– Senedd Cymru am 3:05 pm ar 12 Hydref 2022.
Eitem 5 yw'r eitem nesaf, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig. Paul Davies.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw. Lywydd, mae'n teimlo fel amser maith er pan basiodd y Senedd gynnig yn unfrydol dros gael pwyllgor i adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr Llywodraeth Cymru (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar fyrder. A'r rheswm am hynny yw oherwydd ei bod hi'n amser maith ers hynny.
Roedd Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig o ddifrif ynglŷn â'r gwaith, ac fe gytunodd i gychwyn ar yr adolygiad yn ein cyfarfod cyntaf. Fodd bynnag, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, cafodd adroddiad y pwyllgor ei ohirio oherwydd adolygiad barnwrol i gyfreithlondeb y rheoliadau, mater a oedd allan o ddwylo'r pwyllgor. Roedd yr adolygiad barnwrol hwnnw'n bwysig i'r ddadl hon, nid yn unig i egluro pam y cymerodd gymaint o amser i gynhyrchu adroddiad y pwyllgor, ond hefyd i dynnu sylw at ba mor arwyddocaol yw'r rheoliadau hyn.
Er bod yr holl reoliadau y pleidleisiwn arnynt yn bwysig, mae'r rheoliadau llygredd amaethyddol hyn yn effeithio ar bethau sy'n greiddiol i gynnal bywyd yng Nghymru—cynhyrchu bwyd, ansawdd ein dŵr a'r amgylchedd ehangach. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd y rheoliadau'n lleihau llygredd yn ein hafonydd yn y pen draw, yn osgoi cyfnewid llygredd ac yn atal neu'n lleihau gollwng mwyfwy o faetholion i'r amgylchedd. Dywedodd y Gweinidog yn glir iawn fod y rheoliadau, drwy weithredu yn y modd hwn, yn cyflawni yn erbyn ystod eang o gyfrifoldebau Cymru ac yn darparu ymateb cyfannol i heriau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â chynhyrchiant amaethyddol.
Serch hynny, er mwyn gweithredu'r rheoliadau hyn, bydd gofyn i lawer o ffermwyr gyflawni gwaith cydymffurfio, a fydd yn cynnwys gwaith adeiladu sylweddol ar gost sylweddol, a gallai hynny fygwth eu hyfywedd. Felly, mae'n hanfodol fod y rheoliadau hyn yn gosod y cydbwysedd cywir rhwng gwarchod ein hamgylchedd naturiol a chynnal system reoleiddio ymarferol i ffermwyr Cymru.
Nawr, cyn imi redeg drwy'r adroddiad a'i argymhellion, rwyf am dynnu sylw at ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad a'i berthnasedd i'r ddadl hon. Roedd disgwyl ymateb Llywodraeth Cymru ar 14 Medi, ac eto fe'i gosodwyd yn y pen draw ar 5 Hydref, sef y dyddiad terfynol olaf ar gyfer ei gynnwys ar agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw. Fe wnaeth yr oedi hwn amharu'n ddifrifol ar allu Aelodau i graffu ar ymateb y Llywodraeth, ac o'r herwydd mae'n effeithio ar y ddadl hon. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd pob Gweinidog yn y dyfodol yn ystyried pwysigrwydd ymateb i adroddiadau pwyllgorau'r Senedd mewn modd amserol, fel y gallwn gael dadleuon cwbl wybodus ar adroddiadau pwyllgorau'r Senedd.
Nawr, lansiodd Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig ymgynghoriad ar y rheoliadau, a gynhaliwyd dros haf 2021, ac fe wnaeth ystod eang o randdeiliaid—gan gynnwys pysgotwyr, ffermwyr a sefydliadau amgylcheddol—ymateb i'r ymgynghoriad. Ni fydd yr Aelodau'n synnu clywed bod y rheoliadau'n ddadleuol. Mewn ymateb i'n hymgynghoriad, mae ffermwyr wedi cyfeirio atynt fel rhai didostur a chosbol, ac fe wnaethant fynegi pryderon y byddant yn afresymol o ddrud i'w gweithredu ac y gallant achosi i ffermydd fynd i'r wal.
Ar y llaw arall, cawsom dystiolaeth gan sefydliadau amgylcheddol a physgotwyr a oedd yn croesawu'r rheoliadau, gan ddadlau ei bod yn hen bryd eu cael. Fe wnaethant ddweud wrthym nad yw'r system bresennol yn atal y llygrwyr amaethyddol gwaethaf, a bod gweithredu ar ffurf y rheoliadau hyn yn mynd rywfaint o'r ffordd i leihau'r llygredd yn ein hafonydd. Felly, fel pwyllgor, roeddem yn ymwybodol iawn fod angen i'r rheoliadau daro'r cydbwysedd cywir a'u bod mor effeithiol â phosibl. Pan ddaeth yr adolygiad barnwrol i ben, llwyddodd y pwyllgor i barhau gyda'n hymchwiliad a gosod ein hadroddiad.
Lywydd, mae'n cynnwys 10 argymhelliad, ac am fod yr amser yn gyfyngedig y prynhawn yma, hoffwn ganolbwyntio ar dri maes penodol: cymorth ar gyfer cyflawni, rhanddirymiadau, a phryderon ynghylch ffermio yn ôl y calendr. Yn gyntaf, un o'r materion mwyaf dybryd a godwyd oedd y gost i ffermwyr o gyflawni'r rheoliadau hyn, ac fe'i gwnaed yn eithaf clir i'r pwyllgor y gallai ffermydd fynd i'r wal. Felly, roeddwn yn falch o weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi £20 miliwn ychwanegol tuag at helpu ffermwyr i gyflawni'r rheoliadau hyn, fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig ddaeth gydag ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor. Rwy'n falch hefyd o weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu dadansoddiad manwl i'r pwyllgor o'r darpariaethau a wneir, gan gynnwys cymorth ariannol uniongyrchol a chyllid ychwanegol i wasanaethau cynghori. Ac wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau pryd y gall y pwyllgor ddisgwyl yr wybodaeth honno.
Yn yr un modd, mae angen cefnogaeth i gyrff cyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi amcangyfrif y byddant hwy angen 60 o staff ychwanegol i ddarparu'r isafswm llwyr, ac o bosibl fod angen dros 200 o aelodau staff i ddarparu gorfodaeth lawn mewn perthynas â'r rheoliadau hyn. Wrth gwrs, bydd trefn orfodi dameidiog heb ddigon o adnoddau yn rhoi'r gwaethaf o'r ddau fyd i ni, ac roeddwn yn poeni braidd wrth ddarllen yn ymateb y Llywodraeth nad yw'r cytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer y rheoliadau wedi ei gytuno eto gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd angen amser ar Cyfoeth Naturiol Cymru i recriwtio a hyfforddi staff ychwanegol, ac felly mae'n hanfodol fod cytundeb lefel gwasanaeth yn cael ei roi ar waith cyn gynted â phosibl. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi diweddariad i ni ar ei ddatblygiad ac unrhyw wybodaeth bellach sydd ganddi am ba mor hir y gallai gymryd i Cyfoeth Naturiol Cymru fod mewn sefyllfa i allu gorfodi'r rheoliadau hyn.
Lywydd, clywodd y pwyllgor bryderon hefyd ynghylch rhanddirymiadau. Roeddem yn pryderu y byddai tynnu'r rhanddirymiad ar gyfer ffermydd glaswelltir cymwys yn ôl yn rhoi ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol, ac felly argymhellwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ailgyflwyno'r rhanddirymiad a oedd yn caniatáu i ffermydd glaswelltir cymwys wasgaru hyd at 250 kg yr hectar o nitrogen. Rhybuddiodd undebau ffermio y gallai'r penderfyniad i beidio â chynnwys y rhanddirymiad alw am ddadstocio ar lawer o ffermydd Cymru, gan effeithio ar hyfywedd ffermydd, màs critigol o fewn y gadwyn gyflenwi a chyflogaeth, ac y gallai'r gyfradd is o 170 kg yr hectar arwain at gynhyrchu alltraeth mewn gwledydd sydd â safonau is. Felly, rwy'n falch o weld, yn y datganiad ysgrifenedig i gyd-fynd ag ymateb y Llywodraeth, y bydd ffermydd Cymru yn gallu gwneud cais yn awr am drwydded i wasgaru mwy o nitrogen. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sicrwydd i ffermwyr Cymru heddiw na fydd y mesur hwn yn arwain at fiwrocratiaeth bellach iddynt.
Yn olaf, rwyf am sôn am ffermio yn ôl y calendr. Mae Rhan 5 o reoliadau Llywodraeth Cymru'n pennu cyfnodau gwaharddedig, pan fo gwasgaru wedi'i wahardd. Ac er bod eithriadau i rai mathau o ddaliadau a phridd, bydd y cyfnod gwaharddedig yn para o fis Hydref tan fis Ionawr, gyda rhai cyfyngiadau pellach yn para tan ddiwedd mis Chwefror. Clywodd y pwyllgor ddadleuon cryf am bwysigrwydd hyblygrwydd i ffermwyr ar gyfer pryd i wasgaru slyri, ac fe gafodd hynny ei atgyfnerthu i ni mewn gwirionedd yn ystod taith ein pwyllgor i Ganolfan Ymchwil Amaeth Gelli Aur yn sir Gaerfyrddin. Roeddem eisoes wedi clywed pethau mawr am eu gwaith ar brosesu slyri a defnyddio technoleg i benderfynu ar yr amser gorau i wasgaru. Yn ystod yr ymweliad, dangoswyd offer i ni sy'n cefnogi ap y bu'r ganolfan yn ei ddatblygu. Roedd yn gyfuniad trawiadol o orsaf dywydd a synwyryddion sy'n monitro'r amodau, lle mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei bwydo i mewn i ap sy'n prosesu'r data ac yn rhoi statws coch, oren neu wyrdd i ffermwyr ar gyfer gwasgaru slyri. Cawsom wybod bod y system wedi ei phrofi yn ystod cyfnod gwaharddedig 2021-22, a'r canfyddiadau oedd bod yr ap yn dangos statws gwyrdd ar gyfer gwasgaru trwy fis Chwefror a mis Mawrth, sy'n golygu bod y tywydd a'r amodau tir yn iawn ar gyfer gwasgaru slyri. Fodd bynnag, bron cyn gynted ag y daeth y cyfnod gwaharddedig i ben, fe wnaeth yr ap ddynodi bod yr amodau'n goch, gan nodi nad oeddent yn addas ar gyfer gwasgaru slyri. Wrth gwrs, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o ba mor anrhagweladwy y gall y tywydd fod, felly mae'n hanfodol fod ffermwyr yn cael newid i system a gefnogir gan dechnoleg yn seiliedig ar y byd go iawn, amodau byw, nid system galendr sy'n seiliedig ar gyfartaledd tymhorol, a hynny cyn gynted â phosibl.
Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu unrhyw argymhellion amgen addas sy'n defnyddio technoleg yn hytrach na chyfnodau gwaharddedig ar gyfer gwasgaru slyri ac er fy mod yn croesawu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn agored i awgrymiadau newydd, rwy'n siomedig fod eu hymateb yn rhoi'r baich cyfrifoldeb ar y gymuned ffermio yn hytrach na bod y Llywodraeth yn mynd ati'n rhagweithiol i fynd ar drywydd dewisiadau technolegol eraill yn lle ffermio yn ôl y calendr. Felly, rwy'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog roi ystyriaeth bellach i hyn.
Lywydd, mae adroddiad y pwyllgor yn cwmpasu popeth o ddata ansawdd dŵr i orfodaeth ac ymgorffori'r rheoliadau mewn safonau gofynnol cenedlaethol, ac rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr i ddarllen ein hadroddiad. Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu effeithiolrwydd mesurau technolegol amgen, i fod yn gwbl dryloyw ynghylch y cymorth cyllido sydd ar gael i ffermwyr, ac i ddarparu sicrwydd bod yna adnoddau ac arweiniad digonol i Cyfoeth Naturiol Cymru allu monitro a gorfodi'r rheoliadau hyn. Fel pwyllgor, rydym yn bwriadu parhau i adolygu'r rheoliadau hyn yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i sicrhau eu heffeithiolrwydd, ac felly, ar y nodyn hwnnw, Lywydd, edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl hon. Diolch.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma. Mae polisi parth perygl nitradau Llywodraeth Cymru, pwnc yr adroddiad hwn, wedi bod yn bolisi blaenllaw ond dadleuol gan y Llywodraeth hon a Llywodraethau blaenorol yng Nghymru. Felly, nid oedd ond yn iawn i'r Senedd ofyn i'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig adolygu'r rheoliadau hyn ar frys. Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn awyddus i bwysleisio nad parthau perygl nitradau yw'r rhain, ond gyda Rhannau 2, 3, 4, 5 a 7 o'r rheoliadau adnoddau dŵr yr un fath air am air â pholisi parth perygl nitradau, mae arnaf ofn, os yw'n edrych fel hwyaden ac yn cwacian fel hwyaden, yna hwyaden yw hi.
Gan ganolbwyntio ar yr adroddiad ei hun, cefais fy siomi wrth weld Llywodraeth Cymru'n gwrthod argymhelliad 1 yn y papur hwn,
'Dylai Llywodraeth Cymru ailgyflwyno’r rhanddirymiad a oedd yn caniatáu i
ffermydd glaswelltir cymwys daenu hyd at 250 kg/ha o nitrogen.'
Nawr, rwy'n sylweddoli fod hwn wedi ei wrthod ar y sail fod datganiad ar y cyd yr wythnos diwethaf gyda Phlaid Cymru, fel eich partner cydweithio, wedi disodli argymhelliad 1, ond mae cynnwys y datganiad hwnnw'n creu sawl pryder i'r diwydiant ac i minnau. Er gwaethaf y naratif a gafodd ei hyrwyddo, nid oedd y datganiad yn cynnig unrhyw newid polisi i'n cymuned amaethyddol, yn wahanol i'r hyn y byddai argymhelliad 1 wedi'i gyflawni. Ac unwaith eto, bydd yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd ar gynllun trwyddedu posibl yn gweld yr un dystiolaeth yn cael ei chyflwyno a'r un dadleuon yn cael eu trafod, felly rwy'n gobeithio'n fawr na welwn yr un hen ganlyniad yn cael ei gyflawni. Oherwydd nid oes dim wedi'i warantu o ran rhanddirymiad, a gadewch inni beidio ag anghofio bod terfyn rhanddirymiad is yn rhoi ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol yn erbyn ffermwyr eraill ar draws y DU, fel y disgrifiodd Cadeirydd y pwyllgor, Paul Davies, yn gynharach.
Nodaf hefyd gyda diddordeb fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 3 o'r adroddiad,
'Dylai’r Gweinidog amlinellu i’r Pwyllgor ei hystyriaethau o’r effaith y gallai’r
Rheoliadau hyn ei chael ar y system gynllunio'.
Er iddi dderbyn yr argymhelliad, fe fethodd ymateb Llywodraeth Cymru gydnabod y ffaith y bydd yn rhaid cyflwyno a phrosesu nifer fawr o geisiadau cynllunio er mwyn i ffermydd fodloni rheoliadau Llywodraeth Cymru. Yn wir, er mai barn Llywodraeth Cymru yw nad yw gofynion seilwaith y rheoliadau'n wahanol iawn i linellau sylfaen rheoleiddiol sy'n bodoli eisoes, nid yw eich ymateb chi, Weinidog, yn cydnabod nad oes gan ffermydd teuluol ar raddfa fach seilwaith yn ei le ar hyn o bryd er mwyn cadw at y rheoliadau hyn. O'r herwydd, bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid cyflwyno ceisiadau cynllunio newydd ar gyfer seilwaith, gyda'r perygl y bydd y ceisiadau hyn yn boddi awdurdodau lleol mewn gwaith, gydag adrannau cynllunio nifer ohonynt eisoes o dan straen aruthrol. Ar ôl darllen eich ymateb, nid wyf yn hyderus eich bod yn gwbl ymwybodol o'r effaith a'r ffordd y bydd y ceisiadau hyn yn llyffetheirio awdurdodau lleol.
Ac yn olaf, os caf droi at argymhelliad 6, cefais fy siomi o glywed nad ydych wedi derbyn yr argymhelliad hwn yn llawn. Pwrpas yr argymhelliad oedd dangos y pwysau y bydd achos TB mewn gwartheg yn ei achosi wrth lynu wrth eich rheoliadau. Ni chafwyd eglurhad ynglŷn ag a fydd ffermydd gydag achosion o TB yn eu buchesi yn cael mynd y tu hwnt i'r terfyn nitrad o 170 kg yr hectar. Dan yr amgylchiadau hyn, gallai ffermydd o dan gyfyngiadau TB nad ydynt yn gallu symud gwartheg weld nifer eu stoc yn cynyddu'n sylweddol, ond eto nid oes eglurhad ynglŷn ag a fu ystyriaeth o hyn gyda'r rheoliadau hyn. Drwy gadw at reoliadau TB, drwy ddilyn llythyren y gyfraith ar symudiadau gwartheg pan geir achos o TB, gallai ffermwyr dorri'r rheoliadau dŵr yn anfwriadol. Ni all hyn fod yn amryfusedd, felly rwy'n ceisio eglurder na fydd y ffermydd hyn yn cael eu cosbi'n annheg.
Rwy'n cofio bod yn ohebydd papur newydd ifanc, flynyddoedd maith yn ôl, yn trafod a fyddai parth perygl nitradau'n cael ei gyflwyno drwy sir Benfro neu drwy Gymru gyfan. Nawr, oddeutu chwech neu saith mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i drafod a dadlau manylion y polisi hwn. Gobeithio y gwnewch chi ailystyried a derbyn pob un o'r 10 argymhelliad a gyflwynwyd gan y pwyllgor, gan eu gweithredu'n llawn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, Paul Davies, pawb a roddodd dystiolaeth a'r staff clercio. Diolch, Lywydd.
Diolch i'r pwyllgor, y Cadeirydd a'r holl staff, fel y dywedodd Sam Kurtz, am eu gwaith trylwyr iawn yn gwneud yr ymchwil yma. Mae'n rhaid dechrau drwy gydnabod ein bod ni yn gweld llawer gormod o achosion o lygredd dŵr yn ein dyfroedd, ac mae’n rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb a chwarae eu rhan—y ffermwyr, ie, ond hefyd y cwmnïau dŵr, cwmnïau adeiladu a phawb arall. Ond, mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod rôl y diwydiant amaethyddol yn ein cymunedau gwledig, o ran ei gyfraniad gwerthfawr i’r economi leol, ei gyfraniad amhrisiadwy i ddiwylliant a chymuned, heb sôn wrth gwrs am ei rôl ganolog, sef cynhyrchu bwyd maethlon o ansawdd.
Mae’r argymhelliad cyntaf un, ynghylch y derogation, yn mynd at galon y broblem. Fel y dywed yr undebau amaethyddol yn eu cyfraniad, byddai'r rheoliadau newydd wedi arwain at y rhan fwyaf o ffermwyr gwartheg Cymru yn gorfod stocio llai, gan effeithio ar eu hyfywedd, yn ogystal â hyfywedd busnesau eraill, megis ffatrïoedd llaeth, ac yn y blaen.
Yn yr adroddiad, rydym ni’n gweld Aled Jones o'r NFU a’r FUW yn rhybuddio y byddai’r rheoliadau newydd, fel ag yr oedden nhw, yn hynod o niweidiol, yn enwedig i ffermydd bach ucheldir Cymru. Heb air o gelwydd, roeddwn i yn gweld ffermwyr yn fy etholaeth i yn dweud eu bod nhw am gael gwared ar wartheg yn llwyr o’r ucheldiroedd. I rai, roedd hynny am olygu eu bod nhw yn mynd allan o ffermio yn gyfan gwbl, i eraill roedd yn golygu eu bod nhw am stocio mwy o ddefaid ar y mynydd. Rŵan, yr eironi wrth gwrs efo hynny ydy y byddai tynnu gwartheg i ffwrdd o’r ucheldir a rhoi defaid yn eu lle yn arwain at fwy o niwed bioamrywiaeth. Mae’r RSPB a chyrff eraill yn dadlau bod angen gwartheg i bori ein hucheldiroedd, ac mae hyn yn cael ei nodi yn yr adroddiad.
Ond yn ogystal â hyn, byddai gorfodi y newid yma mor sydyn yn gwneud yr un peth i’n cymunedau amaethyddol ag y gwnaeth Margaret Thatcher i’n cymunedau glofaol, sef creu niwed parhaol, a hynny dros nos. Dyna pam fod y cyhoeddiad diweddar rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth ynghylch oedi cyflwyno y cam nesaf ac edrych i gyflwyno system drwyddedi i ffermwyr, er mwyn iddyn nhw fedru lledaenu hyd at 250 kg o nitrogen ar eu tir, i’w groesawu. Nid yn unig y bydd yn sicrhau parhad asgwrn cefn ein cymunedau gwledig a phob dim sydd ynghlwm â hynny, yn economaidd ac yn ddiwylliannol, ond bydd hefyd o fudd sylweddol i fioamrywiaeth yng Nghymru, ac mae hynny i’w groesawu yn gynnes.
Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod y costau o adeiladu yr isadeiledd angenrheidiol yn anferthol, ac yn cynyddu, ac mae’r ail argymhelliad yn ei gwneud yn glir bod angen tryloywder ynghylch pa gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr. Mae’n amlwg nad oedd y swm a ddynodwyd yn wreiddiol yn ddigon o bell ffordd, fel roedd tystiolaeth Gareth Hughes o’r FUW yn nodi. Felly, mae’n dda o beth gweld bod y Llywodraeth, yn y cytundeb efo Plaid Cymru, wedi sicrhau £20 miliwn yn ychwanegol er mwyn ceisio sicrhau bod gan ffermwyr yr isadeiledd ac adnoddau angenrheidiol. A fydd o’n ddigon? Hwyrach ddim, ond mae’n llawer iawn gwell na’r sefyllfa roeddem ni ynddi ynghynt.
Yn olaf, mae’r adroddiad yn cyfeirio at yr angen i ffermwyr adeiladu neu wella storfeydd slyri. Rŵan, unwaith eto, dowch i Ddwyfor Meirionnydd ac fe wnaf i eich cyflwyno chi i ffermwyr oedd yn trio am ganiatâd cynllunio i adeiladu storfeydd slyri newydd, ond oedd yn cael trafferthion cael caniatâd cynllunio. Mae’n hawdd iawn dweud ar bapur fod angen gwneud hyn, llall ac arall, ond mae’n fater gwahanol iawn gweithredu'r uchelgeisiau hynny yn y byd go iawn. Felly, wrth ystyried argymhelliad 3, mae’n dda gweld bod y Llywodraeth, yn eu cytundeb efo Plaid Cymru, am sicrhau dwy flynedd yn ychwanegol, yr amser yna i alluogi y gwaith yma i fynd rhagddo, a sicrhau y just transition hwnnw sydd angen ar ffermwyr. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n byw yn fy etholaeth, yng Nghaerffili, ac mae gennym ardal sydd â chrynodiad o ffermydd, ac o amgylch y ffermydd hynny ceir llawer o dai, a gallwch ddychmygu bod etholwyr yn poeni'n fawr ynglŷn â sut yr ymdrinnir â slyri a sut y caiff y materion hyn eu rheoleiddio—efallai'n fwy felly nag mewn ffermydd sy'n fwy ynysig ac yn llai agos at gymunedau. Felly, rwy'n credu bod y rheoliadau wedi cael eu croesawu'n gyffredinol gan drigolion Caerffili, os nad gan bob fferm, ac rwy'n credu bod hynny wedi cael ei adlewyrchu yn rhai o'r sylwadau a wnaed gan Mabon ap Gwynfor a Sam Kurtz. Ac wrth gwrs, mae'n rhesymol dweud na cheir un ateb sy'n mynd i fod yn addas ym mhob achos, sef cyfeiriad yr adroddiad a gynhyrchwyd.
Mae'n rhaid i mi anghytuno gyda'r Cadeirydd ar un pwynt: dywedodd ei fod yn pryderu bod y Llywodraeth wedi cymryd amser i ymateb i adroddiad y pwyllgor. Wel, mewn gwirionedd, o ystyried pwysigrwydd y rheoliadau hyn a phwysigrwydd y mater i'r Senedd gyfan, rwy'n credu bod cael y rhain yn iawn, cael yr ymateb yn iawn, a chario dwy ran o dair o'r Senedd gyda ni pan ddaw'n fater o weithredu'r rheoliadau yn bwysig, a chredaf mai dyna lwyddwyd i'w wneud yn y dyddiau cyn ymateb y Llywodraeth. Rwy'n credu, felly, y gallwch weld yn awr y dylai ymateb y Llywodraeth ennyn—byddwn yn synnu pe na bai wedi ennyn—mwyafrif o ddwy ran o dair o gefnogaeth yn y Senedd, er gwaethaf rhai o'r pryderon sy'n dal i gael eu mynegi gan y Ceidwadwyr a siaradodd hyd yma.
A byddwn yn dweud hefyd o ran y rheoliadau, mae'r rheoliadau hyn wedi bod yn destun pedair rownd o graffu, mwy na llawer o reoliadau eraill a welwn, felly maent wedi bod yn destun dadl yn y Senedd, yn destun ymchwiliad y pwyllgor, yn destun adolygiad barnwrol, a'r ddadl heddiw. Mae'r pedwar peth wedi craffu ar y rheoliadau hyn, ynghyd â llawer o gwestiynau a ofynnwyd gennyf fi a llawer o rai eraill yn y Siambr dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, yn sicr mae achos i'w wneud bod y Llywodraeth wedi caniatáu llawer iawn o graffu ar y rheoliadau hyn. Byddwn yn dweud eu bod wedi gwrando. Byddwn yn dweud eu bod wedi gwrando'n enwedig ar argymhelliad 1, ac fel y cydnabu Sam Kurtz, mae argymhelliad 1 yn ddarostyngedig i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn awr, ac rwy'n credu bod hynny'n mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hynny'n effeithiol. Rwy'n credu mai'r hyn a welwn heddiw yw Llywodraeth sy'n gwrando ar y trigolion yn fy etholaeth sy'n poeni am lygredd amaethyddol, ond hefyd ar y ffermwyr sydd â phryderon am yr effeithiau. Mae'r arian sydd bellach yn cael ei roi tuag at hynny, ynghyd â'r ymgynghoriad ychwanegol, yn dangos bod y Llywodraeth hon wedi gwrando'n effeithiol heb leihau eu hymrwymiad i reoli llygredd nitrogen.
Felly, byddwn yn croesawu ymateb y Llywodraeth ar y cyfan, ac rwy'n falch fy mod i wedi gallu cymryd rhan yn yr ymchwiliad, oherwydd yn sicr fe ddangosodd bob agwedd ar y broses i mi. Byddwn yn dweud wrth y Gweinidog yn awr ei bod wedi gwneud gwaith da yn sicrhau y gallwn wneud cynnydd a diogelu ein hamgylcheddau, ein hamgylcheddau gwledig, rhag llygredd nitrogen.
Gaf i ymestyn diolch i'r pwyllgor hefyd ac i Gadeirydd y pwyllgor?
Mae'r pwyllgor wedi gwneud llawer iawn o waith, ac rydym yn ddiolchgar iawn amdano, gwaith sy'n dadlau'r achos dros ymateb mwy cymesur i fater gwirioneddol ddifrifol. Nid wyf wedi siarad ag unrhyw ffermwr nad yw'n cydnabod bod angen i ansawdd dŵr fod yn well. Mae pawb eisiau cydweithio ar hyn, dull tîm Cymru o weithredu.
Rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i ofyn am asesiad o'r effaith economaidd. Fe wneuthum hynny ym mis Awst, gan gydnabod bod costau uwch yn rhan o bryder ffermwyr ynglŷn â'r dyfodol. Rwy'n pryderu y bydd canlyniadau anfwriadol y rheoliadau hyn i'w teimlo ymhell y tu hwnt i giât y fferm unigol, oherwydd ni roddwyd digon o sylw i'r effaith ehangach ar ein cymunedau gwledig, na goblygiadau i gadwyni cyflenwi cyn ac ar ôl giât y fferm. Cefais fy atgoffa heddiw ddiwethaf y byddai'r terfyn rhanddirymiad 170 kg arfaethedig yn arwain at gyfradd ddadstocio gwartheg llaeth o 17 y cant—colled i ni o oddeutu 330 miliwn litr o gynhyrchiant llaeth. Mae gwir angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y cyfnod adolygu pedair blynedd, sydd wedi'i gynnwys yn y rheoliadau, yn edrych nid yn unig ar effaith y rheoliadau ar leihau llygredd amaethyddol, ond ar effaith y rheoliadau ar y diwydiant ei hun.
Fy nghwestiwn cyntaf, os caf, Weinidog, yw deall ychydig mwy am y cynllun trwyddedu arfaethedig a sut y mae hynny'n cyd-fynd ag argymhelliad 1 yn yr adroddiad. Mae gennyf gwestiynau, er enghraifft, ynglŷn â faint o fusnesau fferm a all ddisgwyl elwa. A fydd unrhyw wersi i'w dysgu i lywio newidiadau posibl i'r rheoliadau? Beth yw paramedrau'r ymgynghoriad i sicrhau ei fod yn deg, yn gytbwys ac yn cael ei arwain gan dystiolaeth, a beth yw'r meini prawf llwyddiant ar gyfer yr ymgynghoriad? Mae ffermwyr wedi dweud dro ar ôl tro mai dim ond ateb dros dro yw gohirio'n unig, felly mae angen eglurder i ffermwyr ynglŷn â beth y mae'r cynllun trwyddedu yn ei olygu'n hirdymor mewn gwirionedd.
Hoffwn hefyd ganolbwyntio ar argymhelliad 2, a chostau cyflwyno'r rheoliadau hyn. Mae'r pecyn cyllido hyd yma yn llawer is na'r hyn yw ffigyrau'r Llywodraeth ei hun ar gyfer y gost ymlaen llaw o tua £360 miliwn. Mae'r FUW wedi amcangyfrif y gallai'r gost fod tua £450 miliwn mewn gwirionedd, sy'n wahaniaeth enfawr. Ni ellir rhoi'r £20 miliwn ychwanegol yr wythnos diwethaf yn ei gyd-destun heb gael manylion llawn am gymorth ariannol hyd yma, ac yn wyneb pwysau costau sy'n cynyddu'n barhaus i'n ffermwyr, mae'n swnio fel diferyn bach yn y môr.
Fel y nododd Paul Davies, mae'r dechnoleg newydd yn ddiddorol iawn, ac rwy'n pryderu y gallai'r dechnoleg newydd sy'n datblygu negyddu'r angen i adeiladu storfeydd slyri newydd. Bydd rhai ffermwyr wedi gwario symiau enfawr o arian a chanfod wedyn nad oedd angen y gwariant, gan roi pwysau costau ychwanegol enfawr ar ffermydd. Felly, mae angen cysoni rhwng y cynllun trwyddedu arfaethedig, y cyfnod adolygu pedair blynedd a chyflwyno mesurau amgen. I fod yn bryfoclyd, fy nghwestiwn fyddai: pam na chawn ni aros nes bod y dechnoleg newydd yn dod yn weithredol a gweld pa effaith a gaiff?
Mae gwir angen eglurder ynghylch pa adnoddau ychwanegol sydd eu hangen, gan CNC er enghraifft, fel y nododd y Cadeirydd a chan eraill hefyd. Heb y rôl reoleiddio effeithiol honno, cosbi ffermwyr yn unig y mae'r rheoliadau hyn. Hefyd, rwy'n nodi'r pwynt gan fy nghyd-Aelod Mabon ap Gwynfor ynghylch capasiti adrannau cynllunio awdurdodau lleol. Maent dan bwysau aruthrol. Yng Ngheredigion, rwy'n deall mai un swyddog cynllunio sy'n ymdrin â'r holl ffermwyr sy'n gwneud ceisiadau ar gyfer storfeydd slyri ar hyn o bryd.
Mae angen dull tîm Cymru o weithredu. Yng ngoleuni'r cyhoeddiad a wnaed gan y Llywodraeth a Phlaid Cymru yr wythnos diwethaf, byddwn yn croesawu eglurder ynglŷn ag a fydd y dyddiad cau ar gyfer cynigion amgen yn cael ei ymestyn, ac a fydd Llywodraeth Cymru'n ailedrych yn awr ar y cynigion amgen a gyflwynwyd gan y sector. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddechrau drwy ganmol y pwyllgor am adroddiad gwych? Ond mae'n drueni inni gyrraedd sefyllfa lle bu'n rhaid cael yr adroddiad hwn. Rwyf newydd wrando ar Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pregethu pa mor ddrwg yw hyn i ffermwyr, ond pe bai ei phlaid wedi camu i’r adwy yn nhymor y Senedd ddiwethaf a chefnogi ffermwyr, fel y gwnaeth Plaid Cymru a ninnau ar feinciau’r Ceidwadwyr, ni fyddem byth yn y sefyllfa hon. Felly, credaf fod rhai o’i sylwadau braidd yn rhagrithiol.
Yr hyn yr hoffwn ei drafod gyda'r Gweinidog—ac rydym yn croesawu rhai o’r cyhoeddiadau a wnaed gennych—yw'r £20 miliwn ychwanegol, ac argymhelliad 3, sy'n ymwneud â'r pwysau y bydd hyn yn ei roi ar ein hawdurdodau cynllunio. Ni chredaf, ac nid yw'r diwydiant yn credu ychwaith, fod yr £20 miliwn ychwanegol hwn yn mynd i helpu ffermwyr i ymdopi â’r rheoliadau hyn pan fyddant ar waith, gyda’r costau seilwaith, a phopeth sy’n gysylltiedig â hynny. Mae gennyf nifer o ffrindiau sy'n ffermwyr ac sy'n dweud na fydd rhywfaint o'r arian yr ydych yn ei ddarparu hyd yn oed yn rhoi'r concrit yn y ddaear i ganiatáu i hyn ddigwydd.
Yr hyn yr hoffwn ei glywed gan y Gweinidog—. Ydy, mae arian ychwanegol i’w groesawu, ond rydym yn mynd i orfod gweld mwy o fuddsoddiad, oherwydd os ydych yn gofyn i ffermwyr dalu mwy a mwy o arian eto fyth, mae hynny’n mynd i wneud busnesau fferm yn anhyfyw ac yn anghynaliadwy yn y dyfodol. Rwy’n siŵr nad ydym am weld y rheoliadau hyn yn gyrru ein ffermwyr oddi ar y tir, ac yn eu hatal rhag cynhyrchu bwyd a diod ar gyfer ein cyhoedd. Oherwydd os bydd ein ffermwyr yn rhoi'r gorau iddi, mae ein cymunedau gwledig ledled ein gwlad yn mynd i farw. Gwn nad yw hynny'n rhywbeth rwyf fi am ei weld, ac nid yw fy nghyd-Aelodau yma am ei weld. Felly, mae cyllid ychwanegol i'w groesawu, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn darparu mwy o arian i gefnogi'r argymhellion a gyflwynwyd gennych. Diolch.
Dwi'n mynd i gychwyn drwy gydnabod a chroesawu'r hyn a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru a'r Llywodraeth yr wythnos diwethaf—ddim cweit yn taro nodyn mor sinigaidd, efallai, ag un neu ddau. Dyw e ddim, wrth gwrs, yn ddiwedd proses, ond mae e'n cadw'r drafodaeth yn fyw ac mae e'n golygu bod yna newid agwedd wedi bod. Y dewis arall oedd ein bod ni jest yn ei adael e i fynd a chario ymlaen. Felly mae angen cydnabod, dwi'n meddwl, bod yna waith aruthrol wedi digwydd ar y meinciau yma i ddod i'r pwynt yma ac i o leiaf nawr gyflwyno'r cyfle y bydd o leiaf rhai o ffermwyr Cymru yn cael trwydded a bod popeth yn cwympo i'w le er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu chwalu 250 kg yr hectar o nitradau ar y tir.
Mae'r £20 miliwn, wrth gwrs, ar ben beth sydd eisoes wedi ei ymrwymo, ond does neb yn dweud bod hynny'n mynd i dalu am bopeth. Ond 'rargol, mae e'n well na beth oedd yna cyn hynny, felly peidiwch â bod mor negyddol a pheidiwch â bod mor sinigaidd. Ond dŷn ni ddim yn cael ein dallu gan y ffaith bod yna lot rhagor o waith i'w wneud. Un o'r pethau dwi eisiau cyfeirio ato fe hefyd yw bod yna edrych eto ar asesiad effaith rheoleiddiol. Dwi'n meddwl bod hwnna yn arwyddocaol. Oherwydd dŷn ni mewn cyd-destun gwahanol—mae'r creisis costau byw, dŷn ni'n gwybod bod costau mewnbynnau yn y diwydiant wedi mynd trwy'r to. Mae costau adeiladu, inflation adeiladu, i gwrdd â'r isadeiledd sydd ei angen yn fyd cwbl newydd. Ac felly, mae hi'n berffaith iawn, dwi'n meddwl, bod yr asesiad yna yn cael ei edrych arno eto, fel ei fod e yn adlewyrchu'r cyd-destun newydd—Wcráin, a phopeth arall, a diogelwch bwyd—sydd angen ei gadw mewn cof.
Ond mae yna gwestiynau difrifol a gofidiau real iawn yn dal i fod, ac mae'r Cadeirydd, wrth gwrs, wedi cyfeirio at un ohonyn nhw, sef yr ymlyniad yma at y cyfnodau caeedig—y closed periods yma. Dwi wedi codi hyn gyda chi yn y gorffennol, Weinidog; ddwy flynedd a mwy yn ôl, fe wnes i gyfeirio at y ffaith bod rhai o amgylcheddwyr mwyaf Prydain yn dweud bod ffermio'n ôl y calendr yn wrthgynhyrchiol, yn counterproductive. Ac fe wnaethoch chi gytuno eich bod chi'n stryglo â'r approach yna a chyda cyfiawnhau'r approach yna, a chydnabod ar y pryd nad yw e, fel y clywsom ni, yn cymryd ystyriaeth o'r ffaith y gallai fod dyddiau yn y cyfnod agored sy'n gwbl anaddas ar gyfer chwalu tail, a dyddiau yn y cyfnod caeedig fyddai yn addas ar gyfer gwneud hynny. Ond, wrth gwrs, dyna rŷch chi wedi ei ddewis i'w ymgorffori yn y rheoliadau.
Felly, wrth ymateb i'r ddadl, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni beth wnaeth eich perswadio chi bod hynny yn dderbyniol. Beth newidiodd eich meddwl, yn erbyn, fel dwi'n dweud, rhai o amgylcheddwyr mwyaf Prydain, bod edrych ar galendr i weld os yw'r amgylchiadau'n ffafriol yn well nag edrych drwy'r ffenest? Dyna mae'r rheoliadau yn ei ddweud. Ac mae'ch ymateb chi i'r argymhelliad yna—argymhelliad 8 yw e, os dwi'n cofio'n iawn—yn cyfeirio at dechnoleg, a bod technoleg yn cael ei ddatblygu, a'n bod ni o fewn cyrraedd i fabwysiadu system, fel y clywon ni eto, sy'n llawer mwy amser real—real time—ac yn cyrraedd trachywiredd—precision—o gae i gae. Mae'r dechnoleg yna, ac mae e o fewn dim i fod yn dechnoleg fyddai modd i'w rolio fe allan ar draws y wlad.
Ond, wedyn, yn eich ymateb, rŷch chi'n dweud y gwnewch chi ystyried hyn yn ystod yr adolygiad pedair blynedd. Wel, ydy hynny'n golygu eich bod chi'n mynd i orfodi'r sector i fuddsoddi mewn isadeiledd, i wario miliynau ar filiynau o arian cyhoeddus—a'u harian nhw eu hunain—ac wedyn efallai, mewn dwy flynedd, dweud, 'O, mae gyda ni dechnoleg nawr, bydd dim angen lot o hwn'? Mae wir angen i chi ailystyried, dwi'n meddwl, y pwynt yna.
Dau bwynt arall cyn i mi gloi. Credaf fod y contractwyr, yn ôl pob golwg, wedi cael eu hanghofio gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth. Hwy yw un o'r cyflogwyr mwyaf yn ein cymunedau gwledig, gyda'r rhan fwyaf o'u gwaith, wrth gwrs, yn seiliedig ar ffermydd bach, teuluol. Bydd y cyfnod gwaharddedig o dri mis yn drychinebus i lawer ohonynt. Pan fydd 31 Ionawr yn cyrraedd, mae’n bosibl iawn na fydd ganddynt unrhyw lafur, nac unrhyw offer i wagio’r holl storfeydd slyri mawr newydd hyn, oherwydd, wrth gwrs, ni fyddai ganddynt fawr ddim incwm, os o gwbl, yn dod i mewn dros y misoedd blaenorol. Bydd rhai'n mynd i'r wal. Bydd rhai yn pleidleisio â'u traed ac yn gadael y diwydiant. Ac os oes llai o gontractwyr, pwy ar y ddaear sy'n mynd i fod yno i wagio'r storfeydd slyri gorlawn pan ddaw'r cyfnod gwaharddedig i ben ar yr hyn y mae llawer ohonom bellach yn ei galw'n wythnos wasgaru slyri genedlaethol? Ac os na fydd unrhyw un yno i symud y slyri, beth sy'n digwydd wedyn? Efallai y gallech ddweud wrthym sut y credwch y gall ffermwyr ddatrys y broblem honno. Rwy'n gobeithio y bydd yr asesiad effaith rheoleiddiol yn rhoi ystyriaeth lawn i’r rôl allweddol y mae contractwyr yn ei chwarae.
Yn olaf, clywsom gryn dipyn o sôn am gynllunio; er fy mod yn cydnabod bod problem gyda chapasiti, hoffwn ofyn i chi beth yw eich neges i’r ffermwyr sydd eisoes wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio i fodloni’r gofynion newydd gyda storfeydd slyri mwy o faint, ond y gwrthodwyd eu ceisiadau cynllunio, nid unwaith, nid ddwywaith, ond sawl gwaith, a bellach, ni allant fodloni eich gofynion newydd ac ni chaniateir iddynt addasu er mwyn bodloni eich gofynion newydd? Beth yw eich neges iddynt hwy? Oherwydd yr hyn a glywaf yw eich bod, i bob pwrpas, yn eu gorfodi i gau'r fferm deuluol.
A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad, ac i'r Gweinidog am y datganiad diweddar ar hyn hefyd? Dylwn ddatgan ar y cychwyn fy rôl fel hyrwyddwr yr eog. Ond hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, drwy gydol y degawd y bûm yn gynrychiolydd etholedig, rwyf hefyd wedi hyrwyddo anghenion a dyheadau ffermydd bach a chanolig eu maint, yn enwedig y rhai sy'n ffermio'n gynaliadwy iawn ac sy'n gryf o blaid yr amgylchedd ac enillion amgylcheddol hefyd. Ac mae llawer ohonynt, gan gynnwys ffermwyr sydd wedi ennill gwobrau, yn byw yn fy etholaeth i, a ddisgrifir yn aml fel un o etholaethau'r hen feysydd glo. Mae'n llawer mwy na hynny; mae'n etholaeth wledig iawn, ac mae ffermio bob amser wedi bod yn rhan annatod ohoni, ymhell cyn i ddiwydiant ddod yno.
Rydym yn wynebu cyfnod heriol iawn i'r byd ffermio, ond rydym hefyd yn wynebu heriau gwirioneddol o ran natur. Rydym mewn argyfwng natur ac argyfwng bioamrywiaeth. Rydym wedi gweld cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru, sy’n cydnabod hynny. Rydym yn agosáu at COP15 gyda'r cyhoeddiadau bioamrywiaeth. Rydym am i’r targedau ddod yn ôl, i'w cloi yn eu lle gan Julie James, y Gweinidog, a’u troi’n gamau gweithredu yma yng Nghymru. Felly, mae hynny'n ffurfio cefndir i'n sefyllfa ar hyn o bryd.
Mae'n ddiddorol, yr ymateb i'r adroddiad hwn—yr ymateb pegynol iddo. Mae grwpiau amgylcheddol wedi dweud yn unfryd fod hyn yn wirioneddol siomedig, mae hyn yn drist iawn, mae hyn yn ohiriad, ac mae gohirio'n golygu, unwaith eto, ein bod yn mynd i weld afonydd llygredig. Mae undebau'r ffermwyr—Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ac eraill—wedi dweud yn unfryd fod hyn rhoi lle i anadlu. Dyna ddyfyniad gan un ohonynt—lle i anadlu, cyfle i ailfeddwl, efallai, nid yn unig gyda'r trwyddedu ac ati, ond yn fwy sylfaenol. Dyna maent yn ei ddweud wrth eu haelodau. Felly, mae'n peri rhywfaint o ddryswch i mi, Lywydd, ynglŷn â beth yn union yr ydym yn ei drafod yma, nid yn unig yn sgil yr adroddiad, ond yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i gyhoeddi. A yw'n ailfeddwl sylfaenol? A yw'n ohirio dros dro yn unig? A yw'n rhyw fath o addasu? Neu a yw'n golygu y byddwn, ymhen tri, pedwar mis, pum mis, yn dal ati yn ôl yr arfer ac yn cynnal yr adolygiad, ac yn bwrw ymlaen â'r hyn a nodwyd yn y lle cyntaf? Nid wyf yn gwybod. Efallai y gall y Gweinidog fy ateb heddiw, ond mae’r her a’r amrywiaeth yn yr ymatebion yn dweud llawer wrthym.
Mae’n amlwg fod rôl wedi bod i’r adroddiad pwyllgor hwn. Cafwyd her aflwyddiannus yn y llysoedd. Roedd yn rhaid i’r pwyllgor aros i weld beth oedd hynny cyn iddo gyflwyno ei ystyriaeth ei hun a chael y Gweinidog o’u blaenau. Rwy'n gweld hynny. Rydym hefyd wedi cael y cytundeb cydweithio, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn bersonol, fod y cytundeb cydweithio wedi chwarae rhan yn yr hyn a welwn yn digwydd ar hyn o bryd. Ond mae fy neges mor syml â hyn: ni allwn barhau, o ystyried yr ansicrwydd parhaus. Mae’r pwyntiau y mae Llyr newydd eu gwneud am benderfyniadau buddsoddi gan ffermwyr yn rhai da, yn ogystal â’r pwynt a wnaeth Jayne am yr un peth yn union: a ydym yn mynd i ddweud wrth y rhai sydd eisoes wedi buddsoddi, 'Wel, roedd hynny’n wastraff arian’ gan ein bod bellach yn mynd i gael rhyw ateb technolegol hynod sy'n golygu bod yr arian hwnnw wedi'i wastraffu?
Mae'n bosibl iawn y bydd atebion technolegol yn dod i'r amlwg yn y dyfodol. Yn sicr. Ond ni allwn ddiystyru’r buddsoddiad y mae rhai ffermwyr wedi dewis ei wneud i geisio gwneud y peth iawn, i fynd at eu rheolwyr banc, a dweud, 'A gawn ni gael rhywfaint o gyllid? Bydd angen imi gael benthyciad 20 mlynedd er mwyn gwneud hyn. Rwy'n mynd i ofyn am gymorth gan Cyswllt Ffermio ac ati i wneud hyn hefyd, ond bydd rhaid imi wneud penderfyniad yma.' Ni allwn eu taflu o dan y bws yn awr; rydym yn mynd i orfod dweud wrthynt, 'Roedd yn werth gwario'r arian hwnnw nid yn unig ar gyfer eich fferm, ond ar gyfer yr amgylchedd hefyd'. Bydd ffermwyr yn croesawu rhywfaint o amser ychwanegol, nid oes amheuaeth, gyda hyn, ond wrth i hyn fynd rhagddo gyda’r ymgynghoriad ar drwyddedu ac ati, credaf fod angen inni fod yn gwbl onest ynglŷn â beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd, p'un a yw'n rhywbeth arall sydd wedi'i ailfeddwl yn llwyr ai peidio.
Un peth yr oeddwn am ei bwysleisio oedd pwysigrwydd cynghorwyr newydd CNC. Ers gormod o amser, nid ydym wedi cael y wybodaeth gywir, y bobl gywir yn sefyll ar y safle, sy'n deall ffermio, ond sydd hefyd yn barod i fabwysiadu'r meddylfryd mwyaf modern, mwyaf cyfredol o ran beth yw'r cymorth amgylcheddol gorau. Mae gennyf ffermwyr sydd wedi ennill gwobrau amgylcheddol yn fy ardal i, maent yn gwybod beth y maent yn ei wneud, ond nid yw hynny'n wir am bob ffermwr. Pan fydd gan y ffermwr hwnnw agronomegydd yn dweud hefyd, 'Gadewch i mi eich cynghori ar y pethau hyn, a gyda llaw, rwy'n ei werthu hefyd', nid dyna'r ffordd ymlaen. Felly, bydd y cynghorwyr CNC hyn, gyda'i gilydd, a’u harbenigedd, a’u rhoi ar waith mewn pryd, yn hollbwysig.
Gadewch imi droi at un pwynt sy'n dangos y peth nodweddiadol hwn yr oeddem yn ei ddweud am ansicrwydd yma. Mae’n ymwneud ag ychydig o gyfraniadau a wnaed eisoes. Ar argymhelliad 1—ac mae'n werth tynnu ychydig o bwyntiau allan o hyn—ni all y Llywodraeth dderbyn yr argymhelliad hwn. Mae hyn yn ymwneud â rhanddirymiad ar ffermydd glaswelltir sy'n gwasgaru hyd at 250 kg yr hectar ac ati. Mae'n mynd ymlaen i ddweud nad yw rhanddirymiad dan gyfundrefnau blaenorol erioed wedi galluogi gwasgaru mwy o faethynnau na’r hyn sydd ei angen ar gnydau, ac ati. Ond wedyn, wrth gwrs, cafwyd datganiad. Rwy’n tybio ei fod wedi dod allan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Mae angen i ni, rywbryd, dynnu llinell o dan hyn i gyd. Mae yna ohiriad; y gwanwyn nesaf, mae angen inni gael sicrwydd llwyr, oherwydd, a dweud y gwir, ni fydd ffermwyr bach a chanolig yn maddau i ni oni bai ein bod yn rhoi sicrwydd gwirioneddol cyn gynted â phosibl, ac a dweud y gwir, ni fydd yr amgylchedd yn maddau i ni ychwaith: ansawdd ein hafonydd, ansawdd ein pridd a phopeth arall. Mae angen inni benderfynu pa ffordd yw’r ffordd ymlaen, a mynd i'r afael â hyn o ddifrif.
Rwyf wedi darllen yr adroddiad gyda diddordeb. Rwyf wedi datgan fy marn yn glir iawn ar lygredd amaethyddol sawl gwaith dros nifer o flynyddoedd yma yn y Siambr. Cymharais y camau llym, ond angenrheidiol, a gymerwyd gennym yng Nghymru â’r gyfundrefn o esgeulustod yn Lloegr yr wythnos diwethaf. Mae hynny wedi galluogi llawer iawn o lygredd amaethyddol yn ein dyfrffyrdd gyda chanlyniadau amgylcheddol dinistriol. Felly, er fy mod yn ofalus, ac rwy’n golygu hynod o ofalus, wrth groesawu unrhyw lastwreiddio ar y rheoliadau—gan mai dyna ydyw—a gyflwynwyd fis Ebrill diwethaf, rwy’n derbyn mai celfyddyd yr hyn sy'n bosibl yw gwleidyddiaeth, ac yn y pen draw, beth bynnag sy'n gweithio i ddiogelu'r amgylchedd yw'r ffordd ymlaen. Felly, rwy’n cefnogi penderfyniad y Gweinidog i ddod o hyd i ateb cynaliadwy sy’n gweithio i’n diwydiant ffermio, ond sy’n cyflawni’r amcanion ecolegol hanfodol hynny. Ac ni fyddwch yn synnu y byddaf yn gwylio hynny'n agos iawn ac yn dweud fy marn, os byddaf yn teimlo bod angen. Rwy’n teimlo'n rhwystredig fod rhai busnesau ffermio wedi methu rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i gydymffurfio â’r rheoliadau wrth aros am yr adolygiad barnwrol aflwyddiannus hwnnw. Roedd datganiad diweddar y Gweinidog yn awgrymu hynny hefyd.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Mewn munud.
Nid yw'n dderbyniol, ac mae'n gosod cynsail gwael. Rydym wedi clywed gan Huw Irranca yn gwbl glir fod y rhan fwyaf o ffermwyr yn dymuno cydymffurfio a gweld manteision cyflwr amgylcheddol ffafriol, nid yn unig ar eu ffermydd ond mewn afonydd hefyd. Nid yw'n fwriad, a gŵyr pob un ohonom nad yw'n fwriad, gan y rhan fwyaf o ffermwyr i lygru. Yn anffodus, bu achosion lle cafwyd llygredd bwriadol, ac mae digon o dystiolaeth i'r perwyl hwnnw.
Diolch. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio, a hoffwn ddatgan buddiant hefyd; roeddwn ar fai na wneuthum hynny ar y dechrau.
Fe sylwais.
Ond ar yr un pryd, y rheswm pam fod y busnesau hyn wedi methu cydymffurfio yn yr ystyr a ddywedwch yw am eu bod yn ceisio gwneud hynny; maent yn gwneud eu gorau glas i fynd at awdurdodau lleol i ofyn am y cais cynllunio, i ofyn am i’r cais cynllunio gael ei gymeradwyo fel y gallant osod y seilwaith, y lagwnau slyri sy’n angenrheidiol, ond maent yn cael eu gwrthod gan awdurdodau lleol.
Mae’n debyg fod hynny’n wir mewn rhai achosion. Nid wyf yn derbyn ei fod yn wir ym mhob achos, serch hynny, mae'n rhaid imi ddweud. Ac ni chredaf y dylai busnesau gael eu gwobrwyo am fethu paratoi neu gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol. Fodd bynnag, rwy'n sylweddoli bod y costau cynyddol a’r amgylchiadau byd-eang y cyfeiriwyd atynt wedi ychwanegu pwysau ychwanegol. Er, mewn gwirionedd, roedd y rheoliadau hyn yn hysbys iawn ymhell cyn hynny.
Felly, hoffwn wybod am yr £20 miliwn—ac rwy'n ei groesawu—i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth, ond hoffwn sicrwydd nad yw pobl yn cael eu talu ddwywaith—nad yw pobl sydd eisoes wedi cael eu talu i gydymffurfio yn cael mwy o arian neu'r un arian ddwywaith.
Mae'r pwyllgor yn argymell y rhanddirymiad hwn y clywsom amdano—y 250 kg yr hectar o nitrogen. Er na chafodd hynny ei dderbyn, mae’r dyddiad gweithredu ar gyfer y terfyn 170 kg yr hectar wedi’i ohirio. Credaf fod hynny’n hynod o siomedig. Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y cynllun trwyddedu 250 kg yr hectar tan 2050. Dylem asesu effaith economaidd ac amgylcheddol y terfyn is wrth gwrs, ond yn fy marn i, dylid cadw 170 fel y terfyn diofyn. Rwy'n cefnogi barn Cyswllt Amgylchedd Cymru y dylid dod o hyd i ffyrdd amgen o reoli gwastraff anifeiliaid, yn hytrach nag ailgyflwyno’r terfyn uwch. Felly, mae ffyrdd eraill i'w cael. Os nad edrychwn ar ffyrdd eraill, rydym yn ôl lle dechreuasom, a llygredd amaethyddol yw'r rheswm mwyaf cyffredin dros halogiad yn ein dyfrffyrdd. Os nad ydym yn llwyddo i fynd i'r afael â hynny, rydym yn methu ar ran ein cymuned ffermio a’r amgylchedd ehangach. Gyda hynny mewn golwg, dylem oll gefnogi beth bynnag sydd ar gael a beth bynnag sy’n gweithio i ddiogelu ein hamgylchedd, sydd, yn y pen draw, yn golygu diogelu cynaliadwyedd ein holl dir a’n dyfrffyrdd ar gyfer y dyfodol.
Y Gweinidog materion gwledig nawr i gyfrannu i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am eu gwaith yn cynnal yr adolygiad hwn a llunio’r adroddiad a’r argymhellion. A diolch i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac rwyf am geisio ymateb i gynifer o bwyntiau â phosibl.
Mae adroddiad y pwyllgor yn codi cyfres o bwyntiau adeiladol mewn perthynas â rhoi'r rheoliadau ar waith. Mae’r adroddiad yn darparu argymhellion sy’n ceisio ein helpu i sicrhau bod y rheoliadau a’r cymorth sydd ar gael i helpu ffermwyr i gydymffurfio yn gwbl glir ac yn addas ar gyfer maint yr her sy’n ein hwynebu ni oll. Rwyf wedi cytuno i roi rhagor o fanylion a sicrwydd ynghylch cyllid ac mewn perthynas â rôl orfodi CNC a’r trefniadau ar gyfer adolygiad rheoleiddiol. Rwyf wedi rhoi eglurhad pellach mewn perthynas â sut yr ydym yn gwarchod rhag canlyniadau anfwriadol a sut y gellir eu rhoi ar waith mewn ffordd sy'n diogelu buddiannau ffermwyr tenant a'r rheini sy'n wynebu cyfyngiadau TB.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi gwneud argymhellion mewn perthynas â gwaith fforwm rheoli tir Cymru, ac rwy'n cefnogi ysbryd yr argymhellion hynny'n llwyr. Ni allaf gyfarwyddo gwaith y fforwm, ond gyda chytundeb ei aelodau, rwy’n barod i barhau i weithio gyda’r grŵp yn yr union ffordd y mae’r pwyllgor wedi’i hargymell. Mae argymhelliad cyntaf adroddiad y pwyllgor yn gofyn am gyflwyno proses i ganiatáu i ffermwyr wasgaru lefelau uwch o slyri os caiff amodau penodol eu bodloni. Rwyf wedi bod yn gweithio drwy gydol yr haf ar sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffordd o ymateb yn gadarnhaol i’r argymhelliad hwn, ac fel rhan o’r cytundeb cydweithio, mae Plaid Cymru hefyd wedi cymryd rhan agos a gweithredol yn y gwaith hwn.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn sgil y trafodaethau hynny gyda Phlaid Cymru, sy’n nodi ein bwriad i wneud darpariaeth i gynnal ymgynghoriad i archwilio’r cynnig hwn, ac i gyflwyno newidiadau i’r rheoliadau os tybir bod cynllun o'r fath yn ymarferol i ffermwyr ac yn diogelu'r amgylchedd y maent hwy, fel pob un ohonom, yn ddibynnol arno. Felly, i dawelu meddwl Jane Dodds, hoffwn ddweud na allaf achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Mae'n ymgynghoriad ystyrlon, felly nid oes unrhyw gynllun wedi'i lunio yn y ffordd y gofynnwch i gael rhywfaint o sicrwydd, gan y byddai'n amhriodol cael ymgynghoriad nad oedd yn ystyrlon. Gofynnodd Huw Irranca-Davies a fydd yna ailfeddwl sylfaenol—ddim o gwbl. Dim ond gohirio un rheoliad yw hyn wrth inni edrych ar gynllun trwyddedu, a byddwn yn gweithio gyda Phlaid Cymru i lunio’r cynllun hwnnw, a byddwn yn cynnal ymgynghoriad llawn. Paul Davies, unwaith eto'n sôn am y cynllun trwyddedu, fe sonioch am yr angen i sicrhau na cheir rhagor o fiwrocratiaeth, ac af yn ôl at yr hyn a ddywedais wrth Jane Dodds, y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal; bydd yn ymgynghoriad 12 wythnos. Os gwelwch yn dda, bawb, cyflwynwch eich safbwyntiau, oherwydd felly, wrth inni lunio'r cynllun, yn amlwg, gallwn sicrhau bod yna lai o fiwrocratiaeth.
Nid yw’n bosibl derbyn argymhelliad y pwyllgor mewn perthynas ag argymhelliad 1 yn y ffordd y’i lluniwyd—pwynt y credaf fy mod wedi’i egluro’n fanwl yn fy ymateb i adroddiad y pwyllgor. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor yn gweld bod hyn yn cynnig ffordd o ymateb yn gadarnhaol yn yr ysbryd y gwn y bwriadwyd yr argymhelliad.
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru)—nid parthau perygl nitradau, Sam, efallai eich bod chi am barhau i drafod parthau perygl nitradau; yn amlwg, rydych yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth, nid wyf fi—yn gwbl hanfodol er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol domestig a rhyngwladol. Ac er bod y rheoliadau'n canolbwyntio ar nitradau, mae'r camau gweithredu sy'n ofynnol ar eu cyfer hefyd yn fodd angenrheidiol o fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion eraill, a gwn eu bod oll yn hynod bwysig i'r Aelodau ar draws y Senedd.
Mae ymdrin â llygredd amaethyddol yn flaenoriaeth bwysig ac angenrheidiol i liniaru effaith yr argyfwng hinsawdd, oherwydd y nwyon tŷ gwydr y mae'n eu cynnwys, yn ogystal â'r allyriadau sy'n cael eu rhyddhau o ganlyniad i'r niwed amgylcheddol y mae'n ei achosi, ac fel y nododd Jane Dodds, mae angen dull gweithredu tîm Cymru er mwyn i hyn weithio. Llygredd amaethyddol yw prif ffynhonnell llygredd amonia niweidiol, sy'n gallu amharu ar ddatblygiad ysgyfaint plant a lefelau clefyd y galon, yn ogystal â chadwraeth coetiroedd hynafol.
Cododd cryn dipyn o Aelodau’r £20 miliwn. Soniodd James Evans am y peth, ac yn amlwg, nid yw'n credu ei fod yn ddigon. Ac fel y dywedodd Llyr, ni chredaf y byddai unrhyw un yn dweud mai dyna fyddai'r swm cyntaf o arian yr ydym wedi'i ddarparu; rydym wedi darparu cyllid sylweddol. Ond gadewch imi ddweud wrthych: nid oes gennyf bot o arian lle gallaf ddod o hyd i £20 miliwn arall, ac mae'n drueni fod Llywodraeth y DU wedi rhoi'r bancwyr yn gyntaf, yn hytrach na'n ffermwyr gweithgar. Gofynnodd Joyce Watson am rywfaint o sicrwydd ynghylch peidio â thalu ffermwyr ddwywaith, ac rwyf bob amser wedi dweud na allem roi arian cyhoeddus i sicrhau bod ffermwyr yn cydymffurfio â’r rheoliadau a oedd eisoes ar waith, felly gallaf roi sicrwydd i chi ynglŷn â hynny.
Soniodd sawl Aelod am y dechnoleg newydd, ac aeth Cefin Campbell a minnau i Gelli Aur i weld sut yr oedd y dechnoleg honno’n dod yn ei blaen, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn falch iawn o gefnogi hynny. Nid oeddwn wedi bod yno ers rhyw dair blynedd, rwy’n credu, ac roedd yn dda gweld y cynnydd a oedd yn cael ei wneud. Ond rydym yn dal i weld achosion o lygredd amaethyddol a gadarnheir bob mis yn cyrraedd ffigurau dwbl eto eleni, ac mae’n rhaid inni wneud rhywbeth yn awr. Mae llygredd amaethyddol hefyd yn ffynhonnell sylweddol o lygredd ffosffad, sydd ar hyn o bryd yn atal gwaith datblygu tai a seilwaith allweddol arall y gwyddom fod ei angen ar frys i wella bywydau pob cymuned yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle yn y ddadl hon i danlinellu fy ymrwymiad i gamau gweithredu ar yr hinsawdd, i aer glân, i ansawdd dŵr ac i atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, a gwn fod ffermwyr—y rhan fwyaf ohonynt—yn rhannu’r pethau hynny hefyd. A bydd unrhyw benderfyniad a wnaf yn anrhydeddu ac yn datblygu'r ymrwymiadau hynny, a gadewch imi atgoffa pawb, mae'r ymrwymiadau hyn wedi'u hymgorffori yn y gyfraith. Maent yn adlewyrchiad o'n cyfrifoldeb moesol i drosglwyddo treftadaeth naturiol Cymru i’r genhedlaeth nesaf mewn gwell cyflwr nag y'i cawsom.
Wrth drafod ein rhwymedigaethau amgylcheddol, yn anffodus, mae angen tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi nodi ei bwriad i ddiddymu holl gyfreithiau'r UE a ddargedwir, ac mae hynny’n cynnwys mesurau diogelu amgylcheddol hanfodol. Felly, credaf fod hwn yn bolisi hynod annoeth a fydd yn achosi, ar y gorau—[Torri ar draws.]. Iawn.
Rwy’n rhoi cyfle i’r Gweinidog fyfyrio ar y sylwadau a wnaed yr wythnos hon gan y cyn-Weinidog amaethyddol a fu wrthi ers amser maith yn DEFRA, George Eustice, sydd wedi gwawdio'r cynigion sydd bellach yn dod gan Lywodraeth y DU, yn dilyn y gwaith a wnaed, a’r gwaith a wnaed gyda ffermwyr, ar ysgogi lefelau uwch o stiwardiaeth amgylcheddol. Dywed bellach fod y gwaith hwnnw'n cael ei daflu allan—yn cael ei daflu o dan y bws—gan Lywodraeth y DU.
Credaf y gallwn weld pam nad yw George Eustice yn Ysgrifennydd Gwladol yn DEFRA mwyach.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal a chadw at safonau amgylcheddol yr UE. Byddaf yn gwrthsefyll, a lle bo modd, yn atal unrhyw newidiadau a wneir gan y Ceidwadwyr yn San Steffan rhag tanseilio’r safonau hynny, ac mae hynny’n cynnwys fel y’u hadlewyrchir yn y rheoliadau llygredd amaethyddol. Er bod adroddiad y pwyllgor wedi’i gyhoeddi cyn i bolisi Llywodraeth y DU gael ei gyhoeddi, rwy’n siŵr y byddai’r pwyllgor yn cytuno na ddylid caniatáu i unrhyw un o safonau amgylcheddol yr UE gael eu tanseilio yng Nghymru.
Cododd cwpl o Aelodau faterion sy'n ymwneud â chamau yr oedd ffermwyr eisoes wedi’u cymryd mewn perthynas â’r rheoliadau newydd. Credaf ei bod yn deg dweud bod rhai ffermwyr wedi gweithredu eisoes, a chredaf y byddant wedi sicrhau manteision i’w busnesau ac i’r amgylchedd. Credaf fod llawer o ffermwyr wedi gwneud ymdrech i wneud hynny cyn i reoliadau 2021 gael eu rhoi ar y gweill, oherwydd y manteision y gallent eu gweld i’w busnes.
Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y pwyllgor ac Aelodau eraill o’r Senedd yn parhau i ddangos diddordeb yn y maes hwn. Rwy’n parhau i gredu mai’r dyfodol gorau i ffermio yng Nghymru yw dyfodol lle rydym yn cadw ffermwyr ar y tir, gan eu cynorthwyo i gynhyrchu bwyd mewn ffordd sy’n gynaliadwy i’r amgylchedd ac i’w busnes. Ac yn yr wythnos y mae cig oen Cymru, am y tro cyntaf ers cenedlaethau, yn cael ei allforio i Ogledd America, gallwn fod yn sicr y bydd cynnal safonau uchel yn parhau i fod yn hollbwysig i’n llwyddiant. A gaf fi dderbyn ymyriad?
Cewch.
Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl eich bod yn dirwyn i ben. Nid ydych wedi rhoi sylw i’r cyfnodau gwaharddedig, sydd wedi’u codi gan dri neu bedwar o siaradwyr gwahanol.
Nid oeddwn yn dirwyn i ben, a dweud y gwir. Roeddwn yn edrych ar yr amser. Ar y cyfnodau gwaharddedig, os caf ateb Llyr: rydych yn llygad eich lle, roedd yn rhywbeth y bûm yn ymrafael ag ef am amser maith. Un o'r pethau a'm perswadiodd oedd anghenion y cnwd a'r maethynnau y mae angen eu rhoi ar y tir. Mae'n ddiddorol iawn na soniodd unrhyw Aelod, yn unrhyw un o'u hymatebion, am ofynion y cnwd nac am anghenion y cnwd.
Felly, yn fyr: gwn fod gwasgaru slyri—. Efallai y bydd twf y cnwd a’r angen am faethynnau yn y gaeaf yn cynyddu oherwydd cynnydd yn nhymheredd y pridd, ond un o’r ffactorau i mi oedd nad yw'r oriau o olau'r haul yn newid rhyw lawer. Felly, dyna'r rheswm pam y cefais fy mherswadio yn y pen draw. Dyna un o'r prif resymau, ond roedd cryn dipyn o resymau. Ond roedd yn rhywbeth—rydych yn llygad eich lle—y bûm yn rhyw lun o ymrafael ag ef.
I gloi, rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gydag Aelodau’r Senedd, a chyda phob un o’n rhanddeiliaid yng Nghymru, wrth inni barhau i leihau lefelau llygredd amaethyddol, sy’n fygythiad mor amlwg i’r amgylchedd naturiol. Diolch.
Paul Davies, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau am gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma? Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â pha mor bwysig yw’r rheoliadau hyn, a pha mor bwysig yw hi ein bod yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng diogelu’r amgylchedd a chefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu’r bwyd sydd ei angen ar ein gwlad.
Rydym wedi clywed cyfraniadau craff iawn, ac angerddol iawn yn wir y prynhawn yma, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n deall na fyddaf yn gallu ymateb i bob un. Ond rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Gaerffili am godi’r amserlenni y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael i ymateb i’n hadroddiad, ac rwy’n cytuno’n fawr ag ef: roedd yn bwysig fod y Llywodraeth yn rhoi amser i ystyried ein hadroddiad yn fanwl. Yr unig bwynt y byddwn yn ei wneud ynghylch yr amserlenni yw eu bod wedi mynd dros y terfyn amser, gan mai'r terfyn amser oedd 14 Medi, a gosodwyd yr adroddiad ar 8 Mehefin mewn gwirionedd. Byddai wedi bod yn ddefnyddiol, efallai, pe bai’r Llywodraeth wedi dweud wrth y pwyllgor pa bryd y bwriadai ymateb i’r adroddiad, ond rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ysgrifennu ataf eto heddiw ar y pwynt hwnnw.
Nawr, mae Aelodau fel yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, a'r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd wedi codi effaith gweithredu'r rheoliadau hyn ar ffermwyr, yn enwedig y costau ariannol. Mae'r pwyllgor yn deall y bydd y rheoliadau hyn yn cael effaith enfawr ar ffermio yng Nghymru ac y gallent fygwth cynaliadwyedd llawer o ffermydd yn ddifrifol. Am y rheswm hwnnw, fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi'n union pa gymorth fydd ar gael i ffermwyr i ateb y gofynion ansawdd dŵr a gofynion amrywiol eraill y rheoliadau. Dylai hyn, wrth gwrs, gynnwys y symiau, y mecanweithiau darparu cyllid ac yn wir yr amserlenni.
Mae Aelodau megis Jane Dodds a Llyr Gruffydd hefyd wedi codi'r defnydd o dechnoleg y prynhawn yma, ac fel y dywedais yn gynharach, clywodd y pwyllgor dystiolaeth gref mewn perthynas â'r defnydd o dechnoleg i hwyluso mwy o hyblygrwydd ynghylch pryd y gallai ffermwyr wasgaru slyri. Nawr, mae'r Gweinidog wedi dweud yn glir iawn wrth y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn agored i ystyried technoleg a mesurau amgen, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw. Ond fel y dywedodd Llyr Gruffydd, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn edrych ar ddewisiadau technolegol amgen yn y dyfodol agos, ac nid yn y blynyddoedd nesaf yn unig.
Yn fwy cyffredinol, fel pwyllgor, rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am weithredu'r rheoliadau hyn. Rydym yn arbennig o awyddus i ddysgu mwy am y paratoadau i Cyfoeth Naturiol Cymru fod mewn sefyllfa i orfodi'r rheoliadau hyn yn ddigonol ac yn deg. Rydym hefyd yn awyddus i weld dadansoddiad manwl o gymorth i ffermwyr gydymffurfio â'r rheoliadau hyn, a byddem hefyd yn hoffi cael mwy o wybodaeth am system drwyddedu arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermydd sydd angen defnyddio lefel uwch o nitrogen. Gwn fod y Gweinidog wedi dweud y bydd yr ymgynghoriad hwn yn digwydd, ac rwy'n edrych ymlaen at yr ymgynghoriad hwnnw.
Fel y dywedais wrth agor y ddadl hon, rwy'n credu bod symud o ffermio yn ôl y calendr a chyflwyno dull o wasgaru sy'n seiliedig ar dechnoleg yn hanfodol i ffermio yng Nghymru. Rwyf wedi clywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud y prynhawn yma, ond rwy'n gobeithio bod hon yn nodwedd greiddiol o'r adolygiad arfaethedig o'r rheoliadau hyn, adolygiad yr wyf yn disgwyl y bydd Aelodau'r pwyllgor hefyd yn awyddus i fod yn rhan ohono.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn gloi'r ddadl hon drwy ddiolch i bawb a gyflwynodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Yr unig ffordd o sicrhau bod y rheoliadau hyn yn taro'r cydbwysedd cywir yw drwy eu gwreiddio mewn tystiolaeth, ac mae hynny hefyd yn wir ar gyfer adroddiad y pwyllgor. Credaf fod ein hadroddiad a'r argymhellion ynddo yn seiliedig ar lefel uchel o dystiolaeth o ansawdd da. Felly, i gloi, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau a'r Gweinidog am eu cyfraniadau heddiw, a dweud bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael diweddariad ar gynnydd gweithrediad ein hargymhellion maes o law? Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.