– Senedd Cymru am 3:20 pm ar 9 Mawrth 2022.
Symud ymlaen yn awr at eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, datganoli plismona. Galwaf ar Mike Hedges i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod yr achos dros ddatganoli plismona yn hynod o gryf. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl. Diolch i fy nghyd-gyflwynwyr, a bydd un ohonynt, Rhys ab Owen, yn ymateb i’r ddadl. Mae dadl fel hon yn rhoi cyfle i’r Senedd ddangos i ba gyfeiriad y mae am i ddatganoli fynd. Mae llawer o’r ysgogiadau sy’n effeithio ar lefelau troseddu eisoes wedi’u datganoli i Gymru, megis diogelwch cymunedol, addysg, hyfforddiant, swyddi, gwasanaethau iechyd meddwl, triniaeth alcohol a chyffuriau, tai, cymunedau iach, yn ogystal â llawer o wasanaethau eraill sy’n ymwneud â ffactorau cymdeithasol. Er mwyn mynd i’r afael â throseddu, lleihau troseddu ac aildroseddu, mae angen gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, sydd eisoes yn gweithredu ar wahanol lefelau ledled Cymru. Er enghraifft, mae cymorth i bobl â chyflyrau iechyd meddwl cyn iddynt gyrraedd sefyllfa o argyfwng lle mae angen i'r heddlu ymyrryd, ac ar ôl iddynt ddod i mewn i’r system droseddol, yn golygu gweithio gyda GIG Cymru a byrddau iechyd lleol. Pe bai pŵer plismona’n cael ei ddatganoli, credaf y byddai hynny’n caniatáu ar gyfer llawer mwy o gysylltiad rhwng gwasanaethau ar lefel leol a chan Weinidogion a gweision sifil ar lefel strategol yng Nghymru, yn hytrach na rhwng Cymru a San Steffan.
Credaf fod potensial gwirioneddol ar gyfer model llwyddiannus yng Nghymru, a all adeiladu ar gryfder datganoli heb dorri'n rhydd o'r Deyrnas Unedig. Dyna pam y credaf na ddylai hyn gynnwys Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU, diogelwch gwladol a gwrthderfysgaeth. Mae’n bwysig fod gwasanaethau’r heddlu'n parhau i allu darparu cymorth ar y cyd ar gyfer digwyddiadau mawr, fel yr hyn a welsom gydag uwchgynhadledd lwyddiannus NATO yn ne Cymru.
Mae'n amlwg fod angen i gydweithredu ym maes plismona ymestyn nid yn unig i Ynysoedd Prydain, ond i Ewrop a thu hwnt. Gwyddom fod troseddu a therfysgaeth yn croesi ffiniau, yn fwy felly yn awr nag erioed o'r blaen, ac mae angen inni gydgysylltu mesurau i sicrhau na all troseddwyr osgoi cyhuddiadau drwy ffoi i Sbaen neu wledydd eraill, fel oedd i'w weld yn arfer digwydd ar un adeg. Dyna pam y galwyd y Costa del Sol yn 'Costa del Crime'.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos y gallu i arwain a defnyddio synnwyr cyffredin, gan weithredu polisïau a ddatblygwyd gan Lafur Cymru, megis buddsoddi mewn swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol. Faint o bobl a hoffai roi diwedd ar y swyddogion cymorth cymunedol hynny erbyn hyn? Ym Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog, mae pwerau’r comisiynydd heddlu a throseddu wedi’u huno yn rôl y maer. Rwy'n aros i weld gyda diddordeb pam fod pobl yn credu y dylid datganoli plismona i Fanceinion a Gorllewin Swydd Efrog ond nid i Gymru. Mae plismona wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon; Cymru yw'r eithriad, yn sicr.
Hoffwn edrych ar ddau eithriad, sef Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol. Credaf fod angen ymdrin â hwy'n ganolog, gan nad yw diogelwch gwladol yn cydnabod unrhyw ffiniau ychwaith, felly credaf ei bod yn bwysig inni ymdrin â phethau yn y lle y gellir ymdrin â hwy yn y ffordd orau, ac yn fy marn i, y lle gorau i ymdrin â’r rhan fwyaf o blismona yw Cymru.
Asiantaeth ymladd troseddau a chanddi gyrhaeddiad cenedlaethol a rhyngwladol yw'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ac mae ganddi fandad pŵer i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill sy'n gorfodi’r gyfraith, gan ddefnyddio grym llawn y gyfraith i leihau troseddu difrifol a chyfundrefnol. Mae'r rheolaeth plismona ffiniau'n rhan hanfodol o'r gwaith o wella diogelwch y ffin. Mae'r rheolaeth troseddau economaidd yn rhoi'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn troseddu economaidd sy'n effeithio ar y DU.
Rydym wedi darparu ymateb cenedlaethol cydgysylltiedig i seiberdroseddu a throseddu a gaiff ei alluogi gan seiber. Nid yn unig nad yw'n cydnabod ffiniau ym Mhrydain, nid yw'n cydnabod ffiniau ledled y byd ychwaith, ac fe fydd pobl sydd wedi cael e-byst yn dweud wrthynt fod rhywun yn Affrica eisiau rhoi £10 miliwn, neu $10 miliwn iddynt, yn ymwybodol iawn fod y pethau hyn yn dod o bob rhan o'r byd. Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw un wedi cael y $10 miliwn hwnnw, ond rwy'n tybio bod y seiberdroseddau hyn yn gweithio. Mae pobl yn cael eu targedu gan seibrdroseddu ledled Prydain yn awr, gyda negeseuon yn dweud wrthynt fod angen iddynt dalu i gael prawf COVID. Ac unwaith eto, dyna'r math o drosedd—. Nid ydynt yn meddwl ar ba ochr i ffin Cymru y mae'n digwydd; mae'n digwydd ledled Prydain. Felly, mae'n bwysig mynd i'r afael â'r pethau hyn yn ganolog.
Beth am y plismona o ddydd i ddydd a wneir gan bedwar heddlu Cymru? I bob pwrpas, rôl y comisiynwyr heddlu a throseddu, sy’n adrodd i’r Ysgrifennydd Cartref ar hyn o bryd, dylent fod yn adrodd i ba Ysgrifennydd bynnag neu ba Aelod bynnag o'r Cabinet sydd gennym yma. Ac rwy’n tybio, o dan y trefniadau presennol, gan y gwn fod Jane Hutt yn ymateb i’r ddadl hon, mai Jane Hutt fyddai'r unigolyn dan sylw. Ond pwy bynnag sydd ym mha swydd bynnag sy'n gyfrifol am hynny, dylent fod yn adrodd iddynt hwy, nid i'r Ysgrifennydd Cartref.
Nid yw'r heddlu'n gweithio ar eu pen eu hunain. Pan fyddwch yn ffonio 999, nid ydych yn dweud, 'Pa wasanaeth yr hoffech ei gael? A hoffech un datganoledig neu un heb ei ddatganoli?' Rydych yn ffonio 999 ac yn gofyn am wasanaeth brys. Pam fod tri ohonynt wedi'u datganoli ac un heb ei ddatganoli?
Dadl arall o blaid datganoli plismona yw’r gallu i gysylltu plismona’n well â gwasanaethau datganoledig eraill, megis cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a’r gwasanaeth iechyd. Nawr, nid beirniadu'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru yw hyn, gan fy mod yn edmygu'r pedwar ohonynt yn fawr iawn. Mae dau ohonynt yn ffrindiau personol, a chredaf fod pobl yn gwneud gwaith da iawn o dan yr amgylchiadau y maent yn gweithio ynddynt. Ond mewn gwirionedd, maent yn gweithio i'r Ysgrifennydd Cartref, nid ydynt yn gweithio i'r Gweinidog yma, a chredaf ei bod yn bwysig eu bod yn atebol i'r Gweinidog yma.
Mae gwaith Llywodraeth Cymru ar ehangu rôl swyddogion cymorth cymunedol, gan gynyddu eu hamlygrwydd, wedi cael effaith gadarnhaol ar droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydych yn fwy tebygol o weld swyddog cymorth cymunedol pan fyddwch yn cerdded o gwmpas yr etholaeth neu'r rhanbarth yr ydych yn byw ynddo nag yr ydych chi o weld swyddog heddlu'n cerdded y strydoedd. Nawr, nid beirniadu'r heddlu yw hynny ychwaith, ond hwy yw wyneb gweladwy plismona dyna i gyd. Mae 500 a mwy ohonynt wedi’u darparu gan Lywodraeth Cymru, ac fel y dywedodd Aelod yn y lle hwn flynyddoedd lawer yn ôl pan oeddem yn trafod hyn ddiwethaf, sef Steffan Lewis, ‘Wrth gwrs, mantais arall datganoli plismona, oherwydd y ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithio, yw ein bod yn cael 5 y cant yn fwy ar gyfer plismona yng Nghymru nag a werir ar hyn o bryd.' Gall y 5 y cant hwnnw wneud gwahaniaeth mawr i blismona yng Nghymru. Gwyddom mai dyna sut y mae fformiwla Barnett yn gweithio. Ac rwy'n talu teyrnged i Steffan Lewis, a wnaeth lawer iawn o waith ar gefnogi datganoli eitemau fel plismona.
Gwn pa mor boblogaidd yw swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn Nwyrain Abertawe, ac rwy'n adnabod pobl sy'n ystyried y swyddog cymorth cymunedol lleol yn bwynt cyswllt cyntaf pan fydd ganddynt broblem, gan eu bod yn gweld nifer ohonynt yn cerdded ar hyd y strydoedd. Bydd llawer o’r genhedlaeth hŷn yn cofio pan oedd gennym bwyllgorau'r heddlu yn gyfrifol am blismona yng Nghymru. Am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif, roedd plismona'n swyddogaeth i lywodraeth leol a reolid gan bwyllgor heddlu'r sir berthnasol, neu yn achos Abertawe, Caerdydd, Merthyr Tudful a Chasnewydd, y cyngor bwrdeistref sirol. Newidiwyd wedyn o bwyllgorau heddlu lleol i awdurdodau'r heddlu, gyda Heddlu De Cymru'n gyfrifol, er enghraifft, am Forgannwg gyfan, ond heb fawr o reolaeth dros yr heddlu lleol. Penodi comisiynwyr heddlu yn lle rhingylliaid heddlu yw'r unig newid strwythurol mawr sydd wedi digwydd ym maes plismona ers 1960. Mae heddluoedd De Cymru, Dyfed-Powys, Gogledd Cymru a Gwent wedi bod ar eu ffurf bresennol, gyda mân newidiadau yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, ers y 1960au.
Gyda phlismona wedi'i ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n anomaledd nad yw wedi'i ddatganoli i Gymru. Pleidleisiodd Cynulliad Gogledd Iwerddon o'i blaid. Nawr, byddech yn meddwl mai Gogledd Iwerddon fyddai'r lle olaf y byddech yn datganoli plismona, gyda'r holl broblemau a fu yno a chyda'r pleidiau gwleidyddol sy'n bodoli yno a chynrychiolwyr sy'n gysylltiedig â phobl a gymerodd ran mewn gwrthdaro arfog. Roedd y bleidlais yn sail i gytundeb Hillsborough, a drefnwyd rhwng y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd a Sinn Féin, ac fe sefydlogodd Lywodraeth rhannu grym y rhanbarth. Yna, creodd y Cynulliad Adran Gyfiawnder ar gyfer Gogledd Iwerddon ar ôl i'r pwerau gael eu datganoli.
Pe bai Cynulliad Cymru'n pleidleisio o blaid datganoli plismona heddiw, pwy sy'n credu y byddai wedi'i ddatganoli ymhen ychydig fisoedd? Ond bydd yn dangos yr hyn y dymunwn ei weld yn digwydd; credaf mai dyna'r peth pwysig. Rydym yn dweud wrth Lywodraeth San Steffan mai dyma’r cyfeiriad yr ydym yn awyddus i fynd iddo.
O edrych ar gyfandir Ewrop a Gogledd America, Cymru, unwaith eto, sy'n edrych allan ohoni. Ar draws y rhan fwyaf o'r byd democrataidd, heblaw am reoli diogelwch gwladol a throseddau difrifol, heddluoedd rhanbarthol neu leol sy'n cyflawni gwaith plismona. Mae gorfodi'r gyfraith yn yr Almaen yn nwylo'r 16 talaith ffederal; mae pob un yn nodi trefniadaeth a dyletswyddau ei heddlu. Mae gan yr Almaen heddlu canolog hefyd sy'n gyfrifol am ddiogelwch y ffin, diogelu adeiladau ffederal, a llu ymateb symudol sy'n gallu helpu neu atgyfnerthu heddlu'r wladwriaeth os oes angen. Mae plismona yn UDA yn cynnwys asiantaethau ffederal fel y Swyddfa Ymchwilio Ffederal, asiantaethau'r taleithiau, megis patrolau priffyrdd, a phlismona lleol gan heddlu sirol ac adrannau siryfion. Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw bod plismona lleol yn lleol, ac ymdrinnir â throseddau mawr a diogelwch gwladol ar lefel genedlaethol.
Beth yw barn y cyhoedd yng Nghymru? Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Beaufort Research a Chomisiwn Silk ar Ddatganoli yng Nghymru fod 63 y cant o’r 2,000 o ymatebwyr a holwyd o blaid datganoli pwerau plismona i Gymru o'r Llywodraeth ganolog yn Lloegr. Credaf mai’r ffordd ymlaen yw datganoli’r rhan fwyaf o blismona i’r Cynulliad Cenedlaethol. Fe ddywedaf hyn yn awr: rwy'n gobeithio nad ydym am gael y Ceidwadwyr yn dweud, 'Nid ydym am ddatganoli’r asiantaeth troseddu cenedlaethol a diogelwch gwladol.' Na finnau chwaith; y plismona arferol o ddydd i ddydd rwyf fi am ei weld yn cael ei ddatganoli. Cofiwch, hyd at 1960, roedd dinasoedd mawr Prydain yn plismona eu hunain heb i unrhyw un y tu allan i'r Swyddfa Gartref fod ag unrhyw bryderon. Dylem gael yr hawl yn ôl i blismona ein hunain a rhoi plismona lleol yn nwylo Llywodraeth Cymru.
Yn ei dystiolaeth i Gomisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru, dywedodd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr:
'roeddem wedi dod i'r casgliad ar gyfer Comisiwn Silk y "gellid datganoli plismona" mae'r cwestiwn "a ddylid datganoli" yn fater ac yn benderfyniad gwleidyddol wrth gwrs.'
Gwnaethant ailadrodd eu safiad niwtral wedi'i arwain gan dystiolaeth yn eu briff ar gyfer y ddadl hon.
Yn eu tystiolaeth i gomisiwn Thomas, dywedodd Cymdeithas Uwch-arolygwyr Heddlu Cymru a Lloegr,
'Ar hyn o bryd, mae'r Swyddfa Gartref yn cefnogi'r Heddlu mewn ystod eang o feysydd; enghreifftiau o'r rhain yw arweinyddiaeth, datblygu, trawsnewid, bregusrwydd, cydweithio, ymyrraeth, atal, diogelwch, gwrthderfysgaeth a chyflogau, pensiynau ac amodau. Bydd angen i unrhyw drefniant newydd sicrhau nad yw'r gefnogaeth Lywodraethol i blismona yn cael ei lleihau na'i herydu gan strwythur plismona datganoledig.'
Fe wnaethant ychwanegu,
'Bydd datganoli plismona yng Nghymru yn newid sylweddol ac mae'n hanfodol fod cwestiwn o'r fath yn cael ei ystyried gyda dadansoddiad caeth o fudd a'r un mor bwysig yn cynnwys y cyhoedd a'r holl randdeiliaid mewn unrhyw opsiynau ailgynllunio yn y dyfodol.'
Yn y cyd-destun hwn, mae cyn ddirprwy brif gwnstabl Gwent, Mick Giannasi, wedi ysgrifennu y gallai newid yn natur perthynas Llywodraeth Cymru â'r gwasanaeth heddlu fod yn llai cynhyrchiol yn y pen draw. Ac mae fy nghysylltiadau yn Heddlu Gogledd Cymru a ffederasiwn heddlu'r rhanbarth wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro fod ganddynt gysylltiad agosach â gogledd-orllewin Lloegr na gweddill Cymru a bod diffyg cymhwysedd yn Llywodraeth Cymru i ymdrin â datganoli plismona. Gyda throseddu a chyfiawnder yn gweithredu ar echel dwyrain-gorllewin, nid yn unig yn y gogledd, ond ledled Cymru, mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhannu gwasanaethau gan gynnwys troseddau cyfundrefnol rhanbarthol, arfau tanio, cudd-wybodaeth, dalfeydd, eiddo a gwaith fforensig gyda'u cyd-heddluoedd yng ngogledd-orllewin Lloegr. Maent hefyd yn mynegi pryder ynghylch unrhyw awydd yn Llywodraeth Cymru i uno'r heddluoedd yng Nghymru gan eu bod yn dweud bod y ddaearyddiaeth a'r calibradau presennol gydag amrywiol heddluoedd yn Lloegr yn gwneud y cysyniad o heddlu Cymru gyfan yn anodd iawn, gan ychwanegu y dylid monitro'n ofalus unrhyw gamau i orfodi cam o'r fath i fodloni ego gwleidyddion penodol. Rwy'n dyfynnu.
Pan adolygodd Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio'r Cynulliad strwythur plismona yn 2005—roeddwn yn rhan o hwnnw—nododd ein hadroddiad nad yw gweithgaredd troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol a bod yn rhaid i bartneriaethau trawsffiniol adlewyrchu realiti gweithredol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mark?
Fe dderbyniaf un ymyriad.
Rydym yn sôn am ddatganoli'r heddlu, nid datganoli troseddu.
Yn wir, a rhaid i blismona adlewyrchu realiti demograffig, daearyddol a hanesyddol a lle mae troseddu'n digwydd mewn gwirionedd a sut y mae'n symud, nid dyheadau neu ddiffyg dyheadau gwleidyddion penodol.
Arweiniodd gwaith is-bwyllgor y Cynulliad a oedd yn ystyried y cynnig i uno heddluoedd Cymru ar y pryd, is-bwyllgor yr oeddwn yn aelod ohono, at roi'r gorau i uno heddluoedd ledled Cymru a Lloegr. Fel y dywedais yn y ddadl ym mis Chwefror 2006 ar hyn, dywedodd awdurdodau'r heddlu wrthym y byddai cost flynyddol ychwanegol ad-drefnu Cymru gyfan oddeutu £57 miliwn, gyda'r prif gwnstabl yn dweud y byddai hyd yn oed yn fwy. Ac roedd hynny 16 mlynedd yn ôl.
Gellir cymharu, wrth gwrs, â'r Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae plismona'n fater sydd wedi ei ddatganoli, ond am resymau daearyddol a hanesyddol, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn gwbl wahanol. Cadwodd un Lywodraeth ar ôl y llall yn y DU ymrwymiad i ail-ddatganoli plismona yng Ngogledd Iwerddon wedi i reolaeth uniongyrchol ddod i ben, ac os nad ydych yn deall pam, efallai y dylech ddarllen eich llyfrau hanes.
Mae 48 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr a 90 y cant o fewn 50 milltir ac mae hynny'n adlewyrchu'r patrymau troseddu. Mewn cyferbyniad, dim ond 5 y cant o boblogaethau cyfun yr Alban a Lloegr sy'n byw o fewn 50 milltir i'r ffin rhwng y gwledydd hynny. Er hynny, dim ond un cyfeiriad a geir yn adroddiad Thomas at fater allweddol troseddoldeb trawsffiniol, yng nghyd-destun llinellau cyffuriau, a'r unig ateb y mae'n ei argymell yw cydweithio ar draws y pedwar heddlu yng Nghymru, mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, heb unrhyw gyfeiriad at sefydlu gweithio ar y cyd â phartneriaid cyfagos ar draws y ffin trosedd a chyfiawnder anweledig â Lloegr.
Wel, fel y dysgais pan ymwelais â Titan, uned troseddau cyfundrefnol ranbarthol y gogledd-orllewin, sef cydweithrediad rhwng Heddlu Gogledd Cymru a phum heddlu yng ngogledd-orllewin Lloegr, gwneir holl waith cynllunio at argyfyngau gogledd Cymru gyda gogledd-orllewin Lloegr; mae 95 y cant neu fwy o droseddu yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu ar sail drawsffiniol, o'r dwyrain i'r gorllewin; nid oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithgarwch sylweddol sy'n gweithio ar sail Cymru gyfan; a bod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas gan y prif gwnstabliaid a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu yng Nghymru wedi'i 'hanwybyddu' i raddau helaeth—rwy'n dyfynnu—yn adroddiad y comisiwn.
Fel y dywedais yma fis diwethaf, byddai datganoli plismona felly'n wallgofrwydd gweithredol ac yn ynfydrwydd ariannol. Datganoli plismona—[Torri ar draws.]
Gwrandewch ar y dystiolaeth, rhowch y gorau i wneud sylwadau gwirion, tyfwch i fyny, a gwrandewch ar yr arbenigwyr rwy'n eu dyfynnu yma.
Byddai datganoli plismona yn cyflawni'r gwrthwyneb i ddatganoli go iawn, gan fygwth mynd â mwy o bwerau o ranbarthau Cymru, a chanoli'r rhain yng Nghaerdydd—
Rhaid i'r Aelod ddod i ben yn awr.
[Anghlywadwy.]—y pŵer i gyflogi a diswyddo prif gwnstabliaid. Rwy'n dod i ben. O ystyried hanes Llywodraeth Lafur Cymru o wleidyddoli gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn gynyddol ac yn aml mewn modd bygythiol, mae hwn yn gynnig sy'n codi ofn. [Torri ar draws.] Gallaf eich cyflwyno i'r chwythwyr chwiban sy'n dioddef o ganlyniad i'r hyn rwyf newydd ei ddisgrifio.
Rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am ei galw hi. Mae consensws cynyddol y dylai cyfrifoldeb dros yr heddlu gael ei ddatganoli i’r lle hwn, ac nad yw’n gwneud synnwyr yn gyfansoddiadol nac yn ymarferol i’r materion hyn gael eu llywodraethu o rywle arall. Rwy’n credu y dylai heddlua fod yn lleol. Bydd Aelodau yma yn gyfarwydd â’r dadleuon cyfansoddiadol, nawr fod Cymru’n creu ei chyfraith ei hun, mae’n gwneud synnwyr y dylem hefyd fod yn gyfrifol am ei gweithredu, ond mae cyfiawnhad moesegol dros ei ddatganoli hefyd.
Mae’r gair Saesneg 'policing' yn dod o’r Hen Roeg 'polis', sydd ag ystyr ddeublyg, sef y ddinas a’r dinasyddion sy’n byw ynddi. Felly, mae hanes a chysyniad y gair yn cysylltu’r sefydliad a’r bobl. Nid dim ond gweithredu’r gyfraith y mae’r heddlu, nhw hefyd ydy ymgorfforiad y gyfraith ar ein strydoedd. Ac wrth gwrs, mae’r gair Cymraeg 'heddlu' yn golygu 'lluoedd dros hedd'.
Ond, Dirprwy Lywydd, does dim angen edrych yn ôl dros ganrifoedd i weld y cysylltiad rhwng awdurdod a’r bobl trwy’r heddlu, ac fel y mae hwnna, yn anffodus, yn cael ei erydu. Rydym wedi gweld erydu niweidiol dros y blynyddoedd diwethaf o ran ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr heddlu. Er bod y mwyafrif llethol yn bobl dda, yn bobl gydwybodol tu hwnt, mae niwed yn cael ei achosi gan leiafrif a diwylliant sydd angen newid. Nid problem i’r Met yn Llundain yn unig ydy hon, mae’n wir yng Nghymru hefyd. Mae ymchwil gan Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru’r wythnos hon yn dangos bod pobl ddu saith gwaith yn fwy tebygol o wynebu cael eu stopio a'u chwilio gan yr heddlu na phobl wyn.
Mae hyn yn wir am y system gyfiawnder, yn ogystal â’r heddlu. Mae ymchwil flaenorol gan Dr Jones yn dangos bod pobl bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu carcharu os ydynt yn ddu, o’i gymharu â phobl wyn. Ac mae dedfrydau ar gyfer pobl ddu, Asiaidd a hil gymysg yn sylweddol uwch ar gyfartaledd nag ar gyfer pobl wyn. Ac mae marwolaethau Mohamud Hassan a Mouayed Bashir, wedi iddynt ddod i gysylltiad â Heddlu De Cymru, yn parhau i fod yn destun cwestiynau difrifol.
Rydym ni wedi cynnal dadleuon yn y Senedd dros y misoedd diwethaf am sbeicio, stelcian, ac mae cwestiynau wedi cael eu codi am gyfraddau dedfrydu gwarthus o isel am dreisio a thrais gwrywaidd yn erbyn menywod. Ydynt, mae’r ffeithiau hyn yn rhan o broblemau ehangach, strwythurol mewn cymdeithas, ond dydyn nhw ddim yn eithriadau—maen nhw’n seiren argyfwng, yn dweud bod rhywbeth mawr o’i le. Wrth ddatganoli heddlua, yn ogystal â’r system gyfiawnder, gallwn ddechrau mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau dwfn o fewn ein cymdeithas. Gallwn gysylltu cyfiawnder a heddlu gydag iechyd, addysg a pholisi cymdeithasol, fel y gwnaeth yr Arglwydd Thomas ei gydnabod. Gallwn edrych o ddifrif am y rhesymau dros droseddu er mwyn ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf, hynny ydy, yn hytrach na pharhau â’r cylch dieflig o gosb a charchar.
Nid oes gan y Senedd hon y gallu i ddatrys y problemau gyda heddlu’r Met, ond mae dadl anatebol o gryf dros ddatganoli y system o bŵer i ddatrys ein problemau ni ein hunain. Drwy weithredu system gyfiawnder fwy cyfiawn, a pholisïau heddlu mwy goleuedig, gallwn adfer ymddiriedaeth yn ein systemau, lleihau trosedd a, thrwy hynny, gwarchod y cyhoedd o niwed gellir ei osgoi.
Dylai’r heddlu weithio o blaid y bobl. Dylen nhw fod yn weladwy, yn dryloyw ac yn atebol. Ond wnaiff hyn ddim digwydd wrth barhau â’r system bresennol sydd yn amlwg ddim yn gweithio. Dylai heddlua fod yn lleol, sy’n golygu y dylai penderfyniadau gael eu gwneud mor agos at y bobl ag sydd yn bosibl.
Diolch i Mike am gyflwyno hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gymryd rhan.
Hoffwn ddechrau gydag ymateb cyflym iawn i fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood. Ac rwy'n deall ei angerdd a'r angen inni edrych yn ôl a gweld beth sydd wedi gweithio a beth sydd heb weithio. Ond rwyf am edrych ymlaen. Ac nid yw hyn, fel y clywsom, yn ymwneud â datganoli troseddu. Mae'n ymwneud ag edrych ar sut yr ymatebwn iddo, a sut y gallwn atal troseddu hefyd. Mae'n ymwneud â ni yng Nghymru yn cymryd pŵer yn ôl a dweud, 'Dyma sut yr ydym am ei wneud yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.' Ac rwyf am ganolbwyntio ar sefyllfa menywod, yn enwedig menywod mewn carchardai.
Rwyf am osod saith ffaith ger eich bron. Mae menywod yn fwy tebygol na charcharorion gwrywaidd o gael dedfryd fer o garchar am droseddau di-drais. Y pellter cyfartalog y caiff menyw ei chadw o'i chartref yw 63 milltir. Mae dros hanner y menywod yn y carchar yn dweud eu bod wedi dioddef trais yn y cartref neu gam-drin emosiynol, corfforol neu rywiol pan oeddent yn blant. Mae menywod yn fwy tebygol na dynion o hunan-niweidio tra byddant yn y carchar. Ac yn olaf, mae menywod du a lleiafrifol ethnig dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu harestio na menywod gwyn.
Lluniwyd y strategaeth troseddwyr benywaidd, a gyhoeddwyd yn 2018, bedair blynedd yn ôl, i sicrhau gwelliannau enfawr i atebion yn y gymuned, lles a charcharau gwell. Ond dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr mai cynnydd cyfyngedig tuag at ei nodau a wnaeth Llywodraeth y DU ers cyhoeddi'r strategaeth yn 2018 am nad oedd wedi blaenoriaethu buddsoddiad yn y gwaith hwn. Ac roedd y cyllid ar gyfer y strategaeth yn llai na hanner yr isafswm o £40 miliwn yr oedd swyddogion wedi amcangyfrif y byddai ei angen, ond daethpwyd o hyd i £150 miliwn i ariannu 500 o leoedd ychwanegol mewn carchardai i fenywod pan oedd ei angen, yn erbyn y cyfeiriad teithio o dan y strategaeth newydd.
Rwyf am inni edrych yn wahanol ar sut yr ydym yn trin menywod yn ein carchardai, ac edrych ar sut yr ydym yn ymdrin â throseddwyr benywaidd. Gallwn wneud yn well yma yng Nghymru; rwy'n gwybod y gallwn. Gadewch inni beidio â charcharu ein menywod; gadewch inni edrych ar ddedfrydau cymunedol, canolfannau menywod, sut yr edrychwn ar ddewisiadau preswyl amgen, gyda rhai o'r rheini gyda phlant, nid yn unig gyda babanod, ac unedau llawer iawn llai o faint. Credaf y dylai gwella'r ffordd y mae'r system cyfiawnder troseddol yn ymateb i anghenion menywod fod yn ganolog i'r alwad honno, a'r alwad i ddatganoli pwerau i Gymru, y gobeithiaf y gall y Gweinidog roi sylw iddi wrth ymateb i'r ddadl heddiw. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud cymaint rwy'n cytuno â'r hyn y mae Jane Dodds newydd ei ddweud? A chredaf y bydd llawer o'r hyn y bydd gennyf i'w ddweud yn ategu'r sylwadau hynny.
Pe bai gennym gyfrifoldeb dros blismona, a chyfiawnder troseddol yn wir, yma yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu y byddai gennym system lawer mwy blaengar, a chynhyrchiol yn wir, a fyddai'n gwella bywyd ein cymunedau yma yng Nghymru yn fawr, oherwydd credaf fod model y DU o anfon mwy o bobl i'r carchar fesul y pen o'r boblogaeth na bron unrhyw wlad arall, unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop yn sicr, wedi'i wrthbrofi. Ac fel y gwyddom, mae gan lawer o'r bobl hynny broblemau iechyd meddwl, maent yn anllythrennog, mae ganddynt broblemau camddefnyddio alcohol a chyffuriau ac maent, mewn sawl ffordd, yn ddioddefwyr eu hunain yn ein cymunedau a'n cymdeithas.
Pe bai gennym fodel gwahanol, a fyddai'n ymwneud llawer mwy ag atal ac atal aildroseddu pan fydd pobl yn dod i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, byddai gennym lai o ddioddefwyr troseddau, byddai gennym lai o bobl wedi'u carcharu ac o fewn y system cyfiawnder troseddol gyda'r holl ofid sy'n dod yn sgil hynny iddynt hwy eu hunain a'u teuluoedd. Mae arnom angen dull mwy goleuedig o weithredu. Byddai o fudd mawr i fenywod, fel y dywedodd Jane, byddai'n ategu ein gwasanaeth ieuenctid yma yng Nghymru, a'n gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol hefyd yn wir. Fe ildiaf i Mark Isherwood.
A ydych yn cydnabod, fel a drafodwyd yma, ac fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol, fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r union bolisi hwnnw mewn perthynas â menywod—na ddylent fod yn y carchar, y dylent fod yn y gymuned—a'u bod yn ariannu cyfres o ganolfannau newydd i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru? Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fis Tachwedd diwethaf yn y Siambr hon fod hynny'n datblygu'n dda a bod trafodaethau'n mynd rhagddynt i sefydlu'r ganolfan honno.
Credaf ein bod yn clywed llawer o rethreg gan Lywodraeth y DU, Mark, ond ni chafwyd tystiolaeth ymarferol ohoni bob amser. Oes, efallai fod enghreifftiau unigol, ond rydym am weld dull o weithredu cyson ym maes plismona a chyfiawnder troseddol, sy'n symud ymlaen at yr hyn y byddwn yn ei alw'n dir blaengar a goleuedig fel yr ydym eisoes wedi clywed amdano yn y ddadl hon heddiw, a chredaf fod gwir angen hynny.
Rwy'n gwybod gan ddarparwyr gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, er enghraifft, eu bod yn teimlo eu bod yn ceisio gwasanaethu dau feistr, fel petai, yng Nghymru. Mae ganddynt y Swyddfa Gartref, a pholisïau'r Swyddfa Gartref ar gyffuriau anghyfreithlon, er enghraifft, sy'n ymwneud yn helaeth â throseddoli a'r llwybr cyfiawnder troseddol, ac mae ganddynt bolisïau Llywodraeth Cymru, sy'n ymwneud llawer mwy ag iechyd ac atal a thrin. Nid yw'n hawdd gwasanaethu dau feistr yn y ffordd honno, ac rwy'n gwybod bod y rhai sy'n darparu gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol hanfodol yn teimlo nad ydynt yn gweithredu mor effeithlon ac effeithiol â phosibl o ganlyniad i hynny. Mae gennym lawer o gynlluniau. Gwn fod Dyfodol Cadarnhaol, sy'n gweithredu drwy Casnewydd Fyw, yr ymddiriedolaeth hamdden yng Nghasnewydd, ac sy'n ceisio gweithio gyda phobl ifanc a'u dargyfeirio oddi ar y llwybr cyfiawnder troseddol, yn ei chael hi'n anodd, oherwydd unwaith eto, gweithiant o fewn y system blismona hon nad yw wedi'i datganoli, er eu bod yn cael eu hariannu, yn rhannol o leiaf, gan y comisiynydd heddlu a throseddu. Byddai bywyd yn llawer haws iddynt pe ceid dull o weithredu mwy cyson, integredig a chydgysylltiedig.
Mae llawer o amrywio rhanbarthol mewn plismona ledled Cymru, a'r ffordd y mae comisiynu'n digwydd ar y cyd â'r gwasanaethau iechyd neu beidio. Gallai llawer o hynny gael ei integreiddio'n well ac ni fyddai'n amrywio ledled Cymru pe bai Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phlismona yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Clywsom am wasanaethau cam-drin domestig; dyna enghraifft arall. Credaf fod y ddadl am gydgysylltiad gwell rhwng plismona a gwasanaethau datganoledig pe bai plismona'n cael ei ddatganoli wedi'i hen sefydlu a'i chydnabod, ac mae llawer o waith yn y Senedd yn pwyntio i'r cyfeiriad hwnnw, gan gynnwys gwaith gan ein pwyllgor iechyd, rwy'n credu, yn ôl yn 2019, pan wnaethant argymhellion pwysig am iechyd meddwl mewn plismona ac yn nalfeydd yr heddlu. Gwn fod gwasanaeth yr heddlu yng Ngwent yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau iechyd meddwl. Mae ganddynt dîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n ceisio ymdopi â'r straen ddifrifol iawn ar blismona, oherwydd nid yw'r heddlu'n weithwyr iechyd meddwl proffesiynol, ond maent yn aml iawn yn wynebu'r problemau iechyd meddwl hyn wrth gyflawni eu dyletswyddau plismona, ac maent hefyd yn ceisio hyfforddi eu heddlu eu hunain i raddau llawer mwy, yn ogystal â gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd. Credaf fod cydgysylltiad rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a phlismona yn un a fyddai'n elwa'n fawr pe baem yn datganoli plismona.
Ddirprwy Lywydd, fel arfer rwy'n gweld bod amser yn brin. A gaf fi ddweud fy mod yn credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod y bydd plismona yng Nghymru yn cael ei ddatganoli yn y pen draw? Mae'n fater o ba bryd y bydd hynny'n digwydd. Ceir cymaint o fanteision pwysig. Gorau po gyntaf y bydd datganoli'n digwydd.
Mae'n bleser mawr cael cymryd rhan yn y ddadl hon a dilyn y cyfraniad hwnnw gan John Griffiths, a hefyd y cyfraniadau gan Jane Dodds ac eraill yn y ddadl hon. Pan gefais gyfrifoldeb dros y maes polisi yn y Llywodraeth ddiwethaf, cefais fy syfrdanu gan ba mor wael y mae'r system cyfiawnder troseddol gyfan yn gwasanaethu Cymru. Ni ellir ei hystyried yn llwyddiant pan fydd menywod, ers inni gael awdurdodaeth ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr, yn cael eu trin mor ofnadwy gan yr holl system honno. Nid oedd gennym gyfleuster diogel i unrhyw un yng ngogledd Cymru tan ychydig flynyddoedd yn ôl. Ers canrifoedd, câi anghenion pobl gogledd Cymru eu hanwybyddu gan y system cyfiawnder troseddol. Mae anghenion menywod ledled y wlad hon yn dal i gael eu hanwybyddu. Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth Mark Isherwood am gynllun diweddaraf Llywodraeth y DU, ond wyddoch chi, maent wedi'u cael ers 1536. Felly, rhaid i chi esgusodi fy sinigiaeth pan glywaf y pethau hyn. Mae hon wedi bod yn daith i ni, ac mae wedi bod yn daith yr ydym wedi cymryd rhan ynddi, weithiau ar gyflymder gwahanol, ond fel arfer—[Torri ar draws.] Iawn, fe ildiaf.
A ydych yn cytuno, yn 1536, fod systemau cosbol pob man ar draws y byd yn trin menywod a dynion yn ofnadwy o fewn y system cyfiawnder troseddol?
Ydw, ond mae'r rhan fwyaf wedi gwella'n sylweddol ers hynny. Yn anffodus, nid yw'r system sy'n gwasanaethu Cymru wedi dod o hyd i ffordd o wasanaethu menywod eto, ac mae angen ichi ystyried hynny wrth wneud eich dadl.
Mae'n bwynt pwysig y mae angen inni ei godi, oherwydd rydym wedi bod ar daith yn y fan hon. Cofiaf eistedd yn swyddfeydd y Llywodraeth yn cael sgyrsiau hir gyda Carl Sargeant ar y materion hyn pan siaradai am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a rôl yr heddlu yn ymdrin â chanlyniadau hynny. Rwy'n cofio sut y gwnaethom ddatblygu ein syniadau gyda'n gilydd ar lawer o wahanol faterion, gyda'r heddlu'n rhan o'n cymuned, yn rhan o gyfres ac ystod o wasanaethau sy'n darparu ar gyfer pobl yn ein cymunedau, yn hytrach na rhywbeth dieithr neu ar y tu allan i'n cymunedau.
Rwy'n gobeithio ac yn credu bod plismona, pan gaiff ei ddatganoli—. A chredaf y caiff ei ddatganoli ar ryw adeg. Y cwestiwn i'w ofyn i chi'ch hun yw: faint o bobl sy'n mynd i orfod dioddef cyn i hynny ddigwydd? Pan fyddwn yn datganoli plismona, rwy'n gobeithio y gallwn wneud pethau'n wahanol. Mae'r pwyntiau a wnaeth Rhys ab Owen yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe yn feirniadaeth arall ar y system cyfiawnder troseddol bresennol. Nid ydym yn trin pobl yn iawn yn y wlad hon ac mae angen inni gydnabod hynny. Pan fyddwn yn datganoli plismona, nid y cyfrifoldeb yn unig a gaiff ei ddatganoli, nid darparu pluen arall yn het gwleidydd arall, Mark, ond ffordd o wneud pethau'n wahanol.
Wyddoch chi beth hoffwn i ei weld? Rwyf am weld plismona'n rhan integredig o'n gwasanaethau eraill, ond rwyf hefyd am ei weld yn cael ei ddwyn i gyfrif yn wahanol. Hoffwn weld mwy o rôl i lywodraeth leol, er enghraifft, yn dwyn heddluoedd lleol i gyfrif. Hoffwn ddeall sut y gall pobl leol gael mwy o lais yn y ffordd y caiff plismona ei wneud yn ein cymunedau lleol. Oherwydd nid yw'r model sydd gennym ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer hynny, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un yn dadlau o ddifrif ei fod yn gwneud hynny.
Roedd canfyddiadau comisiwn Thomas ynghylch y materion hyn yn gwbl ddinistriol. Roeddent yn ddinistriol—o bosibl y gwaith pwysicaf a welsom wedi'i gwblhau a'i gyhoeddi ers cyflwyno Llywodraeth ddatganoledig dros 20 mlynedd yn ôl. Dylai plismona a'r system cyfiawnder troseddol fod yn ganolog i'r Llywodraeth, ond maent yn gwneud cam â'r wlad y maent i fod i'w gwasanaethu. Ac mae pobl yn gweld hynny wrth gwrs, oherwydd mae Llywodraeth y DU yn datganoli plismona yn Lloegr—mae'n datganoli plismona yn Lloegr. Mae'n cydnabod grym y ddadl dros ddemocratiaeth ac atebolrwydd wrth ddarparu gwasanaethau'r heddlu ym mhobman heblaw Cymru.
Cymru yw'r unig ran o'r deyrnas hon lle nad oes rheolaeth leol dros blismona, lle nad oes atebolrwydd lleol am blismona. A dywedir wrthym, a chawn ein gwahodd i gredu bod hynny'n beth da—ei bod yn dda nad oes gennym lefel o'r fath o atebolrwydd democrataidd, ei bod yn dda nad oes gennym lefel o'r fath o integreiddio lleol, ei bod yn dda nad oes gennym unrhyw lefel o gefnogaeth a rheolaeth leol i'r system cyfiawnder troseddol a'r heddlu. Rwyf am ddod â fy sylwadau i ben. Nid wyf yn credu bod hanes yn cefnogi'r achos hwnnw. Nid wyf yn credu bod y ffeithiau'n cynnal y ddadl honno. Ac nid wyf yn credu y bydd y dyfodol yn derbyn y ddadl honno ychwaith.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon gerbron y Senedd, ac am yr holl gyfraniadau y prynhawn yma, sy'n bwysig yng nghyd-destun y mater allweddol hwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig.
Mae dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i gomisiwn Thomas gyhoeddi ei adroddiad ar gyfiawnder yng Nghymru. Yr adroddiad hwn yw'r ymarfer mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd erioed i archwilio cyflwr y system gyfiawnder yng Nghymru, ac mae'n nodi angen clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth i weithredu. Argymhellodd comisiwn Thomas y dylid pennu polisi plismona a lleihau troseddu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod plismona'n cael ei integreiddio'n gadarn o fewn yr un polisi a fframwaith deddfwriaethol ag iechyd, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill, fel y disgrifiwyd heddiw yn y ddadl hon, gyda llawer iawn o enghreifftiau clir. Mae angen i'r gwasanaethau hyn gydweithio'n gyfannol i atal troseddu ac aildroseddu yn y ffordd a ddisgrifiwyd gan Jane Dodds mewn perthynas â menywod o fewn y system cyfiawnder troseddol. Ac ategodd John Griffiths hyn drwy ddweud mai'r dull ataliol yw'r ffordd gywir ymlaen. Ond argymhellodd comisiwn Thomas mai dim ond drwy ddatganoli plismona y gellir integreiddio polisi a deddfwriaeth. Rydym yn cefnogi hynny'n gryf. Ni allwn gysoni'r ddarpariaeth yn llawn ag anghenion a blaenoriaethau pobl a chymunedau Cymru hyd nes y bydd gennym oruchwyliaeth lawn ar y system gyfiawnder yng Nghymru.
Oes, mae yna elfen gyfansoddiadol i hyn. Mae Cymru mewn sefyllfa lle y gall ddeddfu ond ni all orfodi'r deddfau hynny. Y Senedd yw'r unig Senedd ym myd y gyfraith gyffredin y gwyddom amdani sy'n gallu deddfu heb yr awdurdodaeth i orfodi ei deddfau ei hun. Dyna pam ein bod yn mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, ac mae'n parhau i fod yn ymrwymiad gweinidogol cadarn yn ein rhaglen lywodraethu y pleidleisiodd pobl Cymru yn gadarn o'i phlaid y llynedd. Roedd yr ail argraffiad o 'Diwygio ein Hundeb', a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, yn atgyfnerthu'r safbwynt hwn. Mae'n cynnwys 20 o gynigion i roi'r undeb ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys y cynnig y dylai sefydliadau datganoledig fod yn gyfrifol am blismona a gweinyddu cyfiawnder. Mae angen datganoli plismona er mwyn gwneud y setliad cyfansoddiadol yn gydlynol ac yn ymarferol. Fe ddylai, ac fe fydd datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru yn digwydd. Mae'n fater o pryd, nid os. Nid teimlad gwleidyddol yn unig yw hyn; caiff cyfiawnder ei gyflawni'n well ar lefel fwy lleol, lle y gellir ei deilwra, ei flaenoriaethu a dylanwadu arno yn ôl angen y gymdeithas. Mae'n galondid fod y comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru yn cefnogi'r achos dros ddatganoli. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â hwy a rhanddeiliaid eraill ar y mater hwn. Rwy'n gwerthfawrogi fy nghysylltiad rheolaidd ag arweinyddiaeth gylchredol y comisiynwyr heddlu a throseddu, ac mae wedi bod yn fuddiol iawn o ran canlyniadau ymarferol.
Rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth y DU safbwynt gwahanol i ni, ac rydym yn gweithio ar gyhoeddiad cyfiawnder a fydd yn amlinellu sut yr ydym eisoes yn galluogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyfiawnder yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys mentrau sy'n atal pobl rhag dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder yn y lle cyntaf, yn ogystal â gweithgarwch sy'n helpu pobl sydd eisoes mewn cysylltiad â'r system i wneud y daith oddi wrthi. Bydd y cyhoeddiad hwn yn atgyfnerthu'r pwynt a wnaed gan gomisiwn Thomas fod plismona'n cydblethu'n sylfaenol â'r gwasanaethau datganoledig sy'n cefnogi pobl ac yn atal troseddu. Bydd hefyd yn tanlinellu ein bod eisoes yn cyflawni ein gweledigaeth unigryw ar gyfer sut y dylai cyfiawnder troseddol weithio yng Nghymru. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rydym yn cefnogi dull ataliol, cydweithredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i dorri cylchoedd aildroseddu rhwng cenedlaethau. Mae ein gwaith gyda phartneriaid yn ganolog i'r weledigaeth hon. Mae Cymru eisoes yn cydweithio, gan groesi'r ffawtliniau anodd sy'n treiddio trwy ein gwasanaethau a gadwyd yn ôl a'n gwasanaethau a ddatganolwyd. Rydym yn rhannu'r nod cyfunol o sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni'n effeithiol yng Nghymru.
Mae'r setliad datganoli presennol wedi creu llu o heriau diangen i blismona yng Nghymru. Er gwaethaf y rhain, mae'r heddlu yng Nghymru wedi gweithio'n ddiflino, mewn partneriaeth â ni, i oresgyn y diffygion deddfwriaethol. Yn benodol, ni fyddai Llywodraeth Cymru wedi llwyddo yn ei hymateb brys i'r pandemig COVID heb y berthynas waith eithriadol o gryf a chydweithredol â heddluoedd Cymru a chydag asiantaethau cyfiawnder eraill sy'n chwarae rhan hanfodol yn ymgysylltu â phobl a gorfodi ein rheoliadau lle y bo angen. Mae hon yn bartneriaeth sydd wedi cryfhau ymhellach o ganlyniad i'r pandemig, ac mae'r dull partneriaeth hefyd yn amlwg yn ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu yr ydym yn eu cyflawni, ynghyd â chomisiynwyr heddlu a throseddu a heddluoedd yng Nghymru. Mae ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi gweithio mor dda i wella canlyniadau i fenywod a phobl ifanc yn y system gyfiawnder, yn enghraifft berffaith, a byddaf yn cyd-gadeirio'r bwrdd gweithredu cenedlaethol ar gyfer y strategaeth gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu, Dafydd Llywelyn, gan gydweithio i wneud Cymru'n lle mwy diogel i fenywod a merched.
Mae uchelgais ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i fod yn Gymru gwrth-hiliaeth yn ein galluogi i weithio gyda'n gilydd i sicrhau newid pendant. Mae cyfiawnder troseddol yng Nghymru bob amser wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth, ac rydym yn gweithio'n agos gyda hwy ar eu cynllun cydraddoldeb hiliol i sicrhau cysondeb ar draws y ddau gynllun, ac rydym yn croesawu'r ymrwymiad cryf gan ein partneriaid cyfiawnder i fod yn rhan o'r ateb i ddileu hiliaeth. Ond fel y mae Delyth Jewell wedi nodi, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru mewn perthynas â stopio a chwilio, fel y soniodd y Prif Weinidog yn y Siambr ddoe hefyd, yn wirioneddol frawychus. A dyna pam y mae gennym ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru i sicrhau bod elfennau cyfiawnder yn y cynllun cydraddoldeb hiliol yn gadarn ac yn mynd i'r afael â'r dystiolaeth glir o anghyfranoldeb o fewn y system gyfiawnder.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i gadw ein cymuned yn ddiogel a rôl hanfodol plismona yn y gymdogaeth, fel a fynegwyd y prynhawn yma. Dyna pam y mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i gynnal cyllid ar gyfer y 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a sicrhau cynnydd o 100 yn eu nifer. Unwaith eto, dyma lle y gallwn weld grym a chryfder y swyddogion cymorth cymunedol ym mhob un o'n cymunedau yn ymgysylltu â'r bobl a'r cymunedau ar y rheng flaen, ym mhob dim sy'n effeithio ar fywydau a chymunedau pobl.
Mae bwrdd partneriaeth plismona Cymru, sy'n cyfarfod bob chwarter, ac a gadeirir naill ai gennyf fi neu gan y Prif Weinidog, yn gyfle gwerthfawr i blismona yng Nghymru a Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r materion pwysig hyn i Gymru sy'n torri ar draws agweddau ar wasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u datganoli neu heb eu datganoli. Hyd yn oed heb ddatganoli plismona, rydym yn cyflawni cymaint pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth â'n heddluoedd a'n comisiynwyr heddlu a throseddu, ond dychmygwch yr hyn y gallem ei gyflawni dros bobl Cymru pe bai plismona'n cael ei ddatganoli, ac rwy'n eich annog heddiw i fy nghefnogi a derbyn y cynnig hwn. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Rhys ab Owen i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i fy nghyfaill Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl yma. Diolch hefyd i John Griffiths am ei waith yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar heddlu, gwaith pwysig iawn yn y lle hwn, a hefyd i fy nghyfaill Alun Davies. Tra oedd e'n Weinidog—byddwch chi'n cofio yr oedd e'n Weinidog ar un adeg—Alun Davies wnaeth sefydlu bwrdd heddlua Cymru, bwrdd pwysig iawn y mae Jane Hutt newydd ein hatgoffa ni amdano fe.
Oherwydd nid yw hon yn ddadl newydd. Yr wythnos diwethaf, gyda Dydd Gŵyl Dewi, rydym wedi bod yma o'r blaen, a gadewch imi ddweud hyn yn dawel wrthych, mae wedi cael cefnogaeth y Torïaid yn y gorffennol. Yn ôl ar ddechrau'r 1990au, roedd yr Arglwydd Hunt, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, wedi dod i gytundeb gyda Ken Clarke, yr Ysgrifennydd Cartref, i ddatganoli cyfiawnder i'r Swyddfa Gymreig. Nawr, rhoddwyd diwedd ar hynny oherwydd biwrocratiaeth y Swyddfa Gartref, yr awydd i ehangu terfynau o fewn y Swyddfa Gartref—nid oedd gweision sifil eisiau gadael iddo fynd. Ond roedd y Blaid Geidwadol, yn ôl yn y 1990au, o blaid ei ddatganoli, a phe bai wedi cael ei ddatganoli, ni fyddem yn cael y ddadl hon yn awr, byddai eisoes wedi'i ddatganoli. Ac a ydych yn cofio Boris Johnson yn 2014? Nid oedd yn fodlon â phlismona yn unig, roedd eisiau datganoli'r system cyfiawnder troseddol gyfan i Lundain. Ble mae'r rhesymeg yno, ei fod eisiau datganoli'r system cyfiawnder troseddol gyfan i Lundain, ond ni allwn ddatganoli plismona hyd yn oed i Gymru?
Beth bynnag a ddywed Mark Isherwood, mae'n ennyn cefnogaeth swyddogion yr heddlu ar bob lefel. Edrychwch ar y briff, Mark Isherwood, a gawsom gan Ffederasiwn yr Heddlu, y newid sydd wedi digwydd ers comisiwn Silk, maent yn awr—. Er eu bod yn dal i fod yn niwtral, y cwestiwn y maent yn ei ofyn yn awr yw, 'Pam na ddylid ei ddatganoli?' Mae'n newid enfawr, ac mae wedi'i gefnogi gan bob comisiynydd heddlu a throseddu, ac er eu bod yn niwtral, cefnogaeth pob prif gwnstabl yng Nghymru. Mae Peter Vaughan, cyn brif gwnstabl uchel ei barch Heddlu De Cymru wedi dadlau'n gryf dros ddatganoli plismona.
Nawr, y mater trawsffiniol y mae Mark Isherwood wedi'i godi unwaith eto—mae'n anhygoel. Dyma'r un blaid a bleidleisiodd yr wythnos diwethaf o blaid gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yng Nghymru, ar wahân i Loegr. Dychmygwch yr anhrefn: gŵyl banc yng Nghymru ar 1 Mawrth ac nid yn Lloegr. Edrychwch ar yr anhrefn trawsffiniol y byddai hynny'n ei greu. A mawredd, beth am Lwcsembwrg? Sut y maent yn goroesi gyda'u heddlu eu hunain?
Nawr, fel y mae John Griffiths, Mike Hedges, Alun Davies wedi ein hatgoffa, nid ynys yw plismona, nid yw wedi'i ynysu—mae'n cydgysylltu'n llwyr â sectorau sydd wedi'u datganoli i'r lle hwn. Bob 13 munud, mae Heddlu De Cymru yn cael adroddiad sy'n ymwneud â mater iechyd meddwl, ac o'r digwyddiadau y mae'n rhaid i swyddogion yr heddlu ymdrin â hwy, nid oes ond angen arfer pwerau'r heddlu mewn 4 y cant ohonynt.
Nawr, cyllid—nid yw cyllid wedi'i grybwyll y prynhawn yma. Mae ariannu'r heddlu yng Nghymru yn gymhleth iawn, a chyfeiriodd Alun Davies at hyn—y diffyg atebolrwydd sy'n deillio o hynny. Nawr, daw arian o'r Swyddfa Gartref, o Lywodraeth Cymru fel rhan o'r setliad cyllid i lywodraeth leol, ac yn drydydd, o braesept heddlu lleol, ac yn olaf gan Lywodraeth Cymru, fel y dywedodd Mike Hedges, sy'n ariannu'r 600 o swyddogion cymorth cymunedol. Mae mwy o arian yn dod o Gymru drwy'r heddluoedd nag o'r Swyddfa Gartref: daw 67 y cant o gyllid heddluoedd Cymru o Gymru, ac eto mae diffyg atebolrwydd yn y lle hwn. Nawr, bydd £113.47 miliwn yn cael ei wario yn y flwyddyn gyllidebol nesaf ar heddluoedd Cymru—arian Llywodraeth Cymru. A thrwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, a pheidio â phennu terfyn ar braesept y dreth gyngor, nid ydym wedi gweld y toriad enfawr a welsom yn Lloegr yn niferoedd swyddogion yr heddlu yng Nghymru.
Nawr, yn olaf, y ddadl ar gymesuredd gwleidyddol. Nid wyf wedi clywed un rheswm da pam fod plismona wedi'i ddatganoli i Fanceinion Fwyaf a Llundain ac nid i Gymru. Os oes materion trawsffiniol yn codi yng Nghymru, Mark, beth am Fanceinion Fwyaf a Llundain? Ewch ymlaen, Mark.
A ydych yn cydnabod mai pwerau'r comisiynwyr heddlu a throsedd yw'r datganoli y cyfeiriwch ato i Fanceinion, er enghraifft? Mae gennym y rheini yng Nghymru. Fodd bynnag, os ydych yn dal i sôn am uno'n un heddlu a chael pwerau yn y Llywodraeth, rydych yn sôn am wneud penderfyniadau gwleidyddol ynghylch cyflogi a diswyddo prif gwnstabliaid.
Wel, mae hynny'n bodoli eisoes gyda chomisiynwyr heddlu a throsedd, a datganoli gweithredol a geir ym Manceinion a Llundain, sy'n hollol wahanol. Ac nid oes neb yma wedi sôn am uno heddlu Cymru heblaw amdanoch chi, Mark Isherwood. Nid oedd comisiwn Thomas yn ei argymell; nid oedd comisiwn Silk yn ei argymell.
Nawr, y cymesuredd gwleidyddol—os ydych yn pryderu cymaint am yr undeb, pam na allwn gael cymesuredd gwleidyddol o fewn yr undeb? Neu a yw Cymru'n israddol i leoedd eraill, fel na chawn reoli plismona? Ac ar y pwynt 'ni chawn orfodi deddfau' gan Jane Hutt—a deuaf i ben ar ôl y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd—fe welsom hyn yn ystod y pandemig COVID, oni wnaethom? Heddluoedd Cymru yn gorfodi deddfau Cymru, ond eto nid oeddent yn atebol i Lywodraeth Cymru, nac i'r lle hwn. Cawsom ein hatgoffa gan Jane Dodds a chan Delyth Jewell nad yw'r system bresennol yn gweithio. Wel, edrychaf ymlaen at y diwrnod, fel y dywedodd Mike Hedges, pan fyddaf yn gallu galw Jane Hutt yn Weinidog cyfiawnder Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwelaf wrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.