6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol

– Senedd Cymru am 3:56 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:56, 17 Ionawr 2018

Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, ac rwy'n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. Mark Isherwood.

Cynnig NDM6565 Mark Isherwood, Leanne Wood, Mike Hedges, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd canabis at ddibenion meddyginiaethol.

2. Yn cydnabod, er mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae'r cyffur rheoli symptomau canabinoid Sativex ar gael ar y GIG, ei fod dim ond wedi'i drwyddedu i drin sbastigedd ac yna dim ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol (MS) ac sy'n bodloni'r meini prawf.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU ailddyrannu canabis at ddibenion meddyginiaethol; ac, wrth baratoi ar gyfer y canlyniad hwn, y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y gellid sicrhau bod system o fewn y GIG lle gallai canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai elwa ohono.

4. Yn nodi:

a) bod llawer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol, dystonia, epilepsi a chanser yng Nghymru yn defnyddio canabis a gawsant yng anghyfreithlon at ddibenion meddyginiaethol ond, drwy wneud hynny, yn wynebu'r risg o gael eu herlyn a hefyd wynebu perygl o gyffuriau eraill;

b) bod y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio'r polisi ar gyffuriau yn Nhŷ'r Cyffredin wedi galw'n bendant ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddygol yn seiliedig ar ganlyniadau ei ymchwiliad saith mis i'r mater a chanfyddiadau'r adolygiad annibynnol o dystiolaeth fyd-eang o dan arweiniad yr Athro Michael P. Barnes;

c) bod nifer cynyddol o wledydd sy'n rheoleiddio canabis a deilliadau canabis at ddefnydd meddygol, megis Canada, yr Iseldiroedd, Israel a bod dros 20 talaith yn yr Unol Daleithiau yn rheoleiddio canabis gwair at ddefnydd meddygol;

d) bod nifer o wledydd, gan gynnwys yr Almaen a'r Swistir, yn galluogi cleifion i fewnforio canabis at ddefnydd meddygol o'r Iseldiroedd;

e) bod MS Society UK wedi newid ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol, yn sgil tystiolaeth gadarnhaol am ddefnyddio canabis i drin poen a spastigedd;

f) y cafodd Bil rheol 10 munud yr Aelod Seneddol dros Gasnewydd, Paul Flynn, ar gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol ei drosglwyddo'n ddiwrthwynebiad ar 10 Hydref i'r darlleniad nesaf ar 23 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:56, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae'r ddadl heddiw yn dilyn cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol i drafod canabis meddyginiaethol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2017, ac a fynychwyd gan bobl ledled Cymru sy'n byw gydag amrywiaeth o gyflyrau meddygol—mae llawer ohonynt yn yr oriel gyhoeddus heddiw—ac sy'n cael budd o ddefnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol, ond sydd, drwy wneud hynny, yn wynebu risg o gael eu herlyn. Fel Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru a chadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, bûm yn gweithio gyda Chymdeithas MS Cymru ar y mater hwn ers peth amser. Mae'r cynnig yn cydnabod, er efallai nad mater i Lywodraeth Cymru yw cyfreithloni canabis at ddibenion meddyginiaethol, mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU symud canabis o Atodlen 1 i Atodlen 2 fel bod modd ei bresgripsiynu a'i gyflenwi'n gyfreithlon i gydnabod gwerth meddyginiaethol y cyffur.

Ym mis Gorffennaf 2014, argymhellodd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru y cyffur Sativex, cyffur sy'n seiliedig ar ganabis, ar gyfer trin sbastigedd, ac i fod ar gael wedyn i grŵp bach yn unig o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol sy'n bodloni'r meini prawf. Cytunodd Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gymeradwyo Sativex. Fodd bynnag, mynegodd Cymdeithas MS Cymru bryder ym mis Mawrth y llynedd fod llawer o bobl yn cael trafferth i'w gael oherwydd nad oedd seilwaith yn bodoli ar ei gyfer. Yn yr ychydig fisoedd diwethaf yn unig y bu modd i'r holl fyrddau iechyd lleol yng Nghymru roi Sativex ar bresgripsiwn i'r bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol y bernir eu bod yn gymwys. Newidiodd Cymdeithas MS y DU ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol, yng ngoleuni tystiolaeth gadarnhaol o ddefnyddio canabis ar gyfer trin sbastigedd a phoen. Mae'r gymdeithas yn amcangyfrif y gallai oddeutu 10,000 o bobl â sglerosis ymledol yn y DU elwa o hyn—nid pawb, ond nifer enfawr o bobl. Fel y dywed Cymdeithas MS Cymru, gall symptomau sy'n gysylltiedig â sglerosis ymledol fod yn ddidrugaredd ac yn flinderus a'i gwneud yn amhosibl i ymdopi â bywyd bob dydd. Gall y drefn gyffuriau ddyddiol gonfensiynol ar gyfer y rhai sy'n dioddef o'r symptomau hyn gynnwys morffin, codin, paracetamol, pregabalin a diazepam.

Mae'r dystiolaeth glinigol ac anecdotaidd am effeithiolrwydd canabis at ddefnydd meddyginiaethol yn gryf. Ni all pobl sy'n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol, dystonia, epilepsi, arthritis, parlys yr ymennydd a chanser sy'n defnyddio canabis i leddfu symptomau sy'n gysylltiedig â'u cyflyrau aros am adeg pan fydd gan Gymru gymhwysedd deddfwriaethol i gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol. Dylent allu gwneud y penderfyniad heb ofni cael eu herlyn. Mae cael gafael ar gyflenwad dibynadwy o ganabis yn broblem wirioneddol i lawer o bobl. Mae rhai'n teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i ddefnyddio gwerthwyr stryd. Mae rhai'n pryderu y byddant, drwy ddefnyddio canabis, yn rhoi pobl sy'n agos atynt mewn perygl o gael eu herlyn ac o ddod i gysylltiad â chyffuriau eraill. Ym mis Medi 2016, galwodd grŵp seneddol hollbleidiol y DU ar ddiwygio polisi cyffuriau yn bendant iawn ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddyginiaethol yn seiliedig ar ganlyniadau eu hymchwiliad saith mis i'r mater, ac ar ganfyddiadau adolygiad annibynnol o dystiolaeth fyd-eang dan arweiniad yr Athro Michael Barnes, a oedd yn cydredeg â'r ymchwiliad. Clywodd yr adroddiad hwnnw fod pobl yn dioddef yn ddiangen a bod pobl mewn poen mawr yn teithio dramor i ddod o hyd i'r canabis sydd ei angen arnynt i leddfu eu symptomau. A daeth i'r casgliad y gellid newid hyn oll drwy symud canabis o Atodlen 1 i Atodlen 2 at ddibenion meddygol. Byddai newid o'r fath hefyd yn hwyluso ymchwil ac yn arwain at feddyginiaethau newydd ar gyfer poen a chlefydau cronig.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:00, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Athro Michael Barnes, sy'n niwrolegydd a meddyg ymgynghorol ym maes adsefydlu yn y DU, wedi tynnu sylw at ddwsinau o bapurau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid sydd wedi profi effeithiolrwydd canabis meddygol. Dywedodd fod cyffuriau o'r fath wedi lleddfu poen yn ei holl ffurfiau, wedi trin gwayw yn y cyhyrau, gorbryder a chyfog a chwydu mewn cleifion sy'n cael cemotherapi. Dywedodd hefyd fod yna dystiolaeth fod canabis meddyginiaethol yn llwyddo i helpu pobl ag epilepsi ac anhwylderau cysgu, a disgrifiodd y sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â defnyddio'r cyffur mewn cyd-destun meddyginiaethol fel rhai bach iawn. Ychwanegodd y gall miloedd o bobl sydd â chyflyrau cronig elwa o'r cyffur hwn sydd wedi bodoli ers canrifoedd.

Canfu astudiaeth ddiweddar o Tel Aviv yn Israel fod canabis meddygol yn gwella cyflwr plant sy'n dioddef o barlys yr ymennydd yn sylweddol. Yn ôl eu canfyddiadau interim, roedd triniaeth gydag olew canabis yn lleihau symptomau'r anhwylder ac yn gwella sgiliau echddygol plant. Roedd hefyd yn gwella ansawdd cwsg, ysgarthu a hwyliau cyffredinol y plant.

Mae Gofal Arthritis Cymru ac Ymchwil Arthritis y DU yn datgan bod angen dybryd am ddulliau gwell o leddfu poen i helpu'r miliynau o bobl sy'n byw gyda'r artaith ddyddiol a achosir gan arthritis, a bod gwaith ymchwil blaenorol wedi awgrymu y gallai derbynyddion canabinoid wedi eu targedu helpu i leddfu poen a llid yn y cymalau. Pan fynychais y digwyddiad ar y gymalwst yn y Cynulliad fis Tachwedd diwethaf, dysgais am ddioddefwyr arthritis sy'n defnyddio canabis i helpu i reoli'r boen a achosir gan eu cyflwr. Y mis diwethaf, soniodd WalesOnline am fam-gu o Gwmbrân a gafodd ddiagnosis o sglerosis ymledol yn 2014 sy'n dweud ei bod bellach yn dibynnu ar ganabis i leddfu ei symptomau, ar ôl bod ar nifer o feddyginiaethau presgripsiwn gyda sgil-effeithiau gwael. Fodd bynnag, wrth dynnu sylw at beryglon prynu canabis, nododd fod ffrind agos iddi a oedd yn dioddef o sglerosis ymledol wedi dioddef lladrad gan rywun yn ei bygwth â chyllell wrth geisio prynu canabis i drin ei chyflwr.

Yn ddiweddar, daeth nifer o etholwyr i gysylltiad â mi ynghylch y ddadl hon. Dywedodd un:

Mae gennyf MS ac rwy'n credu y gallai llawer o bobl sydd â salwch hirdymor ac sy'n byw gyda phoen elwa o ddefnyddio canabis.

Dywedodd un arall:

Rwy'n byw y tu allan i Wrecsam ac wedi bod yn dioddef o sglerosis ymledol ers 18 mlynedd bellach. Yn ddiweddar rwyf wedi gallu cael Sativex, sy'n fanteisiol iawn i mi. Fodd bynnag, ni chaiff ei roi ar bresgripsiwn ar gyfer poen, ac rwy'n deall bod y manteision o ddefnyddio canabis yn helpu'n fawr gyda hyn a symptomau eraill hefyd.

Yn gynharach, yn yr adeilad hwn, cyfarfûm â rhywun sydd wedi teithio o ogledd Cymru y deallaf ei fod yn dioddef o sglerosis ymledol ond nad yw'n defnyddio canabis am ei fod yn anghyfreithlon, ac mae eisiau'r hawl cyfreithiol i ddewis gwneud hynny i weld a yw'n lleddfu ei boen. Mae'n bresennol yma heddiw. Mae'n awyddus i glywed newyddion cadarnhaol oddi wrthym.

Fel y mae MS Cymru wedi dweud wrthyf, soniodd llawer o bobl nad oeddent yn defnyddio canabis i geisio rheoli symptomau eu cyflyrau yn syml iawn am nad ydynt yn gwybod ble i ddod o hyd iddo, a faint i'w gymryd pe baent yn llwyddo i ddod o hyd iddo.

Mae nifer gynyddol o wledydd yn rheoleiddio'r defnydd meddygol o ganabis a deilliadau canabis oherwydd cryfder y dystiolaeth—mae Canada, yr Iseldiroedd, Israel, a 29 o daleithiau yn Unol Daleithiau America yn rheoleiddio canabis gwair at ddiben meddygol. Mae nifer o wledydd eraill, gan gynnwys yr Almaen a'r Swistir, yn galluogi cleifion i fewnforio canabis at ddefnydd meddygol o'r Iseldiroedd. Dyma wledydd nad ydynt yn deddfu mewn materion o'r fath heb sylfaen dystiolaeth. Pasiwyd Bil Rheoleiddio Canabis at Ddibenion Meddyginiaethol Iwerddon 2016 yn y Dáil ar ddiwedd 2016 ac mae ar hyn o bryd yn y Cyfnod Pwyllgor. Yn y cyfamser, defnyddir trwyddedau ar sail achosion unigol gan Weinidog iechyd Iwerddon.

Mae ein cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi system o fewn y GIG yng Nghymru lle y gellid sicrhau bod canabis ar gael at ddibenion meddyginiaethol drwy bresgripsiwn i'r rheini a allai gael budd ohono. Un o'r safbwyntiau a ddefnyddir yn erbyn sicrhau bod canabis ar gael at ddibenion meddyginiaethol yw y byddem o bosibl yn gweld cleifion yn cael eu presgripsiynau ar gyfer canabis ac yn ei werthu ar y strydoedd. Fodd bynnag, fel y mae cyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru wedi datgan:

Ers fy amser gyda'r Gymdeithas MS, nid wyf erioed wedi clywed am unrhyw un sy'n byw gyda sglerosis ymledol sy'n casglu eu Oramorph neu unrhyw gyffur arall o ran hynny ac yn anelu at y gornel stryd agosaf i'w werthu!

Rwy'n tybio bod yr un peth yn wir am bobl â chyflyrau eraill mewn amgylchiadau tebyg.

Ym mis Hydref y llynedd, cyflwynodd yr AS Llafur dros Orllewin Casnewydd, Paul Flynn, Fil rheol 10 munud ar gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol yn San Steffan. Pasiwyd y Bil yn ddiwrthwynebiad i'r darlleniad nesaf ar 23 Chwefror 2018. Rwy'n ailadrodd: pasiwyd y Bil yn ddiwrthwynebiad. Fel y dywedodd,

Mae'r farn fyd-eang yn symud i gyfeiriad cyfreithloni canabis. Mae 29 o daleithiau yn America—y mwyafrif—eisoes wedi cyfreithloni canabis meddygol heb unrhyw broblemau. Ceir chwech neu saith o wladwriaethau yn Ewrop ble mae'n bosibl defnyddio canabis yn feddyginiaethol.

Ychwanegodd:

Os ydym yn cyfreithloni cyffuriau, rydym yn lleihau sgil-effeithiau drwy fynd â'r farchnad o ddwylo'r troseddwyr a'r twyllwyr, a rhoi'r cyffuriau hynny mewn marchnad gyfreithlon dan reolaeth meddygon gan ddefnyddio blaenoriaethau meddygol. Dyma'r gwersi o'r holl daleithiau yn America sydd wedi cymryd y cam hwn.

Aeth ymlaen:

Mae'n bryd inni arwain barn gyhoeddus yn hytrach na'i dilyn. Byddai'n weithred o dosturi a dewrder i ni basio'r Bil hwn a gwneud y newid bach iawn y mae'n ei argymell: symud canabis o atodlen 1 i atodlen 2.

Wedi'r cyfan, am ein bod yn derbyn bod yna bobl ag afiechydon gwanychol a phoen cronig sy'n ceisio lleddfu eu symptomau'n anghyfreithlon drwy ddefnyddio canabis, ac y byddai'n llawer gwell gan y mwyafrif ohonynt gael gafael ar feddyginiaeth ganabinoid ar bresgripsiwn yn gyfreithiol na chael eu gorfodi i ysmygu neu gael gafael ar sylweddau'n anghyfreithlon, mae canllawiau'r Cyngor Dedfrydu ar droseddau cyffuriau eisoes yn nodi amgylchiadau o'r fath fel ffactor lliniaru posibl. Am sefyllfa wallgof. Yn lle hynny, dylai Cymru gael system lle y gall canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai gael budd ohono. Felly, gadewch inni sicrhau bod hynny'n digwydd yn awr.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:07, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei frwdfrydedd wrth gyflwyno'r ddadl hon ac am yr hyn a ddywedodd hyd yma am y mater hwn? Nid oes dim a ddywedodd rwy'n anghytuno ag ef. Y newyddion da yw nad wyf am ailadrodd unrhyw ran ohono.

Yn gyntaf, a gaf fi ddweud beth nad yw'r ddadl hon yn ymwneud ag ef? Nid yw'n ymwneud â chyfreithloni canabis at ddibenion hamdden. Nid yw'n esgus cyfreithiol y gall rhywun sy'n cael eu dal â chanabis yn eu meddiant ei ddefnyddio, gan ddweud, 'O, mae yn fy meddiant am resymau meddyginiaethol.' Nid yw'n ymwneud â galluogi pobl i'w fewnforio drwy ddweud, 'Rwyf wedi dod ag ef i mewn am resymau meddyginiaethol.' Nid yw'n fater o: 'Rwy'n mynd i gymryd canabis; efallai y gallai fy helpu.' Nid yw'n ymwneud â hunanddosio â chanabis. Yn sicr nid yw'n ddull o gyfreithloni canabis drwy'r drws cefn. Mae a wnelo ag ymddiried yn ein hymarferwyr meddygol i roi'r cyffur ar bresgripsiwn os ydynt yn credu y bydd o fudd i'r claf.

I mi, y pwynt allweddol, ac un y gofynnais i Mark Isherwood ei gynnwys cyn cefnogi'r cynnig, yw:

'nodi sut y gellid sicrhau bod system o fewn GIG Cymru lle y gallai canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai elwa ohono.'

I mi, y geiriau allweddol yw 'drwy bresgripsiwn'. Mae'n rhaid iddo fod drwy bresgripsiwn, sy'n golygu y gall person sy'n gymwys yn feddygol ac sy'n cael ysgrifennu presgripsiwn ei roi ar bresgripsiwn. Ni all unrhyw un arall ei roi ar bresgripsiwn na dweud wrth rywun-rhywun, 'Rwy'n credu y gallwch elwa o ychydig bach o ganabis. Dywedwch hynny a gallech ddod ohoni'n ddi-gosb.' Mae'n ymwneud â sicrhau y gallwn ymddiried yn ein hymarferwyr meddygol.

Os na wnewch hynny, ac os nad oes gennych bresgripsiwn ar ei gyfer a'ch bod yn ei ddefnyddio, byddwch yn cael eich trin gan y llysoedd yn union fel y cewch eich trin yn awr. Yn San Steffan, fel y dywedodd Mark Isherwood, galwodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio'r polisi cyffuriau yn bendant iawn ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddygol yn seiliedig ar ganlyniadau eu hymchwiliad saith mis. Mae'r Gymdeithas MS, a oedd yn erbyn gwneud hynny, wedi newid ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol yng ngoleuni tystiolaeth gadarnhaol ynghylch defnyddio canabis i drin poen a sbastigedd. Mae hyn yn rhywbeth y mae rhai o fy etholwyr a phobl rwy'n eu hadnabod wedi bod yn gwneud achos drosto: mae iddo fanteision iechyd. Credaf mai dyna sy'n allweddol mewn gwirionedd. Mae pobl yn ei gymryd er budd iechyd, nid at ddibenion hamdden.

Lle mae'r cyffur rheoli symptomau canabinoid, Sativex, ar gael drwy'r GIG—ac mae Llywodraeth Cymru wedi mynd mor bell â hynny i sicrhau ei fod ar gael—nid yw ond wedi ei drwyddedu ar gyfer trin sbastigedd i nifer fach yn unig o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol. Rwy'n gofyn am sicrhau bod cyffuriau canabinoid ar gael lle mae ymarferwyr meddygol yn credu y gallant helpu. A fyddai hyn yn gosod cynsail gwael? Credaf mai dyna un o'r dadleuon a ddefnyddiwyd yn ei erbyn. Wel, gadewch i mi ofyn i chi beth sydd gan y cyffuriau canlynol yn gyffredin, ar wahân i fod ar gael i gleifion: morffin, thebäin, ocsicodon, hydrocodon, bwprenorffin, ocsimorffin a hydromorffin. Mae'r cyfan naill ai'n ddeilliadau naturiol neu'n ddeilliadau synthetig o opiwm, ac maent ar gael ar bresgripsiwn.

Nawr, mae rhai ohonom yn credu bod cyffuriau sy'n seiliedig ar opiwm yn llawer mwy difrifol a pheryglus na chanabis. Maent ar gael ac mae pobl yn cael morffin—mae llawer o bobl yn cael morffin tuag at ddiwedd eu hoes er mwyn atal y boen. Yr hyn a wnawn yma yw gofyn am i gyffuriau canabinoid fod ar gael yn yr un modd i bobl sy'n dioddef o sglerosis ymledol i helpu i atal eu poen. Gadewch i ymarferwyr meddygol, nid gwleidyddion, benderfynu a fyddai cleifion yn elwa.

Yn olaf, nid wyf yn cefnogi cyfreithloni canabis at ddefnydd anfeddygol, a chyn i unrhyw un ofyn, na, nid wyf erioed wedi ysmygu canabis na'i gymryd ar unrhyw ffurf. Ond rwy'n annog yr Aelodau i ymddiried mewn ymarferwyr meddygol i bresgripsiynu cyffuriau canabinoid, fel y maent yn presgripsiynu opiadau, pan all fod o fudd i gleifion. Gadewch i'r ymarferwyr meddygol wneud y penderfyniad hwnnw, yn hytrach na'n bod ni yn ei wneud ar sail ein rhagfarnau.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 4:11, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw a'i noddi gyda chydweithwyr o sawl plaid yn y Siambr hon. Mae'n dilyn ymgyrchu effeithiol ar sail tystiolaeth gan Gymdeithas MS y DU ac eraill, a thrafodaethau gwerthfawr yn y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol. Mewn cyfarfod o'r grŵp hwnnw fis Hydref diwethaf, anogais gleifion a gwleidyddion i fwrw ymlaen i ymgyrchu ar hyn, ac rwy'n hapus i gynnig fy nghefnogaeth barhaus i'r ymgyrch honno heddiw.

Mae dosbarthiad cyffuriau yn rhywbeth sy'n cael ei benderfynu'n bennaf ar lefel y DU. Nawr, rwyf fi a'r bobl ar y meinciau hyn eisiau i'r sefyllfa honno newid; rydym am allu penderfynu'r materion hyn drosom ein hunain yma yng Nghymru. Ond yn y cyfamser, rwyf wedi dadlau y dylai Cymru fabwysiadu safbwynt ar hyn. Mae Sativex wedi bod yn cael ei drwyddedu ar gyfer ei ddefnyddio yma, ond mae mynediad ato'n anodd ac yn gyfyngedig. Mae gennym sefyllfa ehangach lle mae rhai pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol a chyflyrau eraill yn gorfod defnyddio canabis yn anghyfreithlon i helpu gyda'u symptomau. Rwyf wedi clywed tystiolaeth gan bobl sy'n gorfod prynu canabis mewn ffordd sy'n dal i fod yn anghyfreithlon yn dechnegol, a sefyllfa lle mae pobl ar eu pensiwn wedi gorfod dod o hyd i fasnachwyr sy'n gallu tyfu a gwerthu canabis, pan fo morffin, fel y mae pobl eraill wedi dweud—a heroin, i bob pwrpas, yw morffin—yn cael ei roi ar bresgripsiwn. Nawr, ni all hynny fod yn iawn, ac mae'n dangos pa mor wrthgynhyrchiol yw polisi cyffuriau yn y wlad hon ar hyn o bryd.

Siomedig oedd gweld Llywodraeth Cymru yn y cyfryngau heddiw yn defnyddio'r gwaharddiad fel esgus i beidio â rheoleiddio canabis. Fe ddyfynnaf Lywodraeth Cymru, a ddywedodd, drwy lefarydd, a dyfynnaf:

Nid defnyddio cyffur amrwd anghyfreithlon o ansawdd anhysbys yw'r ffordd rydym am ddarparu meddyginiaethau.

Lywydd, holl bwynt canabis meddyginiaethol yw nad yw mwyach yn gyffur amrwd anghyfreithlon, nid yw mwyach o ansawdd anhysbys, oherwydd gellir dod o hyd i ffynonellau priodol sy'n cael eu rheoleiddio a gellir deall y gwahanol fathau a'u mathau gwahanol o fudd yn briodol.

Ni fydd cadw'r gwaharddiad yn lleihau'r defnydd o ganabis, ond yn hytrach, bydd yn atal defnydd meddyginiaethol diogel wedi ei reoleiddio ac yn gwthio pobl sy'n parchu'r gyfraith tuag at farchnad anghyfreithlon. Dyna pam mai un cam clir ymlaen yw dad-droseddoli canabis at ddefnydd meddyginiaethol, ac mae'r cynnig heddiw yn nodi sut y gallai Cymru gefnogi newid o'r fath a pharatoi i hynny ddigwydd.

Mae'r ddadl ehangach ynglŷn ag a ddylid gwahardd cyffuriau a gwneud eu defnydd yn anghyfreithlon neu a ddylid eu rheoli a'u rheoleiddio fel bod modd eu defnyddio'n ddiogel yn dal i fod yn un sy'n rhaid inni ei chael. Ond mae gennym enghreifftiau yn y cynnig hwn o wledydd a thiriogaethau sydd wedi caniatáu'r newid hwn ar gyfer defnyddio canabis yn feddyginiaethol, a rhestrwyd y gwledydd hynny, ond daw Canada a'r Iseldiroedd i'r meddwl.

Nawr, rwy'n falch o weld cyfeiriad at yr adolygiad gan yr Athro Michael P. Barnes, yn deillio o'r grŵp trawsbleidiol yn San Steffan, ac mae'n bwysig gallu cadarnhau a rhoi cyhoeddusrwydd i'r dystiolaeth ynglŷn â sut y mae canabis yn helpu i reoli symptomau. Ar ôl ymchwiliad saith mis, canfu adolygiad Barnes dystiolaeth, a dyfynnaf:

Yn gyffredinol, ceir tystiolaeth dda o blaid y defnydd o ganabis mewn llawer o gyflyrau pwysig sy'n effeithio ar filoedd lawer o bobl anabl.

Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl heddiw yn arwain at ganlyniad lle y gall Llywodraeth Cymru fabwysiadu safbwynt ffurfiol ar hyn bellach. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU o blaid caniatáu canabis at ddefnydd meddyginiaethol. Yna dylai nodi sut  y gellid cynhyrchu presgripsiynau ar gyfer y bobl sydd ei angen, ac o fethu gwneud hynny, os nad yw'r Llywodraeth yn awyddus i gynhyrfu'r dyfroedd neu fod yn feiddgar, beth am gynnig cyfarfod â'r Athro Barnes a chlywed crynodeb o'r dystiolaeth honno? Drwy adeiladu'r achos ac anfon neges y gallai cleifion o Gymru elwa o'r triniaethau hyn, gallwn helpu i ennill y ddadl ar lefel y DU lle mae penderfyniadau ar ddad-droseddoli yn dal i gael eu gwneud.

Mae'r Cynulliad yma i fod yn radical, i gymryd camau sy'n helpu dinasyddion Cymru i wneud gwahaniaeth ymarferol a gwirioneddol i fywydau pobl. Weithiau, gall yr hyn sy'n ymddangos yn radical iawn fod yn ddim mwy na synnwyr cyffredin mewn gwirionedd. Diolch yn fawr.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:16, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Mark, Leanne, Mike a Rhun am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae llawer o fanteision meddyginiaethol i ganabis. Gellir ei ddefnyddio i reoli poen, trin sbastigedd, helpu gyda sgil-effeithiau cemotherapi, a dengys astudiaethau newydd y gall helpu i reoli ffitiau epileptig mewn plant. Fodd bynnag, nid ydym ond megis dechrau deall y manteision posibl y gall canabis eu darparu, ac rwy'n croesawu'r ymchwil ehangach i'w ddefnydd at ddibenion meddyginiaethol.

Eto i gyd, ni allaf gefnogi ailddosbarthu canabis, yn union fel na fuaswn yn cefnogi ailddosbarthu opiwm neu heroin, er y gallai fod iddynt ddiben meddyginiaethol hefyd. Yn anffodus, mae nifer o ffyrdd y gall ysmygu canabis beri niwed. Nododd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint fod mwg canabis yn garsinogen a gwelodd hefyd fod ymwybyddiaeth o'r perygl yn isel iawn, gyda 40 y cant o rai dan 35 oed yn meddwl nad oedd canabis yn niweidiol wrth ei ysmygu. Mae astudiaethau wedi canfod bod THC, y prif sylwedd seicoweithredol yn y planhigyn canabis, yn gallu achosi nam gwybyddol, yn enwedig o'i gymryd dros gyfnod hir—

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 4:17, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hyn os gwelwch yn dda?

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Iawn, wrth gwrs.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

O'r hyn rwy'n ei gasglu, rydym yn sôn am y cyffur Sativex, ac rwy'n ei gefnogi'n llwyr. Rwy'n cytuno â chi ar hyn. Pan ydych yn sôn am—mae hwn yn ymyriad dieithr i mi; rwy'n newydd, iawn. Pan ydych yn sôn am ysmygu canabis, nid yw'n fater o ysmygu canabis fel pe baech yn ysmygu sigarét.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:18, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rydych chi'n cymryd tipyn o amser.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf. Ceir cyffuriau eraill sy'n seiliedig ar ganabis, fel olew canabis a'r holl ganabinoidau hynny ac—.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Rwy'n deall.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i chi. Nid ag ysmygu'n unig y mae'n ymwneud.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Popeth yn iawn; croeso.

Mae astudiaethau wedi canfod bod THC, y prif sylwedd seicoweithredol yn y planhigyn canabis, yn gallu achosi nam gwybyddol, yn enwedig o'i gymryd dros amser hir. Mae tystiolaeth feddygol ddiweddar yn awgrymu'n gryf fod defnydd hirdymor o ganabis gan bobl sy'n dechrau ei ddefnyddio yn gynnar—maent yn arddangos tueddiad uwch o gael problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol a datblygiadol eraill. Yn ôl astudiaeth gan Northwestern Medicine yn 2014, pan fydd rhywun yn dechrau defnyddio canabis yn ei arddegau, gall effeithio'n sylweddol ar ddatblygiad yr ymennydd, gan gynnwys llai o weithgaredd ymenyddol, llai o ffibrau niwral mewn rhai mannau a hipocampws, sy'n rheoli gweithrediadau dysgu a chofio, llai o faint na'r cyfartaledd.

Yn fy mlynyddoedd yn gweithio yn y gwasanaeth carchardai, gwelais â'm llygaid fy hun y niwed sy'n gysylltiedig ag ysmygu canabis yn hirdymor. Roedd llawer o'r bobl ifanc yn dioddef paranoia, gorbryder, problemau cof a phroblemau eraill o'r fath. Felly mae angen rhagor o ymchwil i ddefnyddio canabis yn hirdymor, a'i effeithiau ar bobl ifanc yn enwedig, cyn y gallwn ddweud ei bod yn ddiogel ei ailddosbarthu at ddefnydd meddygol.

Mae'r Gymdeithas MS yn dweud nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd, i awgrymu y gall ysmygu canabis drin sbastigedd neu boen sglerosis ymledol a gall ysmygu effeithio'n negyddol ar sglerosis ymledol yr unigolyn.

Felly, mae angen inni ganolbwyntio ar dynnu'r manteision o'r planhigyn canabis, gan liniaru'r niwed posibl ar yr un pryd. Y brif broblem gyda chanabis yw cymhlethdod y cynhwysion gweithredol, yr amrywiad enfawr a geir yn y lefelau o gyfansoddion rhwng rhywogaethau o blanhigion, y cyltifarau amrywiol, a hyd yn oed o un planhigyn i'r llall. Er y gellid datblygu math penodol o blanhigyn, neu gyltifar, i gynyddu'r manteision meddygol a chyfyngu ar yr effeithiau seicoweithredol, nid oes unrhyw sicrwydd fod y cymysgedd o gynhwysion gweithredol yr un fath o un cnwd i'r llall. Nid oes amheuaeth—. [Torri ar draws.] Nid un arall, mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n brin o amser.

Nid oes dadl ynghylch y manteision enfawr y gall canabinoidau amrywiol eu cynnig ar gyfer trin nifer o gyflyrau. Credaf fod rhaid inni weithio ar ynysu'r cyfansoddion hynny. Yn y DU, rydym yn trwyddedu Sativex, deilliad o ganabis, i drin symptomau sglerosis ymledol. Yn yr Unol Daleithiau hefyd, crëwyd canabinoidau ychwanegol i drin sgil-effeithiau cemotherapi. Rwy'n gobeithio gweld y gwaith hwnnw'n cyflymu.

O ystyried y mathau o niwed posibl a'r sylfaen dystiolaeth gyfyngedig ynglŷn ag effeithiolrwydd ysmygu canabis at ddibenion meddygol, ni allaf gefnogi cyfreithloni canabis meddygol ar hyn o bryd. O'r herwydd, byddaf yn ymatal ar y cynnig heddiw, er y bydd gan yr Aelodau eraill yn fy mhlaid bleidlais rydd ar hyn. Edrychaf ymlaen at ymchwil newydd i'r defnydd meddygol o ganabis, ac os gellir dangos bod y manteision yn gwrthbwyso'r niwed posibl yn sylweddol, buaswn yn hapus i gefnogi ailddosbarthu'r cyffur ar y cam hwnnw. Diolch yn fawr.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 4:21, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf yn unig, gofynnais y cwestiwn hwn i'r Gweinidog, ac rwy'n falch iawn ein bod, o fewn wythnos, yn trafod y mater. Mae dros 100,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o sglerosis ymledol. Ym mis Ionawr 2016, roedd nifer y bobl sy'n dioddef o sglerosis ymledol yng Nghymru yn 4,260, a bob blwyddyn, mae 200 o bobl eraill yn cael diagnosis o'r cyflwr. Nid oes modd rhagweld sut y bydd sglerosis ymledol yn datblygu ac mae'n wahanol i bawb. Mae'n aml yn boenus ac yn flinderus iawn. Yn syml, gall ei gwneud yn amhosibl i ymdopi â bywyd bob dydd. Mae triniaethau ar gael, ond nid ydynt yn gweithio i bawb.

Mewn rhai achosion, gwyddom y gall cyfansoddion canabis helpu i leddfu poen. Yn y Deyrnas Unedig, sglerosis ymledol yw'r unig gyflwr y ceir triniaeth drwyddedig ar ei gyfer yn deillio o ganabis. Mae Sativex ar gael ar hyn o bryd drwy'r GIG yng Nghymru, ond nid mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gwelais fanteision Sativex drosof fy hun yn ddiweddar mewn neges a gefais gan etholwr. Lywydd, rwyf am ddarllen y nodyn gan fy etholwr. Mae'n dweud, 'Rwyf wedi bod yn dioddef o sglerosis ymledol ers 2003. Rwy'n dioddef o sbastigedd, gwayw yn y cyhyrau a phoen, ac rwy'n cymryd morffin a morffin hylif at y pethau hyn bob dydd. Yn bwysicach, rwy'n cymryd Sativex, ac wedi bod yn gwneud hynny er pan oeddwn yn gaeth i'r gwely am chwe mis ychydig flynyddoedd yn ôl. Ni allaf esbonio cymaint o help oedd y cyffur hwn i mi, gan fy mod yn gwneud pob ymdrech i beidio â bod yn fy nghadair olwyn drwy'r amser. Mae'n helpu gyda fy sbastigedd a gwayw yn y cyhyrau, ac ni allaf esbonio cymaint gwaeth oedd hi cyn i mi ddechrau ar y cyffur. O'r blaen, rhoddais gynnig hefyd ar ganabis arferol ac wynebu'r risg o gael fy erlyn, a gallaf gymharu'r ddau, ac yn amlwg, nid yw mor gryf â'r Sativex. Rwyf fi'n bersonol yn ffodus gan fy mod yn ateb y meini prawf. Mae llawer o bobl eraill sy'n dioddef o sglerosis ymledol yn gorfod wynebu'r risg o gael eu herlyn, fel y gwneuthum innau hefyd, pan oeddwn mewn cymaint o boen fel nad oeddwn yn gwybod beth arall i'w wneud. Os ydych mewn poen eithafol am ddigon o amser, rwy'n meddwl ei fod yn torri'r person cryfaf ar ôl rhai blynyddoedd. Felly, cefnogwch y Bil hwn gan nad ydych yn gwybod cymaint o wahaniaeth y gallwch ei wneud i ddioddefwyr sglerosis ymledol yng Nghymru.' Dyna ddiwedd ei neges.

Rwy'n meddwl ei bod yn dweud popeth, Lywydd, ac mae hwn, mi gredaf, yn bwynt hollbwysig. Mae aelodau'r cyhoedd sy'n parchu'r gyfraith yn cael eu gyrru i dorri'r gyfraith er mwyn lleddfu eu poen yn y wlad wâr hon, neu yn y byd gwâr hwn. Mae'n anfoesol tu hwnt. Mae'n bryd caniatáu canabis at ddibenion meddygol. Ar hyn o bryd, ni ellir cael canabis heblaw gan gangiau anghyfreithlon sy'n gwthio cyffuriau caled hefyd. Felly, rydym yn gyrru defnyddwyr cyffuriau meddal i freichiau gwerthwyr cyffuriau caled.

Mae llawer o wledydd eraill, fel yr Almaen a Chanada—fel y mae fy nghyd-Aelodau eisoes wedi crybwyll—wedi caniatáu canabis at ddefnydd meddygol. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, mae hyd yn oed Califfornia yn yr Unol Daleithiau wedi ei gyfreithloni am resymau meddygol. Mae Iwerddon hefyd yn ystyried dilyn y trywydd hwn. Rhaid i Gymru arwain ar hyn, Lywydd. Mae'n bryd lleddfu poen a dioddefaint pobl â sglerosis ymledol yng Nghymru.

Yr wythnos hon, mae gennyf arolwg ar y cyfryngau cymdeithasol, ar y rhyngrwyd—ar Twitter. Y prynhawn yma, 14:30, roedd 70 y cant o fy nilynwyr yn cytuno y dylai canabis gael ei gyfreithloni yng Nghymru. Anghofiwch Lundain a phawb, gwnaethom hyn yn gyfraith yma, ac mae 70 y cant yn nifer dda yn ne-ddwyrain Cymru. Os gwnewch arolwg ar gyfer y wlad gyfan, Cymru, rwy'n eithaf siŵr y gwelwch y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cefnogi caniatáu i ganabis gael ei ddefnyddio ar sail feddygol a lleddfu poen y bobl sy'n cael y cyffur anghyfreithlon, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol ac anfoesol. Dylem eu helpu ym mhob modd. Diolch.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:26, 17 Ionawr 2018

Rydw i'n falch iawn o fod yn cefnogi'r ddadl yma heddiw. I mi, mae o'n fater syml iawn, iawn. Pan fydd pobl yn dioddef salwch sydd â symptomau nad sydd gan y rhan fwyaf ohonom ni ddim syniad am eu difrifoldeb nhw, na sut maen nhw'n dod â bywyd bob dydd i stop; lle mae byw efo afiechyd yn boen gwirioneddol sydd yn parlysu rhywun neu sy'n gwneud i fywyd deimlo fel bod o ddim werth ei fyw; lle nad ydy cwsg byth yn dod nos, ar ôl nos, ar ôl nos; rydw i'n meddwl y dylai popeth posib gael ei wneud i leddfu y dioddefaint hwnnw.

Beth rydym ni'n ei drafod y prynhawn yma ydy'r hawl i ddefnyddio canabis fel arf i leddfu poen neu ddioddefaint. Mae canabis, wrth gwrs, yn air sydd yn ddadleuol. Mae'r ddadl am gyfreithloni neu ddad-griminaleiddio canabis ar gyfer defnydd hamdden yn un sydd wedi bodoli ers degawdau lawer. Mae yna safbwyntiau cryf iawn ar ddwy ochr y ddadl honno. Ond, heddiw, a gaf i apelio ar bobl i roi eu barn yn y ddadl honno i'r naill ochr? Nid ydym ni'n sôn am hynny heddiw. Sôn yr ydym ni am gyffur yn yr ystyr feddygol, a dim arall. Ni ddylai'r ffaith bod y cyffur hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun gwahanol gan rai pobl ddim fod yn rhwystr i edrych ar werthoedd canabis fel cyffur meddygol. 

Mae Aelod Ceidwadol Gorllewin Clwyd—rydw i'n falch o'i weld o yn y Siambr y prynhawn yma—yn un sydd, yn y gorffennol, wedi cymysgu rhwng y ddau beth. Darllenais i erthygl yn ddiweddar lle roedd o'n cael ei ddyfynnu yn dweud:

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:28, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae canabis, pa un a yw'n cael ei ddefnyddio at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion hamdden, yn sylwedd peryglus a fyddai'n arwain at ganlyniadau trychinebus i iechyd ac i gymdeithas pe bai'n cael ei gyfreithloni.

Fodd bynnag, ni allwch hepgor yr ymadrodd at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion hamdden fel pe bai'r ddau yr un fath, oherwydd nid ydynt, a dyna yw fy apêl heddiw ac wrth gwrs, rwy'n croesawu ymyriad.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:29, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Ysgrifennais yr erthygl honno am fy mod yn pryderu bod gan nifer cynyddol o bobl ddiddordeb yn y defnydd o ganabis amrwd at ddibenion meddyginiaethol. Gwrthwynebaf y defnydd o ganabis amrwd at ddibenion meddyginiaethol. Nid wyf, fodd bynnag, yn gwrthwynebu'r defnydd o gyffuriau sy'n deillio o ganabis sy'n effeithiol yn glinigol ac sy'n gallu lleihau'r mathau o symptomau rydych chi ac eraill yn y Siambr wedi bod yn eu disgrifio y prynhawn yma. Mae gennym gyffur ar gael yng Nghymru y bûm yn ymgyrchu dros ei ganiatáu, a phe bai cyffuriau eraill yn pasio drwy'r felin reoleiddiol oherwydd y gwelir eu bod yn lleddfu dioddefaint yn effeithiol, a'u bod yn deillio o ganabis, ni fyddai gennyf unrhyw broblem gyda'r rheini chwaith. Ond yr hyn rwy'n ei wrthwynebu yw argaeledd cynyddol o ganabis amrwd, a chredaf y gallai ac y byddai camddefnydd ar hynny, ac y byddai'n beryglus yn ein cymdeithas yng Nghymru.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:30, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r ymyriad, ond hoffwn nodi mai'r hyn y byddem yn siarad amdano yma yw canabis amrwd wedi ei reoleiddio o bosibl, a fyddai'n fwy diogel o lawer, wrth gwrs, a byddai modd ei roi ar bresgripsiwn. Dyna holl bwynt yr hyn rydym yn sôn amdano. Rwyf am ymdrin â phwynt a wnaed mewn ymyriad hefyd gan yr Aelod UKIP dros Orllewin De Cymru, a siaradodd am ysmygu canabis. Pwy sy'n sôn am ysmygu canabis yma? Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gallu gweld y gwahaniaeth hwnnw. Ond mae'n amherthnasol i'r ddadl heddiw a yw Darren Millar neu unrhyw un arall yn gywir neu'n anghywir ynghylch peryglon canabis fel cyffur hamdden, gan nad ydym yn sôn am hynny; gobeithio fy mod wedi gwneud hynny'n glir. Ac yn wir, ceir digon o enghreifftiau, wrth gwrs, o gamddefnyddio cyffuriau presgripsiwn. Nid ydych, o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau presgripsiwn, yn gwahardd y cyffuriau presgripsiwn hynny sydd ag effeithiau buddiol profedig pan gânt eu defnyddio yn y ffordd gywir. Yr hyn rydych yn ceisio ei wneud yw tynhau'r rheolaeth ar y cyffuriau hynny—yn hollol. Mae'n ymddangos i mi fod canabis yn cael ei drin yn y ffordd gwbl groes i hynny. Caiff ei ddefnyddio at ddibenion hamdden ar raddfa eang, ac er bod iddo effeithiau buddiol yn feddyginiaethol, ni chaniateir ei ddefnyddio i'r perwyl hwnnw.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:31, 17 Ionawr 2018

Mae'r dystiolaeth yn glir, rydw i'n credu, neu yn sicr mi ydw i wedi cael fy argyhoeddi. Yn 2016, fel rydym ni wedi clywed, mi gyhoeddwyd canlyniadau saith mis o ymchwil gan bwyllgor trawsbleidiol yn San Steffan. Mae'r ymchwiliad hwnnw, yn ei dro, wedi ei seilio ar adolygiad byd-eang o dystiolaeth, a'r argymhelliad clir iawn oedd y dylid cyfreithloni canabis at ddibenion meddygol.

Mae hi yn bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod ni'n llunio deddfwriaeth neu ddod i farn, fel rydym ni eisiau ei wneud heddiw, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yma mae'r dystiolaeth gennym ni, rydw i'n credu. Mi wnaeth Cymdeithas MS edrych ar y dystiolaeth yn ofalus iawn, iawn cyn penderfynu newid eu polisi ar hyn, a bellach maen nhw yn gefnogwyr brwd ac yn ymgyrchwyr brwd dros ddad-gyfreithloni at ddibenion meddygol. Pam? Oherwydd eu bod nhw'n gwybod am y manteision. Maen nhw'n delio yn ddyddiol â phobl sy'n chwilio am ffyrdd i liniaru effeithiau afiechyd creulon. Gadewch i ni, fel Cynulliad, hefyd edrych yn wrthrychol ar y dystiolaeth a rhoi ein cefnogaeth ni i'r unigolion hynny a fyddai'n elwa o'r newid synhwyrol hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:32, 17 Ionawr 2018

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, a'r ystyriaeth y maent wedi ei rhoi i'r cysyniad o ddarparu canabis gwair i gleifion at ddefnydd meddyginiaethol. Rwy'n cydnabod y diddordeb diffuant a thrawsbleidiol yn y pwnc hwn, ac mae wedi bod yn ddadl synhwyrol iawn yn fy marn i am—. Ond cyn i mi fynd at graidd ymateb y Llywodraeth, rwyf am gydnabod bod mwy nag un rheswm dros gael y dadleuon hyn gan Aelodau. Mae rhywbeth ynglŷn â dweud yn bendant eich bod am i'r Llywodraeth wneud rhywbeth yn awr, ac efallai y bydd rhai pobl am i hynny ddigwydd yn bendant, ac efallai y bydd eraill am wneud yn siŵr fod dadl gyhoeddus yn parhau ynglŷn â defnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol a sut y gellir datblygu hynny. Ond i mi fy hun ac o safbwynt y Llywodraeth, mae'r cynnig yn darparu rhywbeth i feddwl yn ei gylch, a hefyd, yn ymarferol, i mi mae'n creu mwy o gwestiynau nag o atebion. Ac rwy'n derbyn, wrth gwrs, fod yna beth tystiolaeth y gall canabis neu ei ddeilliadau chwarae rôl yn rheoli poen cronig, gorbryder, sbastigedd a chyfog a chwydu yng nghyd-destun cemotherapi. Ac yn hanesyddol, wrth gwrs, defnyddiwyd trwyth canabis at boen ochr yn ochr â lodnwm ac opiwm. Fodd bynnag, rydym bellach yn llawer mwy ymwybodol o sgil-effeithiau niweidiol cyffuriau o ansawdd gwael nad ydym yn eu deall yn dda, ac mae'n well gennym ddefnyddio meddyginiaethau diogel ac wedi'u rheoleiddio. Ac rydym am i bobl gael mynediad at feddyginiaethau trwyddedig, effeithiol i liniaru'r cyflyrau hyn yn hytrach na bod pobl yn troi at gyffuriau sy'n anghyfreithlon ar hyn o bryd, ac o darddiad, cryfder neu burdeb sy'n anhysbys.

Credaf ei bod yn deg gwneud sylwadau ar beth o'r dryswch ynghylch diben yr hyn a ofynnir i ni heddiw, oherwydd, mewn gwahanol gyfraniadau gan gefnogwyr y cynnig, rydym wedi clywed y gwahaniaeth rhwng, dyweder, canabis gwair a chaniatáu hwnnw at ddefnydd meddyginiaethol, neu'r defnydd o ddeilliadau canabis, neu fel y nodwyd sawl gwaith, cyffuriau canabinoid. Hoffwn egluro: nid wyf yn meddwl, o safbwynt y Llywodraeth, mai dadl am ddad-droseddoli yw hon mewn gwirionedd. Ceir problemau gwahanol gyda chyfreithloni canabis. Credaf fod hyn yn ymwneud mewn gwirionedd ag a ddylech ei ganiatáu at ddiben penodol ac os felly, ar ba ffurf. Felly, nid yw'n ymwneud â gwahardd deilliadau canabis mewn meddyginiaeth drwyddedig.

Ond rwy'n falch, yng nghwrs y cynnig, fod yr Aelodau wedi cydnabod mai'r Llywodraeth hon yw'r unig weinyddiaeth yn y DU sydd wedi argymell defnyddio Sativex i drin symptomau sbastigedd sglerosis ymledol, megis gwayw a chramp. Efallai ei bod hi'n werth atgoffa'r Aelodau pam a sut y gwnaethom hynny: oherwydd bod y gwneuthurwr wedi rhoi cryn dipyn o amser, arian ac ymdrech tuag at ddatblygu Sativex, y feddyginiaeth gyntaf yn y byd sy'n deillio o ganabis. Roedd yn rhaid i'r cwmni gynhyrchu meddyginiaeth ddiogel ac effeithiol i fodloni safonau modern, ac felly dilynodd yr union yr un weithdrefn drwyadl ag sy'n ofynnol ar gyfer datblygu pob meddyginiaeth newydd sydd i'w defnyddio yn y DU. Ac roedd hynny'n cynnwys nodi pa rai o'r 60 o ganabinoidau a chemegion eraill sy'n bresennol mewn canabis a allai weithredu i leihau poen. Ar y pwynt hwnnw, mae'n werth crybwyll bod effeithiau fferyllol llawer o'r rhain yn dal i fod yn anhysbys. Ar ôl eu nodi, roedd y camau datblygu wedyn yn cynnwys sefydlu'r cyfuniad mwyaf effeithiol o'r cemegau a phrofion cynnar am wenwyndra cyn symud ymlaen i'r cam treialu clinigol. Mae'r cyfnodau treialu clinigol o reidrwydd wedi eu rheoleiddio'n llym i ddiogelu'r gwirfoddolwyr y cynhelir y profion arnynt a'r boblogaeth o gleifion posibl yn dilyn hynny. Mae'n werth nodi yr amcangyfrifir mai pedwar yn unig o bob 100 o feddyginiaethau a ddatblygir gan gwmnïau fferyllol sy'n cyrraedd y farchnad yn y pen draw.

Yn y DU, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yr MHRA, a drwyddedodd Sativex ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU ym mis Gorffennaf 2010. Un rhan yn unig o sicrhau ei fod ar gael yn y GIG yw hynny, gan nad ydynt yn awdurdodi trwydded neu awdurdodiad marchnata oni fyddant yn fodlon fod y feddyginiaeth yn ddiogel ac yn trin y cyflwr a dargedir. Wedyn, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru yn arfarnu meddyginiaethau newydd drwy gymharu eu heffeithiolrwydd clinigol a'u costeffeithiolrwydd â thriniaethau presennol sydd eisoes ar y farchnad. Nawr, nid yw NICE yn argymell Sativex ar gyfer trin sbastigedd mewn sglerosis ymledol ar sail costeffeithiolrwydd ar hyn o byd—felly, nid effeithiolrwydd, ond costeffeithiolrwydd. O ganlyniad, nid yw ar gael fel mater o drefn i gleifion y GIG yn Lloegr, ond gofynnodd Llywodraeth Cymru i Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru gynnal arfarniad o Sativex, a gwnaethant ei argymell i ni ym mis Awst 2014. Gwnaeth fy rhagflaenydd yn siŵr ei fod ar gael yng Nghymru o'r adeg honno, lle roedd yn briodol yn glinigol. Gwn fod heriau wedi bod gyda sicrhau bod Sativex ar gael yn briodol i'r holl bobl a allai ac a ddylai elwa, ond nid oes gan hynny ynddo'i hun ddim i'w wneud â'r ffaith ei fod yn deillio o ganabis. Ceir her ehangach yr ydym yn ceisio ei goresgyn o fewn y Llywodraeth ynglŷn â sicrhau bod y meddyginiaethau newydd a argymhellir ac a ganiateir ar gael yn briodol wedyn i'r holl bobl fel sy'n briodol yn glinigol.

Dyma sy'n sail i'n dull gweithredu, nid yn unig yma heddiw yn yr un achos hwn, ond ynghyd â'r broses arfarnu, ac yn wir yr adolygiad a gawsom o broses cyllido ceisiadau cleifion unigol yn ogystal, ein bod eisiau ac y byddwn yn parhau i ddefnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth i benderfynu pa feddyginiaethau a allai ac a ddylai fod ar gael yn y GIG yma yng Nghymru.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:37, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am ildio. Rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod Sativex ar gael ar gyfer trin cyflyrau meddygol. Onid yr hyn sy'n allweddol i'r cynnig hwn, fodd bynnag, yw'r broblem nad yw ar gael i'r holl bobl sydd ei angen, efallai oherwydd bod problemau cyflenwi, costau—beth bynnag y gallai fod—ac ar hyn o bryd mae pobl yn dod yn droseddwyr am eu bod yn gorfod defnyddio canabis ar ei ffurf amrwd, fel y nodwyd, oherwydd nad yw ar gael? Ni ddylai'r bobl hynny gael eu gwneud yn droseddwyr am fod ganddynt salwch a'u bod yn chwilio am driniaeth nad yw ar gael iddynt drwy'r GIG ar hyn o bryd.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:38, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn meddwl bod hwnnw'n ddisgrifiad teg o'r ffordd y mae meddyginiaethau yn dod ar gael yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae yma her o ran dweud, 'Ceir angen nas diwallwyd', a 'Sut rydym yn sicrhau bod cynnyrch trwyddedig, diogel, effeithiol ar gael yn y gwasanaeth iechyd gwladol ar gyfer gwneud hynny?', a dweud yn syml, 'Yr ateb yw sicrhau bod canabis ar gael yn feddyginiaethol'. Fe ddof at rai o'r heriau hynny, ond daeth Sativex i fod ar gael am ei fod wedi cyflawni pob un o'r meini prawf hynny: y profion diogelwch ac effeithiolrwydd ar gyfer trwyddedu, ac yna, yn ail, fe basiodd y feddyginiaeth y broses arfarnu drwyadl—

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

—a dyna yw'r dull mwyaf gwyddonol a diduedd o sicrhau bod cleifion yn cael meddyginiaethau sy'n ddiogel ac yn effeithiol.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:39, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yn fyr iawn—a diolch am dderbyn yr ymyriad—oni fyddai dileu rhwystr cyfreithlondeb yn helpu i hwyluso'r ffordd tuag at ddod o hyd i ddulliau o ddefnyddio canabis mewn ffordd feddyginiaethol?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Ni chredaf fod hynny'n wir, mewn gwirionedd. Fe geisiaf egluro pam yn yr amser sy'n weddill. Oherwydd yr hyn y mae'r cynnig yn dadlau drosto yw'r defnydd o ganabis gwair ac osgoi ein prosesau rheoleiddio ac arfarnu hirsefydledig ac uchel eu parch. Mae'r prosesau hynny ar waith i ddiogelu cleifion a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar driniaethau clinigol profedig a chosteffeithiol. Heb sail dystiolaeth, heb eglurder ynghylch purdeb, dos a chryfder ac amgylchiadau triniaeth, byddem hefyd yn rhoi'r rhai sy'n presgripsiynu mewn sefyllfa anghynaliadwy. Oherwydd mae'n rhaid i chi ddeall, os nad ydych yn mynd i gael y cyffur sy'n deillio o ganabis y gallwch ei gael ar hyn o bryd—. Nid yw'r ffaith nad yw canabis ei hun yn gyffur hamdden cyfreithlon yn gwneud unrhyw wahaniaeth i hynny. Mae'n ymwneud â'r gallu i ynysu'r canabinoidau a'u profi mewn proses drylwyr, ddiogel a gwneud yn siŵr eu bod yn gosteffeithiol hefyd. Dyna'r unig rwystr i ganiatáu i ganabinoidau fod ar gael ar ffurf cyffur yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Os ydych chi wedyn yn sicrhau bod ffurf amrwd ar y cyffur ar gael, neu ganabis gwair, yna ni allwch wybod pa mor gryf yw hwnnw. Ni allwch wybod ar gyfer pa gyflwr y byddech yn presgripsiynu a'r cryfder ar gyfer y cyflwr penodol hwnnw hefyd. Mae'n her ymarferol, yn hytrach na gwrthwynebiad egwyddorol i ganabis meddyginiaethol, a dyna'r pwynt. Mae'n ymwneud â sut yr arferwn ddull gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth wirioneddol i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael yn y gwasanaeth iechyd. [Torri ar draws.] Nid wyf yn gwybod a fydd y Llywydd yn caniatáu mwy o amser i mi dderbyn ymyriad arall.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Rhaid imi ddweud, caf fy hun mewn sefyllfa anarferol o gytuno â bron bob gair rydych wedi eu dweud. Un peth y credaf y byddai'n eithriadol o bwysig yw rhagor o ymchwil i fanteision canabis a rhai o'r dibenion meddyginiaethol y gellir ei ddefnyddio ar eu cyfer. Tybed, Weinidog, a oes unrhyw waith y gallech ei wneud, efallai gydag AWMSG a chwmnïau fferyllol, i helpu i ynysu rhai o'r cemegau allweddol hyn yn y planhigyn canabis a allai fod yn fuddiol i iechyd pobl o ran lleddfu symptomau. A yw hynny'n rhywbeth y gallech ei wneud fel Llywodraeth Cymru?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:41, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu gall y rhannau nesaf yn fy nghyfraniad helpu gyda hynny. Dywedais yn gynharach fod gweithgynhyrchwyr Sativex wedi gorfod nodi 60 o ganabinoidau gwahanol, cyn mynd drwy'r rhai a fyddai'n helpu gyda chyflyrau penodol. Mae gwneuthurwr Sativex yn datblygu tair meddyginiaeth newydd sy'n seiliedig ar ganabis i helpu i drin epilepsi, sgitsoffrenia a chyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth. Mae 18 o feddyginiaethau pellach sy'n seiliedig ar ganabis wrthi'n cael eu datblygu gan weithgynhyrchwyr eraill i drin ystod o gyflyrau. Felly, dyma faes sy'n gyfoethog o ran ymchwil a'r potensial i ddeilliadau canabis fod ar gael ar ffurf ddiogel, drwyddedig ac effeithiol.

Nawr, nid yw'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y grŵp seneddol hollbleidiol na'r cynnig hwn yn dynodi'r costau sy'n gysylltiedig â chyflwyno system reoleiddio ar gyfer canabis gwair fel cynnyrch meddyginiaethol, na chostau sefydlu a rheoli corff rheoleiddio newydd, yn wir, ar gyfer goruchwylio'r gwaith o gynhyrchu, caffael a dosbarthu, ac maent yn seiliedig ar y costau o fonitro ei ddefnydd, gan gynnwys cofnodi ac ymchwilio i ddigwyddiadau niweidiol. Mae yna her yma ynglŷn â sut rydym yn dewis cyfarwyddo'r gwasanaeth iechyd gwladol neu bwyso arno i wario ei adnoddau. Ar hyn o bryd yn enwedig, ni allaf ddweud y byddai hyn yn flaenoriaeth i mi fel Gweinidog iechyd. Ond mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y gallwn fanteisio, yn union yn yr un modd ag y daw unrhyw feddyginiaethau newydd eraill i mewn i'r farchnad.

Rhaid i mi ddweud, i ymdrin â'r pwynt a wnaed am ddeddfwriaeth cyffuriau mewn gwledydd eraill, mae'n wir fod safbwynt gwahanol gan wledydd eraill. Ond mae safbwynt gwahanol gan wledydd eraill ar nifer o bynciau. Nid yw'r ffaith fod taleithiau yn Unol Daleithiau America yn gwneud hyn yn dweud bod yn rhaid i ni ddilyn. Mae llu o wahaniaethau rhyngom ac rwy'n dathlu hynny, a buaswn yn dathlu pethau sy'n debyg rhyngom yn ogystal. Ac nid wyf yn credu bod hwn yn fater ymgyrchu i gymryd lle ein dull gweithredu wedi ei arwain gan dystiolaeth ar gyfer meddyginiaethau newydd. Yn anffodus, byddai'r cynnig, pe bai'n cael ei weithredu, yn tanseilio ein dull cenedlaethol seiliedig ar dystiolaeth, ac rwyf am sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu triniaeth ddiogel ac effeithiol. Ar sail y rhesymau rwyf wedi'u nodi, ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig, a byddwn yn ymatal.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:43, 17 Ionawr 2018

Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:41, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Daeth Mike Hedges yn syth i mewn â phwynt allweddol: nid oes a wnelo hyn â chyfreithloni canabis at ddefnydd hamdden. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn ymddiried yn ein hymarferwyr meddygol i ddarparu presgripsiynau cyfreithiol o gyffuriau canabinoid pan fo cleifion yn gallu cael budd ohonynt. Fel y dywedodd Leanne Wood, yn dilyn ymgyrchoedd effeithiol ar sail tystiolaeth gan MS Cymru ac eraill, ynghyd â'r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, mae hi wedi cyrraedd safbwynt egwyddorol, sef bod pobl yn cael eu gorfodi i ddefnyddio canabis yn anghyfreithlon i reoli eu symptomau, eto caiff morffin—heroin i bob pwrpas—ei roi ar bresgripsiwn. Dywedodd fod hyn yn ymwneud ag atal pobl rhag gorfod cael cyffur amrwd yn anghyfreithlon—atal pobl rhag gorfod cael cyffur amrwd yn anghyfreithlon. Mae'r ddadl ehangach am gyffuriau yn ddadl wahanol, gan mai dadl iechyd yw hon.

Dywedodd Caroline Jones fod llawer o fanteision meddygol i ganabis, ond nid yw'n cefnogi ailddosbarthu. Dywedodd y gall THC mewn canabis achosi nam gwybyddol. Wel, mae'r planhigyn mariwana yn cynnwys dros 100 o gemegau, neu ganabinoidau, a phob un yn cael gwahanol effaith ar y corff. Y ddau brif gemegyn yw THC, y cyfeiriwyd ato, yr elfen sy'n cynhyrchu'r effaith benfeddw, a CBD, nad yw'n cynhyrchu unrhyw effeithiau seicoweithredol. Y pwynt penodol ynghylch canabis meddygol yw ei fod yn cynnwys lefelau uchel o CBD, ac nid THC.

Dywedodd Mohammad Asghar fod dros 100,000 o bobl yn y DU yn dioddef o sglerosis ymledol, gan gynnwys 4,260 yng Nghymru. Siaradodd am fanteision o Sativex ar gyfer sbastigedd, ond nododd hefyd fod llawer o bobl sy'n dioddef o sglerosis ymledol yn gorfod wynebu'r risg o gael eu herlyn er mwyn rheoli eu poen, a rhaid i Gymru arwain y ffordd ar hyn. Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn fater syml: dylid gwneud popeth posibl i liniaru dioddefaint. Nid yr un peth yw defnyddio canabis at ddibenion meddygol a'i ddefnyddio at ddibenion hamdden, a cheir digonedd o enghreifftiau presennol o gyffuriau presgripsiwn yn cael eu camddefnyddio, ond nid ydym yn gwahardd y rheini.

Teimlaf fod araith Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i raddau helaeth i'r hyn na ddywedais, yn hytrach nag ymateb yn seiliedig ar dystiolaeth i'r hyn y gwneuthum ei ddweud. Oherwydd bod yr Unol Daleithiau, neu rai taleithiau yn yr UDA yn ei wneud, meddai, nid yw'n golygu bod rhaid i ni ei wneud. Ond mae'n fwy na'r Unol Daleithiau; rhestrais nifer o enghreifftiau eraill ledled y byd. Y pwynt yw bod hyn yn dod yn norm yn fyd-eang. Rydym yn cael ein gadael ar ôl. A dywedodd fod y cynnig hwn yn creu mwy o gwestiynau nag o atebion. Felly, a gaf fi ofyn iddo: a fyddai'n cytuno i gyfarfod â chynghorwyr meddygol, i ategu'r sylw a wnaeth Leanne Wood, gan gynnwys yr Athro Barnes, i drafod y dystiolaeth hyd yma ar ganabis at ddibenion meddyginiaethol? Mae pawb ohonom wedi clywed am waith y grŵp seneddol hollbleidiol. Wel, canfu'r Athro Michael Barnes, yn gyffredinol, fod yna dystiolaeth dda dros ddefnyddio canabis mewn llawer o gyflyrau pwysig sy'n effeithio ar filoedd lawer o bobl anabl yn y DU. Dywedodd:

Yn gyffredinol, mae canabis a chynhyrchion canabis yn ddiogel ac yn cael eu goddef yn dda. Mae'n amlwg o'r adolygiad hwn fod gwerth meddyginiaethol i ganabis.

A dywedodd:

Rydym o'r farn fod y dystiolaeth yn awgrymu'n gadarn y dylai canabis fod yn gynnyrch cyfreithlon at ddefnydd meddyginiaethol, cyhyd ag y gellir gwarantu ansawdd y cynnyrch a diogelu'r gadwyn gyflenwi a bod defnyddwyr meddygol, cyn belled ag sy'n bosibl yn ymarferol, yn cael eu cynnwys mewn astudiaethau hirdymor priodol o effeithiolrwydd a sgil-effeithiau hirdymor.

Dyna rydym yn ei gynnig.

Ar sail ei adroddiad, dywedodd Taleithiau Jersey ei fod yn ffurfio sail i newidiadau a gynlluniwyd ar draws Jersey a Guernsey. Felly, unwaith eto, rwyf am gloi drwy ofyn i'r Ysgrifennydd iechyd: a wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i gyfarfod â chynghorwyr meddygol, gan gynnwys yr Athro Barnes, i drafod y dystiolaeth hyd yn hyn ar ganabis at ddefnydd meddygol ac i edrych ar y gwaith manwl dros saith mis gan ein cymheiriaid yn San Steffan a'r astudiaeth ryngwladol fanwl iawn yn seiliedig ar dystiolaeth a gyflawnwyd gan yr Athro Barnes? Diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:47, 17 Ionawr 2018

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.