– Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2021.
Felly, gan symud ymlaen at eitem 8 ar yr agenda, dadl ar gofio a chefnogi cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i wneud y cynnig, Hannah Blythyn.
Cynnig NDM7819 Lesley Griffiths, Siân Gwenllian, Darren Millar, Jane Dodds
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cofio ac yn cydnabod cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau i wasanaethu yn ein Lluoedd Arfog, yn arbennig y rhai a gollodd eu bywydau.
2. Yn croesawu ac yn talu teyrnged i’r cymorth a roddir gan sefydliadau’r trydydd sector i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn arbennig y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy’n dathlu can mlynedd o fodolaeth.
3. Yn mynegi ei gwerthfawrogiad llwyr o ymdrechion y Lluoedd Arfog gydol pandemig COVID-19 ac am y cymorth y maent yn parhau i’w ddarparu mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy ddarparu gwasanaethau a chymorth pwrpasol i gymuned y Lluoedd Arfog a thrwy gydweithio ac ymgysylltu yn barhaus â rhanddeiliaid.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cyfnod y cofio yn cynnig cyfle i bob un ohonom gofio, myfyrio a chydnabod cyfraniad y rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu. Mae'n amser i oedi ac i dalu teyrnged ar y cyd i'r gormod o lawer sydd wedi gwneud yr aberth eithaf, ac i ailddatgan ein cefnogaeth i gyn-filwyr a chymunedau ledled ein gwlad. Mae'n fraint cael arwain gwaith Llywodraeth Cymru wrth gefnogi ein cyn-filwyr a chymuned y lluoedd arfog, ac mae'n fraint gallu arwain y ddadl hon gan y Llywodraeth heddiw, cyn Diwrnod y Cadoediad ddydd Iau a Sul y Cofio.
Mae'r ddau ddiwrnod yn ein hatgoffa ni o'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac ymladd drwy ryfeloedd a rhyfelgyrchoedd ac wedi gwasanaethu mewn ymgyrchoedd cadw heddwch drwy gydol ein hanes hir—dynion a menywod o bob rhan o wledydd y DU a'r Gymanwlad, na fydd eu dewrder a'u haberth byth yn cael eu hanghofio. Yn gynharach heddiw, cefais y pleser o gefnogi Diwrnod Pabi Caerdydd y Lleng Brydeinig Frenhinol, lle ymunais â Roy Noble a'r band milwrol i gwrdd â gwirfoddolwyr sy'n nodi 100 mlynedd o apêl y pabi. Felly, eleni, mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn dathlu ei phen-blwydd yn gant oed, ac mae hynny'n ganrif o ddarparu cymorth a gwasanaethau i gymuned ein lluoedd arfog.
Yn wir, eleni mae nifer o ben-blwyddi arwyddocaol ac arbennig yn cael eu cofio. Buom yn coffáu un a phedwar ugain mlynedd y Llu Awyr Brenhinol ers Brwydr Prydain, a hynny oherwydd y bu rhaid gohirio coffau’r pedwar ugain mlynedd y llynedd oherwydd pandemig coronafeirws. Ym mis Medi, roeddwn yn bresennol mewn gwasanaeth yn Abaty Westminster i anrhydeddu ymdrech ryfeddol a buddugoliaeth y Llu Awyr Brenhinol yn y pen draw yn ystod Brwydr Prydain ym 1940. A chymerais ran yn agoriad arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain yng Nghaerdydd, i gydnabod nid yn unig cyfraniad y rhai a ddaeth i gael eu hadnabod fel 'yr ychydig', ond y swyddogaeth a chwaraeodd cymunedau ledled y wlad wrth gefnogi'r ymdrech a dod at ei gilydd. Collodd pum cant a deugain o beilotiaid a chriw awyr y Llu Awyr Brenhinol eu bywydau ym Mrwydr Prydain, gan gynnwys 67 o Gymry, nifer ohonyn nhw wedi ennill gwobrau gwroldeb am ddewrder. Roedden nhw'n cynnwys y peilot Swyddog Hedfan Harold Bird-Wilson a'r Rhingyll Glyn Griffiths, a oedd yn hedfan awyrennau Hurricane gyda 17 Squadron. Ni fydd eu haberth yn cael ei anghofio.
Yn 2021, rydym hefyd wedi talu teyrnged i waith y lluoedd arfog mewn gweithrediadau mwy diweddar, yn enwedig trigeinfed pen-blwydd Rhyfel y Gwlff. Cafodd dros 53,000 o aelodau o luoedd arfog y DU eu defnyddio yn ystod y gwrthdaro, gyda 47 o filwyr Prydain yn colli eu bywydau a llawer mwy wedi'u clwyfo. Talwn deyrnged i'w dewrder a'u haberth. A bydd llawer ohonoch yn cofio, neu wedi gweld y lluniau o Bluff Cove yn ystod rhyfel y Falkland ym 1982. Collodd lluoedd Prydain, gan gynnwys y rhai o Gymru, eu bywydau neu fe gawsant eu hanafu'n ddifrifol pan suddodd yr RFA Syr Galahad a Syr Tristram a thrwy'r ymgyrch a ddilynodd. Mae paratoadau ar y gweill ledled Cymru i nodi'r deugain mlynedd y flwyddyn nesaf.
Gan fyfyrio ar wrthdaro mwy diweddar, yn enwedig gyda digwyddiadau diweddar yn Affganistan, rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol i ni gymryd eiliad heddiw i gydnabod yr holl ddynion a menywod hynny a wasanaethodd yn Affganistan. A hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i bawb a ddarparodd gymorth y mae mawr ei angen—y bobl hynny a weithiodd yn ddewr ochr yn ochr â'n lluoedd ac sydd bellach yn y broses o adleoli yma o Affganistan. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod arnom ni groeso cynnes Cymreig iddyn nhw am yr hyn a wnaethant.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cymuned filwrol ac rydym yn falch o'r milwyr sy'n gwasanaethu a'r effaith gadarnhaol y mae ein lluoedd arfog a'u teuluoedd yn ei gael ar gymunedau. Felly, rydym yn parhau i bwysleisio'n llwyr wrth Lywodraeth y DU bwysigrwydd bod y lluoedd arfog yn cynnal presenoldeb ac ôl troed yng Nghymru sy'n gymesur â'r cyfraniad y mae Cymru'n ei wneud i'r lluoedd arfog, gan gynnwys nifer y dynion a'r menywod o Gymru sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi ein diolch i ddynion a menywod ein gwasanaethau arfog sy'n parhau i helpu ein cenedl i oresgyn yr heriau digynsail sy'n gysylltiedig â phandemig COVID-19. Maen nhw wedi torchi llewys ac wedi darparu cymorth hanfodol wrth gyflwyno'r brechlyn i gynorthwyo ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru, darparu cyfarpar diogelu personol a hyd yn oed dosbarthu bwyd. Rwy'n siŵr bod Aelodau'n ymuno â mi heddiw i ddiolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw wedi'i wneud.
Mae'r cyfnod cofio hwn yn gyfle i gofio cyn-filwyr ddoe, ond hefyd i ailddatgan ein cefnogaeth i gyn-filwyr heddiw ac i ddyblu ein hymdrechion i gyn-filwyr yfory. Ym mis Mehefin, lansiais drydydd adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau ein hymrwymiad parhaus i gymuned y lluoedd arfog. Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio ar draws pob sector. Ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan ddod â'u cyllid i £920,000 y flwyddyn, sy'n gynnydd o 35 y cant i gefnogi cyn-filwyr sydd angen cymorth gyda phroblemau iechyd meddwl. Gellir dod o hyd i gymorth hefyd drwy ein llinell gymorth iechyd meddwl CALL 24/7—cymorth yr ydym wedi ymrwymo i'w barhau.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog ym mis Tachwedd 2020 i roi'r dewis i gyn-filwyr y lluoedd arfog ymuno â'r gwasanaeth sifil. Drwy ein grŵp gweithredu cyflogaeth, rydym yn cefnogi digwyddiad cyflogaeth i'r rhai sy'n gadael y gwasanaeth a chyn-filwyr a gynhelir yn ddiweddarach y mis hwn, a fydd yn rhoi cyfle i gyflogwyr ddysgu am sgiliau trosglwyddadwy cyn-filwyr, ac, i gyn-filwyr, y cyfle i gael gwaith yn y dyfodol gobeithio.
Rydym hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban a Busnes yn y Gymuned i lansio ein dogfen 'Manteisio ar Dalent Teuluoedd Milwrol', sy'n nodi'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr ar gyfer priod a phartneriaid milwyr sy'n gwasanaethu. Ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddatblygu strategaeth deuluol newydd ar gyfer milwyr sy'n gwasanaethu, a fydd yn darparu'r cymorth a'r wybodaeth sydd eu hangen, boed hynny'n gyngor ar gymorth gofal plant neu'n gymorth i blant mewn addysg. Yn nes adref, rydym wedi buddsoddi £250,000 y flwyddyn yn y rhaglen Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru—SSCE Cymru—i roi cyngor a chymorth i blant milwyr yng Nghymru. Yn dilyn cais llwyddiannus i'r gronfa gyfamod ar gyfer SSCE, rwyf wedi penodi pedwar swyddog cyswllt ysgolion rhanbarthol plant milwyr ac maen nhw wrthi'n ymgysylltu ag ysgolion ac yn eu cefnogi i ddeall anghenion plant milwyr.
Rydym yn parhau i fuddsoddi £275,000 bob blwyddyn yn ein swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, AFLO. Nhw yw ein llygaid a'n clustiau gwerthfawr ar lawr gwlad, a bob tro y byddaf yn cael cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o Lywodraethau mewn rhannau eraill o'r DU, maen nhw'n cydnabod yn llwyr swyddogaeth a gwerth yr AFLO hynny. Maen nhw'n parhau i wneud cynnydd da o ran darparu gwasanaethau ar gyfer cymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys pethau fel darparu cyrsiau cymorth cyntaf iechyd meddwl i gymuned y lluoedd arfog a sefydliadau cymorth, hyfforddiant i staff awdurdodau lleol, heddluoedd, byrddau iechyd a sesiynau pwrpasol i aelodau staff yn yr Adran Gwaith a Phensiynau i godi ymwybyddiaeth o anghenion cyn-filwyr a'u teuluoedd, ochr yn ochr â gweithio gydag elusennau milwrol i sefydlu canolfannau cyn-filwyr mewn awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag unigrwydd a rhoi cymorth a chyngor.
Yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog, lansiwyd ein canllaw ailsefydlu cyntaf yng Nghymru. Datblygwyd hwn ar y cyd â'r Bartneriaeth Pontio Gyrfa a Brigâd 160 (Cymru) ac mae'n tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i filwyr sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd sy'n dychwelyd i fywyd sifil yng Nghymru. Gellir rhoi clod am y cyflawniadau hyn, ynghyd â llawer o rai eraill, i'n dull cydweithredol. Ar lefel weinidogol, rydym yn cyfarfod bob dwy flynedd gyda grŵp o arbenigwyr ein lluoedd arfog, ac yn ddiweddarach eleni bydd ein tri phrif swyddog arfog yng Nghymru, ar wahoddiad y Prif Weinidog, yn cael eu gwahodd i gyfarfod o'r Cabinet lle gallwn gryfhau ein perthynas waith sefydledig a chadarnhaol ymhellach.
Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau dychwelyd yn fyr at bwyslais y ddadl goffa heddiw. Mae'r cynnig yn gofyn i ni anrhydeddu gwasanaeth ac aberth milwyr sy'n gwasanaethu yn y gorffennol a'r presennol. Mae hefyd yn gyfle i ddiolch i'n lluoedd arfog presennol am eu cefnogaeth barhaus a gwerthfawr mewn ymateb i bandemig COVID-19, ac i dalu teyrnged i waith y Lleng Brydeinig Frenhinol wrth iddi ddathlu ei blwyddyn canmlwyddiant. Mae'n ailddatgan ein cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog. Ac, wrth gwrs, dylem ni, pob un ohonom, ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i wrthdaro a rhoi terfyn ar bob rhyfel. Rydym yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, a'r rhai sydd wedi dioddef anaf meddyliol a chorfforol. Dywedwn 'diolch' o galon wrth i ni dalu teyrnged i ddewrder ac aberth ein lluoedd arfog, ein cyn-filwyr a'u teuluoedd.
Byddwn yn eu cofio.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Heledd Fychan i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i bawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd. Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng dathlu rhyfel a nodi aberth unigolion, ac wrth i ni gofio'r holl rai a gollwyd oherwydd rhyfel a gwrthdaro yr wythnos yma, mae’n bwysig hefyd cofio arwyddocâd eu haberth. Wrth gofio, rhaid mynnu cynnydd hefyd ar waith heddwch, a gofynnaf yn garedig am eich cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer ein gwelliant sydd yn nodi cefnogaeth i’r angen i ymdrechu i sicrhau atebion heddychlon i bob gwrthdaro. Llynedd, fe wnaethom groesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru, a thestun balchder yw gweld eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, megis seremoni gwobrau heddychwyr ifanc, lle dathlwyd cyfraniadau pobl ifanc i heddwch. Golyga hyn bod y cenedlaethau nesaf yn cael cefnogaeth i lunio dyfodol heddychlon.
Dros y degawdau diwethaf mae gan Gymru record ddinesig arbennig mewn perthynas â hybu heddwch a chydsafiad rhyngwladol. Gwelwyd hyn yn fwyaf diweddar wrth i Urdd Gobaith Cymru groesawu teuluoedd o ffoaduriaid o Affganistan a oedd angen llety ar frys. Mae enghreifftiau di-ri eraill ar hyd y blynyddoedd, megis neges heddwch ac ewyllys da gan bobl ifanc Cymru, a fydd yn dathlu ei ganmlwyddiant flwyddyn nesaf; yr apêl heddwch a wnaed yn 1923 a 1924, pan lofnododd 40 y cant o ferched Cymru ddeiseb yn galw ar ferched yn Amercia i lobïo Arlywydd America i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd; a’r ymgyrchoedd yn erbyn arfau sydd wedi para 40 mlynedd gan CND Cymru a sefydliadau fel mudiad gwrthapartheid Cymru.
Mewn maes sydd wedi bod am ddegawdau yn anllywodraethol gan fwyaf, hoffwn feddwl ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar waith heddwch wrth gael strategaeth cysylltiadau rhyngwladol yn 2019. Fe fydd Plaid Cymru bob amser yn barod i weithio gyda’r academi i sicrhau bod heddwch yn ganolog yn strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, a bod Cymru’n gwneud cyfraniad tuag at ymchwil ac arfer a gaiff ei gydnabod yn fyd-eang. Mae’r hyn rydym wedi ei gyflawni ers diwedd y rhyfeloedd byd yn ein hatgoffa bod munud o dawelwch yn deyrnged fach i’r rheini sydd wedi colli eu bywydau yn enw rhyfel. Ond nid yw munud yn ddigon. Rhaid hefyd eu cofio yn ein gwaith ac yn ein gweithredoedd drwy gydol y flwyddyn, fel nad yw eu haberth yn ofer.
Yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol, mae'n berthnasol bod ein cynnig trawsbleidiol heddiw yn cynnig bod y Senedd hon yn cofio ac yn cydnabod cyfraniad pawb sydd wedi gwasanaethu ac yn parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog, yn enwedig y rhai a wnaeth yr aberth eithaf.
Fel y dywed ein cynnig hefyd, rhaid i ni groesawu a thalu teyrnged i'r gefnogaeth y mae sefydliadau'r trydydd sector yn ei rhoi i gymuned ein lluoedd arfog yng Nghymru, sy'n cynnwys gwasanaeth mentora cymheiriaid Newid Cam, a ddarperir gan gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr, dan arweiniad CAIS, sydd bellach yn rhan o Adferiad Recovery; Woody's Lodge, sy'n darparu canolfan gyfathrebu a chymdeithasol ar gyfer y gymuned gyn-filwyr yng Nghymru; Cartrefi Alabaré a Chymdeithas Tai Dewis Cyntaf ar gyfer cyn-filwyr; elusen y lluoedd arfog SSAFA; ac, wrth gwrs, y Lleng Brydeinig Frenhinol. Ymddiheuraf i unrhyw un arall nad wyf wedi cael amser i sôn amdanyn nhw.
Gwasanaethodd dros 6 miliwn o ddynion yn y rhyfel byd cyntaf, ac o'r rhai a ddaeth yn ôl, roedd 1.75 miliwn yn anabl. Ar 15 Mai 1921, ffurfiwyd y lleng Brydeinig gan Field Marshal Earl Haig a Bombardier Tom Lister, gan ddod â phedwar sefydliad cenedlaethol o gyn-filwyr at ei gilydd. Dilynodd adran y menywod yn gyflym. Ym mis Medi 1921, mabwysiadodd y lleng y pabi fel symbol o goffadwriaeth, ac agorodd ei ffatri pabi y flwyddyn ganlynol. Yfory, rwy'n noddi derbyniad galw heibio canmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac anogir yr Aelodau i fod yn bresennol.
Cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai, roedd maniffesto'r lleng yn cynnwys galwadau ar Lywodraeth nesaf Cymru—y Lywodraeth Cymru hon—i weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu gwasanaethau canolfannau ailsefydlu yng Nghymru, sicrhau y gall cyn-filwyr a anafwyd gael gafael ar driniaeth poen cronig yn gyson, ymrwymo i ariannu'n barhaol y gronfa Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru, ehangu a chyflymu'r broses o gyflwyno cyfweliadau gwarantedig ar gyfer y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, milwyr wrth gefn a gwŷr a gwragedd priod ar gyfer swyddi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ymestyn yr angen am flaenoriaethau tai ar ôl gwasanaeth milwrol, sicrhau bod gwŷr neu wragedd neu bartneriaid milwr sydd wedi ysgaru neu wedi gwahanu yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gymorth tai, a darparu gwell cymorth i gyn-filwyr sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau.
Mae'n 16 mlynedd ers i mi godi'r angen i gyn-filwyr y lluoedd arfog â thrawma gael mynediad at ofal iechyd meddwl a chael triniaeth â blaenoriaeth yma. Yn anffodus, mae fy mhledion mynych i gynnal seibiant preswyl a thriniaeth yng Nghymru ar gyfer y rhai ag anghenion acíwt wedi cael eu hanwybyddu. Yn y pen draw, lansiwyd GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan ddarparu asesiadau dibreswyl a thriniaeth seicolegol i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru ar gyfer problemau iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma, PTSD. Fodd bynnag, gan weithio gyda'r sector, galwais dro ar ôl tro am adolygu ei gyllid dros y blynyddoedd dilynol. Fel y dywedais yma o bell fis Tachwedd diwethaf:
'Mae'n hanfodol fod gwaith caled GIG Cymru i Gyn-filwyr yn parhau ac yn parhau i ehangu' ac—
'Mae achos busnes GIG Cymru i Gyn-filwyr dros fwy o arian bellach yn ddiymwad'.
Rwyf felly'n croesawu'r cynnydd yn y cyllid a gyhoeddwyd ers hynny. Dywedant wrthyf eu bod yn ddiolchgar am y cynnydd hwn eleni i gadw'r staff yn gyflogedig a ariannwyd gan Help for Heroes am dair blynedd. Fodd bynnag, maen nhw'n ychwanegu bod sawl cais arall am gyllid yn eu hachos busnes y mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag ariannu, gan gynnwys mentoriaid cymheiriaid a gyflogir gan y GIG a mwy o sesiynau seiciatrydd, dim ond un diwrnod y mis ar hyn o bryd. Dim ond ddoe, adroddodd BBC Wales am gyn-filwyr yng Nghymru gydag anhwylder straen wedi trawma yn galw am fwy o gefnogaeth.
Arweiniais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008 yn cefnogi ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod y lleng, gan ddod i'r casgliad bod yn rhaid ymladd hyn nes iddo gael ei ennill. A chroesawais ei fod wedi'i gynnwys mewn deddfwriaeth 10 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, rwy'n parhau i gael gwaith achos lle nad yw cyrff cyhoeddus yn anrhydeddu hyn. Yn ei adolygiad annibynnol o'r cyfamod i nodi ei ddegawd cyntaf, mae'r lleng yn datgan, er nad oes angen 'newid sylfaenol' ar gyfer y degawd nesaf, ei bod yn gofyn am
'egni o'r newydd mewn cyfathrebu a phenderfyniad i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion pawb yng nghymuned y Lluoedd Arfog sydd ei angen.'
Arweiniais ddadl yma am y tro cyntaf saith mlynedd yn ôl yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiynydd y lluoedd arfog. Pan godais hyn eto dair blynedd yn ôl, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthyf y byddai hyn yn dargyfeirio adnoddau o wasanaethau a chymorth ymarferol. Rwyf felly'n croesawu'r cyhoeddiad yng nghyllideb hydref y DU ynghylch sefydlu comisiynydd cyn-filwyr i Gymru, a fydd yn gweithio i wella bywydau—
Mark, a wnewch chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda?
—a chyfleoedd cymuned cyn-filwyr Cymru, gan gydnabod eu cyfraniad i luoedd arfog y DU.
I gloi, rwyf unwaith eto'n mynegi diolch am y cyfraniad sylweddol a wnaed gan y lluoedd arfog i ymateb COVID-19 yng Nghymru, gan bwysleisio'r angen i ymdrechu i ddatrys pob gwrthdaro yn heddychlon a chofio pawb, milwrol a sifiliaid, sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfel.
Mae wedi bod yn brynhawn braidd yn gecrus, a chredaf ei bod yn iawn ac yn briodol ein bod yn cwblhau ein trafodaethau y prynhawn yma drwy ddod at ein gilydd a chofio bod llawer mwy sy'n ein huno, hyd yn oed Darren, nag sy'n ein rhannu. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ddweud gair am ymrwymiad Darren i'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, a gwn ei fod yn rhywbeth a werthfawrogir gan gymuned y cyn-filwyr a'r lluoedd arfog ledled Cymru, a hoffwn yn sicr dalu teyrnged i chi, Darren, am y gwaith a wnewch wrth arwain y grŵp hwnnw. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru, dros y blynyddoedd, wedi ceisio ac wedi gweithio i sicrhau bod y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddarparu i gyn-filwyr ac i gymuned y lluoedd arfog sy'n gwasanaethu ac yn bodloni holl rwymedigaethau'r cyfamod, ond mae'n ymddangos ei fod yn mynd ymhellach hefyd.
Wrth gyfrannu'r prynhawn yma, rwyf wedi bod yn myfyrio ar ganmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol. Roedd, wrth gwrs, wedi'i sefydlu yng nghysgod y rhyfel mawr, a dylanwadwyd ar lawer o'r pethau a welwn ni heddiw gan y gwrthdaro hwnnw. Nid ydym yn dathlu gwrthdaro, ac nid ydym yn dathlu rhyfel, rydym yn cymryd eiliad i grymu pen mewn distawrwydd, i gofio'r bobl hynny a gollwyd, a aberthodd dros ein rhyddid ac i ddiogelu ein cymdeithas a'n cymunedau. Nid oes neb yno'n cymryd unrhyw bleser mewn rhyfel a rhyfeloedd, ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd eu haberth, ac rydym yn crymu pen mewn distawrwydd, ac mae'r distawrwydd hwnnw'n cynrychioli cof y gwrthdaro hwnnw. Yn yr un modd, pan fydd y rheini ohonom sydd wedi ymweld â'r mynwentydd hynny ar draws y ffrynt orllewinol ac yn Normandi ac mewn mannau eraill—fe welwch y beddau hynny, pob un ohonyn nhw'n gyfartal, nid yn ôl safle, nid yn ôl statws cymdeithasol, ond gyda'i gilydd mewn marwolaeth mewn cydraddoldeb, unwaith eto, o ganlyniad i'r aberth hwnnw. Mae'r senotaffau a'r cofebau a welwn ym mhob tref, pob cymuned, pob pentref, pob dinas yn y wlad hon, unwaith eto'n cofio aberth y dynion a'r menywod hynny yn y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd, i raddau helaeth, ond hefyd mewn gwrthdrawiadau dilynol. A phan fyddaf yn sefyll eto gyda'r lleng Brydeinig a chydag eraill yn Abertyleri fore Sul, byddwn yn crymu pen er cof am y bobl o'n cymunedau a gollwyd wrth ymladd am ein bywoliaeth a'n bywydau a'n gwlad.
Mae'n bwysig ein bod yn anrhydeddu'r cof hwnnw, ond mae'n bwysig hefyd ein bod heddiw'n anrhydeddu'r cof hwnnw nid yn unig ar un diwrnod neu ddau ddiwrnod o'r flwyddyn, ond ar 365 diwrnod o'r flwyddyn drwy sicrhau nad ydym yn siomi pobl, bod gennym y gwasanaethau ar gael i gyn-filwyr, ein bod yn darparu gwasanaethau i gymuned y lluoedd arfog, ein bod yn gallu sicrhau, boed yn anghenion iechyd corfforol neu iechyd meddwl, eu bod yn cael eu diwallu, a'n bod yn parhau i ddarparu cymorth i'r lluoedd arfog yn y wlad hon. Soniodd y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau yn gynharach y prynhawn yma fod Cymru yn draddodiadol ac yn dal i gyfrannu mwy o bobl i wasanaethu yn y lluoedd arfog na'n poblogaeth. Mae'n bwysig ein bod yn gallu parhau i gefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu heddiw, i sicrhau bod ganddyn nhw, nid yn unig yr offer sydd ei angen arnyn nhw, ond ein bod yn cefnogi'r sylfaen ddiwydiannol sy'n cynnal ein rhyddid, ein bod yn cefnogi'r sylfaen ddiwydiannol sy'n sicrhau bod gan ein lluoedd arfog bopeth sydd ei angen arnyn nhw i'w cadw'n ddiogel ac i'w hamddiffyn pan fyddant yn ymladd drosom, ac mae gennym ni gyfrifoldeb llwyr i wneud hynny, ond hefyd i sicrhau y gallwn ddarparu'r seiliau, y lleoliadau, y cyfleusterau ar gyfer y lluoedd arfog yma yng Nghymru.
Ymunodd rhai ohonom â'r fyddin ar batrôl ymgyrch Cambrian yn gynharach yr hydref hwn, a gwelsom eto'r aberth y mae pobl yn ei wneud a'r hyn a ddisgwylir gan filwyr heddiw. Mae'n bwysig ein bod yn gallu parhau i wneud hynny.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, gobeithiaf y byddwn yn ymuno â'n gilydd yn y Siambr hon a thu hwnt i grymu pen y penwythnos hwn a'r wythnos hon er cof am bawb aeth o'n blaenau ni. Ond, ddydd Llun nesaf, byddwn yn torchi llewys i barhau â'r gwaith i gefnogi'r bobl hynny sydd gyda ni heddiw sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu.
Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn gyfle i lawer oedi ac ystyried y rhai y mae gwrthdaro arfog ledled y byd wedi effeithio arnyn nhw. Fel rhywun a oedd â thad-cu a wasanaethodd ac sy'n ei gofio yn sôn am ei brofiadau, rwy'n gyfarwydd â'r effaith y gall y lluoedd arfog ei chael ar eich bywyd, yn dda ac yn ddrwg. Rydym ni'n gwybod o ymchwil a gafodd ei gynnal gan dîm Plaid Cymru yn San Steffan fod cyn-bersonél y lluoedd arfog yn aml yn cysgu ar y strydoedd, yn y carchar neu'n ymdopi â chamddefnyddio sylweddau. Yn gysylltiedig â'r ymchwil hon roedd galwad gan ein plaid am well ôl-ofal i gyn-filwyr, rhywbeth sy'n arbennig o bwysig yng Nghymru o ystyried y niferoedd anghymesur o uchel o bersonél y lluoedd arfog, neu gyn-bersonél y lluoedd arfog, o'r wlad hon.
Roedd cyfamod y lluoedd arfog, a gafodd ei ymgorffori yn y gyfraith 10 mlynedd yn ôl, yn ymateb i'r diffyg chwarae teg o ran trin cyn-filwyr. Mae pethau wedi gwella ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, ond mae lle i wella. Er enghraifft, mae grŵp arbenigol y lluoedd arfog, sy'n cynghori ar sut y gall gwasanaethau cyhoeddus ddiwallu anghenion cymuned y lluoedd arfog, wedi dweud bod sawl peth y gallai'r Llywodraeth yng Nghymru ei wneud i wella pethau. Mae hyn yn cynnwys cynllun cenedlaethol i weithredu newidiadau o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006, ymrwymiad i ariannu'n barhaol gronfa Cymru i gefnogi addysg plant y lluoedd arfog ac ymestyn blaenoriaeth tai i gynnwys pum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth milwrol. Wedi dweud hynny, dylid rhoi canmoliaeth pan fo'n ddyledus, ac mae Plaid Cymru yn croesawu'r ymrwymiad diweddar yng nghyllideb yr hydref i sefydlu comisiynydd cyn-filwyr cyntaf Cymru. Gobeithio y bydd hyn yn helpu i ddal y rhai sy'n syrthio pan fydd y rhai yn San Steffan, sy'n ymddangos yn ddigon hapus i anfon ein dynion a'n menywod i faes y gad ond sy'n llai awyddus i helpu i wella'r niwed y mae hyn yn ei achosi, yn anghofio amdanyn nhw.
Mae sefydliadau'r trydydd sector yn gwneud gwaith gwych, ond mae angen i Lywodraeth San Steffan wella a gwneud mwy i bawb sydd wedi gwasanaethu ac y mae angen cymorth parhaus arnyn nhw. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y gwelwn ni ostyngiad sylweddol yn nifer cyn-bersonél y lluoedd arfog sy'n mynd yn ddigartref neu'n gaeth i rywbeth. Bydd hefyd yn lleddfu'r baich ar y sector elusennol, sy'n gorfod gwneud yr hyn y dylai unrhyw Lywodraeth gyfrifol fod yn ei wneud yn y lle cyntaf. Nid yw rhwymedigaeth Llywodraeth i bobl sydd wedi gwasanaethu yn dod i ben pan fyddan nhw'n gadael y lluoedd, a gorau po gyntaf y bydd y rhai yn San Steffan yn sylweddoli hynny. Diwrnod y Cofio hwn, testament parhaol a phriodol i bawb sydd wedi gwasanaethu fyddai gwella'n sylweddol wasanaethau cymorth y wladwriaeth a fydd yn cadw cyn-filwyr mewn cof drwy gydol y flwyddyn, nid ar Ddiwrnod y Cofio yn unig. Diolch yn fawr.
Hoffwn i ddiolch yn gyntaf i'r Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru am weithio yn drawsbleidiol ac am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'r dydd Iau hwn, wrth gwrs, yn nodi cant a thair blynedd ers llofnodi'r cadoediad a ddaeth â'r rhyfel byd cyntaf i ben, rhyfel lle cafodd dros 1 miliwn o bobl Prydain eu hanafu, a 40,000 o'r rhain yn dod o Gymru. Ac ers llofnodi'r cadoediad, mae bron i 0.5 miliwn yn fwy o filwyr Prydain wedi gwneud yr aberth eithaf mewn rhyfeloedd yn erbyn ffasgaeth, totalitariaeth ac ymddygiad ymosodol tramor. Ar Ddiwrnod y Cofio hwn, nid ydym ni ond yn nodi ac yn cofio'r rhai a roddodd eu bywydau dros y wlad 103 mlynedd yn ôl, rydym ni hefyd yn nodi saith mlynedd ers diwedd y rhyfel yn Affganistan, 10 mlynedd ers diwedd y rhyfel yn Irac, 30 mlynedd ers diwedd rhyfel y Gwlff, 39 mlynedd ers diwedd rhyfel y Falklands, 68 mlynedd ers diwedd rhyfel Korea ac, wrth gwrs, 76 mlynedd ers diwedd yr ail ryfel byd. Rhyfeloedd a gwrthdaro oedd y rhain lle gwnaeth miloedd o filwyr Prydain yr aberth eithaf, ac yn ystod Wythnos y Cofio hon a'r holl Wythnosau Cofio yn y dyfodol y mae'n rhaid i ni eu cofio a'u hanrhydeddu.
Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n nodi ac yn dathlu ymrwymiad personél sy'n gwasanaethu ledled Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys milwyr wrth gefn yn ogystal â chyn-filwyr a'u teuluoedd, a'r cyfraniad y maen nhw'n ei wneud bob dydd o'r flwyddyn, fel y mae eraill wedi ei ddweud eisoes. Yr ymrwymiad y mae ein personél sy'n gwasanaethu yn ei wneud pan fyddan nhw’n cael eu hanfon dramor neu ar y môr am fisoedd heb weld eu teuluoedd, yr ymrwymiad y mae milwyr wrth gefn yn ei wneud i roi o'u hamser hamdden i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r gweithrediadau a'r gallu amddiffyn yma yn y DU, a'r ymrwymiad y mae cyn-filwyr yn ei ddangos pan fyddan nhw'n ailymuno â bywyd sifil ac yn dod â'r sgiliau gwerthfawr y maen nhw wedi eu caffael o'r lluoedd arfog gyda nhw. Ac oherwydd yr ymrwymiad hwnnw y mae'n rhaid i ni fel deddfwyr a dinasyddion anrhydeddu cyfamod y lluoedd arfog. Mae'r addewid hwnnw yr ydym ni'n ei wneud fel cenedl y byddwn ni'n sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog—a'u teuluoedd—yn cael eu trin yn deg ac na fyddan nhw'n wynebu anfantais. Ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, hoffwn i gofnodi fy ngwerthfawrogiad i'r Dirprwy Weinidog a'i rhagflaenwyr a'i swyddogion am eu hymrwymiad parhaus i anrhydeddu'r cyfamod hwnnw.
Mae llawer iawn wedi ei gyflawni yng Nghymru dros y blynyddoedd, gan gynnwys sefydlu GIG Cyn-filwyr Cymru, penodi Gweinidog sy'n gyfrifol am y lluoedd arfog, yr ymrwymiad i'r cymorth ariannol parhaus i'r swyddogion cyswllt pwysig iawn hynny yn y lluoedd arfog, y cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer cyn-filwyr ac wrth gwrs, gallwn i fynd ymlaen. Maen nhw i gyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled y wlad, ond mae hefyd yn wir dweud bod lle i wella o hyd; mae yna bob amser. A hoffwn i weld cefnogaeth fwy amserol i gyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl; cyllid mwy cynaliadwy ar gyfer y mentoriaid cyfoedion hynny sy'n eithriadol o bwysig fel rhan o'r rhaglen gymorth hefyd.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, yn hapus.
Nodaf eich bod chi'n sôn am gefnogaeth i gyn-filwyr. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Barry John MBE o Oriel VC yn fy etholaeth i? Mae'n arwain tîm o wirfoddolwyr sy'n helpu cyn-filwyr a'r gymuned ehangach sy'n ymdrin â materion iechyd meddwl drwy gelf a chrefft, sy'n gymorth gwych yn fy nghymuned wledig.
Byddwn i wrth fy modd yn estyn fy llongyfarchiadau a diolch i Barry John am y gwaith y mae'n ei wneud, ac i'r arwyr cudd eraill hynny ledled Cymru sy'n gwneud cymaint i gefnogi a helpu cyn-filwyr ledled y wlad.
Felly, mae angen cymorth arall arnom ni o hyd i blant y lluoedd arfog, ac wrth gwrs mae angen i ni ailgychwyn y rhaglen Cymru'n Cofio i hyrwyddo'r pen-blwyddi milwrol pwysig hynny, er enghraifft yr un sydd ar ddod y flwyddyn nesaf, deugain mlynedd ers gwrthdaro'r Falklands, ond heb amheuaeth—er gwaethaf yr angen i wella yn y meysydd hynny o leiaf—mae ymrwymiad gwirioneddol gan y Llywodraeth hon, y dylech chi gael eich cymeradwyo amdano, ni waeth pa fainc y mae unrhyw un yn eistedd arni yn y Siambr hon.
Bu rhywfaint o gydweithio pwysig a chadarnhaol iawn hefyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac rydym ni wedi gweld y gwaith rhynglywodraethol hwnnw yn mynd o nerth i nerth, yn enwedig yn ystod pandemig y coronafeirws, a welodd personél sy'n gwasanaethu yn cynorthwyo gyda gyrru ambiwlansys, cefnogi canolfannau prawf, darparu cyfarpar diogelu personol ar gyfer ein hysbytai, a helpu wrth gwrs gyda'r broses orau yn y byd honno yr ydym ni i gyd mor falch iawn ohoni o gyflwyno'r brechlyn yma yng Nghymru. Ac rwy'n gobeithio y bydd y cydweithrediad cadarnhaol hwnnw yn parhau gyda phenodiad comisiynydd cyn-filwyr Cymru, y cafodd y cyllid ar ei gyfer ei gyhoeddi yn natganiad cyllideb diweddar y Canghellor.
Yn fyr iawn o ran gwelliant Plaid Cymru: byddwn ni, wrth gwrs, yn cefnogi'r gwelliant hwnnw. Mae rheidrwydd moesol ar bawb i ymdrechu i gael datrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro sy'n dod i'r amlwg, ac rwy'n gwybod bod ein lluoedd arfog Prydeinig yn helpu i wneud hynny; maen nhw'n cadw heddwch mewn gwledydd ledled y byd ar hyn o bryd. Felly, byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant hwnnw.
Felly, Dirprwy Lywydd, i gloi, hoffwn i dalu teyrnged i gymuned gyfan lluoedd arfog Cymru, gan gynnwys y personél presennol sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, eu teuluoedd, a'r grwpiau a'r elusennau hynny sy'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r gymuned honno; yn enwedig y Lleng Brydeinig Frenhinol, yn eu canfed flwyddyn. Rydym ni'n ddyledus iddyn nhw i gyd.
Mae'n iawn ein bod ni fel Senedd yn dangos parch a chydnabyddiaeth o'r aberth y mae personél ein lluoedd arfog, yn ddynion ac yn fenywod, wedi ei wneud dros lawer iawn o flynyddoedd, a byddwn ni'n sefyll gyda'n gilydd yn y dyddiau nesaf ac ar Sul y Cofio i gofio'r aberth sydd wedi ei wneud; y rhai sydd wedi dychwelyd, sydd wedi eu hanafu, yn gorfforol neu'n feddyliol, o'u rhan mewn diogelu ein hynysoedd, ond hefyd wrth ddiogelu eraill mewn mannau pell y byd.
A hoffwn i ddweud un peth am y rhai hynny a wnaeth yr aberth yn aml mewn mannau ledled y byd sydd wedi eu hanghofio erbyn hyn: un o'r anrhydeddau mwyaf a gafodd i roi i mi erioed oedd cael aelodaeth anrhydeddus o Gymdeithas Genedlaethol Cyn-filwyr Malaya a Borneo yn y de, grŵp yr wyf i wedi bod yn agos ato am flynyddoedd lawer iawn. Dyna un enghraifft o wrthdaro sy'n cael ei hanghofio yn aml, ond, wrth i ni edrych yn ôl, nid yn unig ar yr hyn sy'n cael ei alw y rhyfel mawr, neu i'r ail ryfel byd a'r aberth a gafodd ei wneud yno, rydym ni'n anghofio, ar ôl y ddau ryfel hynny, roedd Palesteina, roedd Malaya, roedd yr ymosodiad ar HMS Amethyst ar afon Yangtze, roedd Korea, roedd yr Aifft, roedd Kenya, roedd Cyprus, roedd Aden, penrhyn Arabia, Congo, Brunei, Borneo, roedd Gogledd Iwerddon, y mae gormod ohonom ni'n ei gofio mewn hanes diweddar, Darfur, Rhodesia, y Falklands, rhyfel y Gwlff, Irac, Cambodia, y Balcanau, Sierra Leone, Affganistan, ac wrth gwrs Libya hefyd.
Nid oedd pob un o'r rhain yn sefyllfaoedd gwrthdaro. Roedd rhai o'r rhain, fel sydd wedi ei nodi y ddadl hon eisoes, yn sefyllfaoedd cadw'r heddwch, gan gynnwys gweithrediadau ar gyfer y Cenhedloedd Unedig, lle cafodd dynion a menywod ein lluoedd eu dirprwyo i ddiogelu eraill ledled y byd. Dyna pam mae'n iawn ein bod ni'n dod at ein gilydd a'n bod ni yn cofio, ac yn oedi, ac yn myfyrio ar yr aberth sydd wedi ei wneud gan y rhai sy'n dychwelyd, ond hefyd gan y rhai na fyddan nhw byth yn dychwelyd, y dros 7,000—ymhell dros 7,000 o unigolion ers yr ail ryfel byd—na fyddan nhw byth yn dychwelyd, mewn rhyfeloedd diweddar ac mewn rhyfeloedd sydd wedi eu hanghofio hefyd, mewn mannau pell ledled y byd. Ac yn anghymesur bydd llawer ohonyn nhw wedi dod o Gymru, yn anghymesur bydd llawer wedi dod o gymunedau dosbarth gweithiol, felly yn ogystal â'r prif gynnig heddiw, byddaf i hefyd yn cefnogi'r gwelliant, oherwydd er ein bod ni'n cofio ac yn cydnabod gyda pharch yr aberth y mae pobl wedi ei wneud o'n cymunedau ein hunain, a ledled gwledydd yr ynys hon, rydym ni hefyd yn cydnabod bod angen i ni ganolbwyntio ar heddwch. Mae'n rhaid mai dyna'r nod yn y pen draw. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mae cofio yn perthyn i ni i gyd. Mae hynny oherwydd ein bod ni i gyd yn elwa ar yr hyn a sicrhaodd cenedlaethau'r gorffennol ar ein rhan ni: rhyddid. Ni fyddai'r rhyddid yr ydym ni'n ei fwynhau nawr wedi bod yn bosibl heb aberth y rhai a wnaeth ollwng gafael ar eu rhyddid.
Ar adeg pan fo ein cymdeithas yn parhau i fod yn fwy tameidiog a phryderus nag y gallai unrhyw un ohonom ni fod wedi ei feddwl nac y byddem ni'n ei ddymuno, mae cofio yn rhywbeth y gallwn ni ei rannu fel aelodau o gymdeithas. Gwnaeth milwyr Prydain ymladd ochr yn ochr â milwyr o bob rhan o'r Gymanwlad, gan gynnwys 1.5 miliwn o filwyr o India, 40,000 ohonyn nhw'n Fwslimiaid o Bacistan bresennol, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn dal i fod yn anymwybodol bod Mwslimiaid wedi ymladd dros Brydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dylai'r hanes cyffredin hwn chwarae rhan enfawr yn y broses o integreiddio diwylliannau sydd ar hyn o bryd yn ei chael hi'n anodd eu cysoni. Mae'r fenter Cofio Gyda'n Gilydd yn dod â phobl at ei gilydd i ddysgu am fyddinoedd aml-ethnig, aml-ffydd y Rhyfel Byd Cyntaf, ac i ddeall beth all cofio ein hanes ei olygu i hunaniaeth ac am berthyn yn ein cymdeithas heddiw.
Pan fyddwn ni'n coffáu brwydrau yn y gorffennol, am y dewrder, yr aberth a'r golled, rydym ni'n meddwl am bawb a atebodd yr alwad i amddiffyn rhyddid rhag gormes, pobl a oedd, er gwaethaf eu gwahaniaethau, ag un peth yn gyffredin—eu dynoliaeth gyffredin. Nid yw bodolaeth a goroesiad dynol yn amodol ar yr unigolyn a'r gymuned yn unig, ond hefyd y berthynas sy'n datblygu rhwng yr unigolyn a'r gymdeithas, sy'n darparu gwir ffynhonnell oleuedigaeth i'r ddau ac sy'n helpu'r ddynoliaeth i ffynnu. Fel unigolyn, ni allwch chi gyflawni perffeithrwydd oni bai eich bod chi'n rhan o'r gymuned, lle mae cymaint i'w ennill.
Fel llawfeddyg sydd wedi ymddeol, caf fy atgoffa ar yr adeg hon o'r flwyddyn am gyfraniad ein meddygon a'n nyrsys mewn cyfnod o ryfel. Y rhyfel byd cyntaf y rhyfel gwirioneddol ddiwydiannol cyntaf mewn hanes dynol, rhyfel a fyddai, dros bedair blynedd, yn arwain at farwolaeth dros 750,000 o filwyr Prydain, ac anafu 1.6 miliwn arall, a'r mwyafrif ag anafiadau orthopedig. Yn y cyd-destun hwn, daeth sgiliau'r llawfeddyg orthopedig i'r amlwg. Bu farw miliynau a chafodd miliynau eraill eu gadael yn anabl. Yn wyneb lladdfa o'r fath, fe wnaeth y proffesiwn meddygol, yn wir, ymateb yn wych.
Dau Gymro oedd yn gyfrifol am un o'r datblygiadau pwysicaf, sef sblint Thomas, sy'n dal i gael ei ddefnyddio mewn ardaloedd rhyfel heddiw. Cafodd ei ddyfeisio ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y llawfeddyg arloesol Hugh Owen Thomas o Lerpwl, a gaiff ei ddisgrifio yn aml fel tad orthopedeg Prydain, a anwyd ar Ynys Môn i deulu o osodwyr esgyrn. Ond ei lawfeddyg o nai Robert Jones, yn ddiweddarach Syr Robert, ac yntau'n uwch-frigadydd arolygydd orthopedeg yn y lluoedd arfog, oedd yn bennaf yn gyfrifol am gyflwyno ei ddefnydd ar faes y gad yn y rhyfel byd cyntaf ac a ddaeth yn dad llawdriniaeth orthopedig Prydain. Roedd wedi sefydlu ysbyty yng Nghroesoswallt cyn y rhyfel gydag Agnes Hunt. Maes o law, byddai Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yn cael ei gydnabod fel canolfan ragoriaeth orthopedig.
Ym 1914, bu farw 80 y cant o filwyr gydag esgyrn y glun wedi eu torri. Roedd defnyddio sblint Thomas yn golygu erbyn 1916, bod 80 y cant o filwyr a ddioddefodd yr anaf hwnnw wedi goroesi. Gyda channoedd o filoedd o filwyr wedi eu hanafu yn dychwelyd adref, arweiniodd y rhyfel byd cyntaf hefyd at bwyslais newydd ar adsefydlu a gofal parhaus. Roedd datblygiadau enfawr mewn technoleg coesau a breichiau prosthetig i ddiwallu anghenion cannoedd o filoedd o drychedigion. Roedd y system gofal iechyd wedi ei llethu ond cafodd gallu newydd ei sefydlu. Mae'r rhyfel byd cyntaf yn cael ei gofio am gymaint—am ryddid, am fywyd heb berygl o ymosodiad. I mi fel llawfeddyg, mae hi hefyd yn ymwneud â'r hyn a wnaeth eraill i drin a chefnogi'r rhai a oedd wedi ymladd ac a gafodd eu hanafu. Felly, heddiw roeddwn i eisiau cydnabod hyn a dweud gyda balchder y byddwn ni i gyd yn eich cofio chi. Diolch.
Rwyf i hefyd yn ddiolchgar iawn am gael siarad yn y ddadl heddiw mewn ymdeimlad o ysbryd trawsbleidiol, yr wyf i o'r farn y dylai hi fod. Ac fel Huw Irranca-Davies, un o adegau mwyaf balch fy nghyfnod i fel Aelod o'r Senedd oedd pan ddes i'n aelod anrhydeddus o gangen Shotton a Glannau Dyfrdwy y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Mae'r ddadl heno yn gyfle i fyfyrio ac i dynnu sylw at bwysigrwydd y gweithredoedd coffa niferus a fydd yn digwydd ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig yn ystod y dyddiau nesaf. Wrth gwrs, fel llawer o bobl eraill, byddaf i'n bresennol mewn digwyddiadau yma yn fy nghymuned fy hun ac yn talu fy nheyrnged fy hun i bawb sydd wedi gwasanaethu ac sydd yn gwasanaethu, ac yn enwedig i'r rhai sydd wedi colli eu bywydau wrth amddiffyn popeth sydd yn annwyl i ni. Llywydd, byddwn ni yn eu cofio.
Rwyf i hefyd yn talu teyrnged i bawb yn y Lleng Brydeinig Frenhinol am bopeth y maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod yr apêl pabi yn gymaint o lwyddiant bob blwyddyn. Can mlynedd yn ôl, cafodd y pabi ei ddewis fel symbol o gofio oherwydd pa mor gyflym yr ailymddangosodd ar feysydd brwydr y rhyfel byd cyntaf. Mae'n gweithredu fel cyswllt rhwng y cenedlaethau, cyswllt sy'n golygu na fyddwn ni byth yn anghofio'r rhai a wasanaethodd a'r aberth a wnaethon nhw. Llywydd, rwy'n gobeithio y cawn ni i gyd gyfle yn y dyddiau nesaf i fynychu digwyddiadau coffa, a hoffwn i dalu teyrnged a diolch i'r rhai hynny yn fy nghymuned i yn Alun a Glannau Dyfrdwy am drefnu digwyddiadau o'r fath. Ond rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom ni fel Senedd drawsbleidiol heddiw yn ymrwymo unwaith eto i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog bob amser. Diolch yn fawr.
Mae'r dyddiau nesaf yn ein galluogi i gasglu ein meddyliau a myfyrio ar y rhai sydd wedi gwasanaethu ein cenedl dros y blynyddoedd, a'r rhai sy'n dal i wasanaethu heddiw, i'n cadw ni'n ddiogel. Byddwn ni'n bresennol yn ein gwasanaethau coffa yn fuan, a byddwn ni'n gwrando ar yr enwau'n cael eu darllen o'n senotaffau a byddwn ni'n ceisio dychmygu'r bobl hynny a safai yno o'n blaenau ni ac a syrthiodd ar ein rhan ni yn rhyfeloedd y blynyddoedd a fu. Mae'r atgofion ingol hyn yn ein gwreiddio ni ac yn dod â ni ynghyd ag ymdeimlad o undod a diolch diffuant. Mae'n anodd deall sut beth oedd hi i'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf, yn enwedig yn eu dyddiau a'u horiau olaf, ac mae yr un mor anodd deall yr hyn y mae llawer o gyn-filwyr yn byw ag ef heddiw, ac mae ein calonnau'n mynd allan i bob un ohonyn nhw.
Heddiw, rydym ni'n meddwl am y cyn-filwyr hynny, allan yn ein cymunedau, sy'n cario creithiau corfforol a meddyliol gwasanaeth gweithredol diweddar. Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r unigolion hynny fel erioed o'r blaen. Mae llawer yn byw gydag atgofion sy'n hunllef iddyn nhw, a'r anhwylder straen wedi trawma a ddaw yn ei sgil. Rwyf i wedi gweld hyn yn uniongyrchol, a minnau'n dad i gyn-filwr ifanc. Roedd fy mab yn filwr ifanc a oedd yn gwasanaethu yn Affganistan pan gafodd ei dargedu gan fomiwr hunanladdol ar y strydoedd o amgylch Kabul. Achubodd y car arfog yr oedd yn ei yrru ei fywyd, ond ni allai ei achub rhag y trawma meddyliol a ddilynodd hynny. Fe wnaeth ef, fel miloedd lawer o gyn-filwyr eraill, gael trafferth am flynyddoedd gyda chyflwr gwanychol. Roedd fy mab i yn ffodus bod y Lleng Brydeinig Frenhinol ac elusennau eraill wedi ei helpu mewn sawl ffordd a'i helpu i ddringo allan o'r lle hwnnw yr oedd ef ynddo, a byddaf i'n fythol ddiolchgar am y cyrff hynny.
Ond, yn anffodus, mae cymaint o gyn-filwyr allan yno y mae angen cymorth arbenigol arnyn nhw o hyd, mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i ddod o hyd i ffyrdd gwell o'u cefnogi. Fe wnaethom ni ddarllen yn y newyddion ychydig ddyddiau yn ôl am yr heriau sy'n wynebu cyn-filwyr mor bell yn ôl â rhyfel y Falklands, sy'n dal i fyw â hunllefau eu profiadau blaenorol, ond sy'n teimlo nad yw'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar gael mewn gwirionedd. Rwy'n siŵr bod llawer mwy y gallwn ni ei wneud i helpu'r rhai hynny sydd wedi gwneud cymaint drosom ni, ac rwy'n gwybod y bydd pawb yn y Siambr hon yn dymuno gwneud rhagor o gynnydd i'r diben hwnnw. Yng nghyllideb yr hydref yn ddiweddar, roedd yn dda gweld y cyhoeddiad am gyllid ar gyfer comisiynydd cyn-filwyr Cymru i wella bywydau a chyfleoedd cyn-filwyr Cymru yn y gymuned. Rwy'n gobeithio y gall ein Gweinidog rannu sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar hyn, a sut y gall y comisiynydd helpu i oruchwylio'r gwaith o gyflawni cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru.
Rwy'n croesawu rhai o'r pethau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu gwneud, fel sydd wedi ei adrodd yn adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog. Gallwn ni i gyd gefnogi'r camau cadarnhaol, fel y cynllun Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau'r Lluoedd Arfog, a'r gefnogaeth i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru, gyda'r arian ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar gan y Llywodraeth. Mae'n rhaid croesawu hyn, yn ogystal â'r ymrwymiad i gynyddu'r cyllid i SSCE Cymru i gefnogi plant y lluoedd arfog yng Nghymru, ac rydym ni hefyd yn cefnogi gwaith gwych swyddogion cyswllt y lluoedd arfog. Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod sawl maes y byddai modd eu gwella a'u datblygu, ac ni fyddaf i'n eu rhestru yn y fan yma, ond rwy'n gwybod y bydd pob un ohonom ni yn y Siambr hon, o ba blaid bynnag, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi Llywodraeth Cymru i wella pethau lle bo angen.
Dirprwy Lywydd, mae'r lluoedd arfog sydd gennym ni yn fendith i ni, gyda dynion a menywod o'r radd uchaf yn gwasanaethu, sydd wedi ymrwymo'n llwyr i'r bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu. Cafodd hyn ei ddangos yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, drwy adegau trychinebau fel llifogydd, ac wrth gwrs y 18 mis diwethaf drwy'r pandemig—un o'r cyfnodau anoddaf mewn cof byw. Mae ein diolch yn mynd iddyn nhw i gyd. Mae'n galonogol gwybod eu bod nhw yno bob amser pan fydd heriau'n codi.
I gloi, yn ystod y dyddiau nesaf byddwn ni'n meddwl am y rhai sydd wedi mynd o'n blaenau ac wedi rhoi cymaint, ynghyd â'r rhai sy'n parhau i fyw gyda thrawma rhyfeloedd a'r rhai sy'n gwasanaethu heddiw. Maen nhw i gyd yn ein meddyliau, ac rydym yn diolch iddyn nhw i gyd, yn awr ac yn y gorffennol. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch yn wirioneddol i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau meddylgar a thwymgalon i'r ddadl y prynhawn yma? Rwy'n credu bod Alun Davies wedi taro'r hoelen ar ei phen pan agorodd drwy ddweud y bu'n brynhawn eithaf pigog mewn rhai o'r dadleuon a'r trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael. Ond, mewn gwirionedd, mae'r naws a natur sydd wedi eu defnyddio i ymdrin â'r ddadl hon yn destament nid yn unig i'r pwnc ei hun, ond, mewn gwirionedd, i'r sefydliad hwn yn ei gyfanrwydd hefyd. Rwy'n siŵr na fydd ots ganddo fy mod i'n dweud hyn—ac rwy'n golygu hyn yn y ffordd orau bosibl—mae llawer o bethau yr wyf i'n anghytuno â Darren Millar arnyn nhw, ond ar y mater hwn mae gennym ni achos cyffredin yn sicr. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd a bwrw ymlaen â hynny, nid yn unig y gwaith yr ydych chi'n ei wneud gyda'r grŵp trawsbleidiol, ond wrth gefnogi'r grŵp arbenigol hefyd, a thu hwnt i hynny, ac mae yna bethau yr ydym ni'n parhau i weithio arnyn nhw gyda'n gilydd a bwrw ymlaen â nhw.
Roedd cymaint o gyfraniadau gan yr Aelodau a byddaf i'n gwneud fy ngorau i geisio'u crisialu a'u crynhoi. Soniodd Mark Isherwood am ran y sefydliadau gwirfoddol hynny yn y trydydd sector, ac rydym ni'n cydnabod yn llwyr ein bod ni, yng Nghymru, wedi gallu gwneud yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud ac y byddwn ni'n gallu parhau i ddatblygu'r gwaith hwnnw oherwydd ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth. Fe wnes i geisio nodi'r holl sefydliadau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, ond nid wyf i'n mynd i geisio'u rhestru nhw nawr oherwydd byddaf i'n sicr yn anghofio rhywun. Cyfrannodd yr holl sefydliadau y gwnaethoch chi eu rhestru yn eich cyfraniad at yr ymarfer cwmpasu a wnaethom ni ac rydym ni'n parhau i weithio gyda nhw i ddatblygu'r gwaith ac yn derbyn y pwyntiau y gwnaethon nhw i wella'r cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru. Ac o ran canolfan ailsefydlu, rydym ni mewn cysylltiad â'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynglŷn â hynny i annog sefydlu canolfan ailsefydlu yng Nghymru, a byddaf i'n parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw a byddwn i'n croesawu unrhyw gymorth gan gyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr i fynd â hynny ymhellach gyda'ch cyd-Aelodau chi yn San Steffan hefyd.
Cyfeiriodd nifer o'r Aelodau at y cyhoeddiad mwy diweddar yng nghyllideb y DU o gomisiynydd y lluoedd arfog. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi bod yn glir erioed ynghylch y dull gweithredu yng Nghymru o roi'r adnoddau i wasanaethau rheng flaen, ond rydym ni'n croesawu'r ddeialog â'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr a byddwn ni'n parhau i weithio gyda nhw yn awr ac yn edrych ar roi'r comisiynydd ar waith yn ymarferol, i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â, ac yn gydnaws â, ac yn ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru, ac yn ceisio dangos sut y gallwn ni barhau i weithio gyda'n gilydd i ehangu a datblygu'r gwaith hwnnw.
Heledd Fychan, yn eich cyfraniad chi, fe wnaethoch chi sôn ei bod yn bwysig nodi nad yw cofio yn dathlu rhyfel, ond yn cydnabod yr ymrwymiad a'r aberth a wnaeth pobl, ond hefyd ddyblu ein hymdrechion i ymrwymo i ddatrysiad heddychlon. Fe wnaethoch chi restru ymrwymiad a thraddodiad balch mudiad heddwch yng Nghymru a'n croeso i'r rhai hynny a oedd o gymorth i ni yn Affganistan sydd wedi symud i Gymru erbyn hyn. Cefais y fraint, mewn gwirionedd, nos Sadwrn i gwrdd â rhai o'r 10 cyfieithydd hynny o Affganistan sydd wedi dod yma a oedd yn bresennol yn yr ŵyl goffa fel gwesteion arbennig y 160ain Brigâd (Gymreig) yn Neuadd Dewi Sant. Ac mewn gwirionedd, wrth gyfeirio at Neuadd Dewi Sant, roedd y Prif Weinidog hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, ac yn ymyriad Sam Kurtz i gyfraniad Darren Millar, soniodd ef am Oriel VC a gwaith gwych Barry John, ac mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi Oriel VC ac mae hi mewn cysylltiad rheolaidd â nhw. Ac yn wir, Barry John oedd awdur y gerdd a gafodd ei darllen gan y Prif Weinidog yng ngŵyl y cofio nos Sadwrn.
Rydym ni wedi sôn am yr ymrwymiad personol, y cysylltiadau personol. Rwy'n gwybod, Peredur Owen Griffiths, eich bod chi wedi sôn am eich cysylltiadau personol eich hun ac rydym ni i gyd wedi sôn am yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Ac o ran cysylltiadau personol, hoffwn i ddiolch yn wirioneddol i Peter Fox am rannu a siarad â ni am ei fab a wasanaethodd yn Affganistan a'r effaith y mae hynny wedi ei chael arno ers hynny. Rwy'n gwybod fy mod i'n siarad ar ran Llywodraeth Cymru a phob un ohonom ni yma gan ddiolch iddo nid yn unig am ei wasanaeth, ond mewn gwirionedd am ein hatgoffa ni pam ei bod mor bwysig ein bod ni'n parhau i ddatblygu ein hymdrechion i wneud popeth y gallwn ni, nid yn unig i ddweud 'diolch', ond i sicrhau bod y gefnogaeth yno i'r rhai sydd ei hangen pan fydd ei hangen arnyn nhw hefyd. Ac yn yr un modd, rydym ni wedi clywed am yr hyn y bydd pobl yn ei wneud yn ystod y dyddiau nesaf i gofio, i fyfyrio ac i gydnabod yn ein hetholaethau ein hunain, ac, fel llawer o'r Aelodau, byddaf i, mewn etholaeth fel fy un i, yn ymdrechu'n galed iawn i fod mewn mwy nag un lle ar yr un pryd. Rwy'n mynd i wasanaeth yn Neuadd Llaneurgain ddydd Iau ar Ddiwrnod y Cadoediad ei hun, ac yna dau wasanaeth, un yn y bore yn Nhreffynnon ac un yn y prynhawn yn y Fflint ar Sul y Cofio. Rwy'n gwybod bod Jack Sargeant wedi sôn llawer am y ffordd y mae'n aelod anrhydeddus o gangen leol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod etholaeth Jack wedi ymrwymo'n fawr i gefnogi a bod yno yn y gwasanaeth coffa. A byddaf i'n dweud, os yw fy hen ewythr Tommy yno, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddisgwyl, rwyf i'n dweud ar ei ran ef nawr, y byddai'n eithaf hoffi peint yn y clwb Llafur wedyn, Jack, os yw hynny'n iawn gyda chi [Chwerthin.]
Soniodd Altaf Hussain am—. Rwy'n cefnogi'n llwyr ac yn adleisio'r sylwadau ynghylch cyfraniad personél y lluoedd arfog o bob cefndir ffydd a phob cwr o'r Gymanwlad, ac rwy'n gwybod bod Jane Hutt wedi bod yn bresennol mewn gwasanaeth ym Mharc Cathays yn ddiweddar ynghyd â Chyngor Hil Cymru ac eraill i gydnabod y rhan y mae personél pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi ei chwarae wrth wasanaethu mewn rhyfeloedd.
I gloi, Llywydd, mae ein hymarfer cwmpasu wedi dangos bod—. Fel yr ydym ni wedi ei ddweud heddiw, rwy'n ddiolchgar am y consensws trawsbleidiol a'r gydnabyddiaeth o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru, ond nid wyf i'n anghytuno, fel bob amser, fod mwy y byddai modd ei wneud bob amser, ac rydym ni'n awyddus i ddatblygu'r gwaith hwnnw a'r gefnogaeth sydd ar gael, a dyna oedd y meddylfryd y tu ôl i'r ymarfer cwmpasu. Rydym ni bellach yn bwrw ymlaen â'r canlyniadau hynny ac yn eu rhoi ar waith. Mae mwy i'w wneud. Mae mwy i'w wneud bob amser—mwy y gallwn ni ei wneud a mwy y byddwn ni'n ei wneud. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid i ddarparu'r gwasanaethau a'r gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu gymaint i gyn-filwyr ein lluoedd arfog a'u teuluoedd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn pellach yw: a ddylid derbyn y cynnig wedi ei ddiwygio?
Cynnig NDM7819 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cofio ac yn cydnabod cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau i wasanaethu yn ein Lluoedd Arfog, yn arbennig y rhai a gollodd eu bywydau.
2. Yn croesawu ac yn talu teyrnged i’r cymorth a roddir gan sefydliadau’r trydydd sector i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn arbennig y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy’n dathlu can mlynedd o fodolaeth.
3. Yn mynegi ei gwerthfawrogiad llwyr o ymdrechion y Lluoedd Arfog gydol pandemig COVID-19 ac am y cymorth y maent yn parhau i’w ddarparu mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy ddarparu gwasanaethau a chymorth pwrpasol i gymuned y Lluoedd Arfog a thrwy gydweithio ac ymgysylltu yn barhaus â rhanddeiliaid.
5. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel.
6. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil.
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad eto. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Rydyn ni'n dod nawr at y cyfnod pleidleisio, ond fe fyddwn ni'n cymryd egwyl fer cyn y cyfnod pleidleisio i baratoi ar gyfer y pleidleisio hynny.