1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 24 Ionawr 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn absenoldeb y llefarydd ar gyllid, rydw i'n gobeithio y gwnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet faddau i fi am grybwyll iechyd. Ond peidiwch â phoeni—yng nghyd-destun dyraniad cyllidebau mae fy nghwestiynau i.
Ysgrifennydd Cabinet, sut mae Llywodraeth Cymru, wrth ddyrannu arian i gyrff cyhoeddus mawr fel y gwasanaeth iechyd, yn sicrhau bod yr arian yna yn cael ei wario mewn modd sydd yn gyson efo'r egwyddorion sydd wedi cael eu nodi gan y Llywodraeth?
Wel, Lywydd, mae hwnnw, yn y bôn, yn fater i'r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y gwasanaeth iechyd, ond rwy'n ddigon cyfarwydd â'r maes hwnnw i wybod y bydd ganddo ffyrdd uniongyrchol iawn o olrhain, drwy ei gysylltiadau â chadeiryddion, ac yna gyda phrif weithredwyr, y ffordd y mae'r arian y gallwn ei ddarparu ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio'n briodol gan y cyrff mawr hynny, fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi'i ddweud—eu bod yn defnyddio'r arian y gallwn ei ddarparu ar eu cyfer yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rwy'n cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bob mis fel fy mod, yn unol â fy nghyfrifoldeb dros reoli'r gyllideb gyffredinol, yn gallu cadw mewn cysylltiad â'r ffordd y mae'n rheoli'r darn sylweddol iawn hwnnw o Lywodraeth Cymru y mae'n gyfrifol amdano.
Diolch yn fawr iawn. Rydw i yn gweld yr ateb yna yn ddefnyddiol. Mae hi yn nod, er enghraifft, gan y Llywodraeth i gynyddu gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned, ond mae hi'n anodd gwirio a ydy hynny'n digwydd o ran lle mae'r arian yn mynd oherwydd mai un llinell gyllid yr ydym ni'n ei chael gennych chi fel Ysgrifennydd Cabinet. Onid ydych chi'n credu bod yna le i roi rhagor o is-linellau cyllid, os liciwch chi, er mwyn i chi fel Llywodraeth allu gwirio a ydy'r gwasanaeth iechyd yn gwneud yr hyn yr ydych chi yn dymuno iddyn nhw ei wneud, ond hefyd er mwyn ei wneud yn haws i ni fel Aelodau Cynulliad eich dal chi i gyfrif fel Llywodraeth?
Wel, rydw i'n gyfarwydd, Llywydd, gyda'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud, ac yn y broses yr ydym ni wedi'i defnyddio i greu'r gyllideb y flwyddyn yma, rydym ni wedi rhoi mwy o fanylion ar lefel is na'r lefel yr ŷm ni wedi'i roi o'r blaen yn yr ail gam yn y broses newydd. Ble rŷm ni yn gallu gwneud mwy i roi mwy o fanylion i helpu'r Aelodau i graffu ar beth rŷm ni'n ei wneud fel Llywodraeth, rŷm ni'n agored i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid a phobl arall i weld sut ŷm ni'n gallu ei wneud. Rydw i'n meddwl yr ŷm ni wedi mynd cam ymlaen yn y broses yna, yn y broses newydd yr ŷm ni wedi'i defnyddio dros yr hydref.
Mae cyfrifoldeb, wrth gwrs, arnoch chi fel Ysgrifennydd Cabinet i wneud yn siŵr bod yr arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario mor effeithiol â phosibl, ac rydw i'n gwerthfawrogi, o'ch ateb cynharach chi, eich bod chi yn cael cyfarfodydd efo'r Ysgrifenyddion Cabinet yn y gwahanol feysydd er mwyn trio pwyso a mesur a ydy pethau yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Ond mae yna un enghraifft arall benodol: rydym ni'n gwybod bod gwariant ar ofal sylfaenol, primary care, wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf—mae'n rhyw 7 y cant o'r cyfanswm o wariant iechyd rŵan o gymharu ag 11 y cant flynyddoedd yn ôl. Rydw i'n meddwl y dylid mynd yn ôl i 11 y cant, ac mae eich cydweithiwr yr Ysgrifennydd dros iechyd yn dweud bod angen cryfhau gofal sylfaenol. Ond sut ydych chi, fel yr Ysgrifennydd dros Gyllid, yn gallu pwyso ar eich cydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod gofal sylfaenol, yn y cyd-destun yma, yn cael y gefnogaeth rydym ni'n ei glywed y mae fod i'w chael, a bod y gefnogaeth yna'n dod yn ariannol?
Lywydd, roedd yr Aelod yn ofalus i nodi gwahaniaeth, ond mae'n wahaniaeth pwysig, rhwng y gyfran o'r gyllideb sy'n mynd at ofal sylfaenol a'r buddsoddiad absoliwt mewn gofal sylfaenol, oherwydd mae'r buddsoddiad absoliwt mewn gofal sylfaenol wedi cynyddu dros y blynyddoedd, er ei fod wedi cymryd llai fel cyfran o'r gyllideb gyfan. Nawr, gwn fod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus iawn i fynd i'r afael â'r mater hwnnw. Dyna pam ein bod yn ariannu clystyrau gofal sylfaenol yn uniongyrchol. Dyna pam ein bod wedi cynnal y gronfa gofal integredig eto eleni.
Ond rwy'n nodi wrth yr Aelod, mai un o'r rhesymau pam nad yw gofal sylfaenol, fel cyfran o'r gyllideb iechyd, wedi cael y gyfran y mae rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd wedi'i gael yw oherwydd y ffordd y mae dadleuon cyhoeddus, a dadleuon yma hefyd, yn rhoi cymaint o bwyslais ar wasanaethau ysbyty, ac rydym yn siarad llawer llai am wasanaethau sylfaenol a chymunedol. Felly, bob tro y ceir dadl am wasanaethau y gellid eu newid mewn lleoliad ysbyty, cawn ddadleuon enfawr. Pan fo newidiadau'n digwydd ar lefel gofal sylfaenol, mae llawer llai o sylw yn cael ei roi iddynt. Yn rhannol, y rheswm y mae ysbytai wedi cymryd cyfran fwy o gyllideb gynyddol yw oherwydd y ffordd y cynhelir dadleuon ynghylch dyfodol y gwasanaeth iechyd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd Cyllid, ddoe, ni wnaeth y Prif Weinidog ateb cwestiwn arweinydd yr wrthblaid ar gap ariannu uchaf ar gyfer ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn llawn. A ydych yn barod i roi manylion y cap, neu a yw Llywodraeth Cymru yn hapus i'r costau godi i'r entrychion?
Wel, Lywydd, ceisiais ddweud yn gynharach nad fy nghyfrifoldeb i yw gwneud y penderfyniadau polisi mewn perthynas â ffordd liniaru'r M4. Fy nghyfrifoldeb i yw rheoli'r gyllideb a gwneud yn siŵr bod arian ar gael i fynd ar drywydd blaenoriaethau allweddol. Yn yr achos hwn, mae'r M4 newydd yn cael ei hystyried drwy ymchwiliad lleol annibynnol, a hyd nes y bydd yr ymchwiliad hwnnw'n adrodd ni fyddaf yn gwneud dyraniadau uniongyrchol, oherwydd bydd yr angen am ddyraniadau yn dibynnu ar gasgliadau'r ymchwiliad.
Diolch. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn rydych newydd ei ddweud, Ysgrifennydd Cyllid, ac rwy'n deall bod ymchwiliad cyhoeddus ar y gweill ar hyn o bryd sy'n edrych ar wahanol atebion a llwybrau posibl ar gyfer yr M4 a dylid caniatáu iddo ddilyn ei gwrs. Rwyf hefyd yn deall bod mater polisi i'w drafod yma, ac nad chi yw'r Ysgrifennydd i drafod hynny. Fodd bynnag, rwy'n gofyn i chi'n benodol ynglŷn ag ariannu'r cynllun, ac fel Ysgrifennydd cyllid, mae gennych farn gyffredinol ar gyflawni a sicrhau gwerth cyhoeddus am arian i'r trethdalwr. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r gost amcangyfrifedig gyfredol oddeutu £1.4 biliwn. Fodd bynnag, mae'n debyg nad yw hyn yn cynnwys amcangyfrifon o'r TAW, chwyddiant, na chostau cynnal a chadw yn y dyfodol. A oes unrhyw un o'r rhain wedi cael eu cynnwys a beth yw eich amcangyfrif cyfredol o gyfanswm cost ffordd liniaru'r M4?
Wel, Lywydd, mae'r ffordd y cyflwynir y costau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 i'r Cynulliad yn cydymffurfio'n llwyr â'r confensiynau a ddefnyddir ar draws Llywodraethau ar gyfer adrodd ar symiau o'r fath. Felly, nid oes unrhyw beth yn anghyffredin yn y ffaith ein bod yn adrodd y symiau mewn prisiau cyfredol, yn hytrach na'r prisiau fel y gallant fod yn nes ymlaen. Yr hyn y gallaf ei adrodd wrth yr Aelodau yw: lle mae angen arian ar gyfer bwrw ymlaen â'r ymchwiliad cyhoeddus eleni, er enghraifft, a rhywfaint o waith galluogi angenrheidiol, rwyf mewn sefyllfa i ddarparu'r arian hwnnw i'r Ysgrifennydd Cabinet priodol, ac rwy'n parhau'n ffyddiog, pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo o ganlyniad i'r ymchwiliad cyhoeddus lleol annibynnol, y byddaf yn gallu defnyddio'r dulliau sydd ar gael i mi i roi'r cynllun ar waith.
Diolch i chi, Ysgrifennydd cyllid. Rwy'n gynyddol bryderus, oherwydd ymddengys bod diffyg ffigurau pendant unwaith eto heddiw. Nid oes llawer o amser ers i Lywodraeth Cymru ddweud wrth y Cynulliad y byddai'r gost yn llai na £1 biliwn. Credaf ein bod wedi cael rhyw fath o warant, neu beth bynnag oedd y gair a ddefnyddiwyd, bryd hynny. Ond mae'n ymddangos bellach fod yr amcangyfrif hwnnw'n llawer rhy isel. Nawr, os edrychwch ar enghreifftiau o gynlluniau ffyrdd mawr eraill yng Nghymru, megis lledu'r A465 ym Mlaenau'r Cymoedd—ac unwaith eto, gan roi polisi i'r naill ochr ar hynny—mae llawer o oedi wedi bod mewn perthynas â'r cynllun hwnnw ac mae'n costio tua 25 y cant yn fwy na'r gyllideb wreiddiol ar hyn o bryd. Felly, gallwch ddeall pryder y cyhoedd ynghylch y mathau hyn o brosiectau. Bydd llwybr du'r M4, os caiff ei ddewis, yn mynd drwy safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac ar draws gwlyptir, gan wneud y cynllun yn fwy cymhleth nag y byddai llawer o gynlluniau ffyrdd eraill. Onid ydych yn credu, ar wahân i'r ymchwiliad cyhoeddus, ei bod yn bryd cynnal adolygiad llawn o gostau posibl y prosiect hwn er mwyn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr?
Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gwahaniaethu rhwng y ddau fater yn yr union ffordd honno, Lywydd, oherwydd bydd y costau'n dibynnu ar gasgliadau'r ymchwiliad. Felly, nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gwahaniaethu rhwng y materion yn yr union ffordd honno. Gadewch i mi ddweud yn gyffredinol wrth yr Aelod fy mod, wrth gwrs, yn rhannu ei awydd bob amser i weld cynlluniau gwariant ar draws Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon a chosteffeithiol, a byddai hynny'n wir am y cynllun hwn yn yr un ffordd yn union ag y byddai'n wir am bob ffordd arall y bydd buddsoddiad cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael ei dalu'n ymarferol.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym yn disgwyl gyda diddordeb i weld penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet ar y rhestr fer ar gyfer trethi newydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ond a yw'n cytuno â mi, er na fydd unrhyw dreth yn boblogaidd byth, y bydd yn fwy derbyniol i'r cyhoedd os gallant wneud cysylltiad rhwng y costau y byddant yn eu talu â'r manteision y byddant yn eu cael? Mae rhai o'r trethi hyn, wrth gwrs, yn ymgorffori'r egwyddor honno'n well nag eraill. O ystyried y pwysau ar wariant cyhoeddus a'r cynnydd anochel yn y costau a welir ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod, gellid hyrwyddo'r cynnig am ardoll gofal cymdeithasol, cyhyd â bod y cynllun sy'n mynd law yn llaw â'r dreth yn un synhwyrol, mewn ffordd sy'n manteisio i'r eithaf ar y gefnogaeth gyhoeddus i dreth.
Wel, rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae neilltuo arian, yn yr ystyr y gall pobl weld beth y maent yn ei gael am yr hyn y maent yn ei dalu, yn dylanwadu ar ba mor dderbyniol ydyw i'r cyhoedd. Fe fydd yn gwybod bod Cangellorion olynol ar lefel y DU bob amser wedi gwrthwynebu neilltuo arian yn y ffordd honno, ond credaf fod yr Aelod yn iawn i gyfeirio, yn y cynllun y mae'r Athro Gerry Holtham wedi'i gyflwyno, sef y sail ar gyfer y trafodaethau hyn, at dderbynioldeb y cyhoedd mewn mannau eraill, ac mae'n defnyddio'r enghraifft yn Japan lle y ceir treth heb ei neilltuo tuag at ofal cymdeithasol, ond nid ydych yn dechrau ei thalu nes eich bod yn 40. Nawr, mae'n debyg, yn fras, y gallech ddweud nad yw pobl o dan 40 oed yn credu y byddant yn heneiddio nac yn credu y bydd hyn byth yn berthnasol iddynt hwy. Pan drowch y gornel honno, rydych yn dechrau sylweddoli y gallai buddsoddi yn y gwasanaethau hyn fod yn rhywbeth y bydd gennych ddiddordeb ynddo heb fod yn rhy hir, ac yn wir, ym model Japan, fel rwy'n ei gofio, mae faint rydych yn ei dalu tuag at y dreth yn codi wrth i chi fynd yn hŷn. Felly, mae cyfrannu at y dreth yn ymddangos yn fwyfwy derbyniol wrth i chi agosáu at y pwynt lle y gallech elwa ohoni. Felly, yn yr ystyr hwnnw, credaf fod gwaith Holtham yn tueddu i gadarnhau'r gosodiad cyffredinol a wnaeth Mr Hamilton.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel finnau, yn fythol ifanc—rydym yn gweld y gorwel yn mynd yn bellach oddi wrthym wrth i ni fynd yn hŷn—ond rwy'n derbyn y pwynt cyffredinol y mae'n ei wneud. O gofio bod costau gofal cymdeithasol oedolion, yn ôl rhagfynegiadau'r Sefydliad Iechyd, yn debygol o godi 4 y cant bob blwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf, a bod costau'n debygol o godi i tua £2.5 biliwn erbyn 2030, mae'n amlwg y gallai hon fod yn broblem ariannu enfawr i Lywodraeth Cymru. Ac felly mae'n hanfodol, yn fy marn i, os bydd ardoll o'r fath, ein bod yn creu cronfa nad yw Llywodraethau'n gallu ei hysbeilio at ddibenion eraill. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio Deddf Yswiriant Gwladol 1911—nid cofio am ei fod yno ar y pryd, ond oherwydd ei fod wedi astudio hanes—a sail gyfan y cynllun hwnnw, a greodd yswiriant gwladol ym Mhrydain, oedd i greu cronfa yswiriant gwladol. Yn anffodus, mae'r gronfa honno wedi cael ei hysbeilio gan y Trysorlys yn rheolaidd ers hynny ac mae'r holl egwyddor o gyfrannu wedi cael ei thanseilio gan Lywodraethau Ceidwadol yn ogystal â Llywodraethau Llafur dros y blynyddoedd, ac mae hynny, rwy'n credu, wedi anffurfio'r modd y caiff yswiriant cymdeithasol ei ariannu yn y wlad hon yn barhaol, a byddai'n llawer gwell pe baem yn neilltuo arian at ddiben penodol. Gwn fod llaw farw'r Trysorlys wedi atal hyn yn San Steffan, ond rwy'n gobeithio, o ganlyniad i ddatganoli, y bydd Llywodraeth Cymru yn fwy goleuedig wrth ystyried y materion hyn.
Wel, Lywydd, Marx a ddywedodd, 'Po hynaf yr af, yr hynaf rwyf am fod'—ond wrth gwrs, Groucho Marx oedd hwnnw, nid Karl Marx. Mae'r Aelod yn llygad ei le pan ddywed fod y gronfa yswiriant gwladol wedi peidio â bodoli i bob pwrpas oddeutu 1957, pan benderfynodd Llywodraeth Macmillan ar y pryd ei bod am dyrchu i mewn iddi a thalu am wariant cyfredol o'r derbyniadau a oedd wedi cronni yn y gronfa. Ers hynny, mae yswiriant gwladol, mewn gwirionedd, yn system talu wrth ddefnyddio yn hytrach na system wedi'i hariannu gan yswiriant. Mae adroddiad yr Athro Holtham yn glir iawn mai'r math o gynllun y mae am ei hyrwyddo fyddai un lle byddai'n rhaid i arian y gallai dinasyddion Cymru ei dalu at ddibenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol fynd i gronfa bwrpasol y tu allan i'r Llywodraeth, gyda sicrwydd cryf i aelodau'r cyhoedd na allai'r Llywodraeth gael mynediad ati ar adegau o anhawster, a lle byddai trefniadau llywodraethu cryf yn ei chylch i roi hyder i bobl, os yw eu harian yn cael ei dalu at y dibenion hyn, y bydd yr arian hwnnw yno i'w dynnu allan at y dibenion hyn yn y dyfodol.
Ffordd arall y cafodd y gronfa yswiriant gwladol ei disgrifio, wrth gwrs, yw fel 'cynllun Ponzi mwyaf y byd', fel y mae wedi datblygu. Gobeithiaf na fyddwn yn ail-greu rhywbeth felly yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod gennym gyfle yma i wneud rhywbeth tebyg i'r hyn a wnaed yn Norwy, er enghraifft, mewn perthynas â'r arian annisgwyl a ddaeth i'w rhan pan ddechreuodd olew Môr y Gogledd lifo ac aethant ati i greu cronfa gyfoeth sofran, sydd bellach yn cynhyrchu difidendau helaeth i bobl Norwy, ac ar y sail honno y mae eu safon byw uchel iawn a'u hyswiriant cymdeithasol a'u darpariaeth iechyd ac ati yn cael ei gyllido i raddau helaeth. Nid oes gennym gyfoeth o olew, ond mae gennym gyfoeth yng ngallu creadigol ein pobl. Os gallwn neilltuo cyfran fach o incwm cenedlaethol ar gyfer cronfa gyfoeth sofran o'r math hwn, yna efallai y gallem helpu i gau cylch ariannu anghenion cynyddol poblogaeth sy'n heneiddio a system iechyd a fydd yn gallu gwella cymaint yn fwy o gyflyrau sydd, yn y gorffennol, wedi arwain at farwolaethau cynnar. Felly, y naill ffordd neu'r llall, rhan o ffyniant cynyddol cenedl yw iechyd a lles ei phobl ac mae hyn yn cyd-fynd yn daclus â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried trethi gyda'r Ddeddf honno, rwy'n credu, os ydym eisiau sicrhau bod datganoli yn y maes penodol hwn yn llwyddiant.
Wel, Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau y prynhawn yma? Pan gyhoeddasom ein rhestr fer o drethi posibl o dan Ddeddf Cymru 2014, yr union reswm dros wneud hynny oedd er mwyn ysgogi trafodaeth am y modd y gellid defnyddio'r pwerau newydd hyn i Gymru at ddibenion a fydd o bwys i bobl yng Nghymru yn y dyfodol. Credaf fod rhai o'r materion a godwyd gan yr Aelod y prynhawn yma yn helpu i greu trafodaeth o'r fath ac maent wedi gwneud hynny mewn maes, fel y mae pawb ohonom yn gwybod, o ystyried strwythur oedran ein poblogaeth a beth y mae hynny'n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol, lle mae dadl o'r fath yn anochel os ydym am baratoi'n briodol ar gyfer y dyfodol hwnnw.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ51607] yn ôl, felly cwestiwn 4—Angela Burns.