– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 27 Medi 2022.
Felly, y datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol sydd nesaf, ar yr ymateb i ddatganiad ariannol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Fe wnaf i alw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Canghellor ei ddatganiad ariannol—pecyn sylweddol o fesurau sydd, gyda'i gilydd, yn cynrychioli un o'r setiau mwyaf canlyniadol, rhwygol ac atchweliadol o newidiadau cyllidol sydd wedi'i nodi erioed gan unrhyw Lywodraeth y DU. Roedd y pecyn yn hynod annheg ac yn amhosibl ei gyfiawnhau yn foesol. Methodd yn llwyr â nodi cymorth brys ac ystyrlon i aelwydydd agored i niwed y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnynt, a gwnaeth adael gwasanaethau cyhoeddus, sydd ar hyn o bryd wedi'u hymestyn y tu hwnt i unrhyw brofiad diweddar gan chwyddiant, heb y cyllid ychwanegol hanfodol sydd ei angen arnyn nhw y gaeaf hwn.
Trwy gydol ei ddatganiad, gwnaeth y Canghellor anwybyddu hyn i gyd ac yn hytrach fe wnaeth flaenoriaethu toriadau treth ar gyfer y cyfoethog, codi'r terfyn ar fonysau i fancwyr, ac amddiffyn elw'r cwmnïau ynni mawr. Bydd gan hynny ganlyniadau economaidd a chymdeithasol sylweddol a bydd hynny'n gostus iawn i unigolion a theuluoedd yng Nghymru.
Fe ddylai Llywodraeth y DU fod wedi achub ar y cyfle i gynnig mwy o gefnogaeth drwy fudd-daliadau lles a thai. Fe ddylai hyn fod wedi cael ei ariannu drwy dreth ffawddelw ar y sector ynni. Yn hytrach, mae'r Canghellor wedi dewis cynyddu benthyciadau cyhoeddus yn sylweddol, gan wneud i aelwydydd incwm is ysgwyddo'r baich am flynyddoedd i ddod. Methodd y datganiad â chynnig gweledigaeth gynhwysfawr ar gyfer buddsoddi i hybu twf economaidd, gwella ein diogeledd ynni ni ar gyfer y dyfodol a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Ni chawsom unrhyw ymgysylltiad o flaen llaw ar unrhyw un o'r newidiadau yn natganiad y Canghellor, gan gynnwys meysydd trethu sydd wedi eu datganoli i Gymru. Rydym ni'n gwrthwynebu diddymu'r gyfradd incwm ychwanegol o 45 y cant yn fawr iawn. Ar adeg pan fo'r rhai sydd ar ben isaf y raddfa gyflog sy'n dioddef fwyaf, polisi dirdynnol i'w gyflwyno yw hwn. Mae tystiolaeth yn awgrymu yn gryf y bydd y cynllun i gyflwyno parthau buddsoddi yn dadleoli gweithgarwch economaidd o rannau eraill o'r wlad ac nad ydyn nhw ag unrhyw effaith o ran twf economaidd yn gyffredinol. Fe fyddwn ni'n siarad â Llywodraeth y DU i ddysgu mwy am y parthau hyn, ond nid ydym ni am beryglu hawliau gweithwyr na glastwreiddio amddiffyniadau amgylcheddol.
Mae Llywodraeth y DU yn mynnu nad cyllideb mo hon yn golygu nad oedd y dadansoddiad dosbarthiadol traddodiadol yn cyd-fynd â hi, a fyddai wedi amlygu sut effaith y byddai'r mesurau yn ei chael ar gyllid aelwydydd. Rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau. Yn ôl y Resolution Foundation, bydd pobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Lloegr neu Lundain yn gweld mwy na thair gwaith yr enillion a fydd i'w cael yng Nghymru, y gogledd-ddwyrain neu yn Swydd Efrog. Nododd Dadansoddiad Cyllid Cymru y bydd bron i 90 y cant o'r enillion yn mynd i gartrefi yn 50 y cant uchaf o'r dosbarthiad incwm, gyda 40 y cant yn mynd i gartrefi yn y 10% uchaf.
Mae'r ffaith bod y Canghellor wedi gwrthod rhoi caniatáu i'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddarparu rhagolwg economaidd cyn ei ddatganiad cyllidol yn gwbl anghyfrifol. Mewn cyfnod pan fo'r DU ar ymyl dirwasgiad, fe ddylai Llywodraeth y DU fod wedi canolbwyntio ar gyfleoedd i fuddsoddi mewn pobl ac mewn rhaglenni sy'n rhoi sefydlogrwydd economaidd. Yn hytrach, mae'r helynt yn y marchnadoedd mewn ymateb i'r datganiad wedi dangos nad oes yna unrhyw hyder yn strategaeth economaidd Llywodraeth y DU. Mae'r symudiadau mewn sterling ac yng nghost benthyca'r llywodraeth yn dangos nad yw marchnadoedd yn credu y bydd Llywodraeth bresennol y DU naill ai'n cyflawni twf economaidd nac yn rhoi cyllid cyhoeddus mewn sefyllfa gynaliadwy.
Yn absenoldeb rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ar sail gwaith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a rhagolygon annibynnol newydd a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Fawrhydi, mae gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru dros y setliad tair blynedd presennol hyd at £4 biliwn yn llai mewn termau real nag a ddisgwyliwyd pan gyrhaeddwyd y setliad hwnnw. Methodd datganiad y Canghellor yn llwyr â chydnabod y pwysau hyn.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, rydym ni wedi gwneud y mwyaf o'n cyllid ni, yn blaenoriaethu gwasanaethau iechyd a chyhoeddus ac wedi mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Yma yng Nghymru, fe fyddwn ni'n gwario £1.6 biliwn yn y flwyddyn ariannol hon ar gynlluniau sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ac ar raglenni sy'n rhoi arian ym mhocedi pobl. Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, rydym ni'n wynebu dewisiadau anodd iawn, ar gyfer y flwyddyn bresennol ac wrth i ni ddechrau llunio ein cyllidebau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Rwy'n parhau i fod yn bryderus ynglŷn â'r lefel sylfaenol o ansicrwydd o ran cynlluniau cyllideb Llywodraeth y DU ag effaith hynny ar ein gallu ni ein hunain i gynllunio.
Mae'r sicrwydd yr oeddwn yn gallu ei ddarparu i bartneriaid cyflenwi a'u gweithwyr drwy osod cyllideb aml-flwyddyn yn 2022 mwy neu lai wedi ei erydu gan y diffyg eglurder ynglŷn â chynlluniau Trysorlys ei Fawrhydi yn y dyfodol, ac rwy'n parhau i fod yn gynyddol bryderus am effaith hynny o bosibl. Mae'r Canghellor wedi dweud ei fod yn dymuno cyflwyno rhagor o doriadau treth, ar yr un pryd â lleihau dyled fel cyfran o gynnyrch domestig gros. Mae hyn yn awgrymu ein bod yn debygol o weld toriadau gwariant enfawr yn y dyfodol. Nid yn unig fod Llywodraeth y DU yn methu â mynd i'r afael â'r problemau yn lefelau cyllido nawr, mae hi hefyd yn benderfynol o fynd â'r wlad ar siwrnai sy'n golygu toriadau pellach mewn gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau eisoes.
Roeddwn i eisoes yn ystyried pa newidiadau y dylem ni eu gwneud i gyfraddau treth trafodiadau tir a bandiau yn sgil y cynnydd ym mhrisiau eiddo yng Nghymru cyn datganiad cyllidol brysiog Llywodraeth y DU. Fe fyddwn i wedi hoffi gwneud y newidiadau hyn yn ein cyllideb ni'n ddiweddarach eleni. Ond rwy'n pryderu y bydd maint y disgwyliad o ran newidiadau yn arwain at gryn ansicrwydd yn ein marchnad dai ni. Rwy'n cyhoeddi felly y byddaf i'n gwneud newidiadau i'r trothwy cychwyn lle mae treth trafodiadau tir yn daladwy gan brynwyr tai a'r gyfradd dreth y maen nhw'n ei thalu. Fe fydd ein band cyfradd sero ni'n cynyddu ar gyfer trafodiadau sy'n talu dim mwy na £180,000 i ddim mwy na £225,000. Fe fydd y band nesaf ar gyfer trafodiadau lle mae'r ystyriaeth a roddir yn fwy na £225,000 ond heb fod y fwy na £400,000. 6 y cant yw'r gyfradd a fydd yn daladwy. Fe fydd hynny'n golygu y bydd gostyngiad mewn treth sy'n daladwy ar gyfer trafodiadau sy'n costio hyd at £345,000 o uchafswm o £1,575. Fe fydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar 10 Hydref.
Bydd cynnydd bychan hefyd yn y dreth o hyd at uchafswm o £550 ar gyfer trafodiadau a fydd yn costio mwy na £345,000. Mae hyn yn cynrychioli tua 15 y cant o drafodiadau eiddo yng Nghymru. Rwyf i wedi gwneud y penderfyniad hwn gan wybod bod trethdalwyr sy'n prynu cartrefi sy'n costio mwy na £345,000 yn rhai a fydd yn fwyaf tebygol o elwa ar y toriadau treth a gyhoeddodd y Canghellor ddydd Gwener diwethaf. Bydd rheolau trosiannol yn cael eu cynnwys i amddiffyn trethdalwyr sydd wedi cyfnewid contractau cyn i'r rheoliadau sy'n achosi'r newidiadau ddod i rym. Ni fydd unrhyw newidiadau i gyfraddau uwch y trafodiadau eiddo preswyl—bydd y cyfraddau a'r trothwyon yn aros yr un fath—ac fe fydd pob elfen arall o dreth trafodiadau tir yn aros yn ddigyfnewid.
Fe wn i y bydd gan lawer o Aelodau ar draws y Siambr bryderon am y mesurau atchweliadol a gyflwynodd Llywodraeth y DU ddydd Gwener diwethaf. Rwyf i'n awyddus i'ch sicrhau chi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phleidiau blaengar yn y fan hon, a gyda'n partneriaid ledled Cymru, i amddiffyn pobl a gwasanaethau cyhoeddus Cymru orau gallwn ni yn sgil yr heriau sy'n ein hwynebu.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, er nad oedd llawer o'i gynnwys yn syndod heddiw? Rydym ni o'r farn mai'r ffordd orau o gael pobl drwy'r cyfnod anodd hwn, a brwydro yn erbyn chwyddiant, yw drwy ennyn twf economaidd yn ogystal â rhoi cefnogaeth uniongyrchol. Nid am economeg rhaeadru yw hyn, mae'n ymwneud â hybu perfformiad ar ochr gyflenwi ein heconomi ni drwy leihau'r baich treth ar fusnesau ac ar bobl. Mae hyn yn ymwenud â diwygio'r economi i wella cynhyrchiant, creu'r amodau ar gyfer buddsoddiad sy'n creu swyddi, ysgogi cyflogau a darparu'r seilwaith a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y DU. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru, yn ôl ei harfer, yn gwthio naratif anobaith. Ond y gwir amdani yw bod y datganiad ariannol yn cyflawni toriad yn y dreth—[Torri ar draws.] Dirprwy Lywydd, nid wyf i'n gallu clywed.
Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn ddigon medrus i ymdrin â heclo fel hyn, ond mae hi'n bwysig ein bod ni i gyd yn gallu clywed yr hyn sydd ganddo i'w ddweud, ac yna fe gaiff yr Aelodau eu tro eu hunain i godi eu cwestiynau eu hunain.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Y gwir amdani yw bod y datganiad ariannol yn cyflawni toriad yn y dreth i 1.2 miliwn a mwy o bobl yng Nghymru, sy'n golygu eu bod nhw'n cadw mwy o'u harian eu hunain—rhywbeth sy'n anodd i Lywodraeth Cymru ei dderbyn—yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fe wnaeth hyd yn oed Syr Keir Starmer groesawu diddymu'r cynnydd mewn yswiriant gwladol a'r toriad yng nghyfradd sylfaenol y dreth incwm, ac fe ddywedodd y byddai'n cadw'r ddau, er bod ei gyfaill da Andy Burnham yn anghytuno â hyn gan ddweud nad dyma'r amser am doriadau yn y dreth. Felly ble mae'r parhad o ran meddylfryd yn hynny? Felly, tybed, gyda phwy yr ydych chi'n cytuno, Gweinidog? Pryd mae hi'n amser i roi toriadau treth, neu efallai nad yw oes byth amser iawn i wneud hynny?
Rwy'n derbyn yn llwyr fod rhai o'r mesurau yr ydym ni i gyd yn gwybod amdanyn nhw heddiw wedi bod yn destun dadlau ffyrnig ac y gellid bod wedi eu hesbonio nhw'n well—rwy'n cytuno â hynny. Ond gadewch i ni fod yn onest, ni wnaeth y cap ar fonysau erioed gyfyngu ar dâl bancwyr, a chyfradd uwch o dreth o 40 y cant yw'r hyn a oedd gan y DU am dros 20 mlynedd o dan Lywodraethau Llafur blaenorol. Nid polisi gan grwpiau ffocws yw hwn ond cynllun hirdymor gyda'r amcan o weld Prydain yn tyfu unwaith eto, a gwneud y DU yn fwy cystadleuol a denu busnesau, swyddi a buddsoddiad. Yn y pen draw, Dirprwy Lywydd, yr hyn y mae'r Canghellor newydd wedi ei ddangos yw bod ganddo gynllun i gael Prydain yn symud unwaith eto, rhywbeth y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei chael hi'n anodd ei wneud yng Nghymru.
Gweinidog, rydym ni wedi clywed eich beirniadaeth chi o gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer twf, ond ymhle mae eich cynllun chi? Beth yw hwnnw? Sut mae Llywodraeth Cymru am geisio hybu buddsoddiad yng Nghymru i gael mwy o swyddi i'n cymunedau ni a chynyddu cyflogau yng Nghymru o'r diwedd? Ers llawer gormod o amser, gweithwyr Cymru sydd wedi bod â'r cyflogau lleiaf yn y DU, bron i £3,000 yn llai bob blwyddyn na phobl yr Alban. Ai cynllun economaidd cadarn yw hwnnw? Rwy'n croesawu cyhoeddiad heddiw ynghylch y dreth trafodiadau tir yn dilyn datganiad y Canghellor, a fydd yn digwydd diolch i'r £70 miliwn gan Lywodraeth y DU, ond fe allai eich Llywodraeth, ac fe ddylai hi fod wedi mynd ymhellach i gefnogi teuluoedd sy'n dyheu am brynu eu cartref cyntaf, yn enwedig pan fo pris cyfartalog tŷ yng Nghymru yn £240,000. Fe ddylech chi fod yn cefnogi twf economaidd.
Dirprwy Lywydd, y gwir amdani yw nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru gynllun addas. Am gyfnod rhy faith, maen nhw wedi siomi'r Cymry. Yn hytrach na chreu cyfleoedd a dyhead ar gyfer adeiladu, maen nhw wedi atal economi'r wlad gyda'u diffyg gweledigaeth a strategaeth. Dyma lle mae ein hathroniaeth ni'n wahanol. Nid ydym ni o'r farn mai gair anweddus yw dyhead. Ni ddylai pobl deimlo yn euog am eu hawydd i gael bywyd gwell iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd. Mae'r Gweinidog yn dadlau hefyd nad yw'r datganiad ariannol yn rhoi cymorth i bobl yn ystod y cyfnod anodd hwn. I fod yn gryno, Dirprwy Lywydd, nid wyf i am ailadrodd yr holl gynlluniau a gyhoeddodd Llywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf. Ond, peidiwn ag anghofio'r warant o bris ynni, a fydd yn arbed tua £1,000 y flwyddyn i aelwydydd, y cynllun lliniaru biliau ynni, yn ogystal â'r cynlluniau cymorth a chefnogaeth wedi'u targedu niferus, gan gynnwys y cynllun cymorth biliau ynni gwerth £400, tra bydd y rhai mwyaf agored i niwed yn derbyn dros £1,200 o gymorth ychwanegol.
Dewch i ni beidio ag anghofio bod Llywodraeth y DU wedi codi trothwy treth incwm ac yswiriant gwladol eisoes, sy'n golygu bod pobl ar incwm is yn cadw mwy o'u harian eu hunain yn barod. Ond, rwy'n derbyn bod angen gwneud mwy, ac rwy'n ofidus am fod Llywodraeth Cymru yn rhy brysur yn beirniadu eu cymheiriaid yn y DU ar bob cyfle yn hytrach na chanolbwyntio ar beth arall y gellid ei wneud i helpu pobl. Felly, sut fydd y gyllideb sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru yn helpu i gyflawni'r cymorth wedi'i dargedu yr ydych chi'n galw amdano? Sut fydd Gweinidogion yn defnyddio eu hysgogiadau i ddarparu pecyn mor eang a chefnogol â phosibl? Diolch i chi.
Dywedodd llefarydd yr wrthblaid efallai nad oedd Llywodraeth y DU wedi esbonio ei chynlluniau hi'n iawn ac y gallen nhw fod wedi eu hegluro yn well. Wel, fe fydd gan y Ceidwadwyr ddigonedd o amser dros yr hydref a'r gaeaf i'w hegluro eu hunain ac egluro polisïau eu plaid nhw i bobl a fydd yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad uniongyrchol i gamreolaeth gan eu plaid nhw o'r economi a'u blaenoriaethau anghywir.
Ni allwch chi fod o'r farn ei bod hi'n iawn bod 90 y cant o'r enillion a gafwyd ddydd Gwener yn mynd i'r 50 y cant mwyaf cefnog o bobl Cymru. Ni allwch chi fod o'r farn ei bod hi'n iawn i 40 y cant o'r enillion fynd i'r cartrefi hynny yn y 10 y cant uchaf o'r dosbarthiad incwm yng nghanol argyfwng costau byw. Pobl sy'n ei chael hi'n anodd sydd ag angen cefnogaeth. Wrth gwrs, mae'r Ceidwadwyr yn dweud eu bod nhw'n awyddus i bobl fod â bywyd gwell. Wel, mae'r Blaid Lafur yn awyddus i helpu pobl gyda'r bywyd gwell hwnnw. Ond nid ydym ni'n awyddus iddyn nhw fod yn eistedd yno'n dyheu am ragor, rydym ni'n awyddus i helpu pobl wrth gyflawni eu posibiliadau nhw, ac rydych chi'n gweld hynny drwy'r holl bolisïau yr ydym ni'n eu cyflwyno yma. Yn amlwg mae gennym ni ddyhead hollol wahanol ar gyfer pobl. Rydym ni'n dymuno cefnogi pobl i gyflawni eu potensial llawn.
Mae'r Aelod yn gofyn beth fyddem ni wedi ei wneud yn wahanol. Fe ysgrifennais i at y Canghellor cyn ei ddatganiad cyllidol yr wythnos diwethaf ac fe nodais i yn union beth yr hoffem ni ei glywed ganddo ef. Roeddem ni'n annog camau i fynd i'r afael â'r bylchau sylweddol yn y gefnogaeth i aelwydydd, teuluoedd, a busnesau mewn anhawster a darparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Awgrymwyd diddymu'r cap budd-daliadau a'r terfyn dau blentyn cosbedigol i gefnogi teuluoedd a rhoi'r dechrau gorau i blant yn eu bywydau. Fe wnaethom ni siarad yn gynharach yn y Siambr am bwysigrwydd tai, felly fe ofynnais i iddyn nhw gynyddu'r cyfraddau lwfans tai lleol a'r cyllid ar gyfer taliadau tai dewisol, er mwyn atal nifer sylweddol o bobl rhag mynd yn ddigartref o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent.
Fe ofynnais i hefyd am gyllid ychwanegol i ateb y pwysau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, ar gyfer cefnogi codiadau cyflog teg ar draws y sector cyhoeddus, ac anelu'r enillion hynny o ran ffawddelw yn y sector ynni, yn hytrach na throsglwyddo'r gost i aelwydydd trwy fenthyca uwch. Fe ddywedais i y dylen nhw roi eglurder ar unwaith ynglŷn â'r terfyn chwe mis ar brisiau i fusnesau a sefydliadau sector cyhoeddus ar gyfer ynni. A beth sy'n digwydd ar ôl y chwe mis cyntaf? Dim byd ar hynny. Ac fe ddywedon ni fod angen iddyn nhw hybu twf economaidd, a darparu pecyn ysgogiad cyfalaf a mynd i'r afael â thanfuddsoddi hanesyddol Cymru gan Lywodraeth y DU yn y rheilffyrdd ac ym maes ymchwil a datblygu. Dim byd ar unrhyw un o'r pynciau hynny chwaith. Felly, rwy'n credu pe bai Llywodraeth y DU newydd gymryd ychydig o'r camau hynny a awgrymwyd iddyn nhw, fe fyddem ni wedi gweld pecyn llawer gwell oddi wrth Lywodraeth y DU.
Mae'r Aelod yn sôn am gyfraniadau yswiriant gwladol. Wel, pwy sydd ar eu helw oherwydd y rhain? Mae'r newidiadau yn y dreth a gyhoeddwyd yn atchweliadol dros ben. Mae dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi canfod y gall gweithwyr ar y cyflogau isaf yng Nghymru ddisgwyl bod ar eu hennill gan ddim ond 63c y mis, 3c y dydd, oherwydd hyn, o ran y codiad mewn yswiriant gwladol, tra gallai'r cyfoethocaf weld £150 y mis. Dywedwch i mi, ble mae'r tegwch yn hynny? Cyllideb hynod annheg, atchweliadol oedd hon ac rwy'n synnu yn fawr fod unrhyw Geidwadwr yn y lle hwn yn fodlon codi ar ei draed i'w hamddiffyn hi.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dwi yn cytuno â llawer o'r hyn rŷch chi'n dweud. Mae'r naratif yn amlwg ac yn un sydd wedi cael ei adlewyrchu ar draws sawl sylw yn y dyddiau diwethaf. Mae e yn ddatganiad cyllidol sy'n creu rhaniadau. Mae e yn regressive, mae e yn annheg, mae e'n foesol anamddiffynadwy, fel rŷch chi'n dweud. Mae'n gwneud y cyfoethog yn gyfoethocach ac yn taro'r tlawd yn gwbl, gwbl anghymesur. Rŷch chi'n dweud nad oes dim ymgysylltiad wedi bod â'r Canghellor cyn ei ddatganiad. Efallai gallwch chi ddweud wrthym ni os oes yna ymgysylltiad wedi bod ers hynny. Dwi'n meddwl fy mod i'n gwybod yr ateb. Yn wir, efallai gallwch chi ddweud os oes unrhyw ymgysylltiad o gwbl wedi bod gyda'r Canghellor newydd ers iddo fe gael ei apwyntio.
Rwy'n teimlo bod yr holl bennod hon yn arddangos yn gyfan gwbl eglur pa mor ddyledus yn gyllidol yw'r Senedd hon oherwydd newidiadau sy'n digwydd, ar fympwy weithiau, ar sail cred dro arall, i San Steffan. Fe allem ni gwyno am ddiddymu bandiau treth, am newidiadau i Yswiriant Gwladol, i lefelau cydweithredu, ond oni fyddai hi'n well, Gweinidog, yn hytrach na chwyno, i ni fod â'r pwerau yn y fan hon mewn gwirionedd ar gyfer gwneud rhywbeth yn eu cylch? Nid ychydig o bwerau benthyg ychwanegol yma ac acw yn unig, ond ail-lunio'r pwerau cyllidol a ddatganolir i Gymru yn sylfaenol iawn. Nid yw'r fframwaith cyllidol presennol yn addas i'r diben; mae hyn yn wir yn amlygu pa mor wan yw safle Cymru o ran gwarchod pobl Cymru rhag y math yma o ymosodiad Torïaidd ar ein dinasyddion mwyaf bregus ni a'n dinasyddion tlotaf ni. Felly, a wnewch chi'n ymuno â Phlaid Cymru wrth alw am wneud y mwyaf o bwerau cyllidol i Gymru fel nad ydym ni, yn y pen draw, yn rhyw fath o Senedd glustogi, sy'n trosglwyddo cyn lleied o'r boen ag y gallwn ni, ac na fyddai raid i chi, ar ôl i chi restru nifer o faterion y gwnaethoch chi ysgrifennu at y Canghellor ynglŷn â nhw'n flaenorol, ysgrifennu at neb arall drwy'r amser yn gofyn am hyn, y llall ac arall, ond ein bod ni â'r pwerau i wneud hynny ein hunain mewn gwirionedd? Rwy'n hyderu y byddwch chi'n ein cefnogi ni yn hyn o beth.
Mae un peth amlwg iawn ar goll yn eich datganiad chi. Hyd y gwelaf i, nid ydych chi'n dweud dim am y gyfradd sylfaenol o dreth incwm. Rydych chi'n iawn i wrthwynebu diddymu'r gyfradd ychwanegol o dreth incwm ac rydych chi'n amlinellu cynlluniau ynglŷn â threth trafodiadau tir. A wyf i, felly, yn iawn i ragdybio bod Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd am fabwysiadu'r polisi Torïaidd hwn, gan amddifadu pwrs y wlad o gronfeydd hanfodol i bob pwrpas sydd eu hangen i ddiogelu'r tlotaf a'r mwyaf bregus mewn cymdeithas? Onid nawr yw'r amser, Gweinidog, i ddefnyddio rhai o'r pwerau sydd gennym ni o ran amrywio trethi yng Nghymru, nid er mwyn torri, na chynyddu trethi yn yr achos hwn, ond mewn gwirionedd i'w cadw nhw ar y cyfraddau presennol yn unig? Fe fyddai gwneud hynny'n golygu £200 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer diogelu'r gwasanaethau hanfodol hynny y bydd pobl yn dibynnu arnyn nhw'n fwy nag erioed o'r blaen. Rwy'n cytuno ag Andy Burnham. Fe ddywedodd ef nad honno yw'r ffordd fwyaf uniongyrchol o ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym ni ar hyn o bryd. Felly, rwyf i'n galw arnoch chi, Gweinidog: a wnewch chi'n defnyddio'r pwerau sydd gennych chi i warchod y gyfradd sylfaenol yng Nghymru o 20c yn y bunt, oherwydd fe fyddai'r arian hwnnw'n helpu i achub bywoliaethau ac yn helpu i achub bywydau?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Rwy'n gallu cadarnhau nad wyf i wedi bod ag unrhyw ymgysylltiad uniongyrchol gyda'r Canghellor hyd yn hyn. Fe ges i gyfarfod gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, ond, yn anffodus, roedd hynny ar ôl i'r Canghellor wneud ei ddatganiad ef. Arfer normal a chwrtais, yn fy marn i, yw i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys gysylltu â Gweinidogion ariannol ledled y Deyrnas Unedig cyn datganiad gan y Canghellor ar gyfer rhoi penawdau'r datganiad hwnnw a chael trafodaeth ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu i'r gwledydd datganoledig, ond, yn anffodus, nid felly y bu hi'r tro hwn, er i mi gael yr alwad hon ar ôl i'r Canghellor eistedd i lawr ar ôl gwneud ei ddatganiad ef. Fe wnes i ychydig o bwyntiau penodol ynglŷn â pharthau buddsoddi. Fe ofynnais i am i ragor o wybodaeth ynglŷn â'r hyn oedd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer hynny—sut roedden nhw'n bwriadu ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny. Fe eglurais i'n dda iawn o'r dechrau y byddem ni, o ran unrhyw gynlluniau, yn hapus iawn i gynnal y trafodaethau hynny ac fe fyddwn ni'n fodlon gwrando ar eu safbwynt nhw, ond nid oes unrhyw beth am ddigwydd yng Nghymru sydd yn erydu hawliau ein gweithwyr ni neu sy'n effeithio ar ein safonau amgylcheddol ni ac yn y blaen. Felly, fe gawsom ni'r sgwrs honno.
Roeddwn i'n awyddus hefyd i holi'r Prif Ysgrifennydd pam nad oedd Llywodraeth y DU wedi darparu dadansoddiad dosbarthiadol ochr yn ochr â'r gyllideb er mwyn i ni weld yr effaith yn eglur iawn y byddai hi'n ei chael ar y gwahanol ddosbarthiadau incwm ledled y DU. Nid oedden nhw wedi gwneud y gwaith hwnnw, ond, wrth gwrs, mae Dadansoddiad Cyllid Cymru wedi gwneud gwaith i'n helpu ni i ddeall beth mae hyn yn ei olygu i ni yma yng Nghymru, ac fe rannais beth o'r gwaith hwnnw gyda chi'n gynharach heddiw.
Rwy'n credu hefyd mai ffaith ddiddorol arall a rannodd Canolfan Llywodraethiant Cymru yw bod yna lai na 9,000 o dalwyr cyfraddau ychwanegol yng Nghymru—felly, dyna'r bobl sy'n ennill dros £150,000 y flwyddyn. Ond, bydd fe fydd diddymu'r gyfradd honno yn golygu tua £45 miliwn yn cael ei roi iddyn nhw, rhwng 9,000 o bobl. Felly, yn amlwg, eto, mae hwn yn bolisi sy'n atchweliadol. Dychmygwch chi dargedu £45 miliwn tuag at y bobl hynny sydd â'r angen mwyaf. Felly, dyna'r math o drafodaethau a gawsom ni. Mae pwyllgor cyllid rhyng-weinidogol gyda'r pedair cenedl i fod i'w gynnal gyda hyn, ac rwy'n gwybod y byddwn ni'n codi rhai o'r trafodaethau hyn bryd hynny.
Rwy'n credu ein bod ni, siŵr o fod, â safbwyntiau ychydig yn wahanol o ran swyddogaeth yr undeb yn y cyfnod hwn. Rwy'n ystyried bod yn rhan o'r undeb yn bolisi yswiriant pan fyddwch chi mewn cyfnod anodd yn economaidd, yn enwedig yn ystod argyfwng o ran costau byw. Fe ddylai Llywodraeth y DU fod yno mewn gwirionedd i gynorthwyo pob rhan o'r DU, yn enwedig y rhai sydd â'r angen mwyaf. Felly, o fy rhan i fy hun, nid y ffaith mai undeb sydd gennym ni yw'r broblem; y broblem yw bod gennym ni Lywodraeth y DU gwbl echrydus sy'n gyfrifol am y penderfyniadau a wneir.
Er hynny, rwy'n credu y ceir digon o dir cyffredin, o ran gwneud y mwyaf o'r pwerau cyllidol sydd ar gael i ni. Fe wn i fod y ddau ohonom ni'n awyddus i weld pwerau mwy a gwell o ran benthyca, er enghraifft. Rydym ni'n dymuno gweld gwell hyblygrwydd cyllidol ar gael i Lywodraeth Cymru i'w helpu i reoli a gwneud y mwyaf o'i chyllideb. Felly, fe geir rhywfaint o dir cyffredin yn hynny o beth. O ran unrhyw ddatganoliad pellach o bwerau treth, rwy'n credu ein bod ni yn fwy na thebyg wedi llwybro dipyn o'r ffordd honno erbyn hyn, gyda Llywodraeth y DU sy'n elyniaethus i ddatganoli, a dweud y lleiaf, a lle na allwn hyd yn oed gytuno ar rywbeth mor anghyfansoddiadol ac mor syml â threth tir gwag, y mae Llywodraeth y DU wedi dweud o'r blaen ei bod hi'n dymuno mynd ar ei hôl. Felly, fe fyddwn ni'n parhau i wneud dadleuon rhesymegol ac fe fyddwn ni'n parhau i gael cefnogaeth gan sefydliadau uchel eu parch i gefnogi'r dadleuon rhesymegol hynny, ac fe fyddwn i'n amlwg yn awyddus i weithio gyda chydweithwyr sydd o'r un farn â honno ar draws y Siambr.
A gaf i groesawu datganiad y Llywodraeth? Rydym ni wedi cael datganiad ariannol trychinebus gan Lywodraeth San Steffan. Mae chwyddiant a chyfraddau llog yn cynyddu, ond mae'r bunt yn ysigo. Mae cyfradd llog Banc Lloegr yn parhau i fod ar lefel isel hanesyddol, er mae'n debyg na fyddaf i'n dweud hynny ymhen y mis. Yn anffodus, mae prisiau tai wedi cynyddu ar sail y disgwyliad y bydd cyfraddau llog isel yn parhau. Mae chwyddiant gennym ni sy'n cael ei yrru gan brisiau nwyddau. Ni fydd cyfraddau llog cynyddol yn lleihau prisiau nwyddau, sy'n cael eu masnachu ar farchnadoedd byd-eang, ond fe fyddan nhw'n achosi caledi ariannol. Mae prisiau, a ddynodir mewn doleri yn bennaf, yn cynyddu oherwydd—roeddwn i am ddweud 'y gostyngiad', ond rwyf i am ddweud 'y cwymp'—y cwymp yng ngwerth y bunt. Mae'r bunt wedi gostwng o $1.50 i $1.08 yn erbyn y ddoler ers i ni bleidleisio i adael Ewrop. Nawr, beth bynnag yr ydych chi'n ei ddweud a oedd hi'n iawn i adael Ewrop neu beidio, rydym ni'n sicr wedi talu pris o ran gwerth yr arian cyfred. Mae Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllideb wedi dweud mai 2022-23 a fydd yn gweld y cwymp mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers i hynny gael ei gofnodi.
A gaf i ddim ond codi un mater, a godais i'r wythnos diwethaf ac fe fyddaf i'n parhau i'w godi: problem taliadau sefydlog am ynni, sy'n effeithio fwyaf ar y tlotaf? A fydd y Gweinidog yn codi hyn gyda Llywodraeth San Steffan? Nid oes unrhyw beth, yn fy marn i, yn fwy digalon na gweld pobl sydd wedi bod yn crafu neu'n benthyca eu harian i brynu tocynnau ynni dim ond i'w gweld nhw'n cael eu llyncu yn rhannol gan daliadau sefydlog am ddyddiau nad oedden nhw'n gallu fforddio defnyddio unrhyw ynni o gwbl, ond maen nhw'n parhau i dalu'r taliadau sefydlog hyn. Mae hyn yn effeithio ar y tlotaf yn y gymdeithas, ac a gaf i annog y Gweinidog i godi hyn gyda San Steffan? Nid oes raid i hynny gostio unrhyw beth o ran cyfanswm incwm, ond yn sicr fe fyddai hynny'n llesol i rai sydd ymhlith y tlotaf yn y gymdeithas.
Rwy'n llwyr gydnabod popeth a ddywedodd Mike Hedges o ran effaith economaidd y datganiad. Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg iawn erbyn hyn mai'r farn gyffredin yw bod y Canghellor newydd wedi mentro ar hap enfawr gyda chyllid y genedl, ac rwyf i o'r farn mai cyngor doeth i bawb yw, mewn gwirionedd, i beidio byth â gamblo mwy nag y gallwch chi fforddio ei golli. Ond, yn anffodus, mae'r Canghellor wedi gamblo gyda mwy na'i fywyd ef ei hunan yn unig, ei gyfleoedd ei hunan; mae ef yn gamblo gyda bywydau pawb yn y wlad hon, a'i phobl sydd yn methu â fforddio colli. O'r herwydd, rwy'n credu mai sylw pwysig iawn yw hwnnw hefyd. Mae pwyntiau Mike Hedges yn gwbl gywir o ran y risgiau diangen sy'n cael eu cymryd gyda chyllid cyhoeddus. Yn amlwg, rydym ni wedi gweld bod hynny wedi dychryn buddsoddwyr. Nododd y Financial Times gyffelybiaethau â chyllidebau 1972 a 1973, a ddisgrifiodd fel
'y darnau gwaethaf o reolaeth economaidd byrdymor ym Mhrydain ers yr ail ryfel byd', ac mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos bod polisïau'r Llywodraeth newydd yn debygol o roi dyled ar 'lwybr o gynnydd parhaus'.
Soniodd Mike Hedges hefyd am yr effaith ar sterling, ac mae'r diffyg hyder yn rheolaeth Llywodraeth y DU o'r economi a chyllid cyhoeddus wedi gweld sterling yn crebachu, a fydd yn arwain at gynnydd mewn prisiau i ddefnyddwyr yma ac yn peri pryder ynglŷn â chynnydd sydyn yn y gyfradd llog ar ddyled y Llywodraeth. Felly, ceir ystod gyfan o ymatebion negyddol yma i gyllideb Llywodraeth y DU wythnos diwethaf.
Rwy'n credu bod y pwynt am daliadau sefydlog yn un pwysig, ac fe fyddwn ni'n sicr yn dod o hyd i ffyrdd o godi hynny gyda Llywodraeth y DU. Mae'n gwneud y pwynt ehangach hwnnw, on'd yw e', ei bod hi'n costio mwy i fod yn dlawd yng Nghymru ac yn y DU ar hyn o bryd, am amrywiaeth eang o resymau, gan gynnwys y ffaith bod eich dewisiadau chi wrth siopa yn aml yn llawer mwy cyfyngedig os nad oes gennych chi gar, mae'n rhaid talu am bethau ar hurbwrcas, sy'n costio llawer mwy yn y pen draw, a ffaith ddigalon a glywais i mewn digwyddiad etholaethol dros yr wythnos ddiwethaf oedd ei bod hi mewn gwirionedd yn costio mwy i redeg oergell wag nag y mae hi i redeg un lawn. Rwy'n credu bod hwnnw'n bortread mor erchyll ac eironig o'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad hi. Rwy'n credu ei bod hi'n eglur mai cyllideb ar gyfer y bobl gyfoethocaf un yn y gymdeithas oedd hon. Nid oedd hi'n gyllideb i Gymru nac yn gyllideb i bobl Cymru. Mae Liz Truss wedi gweld yr economi yn chwalu gan £500 biliwn—neu ddoleri, fel gallech chi ddweud y dyddiau hyn—ers iddi ddod yn Brif Weinidog. Dyma'r methiant economaidd mwyaf rhyfeddol y gallaf i ei gofio yn fy myw, ac, ynghyd â Brexit, rwyf i o'r farn ein bod ni'n gweld cyfradd o niwed strwythurol difrifol iawn i sail ein heconomi ni ar hyn o bryd.
Rwy'n cytuno yn fawr ag asesiad y Gweinidog. Rwyf i'n cytuno hefyd â'r pwynt a gafodd ei wneud gan Llŷr o ran y fframwaith ariannol, ac ystyried y fframwaith ariannol unwaith eto. Rwy'n credu bod y fframwaith ariannol wedi ei sefydlu ar adeg pan oedd gennych chi ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, ac yn amlwg ar hyn o bryd nid dyna sydd gennym ni. Rwyf i'n credu, Gweinidog, fod y pwyntiau a wnaethoch chi yn eich datganiad chi'r prynhawn yma yn sail i'r asesiad hwnnw. Fe hoffwn i chi, pe gallech chi, Gweinidog, roi cost y newidiadau a wnaethoch chi o ran y dreth trafodiadau tir—faint y bydd hynny'n ei gostio i drysorlys Cymru—i ni allu deall canlyniadau hynny. Ac un o'r materion na wnaethom ni ei drafod mewn gwirionedd—
Alun, rydych chi wedi mynd dros eich amser. A wnewch chi fod yn gyflym iawn, os gwelwch chi'n dda?
Iawn, rwy'n deall hynny.
Dyma'r effaith sydd ar wariant cyhoeddus, a'r effaith ar ein gallu ni i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Mae chwyddiant yn taro gwasanaethau cyhoeddus eisoes, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu deall yr effaith a gaiff datganiad y gyllideb hon ar ein gallu ni i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
Unwaith eto, rwy'n cyfuno â phopeth a ddywedodd Alun Davies ynglŷn â'r ffaith mai cyllideb i'r cyfoethocaf un yw hon, nad yw'n gwneud unrhyw les ond i'r ychydig rai ymhlith pobl yma yng Nghymru. Mae hwn yn fethiant economaidd eithriadol ac rwy'n cytuno mai ymagwedd gyfochrog arall gan y Ceidwadwyr â Brexit yw hon o ran ffyrdd o beri niwed economaidd hirdymor i Gymru, ac, yn amlwg, yr holl heriau cymdeithasol ac economaidd sy'n cyfochri â hynny hefyd.
O ran y fframwaith ariannol, ydw, rwyf i o'r farn bod mwy o waith i'w wneud nawr o ran ystyried sut olwg ddylai fod ar hwnnw i'r dyfodol, ac rwy'n gwybod y bydd gan gydweithwyr ddiddordeb mawr yn hynny. Ac rwy'n credu mai'r pwynt hwn ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus yw un o'r pethau pwysicaf, sydd, yn fy marn i, wedi cael ei anwybyddu hyd yma yn y sylwadau wedi'r gyllideb. Ond, ar ôl y twrw ac wrth i ni ddechrau deall beth fydd yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus, a'r ffaith nad oes yna fwy o arian am ddod a bydd raid gwneud dewisiadau sy'n anodd, rwyf i o'r farn y byddwn ni'n siarad llawer mwy am hynny. Rwy'n gwybod y bydd gan lywodraeth leol ac iechyd, yn benodol, lawer i'w ddweud ynglŷn â hynny.
Ac wedyn, dim ond i ymateb i'r cwestiwn penodol o ran cost y newidiadau i brif gyfraddau preswyl a bandiau Treth Trafodiadau Tir, yn y flwyddyn ariannol hon £9 miliwn fydd hynny; yn 2023-24, £19 miliwn; ac yn 2024-25, £18 miliwn. Yr effaith gyfan yw na fydd cyfran uwch o drafodiadau yng Nghymru nag yn Lloegr yn talu unrhyw dreth, ac ni fydd tua 61 y cant o drafodiadau yn talu unrhyw dreth yn 2023-24. Ac, wrth gwrs, mae'r cynnydd trothwy y gwnaethom ei gyhoeddi yn fwy na'r twf mewn prisiau rhwng 2018-19 a 2021-22. Felly, rwy'n credu bod hynny'n cynnig pecyn da ar gyfer rhai sy'n prynu tai. Fel rwy'n dweud, rhywbeth yw hwnnw yr ydym ni wedi bod yn gweithio arno dros yr haf. Roeddwn i wedi gobeithio ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, ond nid oeddwn i am achosi ansicrwydd yn y farchnad dai, a dyna pam rwyf i wedi ei roi gerbron heddiw.
Gweinidog, yr wythnos hon, fe welodd pobl Cymru Ganghellor y DU yn dosbarthu toriadau annheg sobr yn y dreth a hynny'n anfoesol, yn fy marn i, i'r mwyaf cefnog; yn tynnu'r cap oddi ar fonysau i fancwyr; yn diogelu elw cwmnïau ynni mawr; yn colli rheolaeth ar sterling, sydd wedi cwympo dros ddibyn; a chynyddu dyled a chost dyledion i'r DU; gan lwytho'r costau hynny ar ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau'r dyfodol; a chynyddu cost mewnforion; a chynyddu'r risg o forgeisi ar gartrefi a chostau benthyca, yn codi llawer tu hwnt i fforddiadwyedd ac yn andwyo aelwydydd hyd y gwanwyn; ac ychwanegu costau newydd brawychus y tu hwnt i argyfwng costau byw presennol y Ceidwadwyr i deuluoedd, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad. A fyddech chi'n cytuno â mi, Gweinidog, nad dyma'r amser i bwyllgor 1922 ymateb i lythyrau sy'n galw am newid arweinydd y blaid Dorïaidd; dyma'r amser i gael etholiad cyffredinol a chael newid i Lywodraeth sydd â chymhwysedd economaidd cadarn, i Lywodraeth Lafur yn y DU?
Byddwn, Dirpwy Lywydd, fe fyddwn i.
Mae'r cyfoethogion yn mynd yn fwy cyfoethog; a'r tlodion yn mynd yn fwy tlawd. Bydd pobl yn cael trafferth talu eu morgeisi ar ben y costau ynni sy'n cynyddu. Mae gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau yn dilyn 10 mlynedd o gyni. Fe allai 45 biliwn o bunnoedd o doriadau treth fod wedi talu am gynnydd o 19 neu 20 y cant yn nifer y gweithwyr yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys gofalwyr, a chredyd cynhwysol yw effaith hynny hefyd. Felly, rwy'n clywed y bydd pobl sy'n gweithio'n rhan amser yn gorfod gweithio rhagor o oriau er mwyn gallu derbyn credyd cynhwysol, a bydd hynny yn effeithio ar rieni, gofal plant ac ar bobl ag anableddau. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi—. A menywod, unwaith eto. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai pobl gyffredin Cymru a fydd yn talu am hyn am flynyddoedd i ddod, yn hytrach na'r bancwyr a fydd yn llenwi eu pocedi, a'r cyfoethogion?
Rwy'n cytuno yn llwyr mai cyllideb gosbedigol yw hon gan Lywodraeth y DU, ac mae'n dweud cyfrolau mai dim ond llefarydd y Ceidwadwyr y prynhawn yma sydd wedi codi i amddiffyn cyllideb y Ceidwadwyr yr wythnos hon. Fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i weld beth yw barn yr Aelodau Ceidwadol amdani, a'r rhai nad ydyn nhw'n teimlo yn awyddus i sefyll i'w hamddiffyn, am na ellir ei hamddiffyn hi—dyna pam. Ac rwy'n credu bod y pwynt hwn yn bwysig iawn ynglŷn â'r ffaith mai pobl dlotach a fydd dan anfantais i raddau helaeth, ond yr ymagwedd hefyd, yn syml.
Felly, mae Llywodraeth y DU o'r farn bod yn rhaid annog pobl gyfoethog sydd â llawer o arian parod i fynd allan i wneud rhywfaint o waith a thyfu yr economi. Ond, wrth wneud hynny hefyd, maen nhw o'r farn bod yn rhaid i chi roi cweir iawn i bobl dlotach oherwydd y dylen nhw gael y math hwnnw o ysgogiad i fynd allan a gweithio, oherwydd mae'r hyn y maen nhw'n ei wneud o ran credyd cynhwysol yn gwbl gosbedigol. Ni all pobl sydd, am ba bynnag reswm, ond yn gallu gweithio am nifer benodol o oriau, efallai eu bod nhw â gofal plant—wrth gwrs, mae'r gyllideb hon yn wrth-fenywaidd iawn, iawn hefyd—efallai y bydd cyfrifoldebau ganddyn nhw o ran gofal plant, efallai eu bod nhw'n anabl ac yn gweithio cymaint o oriau ag y gallan nhw, ond nawr, os nad ydyn nhw'n mynd allan a chael swydd isafswm cyflog arall, fe fydd eu budd-daliadau nhw'n cael eu hatal. Ac rydym ni'n gwybod bod pobl sy'n cael eu cosbi drwy eu budd-daliadau, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, yn fwy tebygol o roi'r gorau i hawlio budd-daliadau a pheidio â hawlio dim na gwneud unrhyw beth arall. Felly, yn amlwg, fe fydd y gyllideb hon yn cael yr effaith fwyaf ddinistriol ar y bobl sydd â'r angen mwyaf am gymorth.
Ac yn olaf, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a wnewch chi roi syniad i ni efallai a oeddech chi'n cytuno gydag Andy Burnham ynglŷn â gadael y gyfradd o 20 y cant fel y mae hi, fel y byddai hynny'n cadw'r arian yno, er mwyn i ni fuddsoddi yn wirioneddol yn ein cymunedau ni?
Felly, mae gennym ni ddull profedig iawn o bennu cyfraddau treth incwm yng Nghymru, felly, ein harfer arferol ni yw cyhoeddi'r cyfraddau hynny ochr yn ochr â'r ddadl derfynol ar y gyllideb. Ac, yn amlwg, fe fyddwn ni'n cynnal trafodaethau gyda chydweithwyr ymlaen llaw, oherwydd fe fydd gennym ni bleidlais yn y Senedd hon ar ein cyfraddau ni o dreth incwm yng Nghymru. Rydych chi wedi clywed yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrth y Senedd yr wythnos diwethaf yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â'n dull ni o ymdrin â chyfraddau treth incwm yng Nghymru, ond fel y dywedais i, rydym ni'n ystyried y mater hwn yn fanwl iawn, rydym ni'n ystyried ystod gyfan o eitemau, ac fe fyddwn ni'n mynegi ein cyhoeddiadau ni yn y ffordd arferol, yn hytrach na chael ein gwthio i wneud unrhyw gyhoeddiad brysiog oherwydd camau gan ran o Lywodraeth y DU. Ac, fel y dywedais i, ein harfer arferol ni a'n trefn arferol ni yw gwneud y cyhoeddiadau hynny a chynnal y bleidlais honno ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol.
Mark Isherwood, rydych chi'n wedi codi eich llaw. Datganiad yw hwn ac nid ymyrraeth. A ydych chi'n dymuno gofyn cwestiwn, oherwydd fe wnaeth y Gweinidog wahodd Aelodau i ofyn cwestiynau?
Ie, i ofyn cwestiwn, os yw hynny'n briodol, i chi.
Fe wnaf ganiatáu i chi fod y siaradwr olaf felly, oherwydd mae ein hamser ni bron ar ben, ac fe gawsoch chi eich gwahodd i ofyn cwestiynau, felly rwyf i am ganiatáu hynny. Mark Isherwood.
Mae hynny'n garedig iawn, diolch i chi. Wel, rwyf i wedi bod yn Aelod am bron i 20 mlynedd, a thrwy gydol y cyfnod hwnnw, rwyf i wedi clywed Llywodraethau Cymru yn sôn yn fynych am swm yr arian sydd ganddi i'w wario ond bron byth am sut y caiff yr arian hwnnw ei ennill. O ganlyniad, Cymru sydd â'r ffyniant gwanaf, y cyflogau isaf, y gyflogaeth isaf a'r gyfraddd uchaf o dlodi plant yn y DU, ac mae hi'n talu biliynau yn llai o dreth nag y mae'n ei dderbyn gan y Trysorlys. Onid yw hi'n wir fod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn llwyr ddibynnol ar gardod oddi wrth drethdalwyr yn ne-ddwyrain Lloegr a dinas Llundain?
Wel, mae yna argraff yn cael ei chreu o dôn ei gyfraniad ef nad yw'r Aelod yn hoff iawn o bobl Cymru na'u hymdrechion yma yng Nghymru. Nac ydw, mae'n ddrwg gen i, nid wyf i'n cydnabod yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Sôn ydym ni yma am gyllideb sydd mor gyfan gwbl atchweliadol. Sut ar y ddaear y gall Aelodau geisio amddiffyn rhywbeth sy'n gwneud dim ond dwyn arian oddi ar bobl dlotach—gadewch i ni gofio, bydd pobl ddiamddiffyn yn talu am y benthyca hwn am flynyddoedd i ddod. Bydd llai o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, felly os bydd unrhyw Geidwadwr yn codi ar ei draed yn ein dadleuon ni ar y gyllideb ac yn gofyn i mi roi ceiniog arall i wasanaethau cyhoeddus, ni wnaiff hynny lawer o argraff arnaf i, pe bydden nhw wedi bod yn gefnogol i'r gyllideb hon gan Lywodraeth y DU. Ac os gwelaf i lun o Geidwadwr mewn banc bwyd neu ganolfan gynnes dros gyfnod gaeaf eleni, ni fydd hynny'n gwneud llawer o argraff arnaf i chwaith, oherwydd nid oes unrhyw angen i'r pethau hyn ddigwydd. Dewisiadau gwleidyddol yw banciau bwyd a chanolfannau cynnes a wnaeth Llywodraeth y DU ac a gadarnhawyd yn eu cyllideb nhw—[Torri ar draws.]
A gaf i ofyn i bob Aelod ymdawelu, os gwelwch chi'n dda, oherwydd fe hoffwn i gael gwrando ar gyfraniad y Gweinidog?
Rwyf i wedi gorffen nawr, Dirprwy Lywydd.
Diolch i'r Gweinidog.