<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:38, 29 Tachwedd 2016

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Bydd y Llywodraeth yn cael ei chynrychioli yn y gwrandawiad Goruchaf Lys yr wythnos nesaf ar yr achos yn ymwneud ag erthygl 50, ac mae'n hollol resymol y dylai barn Llywodraeth Cymru gael ei mynegi i'r llys. Ond pa gyfarwyddiadau fydd yn cael eu rhoi i'r cwnsler dros Lywodraeth Cymru? A fydd ef, neu hi, yn cefnogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, neu a fydd ef neu hi yn cefnogi'r hawlydd yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig—h.y. a fydd e’n helpu i hwyluso dymuniadau pobl Prydain, fel y’u mynegwyd yn y refferendwm ar 23 Mehefin, neu’r gwrthwyneb?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ddim y naill na'r llall. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynrychioli ei hun, a bydd y cyfarwyddiadau i'r cwnsler yn cael eu rhoi ar y sail o gynrychioli safbwynt Llywodraeth Cymru. Nid yw hyn yn ymwneud ag atal Brexit; mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod cyfraith gyfansoddiadol yn cael ei dilyn.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Ceir dadl, wrth gwrs, o ran yr hyn y mae'r gyfraith gyfansoddiadol yn ei wneud yn ofynnol yn yr achos penodol hwn. Felly, yr hyn yr wyf i'n ceisio ei ennyn gan y Prif Weinidog yw ar ochr pwy y mae’n mynd i fod arni—ar y safbwynt a fynegir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig neu’r safbwynt a fynegir gan y cwnsler dros Mrs Miller, sef y ceisydd yn yr achos hwn. Ceir dadleuon cyfreithiol cadarn dros ddweud nad oes angen pleidlais eglur yn Nhŷ'r Cyffredin cyn sbarduno erthygl 50. Yn 2008 ac yn 2011, pasiwyd Deddf Seneddol i ddiwygio deddfwriaeth y DU i wneud pleidlais yn y Senedd y DU yn ofynnol pe byddai unrhyw newidiadau penodol i gyfraith yr UE mewn rhai meysydd fel polisi amddiffyn cyffredin, penodi erlynydd Ewropeaidd, pa un a ddylai Prydain ymuno â'r ewro, pa un a ddylai Prydain ymuno â chytundeb Schengen, pa un a ddylem ni ddisodli’r pleidleisio drwy unfrydedd gyda phleidleisio mwyafrifol amodol, ac amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Yn yr holl achosion hynny, byddai effeithiau uniongyrchol ar bobl Prydain o ganlyniad i'r penderfyniad. Dyna hanfod penderfyniad yr Uchel Lys—mai oherwydd yr effeithiau uniongyrchol hynny ar bobl y mae angen pleidlais benodol yn y Senedd. Ond gan nad oedd erthygl 50 yn un o'r enghreifftiau niferus a osodwyd i lawr mewn Deddf Seneddol, yna’n sicr nid oes sail ar gyfer dweud, yn yr achos hwn, bod gofyniad ymhlyg i Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi gefnogi pleidlais o blaid erthygl 50 cyn i'r Llywodraeth allu bodloni dymuniadau pobl Prydain.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:41, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Os yw arweinydd UKIP yn cynnig ei hun i weithredu fel cwnsler yn y Goruchaf Lys, mae'n rhoi cynnig rhesymol arni. Mae'n deall y mater cyfansoddiadol y mae'n rhaid ei ddatrys yn y llys. Bydd gan bob un ohonom ein gwahanol safbwyntiau. Y cwestiwn i ni yw: a ellir defnyddio’r uchelfraint frenhinol i ddechrau’r hyn a fyddai'n broses na ellid ei hatal tuag at newid cyfansoddiad Cymru. Ceir dadleuon cyfreithiol pwysig y mae angen eu harchwilio yn y Goruchaf Lys. Mae ef wedi cydnabod hynny, ac rwy’n croesawu hynny. Yn anffodus, mae rhai yn ei blaid sy'n gweld hyn fel rhyw fath o gynllwynio i atal Brexit. Nid dyna beth yw diben hyn. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau, os caiff egwyddor gyfreithiol gyfansoddiadol bwysig ei harchwilio ac y rhoir dyfarniad ar hynny, ac nid yn unig ar gyfer Brexit, wrth gwrs, gellid defnyddio hyn yn y dyfodol ar gyfer materion eraill hefyd.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:42, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Yn wir. Felly, yr hyn yr wyf i'n ceisio ei ennyn gan y Prif Weinidog, ac nad yw wedi rhoi ateb iddo o hyd, yw: beth fydd y cwnsler dros Lywodraeth Cymru yn ei ddweud yn ystod yr achos hwn? Oherwydd ni ddywedodd y cwnsler dros y Llywodraeth unrhyw beth o gwbl yn yr Uchel Lys. A fwriedir y bydd y cwnsler dros Lywodraeth Cymru yn dweud rhywbeth yn y gwrandawiad Goruchaf Lys, ac, os felly, a fydd e’n dadlau yn erbyn achos Llywodraeth y Deyrnas Unedig y dylem ni fwrw ymlaen a chychwyn erthygl 50 cyn gynted â phosibl heb gymhlethu materion trwy gael rhagor o bleidleisiau yn y Senedd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, rhwydd hynt iddo ddarllen y sail, sy’n gyhoeddus, a bydd yn gweld yr achos yr ydym ni’n ei gyflwyno. Rydym ni’n cynrychioli ein hunain. Nid ydym ni yno i gefnogi’r naill ochr na'r llall ond i gyflwyno’r achos ar ran pobl Cymru o ran pa egwyddorion cyfansoddiadol y dylid eu dilyn. Digwydd bod mai Brexit yw'r pwnc, ond gallai fod yn unrhyw bwnc arall lle byddai angen ystyried yr egwyddor gyfansoddiadol hon. Felly, mae'n bwysig ei fod yn cael ei archwilio nawr.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddwyd gwaharddiad ar ffioedd asiantau gosod yn y cyhoeddiad datganiad yr hydref diweddar, gyda Lloegr yn ymuno â’r Alban bellach. Pan ddaw i Gymru, dywedodd eich Ysgrifennydd cyllid wrth y BBC ei fod eisiau aros i weld sut mae'r gwaharddiad yn yr Alban yn gweithio yn gyntaf. A ydych chi'n gwybod ym mha flwyddyn y gwnaethant wahardd ffioedd asiantau gosod yn yr Alban?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Ydw. Dyma’r sefyllfa yn yr Alban: mae Deddf Rhent (Yr Alban) 1984 yn gwneud talu unrhyw bremiwm o ran rhoi, adnewyddu neu barhau tenantiaeth warchodedig yn drosedd. Mae’r diffiniad hwnnw wedi bod ar waith ers 30 Tachwedd, 2012. Felly, yn ymarferol, mae hynny wedi bod ar waith ers 2012. Gallaf ddweud, fodd bynnag, ein bod ni’n ailystyried y mater hwn. Ein hofn, pe byddai ffioedd yn cael eu diddymu, oedd y byddai hynny’n cael ei lwytho ar renti wedyn. Mae'r dystiolaeth o'r Alban yn ddiddorol yn hynny o beth. Gwn fod hwn yn fater y mae fy nghydweithiwr, Jenny Rathbone, wedi bod yn arbennig o bryderus yn ei gylch, o ystyried yr effaith ar ei hetholaeth.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:44, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch eich bod wedi codi'r pwynt yna am yr Alban, gan fod gwahardd ffioedd gosod yno wedi dangos, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bod rhenti yng Nghymru a'r Alban wedi cynyddu ar gyfradd sylweddol is nag yn Lloegr dros y chwe blynedd diwethaf, ac mae rhenti yn yr Alban wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae'n dangos nad yw'r gwaharddiad hwn ar ffioedd gosod yn cynyddu rhenti mewn gwirionedd. Nawr, rydych chi'n iawn—gwaharddwyd y ffioedd hyn gan yr Alban yn 2012. Felly, faint yn hwy y mae’n rhaid i denantiaid yng Nghymru aros? Byddwn wedi meddwl bod pedair blynedd yn ddigon hir. Y ffaith yw eich bod wedi bod yn arafach fyth ar y cwestiwn cyfiawnder cymdeithasol hanfodol bwysig hwn na’r Torïaid yn San Steffan hyd yn oed.

Nawr, Brif Weinidog, mae perchentyaeth yn dod yn fater hollbwysig i’r genhedlaeth hon o bobl ifanc; mae'n mynd bron yn amhosibl cael troed ar yr ysgol eiddo. Talu eu rhent yw’r brif flaenoriaeth nawr, ac, yn y sector rhentu, gall symud cartref arwain at gyfres o ffioedd na ellir eu cyfiawnhau, wrth i ymarfer siopa cudd Shelter Cymru rai blynyddoedd yn ôl awgrymu y gall gostio hyd at £1,000 yn ychwanegol. Oni bai fod camau’n cael eu cymryd, dim ond Cymru fydd â’r ffioedd gosod hyn. Byddwn yn croesawu ymrwymiad pendant gennych chi y prynhawn yma, Brif Weinidog, yn egluro i ni sut yr ydych chi’n mynd i wahardd y ffioedd asiantau gosod hyn. A wnewch chi roi’r ymrwymiad hwnnw i ni heddiw?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Gallaf ddweud bod hyn yn rhywbeth sydd o dan ystyriaeth weithredol. Rwy’n deall y pwynt y mae hi'n ei wneud; byddai'n edrych yn rhyfedd i Gymru fod â ffioedd asiantau gosod er nad ydynt gan Loegr a'r Alban. Ceir rhywfaint o dystiolaeth bellach o'r Alban nad oedd yr effaith o ran y cynnydd rhent mor fawr ag yr ofnwyd, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn cael effaith gref iawn ar y camau y byddwn ni’n eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:46, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, y llynedd, cynigiodd Plaid Cymru welliannau i'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru), ond fe wnaethoch chi wrthod manteisio ar y cyfle i wahardd ffioedd gosod gormodol bryd hynny, yn groes i ddymuniadau'r rhai ar eich meinciau cefn eich hun, mae’n debyg. Ac nid gwahardd ffioedd asiantau gosod gormodol yw'r unig fater y mae eich meinciau cefn wedi dymuno pleidleisio gyda gwelliannau Plaid Cymru i wella deddfwriaeth; roeddem ni eisiau gwahardd contractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol. Ond mae’n ymddangos bod esgus bob amser, Brif Weinidog: naill ai nid yw’r pŵer gennych chi, neu ni chafodd y gwelliant ei ddrafftio’n gywir, neu, fy ffefryn i, 'Nid ydym wedi ymgynghori ar y mater’, hyd yn oed ar ôl 17 mlynedd o fod mewn grym. Pam, Brif Weinidog, pan fydd Plaid Cymru yn ceisio cyflwyno polisïau sy'n helpu’r rhai ar yr incwm isaf ddianc rhag tlodi, mae eich Llywodraeth chi yn pleidleisio yn ein herbyn?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:47, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n cofio bod ei phlaid hi mewn Llywodraeth am bedair blynedd, sy’n aml yn cael ei anghofio yn gyfleus. A bydd problemau—roedd y mater o gontractau dim oriau ynghlwm wrth y Bil gwasanaethau cymdeithasol, os cofiaf yn iawn, yn broblem. Yr ofn oedd y byddai'r Bil cyfan yn cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys. Nid yw'n fater o anghytuno mewn egwyddor, ddim o gwbl—ymhell ohoni; rydym ni o’r un safbwynt pan ddaw i gontractau dim oriau. Yn yr un modd, byddwn yn ailystyried y mater o ffioedd asiantau gosod yng ngoleuni'r dystiolaeth sydd ar gael o'r Alban, drwy Shelter, ac mae'n iawn i ddweud y byddai'n edrych yn anarferol i Gymru fod â ffioedd asiantau gosod ac i Loegr a’r Alban fod hebddynt. Mae’n ymddangos nawr, o’r dystiolaeth yn yr Alban, bod y pryder sydd gennym ni, y byddai hyn yn cael ei ychwanegu at renti, yn llai o bryder nag o'r blaen.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:48, 29 Tachwedd 2016

Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, os caf ddychwelyd at y cwestiwn cyntaf heddiw, ar fadredd, hoffwn ganmol fy nghydweithiwr, Angela Burns, sy’n cadeirio'r grŵp hollbleidiol ar y mater penodol hwn erbyn hyn—ar ôl bod trwy brofiadau eithaf echrydus ei hun, mae hi’n gallu dod â’r profiadau personol hynny at y bwrdd. Mae hwn yn fater sydd, yn amlwg, trwy sylw diweddar yn y cyfryngau, wir wedi dod i flaen meddyliau pobl, ond sydd wedi bod yn llechu’n dawel yn y cefndir ym meddyliau gweithwyr iechyd proffesiynol ers cryn amser. Ac, er tegwch i Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi cyflwyno strategaeth i geisio mynd i'r afael â rhai o'r meysydd y mae pobl yn eu hwynebu pan fyddant yn cyflwyno eu hunain ac eisiau cael eu hasesu yn yr ysbyty. Ond mae'n ffaith mai dim ond un o bob 10 o bobl sy’n cael y driniaeth gywir a'r asesiadau cywir mewn ysbytai. Pa fath o darged allwn ni ystyried fel y nod yr adeg hon y flwyddyn nesaf? Gan fy mod i’n clywed y geiriau gwresog ac, yn gywir, y geiriau y mae pobl eisiau eu clywed, ond maen nhw eisiau clywed bod cynnydd ar y mater penodol hwn mewn gwirionedd. Felly, pa gynnydd allwn ni eich dwyn i gyfrif yn benodol amdano o ran sgrinio a thriniaeth ymhen blwyddyn, Brif Weinidog?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n rhan o’r rhaglen 1000 o Fywydau sydd gennym ni i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn cael y cyfle i oroesi ac yn cael y cyfle i dderbyn y lefel gywir o driniaeth ar gyfer y salwch ei hun. Mae'n gofyn a oes unrhyw ffigurau penodol o ran targed. ‘Nac oes’ yw’r ateb i hynny; nid oes ffigur penodol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni eisiau gweld mwy o bobl yn cael diagnosis cynnar er mwyn rhoi’r cyfle iddyn nhw oroesi. Mae gennym ni ar waith eisoes, fel y dywedais, y system sgôr rhybudd cynnar, cynllun dadansoddi Sepsis Six hefyd. Rydym ni’n credu y bydd yr holl bethau hyn, gyda'i gilydd, yn cynyddu ymwybyddiaeth o fadredd, yn enwedig ymwybyddiaeth ymhlith meddygon, fel eu bod yn gallu gwneud diagnosis yn gyflymach ac, felly, bod mwy o bobl yn cael diagnosis ac felly’n goroesi.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynna, Brif Weinidog. Roeddwn i’n chwilio’n benodol am darged gennych chi, fel y Prif Weinidog a'r Llywodraeth. Rwy’n sylweddoli efallai na fydd ffigurau eglur a phendant ar gael ar hyn o bryd, ond y ffigur a roddais i chi yw mai dim ond un o bob 10 o gleifion sy’n derbyn, ar hyn o bryd, y sgrinio a’r gefnogaeth honno y mae’n debyg fyddai'n helpu ac yn achub eu bywydau a dweud y gwir. Nawr, mae hwnnw'n ffigur nad yw’r un ohonom ni eisiau ei adael. Rydym ni eisiau gwthio hwnnw yn ei flaen, ac mae gennych chi’r gallu fel Llywodraeth i fwrw ymlaen o'r ffigur hwnnw.

Pan fyddwch chi’n meddwl mewn gwirionedd bod 15 gwaith yn fwy o bobl yn cael eu lladd gan fadredd yng Nghymru, neu’n marw o fadredd yng Nghymru, na mewn damweiniau ffordd—bu gennym ni raglen enfawr, rhaglen lwyddiannus, o ddiogelwch traffig ffyrdd a gwybodaeth traffig ffyrdd—mae hwn yn faes lle mae angen i Lywodraeth Cymru fod ar flaen y gad, a sicrhau canlyniadau pendant yn ein gwasanaeth iechyd. Nid yw pocedi o arfer da yn ddigon da o gwbl, fel y nodwyd yn yr adroddiad diweddar. Felly, hoffwn ddefnyddio fy ail gwestiwn o dri, os caf, i geisio eich gwthio chi i geisio cael ffigur pendant gennych chi o ran ble y byddwn ni yr adeg hon y flwyddyn nesaf, pan ddaw i sgrinio ar gyfer madredd mewn ysbytai a gallu darparu'r triniaethau sydd eu hangen.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:50, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, ceir dull cyson eisoes drwy'r system sgôr rhybudd cynnar genedlaethol. Mae honno ar waith ar draws pob ysbyty yng Nghymru. Fe’i defnyddir yn eang gan staff mewn ysbytai cymuned ac mewn cartrefi preswyl i'r henoed ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl, mewn gwirionedd. Soniais yn gynharach fod y gwasanaeth ambiwlans yn datblygu systemau ar gyfer sgrinio cleifion ar gyfer madredd cyn cyrraedd. Mae Felindre yn defnyddio system ar draws ei holl feysydd clinigol ac unedau cemotherapi cleifion allanol, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cleifion canser, ac yna wrth gwrs, soniais am y bwndel Sepsis Six. Beth mae hynny'n ei olygu o ran niferoedd? Wel, rydym ni’n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Madredd y DU; ceir perthynas waith dda iawn. Rydym ni eisiau gweld y ffigur hwnnw o un allan o 10 yn gwella yn y dyfodol fel bod gan fwy o bobl gyfle i oroesi, ac rydym ni’n hyderus y bydd hynny'n digwydd.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:51, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n gwerthfawrogi nad yw’n ymddangos fy mod i’n gallu cael ffigur allan ohonoch chi heddiw, Brif Weinidog. Rwyf wedi talu teyrnged i'r camau y mae’r Llywodraeth wedi eu cymryd hyd yn hyn, ond nodwyd yn gwbl eglur mai dim ond pocedi o arfer da sydd yn y GIG yng Nghymru, yn anffodus. Rwyf wedi rhoi’r ffigur o un o bob 10 i chi ac rwyf i wedi rhoi’r ffigur i chi bod 15 gwaith yn fwy o bobl yn marw o fadredd nag mewn damweiniau ar y ffyrdd, felly byddwn yn gobeithio efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ysgrifenedig i nodi ble mae'r Llywodraeth eisiau bod ymhen blwyddyn, fel y gallwn weld pa mor agored yw ei feddwl i sicrhau cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn.

Ond un maes lle y gellir gwneud cynnydd gwirioneddol yw recriwtio a chadw meddygon a staff meddygol. Rwy’n gwerthfawrogi eto bod hwn yn fater y DU gyfan, ac mewn rhai disgyblaethau mae'n fwy amlwg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig nag efallai yma yng Nghymru. Ond, yn anffodus, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi tynnu sylw at y ffaith bod 40 y cant o swyddi meddygon ymgynghorol yn wag yma yng Nghymru, ac nid yw llawer ohonynt yn denu—rwy'n sôn am swyddi gwag, nid swyddi staff gwirioneddol—nid yw 40 y cant o swyddi gwag yn derbyn unrhyw ateb i'r hysbysebion a gyhoeddir. Pa gynnydd fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac yn ei gynnal dros y flwyddyn nesaf i ddenu clinigwyr i'n GIG a’u cadw yno, fel bod yr arbenigedd gennym, pan ddaw i fadredd a chyflyrau eraill, ar y rheng flaen i wneud y diagnosis hwnnw i wella triniaethau i gleifion sy’n mynd i mewn i'r GIG yma yng Nghymru?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:53, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn hollol siŵr o le mae'n cael y ffigur o 40 y cant. Tua 4 y cant yw’r ffigur swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru. Rydym ni’n parhau i fod yn rhagweithiol o ran ein recriwtio. Rydym ni wedi bod yn Llundain a Harrogate mewn digwyddiadau yn ddiweddar er mwyn cyflwyno Cymru fel lle da i fod yn feddyg ynddo. Ar y cyfrif diwethaf, rydym ni wedi cael 280 o ymatebion ac ymholiadau pendant a chadarn iawn i’n hymgyrch—mae'n ymgyrch dda iawn. Rydym ni’n hyderus y byddwn ni’n gallu denu'r meddygon ar bob lefel, a llawfeddygon ar bob lefel, i mewn i GIG Cymru i sicrhau bod digon o bobl yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt.