7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen

– Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:06, 15 Mehefin 2022

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru, strategaeth hydrogen. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8027 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) pwysigrwydd datblygu'r broses o gynhyrchu hydrogen gwyrdd i helpu i ryddhau potensial Cymru o ran ynni adnewyddadwy i ddatgarboneiddio ynni, helpu i ddisodli tanwydd ffosil a helpu i ddarparu ateb hirdymor i'r argyfwng costau byw;

b) y gall datblygu'r sector hydrogen helpu i drawsnewid economi gylchol a sylfaenol Cymru yn unol â'r agenda lleoleiddio.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lunio strategaeth hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad o ran datblygu'r sector newydd hwn;

b) sicrhau bod rheolaeth a pherchnogaeth Cymru o'r sector newydd hwn yn cael eu rheoli i'r eithaf fel rhan o'i strategaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:06, 15 Mehefin 2022

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, dwi yma heddiw ac mae'r cynnig yma wedi cael ei gyflwyno i'ch annog chi i gyffroi am hydrogen.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwyf am i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru fod yn fwy brwd ynglŷn â hydrogen. Gallaf ddweud wrthych yn awr beth yr hoffwn ei glywed gan y Gweinidog. Yn syml iawn, rwyf am i'r Gweinidog ddweud, 'Rwyf o ddifrif ynglŷn â bod eisiau i Gymru fod yn chwaraewr yn y sector hydrogen sy'n datblygu.' Rwy'n benderfynol, gyda strategaeth glir a buddsoddiad wedi'i dargedu'n dda, y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd enfawr y mae'r sector hydrogen yn eu cynnig i economi Cymru, i swyddi, i gymunedau, ac wrth gwrs, i'r amgylchedd. Bydd yn amhosibl datgarboneiddio economi'r DU yn llawn heb rôl bwysig i hydrogen, a gall Cymru fod ar ei hennill yn fawr iawn. 

Mae Cymru'n gartref i brosiectau ymchwil a datblygu hydrogen o'r radd flaenaf, gan gynnwys cyfleusterau mewn sawl prifysgol. Mae gennym alluoedd hydrogen drwy ein presenoldeb ynni gwynt; mae gennym borthladdoedd strategol bwysig a'r seilwaith mewn porthladdoedd yn y gogledd ac yn y de; mae gennym eisoes nifer o gwmnïau diwydiannol ac anniwydiannol sydd ag arbenigedd hydrogen. Pan arweiniais ddadl ddiwethaf ar hydrogen yma yn y Senedd ar ddechrau 2020, roedd yn cyd-daro â lansiad cymdeithas fasnach hydrogen newydd i Gymru, HyCymru. Gall Cymru helpu i arwain y ffordd ar ddatblygu economi hydrogen fel rhan o chwyldro diwydiannol gwyrdd ehangach yn y DU.

Nawr, mae gennym eisoes enghreifftiau rhagorol o brosiectau hydrogen arloesol. Yn ôl yn y ddadl honno ddwy flynedd yn ôl, soniais am y potensial ar gyfer twf hydrogen yn fy etholaeth. Eisoes erbyn hyn mae gennym yr hyb hydrogen sy'n cael ei ddatblygu yng Nghaergybi gan y fenter gymdeithasol, Menter Môn. Mae gennym y gwaith ar hydrogen gan glwstwr diwydiannol de Cymru, prosiect Energy Kingdom yn Aberdaugleddau. Roeddwn yn darllen heddiw am system wresogi hybrid hydrogen clyfar gyntaf y byd a arddangoswyd yn sir Benfro yn gynharach eleni. Cymru hefyd yw cartref Riversimple, y cwmni ceir gwych sy'n gwneud ceir trydan wedi'u pweru gan hydrogen yn hytrach na batris. Mae'n rhestr hir, ac yn fy marn i, mae'n darparu'r sylfeini ar gyfer sector llwyddiannus.

Rydym yn genedl sy'n llawn o'r adnoddau naturiol sydd eu hangen er mwyn cynhyrchu hydrogen. Mae'r dŵr ffres helaeth sydd gennym at ein defnydd, ac yn ogystal â hynny, ein hadnoddau gwynt helaeth ar y môr ac ar y tir, yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa gref i fod yn gawr ym maes hydrogen gwyrdd, sef y ffurf ar hydrogen sydd â'r carbon isaf. Dylai ffurfio sail i strategaeth hydrogen Cymru, a dyna pam ein bod wedi rhoi sylw blaenllaw iddo yn ein cynnig.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi ei thraed yn y dŵr. Mae hynny'n dda. Mae heddiw'n ymwneud ag i ble yr awn ni nesaf, pa mor gyflym yr awn ni yno, a chyda pha lefel o benderfyniad. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad llwybr i fapio mesurau a all roi cychwyn ar ddatblygiadau hydrogen yng Nghymru, ond er bod gweithgarwch aml-sector cryf mewn hydrogen, nid oes gennym fframwaith strategol cydlynol eto i lywio cynnydd. Mae arnom angen strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth i fod yn barod, strategaeth sy'n gosod nodau clir ac yn nodi uchelgais, a hynny cyn gynted â phosibl o ystyried y mathau o ddatblygiadau a welwn yn awr mewn llawer o wledydd ledled y byd. Er enghraifft, byddai gosod targed o 10 GW fan lleiaf o hydrogen gwyrdd i'w gyflenwi erbyn 2035, dyweder, yn darparu fframwaith i weithgarwch masnachol allu tyfu, ynghyd ag arwyddion polisi clir ym maes trethiant, rheoleiddio a mesurau eraill i ysgogi galw.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:10, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn sôn am bontio yma o economi tanwydd ffosil i economi carbon isel, a hydrogen yw'r allwedd mewn gwirionedd. Gall gefnogi pob maes blaenoriaeth, os edrychwch arno, o fewn rhaglenni Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig mewn technoleg werdd, arloesi, twf glân, adferiad gwyrdd a'r seilwaith sydd ei angen yn yr ymdrech tuag at sero net. Ac wrth gwrs, ceir elfennau sydd wedi'u datganoli, elfennau nad ydynt wedi'u datganoli ar hyn o bryd, a bydd yn rhaid gweithio mewn partneriaeth. Ond os gallwn wneud hyn yn iawn, gellid mabwysiadu'r economi hydrogen yn gyflym yng Nghymru, a gallai fod yn fodel ac yn fan cychwyn ar gyfer gweddill y DU. Mae gwledydd a rhanbarthau eraill Ewrop eisoes wedi datblygu llwybrau clir ar gyfer hydrogen, yn enwedig yr Iseldiroedd, sy'n darparu templed parod i Gymru. Rydym yn rhannu llawer o nodweddion gyda'r gwledydd a'r rhanbarthau eraill hyn sy'n arwain y ffordd ym maes hydrogen.

Felly, soniais am osod targed cynhyrchu hydrogen. Mae nifer o gamau diriaethol a rhagweithiol eraill y mae angen eu cymryd i ddatblygu ein cadwyn gyflenwi hydrogen, er enghraifft cyflwyno newidiadau i'r sector trafnidiaeth. Wrth gwrs, bydd hyn i gyd yn creu swyddi medrus iawn. Yn fy etholaeth i, pan edrychaf ar hen safle Alwminiwm Môn, safle strategol hynod bwysig, gwelaf y potensial ar gyfer hydrogen. Pan ystyriaf y swyddi a gollwyd yn ardal Amlwch yn ystod y blynyddoedd diwethaf—gogledd yr ynys, lle mae hen bibell olew crai yn dal i redeg ar draws gogledd Cymru—gwelaf y potensial ar gyfer cynhyrchu hydrogen a modd i'w ddosbarthu. Ond rydym yn siarad yma am gyfleoedd economaidd ledled Cymru. Dyna pam y mae angen y cynllun, gyda chymhellion ariannol, fel cyflwyno cronfeydd ar gyfer tyfu mentrau hydrogen, dyweder, i hwyluso'r gwaith o ddatblygu seilwaith hydrogen hollbwysig. Ac os yw'r cynllun a amlinellaf heddiw yn brin o rai o'r manylion sydd eu hangen, ac mae hynny'n wir wrth gwrs gan mai ymwneud â nodi'r weledigaeth y mae'r cynnig hwn, yna gall y Llywodraeth a llunwyr polisi deimlo'n hyderus y gallant fanteisio ar arbenigedd a mewnwelediad y rhai sydd eisoes yn gyrru prosiectau hydrogen arloesol yng Nghymru ac sydd â'r atebion i'r cwestiynau ynglŷn â sut i greu sector hydrogen ffyniannus, adeiladu cadwyn gyflenwi gynaliadwy, deall hydrogen fel sector ynni, helpu i uwchraddio yn ôl yr angen, a dysgu gwersi wrth inni fynd rhagom.

Yn bwysicaf oll—gwnaf y pwynt eto—mae angen i Gymru weithredu yn awr neu fentro colli ei mantais gystadleuol—a thalent hefyd—i wledydd eraill. Ni fydd hydrogen yn datrys ein holl broblemau datgarboneiddio ar unwaith, ond ni ellir gorbwysleisio ei rôl yng nghynlluniau datgarboneiddio Cymru. Felly, gadewch inni heddiw wneud datganiad clir fod Cymru am fod yn arloeswr ym maes hydrogen, gan fynd i'r afael â newid hinsawdd, pontio i fath newydd o ddiwydiant, newid cymunedau, creu swyddi. Mae Plaid Cymru yn benderfynol fod yn rhaid i Gymru fod yn rhan o'r chwyldro hwnnw. Rwy'n falch fod yr Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn gweld y potensial a amlinellir gennym heddiw. Rydym yn hapus i gefnogi'r gwelliant sy'n galw am gynlluniau peilot ar ddefnydd cymunedol o hydrogen.

Dechreuais drwy ddweud beth yr oeddwn eisiau clywed y Gweinidog yn ei ddweud heddiw, ac rwy'n eithaf gobeithiol y byddaf yn clywed geiriau cadarnhaol iawn, ond gadewch imi ychwanegu hyn. Rwy'n chwilio am fwy na geiriau—rwy'n chwilio am arwyddion o egni newydd. Mae'n rhaid i hon fod yn foment 'gwnawn bopeth yn ein gallu'. Rydym ar drothwy diwydiant newydd, a dyma'r amser i Gymru dorchi ei llewys, a rhaid i hynny ddechrau gyda strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer hydrogen, cynllun clir ar gyfer y daith sydd o'n blaenau. Felly, cefnogwch ein cynnig heddiw.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:15, 15 Mehefin 2022

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

darparu treial cymdogaeth hydrogen erbyn 2023, ac yna treial pentref hydrogen mawr erbyn 2025, ac o bosibl cynllun peilot tref hydrogen cyn diwedd y degawd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 5:15, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac fel y dywedwch, cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar AS.

Yn wyneb yr argyfwng costau byw a'r angen dybryd i gael gwared ar danwydd ffosil, mae angen inni fod yn uchelgeisiol wrth inni chwilio am ffynonellau ynni amgen. Fel y gwyddoch, gallai hydrogen ddisodli nwy naturiol mewn systemau gwresogi, neu hyd yn oed gael ei ddefnyddio fel cyfrwng storio ar gyfer trydan adnewyddadwy. Yn bwysig iawn, nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Efallai fod Cymru eisoes ar y ffordd i fod yn hyb hydrogen. Mae'r BBaCh, Riversimple, yn cynllunio, yn adeiladu ac yn treialu cerbydau trydan celloedd tanwydd hydrogen arloesol. Mae astudiaeth llif Dolphyn yn archwilio dichonoldeb fferm wynt hydrogen fasnachol 100 MW i 300 MW oddi ar arfordir de Cymru, ac wrth gwrs, ceir y ganolfan hydrogen ym Mharc Ynni Baglan. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid cyfalaf o hyd at £4.8 miliwn, yn amodol ar achos busnes, ar gyfer hyb hydrogen Caergybi, ac mae hefyd yn cefnogi HyNet, a fydd erbyn 2030 yn sicrhau gostyngiad o 10 miliwn tunnell o allyriadau carbon deuocsid bob blwyddyn, sy'n cyfateb i dynnu 4 miliwn o geir oddi ar y ffyrdd.

Fodd bynnag, fel y dywedodd Rhun, mae lle inni fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol dros Gymru. Er bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i dreialon arloesol ar systemau gwresogi hydrogen, gan ddechrau gyda threial cymdogaeth hydrogen erbyn 2023, yna treial pentref hydrogen mawr erbyn 2025, ac o bosibl, treial tref hydrogen cyn diwedd y degawd, Weinidog, rwy'n rhannu pryderon Rhun am yr egni yr ydym ei angen gan eich Llywodraeth a pham na wnewch yr un peth yma yng Nghymru. Ni welaf unrhyw reswm pam y gall Llywodraeth y DU fynd ar drywydd y nod o ddarparu treial pentref hydrogen ar gyfer, dyweder, hyd at 2,000 eiddo erbyn 2025, ac na allwn ni wneud hyn. Yn wir, rydym eisoes ar ei hôl hi gryn dipyn o gymharu â Loegr, lle mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ariannu lleoliad posibl ar gyfer treialu pentref yng ngogledd-orllewin Lloegr, gan archwilio'r cyflenwad o hydrogen glas i dros 1,900 eiddo, a lleoliad posibl ar gyfer treialu pentref yng ngogledd-ddwyrain Lloegr i archwilio ystod o ddulliau o gyflenwi hydrogen gwyrdd a charbon negyddol, gyda hydrogen llwyd fel opsiwn wrth gefn i dros 1,800 o fesuryddion. Yn wir, rydym ar ei hôl hi o gymharu â'r Alban hyd yn oed, lle bydd tua 300 o gartrefi yn ardal Levenmouth yn cael eu pweru gan nwy hydrogen gwyrdd mewn prosiect o'r enw H100. Bydd cwsmeriaid yn cael cynnig boeleri a chwcerau hydrogen parod am ddim yn y cynllun hwn, a fydd yn para pum mlynedd a hanner i ddechrau. Mae hyn yn anhygoel ac o'r herwydd, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno i gymryd y cam cyntaf i ddilyn yr esiampl a osodwyd gan yr Alban a Lloegr drwy gefnogi'r gwelliannau hyn, a diolch i Blaid Cymru am gefnogi ein gwelliant.

Ar hyn o bryd yma yng Nghymru, mae eich uchelgais yn gyfyngedig, gydag ymrwymiadau, er enghraifft, i sefydlu un safle cynhyrchu hydrogen adnewyddadwy yn unig erbyn 2023-4. Nid yw'n ddigon da. Nid yw'n ddigon cyflym. Nid yw'r ffaith nad oes gennym gynllun hirdymor hyd yn oed i wneud hydrogen yn ddi-garbon yn ddigon da ychwaith. Felly, Blaid Cymru, gallwch yn sicr ddibynnu ar gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig heddiw. Dylem gynhyrchu strategaeth hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad yn y gwaith o ddatblygu'r sector newydd hwn. Fodd bynnag, cofiwch fod angen inni gefnogi'r gwelliant hwn, ac rydych yn gwneud hynny, ond mae angen i'r Gweinidog ei gefnogi er mwyn inni allu dal i fyny â'n cymdogion Prydeinig o leiaf, heb sôn am arwain.

Yn amlwg, ein blaenoriaeth yw defnyddio hydrogen i leihau baich y gost i'n trigolion a'n busnesau. Mewn egwyddor, nid oes gennyf unrhyw broblem gyda chefnogi rheolaeth a pherchnogaeth Gymreig, ond os yw'r arbenigedd sydd ei angen i gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer hydrogen yng Nghymru ar yr ochr arall i'r ffin, ni ddylem ofni edrych am gymorth yn rhywle arall wrth inni ddatblygu'r set sgiliau yma. Mewn gwirionedd, credaf ei bod yn deg awgrymu nad yw hydrogen, fel niwclear, wedi bod yn cael ei gyfran deg o sylw gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y gall y ddadl hon heddiw drawsnewid y sefyllfa honno fel bod yr elfen ysgafnaf yn cael sylw mwyaf y Gweinidog. Diolch.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 5:20, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o allu siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw. Dros y 10 mlynedd nesaf, mae angen inni weld camau difrifol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac wrth gwrs, i symud at ynni adnewyddadwy. Ond rhaid inni fod yn siŵr ein bod yn nodi'r ffaith bod hydrogen gwyrdd yn wahanol iawn i hydrogen glas neu lwyd ac na ddylid eu trin yr un fath. Os caf ddyfynnu cyn-gadeirydd Cymdeithas Hydrogen a Chelloedd Tanwydd y DU,

'Rwy'n credu'n angerddol y byddwn yn bradychu cenedlaethau'r dyfodol drwy gadw'n ddistaw am y ffaith bod hydrogen glas ar ei orau yn ymyrraeth ddrud, ac ar ei waethaf yn ein rhwymo i ddefnyddio tanwydd ffosil yn barhaus gan sicrhau y byddwn yn methu cyflawni ein nodau datgarboneiddio'.

Mae datganiad Mr Jackson wedi'i gadarnhau mewn astudiaeth ddiweddar a adolygwyd gan gymheiriaid ar hydrogen glas gan brifysgolion Cornell a Stanford, a ddaeth i'r casgliad, hyd yn oed gyda dal carbon, fod hydrogen glas yn fwy budr na llosgi nwy naturiol yn unig. Ar hyd y llinellau hyn rwy'n teimlo bod rhaid imi ddefnyddio'r ddadl heddiw i wyntyllu fy mhryderon ynghylch cynllun hydrogen a dal a storio carbon arfaethedig HyNet yng ngogledd Cymru.

Mae'r prosiect yn hyrwyddo'r defnydd parhaus o danwydd ffosil i gynhyrchu hydrogen ac i ddefnyddio dal carbon, sydd ynddo'i hun yn ddwys iawn, i storio'r carbon deuocsid a ryddheir. Gallai wneud Cymru'n bibell wacáu i fusnesau swydd Gaer a gallai arwain at effaith amgylcheddol leol a byd-eang. Ar hyn o bryd, dim ond llond llaw o gynlluniau dal carbon gweithredol masnachol a geir, ac mae problemau ynghlwm wrth bob un. Y brif broblem ac eithrio'r gost yw gollyngiadau, boed hynny o bibellau neu ddulliau storio naturiol. Lle mae gollyngiadau'n digwydd, maent yn hawdd eu cuddio, yn enwedig o dan wely'r môr. Bûm mewn cyfarfod HyNet ac roedd daearegwr yno, a mynegodd bryderon yn y cyfarfod hwnnw. Nid wyf wedi bod mewn cysylltiad ag ef ynghylch y peth ers hynny, ond roeddwn am drosglwyddo'r pryderon hynny. 

Eisoes, mae'r carbon deuocsid cynyddol a geir yn y cefnforoedd yn cael effaith fawr ar fywyd anifeiliaid, oherwydd asideiddio, sy'n ychwanegol at y cynnydd byd-eang yn nhymheredd y môr. Gallai'r cynlluniau arfaethedig arwain at golli mwy o gynefinoedd a bygwth bioamrywiaeth forol ymhellach. Cefais fy rhybuddio hefyd y gall hydrogen glas fod yn ansefydlog ac yn hylosg, gan wasgaru methan i'r awyr. Rwy'n teimlo bod angen ymchwil fanylach i risgiau amgylcheddol posibl y cynlluniau dal a storio carbon ar raddfa eang a argymhellir gan y prosiect, oherwydd nid wyf yn arbenigwr, ond dyma sy'n cael ei ddweud wrthyf. Fodd bynnag, yn y bôn, dylem fod yn annog datgarboneiddio diwydiant a chartrefi yma yng Nghymru. Ymddengys mai apêl y prosiect hwn yw'r gallu i barhau â bywyd fel arfer, gan hysbysebu na fyddai angen newid offer a boeleri cartrefi, a thanseilio'r nod o ôl-ffitio.

Mae dal carbon yn ateb tymor byr i'r argyfwng hinsawdd, pan ddylai'r ffocws fod ar sicrhau cynaliadwyedd hirdymor, a rhaid i unrhyw strategaeth hydrogen ganolbwyntio ar hydrogen gwyrdd. Hefyd, hoffwn fynegi pryderon a rannwyd gyda mi yn ddiweddar ynglŷn â'r capasiti ar gyfer ynni adnewyddadwy cynyddol. Mae seilwaith y Grid Cenedlaethol sy'n heneiddio eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â defnydd a chynhyrchiant trydan cynyddol, gydag aelwydydd yn fy rhanbarth yn methu cysylltu eu paneli solar. Mae angen ystyried o ddifrif sut y gallwn wella'r seilwaith ynni'n sylweddol ledled y DU er mwyn ymdopi â'r newid i ffyrdd adnewyddadwy o gynhyrchu ynni a'r ymchwyddiadau y maent yn eu cynhyrchu. Diolch, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i fynegi fy mhryderon yma heddiw yn y Senedd. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:24, 15 Mehefin 2022

Rŷn ni wedi clywed yn barod gan nifer o bobl am y budd byddai'n dod o ddatblygu'r sector hydrogen gwyrdd yng Nghymru a'r angen am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r newid hwn trwy gyflwyno strategaeth benodol. Gwnaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar yr effaith y gall hydrogen gwyrdd ei gael ar drafnidiaeth.

Mae degawdau wedi pasio ers arwyddo protocol Kyoto, ac rŷn ni'n ffeindio ein hunain yn byw mewn cyfnod lle, o fewn degawd arall, gall hinsawdd ein byd gyrraedd pwynt lle nad oes modd dychwelyd ohono. Mae ein sector trafnidiaeth yn dal i redeg yn llethol ar danwydd ffosil, yn enwedig olew, ac mae mwy a mwy o leisiau'n galw am newid chwyldroadol, pellgyrhaeddol.

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae'r ddadl gyhoeddus ar ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth wedi’i ddominyddu gan drafodaethau am geir electrig neu fatri, sy'n cynrychioli llwybr addawol tuag at leihau lefelau carbon. Wrth i geir electrig fynd mewn i system masgynhyrchu, bydd prisiau’n lleihau, a bydd y batris yn dod yn fwyfwy pwerus hefyd. Pan fydd ceir electronig yn cael eu gwefru trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy, gallant wir helpu i leihau olion carbon, neu carbon footprint, y sector trafnidiaeth. Ond wedi dweud hynny, Llywydd, bydd yna rai anfanteision yn y dyfodol agos. Mae ceir batri yn pwyso lot mwy na cheir arferol. Hefyd, bydd ail-drydanu ceir batri wastad yn cymryd llawer hirach nag ail-lenwi car arferol gyda phetrol.

Fel cludwr ynni glân, gall hydrogen chwarae rôl syfrdanol yn y broses o newid i economi carbon isel. Fel tanwydd trafnidiaeth, gall hydrogen gwyrdd leihau allyriadau a gwella ansawdd aer yn ein cymunedau—rhywbeth a fydd mor bwysig y byddwn ni gyd yn canolbwyntio arno yfory, wrth gwrs. A gall hydrogen gael ei ddefnyddio i oresgyn intermittency ffyrdd adnewyddadwy o bweru ein ffyrdd o deithio.

Yn ôl Network Rail, bydd lan at 1,300 km o linellau rheilffyrdd angen trenau hydrogen er mwyn cyrraedd y targed o net zero erbyn 2050. Ac mae'r Llywodraeth yn anelu at ddatgarboneiddio 100 y cant o gerbydau bysys a thacsis erbyn 2028. Mae hwnnw'n nod uchelgeisiol tu hwnt, a bydd angen buddsoddiad sylweddol yn hydrogen, yn enwedig pan ŷm ni’n ystyried y ffaith bod tua 9,100 o fysys wedi’u cofrestru yng Nghymru. Gall unrhyw fuddsoddiad hefyd helpu tacsis a cherbydau private hire.

Os ydym ni o ddifrif am ddatgarboneiddio trafnidiaeth, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau meddwl yn strategol am ddefnydd hydrogen gwyrdd yn y sector hwn. Mae llywodraethau lleol yn barod yn gweithio ar hyn, a gall rhaglenni caffael cyhoeddus ar gyfer hydrogen yn y sector trafnidiaeth helpu’r diwydiant i gynyddu masgynhyrchu a lleihau prisiau. Gall ysgogiadau trethi, os taw dyna ydy 'tax incentives', chwarae rhan efallai, neu gyflwyno newidiadau yn y cyfraddau treth, efallai, ar gyfer hydrogen, o’i gymharu â phetrol. Gallen nhw helpu i leihau'r prisiau. A thu hwnt i’r sector trafnidiaeth, pan fydd pris hydrogen wedi cwympo’n ddigonol, gall hydrogen helpu i ddatgarboneiddio rhannau eraill o’r economi hefyd, fel y diwydiannau haearn, dur neu sment.

Mae Cymru’n gartref i nifer fawr o gyrff sydd â diddordeb ac arbenigedd yn y maes hydrogen, gan gynnwys academyddion a chwmnïau start-up. Ond, hyd heddiw, mae diffyg cydgysylltu ar lefel genedlaethol wedi'n dal ni yn ôl. Gall hynna newid heddiw, fel roedd Rhun ap Iorwerth yn dweud. Gallwn ni ddechrau ar chwyldro hydrogen gwyrdd yng Nghymru—am gyfle cyffrous, os ydym ni’n dal y cyfle hwnnw.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 5:28, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi hefyd ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r hyn a fydd, gobeithio, yn ddadl gynhyrchiol iawn, ac rwy'n fodlon dweud ar y meinciau hyn, fel y crybwyllwyd eisoes, y byddwn yn ei chefnogi? Wrth gwrs, rwyf hefyd yn gweld hon yn ddadl hynod o amserol gyda'r sector hydrogen, yn ei gyfanrwydd, yn datblygu'n gyflym ledled y byd, ac mae fy rhanbarth i, Gogledd Cymru, eisoes wedi'i amlygu fel un sydd â chyfleoedd unigryw iawn ar gyfer hydrogen. 

Ond ychydig cyn imi ddechrau ar brif ran yr hyn yr hoffwn ei gyfrannu, cefais fy atgoffa y bore yma, oherwydd bu'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ymweliad â sefydliad i bobl ddigartref yn ninas Caerdydd yn gynharach heddiw, a chawsom ein hatgoffa yno am blac gwirioneddol bwysig, o'r enw 'plac y Pioneer'. Efallai y bydd rhai o'r Aelodau'n gwybod amdano. Gosodwyd hwn ar y chwiliedydd gofod, y Pioneer 10, a gafodd ei saethu i'r gofod ym 1972. Mae yna reswm dros y stori hon, bawb. Rhoddwyd y plac ar y chwiliedydd rhag ofn y byddai rhyw fath o fywyd gofodol yn dod o hyd iddo, ac roeddent am gynnwys symbolau ar gyfer y lle y daethai'r chwiliedydd ohono ar y plac. Felly, dewiswyd pum symbol ar gyfer y chwiliedydd, a'r cyntaf oedd llun o ddyn a menyw; yr ail oedd llun o'r haul; y trydydd oedd llun o'r system solar a'n lle fel y Ddaear o fewn y system solar; y pedwerydd llun oedd amlinelliad o'r chwiliedydd ei hun; a'r llun olaf, pumed llun, oedd adeiledd tra-main hydrogen. Felly, o'r holl bethau y gallent fod wedi'u dewis i symboleiddio bywyd ar y Ddaear a'r pethau pwysig sydd yma ar y Ddaear a'n lle yn y bydysawd, penderfynasant roi adeiledd hydrogen yno, sy'n dangos pwysigrwydd hydrogen, nid yn unig fel yr elfen fwyaf cyffredin yn y bydysawd, ond pwysigrwydd hydrogen a'r hyn y gall ei olygu i ni fel pobl, a'i le yn y bydysawd, ond wrth gwrs hefyd y pwysigrwydd, efallai, i ffurfiau bywyd estron.

Wrth ymateb i fanylion y ddadl heddiw, mae tair eitem yr hoffwn eu cyfrannu. Mae'r gyntaf, a bod ychydig yn fwy plwyfol, yn ymwneud â'r cyfleoedd unigryw sydd yna i ogledd Cymru, oherwydd rydym yn gweld yn y gogledd yn arbennig nifer sylweddol o brosiectau ynni adnewyddadwy yn ymddangos ym mhob man, ac mae gennym eisoes gyfleoedd yn ymwneud â newid cyflenwad a mecanweithiau i gefnogi cynhyrchu hydrogen. Ac fel yr amlinellwyd yn y ddadl heddiw eisoes, mae symud tuag at fwy o ynni adnewyddadwy a chynhyrchiant hydrogen yn ffordd wych o fownsio drwy adferiad gwyrddach, a hefyd gweld swyddi sy'n talu'n dda iawn, yn enwedig yn fy rhanbarth i yn y gogledd.

Yn ail, hoffwn ganolbwyntio a chyfrannu a gwneud sylwadau penodol ar rôl cydweithio rhwng Llywodraethau ar bob lefel, fel bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, a hefyd y rôl y gall awdurdodau lleol ei chwarae yn cefnogi strategaeth a chynllun hydrogen. Enghraifft dda iawn o hyn—ac rwyf wedi sôn am hyn sawl gwaith yn y Siambr—yw rôl Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, sy'n bartneriaeth wych o awdurdodau lleol ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, ond hefyd i mewn i orllewin swydd Gaer i Gilgwri hefyd. Mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy ar hyn o bryd yn gweithio gyda HyNet, sydd eisoes wedi'i grybwyll yma heddiw, i edrych ar gyfleoedd trawsffiniol yng ngogledd Cymru i mewn i ogledd-orllewin Lloegr o ran cynlluniau datgarboneiddio. Dyfynnaf o eiriau HyNet eu hunain; maent yn dweud y byddant yn

'datgloi dyfodol carbon isel ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, gan greu llwybrau i ddiwydiant ddatgarboneiddio eu cynhyrchiant yn gyflym. Bydd trafnidiaeth, megis trenau a lorïau, yn defnyddio tanwydd glân a bydd cartrefi'n cymysgu hydrogen â'u cyflenwad nwy i wresogi eu cartrefi â thanwydd carbon isel, heb fod angen offer newydd.'

Felly, mae'r cydweithio hwn ar draws Llywodraethau yn y DU, Cymru a llywodraeth leol yn bwysig iawn er mwyn caniatáu i'r busnesau a'r diwydiannau hyn weithio'n llwyddiannus. Enghraifft arall o gydweithio y mae angen ei annog, ac yn enwedig mewn perthynas â hydrogen, yw bargen twf gogledd Cymru, a reolir, fel petai, gan fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Unwaith eto, dyma gyfle i lywodraeth leol weithio gyda Llywodraeth Cymru. Gwn fod y Gweinidog eisoes yn awyddus i wneud i hynny ddigwydd a chefnogi'r gwaith a'r busnesau gwyrdd sy'n dod drwy'r bargeinion twf hynny.

Mae trydydd pwynt yr hoffwn i Aelodau ei ystyried yn deillio o'n gwelliant heddiw, sef pwysigrwydd cael treialon ar waith er mwyn inni allu gweld yn ymarferol sut y gallai ac y dylai'r dechnoleg hon a chynhyrchiant hydrogen weithio. Fel yr amlinellwyd yn ein gwelliant heddiw, rydym am weld treial cymdogaeth hydrogen yn cael ei ddarparu erbyn 2023, a threial pentref hydrogen mawr erbyn 2025, a threial tref erbyn diwedd y degawd hwn hefyd. Mae yna set uchelgeisiol iawn o ddyddiadau a syniadau yno, ond rwy'n credu bod angen inni gael uchelgais o'r fath os ydym am weld y gwaith yn gweithio'n llwyddiannus ac yn gweithio'n fuan.

Wrth gloi, Lywydd, hoffwn ddiolch i Blaid Cymru eto am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon heddiw, ond rwy'n ailadrodd hefyd fy mhwynt ei bod hi'n hanfodol, er mwyn i'r strategaeth hon lwyddo, ein bod yn gweithio ymhellach ar gynlluniau sy'n llwyddiant, megis Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, megis gweithio gyda'r bwrdd uchelgais economaidd, a gweithio ar draws Llywodraethau yn ogystal â gweld treialon ar waith a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd gennym yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 5:33, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Rhun am ei ddadleuon cyson o blaid hydrogen. Mae wedi dadlau o'i blaid ers cryn amser ym Mhlaid Cymru ac yn y lle hwn. Cofiaf y ddadl honno bron i ddwy neu dair blynedd yn ôl; dadl werth chweil. I Aelodau yn y Siambr, mae Rhun wedi cynhyrfu cymaint am hydrogen ag y mae am Gymru'n cyrraedd cwpan y byd, felly rwy'n gobeithio bod hynny'n dangos pa mor frwd y mae'n dadlau dros hydrogen.

Fel y nodwyd eisoes yn y ddadl hon, mae hydrogen yn rhan arbennig o addawol o economi werdd Cymru. Mae ganddo botensial i chwarae rhan allweddol yn gwresogi aelwydydd, yn tanio diwydiant ac yn creu gwaith o ansawdd uchel yng Nghymru. Os gweithredwn yn gyflym ar hyn, mae gennym botensial gwirioneddol i arwain y ffordd yn fyd-eang yn y sector hwn, gan arwain at enillion economaidd ac amgylcheddol. Mae'r galw am hydrogen wedi treblu ers 1975, ac mae'n parhau i godi. Credir mai hydrogen fydd 12 y cant o'r defnydd o ynni'n fyd-eang erbyn 2050, ac y bydd y cynnydd hwnnw'n dechrau yng nghanol y 2030au. Fodd bynnag, ni fydd y newid i sero net a chynhyrchu mwy o hydrogen yng Nghymru yn digwydd hyd eithaf ein gallu a'n potensial heb gynllunio a chyllido priodol gan y Llywodraeth. Mae angen model ariannu hirdymor ar gyfer hydrogen er mwyn ennyn hyder buddsoddwyr. Mae cynhyrchu hydrogen gwyrdd yn enwedig, y byddaf yn canolbwyntio arno yn fy nghyfraniad, sy'n galw am fewnbwn o ynni adnewyddadwy a dŵr, ac a fyddai'n gallu rhyddhau potensial llawn ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y pen draw, mewn sefyllfa unigryw inni allu harneisio ei botensial fel gwlad. 

Gan gydnabod ei fod yn hanfodol ar gyfer datgarboneiddio economïau'n ddwfn, rhagwelir y bydd hydrogen gwyrdd yn un o ddiwydiannau twf y 2020au. Mae Cymru, gydag adnoddau naturiol helaeth, mewn sefyllfa dda i ddatblygu cadwyni cyflenwi hydrogen gwyrdd sy'n eiddo i'r ardal leol, gan adeiladu ar brosiectau sy'n dod i'r amlwg ym mhob cwr o'r wlad, a helpu i ryddhau'r potensial ynni adnewyddadwy yn y canol. Mae'n bryd i'r Llywodraeth symud ymlaen yn gyflym yn awr tuag at ddatgloi'r sector hydrogen gwyrdd yng Nghymru drwy asesu'r gofynion seilwaith, megis piblinellau hydrogen pwrpasol, nodi'r galw lleol am hydrogen, a fydd yn debygol o fod yn gysylltiedig â thrafnidiaeth i ddechrau, ond yn ehangu i gynnwys gwres, diwydiant, pŵer ac amaethyddiaeth, gan annog partneriaethau a chaffael ar y cyd ag awdurdodau lleol ac asesu modelau perchnogaeth lleol ar gyfer y gadwyn gyflenwi hydrogen. Mae llawer o'r atebion i'r argyfwng costau byw presennol, sy'n cael ei lywio'n bennaf gan gostau ynni cynyddol, yn adweithiol yn hytrach na hirdymor a rhagweithiol. Ond bydd buddsoddi mewn ynni gwyrdd, megis hydrogen, yn ein diogelu rhag argyfyngau yn y dyfodol, gan ganiatáu inni fod yn hunangynhaliol a gostwng prisiau ynni, a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed sydd wedi eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw hwn.

Mae ehangu ein diwydiant hydrogen hefyd yn creu potensial ar gyfer swyddi gwyrdd o ansawdd uchel yng Nghymru. Mae un o bob pum gweithiwr yng Nghymru mewn sectorau sy'n effeithio ar hinsawdd a allai gael eu colli oherwydd targedau sero net. Bydd sicrhau bod pobl yn cael hyfforddiant ac addysg gywir ar gyfer swyddi yn y diwydiant hydrogen yn cyfrannu at newid teg, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yn ystod y chwyldro diwydiannol gwyrdd, a gwarantu ffyniant i weithwyr yng Nghymru. Yn ôl adroddiad yn 2020 gan dasglu hydrogen y DU, gallai ehangu diwydiannau hydrogen yn y DU gefnogi 75,000 o swyddi erbyn 2035. Bydd gwneud hynny hefyd yn cryfhau economi sylfaenol Cymru ac yn gwella economïau a chymunedau lleol.

Bydd hydrogen gwyrdd hefyd yn cyfrannu at dargedau economi gylchol Llywodraeth Cymru. Os ydym eisiau cyflawni nodau gwastraff sero net a charbon niwtral erbyn 2050, gallai hydrogen chwarae rhan bwysig. Mae hydrogen gwyrdd yn addas iawn ar gyfer yr economi gylchol hefyd. Mae sawl defnydd iddo a gellir ei greu drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Mae'n ddewis amgen addawol yn lle tanwydd ffosil carbon uchel yn y sectorau trafnidiaeth, gweithgynhyrchu a phŵer. Credir y gallai symud i economi gylchol arbed hyd at £2 biliwn i economi Cymru, yn ogystal â chreu swyddi gwyrdd a sicrhau bod economi Cymru yn gallu gwrthsefyll costau cynyddol a phrinder adnoddau.

Nid hon yw'r ddadl gyntaf ar hydrogen y mae Plaid Cymru wedi'i chyflwyno i'r Senedd, fel y soniais yn gynharach, ond rwy'n hyderus fod Plaid Cymru, dros y blynyddoedd, a heddiw, wedi dadlau'r achos dros strategaeth hydrogen uchelgeisiol, ac wedi mynegi pa mor gyflym y mae angen inni symud.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 5:38, 15 Mehefin 2022

Diolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl yma i'r Siambr heddiw.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative

(Cyfieithwyd)

Gallaf sicrhau'r Aelod o Ynys Môn fy mod yn llawn cyffro ynglŷn â phosibiliadau hydrogen. Wrth i ni newid i ddyfodol cynaliadwy, mae dadleuon fel y ddadl hon yn allweddol i ddatblygu dyfodol gwyrddach, mwy disglair a glanach. Mae gan bob diwydiant ran i'w chwarae yn y newid hwn, a'r peth da am dechnoleg hydrogen yw y gall prosiectau seilwaith ynni presennol ddod yn elfennau pwysig mewn datblygiadau ynni yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir yn sir Benfro a rhanbarth ehangach de Cymru. Rydym yng nghanol cyfnod hynod o gyffrous i'r diwydiant ynni glân. Mae nifer o ddatblygiadau sylweddol ar y gweill, ac mae pob un ohonynt yn lleoli eu gweithrediadau yma yng Nghymru. Dau o'r chwaraewyr allweddol hyn yw clwstwr ynni'r dyfodol Dyfrffordd y Ddau Gleddau a Milford Haven: Energy Kingdom—asedau ynni cenedlaethol strategol hanfodol ac allweddol, pyrth economaidd allweddol ar arfordir gorllewinol Cymru. Mae'r clwstwr wedi nodi cyfres o gynigion a fydd yn helpu i gefnogi llwybr carbon isel cyflymach ar gyfer y ganolfan ddiwydiannol bwysig hon. Mae hyn yn golygu swyddi i bobl leol, buddsoddiad yn ein cymunedau, ond yn bwysicaf oll, mae gam yn nes at ynni adnewyddadwy rhatach a glanach. Dylai Llywodraeth Cymru anelu ei huchelgais at hyn.

Mae'r sefydliadau hyn yn barod i ehangu ar gapasiti presennol y grid, gan gymell cynhyrchu a defnyddio tanwyddau carbon isel, yn ogystal â chefnogi uchelgais SuperPlace dyfrffordd Aberdaugleddau, sy'n cynnwys datblygu a defnyddio technoleg hydrogen glas a gwyrdd. Gyda'i gilydd, mae clwstwr ynni Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn rhagweld y gallant gynhyrchu tua un rhan o bump o'r 10 GW o darged 2030 hydrogen carbon isel y DU, gyda sir Benfro yn ganolog i'w ddatblygiad. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid inni fod yn bragmatig a chydnabod na all y newidiadau hyn ddigwydd dros nos, a dyna pam y mae ein gwaith ar optimeiddio hydrogen glas yn bwysig iawn inni allu pontio ac ni ddylid ei anwybyddu. Felly, rwy'n anghytuno â rhagdybiaethau'r Aelod dros Ogledd Cymru ynghylch hydrogen glas; os ydym eisiau creu cymaint o hydrogen â phosibl, credaf fod angen i hydrogen glas fod yn rhan o'r pontio hwnnw. Drwy ddefnyddio—

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:40, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ildio, os gwelwch yn dda?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

A ydych chi hefyd, fel finnau, yn croesawu'r ffaith bod llawer o fusnesau mawr yn y gogledd yn dibynnu ar HyNet yn y dyfodol ac yn ei gefnogi'n llawn, ac er mai dim ond 50 mlynedd o gapasiti storio a geir ar gyfer prosiect HyNet, mae hyn er mwyn darparu lle i anadlu er mwyn cyflwyno'r dechnoleg hydrogen gwyrdd a fydd yn ein harwain at ddyfodol glanach byth?

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 5:41, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Ac fe ildiaf i chi, Mark, fel rhywun sy'n siarad dros ogledd Cymru gydag awdurdod mawr ar hyn.

Drwy ddefnyddio stociau nwy presennol a gorsafoedd pŵer sy'n rhedeg ar nwy, megis gorsaf bŵer RWE ym Mhenfro, sy'n arwain at lawer llai o allyriadau o bron bob math o lygryddion, gallwn ailddatblygu a pharatoi'r seilwaith presennol i ateb y galw cynyddol am ynni. Yn y bôn, gallwn barhau i gynhyrchu hydrogen yn gynt wrth inni gynyddu ein capasiti ynni adnewyddadwy. 

Wrth inni barhau i wneud cynnydd mewn technoleg wyrddach, gallwn wedyn wneud y naid i hydrogen gwyrdd llawn—cynnydd naturiol sy'n sicrhau bod pob rhan o'r diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd. Gadewch inni beidio â chamgymryd, gall Cymru ddod yn galon i ddyfodol ynni gwyrdd y Deyrnas Unedig, ond i wneud hyn, mae cael y seilwaith cywir ar waith yn hollbwysig i gyflawni ein dyheadau. Mae cyfle enfawr i greu hyb hydrogen carbon isel yn sir Benfro, yn gyntaf gyda hydrogen glas yn cael ei bweru â nwy, ac yna, yn olaf, newid i hydrogen gwyrdd, a fydd yn cael ei bweru gan dechnoleg gwynt arnofiol ar y môr—

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hapus i ildio i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i Sam Kurtz am dderbyn yr ymyriad. Fe sonioch chi am y posibilrwydd y gallai Cymru fod yn arweinydd ym maes technoleg adnewyddadwy. A fyddech yn cytuno â mi mai ffordd dda o wneud hynny fyddai dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus o danwydd ffosil a buddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy yng Nghymru?

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae hwn yn bwnc y mae'r Aelod wedi gwneud llawer o sylwadau yn ei gylch o'r blaen, ond mae'n gwyro ychydig oddi wrth bwnc hydrogen, y byddwn yn canolbwyntio arno, o gofio bod amser yn brin.

Os cyflawnir hyn, byddai Cymru'n gallu allforio hydrogen ar draws y wlad. Ond mae angen adeiladu piblinell sydd 100 y cant ar gyfer hydrogen yn sir Benfro, i gysylltu Dyfrffordd y Ddau Gleddau â chadarnleoedd diwydiannol de Cymru—piblinell sydd eisoes ar y gweill. Ond os ydym am gyflawni hyn, rhaid cyflymu'r cynlluniau a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru. Drwy wneud hynny, gall Cymru fod yn rhan annatod o strategaeth ddatgarboneiddio DU gyfan, gan adlewyrchu llinell amser datblygiadau gwynt ar y môr am gost isel heb anfanteision. Nid yn unig y byddai gwneud hyn yn diogelu ein dyfodol, mae datgarboneiddio'n cadw swyddi ac yn gwella set sgiliau ein cenedl.

Rhaid i'r manteision economaidd a fydd yn deillio o ddatblygu economi hydrogen Cymru fod yn rhan o'r darlun ehangach. Mae cadw swyddi da mewn diwydiannau ehangach yng Nghymru yr un mor bwysig â sicrhau'r manteision mwyaf posibl o hydrogen i Gymru. Dyna pam y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ganoli caffael y gadwyn gyflenwi, gan sicrhau bod gweithgynhyrchwyr a chynhyrchwyr yn dewis gweithredu yng Nghymru ac allan o Gymru. Mae cynhyrchu hydrogen carbon isel a'r nwyddau a'r gwasanaethau yn y gadwyn gwerth yn cynnig cyfleoedd creu Cymreig clir, mawr a thymor byr. Mae perffeithrwydd yn aml yn elyn i gynnydd, felly gadewch inni beidio ag anwybyddu cynhyrchiant hydrogen glas wrth newid i ddyfodol glanach a gwyrddach. Diolch, Llywydd.  

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:44, 15 Mehefin 2022

Y Gweinidog nawr i gyfrannu—Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon ac i roi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cynnig. Mae'r argyfwng hinsawdd yn mynnu ein bod yn defnyddio'r holl offer sydd ar gael inni i gyflymu'r cynnydd tuag at system ynni sero net. Rydym wedi ymrwymo i symud ein system ynni oddi wrth danwydd ffosil a thuag at ynni adnewyddadwy fel llwybr hanfodol tuag at gyflawni ein targedau statudol a'n rhwymedigaethau rhyngwladol fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y cynnig yn rhoi cyfle i'r Senedd gydnabod yr angen dybryd i ddisodli tanwydd ffosil yng Nghymru. Er bod llawer o fethiannau yn strategaeth diogelu ynni Llywodraeth y DU, ni ellir amddiffyn yr ymrwymiad i drwyddedu newydd ar gyfer echdynnu olew a nwy, ynghyd â'r penderfyniad diweddar gan Weinidogion y DU i wrthdroi penderfyniad lleol i ganiatáu chwilio am nwy newydd. Ni allai'r un Llywodraeth sydd wedi ymrwymo'n wirioneddol i sero net ac sydd wedi ymrwymo i anghenion cenedlaethau'r dyfodol barhau i gynnal dibyniaeth y DU ar danwydd ffosil. Yma yng Nghymru, mewn cyferbyniad, rydym yn glynu wrth ein hymrwymiad yn erbyn echdynnu tanwydd ffosil, ein hymrwymiad i roi'r gorau i'w defnyddio yng Nghymru, a'n gweledigaeth i Gymru gynyddu cynhyrchiant adnewyddadwy er mwyn diwallu ein hanghenion ynni ein hunain fan lleiaf.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:45, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Er bod hydrogen yn dal i fod yn dechnoleg sy'n datblygu, mae ei nodweddion unigryw yn golygu y gallai, ochr yn ochr â datblygiadau ynni adnewyddadwy helaeth, fod â rôl gref yn sectorau pŵer, trafnidiaeth a diwydiant Cymru yn y dyfodol. Gall hefyd gynnig dewis amgen yn lle systemau gwresogi tanwydd ffosil, fel y crybwyllwyd gan nifer o gyfranwyr, a Rhun yn enwedig. Mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn i ddatblygu a manteisio ar y cyfleoedd sy'n datblygu'n gyflym a gynigir gan hydrogen. Mae ganddo botensial enfawr i leihau allyriadau a chefnogi'r trawsnewidiad economaidd, yn enwedig mewn diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni, cerbydau nwyddau trwm, rheilffyrdd, ac awyrennau o bosibl. Yn fyd-eang, cydnabyddir bod y sectorau hyn yn anodd eu datgarboneiddio, ac mae gan hydrogen rôl allweddol yn y map ffordd at sero net ar gyfer y sectorau hynny. Lywydd, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ceisio datgarboneiddio'r sectorau hyn, ac nad ydym yn creu cymhellion sy'n cynnal dibyniaeth barhaus ar danwydd ffosil. Er fy mod yn cydnabod y bydd yna gyfnod o bontio i rai sectorau yn sgil defnyddio hydrogen a gynhyrchir o danwydd ffosil, rhaid iddo fod yn newid cyflym ac mor gyfyngedig â phosibl. Rhaid inni symud at ddefnyddio hydrogen gwyrdd yn unig cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl, ac rwy'n croesawu'r ffocws penodol ar ynni gwyrdd yn y cynnig. Ac mae'n rhaid inni gydnabod bod hynny wedi bod yn wir ar gyfer yr holl ffynonellau ynni newydd sy'n dod i'r amlwg. Mae cost cynhyrchu hydrogen yn uchel ar hyn o bryd. Dyna pam y mae'n rhaid i ddatblygu hydrogen fod yn rhan o ymdrech lawer ehangach i sicrhau mwy o ynni adnewyddadwy. Rhaid manteisio ar y cyfleoedd y mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn eu cynnig i gynhyrchu hydrogen pan fo'r cyflenwad yn fwy na'r galw. Yn hytrach na thalu gweithredwyr ffermydd gwynt i roi'r gorau i gynhyrchu, dylem eu talu i ddarparu ffynhonnell ynni adnewyddadwy y gellir ei storio a'i defnyddio pan fo angen.

Rydym mewn argyfwng costau byw, wedi'i yrru'n rhannol gan gostau ynni uchel. Rhaid inni sicrhau bod ein dull o ddatgarboneiddio ein system ynni yn un teg i bob defnyddiwr, gan gynnwys busnesau yng Nghymru. Mae cefnogi arloesedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus yn hanfodol er mwyn sicrhau bod hydrogen a mathau eraill o ynni carbon isel yn cyfrannu at ein cynllun Cymru Sero Net ac yn cefnogi adfywiad economaidd a chymdeithasol ein cymunedau. Dyna pam y buom yn cefnogi prosiectau ledled Cymru. Roedd ein cynllun menter ymchwil busnesau bach hybrid, Byw'n Glyfar, yn cefnogi 17 o brosiectau dichonoldeb ac arddangos hydrogen ledled Cymru. Mae'r 17 prosiect ym mlwyddyn gyntaf y cynllun yn cyflawni ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Maent yn amrywio o astudiaethau o gynhyrchiant hydrogen microwyrdd, hydrogen mewn ardaloedd gwledig, cynhyrchu tanwydd hedfan cynaliadwy, datblygu'r farchnad gerbydau, cynhyrchu hydrogen yn y gymuned, a phlatfform cyngor a rhwydweithio siop un stop digidol ar gyfer hydrogen. Bydd cam pellach o danwydd hybrid yn lansio yr wythnos nesaf ym Merthyr Tudful, gyda chymorth ar yr un lefel. Bydd hyn yn ariannu llif o brosiectau dichonoldeb busnes yn ogystal â gwaith arddangos a phrototeipio lefel uwch ar lawr gwlad ledled y wlad.

Mae ein hanes o gefnogi prosiectau arddangos hydrogen sy'n arwain y byd yng Nghymru hefyd yn cynnwys, fel y mae llawer o bobl wedi sôn, Milford Haven: Energy Kingdom, datblygiad parhaus hybiau cynhyrchu hydrogen gwyrdd yng Nghaergybi a Glannau Dyfrdwy, a grybwyllwyd hefyd gan amryw o'r Aelodau, a gwaith dichonoldeb llwyfannau alltraeth hydrogen gwyrdd arnofiol ar gyfer arfordir sir Benfro. Mae gwaith arall sydd ar y gweill a gefnogir gennym yng nghanolbarth Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gyda llywodraeth leol, buddsoddwyr tramor a phartneriaid academaidd, gan gynnwys Flexis a South Wales Industrial Transition from Carbon Hub, yn addo cynyddu'r cyflenwad hydrogen yn sylweddol, ac y caiff galw cynyddol ei greu, yn enwedig ym maes trafnidiaeth a gwres. Byddwn yn creu piblinell ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru, gan gefnogi perchnogaeth leol a chadw cyfoeth ledled Cymru, ac wrth inni wneud hynny, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU, ac rydym eisoes wedi llwyddo i ddenu cyllid y DU yn sgil ein buddsoddiad. Ac er ein bod, wrth gwrs, yn croesawu'r cyllid hwnnw, fel y mae ar gael gan Lywodraeth y DU, rhaid i'r bobl ar y meinciau gyferbyn, a allai chwarae rhan fawr yn cefnogi hyn, gydnabod, os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau i sicrhau 10 GW erbyn 2030, fod angen mwy o gyllid ar frys gan Lywodraeth y DU. Byddwn wrth fy modd yn ymrwymo Cymru i gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yng nghynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU, ond heb i Lywodraeth y DU gynyddu'r cyllid, bydd y treialon hynny'n gyfyngedig tu hwnt, sy'n drueni mawr.

Rydym wedi cefnogi rhanddeiliaid o Gymru gyda'u ceisiadau posibl am gyllid y DU; byddwn yn dysgu'r gwersi o dreialon gwresogi hydrogen mewn rhannau eraill o'r DU. Yn y cyfamser, rydym yn asesu rôl hydrogen a gwresogi yn ein strategaeth wres, a fydd yn cael ei chyhoeddi y flwyddyn nesaf, ac fel rhan o'n gwaith cynllunio ynni. Rwy'n gobeithio, Janet, y byddwch yn cyflwyno sylwadau cryf i'ch cymheiriaid yn San Steffan, i sicrhau lefel uwch o gyllid, gan eich bod mor gefnogol i'r strategaeth hon. Mae ar gael i gefnogi prosiectau yn y dyfodol ar draws pob rhan o'r DU, gan gynnwys yng Nghymru.

Lywydd, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran datblygu'r sector newydd hwn, ac rydym yn nodi ein dull strategol i sicrhau y bydd hynny'n digwydd. Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddasom lwybr hydrogen i ymdrin â chyfleoedd ar gyfer hydrogen ar draws gwahanol sectorau, yn unol â'n huchelgeisiau polisi ynni ar gyfer cyflawni sero net. Mae ein llwybr a'i 10 amcan yn canolbwyntio ar gamau gweithredu tymor byr i lywio galw, cynhyrchiant a gweithredu trawsbleidiol hyd at 2025. Maent hefyd yn nodi ffyrdd o gynllunio ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy, er mwyn sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda o ran technolegau hydrogen a chelloedd tanwydd.

Ers cyhoeddi llwybr hydrogen Cymru, mae rôl hydrogen yn y sector ynni yn ei gyfanrwydd bellach yn fwy sefydledig. Mae ein llwybr yn diffinio cyfres o gamau 'heb anfanteision' i alluogi Cymru i elwa ar yr ystod o fanteision a all ddeillio o fwy o ddefnydd o hydrogen. Mae adroddiadau i'r adroddiad ar y llwybr wedi'u dadansoddi, a'r argymhellion cychwynnol wedi'u crynhoi, a byddant yn cael eu cyhoeddi'n fuan iawn.

Roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr yn cefnogi'r cysyniad o ddatblygu defnydd o ynni hydrogen yng Nghymru, ac er ein bod yn cydnabod, fel y gwnaeth Rhun yn bendant, nad yw hwn yn ateb i bob dim, rydym yn adlewyrchu'r farn am y rôl gynyddol i hydrogen ar draws ein cyhoeddiadau Cymru Sero Net hefyd. Wrth inni adeiladu ar y llwybr, bydd hyn yn darparu'r ffocws strategol sydd ei angen arnom i sicrhau bod hydrogen yn chwarae rhan bwysig i'n galluogi i gyrraedd ein targed sero net ac i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i fod ar flaen y gad yn y sector hwn sy'n datblygu.

Lywydd, rwy'n croesawu'r ddadl hon yn llwyr, a bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig fel y'i cynigiwyd, gan nodi datblygiad y llwybr hydrogen fel y strategaeth y mae'r cynnig yn galw amdani. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:51, 15 Mehefin 2022

Galwaf ar Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma y prynhawn yma, a diolch i'r Gweinidog am ei hymateb hi. Gwnaf i ddim siarad yn hir. Dwi'n meddwl bod y cyffro yno ac yn cael ei rannu ar draws y meinciau yma ynglŷn â'r sgôp sydd yna i ddatblygu sector newydd yn fan hyn ac i fod yn flaenllaw ynddo fo.

Mi glywsom ni'r Gweinidog yn rhestru'r holl elfennau hynny o ddatblygiadau hydrogen sy'n digwydd yng Nghymru eisoes, fel y gwnes innau, ac fel dŷn ni wedi clywed gan Aelodau eraill. Beth mae hynny'n ei ddweud wrthyf fi ydy ein bod ni â'r sylfeini yn eu lle er mwyn adeiladu sector all wneud gwirioneddol wahaniaeth i economi Cymru drwyddi draw. Mae'r holl elfennau yma i'w croesawu, maen nhw i gyd yn building blocks bach sy'n mynd i, gobeithio, ein galluogi ni i adeiladu arnyn nhw. 

Ond dyna ydy'r nod rŵan, gweld beth ydy'r potensial ac anelu'n uchel, oherwydd dyna'n union dŷn ni'n ei weld yn digwydd mewn gwledydd eraill. Mi ddywedodd y Gweinidog y bydd y Llywodraeth a'r meinciau Llafur yn cefnogi'r cynnig yma heddiw, a dwi'n ddiolchgar am hynny. Mae'n cefnogi oherwydd ei bod hi yn dweud bod y llwybr, y pathway, yn strategaeth. Dwi'n nodi'r termau a ddefnyddiodd hi ynglŷn â chael strategic approachstrategic focus. Dwi'n dal yn meddwl bod angen dod â'r cyfan at ei gilydd a bod â nod clir iawn. Dwi'n cofio edrych ar adroddiad Llywodraeth Iwerddon 'Harnessing Our Ocean Wealth' a gweld hwnnw fel patrwm y gallai Cymru ei ddilyn, ac mi ddaeth strategaeth ynglŷn â sut i wneud yn fawr o'n hamgylchedd morwrol ni. Dwi'n gweld yn fan hyn hefyd fod angen y math yna o ffocws mewn un strategaeth glir lle mae pawb yn gwybod i ba gyfeiriad dŷn ni yn mynd.

Ond fel dwi'n dweud, dwi wedi clywed y cyffro yna heddiw yma ar draws y meinciau. Nid dyma'r tro olaf y byddaf i'n codi hydrogen yma yn y Senedd, ond o leiaf dŷn ni wedi cael blas eto, ac mae ar y cofnod yma yn y Senedd o'r potensial o'r hyn y gallwn ni fod yn anelu amdano fo, oherwydd dyma, efo hydrogen gwyrdd yn benodol, ydy'r dyfodol y gallwn ni fod yn cyffroi ynglŷn ag o fel gwlad. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:53, 15 Mehefin 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes yna wrthwynebiad? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:53, 15 Mehefin 2022

Sy'n dod â'r eitem yna i ben. Fydd yna ddim angen pleidlais na chyfnod pleidleisio, felly.