– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 24 Hydref 2017.
Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y rhaglen tai arloesol, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn egluro bwriad y Llywodraeth hon i wella ffyniant a lles unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae tai yn un o'r pum maes blaenoriaeth sy’n drawsbynciol a nodwyd yn y strategaeth ac mae’n sail i gyflawni nifer o amcanion strategol eraill. Mae angen cartrefi o ansawdd da ar bobl ar hyd eu hoes. Maen nhw’n rhoi mangre i blentyn dyfu a ffynnu ynddi. Mae tai gweddus yn lleihau straen ar unigolion a theulu, ac mae adeiladu ac adnewyddu cartrefi yn creu cyfleoedd enfawr o ran swyddi a hyfforddiant. Mae angen lle i fyw ar bobl hŷn i gael ymddeoliad hwyliog a chysurus. Ac mae angen y cartrefi hyn o ansawdd da ar bobl ar unwaith.
Cynyddu'r nifer sydd ar gael, cyfradd eu cyflenwi, eu fforddiadwyedd, gan leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, yw’r heriau amlwg. Mae ein nod o 20,000 o dai fforddiadwy yn ganolog i gynyddu'r cyflenwad ledled yr holl ddeiliadaethau, ac rwy’n awyddus i wneud mwy i helpu pobl beth bynnag fo’u hoedran a beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Yn y bôn, rwy'n bwriadu dod o hyd i ffyrdd newydd nid yn unig o ran cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, ond hefyd o ran pa mor gyflym y gellid cyflenwi mwy ohonyn nhw. Nododd canfyddiadau adroddiad Farmer, 'Modernize or Die', yn eglur broblemau difrifol iawn yn y diwydiant adeiladu yn y DU. Roedd yn amlwg i mi y byddai dulliau traddodiadol o adeiladu tai yn annhebygol o gyflawni'r newidiadau sy’n angenrheidiol. Roedd angen dull newydd ac arloesol. Dangosodd yr adroddiad a gomisiynwyd gan Ysgol Bensaernïaeth Cymru, er nad oes un ateb syml at bob achos, mae yna lawer o fodelau a dulliau posib ar gael.
Dyna pam, ym mis Chwefror eleni, lansiais y gronfa dai arloesol. Gyda £10 miliwn ar gael eleni a'r flwyddyn nesaf, gwahoddwyd cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i wneud cais am adnoddau i ddefnyddio modelau tai newydd, llwybrau cyflenwi newydd a thechnegau adeiladu newydd. Rhoddais her i sefydliadau ddatblygu meddylfryd ffres o ran cyflenwi cyn gynted â phosib. Rwyf wedi fy synnu a’m plesio gan y diddordeb mawr yn y rhaglen a'r ymateb brwdfrydig iddi. Mae hyn wedi mynd y tu hwnt i landlordiaid tai cymdeithasol i gynnwys llawer o sefydliadau eraill, gan gynnwys mentrau bach a chanolig, benthycwyr, academyddion a chyrff proffesiynol. Rydym wedi siarad â llawer o bobl eleni, o ystod eang o gefndiroedd, ac mae eu barn a'u syniadau wedi helpu i lunio'r rhaglen. Mae llawer wedi rhoi o’u hamser hefyd, gan ein helpu ni gyda phopeth, o ddatblygu'r dogfennau technegol hyd at edrych ar sut mae’r pecynnau cais yn mynd i weithio ac asesu ceisiadau. Rwy'n estyn fy niolch diffuant i bawb dan sylw.
Ym mis Medi, daeth 35 o geisiadau am gyllid i law. Gofynnais i banel annibynnol asesu'r cynlluniau i nodi sut yr oedden nhw’n cynnig yr arloesedd a'r gwerth sydd ei angen ar gyfer graddfa'r newid yr hoffwn ei weld. Ar y sail honno, rwy'n falch iawn fy mod wedi penderfynu ariannu 22 o gynlluniau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Yn amodol ar y gwiriadau diwydrwydd dyladwy sy’n angenrheidiol, byddaf yn sicrhau bod bron £19 miliwn ar gael i adeiladu 276 o gartrefi newydd—bron dwbl yr hyn a fwriadwyd. Bydd rhestr lawn o'r cynlluniau a fu’n llwyddiannus ar y wefan yn ddiweddarach yr wythnos hon pan fydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus wedi cael gwybod.
Er hynny, Llywydd, rwy’n awyddus i ddweud wrthych am rai ohonyn nhw er mwyn rhoi syniad i chi o ehangder yr hyn y byddwn yn ei ariannu. Yn gyntaf, bydd cynllun a fydd yn cyflwyno elfennau o'r prosiect a fydd yn troi cartrefi’n orsafoedd pŵer, prosiect gan SPECIFIC, y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol. Bydd pobl yn elwa o gartrefi sydd nid yn unig yn arbed arian iddyn nhw, ond yn ffynhonell o incwm drwy gynhyrchu pŵer—bydd llawer ohonoch chi’n gwybod bod datblygiad y model hwn wedi cael cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae ei weld ar waith yn gyffrous iawn. Mae yna brosiect newydd gofal ychwanegol 40 gwely ar gyfer pobl hŷn yn y Cymoedd, a adeiladwyd gan ddefnyddio technegau modiwlar gan fusnesau bach a chanolig yng nghanolbarth Cymru—rwy'n credu bod cartrefi modiwlaidd a adeiladwyd mewn ffatrïoedd yn cynnig cyfleoedd mawr i gynyddu cyflymder adeiladu ac ansawdd y cartrefi. Rwy’n ariannu cynlluniau modiwlaidd eraill, fel y gallwn ni gymharu a chyferbynnu modelau. Bydd hyn yn ein galluogi ni i weld beth sy'n gweithio orau yma a nodi cyfleoedd ond hefyd y problemau a all godi. Drwy adeiladu 24 o gartrefi yng nghanolbarth Cymru gan ddefnyddio'r model cartrefi cartref, lle defnyddir pren wedi'i dyfu'n lleol i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel a darbodus gydag ynni—bydd hyn yn cefnogi swyddi a hyfforddiant newydd yn lleol fel rhan o'n gwaith ni sy’n cefnogi’r tyfwyr coed ledled Cymru.
Llywydd, rwyf hefyd yn ariannu cynlluniau sy'n cynnwys cartrefi a wneir o gynwysyddion a ailgylchwyd er mwyn profi a ydynt yn addas fel atebion byw byrdymor neu dros dro i’r bobl sydd â'r angen mwyaf am dai. Rwy'n credu bod yn rhaid inni roi cynnig ar yr holl ddatrysiadau yn y maes hwn.
Nid yw arloesedd heb ei risg, ac nid wyf yn disgwyl i bob cynllun ddarparu'r atebion hirdymor yr ydym yn chwilio amdanyn nhw. Ond yr hyn y gwn yw ei bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol ac mae'r prosiectau hyn wedi'u dewis yn ofalus. Bydd yr holl gynlluniau yn cael eu monitro a’u gwerthuso fel y gallwn ddysgu o'r hyn sy'n gweithio orau a pham felly. Mae hynny'n cynnwys gofyn i bobl sut beth ydyw byw ynddyn nhw.
Llywydd, y flwyddyn nesaf, rwy’n awyddus i agor y rhaglen i gynnwys y sector preifat, yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol, i’w galluogi i'n helpu ni i chwilio am atebion. Y mis diwethaf, cyhoeddais gynnydd yn y gronfa datblygu eiddo i gynorthwyo adeiladwyr tai a datblygwyr busnesau bach a chanolig i ddychwelyd i'r farchnad. Bydd y gronfa honno, ynghyd â'r rhaglen hon, yn ein helpu ni i ddarparu mathau newydd o gartrefi a fydd yn gymorth i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru ar hyn o bryd ac, rwy’n gobeithio, ymhell i'r dyfodol. Diolch.
Rhaid imi ddweud fy mod yn synhwyro awgrym o anogaeth yn y datganiad hwn, ac nid yw hynny bob amser wedi bod yn wir am faterion tai yn achos Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi anghytuno weithiau. Ond rwy'n croesawu agweddau ar y datganiad hwn yn arbennig felly. Er enghraifft, wrth adeiladu tai, mae’n dweud, ac rwy’n dyfynnu, bydd yn creu cyfleoedd enfawr ar gyfer swyddi a hyfforddiant,
Rwy’n cytuno'n llwyr â hynny, a hefyd ei fod yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd newydd, nid yn unig o ran cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, ond hefyd o ran pa mor gyflym y gellir cyflenwi mwy ohonyn nhw.
Rwy'n credu mai dyna'r cywair sydd ei angen arnom i ddiwallu'r angen cyfredol am dai, ac rwy'n falch o glywed hynny ganddo.
Yn llai optimistaidd, ond mae hefyd, gwaetha’r modd, yn faes y mae’n rhaid i mi gytuno ag ef arno, y casgliad y daw’r adroddiad y cyfeiriodd ato iddo, sef bod yna broblemau difrifol iawn yn ein hwynebu ni yn niwydiant adeiladu’r DU. Ond rwy'n credu bod hynny’n gofyn am ddull cynhwysfawr, drwy'r sector addysg bellach yn benodol, i sicrhau y caiff y sgiliau newydd sydd eu hangen ar y diwydiant adeiladu eu darparu, a chyfeiriodd sawl gwaith at adeiladu modiwlaidd, a fydd yn galw am y sgiliau hynny.
Rwy'n croesawu wir y nod o hyrwyddo arloesedd. Rwy'n credu mai dyna'n union yw’r hyn y dylem fod yn ceisio ei wneud mewn polisi cyhoeddus: defnyddio'r adnoddau yn fwy effeithiol, dwyn pethau ymlaen, a bodloni nifer o amcanion ar yr un pryd, os oes modd. Felly, am unwaith, a gaf i ei longyfarch am ei orwariant enfawr yn hyn o beth? Rwy'n tybio bod y gronfa bellach ddwywaith yn fwy nag y bwriadwyd ei gwario, a bydd yn ymestyn y gronfa i'r sector preifat hyd yn oed y flwyddyn nesaf, rhywbeth, eto, yr wyf i’n ei groesawu. Ond mae’n bwynt difrifol: rwyf i o’r farn pan fydd arloesi yn codi stêm—. Ac, fel y clywsom ni, rydych chi wedi cael eich synnu ac rydych yn falch iawn bod cymaint o brosiectau wedi’u cyflwyno. Eto, rwy’n credu bod hynny'n golygu eich bod wedi cyrraedd y man cywir, o ran rhaglen ddefnyddiol gan Lywodraeth.
O ran y manylion, felly: cartrefi yn orsafoedd pŵer—rwy’n credu’n wir mai dyma’n union y math o uchelgais y dylem ei chael, sef defnyddio effeithlonrwydd ynni mewn tai fel ffordd o roi rhywfaint o incwm i bobl ac, yn amlwg, i gael gwared ar unrhyw risg o dlodi tanwydd i’r bobl yn y cartrefi hynny. Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar i ymweld â'r tŷ SOLCER ger Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r pwyllgor. Roedd yn wirioneddol wych gweld yr ymarfer arloesol yn y fan honno, a chredaf fod hynny'n cynnwys Prifysgol Caerdydd, ac fe wnaethoch chi gyfeiriad at rywfaint o'u gwaith nhw. Yn wir, credaf mai’r hyn yr ydym yn dymuno’i weld yw'r math hwn o waith yn cael ei gyflwyno ymhellach, ac mae’r tŷ effeithlonrwydd ynni hwnnw hefyd o ddyluniad modiwlaidd.
Rwy'n gwybod o ran hynny, eto, mai un o'r problemau yw sut i ddatblygu’r dechnoleg ymhellach o ran batris. Mae llawer o gynnydd wedi bod, ac fe ddangoson nhw hynny i ni. O’r blaen roedd y batri’n llenwi’r rhan fwyaf o’r gofod o dan y to, bellach maint rheiddiadur gweddol fawr ydyw. Felly, cafwyd cynnydd gwirioneddol, ond mae'n bwysig, rwy’n credu, ar gyfer bwydo yn ôl i'r grid a chael yr incwm hwnnw.
Ond, yn bennaf oll, dywedwyd wrthym fod y math hwnnw o ddyluniad arloesol ar hyn o bryd, gan fod yn rhaid ei archebu’n bwrpasol o hyd, yn costio tua dwywaith yn fwy i’w adeiladu na deunyddiau traddodiadol. Eto, pan fydd cynnydd o ran maint, bydd y costau hynny'n lleihau yn ddramatig iawn. Rwy'n deall bod cyngor sir Caerfyrddin wrthi’n adeiladu ystad o dai cymdeithasol gan ddefnyddio'r dulliau newydd hyn. Tybed a yw'n edrych ar ddefnyddio'r sector tai cymdeithasol fel ffordd o sefydlu pa mor hyfyw yw’r math hwn o weithredu a dylunio modiwlaidd ac effeithlonrwydd ynni ac, yn wir, gynhyrchiant net. Bydd hynny'n cael ein cefnogaeth ni.
O ran cartrefi modiwlaidd, eto rwy'n credu—. Hynny yw, roedd hyn yn rhan o'r ateb yn y 1950au; y gred oedd bod llawer o'r cartrefi hynny yn rhai dros dro ond mae un neu ddau o gwmpas hyd heddiw—mae'n debyg y byddan nhw’n cael eu cludo i Sain Ffagan cyn hir—oherwydd roeddent mewn gwirionedd yn eithaf poblogaidd ac roedd hi’n anodd cael rhai pobl i symud ohonyn nhw. Ond nawr mae'r dechnoleg wedi datblygu cymaint fel mai dyluniad modiwlar yw'r ffordd orau yn aml o adeiladu tai. Dyna yw'r newid sylfaenol sydd wedi digwydd, ac rwy'n falch o weld ei fod yntau’n ymuno â'r alwad i adeiladu gofal hyblyg ar gyfer pobl yn y Cymoedd, a byddai gen i ddiddordeb mawr i weld sut y bydd hynny’n cael ei drin. Rwy’n deall, y llynedd, fod Legal & General wedi agor ffatri bwrpasol i adeiladu tua 3,000 o gartrefi modiwlar ledled y DU. Maen nhw’n amcangyfrif y bydd yn cymryd 70 y cant yn llai o amser i adeiladu'r cartrefi hynny na dulliau traddodiadol. Felly, eto, rwy’n credu bod yna ddiwydiant arwyddocaol yma a ffordd o fanteisio arno os gallwn ni ddatblygu'r farchnad yng Nghymru.
Felly, rwy’n croesawu hynny ac yn gobeithio y bydd dyluniad modiwlaidd yn cael ei ddefnyddio hefyd i ateb y gofynion mewn cymunedau trefol sy'n newid. Rwy'n gweld y rheini, yn enwedig ar sail egwyddorion amgylcheddol, y cyfeiriwyd atyn nhw gennych chi hefyd, yn rhan o'r ateb, fel y bydd gennym gartrefi o faint teuluol i bobl iau nad yw’n debygol y gallan nhw fforddio tŷ pâr traddodiadol. A beth bynnag, maen nhw’n croesawu’r ffordd newydd hwn o fyw ac maen nhw’n gweld y manteision o gael lle chwarae cymunedol efallai—ond, wyddoch chi, maen nhw hefyd yn adeiladau diddorol iawn ac arloesol i fyw ynddyn nhw ac yn effeithlon o ran ynni. Felly, rwyf i o’r farn, o ran dylunio trefol, fod yna lawer o gyfleoedd i’w cael yma. Ac yn wir, roedd y datganiad hwn yn chwa o awyr iach ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud peth cynnydd yn y meysydd hyn.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad cadarnhaol gan yr Aelod a diolch iddo am ei eiriau caredig. Ychydig o bwyntiau, byddwn yn—. Roedd hi’n anodd iawn ar ddechrau'r broses hon, gan ei bod yn anodd torri ar hen arferion. Buom yn siarad â'r tîm ac fe ddywedon nhw, ‘Felly, beth yw'r paramedrau ynglŷn ag arloesedd?’ sydd i ryw raddau’n trechu’r amcanion cyn dechrau. Dywedais i, ‘Nid oes paramedrau ynglŷn ag arloesedd am yr union fater hwnnw. Gadewch i bobl ddod atom ni gyda’r dewisiadau sydd ar gael’. Fodd bynnag, mae hynny ynddo'i hun yn achosi problemau, gan ein bod ni'n frith o arloesedd yn awr ac ar ryw adeg, bydd yn rhaid inni bennu'r hyn a ystyrir yn dda o ran mynd i'r afael â'r materion y mae'r Aelod yn eu codi, yn enwedig o ran maint.
Mae llawer o werth ychwanegol, heblaw adeiladu cartref, yn deillio o’r pethau yr ydym yn sôn amdanyn nhw yn y datganiad ac y mae'r Aelod yn eu codi: sef, y dull o adeiladu’r unedau modiwlar hyn mewn modd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, pa mor effeithiol yw goddefgarwch o ddeunyddiau darfodol, ac ati, y sgiliau sy'n gysylltiedig â hynny, y datrysiad sy’n tarddu o Gymru. Ac mae rhywbeth yn hyn o beth. Pan fydd cwmnïau cyfreithiol neu gwmnïau yswiriant mawr yn buddsoddi mewn ffatrïoedd mawr i adeiladu unedau modiwlaidd, mae rhywbeth yn hynny o beth, a dyna pam y dylem fod yn symud tuag at hynny: ateb modiwlaidd sy'n tarddu o Gymru, sy’n gynnyrch o Gymru, a allai fod yn fyd-eang. Mewn gwirionedd, mae peth o'r dechnoleg yr ydym wedi ei gweld ledled Cymru yn flaenllaw drwy’r byd, felly rwy'n cael fy annog yn fawr gan hynny. Mae gweithio gyda Ken Skates a Julie James ar y sgiliau, y gadwyn gyflenwi, yr holl ddilyniant hwnnw sydd yn rhan o gyflwyno uned orffenedig, yn rhywbeth yr wyf yn llawn cyffro yn ei gylch.
Mae'r cynnyrch penodol y mae'r Aelod wedi troi ato, cartrefi yn orsafoedd pŵer, rwy'n credu ei fod yn ateb dyfeisgar ac arloesol iawn. Rwyf eisoes wedi cwrdd â'r cwmni ac rwyf eisoes wedi dweud wrthyn nhw, ‘Rydym ni’n awyddus i fod â rhan yn hyn o beth’. Nid oherwydd ein bod ni'n dyheu am bunt i bwrs ein gwlad yma yng Nghymru, ond mewn gwirionedd werth yr ynni sy'n dod yn ei ôl—. Ie, efallai y bydd hynny'n dda o beth i'r ystad, ac yn dda o beth i denant yr eiddo, ond gellid ei ddefnyddio fel cost refeniw ar gyfer datblygu mwy o gartrefi i’r dyfodol. Felly, mae hon yn ffordd ragorol—yn gyfle—i ail-fuddsoddi’r arian a grëwyd mewn tai i ddatrys problem ar gyfer y dyfodol yn yr hirdymor.
Mae'r gost, wrth gwrs, yn ddiddorol ar hyn o bryd, ac rwy'n barod i gymryd risgiau. Dywedais hynny yn y datganiad. Bydd rhai yn ffynnu ac ni fydd eraill yn ffynnu am wahanol resymau. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio dull ar gyfer oes gyfan y cartref yma. Gwn y bydd prisiau ynni yn parhau i gynyddu, felly mae'n rhaid inni wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r materion hynny. Felly, mae eiddo positif yn cynhyrchu ynni yn rhywbeth y dylem ni ystyried buddsoddi ynddo. Rwyf wedi bod yn glir iawn i'r tîm sydd gennyf i. Rydym am wneud buddsoddiad gwerth tua £1.4 biliwn yn y stoc dai dros dymor y Llywodraeth hon. Rwy’n dweud wrthyn nhw, ‘Pryd y dylwn i ddweud y dylai hanner hwnnw neu chwarter hwnnw gael ei fuddsoddi yn natblygiad y math hwn o eiddo yn unig? A phan fydd gen i’r prosiect arloesi hwnnw a’r cynnyrch sydd er lles Cymru, yn llesol i bobl Cymru, a fydda i’n dweud wedyn—neu'r Gweinidog bryd hynny—yn dweud, ‘Fel yn achos y sector preifat, ni wnawn ond adeiladau chwe math o eiddo, o gartrefi cychwynnol i blasdai, os hoffech chi, ond dyma beth ydyw: mae'n dŷ pŵer. Os ydych chi’n ceisio am grant tai cymdeithasol, byddwn ond yn talu allan mewn achos fel hwnnw? Rwy'n credu bod hynny'n ddewr, ond dyma'r unig ffordd, (1) y cawn ni raddfa ddigonol, a (2) y gellir ei gyflawni yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru. Rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud; yn syml, dod o hyd i'r prosiect iawn. Bydd hyn yn gyfle i ni gyflawni ar hynny.
Rwyf i o’r farn ei bod yn bwysig iawn ein bod ni, ar y cyd, yn cyhoeddi’r neges nad ydym yn sôn am y ‘prefabs’, tai parod y 1960au. Rydym yn sôn am ddull gwahanol iawn sydd ar flaen y gad o ran technoleg unedau modiwlaidd sy'n cael eu datblygu ar gyfer y bobl. Dywedodd cydweithiwr mewn awdurdod lleol wrthyf—. Ei eiriau oedd, ‘Sargey, ‘dwyt ti ddim am roi fy mam-gu mewn bocs metel, wyt ti?’ Dywedais i, 'Yn dechnegol, ydw, ond nid mewn bocs metel fel y cyfryw’. Dywedodd ef, ‘Dwi am weithio gyda thi ar hyn’. Mewn gwirionedd, rwyf wedi gweld rhai o'r prosiectau hyn. Maen nhw’n anhygoel. Ni feddyliech chi byth eu bod wedi’u hadeiladu’n fodiwlaidd. Maen nhw’n edrych yn draddodiadol. Felly, mae gennym ni Gymru ddoeth, a hir y parhaed hynny. Nid yw’r prosiect hwn ond yn ddechrau i rywbeth da wrth symud ymlaen.
Rydym ni, wrth gwrs, yn croesawu unrhyw gynnydd yn y gwaith o ddatblygu tai carbon isel, ac yn croesawu’r datganiad, felly, yn sicr. Ond, rydym yn ei weld o, wrth gwrs, fel rhan o’r ymdrech i godi 20,000 o dai fforddiadwy, ac mi fyddai’n dda cael datganiad yn y dyfodol agos ar sut y mae’r strategaeth honno yn dod yn ei blaen, yn ei chyfanrwydd, fel petai. Rydym ni wedi bod yn sôn llawer am ddiddymu’r hawl i brynu, ond law yn llaw efo hynny, mae’n rhaid inni fod yn codi tai newydd yng Nghymru er mwyn ateb yr argyfwng sydd yn ein hwynebu ni yn y wlad.
Mae hwn yn ddatganiad sy’n rhoi gwybodaeth am y cynlluniau sydd wedi cael eu hariannu o’r gronfa tai arloesol. Rydym yn cael gwybod bod 22 cynllun allan o’r 35 cynllun a gyflwynwyd am gael eu hariannu, ac y bydd yna 276 o dai newydd yn cael eu hadeiladu. Rwy’n edrych ymlaen at weld y rhestr gyflawn o’r cynlluniau llwyddiannus ar y we, ac fel rydych yn ei ddweud, erbyn diwedd yr wythnos, bydd honno ar gael. Rydych yn sôn yn eich datganiad am bedwar o’r cynlluniau yma: tai yn creu incwm wrth gynhyrchu ynni; y prosiect tai modwlar ar gyfer pobl hŷn; a thai yn defnyddio coed lleol. Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb yn adroddiad y pwyllgor newid hinsawdd, yr oeddwn i’n aelod ohono fo tan yn ddiweddar, sy’n pwysleisio bod angen symud ar fyrder i dyfu llawer mwy o goed yng Nghymru ar gyfer tai'r dyfodol, yn ogystal ag am resymau newid hinsawdd uniongyrchol. Mae gen i ddiddordeb arbennig hefyd yn y pedwerydd cynllun. Nid yw’n swnio’n rhywbeth cyffrous iawn—gwneud tai allan o ‘containers’ wedi cael eu hailgylchu—ond rwy’n barod iawn i gael fy ngoleuo ar hynny, a bydd yn ddiddorol iawn gweld pa mor addas y byddan nhw ar gyfer anghenion teuluoedd cyfoes.
Ychydig o gwestiynau: a ydy’r 22 cynllun llwyddiannus yn mynd i greu cynlluniau tai ym mhob cwr o Gymru? Byddai’n dda gweld sut y mae’r 22 cynllun yma yn edrych ar y map, mewn ffordd. Mae’n bwysig arbrofi mewn lleoliadau amrywiol sydd efo gwahanol heriau, gan gynnwys yr ardaloedd gwledig, wrth gwrs, lle efallai nad ydy’r ‘uptake’ o dai o’r math yma ddim ar yr olwg gyntaf yn mynd i fod mor ddeniadol â hynny. Ond mae angen gweithio trwy’r heriau yna yn yr ardaloedd gwledig yn ogystal ag yn yr ardaloedd mwy trefol.
Rydych chi’n sôn am 276 o dai carbon isel—gwych—allan o darged o 20,000 o dai fforddiadwy. A ydych chi’n meddwl bod hyn yn ganran ddigon uchel? Hynny yw, faint o beilota sydd ei angen? Cynlluniau peilot ydy hyn. Ond mae yna lawer iawn o wersi i’w dysgu gan wledydd eraill yn y maes yma, ac nid ydy’r dechnoleg mor hollol newydd â hynny; mae lot o dreialu wedi digwydd yn barod. Felly, oni allai’r ganran fod wedi bod ychydig bach yn fwy uchelgeisiol?
Rydych chi’n ymrwymo £19 miliwn ar gyfer y 22 gynllun yma eleni, sydd yn £9 miliwn yn fwy nag a fwriadwyd. Buaswn i’n licio gwybod faint o arian a fydd yn y pot ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly, ac o ble y daeth y £9 miliwn ychwanegol oddi mewn i’r gyllideb. Wedyn, beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfnod yma o arbrofi? Sut y byddwch chi’n symud ymlaen i sicrhau cyflenwad sylweddol fwy o dai carbon isel yng Nghymru, unwaith y bo’r cyfnod arbrofol yma yn dod i ben? Beth ydy’r cynllun tymor hir? Beth ydy’r targedau? Beth ydy’r weledigaeth ar gyfer pen draw’r daith? Ac yn olaf, a ydych chi wedi ystyried defnyddio treth trafodion tir, sef y ‘stamp duty’, i annog tai carbon isel? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Aelod. Cyn gynted ag y bydd data ar gael o ran datganiad sefyllfa ar y 20,000 o gartrefi, byddaf yn dod gerbron y Cynulliad ac yn hysbysu'r Aelodau am hynny. Rydym wedi cael llwyddiant mawr eisoes, ond byddaf yn rhoi’r manylion pellach cyn gynted ag y byddan nhw ar gael i mi.
276 yw nifer y cartrefi yn y cynllun hwn. Mae hynny ddwywaith y nifer yr oeddem yn credu y byddem yn gallu eu cyflenwi yn seiliedig ar asesiad ar ddechrau'r rhaglen. Felly, rwyf i o’r farn, o ran uchelgais, bod dyblu'r nifer yn ddigon effeithiol. Felly, efallai y bydd yr Aelod yn dymuno ystyried y sylwadau hynny.
Mae mater pren yn—. Mae'r Aelod yn iawn i godi mater pren. Y broblem gyda phren Cymru yn draddodiadol yw nad yw o'r ansawdd cywir ar gyfer adeiladu. Fe'i defnyddiwyd i gynorthwyo gyda'r gwaith adeiladu, ond nid fel prif ddeunydd. Mae'r diwydiant coed yng Nghymru wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae gennym bren o ansawdd da ar gyfer adeiladu unedau cyfan. Felly, mae'r treialon yr ydym yn eu defnyddio yn y gofod hwn yn rhywbeth y byddwn yn edrych arno â diddordeb. Mae cyfle gwych yma i leihau carbon ac ôl troed carbon y fframwaith cartref cyfan.
Ar gynwysyddion, bydd rhai’n feirniadol o'm penderfyniad i ddefnyddio hen gynhwysydd llongau fel unedau modiwlaidd ar gyfer llety. Rydym mewn argyfwng gyda thai yn ein cymunedau, ac mae gennym bobl sy'n cysgu ar y strydoedd. Rwyf i’n awyddus i gael cartref dros dro diogel a chynnes i unigolion, ac mae cynwysyddion yn cynnig hynny. Cânt eu defnyddio drwy’r byd. Os aiff yr Aelodau i Ardal y Dociau yn Llundain, fe welan nhw bentref cyfan ohonyn nhw. Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn ceisio ei brofi gyda'r cysyniad hwn yw y bydd unigolion sy’n well eu byd yn gweld y rhain yn gartrefi gwych mewn arddull iypïaidd. Ac i brofi hynny, mewn gwirionedd, nid mater o roi unrhyw un i fyw yn un o’r rhain yw hyn; mae yna bobl sy’n fodlon talu arian i fyw mewn lleoedd fel hyn. Felly, rwy'n credu y dylech chi roi siawns inni a gweld a yw hyn mewn gwirionedd yn llwyddo a sut beth fydd y profiad o fyw ynddynt. Os nad yw hyn yn beth iawn i'w wneud, yna dylem roi’r gorau i hynny. Ond nid wyf o’r farn nad yw’n haeddu’r cyfle, a byddaf yn fodlon cymryd unrhyw feirniadaeth a ddaw law yn llaw â hynny.
Gofynnodd yr Aelod am fanylion o ran lleoliadau’r cynlluniau. Gallaf sicrhau'r Aelod bod y cynlluniau wedi’u lleoli ledled Cymru, o Ynys Môn hyd Sir y Fflint, o Sir Fynwy hyd Sir Benfro, a darnau o’r wlad rhwng y rheini. Mae yna 22 o brosiectau a bydd manylion pellach i’r Aelod ar y wefan, yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae'n anffodus na lwyddwyd i gwblhau’r manylion gyda'r cwmnïau a’r rhaglenni llwyddiannus er mwyn rhoi manylion i'r Aelodau heddiw. Ond gallaf eich sicrhau, cyn gynted ag y bydd y manylion hynny gyda ni, erbyn diwedd yr wythnos, yna byddan nhw’n ymddangos ar y wefan ar gyfer Aelodau.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi fy llwyr gyfareddu gan eich datganiad, ac yn croesawu’n fawr y datganiad gan David Melding, Geidwadwr blaengar, os nad yw hynny'n ormod o wrtheiriad.
Hoffwn ymhel ychydig â’r hanes, o ran pam yr ydym ni yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. Gordon Brown, pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys, yn 2006 wnaeth gyhoeddi polisi cartrefi di-garbon ledled y DU, a Phrydain oedd y wlad gyntaf i wneud ymrwymiad o'r fath. Byddai'n ei gwneud hi'n amhosib i unrhyw gartrefi newydd a adeiladwyd ers 2016 i beidio â bod yn rhai a oedd hefyd yn cynhyrchu cymaint o ynni ar y safle ag y bydden nhw’n ei ddefnyddio wrth wresogi, twymo dŵr poeth, goleuo ac awyru. Felly, roedd hwn yn bolisi ardderchog a blaengar, gyda phecyn gwyrdd a oedd yn nodi'r fframwaith rheoleiddiol i helpu i gyflawni'r allyriadau di-garbon y bu'n rhaid inni eu darparu mewn tai erbyn 2016 ac adeiladau annomestig erbyn 2019. Felly, peth trist iawn oedd bod George Osborne wedi diddymu'r ddwy raglen hyn yn ôl ym mis Gorffennaf 2015 mewn troednodyn, yn y cynllun cynhyrchiant cywilyddus a oedd ynghlwm wrth ei ddatganiad cyllideb yn yr haf. Cyhoeddodd pennaeth Green Building Council y DU ar y pryd mai dyma hoelen yn arch y polisi cartrefi di-garbon. Felly, rwy’n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am adfywio'r polisi hwnnw, oherwydd dyna'r union beth y mae angen inni fod yn ei wneud.
Mae gennym ni argyfwng tai enfawr, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eisoes, a rhaid inni gofio bod 80 y cant o'r tai y bydd pobl yn byw ynddyn nhw yn 2050 eisoes wedi'u hadeiladu. Felly, nid oes angen inni fod yn adeiladu unrhyw gartrefi annigonol y bydd yn rhaid inni eu hôl-addasu. Mae angen inni roi stop ar hynny ac adeiladu'r math o gartrefi a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, rwy'n croesawu'r syniad o weithio gyda thyfwyr coed, a gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o waith Wood Knowledge Wales, lle mae tyfwyr, adeiladwyr a phenseiri yn cydweithio i gynhyrchu'r cartrefi arloesol hyn y mae pobl eisoes yn byw ynddyn nhw, ac y gwyddom eu bod yn llwyddiannus.
Ar y cynwysyddion wedi'u hailgylchu, nid wyf i wedi ymweld ag un hyd yn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at wneud hynny. Ond rwy’n cytuno’n llwyr bod byw mewn cynhwysydd wedi'i ailgylchu'n llawer gwell na chysgu ar y stryd, neu syrffio ar soffa rhywun arall. Bydd hyn yn rhoi preifatrwydd ac urddas i bobl a'u galluogi i ailadeiladu eu bywydau a symud ymlaen i dai mwy o faint sy’n addas i’w hamgylchiadau. Ond rydych yn gywir i nodi bod yr iypis yn Llundain eisoes yn byw yn y cartrefi hyn, gan na allan nhw fforddio hyd yn oed sied mewn gardd gyda’r prisiau hurt yn Llundain.
Rwy’n awyddus i’n herio ni i fynd i'r afael â'r gafael haearnaidd sydd gan y pum adeiladwr mawr o ran adeiladu tai yn y sector preifat. Dangoswyd eisoes y gellir adeiladu tai modiwlaidd o fewn terfynau tebygol cyllidebau tai cymdeithasol—£110,000 ar gyfer cartref tair ystafell wely. Felly, os gallan nhw wneud hynny, pam mae’r pump mawr yn parhau i fynnu bod yn rhaid iddyn nhw weld 25 y cant yn ôl ar eu helw cyn eu bod yn codi o'r gwely yn y bore hyd yn oed?
Credaf fod angen i hynny newid, ac mae angen inni newid y sgwrs honno. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddangos iddyn nhw unwaith eto fod yna atebion cwbl gampus eisoes ar gael i ganiatáu i ni fynd i'r afael â'r broblem tai mewn ffordd a fydd yn darparu cartrefi cynnes a fforddiadwy i bobl, y byddan nhw’n falch o gael byw ynddyn nhw.
Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod. Mae hi wedi hyrwyddo achos tai cynaliadwy am nifer o flynyddoedd ac rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau.
Mae'n rhaid inni dorri'r arfer, a rhaid inni dorri'r chwedl, ynghylch pam mae'n rhaid i ni gael yr un hen fath o gartref yn cael ei adeiladu, yng Nghymru neu yn unrhyw le arall. Rwyf hefyd yn cydnabod, er ein bod yn datblygu cynhyrchion newydd, ei bod yn rhaid cael cyfnod pontio i alluogi pobl i ailhyfforddi ac ailsefydlu—efallai y bydd y dewis o sgiliau traddodiadol o osod brics nawr yn symud i ffatri sy’n creu unedau modiwlaidd. Felly, mae'n rhaid inni helpu'r diwydiant i wneud hynny. Bu Julie James a Ken Skates o gymorth mawr gyda rhai o'r materion cyflogadwyedd o ran hynny.
Mae mater y pwysau y soniodd yr Aelod amdano, yn enwedig o ran digartrefedd—yn un sydd gyda ni ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth a dyna pam mae ateb cyflym, fel yr unedau dur modiwlaidd—yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni yn gyflym iawn. Fel arfer bydd yn cymryd tua 12 wythnos o’r archeb i’r cyflenwad. Ymwelais i â rhaglen yng Nghasnewydd lle’r oedd grŵp eglwys a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc digartref yn troi cynwysyddion yn gartrefi, ac roedden nhw wedyn yn mynd i’w defnyddio fel llety. Felly, roedd mecanwaith hyfforddi a chynorthwyo’n ymwneud â hynny hefyd, a byw â chymorth. Felly, roedd yn brosiect craff iawn. Dyma rai o'r syniadau yr wyf i wedi dod ar eu traws ar fy nesg a rhai pethau y byddwn yn eu datblygu.
Y cwestiwn mawr yw hyn—ac mae'n un sylfaenol i unrhyw Weinidog y mae angen iddo wneud penderfyniadau am hyn—beth yr ydym yn ei wneud a beth yr ydym yn ei adeiladu i’r dyfodol? Mae mater pwysau costau ynni, pwysau ar yr amgylchedd a phwysau cynhesu byd-eang i gyd yn bethau y dylem ni eu hystyried a gwneud buddsoddiad doeth nawr a fydd yn para 40 mlynedd. Dyfarnu’n gywir yw hyn. Efallai y bydd yn costio ychydig yn fwy i ni ond dyna'r peth iawn i'w wneud, a dyna’r hyn y byddaf i’n parhau i'w wneud.
Ond rwy’n credu y bydd y raddfa yn lleihau'r costau yn sylweddol ac felly y bydd yn gallu cystadlu â'r adeiladau traddodiadol, a bydd yn rhywbeth y credaf i—fel y dywedais yn gynharach wrth gydweithwyr, y bydd y dull gweithredu tarddu o Gymru yn rhywbeth y gallem ni arwain y farchnad arno os gwnawn ni hyn yn iawn.
Diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw. Rwy'n credu bod y rhain yn syniadau diddorol ac yn haeddu ymchwil iddynt. Rwy'n credu ein bod wedi gweld gweledigaeth dda heddiw, felly rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r arloesi hwn yn troi’n llwyddiant. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae angen dybryd am fwy o dai, a gobeithio y bydd y rhaglen dai arloesol yn helpu i fynd i'r afael â hynny. Ond wrth gwrs, mae angen inni sicrhau eu bod yn dai o ansawdd da a hefyd, yn y pen draw, eu bod yn fforddiadwy. Rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o risg ynghlwm wrth arloesi, fel y dywedodd y Gweinidog, felly rydym yn deall na fydd yr holl syniadau newydd gwahanol yn codi stêm, ond da o beth yw ein bod yn ymchwilio iddyn nhw.
Dywedodd y Gweinidog fod amrywiaeth eang o gynhyrchion tai arloesol ar fin dod i'r farchnad, a dywedodd fod llawer ohonynt o ansawdd da iawn erbyn hyn, felly mae hynny'n galonogol. Credaf ei fod yn syniad da, fel yr awgrymodd y Gweinidog, i gysylltu’r rhaglen dai arloesol gyda hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr adeiladu, gan gofio y gallai tai fel hyn fod yn llwyddiant mawr ac efallai y bydd llai o angen am osod brics, fel y gwnaethoch chi ei awgrymu. Mae'n bosib fod hynny braidd o flaen yr oes—nid wyf yn siŵr sut yn union y gallwn ni hyfforddi pobl ar gyfer heddiw. Os oes gan y Gweinidog fwy i'w ddweud am hynny byddai gen i ddiddordeb i glywed, a sut y bydd hynny’n cysylltu â’r syniadau sydd gan Ken Skates am gyflogadwyedd a phrentisiaethau ac yn y blaen. Ond efallai y bydd hynny’n cael ei gynnwys mewn datganiad arall yn y dyfodol, oherwydd rwy'n gwerthfawrogi ei bod yn ddyddiau cynnar i’r rhaglen tai arloesol.
Nawr, bydd 276 o gartrefi yn cael eu hadeiladu yn y gyfran gyntaf. O gofio bod risgiau yn yr arloesedd, fel y dywedoch chi, pa ddulliau sydd gennym ni i ddiogelu yn erbyn costau cynyddol adeiladu—costau uchel iawn posib—i sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn dod yn agos at 276 o gartrefi a'u bod yn cynnig gwerth da am arian.
Mae yna faterion eraill o ran cynllunio. Soniodd David Melding am y pwyllgor amgylcheddol a'n taith ni i dŷ SOLCER, sy'n enghraifft o gartref arloesol sy’n orsaf bŵer. Roedd yn ddiddorol iawn mynd o gwmpas ac edrych ar dŷ SOLCER, ond dywedwyd wrthym fod yna gymdeithas dai sy'n cynllunio datblygiad arloesol yn yr un modd ac roedden nhw mewn anghydfod gyda'r awdurdod lleol. Ni allaf gofio'r manylion penodol—mae gen i deimlad mai Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr awdurdod, ond efallai fy mod yn anghywir yn hynny o beth. Ond yr un cwestiwn a ofynnaf yw hyn: pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda’r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd, sy'n gyfrifol am gynllunio, am fynd i'r afael â phroblemau posib gyda chyfyngiadau ar gynllunio a'i gwneud hi'n haws i'r cymdeithasau tai gael caniatâd cynllunio i ddatblygu prosiectau fel hyn yn y dyfodol? A dyna fater y sector preifat hefyd. Soniodd y Gweinidog ei fod yn bwriadu ymestyn y cynllun i'r sector preifat y flwyddyn nesaf, a fydd yn—. Dyna ddatblygiad diddorol arall i edrych ymlaen ato. Felly, mae yna fater hefyd o du’r unigolion a allai fod yn awyddus i adeiladu eu cartrefi cynaliadwy eu hunain yn y dyfodol oherwydd ceir ystadegyn hynod o Awstria, bod 80 y cant o dai newydd y wlad honno wedi'u hadeiladu gan yr unigolion eu hunain. Yn y DU, dim ond 8 y cant yw’r nifer hon. Felly, tybed, yn y dyfodol, pa gamau y mae'r Gweinidog yn tybio y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i hybu'r sector hwn o ran unigolion sydd am fwrw ymlaen eu hunain â'r math hwn o brosiect arloesol?
Ac un pwynt yn olaf: yn amlwg, mae thema’r hyn sy’n llesol i'r amgylchedd yn sail i’r cyfan, felly a oes unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i flaenoriaethu datblygiad safleoedd tir llwyd ar gyfer y prosiectau tai arloesol? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar am gwestiynau'r Aelod, ond byddwn yn gofyn i'r Aelod am rywfaint o uchelgais, am rywfaint o frwdfrydedd, o ran y rhaglen ardderchog hon yr ydym yn ei lansio heddiw. Mae hyn yn—. Mae hyd yn oed y Ceidwadwyr wedi bod yn dweud wrthym ni heddiw ein bod ni'n gwneud gwaith da—dyna rywbeth i ryfeddu’n fawr ato. [Chwerthin.] Y ffaith amdani yw hyn, mae £10 miliwn ar arloesedd ar gyfer tai newydd o safon yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn ei ddathlu, a rhoi gwleidyddiaeth bleidiol o'r neilltu. Byddaf yn mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a gododd yr Aelod. Nid adeiladu tai gwael yr ydym yn ei wneud yma, yr ydym yn treialu gwahanol fathau o dai. Mae cyfran o risg i hynny, a bydd diwydrwydd dyladwy yn sgil yr holl brosiectau hynny. Bydd, fe fydd rhai yn well nag eraill. Ond rhaid derbyn y bydd rhai yn cael eu dwyn ymlaen ac i eraill—efallai iddo fod yn gyfle i ffynnu ond heb fod yn addas i'r amgylchedd y maen nhw ynddo.
O ran yr agenda sgiliau, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Ken Skates a Julie James ynghylch sut beth fydd y llwybr cyflogadwyedd a'r cadwyni cyflenwi o ran y prosiectau yr ydym yn eu cyflwyno. Mae prinder cenedlaethol yn bodoli eisoes o ran rhai o'r sgiliau creiddiol hynny, y gwaith saer, plymio a sgiliau traddodiadol. Gellir tynnu rhai o'r rhain allan o'r dulliau traddodiadol s rhoi lle iddyn nhw yn y ffatri. Yr hyn a welsom—. Ymwelais â safle ddoe lle gwneir llawer o'r swyddi hyn yn fewnol, ac yn cael eu gollwng ar y safle— mae hi'n ffordd wych ac iach o ymdrin â busnes, ac mae ansawdd yr adeiladau hyn yn dda iawn wir.
O ran y dull partneriaeth, rydym wedi cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Cyngor Benthycwyr Morgeisi am y ffactorau pwysig. Ac mae gofyn a fydd pobl yn talu am y rhain a sut y byddan nhw’n datblygu yn y dyfodol yn bethau yr ydym wedi croesawu trafodaeth yn eu cylch. Mae hyn i gyd yn ychwanegu cadernid i’r broses gwneud cynigion.
Mae caniatâd cynllunio yn fater diddorol. Gyda rhai o'r unedau modiwl hyn, yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus yw bod rhai o'r safleoedd y byddwn yn eu defnyddio yn safleoedd garejys ar gyn safleoedd tir llwyd gan awdurdodau lleol. Felly, bydd yn fater o ddymchwel neu glirio'r tir yr oedd y garejys gwag yn sefyll arno ac yna ddefnyddio craen i gludo rhai unedau modiwl yno i fod yn gartrefi i bobl fyw ynddyn nhw. Felly, mae yna—. Gyda chaniatâd cynllunio cyfyngedig—. Felly, rydym wedi edrych ar gyfres o adnoddau sy’n angenrheidiol i gyflawni hyn.
Mae’n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod wedi anghofio ateb cwestiwn ar gyllid yn gynharach i'r Aelod o Blaid Cymru ynghylch y ffaith bod £10 miliwn eleni, a £10 miliwn gwarantedig y flwyddyn nesaf, gyda phosibilrwydd am ragor pe bai'r rhaglen yn datblygu i fod yn rhywbeth yr ystyriwn yn deilwng o fuddsoddiad pellach.
Diolch yn fawr iawn. Os gall y ddau siaradwr nesaf ofyn cwestiynau ac Ysgrifennydd y Cabinet eu hateb yn weddol gyflym, byddwn ni’n gorffen ar amser. Felly, mae yn eich dwylo chi. Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Llywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mae'n beth gwirioneddol gadarnhaol i ni gael clywed am yr ymateb i'ch galwad am gynigion, ac edrychaf ymlaen at ryddhau rhestr lawn o’r ymgeiswyr llwyddiannus. Gwn na allwch chi rannu gormod o fanylion eto, ond mae'n wirioneddol hyfryd i glywed am gynnwys busnesau sefydliadol bach yn y rhaglen hon, sy'n cyd-fynd yn berffaith â'r peilot Gwell Swyddi, yn nes Adref a'r cyfeiriadau at gefnogi economi sefydliadol yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a 'Ffyniant i Bawb'. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i yw hyn: i ba raddau yr oeddech chi'n blaenoriaethu cynigion gan gwmnïau cynhenid, llai o faint sy'n cyflogi pobl leol ac felly'n rhoi eu helw yn ôl i mewn i'r economi leol? Ac, yn ail, rwy'n siŵr y byddwch chi wedi clywed y sylwadau heddiw gan Gymuned Tai Cymru am y terfyn diffygiol ar lwfans tai lleol gan Lywodraeth y DU. Sut mae hyn wedi dylanwadu ar eich polisi chi, yn enwedig o ran y rhannau hynny o Gymru a allai fod wedi’i chael hi anodd iawn, neu a fydd yn ei chael hi’n anodd iawn oherwydd newidiadau polisi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau?
Rwy'n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod a diolch iddi am ei chyfraniad cadarnhaol. Dau bwynt pwysig: mae ariannu hyn wedi bod yn rhan o'r modelau busnes sydd wedi dod ger ein bron. Rydym yn treialu enghreifftiau newydd o sut, o fuddsoddi’r model i’w gyflwyno, y mae hynny’n dod ymlaen. Rydyn ni wedi torri'r mowld traddodiadol ac rydym yn ceisio torri ar y patrwm sy’n mynnu bod yn rhaid inni wneud pethau yn yr un ffordd. Mae yna rywfaint o risg yn hynny o beth, ond rydym yn barod i gymryd y risg honno oherwydd gallwn roi atebion cyflym o ran tai. O safbwynt y pwynt ar Awdurdodau Tai Lleol, mae'r Aelod yn llygad ei le: mae yna lawer iawn o bobl mewn perygl oherwydd diwygio’r wladwriaeth les yn y DU—y rhai dan 35 oed yn arbennig. Mae'r sector yn ymateb i hynny gyda’r gallu i greu unedau llai o faint sy'n addas i fyw ynddyn nhw. Rydym ni’n eu helpu nhw. Pan fydd yr Aelod yn gweld y rhestr, bydd rhai prosiectau y bydd hi’n (1), frwdfrydig yn eu cylch, rwy’n credu, oherwydd ei diddordeb yn ei hetholaeth, ond hefyd o ran mater y rhai dan 35 oed. Mae rhai prosiectau penodol iawn ynglŷn â helpu a chefnogi unigolion yn y bwlch hwnnw.
Diolch. Ac yn olaf, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae croeso mawr i'r datganiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet. Yn benodol, rwy’n cyfeirio at y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn fy etholaeth i fy hun, sy'n ddatblygiad cyffrous iawn. Mae'n debyg y bydd llawer o gyfraniad gan fentrau bach a chanolig i ddyfodol y sector hwn fel sector gweithgynhyrchu modiwlaidd yng Nghymru, a fydd yn gofyn am ddull penodol o weithredu o safbwynt polisi gan y Llywodraeth ar gaffael a chyllid y gadwyn gyflenwi yn benodol. Mae angen ffordd wahanol o ariannu rhai o'r prosiectau adeiladu nad yw’n golygu bod yn rhaid i BBaCh gadw stoc ar eu llyfrau, na allan nhw fforddio ei wneud yn y tymor hir. Felly, rwy'n gobeithio y bydd cyfle yn y gwaith y bydd yn ei wneud i archwilio rhai o'r rhwystrau posib hynny er mwyn sicrhau y gallwn feithrin y sector adeiladu BBaCh hwnnw ym maes adeiladu modiwlaidd yng Nghymru.
Byddwn i’n croesawu dau sylw ganddo, yn gyntaf o ran y pwynt y mae newydd ei wneud am gartrefi ar raddfa fechan ac effaith hynny ar les a’r wladwriaeth les. A yw hefyd wedi ystyried y posibilrwydd o dai modiwlaidd lle mae modd, dros oes yr eiddo, newid dyluniad yr eiddo hwnnw i fod yn addas ar gyfer gwahanol fathau o uned deuluol dros oes yr eiddo, a all fynd i'r afael yn arbennig â rhywfaint o'r pwysau sydd ynghlwm â threth yr ystafell wely? Ac a yw hefyd yn credu bod y potensial yma, o ystyried y pwyslais y mae bellach yn ei roi ar dai modiwlaidd, i symud tuag at bolisi tai yn gyntaf o ran mynd i'r afael â digartrefedd yn gyffredinol?
Mae cwestiynau gwirioneddol bwysig wedi’u codi gan yr Aelod. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad ein bod wedi cyhoeddi rhaglen geisiadau o gwmpas y gronfa datblygu eiddo i fusnesau bach a chanolig ledled Cymru, sydd bellach yn £30 miliwn, er mwyn rhoi arian parod i'r rhaglen. Mae rhai o'r datblygiadau yr ydym yn eu cyflwyno yn atebion ar sail bocs. Bydd waliau a drysau y gellir eu symud, ac felly mae'n addas at heddiw a gallwn ei newid yfory. Eto, mae'n ddyfais newydd glyfar gan gymdeithasau tai sydd wedi meddwl am y cyfle clyfar hwn, a gobeithio ein bod wedi gallu eu cefnogi nhw wrth ddatblygu'r cynlluniau yr ydym yn eu cyflwyno.
Tybed a fyddwn ni heddiw yn dechrau rhywbeth sy'n newid ac yn torri'r model o ddatblygiad tai, datblygiad cartrefi traddodiadol, oherwydd ein bod ni yng Nghymru yn gallu bod yn glyfar a'n bod ni’n glyfar gyda'r prosiectau sydd wedi’u cyflwyno? I mi, ac i David Melding hyd yn oed—diwrnod cyffrous i Gymru a diwrnod cyffrous ar gyfer tai ledled Cymru. Dylem ddathlu'r ffaith bod £10 miliwn ar gael heddiw ar gyfer prosiectau a fydd i’w gweld ar draws ein holl etholaethau, ac yn darparu ar gyfer pobl sydd mewn angen.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.