– Senedd Cymru am 5:48 pm ar 19 Medi 2017.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, yr adroddiad interim. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gynnig y cynnig sydd ger ein bron heddiw yn ffurfiol. I fynd yn ôl i'r man lle'r oeddem ni ym mis Mehefin, rwy'n dal i fod yn falch o fod wedi cael adroddiad interim yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru y gwnaethom ei rannu gydag Aelodau, mae’n ddrwg gennyf, ym mis Gorffennaf, nid ym mis Mehefin eleni, ond cyflwynais y ddadl hon heddiw i ganiatáu mwy o drafodaeth gan fod Aelodau wedi cael mwy o amser i ystyried yr adroddiad interim erbyn hyn.
Ceir grŵp cyfeirio gwleidyddol, wrth gwrs, sy'n cael diweddariad rheolaidd ar gynnydd gyda'r adolygiad, a bydd yn cyfarfod eto y mis yma, ond mae hwn yn gyfle i bob Aelod wneud sylwadau yn uniongyrchol. Mae'r panel annibynnol yr ydym wedi ei ffurfio wedi edrych ar ddata, wedi casglu tystiolaeth ac wedi defnyddio profiad rhyngwladol helaeth i ddatblygu ei farn ei hun ar iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Mae'r adroddiad interim yn diffinio materion allweddol sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n cyflwyno’r achos dros newid, ac yn nodi meysydd lle mae angen gwelliannau. Mae'r adroddiad yn dynodi meysydd yr hoffai’r panel eu harchwilio ymhellach dros y misoedd nesaf cyn cwblhau'r adolygiad a chyflwyno adroddiad terfynol gydag argymhellion i mi erbyn diwedd y flwyddyn galendr.
Dylwn ddweud bod yr adroddiad interim yn nodi bod achos cryf dros newid, gyda chonsensws cyffredinol ymhlith rhanddeiliaid a'r bobl sydd wedi rhoi tystiolaeth hyd yma ar yr angen am integreiddio pellach ac am wasanaethau sydd ar gael yn fwy hwylus yn y gymuned. Mae'r adroddiad hefyd yn glir nad yw diffyg gweithredu yn ddewis wrth symud ymlaen, ac mae'r adroddiad yn herio pob un ohonom: a ydym ni'n barod i gefnogi newid ac i oresgyn yr heriau anodd hynny? Mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni wneud dewisiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru neu y cwbl y byddwn yn ei wneud fydd caniatáu i ddewisiadau gael eu gwneud drosom. Felly, mae'r dyfodol yn ymdrech ar y cyd ar draws pleidiau gwleidyddol a bydd angen y lefel barhaus o aeddfedrwydd ac arweinyddiaeth ar draws y pleidiau a arweiniodd at sefydlu’r adolygiad hwn yn y lle cyntaf.
Nid yw Cymru, wrth gwrs, ar ei phen ei hun o ran wynebu'r heriau a nodir yn yr adroddiad interim. Mae angen inni edrych ar sut y gallwn ni lunio ffordd o weithio yn y dyfodol sy'n gynaliadwy ac yn parhau i gyflawni canlyniadau da. Mae cyhoeddi’r adroddiad yn golygu bod brys o’r newydd arnom ni i drafod a phenderfynu, a bod angen ennyn ymgysylltiad dinasyddion a'r gweithlu wrth benderfynu ar y math o wasanaethau a fydd ar gael mewn cymunedau yn y dyfodol. Mae’r strategaeth genedlaethol a lansiwyd gan y Prif Weinidog heddiw, 'Ffyniant i Bawb', yn cyd-fynd â'r llwybr arfaethedig a nodir yn yr adolygiad seneddol a'i adroddiad interim. Mae'n ein hymrwymo ni fel Llywodraeth i ymateb i'r adolygiad a chyhoeddi cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol y flwyddyn nesaf.
Mae'r panel, fodd bynnag, yn ei adroddiad, wedi cydnabod y ddeddfwriaeth bwysig y mae Cymru eisoes wedi ei datblygu—mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ddwy Ddeddf benodol sydd, ynghyd â gofal iechyd darbodus, yn cynnig set bwerus o egwyddorion i ni y gellir eu cymhwyso’n gyfartal i GIG Cymru a gofal cymdeithasol, ac mae cryn gefnogaeth iddynt. Dylai defnydd eang a chynhwysfawr o'r egwyddorion hyn ein helpu i weddnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae maint yr her yn golygu bod angen gweithredu ar y cyd a chydag elfen o frys. Rwy’n cael fy atgoffa’n gyson o’r negeseuon yn yr adroddiad interim wrth i mi deithio’r wlad yn gwrando ar staff a chleifion, yn enwedig o ran llais y claf a'r defnyddiwr gwasanaeth, oherwydd bod yr adroddiad yn cydnabod yr angen cynnwys mwy ar staff, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr wrth lunio, gweithredu, gwerthuso a datblygu modelau gofal newydd dilynol, a sicrhau bod swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cyd mwy eglur.
Rwy'n cydnabod bod y canlyniadau gorau yn aml yn dod trwy gydgynhyrchu gweithredol ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn weld mwy ohono. Mae un o'r cynigion adolygu interim allweddol yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau gofal newydd i'w treialu, eu gwerthuso ac yna eu cynyddu’n gyflym. Wrth gwrs, mae'r cyfeiriadau at anghenion dinasyddion lleol yn bwysig yn hyn o beth, a gwn o siarad â chadeirydd yr adolygiad bod y fforwm rhanddeiliaid a sefydlwyd i helpu i ddatblygu'r gwaith hwn yn ceisio llunio’r egwyddorion a'r safonau sy'n nodweddu modelau llwyddiannus y gellir eu defnyddio wedyn i ddatblygu a phrofi modelau mwy newydd o weithio. Dylai hynny roi elfen o sicrwydd inni am ein cysondeb ar lefel genedlaethol gyda'r rhyddid a'r lle i addasu i anghenion lleol, yn enwedig yn y cyd-destunau gwledig a / neu drefol.
Nodaf fod y grŵp adolygu bellach wedi bod yn gweithio dros doriad yr haf i gasglu enghreifftiau o fodelau gofal integredig llwyddiannus, a deallaf y bu ymateb da i ymgysylltu parhaus gan randdeiliaid ar draws y wlad, ond maen nhw’n edrych ar enghreifftiau o'r tu allan i Gymru hefyd. Dim ond un elfen o hyn yw'r modelau, wrth gwrs. Edrychaf ymlaen at yr argymhellion a gânt eu llunio o amgylch y nod driphlyg o wella iechyd y boblogaeth, gwella ansawdd y gofal ac, wrth gwrs, gwella gwerth a chynhyrchedd.
Wrth gwrs, bydd y gweithlu yn allweddol i wneud y newidiadau sydd eu hangen, felly mae'n dda gweld cyfeiriad at gynllunio ar raddfa fawr ar gyfer y sgiliau a'r llwybrau gyrfa sydd eu hangen er mwyn i'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ddarparu'r modelau newydd hyn—y ffyrdd newydd hyn o weithio. Mae'r adroddiad yn nodi bod y prinder yn y gweithlu presennol yn llesteirio newid ac mae angen mynd i'r afael â hynny, a dyna rywbeth yr wyf yn ei gydnabod. Yn arbennig, mae rhai arbenigeddau meddygol a rhai ardaloedd daearyddol yng Nghymru lle y ceir anawsterau arbennig ac, unwaith eto, gallwn weld patrwm tebyg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Dyna pam yr ydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i barhau i weithredu i ddenu a hyfforddi a chadw mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yma yng Nghymru.
Fe wnaethom ni lansio ymgyrch i annog meddygon, gan gynnwys Meddygon Teulu, i ddod i Gymru i hyfforddi, gweithio a byw ac, fel yr wyf wedi ei ddweud o’r blaen, mae hynny wedi cael effaith gychwynol sylweddol a chadarnhaol gyda 91 y cant o swyddi gweigion i feddygon teulu dan hyfforddiant yn cael eu llenwi o'i gymharu â 68 y cant y llynedd, ac mae hynny'n cynnwys cyfradd lenwi o 100 y cant mewn rhai o'n hardaloedd anoddaf i recriwtio iddynt o ran hyfforddiant Meddygon Teulu, yn enwedig rhannau mwy gwledig o Gymru. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cynnal yr ymgyrch Hyfforddiant, Gweithio, Byw, nid yn unig i feddygon, ond i nyrsys, ac yn ddiweddarach eleni bydd ymgyrchoedd eraill ar gyfer therapyddion a fferyllwyr hefyd.
Mae'r adroddiad yn arwydd i ni o’r angen i symleiddio a chyfochri trefniadau llywodraethu, cyllid ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol. Yn gysylltiedig yn agos â hynny ceir y dyhead am ymagwedd fwy systematig ac effeithiol at wella ansawdd yn barhaus a sut yr ydym yn annog a datblygu diwylliant sy'n creu amgylchedd cefnogol a deniadol i'n staff ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn rhannu'r uchelgais hwnnw; byddech chi'n disgwyl i ni wneud hynny. Mae hynny o gymorth i ategu ein hymagwedd at ein Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy’n Addas i’r Dyfodol'. Mae’n ymwneud â sut y byddwn yn rhyddhau’r potensial i fyrddau iechyd lleol ddangos eu bod yn llywodraethu ac yn ymddwyn yn strategol a bod ansawdd wrth wraidd popeth a wnant.
Mae'r adroddiad interim hefyd yn tynnu ein sylw at yr angen i ledaenu arloesedd a gwneud defnydd gwell o ddata a gwybodaeth i ddylunio a monitro cynnydd y newid. Mae hwn yn faes hanfodol i ni, ac edrychaf ymlaen at weld sut y gellir cefnogi hyn ymhellach. Wrth gwrs, ceir cydbwysedd rhwng cyfeiriad cenedlaethol ac ymreolaeth leol wrth sbarduno newid, ac mae hynny'n rhan o'n her o gyflawni gwelliant parhaus, yn seiliedig ar ganlyniadau i ddinasyddion ar draws yr holl system iechyd a gofal, ac o fewn hynny pa mor gyflym mae angen newid, gydag eglurder ac atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau.
Mae'r adroddiad eto yn ailadrodd i ni y ffactorau sy'n arwain at newid: datblygiadau mewn gofal iechyd, disgwyliadau cyhoeddus cynyddol er gwaethaf y ffaith bod gwariant cyhoeddus yn lleihau wrth i’r cyni barhau—mae hynny yn peri her anochel, ni waeth beth yw safbwyntiau ein pleidiau gwleidyddol .Yn ychwanegol at hynny, fodd bynnag, gwyddom fod y galw yn parhau i godi. Mae hynny’n rhannol oherwydd, yn anffodus, bod gennym ni boblogaeth llai iach nag oedd gennym ni yn y degawdau a fu, ac nid yw hynny yn achos dathlu. Fodd bynnag, beth sydd yn achos dathlu yw'r ffaith y gallwn ni i gyd ddisgwyl byw yn hwy, ond mae hynny'n rhoi inni heriau gwahanol a gwahanol ofynion ychwanegol sy'n dod i'n system. Fodd bynnag, mae hynny'n golygu na allwn ni esgus i’n hunain na'r cyhoedd ehangach y bydd gwneud dim ond parhau â'r system iechyd a gofal sydd gennym ni heddiw yn addas ar gyfer y dyfodol. Os byddwn ni’n caniatáu i hynny ddigwydd, bydd ein system yn mynd yn bendrwm a byddwn yn caniatáu niwed gwirioneddol i'n dinasyddion cyn gorfod wedyn newid ein system ar adeg o argyfwng, yn hytrach na cheisio cynllunio ffordd ymlaen i ddatblygu a chyflwyno'n fwriadol system sydd wedi ei haddasu, ei diwygio a’i gwella sy'n wirioneddol gynaliadwy.
Ond dylem lawenhau yn y ffaith bod pobl wirioneddol ddawnus yng Nghymru sydd eisoes yn cyflwyno newidiadau i wella gwasanaethau a chynnig gofal gwell, oherwydd yr wyf yn aml yn gweld arloesedd lleol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion. Rwy'n siŵr bod Aelodau'n gweld hynny yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau hefyd. I ni, mae'n hanfodol ein bod yn deall yr hyn y gellid ac y dylid ei gynyddu’n gyflym fel bod y buddiannau’n cael eu darparu ar draws y system, ac mae angen arweinwyr lleol yn y maes iechyd a gofal arnom ni i hyrwyddo gwelliannau—nid dim ond gyda'r cyhoedd, ond gyda'u cymheiriaid hefyd.
Felly, mae neges yr adroddiad interim, rwy'n credu, yn glir: ni allwn wneud y gwelliannau y mae arnom ni i gyd eisiau eu gweld o ran ansawdd a phrofiad heb weld newid yn y modd y mae ein gwasanaeth yn gweithio. Mae'r adroddiad interim, rwy'n credu, yn gytbwys, ac mae'n asesiad annibynnol o ble yr ydym ni nawr. Rwy'n cydnabod y cynnydd yr ydym ni wedi ei wneud, ond mae angen newid yn gyflymach fel bod ein system iechyd a gofal yn gynaliadwy yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad terfynol cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, ac i barhau i weithio'n adeiladol gyda'r holl bartïon er mwyn helpu i weithredu cymaint o'i argymhellion ag sy'n bosibl, ac edrychaf ymlaen at glywed barn Aelodau yn y ddadl heddiw.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig heddiw i nodi'r adroddiad interim gan yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r adroddiad interim yn cynnig digon i feddwl amdano. Mae'n nodi, gydag elfen o onestrwydd na chaniateir yn aml, maint yr her sy'n wynebu ein gwlad o ran sut yr ydym yn cynnal ac yn adnewyddu gwasanaeth iechyd cenedlaethol Cymru a'r sector gofal.
Mae'r panel wedi gwneud camau breision o ran siarad â defnyddwyr, cleifion, clinigwyr, arbenigwyr, rheolwyr ac—rwy'n ddiolchgar iawn am hyn—gyda ni wleidyddion. Er hynny, dim ond adroddiad interim yw hwn, ac rydym ni wedi trafod yr adroddiad interim hwn mewn pwyllgorau ac mewn datganiad Cyfarfod Llawn, felly nid wyf eisiau ailadrodd fy holl sylwadau blaenorol. Y gwir amdani yw bod angen cam 2 arnom. Bydd yr adroddiad terfynol, rwy’n gobeithio, yn rhoi awgrymiadau ynghylch sut y gallem ddatrys rhai o'r heriau mwy anodd eu trin. Mae rhai o'r heriau hyn yn amlwg, ac rwy’n pryderu na fyddwn ni o bosib yn ymdrechu i oresgyn yr heriau hynny oherwydd ein bod yn dal ein gwynt wrth aros am y ddogfen derfynol.
Hoffwn wybod pa feysydd, os o gwbl, a nodwyd gan yr adroddiad interim y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu datblygu. Er enghraifft, rydym ni i gyd yn gwybod bod sector gofal Cymru yn fregus iawn. Nid yw'r gweithlu gofalwyr cyflogedig bob amser yn cael eu talu'n deg nac yn cael eu trin yn dda; nid yw hyfforddiant bob amser ar gael neu nid oes fawr ohono; mae trosiant staff yn uchel; rydym ni’n dibynnu’n helaeth iawn ar weithwyr dros dro; nid oes fawr ddim neu ddim dilyniant gyrfa ar gael i'r gofalwr cyflogedig; mae'r gofalwyr di-dâl wedi ymlâdd ac yn aml yn cael eu hanwybyddu; nid oes neb yn dod i gartref gofalwyr sydd ar ben eu tennyn ac sy’n dyheu am gefnogaeth, am seibiant, am gydnabyddiaeth. Mae'n broffesiwn sydd yn aml yn cael ei ystyried yn un heb sgiliau neu heb fawr o sgiliau, sef yr ergyd greulonaf un, oherwydd, mewn gwirionedd, mae gofalu am fod dynol arall yn mynd at hanfod ein dynoliaeth.
Mae'r adroddiad interim yn cydnabod y bregusrwydd hwn a’r diffyg sylfaen sgiliau. Clywodd yr adroddiad bod angen i ofalwyr anffurfiol ymwneud â chynllunio a datblygu'r gweithlu, bod angen inni gynyddu sgiliau a datblygu llwybr gyrfa. Y cwbl y mae’r casgliadau hyn ei wneud yw atgyfnerthu sefyllfa yr ydym yn ymwybodol ohoni ac y gallem ddechrau mynd i'r afael â hi nawr. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gellir ei ddysgu. Wrth gwrs, yn y GIG, mae'r sefyllfa o bosib yn fwy anodd. Rydym ni i gyd yn gwybod am y mater recriwtio sy'n rhwystro darparu gofal o'r radd flaenaf yn gyson ac yn gynhwysfawr ledled Cymru. Gwyddom fod angen mwy o feddygon a nyrsys arnom ni a mwy o weithwyr gofal iechyd perthynol. Ond gadewch imi roi enghraifft arall i chi lle mae diffyg staff yn peri problemau. Mae gennyf e-bost gan ymgynghorydd amlwg ac mae e'n dweud,
Yr anhawster nawr yw na fydd gennyf neb yn gwneud fy ngwaith ysgrifenyddol yn y dyfodol rhagweladwy , sy'n golygu na allaf drefnu apwyntiadau na phrofion. Rwyf wedi bod heb ysgrifennydd gweithredol ers blwyddyn a hanner, ac nid oes unrhyw beth arall y gallaf ei wneud i’w cael i ddatrys hyn
Felly, oherwydd nad oes ganddo ei ysgrifennydd ei hun, ni all fynd ymlaen a gwneud ei swydd i eithaf ei allu. Mae'n anghynhyrchiol ac yn gostus. Felly, rydym yn talu llawer o arian i bobl ddeallus wneud tasgau cymhleth ac yna yn eu gwneud yn anghynhyrchiol. Mae'r unigolyn hwn yn dod o fwrdd iechyd yn y de, ond rwyf hefyd wedi cael y gŵyn hon gan glinigwyr ledled Cymru. Felly, i mi, mae gwir gryfder yr adroddiad hwn yn y gydnabyddiaeth o ymrwymiad a bwriad yr unigolyn o fewn y GIG a chydnabod yr anawsterau yn y system, ac mae hyn yn enghraifft dda o hynny.
Rwy'n falch bod y panel wedi nodi bod un o'r rhwystrau allweddol i weithredu newid yn llwyddiannus yn canolbwyntio ar y sut. Sut yr ydym ni'n llenwi'r bwlch rhwng polisïau da a mentrau lleol rhagorol? Sut yr ydym ni'n sicrhau bod llwyddiannau cychwynnol mewn ardaloedd lleol yn cael eu cynyddu a'u cymhwyso mewn modd cydlynol a chyson? Sut yr ydym ni'n edrych ar ddefnyddwyr mewn modd cyfannol gan roi sylw i salwch, tai a gofal diwedd oes? Mae hanes Llywodraeth Cymru yn gyforiog o adroddiadau a pholisïau nad ydynt wedi eu trosi’n llwyddiannus i weithredu ar y rheng flaen, a pham? Mae oherwydd y sut. Mae angen inni newid rhywfaint o’r diwylliant ynghyd â rhywfaint o’r arferion. Mae angen inni ddeall na ellir gweddnewid popeth yn llwyddiannus ar yr un pryd, ond bod angen bod yn ystyriol a rhoi prawf ar bethau. Mae angen fframwaith cydlynol a phobl fedrus arnom ni. Eto, nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mewn adroddiad diweddar, nad oedd gan Gymru y gallu i fanteisio ar yr arferion arloesol yr ydym wedi'u datblygu.
Fel arfer mae'r ddadl ynghylch iechyd yn seiliedig ar nifer y staff rheng flaen, lleoliadau ysbytai neu ble mae'r gwasanaethau. Felly, roeddwn i'n falch o weld bod yr adroddiad interim yn herio diwylliant a phrosesau. Roedd yn nodi materion gydag aeddfedrwydd a hyblygrwydd, a sgiliau a hyfforddiant. Nid yw’n ymwneud yn gyfan gwbl â pholisïau newydd, rhaglenni newydd a mentrau newydd, Gweinidog. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn gosod gweledigaeth a chynfas glân, ond mae'n rhaid i gam 2 ddarlunio’r manylion. Mae angen inni nodi'n glir y pethau hynny sy’n rhwystro newidiadau a llunio cynigion dychmygus i bontio'r bwlch rhwng syniad a gweithredu.
A gaf i yn gyntaf groesawu yr adroddiad interim yma? Mae o’n adroddiad trylwyr, ag ôl gwaith ymchwil ac ymgynghori trylwyr arno fo. Mae o’n rhoi cryn fanylion i ni am gyflwr a heriau yr NHS a’r sector gofal yng Nghymru heddiw, ond mae’n rhaid dweud hefyd nad ydy’r canfyddiadau yn rhai a ddylai ein synnu ni ryw lawer. Beth sydd gennym ni ydy darlun o bwysau ariannol, pwysau demograffig, yn gymysg efo cynllunio gweithlu gwael, tanberfformiad a diffyg integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym ni’n gweld yn glir y rhagoriaeth sydd yna ymhlith y staff proffesiynol yn yr NHS a’r sector gofal, ond yn gweld y straen a’r pwysau sydd arnyn nhw wrth iddyn nhw geisio gweithredu hyd at eithaf eu gallu.
Mae’r dystiolaeth yn glir yn barod, felly, rydw i’n meddwl, er mai adroddiad interim ydy hwn, na allwn ni barhau fel yr ydym ni. Mae hynny hefyd yn golygu rhoi’r gorau i dwyllo y gall Llywodraeth Prydain barhau â’i pholisïau llymder tra bod Llywodraeth Cymru, ar yr un pryd, yn parhau i wasgu ar gyllid awdurdodau lleol ac felly ar ofal cymdeithasol, ac nad yw hynny rhywsut am gael effaith wirioneddol andwyol ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau gofal ac iechyd fel y mae pobl yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.
Mae’n glir o’r adroddiad bod angen i gyllid y gwasanaeth iechyd gynyddu wrth i anghenion y boblogaeth gynyddu, ond, ar yr un pryd, fod angen buddsoddi mwy fyth mewn gofal cymdeithasol. Rydym ni yn gwybod bod gofynion ar wasanaethau yn mynd i gynyddu, er bod faint y byddant yn cynyddu yn dibynnu ar faint, o ddifri, y bydd y Llywodraeth yma yn ymateb i wahanol heriau—heriau gordewdra, er enghraifft; yr angen i annog byw yn iach. Mae elfennau eraill hefyd: safon tai, yr amgylchedd ac, wrth gwrs, toriadau i’r wladwriaeth les, pan mae’r gwannaf yn ein cymdeithas yn cael eu gwasgu gan y polisïau mwyaf creulon. Rydym ni’n gwybod bod digartrefedd ar gynnydd, bod hunanladdiad ar gynnydd, bod defnydd o wasanaethau iechyd ar gynnydd. Felly, mae’r achos dros newid yn gryf, a newid yn y ffordd y mae Llywodraethau yma ac yn Llundain yn edrych ar, ac yn cefnogi, yr holl ecosystem o wasanaethau iechyd a gofal a chefnogaeth gymdeithasol.
Mi allaf gyfeirio at ambell elfen benodol sy’n cael ei phwysleisio yn yr adroddiad yma—cynllunio gweithlu, er enghraifft. Mae gwell cynllunio gweithlu o fewn ein cyrraedd ni, os gwelwn ni'r Llywodraeth yn cymryd camau priodol, fel cyflwyno canolfan addysg feddygol ym Mangor ac annog rhagor o bobl ifanc o Gymru ac o wahanol gefndiroedd, gan gynnwys y cefndiroedd mwy difreintiedig, i astudio meddygaeth. Mae hyn yn golygu cymryd y camau angenrheidiol i gynyddu faint o nyrsys yr ydym yn eu hyfforddi a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen i’r nyrsys dan hyfforddiant er mwyn gwneud hwn yn broffesiwn sy’n ddeniadol o hyd iddyn nhw.
Mae’r adroddiad yn tanlinellu’r sgôp i ddefnyddio technoleg i gynnig ffyrdd gwahanol—ffyrdd gwell, a ffyrdd rhatach yn aml iawn—o drin ac ymgeleddu cleifion. Ond mae hynny’n golygu cael gwasanaethau a sefydliadau iechyd a gofal sy’n hyblyg ac yn gallu ymateb i ddatblygiadau newydd. Mi fydd rhai o’r datblygiadau yma sy’n dod yn gyflym tuag atom ni yn rhai gwirioneddol chwyldroadol, ac allwn ni yng Nghymru ddim cael ein gadael ar ôl. Felly, mae yna heriau sylweddol ond cyfleoedd sylweddol hefyd.
We have major challenges ahead of us, but real opportunities too, if Wales has the ambition and has the positivity to take advantage of those opportunities, rather than pretend our job is to manage a decline and moan about things that we can’t do anything about. It’s about Welsh Government, more specifically, showing that it is ready to step up to the plate. A core problem, the elephant in the room, is this: Labour in Government has always run the NHS since the people of Wales decided to devolve it nearly exactly 20 years ago. Wales cannot afford any longer to have a Government refusing to admit to the depths of some of the NHS’s and the care sector’s problems, because to do so would be to admit that they are responsible for those problems. The people of Wales need to see a real gear change in how Welsh Government runs health and social care in Wales and thinks about the delivery of health and social care in Wales. We have an interim report now highlighting some of the main challenges. We will soon have a completed review and, hopefully, a set of recommendations that can spur some real action.
Rydym yn croesawu'r adroddiad interim a’i natur ddiflewyn ar dafod, a byddwn yn cefnogi'r adroddiad heddiw. Gan fod y GIG yn gyflogwr mawr yng Nghymru ac felly’n chwarae rhan arwyddocaol yn economi Cymru, mae'n bwysig bod y gyllideb hon yn cael ei gwario'n ddoeth, fel y gall cleifion, pan eu bod angen hynny, gael gofal a chefnogaeth a gaiff ei darparu mewn modd hyderus, effeithlon a gofalgar. Gyda gwariant doeth daw’r cyfle i newid ac arloesi. Mae’n rhaid inni edrych ar sut y mae'r galw am ein gwasanaethau yn newid a sut y gallwn ni fodloni'r galw hwn orau. Felly, mae'n rhaid nodi'r materion sy'n wynebu'r GIG nawr a llunio gweledigaeth glir ynglŷn â sut y gellir darparu atebion a newidiadau yn effeithiol—newidiadau sy'n gynaliadwy, a newidiadau y cawn fwy o fanylion yn eu cylch yn ail ran yr adroddiad.
Cymru sydd â'r gyfran sy’n tyfu fwyaf a chyflymaf o bobl hŷn yn y DU, ac felly mae mwy o bwyslais ar ofal. Mae’r newid demograffig hwn wedi bod yn digwydd ers peth amser, a fy nghwestiwn i yma yw: sut mae ymateb i'r newid hwn? Efallai trwy ailddyfeisio a diwygio ysbytai cymuned. Mewn cyferbyniad â'r cynnydd hwn, rhagwelir y bydd llai o oedolion oedran gweithio yn yr un cyfnod, ac effaith hyn yw’r posibilrwydd y bydd y sylfaen drethi yn lleihau. Felly, o ystyried y ffactorau hyn hyd yma, sut y bydd gofal yn cael ei ddarparu a chan bwy? Rydym yn aml yn anghofio y gofalwyr di-dâl yn ein cymunedau a'r cyfraniad enfawr a wnânt. Felly, mae'n deg eu crybwyll heddiw.
Oherwydd bod pobl yn byw'n hwy, rydym yn disgwyl i bobl weithio'n hwy, ond edrychwch ar sefyllfa Menywod yn erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sydd wedi achosi llawer o bryder ac ansicrwydd, gyda Guy Opperman, y Gweinidog dros Bensiynau, yn cynnig bod pobl o 64 yn ailhyfforddi ar gyfer sgiliau newydd, i’w galluogi i gael gwaith. Fel y mae llawer o'm hetholwyr wedi ei ddweud wrthyf, pan eich bod chi’n 60 oed neu’n hŷn, gallwch fynd i gyfweliadau, ond mae’r siawns o beidio â chael swydd yn 99 y cant.
Mae cyfranogiad a sylwadau cleifion wedi eu cymryd ar hap o'r pwys mwyaf. Sut mae modd cyflawni hyn yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol ac effeithlon? Mae llawer o sôn am gleifion bregus ac oedrannus yn cael eu cadw yn yr ysbyty pryd y gellid eu rhyddhau ond nad oes ganddynt neb i ofalu amdanynt. Ac yn yr amgylchiadau hyn, mae integreiddio gwasanaethau yn hanfodol er mwyn darparu'r canlyniad gorau i'r unigolyn. Fodd bynnag, mae fy mhrofiad diweddar o integreiddio rhwng iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol wedi fy ngadael gyda theimladau cymysg ynghylch y gofal a'r gefnogaeth a roddwn i'n henoed a'n pobl fregus. Mae achos etholwr yr wyf i’n gyfarwydd ag ef, a aeth, yn 83 oed, i'r ysbyty i gael llawdriniaeth ddargyfeiriol driphlyg ar y galon. Fe'i rhoddwyd yn nwylo llawfeddyg gwych a gyflawnodd y llawdriniaeth yn llwyddiannus. Yna cafodd ofal mewn dau ysbyty. Roedd un ysbyty wedi'i drefnu'n dda, gyda staff a oedd gan fwyaf yn hapus a hwyliog ac a oedd yn amlwg yn mwynhau eu gwaith. Yn yr ail ysbyty roedd ysbryd y staff yn isel ac fe wnaethon nhw ryddhau’r claf yn gwybod ei fod yn byw ar ei ben ei hun a bod angen ychydig ddyddiau neu wythnosau o ofal arno i’w helpu i ddod ato’i hun ar ôl y llawdriniaeth. Gofynnais pam nad oedd wedi derbyn pecyn gofal ar ôl cael ei ryddhau, a’r ateb oedd y gallai gerdded i fyny’r grisiau, ei fod o gwmpas ei bethau ac nad oedd wedi gofyn am becyn. Fe'i rhyddhawyd heb alw’r person a oedd wedi ei nodi fel y person i gysylltu ag ef ar adeg ei ryddhau, ond aethpwyd ag ef adref mewn car, gofynnwyd iddo a oedd ganddo rywfaint o fwyd ac yna fe’i gadawyd. Nid oedd neb i fynd ag ef i apwyntiadau dilynol, ac fe'i gadawyd gyda nifer fawr o dabledi i geisio eu datrys drosto'i hun.
Mae ei feddyg teulu, meddai, yn wych. Ni all ddiolch ddigon i’r llawfeddyg. Roedd yr ôl-ofal a gafodd yn yr ysbyty yn union wedyn yn wych. Ac mae'n dweud ei fod bellach wedi cael blas newydd ar fyw, ac mewn chwe mis mae’n mynd i Benidorm. Fy mhryder i yw nad oedd ôl-ofal ar gael ar gyfer y person hwn, ac mae’n rhaid pwysleisio'r gwahaniaeth mewn gofal rhwng un ysbyty a’r llall. Mae angen inni edrych ar arferion gorau a sicrhau eu bod yn digwydd ym mhob ysbyty. Byddai pecyn gofal wedi gwneud llawer o wahaniaeth yn yr achos hwn, ac mae angen inni sicrhau bod yr holl staff wedi'u hyfforddi'n briodol. Mae cyfathrebu rhwng gwasanaethau yn bwysig, ac mae'n rhaid i ni allu ymdrin â'n cleifion hŷn neu fregus mewn modd trugarog.
Os ydym ni am fabwysiadu newid, mae angen inni edrych ar recriwtio a chadw staff rheng flaen, a chafwyd llawer o dystiolaeth o’r problemau hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae prinder staff wedi arwain at fwy o faich gwaith, ac mae llawer o staff yn methu ag ymdopi â hynny. Mae hyn wedi arwain at ysbryd isel ymhlith staff a salwch sy'n gysylltiedig â straen. Mae’n rhaid inni gofio bod angen digon o staff cymorth a gweinyddol hefyd, fel y dywedodd Angela Burns, i gynnal profion diagnostig, nyrsio pobl yn ôl i iechyd, a sicrhau bod cymorthfeydd yn cael eu rhedeg yn effeithlon. Fy nghwestiwn i yw: sut y gallwn ni ysgogi clinigwyr i hyfforddi ac aros yng Nghymru? Mae rhai darpar glinigwyr brwdfrydig yn methu â chael y cymwysterau mynediad i fod yn feddyg teulu o drwch blewyn, ac rydym ni’n gwrthod pobl dda am y rheswm hwn. Mae'n bryd adolygu'r agwedd hon.
Yn olaf, gwyddom fod angen newid, ond sut allwn ni gyflawni hyn orau? Atal cyn gwella: sut ydym ni'n mynd i'r afael ag anfanteision cymdeithasol salwch, sy'n effeithio ar bobl o bob oed? Sut gallwn ni sicrhau, wrth i ddisgwyliad oes gynyddu, bod ansawdd bywyd yn cynyddu hefyd? Po fwyaf yr wybodaeth yr ydym ni'n ei rhoi i bobl ar fyw'n iach, a allai gynnwys newidiadau mewn ffordd o fyw, ac mae’n rhaid i hynny fod yn hwylus ac ar gael i bawb—.Yna mae pobl yn rhydd i wneud dewisiadau gwybodus am newid. Felly, mae'n rhaid i'n seilwaith a thechnoleg yn y dyfodol fod yn addas i'w ddiben ac yn gyson â'n hanghenion ar gyfer y dyfodol. Diolch, Llywydd.
Roeddwn i wrth fy modd o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud nad yw diffyg gweithredu yn ddewis, ac rwyf yn llwyr gytuno â hynny, oherwydd mae galw cynyddol am ofal sylfaenol yn enwedig, a thystiolaeth glir bod rhywfaint o straen yn y system, gyda nifer sylweddol o feddygon teulu yn rhoi’r gorau iddi, ond hefyd mae cynnydd yn nisgwyliadau'r cyhoedd y dylai gwasanaethau iechyd weithredu yn union fel unrhyw wasanaeth arall y mae pobl yn dymuno ei gael ar unwaith. Ond rwy'n credu bod angen newid y berthynas rhwng y dinesydd a'r gwasanaeth i sicrhau ei bod yn bartneriaeth wirioneddol, sef—. Nid yw'n ymwneud â gwasanaeth ar alw. Nid yw yr un fath â mynd i mewn i siop a dweud, 'Rwyf eisiau hyn’; partneriaeth yw hi.
Yn aml, mae pobl ar feinciau'r Ceidwadwyr—. Fe’u clywais nhw’n dweud yn y gorffennol bod hyn i gyd oherwydd bod y GIG yng Nghymru wedi ei danariannu, ond mae'r ffeithiau yn gwrthddweud hynny. Mae'r dadansoddiad ystadegol ar gyfer gwariant cyhoeddus ar gyfer 2015-16, a gyhoeddwyd gan Drysorlys y DU, yn dangos bod gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol fesul person yng Nghymru 6 y cant yn fwy nag yn Lloegr, ac mae gwario ar iechyd yn unig yng Nghymru 1 y cant yn fwy nag yn Lloegr felly, mae hynny'n £21 yn fwy y pen. Felly, nid yw'n ymwneud ag arian. Mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym ni’n trefnu'r gwasanaethau, ac yn fy marn i, mae'n bwysig dargyfeirio adnoddau o ofal eilaidd, yr ydym ni’n sôn amdano'n gyson, i ofal sylfaenol, lle mae 90 y cant o holl wasanaethau’r GIG yn cael eu darparu.
Mae'n dda gweld bod llawer o gytuno ynglŷn â’r cyfeiriad y dylem ni fod yn teithio iddo. Yr wythnos diwethaf, cadeiriais gyfarfod ynglŷn â ffurf y ganolfan iechyd newydd yn Llanedeyrn a’r gwasanaethau sydd angen bod yno. Mae'n amlwg bod angen adeilad newydd, gan fod y cladin yn disgyn oddi ar y waliau ac mae ganddi sgôr ynni trychinebus. Ond roedd rhai o'r pwyntiau a wnaeth dinasyddion yn glir iawn ynghylch yr hyn y dylai pobl ei ddisgwyl, yn ogystal â rhai o'r pethau y mae angen inni eu gwneud ar y cyd â dinasyddion.
Credaf mai un o'r rhesymau y mae Meddygon Teulu o dan gymaint o straen yw oherwydd mai gweld eich meddyg teulu, os mynnwch chi, yw’r gwasanaeth drws agored olaf. Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus eraill wedi crebachu, a'r meddyg teulu yw'r lle olaf y mae gennych hawl i fynd iddo. Yn aml, mae pobl yn mynd am y rhesymau anghywir i weld meddyg teulu am rywbeth y gallent fod yn gweld pobl eraill, boed hynny'n ateb syml ar gyfer mân broblem iechyd y gellid ymateb iddi yn hawdd dros y ffôn, neu drwy'r fferyllydd, sydd ar gael yn amlwg yn ystod yr oriau pan fo’r siop ar agor. Mae’n rhaid inni weld y meddyg teulu fel, os mynnwch chi, cydlynydd gofal sylfaenol, a sicrhau ei fod yn defnyddio aelodau eraill y tîm amlddisgyblaethol mewn ffordd a fydd yn ei alluogi i wneud yn fawr o’i amser a sicrhau, er enghraifft, y gall pobl sy'n gweithio gael apwyntiad safonol gyda'u meddyg teulu heb, mewn gwirionedd, orfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.
Fe'm trawyd gan y—. Mae'r Gymdeithas Iechyd Sosialaidd wedi ysgrifennu papur yn ddiweddar yn awgrymu y dylem dreialu modelau gwahanol o wasanaethau meddygon teulu͏—ar y naill law, contractwyr annibynnol, ac ar y llaw arall, meddygon teulu cyflogedig. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn golwg o ran y posibilrwydd o edrych ar wahanol fodelau gofal sylfaenol pan fo pethau'n methu.
Rwy'n credu bod cydgynhyrchu yn hanfodol, oherwydd nid oes diben o gwbl mewn cynnig trawsblaniad yr iau i alcoholig oni bai bod ei ddibyniaeth o dan reolaeth ganddo. Rwy'n credu mai un o'r swyddogaethau pwysicaf i'r llywodraeth yw sicrhau y galluogir dinasyddion i gael bwyd na fydd yn eu gwenwyno, ac a fydd yn cyfrannu at eu hiechyd. Dros y penwythnos, roeddwn yn darllen llyfr o'r enw 'How Not to Die' gan Michael Greger, ac mae'r bennod ar Parkinson's, rhywbeth y mae cyfaill i mi yn dioddef ohono, yn gwneud i chi sylweddoli ei bod hi'n rhy hwyr i'r rhai ohonom sydd eisoes wedi bod yn bwyta'r sylweddau gwenwynig hyn yn ein diet. Ond dyma'n gwaith ni fel deddfwyr i sicrhau na fydd y gwenwynau a fydd yn y pen draw yn gwneud eu ffordd i’r môr yn halogi'r genhedlaeth nesaf. Ein diet yw prif achos marwolaeth ac anabledd cynamserol, mae'n honni, a daw hyn â mi, yn amlwg, at y mater pwysig iawn o sicrhau ein bod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae'n hollol syfrdanol fod llai na 3 y cant o blant yn beicio i'r ysgol, sy'n ymddangos i mi i fod yn hawl sylfaenol i bob plentyn, tra bod dros draean yn cael eu cludo i'r ysgol mewn car, sy'n golygu eu bod yn gwbl ddibynnol ar eraill, heb gael dewis pwy maent yn mynd i'r ysgol gyda nhw, pa bryd y maent yn mynd i'r ysgol, ac maen nhw’n llwyr ddibynnol ar oedolyn i fynd â nhw i bobman.
Fel eraill, croesawaf yr adroddiad interim a'r cyfle i drafod y materion hynod bwysig a nodir ynddo. Rwyf yn gobeithio y bydd adroddiad terfynol yr adolygiad seneddol hwn yn rhoi sail i'r Cynulliad cyfan hwn ddod i gonsensws gwleidyddol newydd sy'n ein helpu i gyflawni'r newidiadau parhaus y mae angen inni eu gwneud er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwella’n barhaus ledled Cymru yn y dyfodol. Dyma'r hyn y bydd pobl yn ei ddisgwyl gennym ni ac yr wyf yn cynnwys yn hynny yr aelodau staff hynny sy’n ganolog i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hynny yn feunyddiol am 365 diwrnod y flwyddyn.
Er gwaethaf yr heriau yr ydym yn eu hwynebu, a disgrifir llawer ohonynt yn yr adroddiad interim, mae yna lawer o arbenigwyr o hyd sy'n cydnabod bod ein GIG yn parhau i fod yn esiampl wych o'r system gofal iechyd orau yn y byd. Ond rwy’n cydnabod bod adrannau o'r adolygiad pwysig hwn yn tynnu sylw at y newidiadau sylweddol y mae angen eu gwneud o hyd i’r ffordd yr ydym ni’n darparu gwasanaethau, yn y mannau yr ydym ni’n darparu gwasanaethau ynddynt, ac wrth baratoi ac arwain staff i wneud y newidiadau hynny.
Felly, roeddwn i eisiau cyfeirio fy sylwadau penodol heddiw at faterion cynllunio gweithlu, at fylchau mewn sgiliau, at gymell staff i fod yn rhan o ddyfodol y gwasanaethau hyn. Rwy'n falch bod yr adroddiad interim wedi cydnabod pwysigrwydd cynllunio gweithlu effeithiol, hyfforddiant rhyngddisgyblaethol, ac ymgysylltu â staff, oherwydd gwn o brofiad personol ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn y meysydd hyn ond mae gennym ffordd bell eto i fynd, ac fe wn i ba mor hir y gall y newidiadau hyn gymryd i ymwreiddio. Dim ond wrth fabwysiadu rhai gwerthoedd gwirioneddol ar weithio mewn partneriaeth gymdeithasol y gwelwn ni bobl yn croesawu agenda ar gyfer newid ac yn croesawu’r cyfle mewn difrif i fod yn rhan o'r ateb.
Fel y dywedais, mae newid yn cymryd amser. Mae'n gofyn am arweinyddiaeth dringar, ac mae angen cynllunio gweithlu effeithiol arno i gyflawni'r atebion hynny. Mae hefyd yn waith sydd yn wastadol ar y gweill, oherwydd, yn unol ag union natur y gofynion ar y gwasanaethau hyn, mae'n golygu y bydd angen newid parhaus ar draws yr holl ddisgyblaethau a’r holl feysydd gwasanaeth o ran iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod.
Felly, mae croeso mawr i'r gydnabyddiaeth yn yr adroddiad hwn bod angen cynllunio gweithlu strategol ac integredig cryfach. Bydd hefyd yn dod yn fwyfwy angenrheidiol gan fod newid technolegol yn creu’r angen i ailsgilio’r gweithlu ac yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer uwch-sgilio staff a fydd hefyd yn helpu i gyflawni'r broses integreiddio yr hoffem ni ei gweld.
Wrth wneud fy ail bwynt, hoffwn ategu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch yr angen am fwy o gonsensws wrth i ni wynebu rhai o'r heriau sylfaenol hyn. Felly, er mwyn cael dadl adeiladol, byddaf yn rhoi o’r neilltu y ddadl ynghylch cyllidebau cyni sydd wedi nodweddu’r saith mlynedd ddiwethaf. Ond mae angen i bawb ohonom ni fel ACau, trethdalwyr, a defnyddwyr y gwasanaethau hyn, fyfyrio ar y ffordd y gallwn fodloni gofynion y gwasanaeth orau yn y dyfodol ac a yw hynny am oresgyn prinder staff a sgiliau, i wynebu'r prinder y mae llawer o gydweithwyr yn ei grybwyll ynghylch gwasanaethau yn ein cymunedau gwledig, neu i fodloni'r gofynion iechyd a gofal cymhleth mewn nifer o gymunedau'r Cymoedd, yr wyf yn fwy na chyfarwydd â nhw.
Mae’n rhaid inni ofyn i ni ein hunain sut y byddwn yn goresgyn yr heriau hyn os canfyddwn, er enghraifft, y gall staff yn y gwasanaethau cymdeithasol ddod o hyd i swydd sy'n talu’n well ac sy’n llai beichus, er enghraifft, yn y sector manwerthu lleol. Felly, rwyf yn parhau i ddadlau bod trafodaethau parhaus â staff a'u hundebau llafur yn hanfodol i fynd i'r afael â'r heriau hyn.
Mae'r pwynt olaf yr wyf am ei wneud heddiw yn ymwneud â chyfnewid gwybodaeth ac arfer gorau. Ni allaf ond dychmygu, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod ychydig yn ddig pan fyddwch yn gweld yn yr adroddiadau hyn enghreifftiau o arfer gorau nad ydym yn ymddangos fel pe byddem yn dysgu ohonynt. Er gwaethaf yr holl newidiadau technolegol, ac er gwaethaf y cyflymder y gall newyddion deithio, mae'n parhau i fod yn rhwystredig na allwn ni fabwysiadu arferion gorau yn gyflym ar draws ein gwasanaethau. Nid yw hynny'n rhywbeth newydd, ond rwy'n gobeithio y gallwn ni edrych ar yr adolygiad hwn i helpu i gyflymu'r broses honno yng Nghymru. Wrth gwrs, rydym eisoes yn gwybod am nifer o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad interim, ac roeddent yn amlwg hefyd yn nodwedd yn yr adroddiad terfynol ar ddiwedd y flwyddyn. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau i ddatblygu a chryfhau'r camau hynny yr ydym eisoes yn eu cymryd er mwyn sicrhau cynnydd yn y materion pwysig hyn a pheidio â llaesu dwylo yn y meysydd hynny lle y gwyddom ni y gallwn ni weithredu ynddynt ar hyn o bryd.
Mae deg y cant o'r holl ymyraethau gofal iechyd yn gysylltiedig â niwed; Nid yw 20 y cant o'r holl waith a wneir gan y gwasanaeth iechyd yn cael unrhyw effaith ar ganlyniadau—dyfyniad o'r adolygiad yw hwn, ac, er y gallai'r adolygiad hwnnw fod yn osgoi’r cwestiwn braidd yn anodd o sut y byddwn ni’n ariannu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol, mae'n eithaf eglur o ran dangos ein bod ni, fel gwlad, yn gwario hanner ein grant bloc ar system sy'n cynhyrchu'r ystadegau hyn. Ac rwyf eisiau pwysleisio yma mai system yr wyf yn ei olygu, nid yr unigolion, oherwydd, fel Dawn, nid wyf eisiau i hyn fod yn bêl-droed gwleidyddol yn y dyfodol; mae'n llawer rhy bwysig. Ond rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod nawr, mewn gwirionedd, na all craffu mewn modd egwyddorol ac adeiladol ar yr hyn y byddwn yn sôn amdano yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf fod yn ddim byd ond cymorth yn y mater polisi anferthol hwn. Bydd ymddiriedaeth yn hanfodol yn y ddadl hon, a chredaf fod yr adolygiad seneddol—mae'n rhaid imi gymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet ar hwnnw—wedi bod o gymorth mawr wrth osod y sefyllfa ar gyfer hynny, oherwydd, yn fy marn i, nid Brexit fydd yn diffinio'r pumed Cynulliad hwn, ond cyflymder a dewrder ein hymateb i ofynion iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae'r ffaith bod angen i'r ymateb hwnnw fod yn gyflym ac yn ddewr yn brawf o'n haeddfedrwydd fel sefydliad, yn sicr, wrth i ni ystyried syniadau a allai fod yn anodd eu trafod, ond hefyd fel gwlad, wrth i ni ystyried syniadau a allai fod yn anodd eu clywed. Felly, credaf fod angen inni ddechrau paratoi pobl Cymru ar gyfer newid radical, lle mai nhw fydd yn chwarae’r brif ran.
Mae galw am newid diwylliant yn britho’r adroddiad hwn. Mae yna lawer yno ynglŷn â newid cydbwysedd cyfrifoldebau, ond yr un bwysig yw'r cydbwysedd rhwng yr unigolyn a'r wladwriaeth, fel y crybwyllodd Jenny, ac nid yw honno byth yn sgwrs gyfforddus yn y lle hwn. Mae'r adroddiad hwn yn sôn cryn dipyn am gydgynhyrchu. Dyna yr wyf i’n sôn amdano, ac mae honno, fel y dywed Jenny, yn bartneriaeth sydd, ynddo'i hun, angen gweld newid ym meddylfryd y boblogaeth, poblogaeth sydd, ar y cyfan, ar hyn o bryd wedi arfer gadael i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud y penderfyniadau ynglŷn â’u gofal ar eu rhan. Nawr, mae brenin cydgynhyrchu yn eistedd y tu ôl i mi—Mark Isherwood—a gwn y bydd rhai ohonoch chi sydd wedi bod yma ers rhai blynyddoedd yn ddigon graslon i gydnabod y bu’n hyrwyddo'r egwyddor hon ymhell cyn ei hymgorffori mewn deddfwriaeth . Mae'n rhywbeth real, ac mae'r adroddiad hwn yn ein cyfeirio at fodelau lle mae gan yr unigolyn fwy o reolaeth dros y math o driniaeth a gaiff a chyfrifoldeb am benderfyniadau sy'n effeithio arno.
Mae ein poblogaeth yn mynd yn hŷn, a bydd mwy ohonom yn anffodus yn cyrraedd cam lle nad yw’r gallu meddyliol gennym ni mwyach, ac yna bydd angen gofal arnom ni na fydd gennym ni fawr o reolaeth bersonol drosto. I'r gweddill ohonom, mae gwasanaethau sydd wedi eu cyfeirio at ddinasyddion yn golygu arfer gwneud penderfyniadau a chymryd camau drosom ein hunain a’n hanwyliaid, heb weld hynny fel y wladwriaeth yn gwrthod helpu. Mae'r adroddiad hwn yn glir: roedd awydd i ddod i gytundeb amlwg gyda'r cyhoedd ar swyddogaethau a chyfrifoldebau priodol gwasanaethau ac unigolion, ond nid oes unrhyw ddiben bod 91 y cant o bobl yn credu eu bod yn gyfrifol am eu hiechyd eu hunain oni bai eu bod , mewn gwirionedd, yn ddigon hyderus a gwybodus i arfer y cyfrifoldeb hwnnw heb ofni cael eu hamddifadu. Ac mae'n sicr yn berthnasol o ran gwneud dewisiadau iach, rwy’n cytuno'n llwyr, ond mae hefyd yn berthnasol i'r modd y mae unigolion yn deall eu hanghenion a sut y maen nhw’n dod yn hyderus i wneud penderfyniadau am eu gofal, gan nad oes unrhyw ddiben ailgyflunio ein system tuag at gydgynhyrchu os ydym ni, fel poblogaeth, yn dal i gael ein rhaglennu i ymateb i unrhyw gwestiynau am ein gofal gyda 'Beth bynnag yw eich barn chi, Doctor'.
Ni all unrhyw system genedlaethol gynnig gwasanaeth personol, ond rydym ni'n mynd yn nes o lawer at hynny mewn system sy'n hwyluso, nid rhwystro rhywun sydd â'r hyder i ddweud, 'Rwy'n cael fy archwilio gan offthalmolegydd y stryd fawr pan fo’n gyfleus i mi, yn hytrach nag aros mewn clinig ymgynghorydd ar gyfer cleifion allanol’ ac, yn yr un modd, sy'n hwyluso, nid rhwystro, meddyg teulu sydd â'r hyder i ddweud wrth rywun,' Pam ydych chi yma? Ewch at y fferyllydd'. Mae cyfrifoldeb y dinesydd yn gweithio’r ddwy ffordd ac mae Jenny yn iawn yn hynny o beth. Rydym ni'n mynd yn agosach o lawer at y nod hefyd, rwy'n credu, pan fydd gennym ni berson oedrannus sydd â'r hyder i ddweud, 'Wyddoch chi be, nid wyf eisiau talu gweithiwr gofal i wneud cwpanaid o de i mi; Rwyf eisiau talu am gludiant cymunedol fel y gallaf fynd i rywle a chael cwmni’.
Mae'r adroddiad hwn yn dweud nad oes gennym ni amser i lusgo traed ar gydgynhyrchu. Nawr, un peth yw sôn am newid dewr a chyflym mewn diwylliant o ran bod Llywodraeth Cymru yn ymddiried mewn pobl, o ran meddylfryd cul, o ran prosesau, o ran disgwyliadau staff ac arweinyddiaeth, ond nid wyf yn credu y gallwn ni ychwaith esgeuluso naill ai sut yr ydym ni’n helpu ein hetholwyr i wneud penderfyniadau yn hyderus, oherwydd hebddynt bydd y newidiadau y mae'r adolygiad hwn yn cyfeirio atynt yn darfod yn y cyfnod interim. Os ydym ni am edrych ar hyn o ddifrif fel ffordd ymlaen, mae'n rhaid i ni helpu ein dinasyddion i ymddiried ynddynt eu hunain. Diolch.
Diolch. Ac, yn olaf, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd groesawu'r gwaith hwn a wnaed gan Ruth Hussey a'r tîm arbenigol. Rwy'n credu ei bod yn glir, os edrychwn ni ar y boblogaeth sy'n heneiddio, bod mwy o'r un peth yn syml yn anghynaladwy, a chredaf mai dyna'r hyn sy'n dod i'r amlwg yn yr adroddiad hwn. Mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ymhellach yn rhywbeth rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn awr yn ei dderbyn. Yn syml, mae'n rhaid iddo ddigwydd.
Mae'n amlwg bod yn rhaid rhoi lle canolog i atal, ac mae'n rhaid i bob un ohonom gael ein hannog i gymryd mwy o gyfrifoldeb am ofalu amdanom ni ein hunain. Rwyf wrth fy modd bod yr adroddiad yn gofyn am fodelau newydd i'w treialu ledled Cymru. Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod hynny. Es i i gartref sy’n cynnig gofal ychwanegol yn y Drenewydd ym Mhowys yn ddiweddar, wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru—enghraifft wych. Mwy o hynny yw'r math o beth yr ydym ni eisiau ei weld. Mae hwnnw’n fodel drud; mae modelau eraill y bydd angen inni edrych arnynt. Ond mae'n gyfle i ni roi prawf ar rai syniadau newydd radical.
A gaf i groesawu'r ffaith bod yr adolygiad hefyd yn sensitif i'r ffaith y bydd y ddarpariaeth yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, a bod angen ystyried anghenion pobl hŷn o ran y Gymraeg yn arbennig?
Mae Dawn wedi sôn llawer am yr angen am sgiliau yn y gweithlu, ac i'r gweithlu hwnnw gael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw o ddifrif, rwy'n credu y byddwn ni’n gweld llif cyson o weithwyr anfedrus yn ein gwasanaeth gofal, ac nid yw hynny'n rhywbeth sy'n gynaliadwy. Felly, ar ryw adeg, mae'n rhaid i ni siarad am ariannu'r bobl hynny yn iawn.
Y peth allweddol i'w gofio yw bod yn rhaid canolbwyntio ar bobl. Mae'n rhaid rhoi’r sylw canolog i’r defnyddiwr terfynol yn y fan yma. Clywsom y prynhawn yma am y strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb', a'r angen am fodel gofal arloesol yn y gymuned. Mae un maes yr wyf o'r farn sydd ar goll o'r adroddiad—ac rwy'n deall pam nad oedd yn rhan o'r cylch gwaith͏—a’r maes hwnnw yw tai. Oni bai ein bod yn cael pethau’n gywir yn y maes tai, rwy’n credu y bydd hi’n anodd iawn inni ofalu am anghenion gofal y cyhoedd. Felly, mae angen inni rywsut, ar ryw adeg, gynnwys tai yn y drafodaeth hon, ac yna fe allwn ni lunio strategaeth datblygu economaidd yn sgil hynny hefyd, gyda'r agenda sgiliau gyfan i ddilyn hynny. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn inni gadw llygad arno.
Ond ar ryw adeg mae'n rhaid i ni gael sgwrs gyda'r cyhoedd ynghylch, mewn gwirionedd, yn gyntaf oll, beth yw'r sefyllfa bresennol. Oherwydd mae’r rhan fwyaf o bobl yn cerdded i mewn i gartref gofal ac yn synnu'n fawr o ddarganfod y bydd angen siec o £700 yr wythnos ganddynt. Nid ydynt yn ymwybodol o hynny. Mae'n rhaid i ni ddweud wrthynt beth yw'r sefyllfa bresennol ac yna cael sgwrs ynglŷn â sut yr hoffent i bethau fod yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni fod yn ddewr ynglŷn â hyn. Does dim dwywaith bod angen i ni fod yn ddewr. Ac un o'r pethau sydd wedi fy nghalonogi'n fawr iawn y prynhawn yma yw'r ffaith ein bod ni wedi clywed awgrymiadau gwirioneddol adeiladol gan bob plaid. Oni bai ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd ar hyn, rwy'n credu na fydd pobl Cymru yn maddau i ni, oherwydd os byddwn ni’n cael hyn yn anghywir, os na fyddwn ni’n mynd i'r afael â hyn, ein cymdogion, ein teulu, ein ffrindiau a fydd yn talu'r pris, ac ni fyddan nhw’n maddau i ni. Felly, mae gennym ni gyfle yma i arwain yng Nghymru, i wneud rhywbeth cyn bod gweddill y Deyrnas Unedig yn ei wneud, ond yr unig ffordd y mae hyn yn mynd i weithio yw drwy i ni weithio gyda'n gilydd a bod yn ddewr ac yn onest â phobl Cymru am yr hyn sydd angen digwydd. Ar ryw adeg, mae'n rhaid i'r sgwrs honno fod yn ymwneud â'r hyn y gallant ei gyfrannu hefyd. Mae'n ymwneud â gofalwyr yn rhannol, a ninnau'n helpu gofalwyr, ond gall fod angen trafodaeth ariannol arnom ni ar ryw adeg. Ni a ddechreuodd y GIG; yng Nghymru y dechreuwyd hynny. Fy mreuddwyd i yw gweld gwasanaeth gofal cenedlaethol yn cael ei ddatblygu yng Nghymru hefyd, a chredaf y gallwn ni gyflawni hynny gyda'n gilydd.
Diolch yn fawr iawn. Nawr, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch hefyd i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Nid wyf yn credu y byddaf yn gallu ymdrin â'r holl bwyntiau, ond eto, rhan o ddiben cael y ddadl hon heddiw yw i'r Aelodau roi amrywiaeth o safbwyntiau ar y cofnod wrth i ni fynd ymlaen i'r cam nesaf o gael yr adroddiad terfynol ac yna dal i orfod gwneud rhai dewisiadau. Ac rwy'n credu bod rhywfaint o'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed— mae wedi bod yn ddiddorol yn y ddadl clywed gan nifer o bobl, gan Jenny, Caroline, Eluned ac eraill, am benderfynyddion iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd hefyd. Ac mewn gwirionedd, cyfraniad gweddol fychan i'n canlyniadau iechyd a wneir gan y gwasanaeth. Mewn gwirionedd y dewisiadau eraill, ehangach hynny yr ydym ni’n eu gwneud ac a wneir drosom ni sy'n cyfrannu at ein canlyniadau iechyd ein hunain ac effaith hynny ar ein hanghenion gofal hefyd. Caiff hynny ei gydnabod yn 'Ffyniant i Bawb', sef y dull Llywodraeth gyfan yr ydym yn ei fabwysiadu. Rydym yn cydnabod nad dim ond dweud y gallai ac y dylai’r gwasanaeth iechyd wneud popeth yn y cyswllt hwnnw yw hyn. Mae yn ymwneud â chydnabod bod perthynas â gwasanaethau eraill, ydy, ond hefyd bod ein ffyniant economaidd a'n dyfodol mor bwysig hefyd.
Byddaf yn canolbwyntio ar rai o'r materion penodol y mae pobl wedi'u crybwyll hefyd. Rwy'n ddiolchgar i Angela, Rhun a Caroline fel llefarwyr, ond hefyd am y ffordd adeiladol y maen nhw wedi cyfrannu at ddadl heddiw a'r croeso mawr i’n sefyllfa bresennol. Unwaith eto, mae tynnu sylw at hyn wedi bod yn adolygiad gwirioneddol annibynnol lle mae'r cylch gorchwyl wedi ei gytuno a phobl wedi gorfod cyfaddawdu a dewis yr hyn a gaiff ei gynnwys yn y cylch gorchwyl i sicrhau bod gennym ni ddarn hylaw o waith y medrwn ni gyfeirio’n ôl ato ac y gallwn ni wedyn seilio dewisiadau arno i helpu penderfynu ar ddyfodol ein system gyfan.
O ran y pwyntiau a wnaed ynghylch staff ledled ein holl wasanaeth, mae'r Gweinidog Rebecca Evans eisoes wedi gwneud rhai datganiadau am y dyfodol ar gyfer staff gofal cymdeithasol, dilyniant gyrfa a'r cymysgedd sgiliau yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Felly, byddwn yn clywed mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â hynny. Ni fyddwn yn disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi. Ond yn sicr mae rhywbeth yno o ran, yn arbennig, rhai o'r sylwadau a wnaeth Dawn ynghylch bod angen sicrhau bod ein staff yn cymryd rhan yn y sgwrs hon yn awr, ac nid yn unig o ran cynllunio gweithlu ond er mwyn penderfynu ar rai o'r modelau hynny ar gyfer y dyfodol a sicrhau y bydd gan yr undeb llafur ehangach ran mewn gwneud hynny hefyd.
Yr hyn yr oeddwn i eisiau cyfeirio ato, o ran y sylwadau a wnaeth Rhun ac Angela yn ogystal â bod angen mwy o feddygon, nyrsys a staff gofal iechyd eraill hefyd, yw mai dyma'r unig faes lle'r ydym yn dal i ddisgwyl i'r sector cyhoeddus ehangu ac i fwy o staff fod ar gael flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ni chaiff y cwestiwn fyth ei ofyn, 'Sut allwch chi ymdopi â llai?' o ran staff; y gân o hyd yw, 'Mae angen mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol arnom ni.' Mae rhywbeth am y gonestrwydd yn y ddadl y mae angen i ni ei chael am hyn, oherwydd bydd pob grŵp yn dod ac yn galw am fwy o bethau. Mae hynny'n ddealladwy. Hyd yn oed wrth i ni sôn am gael trawstoriad gwahanol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau, boed hynny mewn ysbyty neu mewn lleoliad cymunedol, mae'n rhaid i ni barhau i fod yn onest ynghylch, 'Mae yna swm cyfyngedig o arian yn y fan yma i bob un ohonom ni ei wario’. Ac nid yw'n bwysig beth yw eich sefyllfa o ran cyni, mae’n un o ffeithiau bywyd gwleidyddol y mae angen inni ei ystyried wrth wneud ein dewisiadau yn awr ac yn y tymor byr a’r tymor canolig.
Diolch am dderbyn ymyriad. Yn fyr iawn, nid yw hi bob amser yn ymwneud â mwy a mwy o staff. Mae’n ymwneud â sicrhau, er enghraifft, pan fyddwn ni'n hyfforddi meddygon yng Nghymru, ein bod yn cadw mwy ohonyn nhw yng Nghymru, oherwydd mae llawer gormod o fyfyrwyr meddygol sydd wedi'u hyfforddi yng Nghymru yn y pen draw yn gweithio y tu allan i Gymru, ac mae arnom ni eisiau hyfforddi mwy o'n myfyrwyr ein hunain yma yng Nghymru, gan gynnwys ym Mangor.
Wel, nid ydym yn anghytuno am y ffaith bod arnom ni eisiau hyfforddi mwy o bobl o Gymru yng Nghymru a'u cadw. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod y realiti rhyngwladol o recriwtio staff gofal iechyd yn effeithiol o ran yr hyn yr ydym yn ei gael a pham. Mae rhywbeth yn y fan yma ynghylch pa mor gystadleuol ydym ni gyda gweddill y byd— gweddill y byd datblygedig—yn dal i gystadlu am yr un staff, ac mae'r adolygiad yn rhoi cyfle inni ailffurfio ein system i'w gwneud yn fwy deniadol i bobl sydd eisoes yma a'r rhai yr ydym eisiau eu denu yn y dyfodol. Rwy'n falch o glywed rhywbeth a ddywedodd Suzy Davies. Roedd hi'n dyfynnu o'r adroddiad ond mewn gwirionedd mae hynny’n nodi'r dull gofal iechyd darbodus a nodwyd gan fy rhagflaenydd uniongyrchol wrth gydnabod y niwed mae rhai ymyraethau yn y gwasanaeth yn eu hachosi, pan fo rhai pethau nad ydynt yn gwneud unrhyw les o gwbl mewn gwirionedd. Mae rhywbeth yn y fan yma ynglŷn â’r sgwrs gyda'r cyhoedd er mwyn deall bod angen i ni ailffurfio’n sylfaenol y ffordd yr ydym ni’n darparu ein gwasanaeth i ddarparu nid yn unig ansawdd uchel a gwerth uchel, ond mewn gwirionedd fe allem ni wneud cymaint mwy pe byddem ni’n cael gwared ar yr ymyraethau dianghenraid hynny.
Roeddwn i eisiau dweud rhywbeth cyn i mi orffen sôn am y sylwadau buddiol a wnaethpwyd am lais dinasyddion a chyfrifoldeb personol. Roedd gennyf ddiddordeb mewn clywed am sgwrs Jenny y byddai hi wedi'i chael yn y Maelfa am ddyfodol gofal iechyd lleol a bod pobl yn ymgysylltu’n briodol erbyn hyn ynghylch gwneud dewisiadau a lefel yr ymarferoliaeth sydd gan lawer o'n cymunedau am yr hyn y maen nhw ei eisiau a pham. Ac mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfle i ni i geisio parhau â'r sgwrs honno am gyfrifoldeb personol. Felly, beth yw'r fargen o safbwynt y system iechyd a gofal? Beth fyddwn ni'n ei ddarparu? Ac yna, beth ydym ni'n disgwyl i'r dinesydd ei wneud a sut yr ydym ni'n ei alluogi i wneud mwy o'i ddewisiadau ei hun? Oherwydd, fel arfer, mae dinasyddion sy'n gwneud eu dewisiadau—dewisiadau ymarferol eu hunain— yn dueddol o wneud rhai gwell, ac mae'n bwysig iawn i iechyd ein gwlad yn y dyfodol nad yw hynny'n rhywbeth y byddwn yn caniatáu iddo ddigwydd ar ddamwain. Mae'n rhywbeth yr ydym yn awyddus i’w annog yn gadarnhaol, a dyna pam mae gan yr adolygiad swyddogaeth mor bwysig.
Byddaf yn dod i derfyn nawr, Llywydd, gan fy mod yn gweld mai dim ond rhyw 30 eiliad sydd ar ôl. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at adroddiad terfynol yr adolygiad annibynnol a'r dadleuon y bydd yn rhaid inni eu cael, ond hefyd y dewisiadau y bydd yn rhaid inni eu gwneud wedyn—dewisiadau anodd ond angenrheidiol ynglŷn â'n dyfodol. Rwy'n parhau i fod yn galonogol am ein parodrwydd i ddewis llwybr cynllun ar gyfer y dyfodol. Oherwydd nid yw’n ymwneud yn unig â bod yr hyn a allai ddigwydd fel arall yn ofnadwy os byddwn yn caniatáu i bethau ddigwydd i ni, ond mae yna wobr go iawn i bob un ohonom fanteisio arni trwy gael system y byddwn yn dewis ei llunio a'i chyflawni a bwrw ymlaen â'r system ansawdd uchel y mae pob un ohonom yn dymuno ei chael yn awr ac yn y dyfodol ym mhob cymuned yng Nghymru.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae’r cynnig wedi’i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.