– Senedd Cymru am 4:28 pm ar 3 Hydref 2017.
Eitem 4 ar yr agenda yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad annibynnol o Chwaraeon Cymru, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Diolch. Ym mis Gorffennaf, derbyniais a chyhoeddais adroddiad y panel annibynnol ar eu hadolygiad o Chwaraeon Cymru, gydag ymrwymiad cadarn i ystyried yr adroddiad a'i argymhellion dros y toriad a gwneud datganiad ar ymateb y Llywodraeth yn yr hydref.
Rwy’n croesawu’r adolygiad a'i argymhellion, a diolch i bawb a gymerodd ran yn y broses. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i aelodau'r panel annibynnol a wirfoddolodd eu hamser i gwblhau'r adolygiad, ac am wneud hynny yn ddidwyll ac yn broffesiynol. Mae'r adroddiad dilynol yn fyfyrdod ar sail tystiolaeth ar swyddogaeth a phwrpas Chwaraeon Cymru, a sut mae’n cael ei ystyried gan ei randdeiliaid a'i bartneriaid. Mae'n cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru. Rwy'n cytuno â chanfyddiadau'r adolygiad ac rwy'n falch bod Chwaraeon Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol iddo. Mae'r Cadeirydd wedi ysgrifennu ataf yn nodi sut y bydd y sefydliad yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau a'r argymhellion, y maent eisoes wedi dechrau gweithredu rhai ohonynt, a chyfarfûm â'r Cadeirydd yr wythnos diwethaf i drafod eu hymateb ymhellach. Rwy’n hollol hyderus y bydd Chwaraeon Cymru yn adeiladu ar sail y llwyddiant a gydnabyddir yn yr adroddiad ac yn uno'r sector chwaraeon i ddarparu buddion diriaethol a pharhaol i bobl Cymru.
Heddiw, rwy’n ymateb i argymhelliad allweddol yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru trwy wneud y datganiad hwn i ddarparu eglurder, diffiniad a chyfeiriad am yr hyn a ddisgwyliwn gan Chwaraeon Cymru a'r sector chwaraeon, gan gynnwys sut yr ydym yn disgwyl iddynt weithio, a sut yr ydym yn disgwyl iddynt gyfrannu at ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'.
Rydyn ni'n aml yn sôn am bŵer chwaraeon i uno cenedl, ac rydym wedi bod yn ffodus i weld hyn sawl gwaith yn y blynyddoedd diwethaf. Nid oes dim byd tebyg i lwyddiant chwaraeon i ddod â ni at ein gilydd a rhoi'r achos i ni ddathlu ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hiaith. Mae chwaraeon yn meithrin talent ac yn cyflawni llwyddiant, ac mae gwylwyr a chefnogwyr yn mwynhau llwyddiant, yn ogystal â'r athletwyr a'r timau eu hunain.
Mae'r adolygiad o Chwaraeon Cymru yn cydnabod yn briodol y rhan y mae'r sefydliad wedi'i chwarae wrth gefnogi athletwyr elitaidd a chyrff llywodraethu cenedlaethol i gyflawni llwyddiannau medalau i Gymru a Phrydain Fawr. Dylent gael eu canmol am hynny, ac am y cyfraniad y mae hyn yn ei wneud i'n heconomi a'n delwedd fyd-eang.
Mae chwaraeon gwerin gwlad yn cynnig cyfle i bawb fod yn egnïol ac i fwynhau manteision iechyd corfforol a meddyliol chwaraeon. Yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, mae pobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn fwy tebygol o fodloni’r canllawiau gweithgaredd corfforol. Ac mae pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol hefyd yn llai tebygol o ysmygu, yn fwy tebygol o fwyta pum ffrwyth a llysieuyn y dydd, ac yn llai tebygol o fod yn ordew.
Yr her sydd gennym fel cenedl, ac un na all chwaraeon yn unig fynd i'r afael â hi, yw mai dim ond traean y boblogaeth sy'n egnïol yn gorfforol i'r lefelau a argymhellir. Fel Llywodraeth, byddwn yn annog a chefnogi cynnydd sylweddol ym maes gweithgaredd corfforol pobl fel rhan o'n dull ni o hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol da. I wneud hynny, mae angen i chwaraeon barhau i chwarae ei ran ac i ddangos ei effaith. Ond, fel sawl gweithgaredd a difyrrwch hamdden arall, mae'n rhaid iddo barhau i fod yn berthnasol ac yn gydnerth. Mae'n rhaid iddo gynnig rhywbeth i bob oedran a gallu ar adegau ac mewn mannau sy'n gyfleus. Rhaid i'r cynnig fod yn ddigon hyblyg i bobl allu ei gynnwys o fewn ymrwymiadau eraill eu bywydau. Mae'n rhaid i chwaraeon gofleidio a defnyddio technoleg i ymgysylltu ac ailgysylltu pobl, ac i gynnal eu diddordeb a'u brwdfrydedd gyhyd â phosib. Mae gan Chwaraeon Cymru ran hollbwysig i'w chwarae wrth ddarparu'r cynnig chwaraeon hwn, ac mae ein buddsoddiad drwy Chwaraeon Cymru yn hanfodol i les y genedl yn y dyfodol.
Dros dymor y Llywodraeth hon, byddaf yn parhau i fuddsoddi mewn chwaraeon, trwy Chwaraeon Cymru, ond byddaf yn disgwyl i'r sector addasu, i fod yn fwy cydnerth a dangos yn well ei gyfraniad at ein nodau lles a'n hamcanion. Y blaenoriaethau yr wyf yn disgwyl i Chwaraeon Cymru ganolbwyntio arnyn nhw yw: cael mwy o bobl yn egnïol ym mhob cam yn eu bywydau—tra maen nhw yn yr ysgol, pan fyddant yn gadael addysg, pan fyddant yn cael swydd, os oes ganddyn nhw deulu eu hunain, a phan fyddan nhw’n ymddeol; darparu'r cychwyn gorau mewn bywyd i blant, trwy helpu ysgolion i ddysgu sgiliau iddynt a rhoi iddynt wybodaeth, cymhelliant a hyder i fod, ac i aros, yn egnïol; buddsoddi ymdrech ac adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, lle mae amrywiadau sylweddol mewn cyfranogiad a lle mae diffyg cyfle neu ddyhead i fod yn egnïol; helpu chwaraeon i barhau i feithrin, datblygu a chefnogi talent i gyflawni llwyddiant sy'n ysbrydoli pobl ac yn atgyfnerthu ein hunaniaeth fel cenedl. Mae hyn yn cynnwys ysgolion a chyflogwyr, y cyfryngau, llywodraeth leol a'r trydydd sector. Mae'n golygu gwneud y mwyaf o botensial ein strategaethau teithio egnïol. Mae'n golygu bod ein darparwyr gofal iechyd yn gwneud pob cysylltiad â phobl sy’n gleifion, a gwyddom y gall ymyriadau byr i hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a chefnogi newid ymddygiad fod yn fwy cost-effeithiol na rhagnodi cyffuriau i ostwng lefelau colesterol, er enghraifft.
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn egluro ein bwriad i weithio'n wahanol. Rydyn ni’n disgwyl i'r cyrff sector cyhoeddus yr ydym yn buddsoddi ynddynt wneud yr un peth. Rydyn ni’n disgwyl cydweithrediad yr holl asiantaethau sy'n ymwneud â hybu ffyrdd iachach o fyw, a disgwyliwn iddynt ddefnyddio adnoddau naturiol sylweddol Cymru i gynyddu gweithgarwch corfforol pobl. Cafodd Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru eu dwyn ynghyd yn bwrpasol dan un portffolio. Rwy'n disgwyl iddynt barhau i gydweithio yn y misoedd nesaf i ddatblygu blaenoriaethau a chamau gweithredu hirdymor i gyfrannu at ein cynllun gweithredu i gyflawni amcanion ein strategaeth genedlaethol.
Mae addysg yn sbardun allweddol ar gyfer newid, ac mae ei swyddogaeth yn cael ei chydnabod yn ein strategaeth genedlaethol. Mae gan ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion gynulleidfa gaeth i ddylanwadu arni, ac mae ganddynt gyfleusterau y gellir ac y dylid eu rhannu gyda'u cymunedau. Mae ein hawdurdodau lleol yn gwneud buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau a gweithgareddau i annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, ac mae eu hymrwymiad parhaus yn hanfodol. Mae eu buddsoddiadau nhw a ni mewn seilwaith yn hollbwysig os ydym eisiau ymgysylltu ac annog ffyrdd o fyw egnïol a theithio egnïol.
Dim ond un parth yn y sbectrwm gweithgaredd corfforol yw chwaraeon. Ail barth yw gweithgareddau hamddenol fel cerdded, beicio, rhedeg a nofio. Mae eraill yn cynnwys mwy o weithgareddau arferol, fel teithio egnïol i'r gwaith neu’r ysgol, a gweithgareddau megis garddio, DIY a gwaith tŷ. Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i ganolbwyntio ei ymdrechion a'i adnoddau ar y meysydd chwaraeon a gweithgareddau hamddenol, er mwyn cynyddu ymhellach nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn aml ac yn rheolaidd. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, gan gynnwys pwysigrwydd gweithgaredd corfforol, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn buddsoddi yn ein hamgylchedd naturiol i gefnogi'r seilwaith sy'n angenrheidiol i bobl fod yn egnïol yn gorfforol yn yr awyr agored.
Ond er mwyn cyflawni'r newid sylweddol hwnnw i leihau anghydraddoldebau iechyd a newid y duedd mewn afiechyd a marwolaethau cynnar, mae angen i bob partner weithio gyda'i gilydd. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi gofyn i Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yn gyfrifol ac yn atebol ar y cyd am ddatblygu set gyfun o gamau gweithredu yn ein cynllun gweithredu 'iach ac egnïol’ a fydd yn cynyddu lefelau gweithgaredd corfforol pobl, a byddant yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i wneud hynny. Bydd y camau gweithredu yn cael eu llunio gan y strategaeth genedlaethol a byddant yn cynnwys: mesurau cyffredin a chyson, dangosyddion perfformiad ac amcanion a rennir; eglurder swyddogaethau asiantaethau allweddol a'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi ein hamcan polisi i gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol; a meysydd a nodwyd lle bydd adnoddau ac ymyriadau yn cael eu halinio i gyflawni canlyniadau cyffredin.
Fel yn achos yr holl nodau ac amcanion ar gyfer tymor y Llywodraeth hon, mae'r cyfrifoldeb dros gynyddu gweithgarwch corfforol yn gorwedd gyda ni i gyd yn y Llywodraeth. Ond byddwn ond yn cyflawni ein nodau trwy weithio ar draws portffolios, a chyda'n holl bartneriaid cyhoeddus, preifat a thrydydd sector. Felly, heddiw rwy'n egluro fy mwriad i wneud y mwyaf o gyfraniad chwaraeon at greu cenedl sy'n egnïol yn gorfforol ac i ddarparu'r mandad ar gyfer camau ar y cyd i sicrhau cynnydd sylweddol ym maes gweithgaredd corfforol pobl. Rwyf yn egluro gwerth chwaraeon i unigolion, cymunedau a'n cenedl, a byddwn yn parhau i fuddsoddi ynddo, i wneud y mwyaf o’i fanteision i ni ac i genedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, sy'n tanlinellu, byddwn i’n dweud, yr angen am weithio llawer agosach rhwng Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad. Codwyd cwestiynau difrifol gan yr adolygiad hwn ynghylch pam y caniatawyd i Chwaraeon Cymru ddatblygu i fod mor gamweithredol. Bellach, mae'n amlwg bod angen mwy o integreiddio rhwng Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn hanesyddol, nid yw hyn wedi digwydd, ac mae Chwaraeon Cymru wedi gallu gweithredu ar bellter annerbyniol heb oruchwyliaeth weinidogol ers gormod o amser, byddwn i’n dweud, ac mae hyn wedi bod ar draul aelodau’r cyhoedd y mae'n eu gwasanaethu.
A gaf i ofyn i'r Gweinidog: pa oruchwyliaeth fydd gennych chi yn y dyfodol o weithgareddau a llywodraethu Chwaraeon Cymru, a beth mae llwyddiant yn ei olygu, Weinidog? Beth yw llwyddiant? Mae eich datganiad yn cynnwys llawer o eiriau cynnes, ond nid oes unrhyw ddangosyddion perfformiad allweddol a dim targedau y gallwn ni, fel Aelodau'r Cynulliad, eich dal chi a Chwaraeon Cymru i gyfrif amdanynt. Argymhellodd yr adolygiad fod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o arweiniad ar yr hyn a ddisgwylir ganddynt, ac mae peth ansicrwydd ynghylch pa ddogfen ddylai ddarparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer Chwaraeon Cymru. A allwch chi roi sylwadau, os gwelwch yn dda, ar hynny hefyd?
Cyfeiriasoch yn fyr yn unig at y ddogfen 'Ffyniant i Bawb'. A wnaiff y Gweinidog ystyried cyflwyno strategaeth wedi'i diweddaru sy'n dod â themâu 'Dringo'n Uwch: Creu Cymru Egnïol' a'r strategaeth chwaraeon elitaidd ynghyd i egluro cylch gwaith cyffredinol Chwaraeon Cymru?
Ar adeg pan ydym ni'n agos at waelod tablau’r gynghrair ar gyfer diabetes a gordewdra, a dim ond traean o'r boblogaeth sy'n egnïol yn gorfforol, mae'n amlwg bod yn rhaid i Chwaraeon Cymru roi mwy o bwyslais ar ei gylch gwaith i wella chwaraeon cymunedol ac iechyd cyhoeddus yn ogystal â chanolbwyntio ar chwaraeon elitaidd. Felly, i'r perwyl hwnnw, ac o ystyried bod yr adroddiad yn nodi mai ychydig iawn o gydweithio sydd wedi bod rhwng y ddau dîm sy'n arwain ar y meysydd hyn yn Chwaraeon Cymru, pa ystyriaethau yr ydych chi wedi'u rhoi i'r argymhellion bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r rhaglen chwaraeon a gweithgareddau cymunedol? Pam ydych chi'n teimlo bod un sefydliad yn well model na dau sefydliad gwahanol, un sy'n canolbwyntio ar chwaraeon cymunedol a sefydliad ar wahân i chwaraeon elitaidd? Rwyf hefyd yn ymwybodol bod llawer o gonsensws yn y Siambr hon ynghylch yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol i Gymru, a allai fod wedi'i lleoli yn Wrecsam, neu yn wir pam ddim y Drenewydd, fel aelod sylfaenol o Gymdeithas Pêl-droed Cymru, ond yn sicr yn y rhanbarth hwnnw o Gymru. Tybed a allech chi ddarparu unrhyw ddiweddariad ar botensial y cynnig hwn, a fyddai wrth gwrs yn helpu i hyrwyddo rhagoriaeth mewn chwaraeon a chreu swyddi a chefnogi'r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth hwnnw.
Yn olaf, argymhellodd y Gweinidog y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllidebau tymor hwy ar gyfer Chwaraeon Cymru, i gynnig setliadau ariannu tair blynedd i alluogi partneriaid Chwaraeon Cymru i ddatblygu eu cynlluniau busnes yn fwy effeithlon. Ydych chi wedi trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a sut fyddwch chi'n datblygu’r argymhelliad penodol hwn?
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny. Mae'n debyg y byddaf—wel, yn sicr, ni fyddwn yn cytuno â'ch sylwadau agoriadol ynglŷn â'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru. Ni chredaf eu bod yn rhoi darlun teg ac yn sicr nid ydynt yn rhoi darlun teg o Chwaraeon Cymru fel sefydliad. Rwyf wedi bod yn glir o’r dechrau, gyda'r holl hanes yr ydym wedi'i gael gyda'r bwrdd ar ddiwedd y llynedd ac ar ddechrau'r flwyddyn hon, rwyf wedi bod yn glir iawn nad oedd Chwaraeon Cymru fel sefydliad ei hun erioed yn gamweithredol. Roedd y problemau yr oedd gennyf i mewn gwirionedd yn ymwneud â dull gweithio'r bwrdd, a oedd yn cyrraedd pwynt lle na allai barhau â'i waith a bod angen arweiniad newydd arno. Felly, credaf fod angen inni wahanu'r ddau fater hynny yn ofalus iawn, oherwydd, mewn gwirionedd, yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn i’r sefydliad, mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn parhau ddydd ar ôl dydd i wneud gwaith ardderchog ar hyd a lled Cymru. Felly, credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod gwahaniaeth rhwng y sefydliad ei hun a gwaith y bwrdd, lle'r oedd y pryderon gennyf.
Ond ynglŷn â llywodraethu, ac eto, mae hwn yn faes yr edrychwyd arno gan y cadeirydd dros dro newydd pan ddaeth i'r swydd yn gyntaf—. Roedd yn glir iawn nad oedd ganddo bryderon ynghylch trefniadau llywodraethu na threfniadau ariannol y sefydliad. Unwaith eto, mae'r trefniadau hynny yn gadarn. Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, yn cael cyfarfodydd perfformiad rheolaidd gyda'r unigolion dan sylw yn y sefydliad o ran sicrhau bod gennym ni'r llywodraethu cryf hwnnw. Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiad cylch gwaith, sy'n nodi'n glir y cyfeiriad yr ydym yn disgwyl i'r sefydliad ei gymryd. Ac, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd gyda chadeirydd a phrif weithredwr y sefydliad hefyd.
O ran y cyfeiriad strategol, fe welwch mai un o'r argymhellion allweddol ar gyfer Chwaraeon Cymru ei hun yn yr adroddiad annibynnol yw creu dull o weithredu hirdymor newydd, strategaeth hirdymor newydd ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Dylai hynny ymateb i'r cyfeiriad a bennwyd gennym ni heddiw ac a nodwyd mewn trafodaethau blaenorol gyda'r sefydliad am fwy o bwyslais ar fynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau iechyd sydd gennym yng Nghymru— anghydraddoldebau, efallai, o ran cyfleoedd i gael mynediad at chwaraeon, tra hefyd yn parhau â'r gwaith ardderchog y maen nhw’n ei wneud, ochr yn ochr â chyrff llywodraethu chwaraeon, yn ein rhoi ni ar lwyfan y byd gyda rhai o'n cyflawniadau rhagorol yr ydym wedi'u cael ar lefel elitaidd hefyd.
Mae hefyd yn bwysig bod Chwaraeon Cymru yn cynnwys rhai canlyniadau, metrigau a fframweithiau perfformiad cadarn, gydag eglurder perchnogaeth a phroses fuddsoddi dryloyw o fewn y darn hwnnw o waith. Dyna un o'r eitemau y cyfeirir atynt yn benodol yn yr adroddiad annibynnol fel camau i Chwaraeon Cymru eu datblygu hefyd.
O ran y rhaglen chwaraeon a gweithgareddau cymunedol, rydyn ni'n cynnal rhai trafodaethau ar hyn o bryd gyda Chwaraeon Cymru o ran sut y byddem yn bwrw ymlaen â hynny, gan edrych ar y ddarpariaeth yn fwy rhanbarthol er mwyn manteisio i'r eithaf ar y gwahanol bartneriaethau sy'n bodoli yn ein cymunedau. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion weithio gyda'r sefydliad i ddod â'r trafodaethau hyn, debygwn i, i ben, gan fy mod yn sylweddoli bod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni fod yn gwneud cynnydd arno ar hyn o bryd hefyd. Felly, byddwn yn gobeithio gallu dweud mwy ar hynny yn y dyfodol agos hefyd.
O ran yr awgrym a ddylai fod gennym ddau sefydliad ai peidio, sef un sefydliad yn canolbwyntio ar chwaraeon gwerin gwlad a sefydliad arall sy'n canolbwyntio ar chwaraeon elitaidd, rwy'n gwybod bod hynny’n rhywbeth sydd wedi'i drafod a'i ystyried dros gyfnod o amser nawr, a dyma un o'r materion yr edrychodd y panel adolygu annibynnol arno. Eu hargymhelliad cryf a chlir oedd, mewn gwirionedd, na ddylid gwahanu’r chwaraeon elitaidd a'r chwaraeon gwerin gwlad o ran lle y maent o fewn sefydliad. Rwy'n credu mai un o'r rhesymau dros hynny yw ei bod yn bwysig cael y llwybrau llawr gwlad hynny i fyny at chwaraeon elitaidd hefyd, er mwyn cynnal llinell glir rhwng adnabod talentau ar lawr gwlad ac yna sicrhau bod cyfle i’r bobl hyn fynd ymlaen a'n gwneud ni'n falch iawn ohonyn nhw ar y llwyfan rhyngwladol hefyd.
Yr amgueddfa genedlaethol, ie, mae’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ymrwymo iddo, a gallaf gadarnhau bod Ysgrifennydd y Cabinet dros economi yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar hyn o bryd hefyd. Ac rwy'n credu bod hynny'n ateb yr holl gwestiynau.
Yn amlwg ni allwn or-bwysleisio pwysigrwydd cael ein cynnig chwaraeon yn iawn yng Nghymru. Nid yn unig mae hyn yn wir o ran lles cenedlaethol a dathlu ein treftadaeth ac yn y blaen, fel y dywed y Gweinidog, ond yn bwysicach fyth mae’n ffordd o sicrhau ein bod yn bobl iachach. Ac wrth i ni edrych ymlaen at ffurfio'r strategaeth gordewdra gyntaf i Gymru—mae'n deillio o ganlyniad i'n gwelliant i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)— rydym yn gwybod bod yn rhaid cael pobl sy’n egnïol yn gorfforol ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
Hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau a thynnu sylw at bethau nad ydynt yn y datganiad, os caf. Yn gyntaf, os caf ofyn i'r Gweinidog roi sylwadau ar yr hyn a ddisgwylir gan Chwaraeon Cymru nawr o ran mynd i'r afael â nifer o anghydraddoldebau. Anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn chwaraeon fel yr un cyntaf: yr angen i fwy o ferched gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, a beth ddylai Chwaraeon Cymru ei wneud yn ei gylch, er enghraifft, cyllid teg; sicrhau cyfleusterau diogel; herio stereoteipiau. Gellid dweud yr un peth am anableddau. Ni chredaf fy mod wedi clywed yr hyn a ddisgwylir yn awr gan Chwaraeon Cymru o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yno. Hefyd, mynd i'r afael â hiliaeth: yn sicr mae rhwystr yn dal i fodoli o ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Nid yw anghyfartaledd, rwy’n credu, ond yn cael ei grybwyll yng nghyd-destun gofyn i Chwaraeon Cymru fuddsoddi adnoddau lle mae eu hangen fwyaf o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol, ond mae enghreifftiau eraill o anghydraddoldebau—rhai yr wyf wedi'u crybwyll yma. Hefyd, mae anghydraddoldebau a gaiff eu hachosi gan godi tâl am gyfleusterau. Felly, efallai y gallwn ofyn am sylwadau ynghylch y modd o leihau'r costau hynny, lle mae’n bosibl.
Mae'r datganiad hefyd yn dweud bod yn rhaid i Chwaraeon Cymru weithio gydag ystod eang o bartneriaid: ysgolion, cyflogwyr, teithio egnïol, y trydydd sector ac yn y blaen. Sut ydym ni'n sicrhau, fodd bynnag, fod hynny'n arwain at ddarparu mwy o gyfleoedd chwaraeon? Nid yw’n ymwneud yn unig â chynnal cyfarfodydd rhwng y cyrff hynny. Pwy fydd yn sicrhau bod y partneriaethau newydd hyn mewn gwirionedd yn arwain at fwy yn digwydd yn y rheng flaen, fel petai? Ac er mai gorau i gyd po fwyaf o bartneriaid sydd gennym yn cymryd rhan yn y ddarpariaeth o gyfleoedd chwaraeon, ble mae atebolrwydd yn gorwedd os yw pawb i gymryd mwy o gyfrifoldeb? Ac, yn olaf, mae chwaraeon yn rhy aml yn dioddef o orfod tynhau llinynnau’r pwrs ar lefel llywodraeth leol, ac wrth gwrs, rwyf yn cydymdeimlo â chynghorau sy'n ceisio cael dau ben llinyn ynghyd. Ond tybed pa fesurau yr ydych chi'n ymchwilio iddynt i helpu awdurdodau lleol i wneud buddsoddiadau mewn amserau anodd, er enghraifft, drwy sicrhau bod cronfeydd ychwanegol, efallai, ar gael lle mae cyfleusterau chwaraeon presennol yn cael eu diogelu at ddefnydd cymunedau lleol.
Iawn, diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Roeddwn yn falch iawn o allu gweithio gyda Phlaid Cymru i gynnwys y gwelliant hwnnw yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 o ran cyflwyno strategaeth gordewdra genedlaethol i Gymru. Rwy'n falch o'ch hysbysu chi hefyd ei fod yn un o feysydd y Bil yr wyf yn ei ystyried yn flaenoriaeth. Felly, bydd yn un o Rannau'r Bil yr wyf yn awyddus iawn i roi dyddiad gorchymyn cychwyn cynnar iawn iddi hefyd. Felly, rwy'n blaenoriaethu'r rhan benodol honno o'r Bil.
O ran menywod a merched, mae Chwaraeon Cymru yn parhau i dargedu buddsoddi mewn cyfleoedd i fenywod a merched, yn enwedig trwy’r rhaglen Galw am Weithredu, ac maent wedi buddsoddi tua £1.5 miliwn yn benodol mewn prosiectau i wella cyfranogiad gan fenywod. Roeddwn i hefyd yn falch iawn o weld ym mis Awst eu bod yn lansio Ein Carfan. Ymgyrch yw hon sy'n anelu at ddathlu menywod a merched egnïol o bob cwr o Gymru, a chyfeirio cyfranogwyr newydd at gyfleoedd newydd hefyd. Mae'r ymgyrch honno hefyd yn ymwneud â herio rhai o'r stereoteipiau ynghylch menywod mewn chwaraeon, a pha fath o chwaraeon sy'n chwaraeon addas i fenywod ac yn y blaen. Mae'n ymwneud â rhoi modelau rôl i fenywod a gweledigaeth iddyn nhw weld eu hunain mewn ffordd wahanol mewn cyd-destun chwaraeon hefyd.
Un o'r prosiectau sy'n mynd i'r afael â phroblemau cynnwys mwy o fenywod, ond hefyd menywod yn benodol mewn cymunedau mwy difreintiedig, yw mudiad Us Girls Wales, a sefydlwyd gan GemauStryd Cymru ac a ariannwyd gan Chwaraeon Cymru. Mae hynny'n parhau i wella cyfranogiad menywod ifanc mewn chwaraeon yn y cymunedau o amddifadedd mwyaf ledled Cymru. Unwaith eto, mae honno’n rhaglen wirioneddol gadarnhaol hefyd.
Fel y dywedais yn y datganiad, nid yw’r cyfan ar gyfer Chwaraeon Cymru. Mewn gwirionedd, credaf fod gan y cyrff llywodraethu chwaraeon a chymdeithasau chwaraeon eraill ran wirioneddol bwysig a pharhaus i'w chwarae yn hyn hefyd. Gwn fod Undeb Rygbi Cymru, er enghraifft, yn gwneud rhywfaint o waith da i geisio annog mwy o ferched i feddwl am ddechrau chwarae rygbi. Yn yr un modd, mewn pêl-droed hefyd, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud gwaith gwych i annog merched i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mewn gwirionedd, mae'r gêm yn tyfu'n gyflymach ar gyfer menywod a merched yng Nghymru ar hyn o bryd nag ar gyfer bechgyn, felly rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol gadarnhaol hefyd.
O ran anableddau a rhan Chwaraeon Cymru yno, rwy'n falch iawn fy mod wedi cyhoeddi'n ddiweddar mai is-gadeirydd newydd Chwaraeon Cymru yw Pippa Britton. Mae Pippa Britton hefyd yn gadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru, felly mae hynny’n gysylltiad agos iawn rhwng y ddau sefydliad. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cefnogi dros 1 miliwn o gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, ac mae ganddynt 17,500 o aelodau sy'n mynychu dros 750 o glybiau a sesiynau ledled Cymru. Ond mae eu hethos gwirioneddol yn ymwneud â chwaraeon cynhwysol, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr, o ran sicrhau bod yr holl gyfleoedd chwaraeon yn agored i bobl ag anableddau hefyd. Felly, nid yw'n ymwneud â chael clybiau penodol, yn hytrach mae'n ymwneud â chael ethos gwirioneddol gynhwysol hefyd. Mae gan Chwaraeon Anabledd Cymru hefyd oddeutu 5,000 o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi pobl ifanc i ymgymryd â chwaraeon yn y gymuned, ac rwy'n credu bod hynny'n sicr i’w ganmol hefyd.
O ran cyfleusterau, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i roi cyfle i awdurdodau lleol ddatblygu eu cyfleusterau. Rydym yn gwneud hyn gan wybod bod pobl yn gweithredu mewn cyfnod ariannol cyfyngedig iawn. Felly, mae ein cynllun benthyciadau cyfalaf di-log wedi cynhyrchu buddsoddiad o dros £5 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden eleni yng Nghonwy, Wrecsam a Chaerdydd. Mae hyn yn un enghraifft o'r ffyrdd arloesol yr ydym yn ceisio cynnal a gwella ein seilwaith cyfleuster ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Yn yr un modd, trwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, rydyn ni'n ceisio sicrhau bod ein buddsoddiad mewn ysgolion mewn gwirionedd yn fuddsoddiad yn y gymuned ehangach hefyd. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw yno ar ôl oriau ysgol i glybiau ar ôl ysgol ac i oedolion yn y gymuned eu defnyddio hefyd. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan gymdeithas pêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a Chwaraeon Cymru, o ran eu grŵp cydweithio trydedd genhedlaeth. Maent wedi buddsoddi, rhyngddynt, fwy na £2 filiwn mewn cyfleusterau chwaraeon ysgol. Felly, er gwaethaf adeg o gyni cynyddol, mae buddsoddi da yn digwydd mewn cyfleusterau.
Fe wyddoch hefyd fod Ken Skates wedi gofyn am adolygiad cyfleusterau—felly, gan edrych ar y cyfleusterau sydd gennym ar lefel elitaidd yng Nghymru—er mwyn ceisio denu digwyddiadau mawr amlwg i Gymru yn y dyfodol, oherwydd rydym yn sicr yn cael enw da a rhagorol am gynnal y mathau hynny o ddigwyddiadau.
Weinidog, rwy’n falch iawn o gyfeiriad y daith a'ch datganiad chi heddiw. Yng Nghasnewydd, fel y gwn eich bod yn ymwybodol, rydym wedi bod yn gweithio tuag at ddod â gweithgareddau hamdden, chwaraeon, iechyd, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol, clybiau chwaraeon proffesiynol a chwaraeon gwerin gwlad at ei gilydd. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd i geisio cael poblogaeth leol fwy egnïol ac i geisio mynd i'r afael â'r agenda iechyd ac ansawdd bywyd ehangach a gynigir gan chwaraeon. Rwy'n credu bod angen ail-ganolbwyntio ymdrechion Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru ac eraill yng Nghymru tuag at yr agenda ehangach honno, oherwydd mae gennym lawer o heriau iechyd. Rwy'n credu y byddai llawer yn cydnabod, os ydym yn dymuno bod ar y blaen gydag iechyd a chael agenda fwy ataliol, yna dyma'r union bolisïau a strategaeth y mae angen inni eu hystyried a'u dilyn. Felly, rwy'n falch iawn o hynny.
Tybed a allech chi ddweud ychydig am sut y gallai Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac eraill annog mentrau lleol fel yr un sy'n digwydd yng Nghasnewydd, boed hynny drwy ddatblygiadau newydd fel bondiau lles neu unrhyw gyfle arall, i edrych ar arferion da a’u cefnogi a gobeithio wedyn eu cyflwyno ymhellach i ffwrdd. Tybed a fyddech hefyd yn cydnabod mentrau fel yr un gan Newport Live, sy'n bartner gweithredol a chryf iawn yn y datblygiad lleol hwnnw yng Nghasnewydd, fel yr ymddiriedolaeth sy’n datblygu gwasanaethau hamdden. Yn ddiweddar, maent wedi lansio menter nofio, Draig Dŵr, yr aeth Jayne, Jessica Morden, yr AS dros Ddwyrain Casnewydd, a minnau iddo yr wythnos ddiwethaf. Mae'n rhaglen i gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn nofio, ac yna symud ymlaen a gosod targedau iddynt eu hunain, er mwyn elwa ar hyfforddiant ac awgrymiadau i wella eu techneg ac i fonitro a hwyluso'r cynnydd hwnnw. Dyna un o nifer o fentrau y mae Newport Live yn eu datblygu ar hyn o bryd, sy'n ei wneud yn bartner gweithredol a chryf iawn yn y fenter leol honno.
Tybed hefyd a fyddech yn cytuno bod y gweithgareddau rhedeg mewn parciau ledled Cymru (y “park runs”) yn enghraifft gref iawn o sut y gallwch ddefnyddio technegau ymgysylltu, megis gwefannau, a chaniatáu i bobl fonitro eu cynnydd trwy amseru eu gweithgareddau rhedeg, a chael ystod o weithgaredd cymdeithasol, a sut y gallem efallai edrych ar y model hwnnw ar gyfer rhedeg a gweld a fyddai’n addas i weithgaredd corfforol arall, a fyddai'n ein helpu ni i gael y boblogaeth fwy egnïol yr ydym am ei gweld.
Ynghylch teithio egnïol, Weinidog, tybed a allech chi ddweud ychydig am sut yr ydych chi'n gweithio gyda chyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod teithio egnïol yn effeithiol ac yn gwireddu’r agenda hon. Roeddwn yn falch iawn eich clywed yn sôn amdano yn eich datganiad cychwynnol.
Yn olaf, ar ysgolion cymunedol, rwyf wedi credu ers amser y dylai ysgolion cymunedol fod ar gael at ddefnydd mwy cyffredinol ledled Cymru. Pe byddent, credaf y byddai'n haws i ni gael y boblogaeth leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a gwneud y cynnydd yr hoffem ei weld. Felly, unwaith eto, tybed a allech chi roi syniad inni o sut yr ydych chi'n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion cymunedol ar gael ledled Cymru yn drefn arferol yn hytrach nag arfer da.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Ar ôl eich clywed yn siarad yn flaenorol gyda chymaint o angerdd am Newport Live a'r potensial yno a beth y mae eisoes yn ei gyflawni, roeddwn yn falch iawn o fynd yno i weld drosof fy hunan yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Gwnaed cymaint o argraff arnaf ag y disgwyliais ar ôl eich clywed chi yn siarad amdanyn nhw. Ar yr un pryd, ar yr un ochr, cawsom bobl yn hyfforddi ar lefel elitaidd a hefyd cawsom grwpiau o blant ysgol yn gwneud gweithgareddau a dysgu am fwyta'n iach ac yn y blaen. Felly, roedd y sbectrwm cyfan ar un safle. Roedd yn ysbrydoledig a chyffrous iawn. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn annog ardaloedd eraill i edrych arno a dysgu o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Newport Live oherwydd mae’n gyffrous iawn.
Soniasoch am fondiau lles a dyma un o'n hymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu. Rydym yn datblygu'r syniadau ar hyn o bryd ar gyfer bondiau lles ac, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y gwn eich bod yn awyddus i Newport Live ei drafod, i weld yr hyn y gallwn ni ei ddysgu ganddyn nhw wrth inni ddechrau datblygu hynny. Mae gwahanol fodelau yr ydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Felly, gallem fod yn edrych ar fenthyciadau, er enghraifft, neu fodelau talu yn ôl canlyniad. Mae gwahanol fodelau ar gael, ond ar yr un pryd, nid oes unrhyw rai sefydlog a sefydledig y gwyddom yn bendant y byddant yn gwneud y gwaith yr ydym yn ei ddymuno. Felly, rwy'n cadw meddwl agored wrth inni ddatblygu bondiau lles Cymru.
Y gweithgareddau rhedeg mewn parciau, y “park runs”, rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am y rhain oherwydd, unwaith eto, maent yn dod â phobl o bob lefel o brofiad at ei gilydd: mae pobl a oedd yn anweithgar yn flaenorol yn mynd yno oherwydd ei fod yn ddigwyddiad mewn parc, mae'n amgylchedd hwyliog, hysbys, lleol gyda phobl groesawgar ac yn y blaen, a hefyd mae’n denu pobl sy’n gallu rhedeg 5, 10, 20 cilomedr heb golli unrhyw chwys. Felly, mae'n dod â phobl o bob gallu at ei gilydd ac rwy'n croesawu hynny. Enghraifft dda arall fyddai'r grwpiau beicio Breeze i fenywod. Maent yn dod â menywod at ei gilydd mewn amgylchedd diogel, yn ddechreuwyr yn aml, sy’n cymryd y cam cyntaf hwnnw i wneud gweithgaredd corfforol, ac mae hynny'n enghraifft wych arall o waith sydd eisoes yn digwydd ar hyd a lled Cymru.
Teithio egnïol: mae hyn yn hynod bwysig o ran creu seilwaith ar gyfer gweithgaredd corfforol, oherwydd credaf fod dwy ochr i hyn. Mae’n creu neu roi ysbrydoliaeth i bobl, ond yna hefyd mae’n rhoi cyfle i bobl, ac ochr seilwaith y cyfle. Bydd ein mapiau rhwydwaith integredig yn cael eu cyflwyno gan bob un o'r awdurdodau lleol i Lywodraeth Cymru erbyn mis Tachwedd eleni, ac rwyf wedi bod yn glir iawn gyda nhw. Yn wir, rwyf wedi ysgrifennu atyn nhw i bwysleisio'r pwynt eto yn weddol ddiweddar, mewn gwirionedd, bod yn rhaid i'r mapiau rhwydwaith integredig hynny fod yn ymwneud â theithio'n egnïol yn hytrach na dyheadau ar fwy o lwybrau hamdden yn y dyfodol, oherwydd, os ydym eisiau newid y ffordd yr ydym yn symud a'n bod yn ymgymryd â’n teithiau a'n siwrneiau byr, yna, mae'n rhaid i ni fod yn canolbwyntio yn amlwg iawn ar lwybrau teithio egnïol.
O ran ein gwaith ar draws y Llywodraeth, rwyf wedi gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weld beth yn fwy y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio asedau ein hysgolion a beth y gallwn ni ei wneud yn ystod y diwrnod ysgol i annog plant i fod yn fwy egnïol hefyd. Rydym wedi cael llwyddiant da iawn o ran y filltir ddyddiol. Nawr, mae miloedd ar filoedd o blant Cymru yn gwneud y filltir ddyddiol bob dydd. Gwyddom fod hyn yn cael effaith ragorol ar ymddygiad plant yn yr ysgol, ar eu sylw yn y dosbarth ac yn y blaen. Mae'r athrawon yn caru hyn; mae rhieni'n caru hyn. Dywed y rhieni, 'Pe na fyddech chi’n gwneud y filltir ddyddiol yn yr ysgol, byddem ni'n ei gwneud beth bynnag nawr gan fy mod wedi gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fy mhlentyn i o ran sut mae’n dysgu yn yr ysgol hefyd.’ Felly, mae llawer o syniadau arloesol yn digwydd ar hyn o bryd ac awydd gwirioneddol i weithio ar draws y Llywodraeth ar yr agenda bwysig hon.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Yn amlwg, cafwyd rhai problemau yn ymwneud â rhedeg Chwaraeon Cymru, y cyfeiriodd Russell George atynt yn gynharach, ac nid ydym ni, fel Aelodau, yn meddu ar yr wybodaeth fewnol i ddeall popeth a oedd yn ymwneud â hyn. Ond ymddengys i mi fod rhan o'r broblem gyda'r sefydliad yn y flwyddyn ddiwethaf fwy na thebyg wedi bod yn ymwneud â'i gylch gwaith. Nawr, gwnaethom gyffwrdd â hyn yn gynharach heddiw, ond byddaf yn mynd dros ychydig o'r pwyntiau a wnaed. Yn draddodiadol, roedd Chwaraeon Cymru yn tueddu i arbenigo ar elitaidd chwaraeon a dim ond yn fwy diweddar y rhoddwyd unrhyw fath o gyfrifoldeb arno i oruchwylio chwaraeon gwerin gwlad. Ymddengys i mi, er y gall fod yn syniad da grwpio'r ddau sector gyda'i gilydd, yn ymarferol maen nhw’n wahanol iawn, a gall hyn achosi problemau i sefydliad fel Chwaraeon Cymru.
Nawr, roedd peth tystiolaeth yn yr adolygiad annibynnol fod rhai rhanddeiliaid o'r farn bod Chwaraeon Cymru yn blaenoriaethu chwaraeon elitaidd ar draul lefel llawr gwlad. Fy nghwestiwn cyntaf oedd: o ystyried y sefyllfa honno, a oeddech chi'n dal yn credu ei bod yn ymarferol cael un sefydliad sy'n cynrychioli'r lefelau elitaidd a llawr gwlad? Rwy'n credu eich bod wedi ateb hynny, i fod yn deg, yn eich ymateb eithaf cryf i gwestiynau Russell George. Ond, o ystyried y syniad hwn gan randdeiliaid bod y flaenoriaeth yn tueddu i gael ei roi ar lefel elitaidd, sut allwn ni oresgyn hyn? A sut allwch chi sicrhau y rhoddir yr un ystyriaeth i lefel llawr gwlad â'r lefel elitaidd? Os oes anghydfodau o ran gwariant, o ran adnoddau, sut mae hynny'n cael ei ddatrys? Nawr, soniasoch yn eich ymateb i Russell fod angen inni greu llwybr i bawb at chwaraeon elitaidd. Ac oes, wrth gwrs, rhaid i'r athletwyr elitaidd ddechrau yn rhywle. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, efallai mai'r plant fydd yn y pen draw yn cyrraedd y lefel elitaidd fydd y rhai sy'n dod o deuluoedd sydd eisoes â diddordeb brwd mewn datblygu gweithgareddau chwaraeon eu plant. Ond yr hyn y mae'n rhaid inni ei sicrhau yw ein bod yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar weithgareddau corfforol cyffredin o blith gweddill y boblogaeth neu, fel y dywed rhaglen ‘Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru, gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol dinasyddion Cymru yn y grwpiau hynny sydd â lefelau gweithgaredd corfforol isel iawn ar hyn o bryd.
Yn awr, siaradodd John Griffiths am y gweithgareddau rhedeg mewn parciau, y “park runs”, a chredaf mai dyna'r math o weithgaredd yn union y dylem fod yn ei annog. Felly rwyf hefyd yn cael fy nghalonogi gan eich sylwadau cefnogol, a gobeithio, yn y dyfodol, y bydd mentrau fel y “park run”, os oes angen cymorth ariannol arnyn nhw, gobeithio y gallant ei gael, er, yn achos y “park run”, rwy’n tybio efallai mai'r un peth nad oes arnynt angen llawer ohono yw cymorth ariannol. Ond gyda phethau fel teithio egnïol, yn sicr bydd angen help gydag adnoddau.
Mae hyn yn dod â ni at fater y gwahaniaeth rhwng chwaraeon a gweithgareddau corfforol. Mae siarter brenhinol 1972, a sefydlodd y corff a oedd yn rhagflaenu Chwaraeon Cymru, yn amlwg yn defnyddio'r term 'chwaraeon a gweithgareddau corfforol'. Ond dim ond weithiau y mae dogfennau diweddarach sy'n gysylltiedig â Chwaraeon Cymru wedi defnyddio'r ddau derm. Weithiau, maen nhw'n sôn am chwaraeon yn unig mewn cysylltiad â Chwaraeon Cymru, ond nid ydynt yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at weithgareddau corfforol. Nawr, dywed yr adroddiad, ac rwy'n dyfynnu:
Mae'r anghysondeb hwn yn ddryslyd iawn i bartneriaid Chwaraeon Cymru, a honnodd rhai ohonynt fod y sefydliad yn "newidiol" a bod diffyg pwrpas eglur. Mae yr un mor ddryslyd i staff Chwaraeon Cymru.
Felly, fy nghwestiwn nesaf yw: a yw'r Gweinidog o'r farn bod staff Chwaraeon Cymru yn cael arweiniad digon clir gan eu rhiant-gorff ar beth yw eu cylch gwaith? Ac a oes angen i Lywodraeth Cymru egluro rhywfaint ar y sefyllfa? Mae mater arall hefyd, sef y bwlch rhwng chwaraeon ac iechyd. Y perygl yw y gallai'r dull hollgynhwysol adael ymdrechion gorau Chwaraeon Cymru yn disgyn yn y bwlch rhwng chwaraeon ac iechyd.
Yn awr, y bwriad a nodwyd yn 2015 oedd datblygu strategaeth newydd sy'n sicrhau bod mesurau Chwaraeon Cymru yn cyd-fynd â chanllawiau gweithgarwch corfforol y prif swyddog meddygol. Fodd bynnag, gan ddyfynnu eto o'r adroddiad, er gwaethaf cyflwyno Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Chydffederasiwn y GIG, ychydig iawn o gynnydd a wnaed i sefydlu llwyfan ... rhwng y sectorau chwaraeon ac iechyd.
Yn awr, gwelaf, yn natganiad y Gweinidog heddiw, ei bod yn sôn am Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r syniad o gydweithio tuag at dargedau ar y cyd. Ond, dim ond i egluro'r pwynt hwnnw, a yw'r Gweinidog o'r farn bod angen i Lywodraeth Cymru roi rhagor o wybodaeth inni ynghylch sut yn union y dylai chwaraeon ac iechyd ryngweithio? A pha gorff y mae'r Gweinidog yn credu a ddylai fod yn arwain o ran ymchwilio a goruchwylio gweithgarwch corfforol—Chwaraeon Cymru neu Iechyd Cyhoeddus Cymru? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu eich bod yn iawn yn yr ystyr bod yr adolygiad ei hun yn cydnabod bod peth gwaith i Chwaraeon Cymru ei wneud o ran ei berthynas â rhanddeiliaid a sut mae’n rheoli'r perthnasoedd hynny. Felly, un o'r argymhellion ar gyfer Chwaraeon Cymru yn yr adolygiad oedd iddo ystyried sut mae'n rheoli'r perthnasoedd hynny gyda'r cyrff llywodraethu cenedlaethol ac awdurdodau lleol fel bod lefel y gwirio a'r her yn gymesur a chytbwys â darparu cyngor a gwerth ychwanegol. Felly, gobeithio, bydd hynny'n mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny o ran dealltwriaeth o swyddogaeth Chwaraeon Cymru a sut mae'n ymwneud â'i bartneriaid.
Rwy’n hoffi hefyd yr argymhelliad yn yr adroddiad sy'n awgrymu ei fod yn ystyried mabwysiadu perthynas ffurfiol gydag addysg bellach ac addysg uwch ar gyfer casglu gwybodaeth, comisiynu ymchwil, a thrafod meysydd ar gyfer cydweithredu hefyd. Rwy'n credu bod hwnnw’n gam cadarnhaol iawn hefyd.
Rwy'n cytuno: dylai chwaraeon fod yn rhywbeth i bawb. Felly, ni ddylem gael sefyllfa lle mai dim ond y rheini sydd wedi cael cefnogaeth o oedran ifanc iawn gan rieni sy’n hoffi chwaraeon ac sy'n cael eu harwain i ddilyn chwaraeon penodol, sy'n gallu manteisio ar yr holl wybodaeth a'r llwybrau sydd ar gael. Mewn gwirionedd, dylai fod yn rhywbeth i bawb. Felly, pan fo talent ifanc wedi'i nodi, boed hynny yn yr ysgol neu mewn clwb lleol, er enghraifft, dylai'r llwybrau fod yno i’w dilyn os ydyn nhw eisiau hynny, ac os oes ganddyn nhw’r sgiliau a'r awydd i wneud hynny, yr holl ffordd at y llwybr elitaidd hefyd. Ac mae gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol y llwybrau cryf, cadarn hynny ar waith hefyd. Felly, y nod, mewn gwirionedd, yw sicrhau, wrth i ni gael mwy o bobl yn fwy egnïol, fod cyfle i’r bobl hynny hefyd gael y cyfle i ddringo’r ysgol os dymunant.
O ran y diffiniad, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu rhoi peth eglurder yn y datganiad heddiw ein bod yn sôn am chwaraeon a gweithgaredd corfforol, felly gweithgaredd egnïol hefyd. Nid wyf yn disgwyl i chwaraeon na Chwaraeon Cymru allu dechrau cael pobl yn egnïol, sydd ar hyn o bryd yn byw bywydau ar eu heistedd yn gyfan gwbl. Ni chredaf fod hynny’n ddisgwyliad teg iddyn nhw, neu hyd yn oed yn realistig nac yn gyraeddadwy. Y swyddogaeth a welaf i yno yw swyddogaeth sylweddol iawn ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r GIG yn ehangach, gan edrych ar swyddogaeth cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd o fewn y byrddau iechyd ac yn y blaen. Rwy'n credu bod swyddogaethau yno, gan ddefnyddio'r ymyriadau byr hynny ac yn y blaen, i gael sgyrsiau a fydd yn arwain pobl ar hyd cam cyntaf y daith honno.
Felly, rwy'n gobeithio bod swyddogaeth glir, debygwn i, ar gyfer Chwaraeon Cymru. Ond, o ran y llwyfan y cyfeiriasoch atoch rhwng chwaraeon a'r sectorau iechyd sydd angen bod yn llawer cliriach yn y dyfodol, credaf mai'r pwrpas y tu ôl i'r ymateb heddiw, mewn gwirionedd, oedd gorchymyn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru i weithio’n agosach at ei gilydd yn y dyfodol. Felly, byddent yn cydweithio i lywio ein strategaeth 'iach ac egnïol’ o ran y camau sydd angen eu cymryd a phwy fydd yn eu cymryd, a beth yw’r canlyniadau a ddisgwyliwn ni ganddynt hefyd.
Cefais gyfle i gwrdd â chadeirydd newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe, ac achubais ar y cyfle hwnnw i bwysleisio pwysigrwydd swyddogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru o ran cynyddu gweithgaredd corfforol, yn enwedig ymhlith y rheini sydd bellaf oddi wrth weithgaredd corfforol ar hyn o bryd.
Diolch. Ac, yn olaf, Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog, am roi’r newyddion diweddaraf i ni heddiw. Mae gennyf ychydig o bwyntiau a chwestiynau i'w codi mewn cysylltiad â'ch datganiad heddiw, yr adolygiad, a rhai materion ehangach hefyd. Yn eich datganiad, rydych chi'n iawn i gydnabod swyddogaeth llwyddiant chwaraeon i uno a chyffroi'r genedl, ac mae'r adolygiad hefyd yn cydnabod y rhan y mae Chwaraeon Cymru wedi'i chwarae wrth gefnogi a meithrin ein hyfforddeion elitaidd a'n helpu ni i ddod â llwyddiannau medal yn ôl adref. Wrth gwrs, dylem fod yn awyddus i adeiladu a dylem adeiladu ar hyn. Ond mae angen i Chwaraeon Cymru hefyd gyrraedd cymunedau ledled y wlad, fel yr ydym wedi bod yn trafod heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn sicrhau ein bod ni'n cael y cymorth a'r cyfle hwnnw i gael mynediad at wasanaethau, yn ogystal â buddsoddi, nid yn unig yn y brifddinas a’r de. Yn aml, bydd llawer o bobl yn fy ardal i yn cael anhawster i gael mynediad at y cyfleoedd hynny sydd yng Nghaerdydd, nid dim ond oherwydd y pellter daearyddol; nid ydych yn mynd i deithio tair awr a hanner am sesiwn hyfforddi o awr neu beth bynnag, ac mae rhwystrau cost amlwg yn gysylltiedig â hynny. Gwn ei bod yn eithaf hawdd teithio i gael manteisio ar gyfleusterau yng ngogledd orllewin Lloegr, ond credaf fod cyfleoedd i edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r gwasanaethau hynny sydd eisoes yn y gogledd-ddwyrain, ac efallai, ymhellach ymlaen, i weld buddsoddiad pellach i alluogi cyfleoedd a chefnogi pobl iau yn arbennig yn y rhanbarth.
Weinidog, mae'r adolygiad yn cyfeirio at Chwaraeon Cymru—. Croesawaf y sylwadau heddiw o ran edrych ar y ddarpariaeth yn y rhanbarthau, a gobeithio y gellid ystyried y pryderon hynny yn rhan o hynny. Mae'r adolygiad yn cyfeirio at fenter chwaraeon yn y gogledd, a sut mae’r cynlluniau wedi’u gohirio ar hyn o bryd. Tybed a oes unrhyw ddiweddariad ar hynny ac, yn amlwg, os ydych chi'n cytuno â mi fod angen inni sicrhau cyfle cyfartal ar draws y wlad.
Rwyf hefyd yn falch o weld pwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth rhwng llywodraeth leol, y trydydd sector, a chyfleusterau addysg, yn enwedig gan gynnwys mwy o gysylltiadau ag ysgolion. Gwn ichi ddweud, mewn ymateb blaenorol, sut yr ydym yn buddsoddi mewn ysgolion ac yn annog cydweithredu. Rwy'n ymwybodol bod rhywfaint o anesmwythyd dealladwy weithiau ar ran ysgolion o ran agor eu cyfleusterau i'r gymuned. Tybed pa swyddogaeth sydd ar gael i Chwaraeon Cymru neu gyrff tebyg eraill wrth weithredu fel hwylusydd i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r materion hynny mewn gwirionedd. A tybed a allwn ni ddod o hyd i ffyrdd o rannu arfer gorau pan fo hynny’n llwyddiannus a lle, yn y pen draw, y gallai fod o fudd i ysgolion os gallant godi refeniw o agor eu cyfleusterau hefyd.
Yn olaf, ond nid yn lleiaf o bell ffordd, crybwyllodd Rhun ap Iorwerth fater cydraddoldeb rhywiol mewn chwaraeon, a chredaf fy mod yn dymuno codi a phwysleisio heddiw y rhan sydd gan Chwaraeon Cymru a chyrff chwaraeon cenedlaethol eraill yng Nghymru i sicrhau bod mwy o ferched yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ond hefyd roi cydnabyddiaeth, triniaeth, a chydraddoldeb cefnogaeth gyfartal i chwaraeon menywod yng Nghymru. Mae angen inni fod yn glir, drosodd a throsodd, nad ar gyfer bechgyn yn unig y mae chwaraeon, ac nid yw chwaraeon elitaidd yn ymwneud â thimau dynion yn unig. Er fy mod yn cydnabod bod llu o fentrau ac ymgyrchoedd i gael mwy o ferched a menywod yn egnïol ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon, cyfyng fydd effaith hyn os nad oes gennym y gwelededd hwnnw i anelu ato ar y cam cyhoeddus. Ni all merched ifanc anelu i fod yn chwaraewyr rygbi cenedlaethol i Gymru neu fod yn chwaraewyr pêl-droed elitaidd os nad oes ganddyn nhw—chi'n gwybod, os na allan nhw weld bod hynny'n ddyhead cyraeddadwy iddyn nhw un dydd. Mae'n 2017 ac rwy'n siŵr y cytunwch, Weinidog, fod angen cymryd camau i fynd i’r afael â hyn. Pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau ein bod yn darparu llwyfan, llwyfan gwell, i fenywod, a gwell cefnogaeth i chwaraeon menywod yng Nghymru?
Diolch. Yn olaf, Weinidog.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Cyfeiriasoch yn benodol at bwysigrwydd cael y cymysgedd iawn o gyfleusterau yn y rhannau iawn o Gymru. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae adolygiad cyfleusterau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn edrych arno, o ran yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru eisoes, ond hefyd ymhle mae angen i'r buddsoddiad fod yn y dyfodol er mwyn denu'r digwyddiadau mawr hynny, a hefyd i gael y seilwaith cywir ar gyfer cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael i bobl o fewn ein cymunedau amrywiol yng Nghymru. Cytunaf fod angen inni wneud cynnydd ar y dull rhanbarthol hwnnw. Felly dyma un o'r blaenoriaethau yr wyf i a fy swyddogion yn eu datblygu mewn partneriaeth â chadeirydd dros dro Chwaraeon Cymru o ran dod â'r darn hwnnw o waith i derfyn. Credaf fod yma lawer o gyfleoedd i ni. Felly, credaf fod angen inni symud ymlaen i edrych ar y dull rhanbarthol hwnnw a'r hyn y gallwn ei wneud orau yno, oherwydd gwn fod y partneriaid yn lleol yn awyddus iawn i gydweithio, a chredaf fod hynny ynddo'i hun yn wir yn arwydd cadarnhaol.
Byddwn yn annog pob ysgol i ystyried yr hyn y gallan nhw ei wneud i agor eu cyfleusterau y tu allan i oriau craidd ar gyfer y gymuned. Fel y dywedwch, mae yna gyfleoedd, yn sicr, i sicrhau eu bod yn cefnogi gweithgaredd corfforol y gymuned yn ehangach. Rwy'n credu, weithiau, mai’r broblem yw efallai bod llywodraethwyr ysgol ychydig yn rhy ofalus. Felly, credaf y gall Llywodraeth Cymru, a sefydliadau chwaraeon hefyd, anfon neges atyn nhw fod hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei groesawu ac y byddem yn disgwyl i ysgolion ei wneud fel rhan o'u swyddogaeth wrth wraidd eu cymunedau.
Byddaf yn sicr yn ymuno â chi yn llwyr i ddathlu llwyddiant ein merched mewn chwaraeon, ar bob lefel. Rwy'n cytuno â chi bod angen iddynt gael y clod a’r parch a’r bri am eu cyflawniadau yn yr un modd ag y byddem yn edmygu dynion am eu cyflawniadau nhw mewn chwaraeon. Felly, mae angen inni fod yn gweithio ar hynny fel unigolion, gan ddathlu'r llwyddiannau yr ydym yn eu gweld yn lleol, ond hefyd annog y cyfryngau i barhau i hyrwyddo menywod mewn chwaraeon.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.