– Senedd Cymru ar 17 Hydref 2017.
Y eitem nesaf, felly, yw’r ddadl ar fynd i’r afael â throseddau casineb. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i wneud y cynnig. Carl Sargeant.
Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad am y gwaith yr ydym ni a'n partneriaid yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb ac anoddefgarwch ledled Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon, fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn dangos yr unfrydedd bwriad sylfaenol sy’n bodoli yn y Cynulliad hwn o ran mynd i'r afael â'r camweddau hyn.
Mae’r wythnos hon, wrth gwrs, yn Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, sy'n adeg allweddol i'n partneriaid yn y trydydd sector a'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru. Rwyf, unwaith eto, wedi sicrhau bod cyllid ar gael i'r comisiynwyr heddlu a throseddu i gefnogi gweithgareddau yn ystod yr wythnos hon. Eleni, rwyf wedi caniatáu mwy o hyblygrwydd fel bod y cyllid hefyd yn cefnogi peth gweithgarwch a fydd yn parhau yn hwy na'r wythnos troseddau casineb ei hun, ac mae angen inni ganolbwyntio ar y materion hyn trwy gydol y flwyddyn.
Mae pob trosedd casineb yn wrthun. Rydym ni wedi gweld nifer o ddigwyddiadau ofnadwy ledled y DU eleni, ac fe hoffwn i eto estyn fy nghydymdeimlad i’r dioddefwyr, eu teuluoedd, a phawb yr effeithiwyd arnynt. Fe wyddom ni fod effaith y fath erchyllterau yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r rhai a effeithir yn uniongyrchol, a hynny gyda chanlyniadau sy’n para am weddill eu hoes. Llywydd, mae’r un peth yn wir am lawer o droseddau casineb eraill. Er y gallan nhw fod ar raddfa lai ac yn aml yn osgoi sylw’r byd ehangach, mae troseddau casineb yn cael effaith ddinistriol a pharhaol ar bobl a chymunedau. Yn 2014, fe wnaethom ni lansio ‘Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu', sy'n nodi ein hymrwymiad i herio gelyniaeth a rhagfarn mewn cysylltiad â phob un o’r nodweddion gwarchodedig. Mae'r fframwaith yn cynnwys amcanion megis atal, cefnogi a gwella'r ymateb amlasiantaethol.
Un o nodau tymor byr y fframwaith oedd cynyddu nifer y dioddefwyr sy'n gwneud cwyn swyddogol. Rydym ni wedi cael llawer o lwyddiant yn y maes hwn, ac mae’n rhaid i ddioddefwyr fod â'r hyder i sôn am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, a gwybod sut i wneud hynny. Mae angen iddyn nhw allu sicrhau cyfiawnder, ac mae hefyd angen iddyn nhw gael cymorth ac eiriolaeth yn sgil troseddau sydd weithiau’n rhai difrifol. Y bore yma, rhyddhaodd y Swyddfa Gartref ei ffigurau troseddau casineb ar gyfer 2016-17. Maen nhw’n dangos bod 2,941 o droseddau casineb wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ystod 2016-17, sef cynnydd o 22.3 y cant o’i gymharu â 2015-16. Mae llawer o'r cynnydd yn debygol o fod oherwydd cynnydd yn y gyfradd adrodd, ac mae hyn i’w groesawu. Mae gwybodaeth o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn dangos mai dim ond 48 y cant o ddioddefwyr troseddau casineb oedd yn hysbysu’r heddlu neu ganolfan adrodd trydydd parti am y troseddau hynny rhwng 2012 a 2015. Ers hynny, mae llawer o waith wedi'i wneud drwy'r fframwaith troseddau casineb i gynyddu ymwybyddiaeth a hyder dioddefwyr i roi gwybod am droseddau.
Mae nifer y troseddau casineb a gofnodir yng Nghymru wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gan ddangos gwerth y gwaith y mae Llywodraeth Cymru, yr heddlu, y trydydd sector a phartneriaid eraill wedi ei wneud. Rydym ni wedi gweld cynnydd tebyg yn nifer yr achosion y mae ein canolfan genedlaethol ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau yn ymdrin â nhw. Y llynedd, ymdriniodd y ganolfan â 2,655 o achosion—cynnydd o 21 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn 2017-18, mae 1,238 o ddioddefwyr eisoes wedi cael cyngor, eiriolaeth a chefnogaeth gan y ganolfan.
Mae'r ganolfan yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pawb sydd wedi dioddef troseddau casineb yng Nghymru, ac rwyf wedi cadarnhau cyllid ar gyfer y ganolfan hyd at 2020 i sicrhau y gall y gwasanaethau barhau.
Mae ein partneriaid ar Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb hefyd yn chwarae rhan hanfodol. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys y pedwar gwasanaeth heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Maen nhw’n archwilio prosesau ac yn sicrhau bod y system adrodd yn gweithio o’r adeg pan adroddir am y tro cyntaf i'r cam lle mae achos yn mynd i’r llys. Yn gynharach, dywedais fod rhan o'r cynnydd yn y troseddau casineb a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref yn debygol o fod oherwydd cynnydd yn nifer y dioddefwyr sy’n adrodd amdanynt. Serch hynny, Llywydd, mae'n rhaid inni bob amser gydnabod bod hyn, yn rhannol, mae’n debyg, o ganlyniad i gynnydd gwirioneddol mewn troseddau casineb yn 2016 a 2017 hefyd.
Rydym ni wedi clywed gan yr heddlu, y ganolfan genedlaethol ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau casineb, asiantaethau'r trydydd sector a grwpiau cymorth lleol ynglŷn â’r pryder gwirioneddol ynghylch y nifer cynyddol o droseddau casineb a gyflawnwyd y llynedd, ac ni ddylem anwybyddu'r dystiolaeth hon gan bobl brofiadol, broffesiynol ac ymroddedig sy'n ymwneud â hyn bob dydd. Maen nhw’n dweud wrthym ni, er enghraifft, am bobl sydd wedi dioddef cam-drin hiliol yn ddiweddar gan gymdogion y buon nhw’n byw drws nesaf iddyn nhw am flynyddoedd lawer nad ydyn nhw erioed wedi mynegi’r fath sylwadau o'r blaen, am bobl yn cael eu difrïo am ddim ond siarad iaith heblaw'r Saesneg—mewn rhai achosion pan mai’r iaith a ddefnyddiwyd oedd y Gymraeg—a hyd yn oed am bobl anabl yn dioddef camdriniaeth ar fysiau a threnau. Felly, mae’n rhaid inni barhau i weithio gyda'n partneriaid i wrthsefyll casineb a meithrin cydlyniant yng Nghymru, ac rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda nhw i wneud ein gwaith mor effeithiol â phosib a chreu cymunedau lle nad yw trosedd casineb yn cael ei oddef, a lle rhoddir cymaint o gefnogaeth â phosib i ddioddefwyr.
Er enghraifft, mae gennym ni gysylltiadau cryf â'n cymunedau ffydd ledled Cymru. Mae'r Prif Weinidog a minnau'n cyfarfod â'r fforwm cymunedau ffydd ddwywaith y flwyddyn—yn wir, fe wnaethom ni gyfarfod ddoe—i drafod materion sy'n effeithio ar fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yma yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda grwpiau ffydd ar bob lefel er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth a meithrin cydlyniant cymunedol. Mae’n bwysig ein bod ni’n cael mynegi ein barn, yn gwrando’n barchus ar eraill a chydweithio’n well gyda’n gilydd, gan helpu i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn gymdeithas oddefgar. Rydym ni’n cydweithio'n agos â'r heddlu i fonitro ac ymateb i densiynau cymunedol, ac mae angen inni gael ymateb tymor byr effeithiol i argyfyngau ynghyd â gweithio yn yr hirdymor i feithrin cydnerthedd a chydlyniant cymunedol.
Mae tensiynau cymunedol yn creu mwy o ofn a phryder, yn bygwth heddwch a sefydlogrwydd cymunedau ac fe allan nhw hefyd arwain at drosedd, Llywydd. Mae rhai tensiynau yn amlygu eu hunain ar ffurf anhrefn, difrod neu drais corfforol. Mae effeithiau eraill yn llai gweladwy, gan wneud i bobl deimlo'n agored i niwed, wedi'u heithrio ac yn ofnus pan eu bod yn byw eu bywydau beunyddiol. Drwy fonitro tensiynau'n effeithiol, fe allwn ni ymyrryd i atal troseddau casineb a gofid. Mae yn ymwneud ag ymateb yn gynnar a bod gam ar y blaen i hyn. Mae angen newid agwedd o ran deall, parchu a derbyn. Mae arnom ni angen mwy a mwy o bobl i ddathlu amrywiaeth yn hytrach na’i ofni, gan gydnabod bod Cymru wedi ei chyfoethogi erioed gan bobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a chrefyddau.
Felly, byddwn ni’n parhau i gydweithio'n agos â nifer fawr o bartneriaid i gryfhau ein neges gyffredin. Llywydd, gyda’n gilydd, byddwn ni’n cyflwyno negeseuon cyson a chadarnhaol mewn cymunedau ledled Cymru i herio rhagfarn a gwahaniaethu a gwrthwynebu casineb. Mae gennym ni nifer o fentrau i atal pobl ifanc rhag cael eu hudo i weithgarwch adain dde. Nid oes unrhyw gymdeithas yn ddiogel rhag bygythiad eithafiaeth neu derfysgaeth, ond rydym ni’n gweithio i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo. Ceir strwythurau sefydledig ledled Cymru i fynd i'r afael â phob math o eithafiaeth. Daw'r strwythurau hyn at ei gilydd o dan CONTEST a bwrdd eithafiaeth Cymru. Mae ein dull o fynd i'r afael â therfysgaeth eithafol yn cynnwys, er enghraifft, modiwl eithafiaeth heriol yn rhan o'r her dinasyddiaeth fyd-eang ym magloriaeth Cymru, ac mae addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â chasineb. Mae angen i ysgolion fod yn glir ynghylch eu trefniadau i herio geiriau ac ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys hiliaeth, a chefnogi plant sy’n ddioddefwyr. Rydym ni’n diweddaru ein canllaw gwrth-fwlio, 'Parchu eraill', a gyhoeddwyd yn 2011, ac rydym ni eisoes wedi trafod â rhanddeiliaid ac fe fyddwn ni’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yr hydref hwn.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan a swyddogaeth flaenllaw ym mywydau'r rhan fwyaf ohonom ni, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc. Mae’r ffaith bod cyfryngau cymdeithasol ar gael a’r defnydd a wneir ohonynt yn dod â phroblemau newydd drwy seiberfwlio a seibergasineb, ac rydym ni’n parhau i weithio gyda gwasanaethau'r heddlu ledled Cymru a'r ganolfan ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r angen i roi gwybod am seiberfwlio a cham-drin ac i fonitro hynny.
Llywydd, rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau llawer o’r Aelodau yn ystod dadl y prynhawn yma.
Rwyf wedi dethol yr wyth gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb 2017, gadewch inni gydnabod y caiff trosedd casineb ei diffinio fel trosedd y tybir mai’r cymhelliant yw casineb neu ragfarn tuag at rywun yn seiliedig ar briodwedd bersonol. Mae'r ddadl hon gan Lywodraeth Cymru yn galw arnom ni i nodi'r cynnydd a wnaed o ran fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â throseddau casineb a luniwyd yn 2014. Dywedodd Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan, y mae’r fframwaith yn seiliedig arno, bod angen gwneud mwy i gynyddu hyder dioddefwyr a thystion i gwyno’n swyddogol am ddigwyddiadau casineb ac i hyrwyddo'r farn mai’r peth iawn i'w wneud yw rhoi gwybod am gasineb.
Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau o ran sicrhau bod dulliau adrodd trydydd parti hygyrch yn bodoli ar gyfer dioddefwyr nad ydyn nhw eisiau hysbysu’r heddlu yn uniongyrchol. Cofnododd yr Heddlu 2,528 o droseddau casineb yn 2014-15, sef cynnydd blynyddol o 18 y cant, gyda mwy nag 80 y cant yn seiliedig ar gymhelliant hiliol, er bod yr arolwg troseddau blynyddol ar gyfer Cymru a Lloegr yn awgrymu bod troseddau casineb wedi gostwng 28 y cant dros y saith mlynedd blaenorol. At ei gilydd, bu cynnydd pellach o 19 y cant yn y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2015-16, gyda 79 y cant yn droseddau casineb hiliol. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016, cynyddodd troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu gan 52 y cant yn Nyfed Powys i 35 o ddigwyddiadau, 22 y cant yng ngogledd Cymru i 56 o ddigwyddiadau, 22 y cant yng Ngwent i 77 o ddigwyddiadau a 10 y cant yn ne Cymru i 276 o ddigwyddiadau. Mae ffigurau troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ac a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cynnydd pellach o 29 y cant yn 2016-17, ac mae ystadegwyr y Swyddfa Gartref yn dweud y credir bod hyn yn adlewyrchu cynnydd gwirioneddol mewn troseddau casineb a gwelliannau parhaus o ran hysbysu’r heddlu am droseddau. Y mis diwethaf, dangosodd ymchwil newydd fod nifer y bobl lesbiaid, hoyw a deurywiol yng Nghymru sy'n dioddef troseddau casineb wedi cynyddu o 11 y cant yn 2013 i 20 y cant eleni.
Os oes unrhyw ddigwyddiad neu drosedd y mae dioddefwr neu unrhyw berson arall yn credu mai’r cymhelliant oedd nam neu nam tybiedig person, yna fe ddylid cofnodi hyn fel trosedd casineb ar sail anabledd. Mae troseddau casineb anabledd a adroddir ar draws y DU wedi codi 101 y cant i 3,079 dros ddwy flynedd, gyda throseddau yn erbyn plant anabl wedi codi 150 y cant i 450. Mae'r Swyddfa Gartref wedi mynegi pryder bod nifer sylweddol o ddioddefwyr nad ydynt yn adrodd am gasineb anabledd, er y bu cynnydd cyson yn nifer y troseddau casineb yr adroddwyd amdanynt yn gyffredinol, gyda mwy o ddioddefwyr yn magu hyder i fynegi hynny a'r heddlu yn gwella'r ffordd y maen nhw’n nodi a chofnodi troseddau casineb.
Felly, rwyf yn cynnig gwelliant 1, gan nodi bod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i gwyno.
Rwy’n cynnig gwelliant 2, gan groesawu ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y cod ymarfer newydd ynglŷn â’r cyfryngau cymdeithasol y mae Deddf Economi Ddigidol y DU 2017 yn darparu ar ei gyfer. Bydd hwn yn sicrhau ffordd gydgysylltiedig o fynd ati i ddileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar y we sy’n bwlio, yn bygwth neu’n bychanu, gan gynnwys trolio a cham-drin sy'n aml yn cael ei dargedu'n anghymesur at ferched.
Er bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio bod problem gynyddol o ran pobl hŷn yn cael eu targedu'n benodol gan droseddwyr oherwydd eu hoedran, mae bwlch yn y gyfraith o hyd nad yw'n cydnabod fod hyn yn drosedd casineb. Mae ‘Action on Elder Abuse’ yn tynnu sylw at ymchwil sy'n dangos nad yw dros 99 y cant o gam-drinwyr sy'n targedu pobl hŷn yn cael eu cosbi, ac mae eu harolwg o fis Chwefror 2017 yn dangos bod bron i 95 y cant yn cytuno y dylai cam-drin pobl hŷn fod yn drosedd waethygedig fel troseddau casineb yn seiliedig ar hil, crefydd neu anabledd. Felly, rwyf yn cynnig gwelliant 3, sy’n cefnogi galwadau i gydnabod troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran fel troseddau casineb.
Mae adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru 2016-17 yn cyfeirio at y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, ond nid yw'n mynd i'r afael â throseddau casineb yn erbyn oedolion awtistig, ac nid yw'r rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer ysgolion cynradd o reidrwydd yn ymwneud â mynd i'r afael â throseddau casineb. Oes, mae a wnelo fo â chodi ymwybyddiaeth, a da o beth yw hynny, ond nid yw’n cynnwys troseddau casineb. Felly, rwyf yn cynnig gwelliant 4, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu troseddau casineb i'r strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig. Byddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru, er ei bod hi’n hanfodol darparu mwy o swyddogion cymorth i ddioddefwyr ar y cyd â Chymorth i Ddioddefwyr a gwasanaethau trydydd sector lleol.
Yn gyffredinol, ac i gloi, fel y dywed y sawl ar Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu sy’n arwain ar droseddau casineb:
Fe wyddom ni fod gan ymosodiadau terfysgol a digwyddiadau cenedlaethol a byd-eang eraill y potensial i sbarduno cynnydd tymor byr mewn troseddau casineb, ond
Wrth i derfysgwyr geisio ein rhannu ni, dywedodd ef, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i sefyll yn unedig yn wyneb gelyniaeth a chasineb.
Diolch.
Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 5, 6, 7 ac 8, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Diolch, a diolch i chi am gynnal y ddadl hon ar yr hyn sy'n bwnc pwysig iawn ac yn un nad wyf i'n credu y rhoddir digon o sylw iddo yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn rheolaidd.
Mae rhai o'r gwelliannau wedi eu hysbrydoli gan Race Equality First a'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn Abertawe. Roedd y syniadau penodol hynny yn canolbwyntio ar hyfforddiant athrawon i ymdrin â digwyddiadau ac ymyraethau sy'n gysylltiedig â chasineb yn yr ysgol. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n bwysig i’w gofio yw bod barn gymdeithasol pobl yn cael ei ffurfio pan eu bod nhw’n ifanc iawn, a’r hyn a ddarganfyddais gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn Abertawe, pan ymwelais â nhw ychydig wythnosau yn ôl, oedd eu bod yn cael gweithdai wedi'u teilwra'n benodol tuag at rai pobl y maen nhw’n sylwi arnyn nhw yn yr ysgol sy'n gwneud sylwadau sydd o bosib yn hiliol, neu sylwadau dirmygus ar gyfnod cynnar iawn yn ystod blynyddoedd eu hieuenctid yn yr ysgol i geisio deall pam maen nhw’n mynegi safbwyntiau o'r fath a beth sy’n amlygu ei hun yn y safbwyntiau hynny. Rwy'n credu ei fod yn gymhleth iawn, ond rwy'n credu, os ydym ni’n buddsoddi arian yn yr agenda ataliol honno, y byddwn yn gallu creu newid.
Yng ngoleuni hynny, rwyf wedi cael tystiolaeth gan y Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig lle maen nhw wedi dweud eu bod wedi darllen yn y fframwaith troseddau casineb y bydd fframwaith gwrth-fwlio Cymru gyfan yn edrych ar y gwaith ataliol hwn, ond maen nhw wedi dweud wrthyf ei fod wedi ei ddileu yn 2016. Felly, os nad oes fframwaith gwrth-fwlio Cymru gyfan yn bodoli, neu nad yw'r grŵp sy'n rhoi hynny ar waith yn bodoli ar hyn o bryd, pwy sy'n gwneud y gwaith hwnnw ar y rheng flaen?
O ran y gwelliant yn ymwneud â Cymorth i Ddioddefwyr, roedd hynny i gydnabod y ffaith y gallai fod grwpiau amrywiol ym mhob rhan o gymdeithas a allai gyfarwyddo Cymorth i Ddioddefwyr yn well ynghylch natur amrywiol a chymhleth y cyngor a'r gefnogaeth y mae angen ei rhoi i rai dioddefwyr. Efallai y ceir elusennau sy'n gweithio'n benodol gyda'r trawma a achosir gan drosedd casineb sy'n gysylltiedig â hil; efallai y bydd sefydliadau fel Stonewall a allai roi mwy o gefnogaeth i Cymorth i Ddioddefwyr ynglŷn â'r math hwnnw o drosedd casineb. Credaf mai dyna yw hanfod yr hyn yr wyf wedi ceisio ei ddweud ynghylch hynny—bod Cymorth i Ddioddefwyr, ynddo’i hun, yn gweithio'n dda, ond mae angen mwy o gefnogaeth a chymorth trawsbynciol gan y sector elusennol.
Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig nodi ein hymdrechion, fel plaid ac fel cenedl, i gynyddu cydlyniant cymunedol—dylai hyn fod wrth wraidd popeth a wnawn o ran troseddau casineb, yn enwedig o gofio bod troseddau casineb yn erbyn Mwslemiaid yn aml yn uwch pan fydd y cyfryngau yn sôn am ddigwyddiad terfysgol. Mae’n rhaid inni fynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol hynny, oherwydd mae gennym ni gymunedau yng Nghymru lle mae pobl yn dioddef o ganlyniad i’r hyn y mae pobl eraill wedi ei wneud, ac nid yw hynny yn eu henw nhw.
Sylweddolaf fod gwelliant 5 wedi achosi peth gwrthdaro cyn cynnal y ddadl hon. Nid yw’n golygu mai dynion yn unig sy'n dioddef o gael eu radicaleiddio gan y dde eithafol, ond mae'n gydnabyddiaeth y gallem ni ddechrau yn rhywle a dechrau gyda dynion yn y grŵp arbennig hwn. Nid wyf yn ymddiheuro am geisio cael y ddadl, ond fe allaf i ddeall y gallai’r ddadl fod yn fwy amrywiol efallai, a byddwn ni’n ystyried hynny yn y dyfodol. Ond rwy'n credu weithiau, fel y dywedais wrth bobl cyn i mi ddod yma heddiw—. Rydym ni'n gwybod bod dynion ifanc yn cyflawni hunanladdiad yn amlach, fe wyddom ni fod angen cymorth penodol arnyn nhw, ac fe wyddom ni fod dynion ifanc yn cael eu radicaleiddio gan y dde eithafol ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol—does ond rhaid i ni edrych ar Breitbart, nad ydyn nhw’n hyrwyddo trais yn agored, ond mae angen trafod y diwylliant o ddal dig maen nhw’n ei hyrwyddo’n gyson ymhlith rhai dynion croenwyn, oherwydd mae nifer o’r pynciau trafod wedi dod yn faterion prif ffrwd. Fe allai hyn fod yn ddadl yn ei hawl ei hun ynglŷn â phroblemau posib gydag iechyd meddwl, sut mae dynion o bosib yn teimlo bod eu swyddogaeth mewn cymdeithas wedi newid: maen nhw wedi clywed nhw mai nhw ddylai fod yn ennill y cyflog mwyaf, ond yn gweld nad felly y mae hi, a sut maen nhw’n teimlo pan nad yw’r swyddogaeth sydd ganddyn nhw mewn cymdeithas yn gweithio iddyn nhw bellach. Bu llawer o astudiaethau ynglŷn â pham mae dynion ethnig neu Asiaidd wedi cael eu radicaleiddio a’u denu tuag at y Wladwriaeth Islamaidd, ac felly beth am gael y sgwrs yn agored yma yn ein Cynulliad Cenedlaethol ynghylch pam mae rhai sectorau o'n cymdeithas yn mynd ar-lein, yn cam-drin menywod, ac yn ei chael hi’n hawdd cyfiawnhau hynny oherwydd nad ydyn nhw’n credu yn yr agenda 'Gwleidyddol Gywir' mwyach? Pam mae hynny'n dderbyniol? Pam y dylem ni dderbyn hynny fel ffurf o drafodaeth agored? Siawns bod rhaid cwestiynu hynny. Felly, fe hoffwn i o bosib godi mwy o ddadleuon o'r math yma, a'u trafod mewn ffordd adeiladol, fel y gallwn ni helpu ein dinasyddion i ddeall ei gilydd. Efallai ein bod ni mewn sefyllfa freintiedig yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, felly nid ydym yn deall yr holl gymhlethdodau ynghylch pam mae pethau'n digwydd, ond mae’n rhaid inni geisio gweithio gyda'n gilydd yn fwy cadarnhaol fel cymdeithas.
Dengys y ffigurau heddiw fod troseddau casineb wedi codi gan 29 y cant, a chredaf fod hynny'n gynnydd yng Nghymru a Lloegr na welwyd ei debyg o’r blaen. Rwy'n siŵr y bydd y mwyafrif llethol o bobl resymol yn y Siambr hon, yn ein cymunedau a'n gwlad, yn cytuno bod hyn yn annerbyniol. Mae gan bob un ohonom ni yma ddyletswydd i godi llais, i sefyll a gweithredu er mwyn herio a mynd i'r afael â rhagfarn a chasineb ymhle bynnag ac i bwy bynnag y mae’n dangos ei wyneb hyll. Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y lle hwn ar yr union fater hwn, ac rwyf wedi egluro na allwn ni gael hierarchaeth casineb.
Fodd bynnag, heddiw fe hoffwn i ganolbwyntio fy nghyfraniad ar fwlio, ac yn arbennig ar y cynnydd o gam-drin ar-lein. Dangosodd canlyniadau arolwg Stonewall ym mis Awst 2017 fod un o bob 10 o bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol wedi profi cam-drin neu ymddygiad homoffobig, biffobig neu drawsffobig ar-lein a gyfeiriwyd tuag atyn nhw yn bersonol. Mae'r rhif hwn yn cynyddu i un o bob pedwar person trawsrywiol sydd wedi dioddef camdriniaeth neu ymddygiad trawsffobig, a hanner yr holl bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol sydd wedi gweld camdriniaeth homoffobig, biffobig a thrawsffobig neu ymddygiad ar-lein nad oedd wedi'i gyfeirio atyn nhw yn ystod y mis diwethaf. Rwy'n siŵr bod yr Aelodau yn y fan yma yn ymwybodol bod rhywbeth am y cyfryngau cymdeithasol sydd fel pe byddai yn gwneud i bobl feddwl y gallan nhw ddweud a gwneud beth bynnag maen nhw ei eisiau heb ofni nac ystyried y goblygiadau.
Fe hoffwn i wneud y mater ychydig yn fwy personol a llunio darlun gwell i’r Aelodau sydd yma. Rwy'n cofio, ym mis Chwefror y llynedd, y cawsom ni ddadl gan Aelod unigol i nodi mis hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, ac yn rhan o hynny, fe wnes i ychydig o waith ar y cyfryngau. Roedd un o'r penawdau ar wefan BBC Politics yn darllen Hannah Blythyn: Rwy’n falch o fod yn un o’r ACau cyntaf i fod yn hoyw ar goedd gwlad. Ac er na allai’r bobl a ymatebodd ddod o hyd i mi er mwyn anfon negesau trydar ataf i, dim ond i roi blas i chi o rai o'r pethau y gallaf i eu hailadrodd yn y Siambr o’r hyn y gwnaethon nhw ei drydar yn ôl:
Pam mae pobl yn meddwl bod y mwyafrif helaeth yn hidio beth yw eu dewisiadau rhywiol?
Sut mae hynny’n eich gwneud chi yn well AC
Does gen i mo’r diddordeb lleiaf. Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth mooooor ddiiiiflas. Pwy sy'n hidio gyda phwy mae hi'n cysgu.
Fy hoff un yn bendant, ac rwy’n dweud hyn gyda mymryn o goegni, oedd rhywun yn dweud: Lloegr yw’r fan yma. Y rheswm rwy’n tynnu sylw at yr achosion hyn yw oherwydd fy mod o’r farn ei bod—. Wyddoch chi, fe gamais i ar lwyfan bywyd cyhoeddus, ac rwyf wedi penderfynu bod yn agored ynghylch pwy wyf i, oherwydd rwy'n credu ei bod hi’n bwysig bod yn agored. Ond rwy'n credu bod gennym ni gyfrifoldeb hefyd i herio’r pethau hyn, oherwydd fe all yr hyn sy’n gellwair a hiwmor i un person frifo ac arwain at ganlyniadau i rywun arall. Felly, mae arnom ni angen i’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus weithredu'n gyflym ac o ddifrif i fynd i’r afael â digwyddiadau o gam-drin ar-lein, gan roi gwybod i unigolion am y cynnydd ac unrhyw gamau a gymerwyd. Rwyf hefyd o'r farn bod angen i’r cyrff cyfryngau cymdeithasol byd-eang fod yn fwy o ddifrif ynglŷn â chasineb a cham-drin ar-lein, a bod â safonau mwy llym a mesurau effeithiol ar waith i ddwyn i gyfrif y rhai sy’n gyfrifol.
Mae angen i'r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill gydweithio â'r heddlu i ddatblygu ffyrdd mwy effeithiol o ymateb i gasineb ar-lein, mewn ymgynghoriad â'r bobl yr effeithiwyd arnynt a'r sefydliadau sydd yno i'w cefnogi. Rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ni fod yn fwy llym o ran caniatáu i'r gwagle hwn fodoli lle mae modd i gasineb ar-lein grynhoi a ffynnu. Ni allwn ni ganiatáu i faes o’r fath barhau i fudlosgi a hefyd i gynyddu casineb, oherwydd fe all y gwagle ar-lein hwnnw droi wedyn yn fodd o gyflawni gweithredoedd casineb oddi ar y we. Ynghylch hynny, rwy'n siŵr nad y fi yw’r unig un sy’n gofidio ein bod ni'n dod yn llai goddefgar tuag at eraill, gyda dirywiad pendant yn natur a chynnwys y ddadl. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw hyn yn ymwneud â chywirdeb gwleidyddol; mae'n ymwneud â pharch ac ystyriaeth sylfaenol o’n gilydd fel cyd fodau dynol.
Rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod a gweithredu ynghylch pam mae pobl o bosib yn teimlo wedi eu dieithrio ac ymhell o'r system wleidyddol, ac rwy'n credu bod llawer o hynny yn ymwneud â’r ffactorau economaidd sydd o dan hynny. Ond credaf y dylem ni fod yn glir nad yw hynny'n golygu y dylem ni ymostwng i’r nodweddion mwyaf annheilwng a chaniatáu defnyddio hynny fel esgus, i ymosod ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a’u troi yn fwch dihangol, gan osod cymunedau a grwpiau yn erbyn ein gilydd.
Rwy'n teimlo weithiau pan fyddwn ni'n cael rhai o'r dadleuon hyn bod yna rai pobl sy'n meddwl rywsut bod cynnydd o ran cydraddoldeb deddfwriaethol wedi troi’r fantol y ffordd arall, a chredaf fod angen i ni fod yn glir iawn ynghylch hynny. Nid yw cydraddoldeb i mi yn golygu llai o hawliau i rywun arall. Cydraddoldeb, yn ôl ei ddiffiniad geiriadurol, yw’r cyflwr o fod yn gyfartal, yn enwedig o ran statws, hawliau neu gyfleoedd. Mae angen inni gofio hynny, ac mae angen inni leisio barn i gefnogi hynny. Felly, y dydd Iau yma, byddaf yn siarad mewn digwyddiad yn eglwys gadeiriol Llanelwy i nodi 50 mlynedd ers dad-droseddu bod yn hoyw. Bydd y digwyddiad yn gyfle i edrych ar hanes a gobaith ar gyfer y dyfodol. Bydd fy nghyfraniad i yn edrych ar y dyfodol ac ar y Gymru a'r byd y gobeithiwn ni y byddwn ni un diwrnod yn byw ynddynt, Cymru a byd lle rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom ni yn y dyfodol fyw ein bywydau fel yr ydym ni ar gyfer pwy ydym ni, heb ofni rhagfarn a chasineb. Mae'r cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i wireddu hyn, felly gadewch inni arwain y ffordd o ran codi llais, hawlio cyfrifoldeb a chael gwared ar gasineb a gwahaniaethu. Diolch yn fawr.
Rwy'n credu y dylem ni ddechrau'r ddadl hon trwy ddweud yr hyn sy'n wir: ein bod ni'n byw mewn cymdeithas llawer llai rhagfarnllyd heddiw na 50 mlynedd yn ôl, pan oeddwn i'n ifanc, ac mae hynny'n rhywbeth da iawn. Rwy’n cymeradwyo strategaeth y Llywodraeth ynglŷn â throseddau casineb ac rwy'n gwerthfawrogi'r modd y dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet y ddadl hon. Ond un peth sydd yn peri pryder imi ynglŷn â dadleuon ynghylch troseddau casineb yw ein bod yn dueddol o golli golwg ar union natur hynny.
Mae trosedd casineb, wrth gwrs, yn ffiaidd, ac rwyf yn siarad fel dioddefwr, oherwydd fe dorrwyd fy nhrwyn ar un adeg pan es i helpu ffrind hoyw i mi pan wnaeth criw o labystiaid homoffobaidd ymosod arno, ac aeth y sawl a gyflawnodd y drosedd honno i’r carchar maes o law oherwydd hynny. Rwyf hefyd wedi bod ar restr Byddin Gweriniaethol Iwerddon ers nifer o flynyddoedd, ac felly roeddwn o dan fygythiad o gael fy llofruddio. Felly, rwyf yn deall beth yw ystyr casineb pan ddowch chi wyneb yn wyneb ag ef yng ngwir ystyr hynny. Ond nid oes gennym ni blaid adain dde eithafol gwerth sôn amdani sy'n weithgar yng ngwleidyddiaeth Prydain. Mae Plaid Genedlaethol Prydain wedi diflannu, mae Cynghrair Amddiffyn Lloegr yn ddibwys, a chredaf y dylem ni ddathlu hynny. Nid oes gennym ni’r problemau sydd gan rai gwledydd Ewropeaidd, ac felly ni ddylem ni fod o dan gamsyniad yn hyn o beth.
Credaf fod yn rhaid inni hefyd dderbyn bod y ffigurau a adroddir fel troseddau casineb yn tueddu mewn gwirionedd i orbwysleisio maint y broblem. Cyfeiriodd Mark Isherwood, yn ystod ei araith, at y ffaith mai canfyddiad y dioddefwr sy'n bwysig, nid y gwir realiti, o anghenraid. Y diffiniad yng nghanllawiau gweithredol y Swyddfa Gartref, a dderbynnir gan heddluoedd yng Nghymru, yw, er dibenion cofnodi, mai canfyddiad y dioddefwr, neu unrhyw berson arall, yw'r ffactor diffiniol wrth benderfynu ar ba un a yw digwyddiad yn ddigwyddiad casineb. Felly, gall hyd yn oed trydydd parti roi gwybod am drosedd casineb fel y cyfryw, a bydd yr heddlu'n gwneud cofnod ohono’n syth fel trosedd casineb, hyd yn oed mewn achosion lle nad yw'r dioddefwr ei hun wedi dymuno hynny. Mae yna enghraifft wirioneddol yng nghanllawiau gweithredol yr heddlu, sydd, mewn gwirionedd, rwy'n credu, yn eithaf addysgiadol:
Mae dyn heterorywiol yn cerdded trwy ardal ger clwb hoyw yn cael ei gam-drin ar lafar mewn ffordd sy'n dramgwyddus ond nid yw'n gyfystyr â throsedd yn erbyn y drefn gyhoeddus. Mae'n rhoi adroddiad o’r digwyddiad ond nid yw'n credu ei fod yn homoffobig, nac yn dymuno iddo gael ei gofnodi fel y cyfryw, ond gall y swyddog sy'n ysgrifennu’r adroddiad gofnodi hynny ei hun fel trosedd casineb er nad yw'r dioddefwr eisiau gwneud hynny, ac ni ddylid herio canfyddiad y dioddefwr mewn unrhyw ffordd. Nawr, rwy’n derbyn, os oes angen herio, yna dylid gwneud hynny mewn ffordd sensitif. Ond siawns bod yn rhaid inni seilio polisi cyhoeddus ar ffeithiau gwirioneddol ac nid ar ganfyddiadau yn unig.
Y sylw arall yr hoffwn ei wneud yn y ddadl hon yw'r ymdrech i ddefnyddio'r mater hwn o droseddau casineb fel modd o hogi cyllyll gwleidyddol. Rydym ni’n aml yn ei glywed yn gysylltiedig â Brexit, ac rydym ni’n aml yn ei glywed mewn cysylltiad â phobl sy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn y dylem ni gael rheolaethau synhwyrol ynglŷn â mewnfudo ar gyfer dibenion cydlyniant cymunedol. Rwy'n credu bod hyn yn ein dibrisio ni, a dweud y gwir, ac yn lleihau gwerth ein dadl wleidyddol. Siawns y gallwn ni dderbyn y ffaith, os ydych chi'n poeni am fewnfudo, nad ydych chi o reidrwydd yn hiliol, ac yn sicr nid ydych chi’n credu bod troseddau casineb yn rhywbeth da. Wrth gwrs, mae hilwyr yn bodoli sydd eisiau rheoli mewnfudo am eu rhesymau annheilwng eu hunain, ac mae pobl ymhob rhan wleidyddol o'r sbectrwm, bron iawn, sy’n ymwneud â cham-drin gwleidyddol. Rwyf i, o bryd i'w gilydd, wedi bod yn destun hynny fy hun. Dylai unrhyw un sydd eisiau gwybod beth yw cam-drin ar-lein fynd i weld yr hyn a ysgrifennwyd amdanaf, sy'n aml yn fy ngwahodd i berfformio amrywiol weithredoedd corfforol nad ydyn nhw o fewn fy ngalluoedd corfforol, nac yn wir o fewn galluoedd corfforol unrhyw un, o ran hynny.
Felly, rwy'n ymwybodol iawn, os ydych chi'n cymryd y pethau hyn o ddifrif, y gall fod yn rhywbeth cas iawn. Mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, rydym ni’n dueddol o fod yn groendew iawn, er mwyn i ni allu diystyru’r math hwn o beth. Yn yr hyn y gallech chi ei galw'n gymdeithas arferol, efallai na fyddem ni’n teimlo y byddai hynny’n beth mor hawdd ei dderbyn. Felly, rwy'n cytuno i raddau helaeth â'r hyn a ddywedodd Hannah Blythyn yn ei chyfraniad—bod a wnelo hyn â pharch sylfaenol at unigolion a'u gwahaniaethau. Nid wyf yn credu y dylai pobl gael eu cam-drin na bod yn destun trais corfforol dim ond oherwydd priodweddau personol na allan nhw eu newid—neu, yn wir, am eu credoau gwleidyddol.
Wrth ddirwyn i ben, rwyf am ddweud, wrth gwrs, ein bod yn hapus i nodi'r cynnig ac, yn wir, fel y dywedais eisoes, i gefnogi strategaeth y Llywodraeth yn gyffredinol. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru. Byddwn yn ymatal ar y rheini, oherwydd rwy'n credu eu bod wedi eu drafftio mewn ffordd braidd yn unochrog, ac mae hynny’n mynd yn ôl i'r hyn a ddywedais wrth agor fy araith. Nid oes gennyf amser, rwy’n ofni, i ymhelaethu ymhellach ar hynny heddiw. Ond rwy'n credu bod derbyniad cyffredinol—derbyniad eang—o'r egwyddorion cyffredinol sy'n sail i bolisi'r Llywodraeth, a byddwn ni yn eu cefnogi yn yr ymdrech honno.
Gan fod pawb arall yn sôn am eu profiadau ar-lein, fe ddywedaf innau ychydig am fy rhai i. Yn sicr, rwyf i wedi cael fy nifrïo gan sefydliadau adain dde eithafol am wneud fawr ddim mwy na chefnogi digwyddiad yr es i iddo yn y Senedd ynglŷn â Chymru fel cenedl noddfa. Rwy'n credu bod Leanne Wood wedi ei difrïo gan yr un sefydliadau am fynd i'r un digwyddiad, ac fe gawsom ein cyhuddo o geisio creu califfiaeth Fwslemaidd yng Nghymru, pan mai’r hyn yr oeddem ni yn ceisio'i wneud mewn gwirionedd oedd cynnig lloches i ffoaduriaid Syria a oedd yn ceisio dianc rhag erchyllterau’r rhyfel cartref hwnnw.
Wrth drafod y mater pwysig hwn o fynd i'r afael â throseddau casineb, fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at waith sefydliadau fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, a gofynnaf ein bod i gyd y dydd Gwener hwn, 20 Hydref, yn cefnogi Diwrnod Gwisgo Coch 2017. Bydd hynny'n sicr yn rhoi esgus i mi wisgo fy hoff liw, o ran fy ngwleidyddiaeth a'm tîm pêl-droed, felly byddaf yn gwisgo coch ddydd Gwener. Ond, ar nodyn difrifol, mae Diwrnod Gwisgo Coch yn ffordd ymarferol a gweladwy y gallwn ni i gyd ddangos ein cefnogaeth i waith Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ac i gefnogi eu gwaith gwerthfawr wrth helpu i hyrwyddo cydraddoldeb ac i fynd i'r afael â throseddau casineb yn ein cymunedau. Bydd y rhai ohonom ni sy'n dilyn pêl-droed yn cofio’r diwylliant afiach ar y terasau yn y 1970au a'r 1980au—yr hiliaeth amlwg, y llafarganu anhygoel a gyfeiriwyd at chwaraewyr pêl-droed croenddu, a'r meysydd pêl-droed yn cael eu defnyddio fel modd o recriwtio ar gyfer yr adain dde eithafol. Ers y dyddiau tywyll hynny, mae'n amlwg bod llawer o waith wedi'i wneud i symud pethau ymlaen a mynd i'r afael â'r agwedd honno o bêl-droed, ond mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd.
Yn fy swyddogaeth flaenorol yn Unsain, roeddwn yn sicr yn falch iawn o fod yn rhan o'r trefniadau ar gyfer sefydlu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru. Fe hoffwn i gofnodi fy niolch i Unsain am y cyllid hanfodol a roesant i’r sefydliad hwnnw yn y dyddiau cynnar, pwysig hynny. O ganlyniad, mae gennym ni bellach y fantais o sefydliad sydd wedi ennill enw da am hyrwyddo negeseuon cadarnhaol trwy gynhyrchu adnoddau addysgol, datblygu gweithgareddau i annog pobl, yn enwedig pobl ifanc, i herio hiliaeth, ac i herio hiliaeth mewn pêl-droed a chwaraeon eraill. Rwyf yn annog fy holl gyd-Aelodau yn y Cynulliad i gysylltu â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a manteisio ar y cyfle i weld eu gwaith ledled Cymru, mewn ysgolion, mewn clybiau chwaraeon, ac mewn cymunedau. Oherwydd mae’r math hwn o weithgarwch ar lawr gwlad yn hollbwysig wrth newid agweddau, gan ddarparu esiamplau cadarnhaol, ac wrth adeiladu'r ymyraethau cynnar hynny a fydd yn helpu i ddatblygu mwy o oddefgarwch a chydraddoldeb yn ein cymunedau.
A dyma’r math o waith—newid agweddau a darparu esiamplau cadarnhaol—a fydd hefyd yn ganolog i fynd i'r afael â homoffobia mewn chwaraeon, ond yn enwedig mewn pêl-droed. Dileu casineb tuag at y gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yw'r her fawr nesaf. Ac unwaith eto, fel cefnogwr pêl-droed, byddaf yn gwybod ein bod wedi gwneud cynnydd o ran mynd i'r afael â homoffobia pan fydd chwaraewyr pêl-droed yn gyfforddus â'u rhywioldeb eu hunain mewn chwaraeon ac yn falch o bwy ydyn nhw a heb fod ofn arnyn nhw. Felly, rwy'n siŵr yr hoffai’r Cynulliad annog Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fel un rhan o'r agenda ynglŷn â mynd i’r afael â throseddau casineb yng Nghymru, ond fe ddylem ni hefyd barhau i gefnogi Stonewall Cymru ac eraill wrth i ni helpu i gael gwared ar gasineb, hiliaeth a homoffobia o’n cymunedau.
Mae'r holl waith yr ydym ni’n ei gefnogi i atal y troseddau casineb yn ein cymunedau yn bwysig, ac fe ddylem ni ganolbwyntio’n hymdrechion ar y sefydliadau a'r mentrau hynny sy'n helpu i atal y peryglon. Dyna pam y mae'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn i'w groesawu'n fawr. Diolch.
Llywydd, rwyf yn cynrychioli Dwyrain Casnewydd, sy'n amrywiol yn ethnig. Cefais fy ngeni a'm magu yn Pillgwenlli yng Nghasnewydd, sy'n amrywiol yn ethnig, llawer mwy felly yn awr nag yn fy ieuenctid i. Mae ehangu'r UE, er enghraifft, wedi cyflymu’r broses honno yn sylweddol. Bu tensiynau bob amser, yn fy marn i, mewn ardaloedd o'r fath, yn seiliedig ar hil, ond yn sicr mae wedi gwaethygu, yn fy mhrofiad i, yn ddiweddar, yn rhannol oherwydd y bygythiad terfysgaeth tybiedig ac yn rhannol, efallai, oherwydd y pwysau ynglŷn ag ehangu’r UE. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n amserol ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, a’r hyn yr oeddwn i eisiau canolbwyntio arno, mewn difrif, oedd sut yr ydym ni’n mynd ati i gyfleu negeseuon ac i’w gwneud hi mor glir â phosib nad ydym ni eisiau senoffobia, dydym ni ddim eisiau gelyniaeth, dydym ni ddim eisiau drwgdybiaeth, dydym ni ddim eisiau camddealltwriaeth. Yn hynny o beth, credaf ei bod hi’n bwysig iawn fod pawb ohonom ni fel gwleidyddion rheng flaen yn dweud y pethau iawn ac felly hefyd sefydliadau sydd â swyddogaethau allweddol, ond mae’r gymdeithas ddinesig yn fwy cyffredinol, ac, mewn gwirionedd, pobl yn gyffredinol, cymunedau yn gyffredinol, yn deall pwysigrwydd gwrthwynebu’r math o deimladau, y math o ragfarn a gwahaniaethu nad oes yr un ohonom ni eisiau eu gweld yng Nghymru.
Oherwydd, rwy'n credu y gall bob un ohonom ni, hyd yn oed yn bersonol, gofio enghreifftiau pan mae rhywun yn ein cwmni wedi dweud rhywbeth a oedd yn anghywir, yn ffeithiol anghywir, yn wahaniaethol, yn niweidiol, ac, wyddoch chi, efallai y bu adegau pan ein bod ni wedi gwrthwynebu hynny a’u gwneud yn ymwybodol o'n barn wahanol, fel petai. Ond mae'n debyg y bu yna adegau lle nad ydym ni wedi gwneud hynny, am bob math o resymau, ac rwy’n cynnwys fy hun ymhlith y rheini sydd â'r profiad hwnnw. Yn gynyddol, rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ni, pobl yn gyffredinol, ddeall pwysigrwydd gwrthwynebu'r math o safbwyntiau, y mathau o ragfarn a gwahaniaethu sydd yn arwain at broblemau. Nid dyna ben draw hynny bob amser. Pan fydd pobl yn dweud y pethau hynny, mae'n creu awyrgylch. Fe all arwain at ddigwyddiadau. Felly, os ydych chi eisiau cymdeithasau mwy integredig a chydlynol, rwy’n credu bod cyfrifoldeb ar bawb, ac mae angen inni ddweud hynny. Mae angen inni ei gwneud hi mor eglur â phosib, ac mae angen inni gefnogi sefydliadau sy'n llwyddo i gyfleu’r neges honno.
Felly, yn ogystal â bod gennym fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru, wyddoch chi, y cynllun cyflawni, y ganolfan alwadau adrodd ar droseddau, gwahanol grwpiau a seilwaith, rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig bod hyn yn mynd y tu hwnt i hynny ac yn treiddio i bob haen o'n cymunedau. Rwy’n credu bod angen ymdrech gref i feithrin yr agwedd hon o fynd ati o’r gwaelod i fyny er mwyn egluro'r hyn sy'n cael ei ystyried yn dderbyniol a’r hyn nad ydyw.
Yn rhan o'r ymdrech honno, Llywydd, fe hoffwn i dynnu sylw at ddigwyddiad yr es i iddo ddydd Sadwrn diwethaf, a oedd yn ceisio cyrraedd pobl iau yn arbennig. Cafodd ei gynnal yng nghanol dinas Casnewydd. Gŵyl ‘Crush Hate Crime’ oedd hon. Roedd ymlaen trwy'r prynhawn a gyda’r nos mewn ambell i leoliad. Mae'n parhau â'i ymdrech drwy'r wythnos, ac roedd yn ymwneud â defnyddio cerddoriaeth, perfformiadau theatr byw ac yn wir areithiau. Siaradais i yno, ac fe wn i bod Steffan Lewis wedi gwneud hynny hefyd, a bod gwleidyddion eraill wedi gwneud hynny, ac academyddion. Roedd ymlaen drwy'r dydd, roedd cynulleidfa deilwng yno ac roedd yn ceisio dod â'r gwahanol gyfryngau hyn at ei gilydd—cerddoriaeth, lleferydd, perfformiadau theatr—i gyfleu’r negeseuon cywir, i gael, gobeithio, llawer o sylw yn y cyfryngau, ac i ddechrau helpu i feithrin yr ymdrech hon i ddangos yr hyn yr ystyriwn ni i fod yn dderbyniol ac annerbyniol.
Rwy'n cofio’n dda—hwyrach bod eraill yma, Llywydd—am Rock Against Racism, a pha mor rymus oedd hynny, gryn amser yn ôl bellach, a sut y cafodd ddylanwad parhaol sy'n parhau hyd heddiw. Felly, fe allwch chi ddefnyddio cerddoriaeth, fe allwch chi ddefnyddio celf a diwylliant yn rhan o'r ymdrech gyffredinol i greu’r hyn y mae arnom i ni i gyd eisiau ei weld. Felly, rwy’n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet dalu teyrnged i'r ymdrechion hyn, gan nad yw'n hawdd trefnu rhaglen o ddigwyddiadau. Mae'n golygu llawer o amser, llawer o ymdrech gan lawer o bobl a llawer o sefydliadau. Rwy'n credu y bu’n effeithiol iawn. Rwy'n credu bod angen mwy o hyn, ac yn y blynyddoedd i ddod, bydd Casnewydd yn adeiladu ar yr hyn a ddigwyddodd ddydd Sadwrn diwethaf a’r hyn a fydd yn digwydd drwy'r wythnos hon i gynyddu'r ymdrech honno a, gobeithio, cynyddu pa mor effeithiol y bydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Llywydd. Rydym ni wedi cael trafodaeth wirioneddol ddefnyddiol, dadl yn y Siambr hon, a llawer o’r Aelodau yn cyfrannu heddiw.
A gaf i gyfeirio at rai o'r gwelliannau ac yna at rai o'r sylwadau a wnaed yn gyntaf? Gan droi at y gwelliannau, byddwn ni’n cefnogi pob gwelliant heblaw am 4, 6 a 7. Gwelliant 4: mae'r Llywodraeth yn gwrthwynebu'r gwelliant ar y sail ein bod o'r farn mai’r fframwaith troseddau casineb yw'r lle priodol ar gyfer y polisi o ran mynd i'r afael â phob math o drosedd casineb, ond byddwn ni’n sicrhau y bydd cysylltiadau agos yn parhau rhwng gweithredu ar awtistiaeth ac ar drosedd gasineb, a gwrandewais yn ofalus iawn ar y cyfraniad a wnaeth Mark Isherwood. Fy marn i yw bod a wnelo hyn â lle mae’n perthyn yn hytrach nag ar beth yw egwyddor hyn.
Gwelliant 6: mae'r Llywodraeth yn gwrthwynebu'r gwelliant hwn ynglŷn â chyllid newydd ar gyfer cymorth i ddioddefwyr. Nawr, fe wnaethom ni ddechrau darparu cyllid newydd ym mis Ebrill ac nid oes unrhyw gyllideb ychwanegol ar gael ar hyn o bryd i gynyddu nifer y swyddogion cymorth i ddioddefwyr, ond rwy'n talu teyrnged i'r gwaith maen nhw’n ei wneud, a byddwn yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa hon, ac, os yw’r gyllideb yn caniatáu, byddwn yn ystyried hynny'n ofalus.
Gwelliant 7: mae'r Llywodraeth yn gwrthwynebu'r gwelliant hwn hefyd yng Nghymru, dim ond oherwydd—, eto, nid nad ydym ni’n cytuno â'r egwyddor, ond mae’r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud yng Nghymru, gyda'r statws athro cymwysedig, eisoes yn ei gwneud hi’n ofynnol i athrawon herio safbwyntiau stereoteip, bwlio ac aflonyddu, gan ddilyn polisïau a gweithdrefnau perthnasol. Felly, oherwydd hyn, rydym ni eisoes yn credu bod dyletswydd ar waith.
Llywydd, cyfeiriodd llawer o Aelodau at eu profiadau personol eu hunain. Daeth Hannah Blythyn â phrofiad byw iawn i'r Siambr o’i thriniaeth ar y we a sut y cafodd ei thargedu gan unigolion sy'n credu ei bod hi’n iawn dweud pethau ar-lein, nad yw hynny mor niweidiol, ond nid yw hynny’n wir, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am sefyll a chodi llais, fel y dywed hi. Dawn Bowden a'r ymgyrch ynglŷn â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, sydd ddydd Gwener, fel y dywed yr Aelod—felly gwisgwch goch da chi, pa bynnag liw gwleidyddol yr ydych chi. Cewch wisgo coch ddydd Gwener, gan gefnogi'r ymgyrch wych hon sydd yn sicr wedi rhoi Cymru ar y map ac sy’n mynd i'r afael â'r materion yn uniongyrchol.
Soniodd John Griffiths am ei weledigaeth a'i farn ynglŷn â’r fan lle cafodd ei fagu, yn Pillgwenlli. Rwyf wedi ymweld â Phillgwenlli sawl gwaith, gan ymweld â'r gymuned honno, a dyna ysgol newydd wych sydd ganddyn nhw yno. Rwy'n credu bod gan yr ysgol gynradd leol oddeutu 20 o ieithoedd, neu 20 o ieithoedd a diwylliannau o fewn lleoliad yr ysgol, felly mae'n gyfle anhygoel i blant integreiddio â'i gilydd, ac mae’n dangos enghraifft wych yn Pillgwenlli o’r hyn y gellir ei wneud pan ddaw pobl at ei gilydd. Rwyf hefyd yn llongyfarch y rhaglen ‘Crush Hate Crime’ a'r rhaglen ‘Rock Against Racism’ y siaradodd yr Aelod amdanynt. Mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn i’n gallu dod, ond rwy'n siŵr y bydd yn ffynnu yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, mae angen llongyfarch cymuned Casnewydd, a nifer o rai eraill hefyd ynglŷn â’r ffordd y maen nhw’n ceisio creu cydlyniant cymunedol yn eu cymunedau amrywiol iawn, y mae'r Aelod yn eu cynrychioli hefyd.
Cododd Neil Hamilton rai materion. Dechreuodd ei ddadl drwy ddweud bod llai o ragfarn pan oedd ef yn ifanc. Yr hyn yr wyf yn gobeithio nad oedd yn ei olygu drwy ddweud bod llai o ragfarn bryd hynny oedd bod rhagfarn dderbyniol nawr. Oherwydd yr hyn yr wyf i yn ei weld—cyfeiriodd yr Aelod ato a dywedodd nad oes pleidiau eithafol iawn gwerth sôn amdanyn nhw yn y DU nawr. Mae'n debyg y byddwn yn anghytuno ag ef, oherwydd, mewn gwirionedd, rydym ni’n gweld yn rheolaidd, bob dydd, sefyllfaoedd lle mae gan unigolion, grwpiau o unigolion safbwyntiau adain dde eithafol iawn, ac mae’n rhaid inni roi taw ar hynny nawr. I ddweud y gwir, arddangosodd ei blaid ef ffoaduriaid ar boster ar ochr bws, a phe bydden nhw’n bobl groenwyn Brydeinig, ni fyddent wedi cael yr un effaith, Neil. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni ddysgu trwy ein camgymeriadau a derbyn y ffaith ein bod weithiau'n cael pethau'n anghywir ac weithiau y dylem ni ymddiheuro i bobl Cymru a phobl y DU. [Torri ar draws.] Ildiaf i'r Aelod, gwnaf.
Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. Fe allem ni i gyd gyfnewid straeon o'r cyfnod hwn. Fe wyddom ni’n iawn am rai o'r pethau gwrth-Iddewig a ddywedwyd gan aelodau o'r Blaid Lafur. Ceir rhagfarn ym mhob plaid. Peidiwch â gofyn i mi amddiffyn y poster hwnnw—doedd a wnelo fi ddim byd ag ef. Yn sicr nid yw’n cynrychioli'r math o ymagwedd y mae UKIP yn dymuno ei chyflwyno i'r ddadl mewnfudo.
Wel, efallai mai dyma'r achos nawr, ond mae'n rhaid i mi ddweud nad dyna'r ddadl a grëwyd yn ystod y rhaglen Brexit y gwnaeth pob un ohonom ni ei dilyn. Yn anad dim, mae’n sicr nad yw beirniadu pobl yn ôl lliw eu croen neu eu hiaith yn briodol o ran symud ymlaen.
Llywydd, mae'n bwysig pwysleisio bod gwahaniaethau barn yn y Siambr hon, ond ni fydd hyn yn tanseilio'r consensws trawsbleidiol ynglŷn â’r angen i fynd i'r afael â throseddau casineb. A gaf i orffen y ddadl trwy dynnu sylw at y ffaith bod eleni yn nodi pedwar ugain mlynedd ers carcharu’r Parchedig Niemöller gan y Natsïaid? Fe hoffwn i atgoffa Aelodau o'i alwad hanesyddol ar i bobl sefyll gyda'i gilydd yn erbyn rhagfarn, anoddefgarwch, gormes a chasineb. Mae ei eiriau mor rymus heddiw ag yr oedden nhw bryd hynny:
'Yn gyntaf, fe ddaethon nhw ar ôl y Sosialwyr, ac ni ddywedais ddim—Oherwydd nid oeddwn i’n Sosialydd. / Yna fe ddaethon nhw ar ôl yr Undebwyr Llafur, ac ni ddywedais ddim —Oherwydd nid oeddwn i’n Undebwr Llafur. / Yna fe ddaethon nhw ar ôl yr Iddewon, ac ni ddywedais ddim—Oherwydd nid oeddwn i’n Iddew. / Yna fe ddaethon nhw ar fy ôl i, ac nid oedd neb ar ôl i siarad drosof i.'
Llywydd, bydd methu â mynd i'r afael â throseddau casineb yn bygwth pob un ohonom ni yn y pen draw. Mae camdriniaeth neu wahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hil, ffydd, cenedligrwydd, oedran, anabledd, rhywioldeb, rhywedd neu hunaniaeth o ran rhywedd yn gyfeiliornus. Ni ddylai neb feddwl bod ganddyn nhw hawl i gamdrin pobl. Rydym ni’n parhau i fynd i'r afael ag ymddygiad yn uniongyrchol. Ni ddylai neb ddioddef gelyniaeth, bwlio na rhagfarn. Drwy gyfrwng ein pleidleisiau heddiw, Llywydd, fe allwn ni sefyll yn glir ar faterion sy’n diffinio ein cyfnod ni. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod, ar ôl pleidleisio ar y gwelliannau, yn teimlo y gallan nhw gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1.
Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 2.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 3.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.