– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar ymyriad Erthygl 50. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gyflwyno ei ddatganiad.
Diolch. Fel y gŵyr yr Aelodau, dyfarnodd yr Uchel Lys ar fater Miller yr wythnos diwethaf. Ac, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig ddydd Gwener, rwyf o'r farn bod yr achos hwn yn codi materion hollbwysig, nid yn unig ynglŷn â'r cysyniad o sofraniaeth seneddol, ond hefyd am drefniadau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli. Am y rhesymau hynny bwriadaf wneud cais i ymyrryd mewn unrhyw apêl gerbron y Goruchaf Lys.
Lywydd, rwy’n credu ei bod yn hollbwysig pwysleisio ar yr adeg hon, er gwaethaf yr helynt wleidyddol sy’n ei amgylchynu ac, yn wir, naws frawychus llawer o'r sylw yn y wasg, fel y dywedodd yr Uchel Lys ei hun, bod yr achos hwn yn ymwneud â’r gyfraith yn llwyr. Nid yw'n ymwneud â manteision ac anfanteision gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r cefndir gwleidyddol i hynny.
Naill ai trwy ddiffyg dealltwriaeth o gyfansoddiad y DU, neu am resymau eraill, cafodd dyfarniad yr Uchel Lys ei gamgynrychioli gan rai pobl. Yn ogystal â hyn, mae rhai pobl wedi dewis camgynrychioli’r ffeithiau yn fwriadol i herio annibyniaeth y farnwriaeth—un o gonglfeini ein system seneddol ddemocrataidd. Roedd yr adroddiadau am y dyfarniad yn rhai o’r papurau newydd, a dweud y gwir, yn warthus ac yn sarhad ar enw da newyddiaduraeth.
Mae strwythur democrataidd y DU ac, yn wir, y Cynulliad hwn, wedi ei adeiladu ar sylfaen rheolaeth y gyfraith ac annibyniaeth ein system farnwrol. Mae hanes diweddar trasig Ewrop yn llawn enghreifftiau o wledydd a wnaeth ddisodli rheolaeth y gyfraith a thanseilio annibyniaeth y llysoedd. Nid yw’r ffordd honno yn un ddemocrataidd ac mae'n arwain i un cyfeiriad yn unig, a byddwn yn gobeithio y bydd y rheini a allai fod wedi nodi sylwadau a datganiadau ar frys yn dymuno ystyried hynny.
Yr unig gwestiwn cyfreithiol dan sylw yw p'un a all Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel mater o gyfraith gyfansoddiadol, ddefnyddio pwerau uchelfraint i roi hysbysiad i dynnu yn ôl o’r Undeb Ewropeaidd. Wrth geisio ymyrryd mewn unrhyw apêl, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio atgyfnerthu pwysigrwydd sofraniaeth seneddol a rheolaeth y gyfraith—egwyddorion sefydledig craidd o gyfraith gyfansoddiadol Prydain. Ar sofraniaeth seneddol, mae'r dyfarniad yn dyfynnu y diweddar Arglwydd Bingham o Cornhill mai,
Sylfaen cyfansoddiad Prydain yw... goruchafiaeth y Goron yn y Senedd.
Ar reolaeth y gyfraith, mae’r llys yn cadarnhau mai sicrhau bod y Goron, hynny yw, y Llywodraeth Weithredol, yn ddarostyngedig i’r gyfraith yw sylfaen rheolaeth y gyfraith yn y Deyrnas Unedig. Felly, yn syml, mae’r achos hwn, wrth ganfod na cheir defnyddio’r uchelfraint yn absenoldeb awdurdod clir i newid y gyfraith a ddeddfwyd gan y Senedd, yn ymwneud â hanfod ein democratiaeth gynrychioliadol. Fel y dywedodd y llys, mae'r Deyrnas Unedig yn ddemocratiaeth gyfansoddiadol wedi’i fframio gan reolau cyfreithiol ac yn ddarostyngedig i reolaeth y gyfraith. Mae gan y llysoedd ddyletswydd gyfansoddiadol sylfaenol i reolaeth y gyfraith mewn gwladwriaeth ddemocrataidd i orfodi rheolau cyfraith gyfansoddiadol yn yr un modd ag y mae'r llysoedd yn gorfodi cyfreithiau eraill.
Ar ôl amlinellu'r hyn y mae’r achos yn ymwneud ag ef, dylwn hefyd nodi yr hyn nad yw'n ymwneud ag ef. Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn gwbl glir, ac rwy’n ailadrodd y farn honno yn awr, bod Llywodraeth Cymru yn parchu canlyniad y refferendwm, ac yn sicr nid yw hyn yn ymwneud â gwrthdroi’r penderfyniad hwnnw.
Er bod yr achos, hyd yma, wedi canolbwyntio ar effaith sbarduno erthygl 50 ar hawliau unigol, mae bwriad arfaethedig Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r uchelfraint yn y modd hwn yn berthnasol i berthynas gyfreithiol a chyfansoddiadol y Cynulliad hwn â'r Senedd. Mae dyfarniad yr Uchel Lys yn cyfeirio at Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 fel statud o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr, ac o ganlyniad canfu y dylai fod wedi’i heithrio rhag diddymiad tybiedig didaro gan y Senedd, neu dylid diddymu ei heffeithiau cyfreithiol trwy ddefnyddio pwerau uchelfraint. Mae y tu hwnt i bob amheuaeth bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd yn statud cyfansoddiadol. Ni ddylid defnyddio Pwerau Gweithredol i ddiystyru ei darpariaethau oni bai bod sail statudol glir ac amlwg dros wneud hynny. Nid yw'r defnydd o'r uchelfraint, yn fy marn i, yn sail gyfreithlon naill ai, yn gyntaf, i greu newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad hwn pan fo cydweddiad â chytundebau Ewropeaidd a'r gyfraith a grëwyd ganddynt yn brawf o gymhwysedd deddfwriaethol ar hyn o bryd, neu, yn ail, i sicrhau newidiadau i bwerau Gweinidogion Cymru na ellir eu harfer mewn modd anghydnaws â chyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hysbysiad o dynnu'n ôl o gytundebau ar sail yr achos a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn anochel, felly, yn achosi newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad a phwerau Gweinidogion Cymru.
Lywydd, mae’r cysylltiad rhwng yr egwyddor hanesyddol o sofraniaeth seneddol a'r Cynulliad fel deddfwrfa fodern, ddatganoledig yr un mor glir. Gan mai’r Senedd sydd wedi deddfu y cynllun datganoli yng Nghymru, y Senedd ac nid y Weithrediaeth ddylai oruchwylio unrhyw newidiadau, a dylai wneud hynny gyda chydsyniad y Cynulliad etholedig hwn. Ni ddylid osgoi’r berthynas gyfansoddiadol ehangach sydd wedi'i sefydlu ac sy’n parhau i ddatblygu. Yn wir, un o'r heriau a ddaw yn sgil y DU yn gadael yr UE fydd datblygu perthynas fwy effeithiol rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, yn seiliedig ar gyd-barch at hawliau a chyfrifoldebau ei gilydd.
Yn olaf, mae camau arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn berthnasol i berthynas gyfreithiol a chyfansoddiadol Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU. Dylai unrhyw broses barchu a datblygu cysylltiadau rhynglywodraethol. Dyna pam yr wyf i wedi gwneud y penderfyniad fel Cwnsler Cyffredinol i geisio ymyrryd mewn unrhyw apêl arfaethedig.
Gwnsler Cyffredinol, rydych chi wedi amlinellu yn eich datganiad yr hyn y mae’r achos llys yn ymwneud ag ef ac yn amlwg mae barnwriaeth annibynnol yn hanfodol i'n cyfansoddiad a’n rhyddid. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth y DU hefyd yr hawl i anghytuno â phenderfyniad y llys a dyna pam ei bod yn apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys pan fo'n rhaid dilyn proses y gyfraith. Fel y mae’n dweud, pleidleisiodd y DU i adael yr Undeb
Ewropeaidd mewn refferendwm a gymeradwywyd gan Ddeddf Seneddol, ac mae'r llywodraeth yn benderfynol o barchu canlyniad y refferendwm hwnnw.
Yn amlwg, y Goruchaf Lys yn awr fydd yn penderfynu pa un o'r ddwy ddadl y mae ef o’r farn y dylid rhoi blaenoriaeth iddi. Nid fy lle i nawr yw awgrymu fel arall. Ond rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno, yn gyfansoddiadol, mai dyletswydd gyntaf Prif Weinidog ar Lywodraeth bob amser yw diogelu sofraniaeth ac uniondeb y DU pan fo’r bobl yn ymddiried sofraniaeth—sef awdurdod y wladwriaeth i lywodraethu ei hun heb unrhyw ymyrraeth o ffynonellau neu gyrff y tu allan iddi—i Brif Weinidog a Llywodraeth ac yn disgwyl iddynt ei throsglwyddo yn gyfan i'w holynwyr oni bai bod y bobl yn cydsynio fel arall. Dylid cofio ac ystyried, fel y clywsom yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gan dystion ddoe, nad yw sofraniaeth seneddol, yn dechnegol, wedi bod yn gymwys ers y Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd yn 1972 a’r unig ffordd o’i hadfer fyddai tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, onid yw Llywodraeth y DU yn gywir i ddatgan ei bod yn ddyletswydd arni i beidio â chwestiynu neu ddadlau neu gymryd camau yn ôl ar yr hyn y maen nhw wedi cael cyfarwyddyd i’w wneud, ond mae'n rhaid iddynt fwrw ymlaen â'r gwaith o adael yr UE? Fel y dywedant, maen nhw’n awyddus i roi’r rhyddid mwyaf posibl i gwmnïau yn y DU fasnachu a gweithredu yn y farchnad sengl a gadael i fusnesau Ewropeaidd wneud yr un peth yma. Nid ydynt yn gadael yr Undeb Ewropeaidd dim ond i roi'r gorau i reoli ffiniau neu ddychwelyd i awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop.
Mae’r Bil diddymu mawr, yr wyf i o’r farn ei fod yn hanfodol i’r camau gweithredu yr ydych yn awr yn eu cynnig, yn ceisio rhoi diwedd ar oruchafiaeth gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd yn y DU trwy drosi holl ofynion yr UE i gyfraith Prydain cyn gynted ag y bydd Prydain, neu, ddylwn i ddweud, y Deyrnas Unedig, yn gadael y bloc. Bydd yn pasio drwy'r Senedd ar yr un pryd â’r trafodaethau â Brwsel a bydd yn gweithredu diwedd awdurdod Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn y DU ar y diwrnod cyntaf y byddwn yn gadael yr UE. Yn allweddol, bydd y broses hon yn digwydd ar wahân i drafodaethau erthygl 50, a fydd yn gweithredu’r mecanwaith ffurfiol i adael yr UE.
O ystyried bod eich datganiad ysgrifenedig i’r Aelodau ddydd Gwener diwethaf, pan wnaethoch gyhoeddi am y tro cyntaf eich bwriad i wneud cais i gael caniatâd i ymyrryd yn yr apêl arfaethedig gerbron y Goruchaf Lys, yn rhestru’r rhesymau a roddoch am hynny, yn seiliedig ar y dyfarniad gan yr Uchel Lys a'r Uchel Lys Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon, ac y bydd y materion a godir gennych yn destun trafod dwyochrog neu bedrochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU neu bedair gwlad y DU, ac nid trafodaethau erthygl 50, onid yw hynny'n annilysu eich cyfraniad mewn achos cyfreithiol o ran a gaiff Llywodraeth y DU ddechrau trafodaethau erthygl 50 ai peidio, sy’n fater ar wahân, heb gael cymeradwyaeth seneddol?
Ceir manylion y confensiwn presennol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ‘Devolution Guidance Note 9: Parliamentary and Assembly Primary Legislation Affecting Wales’. Mae'n dweud hyn:
Ni fyddai Llywodraeth y DU fel arfer yn cyflwyno nac yn cefnogi cynigion i ddeddfu yn gysylltiedig â Chymru ar bynciau lle mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol heb ganiatâd y Cynulliad. Os bydd Llywodraeth y DU yn cytuno i gynnwys darpariaethau sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn Bil seneddol, yna bydd angen i Weinidogion Cymru gael cydsyniad y Cynulliad trwy gyfrwng Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.
Felly, sut ydych chi’n ymateb i'r datganiad i'r pwyllgor materion allanol ddoe gan yr Athro Michael Keating, mewn tystiolaeth i bwyllgor yn yr Alban, bod Ysgrifennydd Gwladol yr Alban wedi dweud na fyddai'r Bil diddymu mawr yn gyfle i dynnu’n ôl y pwerau datganoledig? Mynegodd yr Athro Keating ei farn ei bod yn annhebygol iawn y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud hyn.
Ddoe, yn yr un pwyllgor, mynegodd y Prif Weinidog ei farn bod pobl yn cael symud yn rhydd, yn gorfod gwneud cyfraniadau ariannol i'r UE, a bod yn ddarostyngedig i ddyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop, yn eilradd i gael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl.
Felly, sut ydych chi’n ymateb i'r dystiolaeth a roddwyd ddoe gan yr Athro Roger Scully i'r pwyllgor mai blaenoriaeth llawer o’r bobl a bleidleisiodd dros ‘adael’ yng Nghymru yw atal pobl rhag symud yn rhydd neu reoli mudo yn yr UE, ac, ychwanegodd, bod hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i wleidyddion fod yn ymwybodol ohono?
Yn olaf, o ran tystiolaeth y Prif Weinidog i'r pwyllgor ddoe, dywedodd, pe byddai’r Bil diddymu mawr yn tresmasu ar bwerau Cynulliad datganoledig, y byddai angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol. A fyddech chi’n cytuno bod hynny'n golygu, os na fydd y Bil diddymu mawr yn tresmasu ar bwerau'r Cynulliad datganoledig, na fyddai angen cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol a gallai hynny, felly, gwestiynu'r cyfiawnhad am eich ymyriad ar y mater hwn?
Diolch ichi am y nifer fawr o gwestiynau cymhleth iawn a manwl iawn hynny. Rwy’n gobeithio eich bod wedi eu hysgrifennu nhw i gyd eich hun. Maent yn codi cyfres gyfan o bwyntiau pwysig, er hynny.
Y pwynt cyntaf, o ran sofraniaeth y Senedd—dyna’r union beth y mae’r achos hwn yn ymwneud ag ef. Mae sofraniaeth y Senedd a rheolaeth y gyfraith yn bwysig nid yn unig i Senedd y Deyrnas Unedig, ond hefyd i’r Cynulliadau datganoledig. Dyna pam y mae Gogledd Iwerddon mewn gwirionedd yn mynd i gymryd rhan yn yr achos hwn a dyna pam y mae’r Alban wedi cyhoeddi y bydd yn ymyrryd yn yr achos hwn, ac rwy'n falch y bydd gennym gefnogaeth yr Alban i'r penderfyniad sydd eisoes wedi'i wneud yng Nghymru i ymyrryd yn yr achos penodol hwn, oherwydd mae’n hanfodol bod gan y Llywodraethau datganoledig lais, llais clir, mewn proses enfawr sy'n mynd i achosi newid cyfansoddiadol sylweddol.
Gadewch i ni ymdrin â mater y Bil diddymu mawr i ddechrau. Byddwn yn amlwg yn adolygu hynny pan fyddwn yn gwybod mewn gwirionedd beth sydd yn y Bil diddymu; nid oes gennyf unrhyw wybodaeth o gwbl. Ond, gan ystyried y pwynt a wnaethoch am gynigion cydsyniad deddfwriaethol, wrth gwrs, os bydd y Bil diddymu mawr yn tresmasu ar feysydd sy'n ymwneud â'r setliad datganoledig ar gyfer Cymru, yna, yn amlwg, bydd angen cydsyniad y Cynulliad ac, yn amlwg, gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Os na fydd yn ymyrryd ar unrhyw beth sy'n ymwneud â chyfrifoldebau datganoledig, efallai y bydd cysylltiadau ac effeithiau cyfansoddiadol eraill sy'n peri pryder. Mae’n amhosibl dweud, nes fy mod yn gwybod mewn gwirionedd beth sydd yng nghynnwys unrhyw Fil diddymu mawr, beth yw ei strwythur, beth yw ei amcanion, a beth yw'r amserlen. Felly, yn sicr nid yw’n annilysu cymryd rhan, ac, yn wir, rwyf o’r farn y byddwn yn methu yn fy nyletswydd, fel swyddog y gyfraith ar gyfer Cymru, gydag un o'r prif gyfrifoldebau am reolaeth y gyfraith—os na fyddai llais clir o Gymru yn y Goruchaf Lys pan fydd yr holl faterion hyn sydd o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr yn cael eu hystyried. A dewch i ni fod yn onest am hyn—mae'n debyg mai dyma'r achos cyfansoddiadol pwysicaf ers achos llys a dienyddiad Siarl y Cyntaf.
O ran safbwyntiau Michael Keating a'r Athro Scully ynglŷn â gallu pobl i symud yn rhydd, nid oedd y problemau ynghylch natur unrhyw Brexit neu ganlyniad sbarduno erthygl 50 yn fater gerbron y llys, ac ni fydd yn fater yn y Llys Goruchaf ei hun. Mae hyn yn ymwneud â'r broses yn unig a phwy mewn gwirionedd sydd a’r awdurdod. Byddwn hefyd yn tynnu sylw'r Aelodau at y ffaith bod cwtogi’r uchelfraint frenhinol dros y 300 mlynedd diwethaf wedi bod yn un o'r datblygiadau cyfansoddiadol pwysicaf yn natblygiad sefyllfa gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, gan sefydlu sofraniaeth y Senedd a sicrhau bod Gweithrediaeth yn atebol i'r Senedd etholedig gynrychioliadol.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac am ei ymyriad yn y mater pwysig hwn. Hoffwn hefyd gysylltu Plaid Cymru â'r teimladau a fynegwyd ganddo ynghylch rheolaeth y gyfraith ac annibyniaeth y farnwriaeth.
Yn sicr, mae canlyniadau pellgyrhaeddol i’r dyfarniad hwn, a byddant yn parhau, ac mae penderfyniad terfynol y Goruchaf Lys y tu hwnt i unrhyw amheuaeth. Mae'n amlwg y bydd sbarduno erthygl 50, sut bynnag y bydd hynny’n digwydd, yn arwain at newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru. Mae darpariaethau Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 wedi’u hymgorffori yng nghyfansoddiad Cymru, ac ni cheir ymyrryd â nhw na’u diwygio heb i’r wlad hon, a'i deddfwrfa ddemocrataidd, fynegi ei bod yn cydsynio. Byddwn yn ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol pe gallai ymhelaethu ymhellach ar union natur yr ymyriad arfaethedig hwn yn yr apêl i'r Goruchaf Lys, yn benodol ynghylch pa swyddogaeth ffurfiol y mae’n dymuno ei chael ar gyfer Llywodraeth Cymru neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn y broses o sbarduno erthygl 50. O ystyried ei ymyriad arfaethedig, ai ei farn ef yw, os caiff ei gadarnhau, y bydd dyfarniad yr Uchel Lys yn galw am ddeddfwriaeth sylfaenol yn Senedd y DU ar sbarduno erthygl 50, neu, fel yr awgrymwyd gan rai, y byddai penderfyniad y Senedd yn bodloni gofynion dyfarniad yr Uchel Lys?
Yn ail, a fyddai'n cytuno bod peryglon posibl wrth gynnal egwyddor sofraniaeth seneddol y DU uwchlaw pob ystyriaeth arall, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn? Er enghraifft, os caiff erthygl 50 ei sbarduno trwy ddeddfwriaeth sylfaenol yn Senedd y DU, yna bydd Llywodraeth y DU yn gallu disodli deddfwriaeth o'r fath ag is-ddeddfwriaeth a allai dresmasu ar faterion datganoledig, ond ni fydd yn gyfarwydd â chynigion cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad hwn neu Seneddau datganoledig eraill, ac ni fydd hynny’n ofynnol. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn pryderu y gellid cefnu ar yr egwyddor na fyddai Senedd y DU fel arfer yn deddfu ar faterion datganoledig heb ganiatâd y Cynulliad, wrth i Lywodraeth y DU guddio y tu ôl i egwyddor sofraniaeth seneddol ac y gallai ddadlau nad yw'r rhain yn amgylchiadau arferol?
Yn olaf, Lywydd, mae erthygl 9 o Ddeddf Hawliau 1689 yn sefydlu bod yn rhaid i Ddeddfau Seneddol gael eu derbyn yn gyfan gwbl gan y llysoedd. Byddai hyn yn ei gwneud yn amhosibl i Lywodraeth Cymru herio yn ôl-weithredol unrhyw ymyrryd ar ddatganoli o ganlyniad i ddeddfwriaeth seneddol y DU. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn berthnasol i Filiau’r Cynulliad Cenedlaethol, fel y gwelwyd yn nhymor blaenorol y Cynulliad, pan heriwyd Bil gan Lywodraeth y DU yn y Goruchaf Lys. Pa lwybrau, felly, y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn eu hystyried yn gyfansoddiadol ac yn wleidyddol er mwyn cynnal yr egwyddor a elwir yn sofraniaeth seneddol, ond hefyd sofraniaeth pobl Cymru?
Unwaith eto, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau ystyriol hynny. Byddaf yn gallu rhoi sylwadau i ryw raddau ar rai ohonynt, ond ni fyddaf yn gallu rhoi ateb llawn i chi, oherwydd bod llawer o ffactorau anhysbys. Mae natur yr ymyriad yn union fel yr wyf wedi’i nodi. O ran fy ymyriad, bwriadaf gyflwyno sylwadau ynghylch swyddogaeth y Senedd wrth benderfynu ar unrhyw newidiadau i'r setliad datganoli, y goblygiadau penodol i fwriad Llywodraeth y DU i ddefnyddio pwerau uchelfraint i sicrhau newidiadau i drefniadau cyfansoddiadol, a chamau yn gysylltiedig ag ymrwymiad y sefydliadau datganoledig i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried yn llawn. Dyna egwyddorion sylfaenol yr ymyriad.
Nawr, gan fod hwn yn fater o ymgyfreitha sy’n parhau, mae fy nadleuon manwl arfaethedig yn cael eu datblygu ar werthusiad cynhwysfawr o'r dyfarniad llys. Rwyf wedi fy nghyfyngu o ran yr hyn y gallaf ei ddweud ynghylch manylion llawn y cyfraniad arfaethedig, ac, os bydd fy nghais i ymyrryd yn cael ei gytuno, bydd rhagor o fanylion am yr achos ar gael maes o law. Fel rhan o'r broses, bydd angen ffeilio ein manylion ein hunain am yr achos, o'r materion yr ydym yn pryderu yn eu cylch y bwriadwn eu codi yn y Goruchaf Lys sy’n ymwneud â'r dyfarniad neu ag unrhyw faterion eraill y gallai'r Goruchaf Lys eu codi yn ystod y gwrandawiad. Felly, bydd yn broses barhaus, ond rydym yn nodi’r egwyddorion, sef, yn y bôn, bod setliad cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig, bod effaith sbarduno erthygl 50 yn cael effaith sylweddol ar hynny, ac mai swyddogaeth y Senedd yw sbarduno trwy arfer ei phwerau deddfwriaethol. Yn wir, mae yna fater, fel y codwyd gennych, o ran a ellid gwneud hyn drwy bleidlais Seneddol ffurfiol neu a fyddai mewn gwirionedd yn rhaid iddo fod drwy ddeddfwriaeth. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn un o'r materion a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Goruchaf Lys er mwyn cael cyfarwyddyd arno, yn dibynnu ar beth yw canlyniad ei ddyfarniad mewn gwirionedd. Mae arbenigwyr cyfansoddiadol wedi mynegi amrywiaeth o safbwyntiau ar hynny. Ac, wrth gwrs, mae posibilrwydd bob amser y bydd y Goruchaf Lys yn gwrthdroi dyfarniad yr Uchel Lys. Wedi dweud hynny, fel yr wyf wedi amlinellu'r safbwynt cyfreithiol cyfansoddiadol, rwy’n hyderus bod honno'n safbwynt cadarn sy’n sicr yn rhoi sail gadarn iawn i ni fod yn bresennol ac i ymyrryd.
O ran materion Sewel—wel, wrth gwrs, mae Sewel yn gonfensiwn nad oes modd penderfynu arni gan Lys. Ond, fel yn achos pob cyfraith gyfansoddiadol, mewn amgylchedd lle nad oes gennym gyfansoddiad ysgrifenedig, mae'n fwy na dim ond arfer neu gytundeb—mae ganddi statws cyfansoddiadol. Mae'r sefyllfa a amlinellwyd gan y Prif Weinidog yn un sy’n nodi, os bydd unrhyw effaith ar y setliad datganoli, yna mae'n fater a ddylai ddod gerbron y Cynulliad hwn. Rwy’n credu bod y Prif Weinidog hefyd wedi ei gwneud yn glir iawn y bydd sefyllfa’r Prif Weinidog yn cael ei chryfhau yn sylweddol trwy gael cydsyniad a chefnogaeth y Llywodraethau datganoledig.
O ran—rwy’n credu mai’r pwynt am erthygl 9 oedd hyn; mewn gwirionedd, mae’n gysylltiedig â swyddogaeth y llys ac yn gysylltiedig â deddfwriaeth fel y cyfryw. Fel yr eglurwyd yn y dyfarniad ei hun, swyddogaeth y llys yw dehongli’r gyfraith. Mae'r gyfraith, os caiff ei phasio gan y Senedd, yn sofran. Ni all y llysoedd wrthdroi y gyfraith honno—nid oes ganddyn nhw unrhyw swyddogaeth yn hynny o gwbl—ond yr hyn sydd gan y llysoedd yw’r cyfrifoldeb, y ddyletswydd, a’r swyddogaeth o ddehongli'r gyfraith, a dyna'n union sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y camau tuag at y Goruchaf Lys.
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gytuno â mi ei bod yn gwbl gyfreithlon i herio annibyniaeth barnwyr? Yn wir, mae Deddf Hawliau 1688 yn darparu'n benodol ar gyfer hyn oherwydd gall barnwr gael ei ddiswyddo yn dilyn penderfyniad gan ddau Dŷ'r Senedd. Yn yr achos yn y Goruchaf Lys yn ymwneud â’r Cadfridog Pinochet, o ran a oedd ganddo imiwnedd rhag erlyniad fel cyn bennaeth y wladwriaeth yn Chile, canfuwyd bod yr Arglwydd Hoffmann wedi ei analluogi ei hun rhag clywed yr achos a phenderfynwyd gwrthdroi’r penderfyniad ar sail ei bleidgarwch posibl. Felly, nid oes unrhyw beth o'i le mewn gwleidyddion yn mynegi barn naill ai ar y dyfarniadau y mae’r barnwyr wedi dod iddynt, neu yn wir, eu cymhwysedd neu fuddiant arall i wneud hynny. Wedi dweud hynny—
Ceir yn y lle hwn y Rheol Sefydlog, ac rydym yn cael ein llywodraethu ganddo, fel y nodais y bore yma.
Rwyf ond yn sôn yn nhermau egwyddor gyfansoddiadol ac nid wyf yn mynegi barn ar unrhyw farnwr unigol. I mi fy hun, os caf ddweud, nid oes gen i yn bersonol unrhyw broblem gyda’r dyfarniad hwn yn yr Uchel Lys. Mae'n ymddangos i mi na ddylai bod unrhyw anhawster o ran y Senedd yn darparu modd o bleidleisio ar y mater os mai dyna sy’n ofynnol, a bydd yn ddiddorol gwybod a fydd Llafur, Plaid Cymru a'r pleidiau eraill yn rhoi grym i ewyllys y bobl, fel y mynegwyd mewn refferendwm, mewn pleidlais o'r fath. Oherwydd er bod yr achos hwn yn seiliedig ar y cwestiwn o uchelfraint frenhinol ac i ba raddau y ceir ei defnyddio i ddechrau'r broses o weithredu ein proses o dynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd, yr hyn yr ydym mewn gwirionedd yn sôn amdano yma yw uchelfraint y bobl, fel y mynegwyd mewn pleidlais yn y refferendwm, ar y cwestiwn syml: a ddylai'r DU barhau i fod yn aelod o'r UE neu adael yr UE—heb y petai a’r petasai nac unrhyw amodau ynghylch a oes gennym gytundeb olynol gyda'r UE neu’n aros yn y farchnad sengl, neu beth bynnag. Mae'r bobl wedi penderfynu ar y mater hwn ac mae dyletswydd foesol ar y Senedd i barchu eu dymuniadau. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod a yw’r Cwnsler Cyffredinol yn derbyn hynny.
Rwy’n nodi o'r dyfarniad, er i’r Cwnsler Cyffredinol gael ei gynrychioli yn yr achos yn yr Uchel Lys, na wnaeth y cwnsleriaeth, ar ei ran, gymryd unrhyw ran, mewn gwirionedd, yn y trafodion. A yw'n fwriad ganddo, yn y Goruchaf Lys, ei fod yn cael ei gynrychioli, nid gan unigolyn mud, ond gan rywun a fydd yn cymryd rhan lawn yn y trafodaethau? Felly, a fydd e’n cefnogi barn y Llywodraeth mai uchelfraint y bobl y bydd y Llywodraeth yn ei weithredu, wrth sbarduno erthygl 50?
Mae’r dyfarniad yn fy synnu braidd mewn rhai ffyrdd. Er ei bod yn gyfraith sefydledig na chaiff y Goron, trwy ddefnyddio ei huchelfraint, newid cyfraith y tir a'r hawliau a'r rhwymedigaethau a orfodir neu a roddir i unigolion preifat—ac mae hynny’n mynd yn ôl cyn belled â'r Achos o Ddatganiadau ym 1610, a daeth yn gwbl gyfredol mewn achos yn 1916 o’r enw Zamora, y cyfeiriwyd ato hefyd yn y dyfarniad—nid yw’r ffaith o roi rhybudd o dynnu'n ôl o gytundeb, ynddo'i hun, yn golygu diddymu unrhyw ddeddfwriaeth. Felly, er mwyn gweithredu’r broses o dynnu'n ôl, bydd yn rhaid diddymu’r Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd ei hun ac felly bydd hynny’n mynd trwy'r prosesau seneddol arferol. Ac mae’n rhaid deddfu ar gyfer yr holl ddeddfwriaeth sy'n ddibynnol arni yr ydym am ei chadw, hyd yn oed am gyfnod dros dro yn unig, trwy gyfrwng Bil cadarnhaol arall. Felly, mae deddfwriaeth sylfaenol yn sgil-gynnyrch anochel i sbarduno erthygl 50, ac felly mae’n rhaid parchu priodoldeb seneddol a bydd yn cael ei barchu trwy gydol y broses gyfan.
Felly, byddai gennyf ddiddordeb i wybod a yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw, ac felly, bydd goruchafiaeth y Goron yn y Senedd, fel y cyfeiriodd ato, yng ngeiriau yr Arglwydd Bingham, nid yn unig yn cael ei pharchu, ond yn cael ei hwyluso, oherwydd, fel y mae ar y funud—dyma'r pwynt olaf yr wyf am ei wneud—o ganlyniad i’n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, rydym wedi creu trefn gyfreithiol newydd yn Ewrop, sydd mewn gwirionedd yn uwchraddol i'r Goron yn y Senedd. Felly, diben y broses gyfan hon, yr ydym yn awr yn dechrau cymryd rhan ynddi, yw adfer goruchafiaeth y Goron yn y Senedd, ac yn y pen draw, rym pobl Prydain i benderfynu pwy fydd yn eu llywodraethu.
Diolch i chi am y cwestiynau a’r awgrymiadau hynny, ac mae’n rhaid i mi ddweud, bod rhai ohonynt yn gwrth-ddweud ei gilydd—a rhai ohonynt yn ddryslyd. Ond, dim ond i ymdrin i ddechrau â mater annibyniaeth y farnwriaeth—yr oedd yr Aelod, rwy'n falch o hynny, yn dweud ei fod yn ei gefnogi—mae'n syniad da, gan fod Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005, er enghraifft, yn datgan yn glir iawn ei bod yn ofynnol i’r Arglwydd Ganghellor, Gweinidogion eraill y Goron a phawb sy'n gyfrifol am faterion sy’n ymwneud â'r farnwriaeth, neu fel arall i weinyddu cyfiawnder, gynnal annibyniaeth barhaus y farnwriaeth.
Dyna'r sefyllfa statudol. Felly, ni fyddwch yn synnu—ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelod wedyn yn datgysylltu ei hun oddi wrth y sylwadau a wnaed gan ei arweinydd dros dro, Nigel Farage, a ddywedodd y byddent yn arwain gorymdaith o 100,000 o bobl i'r Goruchaf Lys a bod pobl mor ddig y gallai trais godi yn hawdd o ganlyniad i hynny. Mae hynny, hyd y gallaf i ei weld, yn ymgais i fygwth barnwriaeth annibynnol. Rwy’n gobeithio y bydd yn datgysylltu ei hun oddi wrth unrhyw awgrym o'r fath, a hefyd yn datgysylltu ei hun oddi wrth y datganiad a wnaed gan Suzanne Evans sy’n cystadlu i fod yn arweinydd UKIP, a awgrymodd y dylai barnwyr wynebu'r posibilrwydd o gael eu diswyddo gan ASau yn sgil achos erthygl 50. Rhybuddiodd am farnwyr yn ymyrryd a'r gwrthdaro buddiannau ac, yn y bôn, nododd yn glir iawn, oni bai bod barnwyr yn cytuno ag UKIP, y byddent mewn gwirionedd yn dymuno gweld ffyrdd o’u diswyddo.
Mae'n ymddangos i mi yn wrthddywediad llwyr bod yr hyn a ddigwyddodd, mewn gwirionedd, yn ystod y refferendwm, a oedd yn rhannol ynglŷn â’r cysyniad o sofraniaeth y Senedd—ond mae'n ymddangos ei fod ynglŷn â sofraniaeth y Senedd ac annibyniaeth y farnwriaeth, cyn belled â’ch bod mewn gwirionedd yn cytuno â ni, fel arall, gellir ei osgoi mewn gwirionedd. Rwy’n gobeithio y byddwch yn nodi’n glir iawn yn eich datganiadau ar ôl hyn eich bod mewn gwirionedd yn datgysylltu eich hun oddi wrth y sylwadau ymfflamychol hynny sydd wedi cael eu gwneud.
Ni fydd gan y dyfarniad—beth bynnag fydd penderfyniad y Goruchaf Lys—unrhyw beth i'w wneud â dadl y refferendwm Ewropeaidd, y manteision neu’r anfanteision fel arall. Rwyf wedi dweud hynny yn glir iawn yn y datganiad llafar a wneuthum. Fe'i gwnaed yn glir iawn yn y dyfarniad. Mae hyn yn ymwneud â beth yw'r dull cyfreithiol, democrataidd, cyfansoddiadol ar gyfer sbarduno erthygl 50 mewn gwirionedd, o ganlyniad i’r datganiad gan Lywodraeth y DU bod sbarduno erthygl 50 yn broses nad oes modd ei gwrthdroi—sy’n golygu, ar ddiwedd y broses honno, y byddai deddfwriaeth statudol mewn gwirionedd wedi’i dirymu. Roedd yn ymwneud â’r mater o beth fyddai’r dull o ddisodli deddfwriaeth sylfaenol yr oedd y Senedd wedi’i chreu mewn gwirionedd a sut y gellid gwneud hynny—a ellid ei wneud gan weithrediaeth neu a ellid ei wneud gan y Senedd ei hun? Mae'r Goruchaf Lys wedi derbyn y dadleuon a gyflwynwyd mai dim ond y Senedd ei hun all wneud hyn, oherwydd yr egwyddorion cyfansoddiadol sydd wedi'u sefydlu dros 300 mlynedd sydd mewn gwirionedd yn ymwneud ag amddiffyn ewyllys y bobl ac atal ein sefydliadau democrataidd rhag cael eu camfeddiannu.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad. Os caf ddweud, mae’n ddatganiad o ffaith sydd i'w groesawu ac yn ddyfarniad da yn y ddadl, dros y dyddiau diwethaf, y tu allan i'r Siambr hon, sydd, yn rhy aml o lawer, heb gynnwys llawer iawn o’r naill na’r llall. Heddiw o bob diwrnod, efallai y byddwch yn cofio bod ail Arlywydd yr Unol Daleithiau, John Adams, wedi disgrifio Prydain Fawr fel cenedl o ddeddfau y mae'r Goron yn ddarostyngedig iddynt. Dan unrhyw amgylchiadau eraill, mae’r syniad y gallai hawliau a roddwyd gan y Senedd ddiflannu yn dilyn penderfyniad gan y Prif Weinidog, yn gwbl briodol, yn warthus, ac nid yw hyn yn ddim gwahanol.
Rwyf wedi deall o’i sylwadau heddiw, yn y datganiad a’r ymatebion, ei fod yn awgrymu bod yna amgylchiadau, yn ei farn ef, lle y gallai'r sbardun seneddol o erthygl 50 arwain at gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad hwn. Tybed a wnaiff gadarnhau hynny. Yn ail, a wnaiff ef ddweud wrthym, yn ei farn ef, a yw’r Arglwydd Ganghellor wedi cydymffurfio â'i rhwymedigaethau statudol, y mae ef wedi eu darllen yn y Siambr, sydd mor sylfaenol er mwyn gweinyddu cyfiawnder yn briodol—i amddiffyn annibyniaeth y farnwriaeth? Oherwydd, yn fy marn i, mae hi wedi methu’n gywilyddus â gwneud hynny.
Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Natur y deddfau y mae'r Goron yn ddarostyngedig iddynt, yn fy marn i, yw union hanfod yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg o fy natganiad i ac a ddaeth i’r amlwg o ddyfarniad yr Uchel Lys, a hwn fydd y prif fater a gaiff ei ystyried gan y Goruchaf Lys. Os ydym ni eisiau rhoi hyn mewn persbectif hanesyddol o ddifrif, mae'n egwyddor sydd wedi arwain at gael gwared ar ddau frenin; mae'n egwyddor a arweiniodd at ryfel cartref, chwyldro gogoneddus, deddf hawliau a ymgorfforwyd mewn deddfwriaeth yn ystod cyfnod y rhyfel byd cyntaf, ond roedd hefyd yn fater sylfaenol lle safodd y wlad hon yn erbyn camddefnyddio rheolaeth y gyfraith a chamddefnyddio annibyniaeth y farnwriaeth yn ystod yr ail ryfel byd. Felly, mae strwythur cyfansoddiadol—a diben democrataidd—i hyn i gyd. Byddwn yn dweud bod y rheini sy'n ymosod ar yr egwyddorion cyfansoddiadol ystyriol hynny yn gwneud hynny gan beryglu democratiaeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig.
Er bod y Cwnsler Cyffredinol yn rhestru'r cynsail hanesyddol, gadewch i ni fynd yn ôl at y Magna Carta, a oedd yn dweud y dylai cyfreithiau Cymru gael eu cymhwyso yn nhiroedd Cymru. Gadewch i ni gofio, felly, y bydd sbarduno erthygl 50 yn cael effaith wirioneddol ar gyfraith ddomestig Cymru. Felly, rwyf yn llwyr gefnogi ei benderfyniad i wneud cais i fod yn rhan o'r achos yn y Goruchaf Lys. Rwy'n credu ei fod wedi cymryd y cam cywir ar ran pobl Cymru, ac ar ran y Cynulliad hwn hefyd, fel Senedd yng Nghymru. Ac a gaf i ddweud pa mor wych yw hi ei fod wedi gwneud hyn cyn yr Alban? Oherwydd, fel arfer, rydym yn gwneud pethau ar ôl yr Alban, ond y tro hwn roedd yn arwain y ffordd. A wnaiff ef gadarnhau ei ddealltwriaeth, yr wyf yn meddwl ei fod yn ei ddatganiad, a’m dehongliad i o'r hyn yr oedd gan yr Uchel Lys i’w ddweud yn glir iawn—mai oherwydd bod hyn yn cael effaith ar gyfraith ddomestig y dylai fod yn benderfyniad a gymerir gan y Senedd? Byddwn wedi meddwl y byddai unrhyw un sydd wedi bod yn Aelod Seneddol am amddiffyn hynny i'r carn, p'un a ydynt yn Aelod o’r Senedd hon neu Senedd San Steffan nawr. Mae'n benderfyniad sydd wedi ei eirio'n glir iawn, a gallai gael ei wneud o bosibl gan gynnig gerbron y Senedd yn hytrach na Bil. Rydw i'n synnu braidd at frys San Steffan i ddweud bod yn rhaid i hwn fod yn Fil. A wnaiff ef gadarnhau mai cynnig, yn ei farn ef, oherwydd bod angen iddo gyflwyno dadl fanwl yn rhan o'r achos hwn nawr—a fydd e’n dadlau y gallai hyn gael ei wneud gan gynnig hefyd? Oherwydd rwyf i’n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr ASau a alwodd y refferendwm yn refferendwm ymgynghorol nad oedd yn rhwym yn cymryd sylw o hynny ac yn dehongli’r refferendwm yn y modd gwleidyddol gorau, ond nid wyf i’n ystyried refferendwm gan San Steffan yn un sy’n fy rhwymo i fel Aelod o'r Cynulliad. Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni amddiffyn yr hyn sydd orau i Gymru yn y broses hon. Yn sicr, yr hyn sydd orau i Gymru, cyn sbarduno erthygl 50, yw bod craffu seneddol priodol ar waith o’r hyn fydd canlyniad tebygol y sbarduno, a beth fydd ei effaith ar ein deddfwriaeth ddomestig.
A wnaiff ef ddweud ychydig mwy am amddiffyniad y farnwriaeth? Darllenodd yn fyr o Ddeddf 2005, a oedd yn dweud bod yr Arglwydd Brif Ustus a’r swyddogion ac yn y blaen yn amddiffynwyr. Roedd ychydig yn anodd i'r Arglwydd Brif Ustus amddiffyn y farnwriaeth ar yr achlysur hwn, gan fod yr Arglwydd Brif Ustus yn un o'r tri barnwr a wnaeth y penderfyniad, mewn gwirionedd—ac yn benderfyniad da iawn gan Gymro da hefyd. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn clywed mwy o San Steffan. Yw e'n cynnal trafodaethau gyda phobl fel Liz Truss, a ddylai fod yn dweud llawer mwy am annibyniaeth y farnwriaeth? Dylai hi fod yn egluro i bobl. Efallai bod elfen addysgiadol yma. Mae angen i bobl ddeall pam mae gennym wahaniad o ran pwerau a pham mae’r farnwriaeth yn gweithredu yn y modd hwn i gynnal rheolaeth y gyfraith, oherwydd hebddo bydd gennym y sefyllfa sydd gennym nawr heddiw yn America gyda phobl fel Donald Trump yn dweud y dylai barnwyr Mecsico gael eu diswyddo oherwydd eu bod yn gwneud dyfarniadau sydd yn mynd yn erbyn ei fuddiannau gwleidyddol a masnachol ef ei hun. Dyna'r math o beth yr ydym eisiau amddiffyn yn ei erbyn, a dyna pam mae mor bwysig i ni gael cadarnhad o annibyniaeth y farnwriaeth.
Yn olaf, a wnaiff ef ddweud ychydig—rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn gofyn y cwestiwn hwn iddo—beth fyddai cost debygol bod yn rhan o’r penderfyniad hwn, yr wyf yn ei gefnogi? Rwy'n credu bod angen i ni wybod beth yw'r gost, a beth fydd goblygiadau tebygol hynny. Pwy y mae’n debygol o’i ddefnyddio o ran ymgysylltu â CF amlwg er mwyn symud yr achos hwn yn ei flaen?
Iawn. Byddaf yn ymdrin yn gyntaf â’r pwynt am gynnig cydsyniad deddfwriaethol, eto, ac rwy’n credu bod yr Aelod Jeremy Miles wedi codi’r pwynt hwn hefyd. Rwy’n cofio nawr na wnes i, mewn gwirionedd, ateb hwnnw yn benodol. Rwy'n credu ei bod yn dibynnu i raddau helaeth ar yr hyn sydd yn y Bil diddymu mawr. Ni fyddwn yn gwybod hynny hyd nes y ceir llawer mwy o sylwedd i hynny. Mae amrywiaeth eang o faterion ychwanegol, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ymwneud a'r cyfnod ar ôl i erthygl 50 gael ei sbarduno, sef y mater o ddychwelyd pwerau a sut y gall hynny gael effaith hefyd. Felly, ni fydd y Goruchaf Lys yn ymdrin â’r pwyntiau penodol hynny. Bydd yn ymdrin â'r pwynt o egwyddor, sef: beth yw'r dull cyfansoddiadol priodol ar gyfer sbarduno erthygl 50. Rydych chi’n gwneud y pwynt, hefyd, o ran swyddogaeth yr Arglwydd Brif Ustus wrth amddiffyn annibyniaeth y farnwriaeth. Wrth gwrs, fel yr ydych yn ei ddweud, roedd yn un o'r tri barnwr. Ond wrth gwrs, mae adran 3 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005, yn ei gwneud yn glir iawn, iawn bod yr Arglwydd Ganghellor a Gweinidogion y Goron, ac ystod gyfan o bobl eraill sy'n gysylltiedig â’r farnwriaeth a gweinyddu cyfiawnder, ac sy’n ymwneud â hynny, yn gyfrifol am hynny. Yr hyn y mae'r Ddeddf yn ei wneud yw sefydlu goruchafiaeth gyfreithiol annibyniaeth y farnwriaeth. Rwy'n credu y bydd yn fater i’r Senedd yn bennaf, rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, i godi materion o ran y pwyntiau a godwyd yn gysylltiedig â swyddogaeth yr Arglwydd Ganghellor. Nid wyf yn credu y byddai'n briodol i mi wneud sylwadau pellach, ond rwyf wedi darllen yr adran, ac rwyf wedi nodi sylwadau ychwanegol am yr hyn yr wyf yn meddwl sy'n bwysig am annibyniaeth y farnwriaeth.
O ran beth fydd y gost, byddwn ni’n gallu darparu'r wybodaeth honno maes o law. Nid oes gennyf yr wybodaeth honno ac, wrth gwrs, mae'n dibynnu ar nifer o ffactorau o ran faint o waith, nifer y cynadleddau rhwng nawr a'r pumed, hyd yr achos, ac a oes unrhyw orchmynion cost ar ddiwedd y broses benodol honno.
O ran cynrychiolaeth, byddaf yn darparu manylion hynny mewn datganiad arall. Yn amlwg, byddwn yn trefnu cynrychiolaeth arbenigol yn y llys, a bydd hynny'n ymyriad uniongyrchol a chyflwyno papurau sy'n amlinellu beth yw ein meysydd diddordeb penodol yn yr ymyriad. Byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad hwn. Rwy’n credu bod hynny, yn ôl pob tebyg, yn cwmpasu’r holl gwestiynau sydd wedi'u codi hyd yn hyn.
Rwyf yn croesawu’r datganiad hwn gan y Cwnsler Cyffredinol, a hefyd ei fwriad datganedig i ymyrryd yn y Llys Goruchaf. Ond, cyn i mi droi at rai materion manwl, mae wedi bod yn wythnos ddiddorol, ac yn ddi-os mae rhai ymdrechion wedi bod i fwrw amheuon ar uniondeb penderfyniad yr Uchel Lys ac annibyniaeth y farnwriaeth. Rwyf i’n hoff o’r cyfryngau cymdeithasol, ac nid wyf yn credu y gallai unrhyw un fod wedi ei grynhoi yn well i mi na chyn gapten Catrawd Corfflu 29 y Magnelwyr Brenhinol, a wasanaethodd yn Affganistan ac sydd hefyd yn digwydd bod yn Aelod Seneddol Ceidwadol sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, a ddywedodd mewn neges drydar:
Treuliais hanner fy mywyd mewn gwledydd lle mae'r farnwriaeth yn gwneud yr hyn y mae gwleidyddion yn dweud wrthynt ei wneud. Ni fyddech eisiau byw yno. Tyfwch i fyny.
Ond os gallaf droi at y materion sydd o bwys yma. Mae croeso mawr, a ran amseroldeb ac eglurder y datganiad, i weld ei esboniad bod y defnydd o'r uchelfraint, ym marn y Cwnsler Cyffredinol, yn gwbl gyfyngedig o ran yr hyn y gall ei wneud o ran newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad hwn, a hefyd ar newidiadau i bwerau Gweinidogion Cymru. Mae’n dda iawn gweld yr eglurhad hwnnw. Un maes y byddwn yn gwerthfawrogi cael rhywfaint rhagor o eglurhad arno yw’r broses a'r modd y ceisir cydsyniad y Cynulliad hwn. Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi bod yn eithaf clir mai’r Senedd, ac nid y Weithrediaeth, ddylai oruchwylio unrhyw newidiadau, ac i wneud hynny gyda chydsyniad y Cynulliad etholedig hwn. A all ef, ar y cam hwn—ac rwy’n gwerthfawrogi bod yn rhaid i ni aros am benderfyniad y Goruchaf Lys—fwrw unrhyw oleuni pellach ar y broses honno o gael cydsyniad, a'r modd y byddwn ni yn y Cynulliad hwn yn rhoi’r cydsyniad hwnnw hefyd?
Gwnaf fy ngorau i nodi rhai paramedrau, o leiaf, mewn amgylchedd lle nad ydym yn gwybod yn iawn beth yw holl rannau'r jig-so, ac felly ni fyddwn yn gweld y darlun cyflawn am beth amser eto. Ond rydych chi’n codi materion ynglŷn â beth fydd canlyniadau cyfreithiol tynnu'n ôl a swyddogaeth cydsyniad deddfwriaethol. Mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a phwerau Gweinidogion Cymru ar hyn o bryd yn uniongyrchol gysylltiedig â pharhau i gymhwyso cytundebau Ewropeaidd. Pan fydd y Deyrnas Unedig yn tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd, mae'n bosibl y bydd angen diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ein fframwaith ar gyfer datganoli. Bydd y trefniadau cyfansoddiadol sydd wedi’u sefydlu ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw ddeddfwriaeth gan y Senedd i ddiwygio'r Ddeddf. Byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod yn rhan o’r broses ymgynghori ynglŷn ag unrhyw ddiwygiad o'r fath, a bydd swyddogaeth y Cynulliad yn cael ei hystyried yn ofalus. Nid yw'r trefniadau cyfansoddiadol sy'n ymwneud â chynigion cydsyniad deddfwriaethol yn cyfeirio at yr uchelfraint oherwydd ei fod yn rhywbeth na ellid bod wedi ei ragweld—y byddai'n cael ei defnyddio yn y modd hwn. Gan mai’r Senedd sydd wedi deddfu’r cynllun datganoli yng Nghymru, y Senedd, ac nid y weithrediaeth, ddylai oruchwylio unrhyw newidiadau, a dylai wneud hynny gyda chydsyniad y Cynulliad etholedig hwn.
Mewn ffordd annisgwyl i bawb ohonom ni, buaswn i’n meddwl, mae’r Cynulliad yma wedi dod i oed, yn gyfansoddiadol, yn gyfreithiol, ac ym mhob ffordd, gyda’r cwestiwn sydd ger ein bron ni heddiw. Rwyf yn meddwl ei bod yn arwyddocaol iawn bod Cwnsler Cyffredinol Cymru yma heddiw wedi llefaru’n gliriach nag y clywais i unrhyw swyddog o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn llefaru ar y mater yma yn San Steffan ddoe. Rwyf yn falch o hynny, oherwydd mae’n dangos bod gyda ni nid yn unig yr ymennydd unigol, ond hefyd y cryfder cyfansoddiadol i sefyll drosom ni ein hunain. Rwyf yn meddwl bod y cwestiynau y mae’r Cwnsler wedi’u gosod ger ein bron ni yn ei ddatganiad ysgrifenedig ddydd Gwener yn dderbyniol iawn, a hefyd heddiw, yn rhai y bydd yn rhaid inni eu dilyn i’w gefnogi fo drwy’r broses. Felly, rwyf yn croesawu ei fod o’n cymryd rhan yn y broses ac yn cytuno yn llwyr â’i ddadansoddiad o’r cwestiynau sydd ger ein bron ni.
Ond beth garwn i ofyn yn benodol iddo fo yw un cwestiwn arall: beth fyddai’r posibilrwydd i’r Cynulliad hwn gymryd pwerau yn y ddeddfwriaeth Ewropeaidd, a fyddai’n parhau mewn grym yma, pe byddai Senedd y Deyrnas Unedig yn ceisio eu dileu nhw? Hynny yw, beth fyddai’r posibiliadau i’r Alban a Chymru a Gogledd Iwerddon greu parhad o’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn ei heffaith ar ddinasyddion, o fewn y meysydd datganoledig, yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd? Nid ydw i’n disgwyl iddo fo ateb y cwestiwn yna heddiw, ond rwyf yn gofyn iddo fo fyfyrio drosto fo.
A gaf i ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei sylwadau ystyriol, oherwydd mae’r rhain yn faterion dwys a sylfaenol bwysig i’n setliad cyfansoddiadol ac i’n trefniadau cyfansoddiadol yn y DU ar gyfer y dyfodol? Mae e'n gywir na allaf roi ateb llawn i hynny. Mae cyhoeddiad diddorol iawn a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ‘Brexit and Beyond’, lle gwelais y sylw hwn:
Bydd Brexit yn cael effaith fawr ar ddatganoli. Gall arwain at ail-ganoli wrth i'r DU ailffurfio'r ei hun fel ffurflywodraeth sofran; neu ddatganoli pellach wrth ddatganoli cymwyseddau yr UE. Yn y naill achos neu’r llall, bydd y broses yn anodd ac yn ddadleuol.
Wrth gwrs, mae’r materion hynny, pan fyddwn yn dilyn y broses hon, ac rwy’n credu ei bod yn anochel y byddwn yn gwneud hynny, yna mae’r materion hynny a fydd yn digwydd, ac yn fy marn i dyna’n union yr holl bwynt ynghylch pam mae hwn yn fater i’r Senedd o ran y ddeddfwriaeth, ond wedyn y craffu ar y ddeddfwriaeth honno a’r prosesau cyfansoddiadol hynny.
Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol.