– Senedd Cymru am 4:52 pm ar 20 Hydref 2021.
Symud ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil perchnogaeth cyflogai. Galwaf ar Huw Irranca-Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7722 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Joyce Watson, Luke Fletcher, Sarah Murphy, Vikki Howells
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil perchnogaeth gan weithwyr ar hyrwyddo pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) deddfu ar gyfer cyfraith Marcora i Gymru i ddarparu'r fframwaith cyfreithiol, y cymorth ariannol a'r cyngor ar gyfer pryniant gan weithwyr;
b) rhoi dyletswydd statudol ar waith i ddyblu maint yr economi gydweithredol erbyn 2026 ac i fynd ati i hyrwyddo perchnogaeth a phryniant gan weithwyr;
c) rhoi cymorth a chyngor ariannol i weithwyr brynu busnes cyfan neu ran o fusnes sy'n wynebu cael ei gau i lawr neu ei leihau mewn maint ac i sefydlu cwmni cydweithredol i weithwyr;
d) sicrhau bod pob cwmni yng Nghymru sy'n cael arian cyhoeddus neu sy'n rhan o'r bartneriaeth gymdeithasol a chadwyni caffael moesegol yn cytuno i egwyddorion pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a heddiw, byddwn yn archwilio nid yn unig beth arall y gellir ei wneud i hyrwyddo perchnogaeth gan weithwyr yng Nghymru, ond a allwn gyflwyno cyfraith Marcora ymarferol i Gymru yn wir. A diolch i'r Pwyllgor Busnes am ddewis y cynnig hwn i'w drafod ac i Aelodau eraill y Senedd am gefnogi'r cais. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau heddiw ac ymateb y Gweinidog.
Nawr, rwy'n datgan buddiant fel aelod o'r Blaid Gydweithredol a chadeirydd grŵp Plaid Gydweithredol y Senedd hefyd. Fodd bynnag, gwn fod cefnogaeth i'r cynnig hwn yn y pleidiau eraill hefyd ac yn y mudiad cydweithredol ehangach, ac edrychaf ymlaen at glywed hynny heddiw.
Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, yn yr adran o'r enw 'adeiladu economi gryfach a gwyrddach', yn nodi, yn galonogol:
'Byddwn yn creu economi sy’n gweithio i bawb, wedi’i gwreiddio yn ein gwerthoedd o newid cynyddol—gan symud ymlaen gyda’n gilydd yn ysbryd cydweithredu, nid cystadleuaeth.'
Nawr, rwy'n croesawu hynny. Mae'n adlewyrchu'r ymgysylltu a wnaeth y Llywodraeth hon wrth ddatblygu ei maniffesto gyda'r agenda gydweithredol. A chan fod cydweithredu wedi'i ymgorffori yn rhaglen y Llywodraeth, sydd hefyd yn cynnwys Gweinidog â chyfrifoldeb am gydweithredu, llawer o aelodau'r Blaid Gydweithredol yn Weinidogion, a'r nifer uchaf erioed o Aelodau'r Blaid Gydweithredol ar y meinciau hyn hefyd, mae'r rhaglen lywodraethu ar gyfer y chweched Senedd hon yn ailadrodd addewid o'r maniffesto air am air, gan addo
'Darparu mwy o gymorth i bryniant gan weithwyr' a
'cheisio dyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr.'
Dyna uchelgais go iawn. Mae croeso mawr iddo. Mae'n glir. Mae'n eglur. Mae ar bapur mewn du a gwyn i bawb ei weld. Ond ni ellir cynnwys pob cynnig yn y maniffesto. Rydym yn sylweddoli hynny. Wedi'r cyfan, nid yw maniffesto mor wahanol â hynny i raglen lywodraethu—mae'n grynodeb o fisoedd os nad blynyddoedd o waith datblygu polisi manwl. Mae'n ei grynhoi'n hanfodion hawdd eu deall yr hyn y bydd Llywodraeth yn ei wneud. Ni all gynnwys pob manylyn ynghylch pob dadl ar bolisi mewn neuadd wyntog yng Nghwm-twrch uchaf neu bob cyfarfod taflu syniadau ar Zoom sy'n llawn o gynghorwyr arbennig, grwpiau diddordeb arbennig, arbenigwyr polisi a phobl sy'n meddwl heb orwelion. Ond tynnaf sylw’r Gweinidog at un awgrym bach, un bach iawn, na chyrhaeddodd addewidion main, bachog y maniffesto, sef cyflwyno cyfraith Marcora i Gymru, i ddeddfu ar berchnogaeth gan weithwyr. Mae aelodau eraill o'r Blaid Gydweithredol fel Christina Rees AS wedi ceisio hyrwyddo hyn yn Senedd y DU, ond yn aflwyddiannus. Ond a allem wneud rhywbeth fel hyn yma yng Nghymru?
Pan fo swyddi a'r economi leol yn dibynnu ar un neu ddau o gyflogwyr mwy o faint, yn enwedig yn y sectorau gweithgynhyrchu a diwydiannol, gall cau neu leihau maint un neu ddau o gwmnïau gael effaith anghymesur enfawr. Gall diweithdra ar y raddfa hon effeithio'n andwyol ar yr unigolion hyn, yn ogystal â'u cymunedau lleol, am ddegawdau. Mae'r cam cyntaf i atal pobl rhag dod yn ddi-waith yn y lle cyntaf yn hollbwysig. Pan fydd busnesau'n cau neu'n lleihau o ran maint yn yr Eidal, man geni cyfraith Marcora—mae'n wych fod hyn yn dod gan Eidalwr o Gymro yma—mae gweithwyr yn cael hawl, a chymorth ariannol i'w chefnogi, i brynu'r busnes yn gyfan gwbl, neu ran ohono, a'i sefydlu fel cwmni cydweithredol sy'n eiddo i'r gweithwyr. Mae hyn yn achub rhannau proffidiol y busnes, neu fusnesau cwbl broffidiol hyd yn oed lle mae maint yr elw wedi bod yn rhy fach i fodloni disgwyliadau buddsoddwyr allanol.
Sefydlwyd cyfraith Marcora yr Eidal dros 30 mlynedd yn ôl i ddargyfeirio'r arian a fyddai fel arall yn cael ei wario ar fudd-daliadau diweithdra i gadw'r swyddi a chynnal y gweithgarwch economaidd. Ac mae'n gwneud hyn drwy ddarparu eu budd-daliadau diweithdra fel cyfandaliad ymlaen llaw i weithwyr sydd mewn perygl o gael eu diswyddo pan fydd busnes, neu ran o fusnes, ar fin cau, i'w ddefnyddio fel cyfalaf i brynu'r busnes—gwyddom fod hyn wedi digwydd yng Nghymru mewn cyd-destun gwahanol, mewn ffordd wahanol—yn ogystal â mynediad at gymorth ac arweiniad i'w wneud yn llwyddiant. Nawr, mae hyn yn cadw pobl mewn swyddi ac yn sicrhau bod busnesau'n aros ar agor ac yn gynhyrchiol, ond mae hefyd yn golygu y gall yr economi newid dros amser i fod yn economi decach, yn strwythur mwy democrataidd, lle mae llais gan y gweithwyr eu hunain, a budd yn eu gweithleoedd.
Nawr, gwn y bydd y Gweinidog yn dweud bod hyn yn anodd am fod pwerau cyfraith cyflogaeth a masnach wedi'u cadw'n ôl gan San Steffan; rwy'n deall hynny. Ond mae gennym bwerau dros ddatblygu economaidd, y bartneriaeth gymdeithasol, y contract economaidd, caffael, dylanwad dros gwmnïau sy'n derbyn cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru a mwy. Mae gennym ysgogiadau a allai arwain at gyfraith Marcora i Gymru o fewn ein cymwyseddau datganoledig. A bydd y Gweinidog yn tynnu sylw heddiw, yn gwbl briodol mae'n rhaid imi ddweud, at y ffordd y mae'r Llywodraeth gydweithredol hon yng Nghymru eisoes yn gweithredu ei chymorth a'i chyllid ar gyfer yr economi gydweithredol, gan weithio ochr yn ochr â Chanolfan Cydweithredol Cymru a Banc Datblygu Cymru ac eraill, ac rydym yn croesawu hynny. Ond rydym yn dadlau y byddai cyfraith Marcora i Gymru yn helpu'r Llywodraeth hon gyda'r nod uchelgeisiol o ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru. Ac os na all ddweud 'ie' terfynol wrth y cynnig hwn heddiw, gweithiwch gyda ni i archwilio hyn ymhellach. Dewch i gyfarfod â mi a Chanolfan Cydweithredol Cymru ac eraill i'n gweld a allwn archwilio hyn, a llunio'r cynnig hwn, oherwydd rwy'n dweud, 'Lle ceir ewyllys, ewyllys wleidyddol, gellir cael cyfraith Marcora i Gymru.' A chyda'r sylwadau agoriadol hynny, edrychaf ymlaen at glywed gan yr Aelodau eraill.
Mae'n bleser siarad o blaid cynnig deddfwriaethol yr Aelod dros Ogwr heddiw. Mae'n hyrwyddwr angerddol dros egwyddorion cydweithredol. Hoffwn nodi ar goedd fy mod yn aelod o'r Blaid Gydweithredol, yn ogystal â fy rôl fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol.
Yn fy nghyfraniad heddiw, hoffwn sôn yn gryno am un digwyddiad enwog iawn yn fy etholaeth a ddaeth yn hysbyseb ar gyfer perchnogaeth gan weithwyr. Ac mewn sawl ffordd, mae'r enghraifft rwyf am sôn amdani'n neilltuol, ond mewn llawer o ffyrdd eraill, mae'n nodweddiadol o'r posibiliadau trawsnewidiol y byddai mabwysiadu cyfraith Marcora wedi'i llunio yng Nghymru yn eu darparu. A'r enghraifft honno yw pwll glo'r Tower. Penderfynodd Glo Prydain gau’r pwll glo dwfn olaf hwn yn ne Cymru ym 1994, gan nodi’r rheswm amheus fod y pwll glo yn aneconomaidd. Arweiniodd hyn at wrthwynebiad cryf, stori a adroddwyd mewn mannau eraill, yn fwyaf nodedig, efallai, ar ffurf ei hopera ei hun, ond hefyd yng nghofnod Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd, o'r frwydr, gan gynnwys ei phrotest enwog o dan y ddaear. Ond roedd Glo Prydain yn benderfynol o gau pwll glo'r Tower, gan ddiswyddo pobl yn ddidostur, a gwaedu arian o'r economi leol. Fodd bynnag, o fewn 10 diwrnod ar ôl i'r pwll glo gau yn gynnar ym 1995, roedd gweithwyr pwll glo'r Tower wedi rhoi cynllun beiddgar a gwych ar waith. Gyda'i gilydd, aeth 239 o lowyr, dan arweiniad Undeb Cenedlaethol y Glowyr ac ysgrifennydd y gangen, Tyrone O'Sullivan, ati i ffurfio TEBO—Tower Employee Buy Out. Cyfrannodd pob un ohonynt £8,000 o’u tâl diswyddo eu hunain, gan eu galluogi i brynu'r pwll glo fel gweithwyr—
Ymddengys ein bod wedi colli Vikki Howells ar hyn o bryd. Fe edrychaf rhag ofn mai nam bach syml ydyw. Nid yw'n edrych fel nam bach syml. Fe ddown yn ôl i adael i Vikki orffen ei chyfraniad. Yn y cyfamser, Luke Fletcher.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod; roedd yn un roeddwn yn fwy na pharod i'w gefnogi. Fel Huw a Vikki, a gefnogodd y cynnig hwn hefyd, rwy'n Aelod balch o'r grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol. Mae'n deg dweud bod cwmnïau cydweithredol a phartneriaethau cymdeithasol yn cael eu derbyn yn eang fel y ffordd orau o sicrhau bod gweithwyr yn cael llais cryfach yn y gweithle, a'u bod yn cynnig y llwybr gorau i ffordd fwy cynaliadwy o wneud busnesau. Dros yr wythnosau diwethaf soniais sut y gallwn ddisgwyl cyrraedd unman wrth ymladd tlodi a'r argyfwng hinsawdd oni bai ein bod yn newid y ffordd y gweithredwn ein heconomi, oni bai ein bod yn barod i newid y ffordd rydym yn gwneud busnes.
Mae cwmnïau cydweithredol a phartneriaethau cymdeithasol yn ein galluogi i dyfu economi Cymru mewn ffordd gynaliadwy. Rydym wedi gweld amseroedd di-rif pan oeddem angen mwy o gefnogaeth ar gyfer pryniant gan weithwyr. Maent yn senarios cyfarwydd i bob un ohonom: perchennog busnes, er enghraifft, sydd wedi adeiladu'r busnes o'r gwraidd ac sy'n awyddus i werthu, a dyna yw eu hawl wrth gwrs, neu fusnes a allai fynd i'r wal. Gall y naill opsiwn neu'r llall arwain at fusnes da yn diflannu o Gymru, a byddai'r swyddi a grëwyd ganddynt yn diflannu hefyd. Fel y nododd Huw yn gywir, gall pryniant gan weithwyr roi ateb i ni sy'n cadw'r swyddi hyn yng Nghymru ac sicrhau bod busnes yn dal i dyfu.
A wnaiff yr Aelod gymryd ymyrraeth?
Wrth gwrs, ie.
Mae gan Ddwyfor Meirionnydd hanes balch iawn mewn cwmni o'r fath efo hanes Antur Aelhaearn, wrth gwrs, ond ydych chi'n cytuno efo fi fod cwmnïau cydweithredol yn rhoi lles y gweithwyr a'r gymuned maen nhw'n eu gwasanaethu yn flaenaf, ac yn sicrhau bod mwy o bres cwmnïau cydweithredol yn aros yn yr economi lleol, ac felly ei fod o'n sefyll i reswm y dylid cefnogi a hyrwyddo cwmnïau cydweithredol o'r fath?
Wrth gwrs; cytuno'n llwyr. Mae yna bwynt pwysig yn fanna o ran yr arian yn aros yn y gymuned leol.
Ac os caf roi eiliad hefyd i ddweud bod yr Eidalwyr ar y blaen yn hyn o beth, fel y nododd Huw, gyda chyfraith Marcora. Evviva Italia. Rhwng 2007 a 2013, helpodd y gyfraith i esblygu busnesau i fod yn gwmnïau cydweithredol i weithwyr ac achub dros 13,000 o swyddi. Dychmygwch faint o swyddi y gallem fod wedi'u hachub dros y blynyddoedd pe bai gennym ddarpariaeth debyg ar gael ar gyfer pryniant gan weithwyr yma yng Nghymru. A dychmygwch y sicrwydd y gallem fod wedi'i roi i weithwyr a fyddai wedi gwybod y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu eu cefnogi i brynu'r busnes roeddent yn gweithio iddo pe bai'r busnes hwnnw a'u bywoliaeth dan fygythiad.
Ond nid yr Eidal yw'r unig enghraifft o ble mae cwmnïau cydweithredol i weithwyr wedi creu ffyniant economaidd. Edrychwch ar Wlad y Basg, a oedd yn y sefyllfa rydym ni ynddi heddiw. Roedd gan Wlad y Basg hanes hir o fod yn ganolfan ddiwydiant, yn enwedig cynhyrchu dur, ond roedd y rhan fwyaf o weithwyr yn cael eu talu'n wael ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Oherwydd cyfyngiadau amser, Ddirprwy Lywydd, nid wyf am fanylu ar hanes hir y mudiad cydweithredol yno, ond mae pawb ohonom yn gwybod beth oedd y canlyniad terfynol drwy Mondragon. Roedd yn ddiddorol clywed gan gynrychiolwyr cwmnïau cydweithredol dur Gwlad y Basg mai eu hunig gŵyn oedd eu bod yn gresynu nad oeddent wedi'i wneud yn gynt.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn falch o glywed ymrwymiad ddoe yn natganiad Gweinidog yr Economi i gryfhau ac ehangu'r sector cydweithredol yng Nghymru. Ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn troi geiriau'n weithredoedd; rhaid inni wneud mwy na siarad bellach. A dyna un o'r rhesymau pam roeddwn mor barod i gefnogi'r cynnig hwn. Mae galwadau gwirioneddol a chyraeddadwy wedi'u nodi yn y cynnig hwn a allai helpu'r sector i ffynnu yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn pasio'r cynnig hwn, a gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'w gynnwys. Diolch.
Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am ddod â'r cynnig deddfwriaethol hwn i'r Siambr heddiw. Fel cyd-Aelod o Blaid Gydweithredol Cymru, mae'r Bil hwn yn ganolog i'n gwerthoedd craidd i rannu grym a chyfoeth. Mae perchnogaeth gan weithwyr yn caniatáu i weithwyr fod â rhan yn y gwaith o drefnu'r busnesau a chyfran o'r elw, gan hyrwyddo gweithlu ymatebol, arloesol a brwdfrydig. Mewn cyfnod economaidd anos, gall perchnogaeth gan weithwyr achub swyddi, eu gwreiddio yn y cymunedau a'u gwneud yn fwy gwydn yn hirdymor.
Roedd ymyriadau Llywodraeth Cymru megis cronfa cadernid economaidd Cymru yn hanfodol i barhad economi Cymru dros y pandemig. Wrth inni symud Cymru ymlaen, rhaid inni fanteisio ar y cyfleoedd hyn i weithio tuag at adeiladu economi sy'n creu swyddi diogel a gwerth chweil, swyddi sydd o fudd i weithwyr a'r cymunedau lleol a wasanaethant. Gallai Bil perchnogaeth gan weithwyr chwarae rhan hanfodol yn hynny.
Felly, i edrych yn fanylach arno a chefnogi hyn i gyd gyda thystiolaeth bellach, yn ôl yr ymchwiliad i effaith perchnogaeth a gadeirir gan y Farwnes Bowles, ar lefel gweithiwr unigol, gall gweithwyr fwynhau lefelau uwch o ymgysylltiad, cymhelliant a llesiant, ac ychwanegu at eu cyflogau drwy rannu yn y gwerth cyfalaf y maent yn ei greu. Ar lefel busnes, mae gan fusnesau sy'n eiddo i weithwyr lefelau uwch o gynhyrchiant, maent yn annog gweithwyr ar bob lefel i sbarduno arloesedd. I'r economi ehangach, maent yn fwy tebygol o greu a chadw swyddi sydd wedi'u gwreiddio yn ein hardaloedd lleol, ac ar gyfer busnesau sy'n bodoli eisoes, ni fydd llawer o darfu ar eich busnes, yn enwedig os cewch gyngor gan arbenigwyr, ac nid oes angen dod o hyd i brynwr, oherwydd bydd eich gweithwyr eisoes yn deall potensial eich busnes ac yn talu pris teg. Pam na fyddem am wneud hyn?
Fodd bynnag, un o'r rhwystrau mwyaf i fwy o berchnogaeth gan weithwyr, mae'n debyg, yw'r diffyg ymwybyddiaeth a gwybodaeth i fusnesau o fewn economi Cymru. Fel y dywedodd Luke Fletcher, pan fydd busnesau'n gwneud hyn yn y pen draw, byddant yn dweud wrthynt eu hunain, 'Pam na wnaethom hyn yn gynt?' Felly, dyma pam yr hoffwn ddweud eto fy mod yn eithriadol o falch ein bod yn trafod hyn heddiw, fel y gallai Bil perchnogaeth gan weithwyr fod yn rhan o adferiad Cymru, gan greu economi gynhwysol a gwydn drwy dyfu perchnogaeth gan weithwyr a chyflogeion, yn hytrach na cholli swyddi, y stryd fawr a chanol y dref. Mae angen cefnogaeth a buddsoddiad trawsbleidiol yn awr os yw'n mynd i fod yn llwyddiant i fusnesau a'n heconomïau lleol.
Gwelaf fod cysylltiad Vikki Howells wedi'i adfer, a galwaf ar Vikki Howells i roi ei sylwadau terfynol. Rwy'n ei hatgoffa bod ganddi funud ar ôl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, parhaodd pwll glo'r Tower yn weithredol tan 2008, gan roi gwaith i bobl, cadw arian yn yr economi leol, ac mae hanes Tower, hanes o lwyddiant, dycnwch, a phrofi bod y bwrdd glo a'r Adran Masnach a Diwydiant yn anghywir, yn un eithriadol. Ond mae'r egwyddor o gefnogi a galluogi gweithwyr i gaffael y cwmni yn un na ddylai fod yn eithriadol, ac ni ddylai'r manteision ehangach a ddaeth i'r ardal leol yn sgil y model gweithredu fod yn eithriadol chwaith.
Mae cynnwys y gymuned drwy bwyllgor cyswllt a chynllun budd cymunedol ar gyfer pentrefi o amgylch y pwll glo, darparu cyllid i grwpiau ac unigolion a chynnal prosiectau etifeddiaeth, i gyd yn fanteision y gellid eu hailadrodd mewn cymunedau ledled Cymru os ydym yn creu fframwaith lle mae'n haws i weithwyr brynu'r fenter y maent yn gweithio ynddi. Carwn awgrymu y byddai model o'r fath hefyd yn gwneud llawer i greu'r canol coll sy'n amcan allweddol i ddatblygu'r economi sylfaenol yng Nghymru. Felly, gobeithio y gall cyd-Aelodau ar bob ochr i'r Siambr ymuno â mi i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl hon ac am y ffordd y mae wedi cyflwyno ei ddadl. Er fy mod yn cydnabod y rhesymau pam y mae'r Aelod wedi cyflwyno'r cynigion hyn, rwy'n credu bod yr Aelod yn cyfeiliorni ynglŷn â beth fyddai'r manteision posibl o weithredu cyfraith Marcora Eidalaidd o'r 1980au yng Nghymru, ac rwyf hefyd yn pryderu bod yr Aelod yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried cynigion economaidd radical a hwythau eisoes yn ei chael hi'n anodd gweithredu deddfwriaeth bresennol y maent eisoes wedi cytuno arni.
Fel y gŵyr pawb ohonom yn y Siambr, mae Llywodraeth y DU yn agored iawn ei chefnogaeth i fusnesau cydweithredol a'r modd yr hoffent dyfu'r sector cydweithredol yn y wlad hon. Mae model cydweithredol perchnogaeth gan weithwyr yn cael ei weld gan lawer yn y Deyrnas Unedig, ar draws yr holl sbectrwm gwleidyddol, fel un da i weithwyr, cymunedau lleol a busnesau. Yn wir, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cydnabod hyn ac wedi cyflwyno cyfres o fesurau i gefnogi a diogelu'r sector. Un enghraifft o'r fath yw Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, sydd wedi lleihau'n sylweddol y cymhlethdodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â rhedeg cwmnïau cydweithredol, ac ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth hon, gwelsom swm y cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei dynnu allan i'w fuddsoddi gan aelod mewn cwmni cydweithredol yn codi o £20,000 i £100,000. Mae hyn wedi rhoi llawer o hyblygrwydd mawr ei angen i nifer o gwmnïau cydweithredol yn y wlad hon allu codi cyfalaf.
At hynny, deallaf fod Llywodraeth y DU wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at y ffaith eu bod yn barod iawn i dderbyn cynigion credadwy ar gyfer y diwygio hwn, ac mae Trysorlys Ei Mawrhydi yn ymgysylltu'n barhaus â'r sector cydweithredol i wneud y mwyaf o'i botensial. Dylai fy nghyd-Aelodau Llafur edrych ar y llwybr hwn yn hytrach na cheisio dadlau dros yr hyn y maent yn ystyried eu bod yn bolisïau Ewropeaidd ffasiynol sydd bron yn 40 mlwydd oed.
O edrych yn benodol ar gyflwyno cyfraith Marcora yng Nghymru, credaf fod angen i'r Aelodau gydnabod bod gwahaniaethau clir rhwng economïau'r Eidal a'r DU yn awr ac economïau'r Eidal a'r DU yn y 1980au. Ar hyn o bryd mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn nodi bod diweithdra yn y DU yn 4.7 y cant, tra'i fod yn 8 y cant yn yr Eidal cyn cyflwyno cyfraith Marcora. Cododd yn gyflym wedyn i tua 10 y cant ac mae wedi bod ar y lefel honno ar gyfartaledd byth ers hynny. Ar hyn o bryd mae'n 9.3 y cant. At hynny, yn ogystal â chyfradd ddiweithdra gymharol isel y DU, mae gennym hefyd lefelau digynsail o gymorth swyddi i helpu'r rhai sy'n ddi-waith i ddod o hyd i waith cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn golygu, yn ôl data diweddaraf y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fod gweithwyr y DU yn llai tebygol na gweithwyr yr Eidal o fod yn ddi-waith am gyfnodau sylweddol. Mae hyn nid yn unig yn dangos bod gwahaniaeth amlwg rhwng y ddwy wlad, ond pe bai unrhyw ganlyniadau cadarnhaol i gyflwyno cyfraith Marcora yn yr Eidal, ni fyddai'r rhain yn cael eu teimlo mor gryf yng Nghymru. Yn aml, amlygir arbedion lles fel un o brif fanteision cyfraith Marcora, ond gan fod gweithwyr y DU yn llawer llai tebygol o barhau'n ddi-waith yn hirdymor, mae ymhell o fod yn glir a fyddai polisi cyflogaeth tebyg i Marcora yn cyflawni hyn i Gymru ai peidio.
Felly, gadewch i ni fod yn fwy realistig ynglŷn â hyn. Caiff busnesau cydweithredol a brynir gan y gweithwyr yn yr Eidal o dan gyfraith Marcora eu hariannu'n rhannol drwy ildio gwerth tair blynedd o fudd-daliadau diweithdra. Felly, yn y bôn, os yw'r cwmni cydweithredol a brynir gan y gweithwyr yn mynd i'r wal—
A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
—ac mae cyfran fawr o'r rhain yn gwneud hynny, ni fydd gweithwyr yn gallu hawlio budd-daliadau lles i'w cefnogi eu hunain a'u teuluoedd am hyd at dair blynedd. Rwy'n amau mai ychydig iawn o bobl yma sydd wedi ystyried hyn yn iawn, gan ffafrio'r ffocws ar y manteision canfyddedig yn hytrach na'r realiti oer, anodd. Rwy'n amau bod yr Aelodau yma'n cynnig o ddifrif y bydd yn rhaid i weithwyr ildio eu hawliau lles, ond mae hynny'n rhan sylfaenol o gyfraith Marcora.
Felly, os yw'r Aelodau yn ddiffuant yn eu hawydd i ddatblygu busnesau cydweithredol yng Nghymru, byddai'n well iddynt wneud cynigion credadwy i ddiwygio deddfwriaeth gyfredol sy'n bodoli eisoes yn hytrach na cheisio ailgylchu polisïau economaidd y 1980au a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth a gwympodd o dan bwysau ei llygredd ei hun. Ni fyddwn yn cefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Dyn dewr iawn sy'n ceisio amddiffyn polisi economaidd presennol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Sylwaf nad oedd yr Ysgrifennydd busnes ar raglen Today y bore yma yn ymateb i'r her hyd yn oed. Yn y cyfraniad hwnnw, disgrifiodd Joel James 'realiti oer, anodd', ac oer ac anodd yw sut y mae'n teimlo i fod ar alwad polisi economaidd y DU ar hyn o bryd. Nid wyf yn siŵr fod llawer o bobl yng Nghymru yn teimlo ein bod yn gweld llwyddiant neoryddfrydiaeth ar hyn o bryd.
Ac wrth wneud y ddadl honno wrth gwrs, yr hyn y mae hefyd yn ei wneud yw camddeall yn sylfaenol natur economi Cymru i ormod o bobl a gormod o fusnesau. Un o fanteision mawr y dull cydweithredol o ymdrin â busnes a threfniadaeth economaidd, wrth gwrs, yw busnes sydd wedi'i wreiddio mewn cymuned, sydd wedi'i wreiddio yn ei leoliad, sydd wedi'i wreiddio wrth geisio sicrhau budd economaidd i bobl yn y gymuned honno a pheidio ag echdynnu cyfoeth o'r gymuned honno. Mae'r rheini ohonom a fagwyd yng Nghymoedd de Cymru yn gwybod popeth am echdynnu cyfoeth, a gwyddom bopeth am yr hyn a adawyd ar ôl: gadawyd tlodi ac anobaith ar ôl, tra bod perchnogion y pyllau glo'n mwynhau bywyd o foethusrwydd a manteision na ellir eu dychmygu yn sgil llafur y bobl hynny.
A gadewch imi ddweud hyn, mae cwmnïau cydweithredol yn cynnig model economaidd amgen inni sydd â'r potensial i wreiddio economi yn y broses o greu cyfoeth am y tro cyntaf ers degawdau. Cafodd fy rhieni eu geni o dan ddull cydweithredol o weithredu gofal iechyd. Roedd Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, a ragflaenai'r gwasanaeth iechyd, yn gwmni cydweithredol. Fe'i crëwyd gan weithwyr Tredegar er mwyn darparu gofal iechyd pan nad oedd yn cael ei ddarparu gan y wladwriaeth. A chredaf fod cyfle i Lywodraeth Cymru yma—a byddaf yn edrych am hyn yn ymateb y Gweinidog—o fewn y setliad, i greu cwmnïau cydweithredol a all gael effaith drawsnewidiol, nid yn unig ar economi Cymru ond ar gymunedau Cymru hefyd.
Er enghraifft, cymerwch yr hyn y ceisiwn ei wneud gyda thrafnidiaeth. Cawsom sgwrs y prynhawn yma am drafnidiaeth gyhoeddus. Gwyddom fod cyfleoedd i bobl drefnu cydweithfeydd trafnidiaeth er mwyn darparu'r math o drafnidiaeth gyhoeddus rydym i gyd am ei gweld. Cawsom sgyrsiau yr wythnos diwethaf am bolisi ynni. Gwyddom fod cyfleoedd i bobl greu cwmnïau ynni cydweithredol mewn gwahanol gymunedau, i sicrhau bod gennym ynni adnewyddadwy sy'n cyd-fynd â'n huchelgeisiau ar gyfer polisi hinsawdd ac ar gyfer polisi cymdeithasol a chyflawni'r math o chwyldro ynni rydym am ei weld. Ond hoffwn weld y Llywodraeth yn mynd ymhellach hefyd. Gallaf weld nad fi yw'r unig gyn-Weinidog pysgodfeydd yn y Siambr hon, ac un o'r pethau y teimlwn y gallai'r Llywodraeth edrych arno, na chawsom gyfle i'w wneud yn y gorffennol er enghraifft, oedd sicrhau bod cwotâu'n cael eu cyfunoli, er mwyn sicrhau bod y diwydiant pysgota yn berchen ar y cwotâu y gallent eu cyflenwi.
A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Rwy'n edrych ar Peter Fox; cefais sgwrs dda gydag ef yn gynharach am ei ddeddfwriaeth fwyd arfaethedig. Fe wyddoch chi a minnau fod y diwydiant amaeth yn defnyddio—[Torri ar draws.] Nid oes gennym amser i dderbyn ymyriad. Mae'n defnyddio cydweithfeydd ac mae'n defnyddio cwmnïau cydweithredol yn barod. Rydych chi'n gwybod ei fod yn gweithio, rwy'n gwybod ei fod yn gweithio. Dywedwch wrth Joel James ei fod yn gweithio hefyd. Diolch.
Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r ddadl heddiw. Dylwn egluro fy mod innau hefyd yn aelod Llafur a Chydweithredol, fel y bûm ers fy ethol i'r lle hwn yn 2011. Credaf ei bod yn drafodaeth bwysig ac amserol, ac rwyf am ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau meddylgar, gan gynnwys nodyn o anghytundeb yn y Siambr. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Vikki Howells mewn dwy ran am ein hatgoffa o stori Tower, ac nid yn unig yr hyn a ddigwyddodd ar yr adeg y crëwyd Tower fel gwaith sy'n eiddo i weithwyr, ond ei ddyfodol parhaus—yr hyn sydd bellach yn fusnes gwych—a'r strwythur a'r gefnogaeth roedd ei angen i lwyddo, yn ogystal â phenderfyniad ei weithlu i sicrhau ei fod yn llwyddiannus. Yng Nghymru, mae'n enghraifft dda o'n hymrwymiad cryf i fentrau cymdeithasol a'r sector cydweithredol. Roedd y gwerthoedd rydym yn pwyso arnynt ac egwyddorion menter gymdeithasol a chydweithredu yn rhan o'r hyn a'n helpodd drwy'r pandemig COVID, ac yn rhan o helpu i adeiladu'r dyfodol mwy gwyrdd, mwy teg a mwy llewyrchus a ddathlodd Alun Davies gyda ni ddoe.
Rwyf am weld y sector yn parhau i dyfu. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad, fel y cydnabu Huw Irranca, yn y rhaglen lywodraethu a'r weledigaeth a nodir yn 'Trawsnewid Cymru drwy fentrau cymdeithasol'. Lansiwyd y cynllun gweithredu hwnnw y llynedd ar ôl cael ei gydgynhyrchu gyda mentrau cymdeithasol ac asiantaethau cymorth yma yng Nghymru. Mae pryniant gan reolwyr eisoes yn agwedd bwysig mewn unrhyw system fusnes iach. Mae'n rhoi cyfle i fusnesau dyfu a pharhau, fel arfer drwy gadw perchnogaeth ac ymrwymiad lleol, fel y mae llawer o'r Aelodau wedi'i gydnabod. Maent yn rhan bwysig o'r economi sylfaenol, ond dylwn ddweud wrth gwrs nad busnesau lleol yn unig yw cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol; gall busnesau mawr iawn fod yn fentrau sy'n eiddo i weithwyr hefyd, ac efallai mai John Lewis yw'r enghraifft amlycaf. Ond mae cyfleoedd i gwmnïau cydweithredol, yn enwedig drwy lwybr olyniaeth busnes Cymru—[Torri ar draws.] Rwyf am orffen gyda'r pwynt hwn. Byddant yn helpu i gadw'r busnesau hyn wedi'u lleoli yng Nghymru ac yn eiddo i bobl Cymru. Fe dderbyniaf yr ymyriad a gwneud rhagor o gynnydd wedyn.
Cyn dod i'r lle hwn, roeddwn yn falch o weithio yn y sector cydfuddiannol am fwy na dau ddegawd, ac rwy'n cefnogi llwyddiant cwmnïau cydfuddiannol a mentrau cydweithredol yn gryf, a'r manteision a ddaw yn eu sgil i'n heconomi marchnad. Ond fe wnaeth y sefydliad roeddwn yn gweithio iddo chwalu ychydig flynyddoedd ar ôl i mi adael a bu'n rhaid i sefydliad arall ei brynu. Felly, a ydych yn cydnabod nad ydynt yn ateb i bob dim, ac oni bai eu bod yn gwneud gwarged, ni fyddant yn ffynnu ac yn goroesi, ac mae'r gwarged hwnnw'n dibynnu ar wasanaeth i gwsmeriaid, cystadleurwydd a darbodusrwydd ariannol?
Nid oes neb yn dadlau bod cwmnïau cydweithredol neu gydfuddiannol yn ateb i bob dim ac yn gwarantu bod busnes yn goroesi; felly y mae wedi bod erioed. Ac rwy'n cydnabod wrth gwrs fod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod yna draddodiad hir o gwmnïau cydfuddiannol llwyddiannus yn y sector ariannol, a model busnes sydd yma i aros ar gyfer y dyfodol yn fy marn i.
Eisoes yng Nghymru mae gennym gymorth helaeth ar gael i'r sector. Mae Perchnogaeth Gweithwyr Cymru yn rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru a ariannir gan Lywodraeth Cymru a chronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, cronfa flaenorol bellach o safbwynt Cymru—rhaglen lwyddiannus sydd, wrth gwrs, mewn perygl os na chaiff y cymorth ymarferol ar ffurf cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ei ailddarparu i Gymru yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae'n darparu cyngor pwrpasol wedi'i ariannu'n llawn i helpu i benderfynu ai cynlluniau perchnogaeth gan y gweithwyr a chynlluniau cyfranddaliadau gweithwyr yw'r ateb cywir i'r busnes hwnnw wrth symud ymlaen. Yn ogystal, rydym yn cynnig cymorth penodol drwy Busnes Cymru i helpu gydag opsiynau cynllunio olyniaeth, gan gynnwys pryniant gan reolwyr.
Yn ogystal â hyn, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda'r sector i archwilio opsiynau i weld sut y gallwn hyrwyddo perchnogaeth gan y gweithwyr a phryniant gan weithwyr gyda'n rhanddeiliaid a'n busnesau ehangach yma yng Nghymru, gan gynnwys y gwaith y mae Banc Datblygu Cymru eisoes yn ei wneud. Boed yn waith a wnaethom yn y blynyddoedd diwethaf gyda syniadau Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru i wireddu gwerthoedd gweithredu cydweithredol ar draws meysydd Llywodraeth, boed mewn gofal cymdeithasol, lle rydym wedi deddfu i gefnogi datblygiad darparwyr di-elw a sefydlu'r gronfa gofal integredig i hyrwyddo modelau darparu amgen, neu yn yr economi sylfaenol, rydym eisoes wedi sefydlu cronfeydd arbrofol newydd i brofi syniadau arloesol a ffyrdd newydd o weithio y gobeithiwn y gellir eu hymestyn ym maes caffael. Rydym eisoes wedi defnyddio pwerau'r Llywodraeth ddatganoledig yma yng Nghymru mewn ffordd hyderus, i weithio gyda phartneriaid fel Canolfan Cydweithredol Cymru, ac i gymryd llawer o'r syniadau a hogwyd dros y ganrif ddiwethaf o waith y mudiad hwn er mwyn gwneud newid blaengar yn realiti ac er mwyn gwella bywydau gweithwyr.
Rydym wedi ymrwymo i barhau â'r daith hon drwy'r ysgogiadau polisi sydd ar gael yma yng Nghymru. Pe baem yn cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn, byddai angen trafodaethau manylach i ddeall y budd o wneud hynny. Mae gennyf feddwl agored ynglŷn â deddfwriaeth, ond ceir her ymarferol wirioneddol gydag agenda ddeddfwriaethol lawn, a hefyd y cydbwysedd rhwng pwerau a gadwyd yn ôl a phwerau datganoledig fel y nododd yr Aelod wrth agor.
Bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig heddiw, ond bydd gan Lafur Cymru, gan gynnwys y nifer fawr o Aelodau Llafur a Chydweithredol bleidlais rydd. Fodd bynnag, rwyf am ymateb yn gadarnhaol i'r hyn y credaf yw'r pwynt a'r diben y mae'r Aelod yn tynnu sylw ato wrth gyflwyno'r cynnig hwn ger ein bron heddiw: sut y gallwn ni a sut y byddwn ni'n dyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru o fewn tymor y Senedd hon yng Nghymru? Oherwydd byddaf yn hapus iawn i dderbyn ei awgrym i eistedd gydag ef, gyda chyd-aelodau o'r Blaid Gydweithredol a Chanolfan Cydweithredol Cymru i drafod sut y gwnawn hynny'n ymarferol a chyflawni ein haddewid maniffesto.
Galwaf ar Huw Irranca-Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ymateb yn fyr iawn. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon? Mae wedi bod yn werth chweil. Rwyf wedi mwynhau'r cyfan, ac fe geisiaf ymateb yn fyr i rai o'r cyfraniadau, gan orffen gyda'r Gweinidog.
Yn gyntaf oll, i Joel. Rwy'n croesawu'r cyfraniad a'r feirniadaeth hefyd, oherwydd mae arnom angen yr her honno. Ond byddwn yn dweud yn syml nad yw'r cwmnïau cydweithredol presennol sydd ar waith yn awr ym mhob rhan o Gymru yn rhan o agenda hipïaidd yr 1980au; maent yn y rhannau mwyaf blaengar o'r economi, yn gweithio fel busnesau sy'n eiddo i weithwyr ac yn elwa ar y manteision a ddisgrifiwyd gan Sarah Murphy ac eraill. Nid rhywbeth o'r gorffennol ydynt; maent yn perthyn i'r dyfodol mewn gwirionedd. Ond rwy'n croesawu ei gyfraniad.
Dywedodd Alun Davies mewn ymateb—gwnaeth bwynt pwysig—nad yw'r dull cydweithredol o sicrhau perchnogaeth gan weithwyr yn ymwneud ag echdynnu cyfoeth o gymunedau, fel y gwelsom yn y gorffennol gydag agenda neoryddfrydol a rhyddid i bawb wneud fel a fynno, neu cyn bod agenda neoryddfrydol hyd yn oed, ond yn hytrach, mae'n ymwneud â gwreiddio'r cyfoeth hwnnw yn yr economi leol, a'i ailgylchu ymhlith pobl sy'n rhannu perchnogaeth arno.
Gadewch imi droi felly at y sylwadau a wnaeth Luke. Rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth i hyn, Luke, ac mae eich aelodaeth o'r grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yn dangos lledaeniad y gefnogaeth i'r math hwn o agenda. Fel y dywedoch chi, mae'n ateb i gadw swyddi yng Nghymru, yn y cymunedau, cadw'r cyfoeth yn y cymunedau, cadw'r swyddi yma hefyd—yr hyn roeddech yn ei ddisgrifio y diwrnod o'r blaen, Weinidog, ynglŷn â chadw pobl i weithio yng Nghymru. Beth allai fod yn fwy deniadol na chael cyfran yn y busnesau a'r cwmnïau y maent yn gweithio iddynt?
Sylwadau Sarah—diolch yn fawr am y cyfraniad hwnnw, fel cyd-aelod o'r Blaid Gydweithredol hefyd, fel eraill. Fe wnaethoch droi at ddadansoddiad y Farwnes Bowles yn seiliedig ar y dystiolaeth yno, ac fe gyfeirioch chi'n briodol at lefel uwch o ymgysylltiad, cymhelliant a llesiant i weithwyr, model llywodraethu mwy cynhwysol, tryloyw ac effeithiol, ychwanegu at y cyflogau drwy rannu gwerth cyfalaf y cwmnïau sy'n gysylltiedig, a chadw gweithlu, y clywn gymaint amdano heddiw. Dyma'r hyn y mae modelau cydweithredol o berchnogaeth gan weithwyr yn ei wneud mewn gwirionedd—lefelau uwch o gynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Joel, nid troi'n ôl at y 1980au yw hyn, dyma'r ganrif hon yn edrych ymlaen go iawn.
Os caf droi i orffen at Vikki, cyn y Gweinidog. Vikki—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, a oeddech chi am—? A gaf fi—? Iawn.
Diolch ichi am yr ymyriad. Nid yw'r Blaid Geidwadol yn erbyn cwmnïau cydweithredol. Un o'r pethau sylfaenol rydym yn ei erbyn, mewn gwirionedd, gyda'r peth Marcora a gyflwynwyd yn y 1980au, oedd buddsoddiad a gefnogir gan y Llywodraeth o 3:1, a oedd yn fuddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth, y profwyd ei fod yn torri rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE mewn gwirionedd. Dyna un o'r prif bethau sy'n codi gennym yma, os ydych yn cynnig y ddeddfwriaeth. Felly, a allwch gadarnhau pa elfen o gefnogaeth ariannol y byddwch yn ei disgwyl gan Lywodraeth Cymru?
Rwy'n falch iawn o glywed nad ydych yn gwrthwynebu'r syniad o berchnogaeth gan weithwyr a modelau cydweithredol o berchnogaeth gan weithwyr. Byddwn yn dweud wrtho, peidiwch ag edrych yn ôl ar y model hwnnw o'r 1980au. Edrychwch ar weithio gyda ni ar sut y byddai model newydd yn edrych er mwyn cyflawni'r un nod yn union.
Daw hynny â mi at Vikki Howells, a siaradodd â ni mewn dwy ran, yn debyg iawn i stori Tower ei hun—grŵp o bobl a ddaeth at ei gilydd, pryniant gan y gweithwyr a rhoi dau ddegawd o fywyd pellach i hynny, ac sydd bellach yn ei ailddyfeisio eto ar gyfer oes arall gyda'r arian y maent wedi'i ailfuddsoddi wedi'i wreiddio yn y cymunedau hynny—yng nghyfoeth y cymunedau hynny. Ac edrychwch, os gallant gyfansoddi opera am rywbeth a fyddai'n ymddangos yn beth mor ddinod, beth arall sydd i'w ddweud?
Yn olaf, Weinidog, rwyf wrth fy modd eich bod chi, wrth ymateb, wedi nodi'n union yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ei wneud eisoes, ac mae'n helaeth; mae'n enfawr, yr uchelgais sy'n sail iddo, gan gynnwys gweithio gyda'r ganolfan gydweithredol, y cyllid Ewropeaidd sy'n digwydd ar hyn o bryd, arian y mae angen inni ddod o hyd i arian yn ei le i fynd tuag at y cymorth hwn, Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, a byddwch yn archwilio mwy o opsiynau. Roeddwn mor falch o'ch clywed yn dweud bod gennych feddwl agored ar fater deddfwriaeth. Os felly, Weinidog, fel cyd-aelod o'r Blaid Gydweithredol, gadewch i ni ei drafod.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
Mae gennym wrthwynebiad.
Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.