2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 12 Hydref 2016.
Felly, cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau ac, yn gyntaf, llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe clywsom gan eich Llywodraeth sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael â throseddau casineb. Yn anffodus, mae’r hinsawdd wleidyddol yn awr yn golygu bod troseddau casineb wedi’u cyfreithloni’n rhannol gan y rhethreg a ddaw gan lawer o wleidyddion ac elfennau o’r cyfryngau. A allwch ddweud wrthym heddiw pa un a ydych yn credu bod mewnfudo i Gymru wedi bod yn beth da o ran helpu i ddatblygu ein cenedl yma yng Nghymru a’i gwneud yn genedl fwy amrywiol?
Rwy’n cytuno â holl gynnwys y cwestiwn gan yr Aelod.
Prin y cefais amser i eistedd. [Chwerthin.] Rwy’n falch eich bod yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwnaeth y Llywodraeth flaenorol yn San Steffan benderfyniad i wrthod arian cyhoeddus i lawer o ymfudwyr, gan gynnwys rhai o wledydd A8. Arweiniodd hyn at adroddiad Amnest Rhyngwladol yn 2008 a nododd ei fod wedi arwain at fenywod yn methu â chael mynediad at loches wrth ffoi rhag perthynas dreisgar, ffactor y nodwyd ei bod yn elfen arwyddocaol mewn nifer o lofruddiaethau menywod ac achosion o fenywod yn diflannu. Y flwyddyn ganlynol, canfu astudiaeth Shelter Cymru ar gyflwr tai gweithwyr mudol o ddwyrain Ewrop fod yna ddigartrefedd sylweddol am nad oedd ganddynt hawl i arian cyhoeddus, gan gynnwys menywod beichiog. Rydym hefyd yn gwybod am achosion lle roedd plant dan fygythiad o gael eu gosod mewn gofal, ac erbyn 2010 roedd tua 1,000 o blant mewn canolfannau cadw mewnfudwyr. A ydych yn gresynu at ddull Llafur Newydd o gyfyngu ar gymorth i blant ymfudwyr, a sut y byddwch yn gweithio i gefnogi’r sector hwn yn y dyfodol?
Roedd y cytundeb yn mynd yn dda iawn ar y dechrau. [Chwerthin.] A gaf fi ddweud bod egwyddor ei chwestiwn yn rhywbeth sy’n peri pryder i mi, ac mae diffyg mynediad at arian cyhoeddus i unigolion yn rhywbeth rwy’n edrych arno? Mae gennyf grŵp cynghori newydd yn edrych ar y materion sy’n ymwneud ag amgylchiadau trais domestig, ac mae rhan o’r ymchwiliad rwy’n gofyn iddynt edrych arno’n ymwneud â hynny—a’r elfen gyllid ar gyfer lloches a chymorth cyfreithiol hefyd.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Er gwaethaf yr enghreifftiau trawmatig a roddais yma heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, nid oedd unrhyw effaith ar y polau piniwn ynglŷn â mewnfudo, gyda lleiafrif sylweddol yn credu nad oedd unrhyw reolaethau’n bodoli hyd yn oed, er gwaethaf yr hyn rwyf newydd ei ddweud. Felly, mae hyn yn dangos nad yw tawelu’r dde eithaf yn gweithio ar ei delerau ei hun. Nid yw’r bobl sydd, yn ôl y sôn, yn cael eu calonogi gan gamau llym yn sylweddoli bod camau llym yn digwydd mewn gwirionedd. Yr wythnos hon, fe fyddwch wedi gweld bod Plaid Cymru, yr SNP a’r Gwyrddion wedi uno i gyhoeddi datganiad yn condemnio’r rhethreg a ddaeth gan y Blaid Geidwadol yr wythnos diwethaf, ond nid yw eich plaid eich hun yn San Steffan wedi gwneud mwy na galw’n syml am leihau mewnfudo. A wnewch chi heddiw felly fod yn wahanol i’ch cydweithwyr Llafur yn San Steffan ac ymuno â Phlaid Cymru a’r SNP i gondemnio’r rhethreg negyddol, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad wrth fynd i’r afael â’r mythau am fewnfudo?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn olaf. Ni yw’r Blaid Lafur yng Nghymru a ni yw’r Llywodraeth yng Nghymru ac mae gennym safbwynt pendant iawn ar droseddau casineb. Rwy’n bwriadu arwain y gwaith ar hyrwyddo fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu troseddau casineb. Yr hyn rwy’n gobeithio y bydd yr Aelod yn ymuno â ni i’w wneud yw condemnio gweithredoedd unigolion a phleidiau gwleidyddol sy’n ceisio ennill cefnogaeth drwy’r troseddau casineb y credaf eu bod yn eu hachosi mewn cymunedau, gan achosi tryblith mawr i lawer o bobl. Rwy’n credu nad oes raid i ni edrych yn rhy bell mewn gwirionedd i weld ble mae hynny’n digwydd yn eithaf lleol.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
Diolch. Ddoe, fe ddywedoch wrthym eich bod yn dymuno dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben, ac y byddwch yn edrych o’r newydd ar sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi cymunedau cryf wedi’u grymuso gyda llais cryf yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Rhennais lu o enghreifftiau gyda chi o sefydliadau yn y sector statudol a’r trydydd sector lle maent yn bwrw ati i wneud i bethau ddigwydd ar lawr gwlad drwy ddefnyddio cydgynhyrchu, nad yw’n ymwneud â chaledi, ond sy’n rhan o chwyldro byd-eang gyda’i wreiddiau’n estyn yn ôl bron hanner canrif. O gofio bod y prosiectau hyn eisoes yn helpu i adeiladu cymunedau cryf yng Nghymru, a allwch roi eich diffiniad o beth y mae cydgynhyrchu yn ei olygu?
Wel, cyfeiriaf at fy natganiad ddoe y mae’r Aelod wedi dyfynnu ohoni. Rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gael cynnig newydd ar gyfer mynd i’r afael â materion i wneud cymunedau’n gryf ar gyfer y dyfodol. Dyna a amlinellais ddoe yn fy natganiad. Mae cyflwyno’r 100,000 o swyddi prentisiaeth newydd gan y Llywodraeth Lafur hon yn un mater pwysig i gymunedau y mae’n ei rannu, ac rwy’n ei rannu hefyd. Mae gofal plant o ansawdd, sef y cynnig gorau i rieni sy’n gweithio yn unrhyw le yn y DU, yn rhywbeth rwy’n gobeithio y bydd yn ymuno â mi i’w ddathlu wrth wasanaethu’r cyhoedd a gynrychiolwn.
Mae yna lawer o opsiynau lle mae angen i ni fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi a galluogi er mwyn cymunedau’r dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth a nodais yn fy natganiad, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn y flwyddyn newydd.
Mae cydgynhyrchu yn galluogi dinasyddion a gweithwyr proffesiynol i rannu grym a gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth gyfartal, gan greu cyfleoedd i bobl gael cymorth pan fyddant ei angen a chyfrannu at newid cymdeithasol, gan gydnabod bod pawb yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain.
Ddoe hefyd dyfynnais Oxfam Cymru pan ddywedasant fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau newid parhaol, gan ymgorffori dull bywoliaeth gynaliadwy ym mhob polisi a gwasanaeth yng Nghymru, sy’n golygu helpu pobl i adnabod y cryfderau a’r asedau sydd ganddynt eisoes er mwyn mynd i’r afael â’r broblem ganolog sy’n eu hatal rhag cyrraedd eu potensial.
O ystyried, unwaith eto, fod y dull hwn wedi cael croeso gan rai o Aelodau Llywodraeth Cymru ac y dylai fod yn ganolog i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni newydd, a allwch ddweud beth yw eich dealltwriaeth o ystyr y term ‘dull seiliedig ar gryfderau’?
Rwy’n meddwl bod yna lawer o brosiectau safonol yn ein cymunedau nad ydynt yn cael eu harwain gan Cymunedau yn Gyntaf ond yn hytrach gan lawer o’r sefydliadau y cyfeiriodd yr Aelod atynt heddiw a ddoe, ac rwy’n cefnogi hynny. Yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw cysylltu’r rhaglenni hynny â chamau gweithredu ac ymyriadau gan y Llywodraeth a chyrff trydydd sector i wneud yn siŵr ein bod yn effeithio cymaint â phosibl ar bobl sydd angen cefnogaeth. Felly, nid wyf yn diystyru’r rhaglenni y mae’r Aelod yn eu crybwyll—mewn gwirionedd, rwy’n meddwl y gallwn adeiladu ar y rhaglenni hynny, a thrwy weithio gyda ni, gallant sicrhau cynnig gwell i’n cymunedau.
Diolch. Wel, rwy’n gobeithio wrth symud ymlaen y byddwch yn croesawu’r diffiniad o’r dull seiliedig ar gryfderau, sy’n ymwneud â newid o system lle y caiff anghenion pobl eu hasesu a’u hateb gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill i system sy’n diogelu annibyniaeth, cydnerthedd, gallu i wneud dewisiadau a lles unigolion, drwy gefnogi eu cryfderau mewn ffordd sy’n caniatáu iddynt arwain a rheoli eu bywydau annibynnol o ddydd i ddydd. Rwy’n gobeithio y bydd y cysyniadau hyn yn ganolog i ysgogi’r newid rydym oll o ddifrif yn ei geisio.
Unwaith eto, yn olaf, ac mewn cyd-destun tebyg, yn ystod y sesiwn gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg cyn y toriad, fe ddywedoch y byddai Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei strategaeth tlodi plant yn ystod y Cynulliad hwn. Mae tua 200,000 o blant ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi—cyfradd uwch na’r lefelau yn y DU, Lloegr a’r Alban. Pa ystyriaeth a rowch i ‘Adroddiad Plentyndod Da 2016’ Cymdeithas y Plant, sy’n dangos bod defnyddio mynegai amddifadedd materol sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn gallu egluro mwy am amrywiadau yn lles plentyn na’r mesur traddodiadol o incwm y cartref? A wnewch chi ystyried defnyddio’r dulliau hyn yn eich strategaeth ddiwygiedig?
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am grybwyll y mater pwysig hwn. Rwy’n credu mai’r hyn y dylem edrych arno yw’r dangosyddion cywir, a byddaf yn nodi’r adroddiad hwnnw pan fyddwn yn diweddaru’r ddogfen. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar y manylion sy’n sail i hynny a sut y gallwn ddylanwadu ar newid mewn cymunedau, yn enwedig mewn perthynas â phobl ifanc, wrth symud ymlaen—hwy yw cenhedlaeth y dyfodol.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch i chi, Lywydd. Cyhoeddwyd y penderfyniad gweinidogol i gau Ysgol Uwchradd John Summers yn 2017 gan Kirsty Williams ym mis Awst 2016. Cofnodwyd bod Ysgol Uwchradd John Summers wedi gwasanaethu mwy o blant teithwyr nag unrhyw ysgol arall yn Sir y Fflint ac o bosibl ar draws Cymru. A all y Gweinidog roi sicrwydd y bydd anghenion addysg cymuned y teithwyr yn Sir y Fflint yn cael eu diwallu? A wnaiff roi sicrwydd y bydd yn cyfarfod â’r gymuned i sicrhau bod unrhyw gamau a roddir ar waith yn ateb eu hanghenion?
Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn. Mae hwn yn fater sy’n codi yn fy etholaeth i hefyd, Lywydd, ond fe seiliaf fy ymateb fel Gweinidog. Rwyf wedi gohebu gyda Chyngor Sir y Fflint ac rwyf hefyd wedi gohebu gyda thrigolion yr ardal honno. Rwy’n credu ei bod yn bwysig mai mater i’r awdurdod lleol yw’r trefniadau pontio ac rwyf wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â’r union faterion hyn. Mae’n bwysig i’r gymuned honno fod yna system addysg gadarn sy’n addas ar gyfer y gymuned honno.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, caewyd llawer o’r prif orsafoedd heddlu yn ein trefi, yn sicr yn y gogledd. Dilynwch yr arwydd at yr heddlu ac fe ddowch at ffôn ar y wal. Pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i’r comisiynwyr heddlu a throseddu ac awdurdodau’r heddlu i sicrhau bod y gwasanaeth heddlu’n weladwy, yn hygyrch ac yn adeiladu perthynas effeithiol â chymunedau lleol?
Rwy’n cyfarfod gyda’r comisiynwyr heddlu yn rheolaidd ac rwyf eisoes wedi cael dau gyfarfod ers dod yn Weinidog sy’n gyfrifol am gymunedau. Ond mae’n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol nad yw plismona wedi’i ddatganoli i’r sefydliad hwn.
Ond mae gallu dod o hyd i’r heddlu’n rhwydd yn dal i fod yn fater cymunedol, ac yn amlwg mae gan Lywodraeth Cymru fewnbwn i faint o fynediad sydd gan y gymuned leol at yr heddlu, a pha mor weladwy a hygyrch yw’r gwasanaeth heddlu.
Fel y dywedais, rwy’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu. Roedd un o ymrwymiadau cadarnhaol Llafur Cymru yn ymwneud â chyflwyno 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i’n cymunedau ledled Cymru, a chafodd groeso mawr yn ein holl gymunedau. Mater i Lywodraeth y DU ydyw, ac mae’n swyddogaeth sydd heb ei datganoli, ond rwy’n cydnabod y ffaith fod y gwaith y mae’r heddlu’n ei wneud yn ein cymunedau mewn gwirionedd yn cael ei werthfawrogi gan lawer.