– Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2017.
Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i wneud y cynnig. Carl Sargeant.
Lywydd, rwy'n falch o agor y ddadl hon i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017. Cynhaliwyd y Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyntaf dros 100 mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad gwirioneddol fyd-eang—diwrnod pan mae cyflawniadau merched a menywod yn cael eu cydnabod waeth beth fo'u cenedligrwydd, ethnigrwydd, iaith, diwylliant, cyfoeth neu wleidyddiaeth. Mae'n enghraifft wych o sut y gall pobl ddod at ei gilydd, fel un, ar gyfer un achos cyffredin.
Mae gan ddynion ddyletswydd i siarad ar gydraddoldeb, trais a cham-drin ac mae angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod oherwydd ni chafodd y brwydrau hynny eu hennill eto. Hyd nes daw’r amser hwnnw, rwy’n falch o sefyll gyda'r rhai sy’n tynnu sylw at gamdrinwyr, pobl ag agwedd rywiaethol a’r rhai sy’n difrïo merched, pwy bynnag y bônt a lle bynnag y maent yn pedlera eu casineb gwenwynig tuag at wragedd.
Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghymru eleni yw 'creu dyfodol cyfartal' ac rydym yn falch o gefnogi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wrth gyflwyno pedwar digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ledled Cymru. Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau a chyfleoedd merched a menywod ar draws Cymru, gan greu dyfodol cyfartal iddynt. Mae'n rhaid i ni gydnabod, fodd bynnag, er gwaethaf yr holl gynnydd sydd wedi ei wneud, mae merched a menywod yn dal i wynebu rhwystrau ac anghydraddoldeb. Mae creu dyfodol cyfartal yn cyd-daro’n dda ag amcanion ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru. O fynd i'r afael â thlodi a darparu cronfa fwy amrywiol o bobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus i leihau'r bwlch cyflog a mynd i'r afael â thrais a cham-drin, mae ein hamcanion cydraddoldeb yn sicrhau bod camau gweithredu yn canolbwyntio ar y meysydd sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a grwpiau eraill a ddiogelir.
Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym fod unig rieni yn fwy tebygol o fod yn fenywod. Ac fel y rheini sydd â gofal plant a chyfrifoldebau gofal eraill, gall menywod o fewn y grwpiau hyn eu cael eu hunain mewn tlodi a gall fod yn anodd iawn iddynt gael gafael ar hyfforddiant neu waith. Rydym yn gwybod mai cyflogaeth sy’n cynnig y llwybr mwyaf cynaliadwy allan o dlodi, a dyna pam mae mynd i'r afael â'r rhwystrau i gyflogaeth yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae rhaglenni fel Esgyn a Chymunedau am Waith yn gwneud gwahaniaeth pwysig drwy ddarparu cefnogaeth bwrpasol wedi'i thargedu at y rheini sydd bellaf i ffwrdd o'r gweithle. Rwy'n falch o ddweud, hyd at ddiwedd mis Ionawr, mai menywod oedd 55 y cant o’r rheini a gymerodd ran mewn rhaglenni Cymunedau am Waith. Gall gofal plant fforddiadwy, sydd ar gael yn hawdd ac yn hygyrch, fod yn rhwystr mawr i ferched rhag cael gafael ar hyfforddiant a chyflogaeth. Dyma pam rydym wedi ymrwymo i gynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed am gyfnod o 48 wythnos i rieni sy'n gweithio. Yn ogystal â chefnogi menywod i ddod o hyd i gyflogaeth, rhaid i ni hefyd adeiladu ar hyder a sgiliau menywod fel y gallant wneud cynnydd pellach mewn ystod eang o sectorau, a chyflawni swyddi dylanwadol.
Yn ddiweddar, derbyniasom yr holl argymhellion yn yr adroddiad ‘Menywod talentog ar gyfer Cymru Lwyddiannus'. Ei nod yw mynd i'r afael â'r prinder difrifol o fenywod mewn swyddi STEM yng Nghymru, ac mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu hyn.
Mae Llywodraeth Cymru fel cyflogwr wedi addunedu i ymrwymo i’r ymgyrch 50/50 erbyn 2020, ochr yn ochr â sefydliadau a chyflogwyr eraill ym mhob sector yng Nghymru. Mae ymuno â'r ymgyrch yn dangos ymrwymiad cyhoeddus cyflogwyr i weithio tuag at gynrychiolaeth gyfartal y rhywiau mewn swyddi sy’n gwneud penderfyniadau a swyddi dylanwadol yma yng Nghymru.
Rydym ni hefyd yn gweithio'n galed i annog a chefnogi menywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir i ymgeisio am benodiadau cyhoeddus. Mae amrywiaeth o ran cynrychiolaeth yn dod ag amrywiaeth o safbwyntiau— syniadau ffres, safbwyntiau newydd a gwell dealltwriaeth o'n cymunedau. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cyflog rhwng y rhywiau, ac mae gennym ddyletswyddau cadarn ar waith ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau nad ydym ond yn adrodd ar y bwlch cyflog yn unig, ond ein bod hefyd yn gweithredu ar yr achosion sylfaenol, gan gynnwys y gwahanol ddosbarthiad o ddynion a menywod o ran graddau, galwedigaethau, patrymau gwaith a mathau o gontract. Nid yw'n ddigon da bod menywod yn canolbwyntio ar sectorau a galwedigaethau sy'n aml yn gysylltiedig â chyflog isel, ac oriau isel a chontractau achlysurol neu gontractau dim oriau. Mae ein cymdeithas yn dal i fod yn seiliedig ar normau rhagfarnllyd o ran rhywedd, felly mae'n rhaid i ni barhau i herio stereoteipiau rhyw ac annog merched a menywod i ddewis gyrfaoedd anhraddodiadol, sy’n talu'n well.
Lywydd, mae ein prosiect Cenedl Hyblyg 2, a gynhelir mewn partneriaeth â Chwarae Teg ac a ariennir ar y cyd gan yr Undeb Ewropeaidd, yn cefnogi 2,207 o fenywod ac yn gweithio gyda 500 o gyflogwyr i hyrwyddo datblygiad gyrfaol menywod ac i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar naw sector allweddol o economi Cymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd, iechyd ac ynni.
Fel y dywedais, mae'n rhaid i ni gydnabod pwysigrwydd dynion yn chwarae eu rhan mewn gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae gennym i gyd ran i'w chwarae. Heb ddynion fel cynghreiriaid ymrwymedig a phartneriaid cefnogol yn yr ymgyrch hon a arweinir gan fenywod, ni fydd newid gwirioneddol yn digwydd. Mae effeithiau cadarnhaol cydraddoldeb rhywiol yn dda i bob un ohonom—ein teuluoedd a chymdeithas yn gyffredinol.
Mae'n rhaid i ni hefyd sefyll gyda'n gilydd yn erbyn cam-drin domestig a mathau eraill o drais yn erbyn menywod, a all gael canlyniadau dinistriol a thymor hir. Mae ein Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth. Bwriedir iddi roi pwyslais strategol ar y materion hyn i atal trais lle bynnag y bo modd, ac i ddarparu cefnogaeth effeithiol i ddioddefwyr. Ond yr allwedd yw newid agweddau a chyflwyno’r neges nad yw ymddygiad treisgar yn dderbyniol dan unrhyw amgylchiadau, ac ni fydd yn cael ei oddef yn ein cymdeithas ni.
Mae hwn yn ddiwrnod i ddathlu llwyddiannau menywod, Lywydd. Yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae gennym Lywydd benywaidd a Dirprwy Lywydd benywaidd. O fewn Llywodraeth Cymru, mae’r Ysgrifennydd Parhaol, y prif swyddog gwyddonol a'r prif swyddog milfeddygol i gyd yn fenywod. Mae’r pedwar comisiynydd yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, pobl hŷn, plant a'r iaith Gymraeg i gyd yn fenywod. Am fodelau gwych, bob un ohonynt, Lywydd. Rwy'n siŵr bod eu cyflawniadau yn fodd i dynnu sylw at y dalent sydd gennym yma yng Nghymru, a byddwn yn annog merched eraill i ymgeisio am yr uwch swyddi hynny. Lywydd, nid ydym yn hunanfodlon. Mae llawer mwy i'w wneud cyn y gallwn honni ein bod wedi creu dyfodol cyfartal. Ond mae gan Gymru lawer i ymfalchïo ynddo ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi menywod a merched i anelu a chyflawni yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1, 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Sian.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n fenywod.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Diolch yn fawr, a diolch am ddod â’r ddadl bwysig yma gerbron. Mae’n wir i ddweud bod sefyllfa merched wedi newid yn syfrdanol ers dyddiau’r suffragettes, ond mae cydraddoldeb yn bell, bell o fod yn realiti. Gobeithio bod gwelliannau Plaid Cymru yn nodi mewn ffordd ymarferol un neu ddau faes lle gall y Llywodraeth yma gael dylanwad.
Mae un o’n gwelliannau ni yn ymwneud â gwersi perthynas iach yn yr ysgol. Mae’r sector addysg yn Lloegr wedi cyhoeddi bod addysg rhyw a pherthynas am fod yn orfodol yn yr ysgolion. Mi fydd addysg perthnasau iach yn cael ei dysgu yn yr ysgolion cynradd yno, gyda’r ffocws ar adeiladu perthnasau iach ac aros yn ddiogel. Ac mi fydd yn ddyletswydd ar ysgolion uwchradd i ddysgu addysg rhyw a pherthnasau, lle bydd y disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o berthynas iach ymhlith oedolion, gydag addysg rhyw yn cael ei dysgu yn yr un un cyd-destun. Nid oes gan ysgolion yng Nghymru ddim dyletswydd i ddysgu addysg rhyw a pherthnasau ymhellach na dysgu myfyrwyr am HIV, AIDS a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol.
Mae adroddiad gan y Senedd Ewropeaidd yn nodi taw’r gwledydd Nordig a Benelux sydd ag addysg rhyw a pherthnasau o’r safon uchaf. Mae’r adroddiad hwnnw yn awgrymu hefyd fod lefelau uchel o feichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau yn digwydd mewn gwledydd pan fo addysg rhyw a pherthnasau yn cael ei dysgu’n rhy hwyr yn eu bywydau nhw. Fe nodwyd mewn adroddiad o brifysgol Bryste yn 2016 fod addysg LGBT yn anweledig o fewn addysg rhyw a pherthnasau ac yn atgyfnerthu’r rhagfarn yn erbyn pobl LGBT. Mae ymchwil yn dangos bod addysg rhyw a pherthnasau effeithiol nid yn unig yn lleihau cyfraddau beichiogrwydd yn yr arddegau a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ond fe all hefyd, wrth gwrs, agor trafodaethau yn ymwneud â cham-drin merched a chyfrannu’n sylweddol i’r broses o leihau trais yn erbyn menywod.
Bu i 8.3 y cant o fenywod rhwng 16 a 59 oed yng Nghymru ddioddef cam-drin domestig yn ystod 2016, o gymharu â 4.3 y cant o ddynion. Yn y ffigur hwn, bu i 3 y cant o fenywod ddioddef ymosodiad rhywiol, o gymharu â 0.5 y cant o ddynion, bu i 6.5 y cant o fenywod ddioddef cam-drin gan bartner, o gymharu â 2.7 y cant o ddynion, a bu i 4.4 y cant o fenywod ddioddef stelcio, o gymharu â 3.5 y cant o ddynion. Mae hyn yn dangos anghydraddoldeb ‘gender’ clir. Er mwyn newid hyn, mae angen cyflwyno addysg perthnasoedd iach cyn gynted â phosib. Rydw i yn nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg wedi sefydlu panel i helpu gyda’r gwaith yma yng Nghymru. Ond rwyf yn nodi pryder gan rai nad ydy’r agwedd yma o ddatblygu’r cwricwlwm cenedlaethol yn cael cymaint o flaenoriaeth ag y gallai gan y Llywodraeth yma a bod perig inni golli’r cyfle gwirioneddol y mae adolygiad Donaldson yn ei gynnig i ni.
Rwy’n troi at un arall o’n gwelliannau yn ymwneud â chynrychiolaeth. Yn 2014 dim ond dau o bob 100 busnes gorau Cymru oedd â menyw fel prif weithredwr. O ran llywodraeth leol, dim ond 18 y cant o brif weithredwyr sy’n fenywod, a 27 y cant yn unig o gynghorwyr sydd yn ferched. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â staff awdurdodau lleol oedd â 72 y cant o fenywod yn 2014. Mae’r gyfran o Aelodau’r Cynulliad sy’n fenywod wedi disgyn i 41.7 y cant o 50 y cant yn 2003, ac mae gan fy mhlaid i le i wella. Mae angen ailgyflwyno system fwriadol a mecanwaith bwriadus i godi’r ganran yn ôl i fyny, yn fy marn i. Mi fyddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, yn cyflwyno byrddau rheoli sydd â chydbwysedd rhyw yn y sefydliadau sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dau faes yn unig yr ydw i wedi cyffwrdd â nhw’r prynhawn yma, ond dau faes y gall y Llywodraeth yma, mewn ffordd hollol ymarferol, efo’r ewyllys cywir, wneud rhywbeth yn eu cylch a’n helpu ni i symud tuag at Gymru llawer mwy cyfartal. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Hannah Blythyn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae cynnig heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017, ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Gyda hyn mewn golwg, mae'n iawn ein bod yn cydnabod gwneuthurwyr hanes (history), neu a ddylwn i ddweud gwneuthurwyr herstory, a’r cyfraniadau mawr a wnaed i'n gwlad. Ond hoffwn i gymryd yr amser heddiw i dalu teyrnged i rai o'r menywod gwirioneddol ryfeddol sy’n gwneud gwahaniaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd yn fy etholaeth i, sef Delyn ac ar draws Sir y Fflint—y gwragedd gwych hynny sydd prin yn gwneud y penawdau, ond y nhw yw curiad calon ein cymunedau a'n gwlad a nhw yw'r glud sy'n ein clymu ni at ein gilydd, y merched sy'n gwneud pethau nid am gydnabyddiaeth neu wobr, ond dim ond oherwydd mai dyna’r peth iawn i'w wneud, neu dim ond oherwydd mai dyna beth rydym yn ei wneud fel menywod.
Felly, yr wythnos diwethaf, fe es i at y cyfryngau cymdeithasol—ac nid aeth dim o'i le—i gael awgrymiadau o fenywod gwych i sôn amdanynt heddiw. Fel yn achos llawer o Aelodau yma, mae Delyn yn adlewyrchu traddodiad Cymreig balch gyda Chôr gwych Meibion y Fflint, ond er mwyn iddynt beidio â chael eu gadael ar ôl, yn 2013, cafodd Côr Merched y Fflint ei ffurfio. Mae Côr gwych Merched y Fflint wedi mynd o nerth i nerth, ac yn cael ei lywio, i raddau helaeth, gan gadeirydd y Côr am y tair blynedd diwethaf—Mel Buckley. Mae Mel yn neilltuo ei hamser gyda brwdfrydedd ac egni fydd yn gweld y côr yn mynd o nerth i nerth yn y gymuned a thu hwnt, gan gynnig cyfleoedd i gymaint o fenywod lleol. Erbyn hyn mae gan y côr bron 70 o aelodau ac rwy’n gobeithio eu croesawu nhw yn y Senedd rywbryd yn ddiweddarach eleni.
Mae Sarah Way, a enwebwyd gan ei gwraig, Sue, yn rhywun sy'n ymgorffori gwerth absoliwt gwirfoddolwyr a sut mae gwirfoddoli yn dwyn ein cymunedau at ei gilydd. Yn gyfarwyddwr gwirfoddol llawnamser a di-dâl i RainbowBiz Limited, mae Sarah yn ddiflino yn rhoi o’i hamser ddydd a nos i’r fenter gymdeithasol hon. Mae’n cefnogi llawer o bobl anhygoel y mae'n gweithio gyda nhw ar brosiectau a digwyddiadau ar draws Sir y Fflint, gan gynnwys y prosiect garddio Cloddio Glannau Dyfrdwy poblogaidd, y gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfarwydd ag ef, ac mae hwnnw wedi dod yn achubiaeth i lawer o'r gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan. Yn wir, gwirfoddolwyr yw ffabrig hanfodol ein cymunedau a’n sefydliadau lleol.
Bob blwyddyn, mae llawer ohonom yma yn cymryd rhan mewn digwyddiadau, gweithgareddau a gwasanaethau i nodi Sul y Cofio. Mae mwyafrif llethol y rhain ond yn bosibl oherwydd bod pobl yn gwirfoddoli eu hamser a'u hymroddiad. Mae Val Nevitt yn un person o'r fath, ac yn enghraifft ddisglair yn y gymuned leol—trefnydd apêl leol y pabi yn y Fflint ers pedair blynedd bellach, gan godi £13,000 y llynedd yn unig. Oherwydd ymroddiad a gwaith caled diysgog Val, mae apêl y pabi yn y Fflint wedi mynd o nerth i nerth ac mae Val wedi codi dros £50,000 i apêl y pabi yn ystod ei chyfnod fel trefnydd.
Mewn digwyddiad y penwythnos diwethaf, cyfarfûm â grŵp o ferched ifanc ysbrydoledig o Ysgol Alun yr Wyddgrug a oedd yn gwirfoddoli fel rhan o ymgyrch Girl Up Sefydliad y Cenhedloedd Unedig—ymgyrch sy'n ymgysylltu â menywod ifanc i gymryd camau i gefnogi merched a menywod ifanc yn y byd sy’n datblygu, mewn mannau lle mae'n aml yn anodd iawn bod yn ferch. Mae disgyblion anhygoel Ysgol Alun yn newid y canfyddiadau ac yn gwneud eu rhan i chwalu'r rhwystrau yn eu hysgol eu hunain, ac ar yr un pryd yn hyrwyddo achos merched ifanc ar draws y byd.
Yn olaf ond nid yn lleiaf—Viv Williams, sy’n eistedd yn yr oriel yma heddiw. Yn un o sylfaenwyr Cofebion Rhyfel Sir y Fflint, mae Viv a'r tîm gwirfoddol yn Cofebion Rhyfel Sir y Fflint, sy’n fwy hysbys ar lafar i ni ac yn fwy cyfarwydd fel Enwau ar Gerrig ar Twitter, wedi gweithio ac yn parhau i weithio'n ddiflino i adrodd hanesion y rhai a wasanaethodd ac a syrthiodd yn lleol yn y rhyfel byd cyntaf ac yr ydym yn aml wedi eu hadnabod fel enwau ar gerrig yn unig. Mae Viv hefyd yn trefnu teithiau astudio i Fflandrys ac yn gweithio'n ddiflino i rannu straeon a gwaith Cofebion Rhyfel Sir y Fflint gyda sefydliadau a grwpiau ledled yr ardal, o ysgolion i Sefydliad y Merched a llawer mwy.
Wrth gwrs, mae llawer mwy o ferched allan yna yn fy etholaeth i ac ar draws ein gwlad yn gwneud gwahaniaeth, yn gwneud mwy na’u rhan, ac i bob un ohonoch heddiw a bob dydd, rydym yn dweud 'diolch '. Diolch i chi am y cyfan yr ydych yn ei wneud, diolch i chi am fod yn fenyw ysbrydoledig a diolch am ddangos y ffordd i bob un ohonom.
Diolch. Leanne Wood.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod o ddathlu ar draws y byd. Mae'n ddiwrnod i ddod at ein gilydd i ddathlu cyflawniadau a llwyddiannau menywod, yn aml mewn amodau anffafriol, ym mhob maes. Nid yw’n amser i ddathlu yn unig, mae hefyd yn amser i fyfyrio, yn amser i sylweddoli bod cymaint yn dal i fod y gellid ei wneud o ran cydraddoldeb rhywiol. Efallai ei bod yn 2017, ond rydym yn wynebu'r perygl o symud yn ôl os bydd pobl fel Nigel Farage ac UKIP yn cael eu ffordd. Rydym wedi clywed yr holl ddatganiadau hynny ganddynt yn galw am ddileu absenoldeb mamolaeth â thâl a deddfau gwrthwahaniaethu. Ni all neb wadu nad oes bygythiadau presennol i'r hawliau yr ymladdodd menywod yn galed amdanynt hyd yn hyn.
Nid wyf eisiau gweld fy merch i neu ei merched hi yn cael eu magu mewn cymdeithas sy'n eu trin yn waeth neu'n talu llai o gyflog iddynt oherwydd eu rhyw. Nid wyf eisiau iddi dyfu i fyny mewn cymdeithas a allai ei hanwybyddu am ddyrchafiad oherwydd ei rhyw. Nid wyf eisiau iddi dyfu i fyny mewn cymdeithas lle mae’n fwy tebygol o gael ei bwlio yn ei gweithle neu ar-lein oherwydd ei rhyw. Ac nid wyf eisiau iddi dyfu i fyny mewn cymdeithas lle mae’n fwy tebygol o fod yn ddioddefwr cam-drin domestig neu drais rhywiol oherwydd ei bod yn fenyw. Eto, oni bai ein bod yn gweld rhywfaint o newid eithafol, dyna’r dynged sy’n ei disgwyl hi a phob merch arall sy’n tyfu i fyny yng Nghymru ac, mewn gwirionedd, mewn llawer o'r byd. Ni waeth faint yr ydym yn eu haddysgu i fod yn hyderus, neu ddweud wrthynt y gallant wneud neu fod yn unrhyw beth y maent yn ei ddewis, dyna'r realiti sy’n eu hwynebu nhw.
Yn y ganrif ddiwethaf, rhoddodd carfan gref o ferched eu bywydau ar y lein, yn llythrennol, er mwyn sicrhau pleidlais gyffredinol. Nid oedd arnynt ofn neb. Nid oeddent yn barod i fod yn ddinasyddion eilradd. Ganrif ers hynny, ac rydym yn dal i ymdrechu am gydraddoldeb rhywiol a rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a chasineb at wragedd, ac rydym yn dal i ymdrechu am lawer mwy o fesurau cydraddoldeb. Dyna pam yr wyf yn falch i alw fy hun yn ffeminydd—dyna pam yr wyf eisiau cydraddoldeb, a dyna pam y byddaf yn ymuno â miliynau o bobl eraill ledled y byd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Fel y mae’r thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 yn ei ddatgan, rhaid inni fod yn feiddgar ar gyfer newid a chamu i fyny i helpu i sbarduno cydraddoldeb rhywiol. Byddwn yn cefnogi'r cynnig a'r holl welliannau. Er gwaethaf y cynnydd mewn rhai meysydd, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n dal i atal menywod rhag chwarae rhan mor llawn â dynion ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Mae Oxfam Cymru yn galw am economi sydd o fudd i fenywod a dynion fel ei gilydd. Dangosodd ymchwil Oxfam Scotland i waith gweddus bod menywod yn gwerthfawrogi nifer o ffactorau yn uwch na dynion, er enghraifft rheolwr llinell cefnogol, cymorth i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb, budd-daliadau ychwanegol y tu hwnt i gyflog, hyblygrwydd wrth ddewis oriau gwaith, a swydd sy'n hawdd ei chyrraedd. Fel y mae’r elusen Chwarae Teg / FairPlay yn ei ddatgan, gall camau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau helpu i sbarduno twf economaidd, ac eto ni fydd camau i sbarduno twf economaidd, o reidrwydd yn sicrhau cydraddoldeb. Wrth i strategaeth economaidd newydd i Gymru gael ei datblygu, maen nhw wedi dweud ei fod yn hanfodol bod y tri chwestiwn canlynol yn cael sylw: sut y gall y strategaeth gyflawni’n gyfartal ar gyfer dynion a menywod? Sut y gall y strategaeth roi ystyriaeth gyfartal a theg i gyfraniad dynion a menywod? A sut mae sicrhau nad yw'r strategaeth yn creu unrhyw rwystrau ychwanegol i fenywod rhag cyrraedd eu llawn botensial? Maent yn pwysleisio nad yw economi Cymru ar hyn o bryd yn gwneud y gorau o botensial merched, lle mae cyfranogiad economaidd menywod yn parhau i fod yn is nag un dynion, lle mae menywod yn parhau i gael eu cyflogi yn fwy cyffredin mewn sectorau sy'n cael eu talu llai ac yn cynnig llai o gyfleoedd i wneud cynnydd, ac yn llai tebygol o gael eu cynrychioli mewn swyddi uwch, a lle mae merched i’w gweld yn gweithio yn aml yn is na lefel eu sgiliau gyda diffyg gofal plant priodol a/neu opsiynau gweithio hyblyg yn cael eu nodi fel ffactorau sy'n cyfrannu. O ganlyniad, mae bwlch cyflog o ryw 16 y cant rhwng y ddau ryw yn parhau yng Nghymru.
Mae profiad Chwarae Teg wrth gyflawni cynllun datblygu ein cyn Lywydd, sef Merched mewn Bywyd Cyhoeddus, yn cadarnhau bod digon o fenywod yng Nghymru sydd â’r diddordeb a’r profiad a’r cymwysterau addas i allu darparu cronfa barod o ferched talentog i lenwi swyddi sydd ar gael ar fyrddau a helpu'r byrddau i gyflawni eu nodau. Maent hefyd yn cynnig defnyddio caffael cyhoeddus, buddsoddi mewn seilwaith cymdeithasol da, megis gwasanaethau gofal plant ac iechyd, a mynd i'r afael â stereoteipiau rhyw fel camau ychwanegol i fynd i'r afael ag achosion cymhleth y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae hyn yn cynnwys addysg cydberthynas iach, gan helpu disgyblion i ddatblygu gwell dealltwriaeth o swyddogaethau’r ddau ryw a sicrhau bod athrawon ac ysgolion yn cael eu cefnogi i greu amgylcheddau dysgu sy’n cynnwys y ddau ryw. Fel y dywedais yn ystod trafodion Cyfnod 3 Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mae’r rhai ohonom, fel fi, sydd wedi mynd allan yno, er enghraifft ar brosiect Sbectrwm Hafan Cymru, yn dysgu plant a phobl ifanc am gydberthynas iach, cam-drin, ei ganlyniadau ac ymhle i geisio cymorth, yn gwybod am yr effaith gadarnhaol y gall hyn ei gael.
Cafwyd sicrwydd gan y tair gwrthblaid yn ystod Cyfnod 4 y Ddeddf y byddai rhanddeiliaid o'r sector trais yn erbyn menywod yn cymryd rhan wrth ddatblygu cynigion i sicrhau bod addysg cydberthynas iach yn cael ei datblygu o fewn y cwricwlwm Cymreig—rhywbeth y clywsom amdano amser cinio yn y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant. Yn 2014, adroddodd y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol am ganfyddiadau bod 43 y cant o bobl ifanc yn cael dim gwybodaeth am gydberthynas iach yn yr ysgol, a bod un o bob tair merch ac un o bob chwe bachgen yn profi trais rhywiol yn yr ystafell ddosbarth. Eu hargymhelliad nhw oedd bod addysg cydberthynas yn cael ei gwneud yn orfodol yng nghwricwlwm yr ysgol. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn ofynnol cael addysg cydberthynas mewn ysgolion cynradd ac addysg rhyw a chydberthynas mewn ysgolion uwchradd.
Yn ddiweddar dywedodd y Prosiect Grymuso Menywod Awtistig wrth y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth fod y dulliau gwahanol y mae awtistiaeth yn amlygu ei hun mewn menywod a merched yn awgrymu y dylai'r gymhareb a dderbynnir o bum bachgen i un ferch fod mewn gwirionedd yn agosach o lawer, gan fod llawer o fenywod yn cael eu gadael heb ddiagnosis, yn cael camddiagnosis neu nid oes cymorth ar gael iddynt. Fel y mae rhieni llawer o ferched sydd wedi cael diagnosis anghywir wedi dweud wrthyf, nid yw cyrff statudol yn deall bod y meddylfryd wedi newid, bod awtistiaeth yn amlygu ei hun yn wahanol mewn merched, a bod llawer o fenywod ddim yn gallu cael diagnosis oherwydd safbwyntiau stereoteip, gan adael merched a menywod awtistig yn agored i hunanwerth isel, pryder, iselder a hunan-niweidio.
Wel, gydag etholiadau llywodraeth leol ar y gorwel, byddaf yn cloi drwy gyfeirio at ffigurau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan ddangos mai dim ond 26 y cant o gynghorwyr yng Nghymru sy’n fenywod. Wel, mae fy ngwraig y yn gynghorydd yn Sir y Fflint, a hyd nes y byddwn yn mynd i'r afael â'r casineb at wragedd a ddioddefodd hi yno, sy’n niweidiol iawn i iechyd, ni fydd llawer mwy o fenywod yn cael eu hannog i ddod ymlaen.
A gaf i ddweud fy mod yn hapus iawn o’r cyfle i siarad yn y ddadl hon fel rhan o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod? Mae’n ddathliad yr wyf yn wirionedd eisiau ei wneud. Heddiw, rydym wedi clywed, a byddwn yn clywed, am nifer o fenywod ysbrydoledig—yr enwog a'r nad ydynt mor enwog—bob un ohonynt wedi gwneud eu marc, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd. Yn fy nghyfraniad i, rwyf yn awyddus i grybwyll rhai ohonynt.
Yn y byd chwaraeon, yr enghraifft ddisglair o Tanni Grey-Thompson, a wnaeth fwy nag unrhyw un arall fwy na thebyg i hyrwyddo achos chwaraeon anabl yn y wlad hon. Yn ystod ei gyrfa, enillodd gyfanswm o 16 o fedalau Paralympaidd, gan gynnwys 11 aur, roedd yn dal dros 30 o recordiau byd ac enillodd ras marathon Llundain chwe gwaith. Yn ddiweddarach daeth yn gyflwynydd teledu ac mae bellach yn aelod gweithgar o Dŷ'r Arglwyddi.
Ym myd gwleidyddiaeth, roedd yn rhaid i fenywod ymladd am yr hawl i bleidleisio. Swffragét flaenllaw o Gymru oedd Margaret Haig Mackworth, a ffrwydrodd flwch postio yn Heol Rhisga, Casnewydd i ddangos pa mor gryf yr oedd hi'n teimlo am bleidlais i ferched. Etholiad 1929, wrth gwrs, oedd y cyntaf lle’r oedd pob menyw dros 21 oed yn gallu pleidleisio. Nid yn unig gallai merched nawr bleidleisio, ond gallent hefyd sefyll i gael eu hethol i'r Senedd, ac allan o'r tri oedd yn sefyll yng Nghymru, yr un a lwyddodd i gael ei hethol, wrth gwrs, oedd Megan Lloyd George, merch y cyn Brif Weinidog, David . Fe'i hetholwyd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Fôn, gan weld y goleuni yn ddiweddarach, wrth gwrs, a dod yn AS Llafur dros Gaerfyrddin. Wrth gwrs, ni ddylem anghofio Julia Gillard, cyn Brif Weinidog Awstralia a aned yn y Barri, a ddaeth yn ôl i Gymru i annerch y Cynulliad yn 2015. Roedd y digwyddiad mor boblogaidd fel y bu’n rhaid ei symud o'r Pierhead i’r Senedd ac fe’i darlledwyd ar senedd.tv ar gyfer y rhai nad oeddent yn gallu cael tocynnau.
Ym myd diwydiant, nid yw'n syndod, o ystyried treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Merthyr Tudful, bod arloeswyr benywaidd ym myd diwydiant yn hannu o'r dref. Un oedd yr Arglwyddes Charlotte Guest, gwraig John Josiah Guest, perchennog y gwaith haearn mwyaf yn y byd yn Nowlais, ac Aelod Seneddol cyntaf Merthyr. Pan fu farw ym 1852, cymerodd Charlotte reolaeth dros y busnes, ac er ei bod yn cael ei chofio orau am ei gofal dyngarol dros weithwyr yn yr ardal, parhaodd i redeg y gwaith nes iddi ailbriodi ym 1855. Un arall oedd Lucy Thomas, a elwir yn fam y diwydiant glo, a gymerodd drosodd y gwaith o redeg busnes ei gŵr pan fu yntau farw ym 1833, gan adael iddi ystad a oedd yn werth llai na £1,000. Roedd wedi darganfod gwythïen lo gyfoethog ym Merthyr, a daeth yn un o'r mwyngloddiau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Erbyn adeg ei marwolaeth hi ym 1847, roedd gwerth y busnes hwnnw wedi cynyddu i dros £11,000. Ac yn fwy diweddar, roedd y cynllunydd ffasiwn Laura Ashley, a aned mewn tŷ teras dinod yn Nowlais ym Merthyr Tudful, ac a aeth ymlaen i fod yn un o ddylunwyr a gwneuthurwyr dillad a dodrefn mwyaf blaenllaw'r byd.
Mae cymaint o fenywod ysbrydoledig eraill o Gymru y gallwn siarad amdanynt, ond nid yw hyn yn ymwneud ag unigolion yn unig. Yn yr amser sydd gennyf ar ôl, rwyf hefyd am dalu teyrnged i fenywod sydd wedi ymddwyn ar y cyd yn eu hundebau llafur, gan wneud gwahaniaeth i fywydau cymaint. Mae’r hanes am ferched yn gweithredu ar y cyd yn un balch: o streic y merched matsis ym 1888, a arweiniodd at wahardd matsis ffosfforws gwyn peryglus a gwelliannau yn eu hamodau gwaith, at streic gyffredinol 1926, pan ymladdodd menywod am y tro cyntaf i amddiffyn hawl dynion i gyflog teg. Ym 1934, pan gymerodd y Llywodraeth gamau yn erbyn y gost gynyddol o dalu’r dôl a budd-daliadau i'r di-waith—a yw hynny’n swnio’n gyfarwydd—gadawodd gorymdaith newyn Donypandy ac ymhlith y cannoedd o lowyr roedd dwsin o fenywod yn gwisgo sachau teithio a berets coch. Roeddent wedi eu hyfforddi mewn siarad cyhoeddus fel y gallent annerch cyfarfodydd mewn mannau aros dros nos ar y ffordd i Gaerdydd. Wrth gwrs, yn ystod streic y glowyr 1984, protestiodd menywod ochr yn ochr â'u gwŷr, eu tadau a’u brodyr i wrthwynebu cau 28 o byllau yn ne Cymru. Yn ogystal â phrotestio am golli swyddi, roeddent yn ymladd i amddiffyn eu cymunedau. Ymunodd menywod â llinellau piced, roeddent yn gorymdeithio mewn ralïau ac roeddent yn darparu parseli bwyd. Fe wnaeth Menywod yn Erbyn Cau Pyllau wleidyddoli menywod mewn ffordd nas gwelwyd erioed o'r blaen yn y cymunedau glofaol hyn, ac aeth un ohonynt, Siân James, ymlaen i fod yn AS Llafur dros Ddwyrain Abertawe.
Mae menywod mewn undebau llafur wedi ymgyrchu yn ddiflino ar faterion sy'n effeithio arnynt yn anghymesur, gan fynd ar drywydd hawliadau cyflog cyfartal, hawliau cyfartal i weithwyr rhan-amser, cyfnod penodol, asiantaeth a’r rhai ar gyflog isel, ac, fel y dadleuwyd yr wythnos diwethaf, ymladd yn erbyn ecsbloetio contractau dim oriau, sydd hefyd yn effeithio ar fenywod yn fwy na dynion, ac wrth gwrs ymgyrchu dros gydraddoldeb a gofal plant fforddiadwy, y mae'r Llywodraeth hon yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Lywydd, rwy’n teimlo yn hynod freintiedig o fod wedi cael fy ethol i Gynulliad Cymru, ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar i’r menywod a aeth o fy mlaen i ac arloesi mewn gwleidyddiaeth ac yn y mudiad undebau llafur, gan ei gwneud yn bosibl i mi a menywod eraill fel fi fod yma heddiw. Ein cyfrifoldeb ni yn awr yw paratoi'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fenywod a fydd yn gwneud eu marc ym mywyd Cymru.
Rwy’n croesawu'r ddadl heddiw yn cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau, a’r cyhoedd yn gyffredinol yn ystyried y gwragedd adnabyddus heddiw a thrwy gydol hanes Cymru. Fodd bynnag, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ganmol y cyfraniadau a wneir gan fenywod cyffredin yng Nghymru—menywod a helpodd i adeiladu’r wlad hon, gan weithio yn y cartref, y fferm, y ffatri a chymaint o leoedd eraill. Ni fyddwn byth yn gwybod eu henwau, ond ar eu hysgwyddau hwy y mae ein gwlad ni’n sefyll. Heb i famau Cymru addysgu eu plant yn eu mamiaith eu hunain, ni fyddai'r Gymraeg wedi goroesi, ac ni fyddai ei llên gwerin neu ei barddoniaeth chwaith. Mae UKIP felly yn galw ar y lle hwn i gydnabod eu cyfraniad amhrisiadwy at ein gwlad, cyfraniad sy’n gyfochrog â chyfraniad y dynion.
O ran y gwelliannau a gynigir gan Blaid Cymru, ydy, mae’n wir bod menywod yn cael eu tangynrychioli ar fyrddau cyrff anllywodraethol, cwmnïau a byrddau llywodraethol. Fodd bynnag, byddai cynyddu niferoedd yn artiffisial drwy osod cwota yn edrych yn dda efallai, ond byddai'n ddiystyr yn y pen draw heb ddeall a mynd i'r afael â’r rheswm pam mae llai o ferched yn aelodau o’r byrddau yn y lle cyntaf. Gallwch baratoi rhestrau byr sy’n cynnwys dim ond menywod wrth fodd eich calon. Fodd bynnag, drwy dalent a gallu y dylai menywod gael y swyddi gorau o fewn cwmnïau. [Torri ar draws.] Ni ddylem gefnogi codi menywod uwchlaw dynion, ond yn hytrach geisio cystadlu ar faes chwarae gwastad, gan drin pob rhyw gyda chydraddoldeb llwyr.
Drwy ddadleuon fel hon, a’r ymwybyddiaeth a godwyd gan ymgyrchwyr mewn digwyddiadau fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, y byddwn yn symud ymlaen ymhellach tuag at gydraddoldeb llwyr yn y gweithle a thu hwnt. Mae Plaid yn gywir i resynu at gyflog canolrifol ac enillion cymharol is menywod yn erbyn dynion yn y gweithle. I raddau helaeth mae hyn yn adlewyrchiad o'r galwedigaethau y mae menywod yn cael eu cyflogi ynddynt o hyd. Er enghraifft, ar gyfartaledd, mae menywod yn llawer mwy tebygol o fod mewn gwaith rhan-amser, ar gontractau dim oriau neu ar gyflog isel oherwydd eu bod yn gofalu am blant ac mae ganddynt gyfrifoldebau gofal eraill.
Ni fydd UKIP yn pleidleisio o blaid gwelliant 4 gan nad oes cysylltiad achosol rhwng gwersi cydberthynas iach mewn ysgolion a chyrhaeddiad addysgol, a’r cyrhaeddiad addysgol yw'r ffactor mwyaf arwyddocaol yng nghyflogau ac amodau gweithwyr benywaidd. I'r rhai sy'n cwyno am y cyflog ychydig yn is y mae menywod yng Nghymru ac yn y DU yn ei gael, byddwn i'n dweud hyn: mae eich delfrydau ar gyfer cydraddoldeb perffaith yn ganmoladwy, ond dylem fod yn falch bod y DU yn un o'r llefydd gorau ar y ddaear i gael eich geni a byw fel menyw ynddo.
Mae nifer o heriau y mae menywod yn eu hwynebu mewn cymdeithas heddiw y tu hwnt i'r gweithle—materion sydd, i lawer, yn annymunol eu trafod neu hyd yn oed eu cydnabod. Mae menywod, ac yn wir llawer o ferched o oedran ifanc, wedi dioddef o arferion diwylliannol yn ymyrryd â’u cyrff a'u dyfodol. Wrth i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod agosáu, galwaf ar y Cynulliad hwn ac ymgyrchwyr i fynd i'r afael â'r mater o anffurfio organau rhywiol menywod. Fel cymdeithas, mae gennym ddyletswydd i ofalu am y rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r weithred erchyll hon ac i wneud popeth i ymladd yn erbyn y cymhellion y tu ôl i’r drosedd hon. Ar yr un pryd, rhaid i ni siarad ar ran y miliynau o fenywod ledled y byd nad ydynt yn rhannu'r un hawliau yr ydym ni’n ffodus i’w dal.
Yn y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld miloedd o ferched yn protestio yn erbyn Llywydd newydd yr Unol Daleithiau. Rwy’n gofyn iddynt: ble’r oedd y gorymdeithiau a’r protestiadau dros eu chwiorydd dramor, lawer ohonynt wedi dioddef tynged waeth na anffurfio organau cenhedlu menywod am iddynt gamu y tu allan i normau diwylliannol? Mae angen ymdeimlad o bersbectif arnom. Oes, mae angen i ni fynd i'r afael â rhywiaeth ac anghydraddoldeb yn y gymdeithas bob dydd, ond yn bwysicach mae angen i ni ddarparu esiampl o obaith ar gyfer menywod sy'n cael eu hamddifadu o'u hawliau dynol sylfaenol drwy siarad am faterion sydd yn gywilyddus yn dal i barhau yn yr unfed ganrif ar hugain .
Felly, gadewch i ni ddathlu ein llwyddiannau fel menywod. Gadewch i ni gofio’r menywod hynny sydd wedi mynd o'n blaenau, y rhai a fu'n ymgyrchu ac yn sicrhau ein rhyddid. Ond, gadewch i ni beidio ag anghofio'r miliynau o ferched nad oes ganddynt lais a sicrhau, yfory, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ein bod yn rhoi’r llais hwnnw iddynt. Diolch.
Yn fy nghyfraniad heddiw rwyf am siarad am y goblygiadau i fenywod o adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf am ddechrau gyda’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn werth £2 biliwn i Gymru rhwng 2014 a 2020. Mae'r Trysorlys wedi gwarantu y bydd pob prosiect a ddechreuwyd cyn i'r DU adael yr UE yn cael eu hariannu'n llawn nes eu cwblhau. Ond nid ydym yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl hynny. Nid ydym yn gwybod beth fydd y polisi rhanbarthol ar ôl i ni adael. Yn amlwg, rydym yn cael y trafodaethau yma yng Nghymru i geisio dylanwadu ar beth fydd hynny, ond nid ydym yn gwybod. Ond, rydym yn gwybod y bydd yn cael effaith fawr ar fenywod.
Mae cydraddoldeb rhywiol wedi bod yn un o amcanion craidd yr Undeb Ewropeaidd erioed. Ers i'r DU ymuno ym 1973, mae aelodaeth wedi helpu i sicrhau gwelliannau o ran cydraddoldeb cyflog, amddiffyn rhag gwahaniaethu, gofal plant, absenoldeb rhieni a gofal i fenywod beichiog a mamau newydd. Hefyd, mae cydweithrediad rhyngwladol ar draws yr Undeb Ewropeaidd wedi helpu i fynd i'r afael ag anffurfio organau cenhedlu menywod, oherwydd mae angen cydweithio ar faterion megis anffurfio organau cenhedlu menywod. Fel y gwyddom, mae'n digwydd yng Nghymru. Rydym yn gwybod ei fod yn digwydd yng Nghaerdydd. Nododd pwyllgor diweddar yng Nghaerdydd achosion lle mae anffurfio organau cenhedlu menywod wedi digwydd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio ar y cyd ar y mater hwn.
Ceir cydweithredu rhyngwladol hefyd ar fasnachu mewn pobl. Rydym yn gwybod bod merched yn llawer mwy tebygol o gael eu masnachu i'r diwydiant rhyw. Yn wir, mae’r UE yn dweud bod 30,146 o bobl wedi eu cofrestru fel dioddefwyr masnachu mewn pobl ar draws yr UE 28 genedl yn ystod y tair blynedd hyd at 2013; roedd 80 y cant o'r dioddefwyr yn fenywod; 69 y cant o'r holl rai sy'n cael eu masnachu wedi dioddef camfanteisio rhywiol; ac roedd mwy na 1,000 o blant sy'n ddioddefwyr yn cael eu masnachu ar gyfer camfanteisio rhywiol. Felly, mae angen inni fod mewn sefyllfa lle y gallwn weithio ar y cyd ar y materion hynny. Pan fyddwn yn gadael yr UE, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y ffyrdd cydweithredol hyn o weithio yn dal i fod gennym, gan ei bod yn hanfodol i’r menywod hyn sydd mewn sefyllfaoedd agored i niwed ein bod yn gwneud hynny.
Bydd gadael yr UE yn golygu colli arian a dargedwyd ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Yn 2012, roedd 28 y cant o gyllideb cymorth yr UE yn cynnwys cydraddoldeb rhwng y rhywiau neu rymuso menywod fel amcan allweddol. Dyma beth sydd wedi cael ei ysgrifennu yn holl waith yr UE, ei holl bolisïau—cydnabyddiaeth o'r anghydraddoldebau sy’n bodoli. Pan fyddwn yn gadael yr UE, mae'n rhaid i ni sicrhau nad ydym yn colli'r holl waith da sydd wedi cael ei gyflawni. Yn ogystal â hyn, bydd unrhyw ddirywiad economaidd yn taro menywod galetaf. Mae'r holl dystiolaeth wedi dangos, pan fydd pethau'n mynd yn anodd, mai menywod sy'n dioddef fwyaf. Dyna yn sicr beth sydd wedi digwydd gyda thoriadau'r Torïaid. Mae adroddiad 2015 gan yr LSE yn dangos bod 78.9 y cant o doriadau lles wedi digwydd i fenywod, yn enwedig rhieni sengl, ac mae menywod duon a lleiafrifoedd ethnig hefyd yn cael eu heffeithio yn anghymesur. [Torri ar draws.]
Mae Cymdeithas Fawcett wedi galw am gael menyw ar dîm negodi Brexit, o ystyried bod y triawd presennol i gyd yn ddynion, sy'n cynnwys, wrth gwrs, David Davis, Liam Fox a Boris Johnson. Rwy’n meddwl bod angen i ni gael menyw yno i geisio negodi. Hynny yw, mae’r trafodaethau hyn mor bwysig i fenywod. Beth bynnag fydd yn digwydd ar ôl Brexit, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw'r enillion a sicrhawyd wedi ymdrech galed dros fenywod yn cael eu colli ac nad yw’r themâu trawsbynciol sydd wedi'u hymgorffori yn y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, er enghraifft, yn cael eu colli.
Mae'r Pwyllgor Dethol Menywod a Chydraddoldebau yn San Steffan wedi gwneud argymhellion ôl Brexit. Un ohonynt yw y dylid cael cymal ar gydraddoldeb yn y Bil diwygio mawr, ac rwy’n meddwl fod hwnnw’n awgrym synhwyrol iawn. Maen nhw wedi awgrymu hefyd y dylai’r Senedd a'r llysoedd ddatgan a yw deddfau newydd yn gydnaws ag egwyddorion cydraddoldeb. Unwaith eto, credaf fod hwn yn argymhelliad pwysig iawn, oherwydd rydym yn symud i sefyllfa lle na fydd gennym unrhyw sicrwydd y bydd cydraddoldeb wedi’i ysgrifennu mewn deddfwriaeth, mewn unrhyw bolisi rhanbarthol yn y dyfodol, mewn cydweithrediad rhwng y gwledydd. Felly, rwy’n credu bod yn rhaid i ni ddefnyddio popeth o fewn ein gallu i wneud hynny. Nid oes unrhyw amheuaeth bod yr Undeb Ewropeaidd, a’n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, wedi bod yn fantais enfawr i fenywod ac mae wedi ein helpu i gymryd camau mawr ymlaen.
Rydym ni, yma yn y Cynulliad, yn sefydliad ifanc. Ond, yn wir, mae gan y Cynulliad hwn hanes balch iawn o anrhydeddu a gweithredu egwyddorion a nodau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, fel sydd gan Lywodraethau olynol a arweinir gan Lafur Cymru. Ers datganoli, rydym wedi bod ymhlith y deddfwrfeydd mwyaf cytbwys yn y byd o ran rhywedd—y cyntaf i ethol nifer cyfartal o fenywod galluog a dynion galluog. Ni ellir ac ni ddylid byth anwybyddu canlyniadau'r gynrychiolaeth honno o ran polisi a deddfwriaeth.
Un o’r polisïau pwysig hynny yw Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Dyma’r ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y DU a dyma'r unig gyfraith yn Ewrop i gael pwyslais penodol ar drais yn erbyn menywod. Mae hynny, yr ydym wedi clywed, wedi cael ei herio yn y Cynulliad hwn, a byddaf yn sefyll, fel y bydd fy nghydweithwyr, yn gadarn tu ôl i hynny.
Rwy’n mynd i adrodd stori wrthych a glywais ddydd Sadwrn. Nid yw’n stori neis, ac mae'n stori am fenyw ifanc a gafodd ei hun yn y carchar—mae hi bellach wedi cael ei ryddhau ar brawf. Ni ddywedwyd wrthyf pwy oedd yr unigolyn, ond dywedwyd ei stori wrthyf. Mae ei stori hi yn un o fod yn gaeth i gyffuriau, gan ddechrau pan oedd yn naw oed, pan gymerodd dabledi Valium ei mam. Cymerodd dabledi Valium ei mam oherwydd nad oedd yn gallu wynebu'r diwrnod. Roedd ei mam yn ei chloi hi a'i brawd yn y cwt glo, oherwydd dyna oedd yr unig ffordd y gallai gadw’r ddau yn ddiogel rhag tad a gŵr a oedd yn ymddwyn yn sarhaus. Roedd y ddau blentyn yn eistedd yn y cwt glo. Tra byddent yn clywed eu mam yn sgrechian roeddent yn gwybod ei bod yn fyw—roedden nhw'n ofnus iawn pan oedd yn dawel.
Aeth yn ei blaen yn ystod ei hoes, o ganlyniad i’r cam-drin hwnnw a'r ddibyniaeth yn gynnar iawn ar Valium, i fod yn gaeth i gyffuriau a chanfod ei hun yn y carchar. Felly, dyna pam—straeon fel yna, ac nid ydynt yn hawdd gwrando arnynt. Ond mae'r rhain yn unigolion—ni allwn ddechrau dychmygu'r ofn oedd yn mynd trwy fywydau’r fam a’i phlant. Dyna pam rydym yn cefnogi'r dull gweithredu ar sail rhyw o ran cam-drin domestig, ac rydym yn ei wneud gyda balchder.
Roeddwn i eisiau adrodd y stori honno, oherwydd nid yw’r straeon hynny byth yn cael eu hadrodd. Mae pobl yn gweld rhywun o fewn y system carchar, maent yn gweld rhywun sydd yn gaeth i gyffuriau, ond ni fyddant byth yn aros i feddwl—nid ydynt byth yn gofyn pam. Felly, fe wnes i hynny'r penwythnos diwethaf, ac roeddwn i eisiau rhannu hynny gyda chi heddiw, oherwydd mae'n hanfodol, pan fydd menywod yn cael eu hethol i swydd, eu bod yn gwneud y peth iawn ar ran y merched na fydd byth yn cael eu hethol i swydd. Ac mae gwneud y peth iawn yn golygu weithiau adrodd straeon nad yw pobl eisiau eu clywed, a chyflwyno deddfwriaeth a fydd mewn gwirionedd yn gobeithio na fydd y plant hynny yn mynd yn ddioddefwyr yn nes ymlaen mewn bywyd.
Y maes arall yr wyf am ganolbwyntio arno yw gweithgarwch economaidd menywod, ac rydym wedi clywed datganiadau mawreddog am hynny heddiw o'r meinciau eraill. Dywedodd datganiad hydref 2016 wrthym fod 86 y cant o'r enillion net i'r Trysorlys drwy fesurau treth a budd-daliadau yn dod oddi wrth ferched, ac roedd hynny’n gynnydd o 5 y cant o 2015. Ond mae Llywodraeth y DU wedi parhau i osgoi ei dyletswyddau o dan Ddeddf cydraddoldebau 2016, ac wedi gwrthod cynnal asesiad ar sail rhyw, yn wahanol i Lywodraeth Cymru. Pe byddent yn gwneud hynny, ac o gofio bod y gyllideb yn disgyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, efallai y byddent yn gweld bod y toriadau a wnaethant i'r sector cyhoeddus wedi taro menywod yn benodol 80 y cant—mae 80 y cant o'r holl doriadau hynny wedi taro menywod, ac rwy'n credu ei bod yn amser iddynt gynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb o ran yr hyn y maen nhw'n ei wneud.
Gan fynd ar drywydd gwahanol yma: mis Mawrth yw Mis Hanes Menywod. A beth yw pwynt Mis Hanes Menywod? Wel, mae 50 y cant o'r boblogaeth ond yn meddiannu 0.5 y cant o hanes cofnodedig. Ac mae hynny'n bwysig os yw cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wedi bod yn agored i'r anghydbwysedd hwnnw fel gwirionedd am werthoedd. Gwn fod rhai Aelodau yma yn y Siambr yn hoffi mynd yn ôl at yr ugeinfed ganrif i wneud eu pwyntiau gwleidyddol, fel pe bai dim wedi digwydd yn y cyfamser. Ond i esbonio'r broblem o 0.5 y cant ar gyfer hanner y boblogaeth, a'i effeithiau ar ein DNA diwylliannol, mae Dr Bettany Hughes yn credu bod angen i ni fynd yn ôl a dechrau yn y cychwyn gyda chynhanes, lle’r oedd y gwrthwyneb yn wir.
Os edrychwch ar yr holl ffigurynnau a wnaed rhwng 40,000 CC a thua 5,000 CC, cyfnod sydd mewn gwirionedd yn gweld blodeuo’r meddwl modern, ar y pryd roedd tua 90 y cant o'r holl ffigurynnau hynny yn fenywod. Felly, mae menywod yn bresennol iawn yn y cofnod archeolegol, ond yna yn dechrau diflannu unwaith y mae cynhanes yn troi’n hanes. Ar enedigaeth cymdeithas wâr, mae gennych setliadau cynhyrchiol a soffistigedig iawn, gyda menywod yn cael statws uchel—roeddent yn uwch offeiriadesau, roedd ganddynt hawliau eiddo, roeddent yn berchen tir, roeddent yn ysgrifennu barddoniaeth. Ond roedd y gwareiddiadau newydd yn awyddus i ehangu, ac roedd angen pŵer cyhyrau i wneud hynny. Ar y pwynt hwnnw, mae’r gymdeithas yn dod yn fwy militaraidd, ac mae’r cydbwysedd o ran grym yn newid. Dyna pryd y gwelsom y newid cwantwm yn hanes y byd, ac rydym yn dechrau canfod duwiau rhyfelwyr pwerus yn ymddangos yn yr archaeoleg, yn ogystal ag yn y chwedlau epig, yn cynrychioli newid gêr yn y modd yr ydym yn adrodd hanes dynoliaeth.
Twf drwy ddulliau milwrol—roedd y cyhyrau’n bwysig, ac mae'n dal yn bwysig. Mae'r status quo hirhoedlog hwn wedi dod yn nodyn sylfaenol i gymdeithas. Yn flaenorol, tra byddid yn mesur llwyddiant drwy oroesiad a meithrin cymuned, ac ansawdd bywyd, mae’n wir, hyd yn oed yn awr, fod ehangu a llwyddiant yn bwysig. Roedd swyddogaethau menywod yn parhau i leihau, a chollwyd bri cryfderau menywod. Felly, pam ydyn ni'n gwybod am rai merched ond nid am eraill? Wel, os ydych yn meddwl am rai o'r menywod mewn hanes yr ydym wedi clywed amdanynt—rhai fel Cleopatra a Helen o Droea—un o'r rhesymau pam mae’r straeon amdanyn nhw wedi para mor hir yw eu bod yn cael eu portreadu fel menywod rhywiol iawn. Maen nhw'n llawn cyffro, ond mae’r perygl a ddaw o’u dylanwad hefyd wedi dod yn stori foesoldeb wyrdroedig. Rydym yn eu cofio fel rhai a oedd yn hudo dynion i’r gwely ac i’w marwolaeth, neu, mewn diwylliant Judeo-Gristnogol, i golli eu pwer a’u hawdurdod. Yn aml, ni chaiff menywod fod yn gymeriadau dynol unigol mewn hanes—rhaid iddynt fod yn stereoteipiau.
Mae llenyddiaeth hŷn wedi cyfrannu at hynny hefyd. Roedd Cleopatra yn fardd ac yn athronydd. Roedd hi'n hynod o dda mewn mathemateg, ac nid oedd yn arbennig o brydferth. Ond, pan fyddwn yn meddwl amdani, rydym yn meddwl am yr hudoles â bronnau mawr, yn ymdrochi mewn llaeth, gyda pherthynas ryfedd iawn ag asbiaid. Yn aml, hyd yn oed pan fydd menywod wedi gwneud eu marc ac yn cael eu cofio mewn hanes, rydym yn cael fersiwn ffantasi o’u bywydau. Yn awr, wrth gwrs, hyd yn oed os nad ydym yn credu’r pethau hyn mwyach, ac rydym yn cyhoeddi â llais uchel fod dynion a menywod yn gyfartal, sut mae’n dal i effeithio arnom ni gymaint? Sut mae'n dal yn bosibl i unrhyw Aelod o’r Senedd Ewropeaidd—fel y gwnaeth un yr wythnos diwethaf—ddatgan, yn ddiedifar, y dylai menywod gael eu talu yn llai oherwydd ein bod yn llai o faint, yn wannach ac yn llai deallus? Sut y gall fod yn bosibl dweud hynny'r dyddiau hyn? Nawr, mae Dr Hughes yn dweud bod problem wedi bodoli yma am o leiaf 3,500 o flynyddoedd, felly, nid yw'n syndod bod gennym rywfaint o waith ennill tir i'w wneud, oherwydd rydym mewn gwirionedd yn goresgyn cof ffug cyfunol cynhenid.
Mae straeon am fenywod wedi cael eu hanwybyddu mewn hanes yn hytrach na’u cynnwys. Ond mae'r oes yn newid ac rwy’n credu bod gennym fwy o ddiddordeb yn awr yn hanes yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol, yn hytrach na bod yn ddyn neu'n fenyw. Mae'n broblem sydd wedi gwreiddio’n ddwfn iawn a hoffwn yn wir y gallem fod yn siŵr o gael ein hadnabod ar y cyd fel y genhedlaeth a agorodd yn hytrach na chau’r meddyliau, ac a agorodd y straeon hyn, eu rhoi yn ôl ar y dudalen a dechrau ailraddnodi’r cof cyfunol hwnnw, oherwydd do, wrth gwrs, fe wnaeth menywod effeithio ar hanes. Ond mae angen i ni wybod am y peth ac mae'n anodd dathlu neu gydnabod ein llwyddiannau fel menywod, fel y dywed y cynnig, os nad ydym yn gwybod amdanynt. Felly, rwy’n diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw am roi rhai enghreifftiau. Mae angen i ni fynd yn ôl i edrych am straeon am fenywod a'u rhoi yn ôl i mewn i'r naratif hanesyddol, yn fyd-eang, yn genedlaethol, ac yn lleol. Wrth gwrs, mae'n fater i raddau helaeth i—. Mae'n rhan o swydd yr hanesydd i lenwi'r bylchau mewn hanes, a dyna pam yr wyf yn meddwl y dylem wrthsefyll unrhyw ymgais i fychanu rôl hanes yng nghwricwlwm newydd Cymru, ond mae angen holi a oes modd ailystyried ei werth. Gadewch i ni ei gael i wneud y peth iawn, Joyce. Gadewch i ni fod yn feiddgar—credaf fod rhywun arall wedi sôn bod angen i ni fod yn feiddgar—wrth ailraddnodi’r cof cyfunol hwnnw fel bod cryfderau menywod yn cael eu gwerthfawrogi ar draws amser ac nid dim ond yn y 100 mlynedd diwethaf. Efallai fod y Natsïaid wedi methu â choncro Ewrop, ond maent wedi gwneud gwaith da iawn o dra-arglwyddiaethu ar ein cwricwlwm hanes, ac rydym yn dal i siarad am gyhyrau a cholli hanner ein hanes ganrif ar ôl y Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyntaf. Diolch.
Rwyf yn wirioneddol falch o godi i siarad yn y ddadl hon i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Heddiw, fe wnes i a fy nghyd Aelodau Cynulliad Llafur benywaidd ymgynull ar risiau'r Senedd, ac roeddwn yn falch iawn o dynnu sylw at ferched o Gymru sydd wedi cael effaith ar fywyd cyhoeddus ledled Cymru.
Efallai eich bod wedi clywed am Benjamin Hall, a oedd yn ddyn o Islwyn, fy etholaeth i, yr enwyd Big Ben ar ei ôl. Ond heddiw, nid wyf yn mynd i siarad am ŵr; rwy’n mynd i siarad am y wraig, ac nid yw hi yn cael ei diffinio ganddo. Gwraig yw hon o'r enw Augusta. Roedd yn fenyw Gymraeg ryfeddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwaraeodd ran ddiwylliannol yn mabwysiadu'r wisg genedlaethol Gymreig sydd bellach yn gyfarwydd fel ein gwisg genedlaethol, rhywbeth y mae pob un ohonom fel gwleidyddion yn gyfarwydd â hi. Ddwy ganrif yn ddiweddarach, ar Ddydd Gŵyl Dewi yr wythnos diwethaf, roedd merched yn gwisgo’r wisg hon â balchder, ochr yn ochr â'r crysau rygbi, ac ochr yn ochr â'r amrywiaeth o wisgoedd ar hyd a lled Cymru. Mae'r eglwys a'r mandad addysgol a freintiwyd gan Augusta yn Abercarn yn Islwyn yn cael ei hadnabod yn lleol fel yr 'eglwys Gymreig' ac rwy'n falch o ddweud imi briodi ynddi. Mae'n dal i sefyll yn falch ar ochr y dyffryn ac mae i’w gweld ar fathodyn Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon. Dros y blynyddoedd, mae miloedd o ddisgyblion wedi dysgu am y cysylltiad hanesyddol a diwylliannol ag Augusta Hall. Mae'n iawn fod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ein hannog i ganfod modelau rôl fel Augusta ym mhob un o'n cymunedau wrth i ni barhau i ymdrechu am wir gydraddoldeb rhwng y rhywiau ym mhob maes o fywyd.
Heddiw, mae Llafur Cymru wedi arwain y ffordd o ran sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n hawdd dweud hynny. Yn y Cynulliad ar hyn o bryd mae gennym ni yn Llafur Cymru, unwaith eto, grŵp cytbwys rhwng y rhywiau, gyda 15 o Aelodau benywaidd allan o 29. Mae hyn yn ganlyniad polisi ac ewyllys, ac nid breuddwyd gwrach ddi-asgwrn-cefn. O ganlyniad i weithredu gan Lafur Cymru, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i fod yn llawer mwy cynrychioliadol o'r boblogaeth na Senedd y DU. A dyna pam mae gennym y ddeddfwriaeth trais yn erbyn menywod sy'n torri tir newydd—y gyntaf yn y DU—ac mae'n ddeddfwriaeth y dylem i gyd fod yn falch ohoni, ac yn gwbl briodol, bob un ohonom yn y Siambr hon.
Rwy’n falch o fod yr ail Aelod Cynulliad benywaidd Llafur Cymru dros Islwyn. Yn blentyn, roeddwn yn angerddol am wleidyddiaeth ac yn edrych am gyfleoedd, yn ddigywilydd, i wasanaethu mewn bywyd cyhoeddus. Fel menyw, roeddwn yn gwybod fy mod yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gyrraedd y nod hwn. Ond heddiw, mae sefyllfa cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru wedi gwella'n fawr. Ond ni sicrhawyd cydraddoldeb rhywiol o hyd. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, llanast pensiynau Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, yn dangos hyn. Rwyf wrth fy modd bod cynyddu nifer y menywod sydd mewn swyddi o rym a dylanwad yn flaenoriaeth i Lywodraeth bresennol Lafur Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn credu bod llawer rhy ychydig o fenywod yn dal i fod mewn swyddi amlwg—yn wahanol i rai yn y Siambr hon—ar draws bywyd cyhoeddus. Mae angen i leisiau menywod gael eu clywed a rhaid i’r cyrff sy’n gwneud penderfyniadau, megis y Llywodraeth ac awdurdodau lleol, fod yn gynrychioliadol o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae maniffesto Llafur Cymru yn gwneud ymrwymiad i geisio cyflwyno data rhyw gwell ar gyfer penodiadau i gyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan sicrhau bod o leiaf 40 y cant o'r penodiadau hynny yn fenywod. Ni ddylid bod â chywilydd o hyn.
Ym mis Hydref 2015, lansiodd Llywodraeth Cymru alwad am dystiolaeth er mwyn cynyddu dealltwriaeth o'r heriau a'r rhwystrau sy'n cyfrannu at dangynrychiolaeth grwpiau penodol ar fyrddau yn y sector cyhoeddus, a'r mesurau i ymdrin â hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru a gwledydd eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio'r canfyddiadau i ddatblygu ei hymatebion i dangynrychiolaeth mewn penodiadau cyhoeddus. A’r hyn a ddylai ein pryderu ni i gyd yw’r bwlch cyflog parhaus rhwng y rhywiau. Mae bylchau cyflog yn fater cymhleth a hirsefydlog, ac mae’n ddyletswydd ar y cyflogwyr i sbarduno rhai newidiadau. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn mynnu bod cyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn mynd i'r afael â gwahaniaethau cyflog a chyflogaeth ar draws y nodweddion gwarchodedig hynny yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Ac mae'n iawn ein bod yn ystyried effaith y mudiad Ewropeaidd o ran sut yr ydym yn symud ymlaen ar ôl Brexit, a'n bod yn diogelu’r rhinweddau hynny ar draws Cymru.
Mae llawer o fenywod mewn cyflogaeth yng Nghymru yn dal i ennill llai na dynion, ac mae hyn oherwydd bod llawer o lwybrau gyrfa benywaidd traddodiadol a menywod yn fwy tebygol o weithio'n rhan-amser na dynion, oherwydd cyfrifoldebau gofalu. Ac yn olaf, mae'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom yn y Siambr hon a phawb sy’n gwylio ymroi i’w herio. Ni allwn mwyach weld yr unfed ganrif ar hugain yn treiglo ymlaen gyda gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau. Mae'n staen ar fywyd Cymru ac mae’n rhaid iddo ddod i ben. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau â'r daith anodd hyd nes y byddwn yn cyflawni cydraddoldeb—parch cydradd, cyflogau cydradd, cydraddoldeb cydradd a chymdeithas wir gyfartal ledled Cymru. Diolch.
Ac yn olaf, Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd cael siarad yn y ddadl hon heddiw. Yn wir, mae llawer o fy nghydweithwyr yma wedi fy ysbrydoli i, ac mae'n fraint ymuno â hwy ac eraill yn y Siambr hon.
Gwn fy mod yn sefyll ar ysgwyddau pobl eraill. Mae llawer o fenywod o'n blaenau ni wedi aberthu ac ymladd brwydrau fel y gall menywod gael y bleidlais, mynd i brifysgol, gweithio a dewis sut i fyw eu bywydau. Rydym wedi dod yn bell ers y swffragetiaid megis Margaret Mackworth, Arglwyddes Rhondda, ond mae llawer mwy i'w wneud. Fel Aelod newydd, dyma’r cyfle cyntaf i mi ei gael yn y Siambr i dalu teyrnged i fy rhagflaenydd fel yr Aelod dros Orllewin Casnewydd, y Fonesig Rosemary Butler. Mae Rosemary yn sicr wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ac i lawer o fenywod eraill yng Nghasnewydd a ledled Cymru. Fel Llywydd, defnyddiodd ei safle i annog a chefnogi menywod mewn bywyd cyhoeddus. Deallodd fod gweithlu amrywiol yn well i bawb. Mae'n bwysig sicrhau nad yw menywod mewn swyddi uwch yn tynnu’r ysgol i fyny, ond yn dal llaw allan i fenywod eraill. Gwnaeth ymgyrch Rosemary, sef Merched mewn Bywyd Cyhoeddus, wahaniaeth yn sicr. Yng Nghasnewydd, trefnodd ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod dros nifer o flynyddoedd, gan ddwyn ynghyd menywod o bob cefndir i gyfarfod, dysgu oddi wrth ei gilydd a chael hwyl. Roedd bob amser yn awyddus i gefnogi ac annog menywod i roi cynnig ar rywbeth newydd, i roi cynnig arni a pheidio bod ofn methu, rhywbeth y gwn y bydd yn parhau i’w wneud.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hefyd yn ymwneud â chydnabod gwerth merched mewn swyddogaethau allweddol, megis gofalwyr cyflogedig a di-dâl. Mae ffordd bell i fynd i ddatrys y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac mae'n frawychus yn 2017 y gall eich rhyw effeithio ar faint yr ydych yn cael eich talu. Yn wir, amcangyfrifodd Fforwm Economaidd y Byd na fydd y bwlch cyflog byd-eang rhwng y rhywiau yn cau tan 2186. Mae hyn yn anfaddeuol. Ar hyn o bryd y DU yw’r ugeinfed yn y byd, y tu ôl i Nicaragua, Burundi, Iwerddon, Slofenia a'r Almaen. Gallwn wneud yn llawer gwell.
Nid yw hawliau cyfartal yn frwydr i fenywod yn unig. Roedd fy nhad-cu, a oedd yn of o Lyncorrwg, yn falch o alw ei hun yn ffeminydd. Bu farw bum mlynedd yn ôl pan oedd yn 89, ac roedd yn credu’n llwyr mewn cydraddoldeb ac yn gwybod ei fod yn rhywbeth yr oedd angen i ddynion ymladd drosto hefyd. Ac rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn credu hynny, ac mae e'n hyrwyddwr cydraddoldeb.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ni fyfyrio a dathlu gwaith gwych a chyflawniadau menywod yn ein cymuned. Ers cael fy ethol, rwyf wedi cwrdd â menywod sy'n ymgyrchwyr, arweinwyr ac sydd yn cyflawni pethau—menywod dygn, lawer ohonynt yn bwrw ymlaen heb sylweddoli'r gwahaniaeth y maent yn ei wneud. Y thema eleni yw 'Byddwch yn feiddgar ar gyfer newid', a, dim ond tri mis wedi mynd ers cychwyn 2017, rydym eisoes wedi gweld merched yn gorymdeithio ar strydoedd ledled y byd i brotestio’n heddychlon yn erbyn gwleidyddiaeth ymrannol. Gallwn weld o'r iaith atgas ar y cyfryngau cymdeithasol yn erbyn menywod nad yw’r frwydr dros gydraddoldeb ar ben. Mae'n rhaid i ni wynebu'r heriau hynny a phrofi'r datblygiadau a wnaed.
Mewn sawl rhan o'r byd, ni fydd menywod yn dathlu. Yn wir, efallai y byddant yn brwydro i oroesi’r diwrnod. Mewn gwledydd fel Syria, Irac a Nigeria, mae merched yn wynebu trais rhywiol fel arf rhyfel. Rydym yn clywed sut, mewn rhai gwledydd, mae menywod a merched yn cael eu gorfodi i briodi, eu cam-drin yn rhywiol a’u treisio gan eu gwŷr honedig a'u gwerthu i bobl eraill. Mae hefyd yn gyfle i feddwl am y ffoaduriaid hynny sydd wedi teithio cannoedd o filltiroedd i chwilio am ddiogelwch, lawer ohonynt yn famau, yn cael eu gorfodi i gario eu plant o un parth perygl i'r nesaf. Ymddengys bod brwydrau yr oeddem yn meddwl oedd wedi eu hennill yn plygu yn y gwynt. Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn sefyll gyda'n gilydd, yn dathlu'r hyn yr ydym wedi ei gyflawni ac yn cymryd camau beiddgar ar gyfer newid.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i'r ddadl—Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi dod yn achlysur o bwys yn y calendr cydraddoldeb ac mae'n dda gweld ei fod yn llwyddo i gael sylw cadarnhaol ac eang yn y cyfryngau a’i fod yn tanio cymaint o drafodaeth ar y mater hwn. Bydd tynnu sylw at anghydraddoldeb a chyflwyno'r dystiolaeth lwyr sy'n bodoli i ddangos sut mae menywod yn dal i gael eu trin yn annheg yn hwyluso newid ystyrlon.
A gaf i droi at rai o'r cyfraniadau gan Aelodau yn y Siambr heddiw? Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei darn meddylgar, darn lleol iawn i’w hetholaeth. Mae'r bobl y soniodd amdanynt—côr merched y Fflint, y RainbowBiz, Val o'r apêl pabi, Vicky Perfect—ceidwad allwedd castell y Fflint—yna, yn wir, Viv Williams yn y Siambr heddiw, o Enwau ar Gerrig. Ac yn olaf, ond nid y lleiaf, Hannah, fy mam, am ei bod hefyd o Delyn, felly hoffwn i wneud hynny'n glir iawn.
Cyfraniadau eraill yn y Siambr heddiw—siaradodd Leanne Wood, unwaith eto, yn agored iawn am y dathliad, ond hefyd ystyriodd gydraddoldeb rhywiol o gwmpas y byd, ac rwy'n ddiolchgar am ei chefnogaeth barhaus. Yr unig beth y byddwn yn ei ddweud yw nad yw hwn yn fait accompli. Mae’r dewisiadau o newid i herio pleidlais yn nwylo pob un ohonom, gan gynnwys arweinwyr o fewn y Siambr hon a'r holl Aelodau, ac rwy'n ddiolchgar am ei chyfraniad.
Cododd Michelle Brown rai materion diddorol. Rhaid i mi ddweud, dim ond un rhan o'r drafodaeth nad oeddwn yn cytuno’n hollol â hi—ei chyfraniad ar gydberthynas iach. Nid wyf yn cytuno â hynny, oherwydd ceir cysylltiad llwyr rhwng cydberthynas iach a lles unigolyn, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn falch iawn o fod yn gweithio arno gyda'r Gweinidog addysg o ran y rhaglen lwyddiannus honno ar gyfer y dyfodol .
A gaf i droi at welliannau heddiw? Byddwn yn cefnogi gwelliant 1, ac mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ystod o gamau gweithredu, gan gynnwys amrywiaeth ym myrddau'r sector cyhoeddus—nid dim ond menywod, ond pob grŵp sy’n cael ei dangynrychioli—ac rydym yn gwybod nad ydym yno eto ond mae cynnydd yn cael ei wneud. Yfory, bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyhoeddi ei adroddiad diweddaraf 'Pwy sy'n Rhedeg Cymru?' a bydd yn amlygu'r ffaith bod rhai sectorau—er enghraifft, y GIG—wedi cymryd camau mawr ymlaen o ran cael rhagor o fenywod i swyddi uwch. Serch hynny, rwy’n cydnabod bod llawer mwy i'w wneud, yn enwedig mewn llywodraeth leol.
Byddwn hefyd yn cefnogi gwelliannau 2 a 3, i gydnabod bod bwlch cyflog gwirioneddol rhwng y rhywiau yng Nghymru, fel ag sydd yng ngweddill y DU. Byddwch yn ymwybodol mai yfory yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod; efallai na fydd rhai ohonoch yn gwybod bod heddiw, 7 Mawrth, wedi cael ei frandio fel Diwrnod Cyflog Menywod. Dyma'r diwrnod pan fydd y fenyw gyffredin sy’n cael ei thalu yn y DU yn dechrau cael tâl sy’n cymharu â'r dyn cyffredin. I bob pwrpas, mae menywod yn gweithio 66 diwrnod cyntaf y flwyddyn am ddim. Ni all hynny fod yn iawn. Mae anghydraddoldeb cyflog yn fater cymhleth ac mae’r dyddiau pan oedd swyddi yn cael eu hysbysebu gyda chyfraddau cyflog gwahanol i ddynion a menywod wedi hen fynd, ond mae'r bwlch cyflog yn parhau. Dim ond drwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb cyflog y gallwn obeithio ei ddileu. Rydym yn mynd i'r afael â'r problemau mewn nifer o feysydd, ac, fel y soniais yn gynharach, mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw, gwahanu galwedigaethol a diffyg gofal plant fforddiadwy.
Lywydd, gan symud at welliant 4, byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 4 heddiw, sy’n ymwneud â chydberthynas iach yn dod yn orfodol mewn ysgolion. Cytunaf yn llwyr â chyfraniad yr Aelod Plaid Cymru mewn cysylltiad â chydberthynas iach mewn ysgolion ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n gweithio arno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a gyhoeddodd fod panel o arbenigwyr cydberthynas iach wedi cael ei sefydlu i fynd i'r afael ag anghenion ac i gefnogi ysgolion i ddarparu addysg cydberthynas iach gynhwysol o ansawdd da. Byddai'n anghywir i achub y blaen ar y gwaith hwnnw, ond byddwn yn dod yn ôl i'r Siambr i drafod ymhellach gyda chydweithwyr ynghylch canlyniad hynny.
I ddod yn ôl at ffocws y ddadl heddiw, Lywydd, mae'n ymwneud â dathlu cyfraniad menywod i fywyd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Ein swyddogaeth, fel Llywodraeth, yw sicrhau bod menywod yn cael yr un cyfleoedd â dynion i gyflawni eu potensial llawn. Dim ond rhai o'r miliynau o fenywod a merched o Gymru yr hoffwn ddweud diolch wrthynt—diolch i bobl fel Hannah Blythyn, Dawn Bowden, Jayne Bryant, Rebecca Evans, Lesley Griffiths, Vikki Howells, Jane Hutt, Julie James, Ann Jones, Eluned Morgan, Julie Morgan, Lynne Neagle, Rhianon Passmore, Jenny Rathbone, Joyce Watson, Sian Gwenllian, Bethan Jenkins, Elin Jones, Leanne Wood, Angela Burns, Suzy Davies, Janet Finch-Saunders, Michelle Brown, Caroline Jones a Kirsty Williams. Gymrodyr, daliwch i fod yn eofn, a gadewch i ni adeiladu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gwell. Dylai cydraddoldeb fod yn flaenllaw ym mhob Llywodraeth a phopeth y mae Llywodraeth yn ei wneud ac ni ddylem golli golwg ar hyn byth. Diolch yn fawr. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 1 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw cytuno ar welliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Gwelliant 2—na? Iawn. Felly, caiff gwelliant 2 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw cytuno ar welliant 3. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 3 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw derbyn gwelliant 4. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Iawn, iawn, diolch. Byddwn yn dychwelyd at bleidleisio ar hynny ar yr adeg pleidleisio.
Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd yn awr, ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy’n bwriadu symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.