– Senedd Cymru am 5:51 pm ar 26 Ebrill 2022.
Mi wnawn ni symud ymlaen i'r cynigion. Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynigion hynny—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynigion. Mae'n fraint agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), a chynnig y cynnig a'r penderfyniad ariannol. Fel y mae Aelodau wedi dweud droeon yn y Siambr hon, mae treth yn faes pwysig a chynyddol yn y setliad datganoli. Fel Llywodraeth Cymru, mae angen arnom ni, fel pob gweithrediaeth, gyfres gymesur ac effeithiol o ddulliau i reoli'r pwerau trethu hynny'n strategol ac yn effeithiol er mwyn diogelu trethdalwyr a chyllid cyhoeddus. Mae angen i'r Senedd hon, fel pob senedd, oruchwylio'n gryf ac yn gadarn ddefnydd y dulliau hynny a all roi cydsyniad a chyfreithlondeb i'r pwerau hynny. Mae hynny mor hanfodol i'r broses ddemocrataidd. Er y bydd angen mwy na'r Bil hwn i'n cael ni i'r sefyllfa honno, rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn gam cyntaf pwysig ar hyd y ffordd at y system gydlynol a thryloyw y mae ei hangen arnom i gefnogi datganoli trethi yng Nghymru.
Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeiryddion ac Aelodau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu'n drylwyr ar y Bil yn ystod Cyfnod 1, ac am eu hadroddiadau cynhwysfawr. Byddaf yn dweud ychydig mwy mewn munud am y ffyrdd yr wyf yn credu y gallwn ni gydweithio'n gadarnhaol i gryfhau'r Bil yn ystod ei daith drwy'r Senedd. Hoffwn i ddiolch hefyd i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni ac sydd wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu'r Bil, gan ddarparu eu harbenigedd, eu her a'u safbwynt. Mae hynny wedi cyfrannu at ein ffordd o feddwl wrth i ni ddatblygu'r Bil. Mae'r ddau bwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion pwysig, ac rwy'n falch o dderbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw. O ystyried natur fanwl adroddiadau'r ddau bwyllgor, a nifer yr argymhellion a wnaed, nid yw'n bosibl ymateb i bob un ohonyn nhw'n unigol heddiw. Felly, byddaf i'n ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau yn dilyn y ddadl.
Byddaf yn dechrau gyda'r hyn sydd, yn fy marn i, yn dir cyffredin i bob un ohonom ni—hynny yw, sicrhau bod gennym ni drefniadau effeithiol i ddiogelu refeniw o ganlyniad i newidiadau sy'n effeithio ar ein trethi datganoledig. Bwriad y Bil yw rhoi'r amddiffyniad amserol hwnnw wrth barchu'r Senedd a'i swyddogaeth oruchwylio briodol. Nid y Bil hwn yw'r gair olaf nac ateb tymor hwy i'r ffordd yr ydym ni'n gwneud newidiadau brys i ddeddfwriaeth treth. Yn hytrach, mae'n gam pragmatig i'w gymryd yn awr wrth i ni weithio drwy oblygiadau llawn datganoli trethi yng Nghymru. Fel y dywedais, mae datganoli trethi ei hun yn newid cyfansoddiadol cymharol ddiweddar, gyda threthi datganoledig ond yn dechrau gweithredu bedair blynedd yn ôl. Wrth i'r datganoli hwnnw aeddfedu, hoffwn i weithio gyda'r Senedd hon i'n symud tuag at fframwaith ar gyfer gwneud newidiadau treth sy'n iawn i ni yma yng Nghymru. Yn y pen draw, gallai hyn edrych yn debycach i drefniadau'r DU o Fil cyllid blynyddol, er na fyddai hyn ynddo'i hun yn cynnig ateb llawn. Mater i ni drwy weithio gyda'n gilydd fydd penderfynu pa drefniadau ac offerynnau sy'n iawn i Gymru.
Rwyf wedi gwrando ac wedi myfyrio'n ofalus ar y pwyntiau cyfansoddiadol pwysig a gafodd eu gwneud o ran y Bil hwn, ac yn enwedig y rhai hynny gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar wahanu'r pwerau rhwng y ddeddfwrfa a'r weithrediaeth. Mae'r ystyriaeth honno wedi dylanwadu'n sylweddol ar y gwelliannau yr wyf i'n bwriadu eu cyflwyno yn y camau craffu sydd ar ddod. Rwy'n credu bod modd ystyried y ddeddfwriaeth hon yn gyfrwng tymor byrrach pwysig wrth ini ystyried yr atebion tymor hwy hynny y mae'n rhaid ymchwilio iddyn nhw a'u gwerthuso'n drylwyr—gwaith rwy'n credu y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd fel Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r Senedd hon a'i phwyllgorau, yn enwedig yng nghyd-destun Senedd fwy. Felly, rwy'n falch o dderbyn argymhellion y ddau bwyllgor i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf. Rwy'n bwriadu cyhoeddi'r adroddiad hwn ar ddechrau tymor nesaf y Senedd.
Yn ogystal, rwy'n barod i fynd ymhellach. Fy mwriad yw cyflwyno gwelliant yn ystod hynt y Bil na cheir gwneud unrhyw reoliadau newydd drwy ddefnyddio'r pŵer hwn i wneud rheoliadau ar ôl pum mlynedd o'r Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol. Fodd bynnag, rwyf i yn credu ei bod yn bwysig rhoi cyfle i'r Senedd ymestyn oes y Ddeddf hyd at bum mlynedd arall os yw'r Senedd honno o'r farn y dylai'r pwerau barhau mewn grym ar gyfer y cyfnod estynedig terfynol hwnnw. Caiff hyn ei gyflawni wrth i Aelodau bleidleisio i gymeradwyo Gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru. Bwriad y camau hyn yw sicrhau ein bod ni'n barod i gymryd cam nesaf y cytunwyd arno ar ein taith ddatganoli ar adeg benodol yn y dyfodol. Yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd rhwng nawr a phryd hynny, os bydd nifer y trethi datganoledig yn cynyddu neu os oes mwy o welliannau i ddeddfwriaeth treth, yna mae'n ddigon posibl y bydd achos dros Fil cyllid rheolaidd. Fodd bynnag, mae angen o hyd i ni ystyried dull ar gyfer gwneud newidiadau brys y tu allan i unrhyw gylch Bil cyllid Cymru. Yn hollbwysig, rwy'n ymrwymo heddiw i weithio gyda phwyllgorau i feddwl drwy'r cwestiynau a'r heriau pwysig hyn.
Hoffwn i droi at faes allweddol arall y mae'r Llywodraeth yn cytuno sy'n arwain at yr angen am welliant. Rwyf i wedi ystyried yn ofalus farn y pwyllgorau a'r rhanddeiliaid ynglŷn â'r gallu i gyfyngu ar newidiadau ôl-ddeddfwriaethol yn ôl i ddyddiad y cyhoeddiad cychwynnol. Rwy'n falch o dderbyn yr egwyddor arweiniol ac rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i gyfyngu ar allu Gweinidogion Cymru i ddeddfu'n ôl-weithredol hyd at ddyddiad cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru mewn achosion lle gallai newid, ac mae hynny'n gost ariannol, effeithio'n negyddol ar drethdalwyr. Fodd bynnag, rwyf o'r farn y dylai unrhyw gyfyngiad o'r fath barhau i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddefnyddio'r pŵer i wneud newidiadau gydag effaith ôl-weithredol ymhellach yn ôl na dyddiad unrhyw gyhoeddiad lle mae'r newid hwnnw'n lleihau'r dreth a godir, er enghraifft pe bai ymateb i newid yng nghyllideb y DU yn sicrhau y gall ein trethdalwyr elwa ar ostyngiad ar yr un pryd â threthdalwyr yn Lloegr. Yn gyffredinol, rwyf i wedi ystyried yn ofalus ac wedi derbyn argymhellion allweddol adroddiadau'r pwyllgor ac rwy'n bwriadu gwneud gwelliannau pwysig i'r Bil o ganlyniad i hynny.
Gan symud at yr argymhellion na allaf eu derbyn, rwyf i yn bwriadu ysgrifennu mewn ymateb i bob un o'r rhain yn dilyn y ddadl. Rwy'n credu y byddai rhai o'r argymhellion hynny'n tresmasu ar nod sylfaenol y ddeddfwriaeth i ddarparu dull hyblyg ac ystwyth o ymateb yn gyflym i amgylchiadau allanol sy'n effeithio ar ein Deddfau trethi Cymru. Mae eraill yr wyf i wedi ymateb iddyn nhw mewn ffyrdd eraill; yn benodol, nodais i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid enghreifftiau o sut y mae modd defnyddio'r pŵer ar gyfer Deddfau trethi Cymru o ran profion y pedwar diben, er enghraifft. I gloi, Llywydd, rwy'n derbyn nad oes modd ac na ddylid ystyried y Bil hwn fel y gair olaf am y fframwaith sydd ei angen arnom i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth treth. Fodd bynnag, mae'r cynigion yr wyf i wedi'u hamlinellu heddiw yn ceisio sicrhau y gallwn ni ddarparu ateb deddfwriaethol pragmatig ar gyfer yr amgylchiadau presennol ar ein taith ddatganoli wrth i ni fynd i'r afael â'r cwestiynau tymor hwy hyn. Rwy'n annog yr Aelodau i gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw er mwyn amlinellu prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'r Bil. Gan mai unig ddiben y Bil yw dirprwyo pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth ar drethi Cymru o dan rai amgylchiadau, mae ei ddarpariaethau wedi cael eu hystyried yn llawn gan y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda'r ddau bwyllgor wedi dod i gasgliad tebyg.
Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y cyfarfod ddydd Gwener diwethaf i drafod ein hadroddiadau a'n hargymhellion. Rwy'n croesawu'n fawr ei dull adeiladol o weithredu.
Dechreuaf gyda'n barn ni ar yr egwyddorion cyffredinol. Fel pwyllgor, rydym yn llwyr gefnogi'r egwyddor bod angen y gallu i ymateb i ddigwyddiadau allanol i ddiogelu refeniw Cymru sy'n cael ei godi drwy drethi datganoledig. Fodd bynnag, mae llawer o'n trafodaethau wedi canolbwyntio ar briodoldeb dirprwyo pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion i gyflawni'r amcan hwn, gan ei fod yn arwain at lai o graffu ac yn ildio swyddogaeth ddeddfwriaethol y Senedd.
Roedd y dystiolaeth a gawsom yn canolbwyntio ar yr egwyddorion allweddol y dylai cyfraith trethi gael ei nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, dylai fod yn destun ystyriaeth a thrafodaeth fanwl, a dylai roi sicrwydd i drethdalwyr. Ac er bod y Gweinidog wedi bod yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod y Senedd wedi rhoi pwerau i Weinidogion ddiwygio deddfwriaeth trethi drwy reoliadau o'r blaen, nid yw hynny ynddo'i hun yn cyfiawnhau'r dull ac sydd wedi'i gynnig yn y Bil sydd ger ein bron yn y Senedd hon. Rydym ni wedi ein siomi nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddatblygu ffyrdd amgen o ddiwygio deddfwriaeth trethi ddatganoledig yn gyflym. Yn benodol, gallai'r Gweinidog fod wedi dilyn dull ar gyfer gwneud newidiadau brys i'r gyfraith dros dro drwy benderfyniad gan y Senedd, gyda deddfwriaeth sylfaenol ddilynol yn cael effaith barhaol. Byddai dull o'r fath yn caniatáu i Weinidogion ymateb yn gyflym i ddiogelu refeniw treth a sicrhau cydbwysedd teg rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru. Byddai hyn hefyd wedi bod yn waith paratoi defnyddiol ar gyfer cyflwyno proses cyllideb ddeddfwriaethol yn y dyfodol. Er bod y Gweinidog o'r farn bod proses cyllideb ddeddfwriaethol yn anghymesur ar hyn o bryd, mae angen sicrwydd arnom ni na fydd oedi cyn gweithio i'w datblygu os bydd y Bil hwn yn mynd rhagddo, ac rydym yn credu y dylai rhagor o drethi datganoledig gael eu cynllunio gyda phroses cyllideb ddeddfwriaethol mewn golwg.
Ni ddaethom i benderfyniad unfrydol, gyda thri o'n pedwar Aelod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Nid oedd Peter Fox yn cefnogi'r Bil yn mynd y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y bydd yn amlinellu ei resymau dros hyn yn ei gyfraniad. Roedd rhai ohonom yn rhannu pryderon Peter ond, ar y cyfan, daethom i'r casgliad nad oedd y pryderon hyn yn cyfiawnhau'r ffaith bod y pwyllgor yn argymell y dylai'r Bil ddisgyn ar hyn o bryd. Er hynny, gwnaethom nodi nifer o feysydd lle y dylid gwneud gwelliannau i'r Bil. Yn gyntaf, roeddem ni'n ei chael hi'n anodd dod i gasgliadau ar y pedwar prawf diben pwrpasol arfaethedig. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni fod cwmpas y pŵer wedi'i gyfyngu'n fwriadol a'i fod wedi'i nodi'n gwbl glir o dan ba amgylchiadau y byddai'n cael ei ddefnyddio. Fodd bynnag, cafodd pryderon difrifol eu codi gyda ni ynghylch ehangder agweddau ar y pŵer, a chawsom ein cynghori y gallai fod yn agored i gael ei gam-drin.
Bydd y Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn Neddfau trethi Cymru ac eithrio'r darpariaethau sy'n ymwneud â sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru a rheoliadau sy'n diwygio cyfraddau treth a bandiau trethi datganoledig. Yn ystod ein gwaith craffu, roeddem yn disgwyl i'r Gweinidog ddarparu enghreifftiau penodol i ddangos sut y byddai modd defnyddio'r pŵer i addasu Deddfau trethi Cymru yn ymarferol. Fodd bynnag, cawsom wybod nad oedd yn ymarferol rhagweld pob un o'r amgylchiadau yn y dyfodol a allai arwain at welliant. Nid oedd hyn yn rhoi llawer o gyfle i ni graffu'n ddigonol, ac felly buom ni'n pwyso eto am enghreifftiau i lywio'r ddadl heddiw. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi darparu enghreifftiau erbyn hyn, a nodi ei bod hi bellach yn ystyried eithrio Rhan 9 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 o gwmpas y Bil. Byddai'r wybodaeth hon wedi bod yn ddefnyddiol ar y dechrau i alluogi craffu priodol, ond dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi.
Yr ystyriaeth allweddol fu'r ddarpariaeth yn adran 2 o'r Bil sy'n caniatáu i Weinidogion wneud rheoliadau gydag effaith ôl-weithredol. Mynegodd tystion bryderon bod hyn yn tanseilio egwyddor sylfaenol y dylai'r gyfraith fod yn sicr. Er ein bod ni'n derbyn y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru liniaru'r risgiau i arian cyhoeddus, mae angen gofal mawr ac achos cymhellol i ddeddfu'n ôl-weithredol. Er mwyn amddiffyn trethdalwyr, rydym yn argymell bod y gallu i wneud rheoliadau gydag effaith ôl-weithredol wedi'i gyfyngu ar wyneb y Bil i dri o'r pedwar diben. Rwy'n nodi bwriadau'r Gweinidog i gyflwyno'r gwelliannau sy'n cyfyngu ar y gallu i ddeddfu'n ôl-weithredol ac edrychaf i ymlaen at weld manylion ei chynigion.
Nawr rwyf i eisiau symud ymlaen at gymeradwyaeth y Senedd i reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan y Bil. Mae hyn yn cynnwys y weithdrefn gwneud yn gadarnhaol, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd o fewn cyfnod o 60 diwrnod ar y mwyaf. Byddwn yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno achos cryf dros gyfiawnhau'r angen i hepgor craffu a chymeradwyo ymlaen llaw, yn enwedig yn achos rheoliadau sy'n cael effaith ôl-weithredol. O ystyried ein pryderon ynghylch natur eang y pŵer sy'n cael ei geisio a'r gallu i newid cyfreithiau trethi Cymru yn ôl-weithredol, rydym yn annog y Gweinidog i gryfhau'r broses gymeradwyo drwy gynnwys cyfnod byrraf o amser ar gyfer craffu ar unrhyw reoliadau gan y Senedd.
Fe wnaethom ni hefyd ystyried goblygiadau ariannol y Bil ac roeddem ni wedi ein siomi gyda'r diffyg gwybodaeth ariannol a gafodd ei gyflwyno. Heb unrhyw gostau uniongyrchol wedi'u nodi a chostau anuniongyrchol yn cael eu disgrifio gan y Gweinidog yn aneglur, nid oeddem yn gallu dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon ar effaith ariannol y ddeddfwriaeth hon. Byddwn ni'n disgwyl i unrhyw reoliadau yn y dyfodol gael eu hategu gan asesiad effaith rheoleiddiol llawn a chadarn.
Yn olaf, rydym ni'n croesawu parodrwydd y Gweinidog i adolygu'r ddeddfwriaeth. Rydym yn argymell y dylai'r darpariaethau yn y Bil gael eu hadolygu ar ôl cyfnod cychwynnol o ddwy flynedd ac adolygiad cyfnodol bob pum mlynedd. Mae adolygiad cynnar yn arbennig o bwysig o ystyried yr wybodaeth gyfyngedig sydd gennym i allu craffu arni ac ansicrwydd ynghylch sut y byddai modd defnyddio'r pŵer yn y Bil. Bydd hefyd yn cynorthwyo'r Senedd i barhau i ganolbwyntio ar p'un a yw'r datblygiad hwn yn ein cyfraith trethi yn briodol.
Llywydd, arhosodd Cymru 800 mlynedd am bwerau i godi trethi. Ni ddylai'r Siambr hon ildio'r pwerau hynny heb feddwl ac ystyried yn briodol.
Wrth gloi, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi mynegi barn er mwyn ceisio ein cynorthwyo gyda'r gwaith pwysig hwn. Rwyf hefyd yn hynod o ddiolchgar am y cyngor a'r arweiniad a gawsom gan Charlotte Barbour, ein cynghorydd arbenigol, wrth inni drafod y maes cymhleth hwn. Edrychaf ymlaen at gael ymateb ffurfiol i'n hargymhellion. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies, sydd nesaf.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol ail Fil Llywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd. Daeth ein hadroddiad i bedwar casgliad a gwnaethom 18 argymhelliad.
Hoffwn i, yn fy sylwadau agoriadol, ddiolch i aelodau fy mhwyllgor a'r tîm clercio am y sylw y maen nhw wedi'i roi i'r Bil penodol hwn. Ond hoffwn i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am drefnu cyfarfod gyda mi a gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener diwethaf i drafod ein hadroddiadau perthnasol. Roeddem ni'n meddwl bod hynny'n ddefnyddiol ac yn adeiladol, ac rwy'n croesawu'n fawr, unwaith eto, y dull adeiladol y gwnaethoch ei fabwysiadu yn y cyfarfod hwnnw a hefyd eich bod wedi dweud eto yn eich sylwadau agoriadol yma heddiw eich bod yn derbyn rhai o'n hargymhellion, yn wir, a oedd â'r nod o wella'r Bil. Yn benodol, Gweinidog, bydd derbyn argymhelliad 16 yn gwarantu bod gan bwyllgorau 28 diwrnod i graffu ar reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gwneud yn gadarnhaol.
Rydym ni hefyd yn croesawu ymateb y Gweinidog i ymdrin ag un o'n pryderon mwyaf am y Bil, sef adran 2(1)(c), sy'n caniatáu i reoliadau o dan adran 1 wneud darpariaeth sy'n cael effaith ôl-weithredol—mater y gwnaeth fy nghyd-Gadeirydd ddwyn sylw'r Siambr iddo. Er i ni ddod i'r casgliad y dylai cyfraith sydd ag effaith ôl-weithredol ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol, mae ymrwymiad y Gweinidog i gyflwyno gwelliant i gyfyngu ar y pŵer hwn, fel y mae hi wedi'i amlinellu, yn wir, yn gwella'r Bil presennol hwn.
Fodd bynnag, mae rhai pwyntiau pwysig y mae angen tynnu sylw atyn nhw o hyd. Daethom i'r casgliad nad yw'r Bil yn gyfrwng deddfwriaethol priodol i wneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Roeddem ni o'r farn bod lefel y pŵer dirprwyedig yn y Bil yn amhriodol ac nid ydym wedi ein hargyhoeddi bod graddau'r pŵer hwnnw wedi'i gyfyngu'n ddigonol drwy gynnwys y pedwar prawf diben. Rydym ni yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu'n brydlon er mwyn osgoi canlyniadau negyddol i gyllid cyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn credu bod y cydbwysedd yn y Bil hwn yn ormodol o blaid awydd Llywodraeth Cymru i ymateb yn gyflym ac mae perygl y bydd yn ymyleiddio mandad democrataidd y Senedd. Felly, rydym ni yn credu, fel mater o egwyddor, y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol i ddiwygio Deddfau trethi Cymru, er enghraifft drwy Fil cyllid, yn flynyddol neu fel arall, neu Fil at ddiben arbennig, sy'n destun gweithdrefn hwylus. Rydym ni hefyd yn credu bod y Gweinidog wedi bod ychydig yn rhy gyflym i ddiystyru dull sy'n debyg i'r defnydd o Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968 yn Nhŷ'r Cyffredin, sy'n cynnwys cynnig o'r Senedd, sydd wedyn yn cael effaith barhaol drwy ddefnyddio Bil sy'n ddarostyngedig i weithdrefn ddeddfwriaethol hwylus neu weithdrefn ddeddfwriaethol bwrpasol arall. Nid ydym yn gweld unrhyw reswm pam nad oedd yn bosibl datblygu gweithdrefn ddeddfwriaethol briodol ochr yn ochr â Bil cysylltiedig wrth iddo fynd drwy'r Senedd. Felly, fel y mae ein hadroddiad yn dangos, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddull gweithredu o'r fath o ran Biliau cydgrynhoi. Digwyddodd y broses o ddatblygu gweithdrefn, dan arweiniad y Pwyllgor Busnes, ochr yn ochr â gwaith craffu'r Senedd ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru). Byddai wedi bod modd datblygu dull sy'n cael ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth sylfaenol mewn modd sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau allanol a diogelu cyllid cyhoeddus, fel y dymuna'r Gweinidog, gan barchu goruchafiaeth ddeddfwriaethol y Senedd ar yr un pryd. Yn sicr, byddai wedi bod yn well na Bil galluogi, gan ddirprwyo pŵer helaeth Harri VIII i Weinidogion Cymru ddiwygio'r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol ar dreth a gafodd ei gwneud gan Seneddau blaenorol.
Felly, am y rhesymau hyn, awgrymodd ein hargymhelliad cyntaf y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i'w gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad statudol o'r pŵer i wneud rheoliadau yn y Bil o fewn dwy flynedd i'r Cydsyniad Brenhinol. Awgrymodd ein hail argymhelliad y dylai darpariaeth machlud briodol gael ei chynnwys, fel nad oes modd gwneud unrhyw reoliadau newydd o dan y pŵer yn adran 1 ar ôl mis Gorffennaf 2027. Felly, rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adrodd ar weithrediad y Ddeddf, fel y mae'r Gweinidog wedi sôn amdani heddiw, ac i gynnwys darpariaeth machlud, er ei bod i wahanol amserlen. Gobeithiwn y bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu, o leiaf, dull gwell o ddiwygio deddfwriaeth trethi ddatganoledig, a allai fod yn gysylltiedig â Deddf 1968 a, gobeithio, heb yr angen i ymestyn y ddarpariaeth machlud hyd at 2032.
Roedd un o themâu allweddol ein hargymhellion eraill yn canolbwyntio ar newidiadau i'r Bil a fyddai'n cyfyngu ar faint y pŵer sy'n cael ei roi i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Felly, er enghraifft, gwnaethom argymell y dylid cyfyngu ar ystyr 'osgoi trethi' drwy gyfeirio at y ddarpariaeth gwrth-osgoi gyffredinol, sydd wedi'i nodi yn Rhan 3(a) Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Heb welliant o'r fath, bydd Llywodraeth Cymru yn ennill y gallu i benderfynu am beth y mae eisiau deddfu ar ei gyfer o ran unrhyw weithgarwch i osgoi trethi.
Rwy'n dod i gasgliad, Llywydd. Rwy'n ymddiheuro am fynd drosodd ychydig. Mae'r Bil yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru addasu Deddfau trethi Cymru wrth ymateb i 'benderfyniad llys neu dribiwnlys'—y diben o dan adran 1(1)(d). Mae'r diben hwn yn peri pryder gwirioneddol i'r pwyllgor, yn anad dim oherwydd dywedwyd wrthym fod y pŵer yn eang yn fwriadol i gynnwys pob posibilrwydd, oherwydd na allwn ni ragweld ar hyn o bryd y sefyllfaoedd yn y dyfodol lle y byddai modd defnyddio'r ddarpariaeth. Nawr, rydym ni'n credu y dylai'r newidiadau i'r gyfraith y gallai fod eu hangen o ganlyniad i benderfyniad gan lys neu dribiwnlys gael eu cyflawni drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, ac rydym ni wedi ein siomi, felly, nad yw ein hargymhelliad—sef dileu'r diben hwn o'r Bil—wedi'i dderbyn eto.
I gloi, rwy'n croesawu rhai o'r camau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i ymdrin â'n pryderon, ac rwy'n croesawu cynnig y Gweinidog i ysgrifennu at y pwyllgor ynghylch ein pryderon sy'n weddill ac i weithio'n adeiladol gyda'r ddau bwyllgor. Rydym yn gobeithio, yn y dyfodol agos, y bydd gan Aelodau'r Senedd y gallu i graffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol pan fydd angen gwneud newidiadau'n gyflym i Ddeddfau trethi Cymru. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac rwy'n croesawu'r negeseuon cadarnhaol yr ydych wedi'u rhoi i ni y prynhawn yma ac awgrym o symud ar welliannau. Llywydd, yn anffodus, serch hynny, nid yw grŵp y Ceidwadwyr Cymreig mewn sefyllfa i gefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau trethi Cymru, ac felly byddwn yn pleidleisio yn erbyn y ddau gynnig gerbron y Senedd heddiw.
Pan gyflwynwyd y Bil y llynedd, dywedais fod gen i rywfaint o gydymdeimlad â'r Gweinidog—mae prosesau cyllidebol a threthiant wrth gwrs yn bethau cymhleth iawn, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r cymhlethdod hwn ond wedi cynyddu. Fodd bynnag, wrth ystyried y Bil hwn yn helaeth, ac rwyf i wedi bod yn ddigon ffodus i eistedd ar y ddau bwyllgor, o dan arweiniad gwych ein dau Gadeirydd, mae wedi dod yn amlwg i mi fod y Bil fel y mae wedi'i ddrafftio yn codi rhai cwestiynau a heriau sylweddol ynghylch rhan y Senedd wrth ddatblygu deddfwriaeth trethiant. Fel y nodwyd gan y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, mae'r dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddewis
'yn groes i arferion ac egwyddorion seneddol sefydledig sy'n gysylltiedig â deddfu da.'
Dywedodd y sefydliad siartredig trethiant mai eu
'man cychwyn yw y dylai cyfraith trethi gael ei nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol', gan ei fod yn destun mwy o graffu a dadlau nag is-ddeddfwriaeth, yn ogystal â rhoi'r gallu i randdeiliaid fod yn rhan briodol o'r broses graffu mewn modd mwy tryloyw. Ydw, rwy'n deall bod angen cyflwyno newidiadau'n gyflym ar adegau i ymateb i ddigwyddiadau allanol, ond nid wyf i'n credu bod modd defnyddio cyfiawnhad o'r fath i wanhau pwerau'r Senedd wrth benderfynu ar bolisi treth.
Mae'r Gweinidog wedi pwysleisio dro ar ôl tro y pedwar prawf yn y Bil, sy'n ceisio cyfyngu ar ei ddarpariaethau a sut y mae Gweinidogion yn eu defnyddio, ond, yn ystod y broses graffu, cafodd cwestiynau eu codi ynghylch priodoldeb rhai o'r profion hyn. Er enghraifft, awgrymodd Dr Sara Closs-Davies fod angen diffinio'r term 'osgoi treth' yn y Bil gan fod ganddo ddiffiniad eang sy'n broblem. Dywedodd yr Athro Emyr Lewis hefyd fod y drafftio o ran osgoi trethi
'yn llawer ehangach na dim ond darpariaeth cau bylchau', gan dynnu sylw at y ffaith y byddai modd defnyddio'r ddarpariaeth, yn ogystal ag at ddibenion ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys, i wneud newidiadau llawer ehangach na'r hyn sydd wedi'u nodi gan Lywodraeth Cymru. Tynnodd yr Athro Lewis sylw at y ffaith y gallai'r prawf diben fel y mae wedi'i ddrafftio ganiatáu i Weinidogion
'gyflawni newidiadau polisi rheolaidd, sylweddol neu fel arall', gan gynnwys y potensial i gyflwyno cyfradd dreth newydd o dan ddiben (c).
Yn y cyfamser, cododd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr bryderon am y pwerau yn y Bil sy'n caniatáu i Weinidogion osod neu ymestyn yr atebolrwydd o gosb o dan adran 2(1)(b). Maen nhw'n cwestiynu beth mae'r pŵer yn
'mynd i wneud sy'n wahanol i'r hyn sydd gennym eisoes yn ein deddfwriaeth sylfaenol? Nid yw'n glir o gwbl'.
Yn syml, Llywydd, a ydym ni mewn perygl o wneud maes cymhleth o gyfreithiau hyd yn oed yn fwy aneglur ac yn fwy anodd ei ddilyn? Y thema gyffredinol, yr wyf i'n ei synhwyro, yw bod angen i'r Bil hwn fod yn fwy cyfyngedig, ac rwy'n croesawu'r awgrymiadau ar gyfer cynnwys cymal machlud yn y Bil i ganiatáu i ddull mwy priodol gael ei ddatblygu yn ogystal â'r angen am adolygiad statudol o'r pwerau i wneud rheoliadau yn y Bil hwn.
Mae'n rhaid cael mwy o bwyso a gwrthbwyso hefyd wrth ddefnyddio'r ddarpariaeth i newid cyfraith trethiant yn ôl-weithredol, sy'n mynd yn groes i'r egwyddor allweddol o sicrwydd wrth ddatblygu deddfwriaeth o'r fath. O leiaf, mae angen i unrhyw ddefnydd o'r pwerau ôl-weithredol hyn gael ei gymeradwyo gan y Senedd ac mae wedi'i gyfyngu i ddim cynharach na dyddiad gweithredu'r newid i'r dreth flaenorol.
I gloi, Llywydd, rwy'n credu y gallai'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio agor nyth cacwn o ganlyniadau anfwriadol nid yn unig i ddeddfwriaeth trethi Cymru, ond i oruchafiaeth y Senedd wrth ddeddfu'n ehangach. Rwy'n credu ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymgysylltu'n adeiladol â'r gyfres lawn o argymhellion a gafodd eu gwneud gan y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r pwyllgor cyllid. Mae'n bwysig, os yw'r Llywodraeth yn dymuno cefnogaeth y Senedd gyfan yn wirioneddol, ei bod yn gweithio gydag Aelodau o bob ochr i gryfhau swyddogaeth y Senedd o ran datblygu cyfraith trethiant. Diolch.
Bydd Plaid Cymru hefyd yn pleidleisio yn erbyn y Bil yma y prynhawn yma. Rŷn ni fel grŵp yn deall y rhesymeg sydd tu ôl i'r Bil yma a'r pwysigrwydd i ymateb yn sydyn pan fo angen ar faterion cymhleth trethiant, a dwi'n falch iawn i glywed parodrwydd y Gweinidog i drafod a gwrando ar bryderon y ddau bwyllgor a hefyd ymateb yn gadarnhaol i hynny.
Serch hynny, mae'r pryderon dal yn ormodol inni gefnogi'r Bil, y pryderon bod y Bil yma'n tanseilio pwerau'r Senedd. Er bod y Bil yn ymddangos fel darn digon ymarferol o ddeddfwriaeth, mae yn tynnu pwerau ar ôl craffu llawn oddi wrth ein Senedd, ac yn hynny o beth dwi'n credu y gallem ni dynnu paralel gyda'r defnydd cynyddol o LCMs yn y Senedd, sydd yn destun cymaint o bryder i Blaid Cymru, y pwyllgor deddfwriaeth a phwyllgorau eraill y Senedd. Er mor gyfleus, o bosib, yw LCMs, er mor gyfleus y maen nhw'n ymddangos, maent yn tanseilio rôl y Senedd yma. Ac yn yr un ffordd, mae'r Bil yma yn tanseilio grym a rôl ein deddfwrfa.
Mae arnaf i ofn, Gweinidog, fod y Bil hwn yn dod â stamp tebyg i'r Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol. Dylem ni ddod at ein gilydd fel Senedd i atal pwerau'r ddeddfwrfa rhag cael eu neilltuo fel sydd wedi'i gynnwys yn y Bil hwn.
Oherwydd cwestiwn o egwyddor yw hyn. Fel Senedd, fel Aelodau o'r Senedd, mae angen inni holi ein gilydd i ba raddau yr ydym yn fodlon ymyrryd â mecanweithiau democrataidd deddfwrfa sydd mor ifanc. Dwi'n deall pwynt y Gweinidog pan fydd hi'n sôn am ddeddfwrfa sy'n aeddfedu o hyd, ond rŷn ni'n ddeddfwrfa ifanc—mor gynnar yn hanes ein deddfwrfa ni, ein bod ni'n fodlon ymyrryd â phwerau a mecanweithiau democrataidd ein Senedd ni.
Fel dywed y pwyllgor deddfwriaeth, fel dywedodd y Cadeirydd gynnau, ni ddylai newidiadau i gyfraith trethi gael eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth mewn ffordd ôl-weithredol. Mae hyn yn hollol groes i ymarfer da cydnabyddedig yn yr ynysoedd hyn ac yn rhyngwladol. Y ffordd gydnabyddedig yw y dylid ymdrin â materion o'r fath drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, oherwydd fel gyda'r LCMs, bydd newid ôl-weithredol, retrospectively, i gyfraith trethi yn destun i graffu yn llawer iawn mwy cyfyngedig. Er enghraifft, does dim modd diwygio darpariaethau perthnasol drwy is-ddeddfwriaeth. Bydd modd gwneud hynny drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.
Mae'r Bil yma, felly, yn mynd yn erbyn un o gonglfeini cyfansoddiadol yr ynysoedd hyn. Dylai pwerau trethi fod yng ngofal y ddeddfwrfa, nid yng ngofal y Llywodraeth, ac mae pobl ar hyd y canrifoedd wedi brwydro dros yr hawl sylfaenol yma. Bydd y Bil yma'n caniatáu i Ddeddfau trethi Cymreig, sydd eisoes wedi'u pasio gan y Senedd, gael eu diwygio drwy is-ddeddfwriaeth—hyn yn mynd yn hollol groes i arferion seneddol a deddfu da ledled y byd.
Pryder allweddol arall, wrth gwrs, yw'r cynnig i Weinidogion Cymru wneud newidiadau ôl-weithredol i ddeddfwriaeth trethi. Mae hyn yn arfer gwael iawn yn gyfreithiol. Byddai unrhyw fyfyriwr blwyddyn gyntaf y gyfraith yn dweud hynny wrthoch chi, ac mae pwerau o'r fath yn effeithio ar sicrwydd y gyfraith. Fel dywedodd yr Athro Emyr Lewis:
'Os oes modd newid y gyfraith yn ôl-weithredol, yna mae'n golygu bod modd gwneud rhywbeth a oedd yn gyfreithlon ar yr adeg honno yn anghyfreithlon, a gall rhywun ddioddef canlyniadau na fydden nhw wedi disgwyl eu dioddef. Mae hynny'n creu ansicrwydd yn y gyfraith.'
Ac mae hyn, Llywydd, yn hollol groes i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud cyfraith Cymru yn accessible i bawb.
Mae rhai o feddylwyr mawr cyfreithiol a chyfansoddiadol Cymru wedi codi pryderon, wedi codi amheuon sylfaenol yn erbyn y Bil yma. Nid yw gwella neu ddiwygio'r Bil sydd ger ein bron ni yn ddigonol, mae angen atal y Bil fel y mae. Mae angen inni bleidleisio yn ei erbyn a, thrwy hynny, sicrhau bod y Llywodraeth yn ailystyried y ddeddfwriaeth a'r mecanweithiau maen nhw eu hangen i gyflawni y nod maen nhw ei eisiau. Diolch yn fawr.
Fel aelod o Bwyllgor Cyllid y Senedd, hoffwn i ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, Peredur Owen Griffiths, am ei stiwardiaeth, ac i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, Mike Hedges a Peter Fox, am eu gwaith cadarn ar y pwyllgor. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i gofnodi fy niolch i fy nghyd-Aelodau Jack Sargeant, Carolyn Thomas ac Alun Davies, sydd wedi dirprwyo'n fedrus ar fy rhan i ar adegau yn ystod ein cyfnod o graffu ar y Ddeddf hon.
Rwy'n cytuno â'r Gweinidog pan amlinellodd yr angen cyffredinol am y Bil. Dywedodd y Gweinidog wrth y pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:
'mae natur fregus Gweinidogion Cymru, mewn gwirionedd, o ran gallu ymateb yn briodol i newidiadau polisi treth sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU yn eithaf clir, a dylai Gweinidogion Cymru fod mewn sefyllfa i ddarparu ymatebion sydyn iawn i ddigwyddiadau allanol penodol'.
Rydym ni wedi gweld bod Canghellor y DU yn fedrus wrth wneud newidiadau helaeth i bolisi treth, newidiadau gydag ystyriaeth brin o'r canlyniad ar fesurau trethu Cymru. Felly, roeddwn i'n falch bod y Gweinidog wedi egluro'n glir yn ei llythyr mai dim ond i ymateb i amgylchiadau allanol penodol y byddai'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio, ac nad oedden nhw'n rhagweld y byddai'r pwerau'n cael eu defnyddio'n rheolaidd. Fodd bynnag, rwyf i hefyd yn nodi ac yn croesawu'n fawr y gwelliannau arfaethedig, fel y nododd y Gweinidog heddiw. Mae'n rhaid i ni bob amser gofio'r cydbwysedd rhwng pŵer y Weithrediaeth a phwerau'r ddeddfwrfa—y cydbwysedd mân hwn, wedi'i amrywiaethu ymhellach mewn Deyrnas Unedig gyda strwythur llywodraethu datganoledig aeddfed. Roedd y pwyllgor, rwy'n gwybod, yn awyddus i gael sail tystiolaeth, ac rwy'n croesawu llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor Cyllid ar 22 Ebrill, sy'n amlinellu'r wybodaeth fanwl helaeth a phenodol yr oedd y pwyllgor yn gofyn amdani, a hynny'n briodol. Nodais i'r pennawd o ymateb y Sefydliad Siartredig Trethiant i adroddiad y pwyllgor, a nododd fod y pwyllgor yn rhoi 'cefnogaeth ofalus' i Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)—yn ei hanfod, llywodraethu da. Ymatebodd Llywodraeth Lafur Cymru yn ystwyth ac yn hyblyg i ddigwyddiadau allanol, wrth i swyddogaethau a phwyllgor craffu'r Senedd wneud eu gwaith a'u dadansoddiadau yn fforensig.
Llywydd, gyda'r gwelliannau sydd wedi'u nodi, rwyf i yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), a hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn, yn olaf, i ddiolch i'r Gweinidog, Rebecca Evans, am y modd y mae wedi cyflwyno'r mesur hwn, ei dull addasol ac adeiladol yn ystod y broses hon. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog cyllid nawr i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r holl gyd-Aelodau am y sylwadau y maen nhw wedi'u gwneud yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu, yn ddi-os, fod rhai pwyntiau manwl iawn, wrth i ni symud ymlaen drwy'r broses graffu—ac rwyf i yn gobeithio y gallwn ni, ar ôl heddiw, symud ymlaen i Gyfnod 2—bydd angen i ni drafod ymhellach a gweithio ac ystyried gyda'n gilydd.
Rwyf i wedi nodi heddiw pam yr wyf i'n credu bod y Bil yn bwysig, ac yn arbennig i ddiogelu bregusrwydd ein trethi datganoledig a chyllideb Llywodraeth Cymru. Rwyf i wedi gwrando'n ofalus iawn ar farn pwyllgorau ac Aelodau eraill mewn ymateb i hyn, ac wedi nodi'r newidiadau sylweddol, yn fy marn i, sy'n cyfyngu ar effaith a hirhoedledd y ddeddfwriaeth.
Rwy'n credu bod gwerth adlewyrchu hefyd fy mod hefyd wedi symud yn sylweddol ers i ni hyd yn oed gyflwyno'r cynnig gwreiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth. Gwnes i ymateb i ganlyniad yr ymgynghoriad drwy ailysgrifennu cwmpas y pŵer i wneud rheoliadau i gynnwys pedwar prawf diben, y mae nifer o gyd-Aelodau wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma. Fe wnaeth hynny, rwy'n credu, yn wirioneddol ein symud ni dipyn o ffordd yn y lle cyntaf o'n cynigion cyntaf, sef cyflwyno pŵer gwneud rheoliadau eithaf eang gyda phŵer eang i wneud rheoliadau. Ond mae'r pedwar prawf diben yn lleihau hynny erbyn hyn. Mae wedi'i gyfyngu i unrhyw un o'r pedwar diben penodol, sy'n cynnwys sicrhau nad yw'r dreth gwarediadau tirlenwi a'r dreth trafodiadau tir yn cael eu gosod lle byddai gwneud hynny'n arwain at beidio â chydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol; i ddiogelu rhag osgoi treth o ran gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir; ymateb i newidiadau yn nhrethi blaenorol y DU—hynny yw, treth dir y dreth stamp a threth tirlenwi—a allai effeithio ar y swm sy'n cael ei dalu i gronfa gyfunol Cymru; ac yna, yn olaf, i ymateb i benderfyniadau'r llysoedd neu'r tribiwnlysoedd sy'n effeithio ar Ddeddfau trethi Cymru, neu a allai effeithio arnyn nhw, neu'r rheoliadau a gaiff eu gwneud oddi tanyn nhw. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi symud yn sylweddol drwy'r broses graffu hyd yma i geisio ymdrin â phryderon. Ac wrth gwrs, dim ond pan fydd Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol gwneud hynny y mae modd defnyddio'r pwerau gwneud rheoliadau hyn, ac rwy'n gwybod y cawsom ni ddadl dda yn y pwyllgor ar y pwynt penodol hwnnw. Efallai ar adegau penodol y bydd angen gwneud y rheoliadau hyn, ond, mewn gwirionedd, efallai y bydd adegau eraill pan fydd yn briodol gwneud hynny. Felly, efallai na fydd angen rhoi manteision i drethdalwyr Cymru, ond efallai y byddai'n briodol gwneud hynny, a dyna un o'r rhesymau pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r prawf penodol hwnnw. Ond rwy'n gwybod y bydd trafodaethau eraill gyda phwyllgorau, gobeithio, os gallwn ni symud ymlaen i'r trafodaethau hynny.
Rwy'n credu bod gwerth i ni dynnu sylw hefyd at yr hyn a fydd yn digwydd ac ystyried beth fydd yn digwydd os na chaniateir i'r Bil fynd yn ei flaen, ac nad oes gennym ni'r pwerau hyn. Rwy'n credu bod y mwyafrif llethol o gyd-Aelodau o leiaf yn cydnabod bod problem yma a bod angen i Lywodraeth Cymru allu ymateb mewn ffordd ystwyth. Mae'r Bil yn hanfodol er mwyn rhoi'r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru a'r Senedd ymdrin â'r digwyddiadau allanol hynny. Ac mewn gwirionedd, maen nhw'n ddigwyddiadau allanol wrth gwrs na fyddai angen i Lywodraeth y DU ei hun ymdrin â nhw oherwydd eu bod yn gysylltiedig â phenderfyniadau trethi Llywodraeth y DU y maen nhw'n eu gwneud eu hunain. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn agwedd ar y setliad datganoli sy'n arwyddocaol ac mae'n rhaid i ni gael yr arfau i allu mynd i'r afael â nhw mewn modd cyflym ac ystwyth. A gadewch i ni gofio hefyd fod y Bil hwn yn ymwneud â diogelu cyllideb Cymru. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi manteision i drethdalwyr Cymru mewn modd amserol, ac rwy'n credu y byddai trethdalwyr Cymru yn disgwyl i ni allu gwneud hynny ar eu cyfer.
Felly, mae angen dull arnom yn awr, rwy'n credu, o ymateb i'r sefyllfaoedd allanol hynny wrth iddyn nhw godi, a rhai a allai effeithio ar y cyllidebau. A heb y ddeddfwriaeth, a bod yn onest, bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ymateb, ac mae'n debygol y bydd cost gysylltiedig a phryderon eraill o ran hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai hynny'n golygu y byddai'n rhaid i ni ymateb gan ddefnyddio deddfwriaeth frys, ac mae nifer o anfanteision i'r dull hwnnw. Ar hyn o bryd yng Nghymru, nid oes mecanwaith cyfatebol i Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968 yng nghyfraith Cymru, ond, wrth gwrs, gan ein bod ni'n cael y sgyrsiau eraill hyn am y fframwaith a allai fod gennym ni yn y dyfodol, yna gallai hynny'n sicr fod yn rhywbeth y gallem ni fod yn ei ystyried gyda'n gilydd yn hynny o beth.
Os na allwn ni gael y pwerau yn y Bil hwn, ac os na all y Bil hwn fynd yn ei flaen, mae'n golygu bod yn rhaid i ni fyw, o bosibl, gyda rhai newidiadau a fydd wedi eu gorfodi ar Lywodraeth Cymru, a allai arwain at effaith sylweddol ar ein cyllidebau. Neu, fel arall, gallai olygu ymateb i newid dros gyfnod hwy o amser, gan ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol. Neu, os oes gan Weinidogion Cymru bwerau is-ddeddfwriaeth yn Neddfau trethi Cymru y mae'n bosibl i ni eu defnyddio, gallwn ni eu defnyddio nhw, ond maen nhw'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft i raddau helaeth ac ni fyddan nhw, wrth gwrs, yn ymdrin â'r holl newidiadau posibl y gallai fod eu hangen. Y sefyllfa fwyaf tebygol, rwy'n credu, yw y byddai angen i ni ymateb gan ddefnyddio deddfwriaeth frys. Ac, wrth gwrs, mae anfanteision i'r dull hwnnw hefyd. Ac rwyf i yn clywed yr hyn y mae cyd-Aelodau'n ei ddweud ynghylch pwysigrwydd deddfwriaeth sylfaenol, ond rwyf i yn credu bod rhywfaint o werth hefyd mewn ystyried a yw deddfwriaeth sylfaenol, ym mhob achos, o reidrwydd yn rhoi'r craffu gorau posibl. Gall Biliau Brys, er enghraifft, basio mewn un diwrnod, ac rwyf i yn credu bod cymhariaeth rhwng y craffu a wnaed ar y ddeddfwriaeth sylfaenol i weithredu gwyliau treth dir y dreth stamp dros y ffin yn Lloegr yn ystod y pandemig a'r craffu a wnaeth y Senedd ar ein newidiadau ni i'r cyfraddau a'r bandiau, a gafodd eu gwneud drwy reoliadau cadarnhaol tua'r un pryd, yn ddarluniol.
Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth treth dir y dreth stamp ar 13 Gorffennaf, er y bu'n destun penderfyniad Deddf Casglu Trethi Dros Dro ar 8 Gorffennaf, a chafodd ei phasio ar 17 Gorffennaf. Ond cafodd ein his-ddeddfwriaeth ni ei gwneud ar 24 Gorffennaf, daeth i rym ar 27 Gorffennaf, a chafodd ei chymeradwyo, i raddau helaeth oherwydd toriad yr haf, gan y Senedd ar 29 Medi 2020. Ac fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid graffu ar hynny. Rhoddais dystiolaeth i'r pwyllgor ac, wrth gwrs, roedd y Pwyllgor Cyllid yn gallu galw ar arbenigedd yn allanol, i gymryd tystiolaeth allanol ac yn y blaen, pe bai wedi dymuno gwneud hynny hefyd. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ddweud am y craffu sy'n cael ei ganiatáu gan is-ddeddfwriaeth hefyd. Ond mae'r rhain yn ddadleuon rwy'n credu y byddwn yn parhau i'w cael ac rwy'n gobeithio y gallwn ni eu cael. A byddwn i'n annog fy nghyd-Aelodau i ganiatáu i'r Bil hwn fynd ymlaen i'r cam nesaf, i Gyfnod 2. Rwyf i wedi ymrwymo, wrth gwrs, i gymryd camau gyda'r pwyllgorau i ddod o hyd i ddatrysiad deddfwriaethol tymor hwy priodol i'r materion y mae'r Bil yn ceisio'u darparu, a hoffwn i gadarnhau i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid fy mod i'n ymrwymo na fyddai'r gwaith hwnnw'n cael ei ohirio o gwbl os gall y Bil hwn symud ymlaen.
Ac yn olaf, unwaith eto, Llywydd, gofynnaf i fy nghyd-Aelodau ganiatáu i'r Bil hwn fynd i Gyfnod 2 fel y gallwn ni barhau i weithio mewn ffordd wirioneddol adeiladol, rhwng Llywodraeth Cymru a phwyllgorau, i sicrhau bod gennym ni'r gallu i ddiogelu cyllid Cymru a hefyd i sicrhau bod trethdalwyr Cymru'n cael manteision amserol, a hefyd wrth wneud hynny wrth gwrs, yn sicrhau yn bwysig ein bod ni'n parchu rhan y Senedd yn llawn. A gofynnaf eto i fy nghyd-Aelodau ganiatáu i hyn fynd ymlaen i Gyfnod 2. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar eitem 12 tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf felly yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 13? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes eto, felly gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.