6. 5. Datganiad: Ymgynghoriad ar Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:21, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 ar ein hagenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ymgynghoriad addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Rwy'n galw ar Kirsty Williams i gyflwyno'r datganiad.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:22, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, yn gynharach eleni gwnes i ddatganiad i'r Cynulliad yn cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn, yn ‘Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer adeiladu system addysg ôl-orfodol o'r radd flaenaf i Gymru’. Gwnaeth yr adroddiad hwnnw argymhellion pwysig ar gyfer diwygio'r system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol—o hyn ymlaen byddaf yn ei alw'n PCET—yng Nghymru. Y ddau argymhelliad cynradd, y mae Llywodraeth Cymru wedi eu derbyn, oedd y dylem ni ddatblygu gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y system PCET ac y dylid cael corff hyd braich newydd i fod yr unig awdurdod rheoleiddio, cyllido a goruchwylio ar gyfer y system ôl-orfodol.

Roeddwn i’n falch iawn o’r gefnogaeth drawsbleidiol a gafwyd ym mis Ionawr i’r cyfeiriad teithio a nodwyd yn adroddiad yr Athro Hazelkorn, ac rwyf heddiw’n falch o gyhoeddi ‘Public Good and a Prosperous Wales’, ein Papur Gwyn, sy'n nodi ein cynigion ar gyfer diwygio'r system PCET, sy'n cynnwys addysg bellach ac addysg uwch, ymchwil ac arloesedd, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned, ac sy'n ceisio barn rhanddeiliaid ar y ffordd ymlaen.

Wrth wraidd y Papur Gwyn mae ein cynigion ar gyfer corff newydd—comisiwn Cymru ar gyfer addysg trydyddol ac ymchwil—a fyddai'n disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn darparu goruchwyliaeth, cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth ar gyfer y sector PCET cyfan. Mae'r model hwn yn tynnu ar arfer gorau o systemau trydyddol ac economïau llwyddiannus o bob rhan o’r byd. Rydym ni’n cynnig yn y Papur Gwyn y byddai swyddogaethau'r comisiwn yn cynnwys: cynllunio strategol ar gyfer y ddarpariaeth o addysg a sgiliau ar draws PCET; cyllido; asesu a gwella ansawdd; rheoli perfformiad a risg ledled y system; goruchwylio a chydgysylltu gwariant ymchwil ac arloesedd Llywodraeth Cymru; a darparu newid sylweddol yn y data sydd ar gael, gan gynnwys mesur cynnydd addysgol, amcanion a deilliannau ar gyfer dysgwyr.

Un pwyslais allweddol i’r comisiwn fyddai gwarchod buddiannau dysgwyr, gan sicrhau bod llwybrau galwedigaethol ac academaidd yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal, a helpu i gyflwyno sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn economi sy'n gynyddol gystadleuol. Drwy ei weithgareddau cynllunio a chyllido strategol, byddai'r comisiwn hefyd yn gyfrifol am gyfochri PCET yn agosach ag anghenion cyflogwyr, gan helpu i adeiladu economi gryfach yn y dyfodol.

Rydym ni’n nodi yn y Papur Gwyn dri model posibl ar gyfer rheoli'r cysylltiad rhwng y comisiwn a darparwyr addysg a hyfforddiant, yn seiliedig ar yr egwyddor graidd o gofrestru. Y tri model yw: (1) model cofrestru darparwr; (2) model cytuno ar ddeilliannau; a (3) model compactau rhanbarthol. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau ar bob un o'r rhain.

Mae ymchwil ac arloesedd yn hanfodol i lwyddiant ein prifysgolion a'n heconomi yn y dyfodol. Byddai'r comisiwn yn gyfrifol am gydgysylltu ymchwil ac ariannu capasiti ar gyfer ymchwil ôl-raddedig mewn ffordd fwy strategol a deinamig. Cynigir y byddai pwyllgor statudol y comisiwn, a elwid yn 'ymchwil ac arloesedd yng Nghymru’, yn arwain ar hyn. Byddai hyn yn diogelu a hyrwyddo buddiannau Cymru yng nghyd-destun newidiadau Llywodraeth y DU, sy'n debygol, yn fy marn i, o gymylu'r gwahaniaeth rhwng buddiannau y DU a rhai Lloegr.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnig dull a 'wnaed yng Nghymru' ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol fel ei bod yn haws i bobl ddysgu a chaffael sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd. Mae ein bywydau a'n heconomi yn mynd drwy newid technolegol enfawr—cyfeiriwyd at hynny'n gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen mewn gweithle sydd wedi’i weddnewid yn golygu nad oes lle i gyffredinedd erbyn hyn. Nid yw gwneud dim neu gynnal y status quo, yn fy marn i, yn ddewis sydd ar gael i ni.

Mae hefyd angen i ni annog a chefnogi y gwaith ymchwil ac arloesedd cynyddol a wneir mewn cwmnïau a sefydliadau eraill. Mae angen i ni adeiladu ar ein cryfderau— ac mae gennym gryfderau—ond eu cyfochri ag anghenion a dyheadau busnesau a'r gymuned ehangach pan fo hynny'n bosibl ac yn briodol. Drwy wneud hynny, rydym ni’n gobeithio denu rhagor o arian ymchwil o fuddsoddiadau yn y DU dros y pum mlynedd nesaf. Bydd mynd i'r cyfeiriad hwn yn gynyddol bwysig os ydym ni am reoli'r broses o adael yr UE gyda chyn lleied â phosibl o darfu ar ein sylfaen ymchwil a gwyddoniaeth. Y comisiwn newydd fyddai’n gyfrifol am oruchwylio’r newidiadau hyn a datblygu gweithgareddau ymchwil, arloesedd, a menter mewn prifysgolion, colegau a gyda darparwyr eraill.

Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o'r cynnydd a wnaed o ran ymgorffori cynrychiolaeth myfyrwyr i strwythurau llywodraethu sefydliadau yng Nghymru. Ond mae mwy i'w wneud eto. Byddwn yn disgwyl gweld cyfranogiad myfyrwyr, yn y comisiwn ac mewn sefydliadau unigol, yn cael eu hymestyn ymhellach yn ein system newydd. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn nodi'r cyfleoedd a'r heriau o gynnwys y chweched dosbarth o fewn cylch gorchwyl y comisiwn newydd. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd y gallai'r comisiwn gael ei sefydlu heb y chweched dosbarth yn ei gylch gwaith i ddechrau ac y gallai deddfwriaeth ganiatáu iddynt gael eu dwyn o fewn ei gwmpas yn ddiweddarach. Mae'r papur yn gofyn am safbwyntiau ar yr ymagwedd hon a sefyllfa ehangach y chweched dosbarth.

Rwy'n credu y bydd y cynigion yn y Papur Gwyn yn ein galluogi i godi safonau, cefnogi dysgwyr yng Nghymru i gyflawni eu potensial llawn, ni waeth beth yw eu cefndir a'u hamgylchiadau, ac yn gwneud ein system PCET un o'r goreuon yn y byd. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod y bydd yn cymryd amser i weithredu'r newidiadau hyn. Bydd yr ymgynghori ffurfiol yn para tan ddiwedd mis Hydref. Dilynir hyn gan ymgynghoriad technegol manylach tuag at ddiwedd y flwyddyn. A bydd diwygio deddfwriaethol hefyd yn ofynnol ar gyfer y newidiadau pellgyrhaeddol hyn. Yn ystod y cyfnod pontio, bydd Llywodraeth Cymru yn chwilio am aelodau newydd ar gyfer bwrdd CCAUC, sydd â phrofiad o ystod ehangach o feysydd, gan gynnwys busnes, er mwyn helpu i arwain a chefnogi'r symudiad i system newydd.

Dirprwy Lywydd, rwy’n cydnabod bod angen gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid er mwyn sicrhau y bydd y diwygiadau uchelgeisiol hyn yn llwyddiannus. Felly, os ydych chi’n ddysgwr neu, yn wir, yn ddarpar ddysgwr, yn weithiwr proffesiynol ym maes addysg neu hyfforddiant, yn ddarparwr addysg, yn ymchwilydd, neu’n berson busnes sydd â barn gref am sgiliau eich gweithlu, yna rydym ni eisiau clywed gennych. Rydym ni angen eich syniadau am y ffordd orau o sicrhau y gall y system weithio'n dda, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru yr hydref hwn. Byddaf hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar wahân ar gyfer pobl ifanc. Rwy’n gobeithio y gallaf ddibynnu ar Aelodau o bob plaid yn y Cynulliad i annog ymgysylltiad yn yr ymarferion ymgynghori hyn, fel y gallwn ni gael y syniadau gorau i’w defnyddio ar gyfer datblygu system PCET a fydd yn diwallu anghenion dysgwyr, cymunedau a busnesau Cymru am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:29, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac am y ffordd y mae hi wedi ymrwymo i roi briffiau i Aelodau o'r gwrthbleidiau ar ei chynlluniau. Rwy’n falch iawn o weld bod argymhellion yr Athro Hazelkorn wedi cael eu cefnogi a'u derbyn, ac fel yr ydym ni wedi'i wneud yn y gorffennol, rwy’n credu ei fod yn bwysig ein bod ni’n symud fel cenedl gyda'n gilydd ar y mater hwn oherwydd bod angen i ni ei gael yn gwbl iawn. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod i’n credu'n gryf mai addysg sy’n gosod y seiliau i’r ffordd y bydd Cymru yn ymateb i heriau newydd yn y dyfodol, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni hefyd yn cydnabod bod addysg yn daith gydol oes ac y bydd gyrfaoedd a dyheadau personol pobl yn newid, o bosibl, dros amser, gyda phobl yn symud o un yrfa i'r llall, ac mae addysg yn gwbl allweddol o ran helpu i wneud hynny ddigwydd.

Mae gennyf i ychydig o gwestiynau, yn amlwg, ar y datganiad y mae hi wedi’i wneud y prynhawn yma. Yn gyntaf oll, o ran swyddogaethau’r comisiwn, rwy'n falch iawn o weld rhywfaint o eglurder ynglŷn â’r swyddogaethau yr ydych chi eisiau i'r comisiwn eu cyflawni, ond rwy’n sylwi bod un o'r swyddogaethau hynny yn cynnwys asesu a gwella ansawdd. Rwy’n meddwl tybed i ba raddau y gallai rhai o'r swyddogaethau hyn fod yn gorgyffwrdd â rhai o swyddogaethau'r cyrff statudol eraill sydd eisoes gennym ni yng Nghymru. Felly, o ran ansawdd yr addysg, wrth gwrs, mae gennym ni Gymwysterau Cymru, mae gennym ni sefydliadau fel Estyn a fydd hefyd â rhyw swyddogaeth i'w chyflawni, yn enwedig mewn sefydliadau addysg bellach. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni wedi cael eglurder ar hyn, wrth symud ymlaen, fel nad oes gennym ormod o fysedd yn y brywes, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn ystyried ein system addysg—ein system addysg ôl-orfodol.

Nodaf hefyd fod y comisiwn yn mynd i gael y cyfrifoldeb hwn o ran buddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd, ac rwy’n meddwl ei bod yn iawn ei fod yn cyflawni’r swyddogaeth honno, oherwydd bod pob un ohonom yn gwybod bod llawer o resymau masnachol pam y dylai pobl fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd, ac weithiau mae ymchwil ac arloesedd a fydd angen buddsoddiad sy'n gorfod dod o'r sector cyhoeddus, neu y bydd angen i’r sector cyhoeddus gyfrannu ato. Felly, mae'n hollol iawn i’r comisiwn fod â’r swyddogaeth hon. Ond yn amlwg, yn enwedig gyda’r cyfleoedd masnachol hynny, bydd yn bwysig sicrhau bod gan bobl sydd ag arbenigedd masnachol a phrofiad digonol ran i’w chwarae yn y comisiwn newydd hwnnw, a nodaf eich bod wedi cyfeirio at yr angen i bobl fusnes, os mynnwch, gymryd rhan yn CCAUC yn y cyfamser, ond byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod beth fydd natur y bwrdd hwnnw—y comisiwn newydd hwn, a pha ymgysylltiad yr ydych chi’n disgwyl iddo ei gael gyda'r sector masnachol, yn enwedig o ran yr ymchwil a’r arloesedd hynny.

Rydych chi’n cyfeirio at y tri model arfaethedig a amlinellir yn y Papur Gwyn, ac rwy’n credu eu bod yn dri model diddorol: y model cofrestru a darparwr, y model cytuno ar ddeilliannau, a'r model compactau rhanbarthol. Ond ni welaf unrhyw reswm, mewn gwirionedd, pam mae angen iddyn nhw fod yn dri model ar wahân. Rwy’n credu, yn bersonol, y dylai fod elfennau o bob un o'r tri o fewn cylch gwaith y comisiwn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol, yn amlwg, i ddarparwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach a hyfforddwyr eraill fod wedi eu cofrestru gyda'r comisiwn newydd. Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol y dylai fod rhyw gytundeb ar ddeilliannau ynghlwm â’r buddsoddiad cyhoeddus y maen nhw’n ei dderbyn, ac y gellid eu dwyn i gyfrif ynglŷn â hynny. Ac rwy’n credu hefyd, yn enwedig o ran y sector Addysg Bellach, y dylai fod compactau rhanbarthol yn ymwneud a’r hyn yr ydych yn disgwyl iddyn nhw ei gyflawni ar lawr gwlad. Felly, nid wyf yn credu y dylai fod yn sefyllfa naill ai/neu o ran y dewisiadau hynny. Mewn gwirioned, rwy’n credu y dylid cynnwys elfennau o bob un o’r tri model, o ran sut y mae'r comisiwn yn gweithredu, wrth symud ymlaen. Byddwn yn gwerthfawrogi, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech ddweud wrthym a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chithau hefyd wedi ei ystyried, neu a ydych chi wedi ymrwymo i’r dull hwn o naill ai/neu a nodir yn y Papur Gwyn.

Nodais eich sylwadau o ran ymagwedd y DU tuag at ymchwil ac arloesedd hefyd. Mae’n ymddangos eich bod yn awgrymu y byddai model Lloegr yn cael ei orfodi, os mynnwch, ar weddill y DU, wrth symud ymlaen. Nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth y byddai hynny'n digwydd o gwbl, mewn gwirionedd, ac rwy’n credu ei fod yn gwbl briodol bod gennym weithiau fodelau y DU ar gyfer ymchwil ac arloesedd, fel y gallai ein prifysgolion yng Nghymru, sydd ag arbenigedd mewn pethau fel peirianneg a gwyddorau meddygol, godi i’r brig a derbyn buddsoddiad, mewn gwirionedd, ar lefel y DU gyfan. Felly, nid wyf yn siŵr pam yr ydych yn or-ofalus am hynny. Rwy'n credu ei bod yn briodol bod gennym rai mecanweithiau ar draws y DU o ran buddsoddi yn ein gwaith ymchwil, a byddwn i’n gwerthfawrogi pe gallech fy nghyfeirio at ryw dystiolaeth i gadarnhau'r pryderon sydd gennych ynglŷn â llais ymchwil Cymru, os mynnwch chi, yn cael ei foddi gan yr ymagwedd newydd hon a allai gael ei gweithredu ar lefel y DU.

Hefyd o ran llais y myfyrwyr, rwy'n falch iawn o’ch clywed yn cyfeirio at y ffaith fod yn rhaid gwrando ar lais myfyrwyr, ac yn amlwg, bu rhywfaint o gynnydd, o ran cynrychiolaeth myfyrwyr mewn strwythurau llywodraethu yn y blynyddoedd diweddar, ac rwy’n cydnabod hynny. Ond, rwy'n credu ei bod yn bwysig i nodi hefyd y ceir gwahanol leisiau o fewn sefydliadau cyrff y myfyrwyr sydd hefyd angen eu clywed. Mae llais dysgwyr sy'n oedolion a llais dysgwyr rhan-amser yn aml iawn yn cael eu boddi gan lais dysgwyr llawn amser. Tybed pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i ni y bydd yn rhaid i’r comisiwn newydd wrando ar leisiau amrywiol y gymuned myfyrwyr, fel y gellir cael pethau'n iawn ar gyfer pob dysgwr, nid dim ond ar gyfer y rhai sy’n llawn amser.

Yn olaf, os caf i droi at y chweched dosbarth, rwy’n ofalus iawn ynghylch y corff hwn yn cael unrhyw gylch gwaith a chyfrifoldeb am addysg y chweched dosbarth; Rwy’n credu ei bod yn well gadael hynny i’r awdurdodau addysg lleol hynny. Yn amlwg, mae rhai rhannau o Gymru lle y mae trefniadau ar gyfer addysg drydyddol wedi’u sefydlu rhwng awdurdodau lleol a darparwyr addysg bellach mewn ffordd wahanol i'r model chweched dosbarth traddodiadol mewn ysgol, ond pam y dylem ni ymyrryd â rhywbeth sy'n gweithio i nifer o ddysgwyr ac sy’n sicrhau’r dewis hwnnw i lawer o ddysgwyr ledled Cymru? Nid wyf yn credu bod hynny yn iawn o gwbl—nid wyf yn credu bod y dystiolaeth yn cefnogi hyn—y dylem ni symud ymlaen a gwneud y chweched dosbarth yn rhan o gylch gorchwyl y comisiwn newydd.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:36, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Darren am ei groeso eang ar gyfer y cyfeiriad teithio a amlinellir yn y Papur Gwyn? Mewn ymateb i lawer o'r cwestiynau y mae wedi eu codi, yr holl bwynt o gael Papur Gwyn ac ymgynghoriad yw oherwydd ein bod yn awyddus i geisio cael amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y meysydd hyn.

Yn gyntaf oll, os caf i ddechrau drwy fynd yn ôl, rwyf am ddechrau gyda'r chweched dosbarth a byddwch yn ymwybodol nad yw'r cwestiwn yn y papur yn rhoi cynnig pendant ynglŷn â sut y gallai’r chweched dosbarth fod yn rhan o’r patrwm. Dywedodd Ellen Hazelkorn, yn ei hadroddiad, y byddai darpariaeth y chweched dosbarth, yn y rhan fwyaf o systemau, yn gorwedd y tu allan i PCET, ond mae yn rhan o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Felly, y cwestiwn yw: a ydym ni eisiau gwneud y rhan benodol hon o PCET yn ddarostyngedig i wahanol fath o drefn, un sy'n cael ei goruchwylio gan Estyn yn y bôn, ac sy’n rhan bwysig o'r system ysgolion, neu a ydym ni’n ei gweld fel yr hyn yw hi—sef rhan o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol? Felly, mae yna ddadl ddilys i'w chael am sut y gall darpariaeth y chweched dosbarth gael ei rheoleiddio orau.

Ond, gadewch i mi fod yn gwbl glir nad yw hyn yn ymwneud â dweud nad ydym ni’n mynd i gael chweched dosbarth, ac nid yw hyn yn ymwneud â dweud ein bod yn symud i fodel trydyddol. Mae hyn yn ymwneud â dweud, ar gyfer y rhai grwpiau arbennig o ddysgwyr hynny: sut y gall eu buddiannau—sut y gallwn ni ofalu amdanyn nhw a darparu cyfleoedd yn y modd hwnnw a fydd yn sicrhau ansawdd a’r materion yn ymwneud ag amcanion, gwneud yn siŵr bod pobl yn gwneud y cwrs iawn ar yr adeg iawn? Ceir cyfle gwirioneddol i roi adborth ar hynny.

Mae llais y myfyrwyr yn bwysig iawn i mi ar bob lefel. Rwy'n credu bod gwleidyddion o bob math wedi bod yn euog yn y gorffennol o ystyried myfyrwyr fel, efallai, pobl 18 mlwydd oed nodweddiadol sy'n gadael yr ysgol, sy'n cwblhau eu safon A ac yn mynd i ffwrdd i'r brifysgol. Yr hyn a wyddom, a'r hyn y mae ein heconomi yn galw amdano, yw bod angen i bobl allu cael gafael ar gyfleoedd am hyfforddiant ac addysg drwy eu holl fywyd, a bydd pobl yn gwneud gwahanol ddewisiadau o ran pryd y mae astudio yn iawn ar eu cyfer nhw—byddan nhw’n gorfod ei gyfuno â chyfrifoldebau gofalu yn aml, efallai. Felly, mae amrywiaeth yn llais y myfyrwyr yn bwysig iawn, ac rydym yn cydnabod, fel Llywodraeth Cymru, wrth i ni geisio symud tuag at system newydd o gymorth i fyfyrwyr a fydd yn rhoi cydraddoldeb i israddedigion pa un a ydynt yn astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser, neu pa un a ydyn nhw’n israddedigion neu’n ôl-raddedigion. Rydym ni’n cydnabod yr amrywiaeth yn hynny.

O ran y mater o newidiadau yn Lloegr, mae’n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod fy mod i’n bryderus iawn am y newidiadau sy'n deillio o ddeddfwriaeth newydd yn Lloegr a'r hyn y gallai hynny ei olygu i ni. Felly, er enghraifft, o ran Ymchwil ac Arloesedd y DU, mae’r Aelod yn dweud, 'Rhowch enghraifft i mi o pam y dylech chi bryderu am hyn.' Mae anhyblygrwydd llwyr y Gweinidog blaenorol, ac rwy'n credu mai ef yw’r Gweinidog o hyd—mae Jo Johnson wedi ei ailbenodi— i gydnabod y dylai fod cynrychiolydd o Gymru ar y corff hwnnw, ac, yn wir, y dylai fod cynrychiolydd o’r Alban ar y corff hwnnw, yn fy llenwi â phryder. Mae’r ffaith na fydd pob Llywodraeth ddatganoledig yn cael ei chynrychioli ar y corff hwnnw yn achos pryder i mi.

Rydym ni’n gofyn am lawer iawn gan y bobl hyn sy'n ymwneud ag Ymchwil ac Arloesedd yn y DU (UKRI). Y rhan fwyaf o'r amser, corff Lloegr yn unig fydd hwn—byddan nhw’n meddwl am anghenion Lloegr yn unig. Ond, o bryd i'w gilydd, bydd yn rhaid iddyn nhw newid eu ffordd a bydd yn rhaid iddyn nhw feddwl am fodel y DU. Ac, mae hyn yn llawer i’w ofyn gan rywun. Mae hyn yn llawer i’w ofyn gan bobl. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod yn diogelu ein buddiant. Mae’n rhaid inni hefyd gydnabod, wrth sicrhau bod arian ar gael, efallai bod y cyfeiriad strategol a'r blaenoriaethau ar gyfer y corff hwnnw yn gwasanaethu economi Lloegr, ond nid dyna o reidrwydd sydd ei angen arnom ar gyfer ein heconomi ni nac ar gyfer anghenion ymchwil ein heconomi ni. Ni allwn ni wrthod bod yn gyfrifol am hynny, a dyna pam rwyf i’n hynod ofalus a pham rwyf i’n teimlo bod angen i ni geisio gwarchod buddiannau Cymru yn y maes penodol hwn.

Nid wyf yn dweud am funud na all ein sefydliadau gystadlu am y cyllid hwn. Yr hyn yr wyf yn ei ddweud yw bod angen i ni warchod buddiannau Cymru a rhoi ein hunain yn y sefyllfa gryfaf i fanteisio ar y materion hyn, gan fod ymchwil yn gwbl hanfodol i ni fel Llywodraeth, ac yn hanfodol i ni fel cenedl. Mae angen i ni wneud yn siwr bod ymchwil yn rhan annatod o waith y corff penodol hwn. A gaf i ei gwneud yn glir nad yw hyn yn ymwneud â chamu ar yr egwyddor bwysig iawn o annibyniaeth sefydliadol na gwarantu rhyddid academaidd? Mae'r rheini yn agos iawn i’m calon i. Ond bydd y comisiwn yn adeiladu ar gryfderau presennol ac yn annog mwy o waith ymchwil ac arloesedd mewn cwmnïau a sefydliadau eraill, oherwydd os ydym ni’n onest, nid ydym yn y lle y byddem yn dymuno i Gymru fod ynddo, yn enwedig o ran buddsoddiad gan y sector preifat mewn ymchwil ac arloesedd. Nid ydym yn y lle yr hoffem fod ynddo. Mae angen safbwynt newydd ar hyn a dyna pam yr wyf i wedi gwahodd, ynghyd â'm cydweithwyr, ymchwiliad Reid i edrych ar yr hyn y byddai orau i ni ei wneud, ac mae hyn yn eistedd ochr yn ochr â'r darn penodol hwn o waith.

Cododd yr Aelod y broblem o ddyblygu hefyd. Wel, diben cael un corff yn y modd hwn yw ceisio sicrhau ein bod yn symud i ffwrdd o broblemau sy’n ymwneud â dyblygu a dryswch. A phroblemau sy’n ymwneud ag ansawdd, unwaith eto, gadewch i ni fod yn gwbl glir: oherwydd newidiadau sydd wedi digwydd dros y ffin, mae'n rhaid i ni achub ar y cyfle hwn i weld a oes angen i ni amddiffyn ein hunain i sicrhau ansawdd. Felly, er enghraifft, ar hyn o bryd, gall myfyriwr wneud cais i sefydliad yn Lloegr nad oes ganddo bwerau dyfarnu graddau. Felly, gallech ddechrau, fel myfyriwr mewn sefydliad—. Oherwydd y marchnadeiddio yn y sector penodol, gallech ddechrau ar gwrs heb wybod pa un a fydd y cwrs hwnnw yn arwain at radd gan nad oes gan y sefydliad hwnnw bwerau dyfarnu graddau. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod materion o’r fath ac ansawdd a sicrwydd i fyfyriwr yn sylfaen i’n system, ac mae'r Papur Gwyn hwn yn rhoi cyfle i wneud yn siŵr ein bod hynny gennym.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:43, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu’n fras y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw. Cyn i mi fanylu ar y datganiad, rwyf eisiau, gan fod Ysgrifennydd y Cabinet yma, sôn am un peth wrthi hi a dod ag ef i'w sylw. Mae yna erthygl gamarweiniol iawn yn y papur newydd' The Guardian 'heddiw ar addysg Gymraeg. Gallaf weld bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol ohoni. Y cyfan y gallaf ei ddweud wrthi hi yw fy mod i’n gobeithio y bydd hi'n ymateb neu y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn swyddogol i’r erthygl, gan ei bod yn ffeithiol anghywir ac anghywir yn ei hensyniadau hefyd.

A gaf i droi at yr adroddiad—y Papur Gwyn, ddylwn i ddweud—sydd gennym ger ein bron ar hyn o bryd? Fel y dywedais, mae Plaid Cymru wedi cefnogi rhoi parch cydradd i addysg alwedigaethol ac addysg academaidd ers talwm, ac fe wnaethom nodi yn ein maniffesto sut yr oeddem ni’n dymuno i adolygiad Hazelkorn weithio tuag at ddileu dyblygu a chystadleuaeth ddiangen ac at fwy o gydweithio yn y sector hwn. Mewn gwirionedd, rwyf wedi bod mor frwdfrydig drosto nes bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghyhuddo i yn wrthnysig yn y gorffennol o fod eisiau cymryd arian oddi wrth brifysgolion a’i roi i’r chweched dosbarth. Ond, rwy'n credu ein bod ni’n gwybod ble yr ydym ni. Rydym ni’n dymuno gweld dewis gwirioneddol i'n pobl ifanc sydd wir yn eu gwobrwyo yn y penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud, boed hynny’n addysg drwy’r brifysgol neu drwy brentisiaethau neu drwy hyfforddiant neu drwy’r chweched dosbarth neu drwy ôl-chweched dosbarth neu beth bynnag y bo.

Roedd gennyf nifer o gwestiynau wrth ddod i mewn ar gyfer y datganiad y prynhawn yma. Er, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei nodi’n ddefnyddiol, mae'r rhain i gyd yn gwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad ac nid oes gennym unrhyw atebion iddyn nhw hyd yma. Felly, byddaf yn ceisio egluro rhai ohonynt yr wyf yn credu efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o arweiniad yn eu cylch ar hyn o bryd. Rwyf am ddechrau yn lle y gwnaethom ddod i ben, mewn gwirionedd, sef yr UKRI a'r cysylltiad rhwng y corff newydd hwn, yr awdurdod trydyddol a chyrff eraill ledled y DU—maen nhw i fod i weithredu ledled y DU, ond nid oes cynrychiolaeth o Gymru arnyn nhw. Mae gennym ni sefydliad, yr UKRI, mae gennym ni broblem wirioneddol o ran Brexit, gadael yr Undeb Ewropeaidd, a chronfeydd Ewropeaidd yr oedd prifysgolion Cymru yn gallu cael gafael arnyn nhw yn uniongyrchol. Cawsom ddiwrnod 'gwyddoniaeth yn y Cynulliad' llwyddiannus iawn dim ond wythnos neu ddwy yn ôl a oedd yn arddangos llawer o'r gwaith hwnnw, ac yn arddangos yn enwedig pa mor llwyddiannus yw cydweithio rhyngwladol rhwng ein prifysgolion, gan osgoi i ryw raddau yr hyn sydd wedi ei wneud ar lefel y DU oherwydd y mynediad uniongyrchol hwnnw at gydweithredu Ewropeaidd. Felly, ai bwriad y Llywodraeth yn y strwythur newydd hwn yw ceisio sicrhau ein bod yn cael mwy o arian ymchwil gan y cynghorau ymchwil? Oherwydd dyna oedd bwriad y Llywodraeth a hoffwn gael ailddatganiad o hynny, gan yr hoffwn i weld bod hynny mewn llythyr cylch gwaith, neu beth bynnag yw’r hyn sy’n cael ei ysgrifennu i’r corff newydd hwn yn y pen draw. Mae'n rhaid i ni yn sicr wneud iawn am rywfaint o'r arian sy'n diflannu o Ewrop, ond hefyd rhoi pwysau ar y galluoedd i Gymru weithredu ar y lefel honno.

Tybed hefyd a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud, gan ei bod bellach wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn, pa un a yw hi wedi edrych ar gynigion Diamond a’r hyn sydd yn y Papur Gwyn, ac a yw hi'n gweld unrhyw angen i ailgyfochri unrhyw un o gynigion Diamond neu unrhyw ran o'r amserlennu neu unrhyw un o'r materion sy’n ymwneud â Diamond, neu a yw hi'n fodlon, ar hyn o bryd, bod hynny i gyd wedi’i gyfochri â’i gilydd. Mae hi hefyd wedi crybwyll adolygiad Reid, er enghraifft. Mae angen i’r rhain i gyd i ddod at ei gilydd.

A gaf i dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar oruchwylio colegau addysg bellach yn arbennig, a oedd yn nodi, er eu bod yn gadarn yn gyffredinol, byddai eu cyllid yn elwa ar gael dull mwy hirdymor a mwy integredig? Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod y cynnig hwn yma heddiw yn ddull mwy integredig. O ran y tymor hir, fodd bynnag, tybed a oes unrhyw ystyriaeth o gyllid tair blynedd ar gyfer y corff hwn ac ar gyfer y sector hwn. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni erbyn hyn o leiaf wedi ei gynnig i gyrff iechyd. Ni allan nhw fanteisio arno oherwydd eu bod yn aneffeithiol ac yn methu â chyrraedd y safonau, ond mae wedi ei gynnig iddyn nhw ac roeddwn i’n meddwl tybed a fyddem ni’n edrych ar hynny ar gyfer y sector hwn hefyd, a fyddai'n rhoi rhywfaint o sicrwydd a rhai syniadau diddorol a allai ddod i'r amlwg o bosibl o ran buddsoddiad yn y dyfodol.

Nawr, fe wnaethom ni grybwyll y chweched dosbarth, ac rwy’n sicr yn derbyn bod hwn yn gwestiwn ymgynghoriad, ond yr hyn nad yw’n hollol glir i mi yw a oes gan y Llywodraeth ddewis penodol y mae’n ei ffafrio, os gallwn ni ei roi felly, o ran llywodraethu gwirioneddol y chweched dosbarth. Nid wyf yn sôn am y swyddogaeth strategol oherwydd, yn amlwg, bydd y corff newydd hwn yn dylanwadu’n strategol ar y chweched dosbarth—ond a ddylai'r llywodraethu barhau i fod ar lefel awdurdod addysg lleol, neu a yw hi yn dymuno mynd ymhellach, yn dymuno mynd ymhellach a mynd â’r llywodraethu hwnnw lefel yn uwch i gorff cenedlaethol hefyd, lle, rwy’n credu, efallai y gofynnir mwy o gwestiynau—mae’n gynnig diddorol.

Ac, wrth gwrs, mae hefyd yn ein harwain at y pwynt olaf bron—y pwynt olaf ond un sydd gennyf—sef a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi ystyried, wrth geisio gweithredu Hazelkorn ac ystyried yr awdurdod newydd hwn, pa un a ddylem ni godi oedran addysg orfodol yng Nghymru. Dylwn i ddweud 'addysg a hyfforddiant a phopeth arall', oherwydd nid ydym yn sôn am roi pobl anfodlon yn y chweched dosbarth; rydym ni’n sôn am y disgwyliad eich bod chi’n aros mewn addysg tan eich bod yn 18 oed. Mae hynny'n digwydd yn Lloegr ac mae’n symud ymlaen, mewn gwirionedd, ac efallai ei fod yn rhywbeth y dylem ei ystyried yng ngoleuni’r Papur Gwyn hwn hefyd.

Ac mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â rhywbeth arall yr wyf yn credu ei fod newydd ei grybwyll, ond hoffwn i glywed ychydig mwy am: pa gysylltiad fydd gan y corff newydd o ran sicrhau ansawdd mewn addysg prifysgol. Rydym ni wedi cael awgrymiadau yn y gorffennol o newidiadau i'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch a fyddai wedi effeithio ar brifysgolion Cymru ac effeithio ar natur y DU ar hyn. Mae hyn i gyd yn—. Efallai nad yw bellach yn debygol o ddigwydd, yn dilyn etholiad cyffredinol rhyfedd iawn, ond sut y bydd sicrhau ansawdd yn cael ei gynnal o fewn y corff newydd hwn? Ni fydd ganddo, yn fy marn i, y rheolaeth uniongyrchol, gan fod hynny'n dal i fod mewn man arall o fewn sector prifysgolion y DU, ond, yn amlwg, bydd ganddo swyddogaeth o ran sicrhau bod hynny'n digwydd, a swyddogaeth o gynnal enw da prifysgolion hefyd.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:49, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Simon. A gaf i ddechrau lle y gwnaethoch chi ddechrau sef gydag erthygl 'The Guardian'? Rwy’n hynod siomedig yn y pennawd camarweiniol ac yn yr anghywirdebau ffeithiol sydd ym mhob man yn y darn penodol hwn a elwir yn ddarn o newyddiaduriaeth. Mae'n siomedig iawn ac yn gamddisgrifiad llwyr o'r hyn sy'n digwydd yn y gymuned benodol honno ac, yn wir, uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'n destun gofid mawr i mi, a gallaf eich sicrhau, pryd bynnag y bydd materion ynghylch yr iaith yn codi, boed hynny o ran Prifysgol Warwick a sut y maen nhw’n ystyried Cymraeg Safon Uwch, neu erthyglau fel hyn, yna byddwn ni’n ceisio cywiro a rhoi'r argraff gywir o'r hyn sy'n digwydd yn ein system addysg ddwyieithog.

Os caf symud ymlaen at y pwyntiau pwysig am y datganiad—ie, bwriad y Llywodraeth yn bendant yw cael mwy o arian ymchwil i mewn i Gymru. Mae gennym rai sêr anhygoel. Mae ein rhaglen Seren, er enghraifft, yn rhoi enghraifft dda iawn o'r hyn y gellir ei gyflawni, ond mae angen i ni wneud yn well. Mae hynny'n arbennig o bwysig o ystyried canlyniadau Brexit yr UE i’r sector addysg uwch. Yn amlwg, felly mae hynny’n—. Rwy'n hapus iawn i ailddatgan mai dyna yw nod cyffredinol y Llywodraeth.

O ran cyfochri, rwy’n credu bod Diamond yn cyd-fynd â'r cynigion a nodir yma ac nid oes gennyf unrhyw fwriad i newid y terfynau amser o ran rhoi adroddiad Diamond ar waith. Mae'n bwysig ein bod ni’n gweld bod hwnnw ac adolygiad Reid yn ogystal â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar weithredu Hazelkorn yn ymblethu â’i gilydd.

O ran y—ni allaf ddarllen fy ysgrifen fy hun—. O ran llywodraethu’r chweched dosbarth—. Mae’r mater yn ymwneud â’r chweched dosbarth yn un diddorol iawn, o ran y mater o lywodraethu, oherwydd, mewn gwirionedd, mae Simon yn sôn am swyddogaeth awdurdodau addysg lleol —mewn rhai ffyrdd mae’r chweched dosbarth wedi bod yn blentyn i neb, gan nad ydyn nhw’n cael eu hariannu mewn gwirionedd gan yr awdurdodau addysg lleol. Maen nhw’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol. Felly, mewn ffordd, mae llywodraeth leol bron wedi troi ei chefn arnyn nhw. Hefyd, nid ydynt wedi bod yn destun arolygiad Estyn. Felly, pan fo Estyn wedi mynd i mewn i ysgolion—hyd yn oed pan fo gan yr ysgol honno chweched dosbarth—nid oedd dyletswydd ar Estyn i adrodd ar y ddarpariaeth o fewn y chweched dosbarth hwnnw. Nid yw hynny’n dderbyniol i mi. Os ydym ni’n dymuno gweld cynnydd a chodi safonau ym mhob agwedd ar ein system addysg, mae’n rhaid i hynny gynnwys y chweched dosbarth. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud y bydd Estyn bellach yn ystyried darpariaeth y chweched dosbarth yn yr ysgolion hynny lle y ceir chweched dosbarth, oherwydd fy mod i’n credu, mewn rhai ffyrdd, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae nhw wedi dod yn blentyn i neb ac efallai eu bod wedi syrthio drwy'r rhwyd ​​o ran sicrhau mewn gwirionedd eu bod yn gwneud gwaith da ar ran y myfyrwyr sydd ynddynt.

Y sicrwydd cyllid—dyna beth na allaf ei ddarllen: sicrwydd cyllid a chylch cyllido tair blynedd. Rwy'n cydnabod y byddai sefydliadau weithiau yn gwneud penderfyniadau gwahanol pe byddai ganddyn nhw olwg mwy hirdymor ar y cyllid a fyddai ar gael iddyn nhw. Mewn rhai ffyrdd, gall y rheini fod yn benderfyniadau strategol hirdymor gwell. Rwy’n ceisio, gan drafod â’m cyd-Aelod Cabinet dros gyllid, i wneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i roi sicrwydd o gyllid pan fo hynny’n bosibl, ym mhob agwedd ar y system addysg. Mae hynny wedi bod yn eithaf anodd oherwydd, ceir sefyllfaoedd weithiau sydd y tu allan i'n rheolaeth ni o ran pryd y mae cyllidebau a datganiadau’r hydref yn cael eu cyhoeddi yn Llundain. Yn amlwg, mae yna ansicrwydd difrifol ar hyn o bryd. Roeddwn i wedi gobeithio, yn dilyn canlyniad yr etholiad a rhai o ynganiadau’r Prif Weinidog, na fyddai cymaint o gyni. Ond, os bydd rhywun yn gwrando ar araith Mansion House y Canghellor y bore yma, os oedd unrhyw un ohonom ag unrhyw gred bod hynny ar fin digwydd, rwy’n credu bod hynny wedi ei chwalu gan yr hyn yr oedd gan Philip Hammond i’w ddweud y bore yma. Rwy’n derbyn eich pwynt, a byddwn yn ceisio gweld beth y gallwn ni ei wneud i ddarparu’r golwg hirdymor hwnnw ar gyfer sefydliadau, gan fy mod yn cydnabod pa mor werthfawr yw hynny iddyn nhw.

Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ystyried codi oedran addysg orfodol y tu hwnt i 16 oed. O ran sicrhau ansawdd, bydd y corff hwn yn chwarae rhan allweddol. Yn wahanol i rai o'r newidiadau yr ydym wedi eu gweld yn Lloegr, er enghraifft, rydym yn awyddus iawn i barhau i gynnwys y Cyfrin Gyngor, er enghraifft, wrth sicrhau ansawdd, statws dyfarnu graddau a’r teitl prifysgol. Mae'r pethau hyn yn bwysig iawn i mi ac rwy'n mynd i achub ar y cyfle hwn i wneud yn siŵr eu bod yn y lle y byddem ni’n dymuno iddyn nhw fod a gwneud newidiadau, os bydd angen, er mwyn darparu’r sicrwydd hwnnw—i fyfyrwyr, myfyrwyr rhyngwladol, a darpar fuddsoddwyr mewn ymchwil ac arloesedd—bod gennym yr ansawdd hwnnw yn sail i'n sector addysg uwch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:54, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Michelle Brown.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad ar y diwygiadau i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae gennyf rai cwestiynau. Rwy’n sylweddoli efallai nad oes gennych ateb pendant ar hyn o bryd i rai ohonyn nhw, ac os yw hynny'n wir, hoffwn gael eich sicrhad y gofynnir i randdeiliaid am eu barn ar y pwyntiau hyn.

Nodaf y bwriad i greu comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil newydd i Gymru, a fydd yn disodli'r cyngor cyllido addysg uwch presennol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym beth yw'r costau cymharol ar gyfer y cyngor presennol a'r comisiwn newydd, ac a fydd y comisiwn yn arwain at ostyngiad neu gynnydd yn y gost gyffredinol o oruchwylio addysg ôl-orfodol? Pa mor fawr fydd y comisiwn fwy neu lai ac i bwy y bydd yn atebol? Os nad yw’r comisiwn yn cyflawni ei amcanion, pwy fydd yn gyfrifol am hynny?

Yn y blynyddoedd diweddar gwelwyd hyfforddiant galwedigaethol—a oedd yn arfer cael ei alw yn ‘cael gafael ar grefft’—yn gostwng mewn statws tra bod cymwysterau academaidd wedi eu trin bron fel yr ateb i bopeth. Mae hyn wedi arwain at genedlaethau o bobl ifanc dawnus sydd bron wedi cael eu taflu ar y domen neu eu hannog i astudio ar gyfer cyrsiau na fyddant o gymorth iddynt gyflawni eu potensial oherwydd nad yw eu sgiliau a'u galluoedd mewn meysydd academaidd traddodiadol. Er bod angen cael graddedigion academaidd, crefftwyr sy'n adeiladu ein hysgolion, ysbytai, tai, a phopeth arall a, hebddyn nhw, nid oes gennym unrhyw adeiladau, unrhyw ynni, unrhyw ffyrdd—dim byd.

Mae angen mynd i'r afael â’r diffyg o ran crefftwyr cymwysedig yng Nghymru gan sicrhau bod Cymru yn hyfforddi ei rhai ei hun. Rwyf felly'n croesawu’n llwyr amcan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod hyfforddiant galwedigaethol ac academaidd yn cael eu hystyried â’r un gwerth yn ein system addysg. Mewn amgylchedd gwaith lle y mae'n llai ac yn llai tebygol y bydd rhywun yn gadael yr ysgol ac yna treulio ei fywyd gwaith naill ai yn gweithio yn yr un swydd neu i'r un cyflogwr, mae'n hanfodol bod gan bobl yn cael y cyfle i ailhyfforddi neu uwchsgilio, felly eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd gwaith newydd. Os gall Ysgrifennydd y Cabinet wella mynediad at hyfforddiant ac addysg ar gyfer pobl sy'n awyddus i wella neu ddiweddaru eu sgiliau presennol neu ddysgu rhai newydd, byddaf yn ei chymeradwyo.

Hoffwn weld Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud darpariaeth i roi cyngor ac arweiniad i fusnesau yng Nghymru sy'n ymgymryd ag ymchwil a datblygiad er mwyn eu cynorthwyo i fanteisio ar y patentau y maent yn eu creu, yn ogystal â chynorthwyo prifysgolion a cholegau i wella ansawdd eu ceisiadau am gyllid ymchwil. Rwy’n nodi ei bod yn bosibl y bydd y ddarpariaeth chweched dosbarth yn cael ei chwmpasu gan y comisiwn newydd, ond efallai na fydd y ddarpariaeth chweched dosbarth honno yn cael ei chynnwys yn yr ymgynghoriad. Rwy’n deall eich rhesymau am hynny, ond, os yw’r chweched dosbarth yn mynd i gael ei gwmpasu gan y comisiwn newydd, pryd y bydd y cynnig hwnnw yn cael ei gyflwyno mewn ymgynghoriad, os nad yw'n cael ei gynnwys yn yr un presennol? Mae angen i bobl ifanc allu dewis yr amgylchedd chweched dosbarth iawn iddynt hwy. Bydd rhai yn dymuno mynd i chweched dosbarth mewn ysgol, bydd eraill yn awyddus i fynd i chweched dosbarth mewn coleg. A all Ysgrifennydd y Cabinet ein sicrhau ni y bydd pobl ifanc yn parhau i gael y dewis o astudio mewn coleg chweched dosbarth neu yn y chweched dosbarth mewn ysgol?

O ran yr ymgynghoriad ei hun, sut ydych chi wedi rhoi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad a sut ydych chi’n sicrhau bod y rhanddeiliaid cywir wedi cael gwybod amdano? Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad ar y comisiwn a'r diwygiadau sy'n cael eu hystyried a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw. Diolch.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:57, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i Michelle am ei chwestiynau. Mae’r costau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â'r ymgynghoriad technegol, a fydd yn digwydd yn nes ymlaen eleni. Bydd y comisiwn yn atebol i Weinidogion Cymru. Mae parch cyfartal yn fater hollbwysig i mi. Un o'r rhesymau dros gael un corff unigol yn trefnu addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac â goruchwyliaeth strategol drostynt, yw cyflawni’r parch cyfartal hwnnw a chydnabod, fel yr ydych chi’n dweud yn gwbl gywir, bod y dyddiau o gael un swydd am oes ac aros mewn un man pan fyddwch yn gadael yr ysgol wedi dod i ben. Dyna un o'r rhesymau pam y mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn trefnu addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny, er enghraifft, yn ei chynllun prentisiaeth i bob oedran y mae yn ei ddatblygu dros gyfnod y Llywodraeth Cymru benodol hon.

Mae Michelle yn gofyn a yw mater y chweched dosbarth wedi’i gynnwys yn y ddogfen ymgynghori a phryd yr ydym ni’n mynd i ymgynghori arno. Wel, mae yn y ddogfen ymgynghori. Rwy'n gwerthfawrogi—. Rwy'n pryderu nad yw'r Aelod wedi cael copi o'r Papur Gwyn efallai. Rwy'n credu ei fod wedi cael ei anfon ar e-bost at bob Aelod. Rwyf i yn sicr wedi ei weld yn fy mewnflwch AC fy hun ac mae'n amlwg iawn yn y ddogfen—mae’r cwestiynau ynghylch y chweched dosbarth yn yr ymgynghoriad ac mae'n gwestiwn dilys yr ydym yn ei ofyn i bobl.

Mae’r Aelod hefyd yn gofyn sut yr ydym ni’n rhoi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad. Wel, mae hyn yn rhan o'r rheswm pam yr ydym yn gwneud datganiad llafar heddiw—i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yn dilyn y datganiad a wnes i yn gynharach heddiw. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid yn parhau tan y bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ym mis Hydref, a byddwn yn cynnal ymgynghoriad i bobl ifanc yn benodol, oherwydd y mae gwneud pethau'n iawn ar gyfer y dysgwr wrth wraidd hyn ac mae angen iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori hwn hefyd.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 4:59, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Cyn belled ag y gallaf i ei weld ar wefan CCAUC, mae'r niferoedd staffio presennol yn 50 o staff ar draws pedair cyfarwyddiaeth. A allwch chi gadarnhau a yw hynny'n gywir? Os felly, sut y byddai'r strwythur staffio a strwythur y sefydliad yn y dyfodol yn cymharu â threfniadau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar hyn o bryd?

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:00, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn gobeithio bod gwefan CCAUC yn gywir ac yn rhoi disgrifiad cywir o'u harferion cyflogaeth, ond fe wnaf ofyn eto i'r prif weithredwr, a chadarnhau hynny i chi. O ran maint y comisiwn, rwyf bob amser yn credu'n gryf yn yr egwyddor bod ffurf yn dilyn swyddogaeth, ac ar hyn o bryd, wrth i ni ymgynghori ar ffurf y comisiwn, nid ydym ar hyn o bryd mewn sefyllfa i ddweud yn union sut y bydd yn edrych, oherwydd bydd hynny'n dibynnu ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol. Dyna pam yr ydym yn cynnal ymgynghoriad technegol ar ddiwedd y broses Papur Gwyn hon er mwyn ymgynghori ar y materion mwy technegol, manwl hynny a’r manylion yr ydych chi’n gofyn amdanynt yn ddiweddarach. Ond ar hyn o bryd, yr hyn sy'n bwysig i ni yw ein bod yn deall, a’n bod yn cytuno ar swyddogaethau’r corff hwn ac yna ein bod yn bwrw ymlaen ar ba mor effeithiol y bydd yn cael ei staffio. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, o dan y cynigion hyn, yw y bydd CCAUC yn peidio â bod a byddwn yn gweithio'n agos gyda CCAUC ac aelodau newydd y bwrdd, a chanddynt amrywiaeth ehangach o brofiadau, gobeithio, i bontio’n ddi-dor o un sefydliad i'r llall.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:01, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y datganiad ac am yr ymrwymiadau sydd ynddo. Rwyf yn gwerthfawrogi ein bod yn sôn yn bennaf am newid strwythurol, ond pwrpas y newid strwythurol yw gwella cyfleoedd ar gyfer dysgu, a dysgu sydd yn barod ar gyfer Cymru a fydd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth fyd-eang, os mynnwch chi, yn ogystal â hybu yr economi leol. Os yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg i gael unrhyw effaith, ymhellach ymlaen bydd gennym fusnesau sy'n chwilio am sgiliau Cymraeg—ni fyddwn yn dweud rhuglder o reidrwydd—ond tu hwnt i hynny, sgiliau ieithyddol eraill hefyd, yn enwedig ar ôl Brexit. Er mai Saesneg yw iaith ryngwladol busnes, mae'n bendant o gymorth i bobl yng Nghymru os ydynt yn gallu siarad mwy nag un iaith pan eu bod yn ceisio cymryd rhan mewn masnach ryngwladol. A allwch chi ddweud wrthyf i, felly, a fydd yr ymgynghoriad yn arbennig, a gwaith y comisiwn yn y dyfodol yn ystyried pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu medrus mewn addysg anstatudol? Diolch.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:02, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Suzy, am y cyfraniad yna. Fel y gwyddoch, mae cynyddu'r cyfleoedd i fyfyrwyr, disgyblion ysgol a’r rhai hynny sydd mewn AB ac AU i gaffael sgiliau iaith yn y Gymraeg a bod yn gallu defnyddio’r sgiliau hynny yn eu dull o astudio yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi. O ran addysg bellach, rydym ni ar hyn o bryd yn gofyn i Delyth Evans wneud darn o waith ynghylch pa un a ddylai swyddogaeth a chylch gwaith y Coleg Cymraeg ymestyn i'r sector addysg bellach, ac rydym yn disgwyl cael yr adroddiad hwnnw cyn toriad yr haf. Yn amlwg, bydd unrhyw sefydliad sy'n gyfrifol am gynllunio darpariaeth AU ac AB a dysgu seiliedig ar waith yn ein cenedl yn gorfod ystyried sut y byddant yn darparu hynny trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.

O ran ieithoedd ehangach, nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd i ddweud beth fydd swyddogaethau a chyfrifoldebau y sefydliad hwn yn hynny o beth. Ond mae cynllunio cymwysterau a chynllunio a chomisiynu ystod o gymwysterau a chyrsiau iaith, boed hynny mewn ieithoedd tramor modern, yn y Gymraeg, neu yn y gallu i fynegi eich hun yn hyderus ac yn glir—efallai yn well nag yr ydw i'n ei wneud ar hyn o bryd—yn amlwg yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried o ran comisiynu cyrsiau a fydd ar gael. Ac rwy’n cydnabod bod y gallu i fynegi eich hun a chyfathrebu'n effeithiol yn bwysig, ac wrth gwrs dyna pam yr ydym ni wedi cadw arholiad llafar yn rhan o'n TGAU Saesneg iaith, er bod hynny wedi ei ddiddymu yn Lloegr.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:04, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Dim ond yng Nghymru y gallai'r ateb i'r cwestiwn arholiad ‘Sut yr ydym ni fel cenedl yn dod yn arweinydd byd ym maes arloesedd’ fod yn sefydlu nid yn unig pwyllgor—nid hyd yn oed pwyllgor—ond is-bwyllgor, oherwydd dyna beth yw Ymchwil ac Arloesedd Cymru mewn perthynas â'r corff newydd hwn. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hyn yn gwbl groes i gyngor Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesedd y Llywodraeth ei hun, ac yn wir dau adroddiad gan arbenigwyr byd-eang ar bolisi arloesedd, a argymhellodd, i’r gwrthwyneb i hyn, y dylid creu corff arloesedd pwrpasol ar gyfer Cymru? A all hi ddweud felly beth yw sefyllfa adolygiad Reid ar ymchwil ac arloesedd yng Nghymru, a sefydlwyd o ganlyniad i'r adolygiad Hazelkorn, a’i bwrpas, a dyfynnaf, oedd darparu cyngor ar ffurf adroddiad i Lywodraeth Cymru ar lywodraethu...rheoleiddio a goruchwylio ymchwil ac arloesedd a ariennir gan y Llywodraeth yng Nghymru?

Os yw Llywodraeth Cymru eisoes wedi dod o hyd i'r ateb, pam gofyn y cwestiwn i’r Athro Reid?

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:05, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, nid pwyllgor yw hwn, comisiwn ydyw, a bydd ganddo’r statws hwnnw. Efallai mai’r cwestiwn y dylid ei ofyn yw: ‘Dim ond yng Nghymru, yr ateb i'r broblem yw cael corff arall eto’, sef yr hyn yr wyf i’n credu y mae’r Aelod o blaid ei greu. Mae gennym eisoes—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod gennym eisoes, ar y cyfrif diwethaf, 47 o gyrff unigol yng Nghymru a oedd â rhyw gylch gwaith neu gyfrifoldeb dros ymchwil ac arloesedd. Rwyf yn awgrymu nad ychwanegu un arall at y 47 hynny yw’r hyn sydd ei angen arnom. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i mi—a chlywais eich cwestiwn i'r Prif Weinidog yn gynharach—yw nad ydym yn creu maenoriaethau unigol, ond bod gennym ddull systematig sy'n golygu y gallwn gael y gorau o'r berthynas â’r sector addysg uwch ac â’r byd gwaith, ac nad oes angen i ni ddewis y naill neu’r llall.

O ran adroddiad Reid, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y berthynas o gyllid y Llywodraeth ar gyfer ymchwil yn iawn, ac i helpu i wneud hynny, mae’r Athro Reid yn cynnal ei adroddiad, a bydd ei adroddiad yn rhan annatod o sut yr ydym yn bwrw ymlaen â’r cynigion hyn. Ond mae’n rhaid i mi ddweud eto, Dirprwy Lywydd: pan fo gennym eisoes 47 o gyrff yn ystyried hyn a Chymru'n tanberfformio o ran arloesedd ac ymchwil, nid dim ond ychwanegu un arall yw'r ateb.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:07, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.