– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 23 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf, cynnig i benodi Comisiwn—
O, rwyf wedi gwneud hynny. [Chwerthin.] Dim ond gwneud yn siŵr.
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): gwasanaethau bws. Galwaf ar Huw Irranca-Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7704 Huw Irranca-Davies, Jayne Bryant, Hefin David, Janet Finch-Saunders, John Griffiths, Llyr Gruffydd, Vikki Howells, Jenny Rathbone, Luke Fletcher, Altaf Hussain, Jane Dodds, Natasha Asghar, Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cytundeb gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo £37.2 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
2. Yn nodi bod y cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.
3. Yn nodi bod y cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu defnydd ar ôl COVID-19, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu.
4. Yn nodi ymhellach y cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, sy'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys:
a) ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau;
b) datblygu deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol;
c) darparu gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a
d) sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau lleol ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am ddewis y cynnig hwn i'w drafod a'r llu o Aelodau trawsbleidiol a gefnogodd y cais hefyd?
Mae bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus wedi'u hintegreiddio'n briodol yn amlwg yn bwysig iawn i'r Senedd ac i'r etholwyr a wasanaethwn. Nawr, mae'n siŵr heddiw y bydd gan yr Aelodau hanesion i'w hadrodd am ein gwasanaethau lleol ein hunain. Bydd rhai'n sôn am wasanaethau a gollwyd yn ystod neu hyd yn oed cyn y pandemig; bydd rhai'n sôn am ffyrdd newydd creadigol o ddarparu atebion trafnidiaeth, yn enwedig i bobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol mewn ardaloedd anghysbell a gwledig. A byddwn hefyd yn clywed, gobeithio, am ddewrder gyrwyr a staff a gadwodd wasanaethau bws hanfodol i fynd pan oedd y pandemig ar ei waethaf ac ers hynny. Bydd y profiadau hyn yn lleol a thrwy Gymru yn dda i'w clywed yn y Senedd.
Ond rwy'n gobeithio y cawn amser hefyd i ganolbwyntio ar y ffordd ymlaen i Gymru, ar gyfer pob rhan o Gymru, sy'n galw am ddiwygio a buddsoddi'n wirioneddol radical yn ein bysiau, bysiau rheolaidd a bysiau Fflecsi ac ar alw, ond hefyd am lawer mwy o integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol, amserlenni a systemau tocynnau symlach, newid dulliau teithio yn sylweddol o drafnidiaeth unigolion i drafnidiaeth gymunedol ac i deithio llesol lle bynnag y bo modd i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau'r angen am deithiau hwy hefyd, drwy greu cymunedau lleol gyda swyddi a gwasanaethau a siopau a chyfleoedd i gymdeithasu o fewn pellter hawdd ei deithio ar droed neu ar feic.
Ond gadewch inni ddechrau gyda bysiau, oherwydd rwy'n tybio mai dyna y bydd llawer o bobl eisiau clywed amdano. Nid fi'n unig sydd wedi gweld y toriadau helaeth i wasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae effaith y toriadau'n aml wedi bod waethaf ar y cymunedau mwyaf anghysbell, a chymunedau sydd dan anfantais sylweddol eisoes. Mae blaenau'r cymoedd hardd yn fy etholaeth—pen y bryniau yn fy nghymoedd—yn aml yn gyn-gymunedau glofaol ac ystadau tai cymdeithasol. Yn aml, ni cheir darpariaeth dda o siopau a chyfleusterau iechyd a chyfleoedd swyddi a chlybiau a chanolfannau cymunedol i allu cymysgu a chymdeithasu ynddynt. Dyma'r mannau sydd â'r cyfraddau isaf o bobl yn berchen ar geir a lle mae'r preswylwyr yn aml yn hŷn ac yn llai iach a llai symudol. Ac eto, dyma'r union gymunedau—mor aml, y rhai lle gwelir y toriadau gyntaf. Ac yn aml daw'r toriadau hynny yn gyntaf fel rhai dros dro, oherwydd problemau a nodir ynghylch gyrru bysiau ar strydoedd cul gyda cheir wedi'u parcio, neu ddifrod i fysiau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu oherwydd y pandemig. Ond mor aml, daw'r toriadau hyn yn rhai parhaol, er gwaethaf gwrthwynebiad y bobl leol a chynrychiolwyr lleol. Weithiau dywedir wrthym fod y toriadau'n digwydd am nad yw'r llwybr yn broffidiol. Ac eto, mae gan fysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus ddiben cymdeithasol ac economaidd go iawn. Maent yn cysylltu pobl a chymunedau. Heb fysiau, mae gennym gymunedau ynysig a phobl ynysig, gyda'r holl broblemau a ddaw yn sgil hynny i unigolion ac i gymdeithas. Ni allwn ddarostwng bysiau i fod yn ddim mwy na thrafodiad ariannol am docyn neu gyfrifiad oer o broffidioldeb tymor byr gwahanol lwybrau. Maent yn fwy na hynny. Fel y dywedodd Marion a Keith yng Nghaerau wrth y BBC neithiwr, maent yn achubiaeth i bobl allu cyfarfod â'u ffrindiau, cyrraedd y meddyg neu'r ysbyty, cyrraedd y gwaith a bod yn rhan o'u cymuned ehangach. Hebddynt, mae cymunedau wedi'u hynysu ac ar eu pen eu hunain ac mae hynny'n wir am yr unigolion yn ogystal.
Felly, yn y chweched Senedd hon, mae gennym gyfle yn awr i wneud pethau'n wahanol iawn. Gan fod gennym y pwerau bellach, mae angen inni adfer y diben cyhoeddus a chymdeithasol sy'n graidd i bob trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol fel rydym eisoes wedi dechrau ei wneud gyda threnau. Ac mae hyn yn golygu adfer rheolaeth ar y bysiau a'r oruchwyliaeth ehangach ar drafnidiaeth gyhoeddus i bobl, defnyddwyr trafnidiaeth a chynrychiolwyr a etholir yn lleol, fel bod bysiau a threnau a bysiau Fflecsi a bysiau ar alw a thrafnidiaeth gymunedol yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd, a lle nad oes neb—neb—yn cael ei adael heb gysylltiad â'u cymuned ehangach a'r byd gwaith a byd eu ffrindiau a chymdeithas.
Er gwaethaf y pandemig, neu efallai o'i herwydd, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau. Mae'r cytundeb gwasanaethau bysiau ym mis Mawrth 2021 wedi ymrwymo dros £37 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, ond mae hyn yn amodol ar
'ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.'
Ac mae hefyd yn ceisio ailddatblygu defnydd ar ôl COVID, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau. Mae hynny'n dda, ac mae'n galonogol gweld Gweinidogion yn manteisio ar y cyfle i ailsiapio trafnidiaeth bysiau. Roedd y cyhoeddiad beiddgar ddoe ar oedi ac adolygu'r gwaith adeiladu ffyrdd hefyd yn canolbwyntio'n galonogol ar symud buddsoddiad tuag at fysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny'n dda, ond mae llawer mwy i'w wneud—llawer mwy.
Mae 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021', yn gosod cyfeiriad radical eglur a newydd i ymgymryd â thrafnidiaeth bysiau a chysylltedd trafnidiaeth leol. Mae'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau, sy'n cynnwys ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau—nid crebachu, ond ymestyn—datblygu'r ddeddfwriaeth bysiau newydd, deddfwriaeth rydym wedi ymgynghori arni eisoes, i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol, gan ddarparu gwasanaethau bysiau arloesol a mwy hyblyg mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gyda sectorau masnachol a'r trydydd sector, meddai cadeirydd y Blaid Gydweithredol, a sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb. Hwy yw'r opsiwn y bydd pobl yn ei ddewis gyntaf, yn hytrach nag opsiwn sbâr.
Nawr, mae hyn yn wirioneddol gyffrous i lawer ohonom. Mae'n cynnig dyfodol newydd i fysiau sy'n eu rhoi wrth wraidd polisi trafnidiaeth lleol a rhanbarthol, ac mae'n rhoi pobl yn ôl wrth wraidd y gwasanaethau lleol hynny, gyda mwy o reolaeth dros lwybrau ac amseroedd lleol a mwy, gyda'r pwynt o egwyddor
'bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb'.
Felly, sut y mae rhoi pobl a defnyddwyr bysiau yn ôl wrth wraidd trafnidiaeth gyhoeddus? Rydym yn ei wneud drwy ddefnyddio'r pwerau newydd sydd gan y Senedd hon yn awr, drwy weithredu dull modern, Cymreig o ailreoleiddio bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy gydnabod bod gan fysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus ddiben cymdeithasol a chyhoeddus sylfaenol. Rydym yn democrateiddio bysiau eto. Nawr, nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Rydym yn dechrau o'r byd go iawn o sawl degawd o wasanaethau bysiau ar ôl dadreoleiddio, ac rydym yn dechrau drwy gydnabod y sgiliau a'r arbenigedd sydd ar gael gan y gweithredwyr presennol, a rhywfaint o'r buddsoddiad, er ei fod wedi'i lywio'n fawr gan fuddsoddiad a threfn reoleiddio'r Llywodraeth, mewn cerbydau modern a hygyrch mewn rhannau o'r rhwydwaith, ac rydym hefyd yn cydnabod ymrwymiad a phrofiad y gyrwyr a'r staff sydd wedi cadw'r gwasanaeth hwn i fynd drwy'r pandemig hefyd.
Ond os gall Llundain a Lerpwl gael mwy o reolaeth ddemocrataidd ar fysiau a mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, a'u hintegreiddio'n well, gan integreiddio systemau tocynnau a thocynnau rhatach, llwybrau a gwasanaethau'n mynd yn amlach pan a lle mae'r cyhoedd am iddynt fynd, ni welaf pam na allwn ninnau wneud hynny hefyd. Ac os gall gweithredwyr masnachol ddarparu'r gwasanaethau hyn, fel yn yr ychydig leoedd dethol yn y DU a llawer yn fyd-eang mewn gwirionedd, gall awdurdodau lleol a rhanbarthol a threfol a chydfuddiannol di-elw a mentrau cymdeithasol wneud hynny hefyd. Os gallant gael mwy o fuddsoddiad mewn bysiau gyda gorwel ariannu mwy hirdymor, bysiau allyriadau isel iawn, sy'n gwbl hygyrch ar hynny, os gallwn droi cyllid a theithwyr at drafnidiaeth dorfol sy'n ystyriol o'r hinsawdd, yn hytrach na thrafnidiaeth unigolion, ac os gallwn wella amodau gwaith ac atyniad y sector i yrwyr—. Os yw'n ddigon da i Lundain ac yn ddigon da i Lerpwl, yn fy marn i mae'n ddigon da i Lewistown yn Ogwr, ac mae'n ddigon da i Drelales ym Mhen-y-bont ar Ogwr, neu i Lanelli a Llandudno, ac i unrhyw le arall yng Nghymru o ran hynny. Felly, gadewch inni fod yn feiddgar ac ailddychmygu dyfodol bysiau a thrafnidiaeth integredig yng Nghymru.
Rwy'n edrych ymlaen yn y ddadl hon at glywed barn Aelodau eraill y Senedd ar ddyfodol bysiau a thrafnidiaeth integredig yng Nghymru, ac ymateb y Gweinidog i'r ddadl hon cyn bo hir, gan fy mod yn gobeithio y bydd yn nodi amserlen bysiau ar gyfer cyflawni'r trawsnewid cyffrous a radical hwn. A Ddirprwy Lywydd, dim ond amser byr fydd ei angen arnaf ar gyfer ymateb ar y diwedd. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i wneud fy araith gyntaf yn y Senedd hon wasanaethau bysiau yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod am godi hyn a'i gyflwyno fel testun dadl. Nawr, nid oes amheuaeth fod hwn yn fater sy'n peri pryder mawr i bobl ledled Cymru, a chaiff hynny ei ddangos yn glir gan y gefnogaeth i'r cynnig gan Aelodau o bob grŵp gwleidyddol a gynrychiolir yma heddiw.
Mae gwella gwasanaethau bysiau yn gwneud synnwyr economaidd, drwy wella mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Mae hefyd yn gwneud synnwyr yn gymdeithasol, drwy ganiatáu i bobl fyw bywydau llawnach a mwy boddhaol. Fodd bynnag, mae'n ffaith—a gwn ein bod i gyd yn hoffi ffeithiau yma—fod nifer y teithwyr wedi bod yn gostwng yn ddiweddar. Mae'n sicr bod nifer o resymau dros hyn: yn gyntaf, cynnydd yn y defnydd o geir preifat; yn ail, tagfeydd, sy'n naturiol yn cynyddu amseroedd teithio, gan wneud gwasanaethau'n llai rhagweladwy; yn drydydd, gostyngiad mewn cymorth ariannol i'r sector, gan wneud llawer o lwybrau'n aneconomaidd.
Mewn ardaloedd gwledig, mae poblogaethau mwy gwasgaredig, llai dwys yn ei gwneud yn anodd darparu gwasanaethau amserlen eang sy'n cael eu rhedeg gan fysiau traddodiadol. Yn aml, mae gwasanaethau'n teithio ar lwybrau hir ac anuniongyrchol i wasanaethu cynifer o bobl â phosibl, ond maent yn dod yn ddewis amgen nad yw'n ddeniadol i deithwyr sydd â char at eu defnydd. Caiff ei wneud yn fwy heriol gan effaith COVID-19 ar y sector bysiau. Mae'r grant brys ar gyfer gwasanaethau bysiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig wedi darparu'r gwasanaethau hanfodol i bobl sydd wedi bod angen parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gweithwyr allweddol. Ond mae'r effaith barhaol ar y defnydd o fysiau yn parhau'n anhysbys, gyda disgwyl i nifer y teithwyr ostwng hyd yn oed ymhellach nag y maent wedi'i wneud eisoes. Felly, y cwestiwn yw: sut y mae gwrthdroi'r dirywiad hwn?
Yn gyntaf, mae angen inni fuddsoddi mewn gwasanaethau bysiau. Rwyf eisoes wedi sôn am y grant brys ar gyfer gwasanaethau bysiau, ond cyn y pandemig, roedd cymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru i'r rhwydwaith bysiau yn canolbwyntio'n bennaf ar y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Chwe blynedd yn ôl, cafodd Cymru wared ar y grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau a sefydlu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau yn ei le, gyda chyllid o £25 miliwn. Mae'n frawychus felly nad yw'r pot sefydlog hwn o £25 miliwn wedi newid ers sefydlu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau. Mae'r cyllid fesul teithiwr ar gyfer gwasanaethau bysiau yn annigonol ac yn cymharu'n wael â'r hyn a ddarperir ar gyfer teithwyr rheilffyrdd. Gall y Dirprwy Weinidog dynnu sylw at y gwahanol gynlluniau tocynnau teithio rhatach sy'n bodoli, ond cymorthdaliadau y mae'r teithiwr yn eu mwynhau yw'r rhain, ac nid ydynt yn gwneud iawn am wasanaethau bysiau wedi'u hariannu'n wael.
Yn ail, rhaid inni annog bysiau glanach a gwyrddach. Yn yr Alban, mae grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau Llywodraeth yr Alban yn cynnwys taliad craidd a chymhelliant i weithredu bysiau gwyrdd economaidd. Nod y taliad craidd yw cefnogi gweithredwyr i gadw prisiau tocynnau ar lefelau fforddiadwy a rhwydweithiau'n fwy eang nag a fyddent fel arall, ac mae'r cymhelliant gwyrdd yn helpu gyda chostau rhedeg ychwanegol bysiau allyriadau isel i gefnogi eu defnydd gan weithredwyr. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cymhellion i gwmnïau bysiau yng Nghymru ddatgarboneiddio eu stoc o gerbydau.
Mae tagfeydd yn parhau i fod yn ddatgymhelliad mawr i bobl sy'n defnyddio bysiau, a bydd gweithredu terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr mewn ardaloedd preswyl yn gwaethygu hyn. Mae'n amlwg fod angen rhaglen o fesurau blaenoriaeth ar gyfer bysiau, megis lonydd bysiau effeithiol ac effeithlon, goleuadau traffig blaenoriaethol a chysgodfannau bysiau gwell, i annog pobl allan o'u ceir ac yn ôl ar fysiau, oherwydd, fel y mae, nid wyf eto wedi cyfarfod ag unrhyw un sy'n teimlo bod y system fysiau yma yng Nghymru yn werth aberthu eu ceir drosti.
Yn olaf, mae angen inni ei gwneud yn haws i bobl deithio ledled Cymru gan ddefnyddio un cwmni bysiau i'r llall, drwy gyflwyno cerdyn teithio i Gymru gyfan. Roeddwn wrth fy modd pan gafodd fy awgrym—fod ymateb mor gadarnhaol wedi dod gan y Prif Weinidog ychydig wythnosau'n ôl. Ddirprwy Lywydd, rwy'n cefnogi'r cynnig hwn, ac edrychaf ymlaen yn ddiffuant at weithio gyda phawb yma i ddarparu gwell gwasanaeth bws i bawb yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Yn amlwg, hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod. Credaf fod gan Huw a minnau ddiddordeb cyffredin yn lleol gan fod y ddau ohonom yn hanu o etholaeth fendigedig Ogwr—fi ym Mhencoed a Huw, wrth gwrs, ym Maesteg. Ac wrth gwrs, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod gan y ddau ohonom aelodau o'r teulu sy'n aml yn dibynnu ar wasanaethau bysiau i gyrraedd y gwaith neu i fynychu apwyntiadau ysbyty.
Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol mai bysiau a'r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau yw'r mater sy'n codi fwyaf yn ein mewnflychau pa ardal bynnag a gynrychiolwn. Yn yr etholiad, er enghraifft, collais gyfrif ar faint o weithiau y cafodd gwasanaethau bysiau eu crybwyll, yn enwedig gan etholwyr a oedd wedi ymddeol ac yn amlach na pheidio yn dibynnu ar y gwasanaeth i gyrraedd apwyntiad, yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn fy achos i, neu yn yr achosion y deuthum ar eu traws.
Rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi taro'r hoelen ar ei phen ddoe, a chredaf y bydd yn hapus iawn fy mod wedi dweud hyn, fod bysiau'n llawn gymaint o fater cyfiawnder cymdeithasol ag y maent o fater newid hinsawdd neu o fater trafnidiaeth. Er enghraifft, gwyddom nad oes gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr bysiau—tua 80 y cant—gar preifat at eu defnydd. Gwyddom hefyd fod y mwyafrif helaeth o ddefnyddwyr bysiau sy'n dibynnu ar y gwasanaethau ar incwm isel. Ac unwaith eto, gan ddychwelyd at Ogwr, fel y mae Huw'n gwybod, nid yw'r rheilffyrdd yn cyrraedd y rhan fwyaf o'r etholaeth. Ac nid yw hon yn nodwedd sy'n unigryw i Ogwr, mae'n rhywbeth a welir ledled Cymru. Mae cymoedd Ogwr a Garw yn dibynnu'n llwyr ar wasanaethau bysiau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ac mae hwnnw'n batrwm a welwn ym mhobman yng Nghymru fel y dywedais, o gymoedd Ogwr i gymoedd Castell-nedd ac i'r cymoedd o amgylch Abertawe. Mae llawer o'r ardaloedd hyn yn dibynnu ar y gwasanaethau ac er hynny, mae gwasanaethau dan fygythiad cyson o gael eu torri neu eu newid am nad ydynt yn broffidiol mwyach.
Ac rwy'n credu bod elw yn air allweddol inni ei ystyried yn y ddadl hon. Y gwir amdani yw, cyn belled â bod gwasanaethau bysiau yn nwylo cwmnïau sy'n cael eu gyrru gan elw, ni chânt byth mo'u gyrru gan anghenion ein cymunedau—dyna hanfod hyn. Cyfeiriodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at hyn mewn ateb a roddodd yn gynharach heddiw: lle mae angen gwasanaethau, mewn cymunedau incwm isel yn bennaf, nid ydynt yn bodoli o gwbl ac maent o ansawdd gwael, ond lle gall pobl fforddio talu mwy am y gwasanaeth, mae ansawdd y gwasanaeth yn wych. Mae'n bwysig yn awr wrth i'r ddadl hon ddatblygu—ac mae angen iddi ddatblygu fel mater o frys, gyda llaw—ein bod yn canolbwyntio ar sut y gallwn sicrhau bod ein gwasanaethau bysiau a'r system drafnidiaeth gyhoeddus ehangach yn gweithio i'n cymunedau, a chymunedau, unwaith eto, yw'r gair allweddol yma. I mi, mae hynny'n golygu dod â'r pŵer yn ôl i'r bobl a dod â'n gwasanaethau hanfodol yn ôl i ddwylo cyhoeddus.
Yn y Llywodraeth ddiwethaf, cyflwynais ddeiseb i'r Pwyllgor Deisebau yn cynnwys oddeutu 3,700 o lofnodion, gyda nodyn eglurhaol yn esbonio ei fod yn fater gofal iechyd cymdeithasol yn ogystal â mater trafnidiaeth a'r economi. Fel cyn aelod cabinet awdurdod lleol dros drafnidiaeth, anerchais gyfarfodydd llawn o drigolion gofidus yn pryderu ynglŷn â cholli gwasanaeth, gyda rhai ohonynt yn eu dagrau ac yn poeni am gael eu hynysu'n gymdeithasol.
Mae trafnidiaeth bysiau yn hynod o gymhleth a drud. Mae ein contract ar gyfer gwasanaeth oddeutu £500,000 ar gyfartaledd. Maent yn aml yn gysylltiedig â chludiant i'r ysgol i'w gwneud yn hyfyw. Mae pob rhanbarth yn wahanol, a dyna pam y mae'r grant trafnidiaeth bysiau wedi'i rannu'n rhanbarthau ac yna'n ardaloedd awdurdodau lleol yn seiliedig ar fformiwla. Yn sir y Fflint, er enghraifft, dim ond un o 22 awdurdod, mae 450 o gontractau trafnidiaeth: mae 350 yn gontractau cludiant i ysgolion, sy'n gwasanaethu miloedd o drigolion, yn aml y rhai mwyaf agored i niwed, ifanc, hen, anabl a chymdeithasol ddifreintiedig. Pan fydd bws yn hwyr neu pan nad yw'n cyrraedd yn brydlon, mae'n peri gofid ac mae angen datrys hynny'n gyflym, a dyna pam y mae angen iddo gael ei gyflawni'n lleol gydag arbenigedd lleol.
Mae gan ardaloedd poblog iawn wasanaethau da am mai dyna lle maent yn fwy proffidiol. Mae angen cymorthdaliadau uchel ar ardaloedd gwledig a mynediad at wasanaethau nad ydynt i'w cael yn lleol. Mae angen i drafnidiaeth esblygu a thyfu o'r gymuned i fyny. Dengys profiad na allwch orchymyn oddi fry a disgwyl i bobl symud at wasanaeth. Rhaid i weithredwyr gael sicrwydd ariannol contract hirdymor a chyllid grant tuag at gaffael cerbydau newydd i helpu gwasanaethau i fod yn gynaliadwy. Credaf y dylai gwasanaethau rheolaidd barhau ar lwybrau prysur a gwasanaethau galw'r gyrrwr Fflecsi ar y rhai sydd â niferoedd isel o deithwyr, gan gynnwys tacsis a gweithredwyr contractau ysgolion drwy elfen o fudd cymunedol, yn enwedig ar gyfer apwyntiadau meddygol. Gellid ehangu hyn i weithio ar y cyd â byrddau iechyd. Ac mae angen inni roi pwerau i awdurdodau lleol allu eu rhedeg, yn union fel y byddent yn ei wneud ar un adeg. O'r blaen, ceid gwasanaeth bws cyhoeddus a gwasanaeth ar gyfer y cyhoedd. Mae llawer o'n gwasanaethau wedi'u dileu gan gystadleurwydd ac ni chânt eu hariannu'n briodol. Diolch.
Mae eraill wedi dadlau y prynhawn yma dros yr egwyddor o fysiau ac ariannu gwasanaethau bysiau, a threfnu a rheoli gwasanaethau bysiau. Ategaf bopeth a ddywedwyd wrth agor y ddadl hon gan fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies; rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod lle bysiau mewn polisi trafnidiaeth gyhoeddus ehangach. Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw ceisio disgrifio sut y byddai hynny'n cael ei gynnwys o fewn ymagwedd ehangach y Llywodraeth. Ac rwy'n falch fod y Gweinidog yma—yn gorfforol yma, mewn gwirionedd—y prynhawn yma i allu gwrando ar y ddadl hon ac ymuno â'r ddadl.
O ran sut rydym yn darparu bysiau a gwasanaethau bysiau, mae'n amlwg y bydd newidiadau sylweddol ac mae angen newidiadau sylweddol am y rhesymau y mae llawer o bobl eisoes wedi'u rhoi; ni allwn barhau i reoli ein gwasanaethau heddiw ac yfory yn y ffordd y gwnaethom rai degawdau yn ôl. Ond mae angen inni fod yn ymwybodol hefyd o anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Os edrychwch ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yng Nglynebwy dros y pythefnos diwethaf, byddwch wedi gweld gwasanaeth Fflecsi yn cael ei gyflwyno, lle rydych yn ffonio ac yn gwneud apwyntiad gydag ap i ddal bws ac yn y blaen, a chefnogais hynny. Hoffwn weld y gwasanaethau hyn yn cael eu hymestyn a'u datblygu, ond mae'n rhaid ei ddarparu. Ac nid yr anhrefn a welsom yng Nglynebwy dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yw'r gwasanaeth y mae pobl Glynebwy ei angen. Lle rydym yn darparu gwasanaethau, mae angen inni sicrhau ein bod yn deall profiadau bywyd a phrofiadau byw y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny. Os ydych yn mynd â'ch plentyn i'r ysgol yng Nglynebwy, nid bws ymhen awr sydd ei angen arnoch, mae angen bws arnoch yn awr ac yna mae angen i chi ddychwelyd mewn hanner awr neu 20 munud. A dyna mae gwasanaeth bws trefol llawer byrrach yn gallu ei wneud. Efallai fod angen inni ystyried darparu gwasanaethau Fflecsi a bob dim ar rwydwaith gwasanaeth ehangach a mwy nag a geir o fewn amgylchedd tref fach, lle mae angen gwasanaethau bysiau ar gyfer teithiau byr sy'n deithiau mwy mynych, ond nid teithiau hwy, ac mae angen ichi ddychwelyd o fewn awr, a phethau felly. Felly, mae angen inni ddeall profiad byw pobl.
Wedyn, mae angen i'n Llywodraeth siarad â hi ei hun a chyda ni, gyda'n gilydd. Bydd y rheini ohonoch a oedd yn y Senedd ddiwethaf wedi diflasu arnaf yn sôn am yr angen—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] A bod yn deg, roeddech wedi diflasu cyn imi godi ar fy nhraed. Ynglŷn â'r angen am wasanaethau i gysylltu lleoedd fel Blaenau Gwent ag ysbyty newydd y Faenor yng Nghwmbrân. A bydd llawer o bobl yma wedi clywed Gweinidogion yn ymateb gan ddweud y byddai hynny'n digwydd. Afraid dweud bod yr ysbyty wedi'i adeiladu, mae'r ysbyty wedi agor ac nid oes gennym wasanaethau bws i gysylltu'r bobl â'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom. Ac mae rhannau o fy etholaeth yn dal heb eu cysylltu â'r adnodd newydd gwych hwnnw.
Felly, mae gennych un rhan o'r Llywodraeth yn dweud, 'Byddwn yn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac rydym am i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym am i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn wasanaeth y bydd pobl yn ei ddewis yn hytrach na'r car preifat', ac mae gennym ran arall o'r Llywodraeth yn darparu cyfleusterau newydd gwych sydd y tu hwnt i gyrraedd trafnidiaeth gyhoeddus a'r tu hwnt i gyrraedd y bobl sydd angen y gwasanaethau hynny. Ac mae angen cydgysylltu hynny. Mae arnaf ofn nad oes gennyf lawer o amynedd na chydymdeimlad â'r Llywodraeth ar hyn, oherwydd dywedwyd wrthynt amdano a dywedwyd wrthynt amdano bum mlynedd yn ôl. Ac er inni gael nifer o Weinidogion yn gwneud areithiau huawdl iawn—ac rydym yn edrych ymlaen at eich un chi y prynhawn yma, Weinidog—yr hyn na chawsom oedd gwireddu'r polisi ar lawr gwlad, ac o ganlyniad, rwy'n siarad ag etholwyr wythnos ar ôl wythnos am y methiant i ddarparu'r cysylltedd y maent ei angen ac y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl.
Rwyf am gloi drwy ddweud hyn: roedd dadreoleiddio bysiau gan Lywodraeth Thatcher yn y 1980au yn drychineb llwyr i bobl dlawd a bregus yn y wlad hon. Roedd yn drychineb llwyr i wasanaethau bysiau ac i gwmnïau bysiau hefyd. Rydym wedi gweld dinistrio gwasanaeth cyhoeddus o ganlyniad i bolisi Llywodraeth, Llywodraeth y DU, ac mae'n iawn ac yn briodol yn awr inni ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael inni er mwyn adfer gwasanaethau bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i wasanaethu anghenion pobl. Yr eironi yw, nid yn unig fod y Llywodraeth Dorïaidd, Llywodraeth Thatcher, wedi dinistrio'r gwasanaeth cyhoeddus, fe wnaethant ddinistrio sylfaen y diwydiant ei hun hefyd. Pe bai Darren yn mynd ar Google, byddai'n gwybod nad yw cwmnïau bysiau eu hunain yn gynaliadwy fel y mae pethau. Mae arnom angen gwasanaeth cynaliadwy. Mae arnom angen gwasanaeth sy'n cynnig cysylltedd. Ac mae arnom angen gwasanaeth, fel y dywedwyd yn gynharach, sy'n darparu cyfiawnder cymdeithasol i bobl ledled y wlad hon.
Cyn y pandemig COVID, roedd y defnydd o wasanaethau bysiau a mynediad atynt eisoes ar lwybr tuag at i lawr. Awgrymodd dadansoddiad yn 2018 fod y pellter a deithiwyd gan wasanaethau bysiau lleol wedi gostwng 20 y cant mewn 10 mlynedd. Yn wir, Cymru sydd wedi gweld y gostyngiad canrannol mwyaf mewn milltiroedd bysiau rhwng 2006-07 a 2016-17 o'i gymharu â gwledydd eraill y DU. Mae honno'n ffaith anffodus iawn. Felly, rwyf wrth fy modd fod yna gonsensws trawsbleidiol ar yr angen i ymgysylltu'n ystyrlon â'n cymunedau ledled Cymru ar strategaeth newydd ac i ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu anghenion trafnidiaeth.
Mae darparwyr trafnidiaeth eu hunain yn sicr wedi ysgwyddo eu cyfrifoldeb yn ystod y pandemig hwn, ac rwy'n falch iawn o fy ngweithredwyr bysiau yn Aberconwy. Mae Alpine Travel wedi bod yn cynnig gwasanaeth trafnidiaeth cymunedol am ddim i alluogi pobl agored i niwed i gyrraedd y siopau, ac maent wedi bod yn barod eu cymwynas, yn casglu presgripsiynau er enghraifft. Dyna un enghraifft o'r angerdd sydd gan ein gweithredwyr bysiau yng ngogledd Cymru dros gysylltu cymunedau. Felly, credaf ei bod yn iawn inni roi'r gorau i ddifrïo'r sector hwnnw a siarad ar eu rhan mewn gwirionedd. Y Llywodraeth hon yng Nghymru sydd wedi gwneud cam â hwy, nid hwy eu hunain, na'r cymunedau.
Mae'r £37.2 miliwn yn y cytundeb gwasanaethau bysiau yn ddechrau da. Rwy'n croesawu'r ffaith bod gan y cynllun delerau sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion a blaenoriaethau lleol, gan gynnwys cefnogi teithiau dysgwyr i'r ysgol, cynyddu gwasanaethau mewn sefyllfaoedd lle mae'r galw'n fwy na'r capasiti, a chefnogi integreiddio ar draws y dulliau teithio. Yn wir, yn fy etholaeth i a'r etholaeth nesaf, gallai fod o fudd i ddyffryn Conwy a pharc cenedlaethol Eryri. Fel y mae llawer o'r Aelodau yma'n gwybod, caiff yr ardal ei llethu gan ymwelwyr sy'n teithio yn eu ceir eu hunain. Rwyf wedi ymgyrchu ers tro byd dros wasanaeth rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog, ac integreiddio amserlennu gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau fel y gall twristiaid fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd o ddinasoedd i'r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr.
Wrth gwrs, byddai hyn yn cyd-fynd â blaenoriaeth 2 'Llwybr Newydd' a'r ymrwymiad i ymestyn cyrhaeddiad daearyddol trafnidiaeth gyhoeddus i bob cymuned, yn enwedig yn y Gymru wledig. Yn wir, mae Aberconwy yn enghraifft wych o sut y gellir moderneiddio gwasanaethau, a sut y gwnaed hynny, i ateb y galw ar draws cymunedau gwledig. Mae gennym wasanaeth bws Fflecsi dyffryn Conwy. Yr hyn y mae'r ddarpariaeth hon yn ei wneud yw addasu llwybr y daith i godi a gollwng teithwyr yn unrhyw le o fewn parth dynodedig y Fflecsi. Nid wyf yn amau y byddai'n effeithio'n gadarnhaol ar genhadaeth pawb ohonom i gyflawni sero net.
Yn ddiweddar, cefais y pleser o ddysgu am y camau y mae Llew Jones International o Lanrwst yn eu cymryd i ddarparu teithiau glân, cynaliadwy a fforddiadwy. Er enghraifft, mae ganddynt ddau gerbyd hybrid sy'n lleihau'r defnydd o ddiesel oddeutu 65 y cant. Mae ganddynt gynlluniau cyffrous eraill, megis creu llwybr cyntaf TrawsCymru yng Nghonwy, a fydd â dau gerbyd cwbl drydanol. Gellid grymuso eu hymgyrch werdd drwy gynllun sy'n helpu gweithredwyr i fuddsoddi mewn bysiau trydan.
Nodais fod 'Llwybr Newydd' yn cynnwys ymrwymiad i addasu'r seilwaith presennol i newid hinsawdd drwy fynd i'r afael â materion fel llifogydd. Mae'r nod hwn yn ganmoladwy, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle heddiw i dynnu sylw at y gwaith gwych a wnaed gan Network Rail i wella gallu gorsaf reilffordd Dolgarrog i wrthsefyll llifogydd. Os caf aros gyda'r enghraifft honno, gan fod cysgodfan fysiau ger yr orsaf hefyd, ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ailagor y bont yn ddiogel, mae'n hanfodol uwchraddio'r llwybr sy'n arwain at y ganolfan drafnidiaeth fach. Byddai hyn yn cyd-fynd â'r ymrwymiad yn 'Llwybr Newydd' i uwchraddio'r seilwaith presennol i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol o ran hygyrchedd a diogelwch, ac mae'n dangos pa mor bwysig yw helpu trigolion i ddefnyddio cysgodfannau bysiau yn ogystal â bysiau.
Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y strategaeth yn cyflawni gwelliannau i wasanaethau bysiau a newidiadau cadarnhaol hefyd ar gyfer cerdded a beicio, gan fod y rheini ar frig eich hierarchaeth yn ogystal. Mae'n bryd gweld olwynion y strategaeth hon yn troi, felly rwy'n cefnogi galwadau am amserlenni ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag unrhyw un sydd am adfer darpariaeth dda o fysiau cymunedol ym mhob un o'n hetholaethau. Diolch.
Rwy'n falch o ddweud, Ddirprwy Lywydd, fy mod, drwy gydol y pandemig, wedi gallu cysylltu â Stagecoach a'u cyfarwyddwr ar gyfer de Cymru, Nigel Winter, sy'n berson da iawn i siarad ag ef. Un o'r pethau a ddywedodd oedd bod y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi achub y diwydiant bysiau yng Nghymru drwy'r pandemig. Credaf y dylai'r Dirprwy Weinidog, a hefyd y cyn Weinidog, Ken Skates, gael clod am hynny, oherwydd heb y gwasanaeth hwnnw, heb y cynllun hwnnw a'r cynlluniau a'i holynodd, ni fyddem yn siarad heddiw am wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd ni fyddai gennym sylfaen iddo allu bodoli arni.
Roeddwn innau hefyd yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Senedd flaenorol, a gwnaethom nifer o adroddiadau—credaf fod y Dirprwy Weinidog yn aelod o'r pwyllgor am gyfnod, cyn iddo gael ei ddyrchafu i'r lefel bresennol o enwogrwydd y mae arni ar hyn o bryd, ac roedd yn aelod da iawn o'r pwyllgor. Un o'r pethau a sefydlodd, fel rhan o'r pwyllgor hwnnw, oedd adroddiadau ar bethau fel tagfeydd traffig, strwythur a rôl Trafnidiaeth Cymru, ac datgarboneiddio trafnidiaeth. Mae'r adroddiadau hyn yn archif y Senedd i ni eu darllen, ac maent yn allweddol, rwy'n meddwl, i'r cyfeiriad y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd iddo. Rwy'n arbennig o hapus ynglŷn â hyblygrwydd.
Dwi eisiau gweld gwasanaeth hyblyg i gysylltu cymunedau fel Ystrad Mynach a Nelson, er enghraifft. Mae'n bwysig bod pobl yn gallu hop on, hop off pan fyddan nhw eisiau. A hefyd, byddai'n dda cael ap a rhif ffôn i fwcio bws. Mae cynllun peilot fel hyn yn digwydd yng Nglynebwy ar hyn o bryd; mae'n dda i weld. Byddai'n grêt i weld hwnna fan hyn yng Nghaerffili, a gallwn ni sortio unrhyw broblemau a allai godi.
Fel y dywedodd Alun Davies, fe gafwyd problemau. Wel, gadewch inni ddatrys y rheini cyn i ni ddod â'r peilot i Gaerffili, gawn ni? Mae'n debyg mai dyna'r ffordd orau o'i wneud. Rwyf wedi bod yn gwasgu ar y Gweinidog am wasanaeth Fflecsi. Efallai y gallwn ddatrys y problemau yng Nglynebwy yn gyntaf a gallwn ei berffeithio yng Nghaerffili. Dyna'r ffordd y dylai pethau ddigwydd.
Rwy'n credu bod y Bil rydym yn disgwyl ei weld, ac y byddem wedi'i weld—rwy'n credu bod y cyfweliad diwethaf a wneuthum ar Sharp End cyn y pandemig yn ymwneud, nid â'r pandemig, ond â'r Bil bysiau roeddem yn disgwyl ei weld yn y Senedd ddiwethaf. Credaf y bydd y Bil ailreoleiddio yn rhywbeth gwirioneddol bwysig. Ac rwy'n credu mai'r mater allweddol fydd sut rydych yn darparu ar gyfer pobl sy'n gweithio y tu allan i oriau, sut rydych yn mewnlenwi gwasanaethau nad ydynt yn broffidiol. Sut rydych yn gwneud hynny? Credaf y bydd ailreoleiddio—fel y dywedwyd eisoes gan lawer o siaradwyr, yn enwedig ar y meinciau hyn, oherwydd credaf fod hon yn gred ganolog yn ein hymgyrch dros gyfiawnder cymdeithasol—yn allweddol i'r Bil hwnnw.
Cwestiwn arall hefyd—ac efallai fod hwn yn un y gall y Gweinidog ymateb iddo yn ei ateb—fydd sut y bydd y strwythurau rheoleiddio'n gweithio. Oherwydd rwyf wedi siarad â Carolyn Thomas, a oedd yn aelod Cabinet dros drafnidiaeth yng Nghyngor Sir y Fflint. Rwyf wedi dysgu llawer heddiw o siarad â hi. Un o'r pethau y soniodd amdanynt yw beth yw rôl Trafnidiaeth Cymru, beth fydd rôl cyd-awdurdodau trafnidiaeth, a beth fydd rôl awdurdodau lleol. Oherwydd ceir llawer o rolau penodol y gallwch eu dyrannu i'r gwahanol grwpiau hynny ac mae'n rhaid i chi eu cael yn iawn, ac nid ydym yn glir o hyd beth yn union fydd y rheini. Credaf y byddai ychydig o fanylion gan y Gweinidog yn ei ymateb yn ddefnyddiol iawn yn hynny o beth ac yn ein galluogi i ddeall beth y mae'r Bil yn ceisio ei gyflawni yn y dyfodol.
Mae hon yn ddadl i'w chroesawu'n fawr. Natasha Asghar, roedd yn wych gweld eich araith gyntaf, ac roedd yn araith dda iawn. Efallai ei bod ychydig yn rhy bleidiol i mi mewn rhannau, ond yn bendant, y cyfeiriad rydym am ei gael yw cael y gwelliant hwn mewn trafnidiaeth gyhoeddus drwodd ar sail drawsbleidiol yn y Senedd hon. Credaf fod y ddadl hon yn paratoi'r ffordd ar gyfer hynny.
Ar draws fy rhanbarth i, Canol De Cymru, mae etholwyr di-ben-draw wedi bod mewn cysylltiad ar yr union fater hwn, ac mae'n amlwg fod gwasanaethau'n anghyson ledled Cymru. Ac er bod problemau'n gysylltiedig â'r pandemig wedi arwain at lai o wasanaethau a llai o gapasiti, y realiti yw bod y gwasanaethau bysiau yn gwbl annigonol cyn hynny hyd yn oed. Ni ddylid defnyddio COVID fel esgus. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau cynlluniau ac amserlenni manwl gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phryd y bydd gwelliannau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl, ac yn bwysicach, fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r rheini.
Os ydych yn berchen ar gar, a'ch bod wedi bwriadu defnyddio bws ar ddiwrnod penodol, mae iddo gael ei ganslo neu ei oedi yn anghyfleus ar y mwyaf. Ond i'r rhai nad ydynt yn berchen ar gar, neu nad ydynt yn gallu gyrru oherwydd oedran neu gyflwr meddygol, ac sy'n dibynnu ar fysiau i gyrraedd y gwaith, i apwyntiadau meddygol, i fynd i siopa, i fynd â'u plant i'r ysgol neu i gymdeithasu, gall effeithio'n ddifrifol ar eu bywydau. Ac er bod problem benodol gyda gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig, credaf fod angen inni fod yn onest fod hon yn broblem eang a hefyd yn effeithio ar bobl sy'n byw yn ein trefi a'n dinasoedd. Os ydym o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â newid hinsawdd a chynorthwyo mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ni all hyn barhau.
I ddangos hyn, hoffwn ddefnyddio enghraifft o fy nghymuned fy hun ym Mhontypridd. Rwy'n byw yn ardal Graigwen, sydd 1 filltir o ganol y dref ond i fyny bryn serth iawn. Mae llawer o bobl oedrannus yn byw yn fy nghymuned, ac maent yn gwbl ddibynnol ar y bws i gyrraedd gwasanaethau sylfaenol. Cyn y pandemig, roeddem wedi bod yn galw am welliannau. Roedd y gwasanaeth bws bob awr yn annibynadwy, byddai'n gorffen am 5.30 p.m. bob dydd, nid oedd yn rhedeg ar ddydd Sul na gŵyl y banc ac nid oedd ychwaith yn cyrraedd pen y bryn i wasanaethu'r rhai sy'n byw ar y strydoedd ar ben uchaf yr ystâd. Roedd pobl yn cwyno wrthyf eu bod yn teimlo'n ynysig ac wedi eu cyfyngu i'w cartrefi, ac na allent ddibynnu ar y gwasanaeth bws. Roeddent hyd yn oed yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i dacsi i fynd â hwy i apwyntiadau meddygol pe bai'r apwyntiad yn gwrthdaro ag adeg cludo plant i neu o'r ysgol, ac roeddent yn bryderus pan fyddai'n rhaid iddynt fynd i rywle gan na allent fod yn sicr y byddai bws yn cyrraedd. Mae hyd yn oed y gysgodfan fysiau'n annigonol ac nid yw'n darparu cysgod rhag y glaw.
Fel y dywedais, dyma'r problemau roeddem yn eu hwynebu cyn y pandemig, ac nid ydynt yn unigryw i Graigwen. Mae problemau tebyg hefyd gyda'r gwasanaethau bysiau sy'n gwasanaethu cymunedau eraill ger y dref, megis Cilfynydd a Glyn-coch, sydd wedi gwaethygu'n raddol, gyda gwasanaethau'n cael eu canslo'n aml oherwydd prinder gyrwyr. Yn wir, ar 19 Mehefin, nid oedd gwasanaethau 109, 107 a 105 yn rhedeg o gwbl, heb unrhyw gyfathrebu â theithwyr. Rwyf wedi derbyn cwynion tebyg heddiw am bobl yn cael eu gadael yn yr orsaf fysiau ym Mhontypridd.
Cysylltodd un fam sy'n byw yng Nghilfynydd y bore yma, ar ôl clywed am y ddadl heddiw ar y newyddion, a rhannodd hyn gyda mi:
'Rwy'n dibynnu ar y gwasanaethau bws i gael fy merch i'r ysgol. Yn aml iawn, nid yw'r bysiau'n cyrraedd neu maent yn rhedeg yn hwyr. Arweiniodd hyn at wneud fy merch bron awr yn hwyr i'r ysgol.'
Rhannodd un arall, sydd hefyd yn byw yng Nghilfynydd, stori debyg, gan ddweud:
'Gan fy mod yn fam sengl sy'n gweithio, rwy'n dibynnu ar y bysiau i gyrraedd y gwaith i wneud shifft tra bod fy mhlant yn yr ysgol yn ogystal ag ar y penwythnos. Yn aml iawn, mae'r bws sydd wedi'i amseru i gyrraedd yr ysgol i'w casglu yn cael ei ganslo ac mae fy mhlant yn gorfod aros i mi gyrraedd. Mae hyn wedi golygu fy mod wedi gorfod caniatáu iddynt gerdded adref o'r ysgol yn gynt nag rwy'n gyfforddus i wneud gan nad yw'n bosibl cyrraedd yno mewn pryd oherwydd bod bysiau'n hwyr neu'n cael eu canslo mor aml.'
Rhannodd preswylydd o Lyn-coch ei dibyniaeth ar fws i gyrraedd y gwaith yn Nantgarw, a'i bod, o ganlyniad i fysiau hwyr neu wedi'u canslo wedi bod yn hwyr i'w gwaith ar sawl achlysur dros yr wythnosau diwethaf, gan arwain at lai o gyflog iddi hi a'i dau fab. Mae eraill yn sôn am apwyntiadau meddygol a gollwyd, gan gynnwys brechiadau COVID ac apwyntiadau ysbyty yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, er iddynt adael dwy neu dair awr i wneud yr hyn a ddylai fod yn daith 20 munud ar y mwyaf.
Mae edefyn cyffredin yn rhedeg drwy'r holl ohebiaeth a gefais ar fater bysiau lleol: mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio, yn ddi-nod ac nad oes neb yn gwrando arnynt. Maent yn bryderus ac yn ynysig. Gall y Llywodraeth newid hyn. Fe ddylai'r Llywodraeth newid hyn. Rhaid wrth weithredu, nid geiriau'n unig, ac mae angen gweithredu yn awr.
Rwy'n cynrychioli etholaeth wrthgyferbyniol lle ceir rhai o'r wardiau cyfoethocaf yng Nghymru ochr yn ochr â rhai o'r ardaloedd cynnyrch ehangach tlotaf o ran amddifadedd. Yn un o fy wardiau tlotaf, penderfynodd y ganolfan feddygol israddio'r feddygfa ym Mhen-twyn, gan ddadfuddsoddi o'r gymuned leol, ac felly mae cleifion sydd naill ai'n sâl eu hunain neu sydd â phlant sy'n sâl yn gorfod cerdded milltir neu ddwy i gyrraedd y meddyg—ac nid ydynt yn teimlo'n dda, neu nid yw eu plentyn yn teimlo'n dda. Mae rhai ohonynt mor dlawd fel nad oes ganddynt unrhyw gredyd ar eu ffonau hyd yn oed, felly yn bendant ni allant fforddio tacsi. Felly, mae diffyg bws yn anhygoel o anodd iddynt.
Fodd bynnag, nid bywydau rhai ar aelwydydd tlawd yn unig sy'n crebachu pan gaiff gwasanaethau bysiau eu tynnu'n ôl. Gallaf gofio dair blynedd yn ôl pan gollodd Cyncoed y gwasanaeth bws ar hyd ochr orllewinol llyn y Rhath y byddwch i gyd yn gyfarwydd ag ef—yr effaith ddinistriol ar bobl oedrannus ac anabl, nad ydynt yn gallu cerdded yn gyfforddus ar draws y parc er mwyn dal yr un bws sy'n rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol y llyn unwaith yr awr. Mae hyn yn golygu bod eu bywydau'n crebachu, oherwydd eu bod mor ofalus gyda'u harian, yn bennaf, fel na fyddant yn llogi tacsi er mwyn mynd i gwrdd â ffrind neu i ryw achlysur cymdeithasol arall, ac maent yn rhoi'r gorau i fynd allan. Gallant gael bwyd wedi'i ddanfon, ond os nad oes ganddynt berthnasau gerllaw sy'n mynd i'w cludo i lefydd, nid ydynt yn mynd i unman.
Felly, mae hon yn broblem enfawr, ac mae'r achos yn deillio o'r ffaith na allwn reoli'n union ble mae'r llwybrau sy'n gwasanaethu etholaeth drefol iawn. Hyd yn oed mewn etholaethau trefol, mae gennym broblemau enfawr pan fo pobl yn cael eu hynysu'n gymdeithasol o ganlyniad i brinder bysiau a diffyg rheolaeth dros ble mae angen i fysiau fynd. Nid oes diben cael tocyn bws mewn amgylchiadau o'r fath—tocyn rhyddid—os nad oes bysiau. Felly, rwy'n gobeithio, gyda'n gilydd, y gallwn symud ymlaen i sicrhau y gellir trefnu'r arian a wariwn ar fysiau, sy'n arian sylweddol, mewn ffordd well fel y gallwn sicrhau bod pawb yn cael mynediad teg at fws.
Mae'n bleser cefnogi'r cynnig hwn a gyflwynwyd gan fy nghyfaill yr Aelod dros Ogwr heddiw. Pan oeddwn yn paratoi ar gyfer y ddadl hon, deuthum o hyd i ffigur ar StatsCymru a'm syfrdanodd ac a danlinellai bwysigrwydd y ddadl heddiw, sef nifer teithiau teithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad fesul y pen o'r boblogaeth yn 2019-20. Ar gyfer Lloegr, roedd yn 72.3, yr Alban 67, ac i Gymru dim ond 28.2 oedd y ffigur, a hynny cyn i ni ystyried effaith COVID.
Yng nghyd-destun y pandemig, fodd bynnag, mae'n deg dechrau drwy gydnabod y gefnogaeth sylweddol a ddarparodd Llywodraeth Cymru—cymorth fel y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau sy'n werth miliynau o bunnoedd. Nid yw'n ormod dweud na fyddai'r diwydiant bysiau'n bodoli heb y gefnogaeth honno. Ond mae hynny, ynddo'i hun, yn codi cwestiynau, fel y mae ail ran y cynnig yn awgrymu—cwestiynau ynghylch cynaliadwyedd y model presennol, a yw gwasanaethau'n ateb y galw lleol, a sut rydym yn mapio ac yn pennu llwybrau yn ein cymunedau. Mae angen ailfeddwl yn radical beth rydym ei eisiau o ddarpariaeth bysiau a'r hyn y credwn sy'n ddarpariaeth bysiau dda.
Yn gyntaf, rhaid inni ddarparu gwasanaethau bysiau y mae ein cymunedau am eu cael, ac rwyf am ddangos hyn drwy enghraifft yn fy etholaeth. Mae'r daith o bentref Cwm-bach i archfarchnad leol yn llai nag 1 filltir. Mae llawer o bobl hŷn yn byw yn y pentref, mae cyfraddau perchnogaeth ceir yn isel, ac ers i'r archfarchnad gael ei hadeiladu dros 20 mlynedd yn ôl, mae gwasanaeth bws uniongyrchol wedi bodoli. Yn ddiweddar, fodd bynnag, penderfynodd y gweithredwr bysiau gael gwared ar y gwasanaeth, a bellach rhaid i bobl fynd ar ddau neu dri bws i gyrraedd yr archfarchnad, taith a all fod hyd at 5 milltir bob ffordd—taith 10 milltir ar gyfer siwrnai a ddylai fod yn llai na 2 filltir. Yn amlwg, gall fod yn her wirioneddol gyda bagiau siopa trwm. Sut y mae annog pobl i fynd ar fysiau os mai dyma'r math o wasanaeth sy'n cael ei ddarparu? Rwy'n cefnogi pwynt 6 y cynnig am sgwrs ystyrlon â chymunedau. Mae pobl leol angen, ac yn haeddu, cael llais uniongyrchol yn y broses o benderfynu ar ddarpariaeth sy'n diwallu eu hanghenion.
Yn ail, rhaid inni gynnig ffyrdd gwahanol o ymateb i'r anghenion hynny. Fel pob Aelod, caf ohebiaeth reolaidd gan etholwyr am y gwasanaethau y maent eu hangen neu eu heisiau, a chaf yr un ymatebion gan weithredwyr bysiau pan leisiaf y pryderon hyn yn eu tro. 'Nid yw'r llwybrau hynny'n hyfyw yn economaidd', dywedant, 'Nid oes digon o deithwyr i'w cyfiawnhau'. Credaf y gallai teithio ar alw fod yn fodd o dorri drwy'r impasse nad yw byth yn caniatáu inni archwilio a yw llwybrau gwasanaethau bysiau newydd yn hyfyw mewn gwirionedd ac y byddent yn cael eu defnyddio. Efallai na fydd yn ymarferol cael bysiau mawr, gwag yn rhuo o gwmpas, ond efallai mai cerbydau llai yn gweithredu mewn ffordd ddoethach yw'r ateb. Treialwyd cynllun Fflecsi yn y Senedd y tymor diwethaf, gan gynnwys mewn rhannau o RhCT, ac o dan y cynllun hwnnw, gallai pobl ofyn i fws ar alw eu codi o'u cartref, eu gwaith neu'r siopau. Byddwn yn awyddus iawn i weld llawer mwy o hyn. Rhaid iddo weithredu ochr yn ochr â gwaith darparwyr trafnidiaeth gymunedol i ategu'r gwaith a wnânt.
Yn drydydd, rhaid i lwybrau bysiau gysylltu â'i gilydd. Mae hon yn her benodol ar lwybrau hwy, er enghraifft o fy etholaeth i i Abertawe—cyrchfan siopa boblogaidd ac ardal gyflogaeth, ac eto ni cheir gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol. Yn lle gwasanaeth bws uniongyrchol, sawl blwyddyn yn ôl cafwyd dau wasanaeth sy'n cysylltu, Aberdâr i Lyn Nedd a Glyn Nedd i Abertawe. I ddechrau, roedd yn rhaid aros 15 munud rhwng bysiau, ond newidiodd hynny i awr gan fod gwahanol gwmnïau'n darparu cymalau gwahanol o'r daith ac nid oeddent yn barod i gyfaddawdu na gweithio gyda'i gilydd i gael gwasanaeth sy'n cydgysylltu. Nid yw'n realistig disgwyl i bobl aros cyhyd; sut y gallwn annog mwy o bobl ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda threfniadau mor anymarferol? Yn yr un modd, nid oes llwybr bws uniongyrchol i Gaerdydd o fy etholaeth i. Iawn, mae gennym drenau, ond hyd yn oed pan fydd y metro'n gweithredu ar gapasiti llawn, dim ond 25 y cant o draffig cymudo presennol y Cymoedd i Gaerdydd y bydd y rheilffyrdd yn ei gario. Felly, mae angen ymdrech fawr i ddarparu gwasanaethau bysiau os ydym am ddenu pobl allan o'u ceir, ac mae cwestiwn y metro yn allweddol i fy etholaeth i. Pan gafodd ei ystyried yn gyntaf, roedd cysyniad y metro yn ymwneud â mwy na gwasanaeth trên yn unig, roedd yn ymwneud hefyd â gwasanaeth bws gwennol cynhwysfawr yn cynnig gwasanaeth trafnidiaeth cwbl gydgysylltiedig. Mae hyn yn allweddol i gymunedau fel y rhai rwy'n eu cynrychioli lle gall pobl fyw gryn bellter o orsaf drenau, yn gymharol ynysig. Cefais fy nghalonogi gan drafodaethau diweddar ar y metro sy'n sôn am fysiau fel rhan fwy o'r cynllun yn ei gamau nesaf. Yn yr un modd, roedd sylwadau'r Dirprwy Weinidog yn ei ddatganiad ddoe ynghylch integreiddio gwasanaethau yn galonogol.
I gloi, hoffwn ddweud ychydig eiriau i ddangos fy ngwerthfawrogiad o'n gyrwyr bysiau. Yn ystod y pandemig, maent wedi bod yn weithwyr hanfodol sydd wedi cadw'r gwasanaethau'n weithredol. Mae sicrhau'r safonau cyflogaeth uchaf a bod staff yn cael llais yn nyfodol eu diwydiant yn allweddol i unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol. Diolch.
Rwy'n croesawu'r ddadl yma a'r drafodaeth yma'n fawr iawn, a diolch i bawb sydd wedi dod ag o ger ein bron. Dwi'n awyddus i weld y Gweinidog a'r Llywodraeth yma'n edrych yn benodol ar wasanaethau bysus yn ein cymunedau gwledig ni, ac eisiau ategu ychydig o'r hyn roedd Alun Davies yn ei ddweud ynghynt, oherwydd mae'n ymddangos bod disconnect rhwng yr hyn mae'r Llywodraethau yn ei ddweud a'r hyn maen nhw'n ei gyflawni ar lawr gwlad. Os ystyriwch chi dros y degawdau diwethaf, rydyn ni wedi gweld model dinesig yn cael ei orfodi ar gymunedau Cymru, efo gwasanaethau yn cael eu ymbellhau o'n cymunedau gwledig ni. Os ystyriwch chi faint o ysbytai cymunedol sydd wedi cau, ac os ydy rhywun angen prawf gwaed neu ffisiotherapi neu rywbeth, maen nhw'n gorfod teithio ymhellach. Faint o gartrefi gofal sydd ymhell o'n cymunedau gwledig? Os ydy rhywun eisiau mynd i weld anwyliaid iddyn nhw, y pellter yna. Meddyliwch am y swyddfeydd post sydd wedi cau, y banciau sydd yn dal i gael eu cau, y canolfannau gwaith sydd wedi mynd, y llysoedd sydd wedi cael eu colli o'n cymunedau, ac yn gorfodi pobl i deithio ymhellach ac ymhellach. Ond eto, wrth gwrs, oherwydd natur ein cymunedau gwledig a bod yna gyn lleied o bobl yn byw ynddyn nhw, y routes yma sy'n cael eu torri gyntaf ydy'r rhai gwledig, oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu gweld yn rhai proffidiol, ac rydyn ni wedi gweld mwy o hynny yn digwydd oherwydd yr austerity, y cyni yma sydd wedi cael ei orfodi arnom ni gan y ddwy Lywodraeth.
Felly, mae gwasanaethau wedi mynd ymhellach i ffwrdd tra, ar yr un pryd, rydyn ni'n gweld y pres i wasanaethau bysus yn mynd yn llai, a mi wnaf i roi enghraifft: mae yna etholwr i mi o Aberdaron wedi cysylltu â fi wythnos yma—Aberdaron ym mhen draw Llŷn—yn gorfod mynd i dderbyn addysg bellach yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn Nolgellau, sy'n bellter i ffwrdd, ac yn gorfod teithio oriau ar drafnidiaeth gyhoeddus. Neu etholwr arall sydd wedi cysylltu â fi, yn Harlech, ac yn gorfod mynd i'r ysbyty ym Mangor. Rŵan, 35 milltir sydd rhwng Harlech a Bangor, ond er mwyn mynd yno ar drafnidiaeth gyhoeddus, rhywbeth buasai'n cymryd bron i awr mewn car, mae'n cymryd tair awr a hanner, a bron i bedair awr ar fysiau. Felly, mae'n rhaid i ni weld atebion a gweld cymunedau gwledig yn cael eu hystyried yn hyn o beth, a dyna fuasai fy mhle i wrth i'r Gweinidog ystyried ei ateb i'r ddadl yma. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, bawb, am y ddadl honno.
Cefais fy nghalonogi'n fawr gan faint o gonsensws a geir, ynghylch pwysigrwydd bysiau ac ynghylch rhai o'r mesurau y mae angen inni eu rhoi ar waith gyda'n gilydd i wella'r sefyllfa. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies ar y dechrau, mae angen inni adfer diben cyhoeddus trafnidiaeth gyhoeddus, ac roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n sylw pwerus a craff iawn. A nododd Heledd Fychan yn rymus iawn sut y mae rhai pobl yn cael cam ar hyn o bryd gan wasanaeth nad yw bob amser yn gweithio ac yn sicr nid yw bob amser yn hawdd. Fel y dywedais yn glir ddoe, er mwyn mynd i'r afael â mater hollbwysig newid hinsawdd mae angen inni sicrhau mai'r peth iawn i'w wneud yw'r peth hawsaf i'w wneud, ac ar hyn o bryd nid yw'n hawdd. Mae'n llawer haws os oes gennych gar, a chofiwch nad oes gan oddeutu 20 y cant o aelwydydd gar, ond os oes gennych gar dyna'r ffordd symlaf o deithio. Os ydym i gyd yn ddiffuant yn ein hamcanion i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, rhaid inni newid hynny, felly y ffordd amlwg, hawdd o deithio ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau bob dydd yw trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym ymhell o gyrraedd hynny, a chredaf fod angen inni i gyd fod yn onest ynglŷn â hynny. Mae llawer o resymau cymhleth pam ein bod ymhell o hynny, ac maent wedi cael eu gwyntyllu gan lawer o bobl yn y ddadl hon.
Mae gennym system sy'n gymhleth iawn. Roedd y preifateiddio ar ddechrau'r 80au yn drychineb, ac mae wedi gwneud pethau'n anodd iawn eu cydlynu. Mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain yn gweithio am ei bod yn cael ei rheoleiddio. Y tu allan i Lundain anaml y mae'n gweithio, oherwydd nid yw'n cael ei rheoleiddio. Nid yw mor gymhleth â hynny. Roeddem wedi gobeithio cyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd ddiwethaf i gyflwyno masnachfreinio i Gymru. Nid oedd modd inni wneud hynny, ond rydym yn benderfynol o'i wneud yn y Senedd hon, a byddwn yn cyhoeddi cynllun yn ddiweddarach eleni ar sut y bwriadwn wneud hynny. Rwyf am inni weithio gyda'n gilydd, o gofio'r uchelgais a rennir yn y Siambr hon, i'w wneud yn gynllun mor uchelgeisiol ag y gallwn, nid i wneud y lleiafswm y mae angen inni ei wneud, ond i weld a allwn ymestyn i sicrhau system drafnidiaeth gyhoeddus ddi-dor o un pen i'r llall sy'n gweithio i'r rhan fwyaf o bobl.
Hoffwn adleisio'r sylwadau yn y Siambr ynglŷn â sut roedd trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau bysiau yn arwyr tawel y pandemig, a theyrnged Vikki Howells yn arbennig i'r gyrwyr bysiau a alluogodd weithwyr allweddol, staff y GIG a phlant i ddychwelyd i'r ysgol—ni allem fod wedi'i wneud hebddynt. Rwy'n credu ei bod hefyd yn iawn inni gydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn camu i mewn i achub diwydiant, fel y dywedodd Hefin David fod Nigel Winter o Stagecoach wedi'i nodi. Rwy'n talu teyrnged i fy nghyd-Aelod Ken Skates, a welaf ar y sgrin, sydd wedi gweithio'n agos gyda'r diwydiant bysiau gyda mi drwy'r pandemig i sicrhau bod y pecyn o fesurau yno i atal yr ecosystem hanfodol hon rhag diflannu o flaen ein llygaid.
Rydym wedi rhoi arian sylweddol i mewn, a thrwy roi'r arian hwnnw i mewn rydym wedi gwella cysylltiadau, rydym wedi gwella'r trefniadau sylfaenol, ac rydym bellach mewn sefyllfa lawer cryfach na phan aethom i mewn, ac mae gennym gysylltiadau a chontractau ar waith gyda gweithredwyr masnachol, sy'n ein rhoi mewn sefyllfa well o lawer yn fy marn i i wireddu'r uchelgais y byddwn yn ei nodi yn ddiweddarach eleni yn ein strategaeth fysiau.
Fel y dywedwyd, bysiau yn aml yw'r darn o'r system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei esgeuluso. Hwy sy'n cario'r nifer fwyaf o deithwyr o bell ffordd, ond nid hwy fu'r flaenoriaeth i bawb. Gwnaed llawer o sylwadau yma, 'Wel, Llywodraeth Cymru sydd ar fai am hyn'—byddwn yn eich annog i edrych ar draws y DU a gweld a yw'r gwasanaeth bysiau'n well, a byddwn yn eich annog i edrych ar eich maniffestos eich hun dros lawer o etholiadau i weld a oeddech yn galw am fwy o weithredu ar fysiau, a'r gwir yw nad oeddech. Credaf fod pob un ohonom wedi esgeuluso bysiau, gan fod costau i'r system drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae angen i hynny newid.
Fel y nodwyd, mae'n ffaith bod hon yn ddadl cyfiawnder cymdeithasol. Nid oes gan 80 y cant o deithwyr bysiau ddewis arall, ond yn yr un ffordd, nid yw 50 y cant o bobl byth yn teithio ar fws. Felly mae ymraniad cymdeithasol go iawn yma rhwng y ddelwedd o fysiau fel pethau nad ydynt ar gyfer pobl fel ni, ac mae angen inni wrthsefyll y ffordd y gwelir bysiau fel pethau ar gyfer eraill. Rhaid i fysiau fod i bawb. Rhaid iddynt fod yn ddeniadol i bawb a rhaid iddynt weithio i bawb, a hyd nes y byddwn yn gwneud hynny, ni fyddwn yn trawsnewid y ffordd y mae bysiau'n gweithio yn y ffordd rydym i gyd am ei gweld ac y mae angen inni ei gweld os ydym am fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae hynny'n mynd i alw am fuddsoddiad, ond mae hefyd yn mynd i alw am ddewisiadau gwleidyddol anodd yma ac mewn llywodraeth leol. Mae'n mynd i alw ar awdurdodau lleol i fod yn barod i ailddyrannu gofod ffordd i ffwrdd oddi wrth geir tuag at gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus a rennir, ac roeddwn yn falch iawn o glywed Natasha Asghar yn gwneud y pwynt hwnnw yn ei datganiad agoriadol. A gobeithio y bydd hi a'i chyd-Aelodau'n mynd ar berwyl hynny oherwydd nid yw'n mynd i fod yn hawdd, gan y bydd y bobl a fydd yn teimlo'r anghyfleustra neu sy'n teimlo wedi'u datgysylltu gan hynny yn griddfan mewn poen. Ond dyna sydd angen i ni ei wneud, oherwydd yr hyn y mae gweithredwyr bysiau wedi'i ddweud dro ar ôl tro wrth yr ymchwiliadau niferus a ddisgrifiwyd gan Hefin David yw mai un o'r prif rwystrau y mae gweithredwyr bysiau yn eu hwynebu i ddenu mwy o ddefnydd yw dibynadwyedd ac amser teithio. Mae hynny'n ymwneud â gwneud bysiau'n ffordd gyflymaf, yn ffordd hawsaf o deithio. Golyga roi'r flaenoriaeth i fysiau yn hytrach na cheir wrth gynllunio ffyrdd ac o ran blaenoriaethau goleuadau traffig. Dyna beth sydd angen inni ei wneud. Y cwestiwn i bob un ohonom: a ydym yn ddigon dewr i'w wneud? Rwy'n ddigon dewr ac rwy'n gobeithio y byddwch chi gyda mi pan ddaw'r adeg i wneud hynny.
I ymateb i rai o'r sylwadau yn y cyfraniadau rhagorol niferus, roeddwn yn falch o weld cynifer o Aelodau'n tynnu sylw at y rôl y mae gwasanaeth bws Fflecsi ar alw wedi'i chwarae, ac yn ei chwarae yn Nyffryn Conwy fel y soniodd Janet Finch-Saunders; soniodd Carolyn Thomas yn yr un modd am ei botensial, fel y gwnaeth Vikki Howells, fel ffordd o ddod â theithwyr newydd ar fysiau ac archwilio lle gall y llwybrau fod yn fwy hyfyw gan ddefnyddio'r system ar alw newydd hon. Ac yn sicr, dyna'r profiad yng Nghasnewydd lle cafodd hyn ei dreialu; mae'n dangos bod galw cudd yno. Bydd pobl yn defnyddio bysiau pan fydd yn wasanaeth mwy hyblyg. Felly, mae'n galonogol iawn.
Tynnodd Alun Davies sylw at drafferthion cychwynnol yng Nglynebwy, lle bu rhai anawsterau. A byddwn yn dweud wrtho—rwy'n deall ei rwystredigaeth—mae'n brosiect peilot, ac mae prosiectau peilot yno i brofi dulliau gweithredu, ac nid yw pethau bob amser yn digwydd fel y bwriadwyd. A bu anawsterau gyda meddalwedd a chyda hyfforddi staff. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, rydym bellach wedi mynd heibio i hynny; byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud wrthyf a oes problemau parhaus, ond dyna'r wybodaeth ddiwethaf a gefais. Ac rydym yn dysgu, ac wrth inni ddysgu, byddwn yn tyfu, a chredaf mai dyna'r dull cywir o weithredu, ac mae'n well ein bod yn methu'n gyflym ac yn methu ar lefel fach na methu mewn un bang mawr os byddwn yn rhuthro hyn. Felly, dyna yw ein bwriad a'n huchelgais: cyflwyno hyn yn hyderus.
Tynnodd sylw at ambell feirniadaeth ddilys o'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn aml yn cael eu cynllunio heb ystyried sut y bydd pobl yn eu cyrraedd, heblaw mewn car. Ac mae wedi sôn am Ysbyty Athrofaol y Faenor, enghraifft gyfarwydd iawn, a dyfynnais yr esiampl honno i brif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr wythnos diwethaf, am eu bod yn cynllunio ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru, i sicrhau nad yw'r camgymeriadau hynny'n cael eu hailadrodd. Ac un o'r pwyntiau o roi'r adran hon gyda thrafnidiaeth wrth ymyl cynllunio, wrth ymyl adfywio, wrth ymyl newid hinsawdd ac eraill, yw sicrhau bod cydweithio'n digwydd, a gallwn fynnu bod y pethau hynny'n cael eu hystyried yn drwyadl.
Yn ddiweddarach eleni—roeddem wedi gobeithio ei wneud cyn y pandemig, mewn ymateb i sylwadau gan Alun Davies; mae wedi'i ohirio—ond rydym yn gobeithio erbyn diwedd y flwyddyn y bydd gennym wasanaeth bws TrawsCymru newydd ar draws y Cymoedd a fydd yn cysylltu'r Faenor â llwybr dwyrain-gorllewin, gan gysylltu Cwmbrân, Pont-y-pŵl, Trecelyn, Ystrad Mynach a Phontypridd â fflyd o fysiau allyriadau isel, ac rydym yn gweithio ar fanylion hynny yn awr. Ac rwy'n hapus i siarad ymhellach ag Alun Davies i weld a allwn wella hynny a'i gysylltu â'r gwasanaethau Fflecsi. Fe'i clywaf o'i sedd yn gwneud sylwadau adeiladol eraill yr hoffem eu cadw mewn cof wrth inni gynllunio'r gwasanaeth, oherwydd mae'n rhaid iddo weithio ar gyfer y bobl rydym i gyd yma i'w gwasanaethu. Mae'r pethau hyn yn anodd eu gwau gyda'i gilydd oherwydd, fel y nodwyd, nid oes gennym yr offer ac nid oes gennym yr holl adnoddau y byddem am eu cael oherwydd, fel y nodwyd gennym ddoe, mae arian yn cael ei wario mewn mannau eraill ac mae angen i ni ei ailddyrannu.
Gofynnodd Hefin David yn briodol am rôl newydd Trafnidiaeth Cymru, y cydbwyllgorau corfforaethol a'r awdurdodau lleol wrth gynllunio'r gwasanaeth newydd. Mae llawer o waith wedi bod yn mynd rhagddo mewn deialog â phob un o'r rheini y byddwn yn ei nodi yn ein cynllun yn yr hydref. Ond yn gryno, gobeithiwn mai Trafnidiaeth Cymru fydd y ganolfan ragoriaeth lle mae awdurdodau lleol wedi colli pobl ac arbenigedd yn sgil cyni. Gobeithiwn mai Trafnidiaeth Cymru fydd y meddwl arweiniol i helpu awdurdodau lleol, sef y rhai atebol, a gallant hwythau gydweithio ar lefel ranbarthol i sicrhau eu bod yn dod â'u màs critigol—[Anghlywadwy.] Mae yna lawer y gallwn ei wneud, ac mae'n iawn fod y Senedd yn ein gwthio i fynd ymhellach ac yn gyflymach. Diolch yn fawr.
Nid oes unrhyw Aelod ychwanegol wedi dweud ei fod yn dymuno siarad. Galwaf ar Huw Irranca-Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dywedais y byddwn yn ei gadw o dan funud, ac fe wnaf hynny yn wir. Hoffwn ddiolch i'r—. Rwy'n credu ein bod wedi cael 10 cyfrannwr i'r ddadl hon, ac rwyf fi, fel y Gweinidog, wedi fy nghalonogi gan y consensws ar yr angen am fuddsoddiad ychwanegol a mwy o gynllunio, at ei gilydd, gan bobl, ynglŷn â rhoi'r rheolaeth yn ôl i bobl leol ac awdurdodau lleol fel bod ganddynt lais wrth benderfynu ble mae'r llwybrau hyn yn rhedeg a'r adegau o'r dydd y byddant yn rhedeg hefyd. Mwy o gydweithio, llai o gystadleuaeth—. Rwy'n credu bod cystadleuaeth wastraffus yn thema. Efallai fod gennym ffyrdd gwahanol o fwrw ymlaen â hynny, ond credaf y bydd honno'n thema hefyd.
Weinidog, fe ofynnoch y cwestiwn yn eich sylwadau cloi—. Ni allaf droi at gyfraniad pawb o fewn munud, mae arnaf ofn. Ond fe ofynnoch y cwestiwn, 'A ydym yn ddigon dewr?' Rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ddigon dewr. Er mwyn symud buddsoddiad i mewn i ddulliau gwahanol o deithio, rhaid inni fod yn barod i ddweud yn onest sut y caiff hynny ei wneud. Os ydym yn mynd i siarad am adfer rheolaeth, rhaid inni fod yn onest gyda phobl ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny.
Ond hoffwn ddweud wrth gloi ei fod yn ymwneud â phartneriaeth. Rydym wedi dysgu cymaint ynglŷn â sut i wneud hyn yn dda yn ystod y pandemig. Wrth adeiladu'n ôl yn decach—a mater cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder hinsawdd yw hwn—gwnawn hynny gyda'n gilydd a chyda chefnogaeth y bobl yn y Siambr hon. Rwy'n credu bod gennych gefnogaeth y Siambr i wneud hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny yn brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.