2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae’r gyllideb ddrafft yn dangos toriad o £3.6 miliwn i gyllid gwasanaethau cymdeithasol uniongyrchol. I ble mae’r arian hwnnw’n mynd, ac os yw’n dal i fod at ddibenion gwasanaethau cymdeithasol, sut y gallaf ddod o hyd iddo er mwyn craffu ar sut y mae’n cael ei wario?
Mae’r gyllideb ddrafft yn dangos £25 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, a hynny er mwyn parchu a deall y pwysau difrifol sydd ar y sector gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae’r pwysau’n cynnwys, er enghraifft, y cyflog byw cenedlaethol a ddaw i rym y flwyddyn nesaf, ac a fydd yn effeithio ar awdurdodau lleol a’r darparwyr eu hunain. Ond mae’n bwysig iawn ein bod yn parchu’r ffaith ei fod yn newyddion gwych y bydd gweithwyr ar gyflog isel yn cael codiad cyflog, a deall hefyd y bydd hynny’n rhoi rhywfaint o bwysau ar y sector, a dyna pam rydym wedi dyrannu £25 miliwn ychwanegol ar gyfer hynny. Rydym hefyd wedi dyrannu mwy na £4 miliwn yn ychwanegol er mwyn gallu cymryd y cam cyntaf tuag at gyflawni ymrwymiad yn ein maniffesto i ddyblu’r terfyn cyfalaf y gall pobl ei gadw cyn gorfod talu am ofal. Felly, rydym wedi dyrannu mwy na £4 miliwn ar gyfer hynny, yn ogystal ag arian i’n galluogi i ddiystyru’r pensiwn anabledd rhyfel yn llawn o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, byddem yn cefnogi’r pwynt olaf a wnaethoch ynglŷn â’r pensiwn. Ond i bob pwrpas, yr hyn a glywais yn y fan honno oedd fy mod i chwilio am yr arian hwn mewn cyflogau. Efallai y gallwch ddweud wrthyf felly—. Fe gyhoeddoch ddatganiad yr wythnos diwethaf sy’n dangos bod y trosglwyddiad rheolaidd o £27 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth y DU tuag at y gost o ddarparu cefnogaeth i’r rhai a oedd yn arfer derbyn o’r gronfa byw’n annibynnol, yn awr yn mynd yn syth i gynghorau fel y mae yn Lloegr, yn hytrach nag i drydydd parti dewisol y sector anabledd annibynnol, fel yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid diben yr arian hwnnw yw talu am doriadau cynghorau. Pam rydych chi wedi troi eich cefn ar y modelau mwy cydgynhyrchiol y mae Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn eu hannog, a pha warantau rydych chi wedi’u sicrhau y bydd yr arian hwn yn cael ei neilltuo ar gyfer ei bwrpas gwreiddiol?
Nid wyf yn adnabod y darlun rydych yn ei baentio o ran y gefnogaeth rydym yn ei rhoi i wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, i’n cynllun grant trydydd sector, sef lle y mae’r arian y cyfeiriwch ato, a oedd yn flaenorol yng nghronfa’r teulu, wedi ei roi. Mae gennym y gronfa honno, sy’n werth £22 miliwn, sy’n dod â phedwar cynllun grant blaenorol at ei gilydd, ac roedd gennym 84 o geisiadau am grantiau, yn gofyn am ychydig dros £69 miliwn ar gyfer y cynllun hwnnw. Felly, fe wnaethom geisio edrych ar ddyranu’r cyllid yn deg ar draws hynny i gyd, a’r grant mwyaf y gallai unrhyw sefydliad ei gael oedd £1.5 miliwn. Felly, derbyniodd cronfa’r teulu y £1.5 miliwn llawn yn hynny.
Gyda golwg ar ddyfodol cronfa’r teulu, mewn gwirionedd rydym wedi rhoi £400,000 iddynt er mwyn ceisio dod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Felly, dyna un o’r ffyrdd rydym yn cefnogi teuluoedd anabl, a dyfarnwyd cyllid i Anabledd Cymru a Gofalwyr Cymru hefyd o fewn cynllun grant y trydydd sector y gwasanaethau cymdeithasol hefyd. O ran y gronfa byw’n annibynnol, rydym wedi ceisio mabwysiadu ymagwedd bragmatig o ran siarad â’r sector, gyda gwasanaethau cymdeithasol a hefyd â phobl sy’n cael arian byw’n annibynnol, er mwyn ceisio mabwysiadu dull fesul cam o ran darparu yn y dyfodol, drwy gymryd y newidiadau dros gyfnod o ddwy flynedd. Dyma’r dull a awgrymwyd i ni gan ein grŵp ymgynghorol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Nid wyf yn credu fy mod wedi clywed bod yr arian yn mynd i gael ei neilltuo ar gyfer ei bwrpas gwreiddiol ac yn fy marn i fel rhywun sy’n craffu, rwy’n meddwl ei bod yn mynd i fod yn anodd i mi ddilyn yr arian.
Efallai y gallaf ein symud ymlaen yn awr. Efallai eich bod wedi clywed, Weinidog, fod cyngor Abertawe ar ôl achos llys am dorri terfynau amser statudol, yn wynebu camau cyfreithiol pellach o bosibl, gan fod cannoedd o asesiadau diogelu rhag colli rhyddid eto i’w llofnodi. Ychydig wythnosau yn ôl—ac efallai fod pethau wedi newid erbyn hyn—roedd dros 600 angen eu cwblhau, eu llofnodi neu eu dyrannu, ac wrth gwrs, mae’r gorchmynion hyn yn effeithio ar bobl agored iawn i niwed, pob un ohonynt â galluedd meddyliol cyfyngedig. Nawr, nid yw’r cyngor a’r undebau yn cytuno pam, ond mae’n amlwg fod gwasanaethau cymdeithasol yn Abertawe o dan bwysau mawr. Rwy’n meddwl tybed sut y gall Llywodraeth Cymru helpu gwasanaethau cymdeithasol Abertawe i ateb y gofynion a osodir arnynt, nid yn unig er mwyn y gweithwyr cymdeithasol sy’n gysylltiedig â hyn, ond hefyd er mwyn y bobl sy’n destunau i’r gorchmynion.
Mae hwn yn fater sy’n effeithio ar awdurdodau lleol ledled Cymru, ac o ran y cwestiwn pam, rwy’n meddwl mai’r rheswm yw bod y Goruchaf Lys yn 2014 wedi gwneud penderfyniad a elwir yn ‘Cheshire West’, a oedd yn ehangu’r diffiniad o’r hyn a olygir wrth golli rhyddid, ac mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar y cyd wedi disgrifio cynnydd o 16 gwaith yn fwy o geisiadau, felly rwy’n adnabod y darlun rydych yn ei baentio o ran y pwysau sylweddol ar hyn ar draws Cymru. Gwn fod Comisiwn y Gyfraith yn edrych ar y mater ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o gyhoeddi adroddiad ym mis Rhagfyr. Felly, efallai y bydd newidiadau o ran yr hyn y gallai’r safonau colli rhyddid fod a beth y gallai gorchmynion ei olygu yn y dyfodol. Felly, yn amlwg, caiff newidiadau eu penderfynu ar lefel Llywodraeth y DU, ond byddwn yn awyddus i gael ein mewnbwn yn hynny a chyflwyno sylwadau cryf.
Rydym wedi darparu cyllid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd dros y tair blynedd diwethaf er mwyn ceisio eu cael i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â’r amserlenni hynny, ond yn amlwg, rwy’n cydnabod bod yna bwysau sylweddol yno.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd 108 o farwolaethau o C. difficile a 22 o farwolaethau o MRSA yng Nghymru y llynedd. Er bod camau mawr wedi’u gwneud i wella’r broses o reoli heintiau a bod ymgyrchoedd golchi dwylo wedi bod yn llwyddiannus, mae gennym broblem o hyd gyda glendid cyfleusterau ysbyty. Rwy’n derbyn yn llwyr na allwn sicrhau glendid 100 y cant mewn ysbyty gweithredol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw esgus dros finiau’n gorlifo ar ward neu waliau budr. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i wella glendid ein hysbytai?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae hi’n gywir i dynnu sylw at y cynnydd sylweddol a wnaed ar ostwng lefelau cyfraddau heintiau, ond mae angen gwneud llawer mwy. Mae gan bob bwrdd iechyd darged gwella bob blwyddyn. Nid yw pob bwrdd iechyd wedi llwyddo i’w gyrraedd. Mae’n nodwedd reolaidd o gyfarfodydd atebolrwydd gyda phrif weithredwyr a minnau o ran cysylltiad â chadeiryddion, ac yn aml mae yna safonau hylendid syml iawn i fynd i’r afael â hwy a fydd yn helpu gyda chyfraddau heintiau. Mae yna her hefyd mewn rhai rhannau o’r boblogaeth lle y mae cronfa, os mynnwch, o rai o’r heintiau penodol hyn. Ond yr her go iawn i’r gwasanaeth iechyd yw gwneud yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud, ac rydym yn cydnabod yr angen am welliant pellach ac mae hynny’n dechrau gyda hylendid sylfaenol.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros ar bwnc glendid ysbytai, roedd yn siomedig clywed bod Ysbyty Bronllys wedi cael sgôr hylendid bwyd o 2, er bod y rhan fwyaf o ysbytai’n cael sgôr hylendid o 3 neu fwy. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno y dylai pob ysbyty fod â sgôr hylendid pum seren. Nid yn unig y dylai bwyd a weinir i gleifion bregus fod o’r safon uchaf o ran maeth, ond hefyd dylai gael ei baratoi, ei storio a’i weini mewn modd hylan. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella hylendid bwyd yn ein hysbytai ac yn y sector gofal ehangach?
Diolch am y cwestiwn. Unwaith eto, rydych yn gwneud y pwynt fod y mwyafrif helaeth o leoliadau yn y sector gofal a’r sector ysbytai yn cydymffurfio â safonau hylendid uchel. Rwy’n arbennig o siomedig ac yn rhwystredig yn sgil canlyniad Bronllys yn ddiweddar. Maent wedi cael gwybod fy mod i a’r Gweinidog yn disgwyl y bydd gwelliant sylweddol a chyflym ac ailasesiad i ddarparu sicrwydd y bydd nid yn unig y cleifion, ond eu teuluoedd hefyd, yn gwbl briodol, yn ei ddisgwyl.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, ni allwn lwyr ddileu heintiau a geir mewn ysbytai, ond rhaid i ni sicrhau ein bod yn paratoi’n briodol i drin haint. Gydag ymwrthedd i gyffuriau ar gynnydd a dim ond ychydig iawn o wrthficrobau newydd yn cael eu darganfod, rydym yn cyrraedd pwynt argyfyngus. Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi’u dysgu o adolygiad O’Neill a pha rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae yn annog mwy o ymchwil i ddatblygu gwrthficrobau newydd?
Diolch am y trydydd cwestiwn. Mae amrywiaeth o heriau yma. Mewn gwirionedd mae’n faes lle y mae gan bedair cydran teulu gwasanaeth iechyd gwladol y DU ddull o weithredu ar y cyd—cydnabyddiaeth o heriau cyffredin mewn ymwrthedd i gyffuriau, ond hefyd o ran ymddygiad presgripsiynu yn ogystal ag angen am waith ymchwil pellach. Felly, fe welwch fod Cymru yn chwarae ei rhan yn y gymuned ymchwil. Mae yna feysydd sylweddol, nid yn unig o ran gwella iechyd, ond hefyd o fewn y sector gwyddor bywyd, ar gyfer gweithgarwch pellach posibl. Ond rwy’n credu bod angen i ni ddechrau drwy sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau presgripsiynu, ac mae’n debyg mai dyna ble y gall ein cyfraniad mwyaf fod. Mae’n rhaid cael newid ymagwedd ac ymddygiad gan glinigwyr mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ond hefyd, yn bwysig, o ran disgwyliadau’r cyhoedd ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd yn ystod rhyngweithiadau gofal iechyd ac a yw’r gwrthfiotigau a roddir i bobl ar bresgripsiwn yn briodol ac yn yr un modd, a fyddant yn derbyn ac yn deall hefyd pan fydd clinigydd yn dweud nad yw gwrthfiotig yn briodol. Mewn gwirionedd rydym yn niweidio ein hunain drwy orbresgripsiynu a gorddefnyddio, ac rydym yn awr yn mynd i fynd i’r afael â realiti’r her honno. Felly, mae yna heriau go iawn, o ran ymddygiad yn ogystal â mewn ymchwil a’r dyfodol yn y maes penodol hwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Mae adroddiad beirniadol arall wedi cael ei gyhoeddi gan yr ombwdsmon heddiw i safon gofal yn Ysbyty Glan Clwyd. Y tro yma, claf canser a wnaeth orfod aros yn llawer rhy hir am driniaeth. Dyma’r trydydd adroddiad beirniadol gan yr ombwdsmon mewn dau fis. Mae’n digwydd, wrth gwrs, yn y cyd-destun ehangach fod bwrdd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Pam fod y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru wedi cyrraedd y pwynt lle rydym prin yn synnu wrth glywed newyddion fel hyn?
Diolch am y cwestiwn. Yn amlwg, byddaf yn rhoi mwy o fanylion mewn ymateb i’r cwestiwn brys ar ôl hyn y mae’r Llywydd wedi’i dderbyn. Mae’r mater penodol a grybwyllwyd gennych yn hynod o siomedig, nid yn unig o safbwynt rhywun sydd wedi cael gofal nad oedd yn ddigonol, ond hefyd mewn gwirionedd oherwydd bod Betsi Cadwaladr yn fwrdd iechyd sy’n perfformio’n dda o ran darparu triniaeth canser. Felly, mae’r achos hwn yn sicr yn sefyll allan, ac nid mewn ffordd sy’n dwyn clod i’r gwasanaeth iechyd. Ond rwy’n falch fod y prif weithredwr wedi nodi y byddai’n ymddiheuro’n uniongyrchol i’r teulu, ac rwy’n falch ei fod wedi cydnabod problemau yn 2014, ac rwyf hefyd yn disgwyl y bydd nid yn unig y pwyntiau am y darparwr gofal, ond y sawl a fu’n delio â’r gŵyn i gael sylw hefyd. Ac yn amlwg, rwy’n siomedig iawn na chafodd dinesydd a ddaeth at y gwasanaeth iechyd mewn gwir angen ei drin mewn ffordd y byddai unrhyw un ohonom yn ei ddisgwyl neu ei eisiau. Felly, mae pwyntiau gwirioneddol o welliant, ond ym meysydd gofal canser, rwy’n meddwl y gall fod peth hyder fod Betsi Cadwaladr wedi bod yn fwrdd iechyd a oedd yn perfformio’n dda yn y gorffennol, a gallwn ddisgwyl iddo fod felly yn y dyfodol. Yn amlwg, rwy’n disgwyl y byddai’r cyfarwyddwr meddygol newydd yn cyfrannu at hynny hefyd.
Ond rydym yn gwybod, wrth gwrs, am y problemau ehangach ar draws y bwrdd, a phan mae bwrdd iechyd yn cyrraedd pwynt fel yma, mi fyddai rhywun yn disgwyl camau radical—gwirioneddol radical—i newid pethau. Y cwbl rydym wedi ei weld mewn difri ydy newid uwch-reolwyr ac, ar hyn o bryd, rydw i’n dweud wrthych chi nad oes gan bobl ddim ffydd bod hynny ynddo fo ei hun yn mynd i gyflwyno’r newid sydd ei angen.
Un peth sydd yn cael ei wthio o hyd ydy mwy o ganoli, ac yn hytrach na delio efo gwasanaethau sy’n methu, un cynnig sydd ar y bwrdd rŵan ydy symud gwasanaethau fasgwlar, sydd o safon fyd-eang, o Ysbyty Gwynedd. Rydym ni’n pwyso am ymgynghoriad newydd ar hynny. A all yr Ysgrifennydd Cabinet egluro’r rhesymeg dros daclo perfformiad gwael drwy chwalu’r pethau yna sy’n gweithio’n dda? Ac o ran dyfodol Ysbyty Gwynedd, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn meddwl y dylai fod mwy neu lai o wasanaethau arbenigol yn cael eu cynnig yno yn y dyfodol?
Diolch am y cwestiynau dilynol. O ran y camau radical sy’n cael eu cymryd, roedd gwneud bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn gam radical. Dyma’r unig fwrdd iechyd yn hanes datganoli i gael ei wneud yn destun mesurau arbennig, ac nid yw’n ymwneud yn unig â newidiadau i uwch reolwyr; mae angen newid y diwylliant yn y sefydliad. Dyna pam rydym yn disgwyl i’r bwrdd iechyd fod yn destun mesurau arbennig am gyfnod sylweddol o amser, gan y bydd y newidiadau y mae angen i ni eu gweld, er enghraifft, mewn gwasanaethau iechyd meddwl, yn cymryd cryn dipyn o amser. Felly, nid wyf yn derbyn yr argraff a roddir na chafodd camau radical eu rhoi ar waith ac nad ydynt yn cael eu rhoi ar waith. Mae gennym hefyd y sicrwydd a roddwyd gan y corff ymgynghorol tri sefydliad, felly mae gennym gynghorwyr allanol, nid prif weithredwr GIG Cymru yn unig, yn adolygu’r cynnydd sy’n cael ei wneud, neu nad yw’n cael ei wneud, mewn perthynas â mesurau arbennig.
O ran eich pwynt penodol am lawfeddygaeth fasgwlaidd, rydym wedi bod drwy hyn o’r blaen, ac nid wyf yn derbyn nac yn cytuno â’r argraff a roddir ar y mater. Mae’r cynigion yn argymell y dylai tua 20 y cant o’r gweithgaredd, y llawfeddygaeth fasgwlaidd gymhleth iawn, gael ei symud i uned ganolog, ac mae’r uned arbenigol ganolog honno’n seiliedig ar dystiolaeth ei bod yn darparu canlyniadau gwell—gwell canlyniadau i’r bobl, lle bynnag y maent yn byw ar draws gogledd Cymru, sy’n mynd i’r ganolfan arbenigol honno. Bydd 80 y cant o’r gweithgaredd yn aros lle y mae. Felly, er enghraifft, byddai’r gwasanaeth digramennu diabetig sy’n digwydd yn Ysbyty Gwynedd yn aros lle y mae.
Nid oes gennyf amcan penodol o ran faint o wasanaethau arbenigol a fydd yn aros yn eu lleoliadau presennol, yng ngogledd Cymru neu yn unrhyw le arall. Rwy’n nodi’n syml fod yn rhaid i’r bwrdd iechyd, gyda’i boblogaeth leol, lle bynnag y mae, wynebu’r heriau amlwg hyn y mae’n gwybod eu bod yn bodoli, a rhaid iddo ymateb i’r dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau ynglŷn â beth i’w wneud i wella’r gwasanaeth hwnnw. Weithiau, bydd hynny’n ymwneud â darparu gwasanaeth mewn cymuned a gwneud gofal yn fwy lleol, ac weithiau, lle y dywed y dystiolaeth wrthym y mae’r enillion iechyd mwyaf a gorau i’w gwneud, a fydd hefyd yn gwella ein gallu i recriwtio’r staff iawn yn y lle iawn, cael canolfan arbenigol fydd yr ateb mewn gwirionedd. Ac nid wyf yn meddwl ei bod yn dderbyniol mai’r cyfan sydd gan y rhai sy’n rhan ganolog o’r ddadl am ddyfodol y gwasanaeth iechyd i’w ddweud byth yw ‘Rydym yn anghytuno ag unrhyw gynnig i ganoli gwasanaeth arbenigol’. Mae yna dystiolaeth sylweddol y bydd symud llawdriniaeth fasgwlaidd fel hyn yn gwella canlyniadau ar draws gogledd Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n edrych ar y dystiolaeth yn wrthrychol yma.
Mae gennym ni ganolfan arbenigol fasgwlar yn y gogledd, a Bangor ydy’r ganolfan honno. Yn ôl yr holl ystadegau sydd o’n blaenau ni, o ran y cwestiwn ynglŷn â gwasanaethau arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, rydw i’n sylweddoli nad oes gennych chi ffigwr mewn golwg o faint o wasanaethau, ond, fel y dywedodd Bruce Forsyth unwaith, ‘Higher neu lower?’ Dyna’r cwbl yr oeddwn i’n gofyn amdano fo. O ran y mesurau arbennig, nid rhoi’r bwrdd mewn mesurau arbennig oedd y cam radical, ond datganiad bod angen rhoi’r camau radical mewn lle oedd rhoi’r datganiad yna ar y bwrdd.
Ond fe symudwn ni ymlaen. Mae Plaid Cymru yn eiddgar, fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod, i weld datblygu hyfforddiant meddygol ym Mangor. Mi oedd cyllid ar gyfer addysg feddygol yn rhan o’n cytundeb diweddar ni ar y gyllideb. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno, os ydy o ddifri am ddatblygu addysg feddygol yn y gogledd, nad yw tynnu gwasanaethau arbenigol o Fangor yn gwneud synnwyr? Rydym yn gweld bygythiadau; rydym wedi gweld bygythiadau o’r blaen—mamolaeth, er enghraifft. Rydym yn dal i aros am fuddsoddiad yn yr adran frys. Oni ddylai’r Llywodraeth fod yn datblygu gofal iechyd ym Mangor rŵan, fel y ganolfan iechyd i’r gogledd-orllewin—canoli, os liciwch chi, yn barod am gyflwyno’r hyfforddiant yno?
Diolch i’r Aelod am ei gyfres olaf o gwestiynau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn neilltuo’r model cywir ar gyfer y ffurf gywir ar ofal arbenigol, lle bynnag y bo ar draws y wlad, pan fyddwn yn canolbwyntio ar ogledd Cymru, ac yn benodol ar Fangor, fel nad ydym ond yn dadlau am un safle ac un ganolfan ddaearyddol. Y perygl yno yw ein bod yn chwarae tair canolfan yn erbyn ei gilydd ac nid yw hynny’n ddefnyddiol o gwbl. Mae’n rhaid i ni ddeall yr hyn y mae’r dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau oll yn ei ddweud wrthym ynglŷn â’r hyn y dylai gwasanaeth arbenigol fod, yr hyn y dylai’r drafodaeth fod neu beidio â bod, ac yna yr hyn y gallwn ei ddisgwyl o ran canlyniadau i’r claf o ganlyniad. Yr hyn rydym yn ei wybod yw bod y gwasanaethau arbenigol hynny, lle y cânt eu creu, yn fwy tebygol o recriwtio staff ar batrwm cynaliadwy.
Felly, nid yw’r her yn fater syml o ddweud, ‘Nid yw wedi torri, felly nid ydym yn mynd i’w drwsio’, gan fod hynny ond yn golygu eich bod yn aros i wasanaeth fethu’n llwyr cyn i chi wneud y newid a’ch bod yn anwybyddu’r holl dystiolaeth a’r cyngor yn ei gylch, ac ni all honno fod yn ffordd iawn o gynllunio a darparu gofal iechyd mewn unrhyw ran o’n gwlad. Felly, nid ydym yn barod i wneud hynny. Ac nid dyna rwy’n disgwyl i’r byrddau iechyd ei wneud. Wrth iddynt fynd ati i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol, rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd fod yn gwbl ymwybodol o holl dystiolaeth a chyngor y gwahanol wasanaethau sydd ganddynt sy’n datblygu eu lle a’u dealltwriaeth eu hunain mai eu dyletswydd yw darparu’r gofal iechyd gorau posibl i’w poblogaeth leol. Bydd hynny’n golygu y bydd angen newid y ffordd y mae rhai gwasanaethau’n cael eu darparu. Byddai peidio â gwneud hynny’n esgeuluso’r cyfrifoldebau sydd ganddynt i’r boblogaeth leol.
Byddwn yn gweld patrwm gwahanol o wasanaethau mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal trydyddol dros y pum mlynedd nesaf. Mae hynny’n bwysig, oherwydd fel arall, ni fyddwn ond yn esgus bod gweithredu’r model cyfredol o ofal, ymhen pum mlynedd, yn mynd i ateb anghenion ein poblogaeth, yn mynd i sicrhau ein bod yn recriwtio’r staff iawn yn y lle iawn a darparu’r gofal iawn. Yna, byddem yn twyllo ein hunain a byddem yn rhoi gwasanaeth gwael i’r cyhoedd. Nid wyf yn barod i wneud hynny ac ni ddylai byrddau iechyd fod yn barod i wneud hynny. Nid dyna’r arweiniad rwy’n ei roi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ac rwy’n disgwyl i bobl eraill sydd o ddifrif eisiau i’r gwasanaeth iechyd lwyddo, ymuno yn y ddadl honno mewn ffordd lawer mwy agored eu meddwl ac i feddwl eto am ansawdd y gofal a ddarparwn. Mae ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau gwasanaeth yn ysgogi’r hyn rwyf am ei weld a dylent ysgogi’r hyn y mae pob un ohonom am ei weld yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.