4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

– Senedd Cymru am 2:48 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:48, 7 Chwefror 2017

Rŷm ni’n symud, felly, i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Mae gennyf ddau newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon, Lywydd. Mae datganiad llafar heddiw ar y fenter ymchwil i fusnesau bach wedi ei ohirio a, gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i'w ateb gan Gomisiwn y Cynulliad yr wythnos hon, mae amseriadau yfory wedi eu haddasu yn unol â hynny. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:49, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, neu hyd yn oed dim ond llythyr yn y Llyfrgell, yn gyntaf gan y Gweinidog cyllid, yn esbonio'r cynllun ardrethi busnes newydd—yr arian ychwanegol a roddwyd ar y bwrdd? Rwyf yn sylweddoli y codwyd hyn ryw ddwy neu dair wythnos yn ôl, ac, yn ein dadl ar y dydd Mercher, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ei fod yn obeithiol o gyflwyno’r cynigion yn gynnar ym mis Chwefror. Rwy'n ymwybodol ei bod, yn awr, yn gynnar ym mis Chwefror a, hyd y gwn i, nid oes unrhyw wybodaeth newydd wedi dod i law o ran sut y bydd y £10 miliwn ychwanegol a amlygwyd cyn y Nadolig gan Lywodraeth Cymru i’w roi ar gael i lywodraeth leol ar gyfer busnesau a gafodd eu dal gan yr ailbrisio, yn cael ei weinyddu a'i gyflwyno i'r busnesau hynny. Felly, yn absenoldeb yr wybodaeth honno, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am yr wybodaeth ddiweddaraf am ble yn union y mae'r Llywodraeth o ran ei gwybodaeth fel bod awdurdodau lleol ac, yn wir, busnesau, yn gallu deall sut y byddan nhw’n elwa ar yr arian ychwanegol hwn?

Yn ail, er fy mod i’n croesawu'r symudiad i greu swyddi ledled Cymru, yn enwedig y banc datblygu y mae'r Llywodraeth wedi ei roi yn y gogledd-ddwyrain ac, yn amlwg, yr awdurdod refeniw yn Nhrefforest, rwyf braidd yn bryderus am y diffyg trefn ym mholisi'r Llywodraeth, a byddwn i’n ddiolchgar pe byddem yn cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, oherwydd bod gennym ni ardal fenter gwasanaethau ariannol yma yng Nghaerdydd, a does bosib na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn hyrwyddo honno, ac eto pan fydd swyddi ar gael yn y sector gwasanaethau ariannol, nid yw'n ceisio’u lleoli o fewn fy rhanbarth i yng Nghanol De Cymru yn yr ardal fenter. Yn yr un modd, mae'n gynllun creu swyddi gwych bod Aston Martin wedi mynd i Sain Tathan, a chroesawn y cyfle hwnnw, ond, o dan strategaeth economaidd y Llywodraeth, canolbwynt hedfanaeth yw hwnnw i fod, ac mae’r sector modurol i fod yn yr ardal fenter yng Nglyn Ebwy. Felly, rwy'n ymwybodol bod gennym Ysgrifennydd y Cabinet newydd, rwy'n ymwybodol bod yr ardaloedd menter wedi eu cyflwyno gan y Gweinidog blaenorol, ond, mewn cyhoeddiadau diweddar gan y Llywodraeth, ymddengys bod yna darfu rhwng y polisi o hyrwyddo ardaloedd menter a gweithredoedd y Llywodraeth. Fel y dywedais, rwyf i’n croesawu'r cyfle i Lywodraeth Cymru ledaenu swyddi ledled Cymru; ond ryw’n poeni am ba un a yw'r gwahaniaethau rhwng y mentrau polisi a’r ysgogiadau polisi ynghylch hyrwyddo ardaloedd menter.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:51, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiynau yna. Ynglŷn â’ch pwynt cyntaf, wrth gwrs, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi rhoi sicrwydd i’r Cynulliad hwn a’r Aelodau yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ef a'i swyddogion yn gweithio'n galed i sicrhau y gallwn ni gael y rhybudd cynnar hwnnw. Newydd fynd i mewn i fis Chwefror ydym ni, fel y dywedwch, a gwn eu bod yn bwriadu cyhoeddi'r ffyrdd y bydd busnesau lleol yn gallu manteisio ar yr hyn a fydd yn gyfran ychwanegol bwysig iawn o arian ar ben y cyllid trosiannol a gyhoeddwyd, wrth gwrs, yr hydref diwethaf. Felly, gallaf eich sicrhau bod hynny yn symud ymlaen.

O ran eich ail bwynt, rwyf braidd yn ddryslyd am eich ail bwynt, oherwydd ei bod yn anochel bod gan Lywodraeth Cymru bolisi i ddatganoli pryd bynnag a lle bynnag y bo’n bosibl, y swyddi y mae gennym unrhyw reolaeth arnyn nhw, yn ogystal ag annog o ran y sectorau. Soniasoch am y sector gwasanaethau ariannol, ac rwy’n credu bod croeso mawr i’r newyddion am leoli’r banc datblygiad mewn rhan arall o Gymru, gan gysylltu’n agos iawn, wrth gwrs, â’n holl wasanaethau a busnesau ariannol. Ond byddwn i’n gobeithio y byddech chi’n gwerthfawrogi mai’r wobr enfawr a enillodd Cymru drwy gael Aston Martin i Sain Tathan, i Gymru, yw'r hyn y dylem fod yn ei groesawu. Rwy'n falch iawn bod yr Aelod wedi gwneud y pwynt hwnnw mewn gwirionedd.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:53, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Yn ychwanegol at hynny, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddatganiad ysgrifenedig ddydd Gwener diwethaf, yn nodi dull o sicrhau llwyddiant, cydnerthedd a chynaliadwyedd ar gyfer treftadaeth Cymru’, mae'n dweud yn y fan yma. Yn amlwg, mae argymhellion y grŵp adolygu sydd wedi bod yn edrych ar ddyfodol yr hyn a elwir yn Gymru Hanesyddol wedi cael croeso gofalus. Mae'n sôn am bartneriaeth strategol sydd, mae’n ymddangos, yn cyfiawnhau annibyniaeth lleoedd fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Felly, mae hynny i gyd i'w groesawu mewn datganiad ysgrifenedig. Ar ddiwedd y datganiad ysgrifenedig, ceir sôn am adolygiad newydd i strategaeth a gweithrediadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru—atodiad bach annisgwyl yn y fan yna. Roeddwn i’n meddwl tybed, o’r safbwynt hwnnw, a gaf i ofyn am ddatganiad llafar ar fanylion yr adolygiad hwnnw i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Diolch yn fawr.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:54, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Croesawaf yn fawr iawn eich cydnabyddiaeth bod adolygiad y gwasanaethau treftadaeth yn y datganiad ysgrifenedig, Dai Lloyd, yn seiliedig ar yr adolygiad agored yr oedd y pwyllgor a'r Aelodau yn cael cyfrannu ato, ac mae’r holl bartneriaid sy'n cael eu heffeithio ganddo, wrth gwrs, wedi cymryd rhan mewn datblygu’r dewisiadau hynny. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i egluro maes o law yr adolygiad hwn y mae wedi’i gomisiynu o ran strategaeth a gweithrediadau’r amgueddfa genedlaethol.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, hoffwn i ymhelaethu rhywfaint ar bwynt arweinydd y Ceidwadwyr ar ardaloedd menter. Yn amlwg, cyflwynwyd ardaloedd menter yn y pedwerydd Cynulliad, ac mae'n bwysig ein bod ni’n deall y cynnydd sy'n cael ei wneud ar ardaloedd menter. Felly, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith a'r economi i gynhyrchu diweddariad ar gynnydd o ran ardaloedd menter a pha mor effeithiol ydyn nhw, yn arbennig yr ardal fenter yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot? Ond, mewn cysylltiad â hynny, a wnewch chi ofyn iddo hefyd roi sylwadau ar y paratoadau sydd ar waith ar gyfer buddsoddi a thwf mewnol, gan fy mod i ar ddeall bod prinder adeiladau, troedfeddi sgwâr, maint a gallu i ymgymryd â rhywfaint o dwf yn yr ardaloedd hynny? Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod adeiladau, strwythurau a seilwaith ar gael i sicrhau y gall twf ddigwydd yn yr ardaloedd hynny ac y gall busnesau naill ai dyfu neu ddod i’r ardaloedd hynny er mwyn sicrhau y gall ein heconomïau, yn enwedig ym Mort Talbot, fanteisio arnyn nhw?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:55, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i David Rees am y cwestiwn perthnasol iawn yna. Mae Andrew R.T. Davies wedi gadael y Siambr, i glywed y newyddion pwysig y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn rhoi datganiad maes o law ar y rhaglen ardaloedd menter. Wrth gwrs, gallwn ni adrodd yn ôl iddo eich pwyntiau pwysig am y cysylltiad â'r sector a chyfleoedd ar gyfer twf. Mae'n cwblhau adolygiad cyfredol o’r rhaglen lywodraethu, felly, pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yn gwneud datganiad.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:56, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n un o'r pethau hynny y mae pawb yn siarad amdano—yr ardaloedd menter. Dim ond hanner awr yn gynharach, braf oedd clywed Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn dweud—yn ei eiriau ei hun— bob rhan o Gymru ... y rhannu’r cyfoeth a grëir.

Gwaith gwych. Dangosodd ffigurau a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2015 hefyd ganlyniadau cymysg ardaloedd menter yng Nghymru, gyda dros 1,000 o swyddi'n cael eu creu yn ardaloedd Caerdydd a Glannau Dyfrdwy rhwng 2014 a mis Mawrth 2015, ond dim ond saith—saith—yng Nglyn Ebwy a Sain Tathan. A gawn ni ddatganiad os gwelwch yn dda sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am greu swyddi ac ardaloedd menter sy'n bodoli eisoes ac am gynlluniau Llywodraeth Cymru, os o gwbl, i ehangu nifer yr ardaloedd menter i rannau eraill o Gymru i gefnogi sectorau eraill o'r economi? Fel y gwyddom, mae Brexit wedi creu gwagle mewn gwahanol feysydd datblygu. A fyddai modd i ni ddefnyddio llwybr blaenoriaeth mewn ardaloedd penodol er mwyn sicrhau y gofelir am greu swyddi a mewnfuddsoddi a’u bod yn mynd ar lwybr blaenoriaeth i dyfu ein heconomi cyn gynted ag y bo modd? Diolch.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:57, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwybod y byddai’r Aelod wedi bod yn falch iawn o glywed fy mod i wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i David Rees y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwneud datganiad ar y rhaglen ardaloedd menter.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:58, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A gawn ni ddatganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar hawliadau ôl-weithredol ar gyfer arian gofal iechyd parhaus y GIG? Mae un o fy etholwyr i wedi bod yn aros am bron i bedair blynedd am benderfyniad ar ei chais, ac rwyf ar ddeall bod bron i 1,000 o geisiadau ôl-weithredol yn cael eu prosesu ar hyn o bryd. Mae pedair blynedd yn gwbl annerbyniol i un o ddinasyddion y wlad hon aros am benderfyniad ar gais ôl-weithredol, felly a wnaiff Llywodraeth Cymru roi’r gorau i osgoi a thaflu baich materion y gwasanaeth iechyd o ran ariannu gofal iechyd parhaus? A gawn ni ddatganiad i egluro'r sefyllfa honno ac i glywed pa gamau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni hyn?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Mae hwn yn bwynt ac yn gwestiwn pwysig, ac mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y mae’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn gweithio arno, er mwyn sicrhau bod y bobl hynny yr effeithiwyd arnynt yn cael yr wybodaeth gynnar honno o ran hawliadau ôl-weithredol. Byddaf yn sicrhau y bydd diweddariad ar ble y mae’r Gweinidog arni yn hyn o beth.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:59, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ddoe oedd Diwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Roeddwn i’n falch iawn o gynnal cynhadledd y daeth llawer iddi yma yn y Senedd ar y pwnc ofnadwy hwn. Fe'i trefnwyd gan BAWSO, ond roedd cynrychiolwyr pwysig yn bresennol o NSPCC, Cymorth i Ferched Cymru ac o wahanol rannau o Gymru yn ogystal â Lloegr. Nid wyf yn credu bod hyn yn ymwneud yn unig â’r 30 miliwn o ferched sydd mewn perygl ledled y byd o gael eu llurgunio cyn eu pen-blwydd yn bymtheg oed, ond mae hefyd yn ymwneud ag atal hyn rhag digwydd i'r merched sy'n byw yn y wlad hon. Yn ôl Dr Chimba, sy'n arwain ar anffurfio organau cenhedlu benywod gyda BAWSO, mae rhyw 2,000 o fenywod yng Nghymru sy'n byw â rhan neu’r cyfan o’u horganau cenhedlu wedi’u torri i ffwrdd. Pe byddai hyn yn ymwneud â phidynnau dynion yn cael eu torri i ffwrdd, rwy’n siŵr y byddem i gyd yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i hyn.

Un o'r materion a godwyd yn y gynhadledd oedd diffyg data cywir am Gymru, oherwydd roedd cryn dipyn o ddata wedi’u casglu am Gymru a Lloegr. Rwyf ar ddeall y bydd y GIG yn Lloegr, yr wythnos hon, yn rhyddhau'r data sydd wedi eu casglu o wahanol rannau o'r GIG, gan nyrsys, bydwragedd, meddygon teulu ac unrhyw un arall sydd wedi cael gwybodaeth gywir am hyn. Roeddwn i’n meddwl tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ba bryd y gallai’r wybodaeth hon fod ar gael yng Nghymru, oherwydd ei bod yn bwysig iawn i ddeall pa wasanaethau arbenigol y dylem ni fod yn eu comisiynu yng Nghymru, yn hytrach nag anfon pobl i rannau eraill o Loegr. A oes gennym y màs critigol i gyfiawnhau gwasanaeth arbenigol o'r fath?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:01, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n credu yr hoffem ni i gyd—yn y Siambr hon—ddiolch i Jenny Rathbone am drefnu'r digwyddiad pwysig iawn hwn ddoe—digwyddiad a gafodd ei gefnogi'n dda yn y Senedd, ac yr oedd llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi gallu dod iddo neu ei gefnogi. Dim ond gair bach i adrodd yn fyr ar gynnydd a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi cefnogi datblygiad darpariaeth iechyd ac wedi hyfforddiant cydlynol, sy'n hollbwysig, a dyma lle y gallwn ddysgu gan ein cydweithwyr y tu allan i Gymru, ond BAWSO sy’n arwain yr hyfforddiant ar anffurfio organau cenhedlu benywod yn ein holl fyrddau iechyd ledled Cymru. Fe ddechreuodd drwy nodi arweinwyr anffurfio organau cenhedlu benywod ym mhob bwrdd iechyd. Mae gennym ni grŵp iechyd anffurfio organau cenhedlu benywod Cymru gyfan sydd wedi ei sefydlu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ganddo gynllun gwaith ac—i ateb eich cwestiwn pwysig—y mae wedi dechrau casglu data am fenywod a phlant sydd wedi’u heffeithio gan anffurfio organau cenhedlu benywod ar draws byrddau iechyd, ac y mae hefyd wedi dyfeisio ac mae’n rhoi llwybr nodi ac atgyfeirio clinigol Cymru gyfan ar waith, yn ogystal â’r hyfforddiant.

Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, y rhaglen Plant Iach Cymru. Mae gan honno raglen iechyd cyffredinol i bob teulu â phlant hyd at saith oed, ac mae hynny hefyd yn nodi cysylltiadau gwybodaeth y gellir eu gwneud ar lefel byrddau iechyd. Yn rhan o'r rhaglen hon, bydd gwybodaeth yn cael ei chofnodi ar blant a allai gael eu heffeithio gan anffurfio organau cenhedlu benywod. Dechreuodd byrddau iechyd Cymru weithredu’r llwybr hwn fis Hydref diwethaf—ar 1 Hydref 2016—ac mae ganddyn nhw ddwy flynedd i weithredu'r rhaglen yn llawn.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:03, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, mae pythefnos wedi mynd heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru roi i’r cwmni Cylchdaith Cymru—. Rwy'n credu mai terfyn amser o ddwy wythnos ydoedd, yn rhyfedd ddigon, i ddarparu sicrwydd am eu cefnogwyr ariannol fel y gall y prosiect symud yn ei flaen. Dywedais yn fy nadl yr wythnos diwethaf ynglŷn â dinas-ranbarth Caerdydd fy mod i’n credu bod hwn yn ddatblygiad cadarnhaol i bawb sydd ynghlwm wrth y prosiect—a allai fod yn brosiect trawsnewidiol i brifddinas-ranbarth Caerdydd—ond y mae angen eglurder arnom yn awr o ran pa un a yw’n gallu mynd yn ei flaen. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar y cyfle cyntaf, fel y gallwn ddatrys hyn unwaith ac am byth a symud ymlaen, neu beidio â symud ymlaen yn ôl y digwydd? O leiaf wedyn byddwn ni i gyd yn gwybod yn ardal y ddinas-ranbarth yn union beth yr ydym yn ymdrin ag ef yn y prosiect hwn.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod wedi cyrraedd y terfyn amser hwnnw. Felly, wrth gwrs, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad y sefyllfa.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 3:04, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wneud datganiad am bolisi’r Llywodraeth ynglŷn â geni plant ar ran pobl eraill? Oherwydd bod cyllid yn cael ei wrthod ar gyfer triniaeth IVF i lawer o fenywod yng Nghymru sy’n methu â chario plant o ganlyniad i ganser, er enghraifft, oni bai bod mam fenthyg eisoes wedi ei nodi. Rwy'n credu bod angen llawer o eglurhad ar y maes cyfan, a byddem yn ddiolchgar iawn pe gallai’r mater o ariannu IVF a mamau benthyg gael eu hystyried fel mater o frys.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Yn wir, mae hwn yn gwestiwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi mwy o sylw iddo, ond mae hefyd yn bwysig iawn, os oes gennych chi bobl sydd wedi eu heffeithio yn y modd hwn eich bod chi hefyd yn gwneud sylwadau ar eu rhan.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour

(Cyfieithwyd)

Mae heddiw yn Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, rwyf wedi fy nghalonogi i weld gwaith yr NSPCC, Stop it Now! Cymru a The Survivor’s Trust Cymru. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel i ddiogelu plant ac atal camfanteisio rhywiol rhag digwydd. Canfu adroddiad a gomisiynwyd gan Ganolfan Diogelwch Rhyngrwyd y DU fod saith o bob 10 o blant a phobl ifanc wedi gweld delweddau anaddas ar-lein. Heddiw, mae'r NSPCC wedi cynhyrchu fideos ar gyfer ei ymgyrch Pwyllo a Rhannu, i dynnu sylw rhieni a phlant at beryglon rhannu gwybodaeth ar-lein. Cynhaliodd fy nghydweithiwr Lynne Neagle ddigwyddiad heddiw yn y Pierhead, lle rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg araith allweddol. A wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi i gymeradwyo cynlluniau fel y rhain, sy'n codi ymwybyddiaeth o gam-drin a chamfanteisio ar-lein ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a’m sicrhau i ac eraill yn y Siambr hon y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu ar hyn?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:06, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Jayne Bryant am y cwestiwn yna, a hoffwn ddiolch iddi am gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol. Mae hynny'n rhoi cyfle i Aelodau ar draws y Cynulliad ddod at ei gilydd a gweithredu a chael y dystiolaeth am y sefyllfa yr ydych chi’n ei disgrifio, a amlygwyd yn dda iawn heddiw, rwy’n gwybod, yn y digwyddiad y siaradodd Kirsty Williams ynddo. Rwyf hefyd yn tynnu sylw'r Aelodau at y datganiad ysgrifenedig a wnaeth Kirsty Williams heddiw ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Dywedaf hefyd mai ni yw’r sefydliad arweiniol o ran diogelwch ar-lein yng Nghymru—Llywodraeth Cymru—ac rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg i’n plant, pobl ifanc, rhieni ac athrawon.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ei pholisi o ddatganoli swyddi i wahanol rannau o Gymru? Mi glywon ni, wrth gwrs, y cwestiynau yn gynharach ynglŷn â’r penderfyniad am Awdurdod Cyllid Cymru. Rŷm ni hefyd wedi clywed cyfeiriadau y prynhawn yma at y posibilrwydd y bydd swyddi banc datblygu Cymru yn cael eu lleoli, o bosib, yn y gogledd neu mewn rhannau eraill o Gymru. Gwnaeth Ysgrifennydd yr economi hyd yn oed awgrymu efallai fod yna fwriad i adleoli neu greu rhyw fath o bresenoldeb i Cadw mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Yr argraff y mae rhywun yn ei gael yw—neu, y cwestiwn yr wyf am ei ofyn yw: a oes yna strategaeth ar draws y Llywodraeth fan hyn? A oes rhywbeth cydlynus, bwriadol yn digwydd? Mae’n swnio ychydig fel rhywbeth ad hoc, gydag adrannau yn gweithio mewn rhigolau. Rwyf yn meddwl y byddai datganiad yn gyfle i’r Llywodraeth osod eu stondin, mewn gwirionedd, ynglŷn â ble yn union y maen nhw’n mynd ar yr agenda yma, a sut y maen nhw’n bwriadu cyflawni hynny. Byddai hefyd yn gyfle, wrth gwrs, i drafod y meini prawf y cyfeiriwyd atynt gan Aelod Arfon yn gynharach. Os mai dyna yw’r meini prawf sy’n cael eu defnyddio bob tro, yna mae yna gwestiwn ynglŷn ag a welwn ni fyth rhai o’r swyddi posibl yma yn cael eu hadleoli i rywle fel gogledd Cymru. Yn bwysicach na dim, wrth gwrs, byddai cael datganiad o’r fath hefyd yn rhoi mwy o eglurder i bawb ynglŷn â sut y gall pob rhan o Gymru fod yn hyderus mai Llywodraeth i Gymru gyfan yw hon.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:08, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg mae’n rhaid cael ymagwedd ar draws y Llywodraeth ar gyfer hyn. Fel y dywedais yn gynharach, wrth ymateb i'r cwestiwn gan Andrew R.T. Davies, pan fo gennym reolaeth uniongyrchol, o ran ein gallu i wneud penderfyniadau ar leoliad corff newydd, swyddogaethau newydd—. Wrth gwrs, o ran Awdurdod Refeniw Cymru, nid corff newydd yn unig mohono; mae ganddo swyddogaethau newydd. Mae sgiliau newydd hefyd, o ran y pwerau treth yr ydym yn eu derbyn sydd wedi’u datganoli i Gymru erbyn hyn. Felly, mae'n fater o sicrhau bod gennym ni’r gallu a'r sgiliau i ddatblygu, ac mae hynny yn effeithio ar leoliad. Do, yn ôl ym mis Hydref—. Rwyf eisoes wedi sôn am y ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith wedi nodi ei ddymuniad bod y pencadlys, er enghraifft, ar gyfer banc datblygu Cymru yn cael ei sefydlu yn y gogledd. Felly, pan fo cyfle a phan nad oes rhai o'r materion hynny sydd wedi eu crybwyll eisoes o ran ein gallu i ddylanwadu ar leoliad, byddem yn dymuno sicrhau bod presenoldeb datganoledig ledled Cymru. O ran buddsoddiad y sector preifat a buddsoddiad mewnol, mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at ystyriaeth arall—y pwyntiau a wnaed am y sectorau a'r ardaloedd menter yng Nghymru. Mae pwyslais penodol eu sector yn effeithio ar leoliad busnes y sector preifat a chyfleoedd newydd. Yn amlwg, mae hon yn strategaeth ar draws y Llywodraeth o ran lleoliad ac adleoliad busnesau a gwasanaethau ledled Cymru.