– Senedd Cymru am 2:31 pm ar 24 Mai 2016.
Datganiad gan y Prif Weinidog ar benodiadau i’r Cabinet. Ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Diolch, Lywydd.
Roeddwn i’n blês iawn yr wythnos diwethaf i gyhoeddi enwau fy nhîm gweinidogol, yn dilyn cymeradwyaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines. A gaf i, felly, fynd trwy'r enwau, a hefyd eu cyfrifoldebau nhw?
Llywydd, I have linked the economy with infrastructure. We have an ambitious agenda to take Wales forward, and Ken Skates will embrace those challenges with energy. Julie James will take forward the skills agenda within this portfolio, and we’re maintaining our ministerial emphasis on science.
The health and well-being portfolio is linked explicitly to grass-roots sports participation, in recognition of the importance of making Wales a healthier and better country. Wales has led the way in the UK through integrating health and social services provision, and we continue with this approach through the joint work of Vaughan Gething and Rebecca Evans.
Llywydd, Mark Drakeford becomes Cabinet Secretary for Finance and Local Government, a pivotal and challenging role as we move, both as a Government and as a National Assembly—or Parliament, as we will call ourselves, no doubt, in time—into the era of devolved revenue raising.
Llywydd, as Members will be aware, Kirsty Williams joins the Cabinet with responsibility for education, a policy area on which she has spoken with great passion and conviction over many years. We know, of course, that schools are important, but are, by no means, the only important aspect of education, and we reflect this through the appointment of Alun Davies as Minister for Lifelong Learning and Welsh Language.
Llywydd, environment and rural affairs represents a very significant part of Government responsibilities, affecting every corner of Wales, and I am confident that Lesley Griffiths will combine a strong sense of the national interest with a powerful emphasis on local action.
Carl Sargeant becomes Cabinet Secretary for Communities and Children. The communities aspect was a well-established part of the last Government, but, this time, we’re identifying the interests of children as a distinct ministerial responsibility. This is especially important in view of our commitments on childcare and reasonable chastisement.
Llywydd, Jane Hutt today becomes the longest serving Minister in the history of the institution, and she continues her outstanding record of public service as Leader of the House and Chief Whip.
Llywydd, as I said last week in this Chamber, this will be an open, inclusive and transparent administration, and we are very ready to work with others in the national interest. Indeed, Kirsty Williams’s presence in Government is testimony of that approach. But we also, of course, have the arrangements with Plaid Cymru, which were outlined last week. Indeed, whenever it proves possible to develop consensus and co-operation in respect of legislation and spending plans, that is what we will aim to do. Not only is this good government, but it also reflects the wishes of the Welsh people.
Llywydd, I outlined last week some of the priorities for this administration. I’ve emphasised our open approach, but I also have to enter a note of realism. We don’t have a blank cheque. The Welsh Government gets its money entirely from the UK Government, through the block grant. It’s been cut year on year, and, on our current trajectory, the resources available to us in the year 2020 will have been cut back in real terms to the levels of 2003. Now, an open and transparent approach to government can’t mean an expanding shopping list. We know that every new commitment in this administration will have to be paid for by a cutback somewhere else.
Llywydd, I’m very pleased with the Government team I’ve assembled. A critical five-year period lies ahead. Our relentless focus will be on driving improvement in our economy and public services, and I’m confident this team has the vision and the energy to deliver opportunity for all and a united, sustainable Wales, both now and for future generations.
Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf lawer iawn o gwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â hyn, a hoffwn longyfarch pawb a benodwyd ganddo.
Congratulations to you all.
Brif Weinidog, dywedasoch yn gynharach wrth ateb cwestiynau y byddai eich holl Aelodau yn rhwymedig i gydgyfrifoldebau’r Cabinet. Sut felly y byddwch yn datrys cwestiynau anodd megis pa un a fydd llwybr du yr M4 yn mynd yn ei flaen ai peidio, os oes anghytundeb rhwng aelodau o'r Cabinet ar faterion penodol?
Hoffwn gael sicrhad gan y Prif Weinidog nad yw’r Gymraeg wedi ei hisraddio yn y Cabinet hwn. Yn flaenorol, cyfrifoldeb y Prif Weinidog oedd hyn, felly byddwn yn ddiolchgar o glywed beth y gall ef ei ddweud wrth y rhai ohonom sydd yn pryderu am hyn, er ein sicrhau bod dyfodol y Gymraeg a'i thwf yn bwysig i'r Llywodraeth hon, ac na fydd yn cael ei thrin fel ôl-ystyriaeth.
Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod pwy yn y Llywodraeth sy'n gyfrifol am ddatrys anghydfod Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn yr amgueddfeydd. Ysgrifennais atoch ynglŷn â hyn ddoe, ar ôl ysgrifennu’n gyntaf at eich Llywodraeth ynghylch hyn dros flwyddyn yn ôl. Nawr, rydych wedi dweud o'r blaen eich bod yn bwriadu ymyrryd er mwyn datrys yr anghydfod hwn. Ai eich cyfrifoldeb chi yw hwn, Brif Weinidog, neu ai cyfrifoldeb Aelod arall o’ch Cabinet ydyw erbyn hyn? Yn yr un modd, byddwn yn ddiolchgar o glywed pwy yn eich Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros ddeddfwriaeth undebau llafur. A fydd y Prif Weinidog yn parhau i fod yn gyfrifol am ddur ac am refferendwm yr UE?
Ac, yn olaf, a fyddwch cystal ag egluro pwy sy'n gyfrifol am gyllid myfyrwyr? Mae gennych dri Gweinidog yn eich Cabinet sydd â swyddogaeth yn ymwneud ag addysg—un ar gyfer sgiliau, un ar gyfer dysgu gydol oes, ac un arall ar gyfer addysg. Tri portffolio ar wahân. Pa Weinidog fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â chyllid myfyrwyr yma yng Nghymru os gwelwch yn dda?
Yn gyntaf oll, o ran y cwestiwn cyntaf, ydy, mae cydgyfrifoldeb yn berthnasol. Os ceir anghytundebau, byddant yn cael eu trin yn yr un modd ag yr oeddent yn cael eu trin pan oedd clymblaid â’i phlaid hi, neu yn wir, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y blynyddoedd a fu. Bydd dulliau ar waith i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu nodi yn gynnar, er mwyn cael cytundeb. Mae’r broses hon wedi’i hen sefydlu; cafodd ei defnyddio gennym yn ystod pedair blynedd y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Nid yw’r Gymraeg yn cael ei hisraddio o gwbl. Roedd bob amser yn fater ar gyfer Gweinidog portffolio. Dyna fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond o ystyried fy nghefndir a’m cefnogaeth ddyfal dros yr iaith, nid oes unrhyw siawns iddi gael ei hisraddio.
O ran yr anghydfod ynglŷn â’r PCS, mae Ken Skates, gan mai ef yw'r Gweinidog, wedi bod yn rhan o hyn. Rydym yn disgwyl gweld setliad, yn fuan iawn, iawn, gobeithio ac yr wyf yn diolch iddo am y gwaith y mae wedi ei wneud i sicrhau y bydd canlyniad boddhaol ar gyfer y gweithwyr. Cynhaliwyd y gwaith hwnnw yr wythnos diwethaf. Mark Drakeford, fel y Gweinidog, fydd yn gyfrifol am wthio bil yr undebau llafur yn ei flaen, ac yn gyfrifol am ddiddymu yr adrannau hynny o’r Ddeddf yr ydym yn anghytuno â nhw ac yr ydym yn credu eu bod o fewn cymhwysedd y Cynulliad hwn.
Ynglŷn â refferendwm yr UE, fy nghyfrifoldeb i fydd hynny o hyd. O ran mater Tata, bydd hwnnw'n parhau i fod yn gyfrifoldeb i mi. Ymhen amser, bydd dur yn dod yn rhan o'r portffolio economi a seilwaith, ond byddaf i'n parhau i fod yn gyfrifol am Tata.
O ran cyllid myfyrwyr, mater i Kirsty Williams yw hwnnw, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, ac rwyf hefyd yn llongyfarch yr holl Ysgrifenyddion—mae'n ddrwg gennyf; nid ydynt yn Weinidogion bellach—am gael eu penodi gennych chi yr wythnos diwethaf, ac rwyf yn dymuno yn dda iddynt yn eu hymdrechion, er tegwch. Efallai eu bod ar ochr arall y ffens i mi yn wleidyddol, ond yn amlwg mae llawer o bobl yn dibynnu ar y penderfyniadau yr ydych chi a’ch swyddogion yn eu gwneud, ac, mewn gwirionedd, nid wyf yn credu ei bod yn werth i unrhyw un ohonom deimlo unrhyw atgasedd tuag atoch gan y bydd llawer o bobl yn dioddef os byddwch yn gwneud camgymeriadau. Ond, byddwn ni fel gwrthblaid yn amlwg yn eich dwyn i gyfrif ac ni fyddwn yn dal her rhag gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich dwyn i gyfrif am y penderfyniadau a'r gweithredoedd y byddwch yn eu gwneud fel Llywodraeth—yn wir, fel Llywodraeth glymblaid bellach, yn amlwg gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn eistedd ar y fainc flaen gyda chi yn y fan yna.
Byddwn yn ddiolchgar, Brif Weinidog, pe gallech ymhelaethu ymhellach ar y cytundeb y gwnaethoch â'r cenedlaetholwyr Cymreig yr wythnos diwethaf o ran y pwyllgorau neu grwpiau ymgynghorol. Nid wyf yn hollol siŵr beth yw eu statws, na beth yw eu swyddogaeth ffurfiol yn y Llywodraeth, ac nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl eraill yn gwybod ychwaith, i fod yn onest â chi. Ac rwyf yn meddwl bod eich sylwadau ddydd Sul yn cyfeirio at y ffaith eich bod chithau hefyd wedi drysu ychydig ynglŷn â seilwaith, ynglŷn â beth yn union yr oedd Plaid Cymru yn ofyn amdano o ran y cais seilwaith i'ch Llywodraeth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut yn union y bydd y grwpiau neu’r pwyllgorau gwaith hynny yn gweithio o fewn y Llywodraeth. Yn arbennig, rydych wedi dweud y byddai eich Llywodraeth yn darparu Gweinidogion fel cynrychiolwyr, ac yn amlwg byddai'r ysgrifenyddiaeth yn dod o'r gwasanaeth sifil. A yw’n ddisgwyliedig gan Blaid Cymru felly, y bydd y cynrychiolwyr yn Aelodau'r Cynulliad neu a gânt enwebu unrhyw un i fod ar y gweithgorau hynny? Ac a fydd y Llywodraeth yn rhwymedig i ganlyniadau’r pwyllgorau a’r gweithgorau hynny a sefydlwyd drwy'r cytundeb a wnaethoch yr wythnos diwethaf a oedd yn caniatáu i'ch enwebiad fynd ymlaen?
Hoffwn hefyd ddeall yn union nawr lle y mae Betsi yn sefyll, oherwydd yn amlwg roedd gan y Dirprwy Weinidog gyfrifoldeb am y mesurau arbennig a gyflwynwyd yn Betsi Cadwaladr yn y gogledd, ac yr wyf yn tybio bod hynny’n wir o hyd, sef mai’r Dirprwy Weinidog sy’n gyfrifol, neu a yw’r cyfrifoldeb wedi’i drosglwyddo i'r Gweinidog llawn —yr Ysgrifennydd, ddylwn i ddweud—yr Ysgrifennydd iechyd llawn yn y Llywodraeth newydd hon? A ydych chi'n gallu nodi unrhyw gynnydd o ran Betsi yn symud allan o fesurau arbennig? Byddai hynny'n rhoi cryn sicrwydd i'r nifer fawr o bobl sy'n dibynnu ar wasanaethau’r bwrdd iechyd lleol hwnnw.
Rwyf hefyd yn croesawu Lesley Griffiths i’w swyddogaeth materion gwledig a'r amgylchedd. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hynny oherwydd fy nghefndir amaethyddol ac rwyf yn nodi eich bod yn sôn am roi pwyslais ar weithredu’n lleol. Un o'r prif faterion y byddwn yn awgrymu y byddai’r gymuned amaethyddol yn benodol eisiau gweld cynnydd gan y Llywodraeth newydd ynglŷn ag ef yw TB mewn gwartheg. Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn gweld hynny fel blaenoriaeth ar gyfer eich Llywodraeth newydd, o ystyried, yn amlwg, fod y rhaglen frechu wedi ei hatal dros dro yn y Cynulliad diwethaf. Rwy'n credu fy mod yn gywir wrth ddweud y geiriau 'atal dros dro', oherwydd rhoddwyd y gorau i roi'r brechlyn. Pa eglurder y gallwch ei roi, gan fod eich Llywodraeth newydd wedi'i sefydlu bellach, ynghylch pa gamau y gallech chi eu cymryd i ddileu—ac rwyf yn defnyddio'r gair 'dileu'—TB mewn gwartheg yng Nghymru?
Hoffwn hefyd ddeall yn union sut y mae swyddfa’r Cabinet yn mynd i weithio. Yr wythnos diwethaf yn eich datganiad cyfeiriasoch at y ffaith y byddai'r Llywodraeth yn ffurfio swyddfa Cabinet, yn wahanol i’r adeg hon yn y Cynulliad diwethaf pan oedd llawer o sôn am yr uned gyflawni. Nawr, fel yr wyf wedi deall o'ch sylwadau yr wythnos diwethaf, mae'r uned gyflawni yn datblygu i fod yn swyddfa Cabinet. Nid wyf yn hollol siŵr beth yw'r gwahaniaeth, efallai y gallech chi ddweud wrthym, oherwydd credaf ein bod i gyd mewn gwirionedd yn awyddus i weld mwy o gyflawni a mwy o ddylanwad gan sefydliad o'r fath. Ai eich cyfrifoldeb chi, fel Prif Weinidog, neu ai cyfrifoldeb arweinydd y tŷ fydd hwn, oherwydd mae'n amlwg bod yr uned gyflawni yn adrodd i chi, swyddfa'r Prif Weinidog?
Hoffwn ymhelaethu ar y sylwadau a wnaeth arweinydd Plaid Cymru, yn benodol ar addysg, oherwydd mewn gwirionedd, byddwn yn awgrymu ei fod yn cwmpasu pedair adran. Carl Sargeant sy’n gyfrifol am blant, Julie James sy’n gyfrifol am sgiliau, Kirsty Williams sy’n gyfrifol am y portffolio addysg ac Alun Davies sy’n gyfrifol am ddysgu gydol oes. Wrth lunio eich Cabinet, pam yr ydych wedi barnu ei bod yn angenrheidiol cael cymaint o swyddogaethau sy'n effeithio ar gynifer o bobl ifanc ym mhob rhan o'r Llywodraeth? Rwyf yn cymryd bod llawer o adrannau yn rhannu cyfrifoldebau, ond rydych wedi neilltuo’r cyfrifoldebau hynny yn glir i bedwar deiliad portffolio gwahanol, ac rwyf yn credu ei bod yn bwysig deall beth oedd eich meddylfryd wrth wneud hynny, a sut yr ydych yn credu y bydd y swyddogaeth honno yn cael ei chyflwyno ar draws y Llywodraeth fel y ceir dilyniant ac y bydd y dyheadau y byddwch yn eu nodi, yn ddiau, yn cael eu cyflawni yn eich rhaglen lywodraethu.
Byddaf yn terfynu gyda’r sylw olaf yr hoffwn ei wneud, sef eich bod wedi dod ag Alun Davies yn ôl i'r Llywodraeth. Rwyf yn dymuno'n dda iddo yn ei ymdrechion fel Dirprwy Weinidog, ond rwyf yn cyfeirio at eich sylwadau pan adawodd Alun Davies y Llywodraeth yn 2014, ac yn enwedig gan fy mod i yn un o'r Aelodau, yr oedd yn ceisio cael gwybodaeth amdano o gofnodion y Llywodraeth—. Dywedasoch mai'r unig gasgliad oedd ei fod eisiau i’r wybodaeth hon gael ei defnyddio yn erbyn yr Aelodau hynny. Pan ofynnwyd i chi a phan roddwyd pwysau arnoch i ateb, dywedasoch eich bod yn rhagweld ei bod yn anodd iawn ei weld yn dod yn ôl i’r Llywodraeth. Felly, beth sydd wedi digwydd yn y cyfamser sy’n rhoi sicrwydd i chi na fydd digwyddiad o’r fath, a achosodd iddo adael eich Llywodraeth yn ôl yn 2014, yn digwydd eto? Oherwydd, ar y pryd nid oeddech yn gallu rhoi’r sicrwydd hwnnw ac rwyf yn credu ei fod yn ddyletswydd arnoch chi fel y Prif Weinidog sydd wedi ei benodi y tro hwn i roi'r sicrwydd yr ydym yn dymuno ei gael i ni.
Mae nifer o gwestiynau yn y fan yna. Yn gyntaf, ynglŷn â’r cytundeb â Phlaid Cymru, oes, mae rhai materion fel y comisiwn seilwaith cenedlaethol lle y ceir gwahanol farn o ran beth a allai hyn fod, ond dyna fydd testun y trafodaethau.
Mae tri phwyllgor wedi eu sefydlu. Eu hamcan yw nodi materion megis deddfwriaeth yn gynnar i weld lle y ceir tir cyffredin a lle na cheir tir cyffredin, ac yr un gyda’r gyllideb. Mae hynny, yn fy marn i, yn drefniant gwaith call rhwng dwy blaid gyda’r bwriad o ddod i gytundeb yn y misoedd nesaf, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Rwyf yn rhagweld y bydd y pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr o wahanol bleidiau—mae hynny'n wir. Mater i Blaid Cymru yw dewis pwy fydd yn eu cynrychioli ar y pwyllgorau hynny, ond, o’n hochr ni, Gweinidog fydd yn ein cynrychioli wrth gwrs.
Siaradodd arweinydd y Ceidwadwyr am fod yn rhwymedig i ganlyniadau'r pwyllgorau hynny. Nid dyna natur y pwyllgorau. Mae'r pwyllgorau yno er mwyn dod i gytundeb, ac ar ôl cyrraedd y cytundeb hwnnw, wedyn wrth gwrs, bydd y ddwy blaid mewn sefyllfa lle bydd y pleidiau yn gallu cefnogi'r cytundeb hwnnw.
O ran Betsi Cadwaladr, Vaughan Gethin fydd yn parhau i fod yn gyfrifol amdano. Mae'n gyfarwydd â'r sefyllfa yn Betsi. Mae'n gwneud synnwyr iddo barhau i fod yn gyfrifol am Betsi, a bydd ef yn adrodd yn ôl maes o law ynglŷn â chynnydd.
O ran TB mewn gwartheg, byddwn, wrth gwrs, yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar wyddoniaeth. Un o'r pethau cyntaf y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno fydd y camau nesaf o ran ymdrin â TB mewn gwartheg.
Ydy, mae'n iawn i ddweud nad yw’r uned gyflenwi yn bodoli mwyach. Bydd rhai o'r Aelodau nad ydynt yma bellach yn gweld hynny fel buddugoliaeth fawr—nid oes gennyf unrhyw amheuaeth am hynny ar ôl yr ymagwedd braidd yn obsesiynol a gymerwyd gan gyn Aelod o'r lle hwn. I bob pwrpas, swyddfa’r Cabinet yw swyddfa'r Prif Weinidog yn y bôn. Mae'n atebol i mi yn gyfan gwbl. Bydd ganddi lawer o wahanol swyddogaethau, er enghraifft, cydlynu'r rhaglen ddeddfwriaethol, cydlynu agenda’r Cabinet a hefyd nodi materion y mae angen ymdrin â hwy yn gynnar ar sail traws-Lywodraethol. Does dim dirgelwch ynghylch hynny; dyna fydd yn ei wneud.
O ran plant, rwyf wedi neilltuo portffolios yn ôl yr hyn sy'n gweddu orau yn fy marn i, ond, yn y pen draw, nid yw Gweinidogion y Cabinet ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn byw ac yn bodoli mewn seilos. Mae gwaith yn cael ei wneud ar draws y Llywodraeth drwy'r amser a dyna pam, er enghraifft, y bydd mater fel cyllid myfyrwyr yn benderfyniad a wneir gan y Cabinet. Wrth gwrs, mae Gweinidogion portffolio sy'n gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd, ond mae penderfyniadau pwysig sydd angen cyfraniad y Cabinet cyfan. Dyna sut y mae wedi bod erioed a dyna sut y bydd yn y dyfodol.
O ran Alun Davies, wel, Alun, mae'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol yn y gorffennol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd ef yn Weinidog rhagorol ac yn rhywun a fydd yn dod â llawer o arbenigedd i'r Llywodraeth, fel y bydd pob Gweinidog. Mae pob Gweinidog wedi derbyn copi o'r cod gweinidogol ac, wrth gwrs, bydd yn ofynnol i Weinidogion ddangos i mi eu bod wedi ei ddarllen, ac mae hynny'n wir am yr holl Weinidogion. Rwy'n falch o gael yr amrywiaeth o arbenigedd sydd ar gael i mi.
Fel Andrew R.T. Davies a Leanne Wood, rwyf yn llongyfarch pawb sydd wedi eu penodi i’w swyddi yn y weinyddiaeth hon, yn enwedig Ken Skates, a ddywedodd wrthyf y diwrnod o'r blaen fy mod wedi prynu diod iddo yn Nhŷ'r Cyffredin 20 mlynedd yn ôl. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at gynnig llwncdestun ar ei lwyddiant ac yntau'n mynd i'w boced y tro hwn wrth iddo dalu'n ôl. [Chwerthin.]
Dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad y bydd y weinyddiaeth hon yn agored, yn gynhwysol ac yn dryloyw. Mae'n ddrwg gennyf ddweud o ran y pwyllgorau ymgynghorol hyn nad yw'n edrych felly o’r ochr yma i'r cylch mewn gwirionedd, gan na fydd y pwyllgorau hyn ar agor i ni. Byddant yn ein gwahardd, a bydd y modd y byddant yn gwneud penderfyniadau ac yn wir, o bosib y penderfyniadau y byddant yn eu gwneud, yn hynod o anrhyloyw. Rwy'n credu ei fod braidd yn anffodus ei bod yn ymddangos y bydd carfan benodol o Aelodau'r tŷ hwn yn cael eu gwahardd bellach o'r broses o ddatblygu polisi er budd un o’r pleidiau lleiafrifol eraill. Rwy'n credu, er mwyn cael llywodraeth dda yng Nghymru, y byddai o fantais i bawb pe gallai Aelodau’r Ceidwadwyr ac Aelodau UKIP yn eu ffyrdd gwahanol gael eu cynnwys yn y trafodaethau y tu ôl i'r llenni. Byddwn yn ddiau yn anghytuno ar lawer o faterion, ond mae llawer o faterion domestig yng Nghymru y gallwn ddod i gytundeb yn eu cylch a dod o hyd i farn gyffredin rhwng y partïon mewn gwahanol rannau o'r tŷ, ac rwyf yn addo ar ran fy mhlaid fy hun y byddwn yn chwarae rhan adeiladol yn y Siambr hon.
Yn ail, hoffwn longyfarch Kirsty Williams ar ei phenodiad i'r swydd Ysgrifennydd addysg. Rwy'n siŵr y bydd hi’n gwneud gwaith arbennig o dda. Mae hi'n amlwg yn unigolyn galluog iawn, iawn. Gwn ei bod wedi cymryd llawer iawn o ddiddordeb mewn addysg a’i bod wedi cyfrannu at drafodaethau yn y Siambr hon dros lawer o flynyddoedd, ond mae hyn yn cyflwyno problem ddemocrataidd fechan i ni oherwydd, ychydig wythnosau yn ôl, cafodd ei hethol yn AC Democratiaid Rhyddfrydol Brycheiniog a Maesyfed a phleidleisiodd 92 y cant o'i hetholwyr yn erbyn y Blaid Lafur, ac eto, cadarnhaodd y Prif Weinidog, wrth ateb cwestiwn yn gynharach, y byddai Kirsty Williams yn rhwymedig i gydgyfrifoldeb, ac felly, i bob pwrpas, wedi dod yn AC Llafur yn y Siambr hon. Pan adawodd fy nghyfaill anrhydeddus, Mark Reckless y Blaid Geidwadol i ymuno ag UKIP, gofynnodd am gefnogaeth ei etholwyr yn Rochester mewn is-etholiad ac rwy’n credu mai dyna fuddai'r peth anrhydeddus i'w wneud. Tybed a fydd y Prif Weinidog yn cytuno y byddai hynny'n briodol ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.
Yn gyntaf oll, rwyf yn credu y bydd yr Aelod yn synnu at faint o dryloywder sy'n bodoli yn y lle hwn o'i gymharu â San Steffan [Chwerthin.] Bydd ef yn sicr yn dod yn ymwybodol o’r ceisiadau rhyddid gwybodaeth yr ydym yn eu derbyn fel Llywodraeth ac yn wir, y tryloywder y mae Aelodau yn gweithredu yn unol ag ef yn y lle hwn ac y maent wedi ei wneud ers blynyddoedd lawer. Nid oes cyfrinach ynglŷn â’r hyn y cytunwyd arno; rydym wedi cyhoeddi blaenoriaethau cyffredin rhwng Llafur Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac mae natur y cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yno i bawb ei gweld. Nid yw'n gytundeb cyfrinachol; mae wedi ei gyhoeddi a gall pobl ei weld yn union beth ydyw: ffordd o sicrhau y bydd perthynas waith—nid cytundeb; rydym yn gwybod hynny; gwyddom y bydd meysydd y byddwn yn anghytuno arnynt—ond fframwaith gwaith y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y dyfodol.
Gallaf sicrhau arweinydd UKIP nad yw Kirsty Williams yn AC Llafur Cymru; mae hi yn sicr yn Ddemocrat Rhyddfrydol. Pe byddem yn cymryd rhesymeg ei ddadl i'w chasgliad llawn, byddai pob un AS y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymddiswyddo yn 2010 pan sefydlwyd y glymblaid yn San Steffan. Yn amlwg, mae hwn yn gytundeb sydd gennym ar waith er mwyn symud Cymru ymlaen, er mwyn darparu sefydlogrwydd ac wrth gwrs, er mwyn rhoi dyfodol gwell a mwy disglair i'n pobl. Rydym wedi gwneud hynny drwy nodi blaenoriaethau cyffredin gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac rydym wedi gwneud hynny drwy'r compact yr ydym wedi ei gyrraedd â Phlaid Cymru. Dyna'r ffordd y dylid cynnal gwleidyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen a byddaf yn ei ddweud eto: nid oes diben glynu wrth eich llwyth dim ond er mwyn glynu wrth eich llwyth. Nid felly y mae'r cyhoedd yn meddwl, ac mae'n hynod BWYSIG— [Torri ar draws.] Wel, mae'r Ceidwadwyr wedi disgyn yn syth i'r trap a osodwyd ar eu cyfer yn y fan yna, ond wrth i mi ddweud na ddylid glynu wrth eich llwyth dim ond er mwyn glynu wrth eich llwyth, mae hynny wedi dangos mai dyna'n union yr hyn ydynt.
Byddwn yn parhau i fod yn dryloyw a byddwn yn parhau i fod yn agored. Wrth gwrs y bydd anghytuno o fewn y Siambr hon—dyna beth yw natur democratiaeth. Ond rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni fel Llywodraeth i geisio cydweithio â phleidiau eraill er mwyn cyflawni blaenoriaethau cyffredin ac er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni'r canlyniad gorau ar gyfer ein pobl, a dyna'r ysbryd y trafodaethau a gawsom gyda Kirsty Williams a'r Democratiaid Rhyddfrydol a hefyd, wrth gwrs, â Phlaid Cymru.
Brif Weinidog, rwyf yn gobeithio y caf gyflwyno dymuniadau da sydd ychydig yn llai pigog i chi a'ch Llywodraeth. Rwy'n credu ei fod er budd pob un ohonom bod y Llywodraeth hon yn gweithio mor effeithiol â phosibl, ac edrychaf ymlaen at gefnogi llawer o'r hyn yr ydych yn ei wneud. Bydd nifer o wahaniaethau a byddaf yn egnïol iawn wrth fynd i’r afael â’r rheiny.
A gaf i groesawu yn benodol, penodiad Kirsty Williams i’r Cabinet? Rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad da iawn i wleidyddiaeth Cymru. Mae angen i ni ehangu’r model o sut yr ydym yn cynnal gwleidyddiaeth yn y Siambr hon. Nid wyf yn credu bod llawer o newyddiadurwyr yn cadw’r dudalen flaen yn wag er mwyn cynnwys y pennawd, 'Sioc—y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymuno â Llafur mewn gweinyddiaeth'. Rwyf bob amser wedi ystyried sylwadau Kirsty yma yn rhai meddylgar, perthnasol a chlir, ac, yn wir, yn y pedwerydd Cynulliad, credaf ei bod wedi cyflawni swyddogaeth y prif chwilyswr i raddau—swyddogaeth yr wyf yn gobeithio y byddwch yn parhau i’w chyflawni, er y bydd hynny yng nghyfrinachedd trafodion y Cabinet, wrth gwrs.
Croesawaf y ffaith fod buddiannau plant wedi eu nodi fel cyfrifoldeb gweinidogol penodol ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Carl Sargeant ym mha ffordd bynnag bosibl i godi materion sy'n peri pryder mawr i mi, yn enwedig ynglŷn â phlant sy'n derbyn gofal. Brif Weinidog, yr wythnos hon yr ydym wedi gweld tystiolaeth sy'n peri pryder o weithredu gwahaniaethol gan y system cyfiawnder troseddol, er yn aml heb fod bwriad o wneud hynny, yn erbyn plant sy'n derbyn gofal, ac rwyf yn gobeithio y byddwch chi a'ch cydweithwyr yn rhoi sylw gofalus i adolygiad yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai.
Yn fwy cadarnhaol, clywsom yr wythnos diwethaf fod y Prif Weinidog wedi ffurfio is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer pobl ifanc sy'n derbyn gofal a'i swyddogaeth fydd llunio cytundebau traws-adrannol. A gaf i argymell bod y dull hwn neu rywbeth cyfatebol sy'n addas ar gyfer Cabinet Cymru yn cael ei ddilyn, oherwydd bod y rhyng-gysylltiadau—. Mae'n anochel y bydd addysg, iechyd a meysydd gofal cymdeithasol eraill yn mynd i fod yn hanfodol bwysig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac ni allwch gynnwys popeth o dan un cyfrifoldeb gweinidogol. Ond, mae gwaith effeithiol yn lluosi’r canlyniadau yn hytrach na dim ond eu hychwanegu at ei gilydd. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni ei wneud ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Yn y pumed sesiwn hwn o’r Cynulliad Cenedlaethol, gadewch i ni ddangos o ddifrif arfer gorau rhagorol er mwyn gwneud cynnydd dros blant sy'n derbyn gofal.
A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei sylwadau? Bydd yn gwybod fy mod i wedi cymryd diddordeb yn y mater hwn ers rhai blynyddoedd o ystyried y tanberfformiad y gwyddom amdano o ran plant sy’n derbyn gofal o fewn y system addysg. Yr anhawster yw, wrth gwrs, fod plant sy'n derbyn gofal angen sawl gwahanol fath o gefnogaeth, boed hynny drwy'r gwasanaethau cymdeithasol, trwy'r system addysg, neu trwy’r gwasanaethau iechyd. Mae plant sy'n derbyn gofal yn rhan o bortffolio Carl Sargeant. Gwnaed hynny yn fwriadol fel y gellir dilyn ymagwedd gyfannol er mwyn gwella canlyniadau ar eu cyfer. Gwyddom, yn anecdotaidd o leiaf, ei bod yn fwy tebygol i blentyn sy’n derbyn gofal fynd i’r carchar yn hytrach nag i brifysgol. Nid yw hynny yn rhywbeth y gallwn ni ei oddef fel cymdeithas. Mae'n rhywbeth yr wyf i yn sicr wedi cymryd diddordeb personol ynddo. Dyna un o'r rhesymau pam y mae gennym Weinidog Plant a fydd yn llwyr gyfrifol am wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
Yn gyntaf oll, Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich ymateb cynharach i Andrew R. T. Davies ynglŷn â'r pwyllgorau y bydd y Llywodraeth yn eu cynnal ar y cyd â Phlaid Cymru? Mae'n rhaid i mi fynegi fy mhryderon fod rhywbeth sydd mor bwysig â’r cyfansoddiad, sy'n cynnwys, wrth gwrs, pawb yn y Cynulliad hwn, yn fater i bwyllgor sy'n cynnwys dwy blaid yn unig.
Ond, fy mhrif gwestiwn heddiw yw hwn: a allwch chi esbonio pwy sy'n mynd i fod yn bennaf gyfrifol am bolisi awtistiaeth? Mae awtistiaeth yn effeithio ar oedolion a phlant. Mae'n effeithio ar y ddau ohonynt mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau yn eu bywydau ac i raddau gwahanol. Y gwahaniaethau hynny yw un o'r rhesymau pam yr wyf yn pryderu na fydd Deddf awtistiaeth a'i huchelgeisiau yn cael eu hadlewyrchu'n ddigonol mewn Bil anghenion dysgu ychwanegol. Gan ei fod yn effeithio ar wasanaethau cymdeithasol, iechyd, yr amgylchedd, a chymunedau hyd yn oed, tybed a allwch chi egluro i bawb ohonom pwy yn union fydd yn bennaf gyfrifol am yr holl bolisi awtistiaeth, efallai yn yr un ffordd ag y mae’r prif gyfrifoldeb ar gyfer plant wedi ei roi i un Ysgrifennydd dros blant.
Mae Awtistiaeth yn bodoli mewn dau bortffolio. O ran darpariaeth, mae hynny’n rhan o iechyd a lles. O ran darpariaeth addysg, byddai hynny’n rhan o addysg ei hun. Rwy’n cydnabod yr hyn y mae hi'n ei ddweud: un o'r materion yr ydym wedi ei archwilio yw pa un a ellid addasu’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol i gynnwys darpariaeth ar gyfer awtistiaeth—ni welaf unrhyw reswm pam na ellir gwneud hynny—yn hytrach na bod Bil ar wahân a bod hynny’n cymryd mwy o amser. Rydym yn agored i drafodaethau ynglŷn â hynny, mae’n rhaid i mi ddweud. Felly, o ran darpariaeth, mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod gorgyffwrdd yn digwydd â nifer o feysydd eraill: oedolion a phlant, addysg, ac iechyd a lles. Ond, fel bob amser, rwyf yn disgwyl i Weinidogion weithio gyda'i gilydd i allu darparu gwasanaeth cydlynol ar gyfer y rhai sydd naill ai'n gofalu am y rhai sydd ag awtistiaeth neu'r rhai sy'n byw gydag awtistiaeth, er mwyn ein symud ymlaen.
O ran y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, os oes elfen sylweddol yn ymdrin ag awtistiaeth yn y Bil hwnnw, yna byddai hynny’n rhan o bortffolio Alun Davies, neu yn rhan o’i gyfrifoldebau. Ond gadewch i ni weld sut y bydd hynny yn datblygu o ran pa un a yw'n bosibl cynnwys darpariaeth ar gyfer awtistiaeth mewn Bil, sydd yn y bôn, yn Fil yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y bydd ffordd, wrth gwrs, o ymdrin â’r ddau fater a fydd wedyn, wrth gwrs, yn osgoi'r angen am Fil ar wahân a allai gymryd mwy o amser.
Diolch, Brif Weinidog.