2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, rwyf wedi sôn am fannau golchi ceir sawl gwaith yn y Siambr hon, ond nid wyf yn ymddiheuro am godi'r mater eto. Cyhyd ag y bo pobl yn cael eu hecsbloetio yn y modd hwn a Llywodraeth Cymru yn claddu eu pennau yn y tywod mewn perthynas â'r mater hwn, byddaf yn parhau i bwyso am weithredu. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ amlinellu unrhyw gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i roi terfyn ar y pla hwn yn ein cymdeithas?
Rwy'n cymryd bod yr Aelod yn cyfeirio at bobl sy'n cael eu talu lai na'r isafswm cyflog, ac rwy'n rhannu ei bryder y dylid talu'r isafswm cyflog i bawb ym mhob man busnes. Yn fy rôl fel cadeirydd cyfnod 1 y bwrdd gwaith teg, rwyf wedi cael cyfarfod gyda'r awdurdod gorfodi, sy'n awdurdod gorfodi ar gyfer y DU, ynglŷn â gorfodi'r isafswm cyflog, ac rydym yn ystyried ffyrdd o wella'r darpariaethau ar gyfer gorfodi'r isafswm cyflog yng Nghymru er mwyn—cytunaf yn llwyr—rhoi terfyn ar y pla hwn, lle y caiff pobl eu talu lai na'r isafswm cyflog mewn unrhyw ddiwydiant yn unrhyw le yn y wlad.
Wel, rwy'n croesawu'r ymyrraeth fach honno, Weinidog, ond mae'n rhaid i mi ddweud, dywedodd Dawn Frazer o'r Car Wash Advisory Service fod popeth gwael y gallwch feddwl amdano ar gyfer llafurlu Prydain i'w weld mewn mannau golchi ceir—caethwasiaeth, cyflogau isel, caethwasiaeth dyled, efadu trethi a hyd yn oed camfanteisio'n rhywiol ar ferched ifanc. Felly, prin y gellir dweud bod edrych ar un agwedd ar gyflogau isel yn unig yn gyfystyr â mynd i'r afael â'r broblem hon yn y ffordd y dylid ei wneud.
Wel, os oes gan yr Aelod unrhyw fanylion penodol yr hoffai dynnu fy sylw atynt, byddwn yn ddiolchgar iawn i'w derbyn, gan fod honno'n gyfres o gyhuddiadau go ddifrifol. A byddwn yn fwy na pharod i ymchwilio i unrhyw agwedd ar yr hyn y gall ddarparu manylion yn ei gylch.
A dweud y gwir, mae hyn i'w weld yn y cyfryngau drwy'r amser. Ac nid wyf yn dyfynnu; gwn eich bod wedi cwestiynu fy ystadegau mewn perthynas â hyn yn y gorffennol, ond mae i'w weld gyda phethau fel y BBC, y Guardian, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y New Statesman a'r Independent. Mae pob un ohonynt wedi ysgrifennu am hyn ac wedi beirniadu'r sefyllfa ar sawl achlysur, felly mae'r ystadegau a phopeth arall ar gael i'r cyhoedd.
Diolch. Byddaf yn edrych eto ar y mater. Mae gennym nifer o raglenni ataliol ar waith mewn perthynas â nifer o'r materion a nodwyd gennych, gan gynnwys caethwasiaeth fodern, atal aflonyddu rhywiol yn y gweithlu a darpariaethau'r isafswm cyflog, fel y crybwyllais eisoes. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater eto, ond os oes gan yr Aelod unrhyw fanylion yr hoffai dynnu fy sylw atynt, byddai hynny o gymorth.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Mae Aelodau'ch Llywodraeth chi wedi disgrifio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 fel deddfwriaeth sydd yn torri tir newydd. A ydych chi'n meddwl bod hynny'n ddisgrifiad teg o sut mae'r Ddeddf honno'n cael ei gweithredu?
Rwyf ond newydd ddechrau mynd i'r afael â'r rhan hon o fy mhortffolio, fel y gŵyr yr Aelod, a byddaf yn cael cyfres o gyfarfodydd gyda'r swyddogion sy'n gweithio yn y maes hwn. Nid wyf wedi cael crap ar hynny'n llawn eto, ond byddwn yn fwy na pharod i drafod y mater gyda'r Aelod. Mae gennyf rai pryderon ynglŷn â cyflymder gweithredu, ond nid wyf mewn sefyllfa eto i allu rhoi manylion yn eu cylch, ac rwy'n ymddiheuro am hynny.
Rydym ni wedi cael adroddiad gan bwyllgor yn mynegi pryderon mawr dros weithredu'r Ddeddf—ei bod yn araf, neu fod rhan ohoni heb eu gweithredu o gwbl. Yr wythnos yma, rydw i wedi cael diweddariad ar y sefyllfa a dyma'r ffeithiau i chi: nid oes yna gynllun gweithredu dros flwyddyn wedi cyhoeddi'r strategaeth; ymddengys na chyhoeddwyd canllawiau yng nghyswllt strategaethau lleol eto; nid ydy'r grŵp arbenigol ar addysg am berthynas iach wedi cyhoeddi ei argymhellion—roedd y rheini i fod allan yn yr hydref; ymddengys na wnaed unrhyw waith ar y canllawiau ar gyfer sefydliadau addysg uwch; ni chyhoeddwyd unrhyw ddangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd tuag at amcanion y Ddeddf; nid yw'r canllaw comisiynu statudol, a oedd i fod i'w gyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni, ddim wedi cael ei gyhoeddi; mae'r ymgynghorydd cenedlaethol wedi ymddiswyddo, ac ni chafwyd un newydd eto. A fuasech chi'n cytuno mai'r unig beth sy'n torri tir newydd yn y fan hyn ydy'r raddfa ryfeddol o ddiffyg gweithredu yn y ddwy flynedd ers i'r sefydliad yma basio'r ddeddfwriaeth yma?
Wel, fel y dywedaf, nid wyf mewn sefyllfa i roi sylwadau ar y sefyllfa cyn i mi fabwysiadu'r portffolio hwn. Ers bod yn y swydd, sef mis yn unig, rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd yn ymwneud ag, er enghraifft, hynt y canllawiau cydberthnasau iach, a deallaf y bydd y rheini'n barod yn y flwyddyn newydd. Rydym wrthi'n penodi'r cynghorydd cenedlaethol newydd, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn rhannau o hynny—unwaith eto, yn gynnar iawn ar ôl i mi fabwysiadu'r portffolio. Lansiwyd y canllawiau 'gofyn a gweithredu' yr wythnos diwethaf, a gallais wneud hynny mewn cyfarfod a oedd wedi'i drefnu ymlaen llaw gyda nifer o bobl a oedd wedi bod â diddordeb yn y canllawiau hynny, ac roeddem wedi cael trafodaeth ragarweiniol am hynny. Rwy'n sicr yn gweld ymrwymiad a phryder yr Aelod yn yr achos hwn, a gallaf eich sicrhau mai un o fy mlaenoriaethau wrth ymgymryd â'r portffolio hwn fydd sicrhau bod y Ddeddf mor arloesol ag y byddem eisiau iddi fod.
Diolch. Ac rwy'n gwir obeithio y gwelwn ni'r cynnydd yma ar fyrder rŵan. Ac rwy'n diolch i chi am eich ymroddiad, ac yn gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa llawer gwell mewn ychydig fisoedd lawr y lein o'r fan hyn heddiw.
Ac mae angen i unrhyw ddeddfwriaeth gael cyllid yn gefn iddi, wrth gwrs, er mwyn gwir gyflawni ei photensial. Ond, unwaith eto, mae gen i bryder yn y fan hyn, ac mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi rhybuddio y bydd toriadau pellach i wasanaethau megis llochesi yn arwain at ganlyniadau andwyol i oroeswyr cam-drin, a all arwain at golli bywydau. A fedrwch chi weithredu, a gwneud yn siŵr na fydd yna dorri ar wasanaethau megis llochesi merched a phlant? O dan yr amgylchiadau, dyma ydy'r peth lleiaf y medr y Llywodraeth yma ei wneud.
Wel, rwyf wedi cael nifer o drafodaethau eisoes ynglŷn â sut rydym yn cyflawni'r canllawiau comisiynu, a'r hyn rydym yn ei wneud mewn perthynas â'r cynghorwyr cenedlaethol sy'n mynd allan. Rwyf hefyd wedi cael un drafodaeth ragarweiniol gyda fy nghyd-Aelod yma ar y dde ynglŷn â'r trefniadau ariannol ar gyfer hyn. Nid wyf eto mewn sefyllfa i allu gwneud unrhyw addewidion o ran ein sefyllfa gyda hynny hyd nes y bydd gennyf well gafael ar y sefyllfa. Ond gallaf ddweud wrthych fy mod yn gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr fod y Ddeddf hon yn gweithio, a'n bod yn ei ariannu, fel bod y bobl sydd â thaer angen am y llochesi hynny yn eu cael.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae caethwasiaeth fodern, yn amlwg, yn cael effaith ledled Cymru, ond mae yna fater gorllewin-dwyrain penodol yng ngogledd Cymru, lle mae masnachu pobl drwy borthladd Caergybi yn broblem enfawr. Collodd gogledd Cymru ei chydgysylltydd atal caethwasiaeth ar ôl i dair blynedd o gyllid ddod i ben, pan sefydlwyd elusen—Haven of Light—i gysylltu â phartneriaid statudol, y sector gwirfoddol, Heddlu Gogledd Cymru, awdurdodau lleol, eu swyddog arweiniol yn Ynys Môn ar fasnachu pobl, ac yn y blaen. Maent wedi nodi bod y sefyllfa'n gwaethygu. Nid oes tŷ diogel, canolfan dderbyn na chyfleusterau yng ngogledd Cymru, ac mae'r diffyg cydgysylltydd atal caethwasiaeth ar sail ranbarthol wedi creu bwlch amlwg y maent yn ei lenwi. Sut y byddwch yn ymgysylltu, nid yn unig yn genedlaethol, ond yn uniongyrchol â'r rhwydwaith o gyrff yng ngogledd Cymru sy'n gweithio yn y maes hwn ar hyn o bryd, i fynd i'r afael â'r hyn sydd, yn anffodus, yn broblem gynyddol?
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Rydym wedi sefydlu grŵp arweinyddiaeth atal caethwasiaeth Cymru i ddarparu arweinyddiaeth strategol a chanllawiau ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru, a hefyd i ddarparu'r cymorth gorau posibl i oroeswyr. Mae aelodaeth y grŵp hwnnw'n cynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Diogelu Cymru, ac adrannau eraill o Lywodraeth y DU, sefydliadau academaidd, BAWSO a nifer o gyrff trydydd sector eraill. Rydym yn rhannu'r gwersi a ddysgir o bob rhan o Gymru gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU, a Chomisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol y DU, ac rydym yn dechrau ennyn llawer o gydnabyddiaeth i'r gwaith hwnnw. Ond bydd yr Aelod yn deall bod caethwasiaeth yn drosedd gymhleth iawn i'w hymchwilio a'i herlyn, ac mae rhoi'r ystod o fesurau ar waith a sicrhau bod adnoddau priodol ar eu cyfer yn gymhleth iawn.
Cododd yr Aelod fater penodol iawn nad wyf, yn anffodus, wedi ymdrin ag ef eto, gan fy mod yn newydd yn y swydd. Buaswn yn fwy na pharod i edrych ar fanylion y mater hwnnw, os yw'n dymuno ysgrifennu ataf yn ei gylch.
Diolch yn fawr iawn. Un o'r pryderon a dynnwyd i fy sylw oedd bod y rhestrau teithwyr a ddefnyddir ar y llongau fferi yn anghywir, gydag enwau'n cael eu creu gan fasnachwyr pobl, ac wrth gwrs, mae yna faterion yn codi mewn perthynas â mynediad at borthladdoedd yng nghyd-destun Brexit ac ati. Ond serch hynny, mae hyn yn arwain at fod pobl yn gallu manteisio ar y system.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynhyrchu adroddiad ac asesiad systematig o'r peryglon a'r problemau mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yng ngogledd Cymru, gan nodi grwpiau troseddu cyfundrefnol penodol sy'n gweithio y tu allan i ogledd Cymru, dioddefwyr masnachu pobl drwy Gaergybi, a dioddefwyr posibl sy'n cael eu cyflogi mewn barrau ewinedd a phuteindai dros dro. Ac mae yna grwpiau sydd wedi'u lleoli yn y gogledd hefyd, wedi'u cysylltu drwy gysylltiadau teuluol, sy'n targedu dynion agored i niwed ar gyfer gwaith llaw a chanfasio. Felly, unwaith eto, rydych yn cyfeirio at yr ymgysylltiad rydych yn ei gael drwy Gymru gyfan, a'r ymgysylltiad ar lefel y DU, ond o ystyried bod hon yn broblem gorllewin-dwyrain yng ngogledd Cymru hefyd, gyda sensitifrwydd penodol, a bod mater porthladd Caergybi wrth wraidd hynny, a wnewch chi ymgysylltu'n uniongyrchol â hwy hefyd?
Yn sicr. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r gwahanol sefydliadau yng Nghymru i siarad ynglŷn â sut y mae'r strategaeth genedlaethol yn gweithio'n lleol a hefyd i nodi materion lleol sy'n ymwneud â chydgysylltu, fel y mae'r Aelod yn ei nodi'n gywir, a lle mae pwerau datganoledig a chyfrifoldebau Llywodraeth y DU yn gorgyffwrdd, fel y gallwn wneud y gorau o'r pwerau hynny wrth fynd i'r afael â rhai o'r arferion arswydus a ddisgrifiwyd ganddo. Felly, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny, ac os yw'r Aelod yn dymuno fy ngwahodd i weld unrhyw beth yn benodol, rwy'n hapus iawn i dderbyn y gwahoddiad hwnnw yn ogystal.
Diolch. Ac yn olaf ar y thema hon mewn gwirionedd, trefnodd Haven of Light gynhadledd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy y cymerais ran ynddi ar 28 Hydref, gyda chynrychiolaeth yr heddlu, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol ac eraill yn rhoi cyflwyniadau. Dywedodd Byddin yr Iachawdwriaeth wrthym mai dioddefwyr Prydeinig oedd yn seithfed o'r 94 o genhedloedd roeddent yn gweithio gyda hwy, pobl a oedd yn tarddu o'r Deyrnas Unedig a'i gwledydd cyfansoddol, a oedd wedi cael eu twyllo ac yna eu caethiwo.
Felly, ar sail Cymru gyfan, ac yn yr achos hwn, ar sail ranbarthol, pa ystyriaeth rydych yn ei roi, nid yn unig i'r bobl sy'n cael eu masnachu o'r tu allan i Gymru a'r DU, ond i'r rhai sy'n cael eu twyllo a'u caethiwo i fywyd o gamfanteisio a chaethwasiaeth yng Nghymru a'r DU?
Ie, ac mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn, ac mae gennym amrywiaeth fawr o fentrau gan y Llywodraeth a gynlluniwyd i wneud yn siŵr fod pobl yn cael yr wybodaeth gywir i sicrhau nad ydynt yn mynd yn rhan o drefniadau ac yn cael eu sugno i mewn yn araf i sefyllfaoedd lle nad oes modd iddynt ddod allan ohonynt mewn gwirionedd. Mae'r Aelod wedi tynnu sylw at nifer o bethau. Rwy'n ymwybodol o rai sydd wedi codi yn fy etholaeth i yn ogystal.
Byddwn yn gweithio'n galed iawn i roi amrywiaeth o bethau ar waith, yn gyntaf oll, i sicrhau bod asiantaethau gorfodi yn deall beth y maent yn chwilio amdano a sut i wneud yn siŵr fod y bobl sy'n rhan o'r trefniadau ofnadwy hyn yn cael y wybodaeth gywir i ddod allan o'r sefyllfa a'r cyngor cywir; yn ail, i roi rhaglenni ar waith i wneud yn siŵr fod pobl yn deall beth y maent yn cael eu tynnu i mewn iddo, a'u bod yn gallu rhoi diwedd arno'n gynnar; ac yn drydydd, i roi'r cymorth cywir i'r asiantaethau sy'n gysylltiedig â hyn er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn adnabod yr arwyddion fod hynny'n dechrau digwydd a'u bod yn gallu cymryd camau ataliol priodol. Ond unwaith eto, rwy'n gwneud yr un cynnig: os oes gan yr Aelod bethau penodol y byddai'n hoffi i mi eu hystyried, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.