudiadau o amgylch ysgolion, Mark. Felly, er enghraifft, fe fydd plant yn aros mewn ystafell ddosbarth benodol am y rhan fwyaf o'r diwrnod, gan gynnwys yn yr ysgol uwchradd, a dim ond yn symud pan fydd angen iddyn nhw symud i labordy i wneud gwaith labordy, efallai. Neu, mae llawer o ysgolion yn dewis symud y staff o amgylch yr ysgolion. Ac os yw'r athro hwnnw'n dweud na roddwyd y darpariaethau hynny ar waith yn ei ysgol ef, yna mae angen cael y sgwrs honno gyda'r pennaeth, onid oes, am y trefniadau yn yr ysgol benodol honno? Oherwydd yn yr ysgolion yr wyf i wedi ymweld â nhw, ac yn y trafodaethau a gefais i gyda phenaethiaid, maen nhw'n ystyried parthau ac yn ystyried lleihau'r symudiadau gan ddisgyblion o amgylch ysgol gan ddewis yn hytrach, os oes modd, symud y staff o gwmpas.
A gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, a hoffwn roi ar gofnod fy niolch nid yn unig i staff yr ysgolion, ond staff mewn AALlau hefyd sydd wedi gweithio'n galed iawn i gael y plant yn ôl yn yr ysgolion? Mae'n hyfryd iawn eu gweld nhw'n ôl yno.
Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn ein sicrhau eich bod yn cael trafodaethau rheolaidd iawn gyda'r Gweinidog Iechyd ynglŷn â mater profion. Fel yr ydych chi'n ymwybodol, cafwyd rhai pryderon yn lleol ynglŷn â'r gallu i gynnal profion ar blant a phobl ifanc drwy labordai goleudy Llywodraeth y DU, felly fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi sicrwydd i mi y byddwch chi'n parhau i drafod hynny gyda'r Gweinidog Iechyd ac y bydd y ddau ohonoch chi'n parhau i bwysleisio gerbron Llywodraeth y DU pa mor hanfodol yw hi fod y system brofi ar waith i ymateb yn gyflym i'r problemau hyn.
Roeddwn i'n falch o weld y pwyslais ar lesiant yn eich datganiad a'ch canllawiau ailagor, ac yn amlwg fe glywais eich ateb i Jenny Rathbone. Fe hoffwn i ofyn i chi, serch hynny, sut ydych chi'n bwriadu gwneud yn siŵr fod pob ysgol yn croesawu'r angen am flaenoriaethu llesiant? A hefyd sut rydych chi am sicrhau bod yr arian, ac mae'r arian a ddyrannwyd yn swm sylweddol, yn cael ei wario mewn ffordd sy'n briodol i gefnogi plant a phobl ifanc, yn enwedig mewn cysylltiad â'r pryderon yr ydych wedi tynnu sylw atynt, ac fe wyddoch fod y pwyllgor yn eu rhannu, am yr angen i gael ymyriadau priodol ar gyfer plant ifanc yn arbennig.
Ac yn olaf, fe hoffwn i ddweud mai un o brif bryderon y pwyllgor yn ystod y cyfnod clo oedd yr effaith ar blant yn y dirgel a phlant a oedd o bosibl yn dioddef camdriniaeth ac esgeulustod yn y cartref ond nad oedd hynny'n hysbys i'r gwasanaethau. Rwy'n croesawu taflen ddiweddar Llywodraeth Cymru—
A wnewch chi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda?
—a gynhyrchwyd gyda Childline, sy'n ddefnyddiol iawn: mae gennych chi'r hawl i fod yn ddiogel. A gaf i ofyn ichi beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau y bydd pob plentyn ac unigolyn ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y daflen ddefnyddiol iawn hon? Diolch.
A gaf i ddiolch i Lynne Neagle am ei sylwadau a'i chydnabyddiaeth hi o waith awdurdodau addysg lleol yn ystod y cyfnod hwn, sydd, fel yr oeddech chi'n dweud, wedi bod yn gweithio'n ddiflino ochr yn ochr â'u penaethiaid i roi darpariaeth ar waith sydd wedi arwain at agor ein holl ysgolion ni ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd hon? Bu'n her enfawr ac maen nhw wedi ymateb yn dda iawn iddi. Rwy'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth y rhai yn CLlLC sy'n arbenigo mewn addysg. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd, yn wythnosol—bron bob wythnos drwy'r haf hefyd, rwy'n credu—gyda nhw fel y gallwn ddeall yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu ar lawr gwlad gan wireddu ein canllawiau gweithredol ni yn y Llywodraeth.
Fel y dywedais i, heb unrhyw amheuaeth, mae heriau o ran capasiti profion ar hyn o bryd. Rwy'n trafod hyn gyda'm cyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd, yn aml. Roeddwn i'n trafod hyn ddoe gyda Gavin Williamson, y Gweinidog yn San Steffan, sydd â heriau tebyg ganddo o ran sicrhau bod y capasiti i brofi'n ateb y galwadau sydd arno ar hyn o bryd. Mae gennym ymdrech ar y cyd i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd mewn labordai goleudy, ond nid dyna'r unig gyfleusterau yr ydym ni'n dibynnu arnynt. Mae pawb yn gweithio'n galed i greu canolfannau profi lleol ychwanegol yn ogystal â'r cyfleusterau eraill a gyhoeddwyd eisoes gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd.
O ran llesiant, mae'r Gweinidog Plant, Julie Morgan, a minnau'n parhau i gydweithio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymateb mewn dull cyfannol ar draws y gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant i ddiwallu anghenion plant. Unwaith eto, fe fydd yn rhaid inni ragweld cynnydd mewn atgyfeiriadau ar hyn o bryd, wrth i blant ddod yn ôl i'r ysgol a dechrau cael y sgyrsiau hynny gydag oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw am brofiadau'r cyfnod clo. Ac, fel chithau, rwy'n credu, i'r rhan fwyaf o weithwyr addysgu proffesiynol, mae'r plant hynny ar yr ymylon—ac nid ydynt yn hysbys yn ffurfiol i'r gwasanaethau cymdeithasol; fe gysylltwyd â'r plant hynny drwy gydol y cyfnod hwn—ond y plant hynny y mae bywyd yn y cartref yn gallu bod yn heriol weithiau iddynt, dyna'r plant fu'n ganolbwynt penodol ac sydd wedi peri pryder i athrawon. Ac rydym ni'n gweithio gydag AALlau i sicrhau y gall y maes addysg wneud atgyfeiriadau yn ôl yr angen a chael y cymorth angenrheidiol i blant a theuluoedd ar hyn o bryd os daw eu hangen nhw i'r amlwg.
Ac rydych chi'n iawn: i blant iau, bydd yn rhaid canolbwyntio ar therapi teulu a sesiynau grŵp yn hytrach na'r model cwnsela traddodiadol. Mae'r model cwnsela yn eich galluogi i gymryd rheolaeth dros eich bywyd chi eich hun a gwneud penderfyniadau a chymryd camau. Wel, mae'r gallu sydd gan blentyn chwech oed i wneud hynny dan yr amgylchiadau hyn yn gyfyngedig iawn os yw'n bodoli o gwbl, ac felly fe geir gwahanol fathau o therapi iddyn nhw. Fe fyddwn ni'n monitro sut mae byrddau iechyd unigol ac awdurdodau lleol yn defnyddio'r adnoddau a ddarparwyd ar eu cyfer. Ac fe fyddaf i'n trafod gyda chydweithwyr sut y gallwn ni sicrhau bod yr wybodaeth y cyfeiriodd yr Aelod ati ar gael yn fwy eang i bob plentyn fel eu bod yn fwy ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hefyd i groesawu eich sylwadau a'ch sylwadau agoriadol chi am eich dyhead i gadw ein hysgolion ni'n agored yn ystod y cyfnod dyrys hwn.
Roedd clywed yr wythnos hon bod nifer o blant wedi cael eu hanfon adref gan fod eu trwynau'n rhedeg yn destun rhywfaint o bryder, ac yn amlwg, oherwydd yr oedi gyda phrofion, roedd hynny'n golygu eu bod nhw wedi colli tri diwrnod o'u haddysg, yn fras. Nid oes neb ohonom yn dymuno eu gweld yn colli rhagor o'u haddysg, rwyf i'n siŵr, ac felly rwy'n croesawu eich sylwadau am eich bwriad i weithio gyda'r Gweinidog Iechyd i sicrhau y caiff y profion eu cyflymu. Ond hefyd, tybed pa ganllawiau y gallem eu cyhoeddi eto o bosibl i'n hysgolion ni i wahaniaethu rhwng symptomau COVID ac annwyd cyffredin—tisian a pheswch—ac efallai, fel yr awgrymwyd yn gynharach yn y Siambr, fe fyddai'n syniad da edrych ar bosibilrwydd cynnal profion tymheredd ym mhob ysgol cyn anfon unrhyw blentyn adref, fel bod ganddyn nhw un o symptomau COVID o leiaf. Oherwydd rwy'n siŵr nad oes neb ohonom ni, Gweinidog, yn dymuno gweld unrhyw un o'n plant ni'n colli addysg a hynny'n ddiangen. Diolch.
Mae Laura Anne yn gwneud pwynt perthnasol iawn. Yr adeg hon o'r flwyddyn, ar ddechrau blwyddyn academaidd, a chithau'n fam Laura, rydych chi'n gwybod yn iawn fod annwyd yn gwbl anochel; ni ellir osgoi cael annwyd, gwir y gair. Ond oherwydd yr ymwybyddiaeth gynyddol, yn ddealladwy, mae pobl yn bryderus iawn, ac mae'n ddealladwy pam, felly, y gallai aelod o staff ddweud, 'Mae'n rhaid i'r plentyn hwn fynd adref.'
Rwyf am eich cyfeirio at fideo yr ydym ni wedi bod yn ei roi ar led a gynhyrchwyd gan Dr Heather Payne, prif gynghorydd iechyd plant i'r Llywodraeth, yn egluro'r union beth hwn, ynglŷn â phryd y mae'n briodol i blentyn gael ei brofi a bod symptomau annwyd syml yn wahanol. Rydym ni'n ceisio gweithio ar draws y maes addysg ac iechyd i gael gweminarau ychwanegol i athrawon a phenaethiaid, lle gallan nhw glywed yn uniongyrchol gan weithwyr iechyd proffesiynol er mwyn rhoi'r hyder ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw i'w helpu i wneud y penderfyniadau hyn, ac mae hynny'n cael ei drefnu wrth i ni siarad yma. Rydym ni'n ceisio lledaenu'r negeseuon hynny.
Ond, yn amlwg, mae angen sicrhau bod y profion hyn ar gael yn ehangach er mwyn creu cyn lleied o darfu â phosibl lle gallai plentyn fod ag annwyd cas sy'n digwydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ond nid COVID mohono, ac felly, os yw'n teimlo'n ddigon da, gallai fod yn yr ysgol. Ond dyna un o'r problemau dyrys sy'n ein hwynebu ni wrth ddychwelyd i'r ysgol ar yr adeg benodol hon o'r flwyddyn; dyma un o'r heriau y bydd yn rhaid ei goresgyn. Diolch.
Ac yn olaf, Mick Antoniw.
Gweinidog, mae pawb am weld y gorau i'n plant ysgol. Fe fydd Rhondda Cynon Taf, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi buddsoddi oddeutu £0.75 biliwn dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer adnewyddu'r ysgolion hynny. Ac yn yr ysgolion hynny, wrth gwrs, rydym ni'n awyddus i gael yr athrawon gorau, ac felly rwy'n croesawu'r cynnig yn fawr gan Lywodraeth Cymru i gyflogi 600 o athrawon eraill. Ond un o'r materion sydd wedi codi, wrth gwrs, yw bod gennym nifer helaeth o athrawon sydd â chymwysterau uchel yn byw yng Nghymru sydd wedi eu cymhwyso dramor ond sy'n wynebu rhwystrau i oresgyn y cyfyngiadau sydd ar gydnabod eu cymwysterau nhw. Mae gennyf i un etholwr yn benodol—fe wn i fy mod i wedi ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd yr ydych chi wedi rhoi ystyriaeth i'r mater penodol hwnnw—athro cymwysedig iawn o'r Unol Daleithiau sydd wedi bod yn ceisio goresgyn y rhwystrau hynny. O gofio'r galw sydd gennym ni nawr am athrawon a'r heriau sy'n ein hwynebu ni oherwydd COVID, a oes unrhyw beth y gallech chi ei wneud fel Gweinidog Addysg efallai i edrych ar y cyfyngiadau hynny, i oresgyn y cyfyngiadau hynny, i sicrhau ein bod ni'n gwneud y defnydd gorau o'r cyfoeth o dalent ar gael ymhlith dinasyddion sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac a allai gyfrannu cymaint at ein system addysg ni?
Diolch, Mick. Yn gyntaf, o ran rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a gaf i sicrhau'r Aelodau bod gwaith ar y safle'n parhau, ac wedi parhau, cyn gynted ag yr oedd rheoliadau'n caniatáu hynny? Ac er gwaethaf y straen sylweddol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru, rwy'n falch iawn nad yw'r cyfalaf sydd ar gael i mi i barhau i gefnogi band B y rhaglen honno wedi newid. Hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau symud rydym ni wedi gallu gwneud cyhoeddiadau ynghylch rhai adeiladau newydd gwirioneddol arwyddocaol. Mae hynny'n bwysig iawn, wrth gwrs, ar gyfer dyfodol addysg, ond mae hefyd yn bwysig iawn i'n hadferiad economaidd, gan sicrhau bod y Llywodraeth hon yn gwario arian Cymru i ddarparu cyfleusterau gwych, ond hefyd gwaith i bobl yma yng Nghymru.
A gaf i sicrhau'r Aelod bod gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i roi pwerau i Gyngor y Gweithlu Addysg i allu gwneud penderfyniadau ynghylch addaster a pherthnasedd cymwysterau addysgu o ardaloedd o'r byd nad ydynt ar hyn o bryd yn rhoi'r hawl i chi weithio fel athro yma yn awtomatig? Rydym yn gwarchod mynediad i'n proffesiwn yng Nghymru, a hynny'n gwbl briodol, yn ofalus iawn. Rydym eisiau'r bobl orau yn sefyll o flaen ein dosbarthiadau. Ni all yr un system addysg fod yn fwy nag ansawdd y bobl sy'n gweithio gyda'n plant o ddydd i ddydd. Ond rydym yn y broses o roi pwerau ychwanegol i Gyngor y Gweithlu Addysg a fydd yn caniatáu i gymhwyster addysgu unigolyn sydd o wlad y tu allan, yn draddodiadol, i'r DU neu'r Undeb Ewropeaidd fod yn destun craffu gan Gyngor y Gweithlu Addysg, gyda'r bwriad o'i roi ar y rhestr fel athro cymwysedig sy'n cael gweithio yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Felly, ni ddylai fod yn llawer hwy Mick. Ddim yn llawer hwy.
Diolch, Gweinidog.