1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Ebrill 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, David Melding.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, cyhoeddodd y Sefydliad Materion Cymreig eu hadroddiad ar ariannu prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru—yma yn y Neuadd, rwy’n falch o ddweud—ac roedd yn nodi’r anhawster i godi cyfalaf, neu’r anhawster penodol yng Nghymru. A hoffwn ofyn i chi a fydd Llywodraeth Cymru yn nodi argymhellion yr adroddiad hwn ac yn ymateb iddynt yn gadarnhaol.
Yn sicr, rydym yn croesawu cyfraniad y Sefydliad Materion Cymreig i drawsnewid system ynni Cymru. Rydym eisoes yn cyflawni mewn nifer o’r meysydd a gafodd sylw yn yr adroddiad, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Sefydliad Materion Cymreig i ddatblygu eu syniadau ymhellach er budd Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei dulliau’n uchelgeisiol yn ei holl weithgaredd er mwyn datblygu strategaeth ynni cynaliadwy, ac er bod gan Lywodraeth y DU rôl i’w chwarae hefyd, i ganolbwyntio ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud o ran ardrethi busnes, ond hefyd y sector cyhoeddus, sy’n brynwr ynni mawr, a bod angen i ni ddefnyddio ein dulliau mewn modd effeithiol iawn. A wnewch chi annog eich cyd-Aelodau yn y Cabinet i ystyried hyn mewn modd cyfannol?
Gwnawn, wrth gwrs, ac mae hwn yn fater traws-Lywodraethol. Rydym wedi dechrau archwilio opsiynau sy’n darparu rhagor o fynediad, er enghraifft, at gyllid cost isel ac atebion ecwiti, a defnyddio arian Llywodraeth Cymru i ysgogi unrhyw fuddsoddiad ariannol pellach er mwyn cael gwared ar y rhwystrau i gyfalaf a grybwyllwyd gennych yn gynharach. Er hynny, hoffwn ddweud, wrth gwrs, mai’r rhwystr mwyaf i ddefnydd pellach o ynni adnewyddadwy yw diffyg mecanwaith cymorth cyllid addas ar lefel y DU.
Rwyf wedi bod yn garedig gyda chi hyd yn hyn, ond nodaf eich sylw pryfoclyd. [Chwerthin.] Mewn ymgais i gyrraedd consensws, yn ôl yr adroddiad, er mwyn annog rhagor o gynlluniau sy’n eiddo i’r gymuned, mae angen inni ystyried rhagor o ddefnydd o fentrau cydweithredol er mwyn denu cyllid. Mae siarad mawr gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn ac mae’n cael llawer o gefnogaeth ar draws y Cynulliad yn hynny o beth, ond gobeithiaf y byddwch yn rhoi sylw brwdfrydig iawn i’r rhan honno o’r adroddiad, gan y gellid cael cryn dipyn o rymuso, ac mae defnyddio’r model hwnnw o ran ei allu cyffredinol i adfywio, ac nid ar gyfer ynni adnewyddadwy yn unig, yn ffordd allweddol o fynd i’r afael, efallai, â pheth o’r diffyg rydym wedi’i wynebu, yn draddodiadol, o ran denu cyllid.
Ie, ac wrth gwrs, David Melding, rydych yn cydnabod bod hynny’n mynd i’r cyfeiriad yr hoffai Llywodraeth Cymru inni fynd iddo, a byddwn yn edrych gyda diddordeb ar yr argymhellion sy’n ymwneud â’r model cydweithredol. Buddsoddwyd £35 miliwn gennym mewn prosiectau ynni erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac yn wir, buddsoddwyd £5 miliwn yn y gronfa ynni lleol, gan ddarparu benthyciadau uniongyrchol ar wahân ar gyfer rhai o’r prosiectau cymunedol sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Felly, mae’n amlwg ei bod yn bwysig ystyried yr argymhelliad hwnnw wrth symud ymlaen.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Rwy’n siŵr fod arweinydd y tŷ yn ymwybodol mai’r cur pen mwyaf i lawer o ffermwyr yng Nghymru ar hyn o bryd yw problem flinderus TB buchol. Mae hwn yn fater hanfodol bwysig yng nghyd-destun trafodaethau Brexit gan ei bod yn bosibl y gallai’r UE ddefnyddio’r sefyllfa TB yng Nghymru fel rhyw fath o gyfiawnhad dros wahardd allforio cig eidion a chigoedd eraill. Tybed, felly, a all roi unrhyw syniad inni pryd y bydd yr ystyriaeth bresennol o ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr ymgynghoriad diwygiedig ar ddileu TB yn cael ei chyhoeddi.
Daeth yr ymgynghoriad ar y rhaglen i ddileu TB—y rhaglen ddiwygiedig—i ben ar 10 Ionawr. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried yr ymatebion ar hyn o bryd, ac rwy’n siŵr y bydd Neil Hamilton mor falch ag Ysgrifennydd y Cabinet o glywed ein bod wedi derbyn nifer sylweddol o sylwadau—993—a daeth nifer fawr ohonynt gan ffermwyr.
Yn wir. Fodd bynnag, tybed a allem gael unrhyw syniad faint o amser y mae’n debygol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gymryd cyn y gall gyhoeddi’r cynigion a allai fod gan y Llywodraeth. Byddai’n ddefnyddiol cael rhywfaint o syniad ymlaen llaw ynglŷn â nifer o bethau cymharol annadleuol. Er enghraifft, mae llawer o ffermwyr yn bryderus y dylai unrhyw drefn brofi a fydd yn deillio o hyn fod yn ymarferol ac ystyried ffeithiau bywyd bod yn ffermwr da byw. Byddai cynnal profion ar adegau anghyfleus, megis yn ystod y cynhaeaf neu pan fo gwartheg yn lloia, yn anodd dros ben. Hefyd, mater arall y dylid ei gofio yw bod rhaglen resymoli sir, plwyf a daliad yn mynd rhagddi ar hyn o bryd, ac mae llawer o ffermwyr yn pryderu y bydd hyn yn cymhlethu sefyllfa sydd eisoes yn gymhleth iawn, os nad yw penderfyniadau Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried hynny.
Gwneir datganiad ar y rhaglen ddiwygiedig i ddileu TB ddechrau mis Mai, ond credaf hefyd ei bod yn bwysig ac yn berthnasol nodi bod achosion newydd o TB buchol yng Nghymru ar y lefelau isaf ers 10 mlynedd. Mae cynnydd wedi’i wneud, gan nad oes TB bellach mewn dros 95 y cant o fuchesi Cymru.
Efallai nad yw hyn yn gysylltiedig â’r ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond a gaf fi dynnu sylw at broblem gyda’r drefn brofi fel y mae ar hyn o bryd? Mae trefn atebolrwydd gaeth iawn ynghlwm wrth y broses o brofi gwartheg. Os nad ydych yn profi o fewn y cyfnod o 60 diwrnod, cewch ddirwy awtomatig, i bob pwrpas. Ond yn aml iawn, rydym yn gweld achosion—efallai fod arweinydd y tŷ wedi cael llythyrau ynglŷn ag achosion tebyg yn ei hetholaeth—lle y bu’n rhaid rhoi’r gorau i brawf gan fod gwartheg wedi cynhyrfu, neu droi’n ffyrnig hyd yn oed, a byddai parhau â’r profion wedi bod yn anniogel o ran iechyd a diogelwch. O dan yr amgylchiadau hynny, mae’n bosibl, neu’n debygol iawn yn wir, na ellir ailbrofi o fewn y cyfnod dynodedig a bydd y ffermwr felly’n cael cosbau awtomatig, er eu bod yn gosbau am rywbeth sydd y tu hwnt i’w reolaeth mewn gwirionedd. Felly, yr hyn rwy’n ei ofyn yw: a ellir darparu rhywfaint o hyblygrwydd yn y drefn brofi, fel na fydd ffermwyr yn cael eu cosbi neu fod y cosbau’n cael eu lliniaru os bydd digwyddiadau y tu hwnt i’w rheolaeth yn eu hatal rhag cydymffurfio?
Wel, mae’r rheolaethau a’r trefniadau profi yn rhan hanfodol o’r rhaglen i ddileu TB ac atal y clefyd rhag cael ei drosglwyddo, ond bellach, wrth gwrs, fel rhan o’r prosiect i ystyried y sefyllfa TB ar lefel fwy lleol, mae gennym epidemiolegydd TB penodedig a thîm o filfeddygon yn edrych ar y clefyd ledled y wlad ac yn gweithio ar y materion sy’n codi, wrth gwrs, o ran y rhai yr effeithir arnynt.
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, cytunodd y Cynulliad Cenedlaethol ddoe mai un ffordd y dylid ymateb i’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yw drwy gyflwyno Bil parhad Cymru er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi’r holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau Cymreig. Mae’n wir ein bod wedi pleidleisio 9-6, sy’n debycach i sgôr rygbi na phleidlais y Cynulliad, ond serch hynny roedd yn fwyafrif. Beth yw barn y Llywodraeth bellach ar y cynnig hwn, ac a yw’r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd ymgorffori cyfraith amgylcheddol yr UE, yn enwedig, yng nghyfraith Cymru er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a’r economi yn ogystal â’r amgylchedd?
Wel, rwy’n falch o gael y cyfle i ddilyn ymlaen o’r ddadl honno, Simon Thomas, ac i ddweud ein bod wedi bod yn gwbl glir na fyddwn yn goddef i Whitehall fachu’r pwerau hynny, a’i bod yn annerbyniol i Lywodraeth y DU gymryd pwerau sy’n cael eu harfer gan yr UE ar hyn o bryd yn y meysydd datganoledig. Wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig i’r pwynt a wnaethoch ynglŷn ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad ac edrychaf ymlaen at weld cynigion cadarn iawn gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hynny’n digwydd. Yn benodol, rwy’n awyddus i ni beidio â dibynnu ar Lywodraeth y DU i gynrychioli ein buddiannau yma yng Nghymru, a chan ystyried llygredd aer yn benodol fel maes, rydym eisoes yn clywed am fesurau eithafol—byddai rhai’n eu galw’n ‘fesurau eithafol’ ac eraill yn eu galw’n ‘fesurau angenrheidiol’—ar gyfer mynd i’r afael â llygredd aer. Mae Sadiq Khan, Maer Llundain, yn cyflwyno cyfradd uwch o dâl atal tagfeydd ar gyfer cerbydau llygredd uchel; mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu cynllun sgrapio i sicrhau nad yw perchnogion ceir diesel yn dioddef o ganlyniad i gamgymeriad y Llywodraeth Lafur flaenorol yn hyrwyddo ceir diesel, i ddatgan buddiant. Felly, pa fewnbwn sydd gan Lywodraeth Cymru yn awr i sicrhau bod buddiannau pobl Cymru yn cael eu cynrychioli mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd a chyfiawnder cymdeithasol yng nghynigion Llywodraeth y DU ar gynllun llygredd ar gyfer y DU gyfan, gan gofio bod llygredd aer yn arwain at 6,000 o farwolaethau cyn pryd yng Nghymru bob blwyddyn?
Rydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i wella ansawdd aer ledled Cymru. Rydym yn cynorthwyo, ac yn darparu canllawiau i helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau, yn enwedig o ran adolygu ansawdd aer lleol, gydag asesiadau a monitro rheolaidd. Ond fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghymru ar sut y gellir gwella ansawdd aer a rheolaeth sŵn yn lleol, ac yn wir, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig mewn ymateb i hynny ar 30 Mawrth. Mae’n rhaid bwrw ymlaen â’n camau nesaf a chyhoeddi canllawiau statudol newydd i awdurdodau lleol, canllawiau newydd i fyrddau iechyd lleol, a lansio, erbyn 24 Ebrill—ac mae hyn yn bwysig i’ch cwestiwn—ymgynghoriad ar y cyd â gweinyddiaethau eraill y DU ar gynllun ansawdd aer newydd i gydymffurfio â therfynau nitrogen deuocsid yr UE ar gyfer Cymru a gweddill y DU o fewn yr amser byrraf posibl.
Diolch am gyfeirio at yr ymgynghoriad hwnnw, sydd i fod i ddechrau ar 24 Ebrill. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd hynny’n gweithio rhwng y gwahanol weinyddiaethau datganoledig. Fodd bynnag, gan ein bod yn sôn am allyriadau nitrogen ocsid, gwelwyd bod un llygrwr mawr iawn yma yng Nghymru—gosaf bŵer Aberddawan—eisoes yn tramgwyddo cyfraith yr UE gan allyrru dwbl yr ocsidau nitrogen gwenwynig a ganiateir rhwng 2008 a 2011. Rydym yn dal i aros am raglen i nodi sut y bydd allyriadau’n cael eu lleihau yn Aberddawan, a chyfrifoldeb yr awdurdod trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, yw hynny.
Ar 8 Mawrth, cefais ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gwestiynau am Aberddawan, a ddywedai ei bod yn disgwyl cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru ar 15 Mawrth i drafod a fu cynnig priodol gan berchnogion Aberddawan i nodi sut y byddant yn lleihau’r allyriadau yn yr orsaf bŵer honno. Dywedodd hefyd y byddai’n fwy na pharod i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl y cyfarfod hwnnw. Rwy’n sylweddoli wrth gwrs nad yw’n gallu bod yma heddiw, ond a ydych chi, wrth ddirprwyo dros Ysgrifennydd y Cabinet, mewn sefyllfa ar hyn o bryd i roi gwybod i ni a’r cyhoedd yng Nghymru a oes rhaglen ar waith i leihau’r allyriadau niweidiol hyn yng ngorsaf bŵer Aberddawan?
Rwy’n falch o allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ran Ysgrifennydd y Cabinet fod Cyfoeth Naturiol Cymru, ar 1 Ebrill, wedi cwblhau’r ymarfer i addasu trwydded amgylcheddol Aberddawan, ac wedi rhoi trwydded amgylcheddol newydd i Aberddawan. Mae’r drwydded newydd hon yn cynnwys terfyn is ar gyfer allyriadau nitrogen ocsid, yn unol â dyfarniad Llys Cyfiawnder yr UE. Mae’n rhaid i Aberddawan gydymffurfio yn awr â’r terfyn allyriadau nitrogen ocsid newydd. Bydd swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa. Mae unrhyw newidiadau i gyflenwadau glo a threfn weithredu Aberddawan, wrth gwrs, yn faterion masnachol ar gyfer RWE.