– Senedd Cymru ar 14 Hydref 2020.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar effaith cyfyngiadau lleol coronafeirws ar gyflogwyr. Dwi'n galw ar Russell George i wneud y cynnig. Russell George.
Cynnig NDM7428 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu'r £4 biliwn o gyllid ychwanegol a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael ag effaith pandemig y coronafeirws yng Nghymru.
2. Yn cydnabod effaith andwyol sylweddol cyfyngiadau coronafeirws lleol ar fusnesau a chyflogwyr eraill.
3. Yn nodi'r angen i sicrhau bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu'r disgwyliad i gyflogwyr gael gweithle sy'n cydnabod undebau llafur er mwyn cael mynediad at gyllid a grantiau Llywodraeth Cymru;
b) ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau sydd â gwerth trethadwy o fwy na £500,000 ac i landlordiaid nad ydynt yn gallu gosod eiddo masnachol gwag;
c) hepgor y gofyniad buddsoddi o 10 y cant i gael grantiau o dan gam 3 y gronfa cadernid economaidd; a
d) cyhoeddi, yn gyhoeddus, ddata ar nifer y profion COVID-19 positif ar sail ward awdurdod lleol.
Diolch, Lywydd. Hoffwn wneud y cynnig yn ffurfiol yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar, a gallaf ddweud heddiw hefyd y byddwn yn cefnogi'r gwelliant yn enw Caroline Jones y prynhawn yma.
Lywydd, mae Llywodraeth y DU wedi darparu dros £4 biliwn i Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â'r feirws. Hyd yma, mae arnaf ofn nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â sut y maent wedi gwario'r arian hwnnw. Busnesau bach a chanolig eu maint, wrth gwrs, yw asgwrn cefn ein heconomi, ac mae angen inni eu cefnogi'n llawn. Nid yw Cymru wedi bod yn amgylchedd cyfeillgar iawn i wneud busnes ynddo o'r blaen, gyda pherchnogion yn talu ardrethi busnes uwch, a throthwyon is ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes. Mae hyn wedi'i ddwysáu gan gyfyngiadau COVID-19, a diffyg brys i sicrhau bod cymorth mawr ei angen yn cael ei ddarparu i'r rheng flaen, yn hytrach na gorwedd, ysywaeth, yng nghoffrau Llywodraeth Cymru.
Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am y £60 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau y mae cyfyngiadau lleol yn effeithio arnynt. Ond yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, hoffwn wybod a fydd ardaloedd nad ydynt yn ardaloedd lle ceir cyfyngiadau ond a gaiff eu heffeithio gan y cyfyngiadau ehangach a gyhoeddwyd hefyd yn gallu manteisio ar y cronfeydd hynny. Yn wir, credaf efallai fod angen mwy o gyllid arnom o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw. Mewn cyferbyniad, gyda'r cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws a'r cynllun cymorth i'r hunangyflogedig, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cymorth i tua 30 y cant o'r boblogaeth sy'n gweithio yng Nghymru, gan ddiogelu bywoliaeth cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru, tra bod y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig yn darparu cymorth i dros 100,000 o bobl â chyfran o bron i £300 miliwn. Mae hyn, wrth gwrs, heb ystyried cynllun ehangach y gaeaf ar gyfer yr economi, a fydd yn caniatáu i fusnesau gael mynediad at amrywiaeth o gynlluniau benthyca ac yn ymestyn y toriadau TAW dros dro i dwristiaeth a lletygarwch, yn ogystal â gohirio ad-daliadau TAW i gefnogi busnesau hyd at fis Mawrth 2022.
Rydym yn croesawu gwelliant Caroline Jones, gan ei bod yn amlwg fod cyfyngiadau lleol cyffredinol i fynd i'r afael â'r coronafeirws, fel y rhai y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu yn niweidiol i economi Cymru ac yn atal busnesau, yn enwedig yn y sector twristiaeth a lletygarwch, rhag gwella o gyfnod siomedig—a chyfnod yr haf hefyd. Mae'n hanfodol fod penderfyniadau Llywodraeth Cymru i weithredu cyfyngiadau lleol yn gymesur ac yn lleihau'r niwed i unrhyw obaith o adfer busnesau, a dyma pam rydym ni ar y meinciau hyn wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau hyperleol doeth i leihau lledaeniad COVID-19 gan leihau effaith economaidd a chymdeithasol cyfyngiadau.
At hynny, gall cyflwyno cyfyngiadau hyperleol wedi'u targedu atal yr angen am gyfyngiadau ehangach ar sail sirol, gan helpu i sicrhau cymesuredd yn yr ymateb i achosion lleol, yn ogystal â lleihau'r risg y bydd clystyrau'n lledaenu i rannau ehangach o ardaloedd lleol. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud o'r blaen fod cyfyngiadau hyperleol yn ddull synhwyrol iawn. Felly, byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl drwy sicrhau bod cyfyngiadau mor gymesur ac wedi'u targedu cymaint ag sy'n bosibl i'r ardaloedd sy'n galw am ymyrraeth, yn hytrach na'i dull gweithredu cyffredinol presennol. Felly er mwyn helpu economi Cymru sy'n dioddef, galwn ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data ar lefel ward os nad data ar lefel cod post er mwyn gwahaniaethu rhwng achosion mwyaf y trosglwyddiad i'r ardaloedd yr effeithir arnynt. Byddai hyn yn caniatáu i rannau eraill o'n heconomi barhau i weithredu gan sicrhau nad yw'r trosglwyddiad yn cynyddu allan o reolaeth.
Fe soniaf yn awr am ddull gweithredu'r Ceidwadwyr—yr hyn y byddem yn ei gynnig—ac rwy'n fodlon amlinellu ein dull o weithredu. Fan lleiaf, byddem yn cyflwyno cynllun cymorth cymunedol COVID-19 gwerth £250 miliwn i helpu trefi a dinasoedd ledled Cymru, parthau heb ardrethi busnes lle byddai pob busnes yn rhydd rhag talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl, a chael gwared ar ardrethi busnes yn gyfan gwbl lle mae'r gwerth trethadwy o dan £15,000 y tu allan i'r parthau hynny. Byddem yn cynnig hynny o fis Ebrill nesaf ymlaen. Mae angen sicrwydd ar fusnesau yn awr ynglŷn â'r hyn sy'n mynd i ddigwydd o fis Ebrill nesaf ymlaen. Wrth symud ymlaen, Lywydd, mae hefyd yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn hepgor y buddsoddiad o 10 y cant sy'n ofynnol gan fusnesau er mwyn cael mynediad at drydydd cam y gronfa cadernid economaidd. Mae llawer o fusnesau, yn enwedig yn y sector twristiaeth a lletygarwch, wedi wynebu colledion dramatig mewn refeniw dros yr haf. Mae'n fain iawn arnynt; nid oes dim byd ar ôl yn y cwpwrdd, ac rydym yn gofyn iddynt gyfrannu 10 y cant er mwyn cael unrhyw fath o gymorth economaidd. Does bosibl nad yw hynny'n dderbyniol ac mae'n rhaid i hynny newid.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ariannol i fusnesau, ni fydd y rhai sydd â gwerth trethadwy o £500,000 yn cael unrhyw gymorth busnes o gwbl, er eu bod yn cyflogi miloedd o bobl. Nawr, mewn cyferbyniad llwyr, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi seibiant rhag talu ardrethi i bob cwmni manwerthu, hamdden a lletygarwch am flwyddyn, ni waeth beth fo'u maint. A dyna'n union y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud yma. Mae hefyd yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i gynnwys landlordiaid nad ydynt yn gallu gosod eiddo masnachol gwag. Yn sgil cau llawer o fusnesau, mae'n bwysig fod landlordiaid yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Felly, credaf mai'r hyn rwyf wedi'i nodi heddiw yw cynllun a fydd yn darparu ymyriadau lleol wedi'u targedu ac ymyriadau cynharach. Mae angen inni gael ffordd fwy cynaliadwy ac effeithiol o fynd i'r afael ag achosion lleol gan ysgogi a helpu'r economi ehangach i wella ar yr un pryd. Yn y pen draw, mae angen inni ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl, Lywydd. Felly, edrychaf ymlaen at gyfraniadau gan yr Aelodau y prynhawn yma.
Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 5 yn cael eu dad-ddethol. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), nid wyf wedi dethol gwelliant 4. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n dyrannu dros £4 biliwn i’w hymateb i COVID-19, sy’n swm uwch na’r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy fformiwla Barnett.
2. Yn cydnabod mai pecyn gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru o gymorth i fusnesau mewn ymateb i COVID-19 yw’r pecyn gorau unrhyw le yn y DU, gan gynnwys cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn sy’n helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi.
3. Yn nodi bod gwaith teg wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru a bod pob busnes sydd wedi derbyn cymorth wedi cytuno i gadw at egwyddorion y contract economaidd.
4. Yn cydnabod y mesurau cynnar, cymesur a thryloyw y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael â’r feirws a’i effeithiau ar yr economi ac ar iechyd y cyhoedd.
5. Yn croesawu cynlluniau gwerth £140 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cam y gronfa cadernid economaidd (ERF3), sy’n cynnwys £20 miliwn ar gyfer twristiaeth a lletygarwch.
6. Yn nodi’r ffaith y gall busnesau yng Nghymru sy’n parhau i fasnachu dderbyn cymorth o dan gronfa ymateb cyflym ERF3. Nid dyma’r sefyllfa o ran cymorth i fusnesau mewn ardaloedd lleol yn Lloegr sydd dan gyfyngiadau.
7. Yn teimlo bod penderfyniad Llywodraeth y DU i derfynu’r cynllun cadw swyddi yn anffodus ac yn credu nad yw’r cynllun cefnogi swyddi yn ddigon o gymhelliant i gyflogwyr o fewn y sectorau sydd yn y sefyllfa fwyaf bregus ar hyn o bryd i gadw gweithwyr yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys cyflogwyr o fewn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.
8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gyllid ar gyfer ardaloedd lleol sydd dan gyfyngiadau ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â’r feirws.
Cynnig.
Dwi'n galw nawr ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliannau 2, 3 a 5, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith nad yw cynllun cymorth swyddi Llywodraeth y DU o unrhyw help i nifer fawr o fusnesau yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a busnesau yn y sector gwasanaethau megis lletygarwch a gwallt a harddwch.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr, unwaith eto, am gyflwyno cyfle inni drafod yr economi. Credaf fod dau beth sy'n peri pryder i'n hetholwyr ledled Cymru ar hyn o bryd. Un ohonynt yw eu hiechyd a'r llall yw ffyniant a swyddi yn y dyfodol, ac rwy'n credu ei bod yn werthfawr iawn i ni gael y trafodaethau hyn.
Wrth gwrs, nid ydym yn anghytuno â phopeth yng nghynnig y Ceidwadwyr o bell ffordd. Mae'n amlwg yn allweddol y dylai unrhyw effeithiau ar fusnesau yn sgil mesurau sy'n ymwneud â'r feirws fod yn gymesur. Credaf fod pwyntiau Russell George am ddata ar lefel wardiau yn rhai da—mae angen i bobl wybod beth yw'r sefyllfa. Dywedwyd wrthyf ei bod yn anodd cyhoeddi hynny oherwydd gellid adnabod unigolion. Wel, a bod yn gwbl onest, os yw'r sampl yn ddigon bach i allu adnabod unigolion, mae'n debyg nad oes angen i'r ward fod dan gyfyngiadau. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth—a gallai helpu gyda chydymffurfiaeth wrth gwrs. Os yw pobl yn deall pam y gofynnir iddynt aros gartref, maent yn fwy tebygol o wneud hynny.
Fodd bynnag, lle na allwn gytuno yw'r safbwynt ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud hyd yma. Nawr, roedd y cynllun ffyrlo'n dda, er bod rhai pobl wedi'u gadael allan, roedd yna rai pobl na chafodd gymorth. Mae'r bobl hynny'n dal i ymgyrchu, a hoffwn ofyn i'r Aelodau edrych ar wefan ymgyrch ExcludedUK i weld sut y mae'r bobl hynny'n cael eu gadael allan—sut y mae wedi effeithio arnynt. Ond ar y cyfan, roedd yn gynllun pwerus iawn ac roedd yn gweithio'n dda iawn. Ac un o'r rhesymau pam y gweithiodd yn dda iawn yw ei fod wedi gweithio i gwmnïau llai yn ogystal ag i rai mwy o faint.
Hoffwn sôn am welliannau 2 a 3 gyda'i gilydd, Lywydd, oherwydd maent yn cefnogi ei gilydd. O ran cymorth Llywodraeth y DU, gwyddom nad yw'r cynllun cefnogi swyddi, fel y mae'n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd, yn gweithio i lawer o gwmnïau yng Nghymru. Nid yw'n gweithio ym maes lletygarwch; nid yw'n gweithio ym maes bwyd sy'n cael ei werthu drwy gyfanwerthwyr; nid yw'n gweithio i iechyd a harddwch; nid yw'n gweithio i dwristiaeth; nid yw'n gweithio i fusnesau bach. A dim ond pobl sydd wedi siarad â mi yr wythnos hon am gymorth na allant ei gael yw'r rheini. Nawr, gellid dadlau, Lywydd, fod hyn yn ddealladwy. Wyddoch chi, os yw Llywodraeth y DU yn gweithredu fel Llywodraeth Lloegr, rhaid inni gydnabod bod economi Cymru'n wahanol iawn i economi Lloegr, ac efallai y byddai'n briodol iddynt gyflwyno hynny. Ond nid yw'n gweithio'n dda iawn i lawer o'n busnesau ni.
Felly, dyna'r rheswm dros ein gwelliant 2, sy'n pwysleisio'r pwynt unwaith eto fod angen i Lywodraeth Cymru gael pwerau benthyca i allu gweithredu ar rywfaint o hyn eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru'n dweud o hyd nad oes ganddynt bŵer. Wel, credaf mai'r hyn sydd ei angen arnynt yw ychydig o asgwrn cefn i fynnu'r pŵer hwnnw. Dylent ofyn am y pwerau benthyca yn hytrach na chwyno, fel y gwnânt yn eu gwelliant, am yr hyn nad yw Llywodraeth y DU wedi'i wneud. Pam nad ydynt yn gofyn am y pŵer i gael yr arian i'w wneud eu hunain? Oherwydd, wrth gwrs, dyma sut y mae Llywodraeth y DU yn ei ariannu. Nid oes ganddynt goeden arian hud; maent yn benthyca ar y marchnadoedd rhyngwladol, sy'n ffordd gwbl synhwyrol o fwrw ymlaen. Dylai Llywodraeth Cymru fynnu'r hawl i wneud yr un peth.
Nawr, o ran ein gwelliant 5—ac i ryw raddau, rwy'n cytuno â Russell George yma—mae angen i Lywodraeth Cymru edrych eto ar elfennau o gyfnod newydd y gronfa cadernid economaidd. Mae llawer o bwyslais, yn y cynllun newydd, ar alwadau am geisiadau datblygu i gwmnïau allu symud ymlaen, ac efallai mai dyna'r peth priodol i'w wneud, o ystyried sefyllfa'r feirws pan oedd y cynllun hwn yn cael ei ddyfeisio'n hwyr yn yr haf. Ond mae pethau wedi newid. Wrth i fwy a mwy o ardaloedd fynd o dan gyfyngiadau lleol, credaf fod arnom angen fwy o gymorth brys. Ac rwy'n cytuno â'r pwynt y mae Russell George wedi'i wneud am gwmnïau heb arian yn eu poced ôl i gyfrannu at y math hwn o beth, yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint. Wrth i'r bylchau yn Llywodraeth y DU ddod yn gliriach, rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn barod i ymateb, a rhaid i hynny olygu ymateb i amgylchiadau sydd wedi newid.
Gwelliant y Llywodraeth—o diar, dyma ni eto. Wrth gwrs, rydym yn cytuno â rhywfaint ohono; byddai'n anodd anghytuno, ac rydym yn amlwg yn cytuno â phwynt 4 am gynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y DU. Ond clywsom y prynhawn yma y Gweinidog llywodraeth leol a thai yn dweud yn glir iawn, fel y'i clywais yn dweud o'r blaen, 'Nid ydym yn gwybod y cyfan fel Llywodraeth; nid ni yw ffynnon pob doethineb'. Wel, ni fyddech chi byth yn meddwl hynny, Lywydd, o'u harfer o gyflwyno gwelliannau 'dileu popeth'. Hoffwn nodi wrth y Senedd hon nad yw honno'n ffordd anrhydeddus o fwrw ymlaen, a fan lleiaf, os ydym am dreulio ein hamser ar ddadleuon y gwrthbleidiau, y peth lleiaf y dylai'r Llywodraeth ei wneud yw dangos cwrteisi drwy roi gwelliannau fesul llinell i ni.
A bod yma.
Ni chaf ymateb i'r ymyriad hwnnw gan nad ydym i fod i gael ymyriadau, ond nid oes ots gennyf ble mae Gweinidogion, mae ots gennyf beth maent yn ei wneud.
Pwysleisiaf eto yr angen i'r Llywodraeth ailystyried y gronfa cadernid economaidd. Ni allwn gefnogi'r gwelliant hwn, oherwydd os ydych yn cefnogi'r gwelliant hwn, rydych yn rhagdybio mai hwy yw ffynnon pob doethineb a'u bod yn gwneud pob dim yn iawn. A byddwn yn dweud, pan ddaw'n fater o Weinidog yr economi'n ymdrin â phobl y gwrthbleidiau, nad dyna sut y mae'n ymddwyn. Ni fyddech byth yn gwybod pa mor gydweithredol y mae wedi bod drwy'r argyfwng hwn gydag Aelodau'r wrthblaid pe baech yn edrych ar y gwelliant braidd yn hunanglodforus hwn gan y Llywodraeth. Wedi dweud hynny, Lywydd, hoffwn gymeradwyo gwelliannau 2, 3 a 5 i'r Senedd. Rwy'n cynnig felly.
Roeddwn yn meddwl mewn gwirionedd fod rhai rhannau o'r sylwadau a wnaed yn awr gan lefarydd Plaid Cymru braidd yn angharedig ynglŷn â gweithredoedd Llywodraeth y DU, oherwydd, wrth gwrs, dechreuasom y degawd hwn heb unrhyw syniad a dweud y gwir am y newidiadau sylweddol y byddem yn eu hwynebu ar ddechrau'r flwyddyn. Ac ers dechrau'r pandemig, rhaid i mi ddweud bod Llywodraeth ei Mawrhydi wedi cyflawni o ddifrif dros Gymru. Maent wedi cyflawni dros fusnesau Cymru, maent wedi cyflawni dros deuluoedd ac maent wedi cyflawni dros ein cymunedau, mewn ffordd nad yw Llywodraethau'r DU wedi'i wneud o'r blaen a dweud y gwir. Mae Llywodraeth Cymru yn cwyno nad oes ganddi bŵer—mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi gwerth £4 biliwn o bŵer iddi allu cynorthwyo Cymru i ddod drwy'r argyfwng a'r cyfnod anodd hwn.
Ond mae'r argyfwng hefyd, wrth gwrs, wedi rhoi sylw blaenllaw i bwysigrwydd ein perthynas fel undeb y Deyrnas Unedig, ac mae cyflymder y cyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU, y cymorth ariannol, y cymorth busnes—mae'r holl fesurau hynny'n dangos pwysigrwydd ymdrin ag effaith yr argyfwng hwn ym mhob rhan o'r DU. Gwelsom Lywodraeth y DU yn gweithredu ar gyflymder anhygoel a dweud y gwir i roi rhaglenni ar waith, gan wneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â chyfyngu ar ryddid pobl, gan geisio sicrhau ar yr un pryd fod yr effaith ar fusnesau, yr effaith ar gyflogwyr, yr effaith ar becynnau cyflog pobl mor fach â phosibl.
Ac mae'n rhaid i mi godi fy het i Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys. Am ddyn anhygoel sydd gennym yn y Trysorlys ar hyn o bryd, yn sicrhau bod gan Gymru bŵer i allu ymdrin â'r problemau sydd o'n blaenau a dod drwy'r storm hon—nid dim ond y storm sydd eisoes wedi bod, ond y storm fawr sy'n cyniwair ledled Cymru a'r DU gyfan ar hyn o bryd.
Nawr, wrth gwrs, rydym wedi gweld gwahanol ddulliau o weithredu mewn gwahanol rannau o'r DU o ganlyniad i ddatganoli, ac mae hynny'n hollol iawn o ran y setliad datganoli. Ond mae pethau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud ledled y DU wedi bod yn fuddiol iawn yn fy marn i. Gadewch inni atgoffa ein hunain o rai o'r pethau hyn. Rydym wedi cael help i gyflogwyr gyda'u cyflogau o ganlyniad i'r cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws. Rydym wedi gweld cymorth i fusnesau aros ar eu traed gyda thoriadau TAW. Rydym wedi gweld gohirio trethi, cymorth i'r hunangyflogedig, benthyciadau adfer. Rydym wedi gweld cymorth pwysig i'r sector lletygarwch drwy'r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, ac wrth gwrs, rydym wedi gweld y cynllun economaidd newydd hwn ar gyfer y gaeaf sy'n rhoi cymorth pellach eto i'n busnesau ac i'r sector cyhoeddus hefyd. Felly, heb fod y DU gyfan wedi gallu camu i'r adwy, credaf y byddai Cymru wedi ei chael yn anodd iawn ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.
A beth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud? Wel, roedd yn haeddu clod am sefydlu cronfa cadernid economaidd. Credaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rhaid inni gofio, wrth gwrs, fod Cymru'n cael 20c ychwanegol am bob punt, yn ôl cyfran, ar bob swm canlyniadol, felly mae ganddi'r gallu i wneud hynny, ac rwy'n falch ei bod wedi gwneud hynny. Ond roedd iddo ei anfanteision. Roedd meini prawf wedi'u gosod gyda'r gronfa cadernid economaidd a olygai fod rhai pobl ar eu colled, a phan fydd gennych bŵer ychwanegol yn eich poced ôl, fel sydd gan Lywodraeth Cymru, credaf ei bod hi'n bwysig eich bod yn defnyddio'r pŵer hwnnw ac yn ei dargedu ar y bylchau y soniodd Helen Mary Jones ac eraill amdanynt. Mae'r trothwy, er enghraifft, o drosiant o £50,000 cyn y gallwch wneud cais yn drothwy annerbyniol o uchel, yn enwedig i'r nifer fawr o fusnesau llai o faint sydd gennym yng Nghymru, gan gynnwys llawer, a dweud y gwir, yn etholaeth y Gweinidog ei hun. Rwy'n synnu nad yw'n gwrando arnynt ac yn addasu'r cynllun i sicrhau y gall y busnesau hynny wneud cais. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod gwasgu ar fusnesau i undeboli eu gweithlu er mwyn bod yn gymwys i gael grantiau yn gwbl annerbyniol. Mae'n sarhad ar y busnesau hynny, gyda llawer ohonynt yn gyflogwyr cwbl weddus sy'n trin eu staff yn deg, yn annog eu gweithlu ac wedi bod yn eu cefnogi drwy bob trybini yn ystod yr argyfwng hwn. Mae cael Gweinidog sy'n rhoi mwy o sylw i chwyddo rhengoedd yr undebau, cefnogwyr mwyaf y Blaid Lafur, yn hytrach nag achub yr economi ac achub y busnesau ac achub y swyddi yn gwbl annerbyniol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn ailystyried ac yn ymddiheuro am ddosbarthu llythyr a oedd yn awgrymu y dylai'r busnesau hynny undeboli. Gobeithio y bydd pobl yn cefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio heddiw, oherwydd rwy'n credu bod llawer iawn o werth ynddo.
Lywydd, rwyf am ehangu'r ddadl hon heddiw, oherwydd mae gan ymyriadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU nid yn unig oblygiadau i Gymru a'r DU, ond mae iddynt oblygiadau byd-eang hefyd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach yn argymell mai cyfyngiadau symud cenedlaethol ddylai fod y dewis olaf wrth fynd i'r afael â COVID-19, felly pam y mae Llywodraethau'r DU a Llywodraeth Cymru yn dal i ddilyn y polisi trychinebus hwn?
Mae gennym ni yn y byd datblygedig gyfrifoldeb tuag at wledydd y trydydd byd i gadw ein heconomïau'n gryf ac yn agored i fasnach. Dim ond drwy gynnal economi orllewinol gref y gallwn brynu nwyddau hanfodol o rai o'r gwledydd tlotaf ar y ddaear. Mae'r mewnforion o'r gwledydd hyn yn llythrennol yn fater o fywyd a marwolaeth, oherwydd dim ond drwy gynnal yr allforion hyn y gallant—a defnyddiaf y term yn yr ystyr gryfaf posibl—fwydo eu hunain. Rydym yn llythrennol yn diogelu bywydau yn economïau cyfoethocaf y byd ar draul bywydau yn y gwledydd tlotaf ar y ddaear. Yr hyn sy'n fwy gwarthus byth am strategaethau cyfyngiadau symud y gorllewin yw eu bod yn dweud ei fod yn digwydd er mwyn diogelu'r henoed, pan fo llawer ohonynt—neu lawer ohonom, dylwn ddweud—wedi cael bywydau hir a chyflawn, ac am y rhan fwyaf o'n bywydau rydym wedi mwynhau holl foethusrwydd economi fodern gyfoethog. Ac eto, ceir y math hwn o ddiogelwch ar draul yr ifanc a'r ifanc iawn yng ngwledydd tlotaf y byd.
Nid yw hyn yn golygu ein bod yn troi cefn ar ein henoed a'r rhai sy'n agored iawn i niwed y feirws a'i ganlyniadau, ond ein bod yn newid ein strategaethau. Efallai y dylem archwilio rhai o'r datganiadau diweddaraf gan gŵrw'r argyfwng COVID, prif gynghorydd meddygol Llywodraeth y DU, Chris Whitty. Rwy'n dyfynnu: ni fydd y mwyafrif helaeth o'r cyhoedd ym Mhrydain yn dal y feirws o gwbl. O'r rhai sy'n gwneud hynny, ni fydd cyfran sylweddol yn gwybod eu bod wedi'i gael. Byddant yn asymptomatig. O'r rhai sy'n dangos symptomau, bydd 80 y cant—a chofiwch, rwy'n dyfynnu prif swyddog meddygol y DU—yn cael adwaith cymedrol, ac efallai y bydd yn rhaid i gyfran fach o'r rhain fynd i'r gwely am ychydig ddyddiau. Bydd yn rhaid i leiafrif anffodus fynd i'r ysbyty ac efallai y bydd angen triniaeth ocsigen arnynt cyn dychwelyd adref. O'r lleiafrif hwn, bydd angen gofal critigol ar leiafrif bach, ac yn anffodus, bydd lleiafrif bach iawn o'r rhain yn marw. A hyn, unwaith eto: bydd cyfraddau marwolaeth cyffredinol yn llai nag 1 y cant; hyd yn oed yn yr uchaf un o'r grwpiau risg uchel, os ydynt yn dal y feirws, ni fyddant yn marw. Geiriau'r prif swyddog meddygol sy'n cynghori Llywodraeth y DU yw'r rhain i gyd.
Mae'r holl ystadegau'n dangos nad yw COVID-19 yn fawr o fygythiad i'r ifanc a'r iach yn y byd gorllewinol, os o gwbl. Felly, mae'r cyfyngiadau symud yno i ddiogelu pobl sâl a phobl sy'n agored i niwed. Ond does bosibl nad y strategaeth orau fyddai sicrhau bod y rhai sydd yn y categori hwn yn cael eu diogelu'n ddigonol, naill ai drwy hunanynysu gartref neu drwy arfer y mesurau gwrth-COVID llymaf yn ein cartrefi gofal a'n hysbytai.
Nid oes gennym hawl i barhau i ddiogelu ein hunain ar draul tlodion y byd. Oni bai ein bod yn dal y feirws ac yn mynd yn ddifrifol wael, ni fyddwn ni yn y sefydliad hwn yn dioddef fawr ddim o'r pandemig hwn. Mae ein cyflogau wedi'u gwarantu, bydd ein stumogau bob amser yn llawn. Rhaid inni roi diwedd ar y gwallgofrwydd hunanol hwn, ailagor ein heconomïau a sicrhau ein bod yn ddigon cryf i barhau i ddod â mewnforion i mewn o wledydd tlotaf y byd, fel y gallant barhau i ddiogelu eu pobl sy'n agored i niwed, eu henoed a'u pobl ifanc, drwy sicrhau'n syml eu bod yn cael digon o fwyd. Diolch, Lywydd.
Mark Isherwood. Mae angen agor eich meic, Mark Isherwood, cyn i chi ddechrau.
Fel y dywed ein cynnig, rhaid inni gydnabod effaith andwyol sylweddol y cyfyngiadau coronafeirws lleol ar fusnesau a chyflogwyr eraill, a nodi'r angen i sicrhau bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur. Er mwyn helpu i gadw ein heconomi'n weithredol a diogelu rhag trosglwyddiad COVID, mae angen data lleol arnoch, ac oni bai bod Llywodraeth Cymru yn darparu hyn, bydd rhaid dod i gasgliadau amlwg. Yn hytrach, mae'n ymddangos bod penderfyniad y Prif Weinidog hwn ar gyfyngiadau symud yng Nghymru yn seiliedig ar bapur nad yw wedi'i adolygu'n ddigonol gan gymheiriaid i'w gyhoeddi. I fod yn glir, adolygiadau gwyddonol gan gymheiriaid yw conglfaen gwyddoniaeth.
Derbyniwyd y datganiadau canlynol gan etholwyr yn sir y Fflint, Wrecsam, Sir Ddinbych a Chonwy: 'Hoffwn gwestiynu dilysrwydd y cyfyngiadau teithio lleol a osodir ar gynghorau yng ngogledd Cymru. Os byddaf yn teithio y tu allan i fy sir fy hun, er mwyn mynd i heicio y gwnaf hynny, pan fyddaf ar fy mhen fy hun, i helpu gyda fy mhroblemau iechyd meddwl. Tybed a fyddech yn gallu tynnu sylw'r gweinidogion iechyd a'r Prif Weinidogion at hyn ar fy rhan. Rwy'n teimlo fy mod yn byw dan unbennaeth yma yng Nghymru o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU'; 'Rwy'n ysgrifennu fel dinesydd pryderus i fynegi fy niolch am y ffordd y mae nifer o Aelodau o'r Senedd wedi siarad yn erbyn y cyfyngiadau gwarthus a chwerthinllyd a osodwyd ar ogledd Cymru gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n byw ym Mhrestatyn, sy'n golygu y gallaf deithio 30 milltir a mwy ond dim ond 2 filltir i'r dwyrain a 3 milltir i'r gorllewin'; 'Ni allwn gael diod mewn bar sy'n dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol gyda'n cymdogion neu ffrindiau agos eraill, ac eto gallwn grwydro o amgylch archfarchnad orlawn, lle gallwn godi a rhoi eitemau yn ôl ar y silffoedd'; 'Ni oedd yr unig bobl yn y bar ac rydym yn teimlo dros y staff oherwydd, os bydd hyn yn parhau, byddant yn cau gan arwain at golli llawer o swyddi. Mae bron fel petai Llywodraeth Cymru yn targedu twristiaeth a'r sector lletygarwch yn fwriadol'; 'Rwy'n ysgrifennu atoch gyda phryder mawr i fynegi fy siom a fy nicter parhaus ynglŷn â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r argyfwng coronafeirws sy'n parhau. Mae'n teimlo fel pe baem yn byw mewn unbennaeth'; 'Rwy'n byw hanner milltir o'r ffin â Lloegr, felly rwy'n byw'r rhan helaethaf o fy mywyd yn Lloegr: deintydd, trin traed, hamdden ac yn y blaen. Gallaf deithio 30 milltir i'r cyfeiriad arall ac aros yn y sir, ond nid hanner milltir dros y ffin. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl'; 'Rwy'n llwyr gefnogi'r frwydr yn erbyn COVID, ond rhaid ei gweld yn ei chyd-destun. Mae'r cyfyngiadau COVID yn llawn anghysondebau ac yn afresymegol. Yn ogystal â hynny, mae'r gwahaniaeth yn y rheoliadau rhwng Cymru a Lloegr yn ddryslyd ac nid ydynt o gymorth, yn enwedig i'r rheini ohonom sy'n byw ar y ffin. Mae llawer o fusnesau wedi'u caethiwo mewn sefyllfaoedd amhosibl lle na allant ennill a byddant yn methu o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Cymru'; 'Rwy'n pryderu am gyfraddau heintio COVID-19 ond yn ofni bod Llywodraeth Cymru ar ryw fath o grwsâd ac mae'n ymddangos eu bod yn benderfynol o ddefnyddio cyfyngiadau symud llym fel y prif ateb. Rhaid imi gyfaddef fy mod yn aelod ffyddlon o'r Blaid Lafur, ond ni allaf gefnogi'r cyfeiriad hwnnw yma'; 'Rwy'n ei chael yn frawychus ac yn hurt y gall Llywodraeth Cymru ddatgan yn agored fod yn rhaid i chi gytuno â'u polisïau cymdeithasol cyn y gallwch gael arian gan y Llywodraeth'. Mae'r dyfyniad hwn yn sarhad difrifol ar ddemocratiaeth luosogaethol a'r cam cyntaf ar y ffordd, rwy'n dyfynnu, at unbennaeth ffasgaidd.
Ysgrifennodd cynrychiolwyr lletygarwch: 'Mae'n destun pryder mawr fod offerynnau mor ddi-awch yn cael eu hystyried eto, o ystyried y niwed sylweddol a achoswyd i'n sector yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol yn gynharach eleni'; ac, 'Mae gennyf nifer o gleientiaid sy'n gweithredu busnesau lletygarwch, ac mae pob un ohonynt wedi cael trafferth aros yn hyfyw yn economaidd ond hefyd wedi rhoi diogelwch gweithwyr a chwsmeriaid yn gyntaf bob amser. Rydym yn dal i gael ein gyrru gan yr ysfa i osgoi risg, pan ddylem fod yn rheoli risg—system raddio achrededig trwydded i fasnachu wedi'i monitro, gyda neges glir i ddefnyddwyr er mwyn darparu rhywfaint o gysur yn ystod y pandemig hwn.'
Mae'n anghydnaws hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi eithrio busnesau gwely a brecwast bach rhag cymorth grant eto. Ddoe, dywedodd y Gweinidog cyllid wrthyf y dylent siarad â Busnes Cymru, ond ar ôl rhoi cynnig ar hyn droeon, dywedant y byddai unrhyw gytundebau benthyca yn eu gwthio i ddyled na ellir ei rheoli ac maent yn ailddatgan eu bod yn cefnogi'r economi leol ac y dylai fod ganddynt hawl i gymorth. Beth yn union sydd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru yn erbyn busnesau gwely a brecwast yng Nghymru? Mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd, a rhaid i'r Llywodraeth hon yng Nghymru gael ei dwyn i gyfrif gan y cyhoedd. Gobeithio y bydd y cyfryngau'n nodi hynny hefyd. Diolch.
Un o'r cyflogwyr mawr sydd gennym yng Nghymru, wrth gwrs, yw'r Post Brenhinol, ac rydym i gyd wedi canu clodydd ein postmyn yn ystod y pandemig COVID, a hynny'n gwbl briodol. Ac wrth gwrs, mae llawer o siaradwyr hefyd wedi sôn am bwysigrwydd diogelwch a lles y bobl sy'n gweithio mewn busnesau. A gaf fi ddweud, felly, cymaint o syndod yw gweld bod y Post Brenhinol, sefydliad sydd, yn sicr yng Nghaerdydd, wedi cael achosion o COVID, ar hyn o bryd yn edrych ar gyflwyno cerbydau amlfeddiannaeth? Mae'n fwy o syndod byth, oherwydd yn eu canllawiau, wrth edrych ar y darpariaethau diogelwch, dywedant, 'A oes angen inni fynd ati mewn ffyrdd gwahanol i gyngor Public Health England yn yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon?', a dywedant, 'Na, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y Llywodraeth a Public Health England.'
Rwyf wedi codi hyn gyda'r Post Brenhinol. Maent bellach wedi newid y canllawiau hynny, ond onid yw'n gwbl anhygoel, pan fydd gennym gyfreithiau yng Nghymru i ddiogelu gweithwyr, fod gennym y Post Brenhinol yn dweud yn y bôn, 'Na, rydym yn mynd i ddiystyru cyfraith Cymru a dilyn meini prawf Lloegr'? Oherwydd yng Nghymru, mae gennym gyfreithiau i ddiogelu gweithwyr drwy reoleiddio cadw pellter cymdeithasol, a hynny'n gwbl briodol. Weinidog, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn codi'r mater hwn, oherwydd mae'n amlwg fod pryder ynglŷn â'r ffordd y mae'r Post Brenhinol yn gweithredu a chyflwyno cerbydau amlfeddiannaeth ar yr adeg hon.
A gaf fi ddweud hefyd, felly, mewn perthynas â busnesau eraill, fod gennym rai busnesau gwych yng Nghymru sydd wedi gweithio gyda'u hundebau llafur yn adeiladol, gyda'i gilydd, i gyflawni dros y busnesau hynny a thros ddiogelwch gweithwyr? A dyna pam y mae gennym bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, oherwydd rydym yn cydnabod bod y bartneriaeth honno a rôl undebau llafur ym maes diogelwch, tlodi mewn gwaith, cyflogaeth foesegol a rhoi llais i weithwyr, yn rhywbeth sy'n gweithio mewn gwirionedd, mewn ffordd wahanol iawn i'r modd y mae Llywodraeth y DU yn Lloegr wedi ymgysylltu ag undebau llafur.
Felly, nid yw'n syndod o gwbl ein bod yn gweld y cymal hwn yn y cynnig sy'n datgelu beth yw diben go iawn y Torïaid: gwrthwynebu undebau, gwrthwynebu llais i bobl sy'n gweithio ar adeg arbennig pan fo'u diogelwch, eu bywoliaeth, eu risg o ganlyniad i COVID mor bwysig. Ac rwy'n credu ei bod yn gwbl gywilyddus eich bod yn rhoi hynny i mewn, oherwydd mae'n gamarweiniol. Fe wyddoch yn iawn nad oes gofyniad i gydnabod undeb llafur er mwyn cael arian yng Nghymru, ond mae'n gwbl briodol a chywir i Lywodraeth Cymru ddweud, 'Os ydych am gael arian cyhoeddus, gellir disgwyl i chi gymhwyso safonau cyflogaeth foesegol'—a gwyddom fod gan y rhieni sydd mewn undebau llafur safonau uwch, mwy o ddiogelwch a llai o dlodi mewn gwaith.
A gaf fi ddweud hefyd pa mor warthus yw hi fod y Torïaid, pan fyddant yn siarad am fusnes—ni chlywais yr un Tori Cymreig yn siarad o blaid gweithwyr British Airways yn ne Cymru, y rhai a gafodd eu diswyddo a'u hail-gyflogi ar delerau ac amodau gwaeth gan sefydliad sydd wedi cael arian cyhoeddus ac sydd bellach yn ceisio defnyddio COVID i'w fantais ei hun? Ble roedd y Torïaid bryd hynny, pan gafwyd cyfle i siarad ar ran y gweithwyr hynny yng Nghymru?
Lywydd, nid oedd yn dderbyniol yn ystod y pandemig COVID hwn, a'r holl anawsterau sy'n bodoli i fusnesau a gweithwyr a'u lles cyffredin, fod cyni'n cael ei ailgyflwyno a bod ein gweithwyr sector cyhoeddus yn cael eu gorfodi i dalu pris y pandemig COVID hwn. Eisoes, gwelwn drafodaethau'n cael eu cynnal gan y Torïaid ynglŷn â sut i gyfyngu ar gyflogau yn y sector cyhoeddus, sut i dorri baich y pwrs cyhoeddus, ac nid yw hyn yn dderbyniol. Credaf mai un peth sy'n deillio o'r argyfwng COVID hwn yw ein bod yn cefnogi ein busnesau, ein bod yn cefnogi cyflogaeth foesegol, yn cefnogi'r rheini sy'n gweithio yn y busnesau hynny, rydym yn cefnogi partneriaeth gymdeithasol, ond rhaid inni beidio â mynd yn ôl at y ffordd roedd pethau o'r blaen pan ddown allan o COVID. Ac mae'n drueni mawr fod y blaid Dorïaidd yng Nghymru wedi dangos unwaith eto ei bod yn wrth-undeb llafur ac yn wrth-ddosbarth gweithiol. Diolch.
Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon, ac am gydnabod y byddai fy ngwelliant wedi ychwanegu at y ddadl. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, roedd cyfyngiadau symud yn ddrwg angenrheidiol ar ddechrau'r pandemig hwn wrth inni adeiladu capasiti i ymdrin â'r argyfwng. Fodd bynnag, rydym wedi cael saith mis i adeiladu'r capasiti hwnnw, ac mae'n mynd yn anos cyfiawnhau'r niwed i fusnesau, yr economi ac iechyd ein hetholwyr sy'n deillio o fesurau o'r fath. Ac er fy mod yn cydnabod bod llawer o fusnesau wedi cael cymorth yn ystod y cyfyngiadau symud blaenorol, roedd llawer o dir canol lle roedd llawer o fusnesau'n syrthio rhwng y craciau, a gallem fod yn mynd i diriogaeth y gwellhad yn waeth na'r clefyd cyn bo hir. Faint o fusnesau sydd wedi gorfod cau, faint o bobl sy'n gorfod colli eu swyddi, cyn inni sylweddoli ein bod yn gwneud mwy o niwed na lles? Mae arnom angen sicrwydd yn awr na fydd unrhyw fusnes yn cael ei adael i sefyll ar ei ben ei hun.
Nid wyf yn un o'r rheini sy'n dweud na ddylem roi unrhyw gamau ar waith—ddim o bell ffordd—a gadael i'r clefyd redeg ei gwrs. Dylem yn bendant fod yn cymryd camau i fynd i'r afael â COVID-19, ond erbyn hyn mae gennym brawf nad yw ymateb imiwnyddol yn para'n hir gyda feirws SARS-CoV-2. Rydym eisoes yn gweld pobl yn America yn dal y clefyd am yr eildro, ac mewn adroddiad ddoe, mae'n ymddangos y gall yr ail haint fod hyd yn oed yn fwy difrifol. Felly, ni allwn ddibynnu ar imiwnedd naturiol ac nid oes gennym syniad pryd y bydd brechlyn ar gael. Gallai fod yn flwyddyn neu ddwy arall cyn inni gael brechlyn a'i gael i bawb yng Nghymru, a hyd hynny rhaid inni ddysgu ceisio byw gyda'r clefyd, ac mae hynny'n golygu bod angen i bawb ohonom wisgo masgiau'n gyhoeddus, cadw 2 fetr ar wahân, golchi ein dwylo'n rheolaidd am o leiaf 20 eiliad. A'r hyn nad yw'n ei olygu yw cyfyngu ar symudiadau pawb. Rhaid inni gadw rheolaeth ar achosion, ond mae hynny'n golygu cyfyngu ar y rhai sydd wedi'u heintio, nid cyfyngu ar bobl iach.
Felly, pan nodir achos o COVID, dylid profi pawb sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r person hwnnw, ni waeth beth fo'r symptomau, a dylid gosod pawb mewn cwarantin llym nes ei bod yn glir nad ydynt bellach yn heintus. Nid cyfyngiadau ledled y wlad na hyd yn oed ar draws y sir yw'r ateb bob amser, na chau busnesau ychwaith. Rhaid inni gael mesurau hyperleol wedi'u targedu—dull llawfeddygol o fyd ati, yn hytrach na'r dull tir llosg y mae'n ymddangos ein bod â'n bryd ar ei weithredu.
Er enghraifft, yn fy rhanbarth i, mae gennym dair sir dan gyfyngiadau, sy'n golygu i bob pwrpas fod y rhanbarth cyfan o dros 0.5 miliwn o bobl wedi'u cadw dan gyfyngiadau oherwydd 600 o achosion. Rydym yn cyfyngu ar ryddid 0.5 miliwn o bobl, yn cau busnesau, yn achosi i bobl golli eu bywoliaeth, am fod 0.1 y cant o'r bobl yn y rhanbarth hwnnw wedi dal COVID-19, a daliodd y rhan fwyaf ohonynt y clefyd am nad oeddent bob amser yn ufuddhau i fesurau cadw pellter cymdeithasol—nid yw hynny'n wir bob amser, ond mae'n wir mewn llawer o'r achosion—ac o ganlyniad i hunanoldeb rhai pobl, mae busnesau yn fy rhanbarth yn dioddef.
Daeth busnes ymbincio anifeiliaid anwes i gysylltiad â mi yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf oherwydd bod cyfyngiadau wedi effeithio'n aruthrol ar eu busnes. Efallai y cânt eu gorfodi i roi'r gorau i'r busnes yn gyfan gwbl am nad oes cymorth ar gael ar eu cyfer. Mae'r busnes hwn ymhell o fod yn unigryw. Mae busnesau wedi cydymffurfio â rheoliadau cadw pellter cymdeithasol, maent wedi gweithredu mesurau hylendid COVID, ond eto maent yn dal i ddioddef oherwydd gweithredoedd lleiafrif bach o unigolion.
Felly, mae'r clefyd hwn yma i aros, ac mae arnaf ofn fod yn rhaid inni ddod o hyd i ffordd o ddysgu byw gydag ef, neu fel arall gallem wneud niwed na ellir ei ddad-wneud i'n heconomi a'n cymdeithas. Ac rwy'n derbyn ei fod yn galw am gydbwysedd, ac un anodd iawn ar hynny, ac nid oes neb yn gwybod yr holl atebion. Diolch yn fawr, Lywydd.
Weinidog, nid dyma'r tro cyntaf i mi orfod codi'r effaith negyddol y mae eich cyfyngiadau symud economaidd sirol yn ei chael ar fy etholwyr yn Aberconwy: manwerthwyr yn cymryd cyn lleied â £6.50 y dydd er gwaethaf gorbenion o filoedd o bunnoedd; gwestywyr yn poeni'n daer am eu busnesau ac yn wir, am eu hiechyd meddwl eu hunain. Mae ein hawdurdod lleol yn agored iawn i niwed difrifol oherwydd bod yr economi hon a bywoliaeth pobl mor ddibynnol ar dwristiaeth; sector gwerth £904 miliwn i'r sir. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd gan Centre for Towns fod bron i 41 y cant o weithwyr Llandudno mewn sectorau sydd wedi'u cau—y gyfradd uchaf yng ngogledd Cymru. Rydych chi eisoes yn cael eich beirniadu gan wleidyddion etholedig a'r diwydiant ei hun, sydd ond yn gofyn am y dystiolaeth wyddonol fod twristiaid yn cario COVID-19 i mewn i ogledd Cymru—profwch hynny. Mae hyd yn oed y Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro nad oes tystiolaeth o'r fath, ac eto, heddiw, mae'n sôn am gyfyngiadau pellach, sydd eisoes yn cael ei galw'n 'wal Gymreig Drakeford'. A 'wal' a ddywedais, nid 'wool'. [Chwerthin.] Sut y gallwch gyfiawnhau peidio â chynnwys dod ar wyliau fel esgus rhesymol yn y rheoliadau? Nawr rwy'n gwybod, yn fwy na neb, gyda demograffeg pobl hŷn ac agored i niwed, fod cynnydd esbonyddol yn nifer yr achosion byw o COVID, ac nid ydym yn dwp; gwyddom fod yn rhaid gweithredu. Fodd bynnag, a ydych wedi aros i feddwl am yr effaith hirdymor ar iechyd meddwl y perchnogion busnes hyn sy'n ceisio ymladd am eu bodolaeth? Ac nid dim ond yr adeiladau rwy'n ei olygu; rwy'n sôn am fodolaeth eu gweithwyr a hwy eu hunain yn wir. Ni fydd gwybodaeth a ryddhawyd gan Busnes Cymru heddiw ynglŷn â grant y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol o £1,000 neu £1,500 yn mynd yn agos at helpu'r busnesau hyn, ac rwy'n gynddeiriog—ac rwy'n credu ei fod yn llechgïaidd ar eich rhan—eich bod wedi cynnwys rheol 21 diwrnod. Nid wyf yn credu bod llawer o fy musnesau yn gwybod hynny eto hyd yn oed, ond mae'n rhaid iddynt fod dan gyfyngiadau am 21 diwrnod cyn bod ganddynt hawl i geiniog. Rwy'n credu bod hynny'n warthus. Ac rydych wedi gwneud pethau hyd yn oed yn waeth drwy ei wneud ar sail y cyntaf i'r felin. Gwyddom pa mor anodd y gall fod i wneud cais am y cyllid grant hwn, a bydd llawer yn cael eu gadael ymhell ar ôl. Mae angen agor y gronfa hon fel bod pob busnes yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau'n cael rhywfaint o gymorth ariannol. Ac i roi halen ar y briw, mae gennych yr haerllugrwydd i awgrymu i fy ngwestywyr—wyddoch chi, roedd disgwyliad i unrhyw fusnesau ymuno ag undeb llafur, a thrwy hynny rydych yn creu iwtopia sosialaidd. A wnewch chi dynnu'r ensyniad hwnnw'n ôl, oherwydd mae wedi achosi pryder mawr iawn?
Ar yr adeg hon o argyfwng, y camau gorau y gall cyflogwyr eu cymryd i gefnogi gweithwyr yw ceisio achub eu swyddi. Ni fydd hynny'n bosibl oni roddir cymorth cymesur gan Lywodraeth Cymru ac oni chodir y cyfyngiadau economaidd chwerthinllyd hyn. Yn yr un modd, mae etholwyr Aberconwy yn haeddu ateb ynglŷn â'r rhesymeg sy'n sail i'r cyfyngiadau economaidd hyn. Mae'r bobl hyn yn hynod ddeallus, ac rydych yn eu trin fel pe na baent yn ddeallus o gwbl. Sut rydym wedi cyrraedd y pwynt lle mae gennych ddata lleol ar gyfer Bangor, Pen-y-bont ar Ogwr, Llanelli, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, ond nid ar gyfer wardiau yn sir Conwy? Rydym wedi galw dro ar ôl tro am gyfyngiadau hyperleol doeth o'r math y mae hyd yn oed Dr Atherton wedi nodi eu bod yn ffordd fwy democrataidd o gyflwyno cyfyngiadau. Mae cymunedau fel Betws-y-Coed yn haeddu gwybod a oes cofnod o COVID-19 yn eu pentref, ac os oes, a yw'n gymesur cael y porth i Eryri wedi'i lesteirio gan gyfyngiadau economaidd.
Ac yn wir nid yr arfordir yn unig sy'n cael ei daro'n galed, ond y Gymru wledig hefyd. Mae Llanrwst wedi gweld Glasdir yn cau ei ddrysau am y tro olaf; ym mis Awst, cafodd 1,200 o unigolion yn y sector amaethyddol, coedwigaeth a physgota eu gosod ar ffyrlo. Yn Aberconwy a'r Gymru wledig, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y ddibyniaeth enfawr ar amaethyddiaeth a thwristiaeth. Mae angen inni hyrwyddo arallgyfeirio a thyfu sectorau eraill yn y Gymru wledig. Mae'r potensial yn glir, gyda datblygiadau cyffrous fel campws arloesi newydd sbon Prifysgol Aberystwyth, a'r cwmni datblygu yn Nhrawsfynydd, Cwmni Egino. Fodd bynnag, dim ond os bydd Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i'r pandemig, yn gwrando ar y galwadau dramatig i wneud nid yn unig Wrecsam a Glannau Dyfrdwy yn brif ffocws i ogledd Cymru yn y fframwaith datblygu cenedlaethol, ond Caernarfon, Bangor ac ardal afon Menai hefyd y cyflawnir datblygiadau o'r fath a chryfhau sectorau newydd mewn ardaloedd gwledig ac ar hyd yr arfordir yng ngogledd-orllewin a gorllewin Cymru.
Er fy mod yn ailadrodd pwysigrwydd cefnogi ein sector twristiaeth presennol, mae'r pandemig wedi taflu goleuni ar yr angen i'ch ymateb i COVID-19 gynnwys gweld gorllewin Cymru gyfan, o Benmaenmawr i Sir Benfro, yn cael cymorth i ddatblygu sectorau eraill hefyd. Weinidog, Brif Weinidog, Lywodraeth Cymru: rydych yn gwneud cam â phobl Cymru. Rydych yn gwneud cam â'n busnesau. Rydych yn gwneud cam â'u gweithwyr. Ailfeddyliwch am hyn, a gadewch i ni ddymchwel wal Gymreig Drakeford.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n ffocws i'w groesawu ar effaith coronafeirws ar gyflogwyr, er fy mod yn nodi gyda gofid nad oes un cyfeiriad yn y cynnig cyfan at gyflogeion o gwbl. Yn wir, yr unig sôn ymylol yw ymosodiad ar undebau ac ar weithleoedd sydd wedi undeboli. Nawr, efallai fod hyn i'w ddisgwyl, er ei fod yn siomedig iawn, ond mae'n caniatáu i mi, fel aelod balch o undeb ar hyd fy oes, annog pob gweithiwr i ymuno ag undeb bob amser, oherwydd hwy yw eich achubiaeth pan fydd y moroedd economaidd yn stormus.
Nawr, mae darnau o gynnig y Ceidwadwyr sy'n eithaf anodd anghytuno â hwy: er enghraifft,
'bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur.'
Wel, wrth gwrs, y gwrthwyneb fyddai annog bod y cyfyngiadau'n anghymesur, ac nid yw hynny'n gwneud synnwyr. Ond gofynnaf i Aelodau Ceidwadol y Senedd hon: yn gymesur â beth? Rwy'n tybio bod hynny'n golygu bod yn gymesur â maint her y pandemig gan gydbwyso hynny yn erbyn yr angen i ddiogelu swyddi; y cydbwysedd rhwng diogelu bywydau a diogelu bywoliaeth. Nawr, afraid dweud fy mod yn cytuno na allwch anghytuno â hynny, ond dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant Llafur, sy'n nodi
'bod Llywodraeth Cymru'n dyrannu mwy na £4 biliwn i'w hymateb i COVID-19, sy'n swm uwch na'r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy fformiwla Barnett.'
Soniodd cynnig y Ceidwadwyr am gyfraniad Llywodraeth y DU wrth gwrs, ond rywsut anghofiodd sôn am gyfraniad ychwanegol Llywodraeth Cymru. Mae'r cynnig Llafur hefyd yn cydnabod yn gywir y pecyn gwerth £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru o gymorth COVID-19 i fusnesau, sef y gorau yn unman yn y DU, gan gynnwys cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn, sy'n helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi. Methodd cynnig y Ceidwadwyr sôn am hyn; mae'n gamgymeriad anffodus.
Rywsut, fe wnaethant anghofio nodi hefyd, heb sôn am groesawu, cynlluniau £140 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cyfnod y gronfa cadernid economaidd, gan gynnwys £20 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer twristiaeth a lletygarwch, na nodi bod busnesau Cymru sy'n parhau i fasnachu yn gallu cael cymorth o dan gronfa ymateb cyflym cam 3 y gronfa cadernid economaidd, ac nid yw hynny'n digwydd mewn perthynas â chymorth busnes mewn ardaloedd dan gyfyngiadau lleol yn Lloegr. Felly, diolch byth fod y cynnig Llafur yn cywiro'r amryfusedd ychwanegol hwn gan y Ceidwadwyr, ac y bydd Darren a'i gyd-Aelodau yn gallu pleidleisio gyda'r meinciau Llafur wrth inni ddarparu cofnod cywir o'r gefnogaeth lawn i fusnesau yng Nghymru mewn cyfnod eithriadol o anodd.
Ond mae gennyf fusnesau a chyflogwyr o hyd nad ydynt yn gallu cael cymorth gan unrhyw un o'r cynlluniau sydd ar gael ar lefel genedlaethol, y DU, Cymru na'r lefel leol, a dyna pam fy mod eisiau i Lywodraeth y DU—oherwydd does bosibl nad dyma yw diben Llywodraeth y DU ar adegau o argyfwng ar draws y DU fel hwn—estyn yn ddyfnach i bocedi'r Trysorlys i roi cymorth ychwanegol i'r rhai sydd wedi syrthio i'r craciau, a byddai hynny'n cynnwys y rhai sydd ychydig bach y tu allan i feini prawf cynlluniau presennol y DU a Chymru. Felly, Weinidog, byddaf yn parhau i ddod ag achosion unigol atoch i geisio addasiadau yma ac ar lefel y DU. Er enghraifft, mae fy etholwr Chris sy'n rhedeg campfa, campfa fach, wedi gwylio tri chylch o gynllun y gronfa cadernid economaidd yn mynd heibio mewn rhwystredigaeth, oherwydd bob tro y mae'n gweithio ei ffordd drwy'r ffurflen gyfrifiadurol, mae'n cyrraedd y darn sy'n dweud bod yn rhaid iddo gael trosiant o £50,000 ac mae ei drosiant yn £46,000 mewn gwirionedd, ac mae'r cyfrifiadur yn dweud 'na'. Felly, hoffwn weld y cynlluniau hyn yn ymestyn eu cyrhaeddiad gyda chyllid i bobl fel Chris.
Felly, yn hyn o beth, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad mewn gwirionedd â rhai o welliannau Siân Gwenllian, ond gofynnaf i'r Gweinidog am sicrwydd y bydd y meini prawf hyn yng Nghymru yn cael eu hadolygu'n gyson i gyfateb i anghenion ac adborth yng Nghymru gan Aelodau o'r Senedd yn yr holl bleidiau. A byddwn yn cefnogi'r alwad ar Lywodraeth y DU gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Lafur y DU i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gyllid ar gyfer ardaloedd lleol yn amodol ar gyfyngiadau ychwanegol i fynd i'r afael â'r feirws. A hyd yn oed ar yr adeg hwyr iawn hon, byddwn yn ymuno â'r Llywodraeth hon yng Nghymru a Llafur y DU i annog Boris Johnson a'r Canghellor Rishi Sunak i ailystyried eu penderfyniad i derfynu'r cynllun cadw swyddi, gan nad yw'r cynllun cymorth swyddi newydd a ddaeth yn ei le yn rhoi digon o gymhelliant i gyflogwyr yn y sectorau mwyaf agored i niwed gadw gweithwyr drwy'r argyfwng hwn, gan gynnwys, gyda llaw, i gyd-Aelodau yng ngogledd Cymru, y rhai mewn twristiaeth a lletygarwch, sy'n effeithio arnom ni hefyd. Ac ar y sail honno, ac ar y sail fod cynnig y Llywodraeth yn cefnogi ymagwedd foesegol tuag at bartneriaeth mewn busnes, gan roi gwaith teg wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru gyda phob un sy'n derbyn cymorth busnes yn ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd, rwy'n cefnogi gwelliant y Llywodraeth i'r ddadl hon, ac yn annog eraill i wneud hynny.
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i gyfrannu i'r ddadl—Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Dylwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma a dweud fy mod yn falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid cymdeithasol, gyda llywodraeth leol, gyda Banc Datblygu Cymru, wedi'i wneud i gefnogi busnesau, i gefnogi cymunedau ac i gefnogi pobl sy'n gweithio drwy'r cyfnod hynod anodd hwn.
Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, ein pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn i fusnesau ac i swyddi yng Nghymru yw'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Hyd yma, mae ein cronfa cadernid economaidd wedi helpu mwy na 13,000 o fusnesau, gan ddiogelu dros 100,000 o swyddi—swyddi y gellid bod wedi'u colli pe bai'r busnesau hynny wedi'u lleoli dros y ffin yn Lloegr, lle nad oes cymorth o'r fath yn bodoli.
Rydym hefyd wedi cefnogi 2,000 o fusnesau newydd yng Nghymru—busnesau newydd a fyddai wedi mynd i'r wal o bosibl pe baent wedi'u lleoli yn Lloegr. Ac rydym wedi rhoi amryw o fesurau eraill ar waith, Lywydd, gan gynnwys seibiant ad-dalu i Fanc Datblygu Cymru, gwarchodaeth rhag troi allan i fusnesau, a chymorth i weithwyr proffesiynol creadigol—mae'r cyfan yn gymorth nad yw ar gael dros y ffin yn Lloegr.
Nawr, Lywydd, mae'r feirws yn parhau i fod yn fygythiad mawr. O ran cyfyngiadau ar fusnesau, mae'r dystiolaeth yn awgrymu po hwyraf y gweithredwch, yr hiraf y bydd raid i'r cyfyngiadau aros yn eu lle, ac o ganlyniad, y mwyaf fydd y niwed i fusnesau, i'r economi, i fywydau pobl, gyda mwy o farwolaethau a mwy o ddioddefaint. A rhaid imi ddweud heddiw fod cymharu ein gweithredoedd fel Llywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd, sy'n gyfrifol am achub bywydau, a'n cymharu ag ymddygiad unbeniaethau ffasgaidd bron mor anwybodus ag y mae'n sarhaus. Byddwn yn parhau i adolygu'r mesurau presennol yn gyson a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid, yn ogystal ag arbenigwyr iechyd cyhoeddus, arweinwyr awdurdodau lleol a'r GIG i asesu'r sefyllfa ddiweddaraf.
Gadewch imi atgoffa'r Aelodau Ceidwadol yn y gogledd heddiw fod arweinwyr awdurdodau lleol yn y gogledd wedi cytuno i'r cyfyngiadau lleol hynny. Felly, a fyddant yn beirniadu arweinwyr yr awdurdodau lleol hynny fel y maent yn beirniadu Llywodraeth Cymru? A fyddant yn beirniadu arweinwyr yr heddlu? A fyddant yn beirniadu'r arweinwyr iechyd sydd hefyd wedi cytuno iddynt? Rwy'n amau hynny, Lywydd, ond mae'r gwahoddiad yno iddynt wneud hynny yn eu hymateb.
Lywydd, rydym yn parhau i baratoi ar gyfer agor trydydd cam y gronfa cadernid economaidd ar gyfer Cymru'n unig yr wythnos nesaf. Mae'n cynnwys £80 miliwn ar gyfer grantiau datblygu busnes, yn ogystal â'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol gwerth £60 miliwn. Gadewch imi bwysleisio, Lywydd, fod £20 miliwn o'r grantiau datblygu busnes yn cael ei neilltuo ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch, gyda disgresiwn i ddyfarnu grantiau 100 y cant heb fod angen arian cyfatebol. Felly, rydym eisoes yn gwneud yr hyn y mae un o'r pwyntiau yng nghynnig y Ceidwadwyr y prynhawn yma yn galw amdano. Gadewch inni fod yn gwbl glir eto: arian grant yw hwn nad yw ar gael i fusnesau twristiaeth a lletygarwch dros y ffin yn Lloegr.
Bydd y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol yn agor ar gyfer ceisiadau ym mwrdeistref sirol Caerffili erbyn diwedd yr wythnos hon. Yn wahanol i Loegr, gall busnesau sy'n parhau i fasnachu gael cymorth. Gwn fod busnesau yng Nghymru wedi gwerthfawrogi'r cymorth ychwanegol hwn nad yw ar gael dros y ffin yn Lloegr, ond daw â chyfrifoldebau yn ei sgil, wrth gwrs. Arian trethdalwyr yw hwn sy'n cael ei ddefnyddio. Dyma arian gan bobl sy'n gweithio a gaiff ei ddefnyddio i gefnogi busnesau.
Mae pob busnes sy'n cael cymorth o'n cronfa cadernid economaidd wedi ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd. Mae hynny'n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol, hyd yn oed ar yr adegau anoddaf; hyrwyddo gwaith teg, yr ymddengys bod y Ceidwadwyr heddiw mor amlwg yn ei wrthwynebu, mae arnaf ofn; yn ogystal â hyrwyddo gwell iechyd meddwl, hyrwyddo sgiliau, a hyrwyddo twf glân a gwyrdd. Nid ydym yn ymddiheuro am hyn, nac am ein dull partneriaeth gymdeithasol, sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig.
Lywydd, rydym eisoes wedi cael mwy na 18,000 o ymholiadau am gymorth yn nhrydydd cyfnod y gronfa cadernid economaidd, ond hoffwn dynnu sylw hefyd at ba mor effeithiol y bu un arall o'n sefydliadau yn ystod y pandemig hwn. Ers dechrau'r argyfwng hwn, mae Banc Datblygu Cymru wedi gwneud 1,335 o fenthyciadau busnes COVID-19 Cymru i gwmnïau yng Nghymru. Mewn cymhariaeth, mae holl fanciau'r stryd fawr yng Nghymru—pob un ohonynt gyda'i gilydd—wedi gweinyddu, ar ran Llywodraeth y DU, 1,391 o fenthyciadau hyd at yr wythnos diwethaf. Mae'n golygu bod ein Banc Datblygu yng Nghymru wedi bod yr un mor bwysig â'r holl bŵer benthyca a gynigir gan holl fanciau'r stryd fawr a Llywodraeth y DU. Felly, rwy'n hynod falch o'r hyn y mae Banc Datblygu Cymru wedi'i wneud drwy'r misoedd diwethaf hyn, ac yn falch o gyflymder eu gweithredoedd a'u creadigrwydd.
Ond fel rwyf wedi dweud dro ar ôl tro, rhaid i Lywodraeth y DU roi mwy o gymorth ar y bwrdd i gefnogi busnesau a swyddi wrth inni fynd i mewn i fisoedd anodd y gaeaf. Dyna pam rwy'n gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i derfynu'r cynllun cadw swyddi. Mae'n amlwg nad yw'r cynllun a ddaeth yn ei le, y cynllun cymorth swyddi, yn cynnig digon o gymhelliant i gyflogwyr yn y sectorau mwyaf agored i niwed gadw gweithwyr drwy'r argyfwng, gan gynnwys, yn hollbwysig, busnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch.
Rydym hefyd yn dal yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n ceisiadau parhaus iddi ddarparu'r hyblygrwydd sydd ei angen arnom i ymateb a buddsoddi yn adferiad Cymru, yn benodol, newid adnoddau cyfalaf yn refeniw, gan gynyddu cronfa wrth gefn Cymru a'n pŵer benthyca i'w wneud fel yr amlinellodd Helen Mary Jones. Ac o ran y gronfa ffyniant gyffredin, wel, cynnydd bychan iawn a wnaed gyda'r gronfa honno yn ôl Aelod Ceidwadol blaenllaw o Senedd y DU, er gwaethaf y brys amlwg i gyflwyno cynlluniau ar gyfer arian yn lle cyllid yr UE.
Lywydd, fel rwyf wedi dweud, mae hwn yn gyfnod na welwyd mo'i debyg o'r blaen. Mae'r coronafeirws a'r risg gynyddol y bydd y DU yn cyrraedd diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb wedi rhoi pwysau anhygoel ar bawb—busnesau, unigolion a theuluoedd. Mae arnom angen Llywodraeth y DU ac mae arnom angen i'n cyd-Aelodau ar draws y Siambr ein cefnogi ni, Lywodraeth Cymru, i ddarparu'r adnoddau a'r sicrwydd y mae ein busnesau a'n cymunedau ei angen ar yr adeg y maent fwyaf o'i angen.
Galwaf ar Suzy Davies i ymateb i'r ddadl. Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch, bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. A gawn ni ddechrau drwy groesawu'r cymorth a ddarperir gan ein dwy Lywodraeth? Er mwyn ei gwneud yn glir fod y Ceidwadwyr Cymreig yma yn gwerthfawrogi rhai o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yma, ond mae gennym rai cwestiynau i'w gofyn i chi.
Hoffwn ddechrau gyda phwynt a wnaeth Russell George am ddod â mwy na £4 biliwn i Lywodraeth Cymru ar gyfer ymateb COVID ar ben y gefnogaeth ychwanegol gan y DU drwy'r system dreth a budd-daliadau y cyfeiriodd Darren Millar ati yn ei gyfraniad. Rwy'n credu y byddai'n drueni, oni fyddai, pe na baem yn cydnabod yr hyn y mae Canghellor y DU wedi llwyddo i'w wneud yn yr hyn a alwyd yn 'amseroedd digynsail' nifer o weithiau heddiw, a'r ymateb a ddaeth o'r hyn y gallai ei wneud o ganlyniad i gael ei ddal yn gwbl ddiarwybod gan rywbeth sydd wedi effeithio ar wledydd ym mhob rhan o'r byd.
Weinidog, pan ddywedwch yn y cynnig eich bod yn gwario mwy na'r swm canlyniadol o £4 biliwn, rwy'n meddwl tybed pa mor onest ydych chi gyda ni oherwydd, wrth gwrs, nid yw'n ychwanegol. Dyma arian a gymerir o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru er mwyn ei roi i mewn i'r pot sy'n cael ei redeg gan siambr y seren, sy'n golygu bod rhai o'ch adrannau'n gorfod erfyn i'w gael yn ôl. Ac er y byddem, wrth gwrs, yn croesawu'r gronfa cadernid economaidd, rwy'n meddwl y byddai'n rhaid i chi gydnabod hefyd na fyddech yn gallu cael cronfa cadernid economaidd i'r graddau rydych yn ei chael oni bai am yr arian a oedd yn dod i mewn, yn rhannol o leiaf, gan Lywodraeth y DU.
Fel y clywsom yn gynharach, nid yw'r gyllideb atodol hon mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r defnydd o'r symiau canlyniadol rydym yn sôn amdanynt. Yn sicr, roedd £2.2 biliwn yn dod gan Lywodraeth y DU ar yr adeg y gwnaed y gyllideb atodol, a dim ond—credaf mai cyllideb o £1.8 biliwn ydoedd. Mor anhryloyw ag erioed pan fyddwn yn sôn am graffu ar y gyllideb. A dyna pam rwy'n siomedig ynghylch yr ymateb gan y Gweinidog cyllid i'r ddadl cyn hon, yn galw am ddeddfwriaeth er mwyn cyflwyno cyllidebau.
Ond rwy'n credu mai fy mhrif wrthwynebiad i'ch gwelliant yw pwynt 8. Eich Llywodraeth chi sydd wedi dewis cyfyngiadau yn yr hyn rydych yn eu galw'n ardaloedd lleol; eich Llywodraeth chi sydd wedi cau'r farchnad i'n sectorau twristiaeth a lletygarwch sy'n cydymffurfio â mesurau COVID mewn sawl rhan o Gymru—a phe bai Plaid Cymru'n cael eu ffordd, byddent yn ei chau'n gyfan gwbl. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'ch ymateb anghymesur i fygythiad y mae pawb ohonom am ei reoli, felly rydych yn talu amdano. Neu'n well byth, gwrandewch ar yr hyn y mae Cymru'n ei ddweud wrthych a'i wneud yn gymesur, sef yr hyn y mae'r gyfraith yn gofyn amdano wrth gwrs. Yn gynharach heddiw, cyfeiriwyd at arweinydd fy ngrŵp fel un a oedd yn gwneud dehongliadau amatur o ddogfen a ryddhawyd yn gynharach. Wel, pe baech yn gwrando ar Janet Finch-Saunders heddiw a phe baech yn gwrando ar Mark Isherwood heddiw, rwy'n credu y byddwch wedi clywed tystiolaeth o'r niwed y mae eich penderfyniad yn ei wneud i'n diwydiannau.
I fynd yn ôl at y gronfa cadernid economaidd am funud, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, rwyf am groesawu'r £20 miliwn a glustnodwyd yng nghylch diweddaraf y gronfa cadernid economaidd mewn gwirionedd. Ond nid wyf yn derbyn awgrym Helen Mary Jones nad yw'r sector hwn yn bwysig yn Lloegr hefyd, fwy na rwy'n derbyn yr haeriad, neu'r awgrym a wnaed gan Mick Antoniw fod y gweithluoedd nad ydynt wedi undeboli drwy ddiffiniad yn weithluoedd annheg. Gadewch i ni gofio, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU wedi torri TAW ar fusnesau twristiaeth ac nad ydynt yn bwriadu cyflwyno treth dwristiaeth. Weinidog, ni ddywedoch chi lawer am y busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth—y gadwyn dwristiaeth, os hoffwch. Busnesau rheoli digwyddiadau yw'r rhain, er enghraifft, trefnwyr arddangosfeydd, busnesau celfyddydol ac adloniant, sy'n dal i feddwl tybed beth a wnaethoch gyda'r symiau canlyniadol coll gan Lywodraeth y DU, cwmnïau cyfyngedig un cyfarwyddwr sy'n gweithredu yn y cyfryngau, y celfyddydau ac adloniant, sydd, i bob golwg, wedi llithro o'r golwg yng nghylch diweddaraf y gronfa cadernid economaidd, fel y mae busnesau wedi gwneud, neu fel y maent yn 'dal i fod' yn gwneud, dylwn ddweud, y busnesau bach, y busnesau gwely a brecwast bach yn arbennig, sydd angen cymorth o'r gronfa cadernid economaidd. Yr union fusnesau sydd angen cymorth llif arian, nid oes ganddynt y 10 y cant i'w gyflwyno ar hyn o bryd. A Huw Irranca-Davies, efallai y gallwn ddweud bod y gair 'busnesau' yn golygu cyflogwyr a gweithwyr—wrth gwrs fod hyn yn ymwneud â gweithwyr. Credaf y dylem grybwyll hefyd fod rhywfaint o'r cyllid, er gwaethaf cytuno â'r Gweinidog am waith da'r banc datblygu, fod rhywfaint o arian y gronfa cadernid economaidd 2.0 ychydig yn araf yn dod at y bwrdd, ac os clywais yn iawn, er bod Caerffili wedi bod dan gyfyngiadau symud ers mis bellach, dim ond yn awr y gallant gael gafael ar yr arian ychwanegol sydd wedi'i anelu at yr ardaloedd sydd dan gyfyngiadau.
Rwyf am siarad yn fyr am y mapiau y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu cynhyrchu ar hyn o bryd—y mapiau data ar sail wardiau. Mae'r data hwnnw ar gael, a chredaf y dylai Llywodraeth Cymru, yn ei chyfanrwydd, ddisgwyl gallu cyfeirio at y rhain fel tystiolaeth o'r angen i osod cyfyngiadau yn y ffordd rydych am ei wneud. Nid wyf yn credu y byddai'n deg dweud bod Blaengarw a Newton, y ddau le yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn gymunedau sy'n cymysgu llawer iawn ac yn debygol o drosglwyddo'r clefyd hwn i'w gilydd. Heb fod yn hir yn ôl, roeddech yn dadlau na ddylai neb deithio ymhellach na 5 milltir o ble roeddent yn byw; nawr rydych chi'n mynnu eu bod yn gwneud hynny os ydynt eisiau siopa ac na allant wneud hynny heb groesi ffin sirol i gyrraedd y siopau agosaf, y salonau, y bwytai, a'r cyrchfannau twristiaeth sy'n cydymffurfio â mesurau COVID.
Gyda'r ffordd y mae pethau'n mynd ar hyn o bryd, gwnaeth David Rowlands y pwynt nad ydym yn gwahaniaethu rhwng ein pobl fwyaf agored i niwed a'n pobl leiaf agored i niwed, a sut i'w diogelu—mae'n fwy o ryw fath o un dull addas i bawb nad yw'n gweithio. Felly, ailadroddaf yr alwad a wnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac Aelodau eraill mewn gwirionedd, i ddangos trywydd eich meddwl, Weinidog. Ac nid yw hynny'n golygu anfon datganiad byr allan 20 munud cyn i ni eistedd yma yn y Siambr; mae'n ddatganiad sy'n cyfeirio at SAGE, y dywedodd y Gweinidog iechyd ar y teledu y bore yma ei fod yn ymwneud yn bennaf â Lloegr ac mai dyna pam rydym angen grŵp cynghori technegol ar wahân ar gyfer Cymru—i gael y wyddoniaeth yn iawn—eiliadau cyn gresynu nad oedd hyn yn cael ei wneud ar sail y pedair gwlad drwy COBRA. I ateb hynny, rwy'n dweud: wel, nid yw Boris yn cytuno â chi; nid yw Nicola Sturgeon yn cytuno â'r hyn rydych chi'n ei wneud, ar wahân i'r ffin genedlaethol honno sy'n gyfleus iawn yn wleidyddol; ac wrth gwrs, mae Keir Starmer yn gofyn i chi wneud pethau gwahanol hefyd. Felly, os ydych yn sôn am ddull pedair gwlad, byddwch yn ofalus beth y deisyfwch ei gael.
Ac yn olaf, Lywydd, rwyf am orffen gyda hyn a chyfeirio at rywbeth a ddywedodd Caroline Jones. Ni lwyddodd cyfyngiadau symud llawn, a oedd yn ddrud iawn yn nhermau iechyd meddwl, iechyd corfforol a'r economi, i atal COVID ar ôl dechrau eu llacio. Ond ni allwn aros dan gyfyngiadau parhaol am lawer iawn o resymau, ac er nad wyf yn cytuno â phopeth a ddywedodd, y pwynt hanfodol roedd hi'n ei wneud yw bod angen rhoi sylw i'r manylion yn hytrach na phastynu pawb yn ddiwahân. A dyna'r hyn rwyf am i Lywodraeth Cymru ddechrau ei ddangos yn awr, yn enwedig gan nad yw'n amlwg ar hyn o bryd beth yw ymateb y Llywodraeth i'r rhagolygon ehangach—dim un o'r pethau y soniodd Russell George amdanynt, fel polisïau y byddem yn eu cyflwyno, a allai fod o ddiddordeb i chi, ac rwy'n sicr yn gobeithio eu bod. Oherwydd roedd Helen Mary yn iawn pan ddywedodd na ddylem fod yn gwneud penderfyniadau ar sail iechyd neu'r economi mewn gwirionedd; penderfyniadau rhyng-gysylltiedig yw'r rhain, ac fel roedd David Rowlands yn nodi mewn gwirionedd, byddwn angen Cymru ffyniannus ac iach er mwyn gallu gweithredu yn y dyfodol. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Reit, felly mae yna wrthwynebiad a dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pledleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud nawr cyn inni gynnal y bleidlais. Egwyl, felly.