1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 7 Mehefin 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod Theresa May wedi perfformio mân wyrth yn ystod yr ymgyrch etholiadol hon drwy wneud i Jeremy Corbyn edrych yn hanner etholadwy. Os yw’n llwyddo yfory ac os bydd Llafur yn cael eu hethol ar eu platfform o gynyddu’r dreth gorfforaeth o 19 y cant fel y mae ar hyn o bryd i 26 y cant, mae hynny’n siŵr o gael effaith economaidd andwyol yng Nghymru. A yw wedi gwneud unrhyw asesiad o’r effaith ar hyder busnesau, ar fuddsoddiad busnesau, ac yn wir, ar gyflogau o ganlyniad i gynnydd mor sylweddol yn y dreth gorfforaeth?
Wel, byddwn yn cytuno ag ef i’r graddau fod ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr i’w gweld i mi fel yr ymgyrch a arweiniwyd waethaf ers cyrch y frigâd ysgafn, a gobeithiwn weld canlyniadau hynny yfory. Credaf ei fod yn gwbl anghywir i geisio awgrymu cysylltiad uniongyrchol rhwng cynnydd mewn ffurfiau penodol ar drethiant a’u heffaith yma yng Nghymru. Rwy’n hyderus y byddai Llywodraeth Lafur a etholwyd ar draws y Deyrnas Unedig, a fyddai’n benderfynol o greu’r amodau ar gyfer llwyddiant economaidd, a fyddai’n benderfynol o fuddsoddi yn yr amodau a fydd yn arwain at dwf economaidd a thwf economaidd teg wedi’i rannu gan bawb, o fudd i bobl ledled Cymru.
Ni allaf gredu bod yr Ysgrifennydd cyllid yn credu o ddifrif na fyddai cynnydd mor syfrdanol yn y dreth gorfforaeth yn cael unrhyw effaith ar hyder busnesau, buddsoddiad busnesau, ac yn wir, ar allu cwmnïau i dalu cyflogau, ac felly mae’n rhaid mai’r awgrym yw mai pobl gyffredin yn y pen draw sy’n teimlo gwir gost codiadau o’r fath mewn trethi busnes, drwy gyfyngiadau ar godiadau cyflog, neu’n wir, drwy ostwng cyflogau, ac yn wir, drwy ddiweithdra. Yn 2009, cyhoeddodd yr Oxford University Centre for Business Taxation astudiaeth economaidd bwysig a ddaeth i’r casgliad y byddai cynnydd o £100 yn y dreth gorfforaeth yn torri £75 oddi ar gyflogau drwy gyfuniad o gyflogau is a llai o swyddi. A yw’n credu o ddifrif fod hynny er budd pobl sy’n gweithio?
Wythnos ar ôl wythnos yma yn y Cynulliad, Llywydd, clywn yr Aelod yn cynnig ei fersiwn ef o economeg cyflenwi. Mae’n gaeth i gromlin Laffer y cyfeiriodd ati’n anuniongyrchol yn y fan honno. Ni allaf gofio pa economegydd—efallai mai J.K. Galbraith a ddywedodd mai gwir rym esboniadol cromlin Laffer oedd y gallech ei disgrifio i gyngreswr mewn chwe munud, a gallech barhau i’w hailadrodd am chwe mis, ac rydym wedi ei chlywed yn cael ei hailadrodd yma ers misoedd bwy’i gilydd. [Torri ar draws.] Ie, blynyddoedd bellach, bron â bod. Rwy’n gwrthod derbyn dull economeg cyflenwi sylfaenol yr Aelod. Mae’n credu bod toriadau treth yn arwain at dwf economaidd a bod codi trethi yn arwain at ddirywiad economaidd. Nid wyf yn credu bod hynny’n cael ei gadarnhau gan y dystiolaeth empirig pan roddwyd y pethau hyn ar waith.
Mae cryn dipyn o dystiolaeth empirig sy’n profi gwrthwyneb yr hyn y mae’r Ysgrifennydd cyllid yn ei honni. Nid cyfeirio at fy astudiaeth i a wneuthum funud yn ôl; roedd honno’n astudiaeth academaidd a gyflawnwyd yn hollol annibynnol gan yr Oxford University Centre for Business Taxation. Os ydych yn codi trethi, rhaid ei bod yn amlwg fod hynny’n cael rhywfaint o effaith economaidd, boed drwy ostyngiadau neu godiadau. Ac o ystyried bod trethi busnes yn lleihau faint o arian sydd ar gael i gwmnïau ei fuddsoddi, ac yn wir, i’w ddosbarthu i gyfranddalwyr ac i weithwyr ar ffurf cyflogau, mae’n anochel y byddai sgil-effeithiau sylweddol o ganlyniad i gynnydd mor ddramatig mewn trethi ag y mae’r Blaid Lafur yn ei argymell. Yn yr amgylchiadau hynny, mae’n sicr o gael effaith ar Gymru yn benodol. A chan mai 75 y cant yn unig o werth ychwanegol gros cyfartalog y Deyrnas Unedig sydd gennym yng Nghymru—ni yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig—y bobl dlotaf yn rhan dlotaf y Deyrnas Unedig sy’n mynd i ddioddef fwyaf o ganlyniad i Lywodraeth Lafur.
Llywydd, aeth Bill Clinton ati i godi trethi. Cododd y dreth ac aeth y ddyled gyhoeddus yn llai. Aeth ei olynydd, George W. Bush, ati i dorri trethi. Casglwyd llai o drethi, a gadawodd ei swydd gyda dyled gyhoeddus o 101 y cant o’r lefel a adawodd Clinton iddo ym mlwyddyn olaf ei arlywyddiaeth. Mae’n hollol anghywir awgrymu, fel y gwna’r Aelod dro ar ôl tro, mai i un cyfeiriad yn unig y gall economïau symud, a byddai ei gyfarwyddyd ef, sef torri trethi, yn rhoi arian i bobl gyfoethog, ac yn mynd ag ef oddi wrth bobl a fyddai fel arall yn ei wario ac yn creu gweithgarwch economaidd, yn niweidiol iawn i’r ffordd rydym yn gwneud busnes yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Roeddwn yn meddwl tybed a gaem ddychwelyd at dranc fformiwla Barnett, y gorliwiwyd y sibrydion yn ei gylch, o bosibl. Clywsom yn gynharach yn yr wythnos gan Brif Weinidog Cymru ei bod yn mynd i gael ei diddymu. Mae Kezia Dugdale, arweinydd Plaid Lafur yr Alban, fel y gwyddom, wedi’i chofnodi’n dweud,
Byddaf yn cadw fformiwla Barnett heddiw, yfory ac am byth, sy’n swnio’n eithaf pendant i mi. Nawr, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi siarad â Kezia Dugdale. Wel, ar ambell achlysur prin, fe fydd yn siarad gyda mi hyd yn oed, ond nid yw hynny’n golygu ein bod o reidrwydd yn cytuno. Felly, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddefnyddio’i drylwyredd pwyllog arferol wrth ateb y cwestiwn hwn, a dweud wrthym beth a olygir wrth y diwygio hirdymor o ran y modd y mae’r DU yn dyrannu gwariant cyhoeddus a nodir ym maniffesto’r Blaid Lafur? A yw o reidrwydd yn golygu cael gwared ar fformiwla Barnett a chael rhywbeth arall yn ei lle? Beth yw’r amserlen ar gyfer y diwygio hwnnw, a phryd y byddai’r effeithiau’n dechrau dod i’r amlwg yma yng Nghymru, pe bai Llywodraeth San Steffan yn newid?
Llywydd, gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe. Credwn ei fod wedi nodi ei safbwynt yn glir iawn y bydd fformiwla Barnett yn parhau yn y tymor byr, a’r tymor canolig yn ôl pob tebyg, wrth edrych am rywbeth yn ei lle. Fformiwla ariannu deg ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan fydd yr ateb hwnnw, gydag angen cymharol yn ganolog iddo.
Gadewch inni ystyried y tymor byr i’r tymor canolig, felly. Yn ddiweddar, ym mis Ionawr eleni, llofnododd Llywodraeth Cymru fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth San Steffan. Ai bwriad Llywodraeth Cymru, pe bai Llywodraeth San Steffan yn newid, yw ailedrych ar y cytundeb hwnnw ac aildrafod rhai agweddau arno—er enghraifft, y risg refeniw’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n elfen ohono, y cyfyngiad ar fenthyca ar hyn o bryd a’r ffaith, wrth gwrs, fod oes yr asesiad o anghenion gyda’r fframwaith cyllidol hwnnw eisoes wedi darfod? Felly, a allem gael ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai’r fframwaith cyllidol yn cael ei aildrafod ar unwaith pe bai’r hinsawdd wleidyddol yn San Steffan yn newid?
Llywydd, mae’r fframwaith cyllidol eisoes yn caniatáu iddo gael ei ailystyried. Mae mecanwaith ynddo sy’n caniatáu i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei gwneud yn ofynnol i ailystyried ei delerau. Bydd Llywodraeth newydd yn San Steffan yn newid llawer o bethau yn y berthynas rhyngom ni a’r Llywodraeth a fydd yn cael ei ffurfio yno. Os bydd Llywodraeth Lafur yn cael ei ffurfio yfory, fel y gobeithiwn, bydd y fframwaith cyllidol hwnnw’n rhan o’r berthynas newydd honno.
O ran y cwestiwn ehangach ynglŷn â fformiwla Barnett, a gaf fi holi Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â rhywbeth rhyfedd iawn, yn fy marn i, ym maniffesto’r Blaid Lafur? Mae’n nodi’r broses o greu banc buddsoddi cenedlaethol—rwy’n cefnogi’r egwyddor honno’n llwyr—banc buddsoddi cenedlaethol gyda £250 biliwn o fuddsoddiad, gyda £10 biliwn ohono’n cael ei ddosrannu i Gymru a’r banc datblygu sy’n cael ei greu yma. Nawr, yn ôl fy nghyfrif i, mae hynny’n cyfateb i oddeutu 4 y cant o’r cyfanswm ar gyfer y banc buddsoddi cenedlaethol, hynny yw, nid yw Cymru hyd yn oed yn cael ei chyfran yn ôl y boblogaeth, heb sôn am swm canlyniadol Barnett, i bob pwrpas, o’r buddsoddiad hwnnw. Ac eto, dywedir wrthym mai dyma’r offeryn a fydd yn lleihau’r gwahaniaeth mewn ffyniant ledled y DU.
Yn olaf, hefyd, tan 2019-20 yn unig y mae’r ymrwymiad ar gyfer y cronfeydd strwythurol yn para. Nid oes ymrwymiad, mewn gwirionedd, y tu hwnt i hynny, i greu cronfa cydlyniant hirdymor fel rhan o bolisi economaidd rhanbarthol ehangach. Ar y ddau bwynt hwn, pam fod maniffesto’r Blaid Lafur mor hynod o wan mewn gwirionedd wrth nodi dulliau go iawn a all ddechrau ar y gwaith o leihau’r gwahaniaeth mewn cyfoeth a welwn ledled y DU?
Wel, roeddwn yn falch o glywed yr Aelod yn croesawu’r camau a nodwyd ym maniffesto’r Blaid Lafur i sicrhau y bydd buddsoddi mawr yn y math o seilwaith a fydd mor bwysig i economi’r DU ac i economi Cymru. Mae ein maniffesto’n ei gwneud yn glir y bydd cyfran uniongyrchol i Gymru yn y buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth Lafur newydd, a gallaf ddweud wrtho, o ran parhad y cronfeydd cydlyniant, fod fy mhlaid wedi ymrwymo i’r egwyddor fod y buddsoddiad y mae Cymru wedi llwyddo i’w sicrhau gan yr Undeb Ewropeaidd, yn seiliedig ar ein hanghenion cymharol, yn parhau i fod ar gael i Gymru wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, ni chynigodd Llywodraeth Cymru y cynnig i gytuno’r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)—y tro cyntaf, rwy’n credu, i hyn ddigwydd, er bod problemau wedi bod gyda chostio deddfwriaeth yn flaenorol. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a ydych yn pryderu ei bod yn ymddangos bod y costau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth a gyflwynir gan y Llywodraeth yn aml iawn—ar y gorau—yn niwlog, neu fel ddoe, yn gwbl gamarweiniol?
Cadeirydd, gwelais y llythyr a anfonodd Alun Davies at holl Aelodau’r Cynulliad yn esbonio pam nad oedd am gynnig y penderfyniad ariannol ddoe ac yn rhoi ymrwymiad cadarn iawn i gynnig penderfyniad o’r fath ym mis Medi, pan fydd yr Aelodau wedi cael asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i ddiweddaru. Bydd hwnnw’n rhoi’r ffigurau i’r Aelodau a gobeithiaf y byddant yn rhoi’r hyder iddynt gefnogi’r penderfyniad ariannol hwnnw.
Byddwn yn ymateb i’r pwynt cyffredinol a wnaeth Nick Ramsay drwy ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn fod cynigion Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno gydag asesiad effaith rheoleiddiol mor ddibynadwy â phosibl. Ceir amgylchiadau lle mae’n rhaid gwneud rhagdybiaethau, a lle mae’n rhaid i chi allu sicrhau’r ddarpariaeth orau o wybodaeth ag y gallwch o dan yr amgylchiadau, ond cyfrifoldeb y Gweinidogion sy’n cyflwyno’r deddfau hyn yw gwneud yn siŵr ein bod wedi gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y wybodaeth mor ddibynadwy ag y gall fod, a bod hynny wedyn yn cael ei brofi gan yr Aelodau yma. Gwn fod y Pwyllgor Cyllid yn gwneud gwaith sy’n edrych ar yr agwedd hon ar y ffordd y mae’r system yn gweithio yma yn y Cynulliad. Edrychaf ymlaen at roi tystiolaeth i’r ymchwiliad hwnnw, ac rwy’n siŵr y bydd yn cynnwys pethau y gallwn eu dysgu ac a fydd o gymorth i ni gryfhau’r system er mwyn darparu’r math o sicrwydd roedd Nick Ramsay yn edrych amdano.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n cytuno’n llwyr â’r penderfyniad ddoe i oedi neu ohirio cytundeb ariannol y Cynulliad hwn i’r Bil hwnnw. Wrth ofyn y cwestiwn heddiw, nid wyf mewn unrhyw ffordd yn eich beio am rai o’r problemau a gawsom gyda chostio’r ddeddfwriaeth; nid wyf ond yn gofyn i chi am fod gennych, yn eich rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, safbwynt cyffredinol ar y ffordd y mae’r sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn ariannol. Felly, dyna’r rheswm drosto.
Fe sonioch am y Pwyllgor Cyllid. Fe’i hystyriwyd gennym y bore yma, ac fel Aelod o’r Pwyllgor Cyllid a fu’n ystyried asesiad effaith rheoleiddiol y Bil yn y lle cyntaf, rwy’n rhannu pryderon y Cadeirydd na rannwyd newidiadau mawr i’r asesiad hwnnw gyda ni tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer adroddiad Cam 1. Daeth i’r amlwg y bydd y Bil yn costio £8.3 miliwn dros y cyfnod gweithredu o bedair blynedd, yn hytrach nag arbed £4.8 miliwn. Felly, rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â bod hon yn gelfyddyd lawn cymaint ag y mae’n wyddor o ran darogan costau, ac ni allwch fod yn iawn bob amser, ond yn yr achos penodol hwn gyda’r Bil hwnnw y buom yn ei drafod ddoe, rydym edrych ar wahaniaeth o dros £13 miliwn—£13.1 miliwn—rhwng y rhagfynegiad a’r hyn y gallwn ddisgwyl i’r gost fod bellach. Felly, nid manylion bychain a arweiniodd at dynnu’r cynnig yn ôl ddoe. A gaf fi ofyn i chi: pa fewnbwn sydd gennych i sicrhau bod data ariannol cywir yn cael ei ddarparu mewn modd amserol ar gyfer deddfwriaeth newydd fel nad yw’r mathau hyn o wallau’n digwydd yn y dyfodol?
Wel, Cadeirydd, y ffordd y mae’r system yn gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol yw bod pob Gweinidog yn uniongyrchol gyfrifol am gynhyrchu’r memoranda esboniadol a’r asesiadau effaith rheoleiddiol a ddaw gyda hwy. Ceir darn o waith a wneir o’r canol, drwy swyddfa’r prif economegydd, i sicrhau bod y fethodoleg a ddefnyddir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn addas at y diben. Mae’r ffigurau penodol a ddefnyddir wedyn yn y fethodoleg honno yn gyfrifoldeb i’r Ysgrifennydd Cabinet unigol. Roedd y llythyr a dderbyniodd yr Aelodau ddoe gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil hwnnw yn esbonio pam y bu’n rhaid ailedrych ar y ffigurau a ragfynegwyd yn wreiddiol. Credaf, fel y dywedodd Nick Ramsay, mai dyma’r tro cyntaf i benderfyniad ariannol gael ei ohirio yn y modd hwn. Er fy mod yn sicr y byddai’n well gan yr Aelod sy’n gyfrifol fod wedi gallu cynnig y penderfyniad ariannol ddoe, mae’r ffaith fod ganddo gynllun i’w gyflwyno ym mis Medi yn dangos bod y rhwystrau a’r gwrthbwysau yn ein system wedi llwyddo i nodi’r angen am ragor o waith ar hynny.
Diolch. Rwy’n llwyr werthfawrogi mai cyfrifoldeb yr Aelod sy’n gyfrifol ydyw yn y lle cyntaf, ond mae gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gyfrifoldeb cyffredinol am gadernid ariannol Llywodraeth Cymru—nid yw’n dasg hawdd, rwy’n cydnabod hynny. Ac rwy’n derbyn bod y broses gyfan gyda’r asesiadau effaith rheoleiddiol yn broses sy’n datblygu, ac rwy’n siŵr y bydd yr adolygiad a gyflawnir gan y Pwyllgor Cyllid o dan stiwardiaeth y Cadeirydd yn darparu rhai argymhellion cryf ar eich cyfer yn hynny o beth.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwyddom fod y Cynulliad hwn yn pasio mwy a mwy o ddeddfau, ac y bydd hynny’n cynyddu eto yn y dyfodol. Yn anochel, bydd y pwysau ar y swyddogion sy’n darparu’r data ariannol a’r asesiadau effaith rheoleiddiol hefyd yn cynyddu’n barhaol, felly mae’n bwysig inni sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Mae’r broses hon yn dibynnu ar gostio cywir a thryloywder. A wnewch chi gytuno i weithio’n agosach fyth gyda’r adrannau a’r Aelodau sy’n gyfrifol, gan weithio ar ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau bod y costau’n gywir ac y gallwn ni fel Aelodau’r Cynulliad, ac yn wir, y cyhoedd yn y pen draw, fod yn hyderus ein bod—pob un ohonom, yn enwedig Llywodraeth Cymru a chi—yn cadw llygad barcud ar gyllid wrth i’r ddeddfwriaeth gael ei datblygu, er mwyn i gyllid cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei phasio gan y lle hwn allu bod mor gadarn â phosibl?
Llywydd, a gaf fi ei gwneud yn glir fy mod yn cytuno â neges ganolog y cwestiynau a ofynnwyd gan Nick Ramsay y prynhawn yma? Mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb pwysig, wrth gyflwyno deddfwriaeth, i sicrhau bod y costau cysylltiedig yn cael eu cyfrifo mor drwyadl ac mor ddibynadwy ag y gallwn. Mae’r system sydd gennym yn system sy’n aeddfedu. Wrth iddi aeddfedu, dylem allu gwneud hyn yn well. Credaf y bydd ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid yn gyfraniad defnyddiol at y broses honno, ac mae’n uchelgais gennyf sicrhau fel y Gweinidog cyllid a fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet, fe wn, pan fyddwn yn cyflwyno’r cynigion ar lawr y Cynulliad, eu bod yn seiliedig ar gymaint o ddadansoddiadau a data cadarn ag y gallant fod.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ(5)0137(FLG)] yn ôl.