3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:18, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a galwaf ar Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd sefydlu'r adolygiad seneddol o ddyfodol hirdymor iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', ond wrth gwrs daeth hyn o gytundeb cynnar gyda Phlaid Cymru i sefydlu’r adolygiad. Cafodd yr ymrwymiad hwnnw ei bwysleisio ymhellach yn ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'.

Cyhoeddais sefydlu panel annibynnol o arbenigwyr ym mis Tachwedd 2016. Daeth hynny ar ôl cytundeb trawsbleidiol, ynglŷn â’r cylch gorchwyl ac aelodaeth y panel annibynnol. Cyhoeddwyd eu hadroddiad interim ar 11 Gorffennaf y llynedd. Mae’r panel wedi cael 12 mis i ystyried tystiolaeth a defnyddio eu harbenigedd i lunio eu hargymhellion. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol, gyda'r argymhellion hynny gan y panel, yn gynharach heddiw.

Cadeirydd y panel adolygu annibynnol oedd Dr Ruth Hussey, cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru, ac mae wedi cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, yn wir, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Hoffwn ddiolch i Ruth a’i chyd aelodau o’r panel, ac ar ben hynny bawb sydd wedi gweithio gyda’r panel a rhoi tystiolaeth iddynt am eu hamser a'u hymroddiad i lunio'r adroddiad pwysig hwn.

Roedd cylch gorchwyl a chwmpas yr adolygiad a’i amserlen yn heriol. Ond, fel y gwyddom, mae angen rhoi sylw brys i'r heriau sy'n ein hwynebu. Gofynnwyd i'r panel ddarparu adroddiad ac argymhellion ynglŷn â: sut y gallai’r system iechyd a gofal ddarparu gwell canlyniadau iechyd a lles i bobl ledled Cymru; sut i leihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli rhwng grwpiau penodol o'r boblogaeth; a'r ffordd orau o alluogi’r holl system iechyd a gofal cymdeithasol i fod yn gynaliadwy dros y pum i 10 mlynedd nesaf.

Cefnogwyd yr adolygiad hwn gan bob plaid drwy gydol y cyfnod. Rwy’n gwybod bod y cadeirydd ac aelodau'r panel wedi parhau i ymgysylltu â llefarwyr y gwrthbleidiau, ac â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon drwy gydol yr adolygiad. Rwy’n croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol i’r adolygiad ac aeddfedrwydd yr ymgysylltiad adeiladol rhwng pob plaid a’r panel.

Nodwyd yr achos o blaid newid yn glir iawn yn yr adroddiad interim. Nid wyf wedi clywed neb yn anghytuno â’r angen am newid er mwyn ateb yr heriau sy'n ein hwynebu nawr ac yn y dyfodol. Yn wir, rwyf wedi clywed brwdfrydedd ynglŷn â gwneud cynnydd i ymdrin â’r cyfuniad o faterion sy'n ein hwynebu. Yr hyn sy'n amlwg i mi yw bod angen newid arnom a bod angen inni ddechrau gwneud y newid hwnnw cyn gynted â phosibl. Mae angen system arnom ni sy'n diwallu anghenion ein poblogaeth yn y dyfodol, ac un sy’n ariannol gynaliadwy.

Mae'r panel wedi ymgysylltu â’r ystod eang honno o randdeiliaid, gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, clinigwyr, y cyhoedd a'r trydydd sector. Bu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, paneli dinasyddion, grwpiau ffocws, tystiolaeth ysgrifenedig, cyfarfodydd â grwpiau penodol o bobl—er enghraifft, grwpiau pobl hŷn—a chwestiynau ac atebion uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r panel.

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod staff rheng flaen a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau eisiau symud ymlaen a gwneud newidiadau sy'n gwella ansawdd profiadau a chanlyniadau pobl. Mae hefyd yn cydnabod bod llawer o enghreifftiau o waith da mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cydweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaeth di-dor i bobl. Efallai mai’r peth pwysicaf yw bod yr adroddiad hefyd yn dweud bod gennym botensial go iawn yng Nghymru i oresgyn yr heriau sy’n ein hwynebu. A'r heriau sy'n ein hwynebu yw’r rhai yr wyf i ac eraill wedi sôn amdanyn nhw eisoes: ariannu, cyflymder newid gwasanaethau a pherfformiad gwasanaethau, gan gynnwys fy nymuniad i i ddatblygu mesurau canlyniadau newydd â sail glinigol.

Mae'r panel arbenigol wedi amlinellu’r weledigaeth ar gyfer gwasanaeth di-dor i ddinasyddion, gan gynnwys modelau gofal newydd sy’n seiliedig ar nod pedwarplyg newydd. Y nodau hynny yw: gwella iechyd a lles y boblogaeth, gan ganolbwyntio ar atal; gwella profiad gofal ac ansawdd gofal i unigolion a theuluoedd; cyfoethogi lles, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a chynyddu’r gwerth a geir o ariannu iechyd a gofal drwy wella, arloesi, defnyddio arfer gorau, ac, wrth gwrs, dileu gwastraff.

Mae nodau’r nod pedwarplyg hwnnw’n gydnaws â, ac yn gweithio ochr yn ochr â, nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac egwyddorion gofal iechyd darbodus. Mae'r panel yn argymell y dylai pob un o'r pedwar nod hynny gael ei ddilyn ar yr un pryd. Mae’r modelau newydd a gynigir yn yr adroddiad yn seiliedig ar nodweddion a bennir yn genedlaethol, a ddarperir yn lleol, gan ystyried barn y dinasyddion yn eu gofal, a gan ddefnyddio technoleg i wella mynediad at wasanaethau.

Mae safonau cenedlaethol, wrth gwrs, yn bwysig, yn ogystal â gwneud penderfyniadau lleol cydgysylltiedig i ddiwallu anghenion penodol poblogaethau lleol, gan ystyried, er enghraifft, y Gymraeg neu wledigrwydd fel enghreifftiau o ffactorau. Mae'r adroddiad ei hun yn gwneud 10 o argymhellion lefel uchel allweddol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r argymhellion hynny’n ymwneud â phobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, systemau, arloesedd a thechnoleg; arweinyddiaeth, dysgu, diwylliant ac ymddygiad; ac, wrth gwrs, cynnydd a chyflymder wrth wraidd system y dyfodol.

Mae angen i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol, y sector tai a'r trydydd sector ymateb yn gyflym a gweithredu. Wrth gwrs, bydd dewisiadau anodd yn ogystal â chyfleoedd go iawn dros y misoedd nesaf i drawsnewid y system sydd gennym ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ni ddylem golli golwg ar y ffaith bod hwn yn gyfle i lunio’r system iechyd a gofal am flynyddoedd a degawdau i ddod. Rwy’n gobeithio y gallwn barhau i weithio ar draws gwasanaethau, ar draws sectorau, ac, wrth gwrs, ar draws pleidiau i sicrhau dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru.

Rwy’n croesawu’r adroddiad gan y panel adolygu, ac wrth gwrs byddaf yn ystyried yr argymhellion yn fanylach dros yr wythnosau nesaf. Ac yn y gwanwyn byddaf yn cyhoeddi cynllun hirdymor newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad hwn.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:24, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn innau groesawu'r adroddiad hwn heddiw. Roedd yn adroddiad grymusol ac addysgiadol i’w ddarllen, a hoffwn ddiolch i Dr Ruth Hussey ac aelodau ei thîm am yr holl waith caled y maent wedi’i wneud, ond hefyd am gynnig ymgysylltu â mi a'm cyd-Aelodau Ceidwadol Cymru wrth gyflwyno syniadau a meddyliau, ac argymell pobl i fynd i siarad â nhw i gael y gwir am y mater.

Does dim amheuaeth bod iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau enfawr dros y blynyddoedd nesaf hyn—mwy o alw, cyffuriau a thechnoleg newydd a datblygu dealltwriaeth well a mwy cyfannol o beth yw lles, ac mae’n rhaid inni ymdrin â hynny i gyd yn wyneb disgwyliadau cynyddol gan y cyhoedd. Mae’r achos dros newid yn gymhellol, ac mae croeso mawr i’r dadansoddiad hwn o'r heriau sy’n ein hwynebu. Mae'n gwbl onest ac mae’n galw am ddiwygio cyflym, ac rwy’n meddwl mai un o'r rhesymau pam mae angen inni wneud y diwygiad hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw fy mod yn meddwl ei bod yn glir iawn nad oes gennym weledigaeth ar gyfer y GIG ar hyn o bryd, ac na fu digon o sylw i sut i gyflawni’r weledigaeth honno, sut i newid pethau a sut i wneud arferion gorau yn arferion cyffredin.

Rwy’n nodi eich bod yn bwriadu cyhoeddi cynllun hirdymor yn y gwanwyn, a byddwn yn eich annog yn gryf i beidio â chael eich arwain ar gyfeiliorn gan yr hyn yr wyf i’n ei alw’n 'stwff lefel isel' a’r lobïo yr wyf yn siŵr y byddwch yn dechrau ei weld, oherwydd mae hyn yn ymwneud â chyfeiriad strategol y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol. A fyddech chi'n gallu dweud wrthym pa mor hir ar ôl cyhoeddi'r cynllun yr ydych yn bwriadu cychwyn rhaglen o drawsnewid? Bydd unrhyw un sydd wedi ymwneud ag unrhyw fath o newid busnes yn gwybod na all newid bara am rhy hir. Mae angen gwthio rhaglenni trawsnewid ar gyflymder. A wnewch chi ymrwymo yn y cynllun i adolygu’r cyfnodau efallai bob blwyddyn, bob dwy flynedd, bob pum mlynedd, i wneud yn siŵr ein bod ar y trywydd iawn ac yn gwneud yr hyn y mae angen inni ei wneud?

Rwy'n meddwl bod yr adroddiad yn rhoi sylw i gymhwysedd, ac rwy’n meddwl bod pryder gwirioneddol yn dod i'r amlwg ar y panel ac ymysg rhanddeiliaid eraill nad oes gennym ddigon o bobl â’r profiad a’r sgiliau perthnasol i gynnal rhaglen newid mor uchelgeisiol. Sut ydych chi'n bwriadu unioni hyn, Ysgrifennydd y Cabinet? A fyddwch chi'n dechrau recriwtio’r bobl hynny cyn bo hir? Fel arall, bydd unrhyw rhaglen newid y gallech ei chyflwyno yn y gwanwyn yn cymryd mwy fyth o amser i’w chychwyn.

Ym maes iechyd, mae gennym sector annibynnol, sef meddygon teulu. Ym maes gofal cymdeithasol, mae gennym sector annibynnol, sef ein darparwyr cartrefi gofal gwerthfawr. Rydym yn gweld y tensiwn heddiw rhwng y sector cyhoeddus a'r sectorau annibynnol hynny. Ysgrifennydd Cabinet, sut ydych chi'n bwriadu ymdrin â hynny wrth lunio eich cynllun strategol a sicrhau cefnogaeth y bobl hynny i sicrhau bod hwn yn ymgysylltu â’r GIG cyfan a’r sector gofal iechyd cyfan?

Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau cefnogaeth y cyhoedd? Roedd Dr Ruth Hussey yn sôn llawer am y cyhoedd yn yr adolygiad hwn, a hoffwn ddeall pa mor bwysig yw hynny i chi.

Mae bwrw ymlaen yn gyflym yn mynd i fod yn anodd. Mae angen inni sicrhau cefnogaeth y staff iechyd a gofal. Mae angen inni sicrhau bod gennym hyfforddiant a llwybr clir ymlaen i’r bobl hynny i ddeall sut y byddan nhw'n cymryd rhan yn y broses o adeiladu eu GIG nhw a’n GIG ni. A ydych chi'n bwriadu sefydlu—mae'n ddrwg gennyf, dyma fy nghwestiwn olaf, Dirprwy Lywydd—a ydych chi'n bwriadu sefydlu tîm trawsnewid strategol o unigolion profiadol â sgiliau trawsbynciol a chydweithredol, a rhoi iddyn nhw'r awdurdod i arwain y gwaith trawsnewid ar draws pob un o'n byrddau iechyd, ac a fyddan nhw hefyd yn y pen draw yn gallu edrych ar y cwestiwn hollbwysig—yr eliffant yn yr ystafell na all neb sôn amdano neu nad oes neb wedi sôn amdano—sef sut y byddwn ni'n ariannu hyn i gyd, gan fod yr arian yn eithriadol o bwysig? Rwy’n deall nad oedd yn rhan o'r adolygiad, ond heb ddeall faint o arian sydd gennym i'w wario yn y dyfodol ar iechyd a gofal cymdeithasol, gallai fod yn anodd iawn cyflawni rhai o'r amcanion rhagorol hyn.

Adolygiad da, Ysgrifennydd y Cabinet; peidiwch â gadael iddo eistedd ar silff yn rhywle yn Llywodraeth Cymru heb fynd i unman, oherwydd mae hwn yn stwff da iawn. Rwy’n falch iawn o’i weld.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:29, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ymateb; gwnaf geisio ymateb yn gryno i bob un o'r wyth maes cwestiynau yr ydych wedi’u codi. Ac, wrth gwrs, ar y dechrau gwnaethom gytuno i beidio â chyhoeddi gweledigaeth newydd i gymryd lle 'Law yn Llaw at Iechyd', oherwydd ein bod yn mynd i gael adolygiad. Byddai wedi bod yn rhyfedd pe bawn wedi dweud, 'Dyma ein barn am ddyfodol y gwasanaeth iechyd, ac yna dewch inni gael yr adolygiad seneddol.' Mae hynny’n golygu cyfaddawd. Ac ar y cychwyn, nodais y byddai'n rhaid inni fwrw ymlaen â rhai pethau cyn yr adolygiad, ac y byddai angen i bethau eraill aros am yr adolygiad. Rwy’n meddwl mai dyna’r pwynt cyntaf hwnnw ynghylch pryd fydd rhaglen trawsnewid yn dechrau. Mae rhai pethau eisoes yn digwydd, ond mae'r adolygiad ei hun wedi cydnabod yr hoffai weld mwy o—. Felly, mae rhywfaint o’r trawsnewid hwnnw wedi dechrau. Yr her yw efallai cyflymder a maint y trawsnewid hwnnw. Ac fel y byddwch yn ei wybod ar ôl cael cyfle i ddarllen yr adroddiad, maen nhw'n argymell sefydlu tîm trawsnewid am o leiaf flwyddyn, i geisio sbarduno'r newid hwnnw.

O ran pryd y byddwn yn adolygu hynny, wel rwy’n disgwyl adolygu’r adroddiad, wrth adeiladu’r cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal yr wyf wedi dweud ein bod yn disgwyl gallu ei gyhoeddi ar ddiwedd y gwanwyn. Mae hynny'n amserlen eithaf tyn, ond rwy’n meddwl bod angen inni gadw’r momentwm, fel na fydd yn eistedd ar silff o fewn y Llywodraeth, neu yn llyfrgelloedd pobl eraill. A bydd angen inni feddwl, wrth inni gyhoeddi'r cynllun, ynghylch pa amserlenni y byddwn yn eu defnyddio wedyn i fesur ein cynnydd. Un amlwg fydd ymhen blwyddyn, a gwnawn feddwl am adegau eraill i archwilio ein cynnydd. Mae hynny'n mynd at eich pwynt am recriwtio pobl i ymdrin â thrawsnewid, ac am sefydlu tîm trawsnewid strategol.

Bydd angen inni edrych ar y sgiliau sydd gennym ar hyn o bryd, yn ganolog, yma o fewn y gwasanaeth sifil, ac yn ganolog, tîm arweinyddiaeth yn y gwasanaeth iechyd, ond yn y system gofal cymdeithasol hefyd. Wrth feddwl am y bobl sydd gennym ar hyn o bryd, a sut i ysgogi'r trawsnewid hwnnw, os ydym yn derbyn yr argymhelliad ynghylch sefydlu tîm, pwy yw'r bobl hynny, o ble y byddan nhw'n dod, ac o ble y mae’r costau’n dod i dalu’r bobl hynny i wneud y gwaith, a'u hawdurdod i ymgysylltu'n briodol â’r gwasanaeth i ysgogi gwelliant? Mae'r rheini’n faterion go iawn inni eu hystyried, wrth inni gyflwyno cynllun, ac yna geisio bwrw ymlaen ag ef.

Rwy’n cymryd o ddifrif eich pwynt am ymgysylltiad staff iechyd a gofal, ac am eu hyfforddiant. Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno. Arloesi a gwella—wel, yn sicr, mae’r gweithgaredd gwella yn aml yn dod o hyfforddiant, o gydnabod bod angen i arfer gorau fod yn arfer safonol a chyffredin, a sut yr ydym yn ceisio creu amgylchedd dysgu, ac amgylchedd dysgu cyfoethog. Ac mae hynny’n dod i mewn i un o argymhellion allweddol yr adroddiad hefyd.

O ran ymgysylltiad cyhoeddus, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda Lee Waters, ac eraill, ynghylch p'un a fyddai'r cyhoedd wir yn cymryd rhan yn yr adolygiad. A gwnaethant gymryd hynny o ddifrif: roedd ganddynt baneli dinasyddion a gwnaethant achub ar y cyfle i wrando ar y cyhoedd a siarad â nhw. Rhan o'n her ni yw sut yr ydym yn ymgysylltu â'r cyhoedd mewn sgwrs fwy rheolaidd am iechyd a gofal yn gyffredinol, ac o ran rhai o’r pethau hyn, mae’r sector gofal cymdeithasol ar y blaen i’r gwasanaeth iechyd, ac mae pobl yn ymwneud mwy â’u dewisiadau. Mae rhywbeth ynglŷn â sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn dal i fyny â hynny, a hefyd ynglŷn â sut y cawn drafodaeth fwy cyffredinol ynghylch iechyd a gofal, heb ddibynnu ar argyfwng nac ar bwynt o bryder a dadlau gwirioneddol yn lleol. Mae llawer wedi bod yn ymgysylltu naill ai â’u gwasanaeth lleol neu â gwasanaeth ysbyty ynghylch rhywbeth y maent yn anghytuno ag ef neu’n bryderus amdano. Mae angen inni ymgysylltu’n ehangach ac yn ddyfnach. I fod yn deg, mae rhai o’n byrddau iechyd yng Nghymru’n well am wneud hynny’n rheolaidd nag eraill. Felly, unwaith eto, mae hwnnw'n bwynt allweddol o ran dysgu ac ysgogi, neu mae’n annhebygol y bydd y dinesydd yn bartner mwy cyfartal o ran gwneud dewisiadau iechyd a gofal, heb sôn am gynllunio gwasanaethau.

Ac rwy’n meddwl fy mod wedi ceisio rhoi sylw i'ch pwynt am hyfforddi staff ac ymgysylltu. Hoffwn ddod yn ôl at eich pwynt olaf am arian. Cytunwyd ar draws y pleidiau, yn y telerau, i beidio â chynnwys arian yn yr adolygiad hwn. Oherwydd, pe byddem wedi gwneud hynny, byddai wedi bod yn hawdd inni dreulio blwyddyn gyfan dim ond yn edrych ar sut i ariannu a beth i'w ariannu. Mae’r rhain yn ddewisiadau dadleuol, ac mae gennym i gyd safbwyntiau gwahanol ynghylch sut i ariannu pethau o fewn sylfaen adnoddau sy’n lleihau, sy’n wrthrychol wir. Mae sylfaen adnoddau’r Llywodraeth yn lleihau mewn termau real. Mae canran y gwariant ar iechyd a gofal yn parhau i godi, fel yn ein pleidlais ar y gyllideb yn ddiweddarach heddiw, sy'n rhoi mwy o arian i’r gwasanaeth iechyd. Dyma’r her y mae’n rhaid inni ei hateb: beth fydd y setliad ariannu hirdymor, a beth yw'r gofyniad i wneud hynny? Mae dadl wahanol i’w chael yno, ynghylch yr hyn y mae unigolion yn ei wneud i gyfrannu at ofal cymdeithasol, er enghraifft, ariannu gofal cymdeithasol, y gwaith yr oedd Gerry Holtham yn ei wneud gyda Mark Drakeford, fy adran i, Huw Irranca, wrth edrych ar y cyllid hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol. Felly, ni allaf ohirio'r cwestiynau hynny.

Yr hyn y mae’n rhaid inni ei wneud yw dod o hyd i bwynt olaf yn yr adolygiad a’r nod pedwarplyg: sut y gallwn ni, serch hynny, gael mwy o werth am bunt gyhoeddus Cymru i’w fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn? Ond, bydd yn rhaid inni ddal i ddadlau am ariannu, yr hyn yr ydym yn disgwyl ei gyflawni o hynny, a’r hyn yr ydym yn barod i’w wneud wrth beidio â gwario'r arian hwnnw mewn rhannau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus, os ydym ni'n dewis buddsoddi mwy o'n cronfeydd yn y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:34, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch i Ruth Hussey a'i thîm am y ffordd y cynhaliwyd yr adolygiad hwn. Ac rwy’n meddwl ei fod wedi rhoi golwg amserol iawn ar gyflwr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddwn yn dweud hynny, gan fod Plaid Cymru wedi gwthio’r agenda o ran cynnal yr adolygiad seneddol hwn, ac rydym wedi bod yn falch iawn o chwarae ein rhan a bod yn rhan o banel trafod, bob hyn a hyn, wrth i'r gwaith fynd rhagddo, i gyrraedd y pwynt lle mae gennym nawr yr adroddiad hwn, sy’n achos meddwl. Ac rwy’n mynd i gadw fy nghwestiynau’n eithaf byr. Ni wnaf ofyn rhestr hir o gwestiynau heddiw, oherwydd rwy’n meddwl bod cyhoeddi'r adroddiad adolygiad seneddol hwn yn ddechrau proses. Nawr bod gennym ffrwyth llafur Ruth Hussey a'i thîm, mae gennym bethau a ffyn mesur y gallwn eu defnyddio i farnu sut y mae'r Llywodraeth yn ymateb.

Rwy’n meddwl mai cryfder ganolog yr hyn sydd gennym yma yw’r datganiad hwnnw yn yr adroddiad hwn nad oes gennym weledigaeth ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ac nid gorwneud pwynt gwleidyddol yw dweud ei fod yn ymhlyg, bod hynny’n gondemniad o'r blaid sy’n llywodraethu ac sydd wedi rheoli’r GIG yng Nghymru ers bron i 19 mlynedd ac sy’n dal i fod heb weledigaeth. Mae’r amserlen y mae Ruth Hussey wedi’i nodi ar gyfer ymateb gan y Llywodraeth yn dangos y brys. Mae hi eisiau gweld ymgynghoriad nawr a chyhoeddi gweledigaeth o fewn mater o dri mis.

Felly, y cwestiwn cyntaf yw: a wnewch chi roi syniad inni o lefel yr ymgynghori y bydd y Llywodraeth yn ei ddefnyddio er mwyn llunio’r weledigaeth honno? Ceir rhai elfennau penodol lle mae Ruth Hussey yn dweud yr hoffai weld llais y claf yn cael ei glywed yn llawer cliriach mewn penderfyniadau am ddyfodol gofal iechyd. Yr ail gwestiwn: sut y mae hynny a'r syniad bod yn rhaid mesur profiad y claf yn dda iawn, iawn ac yn ofalus yn cyd-fynd â chynigion y Llywodraeth i ddiddymu cynghorau iechyd cymuned, sef y corff sy'n mesur profiad y claf yn benodol? A wnewch chi, felly, roi’r cynlluniau hynny ar y silff, oherwydd bod yr adroddiad hwn yn rhoi awgrym clir, clir bod yn rhaid dal i fesur profiad y claf yn y dyfodol?

O ran gweithlu, gwnaf y sylw, er ein bod ni yma wedi galw am weledigaeth newydd, y bydd y weledigaeth newydd honno’n cynnwys gwneud pethau y mae llawer ohonom wedi galw amdanyn nhw ers amser, er enghraifft, gwneud yn siŵr ein bod yn hyfforddi digon o feddygon yn ddigonol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb yn eich sylwadau ynghylch a fyddwch chi nawr yn cyflymu symudiadau, er enghraifft, tuag at sefydlu canolfan hyfforddiant meddygol ym Mangor, oherwydd mae’r adroddiad hwn yn pwysleisio’r angen i wneud yn siŵr bod gennym ddigon o weithwyr a’u bod wedi'u hyfforddi'n dda.

O ran arian, iawn, doedd ariannu’r GIG ddim yn rhan o’r cylch gwaith, ond rwy’n cofio Plaid Cymru yn cael eu gwawdio cyn yr etholiad diwethaf am awgrymu y gellid arbed gwerth £300 miliwn, os mynnwch chi, drwy ddefnyddio technoleg ac arloesedd yn well o fewn y GIG er mwyn ail-fuddsoddi mewn gwario'r arian hwnnw’n well o fewn y gwasanaeth iechyd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb yn eich sylwadau ar hynny.

Felly, mae hwn yn fan cychwyn, ac rwy’n edrych ymlaen at gael gwybod hefyd gan y Llywodraeth sut y gallwn ni fesur a yw'r Llywodraeth yn llwyddo i ymateb i'r adroddiad pwysig hwn. Sut y caiff llwyddiant ei fesur?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:38, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Cwpl o sylwadau, ac yna gwnaf geisio ymdrin, rwy’n meddwl, â’ch pum maes penodol o gwestiynau. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod, wrth gwrs, cyfraniad Plaid Cymru at fodolaeth yr adolygiad hwn. Gwnaethom geisio, cyn yr etholiad diwethaf, gael cytundeb trawsbleidiol ar adolygiad iechyd a gofal ac mae rhywbeth ynghylch amseru yn hyn oll a chydnabod amseru, oherwydd a dweud y gwir o fewn blwyddyn olaf y Llywodraeth ddiwethaf, roedd yn anodd perswadio pleidiau i gytuno i’w wneud. Ac mae'n ddealladwy pam. Does dim beirniadaeth i bleidiau unigol, ond flwyddyn cyn yr etholiad mae'n anodd argyhoeddi pobl i ddweud, 'Dewch inni fod yn drawsbleidiol a gweithio gyda'n gilydd.' Rydym ni wedi achub ar y cyfle hwnnw ar ddechrau'r tymor hwn i ddechrau’r broses hon o gynnal adolygiad annibynnol, cytuno ar y telerau a chytuno ar yr aelodaeth. Nawr mae angen inni wneud dewisiadau gyda'n gilydd hefyd.

Yr her i bob un ohonom, yn y Llywodraeth, wrth gwrs, hefyd—. Rwy'n eithaf mwynhau’r cyfrifoldeb o fod mewn Llywodraeth ac mae gennyf gyfrifoldeb i wneud dewisiadau nawr ac yn y dyfodol hefyd. Ond un her ganolog i bob un ohonom fel cynrychiolwyr gwleidyddol yw’r hyn yr ydym yn dewis ei wneud a sut i gynnal y ddadl a sut i wneud dewisiadau gyda'n gilydd ynglŷn â’r dyfodol, oherwydd os ydym ni'n rhwystro dewisiadau rhag cael eu gwneud mae hynny’n ddewis ynddo'i hun, ac mae’r adroddiad yn dweud wrthym, mewn sawl ffordd, mai dyna’r perygl mwyaf i ddyfodol iechyd a gofal. Rhaid inni gael y lle, y weledigaeth, y gallu a'r parodrwydd i wneud dewisiadau anodd am y dyfodol, ac roedd hynny’n ddewis a wnaethom ar y dechrau, ond nid, fel y dywedais wrth Angela Burns—. Ni wnaethom ddisodli 'Law yn Llaw at Iechyd' ar ddechrau'r tymor hwn, oherwydd roeddem yn mynd i gynnal yr adolygiad hwn yn lle hynny, a dyna oedd y dewis cywir i’w wneud a dyna’r sylw y mae’r panel yn ei wneud am fod â gweledigaeth. Mae angen y weledigaeth honno arnom—dyna’r cynllun hirdymor yr wyf wedi sôn amdano ar gyfer iechyd a gofal—erbyn diwedd y gwanwyn. Dyna'r hyn yr hoffem ei ddarparu, y weledigaeth honno ar gyfer y dyfodol, i fwrw ymlaen â’r adolygiad ac nid, fel y mae Angela wedi’i awgrymu, ei adael ar silff yn y Llywodraeth.

Ac am wn i, ar y pwynt hwnnw am ymgysylltu cyn y cynllun hirdymor—eich cwestiwn cyntaf—rydym yn disgwyl ymgysylltu’n agored â rhanddeiliaid, o fewn y gwasanaeth iechyd, â gwahanol grwpiau o staff a gwahanol gynrychiolwyr o’r Coleg Brenhinol hefyd. Mae'n ddiddorol sut y mae’r colegau brenhinol eu hunain yn groesawgar ac yn galw am fwy o newid hefyd. Gall hynny fod yn anodd iddyn nhw ac i rai o’u haelodau, ac i’n cydweithwyr ehangach mewn undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, ond yn llawer mwy na hynny wrth gwrs, ein partneriaid mewn llywodraeth leol a thu hwnt. Roedd hwn, yn fwriadol, yn adolygiad o iechyd a gofal cymdeithasol. Nid dim ond y gwasanaeth iechyd sydd dan sylw yma; mae'n ymwneud â sut y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan o system ehangach, gan gynnwys cydweithwyr o’r sector tai hefyd. Rwy’n disgwyl iddyn nhw i gyd ddangos diddordeb yn y cynllun hwnnw i’r dyfodol ac, wrth gwrs, y cyhoedd hefyd. Hoffem i’r cyhoedd gael ymgysylltiad cyhoeddus a llais yn y cynllun hirdymor hwnnw ar gyfer y dyfodol.

O ran eich pwynt am fesur profiad cleifion, unwaith eto, mae'n bwysig, wrth gwrs, yn rhan o'r nod pedwarplyg i ddeall sut yr ydym yn mesur profiad cleifion ac yn ei wella a’i werthfawrogi. Mae angen inni ganfod mesurau sy'n ddefnyddiol i ychwanegu gwir werth at yr hyn yr ydym yn ei fesur. Fel arall, y perygl yw mai dim ond mesur rhifau yr ydym, ac mae hynny bob amser yn eich arwain yn ôl at weithgarwch, swm y gweithgarwch, yr amser mae’n ei gymryd i wneud rhywbeth yn hytrach nag ansawdd yr hyn sy’n cael ei wneud a phrofiad rhywun, ac mae hynny ychydig yn anoddach. Ond rwy’n meddwl ei bod yn fwy gwerthfawr gwneud hynny hefyd.

Byddwn yn anghytuno'n gwrtais â chi am beidio â diddymu cynghorau iechyd cymuned. Os ydym ni eisiau i ddinasyddion gael llais, ac eiriolaeth ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol, mae arnom angen sylfaen ddeddfwriaethol newydd i’r grŵp hwnnw. Ni allwch ei wneud â chyfansoddiad presennol cynghorau iechyd cymuned, felly mae'n rhaid ichi ddod o hyd i ffordd newydd o gyfansoddi corff newydd. Mae’r drafodaeth yn sôn am pa bwerau a pha gyfrifoldebau sydd ganddyn nhw yn y system newydd. Gallwch chi ei gyfleu fel diddymu, ond bydd corff newydd yn cymryd eu lle i weithio ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan, ac rwy’n meddwl mai dyna'r peth iawn i’w wneud. Yn wir, mae Bwrdd cenedlaethol y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru yn cytuno mai dyna'r peth iawn i'w wneud hefyd.

O ran gweithlu, rydym wedi bod yn glir o'r blaen yn ein hymateb ynglŷn â’ch pwyntiau penodol am hyfforddiant meddygol yn y gogledd, a byddaf wrth gwrs yn cyflwyno datganiad am y gwaith y mae’r tair prifysgol eisoes yn ei wneud o ran sut yr ydym yn arfogi mwy o bobl yn fwy cyffredinol ledled y wlad i gael gyrfa mewn meddygaeth ac yn benodol sut yr ydym ni'n darparu mwy o hyfforddiant meddygol yn y gogledd.

O ran arloesi a arweinir gan dechnoleg a’r ffigurau, unwaith eto, mae amrywiaeth o bobl, o fewn y Siambr hon a'r tu allan, sydd yn cydnabod potensial go iawn ac, yn wir, y gwir angen i fanteisio mwy ar dechnoleg i ddarparu arloesedd a gwelliant a fydd yn darparu gwerth go iawn. Nid dim ond mater o arbed ychydig o bunnoedd yw hyn, ond cydnabod yn wir sut y mae pobl yn byw eu bywydau ac yn gwneud dewisiadau. A dweud y gwir, mae angen i’r gwasanaeth iechyd ddal i fyny â hynny. Unwaith eto, mewn rhai rhannau o ofal cymdeithasol, mae angen inni weithio gyda'n gilydd i lunio systemau sydd wir yn gweithio gyda'i gilydd ac yn gallu siarad â'i gilydd, eto i’w gwneud yn haws i ddinasyddion. Ni ddylem ddisgwyl i bobl ag anghenion iechyd a gofal lywio eu ffordd drwy system gymhleth. Mae’n rhaid inni ei gwneud yn haws iddyn nhw wneud hynny.

Yn olaf, ynglŷn â’ch pwynt am fesurau, rwyf wedi nodi bod angen inni gymryd yr adolygiad o ddifrif ac ymateb iddo’n briodol, ond bydd angen, ac rwy’n cydnabod hynny nawr, dod yn ôl, o leiaf o fewn blwyddyn, i edrych ar y cynnydd y byddwn wedi’i wneud, yn ogystal â bod yn agored i graffu, nid dim ond yn y ffordd arferol yn y Siambr a drwy’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ond o safbwynt Llywodraeth i feddwl o ddifrif am yr argymhelliad yn yr adolygiad ein bod, bob blwyddyn, yn rhoi diweddariad blynyddol gan y Llywodraeth a’r gwasanaeth iechyd a'r system gofal cymdeithasol am ble rydym yn meddwl yr ydym, pa heriau sydd gennym o hyd a beth arall y mae angen inni ei wneud. Rwy’n meddwl bod hynny'n awgrym buddiol y mae angen inni ei ystyried o ddifrif, oherwydd rwy’n meddwl y byddai hynny'n rhoi rhywfaint o’r eglurder yr ydych chi eich hun wedi awgrymu y dylem geisio ei roi.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:43, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad am yr adroddiad pwysig iawn hwn? Mae’r rheini ohonom sydd wedi gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol am nifer o flynyddoedd, a gyda’r system, yn croesawu’r argymhellion. Hoffwn i hefyd ychwanegu fy niolch i Ruth Hussey a'i thîm am y gwaith y maen nhw wedi’i wneud i lunio’r adroddiad. Rwy’n mynd i geisio peidio ag ailadrodd nifer o'r pwyntiau a wnaed gan eraill. Hoffwn i wneud dau bwynt cryno.

Yn gyntaf, mae argymhellion yr adolygiad hwn, heb amheuaeth, wedi rhoi cyfrifoldeb enfawr ar y Cynulliad hwn i gyd i ymateb i'r her a osodwyd. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir beth yw maint yr heriau y mae angen inni eu hwynebu. A dweud y gwir, mae'n gyfrifoldeb brawychus, oherwydd mae pob aelod o'r Cynulliad hwn yn deall, neu dylent ddeall, bod angen newidiadau i’r gwasanaeth, ond gall fod yn anodd ceisio gwneud y newidiadau hynny pan fo gwrthwynebiad lleol i'r newidiadau a phan fo oportiwnistiaeth wleidyddol yn drech nag ystyriaeth wrthrychol. Rydym ni eisoes wedi clywed rhai ergydion gwleidyddol annheg yn y ddadl hon. Rhaid imi ddweud, Rhun, nad oeddwn yn meddwl bod angen hynny o ran y ffordd gydsyniol yr oeddem yn ceisio cael trafodaeth a dadl am yr adroddiad penodol hwn.

Ond mae angen newidiadau ac mae eu hangen yn erbyn cefndir o bwysau ariannol parhaus, felly mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau y darperir y gwasanaethau’n fwy effeithiol ac o bosibl mewn ffordd wahanol iawn.

Cododd Angela y pwynt ynghylch y cyllid ar gyfer hyn i gyd, ond rwy’n meddwl bod angen inni fod yn glir iawn nad oes dim mwy o arian yn dod o hyn. Does dim mwy o arian yn dod o San Steffan inni dalu am y gwasanaethau sydd gennym na’r gwasanaethau yr hoffem eu cael, ar gyfer y dyfodol, ond ni allwn barhau—ni allwn fforddio parhau, mae'n ddrwg gennyf—i fuddsoddi mewn modelau iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn ymateb i anghenion y dyfodol sydd wedi bod yn hysbys ac yn ddealladwy ers amser hir iawn.

Fy ail bwynt —

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:45, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ydych chi’n dod at gwestiwn?

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Ydw. Ydw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

[Anghlywadwy.]—cwestiynau. Datganiad ydyw ac felly dylai fod cwestiynau.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Mae gen i gyfres o gwestiynau sydd—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, na. Mae gennych gwestiynau nawr, neu wyddoch chi—

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn. Wel, mae fy ail bwynt yn ymwneud â’r broses o negodi newid angenrheidiol a'r angen i gynnwys y staff yn hynny. Rwy’n gwybod o'm profiad fy hun bod y newid hwnnw’n golygu bod angen amynedd a pherswâd a chyfathrebu, ond, yn bennaf oll, mae'n golygu mynd â phobl gyda chi, oherwydd mae gwrthsefyll newid yn arwain at ddiffyg cynnydd, i’r bobl y mae’n rhaid i’r gwasanaeth ddarparu ar eu cyfer ac i’r bobl sy'n gweithio ynddo.

Yr hyn y byddwn yn ei ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd rydym ni wedi clywed llawer am y weledigaeth yn yr adroddiad hwn, a byddwn yn dweud mai’r adroddiad, a dweud y gwir, yw’r weledigaeth, mae'n amlinellu’r weledigaeth, felly a fyddech chi'n cytuno bod angen inni i gyd fod yn glir mai dyma ein gweledigaeth a’n cyfeiriad teithio a bod yn rhaid inni ymrwymo’n ddiysgog i hynny? Ac a fyddech chi'n cytuno hefyd, os ydym i gyrraedd y nod pedwarplyg i bawb, fel y'i nodir yn argymhellion yr adroddiad, bod yn rhaid i staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth fod yn rhan o’r newid a bod yn rhaid gwrando ar eu lleisiau os ydym ni am gyflawni amcanion yr adolygiad?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:47, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y pwyntiau hynny. Rwy’n adnabod rhywun a oedd yn arfer bod ar yr ochr arall i’r bwrdd fel cyn-bennaeth iechyd Unsain—wrth gwrs, mae undebau llafur eraill ar gael yn y gwasanaeth iechyd. Ond roeddech chi'n iawn bod hyn yn her i bob un ohonom, i bob un ohonom yn y lle hwn. Oherwydd, fel y dywedais, mae dewis peidio â gwneud rhywbeth yn dal i fod yn ddewis, ac rwy’n meddwl ei fod yn bwynt pwysig iawn y mae’r adroddiad wir yn tynnu sylw ato ac yn ei ddilyn o'r achos dros newid, a dywedasoch eich hun fod hyn yn ymwneud â darparu gwasanaethau’n wahanol ac weithiau darparu gwasanaethau gwahanol. Ac i wneud hynny, ni allwch chi fuddsoddi ym mhopeth a wnawn yn awr, fel y dywedasoch chi. Mae hynny’n golygu bod angen inni wneud pethau'n wahanol, ac mae hynny'n anodd, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau gallu ychwanegu at bethau yn hytrach na dweud, 'Rhaid i chi benderfynu, o fewn yr amlen ariannol, beth nad ydym yn mynd i’w wneud, yn ogystal â beth yr ydym yn mynd i ddewis ei wneud ac i wella'r hyn a wnawn yn y dyfodol.' Bydd hynny'n anodd ac mae angen inni ddeall bod hynny’n anodd i bobl yn y gwasanaethau, yn anodd i rai cymunedau lleol sydd ynghlwm wrth wasanaethau—mae pobl yn mynd yn hoff iawn o frics a morter. Er eu bod yn dweud nad ydyn nhw, y realiti yw bod pobl yn gwneud hynny. Gallwch chi ddeall rhywfaint o’r ymlyniad emosiynol hwnnw â gwasanaethau sy’n bodoli ers amser ac â phobl y maent yn ymddiried ynddyn nhw, ond os na allwn ni sicrhau rhaglen ar gyfer newid a thrawsnewid fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, byddwn yn rheoli gwasanaeth sy’n dirywio, ac ni all hynny fod yn dderbyniol i neb ohonom mewn unrhyw blaid.

Ar eich pwyntiau penodol am y cyfeiriad teithio a’r nod pedwarplyg a staff, rwy’n meddwl bod yr adroddiad yn gosod cyfeiriad teithio inni ac mae’n fater o sut y byddwn yn cyflawni hynny a sut y byddwn yn dewis blaenoriaethau o fewn y Llywodraeth, gyda'r gwasanaeth, gyda phartneriaid llywodraeth leol ac eraill yn ogystal, i gyflawni yn erbyn yr heriau go iawn a’r cyfeiriad y mae'r adroddiad yn ei nodi. Mae'n hanfodol, wrth wneud hynny, ein bod yn cymryd o ddifrif y rhan o'r nod pedwarplyg sy’n ymwneud ag ymgysylltu a chyfoethogi’r ffordd y mae staff yn gwneud eu swyddi. Mae pobl sy'n mwynhau eu swyddi’n tueddu i ddarparu gwell gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac mewn gwasanaethau a sectorau eraill hefyd. Ac nid yw hynny'n hawdd, o ystyried y pwysau ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig—anaml y byddwn yn sôn am hyn, ond mae gweithwyr gofal cymdeithasol, sydd ddim yn cael eu talu’n dda iawn am wneud swyddi sy’n anodd, yn heriol ac yn gorfforol iawn, yn aml, a’r gred yr ydym yn ei rhoi i’r bobl hynny, a'r ffordd nad ydym bron byth yn siarad amdanynt—. A phan fyddwn yn gwneud hynny, a dweud y gwir, mae llawer o stigma o gwmpas y sector gofal cymdeithasol o hyd hefyd, felly mae’r gwaith y dechreuodd Rebecca Evans ei arwain, ac sydd nawr o dan arweiniad Huw Irranca-Davies, i godi hunan-barch pobl o fewn y sector hwnnw, yn hanfodol i gyflawni'r nodau yn yr adroddiad hwn ac, yn benodol, y pwynt a wnewch am y nod pedwarplyg ac ymgysylltu â staff yn nyfodol y gwasanaeth cyfan.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:49, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Dr Ruth Hussey a'r panel am y gwaith rhagorol y maen nhw wedi’i wneud ar gyfer eu hadroddiad a’u hargymhellion. Mae'r adroddiad yn nodi mewn du a gwyn y camau y mae angen inni eu cymryd os ydym ni am ddarparu iechyd a gofal cynaliadwy nawr ac yn y dyfodol. Mae Dr Hussey a'i thîm wedi gwneud eu gwaith yn gampus. Mae'n bryd bellach i ni wneud ein gwaith ni. Rydym ni'n gwybod yr heriau, ac amlinellodd yr arolwg seneddol y cyfeiriad teithio, felly, mae'n rhaid inni wneud y newidiadau angenrheidiol. Ni fydd yn hawdd—dydy newid byth yn hawdd—ond ni allwn barhau i ddarparu gwasanaethau'r GIG yn yr un modd ag y gwnaethom 70 mlynedd yn ôl. Rydym ni i gyd yn cydnabod bod angen newid. Tasg pob un ohonom yma yn y Siambr hon yw cael sgwrs aeddfed â'n hetholwyr am yr angen i newid, bwrw ymlaen ag egwyddorion gofal iechyd darbodus, a chefnogi newidiadau i wasanaethau a arweinir yn glinigol. Ysgrifennydd y Cabinet, eich gwaith chi yw sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud mewn gwirionedd ar lawr gwlad. Mae’r angen i newid yn glir, ac ni all y GIG fforddio aros pum, 10, 15 mlynedd i’r newidiadau hyn ddigwydd. Mae angen i’r GIG a gofal cymdeithasol addasu nawr os bydd gennym unrhyw obaith o fodloni’r galw am wasanaethau yn y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, buddsoddi mewn staff yw un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu, yn enwedig os ydym am ganolbwyntio ar ddarparu gofal lleol. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i gynyddu'r gweithlu gofal sylfaenol, yn enwedig nifer y mannau hyfforddi meddygon teulu yn y dyfodol agos?

Bydd gan dechnoleg ddigidol ran allweddol i'w chwarae yng nghynlluniau cyflawni’r dyfodol. Sut ydych chi'n bwriadu trawsnewid y ffordd y caiff TG ei ddarparu i'r GIG? Mae'n rhaid inni sicrhau bod yr arian yr ydym yn ei fuddsoddi yn ein GIG wir yn cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Felly, mae’n rhaid inni gael gwared ar wastraff, ac yr wythnos hon rydym ni wedi dysgu am y lefel anhygoel o dwyll sy'n digwydd gyda'r cardiau yswiriant iechyd Ewropeaidd, lle mae dinasyddion eraill yr UE wedi hawlio gofal iechyd am ddim gan ddefnyddio cardiau EHIC ffug. Heddiw, clywsom am lefel yr iawndal a’r ffioedd cyfreithiol a dalwyd gan ymddiriedolaethau'r GIG am esgeulustod dros y pum mlynedd diwethaf. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddileu twyll yn ein GIG a lleihau lefel yr esgeulustod meddygol?

Rwy’n edrych ymlaen at eich cynllun newydd hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ac at weithio gyda chi i ddarparu GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Diolch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:52, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y rhan fwyaf o'r hyn a ddywedodd. Roedd rhai pwyntiau lle y byddai'n rhaid inni anghytuno. A dweud y gwir, nid wyf yn meddwl bod twyll yn gysylltiedig â’r Undeb Ewropeaidd a chardiau EHIC yn fater mawr a fydd yn tanseilio dyfodol y gwasanaeth. Nid wyf yn meddwl bod yr her sy'n ein hwynebu o ran angen a galw, o ran y boblogaeth sy’n cynyddu ac yn heneiddio, o ran heriau dros arian, yn rhai lle gallwn ddweud bod dinasyddion Ewropeaidd, yn gyfreithlon neu fel arall, yn mynd i danseilio dyfodol y gwasanaeth. Nid yw’n cael sylw yn yr adroddiad, nid yw wedi bod yn destun rhyw lawer o ddiddordeb, ond, wrth gwrs, ni fyddwn am i neb gymryd mantais ar y gwasanaeth. Mae gwahaniaeth rhwng dweud, 'Does dim ots gen i; caiff pobl wneud fel a fynnant,' a dweud mai dyna yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu. Felly, rwy’n disgwyl iddyn nhw chwarae yn ôl y rheolau. Os nad yw pobl yn gwneud hynny, rwy’n disgwyl i’r camau priodol gael eu cymryd.

O ran eich pwynt am esgeulustod meddygol, wel, mae hyn yn her gyson i unrhyw wasanaeth iechyd—pob un ohonynt. A dweud y gwir, yr ymateb yw sut yr ydym yn gwella ansawdd y gofal a ddarperir, sut y mae’r camau gwella hynny’n rhan go iawn o beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud ac nid dim ond deilen ffigys. Dyna pam mae angen inni edrych eto ar ein rhaglenni gwella ein hunain—mae 1000 o Fywydau wedi gwneud gwaith sylweddol i wella ansawdd gofal a phenderfyniadau ar draws y gwasanaeth iechyd. Mae angen inni edrych eto ar hynny fel rhaglen wella, yr her y mae’r adroddiad yn ei gosod inni, a’r nod pedwarplyg, ac edrych ar ddarparu mwy o werth. Felly, yn sicr mae angen inni wneud y pethau hynny.

O ran eich pwynt am drawsnewid darpariaeth TG, rwy’n meddwl bod hwnnw wedi cael sylw mewn sylwadau a chwestiynau eraill. Mae'n her allweddol i’r system iechyd a gofal, sut y gallwn fanteisio mwy ar yr hyn y mae technoleg yn caniatáu inni ei wneud a dal i fyny go iawn â’r ffordd y mae dinasyddion yn byw eu bywydau ar hyn o bryd.

Ac o ran eich pwynt olaf ynglŷn â chynyddu gweithlu gofal sylfaenol—rydym mewn sefyllfa well na rhannau eraill o’r DU, mewn rhai ffyrdd, oherwydd rydym wedi cyrraedd ein niferoedd ac wedi gorlenwi’r lleoedd a oedd gennym o ran niferoedd hyfforddiant meddygon teulu, rhywbeth y gwnaethoch chi sôn amdano’n benodol. Yr her nawr yw deall beth arall sydd ei angen arnom, ac nid dim ond mater i’r Llywodraeth yw hynny. Mae hefyd yn rhan o'r rheswm pam y gwnaethom sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru—i geisio cael dealltwriaeth ar sail ehangach o gynllunio ar gyfer gweithlu yn y dyfodol, gwneud yn siŵr bod gennym y lleoedd ar gael, ac yna’r dewisiadau anodd am arian. Oherwydd, pe byddai gennyf y cyfle a'r gallu, byddwn yn buddsoddi mwy o arian yn nyfodol y gweithlu iechyd a gofal. Ond mae’n rhaid imi fyw o fewn y modd y mae’r Cynulliad hwn yn pleidleisio er mwyn imi allu gwneud hynny, yn y gyllideb y bydd y lle hwn, gobeithio, yn dewis ei phasio yn nes ymlaen heddiw. Felly, mae arian bob amser yn her, ond ni allwn osgoi’r realiti: mae angen inni ddarparu mwy o werth na'r adnoddau a rown i mewn i’n system gyfan.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:54, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhywfaint o ddadansoddi lefel uchel defnyddiol iawn yn yr adroddiad, ond rwy’n meddwl mai’r peth mwyaf defnyddiol yw'r argymhellion manwl yn adran yr atodiad, yn enwedig argymhelliad 7, ar arloesedd, technoleg a seilwaith. Roeddwn yn falch iawn o weld digidol yn cael sylw drwy gydol yr adroddiad, a'i botensial i ryddhau adnoddau a gwella profiad cleifion. Fy nghwestiwn yw, ar ôl darllen adroddiad yr wythnos diwethaf gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y cyd ag adroddiad heddiw, ceir cyfres o feirniadaethau uniongyrchol ac anuniongyrchol i Wasanaeth Gwybodeg Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, NWIS, ac mae gennyf amheuon go iawn ynghylch eu gallu, o ran capasiti a gallu, i gyflawni’r agenda radical hon—yn enwedig y canfyddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru eu bod wedi bod yn bleidiol ac yn rhy gadarnhaol wrth adrodd am gynnydd i Lywodraeth Cymru. Felly, hoffwn i ofyn am eich sylwadau am natur y beirniadaethau yn y ddau adroddiad, ac a allwch fod yn hyderus nawr yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ai peidio, fel y mae wedi’i gyfansoddi ar hyn o bryd, i gyflawni'r agenda hon, a beth y gallwch ei roi ar waith i sicrhau ein bod yn cyflawni potensial digidol.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:56, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y sylwadau. Rydych chi wedi dangos diddordeb cyson yn y maes hwn, yn ffurfiol ac yn anffurfiol mewn sgyrsiau a gawsom. Rwy’n meddwl mai’r pwynt cyntaf y byddwn yn ei wneud yw, er yr holl feirniadaeth i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, eu bod wedi cyflawni nifer o bethau yr ydym yn falch iawn ohonynt. Os ydych chi'n meddwl am yr ymateb o ran diogelwch, y gwahaniaeth lle rydym wedi buddsoddi mewn system a ddarparwyd ganddyn nhw, os ydych yn meddwl am Dewis Fferyllfa, eu bod wedi creu hynny ac yna ei ddarparu mewn partneriaeth â’r gwasanaeth, bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac, a dweud y gwir, bydd yn yr union le hwn o ddefnyddio gwybodaeth yn well rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a newid y pwynt ffocws lle gall pobl fynd a chael y cyngor hwnnw a chefnogaeth hefyd.

Felly, hyd yn oed gyda’r pethau cadarnhaol y maen nhw wedi’u gwneud, mae'n deg adlewyrchu ar fannau lle rydym yn credu y gallen nhw wneud yn well. Rwy’n cydnabod y sylwadau sydd yn yr adroddiad ac yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac mewn awgrymiadau eraill hefyd, ynghylch a oes ganddyn nhw'r gallu a'r capasiti, fel y'u cyfansoddir ar hyn o bryd, i wneud popeth y mae arnom angen iddyn nhw ei wneud. Wel, nid wyf yn meddwl y byddai'n deg dweud bod ganddyn nhw, oherwydd byddai hynny’n rhoi disgwyliadau annheg, rwy’n meddwl, ar Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, fel y mae ar hyn o bryd, i wneud popeth yr hoffem iddyn nhw ei wneud o ran buddsoddi mewn TG a rhyddhau ei allu i drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau a’r ffordd y mae dinasyddion eu hunain yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal.

Ac rwyf hefyd yn cydnabod y pwyntiau ynghylch llywodraethu a meddwl eto ynghylch a yw yn y lle iawn, a allem wneud mwy, a meddwl am sut i ryddhau’r llywodraethu hwnnw. Rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod yn bwriadu gwneud hyn, ac yn ddefnyddiol nid yw'r adroddiad wedi dweud bod angen inni wneud rhywbeth gwahanol; mae angen inni barhau i edrych ar y gallu, y capasiti hwnnw, a ble y mae: faint ddylai fod yn fewnol o fewn NWIS, faint ddylai fod yn gweithio gyda phartneriaid eraill, a faint ddylai fod yn bartneriaeth ffurfiol. Oherwydd ni allwn esgus y gallwn wneud hynny i gyd mewn un lle. Os ceisiwn wneud hynny, rwy’n meddwl y byddwn yn methu. Mae'n rhaid iddi fod yn bartneriaeth wahanol, ac rydym yn mynd i orfod gosod yr uchelgeisiau hynny a gosod blaenoriaeth i ni ein hunain, a gallai hynny olygu bod angen inni edrych eto ar ddarparu adnoddau i’r maes hwn, yn ogystal, wrth gwrs, â’r llywodraethu a’r goruchwylio, ar gyfer Aelodau, pobl yn y gwasanaeth iechyd, yn y system gofal, ac wrth gwrs yma yn y Llywodraeth hefyd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:58, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch.