– Senedd Cymru am 3:06 pm ar 15 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad yna gan y Prif Weinidog ar y rhaglen lywodraethu. Felly'r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Llywydd, diolch yn fawr. Heddiw, llai na chwe wythnos ar ôl yr etholiad, mae rhaglen lywodraethu'r Llywodraeth Lafur Cymru newydd hon wedi’i chyhoeddi. Mae’n gynllun uchelgeisiol a radical sy’n cyflawni’r addewidion maniffesto a wnaethom ni yn ystod yr etholiad. Bydd yn helpu i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach. Mae’r rhaglen lywodraethu hon yn cael ei chyhoeddi’n llawer cynt nag yn y gorffennol. Mae hynny oherwydd yr heriau sy’n ein hwynebu yng Nghymru a’r angen i’w taclo ar frys. Mae’r rhain yn heriau na welid eu tebyg o’r blaen, sydd wedi eu hachosi gan effaith barhaus y pandemig, gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, newid hinsawdd. Mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o fwrw ymlaen â’n gwaith ar y materion hyn a dechrau cyflawni’r ymrwymiadau a wnaethom i'n gwlad ac er mwyn ein gwlad.
Llywydd, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi fframwaith unigryw i Gymru, ac mae nifer o’r rhai sydd dal yma yn y chweched Senedd hon wedi helpu i’w gosod ar y llyfr statud. Dim ond ceidwaid dros dro ydym ni ar y wlad wych rydym ni’n byw ynddi, ac mae gan bob un ohonom ddyletswydd i wneud Cymru’n lle gwell a chryfach i’n plant. Rydym ni’n cyhoeddi heddiw yr amcanion llesiant, sy’n ofynnol dan y Ddeddf, er mwyn pwysleisio eto y rhan ganolog sydd gan y Ddeddf yn ein syniadau a’n polisïau.
Llywydd, fe luniwyd y rhaglen lywodraethu hon o amgylch yr amcanion llesiant hynny; cyfres o amcanion a fwriadwyd i wneud y mwyaf o'n cyfraniad ni at y nodau o ran llesiant a chyflawni camau gweithredu dros dymor y Llywodraeth hon a fydd yn waddol cadarn i genedlaethau'r dyfodol.
Mae'r argyfwng iechyd cyhoeddus yn parhau ar ddechrau'r chweched Senedd hon ac rydym ni'n dal i fyw gyda chyfyngiadau a mesurau i ddiogelu iechyd ein cyhoedd. Efallai fod yr achosion wedi gostwng yn sylweddol, ond mae ymddangosiad ac ymlediad amrywiolyn newydd delta yn ein hatgoffa nad yw'r pandemig wedi dod i ben. Mae'r pandemig hwn wedi cael effaith enfawr arnom ni i gyd ac ar bob rhan o'n bywydau ni. Mae wedi dinoethi'r anghydraddoldebau sy'n dyfnhau yn ein cymdeithas ni. Mae ein rhaglen frechu wych ni'n cynnig perthynas wahanol â'r feirws, ond fe fyddwn yn byw gyda'r feirws a'i ganlyniadau niferus am gryn amser i ddod.
Felly, mae ein rhaglen lywodraethu ni, yn bennaf oll, yn ymwneud ag adferiad o'r pandemig, o ran sicrhau y gall ein GIG ni ofalu am bawb sydd angen ei gymorth, yn enwedig pawb sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl a phoen am gyfnod maith. Mae'n ymwneud hefyd â chefnogi plant a phobl ifanc yr amharwyd ar eu haddysg dros y 15 mis diwethaf. Nid oes neb sydd yma, ar draws y Siambr hon i gyd, sy'n dymuno gweld dyfodol un plentyn yn cael ei andwyo oherwydd y pandemig. A dyna pam y ceir rhaglen dal i fyny ar gyfer addysg ac y ceir gwarant yn y rhaglen lywodraethu hon sy'n rhoi cynnig o hyfforddiant, addysg neu waith i bob unigolyn ifanc dan 25 oed. Ac am fod hwn wedi bod yn argyfwng economaidd yn ogystal ag argyfwng iechyd cyhoeddus, mae'r rhaglen lywodraethu yn nodi hefyd ein penderfyniad i ddal ati i gefnogi busnesau hyd nes y byddant wedi adfer yn llwyr, a llunio'r dyfodol economaidd tecach hwnnw i Gymru wedyn lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl a lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl.
Ac yna, wrth galon y rhaglen lywodraethu hon, Llywydd, ac wrth galon y Llywodraeth hon, mae taer angen ymateb i argyfwng mawr arall ein dyddiau ni: argyfwng colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Chwe wythnos yn ôl, sefydlwyd gweinidog newid hinsawdd, gan ddwyn tai, trafnidiaeth, cynllunio, ynni a'r amgylchedd at ei gilydd—arwydd clir y byddwn ni'n defnyddio'r holl bwerau sydd gennym i chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau o ran hinsawdd a byd natur.
Mae'r rhaglen lywodraethu hon yn nodi'r meysydd allweddol lle byddwn ni'n gweithredu'r gwahaniaethau mwyaf wrth lunio dyfodol Cymru, a'r camau y byddwn ni'n eu cymryd i gyflawni'r newid am fod cyflawni hynny wedi cael ei roi yn ein gofal ni. Fe fydd diwydiannau gwyrdd y dyfodol yn creu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl ym mhob rhan o Gymru. Fe fydd y Llywodraeth hon yn buddsoddi yn y diwydiannau hyn ac yn adeiladu economi werdd newydd ar sylfeini gwaith teg, cydraddoldeb, a chynaliadwyedd. Fe fyddwn ni'n lansio cynllun buddsoddi seilwaith 10 mlynedd newydd i Gymru i gefnogi economi ddi-garbon, ac yn cyflawni ein strategaethau trafnidiaeth a digidol ni ar gyfer adfywio cymunedau a llunio Cymru sy'n wlad well a gwyrddach i fyw a gweithio ynddi. Fe fydd y trawsnewid gwyrdd hwn yn cynnwys hyrwyddo ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, a chyflwyno'r Ddeddf aer glân hon i Gymru a sefydlu'r parc cenedlaethol newydd cyntaf yng Nghymru ers 65 o flynyddoedd. Fe fyddwn ni'n hyrwyddo mannau gwyrdd lleol, yn lleihau gwastraff, ac yn parhau â'n gwaith ni ynghylch coedwig genedlaethol a fydd yn ymestyn ledled Cymru. Fe fyddwn ni'n sicrhau bod gan ein ffermwyr swyddogaeth allweddol yn ein dyfodol gwyrdd ni, ac fe fydd y cartrefi y byddwn ni'n eu codi nhw'n gartrefi carbon isel. Fe fyddwn ni'n hyrwyddo ac yn cefnogi cynlluniau Cyngres Undebau Llafur Cymru ar gyfer cynrychiolwyr gwyrdd ym mhob gweithle, gan ymestyn ein hagenda partneriaeth gymdeithasol i gipio cyfraniad hanfodol gweithwyr a gweithleoedd i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Ac fe fydd y Llywodraeth hon yn parhau i herio strwythurau pŵer sydd wedi gwreiddio ac yn pwyso am gyflog teg. Fe fyddwn ni'n rhoi ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar waith, ac yn mynd i'r afael ag achosion systemig hiliaeth, yn mynd i'r afael â stigma HIV ac yn mynd i'r afael â'r strwythurau sy'n analluogi llawer gormod o'n cyd-ddinasyddion. Fe fyddwn ni'n parhau i drysori'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig hefyd, yn ogystal â'n diwydiannau twristiaeth, chwaraeon, a chelfyddydau deinamig a bywiog. Rydym ni am barhau i weithio tuag at ein nod ni o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan gymryd camau deddfwriaethol i wneud hynny, a chefnogi pobl i ddod o hyd i dai fforddiadwy yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt.
Llywydd, mae eleni wedi dangos gwerth llawn y traddodiad amlwg o wirfoddoli a threfniadaeth gymunedol yng Nghymru, ac fe fyddwn ni'n parhau i sicrhau ffyniant sefydliadau lleol a democratiaeth leol. Fe fydd ein cynlluniau ni i wreiddio, a hynny'n barhaol, yr arferion gweithio o bell a ddysgwyd dros y 15 mis diwethaf yn ein galluogi ni i wneud ein cymunedau yn lleoedd gwell eto i fyw a hefyd i weithio ynddynt.
Fe fydd y Llywodraeth hon yn arwain sgwrs flaengar a chynhwysol gyda phobl Cymru hefyd o ran ein dyfodol cyfansoddiadol ni, gan gynnwys drwy gomisiwn annibynnol. Ar yr un pryd, fe fyddwn ni'n parhau i gryfhau ein safle ar lwyfan byd, gan ddefnyddio ein rhwydweithiau byd-eang i weithio tuag at Gymru well a dyfodol gwell i'r byd.
Ar draws y meysydd hyn i gyd, fe fydd angen inni fod yn radical, yn flaengar ac yn benderfynol o ran cyflawni'r newid pellgyrhaeddol sy'n angenrheidiol. Dyna pam, Llywydd, mae'r rhaglen lywodraethu yn cynnwys bron 100 o ymrwymiadau allweddol a thrawsbynciol sy'n gofyn am sylw a gweithredu gan y Llywodraeth gyfan. Fe gaiff tua 150 o ymrwymiadau eto, sydd yr un mor bwysig, eu nodi ar gyfer eu datblygu gan Weinidogion yn eu portffolios eu hunain. Fe fydd pob un o'r ymrwymiadau hyn yn ein helpu ni i gyflawni'r addewidion a wnaed yn ein maniffesto, gan weithredu o ran y newidiadau ymarferol hynny sy'n sicrhau newid i bobl ledled ein gwlad.
Llywydd, gadewch imi orffen yn y fan lle dechreuais. Mae'r rhaglen lywodraethu hon yn atgyfnerthu'r pwysigrwydd y mae'r Llywodraeth hon yn ei roi ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ei saith nod hi a'i phum ffordd o weithio. Mae'r amcanion llesiant a'r datganiad llesiant sy'n cyd-fynd â nhw'n amlygu ein hymrwymiad ni i wneud i'r Ddeddf gydio nid yn unig ym mhrosesau'r Llywodraeth, ond yn y camau y byddwn ni'n eu cymryd drwy gydol y tymor Seneddol hwn. Er y bydd eraill yn y Siambr hon yn awyddus i weithio'n adeiladol i fynd ar eu trywydd nhw ac, yn wir, i wella'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno, fe welan nhw fod y Llywodraeth hon yn un sy'n awyddus i ymgysylltu yn gadarnhaol â nhw. Felly, mae'r camau hyn a nodir yn y rhaglen yn blaenoriaethu cymwynasgarwch a chydweithredu dros ben ymraniad a chystadleuaeth. Fe gânt eu gwreiddio yn y blaenoriaethau a'r dewisiadau a wnaeth pobl yng Nghymru ar 6 Mai, ac yn yr ysbryd hwnnw, Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r ddogfen i'r Senedd.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma a'r ddogfen a ryddhawyd y bore yma yr ydym ni wedi cael cyfle nawr i'w darllen—bob un o'r 17 tudalen o'r rhaglen lywodraethu sydd ar gael i'r Aelodau ac i'r cyhoedd. Yn amlwg, fe wnaeth y cyhoedd bleidleisio ar 6 Mai dros Lywodraeth gan y Blaid Lafur yma, rwy'n derbyn hynny, a'r cwestiynau—[Torri ar draws.] Rwy'n cydnabod hynny; nid wyf i'n anghytuno â hynny, a'r cwestiynau a ofynnaf ichi heddiw—[Torri ar draws.] Nid yw'r cwestiynau a ofynnaf ichi heddiw yn tarddu o ddiffyg moesgarwch, ond yn ceisio rhagor o wybodaeth am yr ymrwymiadau a wnaethoch chi yn eich rhaglen lywodraethu, yn arbennig o ran iechyd, er enghraifft, lle nad yw'r rhaglen lywodraethu hyd yn oed yn sôn am y 12,000 o aelodau ychwanegol o staff y GIG yr ydych chi'n gwybod y bydd eu hangen ar y GIG. A wnewch chi roi rhagor o wybodaeth inni ynghylch a fyddan nhw'n dod ar ddechrau'r tymor Seneddol hwn, yn hytrach na'ch bod chi'n ceisio recriwtio'r 12,000 o weithwyr ychwanegol hyn dros y tymor cyfan i helpu ein GIG rhagorol ni, oherwydd fe wyddom fod y niferoedd ar y rhestrau aros yn enfawr? A hefyd, a wnewch chi roi gwybodaeth inni ynghylch pa raglen y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi ar waith i ymdrin â'r amseroedd aros hyn, oherwydd nid yw'r rhaglen lywodraethu yn sôn am gynlluniau penodol ynghylch ymdrin â bron 600,000 o bobl sydd ar restrau aros yma yng Nghymru.
O ran addysg, mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn am roi 1,800 o diwtoriaid yn y system addysg yma yng Nghymru. A wnewch chi roi syniad eto inni pryd mae'r tiwtoriaid hynny'n debygol o gael eu hintegreiddio i'r sefydliadau addysgol yma yng Nghymru? Oherwydd fe wyddom fod taer angen y rhaglen dal i fyny hon yng Nghymru, ac, unwaith eto, mae'r gweithwyr ychwanegol hynny yn ein system addysg ni'n hanfodol fel y gall disgyblion sydd wedi colli allan dros y 12 mis diwethaf elwa ar y rhaglen dal i fyny hon yr oeddech chi'n cyfeirio ati. Hefyd, mae'r rhaglen lywodraethu'n sôn am ddiwygio'r diwrnod ysgol a thymhorau ysgol. Ai dim ond rhan arbennig o'r rhaglen dal i fyny yw hynny, yn hytrach na bod yn newid mwy sylfaenol i'r ffordd y caiff addysg ei chyflwyno yma yng Nghymru? Os yw hwn yn newid mwy sylfaenol, a wnewch chi ddweud wrthym sut y caiff y newid hwnnw ei gyflawni ac ar ba bwynt yn nhymor y Senedd y bydd mwy o gynigion yn cael eu cyflwyno, fel y gallwn ni graffu ar y cynigion hynny?
O ran yr economi, fe soniodd maniffesto Llafur am weithlu mwy grymus yng Nghymru sy'n ennill cyflogau gwell. Mae'n hanfodol inni ddeall sut y bydd y cynigion o fewn y rhaglen lywodraethu yn cau'r bwlch cyflogau sy'n bodoli rhwng gweithwyr Cymru a gweithwyr eraill yn y Deyrnas Unedig, y gwyddom ei fod wedi ehangu dros 21 mlynedd gyntaf datganoli. Felly, a wnewch chi egluro sut y bydd y rhaglen lywodraethu hon yn cau'r bwlch cyflog hwn sydd bellach yn achosi gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr Cymru ac yn ffafrio gweithwyr eraill o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig? Ac a wnewch chi roi syniad inni beth fydd cyfradd gwerth ychwanegol crynswth yn 2026, ar ddiwedd y tymor Seneddol hwn? Pan oeddech chi'n gynghorydd i Lywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog ar y pryd, fe osododd y Llywodraeth Lafur gyntaf dargedau GYC fel y gallem ni, yn yr wrthblaid, graffu ar gynnydd y Llywodraeth benodol honno. Rwy'n sylwi o'r rhaglen lywodraethu arbennig hon na cheir targedau ynddi, yn ddigalon iawn, ac fe fyddai hi'n dda iawn gennym ni gael deall, yn enwedig felly o ran yr economi, faint o uchelgais sydd gennych chi o ran yr economi yma yng Nghymru.
Mae adeiladu tai yn hollbwysig os ydym yn awyddus i gau'r bwlch yn nyheadau pobl sy'n dymuno byw ar eu haelwyd eu hunain a bod gan bobl do gwirioneddol uwch eu pennau nhw. Rwy'n croesawu'r pwynt bod 20,000 o dai cymdeithasol newydd yn rhan o'r rhaglen lywodraethu, ond a wnewch chi ddweud wrthym: a yw'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol hyn yn rhai ychwanegol a fyddai'n cael eu hadeiladu yn ôl cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru, neu a ydynt yn rhan o'r broses gynllunio gyffredinol sy'n golygu mai rhwymedigaethau adran 106 a fydd yn cyfarwyddo adeiladwyr i adeiladu'r cartrefi hynny? Oherwydd fe wyddom ni fod y farchnad, ar sail gwerthiannau a gwblhawyd yma yng Nghymru, yn brin yn ei chyflenwad ar hyn o bryd. Mae angen cwblhau tua 10,000 i 12,000 o dai bob blwyddyn, ac ar hyn o bryd, dim ond tua 6,000 o dai sy'n cael eu cwblhau yma yng Nghymru. Mewn gwirionedd, ceir mwy o gartrefi gwag yng Nghymru nag o ail gartrefi. Mae'n bwysig inni ddeall pa bolisi sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod y cartrefi gwag hynny'n cael eu defnyddio'n fuddiannol. Ac rwy'n nodi nad oes unrhyw sôn o gwbl yn y rhaglen lywodraethu am yr agwedd arbennig honno.
O ran llywodraeth leol, mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn am ddiwygio'r dreth gyngor ac, yn wir, am ddiwygio'r system bleidleisio. A ydych chi mewn sefyllfa'r prynhawn yma i'n goleuo ni ynghylch sut beth fydd y diwygiadau hyn? Gan eu bod nhw'n hanfodol i wneuthuriad llywodraeth leol yma yng Nghymru ac, yn benodol, gan fod gennym ni etholiadau llywodraeth leol yma yng Nghymru, rwy'n tybio y bydd diwygiadau o'r fath yn canolbwyntio ar etholiadau llywodraeth leol 2027, yn hytrach nag ar etholiadau llywodraeth leol 2022.
Rydym ni'n cefnogi'n llwyr y Ddeddf aer glân. Rydym ni o'r farn fod hwnnw'n ddarn hanfodol o ddeddfwriaeth y mae angen ei roi ar y llyfr statud, ond rwy'n hepgor am y tro fy sylwadau i ar y cynigion deddfwriaethol i'r datganiad y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato, a fydd yn dod yn nes ymlaen yn y tymor seneddol.
Ac o ran llifogydd, mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn am ddiogelu 45,000 o gartrefi drwy fesurau ychwanegol. Fe fyddai'n dda gennyf i gael deall pam mae'r rhaglen lywodraethu wedi nodi mai dim ond ar 45,000 o gartrefi y mae angen yr amddiffyniad hwnnw, a ninnau'n gwybod bod pob rhan o Gymru yn dioddef oherwydd achosion o lifogydd difrifol, o achos yr union fater y nododd y Prif Weinidog yn briodol yw un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu ni—newid hinsawdd. Ac felly fe hoffwn i gael deall pam 45,000 o gartrefi, a'r ardaloedd hynny a glustnodwyd ar gyfer y buddsoddiad hwnnw a fydd ar gael iddynt yn y dyfodol.
Fe hoffwn i hefyd, i gloi, ddeall y comisiwn sefydlog wrth ystyried y dyfodol cyfansoddiadol, y rhoddodd y Prif Weinidog sylw iddo yn ei sylwadau agoriadol yn ei ddatganiad. A yw hwnnw'n ddefnydd synhwyrol o arian trethdalwyr, o gofio mai un o'r cylchoedd gwaith sydd ar gael yw hyrwyddo a chefnogi gwaith y comisiwn cyfansoddiadol ledled y DU sy'n cael ei sefydlu gan Blaid Lafur y DU? Mae'n berffaith briodol bod Plaid Lafur Cymru, pe byddai'n dymuno cefnogi gwaith o'r fath, yn defnyddio ei harian ei hun i wneud hynny. Ond a yw'n iawn i drethdalwyr ariannu prosiect sy'n benodol wleidyddol gan eich plaid chi, yr ydych chi'n ei nodi yn eich cylch gorchwyl ar gyfer pwyllgor cyfansoddiadol annibynnol o'r fath y soniwyd amdano yn eich datganiad? Rwy'n gwerthfawrogi y bydd yr amseroedd aros, yr economi ac addysg yn bwysig iawn yng ngolwg llawer o bobl, ond mae newid cyfansoddiadol yn cymryd cryn dipyn o ofod ac amser yn y Senedd hon, ac fe hoffwn i ddeall pam yn union y bydd hynny'n llywio polisi Llafur y DU ar gost y trethdalwyr. Diolch, Llywydd.
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiynau manwl hynny. Fe wnaf i fy ngorau glas i ateb cymaint ohonyn nhw ag y gallaf mor gyflym ag y gallaf. Mae'r 12,000 o staff ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, yn ymrwymiad o bum mlynedd gan fod y rhain yn staff newydd sydd newydd gwblhau eu triniaeth—gwblhau eu hyfforddiant, mae'n ddrwg gennyf. Fe fydd nyrs a ddechreuodd ei hyfforddiant ddwy flynedd yn ôl ar gael i'r GIG eleni; ni fydd nyrs a ddechreuodd ei hyfforddiant ym mis Medi'r llynedd yn cwblhau ei hyfforddiant am dair blynedd arall. Felly, mae hon yn llinell gynhyrchu o feddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd, therapyddion galwedigaethol—yr holl bobl hynny yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i gynnal gwasanaeth iechyd. Tair blynedd yw'r cyfnod lleiaf y mae'n ei gymryd i hyfforddi ar gyfer unrhyw un o'r swyddi hynny, ac mae llawer ohonyn nhw'n gyfnodau o bum mlynedd a mwy, ac mae'r buddsoddiad a wnawn ni'n fuddsoddiad nad yw'n cael ei weld yn cael ei dalu'n ôl weithiau, hyd yn oed, nes y byddwn ni i mewn i dymor Seneddol yn dilyn yr un yr ydym ni'n dechrau arno nawr. Felly, fe fydd y rhain yn staff a fydd ar gael dros y tymor cyfan, gan ddechrau ar unwaith ar ddiwedd y flwyddyn academaidd gyfredol.
Soniodd yr Aelod am 1,800 o diwtoriaid: mae 1,000 ohonyn nhw wedi cael eu recriwtio eisoes gan awdurdodau lleol o ganlyniad i'r cyllid a ddarparwyd gennym ni'n gynharach y llynedd, pan wnaethom ddarparu cyllid pellach. Mae cydweithwyr mewn awdurdodau lleol wedi dechrau ychwanegu at y recriwtio hwnnw ar unwaith, a chyda'r £19 miliwn a gyhoeddodd fy nghyd-Aelod Jeremy Miles ychydig wythnosau yn ôl, fe fydd yr hyder ganddyn nhw o wybod y bydd Llywodraeth Cymru yn talu am y staff hynny i wneud y gwaith yr ydym ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud.
Mae diwygio'r diwrnod ysgol a thymor yr ysgol yn newid sylfaenol, yn fy marn i, ac nid mater o ymateb i'r pandemig yn unig mohono. Mae hwn yn fater yr wyf i'n gobeithio gweithio arno gydag eraill yn y Siambr hon, gan gynnwys plaid yr Aelod ei hunan, pe byddai syniadau a phosibiliadau yr hoffai eu cyfrannu at hynny. Mae e'n gwybod mai patrwm y flwyddyn ysgol o hyd yng Nghymru yw'r patrwm a sefydlwyd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sy'n adlewyrchu'r economi amaethyddol. Hyd yn oed pan oeddwn i'n tyfu i fyny yng Nghaerfyrddin, yr enw oedd gennym ar gyfer hanner tymor yr hydref, Llywydd, oedd wythnos tatws, a hynny am fy mod i fel eraill yn cael eu hanfon allan i gasglu tatws ar y fferm yn ystod y gwyliau. Mae angen dull arnom o weithredu'r flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol sy'n adlewyrchu anghenion economi fodern a Chymru gyfoes. Fe fyddwn ni'n gwneud hynny mewn partneriaeth; mae llawer o bobl y bydd angen inni weithio gyda nhw ar y daith honno, ac os oes Aelodau yn y Siambr hon a phleidiau gwleidyddol yn dymuno bod â rhan yn y gwaith, rwy'n fwy na pharod i gydweithio i ddod o hyd i ffurf ar addysg sy'n fwyaf addas ar gyfer anghenion heddiw.
Y ffordd o gau bwlch cyflogau yng Nghymru, Llywydd, yw drwy wella cynhyrchiant, ac fe ddywedodd y Resolution Foundation, mewn adroddiad a gyhoeddodd tua diwedd y tymor diwethaf, mai Cymru oedd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig lle bu cynnydd sylweddol mewn cynhyrchiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nawr, mae angen inni weithio o'r cymorth y mae hynny'n ei roi inni. Mae angen gweithio gyda chydweithwyr mewn busnesau preifat, fel eu bod nhw'n rhoi'r buddsoddiad ar waith a fydd yn caniatáu i'r busnesau hynny fod yn fwy cynhyrchiol. Oherwydd cynhyrchiant yw'r allwedd i economi sy'n talu'n well ac mae'n ganolog i'n hamgyffrediad ni o hynny. Prif Weinidog wyf i, nid proffwyd, Llywydd, ac nid wyf am ddyfalu sut olwg fydd ar y ffigurau ymhen pum mlynedd eto.
O ran adeiladu tai, yr 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol yw cyfanswm nifer y cartrefi rhent ar y lefel rhentu cymdeithasol y disgwyliwn iddynt gael eu codi yn y tymor Seneddol hwn. Ond yn sicr nid dyma gyfanswm y cartrefi yr ydym ni'n disgwyl eu gweld nhw'n cael eu hadeiladu yng Nghymru, a fydd yn llawer mwy na hynny. Ac o ran cartrefi gwag, fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn parhau â'r gwaith llwyddiannus a ddechreuwyd yn Nhasglu'r Cymoedd, gyda swm sylweddol o fuddsoddiad a channoedd o gartrefi yn cael eu defnyddio'n fuddiannol o ganlyniad i hynny. Rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu fformiwla yno, a'n huchelgais fydd ymestyn y fformiwla honno i rannau eraill o'n gwlad ni.
Fe godwyd diwygio'r dreth gyngor mewn cwestiynau yn gynharach, Llywydd; nid peth hawdd fydd cyflwyno hynny, oherwydd mae unrhyw ddiwygiad o'r fath, fel y dywedais i, yn peri i rai fod ar eu colled ac eraill ar eu hennill, ond mae ffurf bresennol y dreth gyngor yn rhy anflaengar, ac mae'n rhy annheg; mae'n rhoi baich annheg ar y rhai lleiaf abl yn ein cymdeithas i dalu am y gwasanaethau yr ydym ni i gyd yn elwa arnyn nhw, a chan ddefnyddio gwaith y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a gyhoeddwyd tua diwedd y tymor Seneddol diwethaf, rydym ni am symud ymlaen gyda'r diwygio.
Ni fydd unrhyw newidiadau i'r system bleidleisio o ran llywodraeth leol yn ystod y flwyddyn nesaf, ond mae'r Ddeddf a roddodd y Senedd hon ar y llyfr statud yn caniatáu i awdurdodau lleol ddewis y system etholiadol erbyn hyn a fydd, yn eu barn nhw, yn adlewyrchu anghenion a dymuniadau eu poblogaethau nhw eu hunain yn fwyaf effeithiol. Ac wrth gwrs, mae pleidiau yn y Siambr hon sy'n cefnogi gwahanol ddulliau o bleidleisio, ac os mai nhw sy'n arwain yn y mannau hynny, fe fydden nhw'n gallu gwneud dewisiadau gwahanol nawr yn hynny o beth pe byddent yn dymuno gwneud felly.
Pedwar deg a phump o filoedd o gartrefi yn cael eu diogelu rhag llifogydd yw'r rhif mwyaf a ddiogelwyd erioed yn ystod unrhyw dymor Seneddol. Felly, nid uchelgais bach mohono, ac nid wyf am ohirio'r drafodaeth y prynhawn yma, Llywydd, dim ond dweud bod y rhesymeg o ran nodi'r cartrefi hynny, a'r prosiectau a gynigir, yn dod trwy gyfrwng pob awdurdod lleol a chydweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yna'n cael cymeradwyaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Yn olaf, ynglŷn â'r comisiwn sefydlog, fe fydd gwaith y comisiwn ar gael i bob plaid wleidyddol ac i'r holl ymdrechion amrywiol a wneir i saernïo dyfodol i'r Deyrnas Unedig sy'n caniatáu i'r Deyrnas Unedig barhau i brofi llwyddiant. Ac er bod hwnnw'n waith i'r pwyllgorau dethol yn Nhŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin, sy'n ymwneud â'r gwaith hwn ar hyn o bryd; ac er ei fod yn waith a wneir mewn sgyrsiau â Llywodraeth y DU, lle'r ydym ni'n dal i obeithio y byddwn yn cwblhau'r adolygiad rhynglywodraethol cyn i lawer mwy o wythnosau fynd heibio; neu'n waith y bydd Gordon Brown yn ei oruchwylio ar ran y Blaid Lafur, mae'n gwbl briodol fod yna gomisiwn yma yng Nghymru hefyd sy'n dwyn ynghyd farn o bob rhan o Gymru, o fewn pleidiau gwleidyddol a thu hwnt, sy'n meithrin dadl briodol yma yng Nghymru ynglŷn â'n dyfodol cyfansoddiadol ni, ac yn sicrhau, pan fydd dadleuon eraill ac ehangach yn cael eu cynnal, fod yna ffynhonnell awdurdodol o gyngor y gellir ei defnyddio i sicrhau bod llais pobl Cymru yn cael ei glywed mewn ffordd briodol ym mha fforwm bynnag y cynhelir y drafodaeth honno.
Diolch i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw. Braint unrhyw Lywodraeth newydd, wrth gwrs, ydy cael gosod agenda, gosod y cywair, a gosod uchelgais ar ddechrau tymor seneddol newydd. Roeddwn i'n sylwi bod y Prif Weinidog yn ymfalchïo mai dim ond chwe wythnos sydd yna ers yr etholiad. Roeddwn i'n digwydd edrych ar bapurau newydd o 10 mlynedd yn ôl, a rhyw chwe wythnos oedd wedi pasio bryd hynny hefyd.
'O'r diwedd fe gawn ni ryw arwydd o raglen gan y Prif Weinidog',
meddai'r Western Mail bryd hynny. A'r pennawd, rhag ofn,
'Ai dyna'r cyfan sydd gyda chi, Prif Weinidog?',
Felly, o bosib, fe ofynnaf i rywbeth tebyg mewn ffordd ychydig yn wahanol. Fel rhestr o bethau digon dilys a chlodwiw, mae yna lawer iawn dwi'n cyd-fynd â fo yn sicr yn y rhaglen yma. Mae yna lawer o syniadau dwi'n eu hadnabod o faniffesto diweddar Plaid Cymru hyd yn oed, ac mae'r gwerthoedd sylfaenol sydd wedi cael eu hamlinellu yn rhai dwi'n eu rhannu: egwyddorion o gydweithio a chydsefyll nid cystadlu; cenedl yn seiliedig ar chwarae teg, lle mae pawb yn cyflawni eu potensial; darparu gwasanaethau cyhoeddus er budd y cyhoedd, nid er elw, ac yn y blaen; yn ogystal â chreu cenedl lle mae'r Gymraeg, er enghraifft, wrth ei chalon hi ac wrth galon bywyd cyhoeddus.
Ond y cwestiwn sylfaenol dwi'n meddwl sydd gen i yn fan hyn ydy: o edrych ar hyn, beth fydd yn wahanol ymhen pum mlynedd, hyd yn oed os ydy'r Llywodraeth yn llwyddo i weithredu ar lawer o'r addewidion? Mi glywon ni'r Prif Weinidog yn cyfeirio at y rhaglen fel un uchelgeisiol a radical. Maen nhw'n eiriau hawdd iawn i'w dweud, wrth gwrs, ond mae arnaf i ofn nad ydw i wedi fy argyhoeddi mai'r rhaglen lywodraethu yma fydd yn cynnig y cyfeiriad newydd sydd ei angen ar Gymru, yn cynnig y trawsnewid sydd ei angen arnom ni er mwyn llunio dyfodol mwy cyfiawn, mwy ffyniannus ac ati. Pan ddaw hi at y pandemig, mae Cymru wedi dangos gwerth pwyll dwi'n meddwl. Ond siawns, pan ydyn ni'n sôn am y gwaith o adeiladu cenedl, fod yn rhaid symud ychydig yn gyflymach; bod yn glyfrach, ie, ond gweithio'n galetach hefyd ac anelu yn uwch.
Dwi'n derbyn mai gosod fframwaith ydy llawer o hyn. Mi fyddwn ni'n trio dylanwadu ar gryfhau'r fframwaith hwnnw, ac o bosib gallai'r Prif Weinidog wneud sylw, sydd ddim yn y rhaglen yma, ynglŷn â diwygiadau i'r Senedd yma, achos o fewn gweithgareddau'r Senedd yma rydyn ni eisiau dylanwadu ar y fframwaith hwnnw, ond mae yna gwestiwn ynglŷn â fframwaith i beth. Mae yna ddiffyg targedau mewn meysydd eithaf sylfaenol yma. Felly, sut fyddwn ni'n mesur llwyddiant?
Dwi wedi cyhuddo Llywodraethau Llafur yn y gorffennol o fod yn rhy managerial, o fodloni ar weinyddu Cymru yn hytrach na chynnig gweledigaeth. Sut mae'r rhaglen yma yn cynrychioli newid gêr o reoli Cymru i weddnewid Cymru? Pa obaith sydd yna o ran gweddnewid bywydau'r 67,000 o bobl sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol, y 70,000 sydd yn byw mewn tlodi ond sydd ddim yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim? Ble mae'r deffroad yn y sylweddoliad o sgêl yr argyfwng o ran impact ail gartrefi ar dai yng nghefn gwlad? Ble mae'r targedu statudol ar warchod bioamrywiaeth? Mae yna gwestiynau sylfaenol iawn yma, ac mi gawn ni gyfle yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, wrth gwrs, i fynd at y rheini mewn manylder.
Llywydd, fe fydd y Senedd hon—. Dirprwy Lywydd, fe fydd y Senedd hon yn deall yr hyn yr wyf i'n ei olygu pan ddywedaf i, yn Aelod o Blaid Cymru, fy mod yn ofni ein bod yn cyfyngu ar ein huchelgeisiau fel cenedl ar hyn o bryd. Mae gennym ni wahanol safbwyntiau ar y posibiliadau y gallai annibyniaeth eu cynnig. Yn ein gweledigaeth ni o Gymru fel gwlad a all feithrin ei pherthynas ei hun â chenhedloedd eraill yn yr ynysoedd hyn a thu hwnt, rydym yn anelu at uchelgeisiau na chyfyngwyd arnynt gan Lywodraeth y DU na Whitehall. Fe glywsom ni'r Prif Weinidog yn dweud, 'Fe fyddwn ni'n defnyddio'r holl bwerau sydd gennym i fynd i'r afael â newid hinsawdd.' Rwy'n credu mai rhyw awr a hanner yn ôl yr oedd yn dweud pa mor rhwystredig y mae gyda'r cyfyngiadau a roddir ar ein gallu ni i fynd i'r afael â newid hinsawdd gan reolau Whitehall ar fenthyca, er enghraifft. Fe allem ni fod yn fwy uchelgeisiol yn hynny o beth.
Os yw'r Llywodraeth Lafur, fel y Ceidwadwyr, yn credu'n bendant mai drwy barhau, i bob pwrpas, i roi'r feto i San Steffan yn y pen draw, a chaniatáu i Lywodraeth y DU bennu'r paramedrau y gallwn ni geisio llunio dyfodol newydd i'n cenedl oddi mewn iddynt, yna gwaith y Llywodraeth hon yw dangos y gellir rhoi rhaglen lywodraethu wirioneddol drawsnewidiol ar waith yng nghyd-destun y DU. Rwy'n ofni nad hynny a welaf i yn y rhaglen lywodraethu hon, ond gan fy mod i'n dymuno'n dda i'r Prif Weinidog wrth ddechrau ar y pum mlynedd nesaf, rwy'n credu mai gwaith y Llywodraeth fydd dangos fy mod i'n cyfeiliorni.
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am beth ddywedodd e ar ddechrau beth roedd e wedi ei ddweud am y posibiliadau o gydweithio ar nifer o bethau sydd yn y rhaglen lle mae'r syniadau sydd gyda ni yn syniadau o'r un fath ac yn yr un maes ag a oedd ym maniffesto Plaid Cymru. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio lle mae posibiliadau fel yna yn codi. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, Dirprwy Lywydd, bydd yn rhaid i'r Aelodau aros am rai o'r manylion roedd e'n gofyn amdanynt.
Llywydd, roedd yn bron 18 mis i mewn i dymor diwethaf y Senedd, rwy'n credu, cyn i'r Llywodraeth gyhoeddi ei rhaglen lywodraethu, ac roedd honno'n ddogfen fanwl dros ben; roedd ynddi'r holl sioe, y nodau a'r targedau, ac ati, y gallai ef fod yn chwilio amdanynt, ac yn wir, fe allem ni fod wedi penderfynu gwneud hynny'r tro hwn. Oherwydd er mwyn cynhyrchu dogfen fel honno, mae angen rhoi llawer iawn o amser ac egni. Fy marn i yw ei bod yn well inni gyflwyno rhaglen lywodraethu gerbron y Senedd a fyddai'n cyfleu hanfod yr hyn yr oeddem wedi ymrwymo iddo yn yr etholiad, yr hyn y dymunwn ei gyflawni yn y Llywodraeth, yn enwedig y pethau y mae angen ymdrech draws-Lywodraethol i ymateb ar fyrder i'r tasgau sydd o'n blaenau. A dyna pam, fel roedd Rhun ap Iorwerth yn iawn i'w gydnabod, y bydd rhai o'r manylion yn cael eu darparu gan Weinidogion wrth i'r ymrwymiadau yn y maniffesto gael eu datblygu ac fe ellir rhoi cnawd ar esgyrn y camau ymarferol sydd wrth gefn y rhaglen lywodraethu yn y manylder yr oedd yn gofyn amdano.
O ran annibyniaeth, mae'n gywir i ddweud, wrth gwrs, fod gennym safbwynt gwahanol. Ni fyddwn i'n ei ddisgrifio fel bod wedi ein cyfyngu gan San Steffan. Rwy'n credu na welwyd erioed gyfle mor fywiog i'r Senedd hon weithredu'n annibynnol na'r hyn a ddigwyddodd dros y 12 mis diwethaf. Ond rwy'n dal i gredu mai datganoli grymus, datganoli sefydledig, datganoli na ellir ei ddwyn na'i wrthdroi fyddai'n sicrhau'r dyfodol gorau i Gymru, a hynny o fewn i Deyrnas Unedig lle rydym yn dewis cyfuno ein sofraniaeth ni'n wirfoddol at ddibenion cyffredin, sy'n cael eu cyflawni'n well gan boblogaeth sy'n gweithio gyda'i gilydd ar y materion hynny, ac mae'n siŵr y byddai newid hinsawdd yn un o'r pethau hyn.
Felly, mae'n debyg nad oes angen inni ailadrodd y dadleuon a fynegwyd yn drylwyr iawn i'r etholwyr ychydig wythnosau yn ôl, ac ar ôl i'r etholwyr roi eu dyfarniad nhw. Rydym ni'n bwriadu dal ati i amddiffyn y Senedd hon; fe fyddwn ni'n parhau i ddadlau'r achos dros ddatganoli estynedig, lle credwn ni mai dyna'r peth cywir i'w wneud; fe fyddwn ni'n sicr yn parhau i ddadlau'r achos dros ddyfodol arall i'r Deyrnas Unedig; ac fe fydd y comisiwn y byddwn ni'n ei sefydlu, a'r gwaith a arweinir gan fy nghyd-Aelod Mick Antoniw, yn caniatáu inni gael dyfnder deall a dyfnder cefnogaeth gan y cyhoedd yng Nghymru a fydd yn rhoi'r hygrededd i'r syniadau hynny y maen nhw'n ei lawn haeddu.
Cyn imi alw ar eraill i siarad, a gaf i atgoffa pawb fy mod i'n deall arwyddocâd datganiad y rhaglen lywodraethu yn llwyr ac y bydd rhai yn awyddus i ofyn cwestiynau ynglŷn â chyfeiriad y Llywodraeth i'r dyfodol, ond mae ein hamser ni'n gyfyngedig? Felly, rwy'n dymuno galw pawb sydd ar y rhestr. Felly, pe byddech yn cadw at y munud sydd gennych a bod yn gryno, fe fyddwn innau'n ddiolchgar iawn. Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, ar ran pobl Islwyn, yn gyntaf, rwy'n awyddus i ddweud gair byr i'ch llongyfarch chi am eich buddugoliaeth ysgubol yn etholiad mis Mai, ac am y cyfan a wnaethoch chi'n bersonol i gadw Cymru yn ddiogel yn ystod y pandemig.
Mae'r pandemig, na welwyd ei debyg, yn parhau i feddiannu ein meddyliau, a hynny'n briodol. Mae wedi newid pob rhagdybiaeth sydd gennym ni o ran sut rydym yn byw, gweithio a gorffwys yn y blynyddoedd i ddod, ond ar yr un pryd mae Cymru yn parhau i ymlafnio oherwydd 10 mlynedd hir o danariannu a thoriadau parhaol i gyllidebau Cymru, a thoriadau i gymorth lles y DU, toriadau i fasnach a'r wasgfa oherwydd Brexit, a'r cyfan wrth inni rythu ar drychineb newid hinsawdd. Prif Weinidog, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi rhybuddio bod yn rhaid i Lywodraethau weithredu'n gyflym a chydwybodol ym mhob penderfyniad polisi cyhoeddus. Felly, sut, yn y cyd-destun hwn, y bydd Cymru yn rhoi newid hinsawdd wrth wraidd trawsnewid ein heconomi ni? A sut wnaiff rhaglen lywodraethu Llafur Cymru sicrhau gwlad sy'n lanach, yn wyrddach a thecach; a chymdeithas sy'n fwy cyfartal yn yr amgylchiadau hyn?
Wel, Llywydd, rwy'n diolch i Rhianon Passmore am hynny. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n cydnabod bod newid hinsawdd wrth galon y Llywodraeth hon, a'n bod ni wedi creu gweinyddiaeth a Gweinidog i ddwyn ynghyd yr edafedd amrywiol sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud y cyfraniad mwyaf posibl i'r agenda hon. Mae angen i Lywodraeth y DU fod yr un mor ymrwymedig i chwarae ei rhan hi ochr yn ochr â ni. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd i ddod ar gyfer trafod hynny a chydweithio a chydweithredu â Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig i wneud y gwahaniaeth y mae angen i bob un ohonom ni ei wneud, os ydym eisiau trosglwyddo'r rhan brydferth ond bregus iawn o'r byd yr ydym yn freintiedig i'w meddiannu mewn cyflwr a wnaiff oddef ei harchwilio gan y rhai sy'n dod ar ein holau ni.
Diolch, Prif Weinidog, am amlinellu eich rhaglen lywodraethu. Roeddech chi'n sôn yn gynharach am dyfu economi Cymru ac, yn wir, mae adran yno—fe gefais gyfle yn fyr i edrych arni—sy'n edrych ar yr economi, ac rydym yn croesawu unrhyw beth sydd am sbarduno'r economi, yn arbennig mewn adferiad yn dilyn y pandemig ofnadwy hwn. Ond rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn fod Cymru yn ymddangos ar lwyfan y byd. Fe wnes i eich clywed yn dweud rhywbeth am rwydweithiau byd-eang yn gynharach, ond nid wyf i'n gweld hynny yn y rhaglen o ran sut y byddwn ni'n hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd, oherwydd ar hyn o bryd rydym ni'n gweld CMC y pen ar ei isaf ledled y DU yng Nghymru ac rydym ni'n gweld buddsoddiad ymchwil a datblygu ar y lefelau isaf yng Nghymru, a phrin fod hynny'n cyffwrdd ag 1 y cant o fuddsoddiad ymchwil a datblygu yn y DU. Ac mae hynny'n hanfodol bwysig, oherwydd mae gennym yr holl gynhwysion yng Nghymru i'n gwneud ni'n gryf, ac eto nid ydym yn eu hasio gyda'i gilydd yn y ffordd iawn, ac rydym wedi colli llawer o gyfleoedd dros lawer o flynyddoedd drwy beidio â gwneud pethau mor gyflym ag y dylem fod wedi eu gwneud. Ac eto, mae Cymru yn breswylfa i fusnesau a gydnabyddir yn fyd-eang ac mae ganddi gymwysterau economaidd aruthrol, gan gynnwys y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd—
A fyddai'r Aelod mor garedig â gofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?
Mae'n ddrwg gennyf?
A wnewch chi ofyn cwestiwn nawr?
Iawn. Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd. Wel, y cwestiwn yw: Prif Weinidog, a fyddwch chi'n canolbwyntio'n fwy o lawer ar hyrwyddo Cymru ar lwyfan Cymru gyfan a byd-eang fel y gallwn ni elwa'n wirioneddol ar y cyfle hwn ac ennyn mewnfuddsoddiad? Ar hyn o bryd, nid ydym yn cael ein hystyried yn gyrchfan ffafriol ar gyfer buddsoddi gan nad yw ein proffil yn ddigon uchel ar y safle a'r llwyfan byd-eang hwnnw. Rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud mwy i'r perwyl hwnnw wrth symud ymlaen. Diolch i chi, Prif Weinidog.
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Nid yw'r strategaeth ryngwladol yn rhan o'r rhaglen lywodraethu, a'r rheswm am hynny yw ei fod yn ddarn o waith sy'n parhau ers tymor diwethaf y Senedd. Fe benderfynais wrth ffurfio'r Llywodraeth newydd mai swyddfa'r Prif Weinidog fyddai'n gyfrifol am y strategaeth ryngwladol, am lawer o'r rhesymau a nodwyd gan Peter Fox.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, Llywydd, fe fyddaf i'n cwrdd â llysgenhadon o wahanol rannau o'r byd, bob un ohonynt â pherthynas fasnachu wahanol iawn â Chymru. Fe fydd y llysgennad newydd o Wlad Pwyl yn ymweld â Chymru yn ystod yr wythnosau nesaf, ac fe fydd y llysgennad newydd o Japan yn ymweld â Chymru. Yma, mae fy marn i ychydig yn wahanol i'r Aelod, oherwydd o ran mewnfuddsoddiad, rydym ni wedi sicrhau mewnfuddsoddiad o Japan ers dros 40 mlynedd, ac nid dyma'r math o fewnfuddsoddi sydd weithiau'n cael ei feirniadu gan eraill, yn briodol felly—buddsoddiad sy'n dod, yn cymryd yr arian ac yn mynd cyn gynted ag y bydd yr arian wedi dod i ben. Mae buddsoddiad gan gwmnïau o Japan yng Nghymru yn fuddsoddiad hirdymor, ac rydym ni'n dal i lwyddo i ddenu'r buddsoddiad hwnnw i Gymru.
Mae'r rhaglen lywodraethu yn wir yn edrych ar Gymru fel chwaraewr byd-eang, yn lle croesawgar, sy'n edrych tuag allan, lle mae pobl o rannau eraill o'r byd yn awyddus i ddod i wneud eu dyfodol nhw a buddsoddi yn y pethau gwych sydd gennym i'w cynnig, nid yn unig o ran cyfleusterau a seilwaith, ond yn arbennig y gweithlu sydd gennym i'w gynnig yma yng Nghymru, gyda'r sgiliau a'r ymrwymiad a gynigir i laweroedd o gwmnïau o wahanol rannau o'r byd.
Prif Weinidog, mae hon yn rhaglen lywodraethu dda a chadarn—[Torri ar draws.] Mae'n rhaglen dda a chadarn ar gyfer llywodraethu lle ceir mandad cryf i gyflawni hyn nawr, er gwaethaf y feirniadaeth gan feinciau'r gwrthbleidiau eiliad yn ôl. Rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes yn unig yr hoffwn i eu codi, oherwydd rydym ni'n sefyll ac yn gofyn ichi fynd ymhellach, a gwneud hyn yn gyflymach; mae gennym raglen lywodraethu bum mlynedd yn y fan hon. Ond y ddau faes yr hoffwn ganolbwyntio arnynt yw, yn gyntaf, bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac rwy'n deall y gallem gael dadl yr wythnos nesaf ar hynny. Mae'n golygu pa mor fuan y gallwn ni gyrraedd y pwynt hwnnw lle mae gennym fwy o reolaeth leol ar ein gwasanaethau bysiau a gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol cysylltiedig ni hefyd, er mwyn cyflawni hynny. Ac mae'r ail faes yn ymwneud â'r Ddeddf aer glân. Mae cefnogaeth drawsbleidiol eang nawr i symud yn gyflym iawn yn hyn o beth, a bod â thargedau pendant, mesuradwy ac uchelgeisiol. Felly, pa mor fuan y gallem ni weld hynny hefyd? Mae dros 100 o eitemau yma, ac fel y dywedwch chi, mae yna fwy, mewn gwirionedd, gyda Gweinidogion unigol hefyd nad ydynt hyd yn oed wedi eu cynnwys yn y ddogfen hon. Ond ar y ddau bwynt yna, rwy'n credu y cewch chi gefnogaeth dda—mae angen inni fwrw ymlaen â'r rhain.
Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiynau yna, Llywydd. Fe gadeiriais i gyfarfod o fwrdd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru lle cytunwyd, gyda chalon drom iawn, na allem ddatblygu'r Bil diwygio bysiau ym mlwyddyn olaf tymor diwethaf y Senedd, a hynny oherwydd yr amgylchiadau yr ydym ni i gyd yn gwybod yr oeddem yn eu hwynebu ar y pryd, gyda chymaint o bobl y byddem ni wedi dibynnu arnynt i weithio ar y cynigion hynny gyda ni—mewn awdurdodau lleol, yn y cwmnïau bysiau ac yn y blaen—heb allu dod at y bwrdd i wneud y gwaith hwnnw. Ond byddwn yn ymrwymo i ailreoleiddio'r gwasanaeth bysiau yng Nghymru i sicrhau ei fod yn cael ei redeg yn y dyfodol er budd y cyhoedd. Rwy'n edrych ymlaen at gael y trafodaethau hynny gyda'r sectorau niferus sydd â diddordeb uniongyrchol yma cyn cyflwyno cynigion gerbron y Senedd.
O ran y Ddeddf aer glân, rydym wedi trafod honno sawl gwaith y prynhawn yma, ac mae'n rhan ganolog o'n hymrwymiad ni ers pum mlynedd. Ond mae'n rhaid imi adleisio'r hyn a ddywedodd yr Aelod ei hunan—mae'r rhaglen lywodraethu heddiw a'r rhaglen ddeddfwriaethol y byddaf i'n ei chyflwyno gerbron cydweithwyr cyn diwedd y tymor hwn yn ymrwymiad pum mlynedd, ac fe fydd yn rhaid inni gael ymdeimlad o sut y gellir rheoli'r rhaglen drwy'r Senedd gyda'r holl ofynion ac uchelgeisiau niferus yr wyf i'n gwybod sydd gennym ni.
Buaswn i'n licio jest canolbwyntio ar un maes pwysig iawn, sef gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar—sector hollbwysig ar gyfer adfer o'r COVID. Mae plant bach ar draws Cymru wedi colli cyfnod ffurfiannol pwysig o'u bywydau, ac mae yna dystiolaeth gynyddol mai yn y fan yma ddylai'r ffocws addysgol fod. Ond mae'n siomedig i weld diffyg uchelgais dybryd yn y rhaglen lywodraethu. Dydy o ddim yn gwneud dim synnwyr i gadw gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar allan o'r portffolio addysg. Oni ddylai fod o'n gwbl ganolog i waith y Gweinidog addysg? A wnewch chi esbonio pam nad ydy eich polisi gofal plant chi yn canolbwyntio ar y plentyn? Sgileffaith cadarnhaol gofal plant ydy creu gwell mynediad at waith i fwy o rieni, a mamau yn enwedig, ond mae'n rhaid edrych ar yr holl fanteision i'r plentyn, ac wedyn mi ddaw hi'n gwbl amlwg fod angen cynllun dros amser i ehangu'r ddarpariaeth dyngedfennol yma. Mae COVID wedi dangos hynny'n hollol glir.
Llywydd, wrth gwrs rydw i'n cytuno â beth ddywedodd Siân Gwenllian ar y diwedd am yr effaith mae COVID wedi'i chael. Mae'r Llywodraeth hon yn awyddus dros ben i wneud popeth y gallwn ni wneud i helpu'r plentyn i ddod dros y pandemig. Dyna pam rŷm ni wedi siarad y prynhawn yma am y buddsoddiadau rŷm ni wedi eu cyhoeddi'n barod yn y tymor hwn i helpu ein hysgolion, a helpu pobl eraill yn y maes i fwrw ymlaen gyda'r gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud. Mae popeth rŷm ni'n ei wneud yn y maes plant yn dibynnu ar fwy nag un Gweinidog ac, wrth gwrs, rŷm ni'n rhannu cyfrifoldebau gydag aelodau'r Llywodraeth. Mae'n rhaid i ni wneud hynny. Mae Julie Morgan yn gyfrifol am nifer o'r pethau sy'n berthnasol i'r pwyntiau mae Siân Gwenllian wedi'u gwneud. Mae hi'n bwrw ymlaen gyda'r gwaith roedd hi'n ei wneud yn y tymor diwethaf—gwaith pwysig—ac mae hi'n mynd i'w wneud e gyda'r Gweinidog newydd dros addysg a gyda'r Gweinidogion eraill yn y Llywodraeth. Ar ddiwedd y dydd, mae dewisiadau i'w gwneud o ran pwy sy'n mynd i fod yn gyfrifol am bethau ar bapur, ond pwrpas y rhaglen lywodraethu oedd i ddangos i bobl sut mae'r Llywodraeth hon yn mynd i weithio ar bynciau pwysig lle mae mwy nag un Gweinidog a sut mae'r Llywodraeth i gyd yn gallu cyfrannu at y pethau pwysig mae Siân Gwenllian wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma.
Prif Weinidog, dwi'n croesawu'r datganiad y prynhawn yma, a dwi'n croesawu'r weledigaeth radical sy'n mynd trwyddo fe hefyd. Mae'n un peth cyflwyno dogfen fawr sych, ond mae'n beth gwahanol cyflwyno dogfen sy'n disgrifio taith radical i Gymru. Dwi'n croesawu'r ddogfen rydyn ni wedi'i gweld y prynhawn yma. Dwi'n croesawu nid jest y weledigaeth sydd ynddi hi, ond yr egwyddorion radical sydd ynddi hi hefyd. Dwi'n credu ei bod hi'n rhaglen bwerus o ganlyniad i hynny.
Mae yna ddau gwestiwn gen i. Dwi'n croesawu eich bod chi wedi gwneud datganiad clir eich bod chi'n mynd i gefnogi'r rhaglen Tech Valleys yn fy etholaeth i, ond o ran y Cymoedd ehangach, oes yna rywbeth yn y ddogfen sy'n mynd i weithredu fel adran neu fframwaith sy'n gallu delifro polisi ar draws y Cymoedd? Achos beth rydym ni wedi methu ei wneud yn y gorffennol yw—nid gweledigaeth, nid ymrwymiad i weithio yn y Cymoedd, ond y gallu i wneud hynny. Dwi'n gwybod bod yna awgrym mewn mannau gwahanol yn y ddogfen bod yna gyrff democrataidd ac atebol rydych chi eisiau eu creu, a dwi'n awyddus i ddeall mwy am hynny.
A'r cwestiwn olaf sydd gen i—a dwi'n gweld y Dirprwy Lywydd hyd yn oed heb fy sbectol—yw: sut fyddwn ni'n gwybod pryd fyddwch chi wedi delifro ar y weledigaeth? Achos roedd y cwestiwn gan Rhun ap Iorwerth yn gwestiwn pwysig iawn. Dydyn ni ddim eisiau dogfen gwasanaeth sifil fan hyn; rydyn ni eisiau dogfen wleidyddol—dwi'n cytuno gyda chi ar hynny—ond hefyd rydym ni eisiau dogfen sy'n ein galluogi ni fel Senedd i greu atebolrwydd a sicrhau ein bod ni'n deall, a bod pobl Blaenau Gwent yn gwybod, pan dŷch chi wedi cyrraedd eich nod a pan dŷch chi wedi delifro ar eich uchelgais.
Diolch yn fawr i Alun Davies am beth ddywedodd e am y ddogfen. Os rŷm ni'n mynd i fod yn radical, yn fy marn i roedd hi'n bwysig i ddod â'r ddogfen o flaen y Senedd cyn gynted ag yr oedd yn bosib i wneud hynny. Pan ŷm ni'n ei wneud e fel yna, fel yr esboniais i i Rhun ap Iorwerth, dydy hi ddim yn bosibl cael popeth—pob ffordd o sut rydym ni'n mynd i'w wneud e a beth fydd y targedau ac yn y blaen—yn yr un ddogfen. Ond, bydd Gweinidogion yn dod o flaen y Senedd a rhoi mwy o fanylion fel yna, i fod yn atebol, fel y dywedodd Alun Davies, i'r Senedd ac i bobl tu fas yng Nghymru hefyd. Rŷn ni'n dal yn trafod, Dirprwy Lywydd, tu fewn i'r Llywodraeth, y ffordd orau i fwrw ymlaen gyda phethau yn y Cymoedd, i fwrw ymlaen â'r gwaith roedd Alun Davies yn ei wneud yn y tymor diwethaf. Mae nifer o'r Gweinidogion yn y Llywodraeth yn cynrychioli'r Cymoedd, a bydd hynny'n help i ni. Rŷm ni'n dal i siarad gyda'n gilydd am y ffordd orau i wneud hynny.
Hoffwn i, wrth groesawu'r rhaglen lywodraethu hon, ddiolch i etholwyr Aberconwy a'u llongyfarch am fy nychwelyd i i'r lle hwn gyda'r mwyafrif mwyaf rwyf i wedi'i gael.
Ar nodyn mwy difrifol, gwnaethoch chi egluro, Brif Weinidog, fod gan ein ffermwyr ran allweddol i'w chwarae yn ein dyfodol gwyrdd. Fodd bynnag, nid yw'r rhaglen lywodraethu yn ymdrin mewn gwirionedd â'r materion sy'n eu hwynebu. Mae'r rhaglen yn dweud, ac rwy'n dyfynnu, y byddwch chi'n
'Gwahardd difa moch daear i reoli lledaeniad TB mewn gwartheg.'
Nid yw hynny'n ddatganiad digon cryf. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi nifer fach iawn o drwyddedau i farcio, dal a chymryd moch daear i atal clefydau rhag lledaenu ar ffermydd sydd â TB cronig mewn buches. Er enghraifft, yn 2020, dim ond saith trwydded a gafodd eu rhoi gennych chi. Cymharwch hynny â'r ffaith syfrdanol bod dros 10,000 o wartheg, yn anterth eu bywydau cynhyrchiol, yn parhau i gael eu difa bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd TB. Mae'r dull cynhwysfawr y mae Lloegr wedi'i fabwysiadu wedi gweld gostyngiad cyfartalog o 40 y cant yn nifer yr achosion o TB mewn ardaloedd sydd wedi cwblhau o leiaf bedair blynedd o ddifa moch daear. Ychydig dros y ffin yn swydd Gaerloyw, mae gostyngiad o 66 y cant yn nifer yr achosion newydd o TB wedi bod. Felly, nid yw'r gwaharddiad ar ddifa moch daear yn cael ei gefnogi gan y dystiolaeth—
A wnaiff yr Aelod ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?
Wrth gwrs. Bydd hynny'n arwain at foch daear sydd wedi'u heintio yn ei chael hi'n anodd—. Ddoe, gwnes i gyfarfod â ffermwyr a chyd-Aelodau eraill yn y lle hwn, ac maen nhw wedi cynhyrfu'n fawr, oherwydd mae Aberconwy nawr wedi mynd o gyflwr isel i gyflwr cyfryngol. Felly, Prif Weinidog, pryd ydych chi, a phryd y mae eich Gweinidogion chi, a phryd y mae milfeddyg Cymru'n mynd i gydnabod bod gennym ni broblem wirioneddol gyda TB mewn gwartheg a bod yn rhaid i ni ymdrin ag ef ac ymdrin ag ef yn ddramatig? Gweithiwch gyda'r ffermwyr, rhowch y gorau i weithio yn eu herbyn nhw, a gadewch i ni ddod â hyn i ben yn foddhaol. Diolch.
Llywydd, Aelod dewr o'r Blaid Geidwadol sy'n penderfynu codi buddiannau ffermwyr ar lawr y Senedd y prynhawn yma, pan fo eu Llywodraeth nhw newydd lofnodi cytundeb masnach gydag Awstralia a fydd yn niweidio ffermwyr yng Nghymru heb unrhyw amheuaeth o gwbl. Gwelais i'r ddogfen yr oedd Llywodraeth y DU wedi'i chyhoeddi ar gytundeb masnach Awstralia. Gwnaeth ymdrin â ffawd ffermwyr mewn un frawddeg. Mae'n ymdrin ag allforio dillad nofio i Awstralia i'r un graddau. Rwy'n credu bod hynny'n dweud rhywbeth wrthych chi ynghylch ble mae blaenoriaethau—[Torri ar draws]. A bydd yn rhaid i'n rhaglen lywodraethu ni ymdrin ag effaith dewisiadau eich Llywodraeth chi ar dynged ffermwyr yma yng Nghymru.
Os wyf i wedi dysgu unrhyw beth am TB, Dirprwy Lywydd, nid oes diben ceisio cyfnewid ystadegau amdano yn unig, oherwydd am bob ystadegyn y byddwch chi'n ei ddyfynnu, bydd gwrth-ystadegyn a all fod—[Torri ar draws.] Ac mae'r wyddoniaeth y tu ôl iddo yn destun dadl hefyd, fel y mae hi'n gwybod. Mae hyn yn sicr: y rheswm pam mae statws ardal isel wedi symud i fyny yw oherwydd mewnforio TB gan ffermwyr sy'n prynu gwartheg wedi'u heintio a dod â nhw mewn i'r ardal. Dyna'r rheswm mwyaf pam mae ardaloedd lle mae nifer isel o achosion wedi symud i fyny'r hierarchaeth drist iawn honno. Ni fydd difa moch daear yn digwydd yng Nghymru—i fod yn glir ynglŷn â hynny. Roedd hynny ym maniffesto'r Blaid Lafur; a chafodd ei gymeradwyo gan yr etholwyr. Ni fydd yn digwydd. Ac os ydych chi eisiau cael dadl ddifrifol, mae'n well i ffermwyr gydnabod hynny a siarad â ni ynghylch y pethau y gallwn ni eu gwneud, yn hytrach na chwyno am bethau nad ydyn nhw'n mynd i ddigwydd. Mae brechu yn ateb hirdymor llawer gwell iddo. Dyna pam yr ydym ni wedi cyflogi'r Athro Glyn Hewinson, un o brif ffigurau'r byd yn y maes hwn, yma yng Nghymru—a daethpwyd ag ef i Gymru er mwyn ein cynorthwyo ni gyda'r agenda hon—a'r syniadau y mae ef a chyd-Aelodau eraill yn Aberystwyth yn gweithio arnyn nhw i ddarparu brechlyn yn erbyn y clefyd ofnadwy hwnnw sef TB mewn gwartheg, clefyd ofnadwy sy'n peri gofid—gofid mawr—i'r ffermwyr hynny sy'n gorfod ymdrin ag ef. Ond y ffordd o ymdrin ag ef yw drwy'r dulliau newydd yr ydym yn gweithio arnyn nhw yma yng Nghymru, ac nid drwy fynd yn ar ôl at bethau nad ydyn nhw'n mynd i fod yn rhan o'n hymateb yma.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Tri chwestiwn byr. Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i fwrw ymlaen â chynllun treialu incwm sylfaenol. A wnewch chi roi rhagor o fanylion am hyn, yn enwedig ynghylch meini prawf daearyddol? Rwy'n gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi mynegi parodrwydd i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun treialu, felly byddwn i'n ddiolchgar os byddai modd ystyried hynny. Yn ail, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i weithredu ynghylch tipiau glo, fodd bynnag, gan nad yw llawer o'r ysgogiadau wedi'u datganoli, pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod ymyriadau'n sylweddol ac yn arwain at ateb gwirioneddol i'r mater? Yn olaf, a fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer treth ar dir gwag yn nhymor hwn y Senedd?
Llywydd, rwy'n diolch i Vikki Howells am y cwestiynau penodol iawn hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r awdurdodau lleol hynny sydd wedi camu ymlaen i gynnig ein cynorthwyo ni gyda chynllun treialu incwm sylfaenol, gan gynnig ei wneud yn eu hardaloedd eu hunain. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, rydym ni'n gweithio ar syniadau i gynnwys plant sy'n derbyn gofal, pobl ifanc sy'n gadael gofal awdurdodau cyhoeddus, fel y ffordd y gallem ni gyflwyno cynllun treialu incwm sylfaenol yma yng Nghymru, ac rwy'n ddiolchgar i gyngor Rhondda Cynon Taf ac arweinwyr awdurdodau lleol eraill sydd wedi dod ymlaen i gynnig ein cynorthwyo gydag ef.
Gobeithio y bydd yr Aelodau yma wedi cael cyfle i weld adroddiad Comisiwn y Gyfraith a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf ar ddiogelwch tipiau glo. Mae'n ddogfen sobreiddiol. Mae'n cyffwrdd â llawer o'r pethau yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw'r prynhawn yma o ran effaith newid hinsawdd a glawiad yng nghymunedau'r Cymoedd a'r ffaith ei bod yn ddigon posibl na fydd safonau adeiladu tipiau glo, a oedd yn ddigon diogel yn eu hamser, yn ddigon diogel i barhau i ddiogelu'r cymunedau hynny rhag effaith digwyddiadau tywydd, glawiad dwys ac yn y blaen. Mae'n gyhoeddiad da iawn, os oes unrhyw un yn cael cyfle i edrych arno. Mae'n dibynnu ar weithio gyda Llywodraeth y DU, a gadewch i mi ddweud, rwy'n ddiolchgar ynghylch y ffaith fy mod i wedi gallu cyd-gadeirio, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y grŵp yr ydym ni wedi dod at ei gilydd i weithio ar ddiogelwch tipiau glo. Drwy'r grŵp hwnnw cafodd posibilrwydd gwaith Comisiwn y Gyfraith ei godi ac yna ei ariannu gan fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, pan yr oedd hi'n gyfrifol am y maes hwnnw.
Byddai'n dda gennyf i pe bai gennyf i gymaint o bethau cadarnhaol i'w dweud am y dreth ar dir gwag. Y broses yr ydym ni wedi ceisio'i chynnal yw'r broses sydd wedi'i nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru 2017, a gafodd ei chymeradwyo gan Lywodraeth Geidwadol. Y Ddeddf honno sy'n nodi sut y gallwn ni ddefnyddio awdurdod i greu treth ar dir gwag yma yng Nghymru. Gwnaethom ni ddewis treth ar dir gwag, Dirprwy Lywydd, fel y cofiwch, i brofi'r peirianwaith hwnnw, gyda darn cymharol annadleuol a phenodol iawn o ddeddfwriaeth. Ers yr etholiad ym mis Rhagfyr 2019, rydym ni wedi wynebu gwrthodiad cyffredinol, rwy'n credu, gan Lywodraeth y DU i weithredu'r mecanwaith yr oedden nhw wedi'i osod. Roeddem ni wedi cael cydweithrediad rhesymol o dan Lywodraeth Theresa May ac wrth i ni ei wneud, ystyriais ein bod ni'n gwneud cynnydd da iawn o ran cael cytundeb gyda'r Trysorlys ac eraill arno. Mae wedi bod yn dalcen caled ers mis Rhagfyr 2019, ac mae hynny'n siomedig iawn ac rwy'n credu ei fod yn ein hatal ni rhag gallu bwrw ymlaen â syniad y byddai rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi gallu dysgu oddi wrthyn nhw, gan ddefnyddio'r labordy byw hwnnw y mae datganoli'n ei ddarparu, lle gallwn ni i gyd roi cynnig ar wahanol bethau ac yna dysgu oddi wrth ein gilydd.
Rwyf innau hefyd yn falch iawn o weld y bwriad i sicrhau diogelwch tomenni glo drwy gyflwyno deddfwriaeth, a hefyd wedi darllen papur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith, a oedd yn frawychus, a dweud y gwir. Ond, fel rydyn ni'n gwybod, mae’n cymryd amser i gyflwyno deddfwriaeth ac mae yna bryder gwirioneddol mewn nifer o gymunedau y gellid gweld tirlithriadau pellach, fel y gwelwyd yn Tylorstown yn Chwefror 2020, os nad oes gweithredu pellach a brys.
Un gymuned sydd yn pryderu yn arw yw Ynyshir, lle mae cynlluniau i adeiladu tyrbinau gwynt ar ben hen domen, a allai greu risg bellach o lifogydd. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i gymunedau fel Ynyshir y bydd y Llywodraeth yn dysgu’r gwersi sydd eu hangen ac yn gweithredu ar frys i sicrhau diogelwch y tomenni glo presennol cyn i’r ddeddfwriaeth fod yn ei lle?
Dirprwy Lywydd, dwi'n cytuno â'r Aelod. Wrth gwrs, bydd rhaid i ni gymryd yr amser i weithio ar adroddiad y comisiwn a nifer o bethau eraill rŷn ni eisiau eu gwneud, a bydd y Ddeddf ar y rhestr o bethau rŷn ni eisiau eu gwneud yn ystod y tymor hwn, pan fydd cyfle i mi wneud datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol cyn diwedd y tymor.
Heddiw, Dirprwy Lywydd, dwi'n trio canolbwyntio ar y rhaglen lywodraethu. Does dim ateb gen i ar y pethau penodol y mae'r Aelod wedi'u codi yn ei chwestiwn hi, ond bydd cyfle nawr i ni ystyried y pwyntiau y mae hi wedi'u codi fel rhan o'r gwaith rŷn ni wedi rhoi mas yn y rhaglen.
Diolch i chi am y rhaglen hon i sicrhau bod y byd yr ydym yn gadael i'n plant yn un na fydd yn hunllef ac a fydd yn werth ei etifeddu. Felly, wrth i ni ymdrechu i droedio'n fwy ysgafn gyda'r modd yr ydym ni'n cynhyrchu, defnyddio a gwastraffu adnoddau'r byd hwn, tybed a allech chi ddweud wrthym ni beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau bod adeiladwyr tai preifat yn adeiladu'r cartrefi di-garbon y bydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol fel nad oes rhaid i ni eu hôl-ffitio.
Tybed a allech chi ddweud wrthym ni sut y mae canolfannau llesiant, p'un ai ydyn nhw mewn gwirionedd yn ymarferol, fel canolfan llesiant Maelfa yn Llanedeyrn, a fydd yn dod â'r diwygiad pwysig gofal sylfaenol, gwasanaethau meddygon teulu, fferylliaeth, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl i gyd gyda'i gilydd—sut y bydd modd gwneud hynny pan nad yw canolfannau lles wedi'u creu'n ffisegol eto?
Yn olaf, tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am y chwyldro glas. Rwy'n gwybod y byddai David Melding wedi ein hatgoffa ni ynghylch rhyfeddodau arfordir Cymru, ond yng ngoleuni'r rhybuddion bod ein cefnforoedd yn y cyflwr gwaethaf ers i bobl ddechrau manteisio arnyn nhw—geiriau Sylvia Earle, prif wyddonydd benywaidd cyntaf gweinyddiaeth eigioneg yr Unol Daleithiau—meddwl oeddwn i tybed sut y gallwn ni wneud ychydig mwy na'r syniad y mae croeso mawr iddo, o gefnogi adfer cynefinoedd môrwellt a chors halen.
Llywydd, diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone. Wrth gwrs, mae ein huchelgais ar gyfer cartrefi di-garbon yn ymestyn y tu hwnt i gartrefi'r sector cyhoeddus a fydd yn cael eu hadeiladu yn ystod tymor y Senedd hon. Un o'r rhesymau dros roi tai ochr yn ochr â chynllunio ac ochr yn ochr ag ynni ym mhortffolio'r Gweinidog newydd yw caniatáu iddi gael yr holl ysgogiadau sydd eu hangen arni, gan gynnwys rhagor o ddiwygio, fel yr wyf i'n credu y bydd angen i ni ei weld, mewn gwaith safonau adeiladu i sicrhau nad ydym ni'n creu tai heddiw y bydd yn rhaid i ni eu hôl-ffitio yn y dyfodol.
Mae Aelodau Caerdydd yma sy'n genfigennus o ddatblygiad Maelfa ac yn dymuno i ni gael pethau tebyg yn ein rhannau ein hunain o'r ddinas, ond mae ein rhaglen meddygfeydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn y rhaglen lywodraethu yn rhaglen i greu'r canolfannau llesiant hynny mewn mwy o rannau o Gymru. Yn y cyfamser, yn y ffordd rithwir y cyfeiriodd Jenny Rathbone ati, byddwn ni'n gweithio drwy'r 64 clwstwr gofal sylfaenol sydd gennym ni yng Nghymru, ac sydd, rwy'n credu, wedi gwneud cymaint i gefnogi ac ysgogi'r ymateb gofal sylfaenol yr ydym ni wedi'i weld yn ystod y pandemig.
Ac yn olaf, o ran yr amgylchedd morol, Dirprwy Lywydd, Dylwn i adrodd bod cyfarfod o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yr wythnos diwethaf lle'r oeddwn i'n gallu cofnodi'r rhaglen waith newydd yr ydym ni wedi cytuno arni gyda Gweriniaeth Iwerddon—rhaglen waith bum mlynedd—yr oedd llawer o'r gwaith yn canolbwyntio ar yr amgylchedd morol cyffredin hwnnw sef Môr Iwerddon. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r Weriniaeth ar agenda sy'n dod ag ymchwilwyr o'n prifysgolion at ei gilydd a sefydliadau'r trydydd sector at ei gilydd i sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r amgylchedd gwych hwnnw ar gyfer yr ynni adnewyddadwy y bydd ei angen arnom ni ar gyfer y dyfodol. Ond rydym ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n parchu'n llawn yr amgylchedd unigryw ac amrywiaeth yr amgylchedd morol hwnnw lle nad yw ei feddianwyr yn gwybod dim byd, Llywydd, ynghylch p'un a ydyn nhw'n nofio yn nyfroedd Cymru, neu ddyfroedd Iwerddon, neu ddyfroedd yn y canol.
Diolch, Prif Weinidog, ac a gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? O edrych ar yr amserlenni, rydym ni wedi llwyddo i gael pawb i siarad. Ond os ydych chi eisiau gweld enghraifft dda o sut i ofyn cwestiynau o fewn yr amser, edrychwch ar Vikki Howells a Heledd Fychan a gyflwynodd eu cwestiynau mewn llai na munud. Iawn.