– Senedd Cymru am 2:28 pm ar 27 Medi 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar adolygiad Diamond o addysg uwch a chyllid myfyrwyr ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.
Diolch i chi, Lywydd. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad terfynol o’r adolygiad o addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Ian Diamond. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Athro Diamond ac i holl aelodau'r panel ar draws y pleidiau gwleidyddol, y sector a'r diwydiant am yr amser a'r ymdrech y maent wedi’i neilltuo ar gyfer yr adolygiad ers iddo ddechrau ym mis Ebrill 2014.
Mae'r panel wedi ystyried llawer iawn o dystiolaeth yn rhan o’i waith. Adlewyrchir hyn yn amrywiaeth a chymhlethdod y materion y mae'r panel wedi’u cyflwyno yn ei adroddiad terfynol ac yn lefel manylder ei argymhellion.
Cafodd gwaith y panel ei lywio gan yr egwyddor Robbins hirsefydlog, sef y dylai mynediad at addysg uwch fod yn seiliedig ar allu yn unig, ac nid ar allu pobl i’w fforddio. Gan lynu wrth yr egwyddor hon, argymhelliad cyffredinol yr adroddiad yw y dylai’r cyllid grant ganolbwyntio mwy ar gymorth cynnal a chadw ar draws lefelau a dulliau o astudio, gan oresgyn y gwir heriau ariannol sy'n gysylltiedig â chyfnod o astudio addysg uwch. Mae'n cynnig y dylid gwella cymorth cynhaliaeth ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru, ac y dylai’r lefel uchaf o gymorth grant gael ei chyfeirio tuag at y rhai sydd fwyaf anghenus, ond y dylai grant cynhaliaeth cyffredinol o £1,000 nad yw’n seiliedig ar brawf modd fod ar gael i’r holl fyfyrwyr. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnig gweithredu dull unigryw ac arloesol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig, a fydd yn annog dull hyblyg tuag at addysg uwch. Mae'r adroddiad yn cydnabod, o ystyried cyd-destun y cyni yn y DU, na ellir cyflawni’r gwelliannau hyn a argymhellir ac eithrio drwy ryddhau cyllid a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddarparu grantiau ffioedd dysgu i israddedigion llawn amser.
Cymeradwywyd yr egwyddorion a gynhwysir yn yr adroddiad gennyf i a’m cydweithwyr yn y Cabinet. Mae'r cynigion hyn yn cynrychioli newid trawiadol o ran sut yr ydym ni’n cefnogi'r rhai sy’n dymuno mynd i addysg uwch, yn ogystal ag amlinellu system cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch sy’n decach ac yn gynaliadwy. Byddai'r cynigion yn golygu mai Cymru fyddai’r unig wlad yn y DU i weithredu system sy'n gyson, blaengar a theg o ran ei chefnogaeth i fyfyrwyr israddedig llawn amser, myfyrwyr israddedig rhan amser a myfyrwyr ôl-raddedig.
Mae’r ofn o fethu â bodloni costau byw o ddydd i ddydd yn atal llawer o bobl—nid y ffaith bod disgwyl iddynt ad-dalu benthyciadau ar ôl iddynt gychwyn gweithio. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y consensws cryf ymysg myfyrwyr, cyrff sy’n cynrychioli myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes ehangu cyfranogiad, fod y cymorth presennol ar gyfer cynhaliaeth yn annigonol a bod hyn yn fwy o fater i fyfyrwyr na lefel y ffioedd a chymorth ffioedd. Mae'r system hon yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw yn uniongyrchol, ond bydd hefyd yn golygu gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Ar ôl cymeradwyo'r egwyddorion sylfaenol a geir yn yr adroddiad, nawr mae angen i mi ystyried goblygiadau ymarferol gweithredu ei argymhellion. Bydd Llywodraeth Cymru felly yn trafod ein dull gweithredu â Thrysorlys Ei Mawrhydi a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr cyn cwblhau ein hymateb ffurfiol. Gallaf gadarnhau y bydd yr ymateb yn ategu’r egwyddorion allweddol canlynol: bydd cadw at yr egwyddor o gyffredinoliaeth o fewn system flaengar yn sicrhau dull teg a chyson ar draws lefelau a dulliau astudio, am y tro cyntaf yn unrhyw le yn y DU; bydd yn sicrhau buddsoddiad ar y cyd rhwng y Llywodraeth a'r rhai hynny sy'n cael budd uniongyrchol, gan wella pa mor hawdd ydyw i astudio a lleihau'r rhwystrau, megis costau byw—ac y dylai cymorth i fyfyrwyr fod ar gael i fyfyrwyr Cymraeg unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Yn fy nghytundeb gyda'r Prif Weinidog, gwnaethom gydnabod mai addysg o safon uchel sy’n sbarduno symudedd cymdeithasol, ffyniant cenedlaethol a democratiaeth weithredol. Er mwyn galluogi hyn, mae Cymru angen setliad ariannu addysg uwch sy’n gynaliadwy ac yn flaengar ac sy'n cefnogi myfyrwyr pan fyddant ei angen fwyaf ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu'n rhyngwladol. Gydweithwyr, dechreuais drwy gyfeirio at egwyddor enwog yr adroddiad Robbins. Caiff hyn ei ddiystyru’n aml, wrth nodi amcanion system addysg uwch, fod yr adroddiad hefyd yn dweud, ac rwy'n dyfynnu,
‘The system as a whole must be judged deficient unless it provides adequately for all.’
Mae Syr Ian a'i banel wedi cyflwyno adroddiad heddiw sy'n argymell newid sylfaenol fel y gall Cymru ddatblygu system ariannu addysg uwch a chyllid myfyrwyr sydd wir yn darparu ar gyfer pawb. Diolch.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd, am eich datganiad? Rwyf innau hefyd am ategu’r diolch rydych chi wedi estyn i’r Athro Diamond ac aelodau’r panel, ac, yn wir, y sector ehangach a phawb sydd wedi cyfrannu i’r broses faith hon, ond proses, rwy’n siŵr, bydd yn werthfawr wrth i ni symud ymlaen at greu cyfundrefn well. Yn fy marn i, mae hwn yn cynnig model mwy cynaliadwy i ni. Rydych wedi dweud yn eich datganiad eich bod chi’n cefnogi’r egwyddorion sydd yn gynsail i hwn. Nid wyf yn siŵr os dywedoch chi yn blwmp ac yn blaen eich bod chi hefyd yn cytuno bod hwn yn ein symud ni i fodel mwy cynaliadwy na’r model presennol. Rwy’n siŵr y byddech chi’n licio gwneud hynny’n glir wrth ymateb, os y gwnewch chi.
Mae’r Athro Diamond, wrth gwrs, wedi ei gwneud hi’n glir yn gyson yn y drafodaeth ynglŷn â’r argymhellion yma bod yr hyn sy’n cael ei argymell yn becyn cynhwysfawr, yn becyn cyfansawdd, ac na ddylem ni fod yn dewis a dethol gwahanol elfennau wrth fynd ati i weithredu. Wrth edrych ar y cyfan, felly, a ydych chi’n cydnabod mai pecyn cynhwysfawr yw hwn? Mi wnaethpwyd y gymhariaeth y bore yma, mewn cyfarfod gydag Aelodau Cynulliad, gan yr Athro Diamond, nad lein ddillad yw hon, lle y gallwch chi dynnu ambell i ddilledyn lawr, a gadael y lleill i fyny—bod yn rhaid edrych arno fe fel un darn o waith. Ac felly, tra’ch bod chi’n sôn am ystyried yr argymhellion yn unigol, edrych ar y pecyn cyfan y dylech chi fod yn ei wneud, a bod yn barod i wneud hynny.
Yn yr un modd hefyd, wrth gwrs, mae yna gwestiwn ynglŷn â’r ariannu. A ydych chi yn derbyn bod y gyllideb bresennol sydd wedi ei chlustnodi i gefnogi myfyrwyr yn aros, ac mai gweithio o fewn y gyllideb honno y byddwch chi fel Llywodraeth, neu a ydych chi’n mynd i fod yn chwilio am arbedion? Oherwydd mae hynny, yn amlwg, yn mynd i gael cryn ddylanwad ar faint o’r pecyn cyfan, os liciwch chi, y byddwch chi fel Llywodraeth yn ei weithredu. Rwy’n meddwl bod yn rhaid ichi ei gwneud hi’n gwbl glir ynglŷn ag ar ba gynsail rydych chi’n gweithredu, o safbwynt cyllidebol.
Rwy’n sicr yn croesawu’r pwyslais ar gefnogi astudio rhan-amser ac ôl-radd, a, hefyd, ar hyrwyddo’r cysylltiadau a’r ‘progression’ yna rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Fe fyddwn i’n licio gofyn i chi, efallai, ddweud ychydig ynglŷn â sut rydych chi’n teimlo y mae’r argymhellion yma yn mynd i fod o gymorth i’r Llywodraeth i hyrwyddo y cydraddoldeb rydym ni i gyd eisiau ei weld rhwng addysg alwedigaethol ac addysg academaidd.
Mae angen cyfundrefn sy’n drosglwyddadwy hefyd—hynny yw, ble bynnag rydych chi yn astudio, bod y gefnogaeth yn gallu eich dilyn chi. Mae Diamond yn eithaf clir, boed yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig, neu, yn yr hinsawdd newydd sydd ohoni, wrth gwrs, o fewn Ewrop. Nawr, mi roedd Plaid Cymru, yn ein maniffesto ni, am fynd gam ymhellach, a sicrhau bod yna gefnogaeth i chi os oeddech chi’n astudio y tu allan i Ewrop hefyd. Rwy’n deall bod hynny yn ddymuniad gan Diamond hefyd. Efallai y byddech chi’n gallu mynegi a ydy hynny, mewn egwyddor, yn sicr, yn rhywbeth y byddech chi’n awyddus i’w hyrwyddo, os yn bosib.
Mae yna argymhelliad clir arall, wrth gwrs, yn yr adroddiad, sef cydnabyddiaeth o’r angen i gymell myfyrwyr naill i gadw eu sgiliau yng Nghymru ar ôl graddio, neu i ddod â’r sgiliau yna yn ôl i Gymru ar ôl graddio, a gwneud hynny, fel y mae’r Athro Diamond yn ei ddweud, er budd Cymru. Yr awgrym yw bod modd edrych ar wneud hynny drwy, efallai, ddileu rhan o’u dyled. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn gydnaws iawn â’r hyn roedd Plaid Cymru wedi bod yn ei gyflwyno fel elfen ganolog o’n polisi ni. Felly, yn amlwg, byddwn i’n croesawu’r gydnabyddiaeth yna, neu’r cydsyniad yna, gan yr Athro Diamond i’r hyn rydym ni wedi bod yn ei ddweud.
Mi ddywedodd hefyd y bore yma, wrth drafod yr argymhellion yma gydag Aelodau Cynulliad, bod angen i’r Llywodraeth wneud hynny ar fyrder—‘with urgency’ oedd y term a ddefnyddiodd e—oherwydd mae’r manteision i’r economi yma yng Nghymru, ac i gymdeithas ehangach, yn gwbl amlwg i bawb. Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod chi yn llawn fwriadu gweithredu ar yr argymhelliad yna, ac yn bwriadu gwneud hynny yn fuan, neu ar fyrder?
Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad mewn manylder. Ac, wrth gwrs, rydym ni fel plaid yn fwy na pharod i chwarae’n rhan ni er mwyn gweithredu beth sydd yn yr adroddiad, cyhyd ag y bod e, wrth gwrs, yn ein symud ni tuag at sicrhau cyfundrefn sydd yn fwy cynaliadwy, sy’n cau’r bwlch ariannu hefyd, ar draws addysg ôl-16, a hefyd sydd yn gwneud mwy i ddenu talent yn ôl i Gymru, er mwyn creu sail gryfach i dwf economaidd yng Nghymru, ac yn gymdeithasol hefyd, sef wrth gwrs, rwy’n siŵr, beth rydym ni i gyd eisiau ei weld.
Diolch yn fawr iawn, Llyr. A gaf i ddiolch i chi am y cwrteisi yr ydych yn ei estyn i Syr Ian? Mae Syr Ian a'i gydweithwyr ar y panel adolygu, yn fy marn i, wedi gwneud darn sylweddol o waith, ac rwy'n ddiolchgar i'r cynrychiolydd Plaid Cymru ar y panel am ei waith diwyd gyda Syr Ian. Rwyf wir yn ddiolchgar am hynny.
Mae cynaliadwyedd yn elfen allweddol o ymateb y Llywodraeth i’r pecyn hwn. Rydym eisiau bod yn gwbl sicr fod hyn yn fforddiadwy, o ran cymorth i fyfyrwyr, a’i fod yn darparu cynaliadwyedd a gweledigaeth ar gyfer cyllid i sefydliadau yng Nghymru. Mae’r mater ynglŷn â chynaliadwyedd yn sicr yn un sy'n allweddol i mi ac yn allweddol i'r Gweinidog cyllid o ran y trafodaethau y byddwn yn eu cael. Rwy’n cydnabod, yn glir iawn, fod Syr Ian yn gweld hyn fel pecyn cyflawn, a byddaf yn edrych i weithredu'r adolygiad yn ei grynswth. O ran cyllid, byddwch chi’n ymwybodol bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn golygu bod angen i ni symud y cydbwysedd o ran lle y mae’r arian presennol yn cael ei wario, yn enwedig os ydym am allu cynnig y cymorth i fyfyrwyr rhan amser a myfyrwyr ôl-raddedig y mae Syr Ian yn ei ragweld o fewn yr adroddiad. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol, yn fy nghytundeb â'r Prif Weinidog a sicrhaodd le i mi yn y Llywodraeth, ein bod wedi dweud y byddem ni’n gweithredu adroddiad Diamond cyn gynted â phosibl, ac nid ar draul y gyllideb Addysg Uwch. Nid dim ond adroddiad yn ymwneud â chymorth i fyfyrwyr unigol yw’r adroddiad hwn, ond mae hefyd yn amlinellu sut y gallwn ryddhau adnoddau i sicrhau cynaliadwyedd o ran cyllid ar gyfer pethau megis cyrsiau drud ac ymchwil.
Rydych chi’n codi rhai pwyntiau ynghylch Addysg Bellach. Byddwch chi’n ymwybodol bod is-grŵp wedi’i sefydlu yn rhan o'r adolygiad Diamond er mwyn pwyso a mesur y materion yn ymwneud ag Addysg Bellach. Mae Syr Ian yn argymell y dylid canolbwyntio ar addysg alwedigaethol a thechnegol, a sut y gallwn greu cysylltiadau cryfach rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch, fel bod gan bobl gyfle i astudio cyrsiau lefel Addysg Uwch yn y sector Addysg Bellach, ond hefyd er mwyn galluogi pobl i drosglwyddo o Addysg Bellach i Addysg Uwch, yn enwedig wrth ddatblygu rhaglenni a noddir gan gyflogwr. Felly, mae gan gyflogwyr swyddogaeth yma hefyd wrth wneud yn siŵr fod gennym ni’r sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer yr economi yn y dyfodol.
O ran cludadwyedd, rwy’n credu ei bod yn egwyddor bwysig iawn y bydd y pecyn cymorth i fyfyrwyr ar gael i fyfyrwyr lle bynnag y maent yn astudio yn y Deyrnas Unedig. Mae Syr Ian yn gwneud argymhellion o ran cael gafael ar gyfleoedd astudio yn Ewrop, ac yn wir rwy’n deall y bore yma ei fod yn sôn am gael gafael ar gyfleoedd astudio ar draws y byd, a byddwn i’n sicr yn dymuno gweld sut y gallwn ni gyflenwi hynny’n ymarferol. Nid wyf eisiau rhoi terfyn ar uchelgais unrhyw fyfyriwr o Gymru, ac os ydynt yn llwyddo i gael eu derbyn i brifysgolion gorau'r byd, yna rwyf am i Lywodraeth Cymru gyflawni ei swyddogaeth o ran caniatáu iddynt wireddu’r uchelgeisiau hynny. Byddwn yn edrych ar sut y gallwn ehangu’r cyfleoedd hynny i astudio yn Ewrop a ledled y byd.
O ran cymhelliant, fel y mae’r Aelod yn dweud, mae'r adroddiad Diamond yn cyflwyno argymhelliad y gallem ni edrych ar gynlluniau cymhelliant a fyddai’n sicrhau bod graddedigion o Gymru yn dychwelyd neu’n aros yng Nghymru. Byddaf yn wir yn ystyried sut y gallwn wneud hynny, fel y gallwn ddod â sgiliau i Gymru a’u cadw yma. Mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar y cynigion, a allai fod yn gymhleth iawn i'w gweinyddu, ac a fyddai angen i Drysorlys Ei Mawrhydi gytuno ein bod yn gallu ad-dalu pob benthyciad, gan mai nhw sy’n gyfrifol am bob benthyciad. Ond fel y gwnaethoch chi ddweud, roedd hyn yn elfen allweddol o bolisi Plaid Cymru, felly rwy'n siŵr bod y blaid wedi meddwl yn ofalus iawn am rai o'r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth gyflawni cynllun o'r fath. Er enghraifft, os bydd rhywun yn byw yng Nghasnewydd ond yn gweithio ym Mryste, neu os oes rhywun yn byw yng Nghaer ond yn gweithio yn Alun a Glannau Dyfrdwy—natur y gwaith, natur y sgiliau sy’n dod â phobl i Gymru—mae'r rhain yn faterion cymhleth. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn, a byddaf yn derbyn cynnig yr Aelod i weithio gyda Phlaid Cymru, er mwyn gweld sut y gallwn gyflwyno cynllun fel yr argymhellir yn adroddiad Diamond, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i oresgyn rhai o'r cymhlethdodau y mae Syr Ian wedi’u nodi sydd ynghlwm wrth gynllun o'r fath. Ond rwy’n awyddus iawn i dderbyn yr argymhelliad hwnnw.
Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Hoffwn hefyd gofnodi diolch grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i'r Athro Diamond, ac yn wir i holl aelodau'r panel, yn enwedig ein henwebai, yr Athro David Warner, am ei gyfraniad at y gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud. Rydym ni’n sicr yn croesawu'r cyhoeddiad; rydym ni’n llwyr groesawu'r argymhellion a wnaed i symud oddi wrth gymorth ffioedd dysgu, a thuag at system o grantiau cynhaliaeth sy’n seiliedig ar brawf modd. Dyma rywbeth, wrth gwrs, y mae ein plaid wedi bod yn ei hyrwyddo ers peth amser, ac rwy'n falch eich bod wedi cyfeirio at y ffaith bod rhai rhannau o ymrwymiadau pob plaid unigol wedi’u hymgorffori o fewn yr argymhellion a wnaed. Rydym fel plaid, wrth gwrs, bob amser o’r farn na ddylai neb gael gwrthod y cyfle i fynd i'r brifysgol ar sail eu cefndir. Rydym eisiau i gymaint o bobl ifanc ag sy’n bosibl sy’n dymuno mynd i’r brifysgol, allu dilyn addysg prifysgol.
Un peth yr wyf yn awyddus iawn i glywed gennych chi amdano, serch hynny, Weinidog, yw—yn amlwg, mae yna bobl sydd eisoes wedi cychwyn ar eu haddysg prifysgol, yn rhan o’r system grantiau bresennol. Ceir argymhelliad clir iawn gan yr Athro Diamond y dylid parhau i ganiatáu i’r unigolion hynny sydd eisoes wedi cychwyn ar eu haddysg yn y brifysgol gyda’r pecyn cymorth cyfredol i barhau i dderbyn y pecyn hwnnw drwy gydol eu cwrs ac iddynt beidio â bod dan anfantais, efallai, yn dilyn unrhyw newidiadau o ganlyniad i unrhyw drefniadau newydd a ddaw i rym. A allwch chi gadarnhau y bydd hynny'n wir ar gyfer yr unigolion hynny er mwyn sicrhau nad ydynt dan anfantais?
Mae rhai o'r meysydd lle'r oedd yn amlwg bod trafodaeth yn parhau o fewn y panel ac nad oedd dim casgliadau cadarn yn ymwneud â chefnogaeth i rieni sydd am fynychu'r brifysgol—pobl a allai fod yn famau sengl neu’n rhieni sengl neu bobl a chanddynt gyfrifoldebau gofalu eraill. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes unrhyw ystyriaeth wedi bod cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r adroddiad ynghylch pa fath o gymorth a allai fod ar gael i helpu unigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu i ddilyn addysg prifysgol. Nodaf a chroesawaf yr argymhellion a wnaed ynglŷn â chymorth rhan amser. Credaf fod croeso mawr iddynt yn wir, er mwyn rhoi mwy o chwarae teg ac, yn wir, er mwyn annog mwy o bobl i astudio yn rhan amser. Rydym ni i gyd yn gwybod bod myfyrwyr rhan amser yn fwy tebygol o dalu eu benthyciadau yn ôl, er enghraifft, felly ceir cymhelliant ariannol da i annog pobl i astudio’n rhan amser, ac, wrth gwrs, maent yn weithredol iawn yn cyfrannu at economi Cymru wrth iddynt astudio, os ydynt yn gweithio ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Felly, hoffwn glywed yn arbennig gennych chi, Weinidog, am ba mor gyflym yr ydych yn gobeithio gallu gweithredu'r cynigion astudio rhan amser.
Roedd gennyf hefyd ddiddordeb mawr yn yr argymhellion a wnaed ynglŷn â buddsoddi mewn trosglwyddo gwybodaeth. Ceir argymhelliad arwyddocaol yn ymwneud â chynyddu buddsoddiad yn y maes hwnnw. Rydym ni’n gwybod bod nodyn yn yr adroddiad ynglŷn â—bod pob £1 a fuddsoddir yn y gronfa arloesi addysg uwch ar hyn o bryd yn dychwelyd £7 i economi Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n werth da iawn am arian ac, felly, byddwn i’n gobeithio y byddech chi’n ystyried yn llawn yr argymhelliad a wnaed am fuddsoddiad pellach mewn trosglwyddo gwybodaeth.
Nid oedd unrhyw gyfeiriad penodol at y bwrsarïau cyfredol sydd ar gael i fyfyrwyr nyrsio yma yng Nghymru. Rydych chi’n gwybod y ceir cefnogaeth gan bob plaid yn y Siambr ar gyfer parhau â’r trefniadau presennol, ond tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi ystyried, gan eich bod yn chwilio i weld pa sgiliau y gellid eu cadw yng Nghymru a sut i ddenu pobl, yn enwedig yn y rhannau hynny o'r sector cyhoeddus lle mae gennym brinder sgiliau, megis y GIG, ba un a allai fod dewisiadau bwrsariaeth eraill y gellid eu hystyried a'u hehangu, yn enwedig o gofio bod y ffigurau yn yr adroddiad yn tueddu i awgrymu y bydd yna arbediad net o ganlyniad i weithredu’r pecyn hwn o ddiwygiadau a gynigir gan yr Athro Diamond a'i dîm.
Ac yn olaf, rydych chi wedi dangos eich bod chi, yn amlwg, eisiau mynd i ffwrdd a rhoi mwy o ystyriaeth i’r argymhellion cyn cyhoeddi ymateb llawn ar ran y Llywodraeth. Mae’n amlwg bod yr Athro Diamond yn teimlo bod y rhain yn argymhellion y gellir eu rhoi ar waith yn 2018, ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd yn 2018. Tybed a ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu cyflawni nod sydd, yn fy marn i, yn un uchelgeisiol, o ystyried bod angen i bob un elfen fod yn ei lle o ran y trafodaethau sy'n rhaid i chi eu cael â Llywodraeth y DU, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac eraill er mwyn ymgorffori newid sylweddol i'r system heb unrhyw broblemau mawr.
Diolch yn fawr iawn, Darren, am hynny. A allaf, hefyd, ymuno â chi i ddiolch i enwebai’r Ceidwadwyr am ei ran yng ngwaith yr adolygiad? Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Rydych chi’n codi pwynt da iawn ynghylch amddiffyn carfannau penodol, ac rwyf am ei gwneud yn gwbl glir heddiw y bydd myfyrwyr sydd eisoes yn rhan o’r system ac sy’n derbyn pecyn cymorth penodol i fyfyrwyr, yn cwblhau eu taith addysgol gan ddefnyddio’r un pecyn cymorth hwnnw. Ni fyddai'n deg newid y rheolau ar gyfer myfyrwyr sydd hanner ffordd trwy eu cwrs. Felly, byddwn yn cynnig amddiffyniad i’r carfannau hynny sydd eisoes yn rhan o’r system ac, yn wir, sy’n gwneud cais drwy’r system. Oherwydd os ydych chi’n gwneud cais i brifysgol ac yna, hanner ffordd drwy'r flwyddyn honno, eich bod chi’n sylweddoli, mewn gwirionedd, bod yr amgylchiadau wedi newid eto, ni fyddai hynny'n deg. Rwyf am wneud hynny'n glir iawn i bobl heddiw: y bydd yna amddiffyniad i garfannau. Dyna'r unig ffordd deg o reoli'r broses bontio o un system i'r llall.
O ran pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, mae’r gallu i gefnogi myfyrwyr rhan amser mewn ffordd deg, gobeithio, yn rhoi’r cyfle i’r bobl hynny efallai nad yw'n ddichonadwy, ymarferol neu’n fforddiadwy iddynt astudio’n llawn amser, i astudio’n rhan amser. Dyna beth sydd yn wirioneddol bwysig am y pecyn hwn: oes, mae angen i ni sicrhau ein bod yn edrych ar ôl y myfyrwyr israddedig traddodiadol ond, mewn gwirionedd, natur addysg uwch yw hyfforddiant—natur ein gweithlu a'n poblogaeth mewn hyfforddiant. Mae pobl yn dymuno gallu bod yn hyblyg o ran sut y maent yn caffael sgiliau lefel uwch. Mae'n hanfodol ar gyfer dyfodol ein heconomi. Felly, mae’r gallu i ddarparu cymorth i fyfyrwyr rhan amser yn bwysig iawn. Mae hefyd yn bwysig nodi bod y pecyn hwn yn canolbwyntio ar y gefnogaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, neu blant a chanddynt brofiad o'r system ofal, er mwyn sefydlu system gynhaliaeth ar eu cyfer, a fydd yn eu galluogi i allu mynd i brifysgol heb bryderu am gostau byw ymlaen llaw—sut y maent am dalu am eu rhent, eu bwyd, eu llyfrau. Gwn fod materion yn ymwneud â gofalwyr o ddiddordeb arbennig i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Yn fy nghyfarfodydd gydag UCM Cymru, rwyf wedi addo y byddaf yn pwyso a mesur, mewn gwirionedd, pa rwystrau sy’n wynebu gofalwyr wrth gael mynediad at addysg uwch, ac os yw’n bosibl, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd o ran hynny oherwydd rwy’n gwybod ei fod yn peri pryder arbennig i UCM Cymru.
O ran amseru, fel y byddwch chi’n ymwybodol, ceir nifer o gamau y mae angen i mi eu dilyn, a’r cyntaf ohonynt yw mynd at Drysorlys Ei Mawrhydi. Efallai y gallai Darren Millar fanteisio ar gefnogaeth ei blaid i leddfu’r trafodaethau hynny. Y Trysorlys sy’n gyfrifol am y llyfr benthyca, ac felly ni allwn wneud cynnydd ar hyn oni chaf ganiatâd gan y Trysorlys. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol, o ddarllen adroddiad Syr Ian, fod cyfyngiadau gwirioneddol o fewn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, yr ydym yn gyfranddaliwr lleiafrifol ohono. Mae'n rhaid i mi fod yn gwbl hyderus y bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, wrth symud ymlaen, yn gallu ymdopi â’r system hon a’i gweinyddu. Nid wyf am i fyfyrwyr o Gymru fynd i drybini â’r system newydd oherwydd diffyg gallu o fewn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Ni fyddaf yn symud ymlaen hyd nes i mi gael sicrwydd pendant y gallai’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ddarparu ar gyfer ein systemau. Fel arall, efallai y byddai hynny yn gwneud dim ond achosi anawsterau i fyfyrwyr o Gymru, ac rwy’n awyddus i osgoi hynny.
Mae trosglwyddo gwybodaeth yn gwbl allweddol. Nid dim ond aros ar gyfer gweithrediad adroddiad Diamond yr ydym ni. Rwyf i, Julie James a’m cydweithiwr, yr Ysgrifennydd Cabinet Ken Skates, eisoes yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud ym maes trosglwyddo gwybodaeth mewn prifysgolion. Mae rhai o'r prosesau yn gymhleth iawn, ac nid ydym yn cael y gwerth gorau am yr arian yr ydym yn ei wario ar hyn o bryd. Felly, mae gwir angen inni edrych ar y system honno, nid dim ond yng nghyd-destun Diamond, ond yr hyn y gallwn ni wneud mwy ohono o ran addysg uwch a throsglwyddo gwybodaeth.
Mae bwrsariaethau nyrsio yn fater ar gyfer fy nghydweithiwr, yr Ysgrifennydd Cabinet sy’n gyfrifol am iechyd, ac rwy'n siŵr y bydd ganddo bethau diddorol i'w dweud wrth ymateb i ddadl plaid leiafrifol Plaid Cymru, brynhawn yfory o ran nyrsio. Felly, nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth y bydd ef o bosibl yn ei ddweud yn y ddadl yfory.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, yr Athro Diamond a'i dîm am yr adroddiad a’i datganiad hithau. Ceir rhai elfennau o'r adroddiad y mae fy mhlaid yn eu croesawu—y trefniadau synhwyrol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, sy’n eu gwneud yn gyfartal â myfyrwyr israddedig, cymorth ar gyfer myfyrwyr rhan amser a chymorth i ofalwyr. Un rhan fach a oedd gennym ni yn ein maniffesto oedd yr awgrym y dylid cael cynlluniau peilot ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru i astudio yn fyd-eang yn y sefydliadau addysgol gorau. Felly, rydym ni’n falch iawn o weld hynny’n cael ei ddatblygu. Er hynny, tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai hi erbyn hyn yw Gweinidog drutaf y Llywodraeth. Roeddwn i wedi meddwl bod consensws nad oedd y grant ffioedd dysgu o £237 miliwn y llynedd yn fforddiadwy, ac y byddai angen gwneud arbedion. Cyfeiriodd maniffesto’r blaid Lafur at gael system cymorth i fyfyrwyr a oedd o leiaf mor hael â'r un sydd ar gael yn Lloegr. Byddai hynny wedi gallu caniatáu arbedion o’r £237 miliwn hwnnw. Gallai fod wedi caniatáu arbedion drwy beidio â gorfod talu’r grant cynhaliaeth yn ôl yng Nghymru. Ond mae’r holl arbedion posibl hynny, rydym yn cael ar ddeall nawr, am gael eu gwario. Gofynnais i'r Athro Diamond y bore yma a fyddai unrhyw arbedion, a dywedodd, 'Na, yr oedd am fod fwy neu lai yn gyfwerth’. Cyfeiriais ef at ei gylch gorchwyl, a oedd yn dweud mai un o’r pethau y dylai ganolbwyntio arno oedd,
'cyllido addysg uwch yng ngoleuni cyfyngiadau parhaus ar wariant cyhoeddus', ond dywedodd wrthyf nad oedd wedi gwneud hynny; bod datganiad mwy diweddar gan Lywodraeth Cymru, a bod hynny wedi peri iddo gynhyrchu pecyn nad oedd yn cael unrhyw effaith negyddol ar y gyllideb addysg uwch. Nawr, wrth gwrs, mae’r ymadrodd hwnnw wedi’i gynnwys yn rhan o’r hyn y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet ato, ar ei gwefan hi, fel cytundeb y glymblaid. Mae'n parhau i fod yn chwiliadwy, a cheir amrywiol linellau mewn Lladin oddi tano. Ond cafodd hwnnw wedyn ei ailfrandio yn 'gytundeb blaengar'. Ond hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: beth sy’n flaengar ynglŷn â dyrannu £1,000 i bob myfyriwr, waeth pa mor gefnog ydynt, heb ofyn unrhyw gwestiynau? Beth sy’n flaengar ynglŷn â chynyddu grant cynhaliaeth a oedd yn £5,161—yr oedd rhan ohono yn cael ei dalu i bobl a oedd ag incwm teulu hyd at £50,000—gan gynyddu hynny i dros £8,000 a gwneud hynny yn daladwy i gartrefi ag incwm o fwy na £80,000, a fydd yn derbyn o leiaf rhan o hynny?
Nawr, bydd myfyrwyr, ar ôl graddio, yn ennill mwy yn ystod eu hoes na'r rhai nad ydynt yn cael y fraint o fynd i brifysgol. Ar gyfartaledd, maent yn dod o deuluoedd mwy cefnog o lawer, ac eto rydym ni’n bwriadu rhoi £132 miliwn y flwyddyn mewn grantiau cynhaliaeth uwch i'r grŵp hwn. Nawr, mae rhai yn fy mhlaid i, a rhai Aelodau Llafur efallai, yn dymuno gwario ar y GIG yng Nghymru neu ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ond yn lle hynny, caiff yr arian ei wario ar grantiau cynhaliaeth a fydd yn cael eu talu i bobl, gan gynnwys teuluoedd sy’n ennill hyd at £80,000. Sut y mae hynny'n flaengar?
Tybed—mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn sôn am rent—sut y mae hyn yn mynd i helpu i dalu rhent. Pa waith dadansoddi y mae Llywodraeth Cymru, neu’r Athro Diamond a'i dîm, wedi’i wneud o ran i ba raddau y bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwobrwyo landlordiaid? A yw hi’n ystyried y byddai hynny'n flaengar? Tybed hefyd pam y mae hi'n credu ei bod o fudd i economi Cymru i drosglwyddo dros £30 miliwn y flwyddyn mewn grantiau cynhaliaeth i fyfyrwyr a fydd yn astudio yn Lloegr. Nawr, lluniodd Plaid gynnig a oedd yn nodi eu bod am gael system a allai fod yn gymhleth a fyddai'n anghofio am rai o'r benthyciadau hynny. Ond, ar ôl gwrando ar yr Athro Diamond y bore yma, ymddengys bod o leiaf hanner dwsin o rwystrau i gyflawni hynny, ac nid y ffaith ei bod yn bosibl na fydd y Trysorlys yn cytuno yw’r lleiaf o’r rhain. O wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet yn awr, mae hi'n pwysleisio’r anawsterau sydd ynghlwm wrth hynny. Nodir swm wedi’i gadw o £74 miliwn yn yr adroddiad, sydd i fod ar gyfer y costau hynny, ond ni chaiff ei gynnwys yn y crynodeb o'r costau yn rhan o’r argymhellion. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wir yn credu y bydd y cynllun diystyru benthyciadau gwahaniaethol hwn fyth am gael ei weithredu mewn gwirionedd? Onid yw’n well annog myfyrwyr i aros yng Nghymru, i gefnogi ac ehangu'r gyfundrefn addysg uwch yma, darparu setliad mwy hael i fyfyrwyr sy'n aros yng Nghymru o’u cymharu â'r rhai sy'n dewis mynd i Loegr ac elwa ar y benthyciadau, fel sydd gan fyfyrwyr o Loegr yno? Gallem ni gefnogi’r rhai sy’n waeth eu byd drwy roi cymorth iddynt a pharhau i gefnogi system addysg Cymru drwy wneud hynny. Pam na wnaiff hi hynny?
A gaf fi ofyn iddi hefyd—? Mae hi'n sôn am 'ddim niwed'. A yw'n wir y newidiwyd cylch gorchwyl adolygiad Diamond ar ôl dwy flynedd i gynnwys ei chytundeb blaengar hi? Dywedwch wrthym sut y mae hynny'n flaengar.
Un mater olaf: ceir argymhelliad gan yr Athro Diamond y gallai myfyrwyr barhau i gael eu talu a’u hariannu i astudio yn rhywle arall yn yr UE, ond mae'n datgan bod yr argymhelliad yn
'amodol ar y DU yn parhau i fod yn rhan o’r UE'.
Onid yw’n ymwybodol y cynhaliwyd refferendwm ar 23 Mehefin, neu a yw'n cytuno â'i phlaid hi y dylem ni bleidleisio eto?
Diolch yn fawr i Mr Reckless am ei gyfres o gwestiynau. Gwn eich bod yn gymharol newydd i Gymru, ond ceir traddodiad anrhydeddus o ran polisi cyhoeddus yng Nghymru sef yr egwyddor o gyffredinoliaeth mewn system flaengar. Mae'n un sydd wedi bod yn destun consensws gan lawer ohonom yn y Siambr hon, ac rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod Syr Ian wedi parhau i gadw at yr egwyddor honno yn yr adroddiad heddiw. Rwy'n credu'n gryf bod addysg uwch yn fuddsoddiad a rennir—buddsoddiad a rennir, ie, â’r rhai hynny a fydd yn elwa'n uniongyrchol o ddilyn addysg uwch—ond, ceir budd i'n cymdeithas hefyd o ran pobl yn penderfynu astudio ar lefel addysg uwch. Mae'n fuddsoddiad a rennir ac rwy’n falch iawn bod Syr Ian wedi cydnabod hynny yn ei waith ac mae'n egwyddor rwy’n ei chymeradwyo’n llwyr.
Mae Mr Reckless yn gofyn sut y mae hon yn system flaengar. Mae hon yn system flaengar gan y bydd yn mynd i'r afael â'r prif bryder ar gyfer myfyrwyr ar hyn o bryd—mai costau byw ymlaen llaw yw’r rhwystr mwyaf o ran mynd ymlaen i astudio mewn addysg uwch. Y gallu i oroesi o wythnos i wythnos, i gynnal eich hun yn y brifysgol, dyna'r rhwystr mwyaf. Ac yn y system hon, bydd ein myfyrwyr mwyaf difreintiedig, neu'r rhai sydd wedi bod yn rhan o’r system ofal, neu'r rhai sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni, yn derbyn grant cynhaliaeth, na fydd angen ei ad-dalu, sy'n cyfateb â'r isafswm cyflog. Dyna yw hanfod system flaengar. Os na allai gydnabod hynny, yna nid oes dim byd y gallaf ei wneud i'w helpu. Nid oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i'w helpu. Dim byd o gwbl.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn egwyddor bwysig, sydd wedi’i chymeradwyo gan Syr Ian heddiw, y dylai’r system hon fod yn wirioneddol gludadwy. Fel yr wyf wedi ei ddweud wrth ymateb i gwestiynau yn gynharach, nid wyf am roi cap ar uchelgais myfyrwyr o Gymru. Ceir sefydliadau addysg uwch ardderchog yn ein gwlad ni y gall pobl astudio ynddynt, ac mae llawer yn y Siambr hon wedi elwa arnynt. Ond, mae yna fyd mawr y tu allan i Gymru hefyd ac os yw myfyrwyr eisiau achub ar y cyfle i astudio mewn sefydliadau yng ngweddill y DU, yr Undeb Ewropeaidd neu rannau eraill o'r byd, yna rwyf am gael system sy'n caniatáu iddynt wireddu eu breuddwydion a’u huchelgeisiau. Os ydynt yn ddigon da i gael eu derbyn i ba bynnag sefydliad, yna dylai’r system hon eu cefnogi. Byddaf yn ystyried sut y gallwn wireddu hynny ar gyfer myfyrwyr.
O safbwynt cymhelliant, mae'n argymhelliad o fewn yr adroddiad. Rwy'n croesawu'r argymhelliad hwnnw. Rwy’n credu ei bod hi’n werth pwyso a mesur yr hyn y gallwn ni ei wneud i gymell myfyrwyr i aros yng Nghymru ac arfer eu gwaith, i gadw’r sgiliau hynny yng Nghymru, neu i ddod â’r sgiliau hynny yn ôl i Gymru. Nid yw'n gwbl ddidrafferth; amlinellir hynny yn yr adroddiad. Ond nid yw y tu hwnt i grebwyll y Llywodraeth hon, gan weithio gydag eraill, i ffurfio system sy'n gallu cyflawni'r nodau hynny. Rwyf wedi gwneud cynnig diffuant i lefarydd Plaid Cymru i weithio gyda nhw i ystyried pa gynllun y gallwn gytuno arno a fydd yn gwneud hynny. Ceir materion ymarferol i'w goresgyn. Ond, fel y dywedais, nid ydyw y tu hwnt i’n crebwyll ni i allu cytuno ar gynllun, a dyna beth yr wyf yn bwriadu ei wneud.
A allaf ddiolch heddiw i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad a hefyd ychwanegu fy niolch i Syr Ian a'i dîm am ei adroddiad? Rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn dod i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y deuddegfed er mwyn i ni ei drafod yn fanwl. Credaf fod llawer iawn i'w groesawu yn yr adroddiad hwn. Yn arbennig, rwy’n croesawu’r ffaith ei fod yn amlwg wedi ystyried barn myfyrwyr am yr angen i fynd i'r afael â'r bunt yn eu poced. Rwy'n croesawu'r newid ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, a fydd yn hanfodol ar gyfer ein heconomi, y newidiadau ar gyfer myfyrwyr rhan amser, a fydd yn cael effaith enfawr ar ein gallu i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru, ac rwyf hefyd yn cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod hygludedd yn eithriadol o bwysig.
Er hynny, yn ôl pob tebyg y peth yr wyf i’n ei groesawu fwyaf yw’r ffaith y bydd hyn yn darparu’r pecyn mwyaf hael o gymorth i'r myfyrwyr mwyaf anghenus yr ydym wedi’i weld erioed—yr ymrwymiad i ddarparu’r hyn sy'n cyfateb i gyflog byw, sydd i'w groesawu’n fawr. Hoffwn ofyn yn benodol am bobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r system ofal, y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyfeirio atynt. Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion penodol yn ymwneud â’r bobl ifanc hynny. A yw'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i weithredu’r argymhellion hynny yn llawn?
A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am ei chroeso cynnes i waith Syr Ian? Byddwn ni’n unigryw yn y DU gan y byddwn ni’n cynnig system sy’n gludadwy ac yn gyfartal ar gyfer pob dull o astudio. Rydym eisoes wedi sôn am bwysigrwydd myfyrwyr rhan amser, ond mae hefyd yn briodol y dylem ni fod mewn sefyllfa i gynorthwyo astudiaethau ôl-raddedig. Mae'n bwysig iawn i'n heconomi ac i gydnabod bod y gallu i symud ymlaen i astudio cyrsiau ôl-radd bron â bod yn rhagofyniad ar gyfer llawer o fyfyrwyr yn awr mewn llawer o'u meysydd gwaith. Mae'n peri gofid i mi, ar hyn o bryd, nad ydym ni mewn sefyllfa i weithredu system gymorth ar gyfer astudio ôl-raddedig. Mae'n ddolen goll—mae'n ddolen goll heb os—yn y system sydd gennym ar hyn o bryd, ac rwy’n derbyn llawer o ohebiaeth gan Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr am y mater hwnnw. Bydd y cynnig hwn yn ein helpu i fynd i'r afael â hynny.
Rydym ni’n gwybod bod gennym lawer iawn o waith i’w wneud ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac mae hynny'n dechrau yn yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd. Gallwn ni gael y polisi cymorth i fyfyrwyr addysg uwch mwyaf blaengar ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ond, fel y cawn ein hatgoffa yn aml gan David Melding, os nad yw’r plant hynny yn cael y cymwysterau TGAU a Safon Uwch sydd eu hangen arnynt, nid yw’n golygu dim. Felly, bydd ein cefnogaeth ar lefel Addysg Uwch yn gontinwwm o'r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud o ran y grant amddifadedd disgyblion ac o ran rhaglenni ymyrraeth penodol ar gyfer plant y sy’n derbyn gofal yn ein hysgolion, fel y gallwn ni gynyddu’r nifer a fyddai’n wirioneddol elwa ar y cynigion yng ngwaith Syr Ian Diamond, ac rwyf yn bwriadu anrhydeddu a gweithredu’r cynigion hynny.
A allaf ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fod ganddi hi, fel Plaid Cymru, o leiaf y dewrder i sefyll yn yr etholiad, gan gynnig dewis amgen i’r system bresennol ac i dynnu sylw at wendidau’r cymhorthdal ffioedd dysgu? Mae'n costio gormod, ac nid yw’n gynaliadwy, ac rwyf wedi bod yn dweud hynny am bedair blynedd. Mae’r distawrwydd o feinciau’r blaid Lafur, am beidio â bod yn ddigon dewr i sefyll yn yr etholiad a datgan yr hyn maent yn ei gredu, yn rhywbeth y gallwch ei glywed yma heddiw. [Torri ar draws.] Yn sicr fe wnaethoch chi hynny—yr oedd yn bolisi diwerth, ond yn sicr roedd gennych chi un, felly mae hynny'n ddigon teg. [Chwerthin.] Mae hynny'n ddigon teg.
Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, ac mae hi'n deall ac yn gwerthfawrogi, anferthedd yr heriau sy'n ei hwynebu hi. Bydd hi’n gwybod hefyd fod yr Athro Diamond wedi cyflwyno adroddiad cadarn iawn sy'n cwmpasu bron pob agwedd ar y materion hyn, ar wahân i'r un y gwnaeth Llyr Gruffydd yn arbennig dynnu sylw ato: yr angen i ddenu mwy o fyfyrwyr i astudio ac i aros yng Nghymru er mwyn gwella ein prifysgolion, ac er mwyn gwneud y cysylltiad hwnnw ag economi sy'n datblygu yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn gwybod hynny, ac rwy’n croesawu'r ffaith ei bod wedi estyn llaw i weld sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd ar hynny, ond rwy’n credu bod yn rhaid iddi gydnabod hefyd fod hynny'n wendid yn y system bresennol. Nid oes dim yn adroddiad Diamond sy’n mynd i'r afael â hynny’n uniongyrchol, er, wrth gwrs, y tynnir sylw ato.
A gaf i ddweud nad oeddwn yn gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod briffio yr Athro Diamond y bore yma, felly rwy'n ddiolchgar iawn i Mark Reckless am ddweud wrthyf nad wnaeth yr Athro Diamond, mewn gwirionedd, gynnal un o'r cylchoedd gorchwyl yr oedd yn gyfrifol amdanynt a bod hynny wedi newid oherwydd cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n bendant yn cofio trafod y cylch gorchwyl â'ch rhagflaenydd, Huw Lewis, fesul llinell, fel cytundeb rhwng dwy blaid o ran sut y gallem ni fynd i'r afael â'r mater cyllido hwn. Mae'n ymddangos yn awr y cafodd y cytundeb ar y cylch gorchwyl ei newid, heb unrhyw gyfeiriad at y pleidiau gwreiddiol a bennodd y cytundeb hwnnw, a chafodd ei newid mewn ffordd a allai fod wedi dylanwadu ar y ffordd y cynhyrchodd yr Athro Diamond ei adroddiad. Felly, rwy’n rhoi rhybudd, oni bai eich bod yn gallu ateb yn syth, y byddaf yn archwilio sut y digwyddodd hynny.
A allaf hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a oes ganddi unrhyw schadenfreude o gwbl, fel Democrat Rhyddfrydol mewn Cabinet Llafur, wrth gyflwyno'r elfen o brawf modd, sef yr unig beth y gwnaeth y Blaid Lafur ei ddiystyru yn eu maniffesto mewn gwirionedd—rwy’n credu bod y prawf modd, sy’n seiliedig ar gyffredinolrwydd, yn ganlyniad anochel o fynd ar drywydd profi'r farchnad o fewn addysg uwch? Rwyf wedi ymladd yn erbyn hynny drwy gydol fy mywyd gwleidyddol—gwnes i bleidleisio yn erbyn hynny yn Nhŷ'r Cyffredin dro ar ôl tro pan oedd Llafur i gyd wedi trefnu i bleidleisio o’i blaid. Mae'n rhaid i ni fynd i’r afael â'r sefyllfa sydd gennym a'r adnoddau cyfyngedig sydd gennym. Felly, mae'r egwyddor y mae hi wedi’i nodi yn un rwy’n ei chefnogi ac yn un rwy’n ei chroesawu.
Fodd bynnag, roeddwn yn meddwl bod dwy elfen o'r egwyddorion y gwnaethoch chi eu nodi yn eich datganiad ar goll. Nid wyf yn anghytuno â'r rhai yr ydych chi’n eu nodi fel y ffordd ymlaen, ond roedd yna ddwy yr oeddwn i o’r farn eu bod yn rhan o’r adroddiad Diamond, nad ydynt yno bellach. Un ohonynt yw sicrhau mwy o chwarae teg rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch—cael system o ddewisiadau sy’n fwy cytbwys fel y gall pobl ddewis dyfodol addysg bellach mewn gwirionedd, a’n bod ni’n gweld bod yr adnoddau yr ydym ni’n gwario arnynt fel cenedl yr un mor gefnogol o addysg bellach ag y maent o Addysg Uwch. Yn y cyd-destun hwnnw, a allech chi—oherwydd nid wyf wedi cael amser i ddarllen manylion yr adroddiad mae arnaf ofn—ailadrodd y rhesymeg ar gyfer cysylltu cymorth i fyfyrwyr â'r cyflog byw, a pha gyflog byw—cyflog byw John McDonnell, cyflog byw Boris Johnson? Pa gyflog byw? Mae'n ymddangos yn rhyfeddol, yn tydi? Mae'n ymddangos yn egwyddor sosialaidd da i gysylltu cymorth i fyfyrwyr â chyflog byw. Ond pam yr ydym ni’n cysylltu cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru â chyflog byw nad oes gennym ni unrhyw reolaeth drosto, a chyflog byw nad yw'n gysylltiedig â'n hamgylchiadau economaidd? Pam yr ydym ni’n cysylltu cymorth i fyfyrwyr â chyflog byw pan nad yw prentisiaethau a phrentisiaid yn cael y math hwnnw o gymorth? Rwy’n pryderu, unwaith eto, y gall hyn beri i ni roi gormod o gefnogaeth i Addysg Uwch ar draul Addysg Bellach, ac rwy'n credu mai’r dyfodol i Gymru a’r dyfodol i lawer o'n cymunedau mewn gwirionedd yw cynyddu nifer y bobl sy'n dilyn addysg bellach a sicrhau’r prentisiaethau lefel uwch hynny. Felly, rwyf wirioneddol yn cwestiynu beth yw'r sail ar gyfer hynny—nid yr egwyddor, gan fy mod yn derbyn yr egwyddor, ond beth yw’r sail ar gyfer hynny—a pha un a yw’n wirioneddol fforddiadwy. Ac rwy’n credu y byddai myfyrwyr yn derbyn cynnig hael iawn—. Fel y dywedodd Lynne Neagle, mae'n hael iawn, ond a yw'n gymesur â'n buddsoddiad economaidd buddsoddiad—y cyd-fuddsoddiad hwnnw y soniodd hi amdano?
A'r ail elfen yr hoffwn holi amdani—oherwydd mai hynny sy’n sicrhau chwarae teg—a'r ail egwyddor yr oeddwn i o’r farn ei bod ar goll oedd un a oedd yn dweud ein bod am ddefnyddio'r system hon yn awr i gau'r bwlch o ran cyllido Addysg Uwch yng Nghymru. Fe safodd ar sail ymrwymiad maniffesto i adfer rhan o'r grant addysgu. Nid yw hynny bellach yn rhan o adroddiad Diamond ac nid yw bellach yn rhan o’i datganiad, ond os nad ydym ni am adfer y grant addysgu, yna sut y gallwch chi ddweud wrthym sut y bydd yr adnoddau a fydd yn cael eu rhyddhau, y gwnaethoch chi eu crybwyll wrth ymateb i’r cwestiynau, yn cael eu cynnwys eto wrth fuddsoddi mewn addysg uwch? Rydym yn gwybod bod y bwlch cyllido yn bodoli—y mae oddeutu £90 miliwn ar gyfer Addysg Uwch ar hyn o bryd. Mae wedi tyfu dros y blynyddoedd. Nid oeddem ni’n gallu rhoi sylw iddo pan oeddem ni’n ariannu myfyrwyr yn unig a phan nad oeddem ni’n ariannu prifysgolion. Ym mha ffordd y mae adroddiad Diamond nawr yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r bwlch cyllido hwnnw, ac a yw wir yn egwyddor y bydd yn dal i ymlynu ati?
Diolch yn fawr, Simon, am eich cwestiynau. A gaf i eich sicrhau yn llwyr nad wyf i mewn unrhyw ffordd ar unrhyw adeg wedi cael unrhyw sgyrsiau â Syr Ian Diamond neu'r panel ynglŷn â newid ei gylch gorchwyl? Dylech chi wir, mewn difrif calon, wybod yn well na chredu popeth sydd weithiau’n cael ei ddatgan. Felly, gallaf eich sicrhau. Felly, ar bob cyfrif, mynnwch Ryddid Gwybodaeth gymaint ag y dymunwch. Nid roddwyd unrhyw gyfarwyddyd i Syr Ian Diamond newid cylch gorchwyl yr adroddiad.
Ond rwyf yn cydnabod y mater hwn ynglŷn â chael gwell cydbwysedd rhwng sut yr ydym wedi ariannu Addysg Uwch yn ei chyfanrwydd yn draddodiadol, ac mae'r pwyslais wedi bod i raddau helaeth ar ariannu’r myfyriwr unigol. Mae hynny wedi arwain at rai heriau gwirioneddol ar gyfer y sector Addysg Uwch a'r sefydliadau eu hunain. Yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud, a’r hyn y mae fy nghytundeb i â'r Prif Weinidog yn ceisio ei wneud, yw sicrhau, wrth symud adnoddau, y byddwn ni’n gallu cyflawni’r cydbwysedd hwnnw ac yn gallu cyrraedd sefyllfa lle gall y CCAUC, neu o ganlyniad efallai i ymateb i adolygiad Hazelkorn—rhywbeth sydd efallai’n dilyn—roi adnoddau yn ôl i sefydliadau Addysg Uwch. Credaf mai hynny, mewn gwirionedd, yw un o'r ffyrdd y mae angen i ni sicrhau bod y cynnig Addysg Uwch yng Nghymru gystal ag y gall fod ar gyfer darpar fyfyrwyr, oherwydd credaf, a bod yn onest, y bu her i sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru gadw i fyny â rhai o'r datblygiadau ar draws y ffin. Felly, mae rhai o'r pethau a allai fod yn ddeniadol i fyfyrwyr wedi’u datblygu yn Lloegr, ac nid ydym ni wedi bod â’r adnoddau i wneud hynny yma yng Nghymru. Felly, dyna un o'r blociau adeiladu y mae ei angen arnom—gwell cydbwysedd o ran sut yr ydym yn ariannu Addysg Uwch yn ei chyfanrwydd, ac rwy’n credu bod Syr Ian wedi rhoi amlinelliad da iawn i ni ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â hynny.
O ran—. Edrychwch, nid fi ysgrifennodd faniffesto’r Blaid Lafur—[Torri ar draws.] Nid fi ysgrifennodd faniffesto'r Blaid Lafur, ond rwy’n ymwybodol bod y maniffesto wedi dweud—y byddai unrhyw gyfundrefn newydd ar gyfer cyllido myfyrwyr yng Nghymru yn fwy hael na'r un yn Lloegr, ac mae’r system hon heddiw yn cyflawni maniffesto'r Blaid Lafur yn yr un ffordd ag y mae'n cyflawni fy maniffesto i, pan ddywedais yn glir iawn fod yn rhaid inni symud i ddefnyddio system o grantiau cynhaliaeth ar gyfer costau byw ymlaen llaw. Felly, rwy’n credu, mewn gwirionedd, fod y cynnig hwn heddiw yn cadw at yr hyn a ddywedodd y Blaid Lafur yn yr etholiad a'r hyn a ddywedodd fy mhlaid innau, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn yr etholiad.
Mae’r Aelod yn codi rhai pwyntiau difrifol iawn am Addysg Bellach. Yn union fel y sector Addysg Uwch, bu pwysau sylweddol ar y sector Addysg Bellach. Nawr, mae llawer o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer adroddiad Diamond yn tynnu sylw at yr angen am ddull mwy cydgysylltiedig a llwybrau dilyniant gwell rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Cytunwyd, felly, y byddai'n ddefnyddiol pe byddai’r panel adolygu yn gallu ystyried yn fanylach y materion hyn fel rhan o'i gylch gorchwyl. Cafodd ei gynorthwyo i wneud hynny gan is-banel, ac ystyriwyd y ffordd orau er mwyn gwella cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cwrs addysg uwch sy’n seiliedig ar waith neu’n seiliedig ar alwedigaeth, gan fy mod yn credu bod anghenion yr economi fodern yn gofyn am hynny gan ein system. Mae'r argymhellion sy'n ymwneud ag addysg bellach yn canolbwyntio, fel y dywedais, ar addysg alwedigaethol a thechnegol, oherwydd bod yr is-banel o’r farn mai hwnnw oedd y maes lle’r oedd yr angen mwyaf, a byddwn ni’n edrych ymlaen at sut y gallwn ni weithredu'r argymhellion a wnaed o ran hynny.
O ran y cyflog byw, ymagwedd Syr Ian iddo yw, ‘Beth sy’n swm digonol o arian, a fydd yn galluogi i bobl gynnal eu hunain?’ Mae wedi gwneud y cysylltiad hwnnw â’r cyflog byw, ond mae’n bwynt da bod pobl eraill sy'n dilyn hyfforddiant ac yn datblygu sgiliau na fyddant yn destun i hynny. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw nad yw’r costau byw ymlaen llaw hynny yn dod yn rhwystr i ddilyn addysg uwch, yn enwedig ar gyfer ein myfyrwyr tlotach. Dyna'r egwyddor sylfaenol y byddaf yn ceisio gweithredu arni wrth edrych ar sut y gallwn roi’r argymhellion hyn ar waith. Fodd bynnag, mae'r pwyntiau ynghylch Addysg Bellach wedi’u gwneud yn dda ac mae'r Llywodraeth hon yn ymwybodol ohonynt.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad ac ymuno ag eraill wrth ddiolch i Syr Ian a'i banel am y gwaith a wnaethant? A gaf i ddiolch hefyd i’w ragflaenydd, Huw Lewis, a oedd mewn gwirionedd yn un o’r bobl a oedd yn flaenllaw yn hyn? Mae'n rhaid i ni gydnabod ei waith ef hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi ateb llawer o gwestiynau heddiw, felly byddaf yn ceisio cadw fy rhai i mor gryno ag sy’n bosibl. Mae fy etholwyr yn Aberafan yn wynebu llawer iawn o anawsterau. Yn wir, cynhaliwyd arolwg o'r rhai a oedd wedi gwneud cais am addysg uwch yng Nghastell-nedd Port Talbot a gwelsom, yn Aberafan, fod llai o fyfyrwyr o lawer yn mynd i Addysg Uwch nag yng Nghastell-nedd. Gallai fod yn ganlyniad i rai o'r heriau y byddent wedi eu hwynebu o ran costau byw. Rwyf yn gwerthfawrogi yn fawr iawn y gwaith sydd wedi ei wneud i gefnogi’r myfyrwyr hynny o ardaloedd mwy difreintiedig i gael mynediad i addysg uwch.
Ond, a gaf i barhau trwy sôn am astudio'n rhan-amser, sef un o’m mhryderon? Rwyf wedi bod â diddordeb mewn astudio rhan-amser erioed. Rwyf yn gwerthfawrogi’n fawr iawn y bwriad i gefnogi astudiaethau rhan-amser. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn helpu'r rhai sydd mewn gwaith a'r rhai sy'n ceisio cael gwaith neu newid i gyfeiriad gwahanol i gael y cymwysterau hynny mewn gwirionedd. Ond, a wnewch chi egluro un neu ddau o bwyntiau i mi, os gwelwch yn dda? A fydd hyn yn rhan-amser ar sail modiwlau neu gredydau, ar y sail honno? Oherwydd mae hyn yn bwysig, gan fod rhai dim yn gwneud modiwlau penodol yn unig bob blwyddyn, neu mae modd, er enghraifft, gwneud un modiwl y flwyddyn yn unig. A ydym yn ystyried hynny? A fydd myfyrwyr rhan-amser presennol nad ydynt erioed wedi cael unrhyw gymorth yn yr ystyr honno, yn wahanol i raddedigion amser llawn, yn cael elwa ar hyn ar unwaith? Felly, os ydynt eisoes mewn rhaglen, a fyddant yn cael elwa ar hynny ar unwaith? Rwyf yn bryderus braidd rhag i ni hefyd efallai roi cyfleoedd i rai cyflogwyr diegwyddor ddweud, ‘Byddwch yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru am hyn nawr.’ A fyddwch yn monitro yn ofalus gyfraniadau blaenorol cyflogwyr i sicrhau nad ydym, i raddau, yn talu eu costau nhw y maent bellach yn eu hailfeddwl, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gefnogi eu gweithwyr sy'n astudio'n rhan-amser?
Hefyd, mae'n dweud yn fan hyn, yn y crynodeb gweithredol,
‘Dylai’r ffi fwy cymedrol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser gael ei hategu gan grantiau dysgu ac addysgu sefydliadol i brifysgolion a darparwyr addysg uwch.’
Allech chi nodi beth fydd y dyraniad mewn gwirionedd er mwyn darparu’r cymorth ategol?
‘Ni ddylai’r system gyllido gyffredinol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser gael ei chyfyngu gan drothwyon credyd’.
A wnewch chi egluro unwaith eto beth yr ydych yn ei olygu gan ‘drothwyon credyd’ yn yr ystyr hwnnw?
Mae hefyd yn nodi na ddylai myfyriwr rhan-amser gael ei gosbi am unrhyw astudio blaenorol. A fydd hynny yn berthnasol i fyfyrwyr llawn amser hefyd? Oherwydd gallai llawer o fyfyrwyr llawn amser fynd yn ôl mewn gwirionedd. Gwn am unigolyn a raddiodd fel peiriannydd, ac a dreuliodd 10 mlynedd yn gweithio fel peiriannydd, cyn penderfynu newid llwybr gyrfa. Aeth yn ôl i astudio meddygaeth, ac mae wedi bod yn gweithio fel meddyg teulu am flynyddoedd lawer ers hynny. Unwaith eto, mae hynny'n gymwys, wyddoch chi—. Felly, os byddwch yn ei gymhwyso i un llwybr rhan-amser, a fyddwch yn ei gymhwyso i lwybr llawn amser hefyd?
Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r pwyslais ar radd Feistr a addysgir yn rhan-amser ac ymchwil rhan-amser, a nodaf eto fod trafodaethau ar waith ynghylch y dull tair rhan i gefnogi 150 o fyfyrwyr ymchwil. A ydych wedi trafod hyn â diwydiant, gan ei fod yn un o'r rhai a drafodwyd fel trydydd parti—Llywodraeth Cymru, prifysgolion ac arianwyr eraill, yr wyf yn tybio mai diwydiant fydd hwnnw? Pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â diwydiant o ran iddo fod y trydydd parti hwnnw sy’n ariannu’r myfyrwyr ymchwil hynny? Rwyf hefyd yn croesawu ac yn cefnogi'r pwyslais parhaus ar CCAUC yn ariannu ymchwil, gan fod mwy o ymchwil yn bwysig. Rydym yn gwybod nad ydym, lawer o weithiau, wedi gweithio i lefel y grant cyllid yr ydym yn ei gael gan ein cynghorau cyllido. Mae hyn yn bwysig, ein bod ni’n parhau i ariannu ein prifysgolion, er mwyn i ni allu cyrraedd y lefel honno a chael rhagor o arian gan y cynghorau ymchwil.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Gofynnodd a fyddwn yn gallu sicrhau bod y cynllun ar gael i weithwyr rhan-amser ar unwaith. Rwyf mewn penbleth: Mae Aelodau yn disgwyl i hyn gael ei gyflwyno fel pecyn a nawr mae rhai Aelodau eisiau darnau bach ohono i gael eu darparu yn gynt nag eraill. Rwy'n credu mai’r broblem yw, David, ein bod ni’n gweld y pecyn hwn yn ei gyfanrwydd, ac rwyf eisiau gallu symud ymlaen ar y sail honno, gan gyflwyno cymorth i fyfyrwyr o bob math ar yr un pryd, oherwydd os byddwn yn dechrau gwneud rhai darnau yn gynt nag eraill, rwy’n credu y byddwn mewn perygl efallai o gael ein cyhuddo o beidio â chadw’n driw i'r egwyddor fod hwn yn un pecyn cyfan.
Ond o ran trothwyon credyd ac astudio blaenorol, byddwch yn ymwybodol fod yr adroddiad wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar a dyma rai o'r manylion y bydd angen i ni weithio arnynt yn ystod yr wythnosau nesaf, cyn ein bod ni’n gallu ymgynghori ar ymateb manwl y Llywodraeth. Felly, mae angen i ni drafod materion sy'n ymwneud â throthwyon credyd, astudio blaenorol, sawl gwaith y gallwch chi fynd i mewn i'r system ac a allwch chi fod yn fyfyriwr parhaol yn y system, wrth roi ystyriaeth bellach i gynaliadwyedd ac i fanylion y pecyn.
Rydych chi'n iawn: mae gan ddiwydiant, cyflogwyr ran i'w chwarae yma. Byddwch yn ymwybodol o araith a wneuthum yn ddiweddar ar sut yr wyf yn dymuno sicrhau perthynas waith agosach rhwng sefydliadau addysg uwch a’u heconomi leol—eu cyflogwyr lleol. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau â Julie James a chydweithwyr eraill ynglŷn â sut y gallwn wneud y cysylltiadau hynny, sy'n gwbl hanfodol. Gwnaethoch chi nodi mater o berygl moesol: os ydym yn gwneud hyn, a fyddwn ni mewn gwirionedd wedyn yn creu problem rywle arall yn y system? Rwy'n credu bod awydd gwirioneddol, yn y sector Addysg Uwch ac ymhlith cyflogwyr, i gydweithio i gyflawni'r agenda hon. Mae cyflogwyr yn gweld y budd o gael gweithwyr medrus y gallant eu cefnogi. Gallant gadw’r sgiliau hynny, cynyddu eu cynhyrchiant hwy a chynhyrchiant y busnes, sy’n un o'r pethau sydd wedi pwyso economi Cymru—lefelau cynhyrchiant isel. Mae hwn yn gyfle i fynd i'r afael â hynny.
Er budd Simon Thomas, hoffwn ei atgoffa, pan fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn sefydlu adolygiad Diamond, nid yw'n syniad da i ragweld beth fydd ei argymhellion yn ein maniffesto ymlaen llaw. Cynrychiolwyd yr holl randdeiliaid, felly—. Wyddoch chi beth, gadewch i ni glywed y dystiolaeth ac wedyn trafod yr hyn yr ydym am ei wneud am y peth.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Mae’n arbennig o ddiddorol i mi sylwi ar fater gofalwyr. Rwy’n meddwl yn arbennig am y rhai sydd wedi cael plant yn ifanc iawn ac nad ydynt wedi cwblhau eu haddysg, ond a fydd yn dymuno dychwelyd i'r brifysgol pan fydd eu plant mewn addysg llawn amser eu hunain. Pa drafodaethau, os o gwbl, ydych chi wedi eu cael â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â’r sefyllfa pan fydd rhywun yn fyfyriwr rhan-amser? A allen nhw hefyd, felly, fod yn gymwys i gael budd-daliadau rhan-amser ar y sail eu bod yn fyfyrwyr rhan-amser yn unig ac, felly, a allent fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill, yn rhan-amser? Oherwydd, fel arall, yn syml, ni fydd y lwfans rhan-amser yn gweithio iddyn nhw. Mae'n hynod o anodd gweithio a gofalu yn ogystal ag astudio, os ydynt yn rhieni unigol. Felly, byddai’n ddefnyddiol gwybod hynny.
Mae fy mhryder arall yn ymwneud â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Mae’n ddiddorol gwybod eich bod yn cynnal trafodaethau â nhw, oherwydd, yn wahanol i'ch sicrwydd ynglŷn â myfyrwyr presennol, maent wedi newid y rheolau ar ganol y stori, gan fod y rhai sydd â benthyciadau i dalu am eu haddysg yn canfod yn sydyn bod y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi ei breifateiddio a bod eu dyledion wedi eu diogeleiddio ac yn cael eu gwerthu i'r cynigydd uchaf. Ac mae’r ddyled gynyddol i fyfyrwyr yn peri pryder mawr, a hyn sy’n fwyaf tebygol o annog pobl o deuluoedd incwm isel i beidio ag eisiau mynd i’r ddyled honno pan nad oes modd iddynt ei feintioli. Pan fyddwch yn cael morgais, rydych yn gwybod beth fydd gennych yn y pen draw, ond mae'n ymddangos, fel y mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar hyn o bryd, nad oes gan fyfyrwyr unrhyw syniad o faint eu dyled a faint y bydd yn cynyddu unwaith y byddant yn peidio â bod yn fyfyriwr ac yn dechrau gweithio.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau? Fel y dywedais yn gynharach, credaf fod yr argymhellion a'r egwyddorion a gymeradwywyd gan y Cabinet yn driw i faniffesto'r Blaid Lafur, oherwydd dywedodd y Blaid Lafur y byddai'r system yn fwy hael nag yn Lloegr, ac os ydym yn rhoi’r system hon ar waith, bydd hynny yn wir. O ran y bobl sy’n dymuno astudio yn rhan-amser, dyma un o nodweddion mwyaf deniadol adroddiad Diamond—y byddwn yn gallu rhoi cymorth priodol, am y tro cyntaf, i’r rhai sy’n astudio yn rhan-amser. Ond ni ddylem anghofio bod Llywodraeth Cymru yn darparu adnoddau i golegau Addysg Bellach ar gyfer y bobl hynny sy'n dychwelyd i addysg, yn enwedig ym maes Addysg Bellach—yn wir, rwyf newydd gymeradwyo dyraniadau eleni—er mwyn iddynt allu helpu’r myfyrwyr hynny â gofal plant, a chostau teithio. Felly, mae rhaglenni eisoes ar waith i geisio cefnogi'r dysgwyr hynny i gadw eu lleoedd, yn enwedig yn y sector Addysg Bellach.
Nid wyf wedi trafod â'r Adran Gwaith a Phensiynau. O ran y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, fy mlaenoriaeth wrth ymwneud â'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yw cael sicrwydd ganddynt y gallant newid eu systemau i'n galluogi i symud i'r system newydd hon o gymorth i fyfyrwyr. Mae’r adroddiad yn dweud rhai pethau eithaf llym am gapasiti yn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Ni allwn symud ymlaen ar hyn oni bai ein bod yn gwybod y gall y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ddarparu ar gyfer y system newydd. Dyna un o'r rhesymau pam yr ydym yn y sefyllfa o beidio â gallu cynnig benthyciadau ôl-radd eleni, oherwydd na allai’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr newid eu systemau mewn pryd i allu gwneud hynny. Mae hyn yn rhwystr gwirioneddol i roi unrhyw un o'r diwygiadau hyn ar waith. Rwyf wedi cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, ac mae swyddogion yn parhau i drafod â phrif weithredwr y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, oherwydd dyna yw fy mlaenoriaeth ar hyn o bryd—iddyn nhw ganiatáu hyblygrwydd yn eu system i’n galluogi ni i roi’r newid hwn ar waith, oherwydd heb hynny, ni fyddwn yn gallu gwneud yr un o'r pethau yr wyf wedi’u hamlinellu heddiw. Mae angen i mi allu gwneud hynny gyda hyder y byddwn yn derbyn, ac y bydd myfyrwyr Cymru yn derbyn, gwasanaeth da.
Mae myfyrwyr o dramor yn gwneud cyfraniad uniongyrchol, gwerthfawr i’n prifysgolion ac i’r economi. Am bob pump myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd sydd yn dod i Gymru, mae un swydd yn cael ei chreu, a daw £200 miliwn mewn taliadau gan fyfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion Cymru. Mae Prifysgol Bangor yn fy etholaeth i yn cydweithio efo 100 o bartneriaid mewn 20 gwlad yn Ewrop, efo llawer mwy o wledydd eraill ar draws y byd hefyd. Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn helpu i gryfhau ein cysylltiadau efo gwledydd tramor, ac yn arf gwerthfawr i’n hymdrechion masnachu rhyngwladol. Ond, yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae yna ddyletswydd wrth gwrs, onid oes, ar y Llywodraeth yma i sicrhau a diogelu arian cyhoeddus ar gyfer ymchwil a datblygu ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, cynllun Horizon 2020. Fe dderbyniodd prosiectau yng Nghymru tua £12 miliwn o gyllid o gronfa Horizon 2020 yn 2014 yn unig, ac mae Cymru hefyd wedi derbyn dros €140 miliwn o raglen fframwaith yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y rownd 2007-13, sef y ffrwd gyllido flaenorol ar gyfer ymchwil ac arloesi.
Mae adroddiad Diamond yn tanlinellu pwysigrwydd y ffynonellau cyllid yma i brifysgolion Cymru. Rŵan, os wyf i’n deall yn iawn, polisi Llywodraeth Cymru ydy gadael i San Steffan benderfynu ar amodau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Canghellor y Trysorlys wedi cadarnhau y bydd arian o gynlluniau megis Horizon 2020 yn ddiogel hyd at y flwyddyn 2020. Ond, o gydnabod pwysigrwydd y pres yma i brifysgolion Cymru, pa ymdrechion a ydych chi yn bersonol wedi bod yn eu gwneud i sicrhau bod buddiannau ein prifysgolion yn cael eu diogelu yn y mater yma? Ac a fyddwch chi rŵan yn defnyddio’ch rôl chi o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau’r setliad gorau posib i’r sector addysg uwch yng Nghymru, yn sgil Brexit?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Mae myfyrwyr rhyngwladol yn hanfodol i iechyd addysg uwch yng Nghymru, ac mae croeso mawr iddynt yma yng Nghymru, o ba le bynnag yn y byd y maent yn dod. Cyhoeddais ddatganiad i'r perwyl hwnnw yn syth ar ôl y refferendwm. Rydym yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol i'n prifysgolion. Maent yn cyfrannu at yr amrywiaeth gyfoethog o bobl sy'n ymgynnull i rannu syniadau mawr, i ymchwilio ac i gydweithio, ac mae croeso mawr iddynt yma.
Rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau i’r sector addysg uwch o ganlyniad i bleidlais Brexit. Dyna pam yr wyf wedi sefydlu grŵp addysg uwch ac addysg bellach, a fydd yn fy nghynghori i, fel Gweinidog addysg, ar yr heriau hyn, a pham y mae cynrychiolaeth sylweddol o’r sector Addysg Uwch ar grŵp cyfeirio Ewropeaidd y Prif Weinidog. Rydym yn edrych yn ofalus iawn i sicrhau bod unrhyw geisiadau sydd yn y system eisoes gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn cael eu cymeradwyo cyn gynted â phosibl, os yw hynny'n bosibl, er mwyn sicrhau bod y cyllid yn ddiogel.
Rydym yn parhau i edrych ar ba rwydweithiau fydd ar gael i brifysgolion Cymru os a phan y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Efallai y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y pen draw, ond yr hyn sy'n bwysig yw nad ydym yn troi ein cefnau—[Torri ar draws.] Nad ydym yn troi ein cefnau ar ein cymdogion yn Ewrop. Byddaf yn edrych i weld pa gyfleoedd sydd ar gael, er gwaethaf y newid i’r statws, i barhau i gydweithio a gweithio ar draws yr Undeb Ewropeaidd, ac, yn wir, yn rhyngwladol, rhwng sefydliadau Addysg Uwch yma yng Nghymru a sefydliadau Addysg Uwch ledled y byd, gan gynnwys Ewrop.
Byddwch yn ymwybodol, yn anffodus, bod Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi cynllun peilot sy’n ymwneud â’r bobl a all aros ar ôl i’r cyfnod astudio ddod i ben. Mae Caergrawnt a rhai dinasoedd eraill yn Lloegr wedi cael hyn. Mae'n destun dicter mawr i mi na ofynnwyd i ni am hyn. Ni chawsom y cyfle i gynnig i rai o ddinasoedd Cymru gymryd rhan yn y cynllun peilot. Rwyf wedi ysgrifennu at Jo Johnson, y Gweinidog addysg uwch yn Llywodraeth San Steffan, i fynegi fy mhryder, ac i ailadrodd unwaith eto i'r Swyddfa Gartref fod yna leoedd yng Nghymru a fyddai’n awyddus iawn i fod yn rhan o'r cynlluniau peilot hyn ar gyfer fisa ôl-astudio. Mae'n drueni mawr i mi nad oedd gan Lywodraeth San Steffan y cwrteisi i gynnig i Gymru na'r Alban fod yn rhan o’r cynllun peilot hwnnw.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddatgan buddiant fel darlithydd gwadd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Yn wir, ddydd Sadwrn, 10 Medi, roeddwn i yno yn addysgu myfyrwyr gweithredol MBA—grŵp bach iawn, iawn o fyfyrwyr rhan-amser, a oedd wedi eu hariannu’n helaeth gan eu sefydliadau. Pan oeddwn i’n gweithio’n llawn amser—pan oeddwn i’n uwch ddarlithydd—byddwn i’n aml yn addysgu grwpiau o 100 o fyfyrwyr, ond yr oedd bron bob un yn fyfyriwr rhyngwladol, a, Sian Gwenllian, o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Felly, croesawaf y cyfle hwn a estynnir i fyfyrwyr—myfyrwyr domestig israddedig—i ddysgu ar lefel ôl-raddedig.
Ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro’r broses o fonitro’n ofalus niferoedd ôl-raddedig llawn amser domestig, o ystyried bod adroddiad Diamond yn rhagamcanu twf ar lefel optimistaidd o 20 y cant? Os bydd y twf yn fwy na hynny, fe fydd yna oblygiadau ariannu. Felly, a gawn ni sicrwydd y bydd monitro wedi’i gynnwys yn y system? Yn ogystal, mae'n debygol y bydd y prifysgolion yn dymuno cynnal eu niferoedd rhyngwladol hefyd, felly bydd goblygiadau staffio hefyd.
A'r cwestiwn arall, ar wahân i hynny: a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau yn benodol ganfyddiadau Diamond o ran gwerth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a oedd yn un o lwyddiannau’r Llywodraeth Lafur Cymru ddiwethaf? Mae gan ddarlithwyr y Coleg Cenedlaethol lawer iawn o wybodaeth sy’n deillio o brofiad, ac yr wyf yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu hynny.
Gwnaf, gallaf gadarnhau y byddwn yn monitro materion sy’n ymwneud â niferoedd ôl-raddedig yn agos iawn. Mae'r Aelod yn hollol gywir, bu'r Coleg Cenedlaethol yn llwyddiant ysgubol. Bu’n wych gweld y cyfleoedd a roddir i fyfyrwyr ledled Cymru allu astudio'r gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg, newyddiaduraeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ystod o gyrsiau eraill. Fel y gwyddoch, rydym wrthi’n sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a fydd yn edrych ar ddyfodol y Coleg, ei drefniadau ariannu, ac ehangu ei gylch gwaith i gynnwys datblygu gwaith a chyfleoedd Addysg Bellach, yn ogystal ag edrych ar Addysg Uwch, lle mae diffyg mewn sawl rhan o Gymru ar hyn o bryd.