6. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru ac Ewrop — Rheoli perthynas newydd

– Senedd Cymru am 4:35 pm ar 1 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:35, 1 Chwefror 2022

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar Gymru ac Ewrop, rheoli perthynas newydd. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dwy flynedd bellach ers i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a 13 mis ers diwedd y cyfnod pontio, pan newidiodd ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn sylweddol. Heddiw rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fy asesiad o'r effaith bresennol ar Gymru, wrth i'n perthynas â'r hyn sy'n parhau i fod yn bartner masnachu agosaf a phwysicaf symud i normal newydd. Byddaf hefyd yn sôn am ein cynlluniau i gryfhau ein perthynas ag Ewrop ymhellach.

Mae ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd wedi newid sefyllfa'r DU yn y byd a swyddogaeth Llywodraethau datganoledig yn sylweddol. Mae gennym gyfrifoldebau a dyletswyddau newydd sylweddol mewn cysylltiad â materion a oedd yn eistedd gyda sefydliadau Ewropeaidd yn flaenorol. Mae ein hymadawiad â'r UE hefyd wedi arwain at newidiadau sylweddol yn y broses o lywodraethu'r DU a'r berthynas rhwng Llywodraethau'r DU. Mae rhai o'r rhain yn deillio, mae arnaf ofn, o elyniaeth Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli, ond mae eraill hyd yn oed yn fwy sylfaenol ac yn deillio o'n setliad datganoli democrataidd yn cael ei gynllunio o amgylch aelodaeth y DU o'r UE.

Mae ymadael â'r UE wedi rhoi'r gallu i'r DU ymrwymo i'w chytundebau masnach rydd ei hun gyda gwledydd ledled y byd. Er ein bod yn parhau i fod yn gefnogol ar y cyfan i gytundebau masnach rydd newydd, mae'r cytundebau hyn wedi bod yn gymharol fach hyd yma ac ni fyddan nhw'n gwneud iawn am golli masnach gyda'n partneriaid masnachu agosaf. Er enghraifft, asesiad effaith Llywodraeth y DU ei hun o'r cytundeb masnach rydd gydag Awstralia yw y gallai gynyddu cynnyrch domestig gros y DU yn y tymor hir 0.08 y cant. Ac, wrth gwrs, asesiad cyfredol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yw y gallai ymadael â'r UE leihau cynnyrch domestig gros 4 y cant. Byddwn yn parhau i gefnogi ein busnesau i addasu i'r berthynas fasnachu newydd â'r UE, gan gynnwys y newidiadau hynny nad ydyn nhw wedi dod i rym eto. Fodd bynnag, ni ddylid bod ag unrhyw gamargraff ynghylch yr ergyd y mae ymadael â'r UE yn ei chael ar economi Cymru ac, yn wir, y DU gyfan.

Gyda'r cefndir hwnnw, rwyf eisiau nodi sut yr ydym yn ceisio rheoli ein perthynas newydd â'r UE, fel y nodir yn y cytundeb masnach a chydweithredu. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn darparu ar gyfer system o lywodraethu a goruchwylio. Mae hyn yn cynnwys cyfres o bwyllgorau arbenigol ar lefel swyddogol a phwyllgorau masnach arbenigol sy'n adrodd i'r cyngor partneriaeth yn y pen draw. Bydd yr Aelodau'n cofio ein bod wedi pwyso'n gyson am ymgysylltiad priodol gan Lywodraeth Cymru yn y strwythurau hyn, o ystyried ein buddiannau datganoledig cyfreithlon. Ar y cyfan, o ran y pwyllgorau a'r gweithgorau lle mae gennym ddiddordeb datganoledig, rwy'n falch o adrodd bod ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar lefel swyddogol wedi bod yn dda ar y cyfan. Mae swyddogion wedi bod yn rhan o'r paratoadau ar gyfer nifer o bwyllgorau ac wedi bod yn bresennol fel arsylwyr. Fodd bynnag, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n galwad ddilys i Weinidogion datganoledig y Llywodraeth fod yn gyfranogwyr gweithredol yng nghyfarfodydd cyngor partneriaeth y DU a'r UE. Rwy'n bwriadu codi hyn eto gyda Liz Truss, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, wedi olynu'r Arglwydd Frost fel Gweinidog arweiniol y DU.

Cyn i mi droi at berthynas Cymru ag Ewrop, rwyf eisiau sôn yn fyr am brotocol Gogledd Iwerddon. Ein safbwynt ni'n gyson yw mai parchu a diogelu cytundeb Dydd Gwener y Groglith yw blaenoriaeth gyntaf y trafodaethau am ddyfodol y protocol. Mae gennym hefyd ddiddordeb uniongyrchol mewn unrhyw beth sy'n effeithio ar y ffordd y mae nwyddau'n llifo rhwng Prydain Fawr ac ynys Iwerddon, yn enwedig o ystyried yr effaith sylweddol y mae ymadael â'r UE eisoes wedi'i chael ar ein porthladdoedd sy'n wynebu'r gorllewin. Dim ond yr wythnos diwethaf, nododd Stena Line ostyngiad o 30 y cant yn y niferoedd drwy borthladdoedd Cymru ers diwedd y cyfnod pontio, a oedd yn gysylltiedig yn benodol ag ymadael â'r UE. Mae ansicrwydd gwirioneddol ynghylch a fydd y gostyngiad hwn mewn masnach yn gwella neu a yw'r golled yn barhaol.

Mae'n hanfodol bwysig bod y problemau sydd yn y fantol yn cael eu datrys, a dim ond drwy ddeialog barhaus y gall hyn ddigwydd. Gobeithiaf felly y bydd y cywair mwy adeiladol yr ydym wedi'i glywed yn ystod yr wythnosau diwethaf yn parhau. Os gellir dod i gytundeb ar y protocol, gallai hefyd helpu i symud y berthynas yn ei chyfanrwydd oddi wrth y dull gwrthweithiol sydd wedi'i fabwysiadu'n rhy aml gan Lywodraeth y DU a'i roi ar sail fwy cadarnhaol ac adeiladol. Rydym eisiau symud dros y tymor canolig i'r hirdymor tuag at y berthynas gryfach ac agosach â'r UE yr ydym bob amser wedi'i hyrwyddo.

Dirprwy Lywydd, yn dilyn y cytundeb masnach a chydweithredu, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer perthynas agos ac adeiladol rhwng Cymru a'r UE. Mae ein hanesion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol wedi'u cydblethu â gweddill Ewrop ac rydym yn rhannu gwerthoedd sylfaenol yr UE sy'n cwmpasu urddas dynol, rhyddid, democratiaeth, cydraddoldeb, rheolaeth y gyfraith a hawliau dynol.

Yr UE fydd partner masnachu agosaf a phwysicaf y DU o hyd, a bydd dylanwad yr UE ar lunio polisïau a'r fframwaith rheoleiddio yng Nghymru yn parhau'n sylweddol hyd y gellir rhagweld. Am yr holl resymau hyn yr ydym wedi penodi Derek Vaughan i fod yn gynrychiolydd ar Ewrop. Gyda chefnogaeth ein swyddfa ym Mrwsel, bydd Derek yn gwneud cysylltiadau, yn casglu gwybodaeth berthnasol ac yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru a gyda rhanddeiliaid i gefnogi datblygu blaenoriaethau polisi. Ymwelodd â Brwsel yr wythnos diwethaf am y tro cyntaf yn y swydd hon a chynhaliodd drafodaethau cadarnhaol ac adeiladol iawn gydag uwch gydweithwyr yn sefydliadau'r UE, Llywodraeth y DU, Llywodraethau datganoledig eraill a rhanddeiliaid. Mae llawer o ewyllys da tuag at Gymru o hyd o fewn Ewrop, ond mae llawer o heriau i ddatblygu perthynas a all gefnogi anghenion economi a dinasyddion Cymru.

Bydd ein holl ymgysylltu Ewropeaidd yn cefnogi'r blaenoriaethau a nodir yn ein strategaeth ryngwladol: codi ein proffil, tyfu ein heconomi a bod yn gyfrifol yn fyd-eang. Byddwn ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin perthynas agos a chadarnhaol â'r UE, er budd holl fusnesau Cymru ac, wrth gwrs, ein dinasyddion. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy groesawu datganiad adeiladol ar y cyfan y Gweinidog y prynhawn yma? Mae'n ddrwg gennyf glywed yn nhrydariad y Gweinidog y bore yma ei fod wedi profi'n bositif am COVID-19, ond rwy'n falch ei fod yn teimlo'n iawn a dymunaf yn dda iddo.

Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud ei bod wedi bod yn ddwy flynedd ers i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn y cyfnod hwnnw bu nifer o ddatblygiadau, rhai o fewn cwmpas Llywodraeth Cymru a rhai, wrth gwrs, y tu allan i'w chylch gwaith. Serch hynny, mae'n hanfodol bod gan Gymru berthynas fasnachu lwyddiannus ag Ewrop, o gofio mai'r UE yw'r brif farchnad allforio ryngwladol ar gyfer nwyddau a chynnyrch amaethyddol o Gymru.

Wrth gwrs, mae masnach yn gymhwysedd a gadwyd yn ôl, ac felly mae'n hanfodol bod cysylltiadau rhynglywodraethol cryf rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y maes hwn. Felly, yr wyf yn falch o ddarllen yn y datganiad heddiw fod ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar lefel swyddogol wedi bod yn dda ar y cyfan, ac rwy'n cytuno y dylai gwledydd datganoledig fod mor gysylltiedig â phosibl mewn trafodaethau wrth symud ymlaen. Er enghraifft, gwn fod y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach wedi bod yn gynhyrchiol ac wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gyfrannu at gytundebau masnach mewn ffordd a oedd yn gadarnhaol ac yn fuddiol i Gymru. Efallai y gwaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddaraf y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach, ac, yn benodol, pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal mewn cysylltiad â masnachu gyda phartneriaid Ewropeaidd.

Mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio at brotocol Gogledd Iwerddon a'r sylwadau diweddar gan Stena Line bod porthladdoedd Cymru wedi gweld gostyngiad o 30 y cant mewn traffig o ganlyniad i'r berthynas fasnachu newydd â'r Undeb Ewropeaidd a bod y diwydiant logisteg wedi cael ei daro'n eithaf caled ar ôl i ni ymadael â'r UE. Er bod hyn yn amlwg yn siomedig, gwnaeth Stena Line hi'n glir iawn,

'Os edrychwn ni ar Fôr Iwerddon yn ei gyfanrwydd, mae'r cyfeintiau cludo nwyddau tua'r un fath. Yr hyn yr effeithiwyd yn andwyol arnynt yw porthladdoedd Cymru a llwybrau Cymru hyd yn hyn.'

Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym a yw wedi cyfarfod â gweithredwyr llongau yn ddiweddar i drafod effaith y berthynas newydd ar y diwydiant logisteg ac amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector wrth symud ymlaen.

Mae'n galonogol clywed bod Stena Line wedi ailadrodd eu hymrwymiad hirdymor i borthladdoedd Cymru, a'u bod yn disgwyl i'r sefyllfa wella, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym a yw'n cytuno â Stena Line bod disgwyl i bethau wella, ac a wnaiff gyhoeddi asesiad Llywodraeth Cymru o'r berthynas newydd ag Ewrop ac egluro pa fodelu y mae'n ei ddefnyddio i ragweld rhagfynegiadau ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol? Mae hyn hefyd yn bwysig o ran sefydlu safleoedd rheoli ffiniau, ac mae'r Gweinidog a minnau wedi cael sawl trafodaeth ynglŷn â'r mater hwn yn ystod y misoedd diwethaf. Ac rwyf i, wrth gwrs, yn datgan buddiant, Dirprwy Lywydd, gan fod posibilrwydd y gellid lleoli safle rheoli ffiniau yn fy etholaeth i.

Nawr, mae'r Gweinidog wedi dweud o'r blaen, pe byddai gostyngiad parhaol neu yn y dyfodol mewn masnach, byddai'n effeithio ar faint y safleoedd rheoli ffiniau, ac felly a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch lle yr ydym ni gyda safleoedd rheoli ffiniau a pha ddatblygiadau sydd wedi'u gwneud? Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod safle rheoli ffiniau yn cael ei benderfynu'n ofalus, a gwn o'r sylwadau a gefais yn fy etholaeth pa mor ddadleuol yw'r lleoliad. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried yr effaith y bydd safle rheoli ffiniau yn ei chael ar gymunedau lleol ac ar seilwaith lleol, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym sut y bydd yn sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed wrth benderfynu ar safleoedd penodol. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn trafod gyda Llywodraeth y DU mewn cysylltiad ag ariannu'r gwaith o weithredu safleoedd rheoli ffiniau, ond efallai y gwnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y drafodaeth ddiweddaraf ar y mater hwn hefyd.

Nawr, wrth i'r berthynas newydd ag Ewrop gael ei llunio, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu allforion a masnach, ac mae'r cynllun gweithredu allforio yn dangos rhywfaint o'r gweithgarwch sy'n digwydd i gefnogi allforwyr Cymru wrth symud ymlaen. Nod y cynllun gweithredu allforio yw meithrin capasiti a gallu i allforio er mwyn sicrhau bod gan fusnesau Cymru'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder cywir i fod yn allforwyr llwyddiannus. O gofio bod y cynllun gweithredu allforio wedi'i gyhoeddi dros flwyddyn yn ôl, efallai y gwnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa un a yw'r capasiti hwnnw wedi'i adeiladu, drwy gadarnhau'n union pa gamau newydd sydd wedi'u cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw faterion capasiti a gallu. Ac efallai y gwnaiff ddweud wrthym hefyd a yw'n ffyddiog bod gan Gymru bellach ddigon o gapasiti a gallu i sbarduno twf allforion Cymru yn y tymor hwy a chynyddu'r cyfraniad y mae allforion yn ei wneud i economi Cymru.

Yn olaf, Llywydd, mae'r datganiad heddiw yn dweud

'bydd dylanwad yr UE ar lunio polisïau a'r fframwaith rheoleiddio yng Nghymru yn parhau'n sylweddol hyd y gellir rhagweld.'

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu menter cenhadon, a fydd yn cynnwys nifer fach o genhadon a ddetholwyd â llaw, yn ogystal â phobl fusnes mewn marchnadoedd allweddol a all helpu i agor drysau i gyfleoedd allforio i fusnesau Cymru. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o gyfleoedd yn y farchnad yn yr UE sydd wedi'u nodi hyd yn hyn a dweud wrthym hefyd faint sydd wedi'i wario ar y cenhadon hyn.

Felly, Llywydd, wrth gloi, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn adeiladol i sicrhau bod gan Gymru'r berthynas orau bosibl ag Ewrop fel y gall ein busnesau barhau i fasnachu'n llwyddiannus yn y dyfodol? Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:48, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

A gawn ni ddad-dawelu'r Gweinidog? Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n credu ein bod ni wedi colli dechrau eich ymateb yn fan yna, mae'n ddrwg gennyf.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi hen arfer â phobl yn fy nghlywed i pan na ddylen nhw. [Chwerthin.]

Diolch am eich dymuniadau da ar gyfer yr hyn yr wyf i'n gobeithio bydd yn wellhad buan o COVID. Rwy'n teimlo'n iawn, mae ychydig yn rhwystredig, ond dylem ni i gyd fod yn dilyn y rheolau.

Edrychwch, ar—. I ddechrau, gwnaethoch chi ddatganiad bod masnach, wrth gwrs, wedi'i chadw yn ôl, ac nid yw—yr hyn a gedwir yn ôl yw'r gallu i gwblhau trefniadau rhyngwladol newydd—ac fe wnaethoch chi ofyn nifer o gwestiynau i mi am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ym maes masnach, gan gynnwys cymorth ar y cynllun gweithredu allforio. Byddaf yn fwy na pharod i ddod â datganiad llawnach i Aelodau, boed yn ysgrifenedig neu fel arall, am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun gweithredu allforio. Yr her yw, wrth gwblhau cytundebau newydd, bod y rheini'n croesi'n rheolaidd i feysydd datganoledig. Mae'n rhan o'r rheswm pam y mae'n bwysig i ni gael perthynas waith adeiladol â Llywodraeth y DU, ond hefyd, o safbwynt busnes, i fod yn glir ynghylch sut y dylai'r gwahanol Lywodraethau yn y DU fod yn cydweithio. Yn hyn o beth, rydym wedi sefydlu llwyddiant drwy Busnes Cymru ac eraill lle rydym yn helpu ac yn cefnogi busnesau i nodi a sicrhau cyfleoedd allforio a masnach yn y dyfodol. Rydym ni eisiau sicrhau nad yw'r darlun yn gymhleth ond mor glir â phosibl, ac, ar hynny, cafwyd rhai sgyrsiau adeiladol y bydd yr Aelod yn ymwybodol ohonyn nhw o waith craffu'r pwyllgorau ac o'n sgyrsiau blaenorol.

O ran y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach, cyfarfûm â Gweinidogion eraill yn ddiweddar yn y fforwm hwnnw—Penny Mordaunt ar gyfer Llywodraeth y DU, a'r Gweinidogion perthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Roedd yn sgwrs adeiladol, ond mae'r rhan fwyaf o'r gwaith sy'n mynd drwy hynna'n ymwneud yn bennaf â gweddill cytundebau masnach rydd y byd ar hyn o bryd. Cawn drafodaethau pellach am Ewrop, ond Liz Truss yw Gweinidog arweiniol y DU ar berthnasoedd â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n amlwg bod ganddi waith i'w wneud, o gofio bod yr Arglwydd Frost wedi gadael gyda'r gwaith hwnnw'n anghyflawn. Felly, mae'n arwain ar y protocol ac yn fwy cyffredinol ar yr effaith y mae hwnnw'n ei gael ar berthnasoedd â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n dal yn her, ac yn un lle, fel y dywedais i yn fy natganiad, rwy'n credu bod arnom angen naws adeiladol sy'n caniatáu i ni gael atebion, ac nid yn unig ar gyfer ynys Iwerddon, ond bydd hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar ein perthynas fasnachu ehangach â gweddill yr Undeb Ewropeaidd, a'r dewis y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud ar ffurf ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a beth mae hynny'n ei olygu o ran ein gallu ni i ymgysylltu mewn amrywiaeth o feysydd eraill.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:51, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Cyfarfûm hefyd yn ddiweddar â grŵp o randdeiliaid yr wythnos diwethaf, i drafod rhai o'r newidiadau yn dilyn y newid mewn perthynas fasnachu. Rwyf wedi cwrdd â Stena hefyd o'r blaen, i drafod rhai o'r effeithiau ar borthladd Caergybi yn arbennig. Amcangyfrifir y gallem weld—ac mae hyn yn uniongyrchol gan randdeiliaid sy'n ymwneud â rhedeg porthladdoedd a'r diwydiant logisteg—. Gallai fod 100,000 yn llai o symudiadau lorïau y flwyddyn os yw'r newid mewn masnach yn barhaol, gyda'r golled mewn meintiau. Nawr, mae hynny'n swm sylweddol o fasnach nad yw'n dod drwy Gymru, a bydd hynny'n cael effaith ar y gweithgaredd, gan gynnwys y swyddi, o amgylch porthladdoedd. Felly, nid yw'n fater dibwys gweld 30 y cant o'r fasnach yn cael ei cholli ar hyn o bryd. Mae Caergybi'n debygol o oroesi, wrth gwrs, oherwydd mae'n borthladd mor sylweddol i'r DU yn ogystal ag i'r Undeb Ewropeaidd, ond mae'n fwy heriol o hyd i'n porthladdoedd yn sir Benfro, ac yn arbennig y trefniant y cyfeiriodd yr Aelod ato ar gyfer safleoedd rheoli ffiniau, ac a oes cyfundrefn codi tâl ai peidio a sut y byddai hynny'n cael ei osod mewn gwirionedd, oherwydd efallai na fydd cyfundrefn codi tâl a gynlluniwyd ar gyfer porthladdoedd mawr iawn sydd â llawer iawn o draffig, yn addas i borthladdoedd llai mewn unrhyw ran o'r DU. Felly, mae heriau gwirioneddol ynghylch unrhyw drefn sydd wedi'i chynllunio.

Mae hynny'n mynd â ni at y pwyntiau a wnaeth yr Aelod am sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU am gyllid. Cawsom ymateb cwbl anfoddhaol gan Drysorlys y DU ar gostau rhedeg safleoedd rheoli ffiniau, sy'n debygol o fod yn y miliynau, ac mewn gwirionedd mae'r rheini'n gostau na ddylid eu symud yn uniongyrchol i gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. Byddai'n rhaid i ni ddod o hyd i'r arian yn y gyllideb, arian na ellir ei wario mewn meysydd eraill i gefnogi'r economi neu wasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn ei groesawu pe bai cefnogaeth drawsbleidiol wirioneddol i symud ymhellach ar hynny, gan gynnwys gan Aelodau Ceidwadol, a fydd yn cydnabod y difrod a allai wneud fel arall i wahanol rannau o'r economi, nid dim ond Caergybi a phorthladdoedd sir Benfro.

Fodd bynnag, nid yw'n glir a fydd y gostyngiad mewn masnach yn gwella. Rydym eisoes wedi gweld nifer o lwybrau uniongyrchol o ynys Iwerddon i gyfandir Ewrop, ac mae'n rhywbeth sy'n codi yn ein hymgysylltiad â Gweinidogion Iwerddon hefyd, y bydd yn well gan rai busnesau gael sicrwydd, hyd yn oed gyda chost uwch, o'i gymharu ag ansicrwydd ynghylch yr hyn fydd yn digwydd i'r llwybrau tir traddodiadol drwy Gymru hefyd. Felly, ni allaf roi sicrwydd ynghylch a fydd y fasnach honno'n gwella, neu asesiad uniongyrchol, oherwydd nid yw hynny'n sicr o hyd.

O ran dewis safleoedd rheoli ffiniau a safleoedd rheoli ffiniau yn fwy cyffredinol, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe bawn i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y mater hwn yn gyffredinol, oherwydd y cynnydd yr ydym yn ei wneud, a'n hawydd, gyda rhywfaint o gymorth gan Lywodraeth y DU, sydd wedi'i groesawu, a chynnydd adeiladol, ar y costau adeiladu ar gyfer safle rheoli ffiniau o amgylch porthladd Caergybi.

Dylwn i ddweud, o ran eich pwynt ehangach am weithredu allforio, ei bod wedi bod yn ddiddorol, gyda'r rhwystrau a'r tariffau, mai'r heriau mwyaf ar gyfer masnach yw'r rhwystrau nad ydyn nhw'n dariffau, y gwaith papur ychwanegol, y gost ychwanegol. Byddwch wedi gweld y lluniau o lorïau'n ciwio y tu allan i'r porthladdoedd ac ar sianelau cul yn Lloegr, ac mewn gwirionedd mae hynny wedi bod yn ffactor mawr iawn yn y busnesau hynny nad ydynt bellach yn masnachu gyda busnesau yn y DU, gan gynnwys yma yng Nghymru, ond hefyd i'r busnesau hynny sy'n bwriadu tynnu'n ôl o fod yn fusnesau allforio hefyd. Mae'n werth nodi bod masnach y DU â'r UE wedi gostwng mewn gwirionedd, ond hefyd â gweddill y byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd hefyd, ac rwy'n credu bod hynny'n destun ansicrwydd a'r diffyg eglurder ynghylch lle mae'r DU.

Unwaith eto, byddwn yn fwy na bodlon wrth roi'r newyddion diweddaraf i bobl am y cynllun gweithredu allforio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae ein cenhadon yn ei wneud. Dw i wedi cwrdd â phob un o'n cenhadon mewn gwahanol rannau o'r byd. Maen nhw'n falch iawn o fod yn rhan o'r Cymry ar wasgar, i fod yn ymladd dros Gymru ar gyfer buddsoddi mewn rhannau eraill o'r byd yn y dyfodol, a gobeithio, pan fyddaf wedi cwblhau fy nghyfnod o ynysu yn sgil COVID, gallaf gwrdd â phobl yn y gwledydd hynny lle yr ydym yn cydnabod bod gennym gyfleoedd gwirioneddol i gael mwy o lwyddiannau i fusnesau Cymru, ac yn sicr byddwn yn gwerthfawrogi'r cyfle i weithio'n adeiladol gydag Aelodau ar draws y Siambr i wneud hynny ar gyfer busnesau Cymru ac, wrth gwrs, ar gyfer swyddi yng Nghymru. 

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 4:55, 1 Chwefror 2022

Diolch i'r Gweinidog, a dwi'n dymuno iddo fe wellhad cyflym. 

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi gweld y defnydd anghyson a gwael o gyd-bwyllgorau gweinidogol, a oedd i fod i wella cydweithrediad rhwng Llywodraethau'r DU a Llywodraethau datganoledig, ond a oedd yn bennaf, yn fy marn sinigaidd i, yn ddim ond ymarfer ticio blychau. Rwy'n pryderu y bydd llawer o'r fforymau a sefydlwyd drwy'r cytundeb ymadael a'r cytundeb masnach a chydweithredu yn gweld swyddogaeth Cymru naill ai'n bodoli neu'n gwbl artiffisial, heb i'r lleisiau yng Nghymru gael eu clywed yn wirioneddol ym mherthynas y DU â'r UE yn y dyfodol. Ac nid yw eich datganiad yn gwneud dim i fy sicrhau i y clywir Cymru.

Er bod rhagflaenydd Liz Truss, yr Arglwydd Frost, wedi awgrymu y bydd Llywodraethau datganoledig yn cymryd rhan mewn fforymau a sefydlwyd gan y ddau gytundeb pan sonnir am eitemau o gymwyseddau datganoledig, nododd hefyd fod hyn yn ddarostyngedig yn y pen draw i ddisgresiwn terfynol cyd-gadeirydd y DU o adran flaenllaw berthnasol Whitehall. Os nad yw'r broblem ynghylch hyn yn glir, gellir ei gweld yn glir iawn pan ofynnodd y Gweinidog, ym mis Tachwedd, a gaiff fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y cyd-bwyllgor fel aelod sy'n cyfrannu pan drafodwyd materion yn ymwneud â Gogledd Iwerddon, oherwydd, wrth gwrs, eu heffaith ar borthladdoedd Cymru, ond deallaf y gwrthodwyd y cais hwnnw, Gweinidog. Byddai'n ddiddorol gwybod ar ba sail y cawsoch eich gwrthod a'ch barn ar hyn, yn enwedig o ystyried, fel y dywedoch eisoes, ein bod, yn y newyddion yr wythnos diwethaf, wedi gweld bod porthladdoedd Cymru wedi profi gostyngiad o 30 y cant mewn traffig oherwydd Brexit, gyda darn sylweddol o hynny oherwydd newidiadau yn y defnydd o lwybr pontydd tir i borthladdoedd yr UE drwy Gaergybi, fel y cyfeiriodd Paul Davies ato hefyd.

Ar ôl cyfarfod cyntaf cyngor partneriaeth y cytundeb masnach a chydweithredu, ysgrifennoch chi, Gweinidog, at yr Arglwydd Frost yn disgrifio'r cyfarfod fel un anfoddhaol iawn ac yn un na allai Llywodraeth Cymru ei gefnogi'n gredadwy. Sylwaf fod y Gweinidog, yn ei ddatganiad ar y cyfan, yn falch bod ymgysylltu yn gyffredinol wedi bod yn dda, ond a oes gan y Llywodraeth ddigon o ddylanwad i gynrychioli lleisiau ac anghenion pobl Cymru yn briodol yn y cytundebau hyn? Os nad yw'r Gweinidog yn credu y gellir cynrychioli Cymru'n wirioneddol, yna pa sianeli sydd ar gael i'r Llywodraeth i godi ei phryderon?

Ac, yn olaf, mae'n rhaid i Lywodraethau datganoledig hysbysu Llywodraeth y DU o'r holl gynnwys a chyswllt sydd ganddyn nhw â sefydliadau ac aelod-wladwriaethau'r UE, ac, o'ch datganiad, mae'n amlwg bod y Prif Weinidog wedi bod mewn cysylltiad â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd i nodi perthynas adeiladol rhwng Cymru a'r UE yn y dyfodol, sydd i'w chroesawu wrth gwrs, ac wrth gwrs sylwadau Derek Vaughan. I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu â sefydliadau ac aelod-wladwriaethau'r UE, a beth yn union y mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd ffurf y berthynas hon yn y dyfodol?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:58, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau ac, unwaith eto, am eich dymuniadau da ar gyfer adferiad, gobeithio o fewn y cyfnod ynysu newydd. Edrychwch, ar eich pwyntiau ynghylch y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol i fod i weithio, rwy'n credu bod hyn yn dangos y gwahaniaeth y mae'r arweinyddiaeth ar lefel y DU yn ei wneud. Yn sicr, cefais fwy na fy nghyfran deg o anghytuno gyda'r Llywodraeth dan arweiniad Theresa May pan oedd yn Brif Weinidog, ond rwy’n credu bod mwy o sylw'n cael ei roi i'r hyn y cytunwyd arno ac yn cael ei gytuno drwy'r broses rynglywodraethol honno, drwy gyd-bwyllgorau gweinidogion, ac, wrth gwrs, daeth cyfarfodydd y cyd-bwyllgorau i ben. Yr her yn awr yw bod ein peiriannau rhynglywodraethol newydd yn gweithio mewn gwirionedd ac yn real ac nid ydym yn gweld buddiannau Cymru—nid yn unig buddiannau Cymru, ond rhai'r Llywodraethau datganoledig eraill—yn cael eu hanwybyddu neu eu gorlethu gan Lywodraeth y DU nad oes ganddi ddiddordeb mewn gwneud i'r trefniadau partneriaeth y dylem ni fod â nhw, weithio. Rwy'n credu, er bod gennych chi a minnau safbwyntiau gwahanol ar yr undeb, rwyf eisiau gweld yr undeb yn gweithio, a rhaid i hynny olygu bod yn rhaid cael parch priodol gan Lywodraeth y DU at y cytundebau sydd gennym ar waith ar sut yn union y mae hynny i fod i ddigwydd.

O ran cyngor partneriaeth y DU a'r UE, fel y dywedais wrth ateb Paul Davies, ymadawodd yr Arglwydd Frost gyda gwaith heb ei gwblhau mewn amrywiaeth o'r meysydd yr oedd wedi bod yn eu rhedeg ar gyfer Llywodraeth y DU. Rwyf wedi ei gwneud yn glir na all Gweinidogion fod yn arsylwyr yn y cyngor partneriaeth; rhaid i ni fod yn gyfranogwyr, neu ni fydd Gweinidogion yn ei fynychu. Mae'n ddefnydd gwael o fy amser i neu amser unrhyw Weinidog arall i eistedd ar y cyrion yn unig tra bo dim ond un Gweinidog Llywodraeth y DU yn siarad ar ran y pedair gwlad, gan gynnwys y meysydd hynny lle mae buddiant amlwg a chlir wedi'i ddatganoli. Ac nid oes rhaid i hyn fod yn faes lle mae gwrthwynebiaeth neu anghytundeb rhwng pedair Llywodraeth y DU. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi cyfeirio'n rheolaidd at achlysuron blaenorol lle'r oedd Gweinidogion o wahanol rannau o'r DU yn ein hymgysylltiadau blaenorol â Chyngor Gweinidogion Ewrop yn cytuno ar safbwyntiau cyffredin a byddai Gweinidogion datganoledig yn arwain ar rai o'r eitemau hynny. Mae hynny'n ymarfer gwerthfawr o amser gweinidogol. Dylai hyrwyddo mwy o weithio i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y buddiannau cyffredin ledled y DU, ac mae angen i unrhyw un sydd eisiau esboniad llawnach o hyn dreulio ychydig o oriau gydag Alun Davies i gael esboniad manylach o'r ffordd y mae hynny wedi gweithio'n llwyddiannus ar adegau yn y gorffennol. Felly, mae model y profwyd ei fod yn gweithio eisoes ond nad yw'n mynd i faes lle mae Llywodraeth y DU yn teimlo bod ei safbwynt yn cael ei gamfeddiannu, ond yn fwy cyffredinol, mewn gwirionedd, yn adeiladu ar hynny hefyd. A dyna'r ffordd yr ydym yn mynd at ein perthnasoedd ehangach hefyd.

Felly, o ran eich pwyntiau olaf ynghylch cadw mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU ar ein perthynas a'n cyswllt ag Ewrop, rydym yn gwneud hynny fel mater o drefn. Nid ydym yn bwriadu gwneud hyn mewn ffordd sy'n fwriadol wrthweithiol neu'n torri'n fwriadol ar draws buddiannau Llywodraeth y DU. Rydym yn gwneud hynny mewn ffordd lle mae gwybodaeth yn cael ei rhannu'n wirioneddol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y dywedwn y dylai pawb arall ei wneud, a bod â gwir ddiddordeb yn y ffordd yr ydym yn hyrwyddo buddiannau Cymru, ac i wneud hynny mewn ffordd a ddylai ychwanegu cryfder at le mae'r DU yn hytrach na'i thanseilio. Felly, rwy'n ffyddiog iawn y gallwn ni barhau i wneud hynny, pryd y mae Derek Vaughan yn gweithio i flaenoriaethau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru, ac yn gwneud hynny mewn ffordd sydd, yn fy marn i, yn fodel ar gyfer yr hyn a ddylai ddigwydd yn y dyfodol o fewn y DU ac yn allanol. 

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 5:01, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad pwysig hwn. Llywydd, os caf i, hoffwn ddechrau drwy groesawu penodiad Derek Vaughan i'r swydd hon. Bydd Derek yn dod â chyfoeth o brofiad i'r swydd, ac rwy'n credu ei fod yn benodiad gwych. Gweinidog, un cwestiwn gennyf i. A ydych chi'n cytuno ac a wnewch chi gadarnhau heddiw mai un o'r blaenoriaethau i'r rhai sy'n ceisio cryfhau ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yw y dylai sefydliadau yng Nghymru allu manteisio o hyd ar y cyllid ymchwil gan Horizon Europe, pan fydd yr UE yn cytuno ar ein cyfranogiad ni? 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:02, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

'Gwnaf' yw'r ateb clir iawn. Mae'n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru o ran ein perthynas barhaus â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi gwneud y pwynt hwn yn glir iawn yn ein sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ynghylch hyn. Mae'n weledigaeth a rennir gan rannau eraill o'r DU hefyd. Mae llawer iawn i'w ennill o allu gwneud hyn nid yn unig gyda chyfandir Ewrop, ond hefyd, wrth gwrs, gyda'n partneriaid ar ynys Iwerddon. Os cawn ni ein heithrio rhag cymryd rhan, yna swyddi, busnesau ac ymchwil Cymru fydd ar eu colled. Mae adnoddau o bwys ar gael nid yn unig mewn termau ariannol, ond y cyfle i rannu dysgu a mewnwelediad a ddylai helpu dyfodol ymchwil ac arloesi Cymru mewn gwirionedd, ac, wrth gwrs, beth mae hynny'n ei olygu o safbwynt busnes a swyddi. A byddwn i'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r Aelodau am gynnydd y trafodaethau hynny er mwyn sicrhau y gall Cymru barhau i gymryd rhan yn llwyddiannus yn rhaglen Horizon Europe.   

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:03, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Bydd hi'n chwe blynedd ym mis Mehefin ers i bobl Cymru bleidleisio i gymryd rheolaeth yn ôl ac ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae Prydain bellach wedi cael dwy flynedd o adennill ein rhyddid, ac, er ein bod yn cael ei llesteirio gan bandemig, rydym yn dechrau gweld beth y gall ffrwyth cenedl fyd-eang wirioneddol annibynnol ei gyflawni. Mae'n bryd i ni ddechrau gweld potensial yr hyn sydd gan Brexit i'w gynnig, fel cytundebau masnach trawiadol gyda 70 o wledydd, gwerth dros £760 biliwn, gan gynnwys cytundebau nodedig gydag Awstralia a Seland Newydd sy'n paratoi'r ffordd i'n mynediad i'r cytundeb cynhwysfawr a blaengar gwerth £9 triliwn ar gyfer partneriaeth y Môr Tawel. Mae Prydain o'r diwedd wedi ailagor y drws i weddill y byd, ac rydym nawr yn mynd i weld manteision hynny. 

Y bore yma, roeddwn i'n rhan o gomisiwn Pwyllgor Ewropeaidd y Rhanbarthau ar gyfer dinasyddiaeth, llywodraethu, materion sefydliadol ac allanol, gydag Alun Davies, lle buom ni'n trafod cryfhau'r berthynas rhwng yr UE a'r DU ar lefel is-genedlaethol. Roedd yn drafodaeth gadarnhaol iawn, yn wahanol i'ch datganiad chi, Gweinidog, lle codwyd syniadau gwych i fanteisio i'r eithaf ar ein perthynas newydd, un sydd wedi'i hadeiladu ar gydweithredu, ymddiriedaeth a pharch at ein gilydd, ond o fewn paramedrau Brexit. Mae'n amlwg i mi fod angen i'r Senedd a'r Llywodraeth, yn y dyfodol agos, edrych ar gytundebau cydweithredu economaidd, gan gysylltu busnesau a sefydliadau â dinasoedd ac ardaloedd cydnaws, yn union fel y mae Manceinion a Llywodraeth y DU wedi'u cyflawni'n ddiweddar gyda rhanbarth metropolitan mwyaf yr Almaen, Gogledd Rhine. Nod y cytundeb cydweithredu yw cryfhau cysylltiadau diwylliannol ac economaidd, gan ganolbwyntio ar gamau gweithredu ar gyfer yr hinsawdd, trafnidiaeth gynaliadwy, digideiddio, seiberddiogelwch, arloesi ac ymchwil. Gallai hyn, mewn gwirionedd, fod yn ddull cyffrous i ni, Gweinidog. A ydych chi wrthi'n ceisio mabwysiadu cytundebau o'r fath? Beth ydych chi a Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod busnesau Cymru yn cael y cyfle gorau i gael eu cynnwys yn y cytundebau cydweithredu hynny? A oes gennych chi gynllun ar waith o fewn eich cytundeb rhyngwladol i sicrhau y gall rhanbarthau Ewrop a Chymru barhau i elwa ar ei gilydd o fewn ein perthynas newydd? Yn olaf, pa gynlluniau sydd gennych chi i ddenu mewnfuddsoddiad pwysig iawn i Gymru? Diolch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:05, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

O ran mewnfuddsoddiad, rydym yn parhau i weld mewnfuddsoddiad fel rhan gytbwys o'n hymagwedd at ddyfodol yr economi, ynghyd â chwmnïau a busnesau sy'n tyfu yng Nghymru nad ydyn nhw yn dibynnu ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor. Rwy'n credu, o ran eich sylwadau am adennill rhyddid, nad yw ein rhyddid byth yn cael ei dynnu oddi arnom; roeddem mewn perthynas fasnachu wahanol ac yn un a weithiodd yn llwyddiannus ac yn dda i fusnesau Cymru a swyddi yng Nghymru. Os nad ydych yn credu hynny, siaradwch â'r bobl sy'n rhedeg Airbus am eu dewisiadau buddsoddi a beth mae hynny'n ei olygu i swyddi da yng Nghymru, ewch i siarad â phobl sydd wedi masnachu'n llwyddiannus gyda'r Undeb Ewropeaidd ac sydd bellach yn gweld eu bod mewn sefyllfa lle nad yw hynny'n bosibl. Rydym wedi clywed, wrth gwrs, lawer am ddiwydiant pysgod cregyn Cymru a'r heriau sydd ganddyn nhw. Felly, y gwir fater yma yw, ar ôl gwneud dewis i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, y math o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yw'r un sydd gennym yn awr, ac yr oedd hynny'n ddewis a wnaed gan Lywodraeth y DU. Mae hynny'n ddewis a fydd, yn anochel ac yn ddi-os, yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau Cymru fasnachu â gweddill Ewrop. Nawr, byddai'n onest dweud eich bod yn credu bod hynny'n bris gwerth ei dalu. Nid yw'n onest dweud ein bod rywsut mewn sefyllfa lle nad yw'r berthynas fasnachu wedi'i newid ac nad yw'n anoddach o gwbl i fusnesau Cymru sydd am weithio gyda phartneriaid Ewropeaidd. Mae gan Gymru, fel mater o ffaith, fwy o'n masnach â gweddill y byd a gyda gweddill Ewrop na rhannau eraill o'r DU, felly mae'n arbennig o bwysig er budd economi Cymru. Wrth gwrs, o'r 70 o wledydd y mae gennym gytundebau masnach â nhw y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, mae'r rhan fwyaf o'r rheini'n gytundebau masnach sy'n ymwneud â'r telerau yr oedd yr Undeb Ewropeaidd wedi'u negodi gyda'r gwledydd hynny hefyd. Mae'n gamarweiniol—rwy'n siŵr nad yw'n fwriadol—i geisio awgrymu bod Llywodraeth y DU wedi trafod 70 o gytundebau masnach unigol yn y cyfnod hwnnw mewn ffordd gwbl newydd.

Dylwn i nodi hefyd, er eich bod yn clodfori'r potensial i ymuno â phartneriaeth fasnach y Môr Tawel, wrth gwrs, yr anhawster yw bod y cytundebau masnach ag Awstralia a Seland Newydd wedi gosod bar neu wedi gosod pwynt mynediad ar gyfer gwneud hynny. Rwy'n credu bod hynny, yn arbennig, yn risg wirioneddol i amaethyddiaeth yng Nghymru. Fel y dywedais i yn fy natganiad, rydym yn fras o blaid cytundebau masnach rydd newydd, ond nid ydym yn cytuno â'r dull y dylid ystyried amaethyddiaeth fel rhywbeth dibwys i'w daflu ar y glorian er mwyn sicrhau bod y cytundebau masnach hynny'n digwydd. Ond mae arnaf ofn, dyna'r dull sydd wedi'i fabwysiadu mewn ffordd glir gan Lywodraeth y DU. Peidiwch â derbyn fy ngair i; gofynnwch i Undeb Amaethwyr Cymru. Yn sicr, dydyn nhw ddim yn deithwyr gwleidyddol nac yn ffrindiau i Lafur Cymru. Os nad ydych yn derbyn eu gair nhw, gofynnwch i Minette Batters, llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Nid yw hyn yn rhywbeth y gellir ei frwsio o'r neilltu. Mae risgiau gwirioneddol yn cael eu cymryd nid yn unig gyda sectorau o economi Cymru, ond gyda'r hyn y mae hynny'n ei olygu i ffordd Gymreig o fyw mewn rhannau helaeth o gefn gwlad Cymru.

Rwy'n derbyn eich pwynt am agor drws i'r byd. Wel, mewn gwirionedd, rydym yn gwneud llai o fasnachu gyda gweddill y byd ers i ni adael. Nawr, rydym yn gwneud popeth y gallem ni ac y dylem ni ei wneud, rwy'n credu, i gefnogi busnesau Cymru, i barhau i fasnachu'n llwyddiannus gyda phartneriaid Ewropeaidd a gyda gweddill y byd. Ein her yw gwneud hynny pan fo'r fasnach honno wedi mynd yn anoddach. Ac fel rhan o hynny, dyna pam yr wyf wedi bod yn awyddus i gynnal perthynas uniongyrchol â Llywodraethau rhanbarthol yn Ewrop. Rwyf wedi siarad â Llywodraethau rhanbarthol o fewn yr Iseldiroedd ac rwyf hefyd wedi siarad â Llywodraeth ranbarthol Gwlad y Basg yn ddiweddar yn ogystal â'i gwneud yn glir ein bod yn dal i fod eisiau parhau â'r berthynas dda a gawsom a'r cyfleoedd masnachu, ac i sicrhau y gallwn rannu gwybodaeth, rhannu adnoddau a sicrhau bod hynny'n dda i fusnesau Cymru a swyddi Cymru. Dyna fydd y dull o weithredu y byddaf yn ei fabwysiadu o hyd tra byddaf yn y Llywodraeth hon.  

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 5:09, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am ddiweddariad pwysig i'r Senedd. Rwy'n croesawu'n fawr y profiad a'r arbenigedd y bydd Derek Vaughan yn eu cynnig i'r swydd hon. Fel y dywedwch chi yn gywir, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal a meithrin y berthynas waith ragorol honno rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, a'n bod yn parhau i geisio cysylltiadau rhynglywodraethol priodol a gweithio gyda Llywodraeth y DU. Ond mae'n ffaith bod Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi addo ym maniffesto'r etholiad yn 2019 y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin newydd o leiaf yn cyfateb i'r £1.5 biliwn y flwyddyn o gronfeydd rhanbarthol yr UE a ddychwelwyd i'r DU yn ei hymrwymiad i aelodaeth yr UE. Yn wir, roedd addewid y Torïaid Cymreig, 'dim ceiniog yn llai', yn swnio'n debyg i gôr meibion gwan a sigledig o amgylch Siambr y Senedd hon. Fodd bynnag, y gwir yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrifo y bydd Cymru'n agos at £1 biliwn yn waeth ei byd dros y tair blynedd nesaf. Y cwestiwn sydd i'w ofyn yw: sut mae hyn yn gadael Cymru heb fod ceiniog yn waeth ei byd? Mae adran codi'r gwastad Llywodraeth Dorïaidd y DU ei hun wedi cadarnhau na fyddai gwariant Llywodraeth y DU yn cyfateb i'r £1.5 biliwn o daliadau cyfartalog yr UE tan 2024-25. Gwyddom fod ASau Torïaidd San Steffan mewn seddi wal goch a'r pleidleiswyr wal goch fel y'u gelwir a bleidleisiodd i'r Torïaid yn 2019 yn teimlo eu bod wedi'u bradychu. Felly, Gweinidog, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn cadw at ei gair, ei haddewidion i bobl Cymru, pan, dro ar ôl tro, mae Alexander Boris de Pfeffel Johnson a'i Gabinet o filiwnyddion yn credu y gallan nhw ein hystyried ni'n ffyliaid byth a hefyd?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:11, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, efallai eich bod wedi gweld bod y Financial Times heddiw, unwaith eto—nad yw'n nodedig am gyd-deithio gyda'r Blaid Lafur—wedi cynnal eu hymchwiliad eu hunain i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda chronfeydd yn lle rhai yr Undeb Ewropeaidd. Roedd addewid clir iawn ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2019—rwy'n credu mai tudalen 44 ydoedd—y byddai gan wledydd y DU o leiaf gymaint o arian ag y bu gennym pan oeddem yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r addewid hwnnw wedi'i dorri, wedi'i dorri yn amlwg iawn, ac rydych chi'n iawn bod y cyfanswm cyffredinol, gan ystyried colli incwm ffermydd ac amaethyddol hefyd, tua £1 biliwn dros y blynyddoedd nesaf.

Mae'n newyddion drwg i Gymru. Mae hefyd yn newyddion drwg i'r DU, oherwydd mae rhanbarthau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a oedd gynt yn ddibynnol ar yr arian hwn hefyd yn mynd i fod ar eu colled yn sylweddol. Newyddion drwg i swyddi, newyddion drwg i sgiliau, newyddion drwg i ymchwil a datblygu, a'r rhan waethaf o hyn yw, nid oes arlliw o brotest gan yr un Ceidwadwr Cymreig yn y Senedd bod £1 biliwn yn cael ei herwgipio o Gymru. Mae'n warthus bod hyn wedi digwydd—addewid sy'n amlwg wedi'i dorri, ac yn waeth na diwerth gan y Ceidwadwyr Cymreig sy'n dal i fynnu ein bod yn derbyn, nid dim ond yn derbyn ond yn cefnogi, fod yr arian hwnnw wedi'i sugno allan o Gymru. Rwy'n credu mai'r unig ffordd o gael rhywbeth wedi'i wneud yn iawn yw i Lywodraeth Dorïaidd y DU dderbyn bod yn rhaid iddyn nhw gadw at eu haddewid a rhaid iddyn nhw weithio yn briodol ac yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr addewidion ariannu hynny'n cael eu cyflawni, ac os nad yw hynny'n digwydd, yna rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw Llywodraeth newydd yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n edrych ymlaen at yr ymgyrch etholiadol nesaf i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:13, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn ddiolchgar i chi, Llywydd, ac yn ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio eich bod yn parhau i wella o COVID, ac rwy'n credu yr hoffai pobl ar draws y Siambr ddymuno'n dda ichi gyda hynny.

Fel eraill, hoffwn eich llongyfarch ar benodi Derek Vaughan. Mae'r rhai hynny ohonom sydd wedi gweithio gyda Derek Vaughan yn y gorffennol yn sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn gwybod pa mor effeithiol y mae wedi bod yn sefyll dros Gymru, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn parhau i wneud hynny.

O ran eich datganiad y prynhawn yma, rwy'n cytuno'n fawr iawn â llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, ond rwyf eisiau gofyn un cwestiwn i chi, Gweinidog, ac rwyf eisiau gofyn i chi wneud un peth yn y blynyddoedd i ddod: rwyf eisiau i chi ddweud y gwir am Brexit wrth y Siambr hon a phobl Cymru. Rwyf eisiau i chi ddweud wrthym ac rwyf eisiau i chi ddod i'r Siambr hon o leiaf unwaith bob chwarter i roi asesiad o'r difrod sy'n cael ei wneud i'r wlad hon o ganlyniad i Brexit a'r effaith y mae'n ei chael. Rydym ni wedi gweld busnesau yn cael eu colli, rydym wedi gweld colli masnach, rydym wedi gweld colli arian, ac mae'r Torïaid yn chwerthin. Un o'r pethau mwyaf rhyfeddol am y datganiad hwn y prynhawn yma yw po fwyaf y mae pobl yn sôn am y cyllid sydd wedi'i golli i bobl Cymru, y mwyaf y bydd eu meinciau cefn yn chwerthin. O leiaf mae eu mainc flaen yn ddigon doeth i wybod am y niwed y mae hyn yn ei wneud i'r wlad hon.

Gobeithio, Gweinidog, y byddwch chi'n gallu sôn am y ffordd yr ydym yn colli cyfleoedd, ond yn creu rhwystrau—rhwystrau i fusnesau, mwy o fiwrocratiaeth, mwy o dâp coch. Does dim ots iddyn nhw oherwydd dydyn nhw ddim yn poeni o gwbl. Gwyddom ni beth y dywedodd arweinydd y Torïaid am fusnes; ni wnaf ei ailadrodd y prynhawn yma, ond maen nhw wedi'i wneud yn amcan eu polisi, a dyna'r unig bolisi y maen nhw'n llwyddo ynddo.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:15, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y sylwadau. Rwy'n credu bod dwy agwedd. Y gyntaf yw bod Derek Vaughan yn uchel ei barch ledled Ewrop, felly mae'n benodiad da i ni ar ôl ymarfer recriwtio agored a chywir sy'n briodol ar gyfer y gwasanaeth sifil.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ni allaf glywed y Gweinidog oherwydd bod sgwrs barhaus yn y Siambr. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni wrando ar ymateb y Gweinidog? Diolch. Gweinidog.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Fel yr oeddwn yn ei ddweud, recriwtiwyd Derek Vaughan yn briodol ac yn unol â gweithdrefnau recriwtio'r gwasanaeth sifil, ac rwyf i bob amser yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru wneud gydag ychydig mwy o Vaughan i'w wneud yn fwy effeithiol.

O ran eich pwynt ehangach, fodd bynnag, am yr hyn sydd wedi digwydd, rwyf o'r farn nad oes ots sut y gwnaethoch chi bleidleisio yn awr, digwyddodd y refferendwm ac rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn glir gyda phobl ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu: mae gwahanol berthnasoedd ar waith; mae'r DU wedi dewis bod yn drydedd wlad; mae Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â chymryd rhan mewn marchnad sengl nac undeb tollau. Mae hynny'n golygu bod mwy o rwystrau ar waith. Nid yw'r cytundeb masnach a chydweithredu sydd gennym ni yn disodli rheini yn llawn; mae'n ei gwneud yn anos masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ac asesiad Llywodraeth y DU ei hun yw bod y pandemig yn debygol o leihau cynnyrch domestig gros 2 y cant. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau yr ydym wedi'u gwneud yn debygol o ddyblu hynny—colled o 4 y cant o gynnyrch domestig gros. Dyna'r dewis a wnaed gan Lywodraeth y DU. Nid wyf yn cofio'r tro diwethaf i Lywodraeth y DU ddewis lleihau allbwn economaidd y Deyrnas Unedig yn fwriadol, na'r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran swyddi a busnesau yma. Mae hynny'n ychwanegol at y dewisiadau y maen nhw wedi'u gwneud wedyn am yr hyn sydd wedi digwydd, gan gynnwys yr £1 biliwn a dynnwyd oddi ar Cymru, gan gynnwys torri addewid maniffesto yn fwriadol na fyddai Cymru'n cael ceiniog yn llai. Dyna wirionedd y mater, ac os dim byd arall, rwy'n credu y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud rhai ffafrau â'u hunain pe bydden nhw ond yn cydnabod ffeithiau'r hyn sy'n digwydd a pheidio â chredu ein bod ni i gyd yn ffyliaid. Dyma'r dewis yr ydych chi wedi'i wneud, yr ydych chi wedi dadlau drosto ac yr ydych chi yn ei amddiffyn. Fe allech chi, wrth gwrs, ddewis peidio ag amddiffyn gweithredoedd anamddiffynadwy Llywodraeth y DU a dewis ymuno â ni i sefyll dros Gymru. Wnaf i ddim dal fy ngwynt.

Photo of James Evans James Evans Conservative 5:17, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Ers i bobl Cymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin 2016, rydych chi a'ch Llywodraeth wedi ymladd yn frwd i atal Brexit rhag digwydd. Achosion llys, galwadau am ail refferendwm a gwrthod mandad pobl y wlad hon a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Gweinidog, yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am gyfrifoldebau newydd yn dod i'r Senedd, ac rwy'n credu bod hynny'n beth cadarnhaol iawn gan ei fod mewn gwirionedd yn gwneud pobl yn y lle hwn yn fwy atebol i'r bobl sy'n ein hethol ni yma. Nid wyf ychwaith yn cytuno â chi, fel y gallwch chi gasglu, mae'n debyg, ar eich datganiad bod Llywodraeth y DU yn elyniaethus tuag at ddatganoli. Fel y mae'r Prif Weinidog ei hun wedi ei ddweud, mae'n hoffi datganoli; y broblem yw ein bod wedi bod â'r un Llywodraeth yma ers 1999, gan fethu pobl Cymru.

Gweinidog, mae gennyf un neu ddau o gwestiynau i chi. A wnewch chi amlinellu os gwelwch yn dda—rwy'n gwybod eich bod wedi amlinellu ychydig yma—penodiad y cyn-ASE Llafur Cymru Derek Vaughan, a chylch gwaith ei swyddogaeth a sut y mae'n mynd i weithio gyda swyddogion Llywodraeth y DU o fewn yr UE er budd gorau Cymru? Ac a wnewch chi hefyd amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael ynghylch cyfleoedd i Gymru gydag adran fasnach y DU i sicrhau y gall ein busnesau yma fod yn rhan o Brydain wirioneddol fyd-eang? Ac yn olaf, a wnewch chi achub ar y cyfle hwn i ymddiheuro i'r rhan fwyaf o bobl Cymru a thynnu'n ôl y camau, y sylwadau a'r datganiadau a wnaed gennych chi a'ch Llywodraeth ynglŷn â Brexit, a chroesawu'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit i bobl Cymru?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:19, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym yn cael sgyrsiau adeiladol rhwng swyddogion ac, yn wir, gyda Gweinidogion yn yr Adran Masnach Ryngwladol. Efallai nad ydych chi wedi bod yn gwrando, ond fe wnes i, mewn gwirionedd, adrodd, wrth ateb y set gyntaf o gwestiynau gan Paul Davies, am y sgyrsiau adeiladol a gawsom yn y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach, ac mewn gwirionedd ein hawydd i gael rhagor o sgyrsiau adeiladol ynghylch dyfodol ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Felly, mewn gwirionedd, rydym bob amser wedi bod yn bartneriaid parod o ran bod eisiau gwneud y peth iawn ac mewn modd adeiladol. Yr hyn na fyddwn ni'n ei wneud yw sefyll o'r neilltu tra bod pwerau'n cael eu dwyn oddi arnom ni.

A dweud y gwir, mae'n nonsens hurt sy'n gwadu realiti i geisio awgrymu nad yw Llywodraeth Boris Johnson yn elyniaethus tuag at ddatganoli. Maen nhw, yn weddol reolaidd, wedi bygwth, neu, yn wir, mewn rhai achosion, wedi ceisio diystyru pwerau a chymhwysedd datganoledig. Nid ceffyl pren Troea yw Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ond yn hytrach ymgais i ddinistrio a chipio datganoli pryd bynnag y bydd Gweinidogion y DU yn dewis ei ddefnyddio. Ac mae'n rhyfeddol bod pobl sydd wedi'u hethol i Senedd Cymru wedyn yn dathlu pan gaiff cyfrifoldebau eu cymryd oddi ar Senedd Cymru, er gwaethaf y mandad—i ddefnyddio ei derm ef—bod pobl Cymru wedi rhoi i'r lle hwn, nid mewn un, ond mewn dau refferenda i bwerau a chyfrifoldebau fod gyda'r bobl a etholwyd i'r lle hwn. O ran parchu mandadau, hyn, gan ddyn sy'n mynd ar sefydliad newyddion eithriadol o elyniaethus i honni, oherwydd bod Llafur Cymru yn parhau i ennill etholiadau ac arwain Llywodraeth Cymru, nad yw'n teimlo ei fod yn byw mewn democratiaeth. Rwy'n credu y gallai fod angen iddo edrych arno'i hun a meddwl ychydig yn fwy gofalus am rai o'r pethau y mae'n barod i'w dweud am bobl sydd, mewn gwirionedd, yn llwyddo i ennill etholiadau yma yng Nghymru. Fodd bynnag, byddaf i yn parhau i weithio gyda phob Aelod adeiladol o'r Ceidwadwyr Cymreig ac, yn wir, ar draws y Siambr i wneud y gorau dros fusnesau a swyddi a mynd i'r afael â realiti newydd ein perthynas wahanol iawn â'r Undeb Ewropeaidd. 

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 5:21, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, a gobeithio y byddwch yn gwella'n fuan.

Ar 29 Ionawr, dywedodd Minette Batters, llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, a dyfynnaf:

'Roeddwn i'n ofni y byddai ffermwyr yn cael eu defnyddio fel gwystl mewn cytundebau masnach—a dyna beth ddigwyddodd.'

Fy nghwestiwn clir i'r Ceidwadwyr hynny sydd wedi siarad yw hyn: a ydyn nhw'n credu nad yw hi'n cynrychioli barn ffermwyr os ydyn nhw'n parhau i ddweud bod y cytundebau masnach hyn yn gamau cadarnhaol?

Rydym ni hefyd wedi sôn am borthladdoedd yng Nghymru, ac mae o leiaf 1,000 o swyddi yng Nghaergybi a thua 4,000 yn sir Benfro wedi'u cysylltu â'r porthladdoedd. Felly, mae'n bosibl bod teuluoedd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y materion sy'n ymwneud â'r dirywiad mewn llongau o Iwerddon. Mae'r tâp coch wedi arwain at nifer o gludwyr yn penderfynu osgoi'r DU a Chymru yn gyfan gwbl, ac gwnaeth y defnydd o lwybrau fferi uniongyrchol rhwng Ffrainc ac Iwerddon gynyddu yn 2021. Yn 2020, roedd llai na 12 llwybr uniongyrchol, ac erbyn hyn mae'n 44, ers mis Hydref 2021. Maen nhw'n osgoi Cymru'n gyfan gwbl, felly mae'r symudiadau ym môr Iwerddon yn uchel, ond mae Cymru'n cael ei hosgoi.

Gweinidog, ar yr holl faterion hyn sy'n effeithio ar fywydau pobl Cymru—a gallaf glywed yr angerdd yn y Senedd—boed yn ffermwyr neu'n bobl sy'n gweithio mewn porthladdoedd, beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bob un ohonom ni ar draws y Senedd, pa bynnag blaid yr ydym ni ynddi, i sicrhau a gweithio'n galed i weld bod ein cymunedau gwledig ac arfordirol yn parhau i fod yn iach ac yn fywiog? Diolch yn fawr iawn.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:23, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y ddau gwestiwn. Rwy'n credu fy mod wedi amlinellu yn gynharach y realiti bod amaethyddiaeth wedi ei defnyddio fel gwrthbwys mewn cytundebau masnach rhyngwladol newydd. A dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n farn ymylol; rwy'n credu ei bod yn eithaf amhosibl edrych ar y bargeinion sydd wedi'u taro a pheidio â dod i'r casgliadau hynny. Mae hynny'n risg glir ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth ym mhob rhan o'r DU, ac roedd hynny'n rhan o'r drafodaeth a gawsom yn y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach ac rwyf wedi codi hynny dro ar ôl tro gyda Gweinidogion masnach y DU ers cael eu penodi i'r rôl hon. 

Buom yn siarad yn gynharach yn y datganiad hwn am y realiti bod y fasnach mewn porthladdoedd yng Nghymru sy'n wynebu ynys Iwerddon wedi cael ei heffeithio'n uniongyrchol oherwydd y cynnydd sylweddol mewn traffig sydd wedi osgoi Cymru ac sydd wedi mynd yn uniongyrchol i gyfandir Ewrop. Os ydym ni eisiau bod â dyfodol da i gymunedau arfordirol, i amaethyddiaeth ac i'r holl fusnesau hynny sy'n dibynnu ar berthynas briodol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd, yna mae arnom angen eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch dyfodol y cydberthnasau masnachu hynny. Mae angen eglurder; mae angen dull adeiladol o ymdrin â'r cytundeb masnach a chydweithredu, a rhaid canolbwyntio hynny ar wneud cytundebau ac nid dim ond ar ysgrifennu erthyglau i gythruddo gwahanol rannau o sylfaen y Blaid Geidwadol.

Mae hefyd yn golygu bod angen i ni fod yn onest gyda phobl. Er gwaethaf yr holl weiddi a chymeradwyo yn y Siambr yr wyf i wedi'u clywed, a honni nad oes anfanteision i'n sefyllfa ni nawr, yn ein perthynas newydd, mewn gwirionedd, nid dyna y mae busnesau yn ei ganfod. Dylem barchu'r ffaith mai dyna realiti'r busnesau hynny a'r swyddi y maen nhw'n eu cefnogi, ac mae angen i ni fynd i'r afael â'r gwirioneddau hynny neu ni fyddwn ni byth yn manteisio ar ble mae cyfleoedd yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd drwy rai o'r heriau gwirioneddol y mae swyddi a busnesau yn eu hwynebu. Mae'n rhaid mai'r ffordd ymlaen yw bargen o onestrwydd, y gwn nad yw bob amser yn rhywbeth y mae pob gweithredydd gwleidyddol yn rhoi premiwm arno, yn enwedig yn yr adeg bresennol, ond bargen o realiti a gonestrwydd, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni, waeth pa blaid yr ydym ni ynddi, i fabwysiadu'r dull hwnnw.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:25, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Yn olaf, Huw Irranca-Davies.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd, a rwyf innau, fel eraill, yn croesawu penodiad Derek Vaughan fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop. Bydd unrhyw arsylwr teg yn cydnabod ei brofiad perthnasol enfawr a'i wybodaeth, a'i enw da ar draws y pleidiau, a hefyd y berthynas y gall ei defnyddio yn yr UE. Mae'n ddewis ysbrydoledig, Gweinidog, a dymunwn y gorau iddo yn ei ymwneud â Chymru.

A gaf i groesawu hefyd ailddatgan ein gwerthoedd a rennir gyda chymdogion Ewropeaidd blaengar? Efallai ein bod wedi gadael aelodaeth o'r UE, ond nid ydym wedi rhoi o'r neilltu y gwerthoedd sylfaenol hynny o ryddid ac urddas dynol a democratiaeth a chydraddoldeb, rheol y gyfraith a hawliau dynol, ac rwy'n croesawu'r ailddatganiad hwnnw. A gaf i ofyn iddo gadarnhau y byddwn ni yng Nghymru yn parhau i weithio gyda ffrindiau yn Ewrop i ddiogelu a hyrwyddo'r gwerthoedd hynny, nid yn unig ar draws yr UE a'r cyfandir ond yn fyd-eang?

Nawr, Gweinidog, ni wnaf ailadrodd y sylwadau gan lawer heddiw ar yr hyn a oedd yn gelwydd noeth a ddywedwyd gan y Prif Weinidog wrth yr etholwyr, gan gynnwys y rhai hynny a bleidleisiodd i adael yr UE, na fyddai ceiniog yn cael ei cholli i Gymru mewn cronfeydd strwythurol i leoedd fel cymoedd y de, neu na fyddai ffermwyr Cymru ar eu colled o ran unrhyw gyllid nac yn cael eu haberthu mewn cytundebau masnach is na'u gwerth. Ond yn y pen draw mae dweud celwyddau yn dal i fyny gyda chelwyddgwn, ac rydym ni'n gweld hynny yn awr yn San Steffan.

Ond un cwestiwn olaf, Gweinidog: a wnaiff e' egluro ymgysylltiad Llywodraeth Cymru ar drafodaethau masnach gyda'r UE yn y dyfodol? Mae'r gallu i ddylanwadu a helpu i lywio masnach yn yr UE a'r tu allan yn hollbwysig, a byddai'n arwydd o Lywodraethau aeddfed, ac mae gan Alun Davies a minnau rywfaint o brofiad o sut y gall hyn weithio'n effeithiol. Hyd yn oed os yw'r prif safle gan Weinidogion y DU, Llywodraeth y DU ffôl a fyddai'n ceisio rhoi'r Llywodraethau datganoledig o'r neilltu. Byddai Llywodraeth y DU yn ddoeth i geisio ffrwyno sgiliau arbenigol a mewnwelediad ac effaith a dylanwad y gwledydd datganoledig, a defnyddio ein perthynas sydd wedi ei sefydlu'n dda yn yr UE i wella trafodaethau a chael gwell canlyniadau i Gymru ac i'r DU.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:27, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu bod ychydig o bwyntiau i ymateb iddyn nhw gan yr Aelod dros Ogwr, ac rwyf yn sicr yn cytuno—dyna pam y mae yn y datganiad. Rydym ni yn rhannu gwerthoedd â gwledydd Ewrop ar draws yr Undeb Ewropeaidd: ein gwerthoedd democrataidd; y ffaith ein bod yn derbyn canlyniadau etholiad, p'un a ydym yn eu hoffi ai peidio; y ffaith bod gennym etholiadau rhydd a theg; y ffaith bod pob un ohonom ni, gan gynnwys Gweinidogion, yn gyfartal o flaen y gyfraith ac yn ddarostyngedig i reol y gyfraith. Mae'r rhain yn bethau nad ydym ni'n eu gweld ym mhob rhan arall o'r byd, ac ni ddylem eu trin yn ysgafn na'u hildio er mantais bleidiol fach. Rydym wedi gweld y llwybr hwnnw a beth mae hynny'n ei olygu. Os edrychwch chi ar America, mae gennych chi bobl sy'n barod i ymosod ar adeilad y capitol yn America oherwydd nad oedden nhw'n hoffi canlyniad etholiad rhydd a theg. Felly, dylem warchod y gwerthoedd hynny'n genfigennus ac yn ofalus, boed yma neu mewn Llywodraethau eraill ledled y DU hefyd.

A phan ddaw'n fater o gytundebau masnach rydd, mewn gwirionedd, un o'r pethau yr ydym ni'n credu sydd wedi bod yn werthfawr fu rhai o'r pwyntiau ar werthoedd, ar edrych ar weithredu ar gyfranogiad pobl mewn bywyd cyhoeddus a'r hyn yr ydym ni am geisio'i gyflawni. Felly, mewn gwirionedd, mae hynny hefyd yn cynnwys rhai o'r pwyntiau amgylcheddol y gwnaeth Llywodraeth y DU geisio eu cynnwys yn y cytundeb masnach rydd gydag Awstralia. Felly, mae cyfleoedd o fewn y cytundebau masnach rydd hynny, a dyna pam yr ydym yn ceisio tynnu sylw at y ffaith mai Llywodraeth yw hon sydd wedi ymrwymo i fabwysiadu dull adeiladol, a dyna pam mae ein swyddogion wedi gweithio'n adeiladol gyda rhai Llywodraeth y DU. Dyna pam yr ydym yn credu y byddai'n synhwyrol manteisio nid yn unig ar y profiad, ond y mewnwelediad a ddaw yn sgil Gweinidogion Cymru, gyda'r mandad sydd gennym yn uniongyrchol gan bobl Cymru, yn y ffordd y gellid ac y dylid cynnal y trafodaethau hyn gyda gweddill Ewrop. Nid wyf yn credu ei fod yn safbwynt afresymol ac, fel y dywedwch chi, mae gennych chi, yn ogystal â'r Alun Davies anarferol o dawel, brofiad o wneud hyn yn rheolaidd fel rhan o dîm y DU sy'n parchu sefyllfa Llywodraeth y DU ond gweinyddiaethau eraill hefyd.

Edrychaf ymlaen at weld a yw bywyd ar ôl aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd yn cyflawni'r addewidion a wnaed, a fyddwn ni'n gweld yr addewidion a dorrwyd yn cael eu datrys pan gawn y Papur Gwyn codi'r gwastad hir-ddisgwyliedig o'r diwedd, ac, o gofio bod yr Aelod yn cynrychioli rhan fawr o sir Pen-y-bont ar Ogwr, i sicrhau bod yr angen hwnnw'n cael ei adlewyrchu'n briodol yn y ffordd y bydd arian yn cael ei ddarparu yn y dyfodol. Rwy'n credu fod y ffordd y cafodd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a sir y Fflint eu trin mewn rowndiau treialu blaenorol yn frawychus ac yn anamddiffynadwy. Edrychaf ymlaen at fframwaith priodol ynghylch sut y dyrennir arian sy'n ystyried yn briodol yr angen ym mhob rhan o'r DU, gyda swyddogaeth briodol i Lywodraeth Cymru, ac, yn wir, rhoi diwedd ar dorri addewidion, i sicrhau ein bod yn cael yr holl arian a addawyd i ni. Ni waeth sut y gwnaethoch chi bleidleisio, roedd honno'n addewid uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, ac yn un yr wyf i'n disgwyl iddyn nhw ei chyflawni. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:30, 1 Chwefror 2022

Diolch i'r Gweinidog, a phob dymuniad da iddo fe am adferiad buan.