– Senedd Cymru am 3:33 pm ar 15 Chwefror 2023.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar lwfans cynhaliaeth addysg. A galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8187 Luke Fletcher, Mike Hedges, Adam Price, Jane Dodds, Heledd Fychan, Carolyn Thomas, Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn wahanol i Lywodraeth y DU yn Lloegr;
b) nad yw gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru wedi newid ers 2004, ac nad yw'r trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011;
c) er bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o gymorth ariannol i ddysgwyr ôl-16, nid yw wedi cadw i fyny â phwysau costau byw.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n gysylltiedig â chwyddiant i werth y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r trothwyon.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb wnaeth gyd-gyflwyno. Dwi'n symud y cynnig.
Fe ddechreuaf fel rwy'n aml yn ei wneud wrth drafod y lwfans cynhaliaeth addysg, drwy ganmol y Llywodraeth, a chanmol y Gweinidog, am barhau i'w warchod. Mae'r ffaith bod gennym lwfans cynhaliaeth addysg yma yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono yn y lle hwn, ac mae'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn barod i'w warchod.
Fel y gŵyr pawb ohonom, mae costau byw wedi cael effaith andwyol ar gymaint o'n hetholwyr; yn eu plith mae myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr o aelwydydd incwm isel. Yr hyn a welsom ers 2004 yw toriad mewn termau real yn y lwfans cynhaliaeth addysg. Mae'r taliad wedi aros yr un fath, mae'r trothwyon wedi aros yr un fath, ers 2011, ac erbyn hyn, mae myfyrwyr incwm isel yn teimlo effeithiau hynny'n fwy nag erioed. Roedd fy £30 i yn mynd yn llawer pellach na £30 myfyriwr heddiw.
Nawr, mae hon yn ddadl bwysig i'w chael, oherwydd gall lwfans cynhaliaeth addysg a rhaglenni cymorth eraill ein helpu i gyrraedd ein nodau i fynd i'r afael â'r bylchau sgiliau sy'n bresennol yn ein heconomi drwyddi draw. Buddsoddiad yw hwn nid yn unig yn nyfodol pobl, ond yn ein cymunedau. Fe roddaf enghraifft: mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r bwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu, ac rwyf wedi defnyddio'r diwydiant adeiladu nifer o weithiau. Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn dweud wrthym fod 1,400 o fyfyrwyr o fewn y system addysg yn astudio cwrs adeiladu. Mae'r bwrdd hefyd yn hyderus, pe bai pob un o'r 1,400 myfyriwr, o un flwyddyn i'r llall, yn cwblhau eu cwrs, ni fyddai fawr o fwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu os o gwbl. Mae'r ffaith bod gennym fwlch yn arwydd nad yw pethau'n iawn. Mae hyn hefyd yn nodi problem, gyda llaw, gydag asesu cadw myfyrwyr, sef diffyg data ynghylch cadw myfyrwyr. Rhaid datrys hyn, wrth gwrs, ond mae'n rhaid i graidd ein dadl ynghylch y lwfans cynhaliaeth addysg ymwneud â chadw myfyrwyr.
Wrth gwrs, rwy'n cydnabod y cyfyngiadau ar y Gweinidog, a diolch iddo am gyfarfod â mi i drafod rhai o'r heriau hynny ddoe, a gobeithio y bydd ei allu i ailflaenoriaethu—. Ac mae'n debyg fy mod yn amddiffyn y Gweinidog yma—rwy'n siŵr y bydd yn falch o hynny—ond byddwn i'n dadlau, mewn gwirionedd, fod hyn yn mynd y tu hwnt i'r portffolio addysg; ni ddylai fod yn gyfrifoldeb iddo ef yn unig. Mae'r hyn y siaradwn amdano yma yn fater cyfiawnder cymdeithasol, a mae hefyd yn fater sy'n ymwneud â'r economi a sgiliau, a byddwn yn gobeithio bod Gweinidogion yn y portffolios hynny'n cydnabod hyn ac y byddant yn gwneud popeth yn eu gallu i weithio gyda'r Gweinidog addysg ar y mater hwn.
Nid mater ariannol yn unig yw cyflwr y lwfans cynhaliaeth addysg. Ceir problemau ymarferol: problemau y gellir eu datrys heb fawr iawn o fuddsoddiad, os o gwbl. Ers mis Medi, rwyf wedi ymdrin â nifer o achosion ar ran myfyrwyr sydd wedi gweld oedi sylweddol cyn iddynt gael eu taliadau. Yn yr achos gwaethaf, bu'n rhaid aros o fis Medi hyd fis Rhagfyr am daliad cyntaf, ac er bod taliadau'n cael eu hôl-ddyddio, dros y cyfnod hwnnw nid oedd unrhyw beth yn dod i mewn. Mewn rhai achosion, roedd hyn yn golygu nad oedd rhai myfyrwyr yn gallu mynychu'r ysgol neu'r coleg, a chafodd hynny effaith wedyn ar eu gallu i hawlio lwfans cynhaliaeth addysg yn y lle cyntaf—cylch dieflig—ac mewn achosion fel hyn, mae angen ystyried yr effaith ar bresenoldeb. Yn ofidus, roedd gennyf un achos penodol lle'r oedd tiwtor personol wedi cymryd yn erbyn myfyriwr, yn cofnodi eu presenoldeb yn y ffordd anghywir ac yn gwrthod unioni hynny.
Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur am gymhlethdod y broses o ymgeisio am lwfans cynhaliaeth addysg—mater ymarferol arall sy'n lladd awydd myfyrwyr i ymgeisio am lwfans cynhaliaeth addysg yn y lle cyntaf. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef. A dyna pam fy mod hefyd yn credu bod angen adolygiad o'r brig i lawr o'r lwfans cynhaliaeth addysg, gan edrych ar y cyllid, ie, ond hefyd ar y rhwystrau i fyfyrwyr a sut y gallant eu goresgyn. Y gwir amdani, hefyd, yw mai ychydig iawn o lenyddiaeth sydd gennym yng Nghymru ynglŷn ag effeithiau lwfans cynhaliaeth addysg. Gwnaed gwaith gwych gan Sefydliad Bevan. Yn anffodus, mae llawer ohono wedi dyddio erbyn hyn, a dyna pam mae fy swyddfa wedi ceisio gwneud ein hadolygiad bach ein hunain o'r lwfans cynhaliaeth addysg, ond yr hyn sydd ei angen arnom wrth gwrs yw cefnogaeth y Llywodraeth i geisio gwneud hynny.
Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy gyfeirio eto at graidd y ddadl hon. Y craidd yw cadw myfyrwyr incwm isel, nid yn unig fel y gallant wireddu eu potensial eu hunain, ond hefyd er mwyn iddynt fod o fudd i'n cymunedau. I lawer o'r myfyrwyr hyn, rydym yn dweud wrthynt am weld addysg fel buddsoddiad hirdymor, ond i gymaint ohonynt, ni allant feddwl yn hirdymor. Y tymor hir yw yfory. Oni bai ein bod yn cefnogi'r myfyrwyr hyn nawr, byddwn yn parhau i weld problem gyda chadw myfyrwyr, gan na fydd gan nifer ohonynt ddewis ond chwilio am waith. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau gan Aelodau eraill ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog. Diolch yn fawr.
Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg, ac fel pwyllgor, rydym yn croesawu'r cynnig a gyflwynwyd heddiw yn fawr, a'r cyfle y mae'n ei roi i ni drafod y lwfans cynhaliaeth addysg. Rwyf fi a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor wedi bod â diddordeb mawr yn y lwfans cynhaliaeth addysg ers inni ei ystyried yn gyntaf fel rhan o'n gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn 2022-23. Yn ôl bryd hynny, ym mis Ionawr 2022, dywedodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wrthym fod cost ychwanegol yn rhwystr allweddol i gynyddu cyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg o £30 yr wythnos, ac yn ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i'n hadroddiad, rhoddodd fanylion pellach. Ysgrifennodd y Gweinidog fod adolygiad gan Lywodraeth Cymru yn 2014 wedi dangos y byddai 80 y cant o fyfyrwyr
'wedi cofrestru ar eu cwrs heb LCA ac mai dim ond i leiafrif o fyfyrwyr yr oedd yr LCA yn ffynhonnell hanfodol o gymorth ariannol.'
Wrth gwrs, roedd adolygiad 2014 wedi dyddio adeg craffu ar y gyllideb ddrafft y llynedd. Roedd llawer wedi newid rhwng 2014 a 2022, fel y gwyddom yn iawn. Erbyn inni wneud ein gwaith craffu ar gyllideb ddrafft 2023-24 fis diwethaf, yng nghanol argyfwng costau byw sy'n effeithio'n anghymesur ar blant a phobl ifanc, roedd adolygiad 2014 wedi dod yn ddall i raddau'r heriau ariannol a wynebir gan ddysgwyr a'u teuluoedd.
Rydym yn cymeradwyo penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw'r lwfans cynhaliaeth addysg. Fodd bynnag, rydym yn pryderu i ba raddau y mae cynnal cyfradd a throthwy lwfans cynhaliaeth addysg ers 2011 wedi erydu gwerth y lwfans a thorri nifer y dysgwyr sy'n gymwys i'w dderbyn. O ganlyniad, fe wnaethom dri argymhelliad yn ymwneud â'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ein hadroddiad ar gyllideb ddrafft 2023-24.
Yn yr argymhelliad cyntaf, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r lwfans cynhaliaeth addysg, i gyflwyno adroddiad cyn mis Rhagfyr eleni. Ni fyddai 20% o'r myfyrwyr cymwys a gyfrannodd at adolygiad Llywodraeth Cymru yn 2014 wedi cofrestru ar eu cwrs heb y lwfans cynhaliaeth addysg. Nid ydym yn gwybod beth fyddai'r ffigur hwnnw heddiw. Nid ydym yn gwybod ychwaith sut mae'r lwfans yn effeithio ar ymwneud parhaus dysgwyr â'u hastudiaethau pan ddaw goblygiadau ariannol gwneud astudiaethau pellach yn glir, neu a yw'n eu helpu i reoli pwysau costau byw yn fwy cyffredinol. Credwn y dylai penderfyniadau polisi fod yn seiliedig ar wybodaeth gyfoes a chywir, ac adolygiad annibynnol o'r lwfans cynhaliaeth addysg yw'r ffordd orau o gael y data hanfodol hwnnw.
Yn ein hail argymhelliad, gofynnwn i Lywodraeth Cymru roi diweddariad i ni am y gwaith yr ymrwymodd i'w wneud ym mis Mawrth 2022 ar ddeall sut olwg fyddai ar gyfradd y lwfans a'r trothwyon incwm heddiw ar gyfer yr un gyfran o ddysgwyr wrth gymharu â 2004, a faint o gyllideb ychwanegol y byddai ei hangen ar gyfer hynny. Fe wnaethom groesawu ymateb adeiladol y Gweinidog yn ôl ym mis Mawrth y llynedd, ond yn anffodus rydym eto i weld canlyniad y gwaith hwnnw. Edrychwn ymlaen at ddarllen amdano yn ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ar y gyllideb ymhen rhai wythnosau.
Mae ein trydydd argymhelliad yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei phenderfyniad i gynnal y lwfans cynhaliaeth addysg. Wrth gwrs, rydym yn gwybod yn iawn na all y lwfans ddileu tlodi plant, ond o waith ein pwyllgor ac o'r gwaith a wnawn yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau, credwn y gall y lwfans cynhaliaeth addysg helpu i inswleiddio rhai pobl ifanc a'u teuluoedd rhag effeithiau dinistriol yr argyfwng costau byw. Nid yw'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ateb i bob dim, ond efallai mai'r cymhelliad ychwanegol hwn sydd ei angen ar rai pobl ifanc i gymryd y cam nesaf yn eu haddysg.
Er mwyn y bobl ifanc hynny a'u teuluoedd, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn ein hargymhellion ac edrych ar y mater pwysig hwn unwaith eto. Am y rheswm hwn, rwy'n croesawu'r ddadl hon yn llawn a byddaf yn cefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.
Diolch, Luke, am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc sy'n allweddol bwysig fel rhan o fesurau gwrth-dlodi ac wrth gwrs mewn ymateb i'r argyfwng costau byw.
Nid yw hon yn broblem y byddaf yn cael etholwyr dirifedi'n cysylltu â mi yn ei chylch, ond i'r rhai sy'n gwneud hynny, rwy'n gwybod am y gwahaniaeth mae'n ei wneud, y gwahaniaeth mae'n ei wneud i'w teuluoedd ac i'r unigolion hynny.
O ran mesurau eraill, wrth gwrs nid cyfrifoldeb y Gweinidog addysg yn unig mohono, fel y dywedoch chi, yn gwbl briodol; mae'n gyfrifoldeb trawslywodraethol, traws-bortffolio, a chyfiawnder cymdeithasol yn sicr. Rydym wedi cael dadl ar fysiau a phwysigrwydd gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy. Ni fyddai cymaint o angen am y lwfans cynhaliaeth addysg ac am y cynnydd pe bai costau trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim i bobl ifanc, er enghraifft. Felly, ceir nifer o fesurau y gallem edrych arnynt, ac nid yw'n ymwneud â'r lwfans cynhaliaeth addysg yn unig.
Fy mhryder i, yn ogystal â'r gwerth, ar hyn o bryd—. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni wedi ei barhau yma yng Nghymru. Rwy'n arswydo meddwl am y sefyllfa i'r bobl ifanc hynny pe na baem yn y sefyllfa hon. Ond yn amlwg, nid yw £30 yn mynd yn bell iawn o'i gymharu ag o'r blaen. Mae angen inni feddwl o ddifrif ynglŷn â sut y sicrhawn nad yw hyn bellach yn rhwystr i bobl ifanc sydd am gael addysg, os gallwn ei gynyddu yn gysylltiedig â chwyddiant, fel y dylid ei wneud, a dyna sydd yn y cynnig hwn.
Mater rwyf am ganolbwyntio arno hefyd, fel y nododd Luke, yw mynediad at y lwfans cynhaliaeth addysg ar gyfer y rhai sy'n gymwys. Mae'n ofidus fy mod wedi gweld gwaith achos yn gysylltiedig â pheidio â rhoi'r arian i fyfyrwyr am reswm penodol. Yn y canllawiau, mae'n dweud:
'cyn belled â'ch bod yn bodloni gofynion presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad eich ysgol neu'ch coleg.'
Wel, gellir dehongli hynny mewn nifer o wahanol ffyrdd. Hefyd, mae nifer o'r bobl ifanc hyn yn agored i niwed—mae ganddynt sefyllfaoedd teuluol cymhleth iawn ar adegau, efallai y bydd gofyn iddynt ofalu am riant neu ofalu am aelod arall o'r teulu, sy'n golygu y gallant golli rhai sesiynau, sy'n eu gwneud yn anghymwys wedyn ar gyfer y grant yn ei gyfanrwydd, sy'n golygu bod hynny'n cael sgil-effaith ar bresenoldeb yr wythnos ganlynol.
Rwy'n meddwl o ddifrif fod angen inni weithio gyda cholegau ac yn y blaen i sicrhau nad yw'r rhain yn rhwystrau, ac os ydych chi'n colli un sesiwn benodol, na chewch eich cosbi wedyn, oherwydd dylai'r system ddangos tosturi a chydymdeimlad. Yn yr un ffordd, os ydym yn methu sesiwn yma yn y Senedd am ba reswm bynnag, boed yn argyfwng teuluol, nid ydym yn colli cyflog, felly pam ein bod yn cosbi'r bobl ifanc mwyaf bregus?
Hefyd, ar ofynion ymddygiad, rydym wedi gweld llawer o dystiolaeth am effaith COVID ar iechyd meddwl, diffyg mynediad at wasanaethau ac oedi cyn cael mynediad at wasanaethau. Mae hynny hefyd yn cael effaith ar bresenoldeb ar adegau. Gwelsom rai colegau'n cynnig opsiynau rhithwir i ymuno, sy'n golygu y gall hynny gyfrif tuag at bresenoldeb, er nad yw colegau eraill yn gwneud hynny. Felly, mae'n sefyllfa eithaf cymhleth, rwy'n credu.
Y peth allweddol yw sicrhau bod y rhai sydd angen y lwfans cynhaliaeth addysg yn ei gael, nad oes oedi cyn ei gael, a hefyd nad ydym yn cynnwys camau biwrocrataidd. Y gwir amdani yw y dylem fod yn cefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw, fel nad yw cyfraddau tlodi plant ar y lefelau y maent ar hyn o bryd. Mae angen inni wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy. Ond er bod angen atebion trawslywodraethol, mae hon yn elfen allweddol, ac rwy'n cefnogi cynnig Luke yn llawn. Byddai peidio â chael y lwfans cynhaliaeth addysg yn cosbi'r rhai sydd ei angen yn ddybryd, a bydd peidio â'i gynyddu ond yn rhwystr pellach i'r rhai sydd ei angen.
Roeddwn yn falch iawn o fanteisio ar y cyfle i gyd-gyflwyno'r cynnig pan ofynnodd Luke i mi wneud. Yn wir, fe atebais ar unwaith oherwydd rwy'n credu bod hyn yn hynod o bwysig. Rwyf am wneud dau bwynt—yn gyntaf am bwysigrwydd y lwfans cynhaliaeth addysg ac yn ail, am bwysigrwydd ei gynyddu yn unol â chwyddiant. Wrth gwrs, roedd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu hynny pan gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Lafur San Steffan. Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Phil Willis:
'Mae pethau cryn dipyn pwysicach i'w wneud ag £20m na rhoi bonws Nadolig i bobl ifanc.'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, Chris Grayling:
'Dyma enghraifft amlwg arall o'r llywodraeth yn ceisio ffidlo'r ffigurau. Gallai llwgrwobrwyo pobl ifanc i gofrestru ar gyfer cyrsiau nad ydynt yn eu cwblhau o bosibl, wneud i dargedau gweinidogion edrych yn gyraeddadwy—ond nid ydynt yn gwneud dim o gwbl i helpu i ddatrys prinder sgiliau yn y wlad hon.'
Rwy'n credu bod hynny'n dweud wrthych beth mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan yn ei feddwl o'n pobl ifanc ni, ac am bobl sy'n llai cefnog. Ni wnaf ddefnyddio'r gair 'tlodi' oherwydd mae hwnnw'n derm cymharol, ond pobl sy'n llai cefnog. Anaml iawn y byddaf yn siarad amdano fy hun—rwyf bob amser yn teimlo ei fod ychydig yn sarhaus i fy rhieni os gwnaf hynny—ond mae llawer ohonom yn dod o gefndiroedd a oedd yn llai cefnog. Dim llawer yn y Siambr hon, ond llawer ohonom yn fy etholaeth a llawer o fy ffrindiau.
Ychydig iawn o amser a gymerodd Llywodraeth San Steffan a chlymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol—dim ond tan 20 Hydref 2010 y cymerodd hi—i ddod â'r cynllun lwfans cynhaliaeth addysg i ben yn Lloegr, oherwydd nad ydynt yn credu ynddo. Nid ydynt yn credu mewn helpu pobl ifanc. Nid ydynt yn credu mewn helpu pobl ifanc nad yw eu rhieni'n gallu fforddio eu hanfon i ysgol fonedd. Dyma pam fod angen Senedd fwy cynrychioliadol, fel bod gennym bobl sydd â phrofiadau bywyd gwahanol, sy'n deall o'u profiad bywyd beth yw budd cymorth megis y lwfans cynhaliaeth addysg.
Rwyf am longyfarch Llywodraeth Cymru am gadw'r lwfans cynhaliaeth addysg pan gafodd ei ddileu yn Lloegr. Byddai wedi bod mor hawdd ei ddileu. Roedd yn ffordd syml o arbed arian. Ychydig iawn o sŵn y byddai wedi ei greu gan nad y bobl sy'n cael y math yma o daliadau yw'r bobl sy'n ysgrifennu llythyrau at y Western Mail. Nid hwy yw'r bobl sy'n mynd allan i gwyno; hwy yw'r bobl sy'n dioddef ac yn cael problemau.
Hoffwn fynd drwy rai manylion am fy mhrofiad fel darlithydd coleg. Heb lwfans cynhaliaeth addysg, byddai llawer o fyfyrwyr wedi methu ymgymryd â'u hastudiaethau; byddai llawer mwy, oherwydd amgylchiadau economaidd eu teuluoedd, wedi gorfod rhoi'r gorau iddi ar ryw adeg. Cafodd llawer o fy nghyn-fyfyrwyr swyddi TGCh sy'n talu'n dda, gan eu helpu hwy a'r economi. Lwfans cynhaliaeth addysg oedd y gwahaniaeth rhwng diweithdra wedi'i ddilyn gan gyflogaeth sgiliau isel ar gyflogau isel a dod yn fedrus a chael cyflogau da. Roedd, ac mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn newid bywyd i lawer o bobl. Mae hefyd o fudd i'n heconomi, drwy gynyddu nifer y gweithwyr medrus. Buddsoddi mewn pobl ifanc yw hyn, buddsoddi yn ein heconomi ac efallai ei fod yn un o'r mathau gorau o fuddsoddiad mewn datblygu economaidd. Mae llwgrwobrwyo cwmnïau i ddod â'u ffatrïoedd cangen yma wedi methu ers cyhyd ag y gallaf gofio—nid oes ond raid sôn am LG.
A gâi ei gamddefnyddio ar y dechrau? Câi—gan fyfyrwyr yn dod ac yn gwneud dim. Cafodd hyn ei ddatrys drwy barhau â thaliadau ar ôl i gynnydd boddhaol gael ei wneud. Ac i ymateb i Heledd Fychan, o fy mhrofiad i fel darlithydd coleg, nid oedd unrhyw fyfyriwr a oedd yn mynychu'n rheolaidd a chanddynt reswm da dros beidio â bod yno ac a oedd yn gwneud cynnydd da yn mynd i gael eu rhwystro rhag cael eu lwfans cynhaliaeth addysg. Rwy'n siarad ar ran aelodau'r Brifysgol ac Undeb y Coleg—ni fyddem wedi gwneud hynny.
Yn ôl Sefydliad Bevan, byddai cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg 10 y cant yn ychwanegu £3 yr wythnos i bawb sy'n ei gael. Yn amlwg, nid yw £3 yr wythnos yn llawer. Ceir cydnabyddiaeth fod dysgwyr mewn addysg bellach yn wynebu pwysau ariannol lawn mor sylweddol â myfyrwyr addysg uwch, a gafodd gynnydd o 9.4 y cant yn ddiweddar, sydd, byddai'n well imi ychwanegu, yn fawr ei angen ac yn cael ei gefnogi'n frwd. I lawer yn y Siambr hon, mae £3 yn llai na phaned o goffi. I fyfyrwyr y lwfans cynhaliaeth addysg, gall fod yn ddau neu dri phryd o fwyd. Dyna ddau neu dri phryd allan o 14 pryd yr wythnos. Nid yw'r syniad fod pobl yn cael tri neu bedwar pryd y dydd yn wir i bobl sy'n dlawd. Yn allweddol, byddai'n sefydlu egwyddor bwysig o gynnydd blynyddol, gan gyfateb i gynnydd Llywodraeth y DU i'r rhan fwyaf o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol.
Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif y bydd cost cynnydd sy'n gysylltiedig â chwyddiant oddeutu £1.7 miliwn. Byddai codi'r cymhwysedd i gynnwys 1,000 o fyfyrwyr eraill yn costio £1.1 miliwn. Mae hyn yn amlwg yn fforddiadwy o gyllideb Llywodraeth Cymru. Bu'r Pwyllgor Cyllid yn trafod hyn ac roeddent yn unfrydol o blaid cynnydd o'r fath, yn cynnwys yr Aelod Ceidwadol. Os oes unrhyw un yn amau ei fforddiadwyedd, edrychwch bob mis ar faint o arian ychwanegol sy'n cael ei ryddhau gan Lywodraeth Cymru i dderbynwyr da a haeddiannol: £1 miliwn yn y fan hon, £5 miliwn yn y fan acw, £300,000—rydych yn eu cael yn wythnosol bron. Fy nadl i yw bod myfyrwyr lwfans cynhaliaeth addysg yn dderbynwyr da a haeddiannol.
Yn olaf, diolch i'r Llywodraeth Lafur, a gadwodd y lwfans cynhaliaeth addysg; nawr yw'r amser i ddechrau ei gynyddu'n flynyddol.
Mae'r argyfwng costau byw yn mynd i wneud yr union beth a wnaeth argyfwng COVID. Clywais gymaint o dystion i ymchwiliadau a gynhelir gan y ddau bwyllgor rwy'n aelod ohonynt—cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a phlant, pobl ifanc ac addysg—yn ailadrodd hyn, neu eiriau i'r perwyl hwnnw, wrth gyfeirio at y dystiolaeth ddiymwad y bydd effaith yr argyfwng hwn eto'n ddyfnach yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, a fydd, wrth gwrs, yn dyblu cyfraddau marwolaeth y rhai sydd â llai o amddifadedd cymdeithasol, ond mae'r argyfwng costau byw'n gwaethygu yr un anghydraddoldebau a'r un bregusrwydd.
Yn fy marn i, dyna pam mae'n rhaid gweld yr argyfwng costau byw yn yr un termau ag argyfwng COVID. Dyna pam y dylai'r rhai sydd fwyaf agored i niwed posibl hefyd gael eu gwarchod gan y Llywodraeth yn yr argyfwng hwn. Fel yn achos COVID, y rhai yr effeithir arnynt waethaf fydd y rhai sydd eisoes yn dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol a grwpiau o bobl sydd eisoes yn wynebu rhwystrau mewn perthynas â thai, cyfleoedd cyflogaeth, bylchau incwm, anghydraddoldebau iechyd ac addysg. Mae tlodi'n effeithio ar bobl ifanc 16 oed a hŷn mewn ffordd unigryw. Mae costau bwyd cynyddol, costau trafnidiaeth a chostau offer yn gwneud addysg yn llai fforddiadwy i'r rhai o deuluoedd incwm isel. Nid yw pobl ifanc o gefndiroedd llai cefnog yn gallu troi at eu teuluoedd am gymorth ariannol ac mae nifer yn profi caledi gwirioneddol: dim gwres, fawr ddim i'w fwyta, rhai yn wynebu digartrefedd. Sut mae disgwyl iddynt ganolbwyntio ar astudio?
Rwy'n credu y dylid mynd i'r afael yn llawn ag anghenion y grŵp hwn o bobl ifanc mewn strategaeth tlodi plant newydd gynhwysfawr, rhywbeth rydym wedi galw amdani ers amser maith, gyda thargedau a chanlyniadau mesuradwy. Wrth gwrs, nid oes gan Lywodraeth Cymru rym i atal biliau rhag codi'n aruthrol ac ni all sicrhau bod Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn cynyddu budd-daliadau fel nad oes rhaid i unrhyw un ddibynnu ar fanciau bwyd neu orfod cyfyngu ar wresogi. Ond mae'r cynnig hwn yn sôn am un weithred y gall ei chyflawni i helpu'r bobl sydd fwyaf mewn perygl o niwed yn yr argyfwng costau byw: pobl ifanc o deuluoedd incwm isel. Heb y cymorth sydd ei angen arnynt, y dylai ac y gallai'r lwfans cynhaliaeth addysg ffurfio rhan ohono, byddant yn cael eu niweidio gan ganlyniadau cael eu hamddifadu o'r cyfle i gyflawni eu potensial addysgol, fel y dangosodd Mike Hedges yn gywir, a bydd y bwlch cyfle sy'n parhau i blagio ein gwlad yn dyfnhau.
Ymateb Llywodraeth Cymru i alwadau ymgyrchwyr gwrthdlodi fel Sefydliad Bevan i gynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, o ran y lwfans ei hun ac o ran y trothwy cymhwysedd, yw nad yw'n fforddiadwy. Yr hyn na allwn fforddio ei wneud mewn gwirionedd yw cyfyngu ar botensial ein pobl ifanc mwyaf difreintiedig sydd eisoes yn cael llawer llai o gyfleoedd na dysgwyr mwy cefnog i fyw bywydau llewyrchus, iach a boddhaus. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.
Diolch i Luke Fletcher ac Aelodau eraill am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw a rhoi cyfle inni drafod mater pwysig iawn: sut mae cynorthwyo ein pobl ifanc i gael y gorau o'u haddysg. Mae'n dilyn ymlaen yn naturiol iawn o'r drafodaeth yr wythnos diwethaf ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am absenoldeb disgyblion, ac wrth gwrs mae'n amserol iawn a ninnau i gyd yn ymwybodol o'r pwysau costau byw y mae pob person yng Nghymru yn ei wynebu.
Fel man cychwyn ac fel mae rhan gyntaf y cynnig yn ein hatgoffa, mae i'w groesawu wrth gwrs fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad i gadw'r lwfans cynhaliaeth addysg yma. Roedd hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr, wrth gwrs, i Lywodraeth glymblaid Cameron-Clegg. Yn ôl pob golwg, un o'u gweithredoedd cyntaf fel Llywodraeth oedd cael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg i fyfyrwyr Lloegr. Caf fy atgoffa mai Michael Gove oedd yr Ysgrifennydd addysg a oedd yn gyfrifol am hynny, felly mae'n ddiddorol gweld bod ei ymrwymiad i ostwng y gwastad yr un mor gryf yn ôl yn 2010. Ers hynny, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi cael defnydd da gan bobl ifanc Cymru. Mae wedi darparu lefel ychwanegol o gymorth, gan eu galluogi i aros yn yr ysgol neu'r coleg, i barhau â'u haddysg neu hyfforddiant, er mwyn ceisio manteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd. Ac mae'n bwysig ein bod yn cofio nad ar gyfer pobl ifanc sy'n dilyn pynciau Safon Uwch neu BTEC yn unig y mae hwn, caiff ei ddefnyddio hefyd i gynorthwyo pobl ifanc sy'n byw yng Nghymru i fynd ar drywydd cymwysterau sgiliau byw annibynnol neu sgiliau sylfaenol hefyd.
Roeddwn yn dyst yn rheolaidd i'r effaith gadarnhaol a gâi'r lwfans cynhaliaeth addysg pan oeddwn yn dysgu. Fe wnâi wahaniaeth gwirioneddol a sicrhau y gallai pobl ifanc cymwys aros i barhau a chwblhau eu hastudiaethau a chyflawni eu potensial llawn. Roedd gan lawer o'r bobl ifanc a gâi'r lwfans cynhaliaeth addysg swyddi rhan-amser hefyd, a byddai'r rhain yn aml ar gytundebau dim oriau, gyda phwysau gan gyflogwyr i weithio oriau hirach a hirach, ac fe allai hynny wrth gwrs gael effaith niweidiol ar eu hastudiaethau. Gyda fy rôl fugeiliol, daeth hynny'n batrwm cyfarwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy'n gwybod o fy nhrafodaethau gydag ysgolion a cholegau yn fy ardal ei bod yn dal yn her i rai rhwng 16 a 18 oed, gyda'r angen neu'r awydd i ennill mwy yn gwrthdaro yn erbyn gofynion astudio. Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn darparu'r ffynhonnell gymorth honno fel y gall pobl ifanc na allant ddibynnu ar gefnogaeth teulu ganolbwyntio ar eu cyrsiau.
Fel y mae'r cynnig yn ein hatgoffa hefyd, gwelodd 2011 newid cadarnhaol i'r lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru, lle daeth cyfradd sylfaenol o £30 i ddysgwyr i gymryd lle system flaenorol o fandio yn dibynnu ar incwm cartrefi. Fodd bynnag, fel y mae siaradwyr eraill wedi sôn, dyna'r un gyfradd sylfaenol â phan gyflwynwyd y lwfans cynhaliaeth addysg yn 2004 a'r un gyfradd sylfaenol a ddyfernir nawr. Mae hynny'n broblematig y fy marn i. Yn ôl yr hyn rwy'n ei amcangyfrif, o ran pŵer prynu, mae £30 yn 2004 yn cyfateb i ychydig o dan £59 heddiw, felly effeithiwyd yn sylweddol ar werth y lwfans cynhaliaeth addysg wrth i gostau fynd yn uwch ac yn uwch. Mae pethau yr oedd, ac y mae'r lwfans yn cael ei ddefnyddio ar eu cyfer wedi mynd yn ddrytach, fel na fydd y taliad yn ymestyn cyn belled. Bydd hyn wrth gwrs yn arwain at ganlyniadau i'n pobl ifanc a'r penderfyniadau a wnânt, fel y soniais yn gynharach. Bydd mwy a mwy o'n pobl ifanc yn wynebu dewisiadau anodd ac efallai y byddant yn gwneud penderfyniadau i beidio â pharhau ym myd addysg neu'n gorfod gweithio oriau hirach yn eu swyddi rhan-amser, a bydd hynny hefyd yn cael effaith ar eu hastudiaethau ac ar eu lles meddyliol. Efallai y bydd eraill yn gweld nad yw hyd yn oed yn galw am wneud dewis o gwbl, ac yn gorfod gadael addysg neu hyfforddiant yn gyfan gwbl.
Mae trothwyon ar gyfer incwm aelwydydd wedi aros yn sefydlog. O'r herwydd, hoffwn gymeradwyo'r awgrym yn ail bwynt y cynnig yn gryf. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried adolygiad o gyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg a'r trothwy ar gyfer ei ddyfarnu. Mae'n hen bryd ystyried adolygiad manwl o'r ffordd y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gweithio er mwyn helpu i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth fel y gallwn benderfynu beth y gellir ei wneud, sut y gallwn gefnogi ein pobl ifanc 16 i 18 oed yn y ffordd orau a diwallu eu hanghenion fel y gallant barhau yn yr ysgol neu'r coleg. Rydym yn gwybod bod pwysau aruthrol ar adnoddau, ond mae lwfans cynhaliaeth addysg yn achubiaeth i lawer o'n pobl ifanc sy'n gymwys i'w gael. Rhaid canolbwyntio ar roi'r gefnogaeth gywir iddynt er mwyn iddynt lwyddo. Rwy'n edrych ymlaen at bleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw.
Diolch yn fawr iawn i Luke Fletcher am gyflwyno'r cynnig yma, ac i bawb a'i gefnogodd o.
Mae EMA wedi bod yn gymorth hanfodol i nifer fawr o fyfyrwyr yng Nghymru ers iddo gael ei gyflwyno gyntaf. Cafodd ei gyflwyno fel peilot nôl yn 1999 cyn iddo gael ei rolio allan ar draws y Deyrnas Gyfunol yn 2004-05. Mae'n gresyn bod Llywodraeth Lloegr wedi cael gwared ar y lwfans, ond mae’n arwydd o’i boblogrwydd a'i bwysigrwydd wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, a Gogledd Iwerddon barhau â’r cynllun.
Cafodd y cynllun ei arfarnu'n drwyadl yn ôl 15 mlynedd yn ôl, a’r gwaith ymchwil yn dangos yn glir bod y nifer o ddysgwyr a oedd yn ei dderbyn yn cynyddu, a bod nifer fwy o ddysgwyr yn aros ymlaen i barhau â'u cyrsiau. Roedd y canfyddiadau yma'n arbennig o wir am fyfyrwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig. Mae'r lwfans yma'n arbennig o bwysig yn enwedig i blant mewn gofal.
Mae gen i ddysgwyr a oedd yn derbyn y grant sydd wedi mynd ymlaen i nifer o feysydd gwahanol. Roeddwn i'n siarad yn ddiweddar efo un merch a oedd wedi derbyn y grant ac wedi mynd ymlaen i nyrsio; dyma ichi enghraifft berffaith o bres cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio fel buddsoddiad yn ein pobl ifanc ac yn ein cymunedau. Diolch byth am y grant a diolch byth amdani hi. Felly, mae yna werth amlwg i’r cymhorthdal angenrheidiol yma. Ond, mae’r angen gymaint yn fwy acíwt, rŵan, wrth ein bod ni'n byw mewn argyfwng costau byw sydd yn effeithio ar y mwyaf tlawd a'r mwyaf difreintiedig yn waeth fyth.
Rŵan, dwi'n cydnabod ac yn canmol y Llywodraeth am gynnal y grant yma yng Nghymru, ond y gwir anffodus ydy fod llawer gormod o blant yn parhau i golli allan neu yn gadael addysg bellach, a hynny am ddwy brif reswm yn ymwneud â’r EMA, a sydd yn cael eu nodi yn y cynnig: dydy o ddim yn ddigonol, ac mae’r rhicyn ariannol er mwyn cael mynediad i’r grant yn llawer rhy isel.
Nôl yn 2010, roedd yn rhaid i aelwyd ennill llai na £31,000, neu £42,000 yng ngwerth y bunt heddiw, er mwyn cyfiawnhau mynediad at y grant. Erbyn heddiw, mae’r rhicyn yn bron i hanner hynny o ran gwerth, sef £23,000. Mae’r dystiolaeth yr wyf i wedi ei gweld yn dangos bod mwy o ddysgwyr yn holi am gymorth er eu bod nhw ar EMA. Mae angen cymorth gyda chostau cwrs, costau cinio ac offer technegol ar y myfyrwyr. Ac mae rhai siroedd yn gwrthod talu am drafnidiaeth i addysg ôl-16, felly yn yr achosion yma, mae’r EMA yn gwbl hanfodol er mwyn i ddysgwyr gael mynediad at eu haddysg. Hefyd, oherwydd tlodi o fewn y teulu mae yna nifer o bobl ifanc yn ei ddefnyddio fel modd o fyw o ddydd i ddydd—yn ei ddefnyddio i brynu bwyd, i deithio, prynu dillad, cymorth i ddysgu, ac yn y blaen. Mae rhai yn dibynnu arno oherwydd eu bod nhw'n gwbl annibynnol efo'u biliau ac efo'u rhent ac yn y blaen. Ac fel y soniais, dydy’r tâl, felly, ddim yn ddigonol; mae’n isel, gyda nifer o ddysgwyr yn gweithio hefyd er mwyn ennill arian i'w helpu i fyw. Mae hyn yn ei dro, fel rydyn ni wedi'i glywed, yn amharu ar eu haddysg.
Felly, unwaith eto, dwi am orffen drwy ddiolch i bawb, yn enwedig Luke am gyflwyno'r ddadl yma. Dwi'n croesawu'n gynnes yr ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth i barhau â chynnal y lwfans, ond yn gofyn a wnaiff y Gweinidog, yn ei ymateb, edrych i newid y rhicyn mynediad, a phan ddaw'r cyfle, i gynyddu'r lwfans ymhellach. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd Aelodau'n gwybod o drafodaethau a chwestiynau blaenorol ar y pwnc hwn ein bod ni fel Llywodraeth yn cydnabod yr effaith bositif y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gallu ei gael ar bobl ifanc, ac rŷn ni'n dal i ymrwymo yn unol â’r rhaglen lywodraethu i gynnal y lwfans. Ochr yn ochr gyda'n hymrwymiadau eraill i bobl ifanc ac â chyllideb flynyddol o £17 miliwn, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ei gwneud yn bosib i fwy na 18,000 o bobl ifanc barhau mewn addysg ôl-orfodol bob blwyddyn.
Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, rwy’n deall y pryderon nad yw'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi cynyddu ers peth amser, a chroesawaf y farn y mae Aelodau wedi’i mynegi ynghylch lle gallwn wella ein hymrwymiad i bobl ifanc ymhellach. Rwy’n sylweddoli bod pobl ifanc hefyd yn teimlo straen ariannol yr argyfwng costau byw presennol yn fawr iawn.
Rydym yn parhau i fodelu pa effaith y gallai newidiadau posibl ei chael, gan gynnwys o ran ymrwymiadau ariannol presennol ac yn y dyfodol, a bydd pob un ohonom yn awyddus i sicrhau y byddai unrhyw newid yn ystyrlon ac yn effeithiol, yn ogystal â fforddiadwy. Er gwaethaf ein cyfyngiadau ariannol difrifol presennol wrth ystyried cynnydd yng nghyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg, rydym wedi ehangu’r garfan gymwys i gynnwys rhai o’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt gan Brexit, aelodau teuluol y rhai sydd â statws mewnfudo gwarchodedig, a phobl ifanc sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Bydd pob person ifanc yn dal i allu gwneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar unrhyw adeg yn y flwyddyn academaidd, a lle mae eu hamgylchiadau teuluol yn newid, gan arwain at ostyngiad mewn incwm, rydym yn annog pobl ifanc i wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg gydag asesiad incwm y flwyddyn gyfredol. Mae ein hysgolion a'n colegau'n gweithio'n agos gyda'u dysgwyr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
Mae gennym esemptiadau i brofion modd ar gyfer rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Bydd y rheini mewn cartrefi gofal a chartrefi maeth, y rheini ar fudd-daliadau penodol, y rheini sy'n gyfrifol am eu plentyn eu hunain a'r rheini yn y system cyfiawnder ieuenctid oll yn cael y lwfans wythnosol heb asesiad. Er mwyn annog ceisiadau ymhellach ac i symleiddio'r broses ar gyfer pobl ifanc, mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn datblygu system newydd ar gyfer ceisiadau i'w gwneud ar-lein ac ar gyfer uwchlwytho tystiolaeth ategol. Rydym yn rhagweld y bydd y system hon yn barod ar gyfer ceisiadau blwyddyn academaidd 2023-24. Bydd yr opsiwn ar gyfer cwblhau cais ar bapur hefyd yn parhau.
Fel grant ar sail prawf modd, mae angen llawer o wybodaeth ar y broses ymgeisio. Os yw myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi’i gorlethu neu'n digalonni oherwydd y broses ymgeisio, byddwn yn eu hannog i siarad â’u canolfan ddysgu gan y gallant eu helpu i lenwi’r ffurflenni a’r ceisiadau angenrheidiol. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw oedi wrth brosesu ceisiadau am y lwfans cynhaliaeth addysg, ond rydym yn deall y gall ceisiadau anghyflawn arwain at oedi, ac rwy’n ddiolchgar am y drafodaeth a gefais gyda Luke Fletcher mewn perthynas â rhai o oblygiadau ymarferol talu'r lwfans cynhaliaeth addysg ac ymrwymais i weithio ar unrhyw broblemau ymarferol y gellir eu datrys. Ar y llaw arall, bydd ceisiadau a ddaw i law o fewn 13 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs yn cael taliadau wedi’u hôl-ddyddio i ddechrau’r cwrs, hyd yn oed os cyflwynwyd y dystiolaeth yn hwyr, tra gall ceisiadau a ddaw i law ar ôl hynny barhau i gael taliadau o’r amser y cyflwynant eu ceisiadau. Mae angen i ddarparwr cyrsiau gadarnhau presenoldeb myfyrwyr—fel y nododd llawer o Aelodau yn y ddadl—i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr er mwyn i’r taliad gael ei ryddhau. Ond os ydynt wedi methu taliad, dylent siarad â'u canolfan ddysgu. Gyda chaniatâd y myfyriwr, yn ogystal â hyn, gall fy swyddogion hefyd siarad â thîm addysg bellach y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i fynd i'r afael ag unrhyw anawsterau neu oedi gyda cheisiadau.
Mae’n bwysig, yn y ffordd y nododd Mike Hedges yn ei gyfraniad, fod pobl ifanc yn trafod eu hamgylchiadau personol gyda thiwtor eu cwrs neu gydlynydd lwfans cynhaliaeth addysg eu darparwr. Nid oes angen i absenoldeb arwain at golli taliad bob amser. Mae’r cynllun lwfans cynhaliaeth addysg yn caniatáu disgresiwn i’r rheini na allant gynnal patrwm presenoldeb cyson, efallai oherwydd cyfrifoldebau gofalu neu ffactorau y tu hwnt i’w rheolaeth, ac yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi nodyn atgoffa newydd i bob canolfan ddysgu nodi lle gellir defnyddio'r disgresiwn hwnnw, a sicrhau bod myfyrwyr yn deall sut y gallant droi atynt am gymorth ychwanegol pan fo angen.
Gall pobl ifanc sy'n cael y lwfans cynhaliaeth addysg hefyd gael mynediad at ystod o gymorth ychwanegol. Gall ysgolion a cholegau gynnig offer TGCh ac adnoddau dysgu ar fenthyg, gan ddileu'r angen i wario eu lwfans cynhaliaeth addysg ar eitemau hanfodol ar gyfer eu cwrs. Efallai y byddant hefyd yn gallu cael cludiant am ddim neu gludiant am bris gostyngol yn ystod eu cwrs gan eu hawdurdod lleol. Yn ogystal, mae dros £6 miliwn yn cael ei ddarparu i sefydliadau addysg bellach ym mlwyddyn academaidd 2022-23 ar gyfer y gronfa ariannol wrth gefn. Y nod yw sicrhau nad yw dysgwyr ledled Cymru, gan gynnwys y rheini sy'n cael y lwfans cynhaliaeth addysg, yn cael eu rhwystro gan gyfyngiadau ariannol. Er enghraifft, gall dysgwyr cymwys gael arian ychwanegol tuag at ffioedd cyrsiau, deunyddiau cyrsiau, costau gofal plant, bwyd, ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig ag astudio.
Hoffwn ddiolch i Luke Fletcher am y ddadl ac i’r Aelodau Llafur a Phlaid Cymru sydd wedi cefnogi’r cynnig ac wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon. I gloi, fel Llywodraeth, rydym yn parhau i ymateb i’r argyfwng presennol gyda rhaglenni pellgyrhaeddol o gymorth i aelwydydd a fydd yn cefnogi ein pobl ifanc a’u teuluoedd ar incwm isel. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig heddiw, gan gydnabod y cyfyngiadau ar ein gallu i weithredu, a rhinweddau adolygiad hefyd. I gydnabod cyfraniad Jayne Bryant, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor cyn bo hir mewn termau y gobeithiaf y bydd y pwyllgor yn eu croesawu. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i ddefnyddio pob ffordd sydd ar gael i ni i gefnogi ein pobl ifanc a sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i adlewyrchu’r egwyddor na ddylai arian byth fod yn rhwystr rhag cael mynediad at addysg.
Galwaf ar Luke Fletcher i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n debyg y gallwch ragweld erbyn hyn beth rwy'n tueddu i ofyn amdano yn y Siambr. Cefais wybod fy mod yn siarad am y lwfans cynhaliaeth addysg yn fy nghwsg, er mawr ddiflastod i fy ngwraig.
Ond wyddoch chi, pan fyddwn allan yn y gymuned, yr hyn a ofynnir i mi'n aml yw, 'Beth mae'r Senedd wedi'i wneud i ni?', a'r lwfans cynhaliaeth addysg yw un o'r pethau cyntaf rwy'n cyfeirio atynt bob tro. Cafodd ei ddiogelu gan y Llywodraeth, a charwn ailadrodd eto pa mor ddiolchgar rwyf fi, a pha mor ddiolchgar oedd y fersiwn iau ohonof hefyd i Lywodraeth Cymru am ei ddiogelu.
Credaf fod Vikki wedi nodi pwynt pwysig iawn. Dyma'r cyfyng-gyngor sy'n wynebu myfyrwyr incwm isel: 'A wyf yn aros mewn addysg, neu a wyf i'n mynd allan i ennill cyflog?' Dyna'r cwestiwn a ofynnais i mi fy hun, a phe bawn wedi mynd am yr ail ddewis, efallai na fyddwn yn sefyll yma heddiw, ac mae'n debyg y byddai hynny wedi gwneud bywydau llawer o bobl yn llawer haws, ond serch hynny, credaf yn gryf mai'r lwfans cynhaliaeth addysg a'm galluogodd i gyrraedd y pwynt hwn, ynghyd â chymorth arall a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Ar y gwaith a wneir gan bwyllgorau, cyfeiriodd Jayne at y gwaith a wneir gan y pwyllgor pobl ifanc ac addysg—gwaith gwirioneddol wych a gwerth chweil. Gwnaed gwaith gan y Pwyllgor Cyllid; cyfeiriodd Mike at hynny—unwaith eto, gwaith gwych. Ac edrychodd fy mhwyllgor fy hun hefyd ar y lwfans cynhaliaeth addysg fel rhan o'n gwaith craffu ar y warant i bobl ifanc. Ymddengys bod consensws yn ffurfio, a dyna pam fy mod yn falch iawn hefyd fod y Llywodraeth yn fodlon cefnogi’r cynnig hwn, gyda’r cafeat, wrth gwrs, fod yna gyfyngiadau, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld ymateb y Gweinidog i bwyllgor Jayne ynghylch adolygiad o'r brig i lawr. Rwy’n hynod ddiolchgar hefyd y byddwn yn parhau i weithio ar yr elfennau ymarferol, ac edrychaf ymlaen at rannu rhywfaint o’r wybodaeth rydym wedi’i chael drwy fy swyddfa ar yr arolwg o brofiadau myfyrwyr, a gwn fod y Gweinidog wedi ymrwymo i weithio o ddifrif ar hyn.
Credaf fod Heledd, hefyd, yn llygad ei lle yn yr hyn a ddywedodd. Nid ydym yn cael ein gorlethu â gwaith achos sy'n ymwneud â'r lwfans cynhaliaeth addysg, ond rydym yn ymdrin â phobl agored i niwed. Rydym yn sôn am annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, ac mae Mike yn iawn; mae arnom angen mwy o bobl o gefndiroedd gwahanol. Rwyf bob amser wedi dadlau dros gael mwy o bobl ddosbarth gweithiol i ymwneud â gwleidyddiaeth. Nawr, pa ffordd well o ddangos bod y lle hwn yn werth ymwneud ag ef na thrwy ddarparu rhywbeth fel lwfans cynhaliaeth addysg a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar fyfyrwyr o gartrefi incwm isel yn enwedig, ond hefyd ar eu teuluoedd?
Rwy'n gwbl ymrwymedig i wneud i hyn ddigwydd. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda’r Gweinidog. Nid yw hon, i mi, yn unrhyw fath o ddadl bleidiol wleidyddol. Mae hyn yn rhywbeth personol. Rwy’n ganlyniad uniongyrchol i'r lwfans cynhaliaeth addysg, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn y Siambr hon yn gweithio’n drawsbleidiol ac yn gweithio gyda mi a’r Gweinidog i gynyddu’r taliadau a chynyddu’r trothwyon, oherwydd Duw a ŵyr, mae angen y cymorth hwnnw ar nifer o fyfyrwyr incwm isel ledled Cymru, nawr yn fwy nag erioed.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Oes, felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.