– Senedd Cymru am 5:31 pm ar 14 Chwefror 2017.
Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar forlynnoedd llanw ac rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM6237 Jane Hutt, Paul Davies, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu Adroddiad Hendry a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlynnoedd llanw ym Mhrydain.
2. Cydnabod yr angen i Lywodraeth Prydain gysylltu â Llywodraeth Cymru yn barhaus wrth ddatblygu a gweithredu polisïau ar gyfer morlynnoedd llanw.
3. Cydnabod, wrth sicrhau y trawsnewidiad i economi carbon isel, y dylai Cymru gael cymaint o fanteision economaidd â phosib o'r diwydiant ynni morlynnoedd llanw a thechnolegau llanw eraill, ar yr amod bod prosiectau o'r fath yn derbyn y gymeradwyaeth angenrheidiol.
Diolch, Lywydd. Rwy’n croesawu'n fawr y cyfle i ni drafod y potensial ar gyfer morlynnoedd llanw yn y DU yn dilyn cyhoeddiad diweddar adroddiad Hendry. Er ein bod yn cefnogi egwyddor morlynnoedd llanw yng Nghymru, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r ystyriaethau a’r cymeradwyaethau allweddol y mae'n rhaid eu rhoi i unrhyw brosiect arfaethedig, gan gynnwys ystyriaethau amgylcheddol llawn drwy'r broses trwyddedu morol ynghyd â chael prydles gan Ystâd y Goron. Felly, bydd yr Aelodau, rwy'n siŵr, yn deall bod hynny’n cyfyngu ar yr hyn y gallaf ei ddweud am brosiectau neu gynigion penodol, gan gynnwys y morlyn llanw arfaethedig ar gyfer bae Abertawe, o ystyried fy swyddogaeth statudol o dan y drefn trwyddedu morol a phrosesau statudol eraill.
Fel y nododd y Prif Weinidog yn ystod ei gwestiynau ar 31 Ionawr, rydym yn croesawu adroddiad Hendry a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlynnoedd llanw yn y DU, a'r gydnabyddiaeth benodol y mae'n ei rhoi i’r prosiectau yng Nghymru sydd eisoes yn cael eu datblygu o amgylch arfordir Cymru. Ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, a fydd yn cau'r ddadl hon, cefais gyfarfod cadarnhaol ar 25 Ionawr gyda Charles Hendry, pryd y buom yn trafod canfyddiadau ei adroddiad, gan gynnwys materion fel strwythur cyllido, y cynnig ar gyfer prosiect braenaru, y cysylltiadau â datblygiadau ynni eraill a datgomisiynu.
Ar 6 Rhagfyr amlinellais fy mlaenoriaethau ar gyfer ynni, ac un ohonynt yw sbarduno'r gwaith o drawsnewid i ynni carbon-isel i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru. Mae morlynnoedd llanw yn rhoi cyfle clir i gyfrannu tuag at y nod hwn. Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd ynni llanw; mae gennym amrediad llanw uchel a gallai llawer o'n 1,200 cilometr o arfordir fod yn addas i gynnal datblygiadau ynni llanw. Mae hyn yn golygu y gallwn dyfu diwydiant llwyddiannus yng Nghymru sy'n darparu ffyniant a hefyd yn cefnogi ein hamcanion datgarboneiddio. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd drawslywodraethol at y cyfleoedd a gynigir gan forlynnoedd llanw, megis cadwyni cyflenwi, seilwaith sgiliau a gofynion statudol. Rydym eisoes yn datblygu ein cronfa sgiliau ac yn darparu cefnogaeth ymarferol ac ariannol i gyfleoedd ynni sy'n cyflymu'r trawsnewid carbon isel yn yr ardaloedd hyn.
Byddaf yn ymgynghori ar gynllun morol cenedlaethol drafft ar gyfer Cymru yr haf hwn. Bydd y cynllun yn tynnu sylw at arwyddocâd strategol ein hadnoddau llanw ac yn darparu fframwaith integredig ar gyfer datblygiad cynaliadwy ein moroedd. Mae'r ymagwedd hon yn ein galluogi i sicrhau bod prosiectau o gwmpas y DU yn gallu dod â’r budd economaidd mwyaf posibl i Gymru drwy ddatblygu arbenigedd a chadwyni cyflenwi i roi sylfaen gadarn inni i ymgysylltu â diwydiant ac â Llywodraeth y DU.
Mae angen i Lywodraeth y DU, sydd nawr yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad, ymgysylltu'n llawn â ni wrth iddi ddatblygu polisi morlynnoedd llanw a’i roi ar waith. Yn wir, rydym wedi datblygu sylfaen wybodaeth helaeth i gefnogi'r diwydiant, sy'n cael ei gydnabod gan Hendry yn ei adroddiad. Rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddi adroddiad Hendry yn rhoi digon o sicrwydd i Lywodraeth y DU i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar y diwydiant hwn. Rydym yn edrych ymlaen at drafod beth mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei wneud am yr adroddiad. Mae swyddogion yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ystyried argymhellion yr adroddiad a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau cyn gynted ag y byddaf yn gwybod i ba gyfeiriad y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu mynd.
Felly, i gloi, rydym wedi datgan yn gyson ein hymrwymiad mewn egwyddor i gefnogi datblygu diwydiant morlynnoedd llanw cynaliadwy yng Nghymru. Rydym wedi tynnu sylw at ein cefnogaeth i ddiwydiannau yng Nghymru, ac at y ffaith bod Cymru yn ddelfrydol ar gyfer datblygiadau o'r fath, ar yr amod bod buddion o’r datblygiadau yn cael eu cadw o fewn Cymru. Mae'r ymrwymiad hwn wedi'i nodi yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', ac rwyf nawr yn edrych ymlaen yn fawr at glywed barn yr Aelodau eraill am egwyddor morlynnoedd llanw a'r cynnig sy’n destun y ddadl heddiw.
Rwy’n falch iawn fod y Cynulliad wedi dod ynghyd, gobeithio, i ddatgan cefnogaeth i’r cysyniad o ynni o forlynnoedd llanw. Rwy’n deall yn iawn pam nad yw’r Llywodraeth mewn sefyllfa i roi cefnogaeth uniongyrchol i un project yn arbennig, ond hoffwn i roi ar gofnod fod Plaid Cymru yn fodlon gwneud hynny, ac mewn sefyllfa wahanol, ac rwy’n gallu dweud felly ein bod ni o blaid bae Abertawe fel ‘pathfinder’, fel sy’n cael ei esbonio yn adroddiad Hendry.
Fel rhai cannoedd o bobl leol, rwyf innau wedi buddsoddi yn y morlyn llanw ac, i’r perwyl yna, mae gen i fudd yn y project fel un o’r cyfranddalwyr cymunedol. Mae rhai cannoedd o bobl wedi gwneud hynny. Rwy’n gobeithio’n fawr hefyd, maes o law, y bydd y Llywodraeth yn buddsoddi yn y morlyn llanw, ond fe wnawn ni droi at hynny yn nes ymlaen yn y ddadl.
Yn gyntaf oll, a gawn ni weld beth oedd adolygiad Hendry yn ei ddweud? Nid wyf wedi darllen adolygiad i mewn i faterion anodd gan San Steffan sydd mor glir yn ei gasgliad ers rhai blynyddoedd, mae’n rhaid dweud. Mae’n dweud yn glir iawn, ar ôl blynyddoedd o drafod, fod y dystiolaeth yn glir bod morlynnoedd llanw yn gost-effeithiol fel rhan o gymysgedd ynni y Deyrnas Gyfunol; mae’n dweud hynny’n glir iawn. Mae’n dweud yn glir fod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn wynebu penderfyniad strategol gymaint â phenderfyniad economaidd, ac mae’n dweud yn glir fod symud ymlaen gyda morlyn ym mae Abertawe fel yr un cyntaf, fel y ‘pathfinder’, fel mae’n cael ei ddisgrifio, yn bolisi nad oes modd difaru yn ei gylch—‘no-brainer’ mewn geiriau eraill. Ac rwy’n meddwl yn y cyd-destun yna rydym eisiau gweld yn awr ymateb positif, mor fuan efallai â’r gyllideb ym mis Mawrth, gan Lywodraeth San Steffan.
Rydym yn gweld hyn fel rhywbeth sydd yn newid y diwydiant ynni yng Nghymru, ac yn paratoi y ffordd ar gyfer y dyfodol i Gymru. Am y tro cyntaf ers dyddiau cynnar gwynt, mae’n rhoi cyfle i Gymru fod ar y blaen mewn technoleg newydd ac, wrth gwrs, fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd amlinellu, mae’n rhoi cyfle i ni weld datblygiadau tebyg o’r fath drwy Fôr Hafren ac yng ngogledd Cymru hefyd. Ond mae hefyd yn wir i ddweud bod Hendry yn edrych ar y project yma fel rhywbeth sydd yn gallu cael ei ddefnyddio fel templed i weld yr effaith ar yr amgylchedd, i weld yr effaith ar y pysgodfeydd, i weld a ydym ni’n gallu casglu’r ynni yn y ffordd rydym yn gobeithio ei wneud, ac i weld a ydy’n wir bod y tyrbinau yn gweithio yn effeithlon yn y cyd-destun yna.
Yn y cyd-destun yna, mae cefnogaeth gyffredinol—mae yna gwestiynau, wrth gwrs—wedi cael ei mynegi gan nifer o gyrff amgylcheddol, o Gyfeillion y Ddaear i’r RSPB, sydd i gyd yn awyddus yn y cyd-destun lle mae gennym eisoes losgi tanwydd ffosil ar hyd Môr Hafren, sydd yn llygru yr awyrgylch, i weld rhywbeth mwy positif a glân yn dod i mewn. Felly, fel catalydd ar gyfer datblygu gweddill y sector, rhoi Cymru ar y blaen ar gyfer technoleg newydd, ac fel rhywbeth a fydd yn ei hun yn hwb eithriadol i ardal bae Abertawe, rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y Cynulliad heddiw yn cefnogi’r cynnig ac yn rhoi neges glir felly i Lywodraeth San Steffan i ymateb yn bositif i’r cysyniad o forlyn llanw.
Fe fydd, yn ystod cyfnod ei godi, yn creu dros 2,000 o swyddi ac yn ychwanegu dros £300 miliwn i GVA ardal bae Abertawe. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, ymateb i’r her yma. Bydd angen strategaeth sgiliau trylwyr i wneud yn siŵr ein bod ni’n manteisio ar y cyfle yma. Mae’r cwmni sydd y tu ôl i’r morlyn wedi addo y bydd o leiaf hanner yr arian yn cael ei wario yng Nghymru, ac mae hynny mas o wariant cyfalaf o dros £1.3 biliwn. Ac fe fydd y morlyn, unwaith y bydd wedi’i gwblhau, yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 90 y cant o’r tai yn ardal bae Abertawe am dros ganrif. Felly, i mi ac i Blaid Cymru hefyd, mae hwn yn rhywbeth y dylem ei gefnogi.
I think there’s one final point I’d like to make, and this is what a huge opportunity we could have here to use and utilise the UK framework to benefit us here in Wales. A recent analysis that we’ve looked at on the levy control framework, which currently means that Wales benefits slightly more than our share of population due to the fact that we have feed-in tariffs and renewable energy and so forth, shows that within 10 years, we will have reduced our share that levy control framework to less than 1 per cent of predicted spending. That’s because the levy control framework also includes coal fire, and that will have gone by 2025, and of course, we’ve got no new major onshore wind coming on stream in the meantime. So, we can use that in order to benefit Wales.
If, for example, the Welsh Government were to take an equity stake within the tidal lagoon in Swansea bay, we would then get that fee back from the sale of that electricity over many years, which is actually agreed and supported by the UK Government. So, again, it’s a no-brainer to support this in terms of climate change, in terms of energy production, in terms of investment in Swansea bay, but it’s also a no-brainer for us all to be part of this and be part of an energy future.
Rwyf wrth fy modd i siarad o blaid y cynnig hwn, sydd wedi cael ei osod yn enw Paul Davies ac eraill. Rwy'n falch iawn o weld cefnogaeth drawsbleidiol. A gaf i ganmol hunanddisgyblaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, sydd yn amlwg yn gorfod diogelu’r swyddogaeth statudol y bydd yn ei chwarae wrth ymdrin â rhai agweddau ar y rheoliadau sy'n debygol o gael eu cynhyrchu o dan y mater hwn? Ond rwy'n meddwl nad yw’r gweddill ohonom dan faich o’r fath, a gallwn siarad â brwdfrydedd mawr.
Yn sicr, mae Plaid Geidwadol Cymru yn llwyr gefnogi ei phrosiect a allai fod yn werth £1.3 biliwn. Gwnaethom gyflwyno tystiolaeth i adolygiad Hendry, buom hefyd yn cymryd rhan yn y cyfarfod a gafodd Charles Hendry yma yn y Cynulliad pan oedd gwleidyddion o bob rhan o'r Cynulliad yma, ac rwy’n meddwl ein bod wedi gwneud argraff bwerus iawn arno, dim ond oherwydd cryfder y consensws a'r brwdfrydedd sydd gennym ar gyfer y prosiect trawsnewidiol hwn. Mae wir yn cynnig y cyfle i Gymru i fod yn arweinydd byd mewn ynni unwaith eto, ac rwy’n meddwl nad yw’r math hwnnw o gyfle yn digwydd yn aml iawn, iawn.
Rwyf am droi nawr at adolygiad Hendry, sydd, fel Simon—. O bryd i'w gilydd mewn bywyd, rydych yn disgwyl am adolygiad, rydych yn gwybod ei fod yn bwysig, ac yna mae rywsut yn darllen fel petai chi neu'ch mam a’i ysgrifennodd—mae’n cynnwys popeth yr ydych yn gobeithio ei glywed—a dyna sut aeth pethau, mwy neu lai. Rwy'n meddwl bod y dystiolaeth yn eithaf llethol yn wir, a bod y neges i Lywodraeth y DU yn glir iawn, iawn ac nad oedd yn amwys o gwbl, ond roedd yn gweld yr uchelgais ac yn ei ddisgrifio. O ran yr hyn y mae’r adroddiad yn ei bwysleisio, y gallem ni, y DU, gyda Chymru ar y blaen, fod yn arweinydd byd yn y dechnoleg hon—y byddwn ni yno fel yr oedd y Daniaid a'r Almaenwyr ar gyfer technoleg gwynt yn yr 1960au—y gallem ddarparu cyflenwad dibynadwy oherwydd yn amlwg bydd y llanw yno, cyn belled â bod y lleuad yn parhau i fodoli; cyflawni ein hymrwymiadau datgarboneiddio mewn ffordd ddefnyddiol iawn; a chreu cyfleoedd sylweddol i'r cadwyni cyflenwi lleol. Felly, rwy’n meddwl bod y rheini i gyd yn ffactorau pwysig iawn—. Ildiaf i Darren Millar.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ildio. Un o’r buddion eraill, wrth gwrs, y mae’r mathau hyn o gynlluniau’n gallu eu darparu yw budd o ran amddiffyn rhag llifogydd. Wrth gwrs, ar arfordir y gogledd mae yna gyfle i ddatblygu morlyn llanw i ddiogelu Bae Colwyn, Conwy a rhannau o arfordir Sir Ddinbych. A ydych chi’n cytuno â mi bod y math hwnnw o gyfle, oherwydd y gallai sicrhau buddion posibl o ran amddiffyn rhag llifogydd, yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru o bosibl gymryd rhan yn ariannol yn y broses o gyflwyno’r prosiect hwn er mwyn gwneud iddo ddigwydd?
Ydw. Rwy'n meddwl bod yr Aelod efallai eisoes wedi gweld adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'n pwysleisio’r buddion o ran amddiffyn rhag llifogydd a allai ddod gyda phrosiectau morlynnoedd llanw, ac mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn, iawn. Mae adolygiad Hendry yn nodi y gall morlynnoedd llanw chwarae rhan gost-effeithiol yng nghymysgedd ynni y DU, ac rwy’n meddwl bod hynny’n torri tir newydd gwirioneddol, oherwydd roedd rhai cwestiynau ynghylch cost-effeithiolrwydd y dechnoleg hon—mae'n un hirdymor, ond wrth edrych ar yr hirdymor, mae'n dod yn amlwg bod hyn yn gost-effeithiol. Mae'r adroddiad yn nodi bod yr achos o blaid hyn fel prosiect braenaru yn 'gryf iawn', a’i fod yna yn debygol o arwain at forlynnoedd mawr cost-gystadleuol mewn ardaloedd eraill, fel y gogledd, ond hefyd o bosibl Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â safleoedd eraill o amgylch y DU. Felly, mae hyn yn bwysig iawn, iawn.
Mae trylwyredd adolygiad Hendry yn cynnwys galwadau ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu dull strategol clir ar gyfer ynni llanw, yn debyg i ynni gwynt ar y môr. Felly, rwy’n meddwl bod angen inni weld hynny. Mae hefyd yn galw am gorff newydd, awdurdod ynni llanw, a fyddai'n gweithredu fel asiantaeth hyd braich, er mwyn gallu manteisio i'r eithaf ar y dechnoleg hon. Felly, rydym yn gweld cwmpas, a dweud y gwir, yr hyn sydd o’n blaenau.
A gaf i droi, yn olaf, at y buddion i Gymru? Ni wnaf siarad yn benodol—rwy'n meddwl y bydd Aelodau eraill yn sôn am brosiect Abertawe. Ond pe byddai prosiectau eraill yn dilyn yn y safleoedd mwyaf tebygol, gallem weld buddsoddiad gwerth £20 biliwn gan y sector preifat, dros 33,000 o swyddi, o bosibl, mewn adeiladu a gweithgynhyrchu ar gyfer Cymru, a budd blynyddol yn ein GYC, os aiff y prosiectau hyn yn eu blaenau, o £ 1.4 biliwn. Mae'n rhyfeddol. Unwaith, Cymru oedd Kuwait y byd glo; nawr, gallem fod yn arweinydd y byd ym maes ynni llanw. Gadewch inni groesawu’r her.
Rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ac yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at y drafodaeth. Mae morlyn llanw Abertawe yn cynnig cyfle enfawr i’r DU ac i Gymru i fod ar flaen y gad o ran y dechnoleg arloesol hon. Er mai dim ond prosiect arbrofol ar gyfer y diwydiant hwn yw’r morlyn yn Abertawe, rydym yn deall bod Caerdydd ymhlith y ceffylau blaen o ran y cynlluniau i ddatblygu gosodiad maint llawn, ac, wrth gwrs, clywsom yn gynharach am y posibiliadau yn y gogledd, a dylem, wrth gwrs, gynnwys y posibiliadau yng Nghasnewydd hefyd.
Mae'n anodd goramcangyfrif y potensial i ddiwydiant Cymru yng nghyfnod adeiladu a thechnoleg y datblygiad hwn. Mae cwmnïau yng Nghymru ac yn rhanbarth Abertawe sydd eisoes yn meddu ar y gallu technegol i ddarparu llawer o'r seilwaith ar gyfer y prosiect hwn, ond bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i’r rhain ac i lawer o rai eraill i ddatblygu'r gallu i ddarparu arbenigedd llawn o ran technoleg a seilwaith morlynnoedd llanw. Hefyd, mae potensial enfawr i gwmnïau sy’n bellach i lawr yn y gadwyn gyflenwi i gymryd rhan yn y prosiect hwn.
Mae adolygiad Hendry o forlynnoedd llanw yn pwysleisio manteision sicrwydd y cyflenwad ac effaith carbon-negatif datblygiadau o'r fath, sydd, wrth gwrs, yn cael effaith gadarnhaol ar nod y Cynulliad o gyflenwi ynni di-garbon. Dylid nodi hefyd bod gan y diwydiant hwn botensial mawr, nid yn unig yn y DU, ond mewn llawer o leoliadau ledled y byd lle mae morlynnoedd llanw yn ddewisiadau ymarferol ym maes cynhyrchu trydan. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithredu’n bendant i symud y prosiect hwn yn ei flaen fel y bydd Cymru a'r DU ar flaen y gad yn y dechnoleg newydd gyffrous hon, ac mewn sefyllfa i dendro ar gyfer datblygiadau o'r fath, lle bynnag y byddant wedi'u lleoli. Mae consensws trawsbleidiol llawn ar y datblygiad hwn, felly gadewch inni barhau i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i weithredu ar yr argymhellion yn adolygiad Hendry a nodi na wnawn ni yng Nghynulliad Cymru oddef oedi annerbyniol wrth symud ymlaen gyda'r prosiect hanfodol hwn.
Hoffwn sôn am dri phwnc: pysgod, uchelgais, a Dewi Sant. Rydym wedi siarad am rinweddau’r ffaith bod y prosiect hwn yn brosiect masnachol, sy’n gwbl ddibynnol ar gyllid preifat, fel un o'i lawer o rinweddau, ond, wrth gwrs, mae gennym amgylchedd rheoleiddio sy'n peri risg na wnaiff llawer o'r prosiectau hyn fyth ddechrau. Efallai yr hoffem gael buddsoddwyr amyneddgar, ond nid oes llawer o fuddsoddwyr direswm. Nid oes terfynau amser mewn grym ac, mewn amgylchedd o'r fath, mae perygl gwirioneddol y gallai'r prosiect Abertawe chwalu ac y gallai prosiectau morol yn y dyfodol gael eu gohirio. Nawr, rwyf yn sicr o blaid rheoleiddio hyd braich, ond prin y gallwn weld Cyfoeth Naturiol Cymru o dros y gorwel, ac rwyf yn cwestiynu'r ffordd y mae'r ddeddfwriaeth wedi ei gosod allan a'r ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei sefydlu. Gallant gymryd cyhyd ag y mynnant. Nid oes gan Weinidogion unrhyw bwerau—nid ydyn nhw’n gallu gosod terfyn amser i gael penderfyniad, nid ydyn nhw’n gallu ei alw i mewn, ac nid ydyn nhw’n gallu apelio. Gallem fod yn y sefyllfa absẃrd o fod wedi cael pob caniatâd sydd ei angen arnom gan Whitehall, ond, oherwydd diffyg arbenigedd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, gallai’r prosiect ddisgyn i mewn i'r môr—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
A yw'n ymwybodol o erthygl 11 Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 sy'n rhoi pŵer cyffredinol i Weinidogion Cymru i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch arfer ei bwerau?
Efallai y bydd yn syndod i Mark Reckless i wybod nad oeddwn yn ymwybodol o’r is-gymal penodol hwnnw, ond rwy'n ddiolchgar iddo am dynnu sylw ato.
Nid yw wedi’i gydnabod bod llawer o'r buddsoddwyr preifat yma wedi bod yn hynod o hael â’u hamynedd, ac y byddai’r prosiect hwn, hebddynt, yn farw yn y dŵr. Nid yw David a Heather Stevens, yn arbennig, yn ceisio bod yn llygad y cyhoedd, ond, heb eu parodrwydd i gefnogi'r prosiect hwn, byddai ein holl sôn am ddatblygu cynaliadwy braidd yn academaidd.
Hoffwn sôn am uchelgais, yn ail. Mae'n ymddangos ein bod, am gyfnod rhy hir, wedi bod yn rhy nerfus i ymrwymo’n llawn i'r prosiectau hyn. Rwy’n meddwl, beth amser yn ôl, fy mod yn cofio gweld protestwyr y tu allan i'r Cynulliad hwn, a rhai o fy nghyd-Aelodau Cynulliad sydd yma nawr yn sefyll ochr yn ochr â nhw, yn erbyn ffermydd gwynt yn y canolbarth. Mae'n bosibl bod hynny wedi codi ofn ar lawer o bobl. Mae uwch swyddogion, rwy’n ofni, mor ymroddedig i niwclear fel ei bod yn ymddangos eu bod yn gweld ynni adnewyddadwy, ar y gorau, fel rhywbeth i dynnu sylw, ac, ar y gwaethaf, fel bygythiad. Gallwn osod—rydym wedi gosod—targed newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi gosod uchelgais i fframio polisi cyhoeddus mewn ffordd sy'n gwasanaethu lles cenedlaethau'r dyfodol. Mae lleihau ac yna dileu'r defnydd o danwyddau ffosil yn gwneud y ddau beth hynny. Mae'r morlyn llanw ym mae Abertawe yn anfon arwydd pwysig ein bod yn awyddus i harneisio pŵer y môr ac ysgogi swyddi gwyrdd yn y broses, ond ni allwn fod yn amwys am y peth. Mae'n rhaid i’n llais fod yn gryf. Ni ddylem fod yn dawel gefnogol yn y cefndir; mae'n rhaid inni brynu cyfran yn y cwmni daliannol ac elwa ar y ffaith mai Cymru fyddai’r gyntaf mewn ton fyd-eang o ddatblygiadau.
Yn olaf, rwy’n yn dod at Dewi Sant a'i alwad inni wneud y pethau bychain. Hoffem weld—wel, yn sicr hoffwn i weld—100 y cant o'n hynni yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Yn wir, hoffwn i weld mwy, fel y gallwn werthu ein hynni a chynhyrchu cyfoeth i Gymru, a gadael i’n hadnoddau naturiol, unwaith eto, ddod yn un o ddilysnodau ein sylfaen economaidd. Mae'r morlyn yn rhan bwysig o hynny, ond ni allwn ddibynnu ar un neu ddau o brosiectau mawr yn unig i gyflawni ein huchelgeisiau. Mae angen inni wneud mwy. Mae angen inni wneud y pethau bychain—cannoedd o bethau bychain ar yr un pryd. Mae angen inni gynllunio i bob cartref fod yn orsaf bŵer fach sy'n cynhyrchu mwy o ynni nag sydd ei angen arno a defnyddio cadwraeth ynni yn llawn a lleihau faint o ynni sydd ei angen arnom—yn aml y darn sy'n cael ei esgeuluso yn y dadleuon hyn. Mae hyn yn rhan o'r pwyslais economi sylfaenol yr hoffem ei weld: priodi’r croeso hwn i dechnolegau newydd â phwyslais ar economi pethau bob dydd. Mae gan gynhyrchu ynni lleol botensial enfawr i greu sgil effeithiau economaidd lleol, cadwyni cyflenwi lleol, sgiliau lleol, ac, yn hanfodol, i ailgysylltu ymddygiad pobl â’u defnydd o ynni. Pan fydd pobl yn gallu gweld yr ynni y maent yn ei greu, y maent yn ei gynhyrchu, mae hynny’n llawer mwy tebygol o effeithio ar eu harferion a'u hagweddau a'u hymddygiad eu hunain. Felly, mae angen arweinyddiaeth arnom. Mae angen amgylchedd rheoleiddio caniataol ac mae angen arian. Ac, os nad yw Dewi Sant at eich dant, efallai y dylem feddwl am Max Boyce, a ddywedodd wrthym fod angen cynllun anhygoel arnom, oherwydd, fel y dywedodd, ceffyl da yw ewyllys. Diolch.
Wel, Aelodau, rwy’n meddwl ein bod yn sefyll ar drothwy rhywbeth gwirioneddol arwyddocaol. Rwy'n meddwl bod angen dewrder neilltuol i wynebu newidiadau gwleidyddol byd-eang ac wedyn penderfynu dod â rhywbeth da ohonynt. Weithiau, gall dod â’r peth da hwnnw allan fod yn seismig ynddo ei hun, gan fabwysiadu ffordd newydd o feddwl.
Nawr, gyda rhai o fy nghydweithwyr, rwyf newydd ddod yn ôl o CERN yn Genefa—sefydliad eithriadol sy'n dod â chyfle unigryw i’r rhan honno o'r byd. Dechreuodd yn 1954 wrth i wyddonwyr o 12 o wledydd symud ymlaen o hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a chymryd y cam cyntaf i dorri drwy derfynau peirianneg, cyfrifiadureg, a ffiseg. Mewn twnnel 100m i lawr a 27 km o hyd, a adeiladwyd ar gyfer prosiect cynharach, costus, mae'r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr gwerth £2.8 biliwn erbyn heddiw yn un rhan o stori anhygoel, ond stori ddrud hefyd sy'n denu buddsoddiad gan ddwywaith cymaint o wledydd ag a wnaeth 60 mlynedd yn ôl.
Rwy'n siŵr bod llawer o Lywodraethau wedi cwestiynu cost eu cyfraniadau dros y blynyddoedd, ond a ydym nawr yn meddwl: a fyddai wedi bod ffordd ratach o ddarganfod y gronyn Duw? A allem ni fod wedi llwyddo i ddatblygu’r we fyd-eang am lai? Nawr, fyddai neb wedi rhagweld y naill na’r llall o’r chwyldroadau penodol hyn yn 1954. Yr hyn yr oedd y Llywodraethau hynny’n buddsoddi ynddo, ddegawd ar ôl degawd, oedd y ffin symudol—y gydnabyddiaeth mai edrych ymlaen, meddwl ymlaen, gwario ymlaen, yw'r unig obaith o fod yn barod am yr heriau gwirioneddol fyd-eang hynny. Rydym eisoes yn gwneud hynny i raddau gyda newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, neu adnoddau dŵr a bwyd byd-eang, yr economi fyd-eang, hyd yn oed—maent i gyd yn rhyng-gysylltiedig, wrth gwrs, ond mae angen edrych o’r newydd arnynt. Dyma pam yr wyf yn dweud ein bod ar drothwy rhywbeth arwyddocaol, hyd yn oed os yw’n ymddangos yn fach, oherwydd bod morlynnoedd llanw, yn rhannol, yn ateb newydd i gwestiwn cynhyrchu ynni yn y dyfodol.
Llosgi tanwyddau ffosil: mae hynny'n rhad, ond nid yw ynni rhad yn rhoi gwerth am arian os yw’r adnoddau'n gyfyngedig, diogelwch y cyflenwad yn ansicr, a chost llygredd ac iechyd gwael yn cael eu hystyried. Ynni gwynt: eithaf rhad i’w gynhyrchu, ond yn aml yn amhoblogaidd, annibynadwy, ac angen offer wrth gefn drud—gwerth am arian? Niwclear: ddim yn arbennig o ddrud wrth wrthbwyso’r gost dros oes. Mae'n ddibynadwy, ond mae’r risg yn uchel iawn o ran cost methiant diogelwch. A yw hynny’n werth am arian? A lagwnau: ddim yn arbennig o ddrud wrth wrthbwyso’r gost dros oes, technoleg ddibynadwy, ond heb ei phrofi—a yw hynny’n werth am arian?
A wnaiff yr Aelod ildio?
Yn fyr iawn. Mae'n araith eithaf hir, mae'n ddrwg gennyf, Simon.
Dim ond i ailadrodd fy mod yn gobeithio ei bod hi’n gallu gweld yn adroddiad Hendry ei fod wedi cymharu niwclear â’r morlyn llanw ac wedi dweud, dros ddadansoddiad cost oes tebyg, bod y morlyn llanw mewn gwirionedd yn rhatach na niwclear.
Wel, dyna beth yr wyf yn dod ato, oherwydd, o ran gwerth am arian, rwy'n gofyn: pam ar y ddaear na wnawn ni ddarganfod hyn? Mae morlynnoedd llanw yn ffordd newydd o feddwl. Fel CERN, hwn fydd y cyntaf yn y byd. Mae hwn yn ddiwydiant newydd, yn ddiwydiant byd-eang, gyda goblygiadau byd-eang, ac mae gennyn ni yma yn y DU. Nid yw'n gwestiwn o 'gallem', David Melding; mae'n fater o 'dylem'. Mae adroddiad Hendry yn argyhoeddiadol ar y rhan y gallai ynni'r llanw ei chwarae wrth ddiwallu ein hanghenion, ond dim ond rhan o stori lawer mwy yw hynny. Mae'n argyhoeddiadol ar y manteision economaidd lleol uniongyrchol y byddai morlyn braenaru diedifar yn eu creu i fy rhanbarth i: mae'n drawsnewidiol i Abertawe fel dinas, meddai. Ond mae'n wir am rannau eraill o'r DU hefyd. Mae'n argyhoeddiadol ar effaith economaidd morlynnoedd eraill yn y de-ddwyrain a’r gogledd, a’u bod yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol y DU. Ond y gwir werth am arian yw bod y cyntaf—mai’r Deyrnas Unedig fyddai’r ganolfan fyd-eang ddiamheuol ar gyfer arbenigedd mewn morlynnoedd a’u gweithgynhyrchu. Pa mor aml y cawn gyfle fel hyn? Am 30c ar ein biliau, gallwn wneud i’r holl sôn am economi wybodaeth olygu rhywbeth, drwy dyfu gweithgynhyrchu ar gyfer y byd, yma yn y DU.
Mae’n ymwneud â mwy na’r cyfnod datblygu. Gallem fod yn arwain y byd ym maes ymchwil a datblygu, nid yn unig o ran dyluniad mwy effeithlon ond o ran deunyddiau, gan roi bywyd a chyfeiriad newydd i’n gwaith dur, o ran storio ynni, o ran dulliau trosglwyddo, o ran amddiffyn rhag llifogydd. Os ydym am gael USP ar gyfer ein cytundebau masnach newydd, wel dyma fe. Edrych ymlaen, meddwl ymlaen, gwario ymlaen—nid ar forlyn, ond ar ddyfodol diwydiannol newydd i Brydain.
Pan gafodd CERN ei sefydlu, nid oeddent yn rhagweld y byddai eu gwaith yn achub bywydau drwy therapi pelydr protonau, ac y byddent yn chwyldroi trosglwyddo data. Yr oll yr oedd eu partneriaid yn ei wybod oedd mai nhw oedd y cyntaf, a bod hynny’n golygu sbarduno newid. Bedwar cant o flynyddoedd yn ôl—ychydig bach yn fwy diweddar na Dewi Sant, yn anffodus—dyfeisiodd Hans Lippershey y gwydr persbectif Iseldiroedd, dyfais i weld pethau pell i ffwrdd fel pe byddent yn agos. Defnyddiodd dechnoleg a oedd yn bodoli, lens gwydr, a gwneud rhywbeth cymharol ddiddorol â hynny. Ni wnaeth drin hyn fel mai ef oedd y cyntaf; ni welodd botensial yr hyn oedd ganddo. Nid oedd Galileo, ar y llaw arall, yn fodlon ar weld pethau pell i ffwrdd fel pe byddent yn agos. Cymerodd ei fersiwn ef o'r gwydr persbectif Iseldiroedd a dangosodd i Senedd Fenis fod ei delesgop yn rhoi rhywbeth unigryw iddynt: mynediad at y sêr. Gwnaeth hyn ef yn ddyn cyfoethog a gwnaeth bob un ohonom yn gyfoethocach, gan fod telesgop Hubble, yn union fel CERN, wedi ein helpu i ddeall ein bydysawd. Ni ddylem edrych ar forlynnoedd llanw yn bethau pell fel pe byddent yn agos. Mae angen inni hefyd edrych i fyny a gweld y cyfle byd-eang i Gymru ac i Brydain.
Hoffwn roi'r morlyn llanw yng nghyd-destun ehangach economi las Cymru, ond, cyn imi wneud hynny, rwy’n meddwl ei bod yn werth nodi nad yn y Siambr hon yn unig y mae cefnogaeth Charles Hendry i’r morlyn ym mae Abertawe wedi ei chroesawu’n eang, ond hefyd, i siarad yn bersonol, gan fy etholwyr a hefyd gan fusnesau ar draws y gadwyn gyflenwi a chadwyn gyflenwi bosibl y rhanbarth. Rwy’n credu bod y lagŵn wedi cydio yn y dychymyg oherwydd, fel yr oedd David Melding yn cyfeirio ato yn gynharach, cafodd Cymru fodern ei hadeiladu ar ynni, ac efallai mai technoleg ynni llanw glân fydd diwydiant mawr nesaf Cymru. A gadewch inni beidio â thanbrisio, ychwaith, effaith 100 mlynedd o ymrwymiad economaidd ar economi ranbarthol bae Abertawe. Gallai hwn fod yn gatalydd i ddatblygiad economaidd mawr mewn sectorau a allai gefnogi technoleg morlynnoedd a’u hadeiladu.
Mae Cymru'n genedl llanw, ac un o'n hasedau mawr yw ein harfordir hir a chyrhaeddiad llanw sy’n uwch na’r rhan fwyaf o wledydd eraill. Felly, mae'n gwneud synnwyr da inni i ganolbwyntio ar ddatblygu sectorau o'n heconomi lle y gallwn gynnig rhywbeth nad yw’r rhan fwyaf o wledydd eraill yn gallu ei gynnig, a sectorau nad ydynt yn dibynnu ar ein haelodaeth barhaus o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae defnyddio ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy—ac rwy’n pwysleisio ‘cynaliadwy’— yn gwneud synnwyr. Yn wir, mae'n rhoi mantais gystadleuol inni. Nid yw gwledydd nad oes ganddynt ein harfordir na’n llanw ni yn gallu datblygu'r fantais honno. Ond gadewch inni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau. Yn sicr mae digon o wledydd eraill sydd ag asedau naturiol tebyg i fod yn fygythiad cystadleuol, ac nid yw ein cystadleuwyr yn mynd i loetran tra bod Cymru yn achub y blaen yn y sector hwn. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar fyrder, a hefyd mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru weithredu’n gyflym, i roi trwyddedau morol ac i osgoi unrhyw oedi pellach. Os na chaiff y camau hyn eu cymryd yn brydlon, byddwn yn colli ein mantais symudydd cyntaf i ryw leoliad arall, ac efallai y caiff cyfle euraidd ei golli, a byddai hynny'n anfaddeuol.
Fel Aelodau eraill, rwyf wedi cael sylwadau gan bysgotwyr lleol sydd â phryderon gwirioneddol, yr wyf yn cydymdeimlo â nhw, am yr effeithiau ar stociau pysgod, er bod anghydfod ynghylch yr union fanylion, fel y gwyddom. Ond, yr hyn nad yw’n destun anghydfod—
A wnewch chi ildio?
Derbyniaf yr ymyriad.
Diolch i'r Aelod am ildio. Rwyf innau hefyd wedi cael sylwadau gan y pysgotwyr, pysgotwyr yr Afan yn arbennig, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod nawr yn sicrhau penderfyniad cyflym rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Tidal Lagoon Power fel y gallwn sicrhau bod y bwlch rhwng y ddau, sy'n eithaf enfawr ar hyn o bryd, yn dod yn fwy realistig, oherwydd rwy’n deall bod y ddau, mae’n rhaid cyfaddef, ar eithafion eu cyfrifiadau ac mae angen canfod cydbwysedd tecach yn y canol yn rhywle, ac mae angen inni wneud hynny’n gyflym.
Byddwn yn ategu hynny; rwy’n meddwl bod angen inni wneud cynnydd cyflym ar hynny. Ond yr hyn sy’n ddiddadl yw mai newid yn yr hinsawdd yw un o'r bygythiadau mwyaf i fioamrywiaeth forol beth bynnag. Felly, rwy'n meddwl mai dyna gyd-destun ehangach y drafodaeth honno.
Ond mae'r morlyn yn amlygiad o gyfle llawer ehangach i droi adnodd naturiol mwyaf toreithiog Cymru yn ased economaidd ac i dyfu ein heconomi las. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, ar gynllun morol newydd eleni, a hoffwn weld y cynllun hwnnw’n rhoi arwydd o ymrwymiad llawn i'r sector hwn, yn ei holl ffurfiau—rydym yn sôn am y môr heddiw, ond mae hefyd chwaraeon, dyframaeth a chyfleoedd eraill, gwerth £2.1 biliwn o werth economaidd a degau o filoedd o swyddi cyn inni ddechrau gwneud unrhyw gynnydd gwirioneddol ym maes ynni adnewyddadwy. Ond mae angen inni fanteisio ar y cyfle hwn.
Hoffwn weld strategaeth farchnata uchelgeisiol i arddangos y sector hwn i'r byd, a gallem ddechrau drwy gynnal uwchgynhadledd ryngwladol o brynwyr posibl technoleg morlynnoedd yn ardal bae Abertawe. Hoffwn weld targedau ymestynnol ond realistig o ynni o ffynonellau adnewyddadwy alltraeth a morol dros amserlen realistig. Hoffwn weld y comisiwn seilwaith cenedlaethol newydd yn cael y dasg o gynnal asesiad cynnar o anghenion seilwaith yr economi las. Ac i adleisio'r pwynt yr oedd Lee Waters yn ei wneud, mae angen trefn gydsynio arnom sy’n gyflym, yn dryloyw ac yn addas i’w diben. Ceir tystiolaeth, a ddaeth drwy'r ymgynghoriad a gynhaliodd Llywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf i mewn i'r ffioedd a thaliadau, bod pryderon y gallai’r amserlenni fod yn brif achos anfantais gystadleuol. Felly, mae sicrwydd a thryloywder yn y maes hwn yn hanfodol.
Hoffwn hefyd weld Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud iawn am unrhyw ddiffyg yng nghyllid yr UE i’r sector morol o ganlyniad i adael yr UE, ac i wneud yn siŵr nad yw proses Brexit yn cynnwys gwrthdroi unrhyw gymwyseddau datganoledig Llywodraeth Cymru o ran polisi morol. Mae morlynnoedd llanw—yn wir, yr economi las—yn gyfle mawr i Gymru. Felly, gadewch inni beidio â cholli'r cyfle.
Roeddwn yn falch o weld heddiw bod llythyr, wedi’i drefnu, rwy’n meddwl, gan ASau yn San Steffan. Cafodd ei lofnodi gan Richard Graham, yr AS dros Gaerloyw, a 107 o ASau, ac, rwy’n meddwl yn fwyaf defnyddiol, mae Jesse Norman, y Gweinidog iau â chyfrifoldeb, wedi dweud na fydd Llywodraeth y DU yn llusgo ei thraed wrth ymateb i adroddiad Charles Hendry. Yr haf diwethaf, gofynnodd swyddfa Charles Hendry imi a allwn i drefnu cyfarfod o Aelodau'r Cynulliad i drafod y gwaith yr oedd yn ei wneud gydag ef. Cefais fy nharo'n sylweddol gan nifer y bobl a ddaeth, gan y brwdfrydedd am ei waith, ac yna eto pan gyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw, gan y croeso i ba mor gryf a diamwys oedd ei argymhelliad.
Pan feddyliais gyntaf rai blynyddoedd yn ôl am y prosiect hwn, roedd, rwy’n credu, ar gam cynharach, pan awgrymwyd y byddai cost yr ynni yn £168 y MWh, ac wedi’i gymharu ar sail contract gwahaniaeth cymharol fyr, roedd yn ymddangos yn ddrud iawn o'i gymharu â dewisiadau eraill, gan gynnwys niwclear ac ynni gwynt ar y môr. Rwyf wedi fy argyhoeddi ei fod nawr wedi’i asesu ar sail decach a mwy synhwyrol dros gyfnod hwy, a bod cyfraddau llog tymor hir is hefyd yn gwneud y buddsoddiad yn gymharol fwy deniadol. Pan fyddwch yn edrych ar o ble mae'n cael ei ariannu, i'r graddau y mae gennym fframwaith rheoli ardollau ar lefel y DU—cyfwerth â £9.8 biliwn erbyn 2020 yw’r swm a bennwyd ar gyfer hynny—mae'n fy nharo’n synhwyrol i wario mwy o’r arian hwnnw ar amrywiaeth eang o bosibiliadau ynni, y gallai rhai ohonynt ddwyn ffrwyth a dod yn llwyddiannus iawn dros y tymor hwy. Rydym wedi gweld y gostyngiad mawr iawn mewn prisiau solar; nid ydym wedi gweld gostyngiad mor fawr mewn prisiau ynni gwynt. Rwy’n meddwl y gellid gwario'r arian hwnnw’n well drwy o leiaf ariannu dewis technoleg amgen a allai o bosibl sicrhau canlyniadau cryf dros y tymor hwy, ac yn amlwg mae ganddo werth opsiwn sylweddol o gofio ansicrwydd yr holl bethau hyn. O'i gymharu â niwclear ac ynni gwynt ar y môr, i'r graddau y mae'n cymharu'n dda nawr hyd yn oed ar yr amcanestyniadau o ran cost, rwy’n meddwl ei fod yn fwy deniadol oherwydd ei fod yn cynyddu’r amrywiaeth honno ar gyfer ffynhonnell ynni sy’n amlwg yn ddilygredd ac yn ddibynadwy.
Hefyd, nid oes amheuaeth y byddai hyn yn wych i Gymru. Mae’r fframwaith rheoli ardollau hwnnw’n seiliedig ar y DU, ac rwy’n meddwl bod Simon Thomas wedi siarad yn gywir iawn ac rwy'n meddwl ei fod wedi tynnu sylw hael at y ffaith y byddai hyn yn golygu bod Cymru yn elwa ar fframwaith y DU. Rwy’n meddwl i raddau y gall y Cynulliad hwn ddod at ei gilydd ac, rwy’n credu, cefnogi’r cynnig hwn a’r prosiect hwn yn unfrydol, yn ogystal â'r disgrifiadau gwerth opsiwn a thechnegol yr wyf wedi eu rhoi. Yn amlwg, byddai llawer iawn o arian, boed gan drethdalwyr y DU, neu'n fwy cyffredinol gan dalwyr biliau trydan y DU, yn dod i gael ei fuddsoddi yng Nghymru, ac yn ein helpu o leiaf o bosibl i ddatblygu hyn fel diwydiant i’r dyfodol. Felly, byddwn yn croesawu hynny'n fawr.
Dim ond i ymateb i rai o bwyntiau Lee Waters yn gynharach am Gyfoeth Naturiol Cymru, nid wyf yn meddwl ei bod yn deg inni feirniadu Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhy gryf. Maent yn gwneud yr hyn sydd wedi’i osod ar eu cyfer o dan ddeddfwriaeth, a phan fyddwn yn pasio deddfwriaeth sy'n dirprwyo awdurdod i gyrff hyd braich, ni ddylem synnu pan fyddant yn gwneud yr hyn y gofynnwyd iddynt ei wneud dan y statudau yr ydym wedi eu gosod. Mae Gweinidogion Cymru wedi dirprwyo eu pwerau o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 i Gyfoeth Naturiol Cymru, a chyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw gwneud penderfyniad am drwydded pan fyddwn yn rhoi unrhyw sylwedd neu wrthrych yn y môr neu ar neu o dan wely'r môr. Eu lle nhw yw penderfynu, ac rydym wedi amlinellu sut y dylai hynny ddigwydd—mae angen gwarchod yr amgylchedd, mae angen diogelu iechyd dynol, ac mae angen atal ymyrryd â ffyrdd cyfreithlon o ddefnyddio’r moroedd. Mae'n bwysig eu bod yn ystyried y pethau y gofynnwyd iddynt eu hystyried.
Rwy'n meddwl ei bod yn anffodus nad oes gennym y broses galw i mewn yng Nghymru sydd ar gael i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a hefyd nad oedd yn bosibl barnu bod trwydded yn rhan o broses gynllunio’r Adran Materion Cyfansoddiadol. Felly, rwyf am ofyn, efallai nid ar unwaith, ond ar ôl penderfyniad gan y DU, ac yn enwedig os caiff yr adroddiad ei gymeradwyo, a fyddai Gweinidogion Cymru yn ystyried defnyddio'r pŵer a ddisgrifiais yn gynharach i Lee Waters i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru, neu efallai i bennu amserlen iddynt i ymdrin â rhai o'r materion anodd hyn am fodelu pysgod, a ffurfio barn mewn ffordd na fyddai'n gohirio’r prosiect cyfan. Yna, pe byddai Cyfoeth Naturiol Cymru, am ba bynnag reswm, neu'r materion cul y gallent fod yn edrych arnynt, pe na byddent yn gwneud penderfyniad ffafriol, byddai hawl i apelio i Weinidogion Cymru. Rwy’n deall yn llwyr pam na fydd Gweinidogion Cymru, o ran y cynnig a'r hyn y maent yn ei ddweud wrthym yn y Cynulliad heddiw, eisiau dweud dim byd a allai o bosibl arwain at adolygiad barnwrol andwyol yn y dyfodol. Ond hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth fy hun at yr hyn yr wyf yn meddwl sy’n gefnogaeth eang iawn yn y Cynulliad i adolygiad Hendry ac i hyn fel ynni’r dyfodol a allai fod o fudd mawr i Gymru.
Rydym yn cymryd trydan yn ganiataol. Rydym yn cynnau ein cyfrifiadur, ein teledu, ein goleuadau neu ein dyfeisiau trydanol eraill ac rydym yn disgwyl iddynt weithio. Mae'n rhaid cynhyrchu’r trydan ac mae’n rhaid iddo fod ar gael pan fydd ei angen arnom. Yn draddodiadol, mae trydan wedi ei gynhyrchu drwy losgi tanwyddau ffosil. Mae pob tanwydd ffosil yn seiliedig ar garbon. Pan mae carbon yn llosgi, mae'n ffurfio carbon deuocsid. Mae carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr. Mae hyn yn achosi cynhesu byd-eang.
Mae cytundeb Paris yn gyrru'r agenda ddatgarboneiddio ryngwladol gyda rhai datblygiadau cyflym mewn ynni adnewyddadwy a lleihau galw. Mae angen dewisiadau eraill yn hytrach na llosgi glo, nwy, olew a phren. Mae hyn yn gadael ynni niwclear, ynni gwynt ar y tir ac ar y môr, ynni'r haul, llif afonydd, geothermol a phŵer llanw. Mantais ynni'r llanw yw ei fod yn ddibynadwy. Gallwn ni ragweld llanwau am ganrifoedd i’r dyfodol. Rydym yn gwybod bod sianel Bryste yn ddelfrydol i gynhyrchu pŵer llanw. Mae adolygiad Hendry wedi bod yn ddiamwys o blaid morlyn llanw ym mae Abertawe.
Y cwestiwn cyntaf i'w ofyn yw: a yw’r wyddoniaeth yn gweithio? Rydym yn gwybod bod tyrbinau unffordd yn gweithio—maent ar afonydd. Yn Dinorwig yn y gogledd, mae tyrbinau unffordd wedi’u gyrru gan ddŵr yn cael eu defnyddio. Mae dŵr yn cael ei storio ar dir uchel yng nghronfa ddŵr Marchlyn Mawr ac yn cael ei ryddhau i Lyn Peris i symud y tyrbin yn ystod adegau brig y galw am drydan. Mae'n cael ei bwmpio yn ôl o Lyn Peris i Farchlyn Mawr yn ystod yr oriau galw llai. Mae'n defnyddio mwy o drydan i bwmpio dŵr i fyny nag y mae'n ei gynhyrchu ar y ffordd i lawr. Mae’r pwmpio yn cael ei wneud pan fo’r galw’n isel.
Yr unig wahaniaeth gyda morlyn llanw yw bod y tyrbinau’n ddwyffordd ar forlyn llanw, sy'n golygu ein bod yn ei gael bedair gwaith y dydd. Unwaith pan ddaw'r llanw i mewn, unwaith pan aiff y llanw allan, unwaith pan ddaw'r llanw i mewn eto, unwaith pan aiff y llanw allan eto. Rydym ni’n gwybod bod hynny’n mynd i ddigwydd ac nid yw'n costio dim ynni inni. Nid yw hyn fel ei bwmpio i fyny bryn a’i fod yna'n dod i lawr eto. Nid yw hyn yn arloesol, gellir ei greu, gellir ei ragweld, ac mae'n ddibynadwy dros gyfnodau hir.
Er bod angen datgomisiynu gweithfeydd tanwydd ffosil ac atomfeydd a chael gwared arnynt, fel y dywedodd Darren Millar yn gynharach, y cyfan y mae morlyn llanw yn ei wneud yw gadael amddiffynfa fôr ichi. Felly, hyd yn oed os nad ydych yn ei hoffi, a’i fod yn dod i ben, mae'n rhoi amddiffynfa fôr ichi. Gyda chynhesu byd-eang, rydym yn disgwyl i lefelau'r môr godi. Felly, mae'n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.
Yr unig gwestiynau i'w hateb o hyd yw sut y byddwn yn sicrhau bod pysgod yn nofio’n ddiogel naill ai drwy'r tyrbinau neu o'u cwmpas nhw a chael trwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru? Ym mis Rhagfyr 2016, datgelodd Cyfoeth Naturiol Cymru, ar eu tystiolaeth orau, y gallai'r morlyn llanw arfaethedig ym mae Abertawe gael effaith fawr ychwanegol ar bysgod mudol oherwydd anafiadau wrth iddynt nofio drwy'r tyrbinau. Ar ôl ymgynghoriad hir, amcangyfrifodd Cyfoeth Naturiol Cymru y gellid lladd hyd at 21 y cant o eogiaid a 25 y cant o siwin, sy'n bysgod o bwysigrwydd cenedlaethol, bob blwyddyn wrth iddynt symud i ac o afonydd lleol, yn bennaf afon Tawe, afon Nedd ac afon Afan. Mae'r amcangyfrifon yn llawer uwch na'r niferoedd a ddarperir gan Tidal Lagoon (Swansea Bay) plc, sy'n rhoi nifer sydd tua degfed rhan o hynny.
Mae Tidal Lagoon (Swansea Bay) wedi datgan yn gyson y byddai'r effaith ar bysgodfeydd yn fach. Rydym yn gwybod bod gennym dyrbinau ar afonydd. Sut mae'n gweithio ar afonydd? Mae gennych chi bysgod mewn afonydd. Yn y Mississippi, mae gennych chi 129 o wahanol rywogaethau o bysgod ynddi. Mae gennych chi ddatblygwr ynni adnewyddadwy, y Free Flow Power Corporation, sy’n llwyddo i weithredu’r generadur tyrbin hydrocinetig cyntaf ar raddfa lawn yn afon Mississippi, ac sydd wedi bod yn gwneud hynny ers 2011. Rydym yn gwybod nad yw'r Mississippi yn ddi-bysgod. Felly, sut y maent wedi cyflawni hyn heb ddisbyddu niferoedd y pysgod yn ddifrifol?
Yr hyn sydd ei angen arnom yw morlyn llanw â ffordd i'r pysgod symud yn ddiogel a fydd yn ein harwain at greu ynni cynaliadwy, gan ganiatáu i Abertawe—[Torri ar draws.] Yn sicr.
Diolch am ildio, ond a ydych chi’n cydnabod mewn gwirionedd bod llawer o argaeau ac adeiladau eraill sy'n cynnwys bylchau i bysgod i ganiatáu i bysgod symud yn ddiogel i fyny ac i lawr yn y ffyrdd hynny? Mae hyn ychydig yn wahanol oherwydd tyrbinau yw’r rhain sy'n denu pysgod i mewn â symudiadau’r tonnau a’r llanw. Felly, nid yw’n union yr un darlun.
Rwy'n meddwl ei fod a dweud y gwir mewn afonydd oherwydd mae’r pysgod yn symud i fyny ac i lawr yr afon ac, i fynd i fyny ac i lawr yr afon, rhaid iddynt fynd drwy'r ardal lle mae'r tyrbinau. P'un a ydynt yn cynnwys bwlch i bysgod neu beth bynnag sydd ganddynt ar gyfer hynny—. Rwy’n credu, os oes angen bylchau i bysgod arnom, bod angen iddynt adeiladu bylchau i bysgod yn y morlyn llanw. Ond, yn dechnegol, nid wyf yn meddwl ei fod yn wahanol iawn. Nid wyf yn meddwl bod symud i fyny ac i lawr afon yn wahanol iawn, o'i gymharu â symud i fyny ac i lawr morlyn.
Rwy'n diweddu â dyfyniad gan adolygiad Hendry:
‘Gallwn naill ai sefyll yn ôl a gwylio gwledydd eraill yn achub y blaen (neu wylio adnodd byth yn cael ei ddefnyddio) neu gallwn benderfynu y dylem wneud yr hyn y mae'r Deyrnas Unedig wedi ei wneud mor dda yn y gorffennol—adnabod cyfle, datblygu’r dechnoleg a chreu diwydiant. Wrth i Brydain symud i mewn i fyd ar ôl Brexit, mae angen inni ofyn a ydym ni’n dymuno bod yn arweinwyr neu ddilynwyr.’
Rydym ni, yn UKIP, o blaid morlynnoedd llanw ac yn cydnabod bod gan y dechnoleg y potensial i gyflenwi llawer o anghenion ynni'r DU, lleihau ein hallyriadau carbon ac, yn bwysicaf oll, darparu sicrwydd ynni ac arallgyfeirio ynni. Roedd gen i, fodd bynnag, lawer o gwestiynau am sut y câi’r cynlluniau eu hariannu a sut y byddai cymunedau lleol a’r economi leol yn elwa o adeiladu a gweithredu’r morlynnoedd hyn. Mae'r gwaith a wnaethpwyd gan Charles Hendry a'i dîm wedi tawelu fy meddwl y gallwn gyflawni pris taro sydd, yn ogystal â bod yn deg i dalwyr biliau a threthdalwyr, hefyd yn fargen dda i’r DU ac i'r datblygwyr. Mae adolygiad Hendry wedi amlygu potensial y DU i ddod yn arweinydd byd-eang yn y dechnoleg hon a datblygu cadwyn gyflenwi i’r DU ar gyfer morlynnoedd llanw yn y dyfodol. Mae'n hanfodol bod Llywodraethau’r DU a Chymru, ynghyd â Tidal Lagoon Power, yn sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond rwy’n credu y dylem fynd ymhellach: Abertawe a fy rhanbarth i fydd yn braenaru ar gyfer y dechnoleg hon ac felly nhw ddylai fwynhau'r budd mwyaf o'r cynllun cychwynnol.
Yn ôl dogfennau Tidal Lagoon Power eu hunain, bydd angen 100,000 o dunelli o ddur i adeiladu morlyn Abertawe. Maent yn datgan y bydd y mwyafrif yn dod o'r DU; fodd bynnag, maent wedi penodi Andritz Hydro fel eu prif bartner datblygu. Mae Andritz Hydro yn rhan o'r grŵp Andritz, sy'n cynnwys Andritz Metals sy'n gweithgynhyrchu cynnyrch dur yn Ffrainc, yr Almaen a'r Iseldiroedd. Mae arnom angen gwarant o haearn bwrw, os gwnewch chi esgusodi’r gair mwys, y bydd mwyafrif y dur ar gyfer y prosiect yn Abertawe yn cael ei gynhyrchu ym Mhort Talbot. Mae gennym waith dur ar garreg ddrws y prosiect, felly pam y dylid cludo'r dur i mewn o rannau eraill o'r DU neu Ewrop? Mae Tidal Lagoon Power hefyd yn nodi y bydd angen 5 miliwn tunnell o graig ar gyfer y prosiect. Maent yn datgan bod un o'u prif randdeiliaid wedi prynu chwarel yng Nghernyw, felly unwaith eto nid yw Cymru yn elwa. Mae Gorllewin De Cymru wedi bod yn cyflenwi ynni i weddill y DU ers y chwyldro diwydiannol ar ffurf glo, yna pŵer gwynt a nawr ynni llanw. Dylem fod yn un o’r rhanbarthau cyfoethocaf yn y DU, yn hytrach nag un o'r tlotaf. A yw hi'n ormod i ofyn bod fy rhanbarth i’n mwynhau’r budd mwyaf o'r chwyldro llanw hwn? Rwy’n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU a Tidal Lagoon plc mai Abertawe, Gorllewin De Cymru a Chymru yn ei chyfanrwydd fydd buddiolwyr mwyaf y morlynnoedd llanw hyn.
Mae cwestiynau difrifol o hyd hefyd am yr effaith ar bysgodfeydd yn rhanbarth bae Abertawe ac o’i amgylch. Yn eu diweddariad mwyaf diweddar, mae Tidal Lagoon Power wedi datgan nad yw wedi bod yn bosibl eto i ddod i gytundeb ar raddfa’r effeithiau tebygol ar bysgod ym mae Abertawe. Mae angen datrys hyn cyn gynted â phosibl ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda grwpiau genweirio a physgota ym mae Abertawe i sicrhau nad yw’r morlyn llanw yn effeithio ar eu bywoliaeth. Cyn belled ag y gallwn sicrhau bod fy rhanbarth yn elwa o forlyn llanw ac y gallwn warantu na fydd dim effeithiau amgylcheddol mawr o adeiladu a gweithredu’r morlyn, rwy’n hapus i'w gefnogi, ynghyd â'm plaid, a byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn ger ein bron heddiw. Diolch yn fawr, Lywydd.
Hoffwn ganolbwyntio’r rhan fwyaf o fy sylwadau ar y morlyn llanw ym mae Abertawe, ond a gaf ddechrau drwy longyfarch Charles Hendry ar ei adroddiad? Yn rhy aml, mae adolygiadau o'r math hwn yn eu colli eu hunain mewn amwysedd a ffwdanu, heb ddod i unrhyw gasgliadau clir ond yn ychwanegu at y niwl ac at yr oedi, ond nid hwn. Dyma’r union fodel o'r hyn y dylai adolygiad gweddus ei wneud. Mae wedi’i ystyried yn ofalus, mae wedi’i gyflwyno ar ôl ystyriaeth ddyledus ond heb oedi gormodol, ac mae ei gasgliadau a’i argymhellion yn gryno a phwrpasol: dylai Llywodraeth y DU gefnogi morlyn llanw Abertawe yn bendant ac yn brydlon fel cynllun braenaru—y cynllun braenaru—i archwilio'r potensial a'r heriau sy’n gysylltiedig â chyflwyno mwy o forlynnoedd llanw. Yng ngeiriau Charles, mae’n ‘bolisi dim-gresynu’ i’r Llywodraeth, neu fel yr wyf fi a llawer o bobl eraill wedi ei ddweud mewn termau mwy llafar, mae'n benderfyniad hawdd. Ond dewch imi ar y dechrau un: does dim achos dros ddiystyru ystyriaethau amgylcheddol, doed a ddelo. Rhaid gweithio drwyddynt i gyrraedd penderfyniad boddhaol. Ni allwn drin yn ysgafn y materion a godwyd gan y rheini, gan gynnwys fi fy hun, sydd yn gywir yn rhoi'r pwys mwyaf ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau sy’n aml yn arbennig ac yn unigryw, ac ecoleg a hydroleg ardal leol afon Hafren a môr Hafren ei hun.
Os bydd, fel y mae Charles wedi ei nodi, rhaglen genedlaethol ehangach o ddatblygu morlynnoedd llanw, mae'n gwneud synnwyr llwyr y dylai fod yn seiliedig ar ymagwedd ofodol strategol briodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cynllunio ac asesu, neu yng ngeiriau Ysgrifennydd y Cabinet, cynllun morol. Ac mae dull polisi cenedlaethol, wrth gwrs—mae'n synhwyrol, mae'n ddymunol, mae hyd yn oed yn hanfodol i barhau i’w cyflwyno'n ehangach fel yna. Ac, wrth gwrs, mae angen inni edrych ar sut yr ydym yn ymdrin â’r mesurau diogelwch uchaf yn y cyfarwyddebau cynefinoedd yn ogystal â'r gyfarwyddeb fframwaith dŵr, ac a yw rhanddirymiadau yn angenrheidiol, yn ddymunol neu hyd yn oed yn bosibl. Mae angen archwilio llawer mwy cyn eu cyflwyno'n ehangach fel yna.
Ond rydym hefyd yn edrych ar yr agweddau eraill: y peryglon llifogydd, yr amddiffynfeydd rhag llifogydd, y newidiadau i gynefinoedd a’r dadleoliad, colli cynefin rhynglanwol a'r effeithiau ar rywogaethau ymfudol gwerthfawr, ar ansawdd dŵr a materion pysgodfeydd, a newidiadau hydrodynamig a morffodynamig i’r amgylchedd ffisegol, a llawer mwy cyn eu cyflwyno'n ehangach. Ar gyfer rhaglen ehangach a’u cyflwyno'n ehangach, mae’n rhaid ystyried hyn oll, ac rwy'n awyddus i chwarae fy rhan wrth graffu ar gyflwyniad o'r fath.
Ond ar gyfer y morlyn yn Abertawe, a ddisgrifir yn adolygiad Hendry fel cynllun braenaru, dim ond tri chlo sydd ar ôl. Ac rwy’n gobeithio, gydag ewyllys da, yn ogystal â diwydrwydd dyladwy ar bob ochr, y gellir agor y tri chlo hynny ar yr un pryd ac yn foddhaol, ac yn fuan. Y ddau gyntaf yw’r drwydded forol a'r gorchymyn caniatâd datblygu, sydd yn ddwy broses ar wahân yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, ond y gellir eu gwneud ar y cyd. Felly, byddwn yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am sicrwydd y bydd hyn yn digwydd, ac na fydd rhaid inni aros am gyfnodau dilyniannol a fydd yn ychwanegu at yr oedi. A'r mater ag angen sylw ar gyfer y drwydded forol yw’r effaith ar bysgod, ac anallu’r cwmni, hyd yn hyn, i fodloni gwasanaeth caniatáu Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, ar ôl llawer o waith, rydym ar ddeall gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn eu briff—ac rwy’n dyfynnu—‘bydd yr ymgeisydd yn gwneud cyflwyniad mwy manwl i'r gwasanaeth caniatáu maes o law, ac i ategu datblygu cyflwyniad, mae arbenigwyr technegol CEFAS a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cytuno i ddarparu cyngor ychwanegol. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac unwaith y caiff y gwaith hwn ei gwblhau, yna bydd angen cyflwyniad gan TLSB, y morlyn, i'r gwasanaeth caniatáu ar gyfer yr adolygiad.’ Maent yn mynd ymlaen: 'Yna, bydd rhaid cynnal ymgynghoriad i roi sail i’r asesiadau technegol y mae’n ofyniad cyfreithiol bod y gwasanaeth caniatáu yn eu cynnal. Dim ond ar ôl bodloni'r holl ofynion deddfwriaethol y gellir gwneud penderfyniad am y drwydded forol.’ Yn y cyfamser: 'Rydym hefyd yn deall bod y gorchymyn caniatâd datblygu yn cynnwys 42 o ofynion ar gyfer amodau’r drwydded, y bydd angen i awdurdodau cynllunio lleol—ACLlau—eu rhyddhau cyn y gallai gwaith adeiladu gychwyn. O'r rhain, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghorai statudol ar 15.’
Nawr, rhaid cwblhau’r materion hyn yn ddyfal ac yn briodol, ond gallwn hefyd wneud hyn â diwydrwydd dyladwy a heb oedi dyledus. Rwy'n annog yn gryf y dylai’r ddau Ysgrifennydd Cabinet weithio gyda'i gilydd ar y mater hwn—a gyda'u swyddogion; dod â nhw at ei gilydd, dod â Chyfoeth Naturiol Cymru at ei gilydd—ac annog a dwyn perswâd a mynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru ac ACLlau a phawb sy'n ymwneud â’r broses yn sicrhau bod penderfyniad cyflym ar y materion hyn yn brif flaenoriaeth.
Gan dybio y bydd Ystâd y Goron am weld y cynllun braenaru’n mynd yn ei flaen, mae hynny'n ein gadael gyda'r trydydd clo a'r olaf, ac mae allweddi hwn gan Lywodraeth y DU ar ffurf cymorth ariannol drwy'r contract ar gyfer gwahaniaeth, neu’r hyn a elwir yn gyffredin yn bris taro. Gallai arddangosfa drawsbleidiol o gefnogaeth unedig yma heddiw, ynghyd â’r gefnogaeth ehangach gan y gymuned fusnes, y gymuned addysg uwch, y sector ynni cynaliadwy ac eraill, gan gynnwys y llythyr hwnnw gan dros 100 o ASau trawsbleidiol heddiw, fod yn olew i’r clo a chaniatáu i'r allwedd droi ychydig yn haws ac yn llawer cynt.
Rwy’n croesawu'n fawr y cyfle i siarad o blaid y cynnig hwn heddiw. Mae morlynnoedd llanw yn cynnig cyfle i ddatblygu polisi ynni glân, modern, hirdymor sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy, gyda rhychwantau oes rhagamcanol o leiaf 120 mlynedd. Dyna 120 mlynedd o gynhyrchu ynni glân a gwyrdd, â’r cyfrifiad y gallai'r rhwydwaith o forlynnoedd llanw o amgylch yr arfordir gynhyrchu digon o drydan i fodloni rhagamcan o 8 y cant o anghenion ynni'r DU. Yn bwysig, mae datblygu morlynnoedd llanw yn ein galluogi i ddatblygu diwydiant newydd yma yn y DU, a fydd yn creu’r posibilrwydd o adfywio economaidd ehangach, ac yma yng Nghymru, gallwn gymryd yr awenau byd-eang go iawn.
Rwy’n gwybod bod y Cynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi cymeradwyo'r cynlluniau o'r safbwynt hwn, ac mae'n amlwg gweld pam wrth ystyried graddfa bosibl y manteision. Os bydd y cynlluniau'n cael eu gwireddu'n llawn, gallem fod yn edrych ar rwydwaith o chwe morlyn llanw, yr amcangyfrifir y byddant yn golygu buddsoddiad o £40 biliwn, gan greu bron 6,500 o swyddi hirdymor a chynhyrchu bron i £3 biliwn o GYC yn flynyddol. Ond ni fyddai’r manteision economaidd yn dod i ben yno. Byddai cyfleoedd ychwanegol o ran gwaith a’r economi yn cael eu creu yn ystod y gwaith o adeiladu’r morlynnoedd llanw, a’r amcangyfrif yw y byddai’r gadwyn gyflenwi, fel y mae siaradwyr eraill wedi cyfeirio ato heddiw, ar draws y pedwar morlyn arfaethedig yng Nghymru yn cynnwys miloedd lawer o swyddi, gan gynnwys degau o filoedd ym meysydd adeiladu a gweithgynhyrchu.
A dyma lle mae etholaethau fel fy un i, yn hen Gymoedd y de, yn gallu elwa go iawn. Gallai cynlluniau ar gyfer morlynnoedd llanw yn Abertawe ac yn y pen draw yng Nghaerdydd a Chasnewydd greu cyfleoedd gwaith newydd o fewn pellter cymudo hawdd, ond o fewn y gadwyn gyflenwi mae yna hefyd gyfleoedd i fusnesau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes mewn ardaloedd fel Cwm Cynon. Byddwn yn gobeithio bod rhannu’r manteision economaidd ehangach hyn yn ystyriaeth allweddol o fewn unrhyw gynllun yn y dyfodol, a hefyd eu bod yn ffurfio rhan o strategaeth newydd, ffres ar gyfer cynnal a chreu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd da yn y sector gweithgynhyrchu.
Unwaith eto, mae cyfleoedd penodol i Gymru yma: mae 11.6 y cant o bobl Cymru wedi’u cyflogi mewn gweithgynhyrchu, y gydradd ail lefel uchaf yn y DU. Fel y mae tystiolaeth o 2015 a roddwyd i'r grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol yn ei ddangos, mae’r rhan fwyaf o’r swyddi hyn wedi’u lleoli yn y Cymoedd; mae gan fy etholaeth ddwywaith a hanner cyfartaledd y DU o swyddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Fel y mae’r cynnig yn ei ddatgan, dylem geisio sicrhau’r budd economaidd mwyaf posibl o'r morlyn llanw arfaethedig ym mae Abertawe a'i dechnolegau cysylltiedig, ond byddwn yn gobeithio y caiff y budd hwn ei rannu'n deg ledled Cymru a’i ddefnyddio fel sbardun i wella perfformiad economaidd mewn ardaloedd fel fy un i.
Ar gyfer fy mhwynt olaf, fodd bynnag, rwy’n mynd i ddatgan rhywfaint o rybudd. Dri mis yn ôl yma yn y Siambr hon buom yn trafod yr adroddiad ‘Sefyllfa Natur’ diweddaraf gan yr RSPB. Roedd yr adroddiad yn dweud wrthym bod 34 y cant o rywogaethau fertebraidd morol a 38 y cant o rywogaethau planhigol morol wedi gweld gostyngiad yn eu niferoedd yn ôl tueddiadau data tymor hir. Ar gyfer infertebratau morol, roedd y gostyngiad tymor hir yn fwy o bryder byth; roedd hyn yn effeithio ar dair o bob pedair rhywogaeth. Mae'r dystiolaeth hon yn tynnu sylw at freuder ein hecosystemau morol, ac yn golygu bod yn rhaid inni fod yn sensitif yn y modd yr ydym yn ymdrin â'r mater hwn.
Rwy’n croesawu dull gweithredu Llywodraeth Cymru, sydd am briodi pob agwedd ar ei pholisi morol mewn cynllun morol cenedlaethol sy'n cydbwyso potensial economaidd dyfroedd Cymru â'n dyletswydd i’w diogelu a’u hamddiffyn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y manylion am hyn pan gânt eu cyhoeddi maes o law.
Bydd y cynnig o adolygiad Hendry, sy’n galw am ddatblygu’r morlyn llanw ym mae Abertawe fel prosiect braenaru, yn ein galluogi i werthuso technoleg a chost-effeithiolrwydd y prosiect. Yn bwysig, byddai dull gweithredu o'r fath hefyd yn ein galluogi i astudio effaith morlyn llanw ar ei gynefin naturiol ac ar y rhywogaethau sy'n byw ynddo, gan fynd rywfaint o’r ffordd at ddiwallu pryderon dilys grwpiau amgylcheddol.
Mae gan y prosiect morlyn llanw y cyfle i newid y ffordd yr ydym yn cynhyrchu ynni. Mae ganddo’r cyfle i drawsnewid, bywiogi ac ail-gydbwyso ein heconomi, a gyda'r cyfle a gyflwynir gan ddefnyddio morlyn llanw bae Abertawe fel cynllun braenaru, mae gennym y cyfle i wneud hyn yn iawn. Rwy’n gobeithio y bydd consensws Cymru y tu ôl i’r ddadl hon heddiw yn darparu'r catalydd fel y gall Llywodraeth y DU nawr symud y prosiect yn ei flaen. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ymateb i’r ddadl—Ken Skates.
Diolch, Lywydd. A gaf ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau adeiladol iawn at y ddadl bwysig hon heddiw? Mae'n beth prin bod gennym gytundeb ar draws y Siambr dros egwyddorion llawer o brosiectau ynni, o ystyried natur ddadleuol ynni gwynt ar y tir ac ynni niwclear, ond rwy’n meddwl bod gennym gytundeb trawsbleidiol cryf ar y mater hwn. Fel y dywedodd fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wrth agor y ddadl hon, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad Hendry, ac rwy’n rhannu teimladau pobl eraill sy’n gweld hwn fel ymchwiliad ac adroddiad rhagorol. Mae'r broses wedi cael ei chynnal yn y ffordd orau bosibl gan Charles Hendry.
O safbwynt economaidd, rwy’n gweld y potensial enfawr o'n blaenau. Rwy’n cydnabod sut y gallai prosiectau ynni morol fod yn gatalydd i sicrhau buddion etifeddol hirbarhaol i’r economi, ac rwy’n deall sut y gallent ddarparu’r cyfle am swyddi a buddsoddiad mewn economïau lleol a rhanbarthol ledled Cymru—yr economïau hynny y mae llawer o’r Aelodau wedi sôn amdanynt ac yn eu cynrychioli. Rwyf hefyd yn gweld sut y gallent ein helpu i newid i economi carbon isel. Ac rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn rhoi Cymru ar flaen y gad yn y sector cyffrous hwn, yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran technolegau llanw newydd, cyn belled, wrth gwrs, â bod y prosiectau hynny'n cael y gymeradwyaeth ofynnol.
Nawr, rydym eisoes yn cefnogi busnesau i helpu Cymru i achub ar y cyfle i ddod yn arweinydd ym maes datblygu prosiectau morlynnoedd llanw, i sicrhau etifeddiaeth barhaol i ddatblygu diwydiant cynaliadwy i Gymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Nawr, mae un maes gweithgaredd a nodwyd yn benodol yn adroddiad Charles Hendry yn ymwneud â'r prosiectau sydd eisoes ar y gweill yng Nghymru, yn arbennig y prosiect braenaru, ac rydym yn cytuno â'r dull a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer prosiect braenaru ar raddfa fach cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl, er mwyn deall effeithiau datblygiadau o'r fath. Ac rydym yn sicr yn croesawu arsylwad Charles Hendry o'r achos cryf iawn o blaid dewis morlyn llanw arfaethedig bae Abertawe i fod y prosiect braenaru graddfa fach hwnnw, gan mai hwn yw’r unig brosiect ar hyn o bryd sydd mewn cyflwr paratoi datblygedig sydd ei angen i ddod yn gynllun braenaru yn y dyfodol agos. Ond mae'n amlwg, cyn y gall y prosiect hwnnw fynd yn ei flaen, bod angen sicrhau nifer o gymeradwyaethau a chaniatadau. Mae'r rheini wedi cael eu hamlinellu gan Aelodau heddiw ac maent yn cynnwys y pris taro, trwydded forol, a hefyd brydles gwely'r môr gan Ystâd y Goron. Hefyd, ceir mater datgomisiynu diwedd oes, sydd heb ei gytuno rhwng y cwmni a Llywodraeth y DU hyd yn hyn. Mae fy swyddogion wedi bod yn cyfarfod â Tidal Lagoon Power Ltd ar eu prosiect arfaethedig yn Abertawe ers nifer o flynyddoedd ar draws ystod o feysydd i sicrhau bod Cymru a busnesau Cymru a’r economïau yr ydym yn eu cynrychioli yn gallu cael y budd mwyaf o'r prosiect. Yn y pen draw, mae'r cwmni’n amcangyfrif y bydd eu fflyd arfaethedig o forlynnoedd llanw’n cyfrannu £27 biliwn at CMC y DU, a £3 biliwn y flwyddyn unwaith y byddant ar waith, ac y byddant yn bodloni hyd at 8 y cant o'r galw am drydan yn y DU.
Maes arall a amlygwyd yn benodol yn adroddiad Hendry yw cydnabyddiaeth o'r ymagwedd integredig yr ydym wedi’i dangos at sgiliau a datblygu'r gadwyn gyflenwi i gefnogi'r sector pwysig hwn. Er enghraifft, rydym wedi buddsoddi yn yr adroddiadau galw a chyflenwad sgiliau ar gyfer datblygiad morlyn arfaethedig bae Abertawe. Rydym wedi hwyluso ymgysylltiad cynnar â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys, yn hanfodol, y partneriaethau sgiliau a rhoi mynediad cynnar iddynt at adroddiadau gwybodaeth y farchnad lafur, sydd wedi eu galluogi i fod yn ymwybodol o anghenion sgiliau’r prosiect.
Hoffwn ei gwneud yn glir iawn mai bwriad Llywodraeth Cymru yw gwneud popeth o fewn ei gallu i fanteisio ar y cyfle sydd o'n blaenau. Mae Cymru, fel y mae llawer o Aelodau wedi ei nodi heddiw, yn wlad llanw, a'r flwyddyn nesaf, rydym wedi ei dynodi hi’n Flwyddyn y Môr. Hoffem i Gymru gael ei dathlu am ei harfordir anhygoel, ond hoffem hefyd iddi fod yn arweinydd byd-eang mewn prosiectau ynni morol. Tra bo Llywodraeth y DU yn ystyried canfyddiadau adroddiad Hendry, bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu’n gyson â Tidal Lagoon Power ac, yn wir, datblygwyr morlynnoedd llanw posibl eraill er mwyn sicrhau, pe bai’r prosiect yn cael y cymeradwyaethau a'r caniatadau angenrheidiol, y bydd busnesau Cymru, ac yn benodol economïau lleol Cymru, yn cael y budd mwyaf posibl i’n gwlad.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na? Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.