– Senedd Cymru am 3:27 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21. Rydw i’n galw ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6144 Jenny Rathbone, Rhun ap Iorwerth, Vikki Howells, Angela Burns, Dai Lloyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) bod lefelau gordewdra yng Nghymru yn parhau i godi ac mae gordewdra yn fwy cyffredin ymysg cymunedau tlawd;
b) bod newid arferion bwyta pobl yn gymhleth ac yn golygu cyfuniad o sicrhau bod bwyd da ar gael ac yn fforddiadwy a sgiliau coginio;
c) nad yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi cael effaith sylweddol hyd yma ar faint o ymarfer corff y mae pobl yn ei wneud;
d) mai dim ond drwy ddegawdau o addysg a chamau gweithredu caled y llywodraeth y mae cyfraddau ysmygu wedi disgyn, a bod hyn wedi digwydd yn erbyn ymdrechion y diwydiant tybaco i wadu'r wyddoniaeth a rhwystro camau gweithredu'r llywodraeth; ac
e) bod angen cyfuniad o addysg, deddfwriaeth a chaffael cyhoeddus i fynd i'r afael â phroblem gynyddol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
Diolch, Lywydd. Mae chwarter poblogaeth oedolion Cymru yn ordew, ac mae bron 60 y cant yn cario gormod o bwysau: cyfuniad o ormod o alcohol, rhy ychydig o ymarfer corff a gormod o fwyd llawn o fraster, siwgr a halen. Mae’r canlyniadau’n ddifrifol o ran diabetes, clefyd cardiofasgwlaidd a sawl math o ganser. Y tri chyflwr hwn yw achosion pennaf marwolaeth gynnar ac maent yn bygwth tanseilio a hyd yn oed gwrthdroi pa bynnag ddatblygiadau a wneir i roi triniaeth feddygol i glefydau sy’n bygwth bywyd.
Mae adroddiad blynyddol diweddaraf y prif swyddog meddygol yn nodi, tra bod y cyfoethog yn mynd yn iachach ac yn byw’n hirach, nid yw hynny’n wir am y tlodion. Mae’r bwlch disgwyliad oes eisoes cymaint â naw i 11 mlynedd rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghaerdydd yn unig. Mae hyn yn annheg, yn osgoadwy ac yn rhywbeth na ddylem fod yn barod i’w dderbyn neu ei oddef mwyach. Mae angen gweithredu ar frys ac yn bendant i fynd i’r afael â’r epidemig iechyd hwn, a fydd fel arall yn gwneud y GIG yn fethdalwr. Ar draws y DU, mae eisoes yn costio £5 biliwn y flwyddyn i’r GIG, a rhagwelir y bydd hynny’n dyblu i bron £10 biliwn erbyn 2050. A bydd y gost ehangach i gymdeithas yn cyrraedd £50 biliwn y flwyddyn.
Felly, er gwaethaf yr ymgyrch 5 y dydd, rydym yn bwyta llai o lysiau—nid yw’n ddim gwell nag yr oedd yn y 1970au. Dywedodd llai na thraean o’r holl oedolion eu bod yn bwyta pum cyfran neu fwy o ffrwythau a llysiau y dydd. Yn syml nid yw pobl yn gwrando ar yr hyn rydym yn ei ddweud wrthynt, ac 1 y cant o’r arian a werir ar hysbysebion bwyd sy’n cael ei wario ar hyrwyddo llysiau.
Rydym yn gaeth i ddiwylliant sy’n tueddu i achosi gordewdra ac mae angen i ni weithredu yn awr. Mae trin pobl sydd â lefelau sy’n bygwth bywyd o ordewdra yn anodd a chymhleth dros ben. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar atal. Ac yn anffodus ac yn drasig, nid clefyd oedolion yn unig yw hwn. Mae dros chwarter ein plant pedair a phum mlwydd oed yng Nghymru yn cario gormod o bwysau neu’n ordew, ac mae hynny’n cymharu’n wael â 22 y cant yn Lloegr. Yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, mae’n codi i dros 28 y cant.
Felly, er gwaethaf Blas am Oes, er gwaethaf Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, gan Gymru y mae’r gyfradd waethaf o ordewdra ymhlith plant yn y DU. Nid yw codi ymwybyddiaeth ar ei ben ei hun wedi gweithio. Mae angen mwy o weithredu mewn sawl ffordd, ar draws pob lefel o Lywodraeth. Ni allwn barhau fel hyn.
Felly, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ‘Gwneud Gwahaniaeth’, yn dweud bod tri pheth y gallem ei wneud: yn gyntaf, gallem gyfyngu ar farchnata bwyd afiach, nad yw’n fater sydd wedi’i ddatganoli, ac felly nid yw’n rhywbeth sy’n rhaid i ni ei ystyried yma yn ôl pob tebyg; yn ail, hybu bwyta’n iach mewn ysgolion; ac yn drydydd, defnyddio trethi i gyfleu’r neges.
Cyflwynwyd ‘Blas am Oes’ yn 2008, a daeth yn orfodol yn 2013. Cafodd wared ar werthu diodydd swigod a melysion o beiriannau gwerthu, ond nid wyf yn argyhoeddedig ei fod wedi cynhyrchu’r newid bywyd, a’r newid yn y system, sy’n ofynnol yn ein holl ysgolion. Mae’n iawn cyn belled ag y mae’n mynd, ond nid yw’n mynd yn ddigon pell. Faint o lywodraethwyr ysgol sy’n ymwybodol eu bod yn gyfrifol am sicrhau bod y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 gorfodol yn cael ei ddilyn? Sut y byddent yn mynd ati i wybod o ble roedd y cynhwysion wedi dod, a beth oedd ynddynt? Rwyf eto i weld unrhyw hyfforddiant ar hyn yn cael ei ddarparu gan fy awdurdod lleol, fel llywodraethwr ysgol.
Ddiwedd y mis diwethaf, ymwelais ag Ysgol Parc Cornist yn y Fflint. Yno, maent wedi dyblu nifer y prydau ysgol sy’n cael eu bwyta ers iddynt fabwysiadu nod siarter Bwyd am Oes, a sefydlwyd gan Gymdeithas y Pridd. Mae plant yn archebu eu pryd wrth gofrestru bob dydd, felly maent yn dewis yr hyn y maent yn mynd i’w fwyta, ac maent yn sicr o’i gael. Gan fod staff arlwyo yn gwybod yn union faint o brydau y mae’n rhaid iddynt eu coginio, mae hynny’n dileu pob gwastraff bwyd bron yn llwyr. Mae bar salad, sy’n cael ei hyrwyddo’n weithredol gan y staff, yn mynd gyda’r fwydlen o chwe opsiwn i ddewis o’u plith. Ceir ffyn moron a chiwcymbr mewn powlenni bach ar y bwrdd, a gall y disgyblion helpu eu hunain iddynt. Mae o leiaf 75 y cant o’r fwydlen o chwe opsiwn yn cael ei baratoi’n ffres o gynhwysion heb eu prosesu. Caiff cynnyrch tymhorol eu hyrwyddo, ac mae llawer o blant yn dweud mai cinio yw uchafbwynt eu diwrnod.
Mae’r pennaeth yn dweud bod y gegin yn ganolog i’w hysgol. I fynd gyda’r prydau bwyd eu hunain, mae’r ysgol yn defnyddio addysg bwyd fel rhan o’r cwricwlwm, ac mae disgyblion a’u teuluoedd yn rhan o’r broses o wella profiad cinio ysgol. O leiaf unwaith y flwyddyn, caiff y gymuned wahoddiad i ginio, gan helpu i hyrwyddo bwyta’n iach yn y cartref, yn ogystal ag yn yr ysgol. Mae pob un o’r 73 o ysgolion yn Sir y Fflint wedi mabwysiadu’r nod bwyd arlwyo lefel mynediad yn ôl yn 2002. Cefais fy sicrhau gan y rheolwr arlwyo nad yw’n fwy costus na bodloni’r Mesur bwyta’n iach mewn ysgolion, ond i chi fod ychydig yn fwy gofalus ynglŷn ag o ble y daw’r bwyd, a pham na fyddem am wneud hynny, gyda phlant?
Mae’r aelod cabinet dros addysg yn dweud,
Rydym eisiau i’n rhieni fod â hyder yn y gwasanaeth, ac mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i brofiad amser cinio eu plant.
Pam nad yw awdurdodau lleol eraill wedi dilyn esiampl Sir y Fflint? Roedd pawb yng nghonsortiwm gogledd Cymru o Awdurdodau Addysg Lleol yn meddwl ei fod yn syniad da yn ôl yn 2012, ond nid oes yr un wedi dilyn arweiniad Sir y Fflint, ac nid oes unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru wedi gwneud hynny chwaith. Eto i gyd, ar draws y DU, gweinir 1.6 miliwn o brydau bwyd bob dydd mewn lleoliadau addysg a gofal iechyd sy’n bodloni’r meini prawf Bwyd am Oes, gan gynnwys ein ffreutur ni ein hunain. Mae gan dros hanner ein prifysgolion wobr Bwyd am Oes. Pam na fyddem eisiau’r un peth ar gyfer holl ddisgyblion Cymru?
Mae cyfle yma i gynhyrchwyr bwyd hefyd oherwydd lefel efydd o achrediad yn unig sydd gan Sir y Fflint, ac er mwyn iddynt gael y wobr arian a’r wobr aur, byddai angen iddynt allu defnyddio cyflenwyr mwy organig sy’n gallu darparu o fewn yr ystod pris a gyda’r dibynadwyedd y mae’r Awdurdodau Addysg Lleol ei angen. Felly, mae’n galonogol nodi bod Canolfan Organig Cymru wedi bod yn gweithio gyda gwasanaeth prydau ysgol Sir y Fflint i ddarparu ystod o weithgareddau, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer cogyddion ysgol, ymweliadau â ffermydd, cymorth garddio, a marchnadoedd fferm ar fuarth yr ysgol. Felly, mae’r nod arlwyo yn cynnig cymhellion i arlwywyr ddefnyddio mwy o gynnyrch lleol, a fyddai’n helpu i gadw’r cyflenwad a’r galw am gynnyrch o Gymru yng Nghymru, gan fedi’r manteision o gael ein gwasanaeth caffael bwyd cenedlaethol ein hunain.
Yn ail, rwyf am edrych ar yr hyn y gallem ei wneud i drethu’r hyn sy’n ddrwg i ni. Mae’r Ffindir, Ffrainc, Hwngari a Mecsico i gyd wedi dechrau gwneud hyn. Yn Ffrainc, ceir treth ar siwgr a diodydd wedi’u melysu’n artiffisial—yn debyg i’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei argymell mae’n debyg—ac yn y Ffindir, mae treth ar losin, hufen iâ a diodydd meddal eisoes wedi dangos rhai manteision. Ond yn Hwngari, maent wedi mynd hyd yn oed ymhellach. Ers 2011, mae ganddynt dreth iechyd y cyhoedd ar gynnyrch siwgr, diodydd wedi’u melysu, melysion, byrbrydau hallt, pupur a halen ac alcohol â blas. Caiff y diodydd eu trethu os ydynt yn cynnwys mwy nag 8gm o siwgr ym mhob 100ml a chaiff bwyd ei drethu os yw’n cynnwys mwy nag 1gm o halen neu fwy na 275 o galorïau ym mhob 100gm. Mae gwerthiannau cynhyrchion trethadwy wedi gostwng 27 y cant ar gyfartaledd yn y flwyddyn gyntaf, ac mae defnyddwyr naill ai’n dewis cynnyrch rhatach, iachach neu ddewis arall iachach. Ddwy flynedd ers ei gychwyn, gwelodd Sefydliad Iechyd y Byd newid ar draws yr holl grwpiau incwm a grwpiau oedran, ond mwy o newid ymysg pobl iau a grwpiau incwm is. Dair blynedd ers ei gychwyn, mae’r newid yn ôl i fwyta bwyd iach wedi cael ei gynnal ac mae 40 y cant o gynhyrchwyr bwyd Hwngari wedi ailffurfio eu cynnyrch er mwyn osgoi’r dreth.
Mecsico sydd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau yn y byd o glefydau cronig a achosir gan yfed diodydd siwgr—bron dair gwaith y wlad a ddaeth yn ail, De Affrica. Mae yfed gormod o Coca Cola a diodydd ysgafn eraill yn lladd ddwywaith gymaint o Fecsicanwyr â’r fasnach yn y math arall o gôc y mae Mecsico wedi cael enw drwg amdano. Mecsico, mor bell oddi wrth Dduw, ond mor agos at yr Unol Daleithiau. Yn anffodus, yn yr Unol Daleithiau y mae’r rhan fwyaf o’r diwydiant bwyd a diod sy’n tueddu i achosi gordewdra wedi’i leoli ac Americaneiddio byd-eang ein deiet yw prif achos ein gofidiau ac yn sicr felly ym Mecsico. Yn y 14 mlynedd diwethaf, cafwyd gostyngiad o 30 y cant yn y ffrwythau a’r llysiau a fwyteir ym Mecsico, a gostyngodd lefel y ffa a fwyteir i’w hanner, er mai ffa, ynghyd â reis ac ŷd, oedd yn arfer bod yn brif ymborth. Mae treth o 8 y cant ar fwyd sothach nad yw’n hanfodol a threth o 10 y cant ar ddiodydd wedi’u melysu â siwgr wedi cael effaith anhygoel yn ystod y tair blynedd gyntaf. Cafwyd gostyngiad o 5 y cant yn yr eitemau bwyd wedi’u trethu a brynwyd, ond lleihad o 10 y cant ymhlith teuluoedd incwm is—mwy o effaith na threthi tybaco ar y defnydd o dybaco. Roedd yr effaith yn fwyaf dwys ymhlith y tlodion sy’n talu’r pris mwyaf o ran gordewdra a diabetes. Fel yn Hwngari, mae llawer o gwmnïau wedi ailffurfio’u cynhyrchion er mwyn osgoi’r dreth.
Ers hynny mae’r BMJ wedi dweud bod hyn wedi cael effaith anhygoel o ran faint o ddiodydd wedi’u melysu â siwgr a gâi eu hyfed yn y gorffennol. Mae effaith gyffredinol y dreth ar faint o faeth a fwyteir a faint o bwysau a fegir neu a gollir heb gael ei astudio eto. Ond rwy’n credu y gallwn weld eisoes o’r enghreifftiau hyn fod trethi yn newid yr hyn rydym yn ei fwyta ac yn ei yfed ac mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol ein hunain yn galw allan am hyn. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi galw am dreth o 20 y cant ar ddiodydd swigod a diodydd ffrwythau mewn ymgais i fynd i’r afael â’n hargyfwng gordewdra.
Dylai Cymru fod ar flaen y gad o ran datblygu polisïau arloesol yn y maes hwn, a dylai gydnabod y bydd mynd i’r afael â baich clefyd sy’n gysylltiedig â deiet yn galw am gyfres o ymyriadau polisi bwyd, gan gynnwys y defnydd profedig o fesurau economaidd a chymhellion pris. Ni allwn aros am ganlyniad ymchwil Doeth am Iechyd Cymru, sy’n cael ei wneud gan brifysgolion Caerdydd ac Abertawe ar y gydberthynas rhwng iechyd a ffordd o fyw; mae’n rhaid i ni weithredu yn awr.
Diolch i bawb sydd yn cymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma’r prynhawn yma. Rwy’n falch iawn o fod yn un o gydgynigwyr y cynnig yma.
Nid yw’n ormod i ddweud bod gordewdra yn un o heriau iechyd mwyaf ein hoes ni. Mae’r ystadegau dros y 15 mlynedd diwethaf wedi dangos cynnydd clir iawn yn nifer yr oedolion a phlant sydd dros bwysau neu sy’n ordew. Mae hynny ym mhob grŵp oedran, fel rwy’n dweud, sy’n golygu nid yw’r llanw yn ymddangos ar hyn o bryd fel ei fod o’n troi yn yr un ffordd ag y mae yna dystiolaeth ei fod o wedi troi mewn perthynas ag ysmygu ac yfed alcohol, lle mae pobl iau yn llai tebygol o fod yn mabwysiadu ffyrdd o fyw sy’n niweidiol i’w iechyd nhw o’i gymharu â phobl ifanc cenedlaethau blaenorol.
Beth sydd yn ofnadwy o bryderus, rwy’n meddwl, yw bod gordewdra plant i’w weld yn waeth rŵan nag oedd o hyd yn oed ychydig o flynyddoedd yn ôl. Erbyn hyn, rwy’n drist iawn i ddweud bod gan fy etholaeth i, Ynys Môn, yr ystadegau gwaethaf ar gyfer gordewdra plant yng Nghymru, efo ychydig o dan draean o blant pump oed yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu yn ordew. Efallai bod dweud bod hyn yn mynd i achosi problemau yn y dyfodol, yn storio problemau at y dyfodol yn ystrydebol, ond mae hynny, wrth gwrs, yn hollol wir. Felly, mae’n amlwg i mi fod yr angen i fynd i’r afael â’r broblem yma yn gofyn inni gael o leiaf yr un lefel o ymdrech, a’r un lefel o adnoddau ac ymrwymiad, ac y mae mynd i’r afael ag ysmygu wedi’i gael yn fyd-eang dros gyfnod o ddegawdau.
Mewn rhai ffyrdd, mae’r paralelau efo ysmygu yn glir iawn. Mae’r wyddoniaeth y tu ôl i ysmygu wedi bod yn glir ers degawdau, er gwaethaf beth mae un cyn-arweinydd UKIP yn ei feddwl. Ond, wrth gwrs, dim ond yn 2007 y daeth y gwaharddiad mewn mannau cyhoeddus i rym. Mi oedd gan dybaco mawr gymaint o bŵer i gyfyngu, yn gyntaf, ar y ddealltwriaeth o’r wyddoniaeth ac yna wedyn i atal camau i leihau defnydd o gynhyrchion niweidiol. Dim ond drwy drethu yn drwm, gosod gwaharddiadau ar hysbysebu’n gyhoeddus a negeseuon cyson rydym wedi llwyddo i gael cyfraddau ysmygu i lawr. Hyd yn oed wedyn, wrth gwrs, mae’r rhifau yn rhy uchel.
Ond, mewn rhai ffyrdd, mae mynd i’r afael â gordewdra yn mynd i wneud datrys problemau ysmygu neu fynd i’r afael â phroblemau ysmygu i edrych yn hawdd iawn. Er bod pobl yn deall yn glir iawn beth ydy’r peryglon iechyd efo ysmygu, efo gordewdra mae’r sefyllfa yn llawer mwy cymhleth a mwy amwys mewn llawer o ffyrdd. Mae adnabod un math o fwyd i fynd i’r afael â fo, yn y ffordd y cafodd sigaréts eu targedu, yn fwy o broblem. Nid leiaf oherwydd bod cwmnïau a sefydliadau y tu ôl i ambell i gynnyrch wastad yn mynd i ddadlau a’n ‘bombard-io’ ni efo negeseuon, ‘Peidiwch â phigo arnom ni, pigwch arnyn nhw yn y fan yna.’ Ar ben hynny, y gwahaniaeth mawr arall ydy nad ydych yn gallu ymysgu sigaréts yn gymedrol heb iddynt wneud niwed i chi, ond mi fedrwch chi efo llawer o fathau o fwyd. Mae’r mathau hynny o fwyd ddim ond yn dod yn niweidiol pan fydd rhywun yn cael gormodedd ohonynt.
Mae’r NHS hefyd yn ymateb yn wahanol i bobl sydd am roi’r gorau i ysmygu, o’i gymharu â’r rhai sydd am golli pwysau. Mi all pobl, wrth gwrs, gael eu hannog i drio defnyddio ‘willpower’ ar gyfer atal ysmygu, ond mae’r ystadegau’n awgrymu nad yw hynny’n mynd i fod yn llwyddiannus iawn. I rywun sydd eisiau mynd gam ymhellach, mae yna help, wrth gwrs—cynnyrch nicotin, grwpiau cefnogi, ac yn y blaen. Ond, pan mae’n dod at rywun sy’n ordew ac yn awyddus i golli pwysau, nid yw’r un lefel o gymorth ar gael. Y ffordd arferol, i weld, ydy darparu rhywfaint o gyngor dietegol a gobeithio y bydd grym ewyllys, sef ‘willpower’, yn ddigon, er gwaethaf y ffaith bod temtasiynau o fwyd afiach ym mhob man o’n cwmpas ni. Dim ond pan fydd y problemau’n parhau y bydd claf yn cael ei gyfeirio, o bosibl, at driniaethau mwy dwys.
Tra bo Llywodraethau wedi cymryd camau i wneud y dewis i beidio ag ysmygu yn haws ac wedi atal rhai ffactorau amgylcheddol, pan mae’n dod i ordewdra, mae rhywun yn cael y teimlad weithiau bod Llywodraethau yn dal i wneud penderfyniadau sy’n annog rhywun i beidio â bod yn iach—yn dal i gynllunio dinasoedd o gwmpas y car yn hytrach na theithio llesol, ac yn y blaen. Weithiau, nid yw hyd yn oed yn hawdd cael gafael ar wybodaeth am ddeietau iach.
Felly, mae’n glir i fi, i gloi, y bydd yr ymdrechion i fynd i’r afael â gordewdra angen ymateb llywodraethol o bosibl hyd yn oed yn fwy na’r hyn a ddigwyddodd efo tybaco. Mae angen i holl adrannau’r Llywodraeth fod yn barod i ymrwymo i hyn yn y tymor hir a rhoi egni go iawn i mewn i gael Cymru mewn i siâp a chael cenedl sy’n ffit ac yn iach, achos rwy’n ofni nad ydym ni’n ffit ac yn iach ar hyn o bryd.
Fel y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein hatgoffa yn ‘Gwneud Gwahaniaeth’, eu meysydd polisi â blaenoriaeth ar gyfer creu Cymru iach, mae dros hanner oedolion Cymru ac oddeutu chwarter plant Cymru yn cario gormod o bwysau neu’n ordew, gyda phroblemau penodol mewn cymunedau difreintiedig, fel fy un i yn Rhondda Cynon Taf, lle y mae’r ffigur yn 63 y cant o oedolion. Os yw nifer y bobl sy’n cario gormod o bwysau neu’n ordew yn parhau i gynyddu ar y gyfradd bresennol, erbyn 2050 bydd yn costio £465 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru, gyda chost i gymdeithas a’r economi o £2.4 biliwn.
Yn gysylltiedig â hyn ceir heriau clir mewn perthynas â lefelau gweithgarwch corfforol. Mae yna lawer o oedolion nad ydynt yn gwneud y lefelau wythnosol a argymhellir o weithgarwch corfforol, gyda dim ond un o bob tri phlentyn yn cyrraedd y lefelau a argymhellir. Yn wyneb y ffeithiau moel hyn, rwy’n hapus i gefnogi’r cynnig hwn heddiw, yn ein herio i ddatblygu atebion sy’n datrys yr hyn a ddisgrifiwyd fel epidemig o ordewdra ac yn galw ar bob un ohonom i ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael i ni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith. Mae’r ymgyrch Newid am Oes yn hyrwyddo cyngor ar fwyta’n iach, ac mae disgwyl i ysgolion hyrwyddo dewisiadau bwyd iach. Mae polisïau fel nofio am ddim yn hyrwyddo mynediad i gyfleoedd ymarfer, ac roeddwn yn falch o gyfarfod Cerddwyr Cymru yn ddiweddar i siarad am y fenter a noddir gan Lywodraeth Cymru, Dewch i Gerdded, sy’n dathlu manteision 30 munud yn unig o gerdded y dydd o ran gwella iechyd. Bydd mentrau eraill, fel Plant Iach Cymru, yn dwyn ffrwyth yn y blynyddoedd i ddod.
Ymyriadau’n ymwneud â gordewdra ymysg plant yw un o gonglfeini dull bwrdd iechyd Cwm Taf o weithredu. Mae’r grŵp llywio ar ordewdra ymhlith plant yn dod â’r bwrdd iechyd a phartneriaid megis Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a Cymunedau yn Gyntaf at ei gilydd i ddatblygu a gwella gwasanaethau. Mae’r gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn yn cynnwys datblygu canllawiau ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar i sicrhau eu bod yn cynnwys gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar faeth a gweithgarwch corfforol, ymarfer mapio i bennu’r angen am hyfforddiant, ac adroddiad ymchwil a oedd yn ystyried ymgysylltiad effeithiol teuluoedd mewn rhaglenni rheoli pwysau wedi’u targedu ar gyfer plant a theuluoedd. Yn yr un modd, menter arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw cynllun Ysgolion Iach Cwm Taf. Mae’n pontio iechyd ac addysg i hybu iechyd da yn gyfannol mewn lleoliadau ysgol, gan ddefnyddio ymyriadau fel coginio yn yr ystafell ddosbarth. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n ymuno â mi i longyfarch Ysgol Gynradd Glen-boi yn fy etholaeth, a gwblhaodd gam 4 y rhaglen ddoe.
Mae dull Cwm Taf hefyd yn cynnwys elfen gynenedigol. Mae cyfradd gordewdra mewn menywod beichiog yng Nghwm Taf oddeutu 33 y cant, a chan fod hwn yn ddangosydd allweddol o dan y strategaeth mamolaeth ar gyfer Cymru gyfan, mae’r bwrdd iechyd wedi datblygu ymateb priodol. Gan ddechrau yn 2015, mae Bump Start yn wasanaeth cynenedigol arbenigol i helpu menywod sydd â BMI o 35 neu drosodd i gyfyngu ar faint o bwysau y maent yn ei fagu yn ystod beichiogrwydd i lefelau sy’n iach. Mae apwyntiadau ac ymweliadau cynenedigol arferol yn cynnwys ymgynghoriadau gyda’r fydwraig iechyd y cyhoedd a deietegydd arbenigol. Yn ei flwyddyn weithredol gyntaf, mae’r cynllun wedi cael adborth da iawn. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o hyd. Yn allweddol, mae bwyd afiach yn parhau i fod yn rhad ac yn hawdd cael gafael arno, pwynt a gafodd ei gyfleu’n gadarn pan gasglodd y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, yr wyf yn aelod ohono, dystiolaeth arbenigol ar ordewdra ymlith plant.
Rwy’n gwybod nad fi yw’r unig un sy’n siomedig fod Llywodraeth y DU wedi glastwreiddio’r cynigion a ddisgwyliwyd yn ei chynllun gweithredu ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant, yn enwedig mewn perthynas â siwgr ac ar hysbysebu bwydydd afiach. Rwy’n falch fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i bwysleisio’r achos dros weithredu llymach, a’u bod hefyd wedi cofnodi unwaith eto eu hymrwymiad i ddefnyddio’r pwerau sydd wedi’u datganoli.
Yn olaf, rwyf am ddychwelyd at thema arall y credaf ei bod yn cynnig ateb i fynd i’r afael â’r argyfwng y mae’r cynnig hwn yn ei ystyried. Bydd yr Aelodau’n gwybod fy mod wedi cyfeirio o’r blaen at anhwylder diffyg natur, lle y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ystyried bod eu cysylltiad â’r byd naturiol yn wannach na’u cyfoedion yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu hyd yn oed Llundain. Mae gan fentrau fel ysgol feithrin natur gyntaf Cymru yn fy etholaeth i, ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, rôl adferol i’w chwarae, ond mae angen i ni sicrhau newid sylweddol i annog ein plant i fynd allan i’r awyr agored. Bydd gwneud hynny’n eu galluogi i gymryd rhan yn yr ymarfer corff sy’n gallu mynd i’r afael â gordewdra a meithrin arferion gweithgarwch gydol oes a fydd yn arwain at fywydau iachach.
Rwy’n falch iawn i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar bwnc dyrys iawn, ac mae’n bwysig i ni nid jest sôn amdano fe, ond ceisio mynd i’r afael ag o. Efallai fy mod wedi sôn wrth basio rhai troeon o’r blaen fy mod i, mewn bywyd arall, yn feddyg, ond hefyd, yn naturiol, wedi bod yn ymdrin efo’r problemau sy’n deillio o ordewdra dros y blynyddoedd. Ac ie, cyfuniad, fel rydym ni wedi clywed eisoes, o fwyta’n iach—er haws dweud na gwneud yw hynny hefyd, hefyd, ac rydw i’n cytuno efo hynny. Mae’n anodd iawn, weithiau, cael gafael mewn bwyd iach. Os ydych chi’n ceisio mynd i siopa mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn ein dinasoedd mawrion ni, mae’n anodd iawn ffeindio bwyd iach mewn siop sy’n dweud ei bod hi’n gwerthu bwyd. Mae’n anodd iawn. Mae eisiau mynd i’r afael efo hynny. Yn naturiol, mae yna elfen o drio ailddiffinio beth yw maint platiad go iawn—‘portion size’—er enghraifft. Mae hynny wedi cynyddu’n raddol dros y blynyddoedd. Hefyd, wrth gwrs, yng nghanol hyn i gyd mae eisiau pwysleisio pwysigrwydd bwydo o’r fron i’n babanod ni i roi dechrau cyson cyn belled ag y gallwn ni, a hyrwyddo bwydo o’r fron i roi dechrau cadarn mewn bywyd. Hefyd, mae yna ymchwil sy’n dangos bod hynny’n lleihau graddfeydd gordewdra.
Roeddwn yn mynd i sôn hefyd am y cyfuniad o beth rydych yn ei fwyta a pha mor ffit ydych chi. Faint rydych yn symud o gwmpas y lle ydy’r peth. Mae’r diet ychydig bach yn bwysicach na lefel ein ffitrwydd ni, ond nad anghofier pwysigrwydd lefel ffitrwydd personol hefyd. Does dim eisiau mynd i eithafion a phethau eithafol fel mynnu cael y wisg gyntefig ddiweddaraf i fynd i’r gampfa. Mae dim ond cerdded 10,000 o gamau'r dydd yn gwneud y tro, ynghyd â hepgor defnyddio lifftiau ac ati. Cerdded i bob man cyn belled ag sy’n bosibl—ac rydym wedi clywed Vikki efo hanesion y Ramblers ac ati—ie, hyrwyddo cerdded naturiol. Roeddem ni’n arfer ei wneud yn llawer mwy cyffredin nag ydym y dyddiau yma. Ond o fod jest ychydig bach yn fwy ffit o ganlyniad i’r holl gerdded yna, rydych yn gweld gostyngiad o 30 y cant yn lefel eich siwgr, fel rwyf wedi dweud o'r blaen fan hyn, gostyngiad o ryw 30 y cant yn lefel y colesterol yn y gwaed, gostyngiad o ryw 30 y cant yn eich pwysau gwaed a hefyd rydych yn colli pwysau yn naturiol. Pe bawn i’n datblygu tabled sy’n gallu dod â’r atebion yna i ni, fe fyddem i gyd yn pwyso y dylem ni gyd fod yn rhagnodi'r dabled yna yfory. Ond, wrth gwrs, ffitrwydd naturiol sy’n dod â’r gostyngiadau yna yn y lefelau siwgr, colesterol a phwysau gwaed. Mae’n rhaid i ni gael y wybodaeth yna allan yna fel bod pobl yn gallu gwneud dewisiadau amgen.
Yn yr amser sydd ar ôl, roeddwn jest yn mynd i bwysleisio—yn ogystal â’r holl addysg yma—bwysigrwydd deddfu yn y maes. Fel yr oedd Rhun wedi crybwyll eisoes, roeddem wedi bod wrthi’n rhannu’r wybodaeth am sgil-effeithiau drwg a thrychinebus ysmygu am flynyddoedd maith, ac eto roedd lefelau ysmygu yng Nghymru yn dal yn ystyfnig o uchel, yn rhedeg ar rywbeth fel 32 y cant tan y flwyddyn 2000. Beth sydd wedi newid ydy ein bod ni wedi deddfu i wahardd ysmygu mewn adeiladau cyhoeddus, ac mae hynny wedi gwyrdroi sut mae cymdeithas yn meddwl am ysmygu. Mae deddfu weithiau yn gallu arwain y gad ac yn gallu newid y ffordd mae cymdeithas yn meddwl am rhywbeth. Yn ogystal â’r holl addysgu sy’n mynd ymlaen, rwy’n credu bod angen deddfu, felly, yn y maes yma hefyd. Mae angen treth ar siwgr, mae angen deddfu i gael isafswm pris ar alcohol ac mae angen deddfu i gael gwared â rhai pethau fel ‘trans fats’ o’n bwydydd sydd wedi’u prosesu. Felly, mae yna rôl i ddeddfu, fel mae’r cynnig yma yn ei ddweud. Ond hefyd, mae fel petai’r cwmnïau bwyd a diod mawr, fel yr oedd Rhun yn ei ddweud, yn bihafio fel y cwmnïau tybaco, yn trio tanseilio pob neges sy’n trio gwneud rhywbeth penderfynol ynglŷn â threth y siwgr, neu isafswm pris alcohol. Rydym wedi gweld y problemau yna mewn gwledydd eraill, megis yr Alban. Efo Bil Cymru sydd ar y ffordd yma, mae yna berygl y byddwn ni’n colli’r hawl. Mae gennym yr hawl ar hyn o bryd i bennu isafswm pris alcohol, ond ddim am yn rhy hir os bydd Bil Cymru yn dod i weithrediad fel y disgwylir iddo wneud. Os nad ydym yn gallu cael rhyw ddeddfwriaeth newydd i fewn cyn gorffen y cyfnod cyntaf o unrhyw Fesur newydd cyn Ebrill 2018, mae angen gweithredu ar fyrder weithiau, a dyna pam rwy’n croesawu pwysigrwydd y ddadl yma, ond hefyd pwysigrwydd gweithredu a deddfu. Diolch yn fawr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n meddwl bod yr heriau’n gwbl glir, fel rydym wedi clywed gan eraill, ac maent wedi bod yn amlwg ers peth amser, ond nid oes unrhyw amheuaeth y dônt yn fwyfwy amlwg oherwydd y gymdeithas sy’n heneiddio sydd gennym, oherwydd y pwysau y mae hynny’n ei roi ar y gwasanaeth iechyd. Rydym wedi siarad ers peth amser, onid ydym, ynglŷn â cheisio bod yn fwy ataliol o ran y gwasanaeth iechyd: edrych ar benderfynyddion ehangach iechyd ac afiechyd a cheisio achub y blaen yn hytrach na bod yn adweithiol yn bennaf. Felly, rwy’n meddwl bod y ddadl hon yn rhan o’r ddeialog honno, ddirprwy Lywydd, sydd wedi bod ar y gweill ers peth amser ac mae’n anochel y bydd yn cryfhau oherwydd yr her sy’n ein hwynebu. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cael enghreifftiau lleol da a chryf, gobeithio, yng Nghymru o’r hyn y gellir ei wneud i oresgyn yr heriau hynny. Rwyf wedi crybwyll o’r blaen, ac rwy’n falch iawn o sôn unwaith eto, ein bod wedi bod yn cynnal uwchgynadleddau gweithgarwch corfforol yng Nghasnewydd ers peth amser i ddod â phartneriaid allweddol at ei gilydd: iechyd y cyhoedd, bwrdd iechyd Aneurin Bevan, Cyngor Dinas Casnewydd, Casnewydd Fyw, sef yr ymddiriedolaeth gwasanaethau hamdden, Cartrefi Dinas Casnewydd fel cymdeithas dai a gymerodd y trosglwyddiad o stoc dai llywodraeth leol, sefydliadau chwaraeon megis Dreigiau Gwent Casnewydd, Clwb Pêl-droed Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru—mae yna restr hir, Ddirprwy Lywydd—ac rydym wedi dod at ein gilydd i edrych ar yr heriau hyn ac i geisio gwneud cynnydd yn lleol.
Felly, rwy’n falch o ddweud ein bod bellach wedi cyrraedd y cam lle y mae’r sefydliadau i gyd wedi ymrwymo diwrnod y mis o amser y staff i symud yr agenda yn ei blaen. Rydym wedi adeiladu partneriaeth fwyfwy cryf a gweithgar. Rydym yn edrych ar bob math o faterion, gan gynnwys sut y mae’r Ddeddf teithio llesol yn cael ei gweithredu’n effeithiol yng Nghasnewydd. Rydym wedi cryfhau’r parkrun. Fe wnes i’r parkrun yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd wythnos neu ddwy yn ôl, ac mae’r egni yno’n wirioneddol aruthrol; cannoedd o bobl am 9 o’r gloch ar fore Sadwrn yn gwneud y parkrun, yn ei fwynhau, yn cymdeithasu wedyn, yn siarad am beth arall y maent am ei wneud i gadw’n weithgar, yn heini ac yn iach. Yn awr fe fydd—nid yw wedi’i sefydlu eto—parkrun canol y ddinas yn cael ei gynnal ar hyd glan yr afon yng Nghasnewydd i adeiladu ar y diddordeb sy’n cael ei greu.
Trwy hyn oll, Ddirprwy Lywydd, rydym hefyd yn edrych ar agweddau eraill megis bwyta’n iach, gan gysylltu â rhwydweithiau bwyta’n iach mewn ysgolion, a bydd prosiectau penodol yn dod ynghyd yn rhan o hyn i fynd i’r afael â’r materion hynny mewn ysgolion. Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn yn datblygu llythrennedd corfforol yn ein hysgolion, oherwydd un peth rwy’n meddwl mai un peth y mae bron bawb yn gytûn yn ei gylch yw hyn: os gallwch sefydlu a sefydlu arferion da yn ein pobl ifanc mor gynnar â phosibl, mae’n debygol iawn y bydd yr arferion da hynny’n aros gyda hwy drwy gydol eu bywydau ac er budd y gwasanaeth iechyd a Chymru’n gyffredinol. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr fod yr adroddiad a wnaeth Tanni Grey-Thompson ar lythrennedd corfforol yn cael ei ddatblygu ar ryw ffurf neu’i gilydd drwy’r diwygiadau cwricwlaidd rydym ar fin eu gweld, a’i fod yn gwbl ganolog i fywyd yn ein hysgolion.
Yr hyn y byddwn yn ei ofyn hefyd, Ddirprwy Lywydd, yw bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod lle y caiff cynnydd ei wneud yn lleol, fel y mae yng Nghasnewydd, a’i bod yn edrych arno’n fanwl ac arferion da’n cael eu lledaenu, a hefyd fel bod modd cael rhywfaint o gymorth. Yn y gorffennol, roedd rhywfaint o drafod ynglŷn â chynlluniau peilot posibl lle roedd prosiectau lleol yn mynd i’r afael â’r heriau hyn o wneud mwy o ymarfer corff a phoblogaeth leol iachach, ac yna efallai y byddai rhywfaint o gymorth gan Lywodraeth Cymru i’w gryfhau, ei strwythuro a’i symud ymlaen yn fwy effeithiol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd hynny’n digwydd, ond beth bynnag sy’n digwydd, rwy’n credu ein bod wedi cyrraedd y pwynt yng Nghasnewydd, lle y mae digon o gefnogaeth a digon o egni, syniadau ac ymrwymiad i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud rhywbeth pwysig a gwerthfawr i’n poblogaeth leol.
Diolch i’r pump Aelod a restrwyd am gyflwyno’r ddadl heddiw. Mae yna ystod o faterion dan ystyriaeth yma, gormod i roi sylw iddynt mewn un cyfraniad, felly fe ganolbwyntiaf ar y materion sy’n ymwneud â gordewdra a gweithgarwch corfforol, gyda theithio llesol yn rhan o hynny.
Nid yw lefelau cyfranogiad mewn teithio llesol wedi dangos gwelliant, yn anffodus, ers pasio’r Ddeddf teithio llesol, ac mae’r elusen annibynnol Strydoedd Byw yn dweud ein bod yn dal i ymdrin â dirywiad yn y niferoedd sy’n cerdded i’r ysgol wrth i fwy a mwy o rieni yrru yn lle cerdded pellteroedd sy’n weddol fyr weithiau. Mae angen i ni wneud mwy i hybu cerdded i’r ysgol. Nodaf fod yna raglen wedi bod; gallwn gynnig rhyw fath o anogaeth ariannol i ysgolion gymryd rhan mewn grwpiau cerdded wedi’u trefnu? Hefyd, mae’r mater a grybwyllodd Vikki yn gyntaf oll yn ei dadl fer a wnaeth ychydig wythnosau yn ôl ynglŷn â gweithgareddau awyr agored. Dyna beth arall y gall ysgolion fynd ati i’w hyrwyddo, a fyddai, rwy’n siwr, yn cael effaith fuddiol, ond a all y Llywodraeth gael unrhyw effaith ar y math hwn o beth yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion, yn enwedig ysgolion cynradd, oherwydd mae angen i ni eu dechrau’n gynnar? A allwn roi mwy o gefnogaeth i awdurdodau lleol ar gyllido canolfannau hamdden, o gofio ein bod yn awr yn wynebu’r posibilrwydd o gontractau allanol, a allai arwain at godi ffioedd mynediad? Rwy’n sylweddoli mai materion i awdurdodau lleol yw’r rhain mewn gwirionedd, ond efallai y gallem wneud rhywbeth fel Llywodraeth—wel, nid wyf fi yn y Llywodraeth—fel Cynulliad, mae’n ddrwg gennyf, i fonitro hyn, o leiaf, ac efallai i roi rhyw fath o gymorth i awdurdodau lleol wrth iddynt roi cymhorthdal i ganolfannau hamdden, o gofio yn y pen draw y gallem fod yn talu cryn dipyn yn fwy ar ffurf costau’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru os nad ydym yn gwneud hyn yn awr.
O ran pobl hŷn, ceir mater clybiau bowlio, sef eu hunig weithgaredd hamdden yn eithaf aml. Cawsom achos yn ddiweddar lle roedd clwb bowlio poblogaidd yn nwyrain Caerdydd yn mynd i gael ei gau. Unwaith eto, penderfyniad i awdurdod lleol yw rhoi cymhorthdal i’r clybiau hyn neu beidio ond gallem fabwysiadu rôl fwy gweithredol, yn y Cynulliad, a hyrwyddo’r mathau hyn o weithgareddau i bobl hŷn—yn yr un modd, pethau fel clybiau cerdded Nordig, a gawsom.
O ran teithio llesol, rwy’n meddwl bod gennym broblem yn yr ystyr fod gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd bellach, ond nid yw’n ymddangos bod yna unrhyw beth sy’n cysylltu’r ddwy ddeddfwriaeth. Er enghraifft, nid oes dangosydd teithio llesol yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n gallu dwyn byrddau gwasanaethau cyhoeddus neu gynghorau i gyfrif am eu darpariaeth deithio llesol. Mae hyn hefyd yn effeithio ar system metro de Cymru gan fod pryderon wedi cael eu mynegi, yn y bwrdd teithio llesol, am y gofynion ar gyfer teithio llesol ac a ddarperir ar eu cyfer pan gawn y metro. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gosod y sgoriau ar gyfer caffael a gallai a dylai hyn gynnwys safonau i gynyddu teithio llesol i ac o orsafoedd. Rwy’n sylweddoli bod angen i ni ddarparu metro de Cymru—dyna’r flaenoriaeth—ond a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth i sicrhau, pan fyddwn yn cael y metro, y bydd yn cynnwys darpariaeth dda ar gyfer teithio llesol mewn gwirionedd? Diolch.
Hoffwn ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cyflwyno’r ddadl oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn fater hollbwysig. Mae siaradwyr blaenorol wedi disgrifio’r sefyllfa yng Nghymru, sy’n amlwg yn fater o bryder mawr. Mae’n amlwg fod angen gwella arferion bwyta ac arferion ymarfer corff—clywsom yr ystadegau am hynny heddiw.
Rwy’n falch iawn fod gennym Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a’i bod wedi cael ei phasio—Deddf unigryw gan y Llywodraeth hon yng Nghymru—ac rwy’n credu bod yn rhaid i ni sicrhau pob cyfle i’w defnyddio i’w llawn botensial. Er enghraifft, gwn ein bod yn ymgynghori ar y llwybrau cerdded a beicio lleol y mae’r cymunedau eu hunain yn teimlo y dylid eu blaenoriaethu. Rydym wedi cael ymateb da yng Nghaerdydd, rwy’n credu bod gennym oddeutu 200 o bobl yn rhoi eu mewnbwn hyd yn hyn, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni wneud rhagor. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod mwy o bobl yng Nghaerdydd a ledled Cymru’n cyfleu’r neges y gallwn ddatblygu llwybrau cerdded a beicio diogel, a chredaf fod hynny’n bwysig iawn i annog pobl i ddod yn heini ac i adael eu ceir gartref, ac mae gennym y ddeddfwriaeth honno yno yn awr ar hyn o bryd. Rwy’n credu ein bod wedi cael enghreifftiau da ledled Cymru ac mae gennym sefydliadau gwych fel Strydoedd Byw a Sustrans, sy’n gweithio’n galed ar y materion hyn. Gwn fod Sustrans hefyd yn ystyried targedu mamau ifanc a mamau beichiog yn benodol—ac rwy’n meddwl bod Dai Lloyd wedi sôn am hyn yn ei gyfraniad—oherwydd mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai’r effaith fwyaf ar ba un a yw pobl yn mabwysiadu arferion cerdded a beicio yw pa un a oedd eu rhieni’n teithio’n llesol, fel bod yr esiampl yno.
Yn amlwg ni allwn ennill y frwydr yn erbyn gordewdra yn syml drwy hyrwyddo teithio llesol, er fy mod yn meddwl bod yna gyfleoedd gwych yno. Mae newid arferion bwyta’n anodd iawn, ond rwy’n credu ei fod yn dechrau ar y cychwyn un ac roeddwn yn falch fod Dai Lloyd wedi crybwyll bwydo ar y fron—mynegais fy mhryder nad oedd hynny yn adroddiad y prif swyddog meddygol ar iechyd yr wythnos ddiwethaf. Ond rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn pryderu ynglŷn â hyrwyddo bwydo ar y fron, ond rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wthio’n galed eto. Mae’n bwysig iawn, fel y crybwyllodd Vikki Howells—pwysigrwydd cymorth cynenedigol a gweithio gyda mamau. Ond mae’n anodd iawn newid arferion bwyta, yn enwedig gydag oedolion. Ni waeth sawl ymgyrch iechyd y cyhoedd a gynhaliwn, mae bwyd yn dal yn gyfystyr â chysur i lawer o bobl a hefyd, rwy’n credu mai un o’r pwyntiau pwysicaf yw bod tlodi’n effeithio ar arferion bwyta, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth rwyf am ddweud ychydig amdano yn awr.
Mae’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant newydd gyhoeddi llyfr o’r enw ‘Gwella Cyfleoedd Bywyd Plant’, sy’n dangos, ymhlith merched a bechgyn rhwng 2 a 15 oed, fod yna fwy o ordewdra a chario gormod o bwysau ymhlith y 40 y cant o blant o grwpiau incwm is. Ac rydym yn gwybod hynny. Rydym yn gwybod, drwy waith ar anghydraddoldebau iechyd, mai’r teuluoedd tlotach sy’n fwy tebygol o gario gormod o bwysau.
Dengys ymchwil fod bwydydd sy’n llawn maeth fesul calori yn ddrutach. Mae data o arolwg deiet a maeth cenedlaethol 2008-12 yn dangos bod y grŵp incwm isaf yn gyffredinol yn bwyta llai o brotein, llai o haearn, llai o ffrwythau a llysiau, llai o fitamin C, llai o galsiwm a llai o bysgod olewog. Ac un o’r rhesymau am hynny yw bod cig heb lawer o fraster, ffrwythau ffres, llysiau a physgod yn anodd ac yn ffurfiau drud ar galorïau. Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn gwybod bod y bwyd hwnnw’n ddrutach. Felly, mae’n gwneud synnwyr, pan fydd incwm yn uwch, eich bod yn gallu fforddio bwyd o ansawdd gwell, a dyna pam y mae effeithiau toriadau caledi a budd-daliadau mor niweidiol—am eu bod yn effeithio ar yr hyn y mae pobl yn gallu ei fwyta.
Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn yng nghyd-destun cyffredinol bywydau pobl ac rwy’n credu bod tlodi’n effeithio’n fawr ar yr hyn y gallwn ei wneud. Nid yw rhai o’r dulliau mewn perthynas â thlodi yn ein dwylo yn y Cynulliad hwn, ond rwy’n credu bod gennym ddulliau yma y gallwn ac y dylem eu defnyddio. Mae pobl wedi sôn llawer am y dulliau hynny heddiw, ond rwy’n meddwl ei fod yn dechrau gyda’r bwyd cyntaf a gewch—neu y gobeithiwn y byddwch yn ei gael—sef llaeth y fron. Mae’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol yn hanfodol bwysig o ran bwyta’n iach a chafwyd llawer o awgrymiadau yma heddiw, a’r mater ymarfer corff y gwyddom y gallwn ei hyrwyddo drwy’r Ddeddf teithio llesol. Rwy’n credu bod gennym lawer o ddulliau yma yn y Cynulliad i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn.
Hoffwn wneud rhai sylwadau cryno mewn ymateb i rai o’r areithiau yma y prynhawn yma. Hoffwn gefnogi’r hyn a ddywedodd John Griffiths am botensial y parkrun yn frwd. Yn ddiweddar, cymerais ran yn y parkrun newydd ar arfordir Llanelli, a oedd yn brofiad gwych. Bob tro rwyf wedi cymryd rhan yn y parkrun, fel rhywun nad yw’n rhedwr naturiol, rwyf bob amser yn cael fy llenwi â brwdfrydedd gan gefnogaeth y gwirfoddolwyr sy’n eich annog i ddal ati. I’r rhan fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan yn y parkrun, oni bai am y gweithgaredd hwnnw, ni fyddent yn gwneud dim am 9 o’r gloch ar fore Sadwrn. Am y £6,000 o fuddsoddiad sydd ei angen i’w gweithredu, rwy’n meddwl eu bod yn gwbl amlwg yn fuddsoddiad iechyd y cyhoedd gwerth chweil, ac rwy’n falch o’u gweld yn ffynnu ar draws y wlad.
Roeddwn eisiau siarad yn benodol am yr elfen o’r cynnig sy’n ymwneud â photensial dihysbydd y Ddeddf teithio llesol, a chredaf ei bod ychydig yn llym o bosibl, o ystyried mai newydd gael ei rhoi mewn grym y mae’r Ddeddf, ond rwy’n credu ei bod yn gywir nodi na allwn weld hwn fel ymarfer ticio blychau’n unig ac ni allwn ei weithredu rywsut-rywsut. Dyma gyfle enfawr i geisio cael pobl nad ydynt yn gwneud fawr ddim gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd i wneud hynny. Mae yna ddigon o dystiolaeth i ddangos mai’r ffordd i gael pobl sy’n segur yn gorfforol i wneud rhywfaint o weithgarwch corfforol yw ei wneud yn rhan o’u trefn bob dydd, ac mae disgwyl iddynt fynd i ganolfannau hamdden neu gampfeydd yn debygol o fod yn aneffeithiol. Felly, dyma gyfle enfawr i gyrraedd rhan o’r boblogaeth sydd fwyaf o angen i ni estyn allan ati.
Rwy’n credu ein bod yn dioddef weithiau yn y Siambr hon o’r hyn a elwir yn ‘anghysondeb gwybyddol’ pan fyddwn yn dweud un peth, ond yn gwneud rhywbeth arall. O ran iechyd y cyhoedd, rydym yn siarad yn frwdfrydig am werth teithio llesol a gweithgarwch corfforol, ac eto, pan fyddwn yn sôn am strategaeth economaidd, er enghraifft, neu os ydym yn siarad am faterion trafnidiaeth, rydym yn rhoi hynny i’r naill ochr, ac rydym fel pe baem yn meddwl mai cyfrifoldeb y proffesiwn iechyd yw gweithgarwch corfforol. Pan fyddwn yn gwneud gweithgareddau eraill, nid ydym yn meddwl sut y gellir defnyddio’r tasgau hynny i gyflawni’r lefelau cynyddol o weithgarwch corfforol sydd angen i ni eu gweld. Felly, er enghraifft, i ddychwelyd at thema rwyf wedi siarad amdani’n ddiweddar—annog parcio am ddim yng nghanol trefi. Dylem fod yn annog canol trefi a threfi sy’n gwneud beicio a cherdded yn hawdd, a defnyddio buddsoddiad cyhoeddus prin i adeiladu rhwydweithiau i annog pobl i wneud y teithiau dyddiol byr hynny. Mae tua 20 y cant o deithiau car yn llai na milltir. Gellid cerdded a beicio yn lle defnyddio car ar lawer o’r teithiau hyn.
Er enghraifft, yn fy nhref i, sef Llanelli, cafwyd argymhelliad ar gyfer rhwydwaith beicio trefol i gysylltu pobl â’r cyrchfannau pob dydd y byddant eisiau eu cyrraedd. Ond yn anffodus, mae’r cyngor sir—cyn dyddiau teithio llesol, ond mae’r cynlluniau hynny bellach ar y gweill—yn canolbwyntio eu buddsoddiad ar lwybrau pellter hwy a llwybrau twristiaeth, ac nid ar lwybrau bob dydd. Yn hytrach na sefydlu polisïau sy’n mynd i annog ffyrdd o fyw llonydd, megis meysydd parcio rhad ac am ddim, mae gwirioneddol angen i ni achub ar bob cyfle i gynnwys gweithgarwch corfforol ym mhob un o’n cynlluniau.
Nodaf yn ddiweddar fod cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi strategaeth feicio uchelgeisiol ar gyfer y ddinas, ac mae gwir angen i ni ei chefnogi a’i hyrwyddo. Gwn eu bod wedi bod yn cael trafferth o fewn y dinas-ranbarth, er enghraifft. Mae’r cytundeb dinas, sy’n dal yn frith o feddwl uniongred a hen-ffasiwn iawn, lle y mae awdurdodau lleol ar hyd a lled y Cymoedd yn gweld cyfle am gyllid ac yn chwythu’r llwch oddi ar gynlluniau ffyrdd sydd wedi bod ganddynt ar y silffoedd ers 30 a 40 mlynedd mewn rhai achosion. Mae Caerdydd, i fod yn deg â hwy, yn dangos gwir arweiniad yn adeiladu ar yr enillion a welsom yn y 10 mlynedd diwethaf yn y ddinas o ran lefelau uwch o feicio, ac maent wedi llunio cynllun uchelgeisiol. Ond rwy’n gwybod eu bod wedi cael anhawster yn y dinas-ranbarth i gael cymorth ar gyfer hynny. Rwy’n falch, yn achos dinas-ranbarth bae Abertawe, nad yw gweledigaeth Terry Matthews wedi ymwneud â ffyrdd a pharciau menter—mae wedi ymwneud â chysylltedd digidol. Rwy’n credu mai dyna’r meddylfryd sy’n rhaid i ni ei gofleidio.
Mae’r Ddeddf teithio llesol, fel y crybwyllwyd, yn rhoi gwobr enfawr bosibl o fewn ein gafael. Ond ni ellir ei hystyried yn syml fel dyletswydd y mae’n rhaid i ni ei chyflawni. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei gofleidio’n frwdfrydig. Mae’n rhaid i ni wthio—pob un ohonom yn ein rolau arweiniol yn ein cymunedau—i gael pobl i fwydo’r llwybrau posibl y byddent yn hoffi eu gweld i mewn yn rhan o’r mapiau rhwydwaith integredig, er mwyn cael y teithiau bob dydd hynny yn y cynlluniau fel mai dyna a gaiff ei ddarparu’n gyntaf. Mae’n wobr enfawr, a dim ond camau gweithredu o’r fath sy’n mynd i drechu gordewdra. Felly, mae gwir angen i ni roi’r gorau i’r anghysondeb gwybyddol, ac archwilio pob cyfle i gynnwys cynnydd mewn gweithgarwch corfforol yn ein holl raglenni. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.
Rwy’n ddiolchgar iawn i Jenny Rathbone, Rhun ap Iorwerth, Vikki Howells, Angela Burns a Dai Lloyd am ddewis canolbwyntio ar faterion iechyd y cyhoedd pwysig yn y ddadl i Aelodau unigol a gyflwynwyd ganddynt y prynhawn yma, ac mae ei hysbryd yn gyson â’n hymrwymiad i gynorthwyo pobl i fod yn iach ac yn weithgar. Rwy’n croesawu’n fawr yr holl gyfraniadau meddylgar a wnaed. Er ein bod yn sicr yn gwneud llawer iawn i greu’r amgylchiadau a’r amodau cywir i bobl wneud dewisiadau iach ac egnïol, rhaid i ni gydnabod hefyd na all y Llywodraeth ei wneud ar ei phen ei hun. Os ydym am wireddu gweledigaeth y Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, mae angen dull cymdeithas gyfan o weithredu i sicrhau cymaint ag y bo modd o les corfforol a meddyliol heddiw, ac i sicrhau ein bod yn deall patrymau ymddygiad sy’n fuddiol i iechyd yfory a’n bod yn gweithredu arnynt.
Mae hon yn agenda heriol. Mae lefelau gordewdra mewn oedolion wedi codi’n araf ers i’r arolwg iechyd Cymru cyntaf ddechrau yn 2003, ac er bod lefelau mewn plant yn awr yn sefydlog, maent yn dal i fod yn annerbyniol o uchel. Rydym yn gwybod bod lefelau’n cynyddu gydag amddifadedd, felly mae yna achos cryf dros weithredu er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Rydym am gynorthwyo’r cyhoedd i wneud dewisiadau iachach. Yn ddiweddar, lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu hymgyrch 10 Cam at Bwysau Iach i gefnogi hyn, ac mae’n cynnwys ffocws ar fwydo ar y fron. Mae hyn yn ategu ein rhaglen Newid am Oes a’n gwaith ymgyrchu arall. Mae ein rhaglen Plant Iach Cymru yn canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar, ar sail y dystiolaeth fod cario pwysau iach yn y blynyddoedd cynnar yn effeithio’n hirdymor ar lefelau gordewdra ac iechyd pan fyddant yn oedolion.
Mae rhyngweithiadau â’r gwasanaeth iechyd yn aml yn adegau amserol pan fo unigolion yn barod i dderbyn cyngor ar ffordd o fyw. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu eu dull sy’n seiliedig ar systemau yn hyn o beth, sy’n cynnwys gwneud i bob cyswllt gyfrif. Y nod yw arfogi staff â’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu cyngor byr i annog newidiadau bach er mwyn gwella iechyd a lles ar bob cyfle. Ond mae’r agenda hon yn gymhleth. Mae gan addysg a sgiliau gwell, mynediad haws at fwyd iachach a pholisïau caffael cyhoeddus ran i’w chwarae. Mae arnom angen mwy o gyfyngu ar hysbysebu a hyrwyddo bwydydd sy’n llawn braster, halen a siwgr, yn enwedig i blant. Mae angen i beth o’r gwaith gael ei wneud ar lefel y DU. Rydym wedi galw ers amser ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i ddarparu camau gweithredu cryfach, megis gweithredu llymach ar siwgr ac ar hysbysebu bwydydd afiach i blant, ac rydym yn cefnogi cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn ag ardoll siwgr ar ddiodydd wedi’u melysu â siwgr, ond mae angen i ni weld rhywfaint o gynnydd.
Mae gan y diwydiant bwyd ei hun ran i’w chwarae. Mae targedau lleihau halen gwirfoddol ar draws y DU, yr ystyrir eu bod yn enghraifft fyd-eang o arfer gorau, wedi arwain at ostwng lefelau halen mewn bwydydd hyd at 50 y cant ers 2012, ac mae hyn yn sicr yn cael ei groesawu, ond rydym angen i’r diwydiant wneud mwy.
Mae dylanwadu ar gaffael cyhoeddus yn yr agenda hon yn hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu i greu gwasanaeth caffael cenedlaethol i Gymru sy’n datblygu dulliau caffael canolog ar gyfer holl sefydliadau’r sector cyhoeddus. Rydym yn ymgysylltu’n weithredol â hwy i osod meini prawf caffael sy’n cynnwys manylebau maeth. Mae system gaffael y GIG eisoes yn cyflogi deietegydd i wneud hyn. Bydd hwn yn gam sylweddol i sicrhau bod yr holl fwyd a diod a ddarperir yn ein sector cyhoeddus yn iachach. Bydd yn adeiladu ar y safonau maeth rydym wedi’u cyflwyno yn rhai o’n sefydliadau cyhoeddus, megis ysgolion ac ysbytai. Rydym hefyd yn datblygu dulliau tebyg ar gyfer lleoliadau eraill, megis y blynyddoedd cynnar a chartrefi gofal, gan ein bod yn gwybod pa mor hanfodol yw maeth da ar gyfer plant ifanc a phobl hŷn.
Mae angen i bobl gael y sgiliau a’r wybodaeth sy’n sail i ddewisiadau ffordd o fyw iachach, ac mae gan ysgolion rôl allweddol i’w chwarae yn hyn. Mae ein rhaglen lywodraethu yn egluro ein hymrwymiad i weithio gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dewisiadau ffordd o fyw iach. Mae gennym sylfaen dda i adeiladu arni gyda’n rhwydwaith Cymru o gynlluniau ysgolion iach, a byddwn yn sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer cryfhau gwaith mewn ysgolion ymhellach drwy ddatblygiad y cwricwlwm newydd.
Mae cynnig heddiw yn tynnu sylw at botensial y Ddeddf teithio llesol i godi lefelau gweithgarwch corfforol ar draws y boblogaeth, gan gynnwys ar gyfer plant. Mae’r rhaglen teithiau llesol, sy’n gweithio mewn ysgolion i hyrwyddo teithio llesol ymysg disgyblion, yn sicrhau bod adnoddau a chymorth ar gael i ysgolion ledled Cymru. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ein prosiect Cerdded i’r Ysgol Cymru, a fydd yn datblygu pecyn cymorth i gynorthwyo ysgolion i adolygu a gwella dewisiadau teithio llesol yn eu hardaloedd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer hyfforddiant cerdded a beicio, sy’n cael ei gyflwyno mewn ysgolion yn bennaf, a bydd y rhaglenni hyn yn cael eu hadolygu yn ystod y flwyddyn sydd i ddod gyda’r bwriad o atgyfnerthu’r gwaith o hyrwyddo teithio llesol.
Mae’r Ddeddf yn rhoi’r fframwaith ar waith i gefnogi teithio llesol fel elfen allweddol o ddatblygu gweithgarwch corfforol yn ein bywydau bob dydd. Mae’n gwneud hynny drwy fynnu bod rhwydweithiau cerdded a beicio cydlynus yn cael eu cynllunio yn ein cymunedau ac yn cael eu gwella bob blwyddyn. Eleni, gwelsom gyfnod allweddol cyntaf y Ddeddf gyda chymeradwyo mapiau llwybrau presennol yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru, ac mae awdurdodau lleol bellach yn gweithio ar baratoi eu mapiau rhwydwaith integredig. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y rhain o ddifrif yn adlewyrchu anghenion cymunedau lleol ac yn cysylltu’r lleoedd y mae angen iddynt deithio rhyngddynt. Mae hyn yn galw am fewnbwn o amrywiaeth eang o bersbectifau gwahanol. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o siarad â chynulleidfa o weithwyr proffesiynol ym maes cynllunio, trafnidiaeth, yr amgylchedd ac iechyd ac roedd pawb yn awyddus i gryfhau’r cysylltiadau rhwng eu sectorau a’u proffesiynau i symud yr agenda teithio llesol ac agendâu ehangach iechyd a lles yn eu blaenau. Gan weithio gyda’n gilydd, byddwn yn gweld effaith y Ddeddf teithio llesol ar nifer y bobl sy’n gwneud teithiau teithio llesol.
Rwy’n falch ein bod bellach yn gallu adrodd am y tro cyntaf ers dechrau cadw cofnodion nad yw dros 80 y cant o’n poblogaeth sy’n oedolion yn smygu. Cyflawnwyd hyn drwy ddefnyddio’r dull cynhwysfawr a amlinellir yn ein cynllun gweithredu ar reoli tybaco. Mae’n cynnwys gweithio gyda phobl ifanc i’w hatal rhag dechrau smygu, gweithio gyda smygwyr i’w helpu i roi’r gorau iddi a chynnydd mewn amgylcheddau di-fwg. Mae deddfwriaeth yn rhan o’r darlun ehangach hwn, gan gynnwys gwaith ar draws y DU i gyflwyno pecynnu safonol ar gyfer cynnyrch tybaco, ac yng Nghymru, bydd y bwrdd strategol rheoli tybaco sydd newydd ei sefydlu yn goruchwylio gweithredu parhaus.
Roeddwn yn falch o fod wedi cyflwyno’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) i’r Cynulliad yn ddiweddar. Mae’r Bil yn rhoi pwyslais arbennig ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chreu amodau sy’n hybu iechyd da ymhlith plant. Mae’r agweddau ar y Bil sy’n ymwneud â smygu yn arbennig o gryf yn hyn o beth, ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd yn ein helpu i gyrraedd ein targed o leihau smygu i 16 y cant erbyn 2020. Mae pwysigrwydd creu cyfleoedd a’r amgylchedd i bobl allu gwneud dewisiadau ffordd o fyw iachach yn amlwg o’r cyfraniadau a glywsom yn y ddadl heddiw. Gobeithiaf fy mod wedi rhoi sicrwydd i chi ein bod yn defnyddio ystod eang o ddulliau ar draws y Llywodraeth i wneud hyn. Ond fel y dywedais, nid yw’n rhywbeth y gallwn ei wneud ar ein pen ein hunain, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ystod eang o bartneriaid i gyflymu cynnydd yn y maes hwn.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Angela Burns i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon. Mae’n ddrwg gennyf, nid wyf yn mynd i fynd drwy bob un o’ch cyfraniadau unigol gan nad oes gennyf lawer iawn o amser, ond roedd un neu ddau o bwyntiau roeddwn yn awyddus iawn i’w gwneud. Mae hon, os hoffech, yn gêm o ddau hanner, felly gadewch i ni edrych ar y plant yn gyntaf.
Rwy’n falch iawn fod rhai o’r Aelodau wedi crybwyll pwysigrwydd cael gafael arnynt yn ifanc. Weinidog, byddwn yn dweud wrthych mai un o’r pethau allweddol y gallech eu gwneud heddiw, yn awr, o fewn eich pŵer, heb orfod gwneud strategaethau mawr enfawr, fyddai cynyddu faint o amser rydym yn ei roi i chwaraeon yn yr ysgol—nid cynyddu faint o amser y gall plentyn ymgymryd â chwaraeon yn unig, ond bod yn llawer mwy creadigol hefyd ynglŷn â’r hyn y mae gweithgarwch corfforol yn ei olygu. A bod yn onest, ychydig iawn o ferched sy’n hoffi chwaraeon tîm. Ychydig iawn o fechgyn fydd yn hoffi rhai pethau eraill. Mae yna anghydbwysedd enfawr rhwng y rhywiau. Mae merched yn eu harddegau yn ymwybodol iawn o’u cyrff, ac rwy’n meddwl y gallem fod yn greadigol iawn ynghylch edrych ar sut y gallem gyflwyno dawns, symud, rhedeg, chwaraeon unigol—annog pob math o bethau yn hytrach na dim ond dweud, ‘Os ydych yn mynd i wneud chwaraeon, mae’n rhaid i chi wneud y math hwn o chwaraeon neu’r math arall o chwaraeon.’ Rwy’n credu ei bod yn wirioneddol hanfodol ein bod yn rhoi sylw i hyn. Mae hefyd yn hanfodol iawn ein bod yn mynd i’r afael â faint o amser rydym yn ei roi i chwaraeon. Gadewch i ni fod yn wirioneddol glir: yn ein hysgolion, mae’r amser rydym yn ei roi i chwaraeon wedi bod yn lleihau dros y degawd diwethaf, ac mae hynny’n mynd yn groes i bopeth rydym wedi treulio’r awr ddiwethaf yn sôn amdano yma.
Wrth gwrs, y peth arall yw, os oes gennym bobl ifanc iach, byddant yn tyfu i fod yn oedolion ifanc ac oedolion hŷn llawer iachach, oherwydd byddant wedi arfer â’r holl gysyniad o fynd allan, gwneud pethau, beicio ac yn y blaen. Mae’r mentrau bendigedig y mae llawer ohonoch wedi sôn amdanynt heddiw yn wych, ond wyddoch chi beth? Ni allwn wneud parkrun. Mae’n debyg y buaswn yn para tua thair llath ac yn disgyn—bwmp, a buaswn wedi mynd. Felly, bobl ffit—Lee—i ffwrdd â chi, ac mae hynny’n wych. Ond mae yna ddosbarth cyfan ohonom allan yno—. Yn wir, gadewch i ni fod yn glir, mae yna 59 y cant ohonom allan yno sy’n cario gormod o bwysau neu’n ordew. Felly, beth rydym yn ei wneud ar gyfer y 59 y cant, a sut rydym yn newid y ffordd rydym yn siarad am y peth? Sut rydym yn ei atal rhag bod yn ddifrïol? Sut rydym yn mynd allan yno a dweud wrth y bobl hynny, ‘Hei, nid oes rhaid i chi golli pwysau drwy fynd i gampfa, wedi’ch amgylchynu gan fynychwyr cyson yn eu Lycra, tra byddwch chi’n eistedd yno’n stryffaglu, yn ceisio bod yn heini’? Dyna pam nad yw pobl fawr—menywod yn arbennig, ond dynion yn ogystal—eisiau gwneud pethau o’r fath, oherwydd ei fod yn creu embaras. Yn wir, os edrychwch ar ordewdra yn y DU, mae llawer o seicoleg yn rhan o hyn. Mae adroddiad seicolegol enfawr ar hyn, ac mae’n sôn yn glir iawn am y ffaith fod angen i ni edrych ar yr amgylchedd ymarfer corff. Mae angen mynd i’r afael â hyn, fel nad yw gorbryder cymdeithasol am y corff yn gwaethygu, ac fel nad yw pobl dew, pobl fawr, yn teimlo embaras mawr ynglŷn â cheisio gwneud unrhyw beth, fel nad ydynt yn rhoi cynnig arni. Rwy’n credu bod angen i ni edrych ar hynny. Mae angen i ni fod yn llawer clyfrach ynglŷn â sut rydym yn targedu pobl. Mae gennym lawer iawn o bobl ifanc sy’n cario gormod o bwysau. Sut y gallwn eu cyrraedd? Beth rydym yn ei wneud amdanynt hwy? Nid ydynt am i fynd i gampfa, ac maent yn annhebygol o fynd i barc. Ond os gallwn hyfforddi ein gweithwyr iechyd proffesiynol mewn ymddygiadau gwybyddol, efallai y byddant yn gallu dod o hyd allweddi sy’n helpu i ddatgloi rhannau penodol o’n poblogaeth a dod â hwy yn ôl i mewn i bethau.
Felly, yn fy marn i, y pethau hawsaf y gallwn eu gwneud—. Rydym wedi siarad am lawer o bethau eraill—trethi, siwgr, hyn a’r llall—ond maent i gyd yn perthyn i’r darlun mawr. Y darlun bach: cael ein plant ysgol gynradd a’n plant ysgol uwchradd i wneud ychydig mwy o weithgaredd—gweithgaredd y maent yn ei fwynhau; gweithgaredd sy’n gwneud iddynt fod eisiau parhau i’w wneud. Rhoi bwyd gwell iddynt. Ers pa bryd y mae olwyn gaws wedi bod yn ffurf ar fwyd, heb sôn am fwyd da? Y bobl sydd eisoes yn cario gormod o bwysau neu’n ordew: byddwch yn fwy caredig tuag atynt o ran sut rydym yn eu cynnwys a’u cael i wneud y gweithgaredd sydd angen iddynt ei wneud, fel nad ydynt yn teimlo cywilydd, embaras ac fel pe baent yn wehilion cymdeithas braidd. Mae llawer o bobl sy’n cario gormod o bwysau yn cael y teimlad, oherwydd y sgwrs genedlaethol, eu bod yn broblem bellach. Mae angen i ni eu helpu a bod yn garedig am y peth.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.