– Senedd Cymru am 2:44 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol. A dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad hwnnw. Mark Drakeford.
Diolch, Llywydd. Heddiw, mae hi'n bleser i mi wneud datganiad ynglŷn â'n rhaglen ddeddfwriaethol ni. Mae hon yn rhan hanfodol o'n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a radical a fydd yn helpu i lunio Cymru'r dyfodol. Rydym ni bellach yn nhrydydd tymor y Senedd hon ers i bobl Cymru bleidleisio i roi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd lunio Deddfau Cynulliad. Ers 2011, rydym ni wedi bod yn cynyddu swm y ddeddfwriaeth sylfaenol y bydd y Llywodraeth hon yn ei chyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Rhaglen yw hon sy'n amlygu ein defnydd eang ni o'r pwerau hynny, a hynny ar raddfa eang.
Dyw'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaeth sylfaenol ddim yn digwydd mewn gwagle. Mae pwysau eraill yn bodoli sy'n effeithio ar y Llywodraeth a'r Senedd. Mae gennym raglen sylweddol o is-ddeddfwriaeth sy'n cyd-fynd â'n rhaglen ddeddfwriaeth. Yn aml, mae diffyg dealltwriaeth ynglŷn â pha mor eang a phwysig yw is-ddeddfwriaeth. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd amlwg wedi bod o ran maint y deddfwriaeth a phwysigrwydd y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud fel hyn. Mae hynny wedi ychwanegu'n sylweddol at lwyth gwaith y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa, yn y Cyfarfod Llawn ac yn y pwyllgorau.
Ers dechrau mis Chwefror 2020, Llywydd, cafodd dros 300 o eitemau o is-ddeddfwriaeth eu llunio o ran coronafeirws yn unig, yn aml gydag effaith sylfaenol ar fywydau bob dydd ein cyd-ddinasyddion ni. Mae'r cynnydd presennol yn y niferoedd sydd â COVID, fel cafodd ei drafod gennym ni'r prynhawn yma, yn ein hatgoffa ni na ddaeth y daith hon fyth i'w diwedd. A, Llywydd, er bod maint yr is-ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â gadael yr UE wedi lleihau yn ystod y 12 mis diwethaf, fe fyddwn ni'n parhau i ddod ag offerynnau statudol sy'n deillio o Brexit i'r Senedd tan ddiwedd y flwyddyn galendr hon.
Y tu hwnt i COVID a Brexit, yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym ni wedi llunio dros 50 o Offerynnau Statudol i weithredu Deddfau mawr a basiwyd yn y Senedd ddiwethaf, gan gynnwys deddfwriaeth i gefnogi ysgolion ac athrawon i gyflawni ein newidiadau radical ni i'r Cwricwlwm i Gymru, a darpariaethau o ran Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fe fydd yr Aelodau yn ystyried rheoliadau i bennu 20 mya yn derfyn cyflymder arferol mewn ardaloedd preswyl yr wythnos nesaf yn y fan hon yn y Senedd, sy'n elfen allweddol o'n rhaglen lywodraethu ni. Fe fydd is-ddeddfwriaeth bellach yn dilyn yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys rheoliadau i weithredu'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), ac agweddau ar Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, fel y ddyletswydd i ymarfer gonestrwydd.
Llywydd, allwn ni chwaith ddim anwybyddu bwriadau deddfwriaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn yr hinsawdd bresennol, mae'r rhain yn creu risg sylweddol i Gymru ac i ddatganoli. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud bod 27 o'r Biliau a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines ym mis Mai yn debygol o ymestyn i Gymru a bod yn gymwys iddi. Mae eisoes yn amlwg y bydd llawer o'r rhain yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â meysydd datganoledig, a fydd yn effeithio ar y setliad datganoli. Mae hynny'n golygu bod angen i'r Llywodraeth hon a'r Senedd fod yn wyliadwrus, ystyried cynigion yn fanwl, ac ymateb yn unol â hynny.
Llywydd, er gwaethaf maint y pwysau deddfwriaethol hwn a'r cyd-destun heriol yn ystod blwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon, rydym ni eisoes wedi cyflwyno pedwar Bil sylfaenol i lawr y Senedd. Pasiwyd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) gan Aelodau'r wythnos diwethaf ac fe fydd hwnnw'n gosod system newydd ar waith ar gyfer addysg a hyfforddiant ar ôl-16 yng Nghymru. Bydd yr Aelodau yn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'n Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) y prynhawn yma. Bydd y Bil hwnnw'n rhoi pwerau a nodwyd yn ofalus ac mewn ffordd gyfyngedig o ran amser er mwyn i Weinidogion Cymru ymateb yn gyflym i amddiffyn dinasyddion Cymru rhag penderfyniadau sydyn ac annisgwyl gan Lywodraeth y DU a allai gael effaith sylweddol ar rwymedigaethau unigolion ac ar refeniw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Rydym ni eisoes wedi cyflwyno'r Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Fe fydd y ddeddfwriaeth unigryw hon, a gyflwynir ar y cyd â'n partneriaid cymdeithasol ni, yn sicrhau hawliau teg gweithwyr ac yn arwain at gaffael cyhoeddus sy'n fwy cyfrifol yn gymdeithasol. A ddoe, cafodd y Bil cydgrynhoi cyntaf ei gyflwyno gerbron y Senedd, sef Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a fydd yn llunio'r gyfraith yng Nghymru sy'n ymwneud ag adeiladau rhestredig a'r amgylchedd hanesyddol yn fwy hygyrch i'r dyfodol.
Llywydd, rwy'n troi nawr at Filiau sydd i'w cyflwyno yn y flwyddyn i ddod. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i greu Cymru decach, wyrddach a chryfach. Cafodd y portffolio newid hinsawdd ei greu i'w gwneud yn haws i brif feysydd y Llywodraeth ddatganoledig gael yr effaith fwyaf yn y maes hwn. Mae dyletswydd foesol i ni wneud cynnydd ar yr agenda hwn, a byddwn yn cyflwyno nifer o Filiau i wneud cyfres o newidiadau pwysig dros y 12 mis nesaf.
Yn flaenoriaeth gynnar, Llywydd, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil i wahardd neu gyfyngu ar werthiant rhai o'r plastigau untro mwyaf cyffredin yng Nghymru. Fe fydd hynny'n bodloni ein hymrwymiad allweddol ni yn y rhaglen lywodraethu yn y maes hwn. Ond, yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil hefyd yn cefnogi ein her gyfreithiol barhaus ni i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Yn yr ymgyfreitha presennol, a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, mae'r llys wedi nodi y byddai hi'n ddefnyddiol ystyried enghraifft ymarferol, ar ffurf darn o ddeddfwriaeth yn y Senedd, y gellir ei defnyddio i roi prawf ar y materion dan sylw. Bydd y Bil hwn yn rhoi'r enghraifft ymarferol honno, ac yn y cyd-destun hwnnw fe fyddwn ni'n ceisio cytundeb y Pwyllgor Busnes i hwyluso'r gwaith o graffu ar y Senedd o ran y Bil hwn.
Llywydd, mae Bil aer glân yn flaenoriaeth sylweddol i'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n dymuno adeiladu ar y camau sydd eisoes ar y gweill i leihau allyriadau a sicrhau gwelliannau hanfodol o ran ansawdd aer, gan gefnogi cymunedau sy'n fwy iach ac amgylcheddau sy'n well. Mae ein Papur Gwyn ni'n nodi sut yr ydym ni'n bwriadu cyrraedd nodau uchelgeisiol o ran ansawdd aer a sefydlu fframwaith rheoleiddio sy'n fwy cadarn i'w cefnogi nhw. Bydd mesurau i gyd-fynd â hynny'n sicrhau bod pob rhan o gymdeithas yn chwarae rhan yn y gwaith o leihau llygredd aer, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr i ddatblygu'r Bil hwnnw pan gaiff ei gyflwyno.
Llywydd, rydym ni wedi nodi ein huchelgais i ddiwygio'r dull o gefnogi amaethyddiaeth yn y dyfodol, gyda phwyslais ar gynhyrchu bwyd sy'n gynaliadwy ac o ansawdd uchel a gwobrwyo ffermwyr am gyflawni canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â hynny. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun amlinellol o ffermio cynaliadwy cyn y Sioe Fawr a'r gyfres o ddigwyddiadau amaethyddol sy'n dilyn yn ystod yr haf. Llywydd, mae'r amseru yn fwriadol yn hyn o beth. Fe fydd hyn yn caniatáu ymgysylltiad ystyrlon o ran manylion y cynllun arfaethedig cyn cyflwyno'r Bil amaethyddiaeth ei hun, ac fe fydd hwnnw'n cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn yr hydref.
Mae'r Aelodau yn ymwybodol hefyd i ni wneud cynnydd sylweddol ers sefydlu ein tasglu diogelwch ni ar domennydd glo ddwy flynedd yn ôl. Cyhoeddwyd adroddiad nodedig Comisiwn y Gyfraith, 'Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru', yn gynharach eleni. Roedd hwnnw'n dod i'r casgliad eglur nad yw'r gyfraith fel mae hi ar hyn o bryd yn addas at ddibenion heddiw. Roedd yr adroddiad yn sail i'n hymgynghoriad ni ar y Papur Gwyn ac fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil ar ddiogelwch tomennydd glo i sefydlu dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomennydd glo segur ledled Cymru. Bydd hyn yn diogelu'r cymunedau hynny sydd wedi etifeddu ein gorffennol diwydiannol ni, yn ogystal â chefnogi seilwaith hanfodol a'r amgylchedd drwy leihau'r tebygolrwydd o dirlithriadau.
Llywydd, rydym ni wedi ymrwymo hefyd i symleiddio'r broses o ran cydsynio ar fathau penodol o seilwaith mawr ar y tir ac ar y môr, ac fe fyddwn ni, felly, yn cyflwyno Bil cydsynio seilwaith i roi mwy o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr fel ei gilydd. Fe fydd y Bil yn disodli'r cyfundrefnau statudol cyfredol ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith Cymru, ac fe fydd yn rhesymoli nifer yr awdurdodiadau sy'n angenrheidiol i lunio a gweithredu prosiect i un cydsyniad unigol.
Llywydd, mae datganiad blynyddol y rhaglen ddeddfwriaethol yn cael ei ddefnyddio fel arfer i gyhoeddi Biliau y bydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf. Fodd bynnag, mae'r Senedd yn craffu ar ddeddfwriaeth mewn continwwm, ac nid yw Biliau'n cwympo ar ddiwedd sesiwn. Felly, fe hoffwn i edrych ychydig ymhellach ymlaen at ddechrau trydedd flwyddyn y rhaglen a sôn am nifer o Filiau pwysig eraill.
Llywydd, fel soniais i'n gynharach, fe geir heriau sylweddol i'r Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa o ran rheoli'r pwysau deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a gychwynnir yma, yn ogystal â'r ddeddfwriaeth a gychwynnir yn San Steffan. I sicrhau bod y Senedd hon yn gallu cyflawni ei chyfrifoldebau hi a sicrhau bod gennym ni fwy o allu i graffu ar ddeddfwriaeth, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil i ddiwygio'r Senedd. Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r ymrwymiad a nodwyd gennym ni yn y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru i gwblhau'r Bil hwnnw o fewn 12 i 18 mis ar ôl cyflwyno adroddiad y pwyllgor diben arbennig. Bydd y ddeddfwriaeth hollbwysig hon, unwaith mewn cenhedlaeth, yn sail i Senedd fodern, sy'n adlewyrchu'r Gymru yr ydym ni'n byw ynddi heddiw a chyda'r gallu i gynrychioli a chyflawni er mwyn pobl Cymru.
Fe glywsom ni am bwysigrwydd trafnidiaeth yn gynharach y prynhawn yma, Llywydd, ac mae trafnidiaeth yn gyfrifol am bron i un rhan o bump o'n hallyriadau carbon ni, ac eto nid ydym ni'n gallu cynllunio rhwydweithiau bysiau ar hyn o bryd i helpu i leihau ein dibyniaeth ar geir preifat drwy sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau sy'n ddibynadwy a chynaliadwy. Wythnos diwethaf, fe gwblhawyd ein hymgynghoriad ni ar newid sylfaenol i'r ffordd y bwriedir cynllunio gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Yn hydref y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil bysiau, gan ganiatáu i bob lefel o lywodraeth yng Nghymru gydweithio i gynllunio'r rhwydweithiau bysiau sydd eu hangen ar ein cymunedau ni.
Ac yn gynnar yn y drydedd flwyddyn honno fe fyddwn ni hefyd yn cyflwyno Bil cyllid llywodraeth leol. Fe fydd hwnnw gerbron y Senedd cyn diwedd 2023, ac fe fydd y Bil yn cyflawni ein hymrwymiad ni yn y rhaglen lywodraethu i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru. Drwy weithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu yn eang â threthdalwyr, rydym ni'n parhau i archwilio dewisiadau ar gyfer diwygio ardrethi annomestig, ac fe fydd hynny'n gofyn am gyfuniad o gamau gweithredu sylfaenol ac is-ddeddfwriaethol.
Llywydd, mae agenda llawn o ddeddfwriaeth o'n blaen, ond mae'r rhain yn gerrig sylfaen pwysig tuag at y Gymru rydym am ei gweld. Er mwyn cyflawni'r agenda, byddwn yn parhau i weithio ar draws y Siambr hon i sicrhau ein bod yn gwneud y ddeddfwriaeth orau bosibl sy'n gwella bywydau holl bobl Cymru. Mae'r datganiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddyfodol tecach, gwyrddach a chryfach, ac rwy'n cymeradwyo'r rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Senedd.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma, ac rwy'n mynegi fy niolch ar goedd i gyfreithwyr y Llywodraeth a chyfreithwyr y Senedd sy'n ein cynorthwyo ni i graffu ar ddeddfwriaeth a chyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Rydym ni'n gallu anghytuno ar safbwyntiau polisi, ond, yn y pen draw, mae llawer iawn o bŵer ymenyddol cyfreithiol yn gynwysedig yn y darnau hyn o ddeddfwriaeth. Y rheswm pam mae deddfwriaeth mor bwysig yw ei bod hi'n rhoi grym i bobl o ran eu hawliau nhw, a dyna yw naratif sylfaenol unrhyw ddemocratiaeth—y gallwn ni, yn ôl y gyfraith, yn ddeddfwyr etholedig, roi hynny ar y llyfr statud a rhoi'r hawliau i bobl.
Tristwch i mi yw nad oes dim yn y datganiad heddiw o ran Deddf awtistiaeth, y mae'r ochr hon i'r Siambr, yn amlwg, wedi bod yn ei hyrwyddo droeon mewn dadleuon yma yn y Senedd. Ac mae hi'n ofid i mi hefyd nad oes Bil Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei gyflwyno gan y Prif Weinidog na'r Llywodraeth heddiw. Dyna ddull arall o rymuso pobl y byddwn ni'n hoffi cefnogaeth gan y Prif Weinidog iddo, pryd bynnag fydd amser y Llywodraeth yn caniatáu hynny, neu, yn wir, i gefnogi cynnig deddfwriaethol fy nghyd-Aelod Peter Fox ar y Bil bwyd, o gofio bod y datganiad deddfwriaethol, yn amlwg, yn cynnwys cyfeiriad at y Bil amaethyddol y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflwyno ym mis Medi.
Felly, rwyf i am drafod yn fyr y pum Bil y mae'r Prif Weinidog wedi tynnu sylw atyn nhw, ac yn hytrach nag edrych yn ôl, edrych ymlaen at yr hyn y bydd Llywodraeth y Prif Weinidog yn ei gyflwyno yn y sesiwn ddeddfwriaethol nesaf. Ac mae hi'n ymddangos bod y Bil aer glân, y gwnaeth ef a minnau ei grybwyll droeon yn y Siambr hon, bellach yn gweld golau dydd, sydd i'w groesawu. Rwyf i eisoes wedi cynnig gweithio gyda'r Prif Weinidog a gwleidyddion eraill ar draws y Siambr hon er mwyn i ni allu dod â'r darn hwn o ddeddfwriaeth i'w gyflawniad yn gyflym, o ystyried bod 1,600 o bobl yn marw cyn eu hamser yng Nghymru oherwydd aer llygredig. Fe fyddwn i'n ddiolchgar o gael deall meddwl y Prif Weinidog, gan fod y Llywodraeth wedi cael amser erbyn hyn i lunio'r darn hwn o ddeddfwriaeth, o ran pa fathau o nodau y gallem ni eu gweld yn y darn hwn o ddeddfwriaeth, ac ai nodau gorfodol yn gyfreithiol y byddwn ni'n eu gweld yn y ddeddfwriaeth, fel bydd pob cwr o Gymru yn elwa ar y ddeddfwriaeth a gyflwynir gan y Llywodraeth. A phryd y mae ef yn rhagweld y bydd y Bil hwnnw'n cael ei gyflwyno i'r Senedd dros y 12 mis nesaf? Oherwydd, unwaith eto, rwyf i o'r farn y byddai croeso i hynny, sef cael gwybod pryd y bydd y darn hwnnw o ddeddfwriaeth yn dod gerbron y Senedd.
Mae'r Bil amaethyddol, y Bil amaethyddol y bu hir ddisgwyl amdano, unwaith eto, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ac mewn cwestiynau gweinidogol yr wyf i wedi codi amryw o faterion yn eu cylch. Rwy'n gwybod y bu ymgynghori manwl â'r sector ar y darn arbennig o bwysig hwn o ddeddfwriaeth, y darn cyntaf o ddeddfwriaeth ar amaethyddiaeth yng Nghymru ers Deddf Amaethyddiaeth 1947, a fydd yn amlwg yn trawsnewid y dirwedd y mae amaethyddiaeth yn gweithredu ynddi. Fe fyddwn i'n ddiolchgar o ddeall sut yn union y mae argyfwng Wcráin wedi effeithio ar lun a gwedd y Bil hwn, sydd, yn fy marn i, yn un o'r rhesymau a roddwyd i egluro pam mae'r Llywodraeth wedi cymryd ychydig mwy o amser i gyflwyno'r Bil hwn, ac yn benodol a yw meddylfryd y Llywodraeth wedi newid rhywfaint i gefnogi, drwy'r Bil hwn, mesurau i gynyddu cynhyrchiant bwyd yma yng Nghymru drwy'r cymorth y gellid ei estyn drwy'r darn hwn o ddeddfwriaeth, fel cyflawnodd Deddf amaethyddol 1947 pan gafodd ei chyflwyno'r holl flynyddoedd hynny yn ôl.
Mae'r ddeddfwriaeth plastigau untro yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd lawer bellach. Yn wir, yn Lloegr, yn amlwg, pasiwyd darn o ddeddfwriaeth yn 2020 yn gwahardd rhai eitemau plastig untro. Yn yr Alban, mae newydd gael ei ddeddfu, ar 1 Mehefin, gyda gwaharddiad cynhwysfawr yn yr Alban. Sylwais o ddatganiad y Prif Weinidog ei bod yn ymddangos ei fod yn ffafrio mwy o fodel Lloegr gan ei fod yn cyfeirio at rai rhannau o'r defnydd o blastigau untro nad ydyn nhw yn dod o dan y Bil yn ei ddatganiad heddiw. A allai gadarnhau a yw hynny'n wir? Yn ôl a ddeallaf, byddai’r plastigau untro hynny na fyddai’r Bil yn eu cynnwys yn bennaf yn ddyfeisiau meddygol a chymwysiadau meddygol na fyddai’r ddeddfwriaeth yn ymdrin â hwy, oherwydd credaf y bydd yn bwysig deall sut y bydd y Bil yn gwahaniaethu rhwng defnydd meddygol a defnydd o ddydd i ddydd sydd gennym yn ein bywydau bob dydd.
Rwyf i'n llwyr gefnogi'r Bil tomennydd glo, ac yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno ar fyrder. Rwy'n ymwybodol oherwydd fy mod i'n cynrychioli Canol De Cymru, sy'n cwmpasu tair o ardaloedd y cymoedd sy'n pryderu yn fawr am y mater penodol hwn, y bydd hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth i'w groesawu. Ond fe fyddwn yn ddiolchgar o gael gwybod sut y bydd y darn hwn o ddeddfwriaeth yn darparu seilwaith hanfodol ac yn cefnogi'r gwaith o wella'r amgylchedd y bydd y tomennydd a'r cymunedau sy'n byw yng nghysgod y tomennydd glo yn ei weld drwy gyflwyno y darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'r datganiad yn cyffwrdd â'r gwelliannau hanfodol i seilwaith, felly fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i gael gwybod pam mae angen y ddeddfwriaeth arnoch chi'n hytrach na'r arfau sydd gennych chi eisoes i wneud y gwelliannau hynny yn y seilwaith.
Y Bil cyllid llywodraeth leol y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato, fe fyddai hi'n werthfawr i gael deall a yw'r Llywodraeth yn ystyried diwygio trethi llywodraeth leol yn gyfan gwbl a dileu gwedd bresennol y dreth gyngor, sydd, yn amlwg, yn seiliedig ar werth eiddo, neu a yw'r Llywodraeth yn ystyried rhywbeth sy'n fwy tebyg i symudiad at dreth incwm leol. Oherwydd rwyf i o'r farn y byddai'r Prif Weinidog yn cofio'r creithiau o'r ailbrisiad diwethaf, fel mae'r rhan fwyaf o wleidyddion yn tueddu i'w dioddef yn y maes polisi arbennig hwn. Bryd hynny, roedd ef yn uwch gynghorydd i'r Prif Weinidog, pan ddigwyddodd yr ailbrisiad diwethaf yn ôl ym mlynyddoedd cynnar y ganrif. Felly, pe byddech chi'n egluro gyda rhagor o fanylder beth yw barn bresennol y Llywodraeth ynglŷn â'r Bil cyllid llywodraeth leol hwnnw, ac a ydym ni am weld newid ar raddfa eang yn y ffordd y mae cynghorau lleol yn codi eu refeniw, er mwyn i ni ddeall y newidiadau y gellid eu cyflwyno nhw, efallai.
O ran diwygio'r Senedd, wel, mae ef a minnau'n anghytuno yn hynny o beth, ond yn y pen draw, fe gafodd ef gymeradwyaeth ei gynhadledd ei hun ddydd Sadwrn, ac rwy'n deall, yn amlwg, oherwydd y cytundeb â Phlaid Cymru fod y mwyafrif o ddwy ran o dair ganddo yn Siambr y Senedd hon. Rydym ni, ar yr ochr hon i'r tŷ, er ein bod ni'n anghytuno â'r angen am fwy o wleidyddion, wedi ceisio cyfranogi yn y broses drwy'r pwyllgor pwrpas arbennig a sefydlwyd, dros y mecanwaith pleidleisio ac, yn wir, o ran pa olwg allai fod ar etholaethau. Felly, fe all pobl fod â ffydd y bydd yna gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol; os ydych chi ychydig i'r dde o'r canol, yn y canol neu i'r chwith o'r canol, fe allwch chi fod â ffydd wirioneddol fod hyn wedi cael ei ystyried gan rai o bob tuedd wleidyddol. Gwaetha'r modd, bu'n rhaid i ni dynnu allan o'r pwyllgor hwnnw oherwydd y datganiad a wnaeth arweinydd Plaid Cymru a'r Prif Weinidog, ond fe fyddwn i'n falch o gael gwybod gan y Prif Weinidog, wrth ddrafftio'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth, pa mor gynhwysfawr fydd hwnnw o ran ymdrin â'r ffordd y caiff y ffiniau eu creu ac, yn benodol, y ffydd sydd ganddo ef—. Yn un sydd â chydbwysedd llwyr rhwng y rhywiau ar ei aelwyd ei hun, gyda dwy ferch a dau fab, rwy'n llwyr werthfawrogi pa mor bwysig yw'r cydbwysedd hwnnw rhwng y rhywiau. [Chwerthin.] Mae'n rhaid i mi ddweud mai'r duedd yw bod fy merched i yn ennill y ddadl yn fwy aml na fy meibion i, ac fe fyddai unrhyw un sy'n adnabod fy nwy ferch i'n deall yn iawn pam mae hynny'n digwydd. Fe fyddwn i'n falch o geisio deall gan y Prif Weinidog, oherwydd bu cwestiwn gwirioneddol ynghylch a oes cymhwysedd yma yn y Senedd i basio deddfwriaeth o'r fath, a fyddai'n gweld yr hyn y soniwyd amdano yn y cytundebau a gyflwynwyd ac a fydd hynny'n ei wneud yn rhan o'r ddeddfwriaeth y bydd Llywodraeth y Prif Weinidog yn ei chyflwyno i'r Senedd.
A dim ond un pwynt olaf arall, rwy'n credu bod fy nealltwriaeth i o'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth yn gywir, ond rwy'n credu mai erbyn diwedd 2023 fydd hynny. A fyddai'r Prif Weinidog yn cadarnhau hynny? Rwy'n credu fy mod i wedi deall o'r datganiad y prynhawn yma eich bod chi'n bwriadu ei gyflwyno a'i basio drwy'r Senedd erbyn mis Rhagfyr 2023 i ganiatáu cyfnod iddo ymsefydlu cyn etholiad 2026, y gwyddom i gyd ei bod yn unol â deddfwriaeth i ddigwydd ym mis Mai 2026. Diolch i chi, Prif Weinidog.
Llywydd, a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am y ffordd adeiladol y mae ef wedi ymgysylltu â'r datganiad y prynhawn yma, ac am ei gynigion i ymgysylltu mewn ffordd adeiladol eto o ran nifer o'r Biliau y byddwn ni'n eu cyflwyno gerbron y Senedd?
Roedd ef yn iawn i dynnu sylw at fwlch yn fy natganiad, oherwydd ni chyfeiriais i, rwy'n sylweddoli nawr, at ddeddfwriaeth y meinciau cefn ac, yn wir, at ddeddfwriaeth pwyllgorau yn y Senedd flaenorol, sydd hefyd yn ychwanegu at y llwyth gwaith deddfwriaethol y mae'n rhaid i Aelodau'r Senedd ei gwblhau. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r Biliau hynny sy'n cael eu cyflwyno yn y modd hwnnw. Nid ydym ni'n cytuno bob amser, fel nododd ef o ran y Bil awtistiaeth, gan ein bod ni o'r farn bod ein gwasanaeth awtistiaeth cenedlaethol a mesurau eraill yn cynnig ffordd fwy effeithiol o wella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth, fel trafodwyd gennym ni wrth gyflwyno'r Bil hwnnw.
O ran y cwestiynau penodol, Llywydd, a godwyd gan arweinydd yr wrthblaid nawr, yn fyr, o ran y Bil aer glân, fe fyddwn ni'n bwriadu cynnwys nodau uchelgeisiol ar gyfer ansawdd aer yn y Bil a'u gosod nhw o fewn fframwaith rheoleiddio mwy cadarn, fel gellir cefnogi'r nodau hynny mewn modd priodol.
O ran y Bil amaethyddiaeth, rwy'n credu wrth i mi sôn am hwnnw yn fy natganiad i, y peth cyntaf a ddywedais i am y Bil amaethyddiaeth yw y byddai'n cefnogi cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy yma yng Nghymru. Ac mae ein cynlluniau ni ar gyfer diwygio amaethyddiaeth wedi bod â chynhyrchu bwyd cynaliadwy wrth ei hanfod bob amser ac yn rhan annatod o'r ffordd yr ydym ni'n gweld dyfodol amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Ac, fel gwnaethom ni ei drafod o'r blaen, yn wir, mae'r argyfwng yn Wcráin wedi tynnu sylw o'r newydd at yr angen i allu bod â chyflenwad o fwyd ar gael heb angen mewnforio, ac mae hynny wedi bod yn dylanwadu ar ein hystyriaeth ni. Ond, fe fydd y Bil yn parhau i osod fframwaith i gefnogi ffermwyr yng Nghymru, gyda'r gwaith y maen nhw'n ei wneud i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, ond o ran y nwyddau cyhoeddus eraill hynny hefyd y mae'r cyhoedd yn barod i ddod o hyd i arian i'w cefnogi. Rwy'n edrych ymlaen at fynd i Sioe Frenhinol Cymru a thrafod y pethau hyn ochr yn ochr â'r Gweinidog.
Bydd ein dull gweithredu ni yn y Bil plastigau untro yn fwy tebyg i'r un yn Lloegr yr oedd Andrew R.T. Davies yn ei grybwyll. Bydd yn pennu rhestr o blastigau untro penodol, na fydd modd eu defnyddio nhw yng Nghymru eto. Nodwyd 60 o enghreifftiau o'r rhain yn yr ymgynghoriad, ac ni fyddwn ni'n dod â phob un o'r 60 ohonyn nhw gerbron y Senedd yn y Bil, ond fe fyddwn ni'n gobeithio cynnwys pŵer rheoleiddio i Weinidogion ar gyfer gallu ychwanegu rhagor o blastigau untro at y rhestr honno wrth i'r dystiolaeth yn eu cylch nhw gynyddu, ac fe fydd y rhain yn cael eu harchwilio wedyn drwy weithdrefnau is-ddeddfwriaeth y Senedd.
O ran diogelwch tomennydd glo, hanfod y Bil fydd sefydlu awdurdod goruchwylio newydd—dyna a ddywedodd adroddiad Comisiwn y Gyfraith wrthym ni—i oruchwylio cyfundrefn newydd i sicrhau bod trefniadau rheoli priodol ar waith ar gyfer y categori uchaf o awgrymiadau—yr awgrymiadau hynny sydd â'r risg mwyaf i'r cymunedau y lleolir nhw ynddyn nhw—ac yna i'w nodi nhw a chynnal cofrestr asedau genedlaethol newydd. Rydym ni wedi dysgu llawer mwy nag yr oeddem ni'n ei wybod ddwy flynedd yn ôl, pan ddechreuodd y gwaith hwn, am nifer y tomennydd glo yng Nghymru a'u lleoliadau nhw. Mae dros 2,500 o domennydd glo segur ledled Cymru, gyda 327 ohonyn nhw erbyn hyn gyda'r dynodiad categori D uchaf. Rydym ni'n dymuno sicrhau ein bod ni'n adeiladu ar yr holl waith hwnnw drwy fod â'r gofrestr genedlaethol honno ar gyfer y dyfodol, a all olygu mwy yn y dyfodol na dim ond tomennydd glo, oherwydd mae llawer o fathau eraill o domennydd gwastraff yng Nghymru, yn enwedig o fwyngloddiau metel. Ni fyddwn ni'n gallu ymestyn y Bil, ar y dechrau, hyd at yr ystod fwy eang o domennydd sy'n peri pryder yng Nghymru, ond fe fyddwn ni, drwy'r Bil, yn agor y ffordd er mwyn gallu gwneud hynny yn y dyfodol.
O ran cyllid llywodraeth leol, ni fyddwn ni'n gallu cyflwyno cynigion yn ystod tymor y Senedd hon ar gyfer math sylfaenol wahanol o gyllid llywodraeth leol. Fe fyddai hi'n dda gennyf i pe baem ni mewn sefyllfa i wneud hynny, ond mae swm y gwaith sydd ei angen i symud oddi wrth y system dreth gyngor gyfredol i system wahanol—system treth incwm leol neu system prisio tir—mor arwyddocaol fel bydd angen i'r gwaith cefndir i ganiatáu i hynny ddigwydd barhau nid yn unig fel y gwnaeth yn nhymor y Senedd flaenorol, ond yn ystod tymor y Senedd hon hefyd. Yr hyn y byddwn ni'n ceisio ei wneud gyda'r Bil hwnnw yw sicrhau ein bod ni'n moderneiddio system y dreth gyngor, a'n bod ni'n ei gwneud hi mor deg ag y gallwn ni ei gwneud hi, ac y dylai fod yn fwy blaengar o ran ei dyluniad a'i chyflawniad.
Ac yn olaf, Llywydd, o ran diwygio'r Senedd a mater y ffiniau, fe fydd yn nodi'r ffiniau ar gyfer etholiad 2006; bydd yn sefydlu comisiwn ffiniau i Gymru—
Dau ddeg a chwech.
Ar gyfer 2026; rwy'n ymddiheuro.
Nid 2006. [Chwerthin.]
Fe fyddai hynny'n ôl-weithredol. Nid ydym ni'n hoff o ddeddfwriaeth ôl-weithredol, fel gwyddoch chi. [Chwerthin.]
Ar gyfer 2026, ac fe fydd yn sefydlu comisiwn ffiniau i Gymru, a fydd yn gallu adolygu'r ffiniau hynny yn nhymor y Senedd nesaf a'u sefydlu nhw wedyn ar gyfer etholiadau wedi'r un nesaf. Pan gyflwynir y cynigion, fe fydd yna ddatrysiad i sicrhau y gallwn ni fynd ar drywydd ein huchelgeisiau ni ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yma yn y Senedd, a mathau eraill o gydraddoldeb, heb wynebu'r risg y bydd y fenter gyfan yn mynd i'r gwellt oherwydd materion cymhwysedd.
A gaf i orffen drwy barhau i gynnig i arweinydd yr wrthblaid ran weithredol yn y trafodaethau a fydd yn ffurfio'r Bil? Gan ein bod ni wedi cwblhau gwaith y pwyllgor a gwaith y pleidiau gwleidyddol erbyn hyn, fe fydd angen llawer o waith manwl i fynd i mewn i'r Bil, y byddwn ni'n ei gyflwyno o fewn y fframwaith 12 i 18 mis yr ydym ni wedi cytuno arno gyda Phlaid Cymru. Wrth i'r gwaith manwl hwnnw fynd rhagddo, rwyf i o'r farn y byddai'n cael ei atgyfnerthu drwy barhau i fod â diddordeb trawsbleidiol ynddo, oherwydd fe fydd yn ymwneud â gwaith y lle hwn y tu hwnt i dymor y Senedd nesaf. Ac fe fydd gan bobl ym mhob cwr o'r Siambr ddiddordeb mewn sicrhau y gellir cyflawni hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl, ac i'r graddau y gall Plaid Geidwadol Cymru fod â rhan yn y trafodaethau hynny, fe hoffwn i sicrhau bod y cynnig hwnnw'n cael ei ymestyn i chi.
Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog. Gan ddechrau gyda'r cyd-destun roeddech chi wedi'i ddarlunio i ni, mae wedi bod yn un digon heriol yn ddiweddar, yn rhannol oherwydd COVID a hefyd o ran sgileffeithiau Brexit, fel oeddech chi'n esbonio. Ond, hefyd, mae yna ddimensiwn arall sydd yn ddigon heriol, wrth gwrs, sef yr ystod eang yma—y 27—o Ddeddfau mewn lle arall—mewn Senedd arall—sydd yn fwyfwy ymdreiddio mewn i'n meysydd o gyfrifoldeb ni. Mae'n teimlo, weithiau, fod yna fwy o ddeddfu yn mynd ymlaen yn San Steffan o ran meysydd datganoledig na sy'n digwydd yn y lle yma, hyd yn oed.
Un o'r cwestiynau, reit ar y cychwyn, yr hoffwn i ofyn yw: sut ydyn ni'n ymdopi gyda'r amgylchedd gwleidyddol, deddfwriaethol anodd yma? Dŷn ni, fel pwynt o egwyddor, wedi bod yn gwrthwynebu LCMs fel symbol o'n hanfodlonrwydd â'r sefyllfa gwbl annemocrataidd hon, yn ein tŷb ni. Sut ŷch chi'n meddwl rŷn ni'n gallu cryfhau ac amddiffyn ein deddfwrfa Gymreig ni yn erbyn ymgais bwriadol i ddisodli ein grymoedd ni fan hyn a thanseilio'r setliad democrataidd?
Rŷn ni, ym Mhlaid Cymru, o'r blaen wedi cyflwyno Bil hunanbenderfyniad er mwyn gosod hawl Cymru, fel pobl cenedl arall, o dan siarter y Cenhedloedd Unedig—yr hawl i hunanbenderfyniad—fel rhan greiddiol o'n gwerthoedd gwleidyddol ac o'n fframwaith gwleidyddol a chyfreithiol. A oes ffyrdd eraill rŷn ni'n gallu cydweithio i sicrhau ein bod ni'n gwrthsefyll yr ymgais yma i danseilio'n democratiaeth ni—rhyw fersiwn Gymreig o'r claim of right, er enghraifft, unwaith eto, sydd yn crisialu'r hawl yma i hunanbenderfyniad?
I symud at y rhaglen arfaethedig ei hun ar gyfer y flwyddyn sy'n dod, yn gyffredinol rwy'n credu ein bod ni'n croesawu'r cynnwys. Mae yna ryw linyn amgylcheddol yn rhedeg trwyddyn nhw i gyd, a gan fod nifer o'r Deddfau hyn—y Bil awyr lân a'r Bil ar ddiogelwch tomenni glo, er enghraifft—yn rhai hirddisgwyliedig, mi fydd ein gobeithion ni ar gyfer y ddeddfwriaeth yma yn glir, ac fe fydd Plaid Cymru yn edrych ymlaen at graffu arni yn ofalus ac i wthio ei heffaith cymaint â phosib.
Yn y blynyddoedd canlynol, fe edrychwn ni ymlaen at weld ffrwyth rhaglen waith y cytundeb cydweithio yn y rhaglen ddeddfwriaethol yn rhai o'r meysydd rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw eisoes, fel diwygio'r Senedd, Deddf addysg Gymraeg. Ac mae'n rhaid cofio, wrth gwrs, am ddeddfwriaeth eilradd a rhaglen safonau'r Gymraeg yn cael ei hailgydio ynddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Hoffwn i weld, hefyd, deddfu o ran targedau natur, ac rŷn ni'n edrych ymlaen at gydweithio o ran gwneud y dreth gyngor yn fwy teg.
At ei gilydd, un feirniadaeth gyffredinol y byddwn i'n ei gwneud yw: mae'n sicr bod y rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod dal yn edrych yn denau iawn o gymharu â'r rhaglen ddeddfwriaethol dŷn ni'n ei gweld yn yr Alban, er enghraifft, ac mae hynny wedi bod yn gyffredinol wir, onid yw e? Rhyw gyfartaledd o ryw bedwar, pump neu hanner dwsin o Filiau dŷn ni wedi bod yn ei gyflawni fel cyfartaledd yn y Senedd yma, o gymharu â thua 15 y flwyddyn yn Senedd yr Alban. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon, pan yw'n weithredol, â rhywbeth fel 14 darn o ddeddfwriaeth gynradd y flwyddyn ar gyfartaledd.
Wrth gwrs, mae'r mater o gapasiti y lle yma yn berthnasol iawn, felly mae diwygio'r Senedd yn ymateb i hyn. Rŷm ni wedi gweld arafwch mewn addewidion i ddeddfu—hynny yw, addewid yn mynd yn ôl pedair blynedd nawr i ddeddfu o ran llywodraethiant amgylcheddol. Felly, mae yna oblygiadau i'r diffyg yma. Oes yna elfennau eraill o gapasiti mae'n rhaid edrych arnyn nhw—nid yn unig o ran cynyddu capasiti'r lle yma o ran yr Aelodau, ond beth am gapasiti gweddill y system? Roedd arweinydd y Blaid Geidwadol yn cyfeirio at y gwaith da sy'n cael ei wneud gan weision sifil yn drafftio Deddfau; wrth inni gynyddu gapasiti'r lle yma, oes angen inni edrych ar godi'r cap ar y nifer o weision sifil, yn sicr o ran y rhai sydd â sgiliau arbenigol, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cynyddu a chyflymu'r broses o ddeddfu?
A gaf i jest, yn olaf, ategu pwysigrwydd Biliau Aelodau a Biliau pwyllgor? Unwaith eto, dŷn ni ddim wedi bod yn gwneud cystal yn y ddeddfwrfa yma. Dim ond 7 y cant o ddeddfwriaeth sylfaenol Cymru sydd wedi dod trwy Filiau Aelodau, o'i gymharu gyda 10 y cant yn neddfwrfa'r Alban ac 16 y cant yn Senedd San Steffan. Felly, ydyn ni i gyd yn gytûn mai rhan o ddiwygio'r Senedd ydy cynyddu capasiti ar gyfer Biliau Aelodau a Biliau pwyllgor? Oherwydd mae hynny â rôl bwysig mewn Senedd sydd yn gytbwys o ran y grym rhwng y ddeddfwrfa a'r weithrediaeth.
Diolch yn fawr i Adam Price am y sylwadau yna. Dwi'n cytuno, wrth gwrs, gyda beth ddywedodd e am y cyd-destun heriol. Siaradais i am COVID a Brexit, ond mae'n wir beth ddywedodd arweinydd Plaid Cymru am y cyd-destun gyda Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig.
Dwi ddim yn cytuno gyda fe a Phlaid Cymru ar y pwynt o egwyddor roedd e'n codi am wrthwynebu LCMs. Pan fo pethau'n dod o flaen Tŷ'r Cyffredin ac rŷm ni'n gallu gweld bydd hynny yn ffordd o wneud pethau yn fwy cyflym nag y gallwn ni wneud pethau ar lawr y Senedd, mae hi jest yn gwneud synnwyr, i fi, i'w wneud e fel yna. Ond y peth pwysicaf yw bod y penderfyniad yna yn benderfyniad sydd i fod yn ein dwylo ni. Os rŷm ni'n gweld pethau a rŷm ni'n eisiau bod yn rhan ohonyn nhw, wel, mae hynny'n fine a dwi ddim yn gweld yr achos i beidio â gwneud pethau pan fyddan nhw'n gweithio i ni ac i bobl yng Nghymru. Beth sydd ddim yn iawn yw pan yw'r Llywodraeth yn San Steffan yn bwrw ymlaen i ddeddfu mewn meysydd datganoledig heb gael ein cytundeb ni, a dyna ble mae'r gwaith pwysig i'w wneud.
Dwi'n ddiolchgar i'r Arglwydd Dafydd Wigley am y Bil mae e wedi cyhoeddi, a'r cyfle i drafod pethau gydag e. Dwi wedi ysgrifennu gyda chopi o'i Fil e at Michael Gove i fod yn rhan o'r trafodaethau y mae e wedi cytuno i'w cael ar y confensiwn Sewel, a sut i wneud hynny mewn ffordd well nag ydym ni wedi'i gweld dros y blynyddoedd diwethaf. Mae syniadau eraill ar gael hefyd am sut i gryfhau'r system o ddeddfu, ble rŷm ni'n gallu defnyddio'r cyfle, pan fydd cyfle yn codi yn San Steffan, ond heb gael y perygl rŷm ni'n ei weld heddiw.
Diolch i Adam Price hefyd am dynnu sylw at y Biliau sydd i ddod ar ôl y drydedd flwyddyn o'r Senedd hon. Mae pethau pwysig yn mynd i ddod o flaen y Senedd yn y bedwaredd a'r bumed flwyddyn hefyd. Wrth gwrs, dwi ddim yn cytuno pan yw Aelodau yn disgrifio ein rhaglen ni fel un tenau iawn. Rŷm ni wedi gweithio mor galed gyda'r capasiti sydd gyda ni i roi popeth y gallwn ni yn y flwyddyn nesaf, a gallaf i ddweud wrth Aelodau ym mhob cwr o'r Senedd y bydd y flwyddyn a hanner nesaf yn anodd a llawn, llawn gwaith i ni i gyd—yn y pwyllgorau, ac i Weinidogion. Dwi ddim yn meddwl y bydd pobl yn mynd i feddwl ar ôl y profiad yna eu bod nhw wedi cael amser tenau.
I gymharu beth sy'n mynd ymlaen yma ac yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, mae'r cyfrifoldebau yn yr Alban yn wahanol i’n cyfrifoldebau ni, ac mae’r ffordd maen nhw'n mynd ati i ddeddfu yn wahanol hefyd. Y traddodiad sydd wedi cael ei ddatblygu yma yw i gael nifer o filiau sy'n filiau eithaf mawr, llawn o bethau, ond yng Ngogledd Iwerddon, dwi’n meddwl—dwi ddim wedi astudio pethau'n fanwl—maen nhw'n cael mwy o ddeddfau, ond deddfau bach ydyn nhw, ddim ar lefel y Biliau rŷn ni'n mynd i'w rhoi o flaen y Senedd.
Wrth gwrs dwi'n cytuno bod nifer o bethau o ran capasiti ein system ni a chapasiti y Comisiwn os dŷn ni’n mynd i wneud mwy o ddeddfu yn y dyfodol, a chapasiti ar yr ochr polisi, capasiti ar ochr pobl sy'n gwneud y gwaith ar y gyfraith, a phobl sy'n drafftio pethau i ni, ond mae popeth yn costio arian. Mae'n rhaid i fi ddweud hynny. Pan dwi bob wythnos yn sefyll fan hyn ac yn clywed o bob ochr y Siambr galwad i fuddsoddi mwy mewn trafnidiaeth, mwy mewn iechyd, mwy mewn addysg, mwy mewn beth bynnag rydyn ni'n trafod, fel Llywodraeth, yr egwyddor rydyn ni wedi'i derbyn yw dydyn ni ddim yn rhoi mwy o arian i ni fel Llywodraeth na allwn ni ei roi i'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n dibynnu ar y cyllid sydd gyda ni. Pan ydyn ni'n ei wneud e yn y ffordd yna, does dim lot o arian i gynyddu'r capasiti mewn unrhyw agwedd ar y gwaith mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ac mae hwnna'n cynnwys y rhaglen ddeddfwriaethol hefyd.
Mae cyflwyno'r rheoliadau 20 mya wedi cael croeso cynnes iawn gan fy etholwyr i pan gyhoeddwyd hynny wythnos diwethaf. Yn amlwg, rwy'n croesawu eich cyhoeddiad chi hefyd am y Bil aer glân a'r Bil bysiau yn hydref y flwyddyn nesaf, ac roeddwn i'n meddwl tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am y mesurau yr ydych chi'n gobeithio eu cymryd i sicrhau y bydd pob rhan o gymdeithas yn gwneud eu rhan i leihau llygredd aer. Fe fyddai cael ychydig mwy o fanylion am hynny'n dderbyniol iawn.
Rwy'n amlwg yn croesawu'r Bil amaethyddiaeth a'ch pwyslais chi ar gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy. Yng nghyd-destun ansicrwydd y cyflenwadau bwyd presennol oherwydd Brexit a'r rhyfel yn Wcráin, mae hwnnw'n amlwg yn fater pwysig iawn.
Ac yn olaf, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n dweud ychydig mwy am y Bil cydsyniad seilwaith. Mae hi'n debyg nad yw hwnnw'n rhywbeth y bydd llawer yn eich holi chi amdano, ond yng nghyd-destun aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau ynni, a'r cynnydd mewn prisiau nwy, yn amlwg mae'r cyflymder y gallwn ni drosglwyddo o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy yn hanfodol i gyfoeth a llesiant ein cenedl i'r dyfodol. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddeall sut y bydd y Bil cydsyniad seilwaith hwn yn lleihau'r amserlen ar gyfer cael cynigion ynni adnewyddadwy, pan fyddan nhw wedi llwyddo i basio gwaith craffu, a'i roi ar waith. Mae'n rhaid i mi ddweud bod angen i mi—
Diolch yn fawr, Jenny. Mae angen i chi orffen nawr.
Iawn. Roeddwn i'n dymuno datgan buddiant oherwydd mae fy mhartner i'n gweithio i Bute Energy ac mae gen i fuddsoddiadau yn Awel Aman Tawe hefyd.
Diolch i Jenny Rathbone. Yn fy natganiad i, Llywydd, roeddwn i'n ceisio rhoi mwy o bwyslais eleni nag mewn datganiadau cynharach ar arwyddocâd is-ddeddfwriaeth a'r llwyth gwaith y mae hynny'n ei greu yma yn y Senedd; mae'n enfawr. Rydym ni wedi defnyddio llawer o'n hegni ni i basio deddfwriaeth sylfaenol. Pan wyf i'n meddwl am y Bil llywodraeth leol a ddygodd fy nghyd-Aelod i Julie James drwy'r Senedd yn y tymor diwethaf; yr ymgais lwyddiannus gyntaf i ddiwygio agweddau ar lywodraeth leol yng Nghymru. Ond mae'r Bil ei hun yn darparu fframwaith, ac wedyn fe geir y gwaith aruthrol ynglŷn â'r manylion a gyflwynir mewn rheoliadau, ac fe dynnodd Jenny Rathbone sylw at y rheoliadau y bydd y Senedd yn eu cymryd yr wythnos nesaf o ran parthau 20 mya.
Nid wyf i am ddweud llawer mwy am y Bil aer glân, Dirprwy Lywydd, oherwydd rydym ni eisoes wedi cael cynllun aer glân, a Phapur Gwyn aer glân, ac mae'r rhan fwyaf o'r mesurau y bydd y Bil yn eu hadlewyrchu i'w gweld yn y gwaith gwnaethom ni ei roi gerbron y cyhoedd eisoes.
Serch hynny, o ran y Bil bysiau, mae Jenny Rathbone yn llygad ei lle—mae'r Bil bysiau yn rhan o'n hymdrechion ni i gynhyrchu aer glân, lawn cymaint â sicrhau bod gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus gynhwysfawr a dibynadwy. Rydym ni'n dymuno sicrhau y gall pobl adael eu ceir gartref, ac rydym ni'n awyddus i weld fflyd o fysiau, fel dywedais i wrth ateb cwestiwn cynharach heddiw, sy'n rhedeg yn y ffordd lanaf bosibl, ac fe fydd y Bil bysiau yn ein helpu ni gyda hynny i gyd.
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am dynnu sylw at y Bil cydsyniad seilwaith, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hwnnw'n Fil pwysig iawn yn y rhaglen hon? Mae'r pwerau gennym ni, fel gŵyr yr Aelodau, i gydsynio i brosiectau cynhyrchu ynni, prosiectau cynhyrchu trydan, hyd at 350 MW, ac eithrio gwynt ar y tir, lle mae gennym ni gymhwysedd deddfwriaethol llawn. Y tensiwn sy'n bodoli yn hyn o beth yw hwnnw rhwng sicrhau y gallwn ni symud ymlaen gyda thechnolegau newydd sy'n rhoi gobaith i ni, er enghraifft, gynaeafu ynni o'r amgylchedd morol, a diogelu'r amgylchedd bregus iawn hwnnw hefyd ar yr un pryd. Fe fydd y Bil cydsynio yn caniatáu i ni ddatblygu cyfundrefn gydsynio yng Nghymru sy'n gyflymach ac yn fwy ystwyth na'r un bresennol, a fydd yn caniatáu i brosiectau ynni adnewyddadwy symud ymlaen er mwyn ein helpu ni gyda'r argyfwng hinsawdd, ond a fydd, ar yr un pryd, yn cydnabod ein rhwymedigaethau ni i beidio â gwneud pethau a allai beryglu'r amgylchedd bregus iawn hwnnw. A honno fydd y ddadl, y cydbwysedd rhwng y ddwy agwedd hynny, nad oes amheuaeth gennyf i y byddwn ni'n ei chael wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. Nid oeddwn i wedi sylweddoli ein bod ni'n brin o amser ar hyn, ond fe geisiaf i fod yn fyr. Rwy'n credu, fel y nododd Adam Price, fod Bil ar goll—dyna Fil llywodraethu amgylcheddol, a fyddai, yn fy marn i, yn agwedd allweddol iawn ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Bydd trefniant llywodraethu amgylcheddol sy'n benodol i Gymru yn bwysig iawn wrth symud ymlaen. A'r Bil arall—ac rwy'n diolch i fy nghyd-Aelod Andrew Davies am ei godi—yw fy Mil meinciau cefn fy hun, ac rwy'n diolch i chi am eich cydnabyddiaeth o ddeddfwriaeth sydd wedi'i harwain gan y meinciau cefn. Mae'n bwysig bod y rheini ohonom ni ar y meinciau cefn sy'n cyflwyno deddfwriaeth, neu gynigion ymlaen, yn cael y cyfle i'w datblygu, ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi cael y gefnogaeth i wneud hynny.
Roeddwn i braidd yn siomedig bod eich cyd-Weinidog, y Gweinidog materion gwledig, wedi awgrymu yn y Siambr na fydd yn cefnogi'r Bil, ac mae hynny'n siomedig pan fyddwch chi'n ceisio cyflwyno rhywbeth ac mae meddwl caeedig yn ei wynebu, oherwydd rwy'n credu ei fod yn eithaf sylfaenol. Mae gennym ni Fil amaethyddiaeth sy'n ystyried cymorth ffermio a Bil caffael cyhoeddus sy'n hyrwyddo caffael cymdeithasol a chyfrifol, ond yr hyn sydd ar goll yw fframwaith i ymuno'r cwbl, yn ogystal â strategaethau amrywiol y Llywodraeth. Gyda'n gilydd mae angen i ni sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn fwy rhagweithiol wrth fonitro iechyd a hygyrchedd y system fwyd yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau bod mwy o graffu ac atebolrwydd yn rhan annatod o'r system.
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr.
Iawn, mae'n ddrwg gennyf i. Felly, Prif Weinidog, a gaf i eich annog i ystyried sut y gallwch chi gydweithio â mi i gyflwyno'r newidiadau y mae angen i bob un ohonom ni eu gweld, y mae rhanddeiliaid niferus ledled Cymru yr wyf i wedi ymgysylltu â nhw wedi gofyn amdanyn nhw? Diolch.
Llywydd, a gaf i roi sicrwydd i'r Siambr y bydd Bil llywodraethu amgylcheddol yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ystod y tymor hwn. Mae gennym ni drefniadau dros dro ar waith, a'r wybodaeth sydd gennyf i yw eu bod yn gweithio'n foddhaol fel mesur dros dro, ond rydym ni wedi ymrwymo i Fil ar lywodraethu amgylcheddol. Ni fydd yn ail flwyddyn y rhaglen, ond bydd o'ch blaen chi yn ystod y tymor hwn.
O ran deddfwriaeth y meinciau cefn, tybed a gaf i ddweud yn dawel fach wrth yr Aelodau y gall deddfwriaeth y meinciau cefn fod yn ddylanwadol mewn mwy nag un ffordd, ac nid bob amser drwy sicrhau bod y Bil yn mynd ar y llyfr statud. Drwy ddod â Bil gerbron y Senedd, mae Aelodau'n creu dadl, maen nhw'n creu dylanwad, maen nhw'n llunio agweddau eraill ar bolisi'r Llywodraeth. Felly, nid wyf i'n credu mai mesur llwyddiant yw bod Bil yn gwneud ei ffordd drwy'r rhaglen ddeddfwriaethol gyfan. Mae Aelodau'n cyflwyno darnau o ddeddfwriaeth mewn llawer o ffyrdd eraill sy'n ddylanwadol ac sy'n gwneud gwahaniaeth.
Rhys ab Owen. Rhys ab Owen? A all rhywun ei ddad-dawelu? Diolch.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Adam Price yn gywir. O fewn y pum mlynedd diwethaf, roedd 44 o Filiau'r Deyrnas Unedig o fewn y setliad datganoledig, o'i gymharu â 21 o Filiau Cymreig. Ac mae nifer o'r Biliau yna, Biliau'r Deyrnas Unedig, wedi eu pasio heb gydsyniad y Senedd yma, a nifer ohonyn nhw hefyd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Prydeinig newid y setliad datganoledig. Felly, sut y mae modd diwygio'r broses LCM er mwyn bod yn fwy cynhwysol o'r Senedd yma?
Rwy'n bryderus iawn, Prif Weinidog, ein bod ni'n cerdded yn ein cwsg i mewn i Senedd wahanol iawn—Senedd Cymru yn ôl ei henw ond gyda phwerau llawer gwannach. Eich ateb yr wythnos diwethaf i Adam Price, os gwnawn ni ethol Llywodraeth Lafur, dyna'r ffordd i ddiogelu datganoli yn San Steffan—beth sy'n digwydd os nad oes gennym ni Lywodraeth Lafur? Ni all yr ateb fod yn San Steffan, rhaid iddo fod yma yng Nghymru. Beth sy'n diogelu deddfwriaeth Cymru rhag cael ei diddymu dro ar ôl tro, fel y gwelwn ni yn yr arwydd ynghylch Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017?
Wel, Llywydd, rwy'n rhannu'r pryderon y mae Rhys ab Owen wedi'u mynegi. Rydym ni wedi wynebu, ers mis Rhagfyr 2019, Lywodraeth wahanol iawn yn y DU i unrhyw un yr ydym ni wedi'i gweld yn y cyfnod datganoli. Tan 2018 nid oedd confensiwn Sewel erioed wedi cael ei ddefnyddio i anwybyddu ewyllys y Senedd, ac rwy'n credu ein bod ni nawr wedi'i weld bum gwaith yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr, mae hyn yn dweud wrthym ni fod rhywbeth gwahanol iawn yn digwydd, ac mae gennym ni Lywodraeth sydd â chyfres wahanol iawn o agweddau yn San Steffan. Ac mae hynny'n her i ni—nid wyf i'n anghytuno â hynny. Pan ddywedais i mai'r ffordd orau o ddatrys yr her yw cael Llywodraeth wahanol, er fy mod i'n gwneud pwynt o ddifrif, mewn gwirionedd—mai dyna'r ffordd y gallwn ni ddod o hyd i ffordd o ymwreiddio datganoli fel na all Llywodraethau o'r argyhoeddiad presennol yn y dyfodol, fel y mae'r un bresennol wedi'i wneud, geisio gwrthdroi penderfyniadau wedi’u gwneud o'r blaen a'u cymeradwyo mewn refferenda yn olynol yma yng Nghymru.
Yn y cyfamser, rydym ni'n parhau i chwilio gyda chydweithwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac yn Llywodraeth y DU, i ddod o hyd i ffyrdd gwell o symud ymlaen. Yn y strwythur cysylltiadau rhynglywodraethol newydd, bydd cyd-Aelodau'n cofio bod dau brif bwyllgor sy'n eistedd islaw pwyllgor Prif Weinidogion y gwledydd datganoledig a Phrif Weinidog y DU. Gwnaeth un o'r pwyllgorau hynny gyfarfod yr wythnos diwethaf; confensiwn Sewel oedd un o'r ddwy eitem ar yr agenda honno. Ac mae cyfres o ffyrdd ymarferol y byddai modd gwneud confensiwn Sewel i weithredu mewn ffordd a oedd yn cynnig mwy o hyder i ni a mwy o allu i amddiffyn y setliad datganoli. Y risg, a'r risg yr wyf i'n ei gyflwyno i Weinidogion y DU, yw hyn: oni bai eu bod yn barod i barchu'r setliad datganoli presennol, neu'r cyfrifoldebau sy'n gorwedd mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, yn y pen draw, nid tanseilio datganoli y mae, ond tanseilio'r Deyrnas Unedig ei hun.
Prif Weinidog, rwyf i wedi eich herio chi a'r Cwnsler Cyffredinol o'r blaen i roi rhaglen i ni sy'n llawn deddfwriaeth wedi'i gwneud yng Nghymru. Rwy'n credu y bydd gan y Senedd bresennol hon o 60 o Aelodau eu dwylo'n llawn yn y flwyddyn i ddod, rhaid i mi ddweud—mae digon yma i gael ein dannedd ynddo. Nid oes rhywbeth at ddant pawb, ond mae llawer yma. A byddwch chi'n falch o wybod na fyddaf i'n sôn am yr un sy'n achosi cyffro yn ein pwyllgor ein hunain, y Bil cydgrynhoi ar yr amgylchedd hanesyddol, er bod hynny'n mynd i'n cadw ni'n brysur, ac nid wyf i eisiau siarad am Fil diwygio'r Senedd, er bod croeso iddo ac mae croeso i'ch sylwadau chi am bawb sy'n ymwneud â llunio hyn nawr wrth fwrw ymlaen, pawb yn y Senedd hon—mae'n ymwneud â'r Bil aer glân mewn gwirionedd. A gaf i ofyn i chi ganmol ymgyrchu pobl, nawr dros flynyddoedd lawer, i gyflwyno Bil aer glân yma yng Nghymru, a gwaith y grŵp trawsbleidiol—mae llawer o Aelodau'r Senedd yma yn aelodau o'r grŵp hwnnw, ond yr holl ymgyrchwyr arno? Ac a wnaiff ef ymrwymo, ynghyd â Lee Waters, ei Weinidog, sydd wedi bod ar gael bob tro i'r grŵp hwn, i weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol yn y Senedd i helpu i lunio hyn, gan gynnwys y targedau uchelgeisiol y mae'r Prif Weinidog wedi'u disgrifio fel rhai sy'n angenrheidiol i'r Bil aer glân hwnnw?
Wel, diolch i Huw Irranca-Davies, Llywydd, ac o gofio ei fod wedi sôn am Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a'r unig berson hyd yn hyn, efallai y dylwn i ddweud rhywbeth am arwyddocâd y Bil hwnnw. Dyma'r Bil cydgrynhoi cyntaf o'i fath i ddod o flaen y Senedd. Bydd yn gwneud darn pwysig iawn o waith i wneud deddfwriaeth yma yng Nghymru yn hygyrch i'r bobl sy'n gorfod ei defnyddio, boed hynny'n aelodau o'r cyhoedd, ond yn sicr y bobl hynny sy'n gweithio yn y maes hwn. Ac efallai na fydd yn torri tir newydd yn y ffordd y bydd rhai darnau eraill o ddeddfwriaeth, ond bydd yn sicr yn gwneud y gyfraith bresennol yn fwy effeithiol yng Nghymru.
Yn sicr rwy'n cytuno â'r hyn y gwnaeth yr Aelod ei ddweud am y bobl hynny sydd wedi ymgyrchu ar fater aer glân a gwaith y grŵp trawsbleidiol, ac wrth i'r Bil hwnnw gael ei gyflwyno o flaen y Senedd, wrth gwrs edrychwn ni ymlaen at barhau i weithio gydag Aelodau ar draws y Senedd, ond y rheini y tu hwnt i hynny sydd â diddordeb ynddo. Rwyf i eisoes wedi fy nghofnodi, Dirprwy Lywydd—. Rwyf i wedi dweud na allaf i feddwl am un Bil nad yw wedi'i wella o ganlyniad i'r broses graffu y mae Biliau'n mynd drwyddi yma ar lawr y Senedd, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n wir am y Bil aer glân, cymaint ag y byddai o ran unrhyw ddarn arall o ddeddfwriaeth.
A gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad heddiw o ran y rhaglen ddeddfwriaethol? Prif Weinidog, yn natganiad Llywodraeth Cymru i'r wasg ddoe ar ymdrin â niferoedd uchel o ail gartrefi, sydd, wrth gwrs, yn rhan o'r rhaglen ddeddfwriaethol barhaus, gwnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae twristiaeth yn hanfodol i’n heconomi ni'.
Fodd bynnag, nid yw'n glir i mi, o'ch rhaglen ddeddfwriaethol chi ac, yn wir, y rhaglen lywodraethu, pa gymorth i'r sector fydd yn cael ei gynnwys, y disgrifiwch chi fel rhan hanfodol o'n heconomi. Yn wir, yr hyn yr ydym ni'n ei weld ar y gorwel, wrth gwrs, yw treth dwristiaeth arfaethedig, y mater aneglur hwn rhwng busnesau hunanarlwyo ac ail gartrefi, a gyda'r rheoliadau niweidiol presennol ar osod gwyliau am 182 diwrnod, fy nealltwriaeth i a fy asesiad i o'r sector hwn yw bod y mesurau hyn yn debygol o rwygo'r diwydiant a gorfodi llawer o fusnesau sy'n gweithio'n galed a busnesau lleol i fynd i'r wal. Ac, wrth gwrs, byddwch chi'n gwybod mai dyma'r un sector twristiaeth sy'n cefnogi ac yn cynnal llawer o'n cymunedau gyda degau o filoedd o swyddi, gan gefnogi nifer fawr o fusnesau drwy'r gadwyn gyflenwi, ac, wrth gwrs, croesawu degau o filiynau o ymwelwyr i Gymru bob blwyddyn. Felly, yng ngoleuni hyn, Prif Weinidog, pa ran o'r rhaglen ddeddfwriaethol a gafodd ei chyhoeddi heddiw sy'n cefnogi'r diwydiant hanfodol hwn?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi clywed tranc diwydiant twristiaeth Cymru yn cael ei ragweld gan Geidwadwyr Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nid ydyn nhw'n helpu'r sector o gwbl drwy'r ffordd y maen nhw'n ei fychanu'n gyson. Mae'n sector cadarn iawn, mae'n sector llwyddiannus iawn, a rhan o hynny yw'r gefnogaeth sylweddol iawn y mae eisoes yn ei chael gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n mynd ymhell y tu hwnt i ddeddfwriaeth. Mae agweddau deddfwriaethol ar hynny. Rydym ni, yr wyf i'n falch o ddweud, yn newid ar ba sail y mae modd cofrestru llety gwyliau ar gyfer naill ai'r dreth gyngor neu ar gyfer ardrethi busnes, er mwyn sicrhau mai dim ond busnesau dilys sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i gymunedau lleol sy'n gallu manteisio ar y system ardrethi busnes, a bydd diwygiad ardoll ymwelwyr yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ystod y tymor hwn. A bydd hynny hefyd yn cryfhau'r diwydiant, oherwydd bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol godi symiau bach o arian, fel sy'n cael eu codi ledled y byd, ar bobl sy'n dewis ymweld â Chymru, fel y gellir ailfuddsoddi'r arian hwnnw yn y cymunedau hynny, gan gefnogi'r amodau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant.
Fe ysgrifennais atoch chi yn ddiweddar, fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, yn gofyn ichi gynnwys deddfwriaeth ar lywodraethiant amgylcheddol yn eich datganiad chi heddiw. Yn amlwg, dyw hynny ddim wedi digwydd, er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud, dwi'n meddwl nôl yn 2018, eich bod chi am ddefnyddio'r cyfle cyntaf posib i ddeddfu ar y mater yma. Rŷn ni dal yn mynd i aros tan y flwyddyn nesaf, o beth dwi'n deall mewn ateb blaenorol, a'r flwyddyn wedyn hefyd. Fe gyfeirioch chi at y trefniadau interim. Does dim sail statudol i'r trefniadau yna. Mae'r asesydd interim heb bwerau gorfodi. Mae gweddill y Deyrnas Unedig wedi gweithredu ar hyn, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs—a byddwn i'n gofyn, felly, ydych chi'n cydnabod—mai Cymru nawr yw'r wlad gyda'r llywodraethiant amgylcheddol gwanaf yng ngorllewin Ewrop. Does bosib bod hynny'n ei wneud e'n fwy o flaenoriaeth i'ch Llywodraeth chi.
Wel, Dirprwy Lywydd, fel dwi wedi esbonio, pan ŷch chi'n creu rhaglen ddeddfwriaethol, mae dewisiadau gyda chi i'w gwneud. Rŷn ni wedi dewis dod â'r Bil ymlaen, fel mae'r Aelod wedi sôn amdano. Dydy hwnna ddim yn y flwyddyn nesaf, ond bydd y Bil ar ei ffordd.
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Mae llawer o bethau ynddo rwy'n eu croesawu, a llawer o bethau nad wyf wedi fy argyhoeddi yn eu cylch hyd yn hyn. Ond, ar faterion eraill, Prif Weinidog, gwnaethoch chi ddweud yn ystod y datganiad eich bod chi'n gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddeddfu ar rai meysydd—rhywbeth fel diogelwch adeiladau a Deddf yr Amgylchedd—lle mae gan y Senedd gymhwysedd i greu ei deddfwriaeth ei hun, ond, os gallwch chi weithio'n adeiladol, oherwydd cyfyngiadau amser yma, mae'n gwneud synnwyr. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Senedd yn cael y cyfle i graffu ar unrhyw ddeddfwriaeth sy'n cael ei chyflwyno, hyd yn oed os ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU, pan ydych chi'n deddfu ar faterion datganoledig. Felly, a wnewch chi amlinellu, Prif Weinidog: a oes unrhyw feysydd nad ydyn nhw yn eich rhaglen yr ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU arnyn nhw i ddeddfu mewn meysydd datganoledig? Ac os ydych chi'n gwneud hynny, sut y byddwch chi'n sicrhau bod y Senedd hon yn gallu craffu ar y pethau hynny'n iawn, felly gallwn sicrhau bod polisi'n cael ei ddatblygu er budd pobl Cymru, ac rwy'n siŵr eich bod chi a minnau eisiau gwneud hynny?
Wel, mae cyfres gyfan o feysydd, Llywydd, y byddwn ni'n gweithio arnyn nhw gyda Llywodraeth y DU—weithiau oherwydd ein bod ni'n dewis gwneud hynny, weithiau oherwydd eu bod yn cyflwyno cynigion lle maen nhw'n ceisio deddfu mewn meysydd a ddylai fod yn faes yr Aelodau yma. Nawr, mae'r Bil diogelwch ar y rhyngrwyd—gobeithio bod y teitl hwnnw'n gywir—yn enghraifft o Fil pryd yr ydym ni'n credu bod manteision i Gymru o gymryd pwerau a fydd yn amddiffyn pobl yma yng Nghymru. Felly, rydym ni'n cychwyn y trafodaethau hynny ac rydym ni'n gweithio gyda'n cydweithwyr yn y DU. Mae eraill lle mae'n anochel bod ein sgyrsiau wedi'u cynllunio'n fwy er mwyn sicrhau nad oes modd arfer unrhyw bwerau y mae Llywodraeth y DU yn eu ceisio yn unochrog a heb i Weinidogion Cymru na'r Senedd ei hun gymryd rhan.
Y ffordd y mae'r Senedd yn cael gwybod am y pethau hyn, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, yw drwy'r broses gydsyniad deddfwriaethol. Rhaid i ni osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy'n nodi i'r Aelodau yr hyn yr ydym ni'n ei drafod a'r hyn yr ydym ni'n bwriadu'i wneud, ac yna rhaid i ni osod cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Nawr, fy nod, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, yw gallu rhoi cynifer o gynigion cydsyniad deddfwriaethol o flaen y Senedd y gallwn ni eu cefnogi â phosibl, oherwydd bydd hynny'n golygu fy mod i'n ffyddiog bod y camau sy'n cael eu cynnig er budd pobl yng Nghymru. Felly, dyna fy man cychwyn i: rwy'n gobeithio gallu rhoi LCM y gallwn ni ddweud y dylai'r Senedd ei gefnogi. Pryd na allwn ni ei gefnogi, mae confensiwn Sewel yn sicr yn glir: os bydd y Senedd yn gwrthod caniatâd, ni ddylai Llywodraeth y DU ddeddfu. Mae hynny'n sefyllfa nad ydym ni wedi'i sicrhau o dan y Llywodraeth bresennol. Gwnaethom ni hynny o dan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol. Mae angen i ni ddychwelyd at hynny er mwyn i gonfensiwn Sewel chwarae'r rhan y mae angen iddi ei chwarae wrth amddiffyn y setliad datganoli, ond hefyd, fel y gwelaf fi, sicrhau ei fod yn cryfhau'r Deyrnas Unedig.
Diolch i'r Prif Weinidog.