– Senedd Cymru ar 18 Gorffennaf 2017.
A dyma ni, felly, yn symud at y ddadl ar y Bil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Carwyn Jones.
Cynnig NNDM6374 Jane Hutt, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.
2. Yn credu:
a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a
b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi bil parhad.
Diolch, Llywydd. Wel, mae cyhoeddi Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yn cynrychioli eiliad arwyddocaol iawn yn natblygiad y drafodaeth am y ffordd y bydd y DU yn gadael yr UE. Does dim amheuaeth bod angen deddfwriaeth arnom ni, er mwyn sicrhau effaith barhaol y gyfraith sy'n deillio o’r UE ar ôl i ni adael yr UE. Ond mae’n ddadleuol iawn ai’r Bil hwn yw'r hyn sydd ei angen arnom.
Er y gall Llywodraeth y DU fod wedi newid teitl y ddeddfwriaeth, a elwid gynt y Bil diddymu mawr, mae hwn yn enghraifft brin ac, mae'n ymddangos, yn enghraifft unigryw o ostyngeiddrwydd y Llywodraeth yn ei dull o wynebu Brexit. Unwaith yr ewch y tu hwnt i'r dudalen flaen, nid oes llawer os o gwbl o dystiolaeth o barodrwydd tybiedig y Prif Weinidog, ar ôl yr etholiad cyffredinol, i ymgynghori'n eang, ac i wrando ar farn eraill ar y cwestiynau hanfodol sy'n wynebu'r DU. Ond mae llawer o faterion, wrth gwrs, y gallwn eu codi yma, er enghraifft: a yw'n iawn cael gwared ar y siarter hawliau sylfaenol, os mai diben honedig y ddeddfwriaeth yw cynnal yr hawliau sydd gennym yn rhinwedd ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd; a yw cymal 6, a fyddai'n diweddu unrhyw bwerau Llys Cyfiawnder Ewrop ar y diwrnod yr ydym yn gadael, yn ddarn o rodres gwleidyddol, nad oes ganddo le yn yr hyn gaiff ei bortreadu fel darn technegol o ddeddfwriaeth—a bydd pethau eraill hefyd.
Ond rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n fy esgusodi heddiw os byddaf yn canolbwyntio ar yr her anferth y mae’r Bil yn ei gynrychioli i'r setliad datganoledig fel y cafodd ei ddatblygu yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Mae hyn wedi ei wreiddio, gadewch i ni atgoffa ein hunain, mewn cydsyniad poblogaidd. Gwelodd refferendwm 2011, er enghraifft, bleidlais mwyafrif helaeth o blaid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Er gwaethaf y rhybuddion clir a mynych iawn gennyf i, a Llywodraeth Cymru gyfan, na fyddem yn fodlon derbyn unrhyw ymgais i ddefnyddio ymadael â’r UE i gyfiawnhau ail-ganoli pŵer, dyna'n union y mae’r Bil hwn, fel y'i drafftiwyd, yn anelu at ei gyflawni. Mae'n ymgais i dynnu rheolaeth yn ôl dros bolisïau datganoledig megis yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd—nid yn unig o Frwsel, ond o Gaerdydd, Caeredin a Belfast.
Yn awr, mae hyn yn bwysig—mae’n bwysig gan fod datganoli yn ymwneud â chael y cyfle yma yng Nghymru i benderfynu ar ein polisïau ein hunain sy'n briodol i Gymru, ac sydd yn amlwg wedi cael cydsyniad y pleidleiswyr yma yng Nghymru. Ni allwn droi'r cloc yn ôl i oes pan oedd modd i Lywodraeth â mwyafrif tila yn San Steffan, a heb unrhyw fandad o gwbl gan Gymru a'r Alban, osod polisïau fel treth y pen yn wyneb gwrthwynebiad y mwyafrif helaeth o gynrychiolwyr etholedig o Gymru a'r Alban.
Mae'r Bil yn ceisio rhoi ar waith, heb unrhyw gyfyngiadau, gymwysterau neu’r hyn a elwir yn gymalau machlud, gyfyngiadau newydd ar allu’r Cynulliad Cenedlaethol hwn i ddeddfu yn effeithiol ar ôl Brexit ar faterion lle’r ydym yn gweithredu ar hyn o bryd o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a ddatblygwyd gan yr UE. Os yw’r Bil hwn yn cael ei basio yn ei ffurf bresennol, byddwn yn cael ein hatal rhag deddfu mewn unrhyw ffordd sy'n anghydnaws â chyfraith yr UE a gedwir. Bydd cyfraith bresennol yr UE yn cael ei rhewi, a dim ond Senedd y DU fydd yn cael caniatâd i’w dadrewi. Yn ymarferol, bydd hyn yn darparu ffenestr i Lywodraeth y DU geisio cymeradwyaeth seneddol i osod fframweithiau newydd ar draws y DU mewn meysydd datganoledig megis amaethyddiaeth, yr amgylchedd a physgodfeydd.
Yn awr, Llywydd, mae hyn yn gwbl annerbyniol ac mae'n taro at wraidd datganoli. Dyma flaen main cyllell fawr iawn. Os byddwn yn derbyn hyn, pa mor hir y bydd cyn i Lywodraeth y DU ddechrau dadlau am fframweithiau ar draws y DU ar gyfer iechyd ac addysg ar sail ei swyddogaeth unigryw yn cynrychioli'r DU gyfan a phwysigrwydd datganoli ddim yn amharu ar Brydain fyd-eang? Wedi'r cyfan, os mai’r pris y mae’r Unol Daleithiau yn ei fynnu am fargen masnach gyflym yw rhoi hawliau i gwmnïau preifat estynedig i ddarparu gofal y GIG, pam ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru gael caniatâd i sefyll yn y ffordd? Dyna fyddai eu dadl.
A wnaiff y Prif Weinidog ildio?
Gwnaf.
Diolch i chi am ildio. Tybed a wnaiff rannu ei farn ynghylch pam mae rhai elfennau o'r Bil yn ei ffurf bresennol, o safbwynt Llywodraeth y DU, yn cynnwys cymalau machlud. Bydd rhai swyddogaethau a gaiff eu rhoi i Weinidogion y DU yn dod i ben. Ond pan ddaw at ddatganoli, er gwaethaf y datganiadau cyhoeddus mai mesur dros dro yw hwn er mwyn cadw trefn dda ar bethau, nid oes cymal machlud yn ymwneud â chipio grym dros feysydd cyfrifoldeb datganoledig.
Mae ei sylwadau yn eithaf cywir. Nid wyf yn gallu esbonio’r rhesymeg, ond yn sicr mae'n iawn i ddweud nad oes—. Er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd yn gyhoeddus, nid oes mewn gwirionedd unrhyw beth yn ysgrifenedig yn y Bil sy'n awgrymu sail dros dro am yr hyn y maent yn ei gynnig, ac mae hynny, wrth gwrs, yn destun pryder mawr i ni. Bydd Llywodraeth y DU yn dadlau nad yw hyn yn cyfyngu ar ein rhyddid i weithredu mwy nag sy'n wir heddiw—yr unig beth a wna yw disodli pwerau'r Undeb Ewropeaidd a'r Comisiwn Ewropeaidd gan y rhai sydd i gael eu harfer gan Senedd y DU a gwasanaeth sifil y DU. Ond mae fframweithiau UE yn cael eu datblygu ar sail cynigion gan y Comisiwn Ewropeaidd nad yw’n greadur un Llywodraeth, yn aml ar ôl trafodaethau dwys rhwng 28 aelod-wladwriaeth a Senedd Ewrop, ac maent yn cael eu goruchwylio’n annibynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd a’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd. Ar ben hynny, ar hyn o bryd, mewn trafodaethau yn yr UE am, er enghraifft, ddyfodol y polisi amaethyddol cyffredin, rydym yn siŵr o gael swyddogaeth, trwy femorandwm dealltwriaeth, wrth lunio safbwynt y DU sy'n adlewyrchu anghenion pob rhan o’r DU, nid dim ond Lloegr.
Yn awr, wrth gwrs, ar ôl gwrthod yn lân â gwrando ar y negeseuon cyson iawn—ni all neb honni bod hyn yn annisgwyl—gennyf i, Mark Drakeford, a swyddogion, am natur gyfan gwbl annerbyniol unrhyw gynigion fel y rhai y maent wedi eu gwneud yn awr yn y Bil, ymddengys fod Llywodraeth y DU bellach yn newid ei meddwl. Wrth gwrs, rwy’n croesawu hynny, ond maddeuwch imi os wyf yn gwneud hynny yn ofalus yn unig. Dywedwyd wrthym mai dim ond mesur dros dro yw’r rhewi, er nad oes dim byd yn y Bil sy'n rhoi unrhyw hyder i ni y gellid dibynnu ar hyn. Dywedwyd wrthym mai bwriad y cynigion yw darparu ffenestr i feithrin ymddiriedaeth a rhoi lle ar gyfer trafodaethau i ddod i gytundebau ar y fframweithiau sydd eu hangen ar ôl i ni adael yr UE a beth y dylent ei gynnwys. A dywedwyd wrthym fod y Gweinidogion yn awyddus i ddechrau’r trafodaethau hyn ar frys. Nawr, dydw i ddim yn siŵr iawn sut mae dal gwn i ben rhywun a dweud nad ydych yn bwriadu tanio yn mynd i feithrin ymddiriedaeth. Ac os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â dechrau trafodaethau ar fframweithiau, ni allaf ddeall pam nad ydynt wedi gwneud dim am y peth yn y chwe mis diwethaf ers i ni wneud y cynnig hwn yn ein Papur Gwyn, 'Sicrhau Dyfodol Cymru’—Papur Gwyn, a gynhyrchwyd, wrth gwrs, ar y cyd â Phlaid Cymru.
A wnaiff y Prif Weinidog ildio? Rwy'n ddiolchgar. Dim ond ar y pwynt hwnnw, wrth gwrs, nid yw'n meithrin ymddiriedaeth pan nad ydych yn cwrdd â Gweinidogion ac nad oes gennych Gyd-bwyllgor Gweinidogion ac yn y blaen. Ond hyd yn oed pe byddai gan y Bil hwn gymal machlud wedi’i fewnosod yn y rhannau datganoledig ohono, a fyddai hynny'n ddigonol, yn ei farn ef, i feithrin yr ymddiriedaeth honno?
Na, byddai hynny'n torri ar draws yr hyn yr ydym wedi'i ddweud erioed, sef y dylai'r pwerau ddod i Gymru ac yna dylai pob Llywodraeth gytuno y dylai’r pwerau hynny gael eu rhewi, ond, drwy gydsyniad, hyd nes y caiff y fframweithiau newydd eu datblygu. Yr egwyddor allweddol yma yw caniatâd, nid gorfodi. Felly, 'na' yw'r ateb. Ni fyddai'n ddigonol.
Nid yw'r cyngor gweinidogol ar y cyd, sy’n goruchwylio trafodaethau o'r fath, wedi cyfarfod hyd yn oed ers mis Chwefror oherwydd osgoi atebion gan Weinidogion yn Llundain. Cafodd y pwerau y mae Llywodraeth y DU eu heisiau i gymryd drosodd gymhwysedd deddfwriaethol yn y dyfodol, er eu bod yn anghyfartal ac yn anghywir, o leiaf eu hawgrymu yn natganiadau blaenorol Llywodraeth y DU a'i Phapur Gwyn. Ond, mae'r Bil hefyd yn cynnwys sioc o ran y pwerau Harri’r VIII fel y'u gelwir, y cynigir y dylid eu cymryd gan Weinidogion i gywiro deddfwriaeth bresennol i'w gwneud yn ymarferol yn y cyd-destun newydd.
Yn awr, mae’r pwerau hynny y mae'r Bil yn cynnig y dylid eu breinio i Weinidogion Cymru yn gyfyngedig mewn ffyrdd eithriadol o ddi-fudd. Mae'r pwerau i ddiwygio cyfraith uniongyrchol gymwys neu reoliadau'r UE, ac yn y blaen, sy'n cyfrif am y rhan fwyaf o fframwaith deddfwriaethol yr UE ar gyfer amaethyddiaeth, er enghraifft, yn cael eu cadw yn unig gan Lywodraeth y DU. Gan fod Gweinidogion y DU yn awyddus i gadw eu pwerau eu hunain ochr yn ochr â rhai Gweinidogion Cymru, er mwyn diwygio unrhyw ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig, mae hyd yn oed yn ymddangos y bydd Gweinidogion y DU yn gallu diwygio deddfwriaeth o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol i egluro beth maen nhw'n ei wneud a pham. Unwaith eto, ers cyhoeddi'r Bil hwn cawsom wybod y bydd Gweinidogion y DU yn defnyddio pwerau o'r fath ar ôl ymgynghori—ymgynghori—â Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Ond does dim byd yn y Bil hynod gymhleth hwn i ddweud hynny, a byddai hyd yn oed hynny'n annigonol. Ac os yw hynny'n wir, ni allaf weld pam y byddai'n fwy anodd, yn achos rheoliadau'r UE sydd angen yr un ateb ar draws y DU, i Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig gytuno ar y ffordd fwyaf priodol ymlaen, ac yna bob un yn ymgynghori'n briodol â'u deddfwrfeydd eu hunain. Yn sicr, dyna'r ymateb a’r dull gweithredu democrataidd.
Llywydd, rydym wedi mynegi’n glir iawn ein bod yn deall ac yn cefnogi'r syniad o Fil i ddarparu eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth i Brexit ddod i rym. Rydym yn derbyn, hefyd, y bydd angen gwneud rhai newidiadau fel bod y gyfraith bresennol yn ymarferol yn y cyd-destun newydd o’r DU y tu allan i’r UE. Rydym yn barod i chwarae ein rhan yn hynny. Roedd ein papur 'Brexit a Datganoli' yn cyflwyno dull clir ac ymarferol i'r cwestiwn o sut i sicrhau chwarae teg ar draws y DU o ran polisïau lle mae fframweithiau rheoleiddio'r UE ar hyn o bryd. Mae'r dull wedi derbyn cefnogaeth eang yn y Cynulliad hwn, gan sylwebyddion academaidd yn ogystal â chydweithwyr yn yr Alban. Ond, mae ymateb Llywodraeth y DU wedi bod yn gymysgedd o addewidion, ymddygiad nawddoglyd a diffyg parch. Mae arnom angen gwell na hynny.
Rydym yn dal heb gael gwybod a yw Llywodraeth y DU yn ystyried y dull yr ydym wedi ei gynnig yn un ymarferol, ac os na, pam ddim. Pam eu bod wedi dod i'r casgliad heb hyd yn oed geisio symud ymlaen trwy gytundeb mai dyna y maent am ei wneud? O ran y broses, nid yw’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a ddylai fod wedi cael rhan hanfodol yn hyn i gyd wedi cyfarfod ers mis Chwefror ac, o ganlyniad, nid yw goruchwylio datblygiad y Bil. Ar ben hynny, mae'r Bil wedi cael ei ddatblygu heb unrhyw ymgynghori priodol â Llywodraeth Cymru. A gaf i ddweud, nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o ddrafftio'r Bil? Mae hynny'n gwbl anghywir. Nid ydym wedi cael ymgynghoriad priodol naill ai ar lefel wleidyddol neu swyddogol, a dim ond yn ddiweddar iawn y cafodd darpariaethau drafft eu rhannu â'n swyddogion ar y sail na fyddai dim yn newid. 'Dyma’r hyn yr ydych yn ei gael a, gyda llaw, ni fydd dim yn newid o ganlyniad'. Mae'n hynod bwysig bod hynny'n cael ei ddeall. Nid yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, fel y dywedais yn gynharach, wedi bod yn rhan o ddrafftio'r Bil. Nid wyf yn credu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ceisio bod yn fwriadol gamarweiniol, ond mae'n dangos cymaint o draed moch yw’r cyfathrebu mewnol o fewn Llywodraeth y DU.
O ran sylwedd, fel yr eglurais, mae'r Bil yn annerbyniol ar ei ffurf bresennol yn y ffordd y mae'n ymdrin â datganoli. Pan ysgrifennais at y Prif Weinidog ar 12 Mehefin—ac nid wyf wedi cael ateb gan y Prif Weinidog i’r llythyr hwnnw—fe’i hanogais i beidio â dechrau brwydr â'r gweinyddiaethau datganoledig nad oedd ei hangen arni ar adeg pan, fel DU, yr oeddem yn wynebu heriau nas gwelwyd o'r blaen. Dim ymateb. Cafwyd ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond ni chafodd y llythyr, â phob parch, ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol; cafodd ei anfon at y Prif Weinidog ac ni ddaeth ateb.
Yn awr, gadewch i mi fod yn glir: byddwn yn mynd ati i frwydro i’r eithaf er mwyn atal rhannau annerbyniol o’r Bil hwn rhag bod yn gyfraith. Ni fyddwn yn argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ei fod yn darparu cydsyniad deddfwriaethol i Fil sy'n tanseilio ein pwerau ein hunain yn sylfaenol. Byddwn yn gweithio ar draws y Cynulliad ac â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i amddiffyn ein setliad datganoli. Ac, i'r perwyl hwn, rydym yn parhau i wneud gwaith dwys ar Fil parhad posibl, y byddwn yn ei gyflwyno os nad yw Llywodraeth y DU yn newid y Bil ymadael mewn modd sy’n mynd i'r afael â'n pryderon. Nid yw hyn yn ymwneud â cheisio atal, tanseilio neu gymhlethu Brexit. Mae'n ymwneud â gwrthsefyll ymgais i ail-ganoli pŵer i San Steffan a Whitehall a throi'r cloc yn ôl i'r 1980au. Felly, gofynnaf i'r Cynulliad cyfan ein cefnogi ni yn y frwydr hon i amddiffyn datganoli a hawl y sefydliad hwn a'i holl Aelodau i benderfynu polisïau priodol ar gyfer pobl Cymru ac, felly, gofynnaf i chi gefnogi'r cynnig hwn.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw. Neil Hamilton.
Diolch Llywydd. Mae’r Prif Weinidog yn aml yn dweud ei fod yn derbyn canlyniad y refferendwm, ond, wrth gwrs, nid ydyw’n ei dderbyn mewn gwirionedd. Mae'n debyg i’r milwyr hynny o Japan yr oeddent i’w canfod yn achlysurol yn y jyngl yn Borneo flynyddoedd wedi 1945 yn dal i ymladd y rhyfel fel petai heb ddod i ben. Mae hwn yn gyfle arall i Brif Weinidog Cymru fod yn rhodresgar ar fater lle mae'r Cymry wedi pleidleisio yn wahanol iddo ef yn ymgyrch y refferendwm. Nid oes dim yn y Bil a fydd yn lleihau pwerau'r Cynulliad hwn, nac yn tanseilio'r setliad datganoli. Yr hyn yr ydym yn ei wneud drwy gyfrwng y Bil hwn mewn gwirionedd yw datganoli pwerau o Frwsel i San Steffan ac, yn y pen draw, i Gaerdydd, a’u datganoli oddi wrth bobl yr ydym nid yn unig ddim yn eu hethol ac na allwn eu diswyddo, ond bobl na allwn hyd yn oed eu henwi—y bobl sy'n gwneud y penderfyniadau yn y pen draw yn yr UE drwy brosesau didraidd— [Torri ar draws.] —prosesau didraidd sy'n wahanol iawn i brosesau sefydliad democrataidd fel hwn.
Heddiw soniodd y Prif Weinidog yn ei gyflwyniad i’w araith am y siarter hawliau sylfaenol. Mae hwn yn enghraifft dda iawn o hyn. Pan oedd Tony Blair yn Brif Weinidog, hon, gyda llaw, oedd y ddogfen a ddisgrifiwyd gan y Gweinidog dros Ewrop ar y pryd, Mr Keith Vaz, fel un oedd heb fwy o rym rhwymo mewn cyfraith na 'The Beano'. Dywedodd hynny yn 2000, ac eto i gyd wedyn penderfynodd y Llys Ewropeaidd ei fod mewn gwirionedd yn ein rhwymo mewn cyfraith Ewropeaidd, ac eto roedd Tony Blair wedi dweud yn gwbl bendant yn 2007, 'Gadewch i ni wneud yn gwbl glir ein bod wedi sicrhau optio allan o'r siarter’—optio allan a oedd yn ffug. Felly, yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud, wrth gwrs, yw ceisio ymgynefino â phenderfyniad a wnaed ychydig dros flwyddyn yn ôl nad oedd ef yn ei gymeradwyo.
Yng nghymal 11 y Bil dywedir nad oes dim y gallai’r sefydliad hwn ei wneud cyn ymadael na fydd yn gallu ei wneud yn y dyfodol. Ac oes, wrth gwrs, mae cyfnod o drawsnewid. Mae’r Prif Weinidog bob amser yn dweud bod y broses o gyflwyno Brexit mor gymhleth fel bod angen cyfnod estynedig o newid er mwyn sicrhau hyn. Wel, mae hynny, i raddau, yn iawn, a dyna beth mae’r Bil hwn yn ei gynnig. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ar sawl achlysur, a Gweinidogion eraill, gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud sawl gwaith nad oes unrhyw fwriad ar ran Llywodraeth y DU i danseilio neu dynnu oddi wrth y setliad datganoli. Ar 29 Mawrth eleni, dywedodd y Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin, ni fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu tynnu oddi wrthynt.
Yn awr, mae hwnnw’n ddatganiad pendant, ac ni welaf unrhyw dystiolaeth o gwbl dros ddweud nad oedd y Prif Weinidog yn bwriadu i hynny gael ei wneud ac nid yw'n bwriadu hynny yn awr chwaith. Yn wir, ffansïol yw dychmygu y gallai newid trychinebus o'r math y mae’r Prif Weinidog yn ei ofni ddigwydd heddiw. Mae'n cwyno na allwn ymddiried yn y Llywodraeth. Wel, ni allwn ymddiried yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi fel tai'r Senedd. Wel, mae hynny'n wir am y setliad datganoli presennol. Mae bob amser wedi bod yn bosibl i Senedd y Deyrnas Unedig ddiddymu holl ddeddfau datganoli os yw'n dymuno, ond nid oes neb o ddifrif yn disgwyl i’r canlyniad hwnnw godi byth, yn sicr nid yn ystod ein hoes ni. Felly, mae hwn yn argyfwng cyfan gwbl ffug a gynhyrchwyd er mantais wleidyddol dros dro fel y mae’r Prif Weinidog yn ei weld.
Mae'r broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn mynd i fod yn un gymhleth oherwydd swm y ddeddfwriaeth a gynhyrchwyd gan yr UE, fel arfer trwy ddulliau hollol annemocrataidd, dros y 44 mlynedd diwethaf. Mae rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd—a darddodd yng Nghyngor y Gweinidogion, mae'n wir, ac y pleidleisiwyd arnynt gan Gyngor y Gweinidogion, ond nad oes gennym unrhyw reolaeth uniongyrchol drostynt o sefydliadau deddfwriaethol y Deyrnas Unedig—yn berthnasol i Gymru. O leiaf yn awr, drwy ddatganoli’r pwerau hyn dros dro i San Steffan ac, yn y pen draw, i Gaerdydd, y gwleidyddion sydd wedi cael eu hethol sy'n atebol am y penderfyniadau sy'n cael eu cymryd, a bydd gennym ffordd o gymryd rhan yn y broses. Rwy’n derbyn bod gan y Prif Weinidog bwynt pan ddywed y dylid fod wedi cael ymgynghoriad trylwyr rhwng Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru yn y misoedd diwethaf. Mae'n hollol gywir i ddweud hynny, ac rwy’n credu ei bod yn amharchus i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad hwn na wnaed hynny. Serch hynny, nid wyf yn credu y dylem ddrysu rhwng hynny â’r realiti gwleidyddol bod pobl Prydain, a phobl Cymru, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin y llynedd, ac mae'n rhaid cael proses ddeddfwriaethol i sicrhau hynny. Oherwydd swm y ddeddfwriaeth a chymhlethdod y ddeddfwriaeth dan sylw yma, nid oes modd gwneud yr holl newidiadau manwl yn yr amser byr sydd ar gael i ni cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd—
Rwy'n ofni na allaf. Rwyf dros amser yn barod ac mae'n rhaid i mi eistedd i lawr. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Prif Weinidog—
Rydych wedi ei ddweud. [Chwerthin.]
Do, yr hyn y byddwn yn dweud wrth y Prif Weinidog—i gloi, Llywydd. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Prif Weinidog, i gloi, yw: derbyniwch hyn, yn hytrach na cheisio brwydro yn ei erbyn, oherwydd ni fyddwch yn cael eich cymryd o ddifrif os byddwch yn parhau i geisio gwrthsefyll proses sy'n anochel ac y mae’r Cymry eu hunain wedi pleidleisio drosti.
Fe wnaf gloi drwy ddweud gadewch i ni ddod o hyd i atebion gyda'n gilydd. Mae'r Bil Ewropeaidd am Ymadael yn sicrhau, cyn belled ag y bo modd, y bydd yr un rheolau a chyfreithiau yn berthnasol ar y diwrnod ar ôl ymadael â’r diwrnod cynt, gan ddarparu'r sicrwydd a’r parhad mwyaf posibl i fusnesau, gweithwyr a defnyddwyr ledled y DU gyfan na fyddant yn ddarostyngedig i newidiadau annisgwyl, a sicrhau bod y llyfr statud yn gallu gweithredu ar y diwrnod ar ôl i ni adael yr UE. Mae'r Bil felly yn dechnegol eu natur, yn hytrach na chyfrwng ar gyfer newidiadau polisi mawr—gan wneud deddfwriaeth anymarferol yn ymarferol a rhoi pŵer â therfyn amser i Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i gywiro cyfreithiau drwy is-ddeddfwriaeth na fyddent fel arall yn gweithio'n iawn ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda phwerau yn mynd i Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig, a Gweinidogion y DU ond yn gallu gwneud newidiadau ar faterion datganoledig gyda chaniatâd.
Bydd y Bil hwn yn sicrhau y gall busnesau Cymru, gan gynnwys ffermwyr a chynhyrchwyr dur, barhau i fasnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd yn syth ar ôl i’r DU adael yr UE. Mae'r Bil hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i'r DU gyfan allu gwarantu egwyddorion yr UE er mwyn sicrhau bargen fasnachu gyda'r UE. Bydd yr un rheolau a chyfreithiau yn berthnasol i fusnesau a’r un hawliau i weithwyr wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Er y byddai'r Bil yn sicrhau cyfraith yr UE a gedwir y diwrnod ar ôl gadael yr UE, bydd hyn ond yn batrwm dros dro o fewn trefniant trosiannol a fydd yn rhoi sicrwydd ar ôl ymadael ac yn caniatáu ar gyfer trafodaethau dwys â Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol a'r gweinyddiaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig eraill ar fframweithiau cyffredin, er enghraifft, i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i weithio a masnachu o fewn y DU ac nad oes unrhyw risgiau i gytuno cytundebau masnach yn y dyfodol. O ganlyniad i—
A wnewch chi ildio?
Hefin.
A gaf i ofyn iddo ystyried? Ymddengys fod gwelliant UKIP yn fwy cefnogol i'r Llywodraeth Geidwadol na gwelliant y Ceidwadwyr. [Chwerthin.] A gaf i ofyn pa fath o falu awyr ddigwyddodd o fewn y grŵp Ceidwadol i gytuno iddo?
Wel, arhoswch i glywed gweddill fy araith. Nid wyf wedi trafod hyn gyda'r grŵp UKIP. [Chwerthin.] Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl y bydd cynnydd sylweddol ym mhŵer gwneud penderfyniadau pob gweinyddiaeth ddatganoledig. Gan fod y Bil yn effeithio ar bwerau’r gweinyddiaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig, bydd Llywodraeth y DU yn ceisio caniatâd y deddfwrfeydd datganoledig ar gyfer y Bil.
Mae'n anffodus bod y Prif Weinidog yn disgrifio'r Bil fel, ac rwy’n dyfynnu, 'cipio grym' ddydd Iau diwethaf, ac yna dywedodd y diwrnod wedyn fod Ysgrifennydd Cymru wedi ei sicrhau y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y sefyllfa yn dderbyniol pan oedd y sicrwydd hwn eisoes wedi'i ddarparu cyn iddo wneud ei ddatganiad 'cipio grym'. Fel y cadarnhaodd ffynhonnell Llywodraeth y DU yng Nghymru ddydd Iau diwethaf, roedd ei ymateb cychwynnol yn hollol wahanol i'r hyn yr oeddent yn ei weld mewn trafodaethau y tu ôl i'r llenni.
Fodd bynnag, gobeithio y bydd yn cefnogi ein gwelliant, sy'n cydnabod bod y Senedd a Chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, a dylid eu cynnwys yn llawn —
A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
[Yn parhau.] —â Theyrnas Unedig fywiog yn y dyfodol ar ôl Brexit. Mae'n ddrwg gen i, rwy'n brin o amser. Rwyf eisoes wedi cael un ymyriad.
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithio'n agos â gweinyddiaethau datganoledig i nodi meysydd nad oes angen fframweithiau cyffredin arnynt ac a allai, felly, gael eu rhyddhau o'r trefniant trosiannol. Tu hwnt i hynny, fodd bynnag, mae angen fframweithiau ar draws y DU sy'n parchu'r setliad datganoledig y cytunwyd arno. Wedi'r cyfan, os cytunir ar y fframweithiau, ni fydd unrhyw broblem gyfansoddiadol. Er nad yw’r Bil hwn yn cymryd cymwyseddau presennol yn ôl oddi wrth y Cynulliad, nid oes, fel y clywsom, ddyddiad terfyn ar gyfer y cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig a grëwyd gan fodel cyfraith yr UE a gedwir y bydd yn ei gyflwyno. Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y byddai hyn yn cael gwared ar gymhellion i Weinidogion Cymru gytuno ar fframwaith y DU. Ar y llaw arall ac mewn gwirionedd, fodd bynnag, rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn wedi galw'n gyson am fframwaith y cytunwyd arno. Felly nid oes unrhyw reswm pam na allai’r Bil ddatgan y byddai'r cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig yn dod i ben pan fydd fframweithiau y cytunwyd arnynt yn dod i rym. At hynny, er bod cytundebau rhyngwladol ym meysydd datganoledig amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd yn cael eu neilltuo i Lywodraeth y DU, mae'n rhaid i'r egwyddorion sy'n berthnasol i'r meysydd hyn ddarparu sylfaen ar gyfer cytundebau yn y dyfodol ar fframweithiau cyffredin rhwng Llywodraethau’r DU fel sail i unrhyw gytundeb masnach rydd.
Felly, mae'n hanfodol bod y Bil hwn yn mynd i'r afael â’r materion hyn ac eraill, ac rwy’n croesawu, felly, gadarnhad gan Lywodraeth y DU ar y mater o welliannau. Trefnwyd Ail Ddarlleniad y Bil ar gyfer tymor yr hydref yn San Steffan, yn benodol er mwyn rhoi amser i’r gweinyddiaethau datganoledig fynd drwy'r Bil yn fanwl yn ystod yr haf. Felly, gadewch i ni fynd trwy'r Bil hwnnw mewn modd cyfrifol, nodi'r gwelliannau y gallwn i gyd gytuno arnynt, ac ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r Senedd i’w cyflwyno nhw ar yr Ail Ddarlleniad. Diolch.
Mae'r ddadl hon yn digwydd ar frys. Ni ddylem fod dan unrhyw gamargraff ynglŷn â Bil ymadael â’r UE Llywodraeth y DU—a gafodd ei alw’n Fil diddymu. Nid yw’n ddim llai nag ymgais i dynhau gafael Llundain ar Gymru. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn fater o benderfynu sut i weithredu pleidlais refferendwm. Mae'n rhaid i ni i gyd gofio hefyd y bu dau refferendwm ar ddatganoli, Ym 1997 ac yn 2011 ymladdodd fy mhlaid yn galed yn rhan o’r ymgyrchoedd hynny, ar roedd y ddau yn llwyddiannus. Mae pobl yng Nghymru wedi pleidleisio ddwywaith i rymuso ein democratiaeth Gymreig ein hunain a'n sefydliadau cenedlaethol ein hunain. Mae'r Bil ymadael â’r UE yn diystyru ac yn deddfu yn erbyn y pleidleisiau hynny mewn ffordd sy'n annerbyniol.
Lle mae'n rhaid i fframweithiau ar gyfer gweithredu marchnad y DU fodoli, dylid cyd-benderfynu arnynt gan y Llywodraethau datganoledig. Mae gennym ddiddordeb clir mewn amaethyddiaeth, mewn diogelu'r amgylchedd, mewn cronfeydd strwythurol ac mewn meysydd eraill o reoleiddio sydd o fudd i bobl yn ein cymdeithas. Rhaid rhoi sylw clir i lais Cymru wrth benderfynu sut mae fframweithiau a phwerau newydd a'r rhai sy'n dychwelyd yn gweithredu, ac ni ddylai’r pwerau hynny gael eu rhyng-gipio gan San Steffan a'u gosod mewn rhyw fath o batrwm dros dro amhenodol lle mai ymddiried yn ewyllys da Whitehall fydd ein hunig amddiffyniad
Rydym yn dibynnu ar air y Llywodraeth mai dim ond trefniant dros dro fydd hwn. Fel y clywsom, nid oes cymal machlud yn y Bil i gyfraith yr UE a gedwir sy'n dod o dan gymwyseddau datganoledig. Nid oes darpariaeth ychwaith yn y Bil i ganiatáu i weinyddiaethau datganoledig ddod i gytundeb ffurfiol â Llywodraeth y DU. Ymddengys fod pob un o'r materion hynny yn amodol ar drafodaethau dwyochrog a byddant yn cael eu datrys yn ôl disgresiwn Llywodraeth y DU.
Felly, beth all y Cynulliad hwn ei wneud yn ymarferol? Mae cynnwys Bil parhad yn y cynnig hwn yn hanfodol. Mae Plaid Cymru yn credu ei bod yn hanfodol bod gennym Fil o'r fath i ddiogelu statws cyfansoddiadol Cymru. Mae'n haeddu cael ei ailadrodd ar gyfer y cofnod fod fy nghydweithiwr Steffan Lewis o blaid y Bil hwn gyntaf yn ôl ym mis Tachwedd 2016. Roedd hyn cyn i Bapur Gwyn y Bil diddymu gan Lywodraeth y DU gael ei gyhoeddi. Hyd yn oed cyn i fwriadau Llywodraeth y DU ddod yn amlwg, roedd Plaid Cymru yn credu y dylid cymryd camau i sicrhau bod modd cadw fframweithiau rheoleiddio’r UE yng nghyfraith Cymru. Cymerwyd y safbwynt hwnnw oherwydd ein bod yn rhagweld beth fyddai bwriadau Llywodraeth y DU. Eglurwyd y bwriadau hynny ym Mhapur Gwyn Bil diddymu Llywodraeth y DU, a basiwyd yn ystod y gwanwyn diwethaf, ond mae'n deg dweud bod Plaid Cymru wedi gweld y bygythiad hwn yn dod.
Felly, wrth gefnogi'r cynnig hwn, mae Plaid Cymru yn gryf o'r farn y byddai’r wlad hon mewn sefyllfa gryfach heddiw pe byddai Bil parhad eisoes wedi cael ei osod. Ond rydym yn y sefyllfa yr ydym ynddi, ac felly mae'n hanfodol bod y Bil hwn yn cael ei ddatblygu a'i gyhoeddi yn awr heb oedi pellach. Wrth gefnogi'r cynnig heddiw, mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen a chyhoeddi’r Bil.
Mae'r cynnig hefyd yn ei gwneud yn glir y byddai camau eraill yn cael eu cymryd pe bai Llywodraeth y DU yn parhau i fynd i lawr y llwybr hwn. Mae'n rhaid i bob llwybr seneddol, llywodraethol a chyfreithiol gael ei ddilyn er mwyn eu dal i gyfrif. Ni allwn gael math penodol o ymadael â’r UE lle mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn, Senedd Cymru’r dyfodol, yn cael ei danseilio neu ei fychanu, a gwn fod gwledydd datganoledig eraill yn teimlo'r un fath. Mae'n werth ystyried a chydnabod ei bod yn bosibl nad yw’r materion technegol a chyfansoddiadol hyn yn destun sgwrs yn y dafarn, ar y stryd neu yn y gweithle. Mae hynny'n ddigon teg. Ond mae pobl yng Nghymru yn disgwyl cael parch i’w gwlad ac i gael gwrandawiad. Rhaid bod cymryd rheolaeth yn ôl yn golygu pwerau yn dod i Gymru, ac i ni mae'n rhaid i hyn olygu bod yn rhaid i San Steffan drin y wlad hon gyda'r parch yr ydym yn ei haeddu.
Y drafferth gyda Bil hwn yw nad yw'n ymwneud ag ymadael â’r UE, ond mae'n ymwneud â thynnu'n ôl oddi wrth y setliad datganoli. Gadewch i ni fod yn glir: byddai wedi bod yn gwbl bosibl i Lywodraeth y DU gyflwyno Bil sy'n mynd â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd tra hefyd yn parchu trefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Ond yr hyn a wna'r Bil mewn gwirionedd yw datgelu dau beth: yn gyntaf, yn anffodus, natur fregus ein setliad datganoli, ac yn ail, ein bod yn dal ynghlwm wrth yr hyn sydd erbyn hyn yn safbwynt hollol hen ffasiwn o oruchafiaeth seneddol. Mae gennym sefyllfa lle mae Senedd y DU yn deddfu i roi pwerau i Weinidogion Cymru. Nawr, rydym yn cydnabod—ac roedd y pwyllgor materion allanol yn ei drafodaethau yn cydnabod hyn yn benodol—y gallai cyfyngiadau amser a chyfyngiadau ymarferol olygu bod hynny’n angenrheidiol. Ond dylai Llywodraeth y DU, os yw'n gweithredu ar ran y Siambr hon wrth gymryd y camau hynny, wneud hynny yn unol â gofynion ac ystyriaethau’r Cynulliad hwn, ac nid oes dim yn y Bil sy'n darparu ar gyfer hynny.
Mae goruchafiaeth Seneddol yn gysyniad ar gyfer oes arall, ac yn yr oes ddemocrataidd hon, lle mae pobl Cymru wedi mynegi barn yn glir mewn refferendwm y dylai’r corff hwn gael pwerau deddfu sylfaenol, ni ddylai hyn gael ei roi o'r neilltu gan Senedd y DU mewn unrhyw ffordd , ac yn sicr ni ddylai gael ei roi o'r neilltu gan Weinidogion y DU. Eto i gyd, dyna beth y mae'r Bil yn ei wneud. Wrth wneud hynny, mae'n mynd â ni ymhell y tu hwnt hyd yn oed i’r syniad o sofraniaeth seneddol, gan roi'r gallu i Weinidogion y DU ddiwygio deddfwriaeth ddatganoledig a basiwyd yn ddemocrataidd yn y Cynulliad—yn wir, yn groes i'r hyn a ddywedodd Mark Isherwood, heb y gofyniad i gael caniatâd. Nid yw'n syndod i mi fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn frwd dros y Bil hwn. Mae'n ei droi ef yn rhaglaw, a dweud y gwir.
Rydym yn edrych ar sefyllfa nid yn unig lle mae gan y Cynulliad hwn bwerau sy’n cael eu tynnu oddi arnynt neu ddeddfwriaeth sy’n cael ei diwygio gan Weinidogion y DU, ond mae dan anfantais yn erbyn yr hyn yw Senedd Lloegr wrth weithredu mewn cysylltiad â materion a gedwir. Ni all Cynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon newid y ddeddfwriaeth cyn-Brexit y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â hi, ac eto i gyd nid yw Senedd Lloegr, wrth neidio ar gefn sofraniaeth seneddol Senedd y DU, i bob pwrpas, yn cael ei chyfyngu yn y modd hwnnw. Felly mae annhegwch sylfaenol yn rhan o ddarpariaethau'r Ddeddf hon. Pa gyfiawnhad posibl allai fod yn bosibl i ni dderbyn y diffyg tegwch cyfansoddiadol hwnnw?
Yn olaf, ar y cwestiwn o Ddeddf parhad, rwy’nn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno hynny cyn gynted ag bo modd. Rwy'n credu ei fod yn gyfle i ni ddatgan ein barn am y pwerau yr ydym yn eu cadw yn y lle hwn, ond mae hefyd yn gyfle i ni fynnu gweledigaeth arall, ac un nad yw'n cael ei seilio’n bennaf ar y syniad hen ffasiwn o sofraniaeth seneddol ond ar natur gyfansoddiadol ac atodolrwydd.
Gadewch i ni fod yn glir: mae cynigion Llafur a Phlaid ynghylch Brexit, gan gynnwys y Bil parhad hwn, yn ymgais i aros yn yr UE mewn popeth ond enw gan y rhai a ymgyrchodd i aros yn yr UE ac nad ydynt yn barod i dderbyn y canlyniad a llais mwyafrif y pleidleiswyr yng Nghymru. Ond ymddengys fod yr ochr 'aros' yn anghofio eu llwybr ymosod ar adegau. Mewn un anadl, byddant yn dweud na ellir cyfiawnhau gadael y farchnad sengl gan fod y diffyg cwestiwn refferendwm manwl yn golygu nad oes neb yn gwybod beth yw barn y cyhoedd, ac eto yn yr anadl nesaf maent yn honni eu bod yn gwybod na wnaeth pobl bleidleisio am fwy o reolaethau ar fewnfudo. Mae Llafur a'r arhoswyr eraill hefyd yn hoff iawn o'r ddadl bod ein sector nyrsio, gofal cymdeithasol, milfeddygol ac eraill yn dibynnu ar lafur mewnfudwyr, ond mae’r ddibyniaeth honno yn gynhenid, wedi’i hachosi gan lywodraethau olynol yn y DU ac yng Nghymru yn methu’n druenus ag ariannu'r hyfforddiant ar gyfer ein pobl ein hunain i wneud y gwaith hwn.
Gwnaeth Prif Weinidog Cymru, yn ei ddadl â Nigel Farage, egluro sawl gwaith y byddai pleidlais i adael yr UE yn golygu gadael—gadael—y farchnad sengl. A all y Prif Weinidog a'r arhoswyr yn y lle hwn am eiliad yn unig dderbyn efallai bod pobl wedi clywed yr hyn oedd ganddo i'w ddweud am adael y farchnad sengl, ond yn syml yn anghytuno ag ef? [Torri ar draws.] Na. Roedd Mr Jones yn arfer meddwl—ac yn dal i feddwl—y byddai llawer o'r penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yn well gan was sifil yn Ewrop na’i Lywodraeth Lafur Cymru ef ei hun. Er fy mod yn cytuno ag ef na ddylid gadael penderfyniadau pwysig i Lafur, nid wyf yn credu y dylent gael eu gadael i'r UE chwaith. Mae Llafur wedi gwneud cawl o bopeth sydd wedi cael ei ddatganoli i'r lle hwn hyd yn hyn, boed yn addysg, y GIG neu dai. Ond mae hwn yn fater o atebolrwydd democrataidd, a'r gallu i ddiswyddo’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau gwael. Os yw’r gwneuthurwr penderfyniadau hunanfodlon, sydd allan o gysylltiad a heb unrhyw ddealltwriaeth o sut beth yw bywyd i’r person cyffredin yng Nghymru, yn gwneud camgymeriadau’n gyson, gall pobl roi'r gorau i bleidleisio Llafur a gadael i rywun arall roi cynnig arni, ond dim ond ar faterion datganoledig i’r fan hyn, neu mewn etholiadau cyffredinol ar gyfer materion sy'n dal yn gymwyseddau’r DU.
Mae'r cynnig Bil parhad yn enghraifft arall o Lafur yn penderfynu eu bod yn gwybod orau ac yn anwybyddu ewyllys y Cymry: y byddwn eisiau aros yn rhan o'r DU, gan gael rhai penderfyniadau wedi’u gwneud ar lefel y DU gyfan, ond i adael yr UE. Mae Llafur a Phlaid am i ni aros yn yr UE a'r Bil parhad yw eu ffordd o ymdrin â'r dicter yr oeddent yn ei deimlo pan ddaeth yn amlwg nad oedd yr etholwyr yn cytuno â nhw. Mae Llafur yn anwybyddu dymuniadau'r pleidleiswyr yn syml oherwydd bod y pleidleiswyr wedi anwybyddu dymuniadau Lafur. Ni all Carwyn Jones a'r arhoswyr eraill yn y lle hwn ddweud un eiliad nad oedd yr etholiad cyffredinol yn ymwneud â Brexit, fel y gwnaeth cyn y diwrnod pleidleisio, ac yna’r eiliad nesaf ddefnyddio’r canlyniad a dweud bod y pleidleiswyr wedi gwrthod gwir Brexit wedyn.
Pa mor galed bynnag y mae’r pleidiau eraill yn ymdrechu i blygu canlyniadau'r etholiad a’u haddasu i’w syniadaeth nhw eu hun, ni allwch wadu’r ffaith fod mwyafrif pobl Cymru yn cytuno ag UKIP pan mae’r drafodaeth yn ymwneud â Brexit. Soniodd y Prif Weinidog y byddai'n golygu gadael y farchnad sengl, ac roedd y llyfryn propaganda a anfonwyd allan gan y Llywodraeth Dorïaidd ar ran y fintai 'aros' yn gwneud cyfeiriad at adael y farchnad sengl ar y rhan fwyaf o’i dudalennau wrth godi bwganod. Os ydych yn dweud na allwn wybod yn union beth yr oedd pobl yn pleidleisio drosto oherwydd bod y cwestiwn yn brin o fanylion, yna mae'n rhaid i ni fynd yn ddiofyn i’r rhagdybiaeth symlaf, sef bod y bleidlais i adael yn golygu hynny’n union: pleidlais i adael yn gyfan gwbl. Pe byddai pleidleisiwr wedi bod eisiau cadw unrhyw ran o aelodaeth o'r UE, boed hynny yn rhyddid i symud neu aelodaeth o'r farchnad sengl neu unrhyw beth arall, byddent wedi pleidleisio i aros. Ond ni wnaethant. Roedd y bobl eisiau gadael, gyda'r holl ganlyniadau yr oedd hynny yn ei olygu.
Mae’r Bil parhad—cam tuag at gadw aelodaeth o’r farchnad sengl, yn fy marn i—gan gynnwys ei holl reolau a chyflwyno i'r llys Ewropeaidd— [Torri ar draws.] Cawn weld. Cawn weld. Ni wnaeth y bobl bleidleisio i’r UE barhau i wneud ein cyfreithiau drwy'r drws cefn drwy Fil parhad. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dweud ei bod yn sefyll dros bobl sy'n gweithio, ond mae difa popeth sydd wedi cael ei ddatganoli iddi yn frad sy'n dangos mai’r unig beth y mae gwleidyddion Llafur a Phlaid mewn gwirionedd yn sefyll o’i blaid yw etholiad. Diolch.
Croesawaf y ddadl hon y mae angen ei thrafod yn fawr yng ngoleuni cyhoeddi'r Bil ymadael â’r UE, a elwid gynt y Bil diddymu, a elwid gynt y Bil diddymu mawr. O'r cychwyn cyntaf, wrth gwrs, nid oes gan Blaid Cymru unrhyw broblem gyda'r egwyddor o Ddeddf sy'n trosglwyddo i awdurdodaethau’r DU holl ddeddfau a rheoliadau’r UE, fel nad ydym ar ddiwrnod gwahanu yn syrthio dros ymyl y clogwyn. Dewis Plaid Cymru ar gyfer y broses honno, fodd bynnag, oedd negodi ar unwaith i ddechrau ar ôl y refferendwm rhwng Llywodraethau'r ynysoedd hyn i gytuno ar fframwaith deddfwriaethol fel y gellid trosglwyddo deddfau'r UE yn ddomestig mewn ffordd sy'n cynnal ac yn parchu trefniadau cyfansoddiadol ein gwledydd. Gallai hyn fod wedi cael ei gwblhau cyn sbarduno erthygl 50, wrth gwrs.
Mae nifer o gymalau yn y Bil ymadael â’r UE sy'n achosi pryder mawr, ond o bryder arbennig, yn amlwg, y mae cymal 11, sy'n ymwneud â datganoli, a chymalau 7 (1) a 7 (2). Ni ddylai Cymal 11 fod yn syndod i neb, yn anffodus. Mae'n diwygio ein cyfansoddiad er mwyn sicrhau nad oes gan ein Senedd unrhyw gymhwysedd dros reoliadau’r UE a fyddai fel arall yn dod yn awtomatig o fewn ein cymhwysedd ar ddiwrnod gwahanu. Rhoddwyd rhybudd i ni am y bwriad hwn ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU. Yn y Papur Gwyn, roeddent yn fwriadol yn cam-gyfleu trefniadau presennol ar gyfer cytuno ar fframweithiau’r UE fel modd o osod y seiliau ar gyfer y cipio pŵer y maent bellach yn bwriadu ei lunio mewn cyfraith.
Llywydd, rwy’n cofio llawer o ddathlu yn y Siambr hon pan ddaeth y Bil Cymru diwethaf yn Ddeddf oherwydd ymgorffori confensiwn Sewel yn ein cyfansoddiad. Mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) wedi cael gwared ag unrhyw amheuaeth, os oedd un yn bodoli, nad yw'n werth y papur y mae wedi’i ysgrifennu arno. Mae San Steffan yn oruchaf, a gellir diystyru dau refferendwm datganoli yng Nghymru gan un cymal mewn un Bil yn San Steffan.
Ond er mor annerbyniol yw cymal 11, ni ddylem golli golwg ar gymalau 7 (1) a 7 (2), a byddwn yn annog y Prif Weinidog i beidio â gadael i’w sylw gael ei dynnu gan gymal 11 yn unig. Hyd yn oed pe byddai cymal 11 yn cael ei dynnu oddi yno, mae’r pwerau dirprwyedig i Weinidogion y DU yn 7 (1) a 7 (2) mor bellgyrhaeddol ac eang y gall Gweinidogion y DU gyhoeddi rheoliadau ac, yn wir, ddiwygio neu ddiddymu unrhyw gyfraith, fel y gwelant yn dda, a basiwyd gan unrhyw Senedd yn y Deyrnas Unedig er mwyn lliniaru unrhyw fethiant neu ddiffyg, fel y maent yn ei weld, mewn cyfraith Undeb Ewropeaidd a gedwir.
Mae hynny'n caniatáu ar gyfer gosod cyrff newydd, polisïau newydd a rheoliadau newydd ar faterion sy'n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Rwy’n disgwyl y bydd y pwerau hyn, hefyd, yn cael eu defnyddio i ddiwygio elfennau o'r 759 cytuniad rhyngwladol na fydd gan y DU mwyach ran uniongyrchol ynddynt o’r diwrnod gwahanu ymlaen. O'r 759 cytundeb hynny, mae 34 yn ymwneud â bwyd ac amaeth, 69 â physgodfeydd, 65 â thrafnidiaeth, 202 â chydweithrediad rheoleiddio a 295 â masnach—bob un o'r rhain naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn cyfansoddiad presennol Cymru.
Croesawaf y ffaith bod y cynnig heddiw yn ein hymrwymo ni i gyhoeddi Bil parhad i Gymru, ac nid wyf yn tanbrisio am funud arwyddocâd yr ymdrech honno. Rwy'n siomedig na chafodd Bil fframwaith ar gyfer Bil parhad ei gyhoeddi y llynedd—pwy a ŵyr, gallai fod wedi codi’r arian betio gwleidyddol i lefel lle gallai Llywodraeth y DU fod wedi meddwl ddwywaith am gyhoeddi'r Bil nonsens a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn flaenorol, wrth gwrs, wedi cyhoeddi Bil Cymru amgen gydag amcan gwleidyddol clir, a gallai Bil parhad wneud rhywbeth tebyg, yn ogystal â mynd i'r afael â'r budd ymarferol o ddarparu eglurder a dilyniant i ddinasyddion Cymru, sectorau allweddol o'n heconomi a’n cymunedau ar ôl diwrnod gwahanu. Byddai peidio â gwneud hynny—peidio â bwrw ymlaen â'r Bil parhad—yn fy marn i yn esgeuluso ein dyletswydd i gynnal dymuniadau clir pobl Cymru o ran sut y maent yn penderfynu y maent yn dymuno cael eu llywodraethu. Rydym wedi aros 600 mlynedd am hunanlywodraeth. Ni allwn ganiatáu iddo gael ei erydu o fewn y chwe mis nesaf gan giwed yn San Steffan heb unrhyw fandad i wneud hynny.
Gadewch i mi yn y lle cyntaf ailadrodd ymrwymiad llwyr a diamod ACau UKIP i gael unrhyw bwerau datganoledig sy'n dychwelyd o Ewrop wedi’u pasio i gyd i'r Cynulliad hwn. Fodd bynnag, rwy’n ei chael yn eithaf annealladwy bod dwy blaid yn y Cynulliad hwn sydd wedi bod mor groch o ran y cipio pwerau hynny sydd i'w datganoli i'r DU o Ewrop, pan maent yn eithaf bodlon gadael i’r union bwerau hynny fyw ym Mrwsel hyd dragwyddoldeb. Mae hyn er gwaethaf y ffaith nad oes ond—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar iddo am ildio. Bydd yn gwybod, wrth gwrs, ar hyn o bryd, yng Nghyngor y Gweinidogion, mae Gweinidogion Cymru yn annerch Cyngor Gweinidogion Ewrop a chytunir ar fframweithiau Ewropeaidd ar y cyd rhwng yr aelod-wladwriaethau, gyda Llywodraethau datganoledig yn cael swyddogaeth. O dan y bartneriaeth wych o rai cyfartal sydd gennym yn yr ynysoedd hyn, ni fydd gan ein Llywodraeth unrhyw lais mewn unrhyw reoliad neu fframwaith y DU yn y dyfodol y maent yn penderfynu eu gosod arnom.
Wel, arhoswch funud. Does dim ond un o bob 27 cyn belled ag y mae'r Comisiwn yn ymwneud â Llywodraeth y DU yn Ewrop, ac mae’r Comisiwn, fel y gwyddoch, yn gwneud yr holl benderfyniadau o ran pwerau a fydd yn dod allan o'r Ewrop ac yn effeithio ar bobl Cymru.
Mae hyn er gwaethaf y ffaith—a byddaf yn mynd ymlaen i wneud y pwynt hwn—mae hyn er gwaethaf y ffaith mai dim ond pedwar ASE cynrychioliadol oedd gennym mewn Senedd annemocrataidd yn yr UE, yn hytrach na 40 o gynrychiolwyr yn San Steffan, Senedd ddemocrataidd—y mwyafrif ohonynt fe nodaf, yn ASau Llafur. Ac mae hyn i gyd yn erbyn cefndir tymor olaf Senedd Ewrop, pan bleidleiswyd yn erbyn pob un o'r 14 gwelliant i Ddeddfau Ewropeaidd a osodwyd gan UKIP, a fyddai wedi bod o fantais i Gymru, gan ASEau Llafur a Phlaid trwy ragfarn plaid wleidyddol yn unig. Rwy'n ofni bod rhethreg y Blaid Lafur a Phlaid ar y materion hyn yn eiriau gwag amlwg.
Tua blwyddyn yn ôl—blwyddyn yn ôl i’r wythnos nesaf—cymerais ran mewn dadl ar stondin y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yn Sioe Frenhinol Cymru gydag arweinydd UKIP, Neil Hamilton, lle’r oeddwn yn nodi’n glir iawn bod Plaid Cymru yn cytuno â'r angen am fframweithiau’r DU wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn awyddus i weithio i adeiladu’r fframweithiau hynny ar gyfer amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd. Ond, gadewch i ni fod yn glir: nid yw’r Bil hwn yn cyflwyno fframwaith; mae'n darparu arddodi. Nid oes dim yn bradychu cymhellion y rhai a oedd am fynd â ni allan o'r UE yn well na'r dull o adael yr UE, gan eu bod wedi achub ar bob cyfle i beidio â datrys materion, fel y mae’r Blaid Geidwadol yn ei honni, nid i ddatrys ansicrwydd, ond i greu dryswch, i hau a chuddio eu diffyg cynllun, eu diffyg uchelgais a’u diffyg syniadau, ac, yn syml, i dynnu pŵer yn ôl o'r Senedd hon.
Mae hwn yn mynd i fod yn un o'r Bilau pwysicaf y bydd y Senedd yn San Steffan yn ei ystyried am rai degawdau. Mae'n sicr yn Fil pwysig i ni ei ystyried, ond gadewch i ni gymryd trosolwg o'r Bil. Os ydym yn seneddwyr yma, ac rwy’n gobeithio ein bod i gyd, yna'r egwyddor sylfaenol yw bod y Senedd yn gwneud y gyfraith ac mae Llywodraeth yn gweinyddu'r gyfraith yn unol â barn y Senedd. Rhaid cyfaddef, o bryd i'w gilydd, byddwch yn dirprwyo pwerau i Weinidogion drwy ddeddfwriaeth ddirprwyedig benodol, ond yr hyn sy’n drawiadol am y Bil hwn yw nerth a chwmpas y pwerau a roddwyd yn uniongyrchol i Weinidogion. Mae'r rhain yn cynnwys y pwerau Harri’r VIII enwog sydd nid yn unig yn ceisio diwygio neu ddiddymu cyfraith yr UE a gedwir, ond Ddeddfau Seneddol eraill a Deddfau’r Senedd hon hefyd. Mae hynny’n mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn a fynnir o unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus.
Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi a ddywedodd mewn adroddiad diweddar ei fod yn ofni y byddai’r Bil, pan gâi ei gyhoeddi, yn peri ‘trosglwyddiad enfawr’—eu dyfyniad nhw—‘trosglwyddiad enfawr’ o bŵer o'r Senedd i'r Llywodraeth. Dyna'n union y mae’r Bil hwn yn ei wneud, ond nid dim ond o Senedd San Steffan i Lywodraeth San Steffan, ond o’r Senedd hon i Lywodraeth San Steffan.
A phryd oedd y tro diwethaf y cafodd darn o offeryn statudol ei wrthod gan Senedd San Steffan? Pryd oedd y tro diwethaf y cafwyd craffu ar y darnau hyn o is-ddeddfwriaeth ddirprwyedig ac y’u gwrthodwyd gan San Steffan? Wel, byddaf yn dweud wrthych pryd: 1979. Dyna oedd y tro diwethaf i offeryn statudol gael ei wrthod. Rydym wedi gwrthod offerynnau statudol yma, ond dyna'r tro diwethaf i San Steffan eu gwrthod. Felly, rydych yn rhoi’r holl bŵer hwn i Weinidogion San Steffan heb unrhyw reolaeth; i bob pwrpas, dim rheolaeth seneddol. Ac, wrth gwrs, mae'r Bil yn codi materion gwirioneddol yma, ac yma rwy’n credu mai’r peth gorau y gallaf ei wneud yw dyfynnu o ddadansoddiad cyfraith gyhoeddus y Bil. Ac rwy’n dyfynnu i ddechrau:
Ar hyn o bryd, mae deddfwrfeydd datganoledig yn cael eu gwahardd rhag gwneud pethau sy'n torri cyfraith yr UE— sydd wedi’i ysgrifennu yn ein Deddfau Cymru sylfaenol ni wrth gwrs— hyd yn oed os yw’r peth y maent yn dymuno ei wneud yn ymwneud â phwnc sydd wedi'i ddatganoli. Pan fydd y DU yn gadael yr UE, yn ddiofyn, bydd y cyfyngiad hwnnw yn mynd—i bob pwrpas gan achosi pwerau i lifo o Frwsel i'r prifddinasoedd datganoledig .... Ond— mae’r dadansoddiad yn parhau mae’r Bil yn codi gwyriad, yn darparu bod pwerau a ddychwelwyd, hyd yn oed pan maent yn ymwneud â phynciau datganoledig, yn lle hynny yn mynd i Lundain.
Nid dadansoddiad Plaid Cymru yw hynny. Nid dadansoddiad y Blaid Lafur yw hynny. Dyna ddadansoddiad athro cyfraith gyhoeddus o'r hyn y mae’r Bil hwn yn ei wneud. A dyna pam, wrth gwrs, mae angen cymal—wel, nid wyf i ei angen—ond dyna pam y mae'r Ceidwadwyr eisiau cymal 11 yn y Bil. Os nad oedd y Bil yn gwneud unrhyw beth, os nad oedd gadael yr UE yn adennill y pwerau hyn yn uniongyrchol i ni, pam rhoi cymal 11 i mewn yna? Rydych ond yn rhoi cymal 11 i mewn yna, oherwydd eich bod yn gwybod yn iawn beth sy'n mynd i ddigwydd pan fyddwn yn gadael yr UE. Ni fydd y pwerau hynny yn stopio yn rhif 10 neu rif 11 Downing Street, neu unrhyw le yn Whitehall; byddant yn dod yn syth i lawr y Tafwys, drwy'r Cotswolds ac yn syth i lawr afon Hafren atom ni. Dyna beth fydd yn digwydd mewn gwirionedd. Dyna pam mae cymal 11 yno, gan fod y Llywodraeth Geidwadol yn gwybod beth fyddai'n digwydd.
Gadewch i ni droi yn fyr iawn at effaith amgylcheddol hyn. Os byddwn yn caniatáu i’r Bil hwn fynd drwyddo yn ei ffurf bresennol, Michael Gove fydd yn penderfynu ar yr amgylchedd ac amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Gellid yn hawdd penderfynu ar gnydau GM, na chaniateir ar hyn o bryd yng Nghymru trwy fframwaith yr UE, drwy'r fframwaith hwn. Gellid yn hawdd ganiatáu neonicotinoids, y plaladdwyr gwenyn a waharddwyd ers 2011. Mae Michael Gove yn awyddus i ddod â nhw yn ôl, mae e’n dymuno caniatáu i blaladdwyr gwenyn gael eu chwistrellu; gallai wneud hynny dan y fframwaith hwn. Llygredd aer—yr ymladdon ni yn ei erbyn yma yng Nghymru—mae gan y Llywodraeth Geidwadol agwedd wael iawn tuag at lygredd aer a allai yn hawdd wrthwneud dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop sydd wedi arbed ac wedi helpu i lanhau llygredd aer yma yng Nghymru. Ac mae TB mewn gwartheg, a godais gyda'r Prif Weinidog ddydd Gwener, yn rhan o raglen UE y cytunwyd arni ar gyfer dileu TB. Os bydd Llywodraeth San Steffan yn credu y byddai'n well ar gyfer bargen fasnach gael difa moch daear ledled Cymru, gallai wneud hynny yn rhwydd o dan y Bil hwn. Mae'r Bil hwn yn fygythiad gwirioneddol, nid yn unig i’n cyfansoddiad, mae'n fygythiad gwirioneddol i'n bywydau bob dydd.
Galwaf ar y Prif Weinidog i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Llywydd. Wrth wrando ar Simon Thomas yn y fan yna, rhoddodd rhai enghreifftiau pendant iawn o’r hyn all ddigwydd—o’r hyn fydd yn digwydd, yn wir—os bydd y Bil yn aros fel y mae. Byddwn yn cytuno â llawer o'r hyn y mae'r Bil yn ei gynnwys. Byddwn yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd Mark Isherwood, o ran yr hyn yr oedd yn ei gymell: sef, dim newid; sicrwydd—rwy’n cytuno ag ef; gwneud yn siŵr nad oes newid sydyn pan fyddwn yn gadael yr UE; a gwneud yn siŵr, wrth gwrs, y gall fod, lle mae’n briodol, fframweithiau ar draws y DU yn y dyfodol. Nid wyf yn anghytuno â dim o hynny. Y ffordd y mae'n cael ei wneud yw’r broblem. Wrth wraidd y Bil hwn y mae gwrthod yr egwyddor o gydsyniad a derbyn yr egwyddor o osod. I’w roi yn amrwd, yr hyn sydd gan y Bil hwn ar hyn o bryd yw cynnig y gall Lloegr wneud yr hyn y mae’n dymuno ei wneud, ond ni all Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn awr, mae naill ai yn un rheol i bawb, neu dim rheolau o gwbl. Does bosib, rhaid iddo fod yn y ffordd honno.
Bydd rhai, rwy'n siŵr, ar feinciau'r Ceidwadwyr sy'n rhannu fy anesmwythyd. Heddiw, gallaf ddeall pam y maent yn credu nad nawr yw’r amser i fynegi'r farn honno. Ond, a gaf i ddweud, nid yw hon yn sefyllfa lle’r ydym yn ceisio gwrthwynebu rhywbeth heb gynnig rhywbeth arall fel dewis amgen? Rydym wedi gwneud hyn am wythnosau ar y tro. Rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU: rydym yn deall yr angen am barhad, rydym yn deall yr angen am sicrwydd. Gadewch i ni wneud yn siŵr—fel y dywed Simon Thomas, na fyddai cymal 11 yno pe na bai am y ffaith bod y pwerau hyn yn dod yn syth atom—gadewch i ni gyd gytuno na fyddwn yn newid pethau nes ein bod i gyd yn gytûn. Dyna'r dull partneriaeth aeddfed y dylid ei gymryd yn y DU yn awr. Yn hytrach, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd yr agwedd bod Llywodraeth y DU yn oruchaf ac mae'n rhaid i bawb arall ddilyn. Ond mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod am ganiatâd y ddeddfwrfa hon. Yn awr, ni all y caniatâd hwnnw fod yn amodol. Ni all ddweud, os nad ydym yn rhoi caniatâd, 'Wel, mewn gwirionedd, rydym yn mynd i’ch anwybyddu chi.' Nid yr athrawiaeth o gydsyniad cyfyngedig ydyw—estyniad o athrawiaeth Brezhnev. Mae hon does bosib yn enghraifft lle dylai fod caniatâd priodol. Rwyf yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyrraedd pwynt lle gall fod caniatâd, ond nid ydym yn y sefyllfa honno eto.
Mae'n wir dweud bod amryw o Weinidogion y DU wedi ysgrifennu atom a dweud, 'Rydym eisiau gweithio gyda chi, cael eich caniatâd a chael fframweithiau cytûn.' Wel, mae dau beth yn fy nharo: yn gyntaf oll, pam na wnaed hyn o'r blaen? Yn ail, pam nad ydyw ar wyneb y Bil? Nid oes dim o hyn ar wyneb y Bil. Does dim byd ar y Bil am gymalau machlud o ran cymal 11. Does dim byd yn y Bil yn ymwneud â sicrhau mai patrwm dros dro yw hwn am gyfnod dros dro. Mae'n amhenodol, a dyna'r broblem. Nid yr hyn sy'n cael ei ddweud gan Weinidogion y DU yw’r hyn yr ydym yn ei weld ar wyneb y Bil, ac mae’n rhaid i’r hyn a ddywedir ymddangos ar wyneb y Bil i’w wneud yn gymeradwy.
Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Neil Hamilton. Mae wedi, yn y Siambr hon, bod yn gyson yn ei farn y dylai’r pwerau hynny sy'n dychwelyd o Frwsel ddod yma. Ond yn awr rydym yn clywed ei gefnogaeth i’r dyn yn y canol, i bob pwrpas—y dylai pwerau gael eu cadw yn Llundain, sef y Brwsel newydd am gyfnod, ac yna dod yma. Pam? Pam na ddylen nhw ddod yma yn y lle cyntaf? Ein pwerau ni ydyn nhw i ddechrau. Ein pwerau ni fydd yn dychwelyd i ni. Ydy, mae'n iawn dweud nad ydym yn colli pwerau yn hynny o beth, ond mae'r rhain yn bwerau a ddylent, drwy hawl, ddod i Gymru. Felly, pam y dylent fynd i rywle arall yn gyntaf? Dyna'r ddadl. Gresynaf ei fod yn ymddangos i fod wedi newid ei safbwynt ar hynny ac mae wedi dod yn nes at farn y Blaid Geidwadol ar hyn.
Fel y dywedais, os mai dros dro y mae hyn, pam nad yw’n dweud hynny ar wyneb y Bil? Ac nid yw'n gwneud hynny. Mae'n rhaid i ni ochel rhag hynny. Oni bai ei fod yn ysgrifenedig, pam y dylem ei dderbyn? Y peth arall y mae'n rhaid i ni ei gofio yw nad oes cyfyngiad o gwbl ar Lywodraeth y DU yma. Gall wneud fel y gwêl yn dda, nid yn unig ar gyfer Lloegr, ond ar gyfer Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon hefyd. Mae hynny’n torri ar draws egwyddor sylfaenol datganoli, ac nid yw’n rhywbeth, yn amlwg, y gallem ei gefnogi. Mae yna fannau llwyd. Mae Simon Thomas wedi cyfeirio atynt. Beth sy'n digwydd os bydd gofyniad mewn trafodaethau masnach i wneud rhywbeth mewn cysylltiad ag iechyd anifeiliaid? Beth os, mewn cytundeb masnach, fel y soniais yn gynharach, bydd gofyniad y dylem orfod preifateiddio rhannau o'n gwasanaeth iechyd er mwyn gwneud cytundeb masnach derbyniol i wlad arall? Mae mannau llwyd, a dyna pam ei bod mor bwysig, er mwyn osgoi’r math hwn o wrthdaro yn y DU, ein bod yn gweithio gyda'n gilydd o'r cychwyn, ac mae'r egwyddor yn cael ei sefydlu o'r cychwyn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth er lles pob un o'r pedair cenedl, ac nid dim ond yn meddwl bod yr holl bŵer a’r holl ddoethineb yn gorffwys yn San Steffan. Rydym yn gwybod nad yw hynny'n wir.
Gyda golwg ar y Bil parhad—hollol iawn i ddweud mai Steffan Lewis oedd yr un cyntaf i godi'r mater. Roeddwn heb fy narbwyllo ar y pryd. Ni allwn weld beth y byddai'n ei gyflawni. Darbwyllodd fi. Rhoddaf y credyd hwnnw iddo. Ac mae'n iawn i ddweud ein bod yn symud ymlaen â'r Bil. Byddem yn ceisio cyhoeddi Bil. Ein nod yw cyhoeddi yn ystod yr hydref. Nid yw heb ei gymlethdodau, mae'n rhaid i mi ddweud. Nid yw'n glir pa mor gymhleth y byddai Bil fel hwnnw, ond mae'n rhywbeth, fel y dywedais, y byddem yn ceisio ei wneud. Byddai'n well gennym pe byddai Llywodraeth y DU yn derbyn gwelliannau y byddem yn eu drafftio fel Llywodraeth yn Senedd y DU. Byddai hynny wedyn, wrth gwrs, yn dileu'r angen am Fil, ond, yn amlwg, mae'n rhaid i ni gadw hynny fel rhan o'n harfogaeth, os caf ei roi felly, er mwyn cadw pwerau pobl Cymru a'r sefydliad y maent hwy eu hunain wedi ei ethol.
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth Michelle Brown, oedd, roedd yr etholiad yn ymwneud â Brexit. Cymerodd ei phlaid 1.8 y cant o'r bleidlais—1.8 y cant o'r bleidlais. Roeddent yn gwrthod heb gwestiwn—heb gwestiwn—y fersiwn o Brexit a roddwyd gerbron gan UKIP, a dywedodd UKIP—eich arweinydd, Paul Nuttall, os oes unrhyw un yn ei gofio— bod yr etholiad yn ymwneud â sicrhau nad oedd unrhyw lithro’n ôl ar Brexit. Ac edrychwch ar beth ddigwyddodd i chi. Nid oedd y cyhoedd yn cytuno â'ch safbwynt chi oherwydd y bleidlais a gawsoch. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig o glywed aelod o UKIP yn simsanu pan ddaw at amddiffyn pwerau'r sefydliad hwn. Holl ddadl UKIP fu, 'Rydym am ddod â’r pwerau adref’. Dyna, er tegwch, fu eu dadl, ond nid yw'n cyfrif cyn belled ag y mae Caerdydd neu Gymru yn y cwestiwn, mae'n rhaid cael rhyw fath o fan aros, ac mae hynny'n dangos, wrth gwrs, fod eu barn bob amser yn ymwneud â dod â phwerau i Lundain ac nid o reidrwydd i Gaerdydd. Mae'n drueni, oherwydd nid dyna lle’r oeddent ychydig wythnosau yn ôl. Nawr, rydym yn gweld, yn anffodus, wir liwiau UKIP.
Mae Steffan Lewis yn iawn i sôn am y cymalau eraill. Nid yw ond yn ymwneud â chymal 11 yn unig. Mae cymalau eraill, fel y soniodd, sy'n ymdroelli, sy'n gwau eu ffordd, drwy'r Bil cyfan, y mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohonynt. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, cyn belled ag y mae David Rowlands yn y cwestiwn, nid yw Senedd Ewrop yn llai democrataidd na Senedd y DU. Mae’n cael ei hethol yn yr un ffordd, felly does dim gwahaniaeth rhwng y ffyrdd y mae’r Seneddau hyn yn cael eu hethol. Nid yw hyn—dwi ddim yn mynd i'w darbwyllo, gadewch i ni wynebu hynny—. Nid yw hyn yn ymwneud ag atal Brexit. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau, pan fydd Brexit yn digwydd, bod hawliau a phwerau pobl Cymru, fel y pleidleisiwyd drostynt mewn refferendwm—fel y pleidleisiwyd drostynt mewn refferendwm—yn aros gyda phobl Cymru. Dyma beth mae hyn yn ymwneud ag ef. Gellir cyflawni hyn, gan dderbyn, wrth gwrs, yr angen am gyfranogiad y DU mewn rhai meysydd, trwy gytundeb a thrwy bartneriaeth. Beth allai fod yn fwy aeddfed, yn fwy synhwyrol, yn fwy democrataidd, ac yn fwy rhesymegol na hynny? A dyna’r safbwynt y byddwn yn ei roi i Lywodraeth y DU. Gadewch inni weld a ydynt yn gallu bodloni’r geiriau y maent wedi eu rhoi i ni hyd yn hyn.
Hoffwn fod mewn sefyllfa lle’r ydym yn dod i bwynt yn y Bil lle gallai'r Bil o bosibl gael ei argymell i'r Cynulliad. Rydym yn bell o fod yn y sefyllfa honno—yn bell o’r sefyllfa honno. Gellir ei wneud, ond mae'n rhaid i’r egwyddor o ganiatâd a’r egwyddor o gyfreithlondeb democrataidd y Siambr hon a’r genedl hon gael eu derbyn yn rhan o'r trafodaethau hynny. Os yw hynny'n cael ei dderbyn gan Lywodraeth y DU, yna, i ddyfynnu David Davis ddoe, gadewch i ni ddechrau o ddifrif arni, gadewch i ni wneud yn siŵr, pan fydd Brexit yn digwydd, bod gennym fecanwaith i wneud penderfyniadau priodol rhwng Llywodraethau’r DU, bod gennym ffordd briodol o wneud penderfyniadau, bod gennym broses ddyfarnu annibynnol i archwilio’r penderfyniadau hynny, a gadewch i ni edrych i'r dyfodol fel rhan o’r DU sy'n bartneriaeth gywir o'r cenhedloedd, ac nid y DU yn ôl pob golwg sy’n credu bod ei phresennol cyfansoddiadol wedi'i leoli yn rhywle yn y 1950au.
Felly, heddiw, fel y mae Llywodraeth Cymru, ac, yn wir, eraill yn y Siambr hon, wedi dweud hefyd, rydym yn edrych ymlaen at gymryd gair Gweinidogion y DU i wneud y Bil hwn yn dderbyniol nid yn unig i'r Llywodraeth ond i'r Cynulliad, er mwyn sicrhau, pan fydd Brexit yn digwydd, bod hawliau pobl Cymru yn cael eu cadw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.