– Senedd Cymru ar 3 Tachwedd 2021.
Symudaf ymlaen yn awr at eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adferiad gwyrdd. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7815 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo adferiad gwyrdd yn ystod chweched tymor Senedd Cymru.
2. Yn nodi ymhellach gynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd.
3. Yn croesawu penodiad Gweinidog a Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
4. Er mwyn helpu i adfer yn wyrdd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU a nodi cynllun i ddarparu miloedd o swyddi coler werdd ar gyfer economi werddach;
b) cyflwyno addewidion allweddol ar frys fel Bil aer glân, gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol, a chynllun dychwelyd ernes;
c) creu swyddfa annibynnol ar gyfer diogelu'r amgylchedd a newid hinsawdd i Gymru, a fydd yn dwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd;
d) darparu buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt morol ac alltraeth; a
e) diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol a'r rheolau cynllunio i bennu targedau a cherrig milltir hirdymor ar gyfer adfer natur yn ogystal â mandadu enillion net bioamrywiaeth ar ddatblygiadau newydd.
Diolch, Lywydd dros dro. Gyda COP26, mae'r Deyrnas Unedig yn cadarnhau ei lle fel arweinydd byd-eang drwy sefydlu polisi cyhoeddus fel ffordd o fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Gwyddom fod angen i'r byd haneru ei allyriadau dros y degawd nesaf, a chyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn canol y ganrif, os ydym yn mynd i gyfyngu'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang a ragwelir i 1.5 gradd. Yn 2019, y DU oedd yr economi fawr gyntaf yn y byd i osod targed cyfreithiol rwymol i gyrraedd allyriadau sero-net erbyn 2050. Gyda chynllun 10 pwynt ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi nodi cynlluniau ar gyfer sut y gellir cyflawni hyn ochr yn ochr â thwf economaidd. Bydd y cynllun yn ceisio cynhyrchu digon o ynni gwynt ar y môr i bweru pob cartref, gan gynnal hyd at 60,000 o swyddi. Bydd yn buddsoddi mewn technoleg dal carbon, gyda tharged i gael gwared ar 10 megatunnell o garbon deuocsid erbyn 2030; darparu ynni niwclear glanach, gan gefnogi 10,000 o swyddi; a gosod 600,000 o bympiau gwres bob blwyddyn erbyn 2028. Ac mae'r arweinyddiaeth gref hon yn talu ar ei chanfed.
Wrth i COP26 ddechrau, mae tua 70 y cant o economi'r byd bellach wedi ymrwymo i dargedau sero-net, i fyny o lai na 30 y cant pan ymgymerodd y DU â'r gwaith o lywyddu'r gynhadledd hon. Mae Llywodraeth Cymru, er gwaethaf eu datganiadau i'r gwrthwyneb, yn cymryd sylw. Fodd bynnag, fel gwlad ddatganoledig, mae bellach yn ddyletswydd ar y Llywodraeth hon i gefnogi nodau ac uchelgeisiau ar ddatgarboneiddio a hybu cynhyrchiant ynni glân. Dyna pam fy mod yn falch iawn o gyflwyno'r cynnig heddiw i'w drafod, fel y gallwn ailffocysu ymdrechion yma yng Nghymru, yn enwedig gan fod cyllideb garbon 2 yr wythnos diwethaf wedi datgelu rhai gwendidau yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at fynd i'r afael â'r broblem sy'n diffinio ein hoes. Yn wir, er y tynnwyd sylw at ddatblygiadau ynni sy'n eiddo lleol i sicrhau elw economaidd i Gymru, mewn gwirionedd, rydych wedi cymryd cam mawr tuag yn ôl drwy dorri rhyddhad ardrethi busnes ar gynlluniau ynni dŵr sy'n eiddo preifat. Dylem fod yn grymuso ein ceidwaid tir a'n ffermwyr i helpu gyda'n hadferiad gwyrdd. Pam, felly, na chafwyd datganiad gan y Gweinidog materion gwledig yr wythnos hon?
Mae'n amlwg fod angen i Lywodraeth Cymru sefydlu cronfa fuddsoddi mewn ynni morol i Gymru gyfan i brynu ecwiti mewn prosiectau ynni morol, gan gynnwys ynni dŵr ar raddfa fach, i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Bum mis ar ôl cau'r ymgynghoriad ar gynllun dychwelyd ernes, sylwaf fod Llywodraeth Cymru yn dal i adolygu'r ymatebion a ddaeth i law, a'n bod yn dal i fod ar y cam ymgynghori ar gyfer gwahardd naw yn unig o eitemau plastig untro.
Am y tro cyntaf o fewn cof, gallaf ddweud yn onest fy mod yn cytuno ag AS Llafur. Chwarae teg i Fleur Anderson am ddal i fyny gyda'r Ceidwadwyr Cymreig a'n galwadau am weithredu ar hancesi gwlyb, yn enwedig y rhai sy'n cynnwys plastig. Yn ogystal â chreu llanast ar welyau afonydd, mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod yn ymdrin â thua 2,000 o garthffosydd wedi'u blocio bob mis yng Nghymru. Y prif achosion yw ffyn cotwm a hancesi gwlyb sy'n cynnwys plastig. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando nid yn unig arnom ni ar y meinciau hyn, ond ar eu Haelodau Seneddol Llafur eu hunain, ac yn gweithredu, yma yng Nghymru.
Roedd lefelau cyfranogiad mewn cynllun dychwelyd ernes ar garreg y drws a gynhaliwyd yng Nghonwy rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf yn 97 y cant. Felly, dengys hyn fod y cyhoedd yn awyddus i weithredu. Ac ni allaf anwybyddu addewid arweinyddiaeth personol y Prif Weinidog i basio Deddf aer glân yn y pumed Senedd. Felly, dyma ni yn y chweched Senedd bellach, ac mae'r Aelodau'n dal i ofyn ac yn galw am gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno.
Fel y mae ein cynnig yn dweud yn glir, er mwyn helpu ein hadferiad gwyrdd, mae angen inni adolygu rheolau cynllunio a diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol. Roedd tystiolaeth gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru yn nodi'n glir fod cyfanswm y gwariant ar wasanaethau cynllunio wedi gostwng 50 y cant yng Nghymru ers 2009. Mae hyn yn cael effaith fawr, yn enwedig ar feysydd arbenigol o amodau cynllunio, megis draenio cynaliadwy—rwy'n siŵr fod fy nghynghorwyr yn gwybod beth yw SuDS—ond mae bellach yn drychineb pur i rai awdurdodau lleol, o ystyried y pwyslais a roddir arnynt gan y Llywodraeth hon.
Rhaid rhoi ystyriaeth gynllunio deg hefyd i gynorthwyo rhwydwaith trafnidiaeth werdd. Ar 1,002 o bwyntiau gwefru, dim ond 3.8 y cant o gyfanswm pwyntiau gwefru'r DU sydd gan Gymru. Yr wythnos hon, siaradais â'n gweithredwyr tacsis, sydd bellach yn gofyn a fydd unrhyw gymorth Llywodraeth Cymru iddynt tuag at gerbydau trydan neu gerbydau dim allyriadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed y dylai pob bws, yn ogystal â thacsis a cherbydau hurio preifat, fod yn gerbydau dim allyriadau erbyn 2028. Er fy mod yn ymwybodol fod £50 miliwn wedi'i neilltuo gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r newid hwn, os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau a diogelu swyddi, eglurodd rhanddeiliaid wrth ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith fod yn rhaid gweithredu ar gyllid yn awr. Er mwyn cydnabod y sgiliau sydd eu hangen i fwrw ymlaen â'r agenda werdd, dylai Llywodraeth Cymru weithredu eto—yn awr—i uwchsgilio gweithlu Cymru drwy wireddu addewid y Ceidwadwyr Cymreig i ddarparu 150,000 o brentisiaethau newydd, gan roi sylw i gyngor ColegauCymru y dylid arallgyfeirio'r gweithlu gwyrdd.
Rydym yn awyddus iawn hefyd i weld ymdrechion i greu swyddi morol newydd, gan na fanteisiwyd ar y potensial. Mae ardal cynllun morol Cymru yn cynnwys tua 32,000 km o fôr, ond dim ond 20,779 km o dir sydd gan Gymru, ac rwy'n cydnabod ac yn cymeradwyo fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, oherwydd roedd Joyce ar y pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith cyn i mi ddod yn aelod ohono, ac fe wnaethoch chi hyrwyddo hyn hefyd, yn briodol, a'r potensial i gael swyddi a gweithredu drwy sefydlu prosiectau ymchwil megis plannu dolydd morwellt, y gwyddys eu bod yn dal carbon hyd at 35 gwaith yn gyflymach na fforestydd glaw trofannol. Felly, mae'n amlwg yn syniad da.
Daw hyn â mi at yr angen i weithredu targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol rwymol yn awr, gan gynnwys gosod y fenter 30x30 ar sail statudol.
Mae'r RSPB, y Gymdeithas Cadwraeth Forol a sefydliadau eraill i gyd wedi rhoi o'u hamser fel tystion i'n pwyllgor i egluro'r angen i weithredu cyn i drafodaethau cam 2 y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol COP15 ddod i ben yn 2022. Eglurodd adroddiad Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd 3 gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU fod angen cymhellol am well monitro a gwyliadwriaeth. Mae angen eglurhad ar y Senedd hon a'i Haelodau o'r camau rydych yn eu cymryd i gynyddu'r gwaith o fonitro data ar bethau fel iechyd a gwytnwch pridd a'i effaith ar fioamrywiaeth, rhywogaethau a'u cynefinoedd. A chydag arian yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith hwn, pa swyddi cadwraeth hirdymor a gaiff eu creu o ganlyniad?
Ddirprwy Lywydd, fel y bydd y ddadl heddiw'n dangos, mae momentwm trawsbleidiol o blaid gweithredu ar aer glân, plastigau untro, bioamrywiaeth, cadwraeth a llawer o bethau eraill. Felly, pam ein bod yn aros? Pam yr oedi gan y Gweinidog a Llywodraeth Cymru? Mae arnaf ofn na all y byd, ein cymdeithas a'r hinsawdd fforddio rhoi mwy o amser i Lywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog ar hyn. Dim mwy o aer poeth: gadewch inni fwrw ymlaen, a gadewch inni weld gweithredu'n digwydd, os gwelwch yn dda. Diolch.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn gresynu at y gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn mewn termau arian parod o'r cyllid cyfalaf sydd ar gael o ganlyniad i fethiant adolygiad o wariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng brys yn yr hinsawdd a natur, gan leihau cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru 11 y cant mewn termau real erbyn 2024-25 o'i chymharu ag eleni.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) lunio cynllun gweithredu sgiliau net sero sy'n hyrwyddo gwaith teg i gefnogi newid teg;
b) cyflwyno Bil aer glân i sefydlu fframwaith gosod targedau ansawdd aer, a fydd yn ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.;
c) sefydlu corff goruchwylio amgylcheddol i Gymru a chyflwyno targedau statudol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) gydnabod uchelgais Cymru i wahardd plastigau untro drwy wneud rheoliadau i beidio eu cynnwys o fewn cwmpas Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020;
b) diwygio Deddf y Diwydiant Glo 1994 i alluogi gweithredu polisi Llywodraeth Cymru i osgoi echdynnu tanwydd ffosil;
c) disodli, yn llawn, arian a dderbyniwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd i alluogi buddsoddi yn natblygiad y diwydiant ynni morol yng Nghymru;
d) cefnogi trydaneiddio rheilffyrdd prif reilffordd Gogledd Cymru a phrif reilffordd De Cymru fel cam sylweddol tuag at system drafnidiaeth gyhoeddus net sero.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Delyth Jewell i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 4:
datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain lleoliad datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf ecolegol sensitif;
manteisio i'r eithaf ar botensial Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy a datblygu economaidd drwy geisio datganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn i Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â datganoli pwerau ynni yn llawn;
buddsoddi mewn ymchwil datgarboneiddio, yn enwedig ar gyfer sectorau diwydiannol allweddol fel dur, i leoli Cymru fel arweinydd byd-eang mewn cryfderau Cymreig sy'n dod i'r amlwg fel hydrogen ac ynni morol;
cyflwyno targedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau Cymru ar frys, gyda'r nod craidd o wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030 a gweld adferiad sylweddol mewn bioamrywiaeth erbyn 2050;
buddsoddi'n sylweddol mewn atebion sy'n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd a dirywiad mewn bioamrywiaeth, mewn amgylcheddau daearol a morol.
Diolch, Gadeirydd. Rwy'n cynnig gwelliant Plaid Cymru. Mae hon yn sicr yn ddadl amserol. Mae COP26 yn foment pan fydd y ddynoliaeth naill ai'n unioni ei cham neu'n parhau i esgusodi gwastraff a dinistr, moment pan ydym yn sefyll ar ymyl y dibyn i ganiatáu i'r dyfodol fod neu beidio—dyna sydd yn y fantol yn Glasgow.
Rwy'n falch ein bod yn sôn am adferiad—mae'n air addas, oherwydd mae adfer yn golygu adennill meddiant ar rywbeth a gollwyd neu a gafodd ei ddwyn. Pan soniwn am yr amgylchedd, am fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd, adfer bioamrywiaeth, rydym yn sôn am adennill tir, ceisio unioni camweddau degawdau blaenorol, y glo a'r lludw a llygredd sydd wedi tagu ein plant. Ond rydym hefyd yn ceisio adennill tir ar gyfer y dyfodol, i adfeddiannu cyfle i genedlaethau sydd eto i ddod. Yr ymdeimlad hwnnw o ddiogelu lle, o gadw rhywbeth sydd eisoes wedi'i ddwyn gan y dyfodol y gallwn ei gipio'n ôl o'r dibyn, dylai adferiad ymwneud â hynny hefyd.
Mae llawer yn y cynnig hwn rydym yn cytuno ag ef. Mae ein gwelliant yn ceisio ei wthio ymhellach, i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun datblygu morol, i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni a sicrhau nad yw datblygiadau ynni adnewyddadwy wedi'u gosod mewn ardaloedd sy'n sensitif yn ecolegol. Hynny yw, er mwyn sicrhau nad yw'r argyfyngau hinsawdd a natur yn gweithio'n groes i'w gilydd.
Rydym yn galw am fuddsoddi mewn ymchwil datgarboneiddio, yn enwedig mewn sectorau allweddol fel dur, i sicrhau nad yw cymunedau a gweithluoedd yn cael eu gadael ar ôl gan yr adferiad hwn, ond eu bod yn cael eu grymuso ganddo—y gall gweithlu Cymru arwain ail chwyldro diwydiannol, ond y tro hwn, diwydiant gwyrdd, mewn hydrogen ac ynni morol. Rydym yn galw am dargedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol fel bod ein cynefinoedd a'n rhywogaethau'n cael eu hadfer eto, er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld mwy fyth o rywogaethau'n cael eu dwyn ac yn diflannu o'n glannau a'n tirweddau.
Gadeirydd, rydym yn galw am ddatganoli Ystad y Goron, i sicrhau bod y miliynau o bunnoedd o elw sy'n deillio o'n hadnoddau naturiol ein hunain yn cael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru, ac nad ydynt yn cael eu cloi ymaith gan y Trysorlys. Gwn fod y Prif Weinidog wedi dangos ei fod yn agored i'r syniad hwn.
Mae cynhadledd y partïon, COP, lle mae meddyliau a meddylfryd yn cyfarfod yn Glasgow yn gosod y ffrâm ar gyfer popeth rydym yn sôn amdano heddiw, oherwydd bydd y penderfyniadau a wneir yno am dargedau a fframiau amser yn pennu faint o ofod sydd yna ar gyfer adferiad, faint o bwysau a fydd ar y llywodraeth, faint o amser sydd yna ar gyfer gobaith cyn anobaith. Gallai'r gofod, y bwlch rhwng yr hyn y mae angen iddo ddigwydd a'r hyn y mae realpolitik yn ei ystyried yn dderbyniol ac caniatáu'n amharod iddo gael ei oddef, fod yn sylweddol. Y bwlch rhwng 1.5 gradd celsius a 2 radd, neu 2.7 gradd—dyna'r terfynau sy'n cynnwys trychineb. Mae'r bwlch rhwng 2035 a 2050, dyddiadau sy'n ymddangos mor bell yn y dyfodol—bydd y bwlch hwnnw'n cau ac yn ein tagu cyn inni gael amser i dynnu anadl. Rhaid rhoi'r adferiad y soniwn amdano ar waith, ac ar frys, oherwydd gellid colli cymaint o hyd.
Gadeirydd, rydym mewn sefyllfa lle mae argyfyngau amrywiol sy'n cystadlu yn digwydd ar yr un pryd—hinsawdd, natur, tlodi, anghydraddoldeb. Maent i gyd yn drychinebau a wnaed gan bobl ac sy'n cael eu gyrru gan bobl. Ni allwn adael iddynt ein tagu. Rhaid i'r adferiad o COVID, o argyfwng yr hinsawdd, fod yn gyfiawn. Rhaid diogelu a buddsoddi mewn cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd ac ofnau ynghylch tomenni glo. Rhaid cynorthwyo teuluoedd tlotach sy'n cael trafferth gyda biliau gwresogi cynyddol, a rhoi cymorth iddynt gydag insiwleiddio. Rhaid gwrando ar gymunedau sydd heb gael llais yn hanesyddol, a rhaid caniatáu cyfle i weithluoedd feithrin sgiliau newydd, i fod yn rhan o'r diwydiannau gwyrdd newydd a chyffrous. Rhaid i'r adferiad fod yn eiddo i bobl Cymru a chael ei yrru ganddynt. Gellir achub y gofod hwnnw eto. Mae amser o hyd.
Nid wyf yn mynd i ailadrodd llawer o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud am faint enfawr yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae fy etholwyr eisoes yn byw gyda chanlyniadau allyriadau carbon gormodol—mae llifogydd 1-mewn-100 neu hyd yn oed 1-mewn-1,000 o flynyddoedd bellach yn digwydd bob ychydig flynyddoedd. Nid yw digwyddiadau tywydd eithafol mor anghyffredin erbyn hyn; maent wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol bron. Mae trigolion Trefnant a Thremeirchion yn Nyffryn Clwyd yn wynebu blynyddoedd o darfu ar ôl un digwyddiad o'r fath. Dinistriodd Storm Christoph bont hanesyddol Llannerch. Dim ond ychydig ddyddiau a gymerodd hi i'r dyfroedd gilio, ond teimlir eu heffeithiau am lawer hirach, ac rwy'n mawr obeithio y bydd COP26 yn arwain at weithredu yn hytrach na geiriau'n unig, oherwydd, oni chymerir camau brys, bydd y dyfodol yn llwm iawn i fy etholwyr.
Bydd llawer o'r prif ganolfannau poblogaeth yn fy etholaeth dan ddŵr mewn ychydig ddegawdau oni allwn atal y cynnydd yn y tymheredd byd-eang. Hyd yn oed heddiw, mae gan Ddyffryn Clwyd fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd na Chasnewydd, Caerdydd ac Abertawe gyda'i gilydd. Ac eto, er gwaethaf yr holl sôn am argyfwng hinsawdd, nid ydym yn gweld y math o gamau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r trychineb hinsawdd sydd ar y ffordd. Rydym i gyd yn cael ein hannog i wneud ein rhan, fel y dylem ei wneud yn wir, ond ni ddylai ein rhan olygu bod yn rhaid inni roi'r gorau i'n ffordd o fyw. Byddai rhai o'r safbwyntiau mwyaf eithafol ar weithredu ar yr hinsawdd yn mynd â ni'n ôl i'r oesoedd tywyll—dim ceir, dim cig, dim gwyliau tramor na theithio'n bell a dim mewnforion—ond nid oes raid inni newid ein ffordd o fyw, dim ond gwneud newidiadau i'n ffordd o fyw. Gall technoleg ein helpu naill ai i ddileu allyriadau carbon deuocsid yn llwyr neu sicrhau nad yw allyriadau o'r fath yn niweidio ein hecosystem fregus. Do, fe arweiniodd y chwyldro diwydiannol at y pwynt hwn, ond heb y chwyldro diwydiannol ni fyddem yn mwynhau'r manteision, megis meddygaeth fodern.
Yn ôl yn yr oes gyn-ddiwydiannol, byddai ein hanner yn y Siambr hon yn lwcus i fod yn fyw. Nid ailosod sydd ei angen arnom, ond chwyldro newydd, chwyldro diwydiannol gwyrdd. Rhaid inni fuddsoddi'n helaeth mewn pŵer gwyrdd a thrafnidiaeth werdd, mewn dur gwyrdd a hydrogen gwyrdd. Ymchwil a datblygu yw'r ateb, nid encilio a dirywio. Mae angen inni fuddsoddi mewn datblygu technoleg storio ynni newydd fel batris cyflwr solet, ac mae'n ffaith ddiddorol ein bod ni, neithiwr, wedi cynhyrchu mwy o drydan o lo nag y gwnaethom o wynt. Felly, nid yw gwynt a solar yn ffynonellau cyson, felly oni bai ein bod yn ceisio storio cynhyrchiant dros ben, rydym yn gaeth i ddibynnu ar danwydd ffosil, oherwydd mae'r asgell chwith wedi bwrw sen ar bŵer niwclear. Y bore yma, daeth 58 y cant o ynni'r DU o dyrbinau nwy, 16 y cant o ynni niwclear—ar hyn o bryd yr unig gynhyrchiant ynni cyson nad yw'n allyrru carbon—a dim ond 6 y cant a ddaeth o wynt. Ac ni ddylai datgarboneiddio ein bywydau olygu newid ein ffyrdd o fyw, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraethau weithio law yn llaw â'r byd academaidd a mentrau preifat i gyflawni'r newid hwn. Mae ar Gymru angen ei chwyldro diwydiannol gwyrdd er mwyn achub ein planed ac achub ein ffordd o fyw. Diolch yn fawr iawn.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwain y ffordd yn gyson wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Hi oedd y gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd ac mae wedi arwain y ffordd fel mai ein gwlad yw'r drydedd orau yn y byd am ailgylchu, ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu bioamrywiaeth, a chodi ymwybyddiaeth o'r argyfwng natur yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd. Gwelwyd yr ymroddiad hwn i wneud newid gwirioneddol drwy ddarnau lluosog o ddeddfwriaeth nodedig i ddiogelu ein hamgylchedd lleol a byd-eang, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddfau amgylchedd olynol.
Fodd bynnag, gwyddom na all Cymru sefyll ar ei phen ei hun. Wrth gwrs, bydd angen cydweithredu rhynglywodraethol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ond dylem fod yn hynod o ofalus wrth geisio gweithio gyda Llywodraeth Geidwadol y DU. Nid yw cynllun 10 pwynt y Torïaid yn gwneud fawr ddim i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac mae'n canolbwyntio yn hytrach ar barhau i wneud elw o'n hadnoddau mewn ffordd fwy effeithlon. Nid yw'r cynllun yn canolbwyntio chwaith ar y trachwant cydweithredol rhyngwladol sydd wedi caniatáu a hyrwyddo pethau fel prynwriaeth dorfol, gwastraff plastig a'r trychineb anochel sy'n ein hwynebu. Nid yw'r gwariant ychwanegol arfaethedig o £4 biliwn yn agos at yr hyn sydd ei angen i gael effaith wirioneddol ar yr argyfwng hinsawdd. Hefyd, mae Llywodraeth y DU yn parhau i wneud cam â fy rhanbarth drwy wrthod buddsoddi i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, cam allweddol yn ôl o ran system drafnidiaeth gyhoeddus sero-net.
Mae angen inni annog pobl i barhau i ailgylchu yng Nghymru, a pheidio â gwrando ar Brif Weinidog y DU, a allai fod wedi mynd â ni'n ôl flynyddoedd, a byddai holl waith Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru wedi cymryd cam yn ôl. Mae cynnyrch ailgylchu glân wedi'i ddidoli wrth ymyl y ffordd yn nwydd gwerthfawr, a'r gwir amdani yw bod cyfraddau ailgylchu yn Lloegr mor isel â 45 y cant oherwydd cymysgu gwastraff, sy'n arwain at gynnyrch wedi'i halogi na ellir ei ailgylchu.
Gall cynlluniau dychwelyd ernes weithio pan fyddant yn gysylltiedig â'r cynhyrchydd, ond ni ddylent gymryd lle ailgylchu wedi'i ddidoli wrth ymyl y ffordd, a gall ychwanegu prosesau ychwanegol fel arall, fel y gwelir gyda'r peilot yng Nghonwy. Nid yw ailgylchu'n ateb i brynwriaeth chwaith. Mae bob amser yn well lleihau, ailddefnyddio ac yna ailgylchu. Mae angen inni symud ymlaen gyda deddfwriaeth cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar draws holl wledydd y DU a gweithio i leihau'r defnydd o blastig untro. Lywydd dros dro, gweithredu, nid geiriau, sy'n cyfrif, a thra bod y Blaid Geidwadol mewn Llywodraeth yn parhau i gymeradwyo prosiectau olew a glo sy'n dinistrio'r hinsawdd ac yn torri trethi, sy'n hyrwyddo'n uniongyrchol y defnydd o deithiau hedfan domestig diangen, gan symud incwm oddi wrth ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ni chredaf y gallwn fod o ddifrif ynghylch eu syniad hwy o adferiad gwyrdd.
Ni ddylai Cymru gael ei dal yn ôl gan Weinidogion yn Lloegr ar fater yr argyfwng hinsawdd a'n dyfodol. Y Blaid Lafur sydd bob amser wedi bod o ddifrif ynghylch y fargen newydd werdd, a'r Llywodraeth Lafur sy'n mynd i sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru. Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn croesawu cynlluniau gan goleg yn fy etholaeth i, Grŵp Llandrillo Menai, ar gampws y Rhyl, i adeiladu canolfan rhagoriaeth peirianneg a fydd yn hyfforddi myfyrwyr mewn sgiliau technegol ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy, ac yn enwedig y ffermydd gwynt oddi ar arfordir gogledd Cymru. Mae ganddi'r potensial i fod yn ganolfan genedlaethol i'r diwydiant, gan hyfforddi pobl o bob rhan o'r wlad, gan gynnwys yn Lloegr. Bydd yn uwchsgilio ein gweithlu lleol a bydd yn hwb gwirioneddol i economi'r rhanbarth, tra'n hyrwyddo ein hymdrechion i fod yn garbon niwtral. Rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â chyfleoedd fel y rhain yn y Rhyl os ydym am gael adferiad gwyrdd sydd o fudd i bobl Cymru, ac sydd hefyd yn diogelu ein hamgylchedd, ac yn lliniaru'r argyfwng hinsawdd a wynebwn. Diolch.
Galwaf yn awr ar Luke Fletcher.
Diolch, Llywydd dros dro, a diolch, wrth gwrs, i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw.
Mae'n debyg fy mod am ddechrau fy nghyfraniad drwy wyntyllu fy rhwystredigaethau fy hun ynglŷn â'r ffordd rydym yn sôn am yr argyfwng hinsawdd a'r economi werdd. Rhaid imi ddweud, rydym wedi cael dadleuon dirifedi ar yr amgylchedd a'r economi werdd yn nhymor y Senedd hon yn unig, ac nid wyf hyd yn oed yn meddwl—Duw a ŵyr faint o ddadleuon a gafwyd yn fyd-eang ar yr amgylchedd, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y COP yn cyflawni. Ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig gyda'r awgrym a wnaed gan Gareth Davies yn ei gyfraniad y gallwn chwarae o gwmpas yr ymylon, nad oes rhaid inni wneud y newidiadau enfawr hyn yn ein ffordd o fyw. Rydym wedi bod yn chwarae o gwmpas yr ymylon ers degawdau, ac nid oes dim wedi newid. Y realiti yw bod angen newid systemig arnom, oherwydd caf hi'n anodd gweld sut y gall y system bresennol rydym yn byw ynddi ymdopi â'r dasg sydd o'n blaenau. Mae cymdeithas fel y mae, er enghraifft, yn rhoi'r unigolyn yn hytrach na'r lliaws ar bedestal. Gwelwn hynny gyda'r ffordd rydym yn addoli biliwnyddion, sut, yn ystod y COP, y mae pobl wedi mynd i berlewyg wrth feddwl bod y biliwnyddion hyn yn rhoi eu dwylo yn eu pocedi ac yn taflu ambell biliwn atom. Nawr, rwy'n ceisio peidio â bod yn wamal yma, oherwydd mae'n sicr yn £1 biliwn yn fwy nag y byddaf fi byth yn gallu cyfrannu fy hun, ond i rai o bobl fwyaf cyfoethog y byd, mae cwpl o biliynau yn ddiferyn yn y môr, yn enwedig pan fydd gan rai o'r biliwnyddion hyn gyfoeth sy'n cyfateb i'r holl arian sydd gan rai o wledydd dwyrain Ewrop. Ar ba bwynt—? Ac mae hwn yn gwestiwn difrifol. Ar ba bwynt, pan fyddwn yn wynebu—
A gaf fi wneud ymyriad?
Wrth gwrs. Ewch amdani, Janet.
Rwy'n gweld trywydd eich dadl, ond gyda phob parch i'r biliwnyddion hyn, a ydych chi erioed wedi cyfrif faint o swyddi y maent yn eu darparu? Faint o bobl sy'n bwydo oddi ar y gadwyn fwyd gan biliwnyddion? Nid yw mor syml â, 'O, y biliwnyddion cyfoethog hyn.' Mae unrhyw un yn gwybod, os edrychwch arno go iawn, fod y biliwnyddion hyn, fel rydych chi'n eu disgrifio fel—. Edrychwch ar faint o swyddi y maent yn eu darparu mewn gwirionedd.
Wel, fe daflaf hyn yn ôl atoch, Janet—a diolch am yr ymyriad hefyd—a ydych chi erioed wedi edrych ar faint o weithwyr sydd wedi dioddef amodau gwaith gwael er mwyn gwneud eu biliynau i'r biliwnyddion hynny? Dyna'r realiti yma. Mae llawer o dalu'n ôl i'w wneud, rwy'n meddwl. Ac ar ba bwynt, pan fyddwn yn wynebu trychineb sy'n bygwth dileu'r ddynoliaeth, pan welwn gymaint o dlodi, pan wyddom fod ffoaduriaid hinsawdd yn realiti—ar ba bwynt rydym ni fel cymdeithas yn dweud bod crynhoi'r fath gyfoeth yn anfoesol? Rhaid inni newid ein diwylliant fel cymdeithas yn awr er mwyn rhoi'r lliaws o flaen yr unigolyn, neu fel arall, mae'r gêm ar ben.
O ran y ddadl sydd ger ein bron heddiw ac yng nghyd-destun economi Cymru, mae adferiad gwyrdd yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Rhaid inni sicrhau fod y cyfnod hwn o drawsnewid ein heconomi yn un cyfiawn. Mae un o bob pump o weithwyr Cymru yn gweithio mewn sectorau sy'n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Rhaid peidio â gadael y rhai a gaiff eu taro gan y newid i sero-net ar ôl, a rhaid dod o hyd i le iddynt yn yr economi newydd, wyrddach hon. Rhaid i'r broses o ailsgilio gweithwyr sydd mewn diwydiannau carbon uchel ar gyfer diwydiannau'r dyfodol ddigwydd yn awr a rhaid inni fanteisio ar bwerau a'r pwerau sydd eu hangen arnom i sicrhau adferiad gwyrdd i Gymru. Mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi awgrymu y gellid creu 60,000 o swyddi gwyrdd yng Nghymru os ydym yn buddsoddi'n iawn, ond mewn arolwg gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, credai dros 78 y cant o gyflogwyr a ymatebodd fod prinder sgiliau i ddatgarboneiddio yn eu maes hwy. Mae hynny'n golygu bod angen strategaethau sgiliau, hyfforddiant a swyddi clir i gyrraedd targedau sero-net. Er mwyn gwireddu ein huchelgeisiau gwyrdd a sicrhau adferiad economaidd gwyrdd go iawn, mae angen inni fuddsoddi yn y gweithlu gwyrdd i gyflawni ar gyfer yr hinsawdd a natur. Mae angen inni uwchsgilio ein gweithlu ynni, ein gweithlu tai, ein gweithlu trafnidiaeth a thu hwnt i ddarparu swyddi gwyrdd er mwyn sicrhau canlyniadau gwyrdd.
Llywydd dros dro, dwi am ailbwysleisio'r ffaith bod yn rhaid i fesurau sydd yn taclo'r argyfwng hinsawdd hefyd taclo tlodi. Oni bai bod pawb gyda'r un modd i wneud y newidiadau sydd eu hangen, fe fyddwn ni byth yn symud ymlaen, ac mae hyn yn gysylltiedig â fy mhwynt ar ddechrau'r ddadl ynglŷn â sicrhau bod cymdeithas nawr yn newid ei diwylliant i un sydd yn pwysleisio budd y gymuned.
Dwi wedi sôn am sawl enghraifft yn y gorffennol o ran pam nad ydy pobl sydd yn byw mewn tlodi'n medru gwneud y newidiadau gwyrdd, ond man arall dwi heb sôn amdano eto yw ynni trydanol. Mae cwsmeriaid yn sicr yn wynebu costau ychwanegol wrth geisio bod yn fwy eco-gyfeillgar. Er enghraifft, os ewch i MoneySavingExpert.com i chwilio am dariff ynni adnewyddadwy llawn, dim ond un cyflenwr, Green Energy (UK), sydd ar gael. Bydd y gost bron â bod yn £500 y flwyddyn yn fwy na'r cap ar brisiau ynni a thariffau safonol dros y 12 mis nesaf. Ymhellach, yn ôl yr Express, fe all siopwyr sy'n ceisio newid i ddewisiadau gwyrdd ar gyfer eitemau cartref bob dydd wario tua £2,000 y flwyddyn yn ychwanegol yn y pen draw. Er bod yr opsiwn o roi cymorthdal ar gyfer ynni gwyrdd a dewisiadau gwyrdd yn gallu helpu, mae hyn ond yn cyffwrdd ar wyneb y mater, a dyna pam mae'n hollbwysig delio â thlodi yn y cychwyn cyntaf.
I gloi, Lywydd dros dro, mae Delyth Jewell wedi cyfeirio sawl gwaith yn y gorffennol at bryder hinsawdd. Rwy'n bendant yn ei chael hi'n anodd cael gwared ar y teimlad ei bod hi ar ben arnom wrth ystyried cyflwr y blaned, ac yn ei chael hi'n gynyddol anodd bod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Mae fy nyweddi a minnau—a gobeithio nad oes ots ganddi fy mod yn dweud hyn, ond rwy'n tybio y caf wybod heno—mae fy nyweddi a minnau wedi cael sgyrsiau dirifedi ynglŷn â chael plant. Nawr, pa fath o fyd y byddant yn tyfu i fyny ynddo? A ydym yn credu ei bod hi'n iawn i ddod â bywyd i mewn i fyd a allai fod yn marw? Dyma'r mathau o sgyrsiau sy'n digwydd ar draws y byd ar hyn o bryd. Mae'r pandemig wedi rhoi cyfle inni newid y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio, ac o ystyried yr argyfwng hinsawdd, rhaid i'n hadferiad fod yn wyrdd; mae maint yr her yn mynnu hynny. Ond rhaid i bob un ohonom fod yn barod i aberthu a rhoi ideoleg o'r neilltu a sylweddoli bod angen gweithredu radical cyfunol arnom, yn awr yn fwy nag erioed.
Unwaith eto, mae angen imi ddatgan buddiant fel cynghorydd, oherwydd byddaf yn sôn am Gyngor Sir Fynwy, ond hoffwn ddiolch yn gyntaf i fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, am gyflwyno'r ddadl amserol hon.
Mae newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar y byd; rydym i gyd yn gwybod hynny ac rydym i gyd yn gweld hynny. Yn ôl ym mis Awst, rhybuddiodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd fod gwyddonwyr yn sylwi ar newidiadau yn hinsawdd y Ddaear ym mhob rhanbarth, gyda thrychinebau naturiol yn mynd yn amlach ac yn taro cymunedau'n galetach. O'i roi'n syml, nid yw'n fater o a oes angen inni weithredu na pha bryd y bydd angen inni weithredu, oherwydd nawr yw'r amser.
Wrth siarad cyn agor COP26 ychydig ddyddiau'n ôl, dywedodd Ei Mawrhydi y Frenhines, y wraig a oedd yn y Siambr hon ychydig wythnosau yn ôl, fod angen i Lywodraethau
'godi uwchlaw gwleidyddiaeth y dydd' a gweithredu dros y 'plant a phlant ein plant'. Gwelsom hynny yn ein dadl flaenorol, ond yn anffodus, ni welsom hynny o reidrwydd yn gynharach heddiw yn y Siambr hon. Rwy'n siomedig fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn ymosod ar Lywodraeth y DU mewn stỳnt wleidyddol amlwg, yn hytrach na chefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn yr ysbryd adeiladol a oedd yn sail iddo.
Lywydd dros dro, mae'r pandemig wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru adeiladu nôl yn wyrddach ac yn decach, a chodi'r gwastad i gymunedau sydd wedi cael eu taro'n galed gan ansicrwydd economaidd y 18 mis diwethaf. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn gweld yr adferiad economaidd a chreu cymdeithas wyrddach fel dwy ochr i'r un geiniog, yn hytrach na fel pethau ar wahân.
Gyda hyn mewn golwg, mae ein cynnig yn rhestru nifer o gamau ymarferol y gall y Llywodraeth eu cymryd yn ystod tymor y Senedd hon. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt morol ac alltraeth, gan ddefnyddio ein sector ymchwil a datblygu o'r radd flaenaf yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cynllun go iawn i ddatblygu swyddi gwyrdd medrus iawn.
Mae'r cynnig hefyd yn cyfeirio at bethau y dylai Llywodraethau blaenorol Cymru fod wedi'u rhoi ar waith eisoes, megis Deddf aer glân a swyddfa annibynnol ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Wrth ddweud hyn, rwy'n cydnabod bod peth cynnydd da wedi'i wneud yng Nghymru, ac mewn ysbryd adeiladol, hoffwn ganolbwyntio'n fyr ar rai o'r rheini. Yn fwyaf arbennig, rwyf am ddefnyddio fy nghyfraniad yn y ddadl heddiw i dynnu sylw at y gwaith gwych y mae ein cymunedau lleol yn ei arwain.
Yn fy rhanbarth i, mae Cyngor Sir Fynwy wedi arwain y ffordd gyda chynllunio ar gyfer dyfodol glanach a gwyrddach ers iddo ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019. Er enghraifft, cyhoeddodd y cyngor strategaeth argyfwng hinsawdd yn fuan ar ôl y datganiad, ac ar hyn o bryd mae wrthi'n diweddaru ei gynllun gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Mae tîm seilwaith gwyrdd y cyngor yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, megis y prosiect cysylltiadau gwyrdd, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Mae cynghorau yn Nwyrain De Cymru o bob lliw yn wleidyddol wedi dod at ei gilydd gyda rhanddeiliaid fel Cyfoeth Naturiol Cymru i lansio partneriaeth grid gwyrdd Gwent. Prosiect newydd, arloesol yw hwn sy'n anelu at wella a datblygu seilwaith gwyrdd, yn ogystal â chreu swyddi newydd i bobl leol.
Gwn y bydd enghreifftiau eraill ledled Cymru o gymunedau, sefydliadau a chynghorau lleol sy'n cydweithio i weithredu yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Credaf o ddifrif fod angen ffrwd ariannu annibynnol, hygyrch a hirdymor i gynghorau a chymunedau fanteisio arni er mwyn gyrru'r mathau hyn o brosiectau yn eu blaen. Hefyd, mae angen inni ddwyn ynghyd y gwahanol ffrydiau ariannu presennol fel bod pobl yn gliriach ynghylch pa gymorth sydd ar gael.
Credaf hefyd fod angen inni edrych ar ffyrdd o gryfhau rolau cynghorau i gyflawni'r agenda werdd, yn ogystal â gosod y gwaith paratoi ar gyfer prosiectau cenedlaethol y mae Llywodraethau'r DU a Chymru yn arwain arnynt. Dim ond drwy ddod â gwahanol haenau o lywodraeth at ei gilydd y gallwn ddarparu cymdeithas sero-net go iawn.
Fy nghwestiwn i'r Gweinidog, yn ogystal â'r Aelodau, yw hwn: beth arall y gallwn ei wneud i hyrwyddo arloesedd lleol ac annog mwy o weithio mewn partneriaeth rhwng pob haen o lywodraeth a chymdeithas, fel y gallwn wneud mwy o'r camau bach a fydd yn y pen draw yn gwneud gwahaniaeth mawr i ymladd newid hinsawdd a hybu ffyniant yn ein cymunedau? Lywydd dros dro, rwy'n annog pawb yma heddiw i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.
Mae'r byd yn sefyll ar groesffordd, lle gall gwledydd ledled y byd barhau'n ddifeddwl ar eu llwybr presennol, gan ddefnyddio tanwydd ffosil y byd ar gyfradd frawychus, dinistrio ardaloedd enfawr o gynefin naturiol a thorri coed i fwydo ein hawydd am olew palmwydd ac afocados, mewnforio llawer iawn o nwyddau a bwydydd nad ydynt yn dymhorol a pharhau i lygru ein cefnforoedd a'n hamgylchedd naturiol â môr diddiwedd o blastig a gwastraff.
Gallwn ddewis llwybr brafiach, llwybr i ddyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy, lle gallwn fod yn warcheidwaid ein byd a gwrthdroi'r difrod i'n hecosystemau ac i'n hamgylchedd. Bydd angen i bob un ohonom gydweithio—gwledydd, llywodraethau, busnesau a phobl. Fel llywodraethau, dylem fod yn annog plannu coed mewn mannau priodol, yn annog cymhellion i 'brynu'n lleol' a bwyta bwydydd tymhorol. Gallai deddfwriaeth gyfyngu ar y defnydd o blastigau untro ac fel seneddwyr, mae gennym ddyletswydd foesol i wneud yr hyn a allwn, ac rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo adferiad gwyrdd yn ystod y chweched tymor seneddol.
Ond rhaid inni gofio am bobl Cymru—y bywydau y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt—ac mae angen inni sicrhau bod unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud mewn ffordd synhwyrol a chynaliadwy, ffordd sy'n cynnal bywoliaeth, yn creu swyddi ac nad yw'n achosi niwed nac yn gwthio baich y gost ar eu hysgwyddau hwy. Rhaid inni ddarparu'r seilwaith sydd ei angen i ganiatáu i'n busnesau fabwysiadu cymhellion gwyrdd. Mae angen inni gydweithio gyda diwydiannau, yn enwedig y sector amaethyddol, sydd o dan y lach yn rhy aml o lawer, pan ddylid eu cydnabod fel rhan bwysig o'r ateb i'n problemau, wrth iddynt gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel ar lefel leol, tra'n gwella'r ecosystemau ac yn diogelu bioamrywiaeth.
Ni allwn ddefnyddio'r hinsawdd fel pêl-droed wleidyddol. Mae amser yn brin. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn croesawu penodiad Gweinidog a Dirprwy Weinidog newid hinsawdd. Fodd bynnag, mae angen i'r adran hon weithredu a chyflawni er mwyn ymateb i'r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu, a byddwn yn gwylio ar yr ochr hon i'r Siambr. Drwy gydweithio ar draws y Deyrnas Unedig, gallwn wneud gwahaniaeth. Bydd cynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd yn newid dyfodol ein gwlad yn sylfaenol drwy gael adferiad gwyrdd, gan hyrwyddo a datblygu mwy o bŵer gwynt ar y môr a hydrogen i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil ac i greu swyddi. Byddant yn diogelu'r amgylchedd naturiol drwy blannu 30,000 hectar o goed bob blwyddyn.
Mae gennym ni ym Mhrydain hanes balch o leihau allyriadau carbon. Gostyngodd ein hallyriadau yn y wlad hon 44 y cant rhwng 1990 a 2019. Dylid dathlu hyn, ei addysgu mewn ysgolion, a'i bregethu o'r toeau fel enghraifft fyd-eang o'r hyn y gall y wlad hon ei wneud pan fyddwn yn dod at ein gilydd. Mae'n rhy hawdd i negeseuon gwae barhau, ond rhaid i bob un ohonom gael gobaith. Mae'r ddynoliaeth drwy'r oesoedd wedi profi sut y gallwn fod yn ddychmygus er mwyn goresgyn problemau a rhwystrau. Mae angen inni rymuso ein dinasyddion a'n busnesau i wneud y newidiadau y mae angen iddynt eu gwneud a dod o hyd i atebion technolegol i roi dyfodol brafiach i ni i gyd.
Os yw'r Llywodraeth am gael ei chredu ar y mater hwn, mae angen inni fynd i'r afael â newid hinsawdd yn gyffredinol. Rhaid iddynt fod yn onest gyda'r cyhoedd oherwydd mae angen iddynt wybod cost sero-net a'r effaith ar eu bywydau, gan fod llawer o ddefnyddwyr am wneud penderfyniadau moesegol gwell a dewisiadau gwell yn eu bywydau, ac mae hynny'n hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn awr, oherwydd mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, ac er mwyn helpu adferiad gwyrdd, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, a pheidio â pharhau i chwarae gwleidyddiaeth bleidiol a beio San Steffan am holl anawsterau Llywodraeth Lafur Cymru.
Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi cynllun i ddarparu cannoedd o swyddi coler werdd ar gyfer economi werdd a mwy cynaliadwy. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno'r Ddeddf aer glân ar frys, gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol, glanhau ein cefnforoedd, a gwneud yr hyn rydych yn ei bregethu a chael Cyfoeth Naturiol Cymru i gyrraedd eu targedau ailblannu coed, sy'n cael eu methu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gallech fod yn feiddgar a darparu buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt ar y môr, a pheidio ag anharddu ein cefn gwlad â thyrbinau gwynt a pheilonau, a gallech hefyd osod targedau cyraeddadwy, hirdymor ar gyfer adfer natur a bioamrywiaeth.
Mae'n bryd gweithredu yn awr. Mae'r amser i feio eraill ar ben. Dim ond drwy fod pob gwlad a phob dinesydd ar draws y byd yn gweithio gyda'i gilydd y gallwn wneud ein byd yn lanach ac yn wyrddach. Diolch.
Da iawn chi ar eich amseru. [Chwerthin.] Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Wel, cefais fy nghyffwrdd gan eiriau James Evans yno. Ar y diwedd dywedodd wrthym am wneud yr hyn rydym yn ei bregethu. Fe'n hatgoffodd fod gennym rwymedigaeth foesol i wneud yr hyn a allwn. Dechreuodd Janet Finch-Saunders y ddadl drwy ddweud bod angen inni wynebu mater diffiniol ein hoes. A heno, hoffwn ddyfarnu gwobr haerllugrwydd y flwyddyn i'r Ceidwadwyr. Mae'r rhagrith syfrdanol rhwng yr hyn rydym newydd ei glywed gan gyfres o Aelodau, a'r safbwyntiau y maent yn eu harddel dro ar ôl tro, y tu hwnt i eiriau, Lywydd dros dro. Nid oes dwy awr ers imi glywed araith gan Natasha Asghar yn ein beirniadu am atal cynllun ffordd, a byddwn yn dweud bod honno'n weithred sy'n dweud mwy na geiriau. A dyma ni'n cael y litani hon o ragrith oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, yn ein beirniadu am y camau rydym yn eu cymryd.
Dywedodd Janet Finch-Saunders fod angen inni weithredu drwy ariannu'r agenda werdd, sgiliau a datgarboneiddio bysiau, ond Lywydd dros dro, yr wythnos diwethaf mewn cyllideb pan na chrybwyllwyd yr ymadrodd 'newid hinsawdd' unwaith, gwelsom ein cyllideb gyfalaf yn cael ei thorri. Ar ddiwedd tymor y Senedd hon, fe fydd 11 y cant yn is nag ydyw heddiw; £3 biliwn yn llai i economi Cymru na phe bai'r Ceidwadwyr, ers iddynt gael eu hethol, wedi cadw gwariant yn unol â'r twf yn yr economi. Ni allwn fuddsoddi arian os nad yw'r arian hwnnw gennym. Mae'r arian rydym yn ei wario ar brentisiaethau a chymorth adeiladu ar hyn o bryd yn cael ei gyllido gan yr UE. Dywedodd y Llywodraeth hon wrthym na fyddem geiniog ar ein colled drwy adael yr UE. Eleni, pe baem yn dal o fewn yr Undeb Ewropeaidd, byddem yn disgwyl £375 miliwn, ac mae'r Llywodraeth Geidwadol hon wedi rhoi rhan fach iawn o hynny inni. Felly, nid wyf yn deall sut y mae'r Ceidwadwyr yn disgwyl i ni ariannu'r pethau y maent yn mynnu ein bod yn eu gwneud gan dorri ein harian ar yr un pryd.
Dywedodd Janet Finch-Saunders unwaith eto nad ydym yn gweithredu ar wahardd plastigau untro, ond gan fod y Llywodraeth hon wedi pasio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, nid ydym yn glir pa bwerau sydd gennym i weithredu. Felly, unwaith eto, maent yn ein beirniadu am beidio â gweithredu, ond mae eu Llywodraeth eu hunain yn rhoi camau ar waith sy'n ein hatal rhag gweithredu.
Cafwyd rhagrith pellach gan y Ceidwadwyr ar danwydd ffosil. Clywsom Brif Weinidog y DU yn dweud yn y COP yn Glasgow fod angen i'r Cenhedloedd Unedig gefnu ar lo, ond dyna'r gwrthwyneb i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Polisi presennol y Llywodraeth yw bod dyletswydd ar yr Awdurdod Glo i gefnogi parhau i gloddio am danwydd ffosil. Nid dyna'r hyn rydym am ei wneud yng Nghymru; mae gennym bolisi clir iawn i roi'r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil. Oni bai bod Llywodraeth y DU yn cytuno i'n cais i ganslo trwydded a roddwyd yn 1996 yn Aberpergwm, caiff tua 40 miliwn tunnell o lo ei godi o'r pwll glo hwn erbyn 2039—100 miliwn tunnell o garbon deuocsid. Rydym am gadw'r glo yn y ddaear, ond mae Llywodraeth y DU, oherwydd y pwerau sydd ar waith, yn bygwth gadael i'r glo gael ei godi yn groes i'n dymuniadau ni. Nawr, dywedodd yr Awdurdod Glo wrthym eu bod yn bwriadu cytuno i'n cais—i 'ddadamodi' y drwydded hon, fel y'i gelwir—ac rydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ofyn iddo ymyrryd. Felly, os yw'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon yn gwbl ddiffuant ynglŷn â'r angen i weithredu, efallai y gallent ein cefnogi drwy ysgrifennu at Kwasi Kwarteng, i ofyn iddo atal y glo hwn rhag cael ei gloddio o bridd Cymru, oherwydd nid ydym am iddo ddigwydd, a'r unig reswm y gallai ddigwydd yw oherwydd eu diffyg gweithredu a'u polisïau hwy.
Felly, dyna ddigon o'r rhagrith hwn. Rydym am gydweithio â'n cydweithwyr yn rhannau eraill y DU, ac rydym yn ymdrechu'n galed iawn i wneud hynny. Rydym wedi cyfarfod drwy gydol yr haf â Gweinidogion a swyddogion y DU, wrth inni lunio ein cynllun sero-net ochr yn ochr â'u cynllun sero-net hwythau. Yn wir, dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU wrthym y byddent yn rhannu eu cynlluniau gyda ni ymlaen llaw fel y gallem gydweithio. A wnaethant eu rhannu? Naddo, siŵr iawn. Ni welsom eu cynllun tan hanner nos ar y diwrnod y cafodd ei gyhoeddi. Nawr, sut y mae hynny'n gydweithio? Nid yw'n gydweithio; geiriau gwag ydyw.
Serch hynny, rydym yn gwneud ein gorau i gydweithio ar y cynllun dychwelyd ernes, ac er i Janet Finch-Saunders ddweud nad oedd unrhyw weithredu, rydym yn bwriadu ac yn gobeithio cyflwyno rheoliadau ar gyfer y cynllun, i weithredu'r cynllun, yn ystod haf 2022. Soniodd Janet Finch-Saunders am gynllun yng Nghonwy—cynllun rhagorol. Methodd sôn ei fod yn gynllun mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac wedi'i ariannu gennym. Ac ymwelais â'r cwmni technoleg Polytag yng Nglannau Dyfrdwy y mis diwethaf a gweld y gwaith eithriadol y maent wedi bod yn ei wneud gyda Chonwy ar gynllun dychwelyd ernes ddigidol. Credaf fod potensial gwirioneddol i hynny, ac rwy'n canmol Conwy am eu gwaith gyda ni a Polytag ar hynny.
Rydym yn cyflawni ein cynllun aer glân, sy'n cynnwys datblygu Bil aer glân, a fydd yn sefydlu cyfundrefn fwy rhagweithiol ar gyfer gwella ansawdd aer gan ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar bennu targedau. Newydd gael eu cyhoeddi y mae'r rhain, Lywydd dros dro, ac mae'n cymryd amser i ni a'n swyddogion eu hasesu a'u cynnwys yn y cynllun rydym yn ei ddatblygu. Ond wrth gwrs, nid ydym yn aros am Fil cyn gweithredu, rydym yn gweithredu yn awr. Ar ddechrau tymor diwethaf y Senedd, roedd Cymru'n gwario £5 miliwn y flwyddyn ar gynlluniau teithio llesol—cynlluniau i gael pobl allan o geir, a defnyddio trafnidiaeth lân ar gyfer teithiau lleol. Ar hyn o bryd, rydym yn gwario £75 miliwn bob blwyddyn ar gynlluniau. Gwyddom fod 10 y cant o deithiau ceir o dan filltir o bellter, a bod hanner y teithiau ceir o dan bum milltir o bellter. Gellid cael teithio llesol yn lle llawer o'r rhain. Rydym yn buddsoddi. Nid ydym yn aros am Ddeddf aer glân, rydym yn gweithredu yn awr.
Datblygir ein cynllun gweithredu sgiliau Cymru Sero Net i gynorthwyo gweithwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni newid teg sy'n lleihau allyriadau tra'n hyrwyddo swyddi sy'n talu'n dda. Fel rhan o'n hymrwymiad i ynni adnewyddadwy, rydym yn gweithio i sefydlu Cymru fel canolfan ar gyfer technolegau ynni morol sy'n datblygu, ac rydym wedi sefydlu rhaglen ynni morol i gyflawni'r ymrwymiad hwn. Ond er mwyn parhau i gefnogi'r diwydiant ar y lefel y credaf y byddai pawb yn y Senedd am ei gweld, rhaid i Lywodraeth y DU roi'r arian y byddai'r UE wedi ei roi yn y gorffennol yn llawn, arian sydd wedi bod mor allweddol i sicrhau'r cynnydd a wnaethom hyd yma. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant ar astudiaeth ddofn o rwystrau i ynni adnewyddadwy. Cyfarfûm eto y bore yma, cyfarfûm â diwydiant yn gynharach yr wythnos hon, ac rydym yn gwneud cynnydd da ar nodi'r camau y gallwn eu cymryd yn y tymor byr i wneud cynnydd.
Lywydd dros dro, mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau a phob cwr o Gymru. Mae hwn yn gyfnod heriol ac mae dewisiadau anodd o'n blaenau, ond mae gobaith, ac fel y dywedodd Delyth Jewell, mae gennym amser o hyd. Rydym yn rhoi camau ymarferol ar waith gyda'n gilydd, a gallwn wneud hynny eto, i sicrhau bod yr adferiad gwyrdd a newid i Gymru sero-net yn newid teg—un nad yw'n gadael neb ar ôl, gan sicrhau nad yw cost newid yn disgyn ar ysgwyddau'r tlotaf mewn cymdeithas. Ac mae ein cynllun Sero Net Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi 123 o bolisïau ac argymhellion a fydd yn cyflawni, yn ystod y pum mlynedd nesaf, ein targedau newid hinsawdd i'n rhoi ar y trywydd y mae angen inni fod arno i gyrraedd sero-net erbyn 2050. Mae angen i bob un ohonom wneud yn well, chwarae ein rhan ac arwain y ffordd tuag at Gymru werddach a chryfach. Ond ni wnaiff geiriau hynny, Ddirprwy Lywydd. Rhaid inni eu dilyn â gweithredoedd, ac mae arnaf ofn ein bod wedi clywed llwyth o ragrith pur nad yw o fudd i neb gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma.
Galwaf yn awr ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ond rwy'n teimlo braidd yn rhwystredig, fel y mae'r Aelod dros Fynwy, o gofio'r angen am gydweithrediad, partneriaeth a gwaith tîm i fynd i'r afael â newid a sicrhau economi werdd, fod y cynnig a gyflwynwn, sy'n ceisio gwneud yr holl bethau hynny gyda Llywodraeth Cymru er lles ein gwlad, yn cael ei ddiystyru a'i ddisodli gan gyfle arall eto i ladd ar Lywodraeth y DU. Gwnaeth Carolyn Thomas waith rhagorol o hynny yn ei chyfraniad y prynhawn yma. Yn yr ychydig fisoedd y bûm yn y Siambr hon, mae wedi bod yn gwbl amlwg, pan ddywed Llywodraeth Cymru, 'Nid oes monopoli ar syniadau da', yr hyn y maent yn ei olygu mewn gwirionedd yw, 'Byddwn yn anwybyddu'r syniadau nad ydynt yn syniadau gennym ni.'
Rydym ni ar y meinciau hyn yn ceisio gweithio i wella'r sefyllfa. Rwy'n edrych drwy'r cynnig yn enw Darren Millar o Orllewin Clwyd—afresymol? Nac ydy, nid oes dim yma sy'n afresymol. Yn wir, credaf ei fod yn gynnig cwbl synhwyrol sy'n ceisio meithrin consensws ar un o faterion pwysicaf ein hoes. Felly, pam na allwn geisio gweithio gyda'n gilydd? Rwy'n credu bod y ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn dweud ein bod yn haerllug yn gwbl anadeiladol yn y math o ddadl a thrafodaeth y ceisiwn ei chael ar fater mor bwysig y prynhawn yma.
Diolch byth, mae cydweithredu eisoes yn digwydd ledled Cymru fodd bynnag, ac mae gennym enghreifftiau o elusennau, sefydliadau, busnesau a phrifysgolion yn dod at ei gilydd i wneud yr hyn a allant gydag atebion arloesol. Rydym wedi clywed am rai o'r enghreifftiau yn barod. Soniodd Janet Finch-Saunders am un yn gynharach, a thynnaf eich sylw ati eto. Adfer morwellt a'r manteision amgylcheddol enfawr y gallai hyn eu cynnig. Mae Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol Abertawe yn arwain y Prosiect Morwellt, gydag ardaloedd o arfordir sir Benfro yn berffaith ar gyfer ailblannu, ac mae peth o'r gwaith eisoes wedi'i gwblhau. Collwyd cymaint â 92 y cant o forwellt y DU, ond bydd adfer y dolydd tanddwr hyn nid yn unig yn cefnogi bioamrywiaeth, mae morwellt yn storio carbon 30 gwaith yn gyflymach nag unrhyw goedwig naturiol ar y blaned.
Bydd y rhai ohonoch sy'n adnabod fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn gwybod bod ganddi hanes hir a dwfn o gysylltiad â'r diwydiant hydrocarbon. Ers nifer o flynyddoedd, mae'r cyflogwyr hyn wedi darparu swyddi medrus iawn ar gyflogau da yng ngorllewin Cymru. Er ein bod yn gwybod bod yn rhaid inni leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw ein bod yn trosglwyddo'n llwyddiannus o'n dibyniaeth ar danwydd ffosil tuag at danwydd adnewyddadwy gwyrdd. Os na wnawn hynny, a bod y tir yn cael ei dynnu o dan ein traed, bydd gennym argyfwng diweithdra a fydd yn achosi poen sylweddol i unigolion a theuluoedd. Fel y dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yn gywir, drwy newid o'r hen i'r newydd yn synhwyrol, gallwn ddefnyddio'r sgiliau hynny, y cwmnïau hynny a'r bobl hynny i ddatblygu'r ynni gwyrdd ac adnewyddadwy sydd ei angen arnom.
Rwy'n falch fod y Prif Weinidog ddoe, tra'i fod i fyny yn y COP, wedi tynnu sylw at brosiect Pembroke Dock Marine, a fydd yn darparu'r cyfleusterau, y gwasanaethau a'r gofod sydd eu hangen i sefydlu canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer peirianneg forol. Er y bydd iddo gymhwysedd ar draws y diwydiant, mae ei ffocws uniongyrchol ar y sector ynni carbon isel. Gydag Offshore Renewable Energy Catapult, Porthladd Aberdaugleddau, Ynni Morol Cymru a Celtic Sea Power i gyd yn rhan ohono, unwaith eto mae'n dangos pŵer partneriaeth a chydweithio i hyrwyddo adferiad gwyrdd.
Gadewch i fentrau fel hyn sicrhau newid sylfaenol. Gadewch i'r prosiectau arloesol hyn weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud y cynnydd a welodd y DU yn lleihau ei hallyriadau ymhellach ac yn gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y G7. Felly, rwy'n anghytuno'n llwyr â Delyth Jewell pan ddywed fod yn rhaid inni unioni'r camgymeriadau blaenorol; rydym eisoes yn gwneud hynny. Mae Luke Fletcher yn dweud nad oes dim wedi newid, ond yn ffodus, mae pethau wedi newid, rydym yn gwella. Rhaid imi ddweud bod gennych ychydig o wyneb yn dweud, 'Gadewch inni roi ideoleg o'r neilltu' a siarad wedyn am ddiddymu cyfalafiaeth. Mae angen i'r busnesau hyn helpu i wthio'r newidiadau er mwyn gwella pethau i bawb yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Yr hyn sy'n bwysig yw bod y cynnig hwn sydd gerbron y Siambr y prynhawn yma yn gydsyniol ac yn canmol llawer o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Mae fy nghyd-Aelodau i gyd ar yr ochr hon i'r Siambr heddiw wedi canmol Llywodraeth Cymru a llawer o'r effeithiau y maent eisoes wedi'u sicrhau, oherwydd rydym am gyflawni economi werddach a mwy ecogyfeillgar. Ond yn ôl y ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn dileu pwynt 4 o'n cynnig, mae'n ymddangos bod awydd i greu rhaniadau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn hytrach na dod o hyd i dir cyffredin a llwybrau ymlaen.
Ar adeg pan fo Llywodraethau'r byd yn cyfarfod i ddod o hyd i ganlyniadau cyraeddadwy i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a'r Prif Weinidog yn Glasgow yn canmol y rhinweddau hynny, dylem fod yn adlewyrchu hyn yn ein gweithredoedd i ddangos gwerth ein geiriau. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn fel y'i cyflwynwyd. Gadewch inni ddangos i bobl Cymru ein bod ni yma gyda'n gilydd yn gweithio ar y cyd tuag at wneud ein heconomi yn fwy gwyrdd ac yn fwy cynaliadwy. Diolch yn fawr, Lywydd.
Y cynnig yw i dderbyn y cynnig heb ei wella. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly fe wnawn ni ohirio'r eitem yna tan y cyfnod pledleisio.
Nawr fe wnawn ni gymryd toriad byr i baratoi ar gyfer y cyfnod pledleisio hwnnw.