6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith — 'Cysylltedd digidol — band eang'

– Senedd Cymru am 3:29 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:29, 16 Tachwedd 2022

Eitem 6 sydd nesaf a hwnnw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cysylltedd digidol—band eang'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8123 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Cysylltedd digidol—band eang’, a osodwyd ar 1 Awst 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:29, 16 Tachwedd 2022

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i agor y ddadl yma yn enw y pwyllgor. Wrth gwrs, i gychwyn, mi hoffwn i ddiolch i'r holl randdeiliaid hynny sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor, a dwi hefyd yn hynod o falch bod y Gweinidog wedi derbyn yr holl argymhellion y mae'r pwyllgor wedi eu gwneud.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:30, 16 Tachwedd 2022

Fel pwyllgor, y man cychwyn i ni yw y dylai pawb yng Nghymru allu cael mynediad at fand eang cyflym. Mae mwy a mwy o'n bywydau ni yn cael eu byw ar-lein—dyma sut dŷn ni'n trefnu apwyntiadau; dŷn ni'n delio â'n cyfrifon banc ar-lein erbyn hyn, nifer ohonom ni; dŷn ni'n siarad â ffrindiau a theulu ar-lein hefyd. Ac mae byw heb fynediad at y rhyngrwyd yn golygu bywyd llai cyfoethog, gyda llai o ddewis, ac, yn bwysig iawn, llai o fynediad at wasanaethau hanfodol. Ac fe allaf i siarad o brofiad personol—mae fy mhlant i'n byw mewn cartref lle does yna ddim band eang gwerth ei gael. Mae hynny wedyn â goblygiadau o ran defnyddio adnoddau addysgiadol rhyngweithiol, dibynnu mwy ar adnoddau ar bapur, sy'n llawer llai cyffrous, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Felly, dŷch chi'n gweld sut y mae methu â chael mynediad i fand eang yn effeithio'n ymarferol iawn, iawn ar fywydau nifer o bobl. Ac yn anffodus, mae’r ddarpariaeth band eang cyflym iawn ledled Cymru yn anghyson, ac mae yna raniad digidol rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol, yn enwedig. Mae gormod o ardaloedd gwledig yn dal i fethu â chael cysylltiad da â’r rhyngrwyd.

Oherwydd topograffeg fynyddig Cymru, mae hynny yn golygu bod cyfran uwch o eiddo sy’n anodd eu cyrraedd yma yng Nghymru o'i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae Ofcom yn amcangyfrif bod tua 10,000 eiddo yng Nghymru sy’n methu cael band eang da—10,000 eiddo. Mae'r sefyllfa wedi gwella'n sylweddol—ac mae'n rhaid cydnabod hynny—yn y blynyddoedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyllid sylweddol yn y maes polisi hwn. Yn sgil cynllun gwreiddiol Cyflymu Cymru, rhwng 2012 a 2018, fe gafodd £220 miliwn ei fuddsoddi i gysylltu tua 700,000 eiddo â band eang cyflym iawn. Ond mae hwn yn faes polisi sydd wedi’i gadw yn ôl—mae e'n reserved, onid yw e? Ac yn syml, dyw hi ddim yn gynaliadwy i Lywodraeth Cymru barhau i ailgyfeirio cyllid o feysydd datganoledig i lenwi bylchau ariannu sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wrthym ni yn y pwyllgor, a dwi'n dyfynnu, bod

'cyllid y DU wedi methu ag adlewyrchu gwir gost ei gyflwyno yn nhirwedd Cymru'.

A dwi'n cytuno'n llwyr â hynny. Mae angen mynd i’r afael â’r diffyg cyllid hwnnw. Dwi’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad ni fel pwyllgor ar y mater hwn, ond dwi ddim yn obeithiol iawn y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn newid eu meddwl ar hynny—fe gawn ni weld.

Felly, sut mae cyrraedd y 0.6 y cant yna o eiddo sy’n weddill sy’n methu cael mynediad at fand eang da? Wel, ers Mawrth 2020, gall aelwydydd sy’n methu cael band eang da ofyn i BT uwchraddio’r cysylltiad o dan y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol wedyn i BT wella'r cysylltiad am ddim os mai’r amcangyfrif yw bod y gost o osod yn is na £3,400 i'r cwsmer. Ond os yw'r gost yn fwy na'r cap yna o £3,400, yna mae'n rhaid i'r cwsmer dalu'r swm dros ben. Dyw hynny ddim yn fforddiadwy i’r rhan fwyaf o bobl—yn enwedig yng nghanol argyfwng costau byw fel dŷn ni'n ei brofi nawr—a dŷn ni fel pwyllgor wedi annog Llywodraeth Cymru i drafod codi lefel y cap yna gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn 2020, fe wnaeth y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol alw am sefydlu tasglu i chwalu rhwystrau, er mwyn gwella’r broses o gyflwyno seilwaith digidol. Fe wnaethom ni gefnogi hyn fel pwyllgor, a dwi’n falch bod y Gweinidog wedi gallu cyhoeddi yr wythnos diwethaf bod adroddiad y tasglu wedi cael ei gyhoeddi. Fe fyddwn ni'n edrych ymlaen i glywed gan y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl yma y prynhawn yma, am gasgliadau ac argymhellion y tasglu, ac egluro efallai ble dŷn ni'n mynd nesaf o safbwynt gweithredu ar hynny.

Roedd rhai cyfranwyr yn awgrymu y dylid gwneud cysylltedd ffeibr llawn yn ofyniad ym mhob datblygiad tai newydd. Dŷn ni'n cefnogi’r awgrym ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gellir cyflwyno gofyniad o’r fath yng Nghymru. Roedd gennym ni ddiddordeb hefyd mewn clywed bod datblygwyr tai yn ystyried cysylltedd digidol pan fyddan nhw yn cynllunio datblygiadau. Yn wir, mae un datblygwr wedi sefydlu ei ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd ei hun. Ar un olwg, mae hynny yn gam positif, ond rŷn ni yn bryderus braidd efallai fod yna botensial yn fanna wedyn i ddatblygwyr rwymo perchnogion tai fel hyn i'r ddarpariaeth y maen nhw yn ei chynnig a neb arall. Hynny yw, gallai hynny o bosib gyfyngu ar y dewis sydd ar gael i berchnogion tai a gwneud y farchnad, wrth gwrs, ar yr un pryd, yn llai cystadleuol. Rŷn ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gadw golwg ar hyn er mwyn sicrhau bod yna ddim datblygiadau anaddas yn digwydd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:35, 16 Tachwedd 2022

Un o'n prif bryderon ni oedd, ac yw, cynhwysiant digidol. Er bod mwy a mwy o bobl yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, mae'r gost mynediad yn aml iawn yn rhwystr i lawer, yn enwedig eto yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae risg y bydd mynediad at fand eang yn dod yn ryw fath o foethusrwydd na fydd nifer o bobl yn gallu ei fforddio. Felly, pa gamau y mae modd eu cymryd? Mae sawl darparwr band eang, rŷn ni'n gwybod, yn cynnig tariffau cymdeithasol am gost is i'r aelwydydd hynny sy'n gymwys ar gyfer y tariff hwnnw. Ond mi gafodd aelodau'r pwyllgor eu syfrdanu fod cyn lleied yn manteisio ar y tariffau cymdeithasol yma. Dim ond 3.2 y cant o aelwydydd cymwys ar gyfer tariff cymdeithasol sydd ar dariff cymdeithasol. Mae hynny yn druenus o isel, ac a dweud y gwir, mae e'n warth o beth. 

Mae'n rhaid i gofrestru ar dariffau cymdeithasol fod yn broses mwy eglur, yn rhywbeth mwy syml. Dylid hyd yn oed ystyried cofrestru aelwydydd cymwys yn awtomatig. Mae hwnna'n sicr yn opsiwn, a dwi'n falch bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers hynny wedi cyflwyno mesurau i'w gwneud hi'n haws i bobl gofrestru ar gyfer tariffau cymdeithasol. Dwi'n gobeithio y byddan nhw yn cael effaith gadarnhaol. Yn ei ymateb i’n hadroddiad, fe ddywedodd y Gweinidog fod swyddogion yn uned cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o dariffau cymdeithasol. Dwi'n croesawu hynny, ac yn sicr, fel pwyllgor, rŷn ni eisiau gweld mwy o bobl yn manteisio ar yr hyn y mae ganddyn nhw hawl i'w gael.

Roedd y mudo o linellau tir—landlines—i brotocol llais dros y rhyngrwyd yn bryder mawr i grwpiau sy’n cynrychioli defnyddwyr. Mae nifer ohonom ni fel Aelodau yn lleol, dwi'n siŵr, wedi cael ymwneud â'r mater yna. Mae materion a allai fod yn rhai sylweddol i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni yn codi yn sgil y newid arfaethedig yna. Efallai eu bod yn byw mewn ardal anghysbell neu wledig gyda mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd. Rŷn ni yn falch, wrth gwrs, bod y broses fudo honno wedi’i gohirio am y tro, ac rŷn ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru adrodd yn ôl i ni fel pwyllgor ar y mater yma.

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am ystyried y dull a ddefnyddiwyd yn yr Alban, sydd, ers dros bum mlynedd erbyn hyn, wedi cyflwyno rhaglen genedlaethol i helpu pobl i symud o analog i ddigidol, yn arbennig pobl sy'n defnyddio teleofal a monitro iechyd o bell. Hefyd, mae gan yr Alban gynllun teleofal digidol i gefnogi’r broses fudo ar gyfer y rhai sy’n wynebu’r risg mwyaf. Mi fyddwn i yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog ystyried y cynigion hyn ac, os nad yw e'n gallu ymateb iddynt heddiw, ei fod yn rhoi diweddariad ysgrifenedig i ni ar y materion yma maes i law.

I gloi felly, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i’r rhanddeiliaid a gyfrannodd at ein gwaith ni, ac i’r Gweinidog am ei ymateb adeiladol i’r adroddiad. Mae cynnydd sylweddol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf tuag at gynyddu mynediad at fand eang. Rŷn ni bellach nawr lawr i 0.6 y cant—y 0.6 y cant olaf hynny—ac mae technolegau newydd bellach ar gael, wrth gwrs, a ddylai wneud yr ymdrech olaf honno yn fwy cyraeddadwy, a, gobeithio, yn fwy fforddiadwy hefyd. Ond does dim amheuaeth bod angen cefnogaeth y Llywodraeth ar yr eiddo hyn. Mae'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried anghenion penodol Cymru wrth ddylunio a chreu ei phecynnau ariannol ac ariannu nesaf. Allwn ni ddim ailgyfeirio cyllid o feysydd datganoledig.

Ond yr her fwyaf arwyddocaol i lawer mewn cymdeithas ar hyn o bryd, wrth gwrs, fydd cost mynediad ei hun. I lawer, bydd cost band eang yn ormod, a bydd y drws i gynifer o’r gwasanaethau sydd ar gael ar-lein—y rhai y mae nifer ohonom ni erbyn hyn yn eu cymryd yn ganiataol—ar glo i lawer yn ormod o bobl Cymru. Diolch.  

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:40, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'n Cadeirydd am ei sylwadau. Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 10 prif argymhelliad yn adroddiad ein pwyllgor ar gysylltedd digidol. Mae'r holl ymdrechion a wnaed i wella cysylltedd digidol i'w croesawu'n fawr, ond mae adroddiad y pwyllgor yn mynd ymlaen i ofyn cwestiynau am strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym Gymru sydd wedi'i chysylltu'n ddigidol.

Mae’r adroddiad yn nodi, yn 2014, y gallai 55 y cant o eiddo preswyl gael mynediad at fand eang ar gyflymder o 30 Mbps neu uwch, o gymharu â 75 y cant ledled y DU. Erbyn 2021, roedd y ffigur hwn wedi cynyddu i 94 y cant yn erbyn cyfartaledd y DU o 96 y cant. Felly, rwy’n falch o weld y cynnydd, ond fel y nodwyd yn huawdl, gŵyr pob un ohonom am ardaloedd yn ein rhanbarthau neu ein hetholaethau lle mae gan bobl fand eang poenus o araf.

Fwy a mwy, mae pobl bellach yn dymuno lawrlwytho ffilmiau, mae pobl ifanc am wneud eu gwaith cartref, felly mae'n wirioneddol—. Mae wedi cael ei gategoreiddio bellach fel cyfleustod, onid yw. Dyma'r pedwerydd cyfleustod. Cytunaf yn gryf â’r pwyntiau hynny. Yn sicr, mewn cymunedau gwledig anghysbell, mae'n hollbwysig nad band eang yn unig sydd gan bobl, ond band eang cyflym.

Yn fwyaf arbennig, 46 y cant yn unig o gartrefi yng Nghymru sy'n cael cyflymder band eang o 100 'megadŵda' neu gyflymach, o gymharu â 66 y cant ledled y DU. Yn yr un modd, 44 y cant yn unig o gartrefi yng Nghymru sy'n cael cyflymder band eang o 300 Mbps neu gyflymach, o gymharu â 65 y cant ledled y DU. Felly, rydym yn awyddus i godi'r gwastad yma gyda band eang.

Rwy’n llwyr gefnogi sefydlu’r tasglu chwalu rhwystrau a grybwyllir yn yr adroddiad i ystyried ffyrdd o wella’r broses o ddarparu'r seilwaith digidol, gan ddysgu o'r enghreifftiau lleol mwyaf llwyddiannus a sicrhau bod datblygwyr ac awdurdodau’n gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth wirioneddol gyhoeddus-preifat, fel y nododd Ogi yn eu cyflwyniad.

Sylwaf yn eich ymateb ichi dderbyn argymhelliad y pwyllgor eich bod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ddatblygu mentrau cyhoeddus newydd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion penodol Cymru ac y dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl ar gynnydd o fewn y chwe mis nesaf. Edrychaf ymlaen at weld yr adroddiad hwnnw yn ôl yr hyn a drefnwyd.

Nodaf gyda diddordeb hefyd, ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â’r galwadau gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am dystiolaeth ar gysylltu safleoedd anodd iawn eu cyrraedd, y mae gan bob un ohonom enghreifftiau ohonynt, a bydd cyfle pellach i roi ymateb ffurfiol mewn perthynas â hynny i ymgynghoriad ar y mater yn ddiweddarach eleni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymrwymo i weithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros ddiwylliant, y Gwir Anrhydeddus Michelle Donelan AS, i sicrhau bod pob lefel o Lywodraeth yn cydweithio i weithredu argymhellion adroddiad y pwyllgor. Oherwydd, yn y pen draw, un genedl unedig ydym ni, ac rydym yn perfformio orau pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd fel Llywodraethau i ddatrys y problemau cymhleth hyn.

Mae hwn yn fater hanfodol bwysig i fy etholwyr yn Aberconwy, gan fod y rheini sy’n wynebu problemau cysylltedd yn anghymesur o debygol o fod yn oedrannus neu o fod yn byw mewn cymunedau gwledig neu anghysbell. Yn ôl ymchwil a gyflawnwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, roedd dros 50 y cant o ymatebwyr mewn ardaloedd gwledig yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd y mae ganddynt fynediad ati naill ai’n gyflym neu’n ddibynadwy, a dywedodd 66 y cant eu bod hwy neu eu haelwyd wedi cael eu heffeithio gan fand eang gwael. Disgrifiodd 57 y cant o’r rheini o ardal wledig y signal ffonau symudol yn eu tŷ fel un annibynadwy, a 49 y cant o’r rheini—

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:44, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwrando gyda chryn ddiddordeb ar eich cyfraniad. Mae'r niferoedd rydych yn eu darllen yn dystiolaeth o fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni'r hyn sy'n fater a gedwir yn ôl. A wnewch chi ymuno â ni i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddweud wrth Lywodraeth y DU ei bod yn bryd iddynt dynnu eu bys allan a chofio bod Cymru'n rhan o’r DU hon, a’n bod yn haeddu’r un gwasanaethau ag y maent yn eu darparu ar yr ochr arall i’r ffin?

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:45, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n rhaid imi anghytuno â fy nghyd-Aelod draw ar y meinciau hynny, ond mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU, dros y blynyddoedd, wedi darparu adnoddau sylweddol, a Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am y cyflwyno ei hun. Felly, gadewch inni feio'r rheini sy'n gyfrifol—

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n swyddogaeth nad yw wedi'i datganoli.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Na, mae'n ddrwg gennyf—[Torri ar draws.] Mae gennyf hawl i rywfaint o amser ychwanegol.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Gadewch i’r Aelod ddirwyn i ben. Mae ganddi hanner munud ar ôl i gwblhau ei chyfraniad.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n swyddogaeth nad yw wedi'i datganoli; [Anghlywadwy.]—gwariwch arian arni.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Roedd yr adroddiad hwn ar ran ein pwyllgor yn Senedd Cymru yn ymwneud â gallu Llywodraeth Cymru i gadw at ei haddewidion mewn perthynas â band eang. Maent wedi derbyn yr holl argymhellion. Mae hynny'n dweud wrthyf, ac wrth bawb y tu allan i'r lle hwn, fod angen gwneud y gwaith hwnnw, a bod Llywodraeth Cymru yn methu. Diolch yn fawr.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru

Diolch i'r pwyllgor am ei holl waith ar y pwnc yma. Dwi ddim yn siŵr os oedd y siaradwr diwethaf wedi darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae’r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor a’r ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i’w croesawu’n fawr. Nid oes ond angen inni edrych yn ôl mor ddiweddar â’r cyfyngiadau symud i weld pa mor bwysig yw cael mynediad digonol at fand eang. Roedd yn un o'r ychydig iawn o ffyrdd a oedd gan lawer ohonom i osgoi teimlo’n ynysig a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau ac anwyliaid. Fe wnaeth y pandemig ein gorfodi i ofyn cwestiynau ynglŷn â'r ffordd orau inni ddefnyddio adnoddau i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol dybryd, a chefais fy atgoffa o hyn yn ddiweddar iawn pan ymwelais â champws Pencoed Coleg Penybont. Soniodd sawl myfyriwr yno am eu profiadau yn ystod y cyfyngiadau symud, a sut roedd eu diffyg mynediad at fand eang a chaledwedd addas, fel gliniaduron, wedi golygu eu bod ar ei hôl hi gyda gwaith ysgol, neu eu bod wedi gorfod defnyddio data eu ffonau symudol. Dywedodd un myfyriwr wrthyf ei bod, i bob pwrpas, wedi colli gwerth blwyddyn o addysg am fod ei Wi-Fi mor wael.

Yn oes llythrennedd a chysylltedd digidol, mae cymunedau nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd o dan anfantais gyffredinol, nid yn unig yn gymdeithasol, ond hefyd o ran addysg a chyflogadwyedd. Mae hyn yn arbennig o wir ers y pandemig, gyda mwy o swyddi'n cael eu cynnig ar sail gweithio o bell. Mae gweithio o bell yn rhoi cyfle i bobl weithio gartref, aros yn eu cymunedau, cyfrannu at economïau lleol, ac yn y pen draw, aros yng Nghymru, ond nid yw'n bosibl i bawb. O gofio hyn, mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor yn galonogol. Wedi dweud hynny, mae’n destun pryder o hyd, yn ôl ymchwil gan Lywodraeth Cymru i gynhwysiant digidol, nad yw 7 y cant o oedolion ar-lein. Mae'r un ymchwil yn dangos bod yr anghydraddoldeb hwn yn cael effaith ar anghydraddoldeb ehangach, a bod ganddo'r potensial i'w waethygu. Felly, er enghraifft, y rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw rhai o ddefnyddwyr mwyaf gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac felly maent mewn perygl o gael eu gadael ar ôl gan wasanaethau digidol diofyn. Mae Ofcom hefyd yn amcangyfrif na all oddeutu 10,000, neu 0.6 y cant o adeiladau yng Nghymru gael gwasanaeth band eang digonol â chyflymder lawrlwytho o 10 Mbps o leiaf, a chyflymder lanlwytho o 1 Mbps. Edrychaf ymlaen at weld unrhyw gynnydd ar sicrhau bod yr 1 y cant olaf hwn o bobl yn cael mynediad at fand eang digonol, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor.

Mae angen inni ymwreiddio’r syniad fod y rhyngrwyd, heddiw, ymhell o fod yn foethusrwydd; mae’n wasanaeth angenrheidiol sy’n galluogi ac yn rhywbeth y mae’n rhaid i bawb allu cael mynediad ato mewn cymdeithas fodern. Mae pobl hŷn, pobl sydd ag anableddau, pobl ddi-waith a phobl ar gyflogau isel, pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a llawer o grwpiau eraill oll mewn perygl o gael eu gadael ar ôl. Er fy mod yn ymwybodol fod sawl darparwr band eang yn cynnig tariffau cymdeithasol rhatach i aelwydydd cymwys, ychydig iawn o bobl sy'n manteisio ar y cynigion hyn. Fel rydym wedi'i glywed eisoes, hyd at fis Medi 2022, 3.2 y cant y unig o aelwydydd sy’n cael credyd cynhwysol sydd ar dariff cymdeithasol. Ac fel y soniais yn y Siambr yn ddiweddar, credaf ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ba gymorth sydd ar gael iddynt.

Ond mae’n ddiogel dweud bod Llywodraeth y DU wedi bod yn gwneud cam â ni yma yng Nghymru yn y maes cymhwysedd hwn a gedwir yn ôl, gan wneud inni wario’r miliynau ar seilwaith a meysydd eraill lle dylent fod wedi bod yn buddsoddi i sicrhau bod gan bawb fynediad at fand eang digonol. Mae hwnnw'n arian a wariwyd gan Lywodraeth Cymru lle na ddylai fod rhaid ei wario, ac arian y gallem fod wedi’i fuddsoddi mewn mannau eraill, pe bai Llywodraeth y DU wedi bod yn buddsoddi’n briodol. Dyna arian a allai fod wedi mynd tuag at helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw, er enghraifft. Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da. Rydym yn haeddu gwell. Mae ein cymunedau, sydd heb gysylltiad ar hyn o bryd, yn haeddu gwell. Dyma un o’r rhesymau pam fy mod yn codi llais dros wasanaethau sylfaenol cyffredinol. Yn sicr, fy ngobaith, yn y blynyddoedd a’r degawdau nesaf, yw y bydd ein gweledigaeth o ba wasanaethau a ddylai fod ar gael i bawb yn parhau i ehangu a dod i gynnwys gwasanaeth fel band eang sylfaenol i bawb.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 3:50, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Mae angen cymryd camau brys i sicrhau nad oes unrhyw gymuned, unrhyw fusnes nac unrhyw gartref yn cael eu gadael ar ôl er mwyn atal anghydraddoldeb. Canfu arolwg gan Sefydliad y Merched nad oedd dros 50 y cant o ymatebwyr mewn ardal wledig yn teimlo bod eu rhyngrwyd yn gyflym ac yn ddibynadwy, a dywedodd 66 y cant eu bod hwy neu eu haelwyd wedi cael eu heffeithio gan fand eang gwael. Roeddent yn cael anhawster i gael gafael ar wybodaeth, cysylltu â darparwyr a gwybod pa gyllid sydd ar gael. Felly, mae angen inni wneud i bob cysylltiad gyfrif, a'i ychwanegu, efallai, at y cymorth grant sydd ar gael ar gyfer costau byw.

Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau chwarae eu rhan ac ymrwymo i wella cyfathrebu â'u cwsmeriaid ynglŷn â'r gwasanaethau sydd ar gael, a chael mynediad at dariffau cymdeithasol. Wrth symud ymlaen, er mwyn i seilwaith band eang fod yn gosteffeithiol, bydd angen iddo gael ei lunio mewn ffordd gynhwysfawr, gyda manteision hirdymor mewn golwg sy’n gwasanaethu pawb, gan gynnwys y rheini mewn ardaloedd gwledig. Yn Lerpwl, ceir prosiect menter ar y cyd sydd wedi'i hyrwyddo gan faer metro dinas Lerpwl, Steve Rotheram. Golyga'r bartneriaeth hon fod buddsoddiad cyhoeddus yn rhoi cyfran i'r awdurdod yn y sefydliad, ac yn sgil hynny, yn hytrach na bod elw yn unig ystyriaeth, mae budd cymdeithasol hefyd yn ganolog i'r prosiect band eang. A gall y cyhoedd barhau i elwa ar y buddion am flynyddoedd i ddod. Byddai prosiect menter ar y cyd o'r fath o fudd i'r cyhoedd yng Nghymru. Felly, byddai’n dda pe bai swyddogion a Gweinidogion yn fodlon ymchwilio i opsiwn o’r fath er mwyn hybu cysylltedd digidol yn ddynamig yn y gogledd a gweddill Cymru, fel sy'n digwydd ar sail dameidiog iawn ac yn araf iawn ar hyn o bryd.

O ystyried yr amryw ddatganiadau yn yr adroddiad ar gysylltedd digidol sy’n pwysleisio bod yr atebion sydd eu hangen i bontio’r gagendor digidol rhwng ardaloedd gwledig a threfol yn galw am gymysgedd o fynediad di-wifr sefydlog a ffeibr, mae’n braf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon blaengar i gefnogi menter prosesu signalau digidol Prifysgol Bangor i ddarparu ateb hybrid o’r fath ar Ynys Môn, ac rwy'n gobeithio y caiff hyn ei gyflwyno'n llwyddiannus. Dywedwyd wrth aelod o’r consortiwm gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon—adran Llywodraeth y DU—na fyddai’r gogledd yn cael unrhyw fuddsoddiad am ddwy flynedd arall, gan fod ardaloedd eraill wedi'u blaenoriaethu ar gyfer cyllid cronfa seilwaith £5 biliwn Llywodraeth y DU. Felly, mae angen inni barhau i wthio i hynny ddigwydd ar unwaith, ac iddo ddigwydd yng Nghymru, a pheidio â’i wneud yn flaenoriaeth isel i Lywodraeth y DU.

A wnaiff y Gweinidog atgyfnerthu awydd y Llywodraeth i wthio'r fenter ar Ynys Môn ymlaen i’r cyfnod cyflwyno cyn gynted â phosibl? Mae’n adlewyrchu’r syniadau mwyaf diweddar o ran yr atebion sydd eu hangen i ddarparu cysylltedd a gwasanaethau digidol i’r lleoliadau gwledig mwyaf heriol, fel y gellid eu cyflwyno ledled Cymru—y gogledd a'r canolbarth.

Yn ogystal, a gawn ni sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o unrhyw lwyfannau ffeibr a thorfol presennol i leihau costau darparu, ac felly osgoi’r perygl diangen o ariannu seilwaith dyblyg, gyda’r nod o ddarparu llwyfan rhwydwaith mynediad agored i unrhyw ddarparwr ddarparu gwasanaethau i’n cymunedau gwledig? Dywedir wrthyf fod ffeibr tywyll ar gael yn agored sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac a osodwyd gyda chyllid Ewropeaidd beth amser yn ôl, ac nad yw pob darparwr yn ei ddefnyddio neu'n ei hyrwyddo—neu efallai nad ydynt yn ymwybodol ohono, gan ffafrio defnyddio mwy o gyllid cyhoeddus i osod eu rhwydwaith. Mae angen ymchwilio i hynny.

Gyda mwy o ddibyniaeth ar gyfathrebu ar-lein ar gyfer iechyd, cyflogaeth, grantiau busnes ac addysg, mae arnom angen mwy o gysylltedd band eang digonol i bobl. Ac rwy'n cytuno y dylid ei gydnabod fel gwasanaeth hanfodol. Diolch.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:54, 16 Tachwedd 2022

Diolch i'r pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth ddeheuig fy nghyfaill Llyr Gruffydd fan hyn, am yr adroddiad yma. Mae'n un sy'n arbennig o berthnasol i Ddwyfor Meirionnydd. Dwi am ganolbwyntio'n benodol ar yr adran sy'n sôn am gysylltu y rhai hynny sydd wedi'u gadael ar ôl. Mae'n rhaid imi fynegi fy siom aruthrol yn yr agwedd eithaf di-hid y mae rhai o'r darparwyr ac eraill yn y maes yn ei dangos tuag at yr 1 y cant, neu yn wir rhagor, o bobl sy'n methu, ac a fydd yn methu, â chael mynediad i'r we. Mae yna sôn am ddefnyddio technolegau eraill, megis ffonau symudol neu loeren, ond mae hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth elfennol o’n cymunedau gwledig. Edrychwch ar Ddwyfor Meirionnydd; does yna ddim mynediad at signal ffôn mewn llawer o rannau yma, ac mae cael lloeren i weithio naill ai yn amhosibl oherwydd natur mynyddig y dyffrynnoedd yn yr ardal neu yn fwy costus a llai dibynadwy.

Mae yna fusnesau yn Islawr-dref, ger Dolgellau, er enghraifft, sydd wedi trio eu gorau i gael rhyngrwyd i'w cyrraedd acw, ond mae’r costau iddyn nhw’n ddegau o filoedd o bunnoedd. Mae un perchennog busnes a’i deulu rŵan yn edrych i symud i’r Amwythig oherwydd y methiant yma i gael mynediad at y we, ac felly ei anallu i redeg ei fusnes. Mae gen i deulu yng Nghwm Pennant sy’n weithwyr allweddol ac yn gorfod gweithio o adref, a thra bod pob un tŷ cyfagos wedi cael mynediad at y we—pob un yn dŷ gwyliau neu'n dŷ haf, gyda llaw—dydyn nhw ddim wedi cael mynediad, ac maen nhw wedi cael dyfynbris i osod isadeiledd o dros £74,000. Maen nhw fel teulu sydd wedi byw yno am sawl cenhedlaeth bellach yn gorfod edrych i symud o’r ardal.

Mae cymuned Brithdir wedi llwyddo i ddod ynghyd â chael y nifer o bobl angenrheidiol i gael y vouchers er mwyn cael BT i wneud y gwaith gosod isadeiledd yno, ond, er gwthio a gwthio am flwyddyn a mwy, maen nhw’n dal i aros i’r gwaith gael ei orffen blynyddoedd yn ddiweddarach. Roeddwn i yng Nghricieth wythnos diwethaf, ac yno mae busnesau’n colli pres oherwydd bod yna broblem sylweddol ar y mast ffôn sy’n darparu signal i’r terminalau talu yn y siopau a busnesau, efo gweithwyr lleol megis adeiladwyr yn ddibynnol ar signal ffôn er mwyn cael busnes hefyd. Mae’r cyfan wedi bod lawr ers 18 Hydref, a dim ymateb na dim sôn am atgyweirio. Dyma ydy’r realiti byw mewn cymuned wledig. Ac fel y gwelwch chi, mae’r problemau yma, boed yn rhyngrwyd neu’n signal ffôn, yn rhai cyffredin iawn yn ein hardaloedd ni, ac mae’r ffordd y mae’r cwmnïau a darparwyr mawr yn eu diystyru ac yn eu hanwybyddu yn gwbl, gwbl warthus.

Felly, fel y dywedodd fy nghyfeillion Luke Fletcher a Carolyn Thomas, mae mynediad at y we bellach yn un o hanfodion bywyd yn yr oes fodern. Ydy, mae’n swnio’n rhyfedd, ond mae o’n wir. Mae’n gwbl hanfodol, er enghraifft, os am wneud gwaith ysgol, os am ffermio, os am redeg busnes o ran gwerthu neu farchnata, os am gysylltu efo pobl eraill, ac yn y blaen. Rydyn ni yma, pob un, dwi’n siŵr, yn ddibynnol ar WhatsApp i gadw cyswllt a rhannu gwybodaeth. Os ydyn ni’n ddibynnol yn ar y gwaith hynny a’r dechnoleg yma, yna mae’r un yn wir am y bobl rydyn ni’n eu cynrychioli yn ein cymunedau gwledig. Mae pob un yma, er enghraifft, o bryd i’w gilydd, yn ffilmio eitemau i’w postio ar y we. Mae pobl hefyd yn ein cymunedau ni yn gwneud yr un peth. Mae plant yn siarad efo’i gilydd a sôn a ydyn nhw wedi gweld y rhaglen ddiwethaf ar Netflix, neu ar YouTube, wedi gweld PewDiePie a’r bobl yma ar YouTube, ac mae’r plant sydd yng Nghwm Pennant ac yn y blaen yn dweud, ‘Na, mae arnaf i ofn fy mod i ddim wedi’i weld o’, ac maen nhw’n cael eu bwlio, neu maen nhw’n cael eu gadael allan o sgyrsiau a thrafodaethau.

Felly, mae argymhelliad 3 sydd yn yr adroddiad rhagorol yma yn hanfodol, ond fe hoffwn i awgrymu nad ydy’r Llywodraeth yn rhoi monopoli i Openreach o hyn ymlaen. Mae’r arbrawf yna sydd wedi gadael gormod o’n cymunedau i lawr, ac wedi rhoi gormod o bres cyhoeddus Cymru i un cwmni mawr allanol, wedi methu, ac yn hytrach na hynny, dylid hyrwyddo darparwyr a chwmnïau cydweithredol lleol, gan ddysgu o arfer da cwmnïau megis Guifi yng Nghatalonia, HSLnet yn yr Iseldiroedd, neu B4RN—Broadband for the Rural North Ltd—yn sir Gaerhirfryn. Dyna ydy’r ffordd ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:59, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Fel eraill, hoffwn innau ddiolch i’r pwyllgor am yr adroddiad hwn ac am yr ymchwiliad byr hwn. Roeddwn yn meddwl bod y pwyntiau a wnaeth Cadeirydd y pwyllgor wrth agor y ddadl hon yn rhai da a'u bod wedi sefydlu grŵp clir iawn o ganfyddiadau rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb iddynt. Ond y gwir amdani yw bod angen i Lywodraeth y DU ymateb i hyn hefyd. Ac rwy’n cymryd rhan yn y ddadl hon gan fy mod wedi gwrando ar y cyfraniadau'r prynhawn yma, ac mae llawer wedi canolbwyntio ar anghenion Cymru wledig, gan ddisgrifio hyn fel problem sy’n wynebu ardaloedd gwledig yn unig. Ond rhaid imi ddweud wrthych, nid yw hynny'n wir. Mae hyn yn ymwneud â mwy na chymunedau gwledig yn unig. Mae'n ymwneud â rhai o'n hardaloedd trefol mwyaf poblog hefyd. Os ewch i rannau o Gaerdydd, mae gennych broblemau sylweddol gyda diffyg mynediad at fand eang digon cyflym. Ac yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent, mae gennych sawl rhan o'r gymuned na allant gael mynediad at y cyflymder band eang sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn agweddau ar fywyd modern, fel rydych wedi'i ddisgrifio, Mabon, ond hefyd, nid yw'r busnesau sy'n gweithredu yno yn gallu cael mynediad at farchnadoedd am nad oes ganddynt y cyflymderau band eang sydd gan rannau eraill o’r DU.

Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'r Gymru wledig yn erbyn y Gymru drefol—mae'n ymwneud â methiant system y DU i ddarparu ar gyfer Cymru gyfan. Dyna pam y credaf fod yr adroddiad hwn mor bwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros y blynyddoedd. Rwy’n cofio siarad â Gweinidogion dros gyfnod hir o amser nawr am yr angen i fuddsoddi mewn band eang, mewn gwahanol fathau o fand eang, dros y blynyddoedd, ond gadewch inni fod yn gwbl glir ynglŷn â ble mae’r methiant yn hyn o beth, ac mae’r methiant yn system y DU nad yw'n darparu ar gyfer Cymru. Methiant y farchnad ydyw. Nid yw’r farchnad yn darparu'r mathau o gyflymder a chysylltedd band eang sydd eu hangen ar bobl. Mae'n fethiant rheoleiddio, gan nad yw'r rheoleiddiwr yn sicrhau bod y farchnad yn darparu. Ac yn olaf, mae’n fethiant Llywodraeth, gan fod y Llywodraeth yn caniatáu i’r rheoleiddio fethu.

Felly, methiant y system ydyw. Ac rwy'n mynd i helpu Janet Finch-Saunders nawr, os yw hi—. Dyma ni, rwyf wedi cael ei sylw. Oherwydd nid methiant y Llywodraeth Geidwadol bresennol yn unig mohono, er ei fod yn fethiant ar eu rhan hwy hefyd. Roedd hefyd yn fethiant o dan Lywodraethau Llafur blaenorol, ac roedd gan y system a sefydlwyd gan Lywodraeth Blair, Ofcom a’r gweddill, fethiant wrth ei gwraidd, gan ei bod yn canolbwyntio ar y—[Torri ar draws.] Fe dderbyniaf eich ymyriad, ond gadewch imi orffen y frawddeg; gallwn daro bargen ar hynny. Sefydlwyd Ofcom i edrych ar hawliau a chyfrifoldebau defnyddwyr, ac nid hawliau dinasyddion, a’r ddadl honno, yn fy marn i, a gollwyd pan oedd Ofcom yn cael ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl. Fe wnaf ildio.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:02, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Roeddwn am ddweud: a wnaiff yr Aelod o leiaf gydnabod bod gennym ddatganoli, ac mewn achosion lle mae gennych sefyllfa fel hon, mae symiau sylweddol o arian wedi dod gan Lywodraeth y DU? Felly, rhai o'r methiannau a nodwch, ni allwch eu beio hwy, a hwythau wedi bwrw iddi i gyflwyno eu band eang yn gyflym iawn. Os oes unrhyw oedi wrth ei gyflwyno yma, ni allwch wadu bod miliynau o bunnoedd—

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Janet, Janet, Janet, peidiwch—

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

A allwch chi wadu'r miliynau o bunnoedd sydd wedi dod yma gan Lywodraeth y DU? 

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn gwadu dim; nid oes angen i mi. Methiant rwy'n ei ddisgrifio. Nid yw'n ymwneud â gwariant; mae'n ymwneud â chyflawni amcanion polisi, a dyna lle mae'r methiant. Ac nid oes angen ichi amddiffyn popeth y mae'r DU yn ei wneud. Weithiau, mae'n methu, ac mae hon yn enghraifft o fethiant, ac nid methiant y Llywodraeth yn unig ydyw, fel rwyf wedi'i ddweud wrthych—mae'n fethiant ar ran y farchnad, ac yn fethiant rheoleiddio. A bydd grym eich dadl yn fwy pan fyddwch yn cydnabod hynny, yn hytrach na cheisio amddiffyn popeth, ni waeth pa mor ofnadwy yw'r sefyllfa mewn gwirionedd. Rwy'n cydnabod y gwaith mae'r Gweinidog hwn yn ei wneud, ac rwy'n cydnabod y gwaith y mae ei ragflaenwyr wedi'i wneud, ond yn sylfaenol, aeth y Ceidwadwyr i mewn i'r etholiad diwethaf yn dweud wrth Lywodraeth Cymru na ddylent wario arian nac adnoddau ar unrhyw beth nad yw wedi'i ddatganoli. Nawr mae'n ymddangos eich bod yn dadlau y dylent gyflawni polisïau nad ydynt wedi'u datganoli, acrobateg wleidyddol sydd y tu hwnt i mi. Rwy'n ildio i Mark Isherwood. 

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:03, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Onid ydych yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno o'r cychwyn cyntaf yn 2011 y byddent yn penderfynu sut i ddefnyddio a rhoi cyllid i gyfateb i gyllid roeddent yn ei gael gan Lywodraeth y DU, drwy gytundeb, i gyflwyno band eang cyflym iawn ledled Cymru? 

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:04, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cofio trafod hyn gyda Ieuan Wyn Jones ymhell cyn 2011, ac Angela Burns oedd yn arwain y gwaith ar hynny ar y pryd. Felly, mae hyn yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer. Ond nid wyf yn ceisio bwrw bai yn y ffordd rydych yn ceisio'i ddisgrifio yma, oherwydd rwy'n credu bod methiant, methiant systemig, yn y system sy'n darparu band eang. Ac er y gallwn bwyntio bysedd ar ein gilydd yn y Siambr os dymunwch, mae hwnnw'n ymarfer diffrwyth. Nid yw'n cyflawni dim, oherwydd nid ydym yn mynd i'r afael â gwreiddiau'r methiant. Rwyf eisiau gweld Llywodraeth Cymru—ac nid wyf am brofi eich amynedd mwyach, Ddirprwy Lywydd—rwyf eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag Aelodau'r Senedd i sicrhau bod y system sydd ar waith yn gweithio i Gymru. Mae hynny'n golygu grymuso a dweud wrth Ofcom ddarparu trefn reoleiddio sy'n cyflawni ar gyfer dinasyddion Cymru lle bynnag y maent yn byw, bod Llywodraeth y DU yn ariannu'r gwaith y mae angen iddynt ei ariannu, a bod ymyrraeth i gywiro methiant y farchnad lle mae hynny'n digwydd. Ond yn rhy aml rydym wedi caniatáu i gwmnïau telathrebu wneud llawer gormod o arian, a dweud y gwir, o beidio â gwasanaethu'r dinasyddion rydym yn eu cynrychioli, ac mae hwnnw'n fethiant polisi sylweddol dros gyfnod o 20 mlynedd. Ac mae'r methiant polisi hwnnw'n effeithio ar gymunedau ym mhob rhan o'r wlad hon, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r methiant polisi hwnnw, yn hytrach na cheisio sgorio pwyntiau gwleidyddol digon tila yn y Siambr hon ar brynhawn Mercher. 

Photo of David Rees David Rees Labour 4:05, 16 Tachwedd 2022

Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei waith ar yr adroddiad, sy'n amlygu'r meysydd lle rydym yn parhau i wneud cynnydd, ac mae angen cynnydd pellach, yn wir. Gallwn i gyd gytuno bod cysylltedd digidol yn wasanaeth hanfodol. Rwyf hefyd yn cytuno y byddwn yn hoffi iddo gael ei drin yn briodol fel cyfleustod cyhoeddus, gyda'r holl ofynion a ddaw yn sgil hynny, gan gynnwys gan y darparwyr gwasanaeth. Ni ellir gwadu ei fod hefyd yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, ond rydym yn parhau i gamu i mewn i gefnogi trigolion a busnesau, i'w helpu i gael y cysylltedd sydd ei angen arnynt gydag adnoddau datganoledig. Bydd yr her honno'n mynd yn anos wrth i'n hadnoddau ariannol wynebu mwy a mwy o heriau. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau adeiladol ar y cyfan, ac rwy'n cydnabod y drafodaeth rhwng Alun Davies a Janet Finch-Saunders, ond mae'n ffaith, nid barn, fod hwn yn fater a gedwir yn ôl ac nid yn fater wedi'i ddatganoli; mae'n ffaith, nid barn, ein bod wedi rhoi adnoddau datganoledig i ychwanegu ar yr arian sydd wedi'i fuddsoddi yng Nghymru i geisio datrys y mater, ac mae'n ffaith nad yw'r holl adnoddau hyd yma wedi'u cynllunio i ddarparu cysylltedd 100 y cant.

Yn ddiweddar, dechreuodd Llywodraeth y DU ar brosiect gwerth £5 biliwn—dyna a ddywedai'r pennawd ar y pryd—Project Gigabit i sicrhau, a'u geiriau hwy yw'r rhain, fod gan bob safle yn y DU fynediad at fand eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit; rwy'n credu mai dyna ydyw, yn hytrach na gigadŵda. Y targed gwreiddiol oedd cyflawni hyn erbyn 2025, ond cafodd hynny ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU wedyn i 85 y cant o safleoedd y DU erbyn 2025, a holl safleoedd y DU erbyn 2030. Yn ddryslyd, nid yw 'pob safle' yn golygu pob safle mewn gwirionedd, oherwydd mae Llywodraeth y DU hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â'r hyn y mae'n ei alw'n 'safleoedd sy'n anodd iawn i'w cyrraedd' ar draws y DU. Ac mae Alun Davies yn gywir: bydd rhai o'r safleoedd hynny mewn cymunedau gwledig, a bydd rhai mewn cymunedau trefol. 

Nawr, rwy'n cydnabod yr hyn y mae llawer o'r Aelodau wedi'i ddweud, fod cysylltedd digidol yn hanfodol i bobl gadw mewn cysylltiad a gwneud mwy na goroesi'n unig. Rydym yn gwybod bod y cynnydd mewn costau byw eisoes yn cael effaith enfawr ar unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau. Rydym yn archwilio'r effeithiau ar gyflawni'r strategaeth ddigidol i Gymru a sut y gall ein polisi digidol a data helpu i gyflawni ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â'n hymdrechion i wella cysylltedd band eang. Rydym wedi buddsoddi £56 miliwn o adnoddau datganoledig i helpu i gyflwyno ffeibr llawn a darparu band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit i oddeutu 39,000 o gartrefi a busnesau erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae ein grant Allwedd Band Eang Cymru wedi helpu miloedd i wella eu cyflymder band eang, ac mae ein cronfa band eang lleol wedi cynorthwyo awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i wella cysylltedd cymunedau cyfan. 

Yn ein hymateb i'r pwyllgor, gwnaethom yn glir y byddem yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ei chynlluniau i fynd i'r afael â safleoedd sy'n anodd eu cyrraedd a pharhau i gyflwyno'r achos y dylai Llywodraeth y DU fuddsoddi yn y maes hwn a gedwir yn ôl i gysylltu'r safleoedd anoddaf oll i'w cyrraedd ledled Cymru. Rydym yn rhannu pryderon y pwyllgor am ddiffodd rhwydwaith ffôn y gwasanaeth cyhoeddus. Mae fy swyddogion wedi codi'r pryderon hynny gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant, ac yn arbennig, y ffaith y bydd symud i brotocol llais dros y rhyngrwyd yn gadael cwsmeriaid yn agored i niwed pe bai toriadau trydan. Rwy'n rhoi croeso gofalus i ymrwymiad Llywodraeth y DU i godi gwerth ei thalebau gigabit. Fe wnaethom ddarparu arian ychwanegol i'r cynllun talebau DU hwn yn flaenorol er mwyn adlewyrchu costau a allai fod yn uwch o ddarparu cysylltiadau mewn tirlun fel Cymru, ond wrth gwrs, mae gennym ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i gyflawni ledled y DU. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn flaenorol, yn awgrymu y dylent edrych ar y terfynau cyllido, ac rydym yn aros i weld nawr os gall Llywodraeth y DU sicrhau cynnydd, ac os gallant, pa mor effeithiol a sylweddol fydd y cynnydd hwnnw. Rydym yn cytuno bod angen diwygio cap costau'r ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol. Rydym wedi gweld costau o ddegau o filoedd o bunnoedd yn cael eu dyfynnu i drigolion a busnesau, yn llawer uwch na'r cap o £3,400. Mae hynny'n rhoi'r union safleoedd roedd yr ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol i fod i'w gwasanaethu dan anfantais.

Rydym yn datblygu cynigion i ddiwygio rheoliadau adeiladu, fel y soniodd y Cadeirydd wrth agor y ddadl, er mwyn ceisio sicrhau cysondeb ar draws yr holl ddatblygiadau tai newydd, fel y gall trigolion fwynhau band eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit. Rydym yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar y cynigion hyn cyn bo hir. Ac rydym yn cydnabod bod cynhwysiant digidol yn fater cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae angen i bobl fod yn hyderus i ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol er mwyn goresgyn anfanteision eraill y gallent eu hwynebu. Rydym yn gwybod bod mynediad digidol yn chwarae rhan bwysig mewn cymdeithas, fel y soniodd nifer o'r Aelodau. Boed er mwyn i bobl ymgysylltu â gwasanaethau iechyd, er mwyn lleihau teimladau o unigrwydd ac unigedd drwy gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theuluoedd neu'n wir, er mwyn parhau i weithio a gallu dysgu. Fodd bynnag, mae yna bobl o hyd sy'n dewis peidio â chymryd rhan yn y byd digidol newydd, neu'r byd digidol safonol rydym i gyd wedi dod i arfer ag ef, a rhai sy'n methu fforddio'r costau sy'n gysylltiedig â bod ar-lein. Mae honno eto'n un o effeithiau eraill yr argyfwng costau byw. Ni allwn fforddio i'n dinasyddion fod dan anfantais gymdeithasol neu ariannol, yn seiliedig ar eu hawl i ddewis a ydynt eisiau ymgysylltu'n ddigidol. Felly, fel y nodwyd yn ein hymateb i'r pwyllgor, byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar eu gwaith yn arwain ar dariffau cymdeithasol.

Byddwn hefyd yn estyn allan at randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Ofcom, ynglŷn â chofrestru ar gyfer tariffau cymdeithasol—ac rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed am faes cyfrifoldeb y rheoleiddiwr a chyrhaeddiad, neu fel arall, y dewisiadau y mae wedi'u gwneud hyd yma. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn costau diofyn. Maent yn aml yn llawer uwch na phan fyddwch chi wedi'ch clymu wrth gyfraddau contract. Mae hynny'n arbennig o berthnasol nawr. Os meddyliwch am yr holl bethau rydym yn siarad amdanynt ar bob ochr i'r Siambr hon mewn perthynas â chostau byw, mae gofyn wedyn i bobl sy'n pryderu am eu gallu i aros mewn gwaith a thalu eu biliau, a'r dewis rhwng gwresogi a bwyta, gytuno i gytundeb sy'n para hyd at flwyddyn, 18 mis neu ddwy flynedd, pan nad ydynt yn gallu fforddio hynny efallai, yn her wirioneddol nawr. Ac wrth gwrs, mae hynny wedyn yn golygu eu bod o bosibl yn talu cost lawer uwch o fis i fis. Ac yn union fel y cafwyd rhywfaint o ddiwygio gyda chyfleustodau ynni mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn methu talu, credwn fod hwn yn faes arall lle mae angen diwygio pellach ar frys mawr.

Byddaf yn ystyried y sylwadau y mae Aelodau wedi eu gwneud yn y ddadl yn ofalus. Cafwyd nifer o sylwadau gan Aelodau ar bob ochr, ac yn hytrach na cheisio ymateb i un neu ddau ohonynt nawr, fe geisiaf ystyried y rheini ac yna gweld sut rydym am ymateb. Oherwydd rwy'n credu, ar rai o'r rheini, y bydd angen inni roi ystyriaeth bellach iddynt gyda chyd-Aelodau ar draws y Siambr ac yn y Llywodraeth, a'r potensial ar gyfer camau dilynol. Ond rwy'n gwybod y bydd y pwyllgor yn parhau i fod â diddordeb yn y maes, oherwydd rydym wedi ymrwymo, fel y mae'r pwyllgor wedi ymrwymo, rwy'n credu, fel y disgrifiodd Alun Davies—. Ac mae'n beryglus dyfynnu Alun Davies, ond rwy'n cytuno bod angen system sy'n gweithio i Gymru, gwledig a threfol, a dyna y credaf ein bod ni a'r pwyllgor yn wir wedi ymrwymo i geisio ei gyflawni.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:13, 16 Tachwedd 2022

Galwaf ar Llyr Gruffydd, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? A chan fentro cael fy sugno i mewn i'r ddadl ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am beth, rwy'n credu ei fod yn eithaf clir; mae prif ran gyntaf ein hadroddiad fel pwyllgor, ar dudalen 2, yn dechrau gyda'r geiriau 'Mae telathrebu yn fater a gedwir yn ôl', felly mae'n eglur. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes gan Llywodraeth Cymru rywfaint o gyfrifoldeb, oherwydd mae yna feysydd polisi eraill, fel cynllunio er enghraifft, sydd â rôl allweddol i'w chwarae, a denu buddsoddiad preifat drwy fentrau amrywiol hefyd. Mae digon y gallai pawb fod yn ei wneud i geisio hyrwyddo'r agenda rydym i gyd yn ei chefnogi yma, ni waeth pwy y credwn sydd fwyaf ar fai am hyn, llall ac arall.

Ond wrth gwrs, fel pwyllgor, ni allwn wneud argymhellion i Lywodraeth y DU, oherwydd nid ydynt yn atebol i'n pwyllgor ni mewn unrhyw ffordd, felly ein hargymhelliad cyntaf un yw i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â Llywodraeth y DU, oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwn ei wneud, er mwyn sicrhau eu bod yn datblygu cynlluniau newydd i ddiwallu anghenion penodol Cymru. A rhaid i mi ddweud, y realiti yw—ac nid oes dianc rhag hyn, ni waeth pwy y credwch sydd ar fai—nid yw'r arian sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn adlewyrchu'r problemau penodol sydd gennym yng Nghymru, a soniais am y topograffi mynyddig ac yn y blaen; mae cyflwyno band eang yng Nghymru'n ddrutach nag y mae mewn rhannau eraill o'r DU. Nid yw Llywodraeth y DU yn cydnabod hynny yn ei chyllid, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy a llenwi'r bwlch hwnnw. Ond yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ni all Llywodraeth Cymru gyfiawnhau parhau i wneud hynny. Felly, ni allwch ei chael y ddwy ffordd. Rhaid i ni ganolbwyntio ar faterion sydd wedi'u datganoli yma yn bennaf. Gallwn, fe allwn ni wneud pethau eraill, ond y gwir amdani yw bod Llywodraeth y DU yn gorfod camu i'r adwy nawr ac adlewyrchu gwir gost cyflwyno band eang yng Nghymru, sy'n rhywbeth nad ydynt wedi'i wneud ers blynyddoedd lawer.

Cyfeiriodd Luke at hwn fel gwasanaeth angenrheidiol sy'n galluogi, a chyfeiriodd at bobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl iau, a phobl ddi-waith sy'n chwilio am waith. Ac fe wnaeth hynny fy atgoffa, mewn gwirionedd, fod yna elfen arall yn ein hadroddiad am ddatgysylltiad posibl rhwng polisïau'r Llywodraeth yma, oherwydd un o'r polisïau yw sicrhau bod 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio gartref yn y dyfodol, yn seiliedig ar ystyriaethau hinsawdd ac yn y blaen. Wel, ni fydd llawer o'r bobl hyn yn gallu gweithio gartref oherwydd methiant polisi yn y maes penodol hwn. O ran y polisi digidol yn gyntaf, os ydych yn gwneud cais am daliad sylfaenol, yna fel ffermwr rhaid ichi yn y lle cyntaf ddefnyddio'r dull digidol o wneud cais am hwnnw, ond wrth gwrs, hwy yw'r union bobl sy'n lleiaf tebygol fel proffesiwn o allu gwneud hynny, mae'n debyg. Felly, rwy'n credu bod angen inni gydgysylltu ffyrdd o feddwl mewn perthynas â hyn hefyd.

Carolyn, rwy'n falch eich bod wedi sôn am fenter prosesu signalau digidol Prifysgol Bangor. Rwy'n ymweld â hwy bore fory, felly ni allaf aros i ddysgu am rai o'r atebion arloesol y maent yn eu cyflwyno yno, yn enwedig i rai o'r cymunedau gwledig.

Soniodd Mabon ap Gwynfor am y system dalebau, a soniodd y Gweinidog am symiau ychwanegol Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, yr hyn sy'n anffodus yw bod gennyf etholwyr bellach a oedd yn ymbaratoi ac yn aros i dalebau ddod drwodd, yn ddibynnol ar gyllid Llywodraeth Cymru yn rhan o hynny, sydd bellach heb y cyllid hwnnw, sy'n golygu bod yr holl gynnig yn chwalu. Mae'n anffodus y dylai rhai o'r bobl a oedd ar bwynt penodol fod wedi dal i allu cael peth o'r arian, ac efallai y gallai'r Gweinidog ystyried a oes rhyw gymorth penodol ar gael i'r rheini. Er, mae rhai o'r rheini a oedd yn rhan o'r mentrau hynny bellach wedi gadael a dilyn eu trywydd eu hunain, ac efallai nad yw'r holl beth mor hyfyw ag y byddai wedi bod, ac mae hynny'n anffodus iawn. Ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy'n cael y bai am ddod â'r cyfan i ben, ond wrth gwrs, rydym wedi siarad am bwy ddylai fod wedi bod yn ariannu hynny yn y lle cyntaf.

Diolch, Alun, am ein hatgoffa am gylch gwaith Ofcom. Rwy'n credu eich bod yn gywir; roedd yna gamgymeriad strategol yno o ran canolbwyntio ar ddefnyddwyr, er, wrth gwrs, dyna natur y bwystfil. Ond rydym yn edrych yma am fynediad i bawb at fand eang ac anghenion ehangach dinasyddion yn hytrach na ffocws penodol ar ddefnyddwyr.

Weinidog, rwy'n ddiolchgar eich bod wedi derbyn ein holl argymhellion. Mae gennym gonsensws, yn hynny o beth o leiaf, ond wrth gwrs, rydym yn dal i aros i weld a fydd camau gweithredu a newid yn dilyn, pwy bynnag sy'n gyfrifol am gyflawni hynny, ond yn sicr, byddwn ni fel pwyllgor yn ailedrych ar y maes hwn yn rheolaidd dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn mewn perthynas â chysylltedd, ac nad oes unrhyw fusnes nac aelwyd yn cael eu gadael ar ôl. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:18, 16 Tachwedd 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.