– Senedd Cymru am 6:20 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Y ddadl fer fydd nawr nesaf. Fe wnaf i adael rhyw gymaint o amser i basio i Aelodau fedru gadael y cyfarfod os ydyn nhw'n dymuno, ac i wneud hynny'n dawel. Mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Rhys ab Owen.
Ydych chi am i fi ddechrau nawr? Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi wedi cytuno i roi munud i fy nghyfaill Mabon ap Gwynfor.
Pasiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y Siambr hon chwe blynedd yn ôl. Ei nod oedd ymgorffori yn ein cyfraith, yn ein cyrff cyhoeddus, a'n diwylliant, saith nod llesiant a phum egwyddor datblygu cynaliadwy. Roedd y pum egwyddor hyn i fod i gael eu rhoi wrth wraidd pob penderfyniad gan gorff cyhoeddus—pob nod a phob gweithgaredd hefyd. Roedd egwyddorion o feddwl hirdymor, o integreiddio, o atal niwed, o gydweithredu a chyfranogi yno i'n cynorthwyo ni fel cenedl i gyrraedd amcanion cynaliadwy.
Nid yw'n syndod bod y Ddeddf uchelgeisiol a phellgyrhaeddol hon yn cael ei hystyried yn destun cenfigen y byd gan y Llywodraeth a llawer o rai eraill ar y pryd ac wedi hynny. Dyna pam y cafodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, ei galw gan y Cenhedloedd Unedig i'w helpu i gynllunio ar gyfer rôl comisiynydd tebyg a fodelwyd ar Gymru. Dyna pam y canmolodd yr Arglwydd John Bird, cyd-sylfaenydd The Big Issue, fodel Cymru am arwain y ffordd wrth iddo gyflwyno Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi. Dyna pam y dywedodd Gweinidog tramor Iwerddon fod y Ddeddf yn ysbrydoledig pan ymwelodd â ni fis diwethaf. Mae'n amlwg, Lywydd, nad creu crychiadau'n unig y mae Cymru, mae'n creu tonnau yn y byd.
Mae'r Ddeddf yn cyd-daro ag angen gwirioneddol am feddylfryd hirdymor, sydd, yn briodol ac o'r diwedd, wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Mae'r pandemig COVID a'r argyfwng hinsawdd wedi tynnu sylw at yr angen am feddwl hirdymor i liniaru ein hagwedd fyrdymor ddinistriol—yr angen i flaengynllunio ein strategaeth amgylcheddol i ddiwallu anghenion y dyfodol, i flaengynllunio polisïau tai i ddiogelu ein cymunedau ac i gefnogi ein pobl ifanc ac i flaengynllunio er mwyn sicrhau bod gennym ni yma yng Nghymru ddemocratiaeth sy'n gryf, yn gadarn ac sy'n adlewyrchu'r gymdeithas Gymreig. Mae'r rhain i gyd a mwy yn bethau y dylai cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru eu hetifeddu gennym—Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru o gymunedau cydlynol a diwylliannau bywiog.
Dyma'r hyn yr oedd Deddf cenedlaethau'r dyfodol i fod i'w gyflawni. Ond, ar ôl chwe blynedd, a nifer o achosion llys yn ddiweddarach, rydyn ni'n wedi gweld nad oes gan y Ddeddf hon y pwerau angenrheidiol i gyflawni ei hamcanion clodwiw. Rwy'n cyfaddef bod y Ddeddf, i raddau, wedi newid y ffordd rŷn ni'n meddwl. Mae rhai cynghorau wedi datgan argyfwng natur ac mae rhai cyrff cyhoeddus wedi cymryd camau cadarnhaol i fod yn fwy gwyrdd. Ond dyw hyn ddim yn mynd yn ddigon pell. Ofer yw datganiadau a'r bwriadau gorau os nad yw gweithredoedd pendant yn eu dilyn. Ofer yw cydnabod amcanion os bod modd eu hosgoi pan fyddan nhw'n anghyfleus. Ofer yw hyd yn oed y Ddeddf mwyaf uchelgeisiol os nad oes modd dal cyrff cyhoeddus i gyfrif pan fyddan nhw'n torri'r Ddeddf yna.
Yn astudiaeth yr archwilydd cyffredinol i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, daeth i'r casgliad fod cyrff cyhoeddus yn canolbwyntio llawer mwy ar wella lles economaidd a chymdeithasol nag ar amcanion amgylcheddol a diwylliannol. Ni ddylai fod angen ein hatgoffa, Lywydd, fod COP26 unwaith eto wedi pwysleisio pwysigrwydd cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol yn ein meddylfryd a'n cynlluniau o ddydd i ddydd. Nid oes llawer o ddiben cynllunio a meddwl yn strategol am unrhyw beth arall oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac rwyf mor falch fod y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o gyrraedd sero net erbyn 2035. Ac eto, er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i gynaliadwyedd amgylcheddol fod yn gwbl ganolog i bob agwedd ar ein bywydau, o'r Llywodraeth i gymdeithas sifil, a gweld lle gallwn wneud yn well.
Yr egwyddorion yma oedd gwreiddiau y Ddeddf, ond mae'r Ddeddf eto i flodeuo, oherwydd dyw'r Ddeddf heb gael y cyfle i gyflawni ei gwir botensial.
Rwy'n ofni bod y Ddeddf wedi dod yn rhyw fath o ymarfer ticio blychau. Bydd llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus yn dweud eu bod wedi ei hystyried, eu bod wedi ystyried y dyfodol, ac yna'n symud ymlaen â'u cynlluniau presennol beth bynnag. Os gofynnir iddynt, byddant yn gallu dangos eu bod wedi ystyried y Ddeddf wrth wneud penderfyniadau, ond nid wyf yn argyhoeddedig y byddant yn gallu dangos bod y Ddeddf wedi dylanwadu ar eu penderfyniad. Ymddengys nad oes unrhyw ddealltwriaeth glir gan gyrff cyhoeddus o'r hyn y mae'r Ddeddf yn gofyn iddynt ei wneud. Yn amlwg, ni fu newid diwylliannol go iawn, newid meddylfryd, newid yn yr hyn a wneir. Roeddwn yn hapus i glywed, mewn datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, eu bod yn ailddyblu eu hymdrechion i gywiro hyn a chyflymu'r newid sydd ei angen i helpu i ailffocysu cyrff cyhoeddus. Fodd bynnag, mae angen i'r newid gwirioneddol hwn yn ein cymunedau gryfhau cymunedau. Un ffordd o wneud hynny fyddai rhoi pwerau gorfodi i'r Ddeddf. Beth yw pwynt Deddf os na allwn gosbi unrhyw un am ei thorri? Gall cyrff cyhoeddus ddiystyru'r Ddeddf hon yn llwyr heb orfod wynebu unrhyw ganlyniadau go iawn. Dylai Deddfau Seneddol fod yn orfodadwy ac nid yn uchelgeisiol yn unig.
Yn wahanol i Gomisiynydd y Gymraeg, does gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ddim unrhyw bŵer i gosbi cyrff cyhoeddus sydd wedi torri eu dyletswyddau. Does gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ddim unrhyw bŵer i atal pethau rhag digwydd neu i orfodi pethau i ddigwydd. Ar sawl achlysur, a dwi'n siŵr bod hwn yn wir i Aelodau eraill, mae ymgyrchwyr lleol wedi cysylltu gyda fi yn feirniadol iawn o'r comisiynydd—ei bod hi heb wneud digon, ei bod hi heb eu cefnogi—ond y gwir yw does dim bai ar y comisiynydd, does dim y pŵer ganddi i wneud y gwahaniaeth angenrheidiol.
Mae llawer o bobl, yn y Siambr hon a'r tu allan iddi, wedi beirniadu'r Ddeddf hon am ei diffyg gorfodadwyedd. Pan ddadleuodd Aelod Llafur o'r meinciau cefn, ein Cwnsler Cyffredinol ein hunain, fod y Ddeddf yn llawer rhy llac ac yn rhy niwlog pan oedd yn ei thrafod yn ystod ei darlleniad cyntaf, a allwn ni ddweud wrthym ein hunain yma yn awr, a allwn ni ddweud wrth bobl Cymru mewn gwirionedd, ei bod wedi dod yn llai niwlog ers hynny? Ni allwn wneud hynny. Roedd yn wir bryd hynny ac mae gwrandawiadau llys dilynol wedi dangos ei fod yn wir yn awr. Y gobaith oedd y gallai cymunedau lleol ddefnyddio'r Ddeddf mewn gwrandawiadau adolygiadau barnwrol, ac eto nid yw hynny wedi digwydd.
A allwn ni ddweud wrth ddisgyblion Ysgol Gyfun Cymer Afan fod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn dal dŵr ac yn diogelu eu cymuned gydlynus? Pan geisiodd rhieni disgyblion yn yr ysgol weithredu'r Ddeddf yn erbyn cynlluniau i gau eu hysgol yn ôl ym mis Mawrth 2019, fe fethodd; methodd ar y rhwystr cyntaf. Dadleuodd barnwr yr Uchel Lys, Mrs Ustus Lambert, na allai'r Ddeddf sbarduno adolygiad barnwrol. Aeth gam ymhellach, a dywedodd yn ei phenderfyniad fod y Ddeddf yn
'yn fwriadol amwys, cyffredinol a dyheadol ac yn berthnasol i ddosbarth yn hytrach nag unigolion.'
O'r herwydd, dywedodd:
'nid adolygiad barnwrol yw'r ffordd briodol o orfodi dyletswyddau o'r fath.'
Nawr, nid wyf yn dweud y byddai'r achosion hyn wedi llwyddo yng ngheisiadau'r adolygiad barnwrol, ond dylent fod wedi cael cyfle i gyflwyno'r ddadl honno, i ddefnyddio'r Ddeddf i gyflwyno eu dadl ymhellach. Ond ni allent wneud hynny—cafodd ei thaflu allan ar y rhwystr cyntaf ar bob achlysur. Mae gan y Ddeddf hon fwy o gyfarthiad na brathiad, mwy o rethreg na realiti, ac mae'n fwy dyheadol na gorfodadwy.
Sut fedrwn ni eistedd fan hyn—a dwi wedi clywed hyn yn y chwech mis dwi wedi bod yn y Siambr—sut fedrwn ni eistedd fan hyn yn braf yn canmol y Ddeddf, yn dweud ei bod hi’n radical, yn dweud ei bod hi’n genfigen y byd, pan nad yw hi hyd yn oed yn rhoi hawliau sylfaenol i'n dinasyddion ni i ddiogelu eu hasedau lleol ac i ddwyn eu cyrff cyhoeddus a'u llywodraeth leol i gyfrif? Dydy’r ffaith bod pobl yn adrodd geiriau fel 'cenfigen y byd' yn aml ddim yn meddwl bod hynny yn wir; dyw e ddim yn meddwl bod y Ddeddf yn berffaith. Dylem ni, fel Senedd, fel deddfwrfa, fod yn ddigon aeddfed i gydnabod pan dyw Deddf ddim yn ddigon da, ac wedyn bod yn barod i’w newid.
Pan ddywedodd y cyn Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, nad oedd y Ddeddf yn ddigon penodol nac yn ddigon tynn; pan ddisgrifiodd un o brif fargyfreithwyr Cymru, Cwnsler y Frenhines, Rhodri Williams, ei bod 'bron yn ddiwerth'; pan ddywedodd yr academydd blaenllaw ym maes cyfraith gyhoeddus, Dr Sarah Nason o Brifysgol Bangor, nad oedd yn rhoi hawliau cyfreithiol, gorfodadwy i unigolion, roeddent i gyd yn tynnu sylw at yr un broblem—anallu'r Ddeddf i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif yn briodol, ac anallu'r Ddeddf i rymuso pobl a chymunedau lleol yn briodol.
Sut gallwn ni obeithio newid y ffordd o feddwl yng Nghymru ac ymgorffori datblygu cynaliadwy yn ein bywydau pan na all dinasyddion hyd yn oed ddibynnu ar y Ddeddf i wneud yr hyn y bwriadwyd iddi wneud? Dim ond pan y gall pobl Cymru ddefnyddio'r Ddeddf hon i amddiffyn eu hasedau lleol, ac i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif, y bydd y Ddeddf hon yn cyrraedd ei gwir photensial.
Os mai bwriad y Ddeddf hon oedd bod yn gyfres wan o egwyddorion, gadewch i ni fod yn onest am hynny. Ac os yw hynny’n wir, wel dwi’n dweud ein bod ni wedi gor-ddweud, ein bod wedi gorwerthu y Ddeddf hon yn y Siambr yma. Heb ei bod hi'n cael y pwerau grym angenrheidiol, mae’r Ddeddf hon yn ddi-rym ac, yn bwysicach na hynny, ar y cyfan, yn ddiwerth.
Dyna pam y mae angen i'r Siambr hon graffu'n ôl-ddeddfwriaethol ar y Ddeddf hon. Mae angen inni ei diwygio. Mae angen inni roi dannedd iddi. Mae angen inni ei gwneud yn orfodol. Rhowch gyfle iddi wneud newid gwirioneddol i bobl Cymru, fel y gallwn ddefnyddio'r Ddeddf hon i wella ein hunain, i wella ein cymunedau, ac i wella ein hamgylchedd.
Rhaid i hwn ddod yn ganolbwynt ar gyfer trwsio Deddf cenedlaethau'r dyfodol a'i gwneud yn deilwng o'r ganmoliaeth hael y mae wedi'i chael. Dyma gyfle, cyfle go iawn i ni yma yng Nghymru ddylanwadu ar ein dyfodol, a dyfodol ein byd. Gallwn arwain y ffordd. Gallwn ddangos i genhedloedd eraill sut i ddiogelu ein cymunedau, ein hamgylchedd, a sut i wneud datblygu cynaliadwy yn gonglfaen i'n trefniadau llywodraethu. A gobeithio bod awydd i wneud hyn, i roi dannedd i'r Ddeddf, i'w galluogi i flodeuo i'w llawn botensial.
Pan holais y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, yn ddiweddar yma yn y Cyfarfod Llawn ynglŷn â'r Ddeddf, dywedodd y geiriau hyn:
'Gyda'r holl ddeddfwriaeth, pan fydd wedi bod mewn grym am gyfnod, rwy'n credu bod angen ei hadolygu.'
Wel, mae hyn yn sicr yn wir am Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, ac mae angen i'r adolygiad hwnnw ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae angen iddo rymuso'r Ddeddf. Mae angen iddo sicrhau nid yn unig y gallwn gynnwys ein meddylfryd ar gyfer y dyfodol ym mhob penderfyniad a wneir gan gyrff cyhoeddus, ond y gallwn hefyd ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif pan fyddant yn methu gwneud hynny. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Rhys, am gyflwyno'r ddadl yma. Mae'r ddeddfwriaeth yma'n cael ei dal i fyny, fel rydyn ni wedi clywed, fel peth blaengar sy'n torri tir newydd, ac, i raddau helaeth, mae hynny'n gywir. Os caf i gychwyn trwy gydnabod llwyddiant y ddeddfwriaeth. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir, roedd pob adroddiad oedd yn dod gerbron y cyngor gan y swyddogion yn gorfod cynnwys dadansoddiad o effaith unrhyw benderfyniad ar genedlaethau'r dyfodol. Felly, mae hynna yn ei hun yn arwydd o ryw fath o lwyddiant; mater arall, wrth gwrs, ydy sut oedd y swyddogion wedi dod i'r casgliadau hynny. Roedd rhai ohonyn nhw'n amheus iawn, a dweud y lleiaf, ond o leiaf roedd yna ystyriaeth yn cael ei rhoi i genedlaethau'r dyfodol ar bapur. Ond fy mhryder ydy, er bod y syniadau'n dda ar bapur, nad ydy o'n bosib i weithredu go iawn, fel mae Rhys wedi esbonio'n huawdl iawn.
Ystyriwch yr argyfwng tai—mae ymgyrchwyr yma wedi cael cyngor cyfreithiol ynghylch yr argyfwng tai, a methiant pobl yn eu cymunedau i gael mynediad i'r farchnad, boed i brynu neu rentu. Ddaru nhw fynd i gael cyngor cyfreithiol, a dyma'r cyngor yn dod nôl a dweud bod y ddeddfwriaeth hon yn uchelgeisiol—aspirational—heb ddannedd go iawn, ac felly, nad oedd modd na phwrpas ei defnyddio mewn llys barn. Felly, er bod y ddeddfwriaeth yn ein gwneud ni i deimlo'n gynnes, er ei bod hi'n edrych yn dda, mae'r gweithredu felly yn ein gadael ni i lawr. Hoffwn i glywed, felly, gan y Gweinidog pa effaith go iawn mae hi'n credu bod y ddeddfwriaeth yma wedi ei chael, a sut y gall ein cymunedau gael budd go iawn o'r ddeddfwriaeth. Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Jane Hutt.
Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i Rhys am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n croesawu parhad y sgwrs rydym wedi bod yn ei chael yn y Senedd am y Ddeddf ar ddechrau'r tymor hwn.
Ac roeddwn eisiau eich atgoffa, yn ystod seremoni agoriadol y chweched Senedd, ein bod wedi cael darlleniad o gerdd a gomisiynwyd yn arbennig, 'Ein Llais - Our Voice', cerdd a grëwyd gyda chymorth bardd preswyl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. A geiriau olaf y gerdd honno—a gwn i ni i gyd gael ein cyffwrdd yn fawr ganddi:
'Rydym am osod esiampl i weddill y byd.'
Felly, credaf y gallwn fod yn falch fod gwledydd eraill a sefydliadau rhyngwladol yn troi at Gymru am ysbrydoliaeth ar sut i ddeddfu ar gyfer y dyfodol, a gwn eich bod wedi cydnabod hynny, Rhys, yn eich cyfraniad heno. Ond ni allwn danbrisio'r ffaith bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn dangos ffordd unigryw Gymreig o fynd i'r afael â'r heriau hirdymor sy'n ein hwynebu, gyda'i ffocws ar rymuso a thrawsnewid y ffordd y mae'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio. Ac mae'n gwneud hyn drwy alluogi cyrff i weithio mewn ffordd ataliol, gydweithredol ac integredig, ffordd sy'n cynnwys dinasyddion ac sy'n edrych ar y tymor hir. Mae wedi cael ei chydnabod yn rhyngwladol, fel rydych wedi'i nodi. Mae'n ysbrydoli sefydliadau a llywodraethau ar draws y byd. Ac fe wnaethom benderfyniad beiddgar i ddeddfu fel hyn—y rheini ohonom a oedd yma ar y pryd, ac a lywiodd y ddeddfwriaeth drwy'r lle hwn. Mae'n wahanol, a cheir llawer o safbwyntiau ynglŷn â beth yw'r Ddeddf a beth y dylai fod yn y dyfodol. Fe'i disgrifiwyd fel un ryfeddol o ran ei hehangder, ei chwmpas a'i huchelgais, ac yn rhyngwladol, rydym wedi gweld sawl esiampl lle mae'r dull Cymreig wedi'i fabwysiadu neu wedi dylanwadu ar syniadau.
Yn yr Alban, maent wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Yn Senedd y DU, fel rydych eisoes wedi sôn, mae'r Arglwydd John Bird a Simon Fell AS yn cyd-noddi Bil llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd wedi'i fodelu ar ein deddfwriaeth ni. Ym mis Tachwedd, dywedodd Gweinidog tramor Iwerddon, Simon Coveney, wrth Weinidogion Cymru fod y Ddeddf yn ysbrydoledig ac y byddai Llywodraeth Iwerddon yn awyddus i'w hefelychu. Diwygiodd Seland Newydd eu Deddf cyllid cyhoeddus, fel bod eu Llywodraeth wedi nodi'r amcanion llesiant a fydd yn llywio penderfyniadau cyllidebol y Llywodraeth ac yn cefnogi llesiant hirdymor.
Yn 2019, deddfodd Llywodraeth Jersey i'w gwneud yn ofynnol i'w Cyngor Gweinidogion ystyried llesiant cynaliadwy cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ac yn gynharach eleni, gwnaeth y Cenhedloedd Unedig ymrwymiadau sylweddol i gynnwys dull cenedlaethau'r dyfodol yn system y Cenhedloedd Unedig. Mae Sefydliad Iechyd y Byd, Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, yn cydnabod gwerth y Ddeddf i iechyd, gan ddweud bod
'y Ddeddf yn cyd-fynd yn wirioneddol â'r nodau datblygu cynaliadwy a chyda gwerthoedd ac egwyddorion Iechyd 2020, fframwaith polisi Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer iechyd a llesiant.'
A'r wythnos nesaf, rwy'n siarad yn y ddegfed gynhadledd fyd-eang ar hybu iechyd, gan ganolbwyntio ar degwch llesiant a datblygu cynaliadwy. Rydym ni yng Nghymru yn denu diddordeb rhyngwladol oherwydd bod ein dull o weithredu'n wahanol.
Gadewch inni edrych ar nodweddion allweddol y Ddeddf: sefydlu comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol annibynnol i Gymru, pwerus o annibynnol a llais mor gryf, gan ddangos yr arweiniad roedd y Ddeddf honno ei angen gan ein comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i'n symud ymlaen i flynyddoedd cyntaf y Ddeddf, gyda'r dasg benodol o hyrwyddo'r egwyddor datblygu cynaliadwy a gweithredu fel gwarcheidwad gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Mae'r comisiynydd a'i thîm wedi arwain y neges i ledaenu'r dull Cymreig ar draws y byd, ac wedi cefnogi a chynghori cyrff yng Nghymru ar sut i weithio mewn ffordd gynaliadwy. Un o fentrau'r comisiynydd, y maent wedi bod yn falch iawn o ymgysylltu â hi, yw datblygu Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae honno'n cefnogi ein hystod amrywiol o bobl ifanc i ddatblygu eu harweinyddiaeth ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n gwybod bod pob un o'r 35 aelod o'r garfan newydd wedi cyfarfod fis diwethaf. Byddant yn arwydd o newid, nid yn unig mewn perthynas â Llywodraeth, y sector cyhoeddus, y sector busnes a'r sector cymunedol—daethant o'r mannau hynny, ac mae aelodau o wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru yn rhan o hynny.
Mae diwylliant hefyd yn un o nodweddion neilltuol y dull Cymreig. Cafwyd teimlad cryf fod angen inni sicrhau mai llesiant diwylliannol oedd pedwaredd nodwedd ddiffiniol datblygu cynaliadwy, ochr yn ochr â'r economi, yr amgylchedd a chymdeithas. Wrth edrych i'r dyfodol, mae ein cytundeb cydweithio'n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd a sicrhau bod pob adran o'r Llywodraeth yn gweithio'n strategol tuag at y chweched nod llesiant: Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
Credaf fod y ffordd o weithio drwy gynnwys ac ymgysylltu â dinasyddion yn arbennig o neilltuol. Mae'n ceisio trawsnewid y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn cynnwys pobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ac mae rôl dinasyddion yn llunio dyfodol Cymru yn hanfodol os ydym am gyflawni'r nodau llesiant. Felly, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sicrhau bod pobl yn ganolog i'r ffordd y maent yn gweithio. Nid yw cyrff cyhoeddus i gyd wedi arfer â—. Nid oes gan bob un ohonynt draddodiad a dealltwriaeth o sut y mae hynny'n digwydd, ond mae wedi bod yn gwneud gwahaniaeth—y dull hwnnw.
Ac rwyf eisiau sôn am y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol, a luniwyd ar y cyd â chymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig. Mae'n seiliedig ar y gydnabyddiaeth o'r angen am newid sylfaenol, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando ar ein pobl, ein cymunedau a'n rhwydweithiau lleiafrifol ethnig, ac i gymryd camau i wneud newidiadau mewn ffyrdd sy'n ddiriaethol i'w cymunedau, yn seiliedig ar eu profiadau bywyd, hwy'n dod i Lywodraeth Cymru, i fentora'r gweision sifil, ac ariannu grwpiau mewn cymunedau i ddylanwadu ar y cynllun. Ond rwy'n cytuno â'r teimladau sy'n sail i safbwyntiau'r Aelod ynglŷn â chynnwys dinasyddion yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae'n amlwg iawn fod yn rhaid i hynny ymwneud ag amrywiaeth Cymru—un o greiddiau'r egwyddor datblygu cynaliadwy.
Nawr, symudwn ymlaen at graidd eich dadl heddiw ynglŷn â'r ffaith nad yw'r Ddeddf—y pwyntiau roeddech eisiau eu codi yn y ddadl hon—rhoi hawliau unigol i ddinasyddion. Ni chafodd ei llunio i wneud hyn, ac rydym yn rhybuddio yn erbyn gosod disgwyliadau ar y Ddeddf na chafodd ei llunio i'w cyflawni. Ond rydym yn gallu ac mae'n rhaid inni gael y ddadl ynglŷn ag a oes angen i'r Ddeddf newid, a byddaf yn gweithio gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a'r Aelodau ar faterion sy'n ymwneud ag unrhyw adolygiad ôl-ddeddfwriaethol. Rwy'n siŵr mai dyna roeddech eisiau ei glywed heno.
Mae'n rhaid inni gydnabod, mewn perthynas â'r mathau hynny o benderfyniadau unigol fel y'u gelwir—nid wyf am drafod pob un o'r rhai rydych wedi'u codi—nad yw dyletswydd corff cyhoeddus i weithredu'n unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn pennu'r penderfyniad y mae'n rhaid iddynt ei wneud mewn unrhyw sefyllfa benodol. Ni chafodd y Ddeddf ei chynllunio i ddarparu'r atebion cywir. Nid yw'n dileu'r penderfyniadau anodd y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus eu gwneud, ond mae'n nodi ffactorau y mae'n rhaid iddynt eu hystyried yn gydwybodol cyn gwneud penderfyniad y mae'r ddyletswydd llesiant yn berthnasol iddo, a thynnodd Mabon sylw mewn gwirionedd, fel cynghorydd awdurdod lleol, at sut y cafodd ei hystyried mewn perthynas â phenderfyniadau anodd a oedd yn cael eu gwneud.
Gallaf roi llawer o enghreifftiau i chi o sut rydym yn teimlo bod y Ddeddf yn parhau i fod yn gyfredol, yn berthnasol i Gymru yn awr ac yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio mai dyna rydych chi'n ei deimlo, oherwydd mae'n arf mor bwerus.
Yr wythnos nesaf, byddaf yn gwneud datganiad ar y cerrig milltir cenedlaethol a'r diweddariad o'r dangosyddion cenedlaethol—byddwn yn ei gyflwyno yr wythnos nesaf—yn rhoi esboniad pellach o'r hyn y mae'r nodau llesiant yn ei olygu'n ymarferol, yn diweddaru ein dangosyddion hefyd, ac yn edrych yn arbennig ar y materion hynny sy'n allweddol o ran sut y gall y Ddeddf gadw i fyny â Chymru heddiw.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod bod adroddiad cenedlaethau'r dyfodol a'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dangos bod y Ddeddf yn newid sgyrsiau a'r ffyrdd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithio, a dywedodd y comisiynydd fod y Ddeddf yn creu arloesedd rhagorol ac mae'n sylwi ar newid cynyddol, gyda phobl yn mentro cyflawni'n wahanol—Iechyd Cyhoeddus Cymru, ein hyb cynaliadwyedd iechyd; Rhondda Cynon Taf, platfform i gymryd rhan mewn gwybodaeth am newid hinsawdd; Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru; Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, gan edrych ar gydweithio ac integreiddio; ac Amgueddfa Cymru, gan edrych ar amcan llesiant ar ddatblygu sgiliau ar gyfer cyflogi pobl ifanc. Gallaf fynd ymlaen, ond gallaf weld bod ein hamser ar ben, Lywydd.
Felly, i gloi, hoffwn ddweud bod ein cytundeb cydweithio yn rhoi cyfleoedd i ni, onid yw, yn enwedig, fel rydych wedi'i ddweud, mewn perthynas â'r argyfyngau hinsawdd a natur, y bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein byd, ond gallwn gydweithio i fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn. Rydym yn cymryd y camau beiddgar hynny tuag at Gymru sero net ac yn mynd i'r afael â cholli natur, gwella amrywiaeth a phlannu mwy o goed, a bydd ein maes polisi a rennir ar wasanaethau cyhoeddus cynaliadwy yn ein helpu i ddeall anghenion gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y dyfodol. Felly, mae'r ymrwymiadau hyn yn adeiladu ar ein gwerthoedd cyffredin o undod cymdeithasol, planed gynaliadwy a democratiaeth fywiog. Felly, lle rydym yn symud ymlaen, mae'n rhaid iddo fod ar sail cryfder ein cred yn y Ddeddf hon, cred ynddi hi ac yn y ffordd y caiff ei chyflawni. Rydym ar gychwyn taith—roeddwn yn ymwybodol iawn o'r geiriau yn y llyfr bach hwn, y byddwch chi, rwy'n siŵr, yn gwybod amdano, 'Futuregen: Lessons from a small country', a gyd-ysgrifennwyd gan Jane Davidson, a'n helpodd ar y cychwyn fel cyn Weinidog, am gydnabyddiaeth Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Cenhedloedd Unedig:
'Yr hyn y mae Cymru yn ei wneud heddiw, bydd y byd yn ei wneud yfory.'
Felly, gadewch inni fod yn falch o'r Ddeddf, a gadewch inni wneud iddi weithio. Diolch yn fawr.
Dyna ddod â'n trafodion ni am heddiw i ben, felly.