1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 20 Medi 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer y ddogfen ‘Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy’ i fod i ddod i ben ar y degfed ar hugain o’r mis hwn. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn sylwadau gan lawer o bobl yn dweud bod hwn yn ymarfer enfawr o ystyried ehangder yr ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo a’r nifer o faterion sy’n aml yn wahanol iawn i’w gilydd. Mae wedi gwneud gwaith da iawn, yn fy marn i, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei chyfnod yn y swydd, o ran ymgynghori a bod yn agored i safbwyntiau pob un sydd â diddordeb ym mhob un o’r meysydd o dan ei rheolaeth. Ond o ystyried y pwysau a fu ar sefydliadau fel Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru ac eraill i ymateb i bob math o ymgynghoriadau eraill, a phopeth arall sy’n digwydd gyda Brexit ac yn y blaen, tybed a yw’n teimlo bod y cyfnod o amser a roddwyd yn yr achos hwn yn ddigonol i sicrhau y ceir yr ystod lawn o ymatebion er mwyn llywio unrhyw benderfyniadau y gellid eu gwneud fel arall. A yw’n bosibl ystyried ymestyn y cyfnod ymgynghori hwn am ychydig bach rhagor o amser efallai?
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fe’i hymestynnais, fel y dywedwch, hyd at 30 Medi, yn dilyn sylwadau gan yr undebau amaeth a sefydliadau amgylcheddol eraill. Ac yn sicr, yn ystod toriad yr haf, pan fûm yn mynychu’r sioeau amaethyddol, ac wrth ymweld â lleoliadau amaethyddol ac amgylcheddol, roedd yn glir iawn, yn enwedig dros yr haf hefyd, fod y ddogfen yn un fawr, a’u bod yn teimlo y byddai angen yr estyniad arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi sylwadau a fyddai’n cael eu hystyried. Felly, fe’i hymestynnais hyd at 30 Medi. Ni chredaf fy mod mewn sefyllfa, mewn gwirionedd, i’w ymestyn ymhellach, ac un o’r rhesymau am hynny—ac fe sonioch am Brexit—yw Brexit, yn ôl pob tebyg. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael cymaint o safbwyntiau â phosibl mewn perthynas â newidiadau rheoleiddiol, mewn perthynas â pha ddeddfwriaeth y gallai fod ei hangen arnom, ac mae angen i mi fod yn barod i gychwyn ar fyr rybudd yn ôl pob tebyg. Nid oes gennym lawer o amser, felly, na, ni chredaf y gallaf ei ymestyn.
Mae’n flin gennyf glywed hynny, ond rwy’n deall y rhesymau a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet. A gwn na ellir ei pherswadio i siarad ynglŷn â sylwedd y materion sy’n ddarostyngedig i’r ymgynghoriad hwn, ond credaf fod mater o egwyddor gyffredinol y byddai’n ddefnyddiol ei archwilio yma. Ysgrifennodd un o fy etholwyr ataf i ddweud mai’r hyn yr ydym yn ceisio’i wneud yma, i bob pwrpas, yw dod â buddiannau sy’n gwrthdaro at ei gilydd, pan fo’r ddwy ochr yn gyfiawn yn aml iawn. A gofynnodd y cwestiwn: sut y mae datrys sefyllfaoedd lleol lle na ellir osgoi’r ffaith fod un gweithgaredd awyr agored pwysig yn ymyrryd â’r amgylchedd, neu â gweithgaredd pwysig arall, hyd yn oed pan fo’r ddau’n cael eu cynnal mewn modd cyfrifol. Mae hyn wedi codi, yn yr achos penodol hwn, yng nghyd-destun mynediad at ddŵr agored ac afonydd, a’r gwrthdaro a allai fodoli rhwng canŵ-wyr a physgotwyr. Rwy’n credu bod yr hyn y mae’n ei nodi yn bwynt dilys iawn, ac yn hytrach na chael un hawl gyffredinol sy’n gymwys ym mhobman heb unrhyw eithriadau, mae angen inni gael rhyw fath o broses leol o wneud penderfyniadau sy’n parchu amgylchiadau penodol achosion unigol. Mae’n dweud, yn eithaf rhesymol, fod yna fannau i’w cael lle na fyddai 100 o ganŵ-wyr yn sblasio ac yn sgrechian ar ei gilydd drwy’r dydd yn effeithio ar enweirio, ond bod mannau eraill lle bydd un canŵ di-stŵr yn pasio heibio yn amharu ar enweirio am beth amser. Felly, mae angen i ni sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar lefel leol fel bod modd ystyried yr amgylchiadau unigol hyn.
Yn hollol, ac mae hynny’n rhywbeth y credaf inni gynnal gweithdai yn ei gylch dros yr haf, ac mae’n sicr yn rhywbeth a fynegwyd wrthyf. Mae angen inni weithio gyda’n gilydd i nodi’r dull gorau o weithredu yn y dyfodol. Felly, gallwn ystyried hynny, yn sicr, pan fydd ymatebion yr ymgynghoriad wedi dod i law ac yn cael eu hasesu.
Nodwedd bwysig arall o hyn hefyd yw parchu hawliau tirfeddianwyr a ffermwyr. Yn amlwg, mae o fudd i’r rheini sy’n awyddus i weld cefn gwlad yn ffynnu ein bod yn sicrhau cymaint o fynediad â phosibl, a pho fwyaf o bobl sy’n deall cefn gwlad, gorau oll i bawb sy’n byw ac yn gweithio mewn cymunedau gwledig. Ond mae ymestyn yr hawl, er enghraifft, i feicio ar lwybrau troed, fel sy’n digwydd ar lwybrau ceffylau ar hyn o bryd, yn arwain at heriau newydd mewn perthynas â thir ar lannau afonydd, ac yn yr un modd, yr hawl i wersylla mewn mannau agored hefyd, a sut y mae rhywun yn cyrraedd yno yn y lle cyntaf. Felly, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cydbwyso’r buddiannau hyn yn ofalus iawn, gan fod ffermio o dan bwysau mewn sawl ffordd.
Credaf mai’r gair perthnasol yn hynny o beth yw ‘cydbwyso’. Rydych yn llygad eich lle. Fe sonioch chi am ganŵ-wyr a physgotwyr, ac fe sonioch chi am ganiatáu beicio ar lwybrau ceffylau. Mae’n rhaid i mi ddweud eu bod yn awyddus, yn rhai o’r trafodaethau a gefais dros yr haf, i weld aml-ddefnydd ar y llwybrau hyn: maent yn awyddus i weld llwybrau troed, beicwyr a marchogaeth ar yr un llwybr; nid yw eraill yn dymuno gweld hynny. Felly, credaf eich bod yn iawn: mae’n ymwneud â chydbwysedd.
Rwyf wedi derbyn sylwadau ynglŷn â gwersylla. Rydych yn llygad eich lle: mae rhai ffermwyr—ymwelais â fferm i fyny ym mharc cenedlaethol Eryri dros yr haf, lle dywedodd un ffermwr, ‘Mae 500,000 o bobl yn ymweld â’r parc hwn bob blwyddyn; rwy’n awyddus i weld cymaint o bobl ag y gallaf yma’. Nid yw ffermwyr eraill yn teimlo’r un fath. Mae’n ymwneud yn gyfan gwbl â sicrhau’r cydbwysedd hwnnw. Felly, yn sicr, pan ddaw’r ymgynghoriad i ben ar 30 Medi, gallwn adolygu’r miloedd, rwy’n credu, o ymatebion—gwn fod y ffigur wedi hen gyrraedd y miloedd bellach—a ddaw i law.
Plaid Cymru spokesperson, Simon Thomas.
Diolch, Llywydd. Rwy’n gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael gwyliau bach dros yr haf, ac os gwnaeth, ei bod wedi cael peth amser ar draeth. Os gwnaeth, byddai wedi sylwi ar y plastig sydd gennym ar ein traethau y dyddiau hyn. Credaf ei bod wedi cael cyfle, fel y cefais innau, i gyfarfod â chriw hwylio benywaidd eXXpedition, a fu’n hwylio o amgylch y DU dros yr haf—neu o amgylch Prydain mewn gwirionedd, nid y DU, gan fod hwylio o amgylch y DU yn eithaf anodd—hwylio o amgylch Prydain dros yr haf. Daethant i Gaerdydd ac roeddent yn tynnu sylw at blastig yn ein moroedd hefyd. Os cyfarfu â hwy, fe fydd yn gwybod eu bod yn gryf o blaid cynllun dychwelyd blaendal. Fe fydd hi hefyd yn gwybod bod Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ym mis Awst fod diddordeb ganddynt mewn cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer yr Alban, ac mae Zero Waste Scotland, er enghraifft, yn amcangyfrif, yn achos yr Alban, mewn perthynas â chlirio sbwriel yn unig, y gallai cynllun dychwelyd blaendal arbed rhwng £3 miliwn a £6 miliwn. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bellach ei bod yn bryd cyflwyno cynllun peilot, fan lleiaf, ar gyfer dychwelyd blaendal yma yng Nghymru?
Yn anffodus, ni chefais gyfle i gyfarfod â’r criw. Nid wyf yn cofio beth ddigwyddodd—credaf fy mod mewn rhan arall o Gymru ar y pryd, felly ni chefais gyfle i gyfarfod â hwy, ond roeddwn yn ymwybodol fod Simon wedi cyfarfod â hwy. Rwy’n siŵr fod Simon Thomas hefyd yn ymwybodol fy mod wedi treulio diwrnod gyda Roseanna Cunningham, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio’r Tir o’r Alban. Daeth i lawr i Gaerdydd, yn bennaf i weld ynglŷn â’n hailgylchu, i weld beth y gallai ei ddysgu gennym. Cawsom drafodaeth ynglŷn â’r cynllun dychwelyd blaendal.
Rwyf wedi comisiynu astudiaeth o becyn neu gyfres o bethau y credaf y gallwn eu gwneud i leihau gwastraff pecynnu. Rwy’n awyddus iawn, fel y gwyddoch, i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu. Rydym yn drydydd drwy’r byd bellach. Rwy’n awyddus i fod yn gyntaf drwy’r byd. Felly, roedd yn ddefnyddiol iawn clywed beth y mae’r Alban yn ei wneud, ac fel y dywedais, rwyf wedi comisiynu’r astudiaeth hon, ac wedi i mi dderbyn yr adroddiad, gallwn benderfynu pa agweddau arni y byddwn yn eu rhoi ar waith.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hystyriaeth. Cefais innau gyfarfod â Roseanna Cunningham hefyd pan oedd yn ymweld â Chaerdydd. Mae’n rhaid i mi ddweud, serch hynny, fy mod yn cefnogi ein chwaer blaid, Plaid Genedlaethol yr Alban. Nid wyf am iddynt achub y blaen arnom yma yng Nghymru. Rwyf am i ni fod yn gyntaf o ran cyflawni pethau fel cynlluniau dychwelyd blaendal a dulliau eraill o fynd i’r afael â llygredd plastig. Mae’n llygad ei lle, wrth gwrs, i ddweud ein bod yn gwneud yn dda iawn mewn perthynas ag ailgylchu, ond mae gan yr unig wledydd sy’n gwneud yn well na ni gynllun dychwelyd blaendal, mae’n rhaid i mi ddweud. Felly, gadewch i ni archwilio un agwedd arall ar hyn, gan fod Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad tystiolaeth, ‘Future of the Sea: Plastic Pollution’, ym mis Gorffennaf. Canfu’r adolygiad fod 70 y cant o’r holl sbwriel yn ein cefnforoedd yn blastig o wahanol fathau. Cawsom adroddiad hefyd yr wythnos diwethaf a ganfu fod 83 y cant o’r dŵr tap a arolygwyd ledled y byd yn cynnwys ffibrau plastig. Felly, credaf fod ymyriadau polisi bach i’w cael, a gall cenhedloedd bychain wneud yr ymyriadau polisi hynny sy’n trawsnewid y modd y meddyliwn am y defnydd o blastig, ailgylchu plastig ac ailddefnyddio plastig.
Yn ogystal â chynllun dychwelyd blaendal, mae Llywodraeth Cymru wedi trafod y posibilrwydd o drethi newydd yma yng Nghymru, gyda’r pwerau newydd, ac yn sicr, cefais yr argraff gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn yr haf—Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, hynny yw—fod diddordeb ganddo wybod sut y gallai trethi bach o’r fath newid ymddygiad, a sut y gellid eu defnyddio, efallai, mewn ffordd amgylcheddol. A yw hyn yn rhywbeth y mae’n ei drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ac yn arbennig gyda golwg ar drethu neu godi ardoll, mewn rhyw ffordd, ar y defnydd gwastraffus hwn o blastig?
‘Ydy’ yw’r ateb cryno. Credaf fy mod yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yr wythnos nesaf, ond nid wyf yn siŵr a yw hynny ar yr agenda. Ond yn sicr, mae’n rhywbeth rydym wedi dechrau ei drafod. Rwy’n ymrwymedig iawn i leihau sbwriel morol, ac efallai eich bod yn ymwybodol fod rhanddeiliaid wedi ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen ar sbwriel morol i fynd i’r afael â sbwriel morol yng Nghymru. Cyfarfûm â’r grŵp yn Saundersfoot yn ystod toriad yr haf. Mae gan Saundersfoot gynllun gwych lle mae ganddynt—ni allaf gofio beth rydych yn eu galw—rhyw fath o fyrddau ‘A’, lle y gall pobl fynd yno, gwisgo pâr o fenig, gafael mewn bag a mynd ati i gael gwared ar sbwriel oddi ar ein traethau ac yn y blaen, ac roeddwn yn meddwl fod hynny’n wych. Felly, credaf fod llawer o arferion da ar waith. Mae angen ei rannu, dyna i gyd. Bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld beth yw argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen.
Diolch i’r Gweinidog am hynny. Yn sicr, byddaf yn parhau i’w hannog hi a Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal yma yng Nghymru. Ond i droi at eitem arall o fusnes anorffenedig dros yr haf, fe fydd yn cofio iddi fod gerbron y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar 20 Gorffennaf. Gofynnwyd iddi yno ynglŷn ag effaith ardrethi annomestig ac ynni cymunedol ar gynlluniau ynni dŵr yn arbennig. Yn ei hymateb i’r pwyllgor ar 7 Medi, dywed fod y cynlluniau ynni dŵr wedi cael eu heffeithio’n anghymesur o ganlyniad i ailbrisio’r ardrethi annomestig. Felly, rwy’n falch ei bod yn derbyn hynny. Dywed hefyd ei bod bellach yn gweithio ac wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb mewn perthynas ag effaith ailbrisio ardrethi annomestig. Yr awgrym, rywsut, yw mai’r ateb yw aros i ardrethi annomestig gael eu hailbrisio a’u hailweithio, a allai ddigwydd yn 2018, yn hytrach nag ymdrin yn awr â’r broblem a achoswyd gan bolisïau ei Llywodraeth ei hun. A all roi ymrwymiad y bydd yr anhawster gyda chynlluniau ynni dŵr, y mae bellach yn ei gydnabod, yn cael ei ddatrys yn gynt na hynny, ac y bydd yn gweithio’n gyflym ac ar fyrder gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i sicrhau nad ydynt yn cael eu cosbi’n anghymesur o ganlyniad i newid yn yr ardrethi busnes?
Ni allaf gofio a gefais y cyfarfod â Chymdeithas Ynni Dŵr Prydain cyn neu ar ôl i mi fod gerbron y pwyllgor, ond roedd yn sicr o gwmpas yr amser hwnnw. Unwaith eto, rwyf wedi rhannu gohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fel y mae’r gymdeithas ei hun wedi’i wneud. Felly, os caf, fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dros yr haf, cyhoeddwyd y trydydd cynllun gweithredu blynyddol o dan fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, ac yn eich rhagair, fe ddywedwch y bydd y flwyddyn sydd i ddod yn un heriol, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y gall pob un ohonom gytuno yn ei gylch, yn bendant. Nawr, tynnodd yr adroddiad hwnnw sylw at y ffaith fod lle bellach i ystyried yr opsiwn o wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. A allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad yma yng Nghymru?
Nid oes gennym syrcasau wedi’u trwyddedu yng Nghymru. Rwyf wedi cael o leiaf ddau gyfarfod gyda’r Arglwydd Gardiner, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros hyn yn Llywodraeth y DU. Penderfynasom y byddem yn gweithio’n agos iawn gyda hwy ar y posibilrwydd o gael gwaharddiad ar y cyd. Cyfarfûm â’r Arglwydd Gardiner ddiwethaf allan ym Mrwsel mewn cyngor amaeth, a chredaf fy mod i gael y wybodaeth ddiweddaraf fis nesaf.
Wel, tra bo Cymru yn argymell dull ‘gadewch i ni aros am San Steffan’ o weithredu, credaf ei bod yn drueni o’r mwyaf fod Llywodraeth yr Alban, er enghraifft, wedi bwrw ymlaen â’r gwaith ac eisoes wedi cyflwyno Bil, sydd wrthi’n mynd drwy eu proses ddeddfwriaethol.
Nawr, mae blaenoriaeth arall a amlygwyd yn y cynllun gweithredu yn ymwneud â lles anifeiliaid ar adeg eu lladd. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn â gosod teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yn Lloegr, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y cedwir safon uchel o les anifeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys ar adeg eu lladd, ac a wnewch chi ymrwymo yn awr i weld teledu cylch cyfyng yn cael ei osod ym mhob lladd-dy yma yng Nghymru?
Mewn perthynas â’ch cwestiwn cyntaf, nid mater o ‘aros i weld ynglŷn â Llywodraeth y DU’ yw hyn. Fe fyddwch yn deall bod y rhaglen ddeddfwriaethol—[Torri ar draws.] Fe fyddwch yn deall bod y rhaglen ddeddfwriaethol yma yn brysur iawn, yn niffyg gair gwell. Rwy’n gorfod sicrhau bod gennyf ddeddfwriaeth yn cael ei hystyried yn barod ar gyfer y cyfnod ôl-Brexit. Roeddwn o’r farn mai dyna’r ffordd orau ymlaen, yn enwedig gan nad oes gennym syrcasau wedi’u trwyddedu yng Nghymru.
Mewn perthynas â’ch cwestiwn ynglŷn â theledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar hynny. Pan ddechreuais yn y swydd, fe fyddwch yn gwybod bod fy rhagflaenydd, Rebecca Evans, wedi gofyn i grŵp gorchwyl a gorffen wedi ei arwain gan y diwydiant gynhyrchu adroddiad ar weithredu teledu cylch cyfyng. Bythefnos yn ôl yn unig, roeddwn yn edrych ar faint o gamerâu teledu cylch cyfyng a osodwyd mewn lladd-dai yng Nghymru. Mae’n rhaid i mi ddweud bod gan y mwyafrif helaeth o’r lladd-dai mawr yng Nghymru gamerâu. Fe fyddwch yn gwybod bod milfeddygon yn bresennol ym mhob lladd-dy i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Mae ganddynt bŵer i atafaelu deunydd oddi ar deledu cylch cyfyng os ydynt yn tybio nad yw safonau lles yn cael eu cyrraedd. Felly, credaf fod hynny’n rheswm dros ystyried cael camerâu teledu cylch cyfyng yn ein lladd-dai. Bydd gennyf waith yn dod i law erbyn diwedd y mis hwn sy’n edrych i weld a fyddwn yn gwneud hynny’n orfodol wedyn ai peidio.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gofyn dau gwestiwn penodol i chi yn awr wrth gwrs, ac ymddengys i mi fod Llywodraeth Cymru yn petruso ar y ddau. Mae yna ganfyddiad, felly, fod Llywodraeth Cymru yn dweud pethau mawr am faterion lles anifeiliaid ond nad yw’n cyflawni fawr ddim. Er enghraifft, pryd y bwriadwch adolygu effeithiolrwydd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014? Pryd y byddwch yn mynd i’r afael â mater bridio, masnachu a chadw anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru? Felly, pryd y byddwn yn dechrau gweld camau penodol i sicrhau gwelliant mewn lles anifeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys amserlenni pendant ar gyfer y polisïau hyn?
Nid wyf yn credu ei fod yn fater o betruso; credaf ei fod yn fater o gael pethau’n iawn. Mae’n rhaid i chi gydnabod cost y pethau hyn hefyd. Efallai, pe baem wedi cael ychydig mwy o arian gan eich Llywodraeth Dorïaidd yn y DU, efallai y byddai modd inni wneud popeth. Ond nid yw’r gyllideb yn—[Torri ar draws.] Fe fyddwch yn deall y pethau hyn. Felly, er enghraifft, mae’r gost o osod teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yn gannoedd o filoedd o bunnoedd. Felly, mae angen i chi sicrhau—[Torri ar draws.] A’r holl bethau eraill rydych yn eu hawgrymu. Ni chredaf y gallwch ddweud ein bod yn petruso mewn perthynas â safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.