– Senedd Cymru ar 3 Chwefror 2021.
Eitem 7 ar ein hagenda yw dadl Plaid Cymru ar ariannu'r llyfrgell genedlaethol, a galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig. Siân.
Cynnig NDM7580 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei gorfodi i dorri swyddi a chwtogi'n ddifrifol ar wasanaethau heb fwy o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar frys y cyllid annigonol a ddyrannwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 a darparu setliad ariannu cynaliadwy i'r Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn diogelu'r gweithlu presennol ac yn caniatáu i'r llyfrgell ehangu ei gwaith hanfodol ar gyfer y dyfodol.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn sgil y newyddion da y bydd pecyn ariannu newydd gwerth £6.2 miliwn ar gael ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yma, dwi yn gobeithio bydd ein cynnig ni yn cael ei basio yn unfrydol gan y Senedd heddiw.
Mae datganiad y Llywodraeth yn dweud bod y cyllid ar gyfer y llyfrgell genedlaethol yn cynnwys cyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu rhai argymhellion allweddol yr adroddiad teilwredig, a hefyd i gwrdd â diffygion ariannol i ddiogelu swyddi ac i fynd i'r afael â'r camau difrifol mae angen eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy. Fodd bynnag, mae angen sicrwydd ynglŷn â'r codiad yn y waelodlin sydd ei angen i'r dyfodol. Mater i'r Llywodraeth nesaf fydd hynny, beryg, ac mae pobl Cymru yn gwybod yn iawn pa blaid i'w chefnogi os ydyn nhw am weld ein sefydliadau pwysig yn dod yn rhan greiddiol ac annatod o fywyd ein cenedl ni.
Dwi wedi cael fy ysbrydoli gan y gefnogaeth sydd wedi cael ei dangos i'r llyfrgell genedlaethol dros y dyddiau diwethaf—miloedd wedi arwyddo deiseb; cefnogaeth wedi dod o bob cwr o'r byd. Ond mae hi'n resyn o beth bod angen yr ymgyrch yma yn y lle cyntaf. Mi ddylai ein sefydliadau cenedlaethol fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth gwlad, nid yn destun tro pedol munud diwethaf gan Weinidogion Llafur. Mae'n rhyfedd, onid yw, mai bore yma y daeth y cyhoeddiad am yr arian, ar drothwy cynnal pleidlais yn y Senedd prynhawn yma. Nid dyma ydy'r ffordd i drin un o drysorau cenedlaethol nodedig ein cenedl ni. Ond fe ddaeth y llyfrgell genedlaethol yn symbol o'n hunaniaeth fel pobl ac fel cenedl dros y dyddiau diwethaf yma. Fe ddangoswyd dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o werth y sefydliad a gwerth y trysorau sydd ynddo.
A gadewch inni oedi am funud a dathlu'r dreftadaeth gyfoethog, odidog sydd yn yr adeilad eiconaidd sy'n sefyll yn fawreddog uwchlaw tref Aberystwyth. Dyma gartref rhai o lawysgrifau mwyaf hynafol Ewrop, cyfreithiau Hywel Dda a Llyfr Du Caerfyrddin, 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd, lluniau gan Kyffin Williams, Tunnicliffe a Turner, dros filiwn o fapiau, Archif Sgrin a Sain Cymru. Mae'r rhestr yn faith, y trysorau mor werthfawr i dreftadaeth cyfoethog Cymru.
Mi ddylai cynnal a datblygu'r llyfrgell genedlaethol fod yn fater o flaenoriaeth i Lywodraeth ein gwlad, ond, yn hytrach, beth welson ni oedd tro pedol gwleidyddol gan Lafur yn sgil pwysau cynyddol o bob cyfeiriad. Dyma ni'n gweld y Llywodraeth yn gorfod ildio a cholli wyneb yn sgil dicter cynyddol y cyhoedd wrth i un o'n sefydliadau cenedlaethol gael ei esgeuluso a'i ddiystyru. Fe ddylid bod wedi cyhoeddi'r arian yma yn ôl yn yr hydref yn lle rŵan, ar yr unfed awr ar ddeg. Fodd bynnag, diolch i bawb ddaru godi llais a lobio am y penderfyniad a'r tro pedol yma.
Gaf i sôn yn gyflym am ddau benderfyniad arall y mae angen i Lafur eu newid? Bydd canolfan cymunedol a chaffi y Paddle Steamer yng Nghaerdydd yn cael ei dinistrio oherwydd penderfyniadau Llafur ar gyngor Caerdydd. Maen nhw'n bwriadu cael gwared â sefydliad hanesyddol a hwb cymunedol yn Butetown i wneud lle i ddatblygiad tai. Er i ymgyrchwyr ofyn am gael cadw lle i'r caffi ar y safle yma fel rhan o'r datblygiad, fe wrthodwyd hyn gan gyngor Caerdydd. Os ydyn ni wir am greu Cymru sy'n dathlu ein hanes a diwylliant yn eu holl amrywiaeth, mae'n rhaid cofio bod achub sefydliadau fel y Paddle Steamer yr un mor bwysig ag achub ein llyfrgell genedlaethol.
Mae Llafur hefyd yn ddigon hapus i adeiladu amgueddfa filwrol ym Mae Caerdydd, gan gael gwared ar yr unig ardal o dir gwyrdd sydd yna, er i filoedd ei wrthwynebu. Mae amgueddfa lwyddiannus yn darparu cysylltiad clir i brofiadau bywyd y trigolion lleol. Does gan Gaerdydd ddim hanes milwrol, felly mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: hanes pwy sydd yn cael ei ddweud yn yr amgueddfa filwrol yma? Yn lle amgueddfa filwrol, yr hyn sydd ei angen ydy amgueddfa genedlaethol ar gyfer hanes a threftadaeth pobl ddu a phobl o liw, a hynny yng nghanol y gymuned yn Butetown.
I gloi, dwi'n credu bod angen i'r Llywodraeth ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf yma. Mewn pwyllgor o'r Senedd ddydd Gwener diwethaf, fe ddaru Llafur wrthod fy ngwelliannau i fyddai wedi sicrhau bod pob plentyn yn cael dysgu am hanes ein gwlad yn ei holl amrywiaeth. Fe gefnogwyd y gwelliannau gan y Torïaid, ac rydw i'n diolch i Suzy Davies a Laura Jones am y gefnogaeth yna. Mae yna don o gefnogaeth yn adeiladu tu ôl i'r ymgyrch dysgu hanes Cymru, ac mi fydd gwelliannau Plaid Cymru yn cael eu trafod eto gennym ni i gyd yn y Senedd yma ar 2 Mawrth. Mae angen penderfyniad rŵan gan y Llywodraeth i gefnogi'r gwelliannau. Cafwyd ymgyrch gref i sicrhau dyfodol y llyfrgell genedlaethol. Mae pobl Cymru yn teimlo yr un mor gryf am ddysgu hanes Cymru. Gair i gall, Lywodraeth Cymru.
Diolch. Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol gwelliant 2. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood.
Gwelliant 3—Mark Isherwood
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r dystiolaeth awdurdodol a ddarparwyd yn yr adolygiad teilwredig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nad yw'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael y lefel o gyllid sydd ei hangen arni ar hyn o bryd i ddarparu ei gwasanaethau craidd.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig felly.
Rwy'n siarad fel un o ddefnyddwyr a chefnogwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ac a gaf fi atgoffa pawb yma hefyd fod y grŵp Ceidwadol yn y Senedd wedi adneuo ei archif yn y llyfrgell genedlaethol? Rwy'n gobeithio y bydd y pleidiau gwleidyddol eraill yn gwneud hyn hefyd, oherwydd mae cadwraeth ein hatgofion gwleidyddol yr un mor bwysig â chadwraeth agweddau eraill ar gelf enaid y genedl Gymreig, os caf ei roi felly.
Hoffwn ganmol yr egwyddor o adolygiad pwrpasol. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn, oherwydd mae'n cynnig ffocws manwl iawn. Ac rwy'n credu bod yr adolygiad hwn yn ymarfer ardderchog, yn wirioneddol fanwl, ac mae wedi caniatáu inni wneud penderfyniad pwysig iawn, ac rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am y cyhoeddiad a wnaeth ddoe. Rwy'n credu ei fod yn briodol. Rwy'n credu mai'r mater sy'n codi nawr yw bod gennym fodel cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac mae'n debyg mai dyna fydd gwaith y Senedd nesaf i'w graffu er mwyn sicrhau hynny, ond rwy'n credu y byddai'n anodd peidio â chroesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud, ac nid oes gennyf amheuaeth na fydd y Gweinidog yn siarad am hyn ac ymagwedd Llywodraeth Cymru. Cyd-ddigwyddiad hapus yn ôl pob tebyg yw bod y pethau hyn wedi dod at ei gilydd y prynhawn yma.
Rwyf hefyd am ganmol natur arloesol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn yr unfed ganrif ar hugain, yn oes digideiddio er enghraifft, rwy'n credu ei bod wedi arwain y ffordd yn y newid i sicrhau bod cymaint ar gael yn ddigidol, ac yna yn ei gwaith allgymorth i sicrhau bod yr adnoddau cyfoethog hyn yn hysbys i bobl a'u bod yn hysbys i gymunedau nad ydynt wedi'u defnyddio o'r blaen efallai ar y lefel yr hoffem ei gweld. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig, a gwn mai un o'r pryderon allweddol a oedd gan staff y llyfrgell am y sefyllfa ariannu ansicr oedd efallai na fyddai'r math hwn o waith yn cael ei gynllunio na'i wneud i'r graddau y byddent yn ei hoffi yn y dyfodol.
Rwy'n credu hefyd ein bod yn anghofio'n aml pa mor wych yw'r sefydliad cenedlaethol sydd gennym yng nghanol Cymru, yno yn Aberystwyth. Mae'n sefydliad angori pwysig iawn i economi canolbarth Cymru, ac yn wir i fywyd diwylliannol a deallusol yng nghanolbarth Cymru, yn enwedig i bobl y tu hwnt i'r brifysgol ond gan gynnwys y brifysgol hefyd. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod sicrhau dyfodol y llyfrgell genedlaethol yn bwysig am y rheswm hwnnw hefyd.
Ac rwyf am orffen drwy ddweud, mewn gwirionedd, mai'r hyn y mae llyfrgell genedlaethol wych yn ei wneud—ac mae gennym hanes gwych yma—yw cadw enaid y genedl. Mae'n ein hatgoffa beth ydym ni, beth oeddem ni, a thrwy hynny, yr hyn y gallem fod. A'r weledigaeth honno sy'n fy nghyffroi'n fawr, a dyna'r rheswm penodol rwy'n croesawu'r buddsoddiad a wneir nawr i—[Anghlywadwy.] Ac rwy'n gobeithio y bydd yn arwain at fodel gwirioneddol effeithiol a chynaliadwy ar sail drwyadl, sydd wrth gwrs yn gwbl briodol ar gyfer y defnydd o arian cyhoeddus, a dyna pam fod adolygiad pwrpasol yn ffordd dda o'i wneud. Diolch.
Rwy'n cytuno â'r holl deimladau a fynegwyd gan David Melding. Wrth gwrs, cawsom sesiynau tystiolaeth yn y pwyllgor diwylliant gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a buom yn archwilio gyda hwy yr heriau y maent yn eu hwynebu a hefyd y cyfleoedd aruthrol sydd ganddynt. A hoffwn ddweud, wrth gwrs, fy mod yn credu mai yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr adneuwyd archifau gwrth-apartheid Cymru, a gobeithio y bydd yr hanes hwnnw'n cael ei ysgrifennu yn y dyfodol agos. Maent hefyd yn cadw archifau Gareth Jones a bydd pobl yn gwybod am y ffilm ddiweddar, Mr Jones, sydd wedi cael cryn dipyn o ganmoliaeth ryngwladol ac sy'n adlewyrchu'n dda iawn ar Gymru.
Rwy'n croesawu'n fawr iawn—a chredaf fod David Melding yn llygad ei le y byddai'n anodd peidio â'i gydnabod—y cyllid ychwanegol y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i gyhoeddi mewn perthynas â honno a'r amgueddfa. Rwy'n croesawu hyn yn fawr iawn, oherwydd un o'r pryderon mawr a oedd gennyf oedd sefyllfa'r bobl sy'n gweithio ynddi, y sgiliau sy'n bodoli yno a'r pwysigrwydd i'r economi leol.
Rwy'n gresynu at y cywair, a throi'r mater yn rhywbeth a oedd bron yn ddarllediad gwleidyddol ar ran Plaid Cymru, ac rwy'n gresynu—a chefais rai galwadau blin braidd—ynglŷn â'r sylwadau a wnaethpwyd gan arweinydd Plaid Cymru, yn dweud ein bod ar hyn o bryd yn wynebu dim byd llai na fandaliaeth ddiwylliannol gan y Llywodraeth Lafur; fod hwn rywsut yn benderfyniad bwriadol a wnaethpwyd gan Lywodraeth Lafur i ddinistrio diwylliant Cymru. Credaf fod hynny'n wirioneddol sarhaus. Er enghraifft, pan oedd cyngor—Plaid Cymru—Ceredigion yn cau llyfrgelloedd, roeddem yn cydnabod y pwysau ar gynghorau yn sgil cyni; nid ydym yn galw hynny'n 'fandaliaeth ddiwylliannol'. Yn yr un ffordd, yma, yr hyn a wyddom yw y bu heriau ariannol mawr. Rydym wedi cael 10 mlynedd o gyni; gwyddom fod problemau rheoli difrifol wedi codi dros gyfnod eithaf hir hefyd, ac yn y blaen.
Ond gwrandewch, rwyf am symud oddi wrth hynny, oherwydd credaf fod y cywair yn anffodus iawn yn yr hyn a ddylai ymwneud â siarad am ddyfodol un o'n sefydliadau diwylliannol a threftadaeth mwyaf gwerthfawr. Mae cyfleoedd mawr ar gael i ni: archifau'r BBC, mater digideiddio. Ac a gaf fi ddweud un peth? Wrth inni edrych ymlaen at ddatblygu cynllun cynaliadwyedd ar gyfer y sefydliadau hyn, mae un o'r cyfleoedd mawr ar gyfer y dyfodol mewn addysg, yn y rhyng-gysylltiad rhwng yr asedau hyn sydd ganddynt, sicrhau o ddifrif nad wedi'u cynnwys rhwng pedair wal y llyfrgelloedd yn unig y maent, ein bod yn eu gwneud yn hygyrch i bobl, yn hygyrch i ysgolion, yn hygyrch i bobl fel y gallant fanteisio ar yr eiconau hynny o'u hanes ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu mai dyna lle mae'r her. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid cael cynllun; rwy'n credu bod yr adolygiad pwrpasol wedi nodi llawer o'r rheini. Rwy'n falch iawn o weld y gwaith sydd wedi'i wneud gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cynllun cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n credu y bydd y cyhoeddiad am gyllid y bore yma'n cyfrannu'n sylweddol iawn at hynny. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Yn ôl yn y dyddiau tywyll hynny pan doedd dim strwythur gwleidyddol cenedlaethol gan Gymru, roedd yn destun balchder inni'r Cymry ein bod ni'n gallu uniaethu a chefnogi ein timau rygbi a'n timau pêl-droed rhyngwladol, a mynd i'r amgueddfa genedlaethol ac i'r llyfrgell genedlaethol— canolbwyntiau cof ein cenedl pan nad oedd Cymru yn cael ei chydnabod fel endid gwleidyddol o gwbl efo'i Senedd ei hunan. Ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dyma drysorfa ein hanes, yn cloriannu ein hanes a'n hiaith a'n celfyddyd dros ganrifoedd lawer. Pleser ydy bod yno ac ymhyfrydu yn ein hanes cyfoethog fel cenedl, o'r doreth o lenyddiaeth sydd wedi deillio o'r Cymreictod hwnnw.
A beth sydd yna? Fel rydyn ni wedi clywed gan eraill, trysorau llenyddol a diwylliannol ein cenedl: y Beibl Cymraeg gwreiddiol o 1588, Llyfr Du Caerfyrddin o 1250, Llyfr Taliesin o 1350, Llyfr Gwyn Rhydderch o'r flwyddyn 1350 hefyd, deddfau Hywel Dda o'r flwyddyn 1300, a nifer helaeth eraill o lawysgrifau cyfoethog ein gwlad. Ein hanes urddasol fel pobl; casgliadau o bwys rhyngwladol.
Nawr roedd hyn i gyd yn y fantol tan y cyhoeddiad heddiw, ac rwyf mor falch, yn lle rhestru anghyfiawnderau yn ein herbyn ni'r Cymry ac ychwanegu'r bygythiad i'r llyfrgell genedlaethol at hynny, fel roeddwn i'n paratoi fy araith ddoe, dyma fi heddiw yn hytrach yn llongyfarch y Llywodraeth o waelod calon am y cyhoeddiad yma heddiw, am yr arian i'r llyfrgell genedlaethol ac i'r amgueddfa genedlaethol. Wrth lwc fy mod i'n gallu newid fy araith heddiw.
Dwi hefyd yn llongyfarch ac yn talu teyrnged i'r ymgyrch gref dorfol sydd wedi dod â ni i'r penderfyniad yma heddiw. Heb ddeffroad ein pobl, byddem mewn lle gwahanol iawn, a'r ddeiseb yna yn allweddol. Diolch i bawb. Edrychwn ymlaen i ffyniant ein llyfrgell genedlaethol fel un o lyfrgelloedd mawr y byd. Cefnogwch y cynnig heb ei wella.
Prin y dylai fod angen cael dadl yn galw am gyllid digonol ar gyfer llyfrgell genedlaethol. Mae'n drueni ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn, ond fel eraill hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei rôl yn sicrhau bod y pecyn ariannu a gyhoeddwyd heddiw wedi'i gyflwyno. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd. Yn wir, treuliais sawl blwyddyn wedi fy nghladdu yn ei daeargelloedd pan oeddwn yn fyfyriwr ymchwil yn Aberystwyth, a chefais fy nghloi i mewn am y nos ar fwy nag un achlysur mewn gwirionedd oherwydd fy mod wedi cael fy anghofio. Felly, mae gennyf lawer o atgofion melys o'r blynyddoedd hynny.
Mae'n wir, fel y dywedodd David Melding, fod llyfrgell yn fwy na chasgliad o lyfrau yn unig. Dywedodd ei bod yn ystorfa ar gyfer enaid y genedl. Wel, rwy'n credu hynny, ac mae'n ystorfa gyfunol o feddyliau cenedl. Ni ellir dirnad y gellid byth caniatáu iddi wywo a marw neu gael ei difrodi gan esgeulustod. Rydym wedi cael blynyddoedd o esgeulustod, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw. Efallai nad oedd yn benderfyniad ymwybodol o fod eisiau fandaleiddio'r llyfrgell, ond mae'n ffaith anghyfleus fod y llyfrgell, dros flynyddoedd lawer, wedi'i hamddifadu o gyllid digonol, ac mae hynny bellach wedi cael sylw rhannol. Rwy'n credu ei bod o fudd inni gydnabod y ddau bwynt fel ei gilydd.
Y llyfrgell genedlaethol yw conglfaen treftadaeth ddiwylliannol a materol Cymru, fel y dangosir gan y dogfennau y mae'n eu cynnwys, ac y cydnabu UNESCO eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol ac ymhlith y trysorau dogfennol pwysicaf yn y byd. Mae siaradwyr eraill wedi sôn am beth o gynnwys y casgliad, sy'n 6 miliwn o lyfrau, a hefyd, y dyddiau hyn—gadewch inni fod ychydig yn fwy modern—7 miliwn troedfedd o ffilm, 250,000 awr o fideo, a 150,000 awr o sain.
Credaf y dylem gofio pwynt na chafodd ei bwysleisio gymaint ag y gellid bod wedi'i wneud yn ystod y ddadl hon o bosibl, er bod rhai siaradwyr wedi sôn amdano, sef pwysigrwydd y llyfrgell genedlaethol fel hyrwyddwr y Gymraeg, a chanolbwynt y gwaith o amddiffyn, cadw a hyrwyddo'r Gymraeg. Sefydlwyd y llyfrgell ychydig dros 100 mlynedd yn ôl, a'r prif gasgliad sefydlu oedd un Syr John Williams, casgliad o oddeutu 23,000 o lyfrau, yn cynnwys 12 o'r 22 llyfr cyntaf a gyhoeddwyd yn y Gymraeg, gan gynnwys Yny lhyvyr hwnn, sef y llyfr cyntaf y gwyddys ei fod wedi'i gyhoeddi yn Gymraeg, ac yn wir dyna'r unig gopi sy'n bodoli. Mae hwnnw yn y casgliad.
Ceir casgliad Celtaidd sylweddol o bob un o chwe iaith y grŵp o ieithoedd Celtaidd—casgliad sylweddol iawn o lenyddiaeth Wyddeleg a llenyddiaeth Lydaweg hefyd. Mae pob llyfr, neu bron iawn bob llyfr y gwyddys iddynt gael eu cyhoeddi mewn Cernyweg a Manaweg yn y llyfrgell genedlaethol. Hyd y gwn i, dyna'r casgliad gorau yn y byd o'r llyfrau hyn. Mae'n amhosibl dirnad y gallem niweidio sefydliad sydd mor bwysig, fe ddywedwn i, i hanes diwylliannol y byd.
Edrychwn ar y ffeithiau: roedd y refeniw cymorth grant ar gyfer 2020-21 ychydig yn brin o £10 miliwn, £9.89 miliwn. Wel, 15 mlynedd yn ôl, yn 2006-07, roedd y ffigur yn £9.57 miliwn. Rydym wedi cael chwyddiant sylweddol yn y cyfamser, felly er na fu toriad erioed yn y cyllid ar gyfer y llyfrgell, y canlyniad yw bod toriad wedi'i wneud i bob pwrpas yn sgil proses chwyddiant. Felly, mae ei incwm defnyddiadwy wedi gostwng 40 y cant yn y blynyddoedd hynny.
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Mae'r staff, yn yr un modd, wedi gostwng yn eu niferoedd o 290 i 224, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cefnogi'r llyfrgell genedlaethol, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi gwneud hynny am y ddwy flynedd nesaf, ond mae angen gwneud hyn yn barhaol.
Hoffwn orffen gydag arwyddair Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth, ond hefyd, i mi, Nid Byd, Byd Heb Lyfrgell Genedlaethol.
Nawr, wrth gwrs, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried deiseb ar y pwnc hwn yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror. Mae'r ddeiseb hon wedi casglu mwy na 14,000 o lofnodion ers i'r newyddion am yr heriau ariannol sy'n wynebu Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddod yn gyhoeddus. Mae'r ddeiseb yn nodi'r bygythiad presennol i 30 o swyddi yn y llyfrgell a'r risg gysylltiedig i wasanaethau, ac yn galw am gyllid teg i'r llyfrgell genedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n galw'n uniongyrchol ar y Llywodraeth i gynyddu ei chymorth ariannol i fynd i'r afael â'r heriau hyn, gan sicrhau bod y llyfrgell yn parhau i fod yn ystorfa i ddiwylliant, gwybodaeth a gwybodaeth. Llofnodwyd y ddeiseb gan nifer sylweddol o bobl ym mhob rhan o Gymru, sy'n dangos y parch mawr sydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym mhob cwr o'r byd. Rwy'n falch fod gennym gyfle i drafod y mater pwysig hwn heddiw, a bydd y Pwyllgor Deisebau'n rhoi sylw manwl i'r pwyntiau a godir pan fyddwn yn ystyried y ddeiseb yr wythnos nesaf. Yn olaf, ar ran y pwyllgor, hoffwn groesawu'r pecyn achub gwerth £2.25 miliwn i ddiogelu swyddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Wrth symud ymlaen, gobeithio y gallwn ystyried ymateb y deisebwyr i'r pecyn ariannol hwn yn y cyfarfod yr wythnos nesaf. Diolch.
Gall sŵn ennill llyfrgell, fe ymddengys. Rwy'n falch iawn bod cyd-destun ein dadl wedi newid sut gymaint dros nos. Mae ennill y ddadl hon yn arwyddocaol nid yn unig er mwyn gwarantu swyddi ein llyfrgell genedlaethol, er bod y rhain yn amlwg yn ddifrifol bwysig, ond mae hefyd yn gam tuag at ddiogelu dyfodol ein diwylliant. Mae dyfodol y llyfrgell gen yn fater o bwys cenedlaethol. Rwyf wedi derbyn e-byst o bob cwr o'n gwlad am hyn—mae wedi cydio yng nghalonnau cymaint o bobl. Mae Cymdeithas Hanesyddol Gelligaer wedi ysgrifennu ataf gan ddyfynnu erthygl o'r Cambrian News and Merionethshire Standard o fis Ebrill 1915:
Mae'n debyg y bydd yr awdurdodau'n profi rhywfaint o anhawster ariannol yn y dyfodol agos, ond pan fydd y rhyfel anhapus hon ar ben, bydd pobl Cymru yn ddi-os yn ailadrodd y gwaith y maent wedi cynnig eu dwylo a'u calonnau mewn modd mor ganmoladwy i'w gyflawni.
Wedi'r cyfan, pan sefydlwyd y llyfrgell fe'i cefnogwyd gan filoedd o bobl dosbarth gweithiol, gan gynnwys glowyr y Cymoedd. Diolch byth bod y frwydr wedi ei hailennill yn wyneb philistiaeth y Llywodraeth, fel nad yw aberthau gwreiddiol y bobl yna yn troi'n ofer, oherwydd, Dirprwy Lywydd, nid lle'r Llywodraeth fyddai wedi bod i gondemnio'r llyfrgell; mae hi'n eiddo i bobl Cymru, a daethom mor agos at golli hynny.
Ystordy yw ein llyfrgell, lle saff i storio rhyfeddodau—cyfreithiau Hywel Dda, Llyfr Du Caerfyrddin, llyfrau Aneirin a Taliesin, ein cof casgliadol, ein sylfaen a'n goleuni. Nid ein trasiedi ni'n unig fyddai colli y fath drysorau wedi bod—colli ein cysylltiad gyda'n gorffennol, a thorri cysylltiad gyda'r cenedlaethau sydd i ddod, diffodd y golau a dinistrio llwybr yn ôl. Pa mor agos ddaethom ni at weld diffodd y golau hwnnw, canys bod llyfrgelloedd yn ganhwyllau hefyd? Pan losgwyd y llyfrgell yn Alexandria gan farbariaid, diffoddwyd goleuni am ganrifoedd. Fel dywed y bardd Emyr Lewis:
'Aeth gwybodaeth, aeth bydoedd—aeth hanes / doethineb canrifoedd / aeth y wawr, a phob gwerth oedd / i’r gwyll dilyfrgelloedd.'
Mae pobl Cymru wedi llwyddo i ennill gwobr amhrisiadwy yma. Diolchwn iddynt. Fe lwyddon nhw i ddwyn perswâd ar y Llywodraeth i gadw'r golau ymlaen. Mae'r ffwlbri wedi dangos pa mor fregus oedd y golau. Daethom mor agos at fod, fel y rhybuddiodd Huw Williams o Undod, yn wlad a gollodd ei gwerthoedd. Daethom mor agos at ddietifeddu cenedlaethau'r dyfodol oherwydd dadl fiwrocrataidd. Diolch byth bod goleuedigaeth wedi ennill y dydd. Ni ddylai Llywodraeth Cymru gymryd ein hetifeddiaeth yn ganiataol byth eto.
Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fyddwch chi ddim yn synnu na fydda i ddim yn ymateb i unrhyw rethreg nac ymosodiadau personol. Dwi wedi treulio mwy o amser yn fy mywyd yn y llyfrgell genedlaethol o bosib nag mewn unrhyw adeilad cyhoeddus arall yng Nghymru, ar wahân i'r Senedd. Dwi yn siomedig bod neb wedi fy nghloi i mewn dros nos, er fy mod i'n deall bod hynny wedi bron â digwydd i Neil Hamilton. Ond o ddifri, rŵan, gaf i jest roi y stori yn glir, gobeithio?
Mae'r Llywodraeth wedi bod yn gweithio'n agos efo’r llyfrgell genedlaethol a'r amgueddfa am gyfnod estynedig, er mwyn creu a deall darlun cyllidol clir o anghenion y sefydliadau. Rydyn ni hefyd wedi bod yn astudio'n fanwl yr adolygiad archwilio teilwredig. Mae'n bwysig i esbonio beth yw archwiliad teilwredig, oherwydd archwiliad annibynnol o safbwynt awdit ynglŷn â'r modd mae'r sefydliad yn gweithio ydy o, ac mae'r adroddiad yna wedi bod o ddefnydd mawr inni i gyrraedd ein penderfyniad. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd. A rhag ofn bod yna unrhyw gamddealltwriaeth, fe wnaethom ni dderbyn argymhelliad yr adroddiad yna ym mis Tachwedd, ac fe wnaethom ni symud i sefyllfa lle'r oedd yna gynnydd yn y cyfalaf, yn y gyllideb gyfalafol, yn dilyn argymhelliad yr adroddiad, ac mi fydd y gwaelodlin yna yn ddiogel. Wrth gwrs, does dim modd i mi, fel Gweinidog y mae ei gyfnod yn dod i ben, glymu Llywodraeth ar ôl etholiad i wybod beth fydd yn digwydd, ond yr egwyddor ydy ein bod ni'n sicr am ofalu bod cyllideb y ddau sefydliad cenedlaethol yma, o hyn ymlaen, yn safadwy ac yn sefydlog.
Mae'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma ar gyllid ein cyrff diwylliannol cenedlaethol yn gosod ymrwymiad y Llywodraeth Cymru hwn i'r llyfrgell ac i'r amgueddfa, ac yn dangos ein huchelgais i sicrhau eu ffyniant hirdymor. Mi fydd y cyllid ychwanegol o £6.2 miliwn dros ddwy flynedd yn gwarchod swyddi yn y ddau sefydliad ac yn sicrhau eu bod nhw'n hyfyw ac yn gallu wynebu'r heriau strategol sydd ganddyn nhw. Mae'r buddsoddiad yma yn dilyn, wrth gwrs, buddsoddiad sylweddol iawn yn Sain Ffagan, cyn imi gymryd cyfrifoldeb dros y materion yma fel rhan o'r amgueddfa genedlaethol, ac y mae o hefyd yn rhagweld buddsoddiad pellach, dwi'n gobeithio, yn y dyfodol, yn amgueddfa'r gogledd, yr amgueddfa lechi yn Llanberis.
Dwi'n awyddus iawn i nodi fy mod i'n disgwyl gweld newidiadau sylweddol yn y llyfrgell wrth inni ddelio ag argymhellion eraill yr adolygiad teilwredig. Mae'n ddigon hawdd inni ganmol pwysigrwydd sefydliadau cenedlaethol a grëwyd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, ond mae'n allweddol bwysig bod y sefydliadau yna bellach yn addas ac yn effeithlon ac yn gymwys ar gyfer chwarter cyntaf a chanol yr unfed ganrif ar hugain, a dyna pam ein bod ni wedi buddsoddi mewn darpariaeth ddigidol fel un o'n blaenoriaethau ar gyfer y llyfrgell. Mi fydd y trafodaethau rhwng swyddogion y Llywodraeth a swyddogion y llyfrgell a staff y llyfrgell yn parhau, i sicrhau buddiannau a safle'r gweithlu presennol.
Mae'r cyllid ychwanegol a gynigir yn dod gyag amodau. Mae'r amodau yma, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, yn golygu bod yna fwy o ymroddiad i amrywedd, i gynaliadwyedd, i drawsnewid digidol, a'r gwaith o ymestyn allan i gymunedau ar hyd a lled Cymru. Nid adeilad ar ben bryn yn Aberystwyth yw llyfrgell genedlaethol; mae llyfrgell genedlaethol i fod yn adeilad a fydd yn gwasanaethu cenedl gyfan, ac rwy'n credu y bydd yna fodd inni ddysgu o berfformiad yr amgueddfa yn y cyfeiriad yna. Mae gan y llyfrgell gyfle arbennig, dwi'n meddwl, i gyfrannu i ddod â ni mas o sefyllfa gyda'r clwy cyhoeddus dychrynllyd yma.
Dwi ddim yn ymddiheuro am ein bod ni wedi cyhoeddi'r datganiad a wnaethom ni am 9 o'r gloch y bore yma. Mae yna bwysau eithriadol ar gyllidebau pob Llywodraeth. Mae’r penderfyniad ar ariannu ychwanegol yn rhan o ddarlun ehangach o lawer. Rydyn ni'n wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus difrifol. Rydyn ni'n falch ein bod ni wedi gallu dod i sefyllfa o gytundeb llwyr yn y Llywodraeth, a dwi'n gobeithio y bydd hyn yn golygu y byddwn ni'n gallu parhau i ddibynnu ar gefnogaeth drawsbleidiol ynglŷn â dyfodol y sefydliad hwn.
Un gair bach o rybudd—nid gair o gerydd. Fe dreuliais i'r rhan fwyaf o fy mywyd gwleidyddol mewn gwrthbleidiau. Nid oedd neb yn gofyn imi flaenoriaethu dim byd, ond mi ges i un neu ddau gyfnod pan roeddwn i'n gyfrifol am gyrff cyhoeddus ac mi ddysgais i gymaint yr adeg honno. Mae'n ddigon hawdd gwneud addewidion am gynyddu gwariant a pheidio â dweud o ble mae'r arian yn dod ar gyfer y gwariant ychwanegol. Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n bod yn onest ynglŷn â hyn ar bob achlysur.
Mi fyddwn ni'n parhau i weithio gyda’r llyfrgell i ddatblygu’r cynllun gweithredu, gan ymateb i’r adolygiad teilwredig. Ac o safbwynt yr ymgynghoriad presennol, mi fyddwn ni'n parhau’r drafodaeth ynglŷn â'r camau nesaf. Dwi'n ddiolchgar i chi a gyfrannodd at y ddadl heddiw. Mae wedi bod yn un o'r dadleuon mwyaf deallus dwi wedi'u clywed yn y Senedd o ran ei chyfeiriadaeth ysgolheigaidd ac allanol. Os ydy'r hyn rydych chi'n ei ystyried yn wleidyddol i fod yn argyfwng i'r llyfrgell wedi ysbrydoli dadl ddeallus yn Senedd Cymru, mae yna ryw ddaioni wedi dod o'r sefyllfa yma. Diolch ichi am eich gwrandawiad.
Galwaf yn awr ar yr Aelodau sydd wedi gofyn am gael gwneud ymyriad byr. Darren Millar.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am ddweud fy mod yn hynod o falch fod y ddadl hon yn cael ei chynnal heddiw, ac roeddwn am gofnodi fy niolch i'r llyfrgell genedlaethol am ei chefnogaeth anhygoel i frecwast gweddi seneddol Gŵyl Ddewi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, lle mae'r llyfrgell wedi dod â rhai o'r trysorau o'i harchifau, gan gynnwys rhai o'r beiblau Cymraeg cynnar—beibl Mary Jones, beibl Evan Roberts, argraffiad cyntaf o feibl William Morgan, ac wrth gwrs, yn fwy diweddar, y beibl sydd wedi bod yn dathlu ei bedwar canmlwyddiant, beibl Parry. Credaf eu bod yn bartner gwych inni ei gael fel Senedd, fel sefydliad cenedlaethol arall y dylai'r cyhoedd allu ymfalchïo ynddo. Felly, rwy'n falch o'r cyhoeddiad ynglŷn â chymorth ychwanegol. Rwy'n credu ei bod yn drueni ei bod wedi cymryd cyhyd i'r Gweinidog dynnu ei waled allan a'i roi, ac rwy'n credu ei bod hefyd yn drueni fod y cyhoeddiad wedi'i wneud i'r cyfryngau cyn iddo gael ei wneud i'r Senedd hon.
Galwaf yn awr ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn dadl ragorol at ei gilydd. Nid af i ailadrodd sylwadau fy nghyd-Aelodau yn yr amser byr sydd ar ôl i mi yn y ddadl hon, sylwadau rwy'n amlwg yn cytuno â hwy. Hoffwn ymateb i rai o'r pwyntiau y mae Aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill wedi'u gwneud.
Rhaid imi ddechrau gyda Mick Antoniw. Byddwn yn dweud wrtho fod y penderfyniadau hyn yn faterion gwleidyddol, fod y blaenoriaethau hyn—. Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud yn llwyr â blaenoriaethau. A pha bryd bynnag y bydd plaid lywodraethol yn cyhuddo gwrthblaid o chwarae gwleidyddiaeth, gallwch ddweud bod y blaid lywodraethol honno ar y droed ôl. Nawr, fel pawb ohonom mae'n siŵr, rwyf wrth fy modd gyda'r cyhoeddiadau sydd wedi'u gwneud heddiw. Ond hoffwn ddweud wrth Mick: sut y mae ef, fel rhywun sy'n gadarn ei gefnogaeth i undebau llafur, yn teimlo am y trallod y mae'r staff a'r llyfrgell wedi'i wynebu'n ddiangen gan Lywodraeth a allai fod wedi gwneud y penderfyniad hwn wythnosau, yn sicr, os nad misoedd, yn ôl? Ac nid wyf am gymryd unrhyw bregeth ganddo ef nac unrhyw Aelod arall o'r Blaid Lafur ynglŷn â sut i ymgyrchu fel gwrthblaid. Pan fydd yn rhaid i lyfrgelloedd a sefydliadau diwylliannol gael eu newid gan gynghorau sir Plaid Cymru, gallaf ei sicrhau bod Aelodau Llafur yn ymgyrchu'n frwd yn ei erbyn, fel rydym ni wedi ymgyrchu o blaid y llyfrgell—ac maent yn iawn i wneud hynny, oherwydd gwaith yr wrthblaid yw gwrthwynebu.
Hoffwn ategu llawer o'r hyn y mae David Melding wedi'i ddweud. Nid wyf am ailadrodd y cyfan. Credaf ei fod yn gywir fod proses yr adolygiad pwrpasol wedi bod yn rhagorol ac yn ddadlennol iawn, a'i ganmoliaeth i arloesedd yn y llyfrgell—ac yma rwy'n cytuno â Mick Antoniw ynglŷn â'r gallu i'r llyfrgell arloesi ymhellach eto a chyfrannu at addysg ein pobl ifanc, yn enwedig yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd. Rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedodd David Melding mai enaid y genedl yw'r llyfrgell: beth ydym ni, beth oeddem ni, a beth fyddwn ni. Wrth inni edrych ymlaen, credaf fod angen inni gofio hynny. Fe'm cyffyrddwyd gan yr hyn a ddywedodd Darren Millar am rôl y llyfrgell fel partner, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'i ganmoliaeth i'r ffordd y maent yn gwarchod ein treftadaeth, a sut y maent yn sicrhau bod y dreftadaeth honno ar gael. Gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn yn eu galluogi i wneud mwy fyth o hynny.
Rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am ei chyfraniad. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno bod nifer y rhai sydd wedi llofnodi'r ddeiseb honno mewn cyfnod mor fyr yn dangos pa mor bwysig yw'r llyfrgell i bobl ar hyd a lled Cymru. Nid adeilad ar fryn yn Aberystwyth yn unig yw hwn, rwy'n cytuno â'r Gweinidog ynglŷn â hynny. Dyma ran ganolog o'n diwylliant cenedlaethol; trysor i ni i gyd, ble bynnag rydym yn byw. Gwn y bydd y llyfrgell am ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt yn awr i wneud rhai o'u casgliadau'n fwy hygyrch drwy fwy o ddigideiddio a mwy o bartneriaethau gyda llyfrgelloedd lleol ac amgueddfeydd lleol.
Nid wyf am anghytuno â chyfrif y Dirprwy Weinidog o'r hyn sydd wedi digwydd, ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod adroddiad drafft yr adolygiad pwrpasol wedi bod ym meddiant y Llywodraeth ers misoedd lawer cyn iddynt ei gyhoeddi ym mis Tachwedd. Er gwaethaf y pandemig, ac nid oes neb yn gwadu'r pwysau y mae'r pandemig wedi'i roi ar y Llywodraeth—. Er gwaethaf y pandemig, cawsant ddigon o amser i wneud y penderfyniad ynglŷn â'r adnoddau ychwanegol hyn. Nid oedd angen iddi fynd yn funud olaf.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen drwy ddweud bod yr adnoddau ychwanegol hyn i'w croesawu'n fawr wrth gwrs. Maent wedi prynu lle i anadlu i'n sefydliadau cenedlaethol, ac mae hynny'n lle i anadlu y bydd angen i'r Llywodraeth nesaf ei ddefnyddio i weithio gyda'r llyfrgell a chyda'n holl sefydliadau cenedlaethol i sicrhau buddsoddiad priodol a dyfodol cynaliadwy. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu bod arnom angen strategaeth genedlaethol ar gyfer ein sefydliadau cenedlaethol, ac mae angen inni fod yn cynllunio ar gyfer eu dyfodol hirdymor. Yn hynny o beth, mewn Llywodraeth byddem yn ceisio datblygu'r math o gonsensws trawsbleidiol y credaf ein bod wedi gweld ei ddechrau yma heddiw.
Ddirprwy Lywydd—
Bydd yn rhaid ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
Brawddeg neu ddwy olaf, ac rwy'n gwerthfawrogi eich goddefgarwch. Fel y mae pawb wedi dweud, mae'r ddadl hon yn dangos pwysigrwydd hanfodol y llyfrgell genedlaethol i'n bywyd cenedlaethol, a'n holl sefydliadau cenedlaethol. Mae'r buddsoddiad i'w groesawu, ond ni ddylai'r staff fod wedi cael eu rhoi drwy hyn. Rwy'n annog y Senedd hon i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr a'n cynnig gwreiddiol, ac nid cynnig y Llywodraeth, sydd ond yn datgan yr hyn sy'n amlwg. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydw, rwy'n gweld gwrthwynebiadau. Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod cyn bwrw ymlaen i'r cyfnod pleidleisio.