– Senedd Cymru am 5:28 pm ar 31 Ionawr 2018.
Symudwn ymlaen at eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl ar y adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig hwnnw. Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol. Mae salwch meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at un o bob pump menyw yng Nghymru. Gydag oddeutu 33,000 o enedigaethau y flwyddyn, mae hynny'n golygu bod hyd at 6,600 o fenywod yng Nghymru yn cael problemau iechyd meddwl a achosir neu a waethygir gan feichiogrwydd neu eni plant bob blwyddyn.
Nid yw salwch meddwl amenedigol yn brin, nid yw'n rhyfedd ac nid yw'n rhywbeth i fod â chywilydd ohono. Clywsom hefyd nad mamau'n unig yr effeithir arnynt—gall partneriaid ddioddef hefyd, fel y gall aelodau o'r teulu ehangach sy'n ceisio cefnogi eu hanwyliaid yn emosiynol ac yn ariannol yn ystod cyfnodau o salwch.
Y rheswm sylfaenol pam y dewisodd ein pwyllgor ystyried y pwnc hwn yw'r ffaith y gall salwch meddwl amenedigol effeithio ar blant. Profwyd bod y 1,000 o ddyddiau cyntaf o fywyd plentyn, o feichiogrwydd i ail ben-blwydd y plentyn, yn gyfnod allweddol o amser sy'n gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad yr unigolyn a'i iechyd gydol oes. Mae'n gyfnod o botensial enfawr, ond o fregusrwydd enfawr hefyd. Datblygir cyswllt cryf rhwng y baban a'r sawl sy'n gofalu'n bennaf amdanynt drwy ymddygiad cadarnhaol ac ymatebol. O ganlyniad, gall iechyd meddwl gwael yn y rhiant effeithio'n sylweddol ar iechyd a datblygiad plentyn. Ond nid oes raid i'r darlun fod yn gwbl ddiobaith. Mae pobl yn dod drwy hyn. Yn wir, dywedodd y rhai a roddodd dystiolaeth i ni y gall menywod, gyda'r gofal a'r cymorth cywir, wella'n llwyr a byw bywydau teuluol cyflawn.
Felly, beth a welsom? Dysgasom mai gofal yn y gymuned fydd yr ateb mwyaf priodol i'r rhan fwyaf o fenywod. O'i ddarparu'n effeithiol, bydd yn galluogi mamau i aros yn agos at eu teuluoedd. Gall gofal yn y gymuned chwarae rôl hanfodol wrth ymyrryd yn gynnar, gan atal dirywiad salwch meddwl mewn mamau amenedigol, lleihau'r angen i deithio i gael gofal a lleddfu pwysau ar ysbytai.
Yn ystod ein hymchwiliad, fe ddarganfuom fod y £1.5 miliwn a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol cymunedol ddwy flynedd yn ôl yn dwyn ffrwyth. Erbyn hyn, mae pob bwrdd iechyd wedi sefydlu timau sydd, ar y cyfan, yn weithredol. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn dangos bod amrywio amlwg o hyd yn y modd y darperir gwasanaethau rhwng, a hyd yn oed o fewn ardaloedd byrddau iechyd weithiau. Gall y cymorth sydd ar gael i fenywod sydd â salwch meddwl amenedigol amrywio'n sylweddol.
Er ein bod yn canmol yr ymdrechion a wnaed i sefydlu timau newydd ledled Cymru ac yn cydnabod ymrwymiad sylweddol y staff sy'n gweithio'n galed i gyflwyno a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, daethom i'r casgliad nad yw'r amrywio presennol yn dderbyniol. Clywsom am amseroedd aros sylweddol am rai gwasanaethau, yn enwedig therapïau siarad a therapïau seicolegol. Clywsom hefyd fod y galw'n fwy na'r hyn y gellir ei ddarparu.
Rydym yn cydnabod nad yw timau cymunedol arbenigol ond wedi bod ar waith am gyfnod byr, ac rydym yn croesawu'r cynnydd a wnaed hyd yma. Fodd bynnag, yn seiliedig ar yr hyn a glywsom, credwn nad yw gwasanaethau yng Nghymru ar hyn o bryd yn diwallu anghenion menywod sy'n dioddef, neu mewn perygl o ddioddef salwch meddwl amenedigol, mewn ffordd deg a chynhwysfawr. Credwn y dylai gwasanaethau amserol o ansawdd uchel fod yn ddisgwyliad ac yn hawl i bob menyw, a heb fod yn dibynnu ar ble y maent yn byw. Fel y cyfryw, rydym yn gwneud nifer o argymhellion allweddol sy'n berthnasol i'r maes hwn yn ein hadroddiad.
Yn gyntaf, rydym yn argymell bod angen darparu mwy o arian er mwyn sicrhau bod yr holl wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn cyrraedd y safon orau. Yn argymhelliad 9, rydym yn datgan ein cred mai rhoi sylw i'r amrywio yn y modd y darperir gwasanaethau rhwng byrddau iechyd yng Nghymru ddylai'r prif nod fod ar gyfer dyrannu'r cyllid ychwanegol hwn. Rydym yn ymwybodol iawn o'r cyfyngiadau ariannol sy'n wynebu'r GIG ar hyn o bryd. Fodd bynnag, credwn yn gryf y gellid gwneud dadl buddsoddi i arbed am y cyllid ychwanegol hwn, yn seiliedig ar gostau salwch meddwl amenedigol.
Dywedwyd wrthym fod cost salwch meddwl amenedigol i'r GIG, ledled y DU, ar gyfer pob blwyddyn o enedigaethau, yn £1.2 biliwn. Amcangyfrifir bod y gost hirdymor i gymdeithas y DU yn gyfan yn £8.1 biliwn. Ni ddylai fod yn gwestiwn ynglŷn ag a allwn fforddio buddsoddi yn y gwasanaethau hyn, ond yn hytrach, a allwn fforddio peidio. Nodwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ac mae'n cyfeirio at yr £20 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i wasanaethau iechyd meddwl dros y ddwy flynedd nesaf. Er ein bod yn croesawu hyn, byddem yn croesawu sicrwydd pellach gan Lywodraeth Cymru y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaethau iechyd amenedigol pan ddaw'n bryd i'r byrddau iechyd ddyrannu'r cyllid hwnnw.
Testun pryder arbennig i ni oedd clywed am y diffyg cymorth seicolegol ar draws Cymru ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Clywsom pa mor ddefnyddiol y gallai fod, naill ai wedi'i ddarparu ar sail unigol neu fel rhan o grŵp. Mae argymhelliad 10 yn datgan y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y gwaith sydd eisoes ar y gweill ganddi ar hyn i wella mynediad at therapïau seicolegol ar gyfer menywod amenedigol, a dynion lle bo angen, yn cael ei flaenoriaethu, o ystyried y cyswllt a brofwyd rhwng salwch amenedigol ac iechyd a datblygiad plant. Rydym yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a bydd yn dilyn y cynnydd ar ei weithrediad yn ofalus.
Yn anffodus, i rai menywod, nid yw gofal yn y gymuned yn opsiwn. Amcangyfrifir y bydd cymaint â 100 o fenywod y flwyddyn yng Nghymru yn dioddef symptomau mor ddifrifol fel y bydd angen eu derbyn i uned cleifion mewnol. Yn dilyn cau'r unig uned mamau a babanod yng Nghymru yn 2013, clywsom fod rhai menywod o Gymru yn gorfod teithio mor bell â Derby, Llundain a Nottingham am y driniaeth hon ac roedd eraill yn cael eu trin mewn wardiau seiciatrig oedolion wedi'u gwahanu oddi wrth eu babanod. Daethom i'r casgliad fod hyn yn gwbl annigonol.
Er ein bod yn derbyn y bydd y gwasanaethau mwyaf arbenigol weithiau'n ei gwneud hi'n ofynnol i gleifion deithio, mae ein hadroddiad yn glir fod angen datblygu uned mamau a babanod yng Nghymru. Galwodd argymhelliad 6 ar Lywodraeth Cymru i sefydlu uned mamau a babanod yn ne Cymru, wedi'i chomisiynu a'i hariannu ar sail genedlaethol i ddarparu gwasanaethau i Gymru gyfan ac wedi'i staffio'n ddigonol o ran niferoedd a disgyblaethau. Fodd bynnag, mae ein seithfed argymhelliad yn cydnabod na fydd uned yn ne Cymru o reidrwydd yn addas ar gyfer mamau a theuluoedd yng nghanolbarth a gogledd Cymru, er enghraifft. Fel y cyfryw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu fel mater o frys gyda'r GIG yn Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu canolfan yng ngogledd-ddwyrain Cymru a allai wasanaethu'r ddwy boblogaeth o bobtu'r ffin.
Er ein bod yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion hyn, rydym yn siomedig ei bod hi'n dal yn aneglur beth fydd y model gofal i gleifion mewnol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn pryderu nad yw'r data y gofynasom amdano am lefel y galw am ofal i gleifion mewnol heb ei gyhoeddi eto, a gobeithiwn glywed mwy am hyn yn ateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r ddadl.
Hoffwn symud ymlaen yn awr i drafod ymwybyddiaeth o iechyd meddwl amenedigol. Roedd hi'n amlwg o'n hymchwiliad fod hyn yn dal yn wael ymhlith y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Roedd staff rheng flaen, gan gynnwys bydwragedd a meddygon teulu, yn nodi eu bod yn teimlo nad oedd ganddynt allu i nodi a thrin salwch meddwl mewn mamau. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i wella dealltwriaeth o iechyd meddwl amenedigol a'r symptomau. Rydym yn siomedig ynglŷn â'r penderfyniad i wrthod yr argymhelliad hwn, ond edrychaf ymlaen at glywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ateb am y dulliau addysg gyhoeddus a fydd yn fwyaf effeithiol yn ei farn ef ar gyfer cyrraedd y lefelau o ymwybyddiaeth y credwn eu bod yn hollbwysig os ydym am leihau'r lefel uchel o stigma yr adroddwyd wrthym yn ei gylch yn ystod ein hymchwiliad.
Hefyd roedd yr angen i wella'r dull o nodi salwch meddwl amenedigol a gwella cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cleifion bregus yn cael eu nodi'n gyflym ac yn derbyn y gofal parhaus sydd ei angen arnynt yn themâu allweddol. Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad y dylai pob bwrdd iechyd gael bydwraig iechyd meddwl amenedigol arbenigol mewn swydd i helpu gyda hyn a bod gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n debygol o wynebu'r materion hyn yn cael hyfforddiant cyn cofrestru a datblygiad proffesiynol parhaus ar iechyd meddwl amenedigol, ac edrychwn ymlaen at glywed sut y datblygir y gwaith hwn.
Roedd pwysigrwydd bondio ac ymlyniad yn thema allweddol a ddaeth i'r amlwg yn yr ymchwiliad. Dywedwyd wrthym, os na chaiff ymlyniadau cadarn eu sefydlu yn gynnar mewn bywyd, y gall plant fod mewn mwy o berygl o wynebu canlyniadau andwyol, gan gynnwys iechyd meddwl a chorfforol gwael a chyrhaeddiad addysgol isel. Rydym yn siomedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod ein tri argymhelliad yn y bennod hon. Credwn fod ein hawgrym o ymwelydd iechyd arbenigol gyda ffocws ar iechyd meddwl amenedigol ac iechyd babanod yn haeddu mwy o ystyriaeth. Rydym hefyd yn credu bod ystyriaeth bellach o effaith bwydo ar iechyd meddwl amenedigol yn hanfodol. Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet fod yna dystiolaeth sy'n gwrthdaro yn y maes hwn ar hyn o bryd yw'r union reswm pam y galwasom am wneud gwaith pellach, ac rydym yn ei annog i edrych ar hyn eto.
Yn olaf, roedd y defnydd o feddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd yn thema allweddol a gododd yn y dystiolaeth. Credwn fod hwn yn faes sy'n galw am sylw sylweddol er budd gweithwyr proffesiynol a chleifion fel ei gilydd. Mae pennod olaf ein hadroddiad yn dechrau sgwrs am y cysylltiad rhwng anghydraddoldebau iechyd ac iechyd meddwl. Mae'n amlwg fod y cyfnod amenedigol yn cynnig cyfle penodol i ddiogelu lles yn y tymor hir. Credwn fod angen rhagor o ymdrech i gyrraedd grwpiau mwy agored i niwed ac mae angen ymchwil pellach i nodi'r dulliau gorau o nodi a thrin problemau'n gynnar ymhlith y poblogaethau mwyaf anghenus. Rydym yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhellion ac edrychwn ymlaen at eu monitro.
Wrth dynnu tua'r terfyn, hoffwn gydnabod cyfraniad aruthrol y sector elusennol a gwirfoddol ym maes iechyd meddwl amenedigol a chefnogi rhieni newyddenedigol a rhieni sydd wedi cael profedigaeth. Roedd hi'n amlwg o'r hyn a glywsom mai'r trydydd sector yn aml sy'n nodi bylchau yn y ddarpariaeth ac yn bwrw iddi i'w llenwi. Heb y trydydd sector, ni fyddai llawer o wasanaethau pwysig yn bodoli. Mae nifer o'n hargymhellion yn ymwneud â hyn, nid yn lleiaf ein galwad am wneud rhagor i ddarparu cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn ac i godi ymwybyddiaeth ohonynt. Credwn y bydd hyn yn galluogi'r sector statudol a'r trydydd sector i ddod at ei gilydd i ddarparu ymyriadau integredig sy'n effeithiol yn glinigol ac yn gosteffeithiol. Rydym hefyd yn adleisio'r galwadau a wnaed gan elusennau arbenigol am gyhoeddi safonau newyddenedigol diwygiedig. Mae wedi cymryd yn rhy hir i'r rhain gael eu cyhoeddi, ac rwyf am bwysleisio wrth Ysgrifennydd y Cabinet yr angen i'r safonau hirddisgwyliedig hyn gael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl.
Hoffwn gloi drwy ddiolch i'r holl sefydliadau a'r gweithwyr proffesiynol sydd wedi ymwneud mor frwd â'r ymchwiliad hwn, a diolch hefyd i bawb a oedd â phrofiad uniongyrchol o'r pethau hyn a fu mor barod i rannu eu barn gyda ni. Mae eu profiadau wedi bod mor hanfodol i waith y pwyllgor ar hyn. Diolch.
Diolch. Darren Millar.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am araith agoriadol ardderchog ac am wneud gwaith mor dda yn cadeirio'r gwaith pwysig hwn wrth inni ddechrau ar ymchwiliad y pwyllgor? A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor a chynghorwyr y pwyllgor hefyd, am eu cefnogaeth drwy gydol ei waith?
Fel y dywedodd y Cadeirydd yn gwbl briodol, nid yw cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd yn ddim byd newydd: bydd un o bob pump o fenywod yn eu profi. Er gwaethaf hyn, credaf ein bod wedi cael ein siomi a'n digalonni mewn gwirionedd ynghylch y lefel isel iawn o ymwybyddiaeth a geir ymysg rhai o'r aelodau o staff rheng flaen ynglŷn â beth i'w wneud pan fydd rhai menywod yn cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu'n union ar ôl rhoi genedigaeth. Dyna pam y credaf fod yr argymhellion hynny, yn enwedig ynghylch uwchsgilio'r gweithlu staffio rheng flaen, a chael swyddi arbenigol fel y gallant fod yn adnodd i'r tîm ehangach, mor bwysig a hanfodol.
O ran unedau mamau a babanod, cafwyd peth dadlau, wrth gwrs, am yr angen am uned mamau a babanod yn ne Cymru, ond roedd yn eithaf amlwg y byddai angen un. Mewn perthynas â gogledd Cymru, wrth gwrs, mae'n llawer mwy cymhleth, oherwydd teneurwydd y boblogaeth. Dywedwyd wrthym fel pwyllgor fod yr unig welyau sydd ar gael ar hyn o bryd—y rhai agosaf at y bobl yng ngogledd Cymru sydd eu hangen—dros y ffin ym Manceinion. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru ystyried darparu adnoddau wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru—y gallai pobl o ogledd-orllewin Lloegr eu defnyddio—er mwyn gwella mynediad ar gyfer mamau a babanod. Oherwydd roedd yn eithaf amlwg o'r dystiolaeth a gawsom gan famau a oedd wedi bod drwy'r felin o ran salwch meddwl amenedigol ac angen eu derbyn i unedau mamau a babanod fod y ffaith eu bod gryn bellter i ffwrdd wedi eu hatal rhag gwneud y penderfyniad pwysig i fynd yno mewn gwirionedd, er bod yr holl dystiolaeth a gawsom wedi nodi'n glir iawn fod y canlyniadau'n llawer iawn gwell i famau a'u plant os caiff mam ei derbyn i leoliad priodol mewn uned mamau a babanod yn hytrach nag i ward seiciatrig oedolion a chael ei gwahanu oddi wrth ei phlentyn.
Dywedwyd wrthym gan ystadegwyr fod rhagweladwyedd yr angen yn eithaf clir: yn seiliedig ar ein poblogaeth a chyfraddau geni, bydd yna bob amser rywle rhwng 45 a 65 o famau y flwyddyn angen eu derbyn i'r mathau hyn o wardiau. Nawr, oherwydd y boblogaeth yng ngogledd Cymru, rydym yn sôn am niferoedd bach iawn. Rydym yn siarad am lond llaw, dwsin ar y mwyaf, yn y rhanbarth a allai fod angen mynediad at y pethau hyn, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem geisio darparu o fewn y rhanbarth os yn bosibl.
Credaf mai un peth yr oeddwn yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio ato yw bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o ymdrech i ymgysylltu â rhai o'r comisiynwyr dros y ffin yn Lloegr o ran ceisio cael trafodaeth ynghylch ble y gallai fod yn bosibl lleoli'r mathau hyn o wasanaethau yn y dyfodol.
O ran gogledd Cymru, un o'r pethau a oedd yn drawiadol iawn pan oeddem yn derbyn tystiolaeth oedd y dystiolaeth a oedd yn ymwneud â diffyg mynediad at y therapïau seicolegol hyn. Mae pawb ohonom wedi cael e-bost gan Dwynwen Myers, sy'n un o'r seicolegwyr clinigol amenedigol yng ngogledd Cymru, ac mae hi wedi ei gwneud yn gwbl glir fod ganddi 18.5 awr yr wythnos i wasanaethu'r cyfan o ogledd Cymru mewn perthynas ag iechyd meddwl amenedigol yn y rhanbarth. Treulir llawer o'r amser hwnnw'n teithio o un lle i'r llall. Rhoddodd enghraifft o dreulio tair awr yn y car mewn diwrnod gwaith chwe awr a chwarter o hyd. Mae hynny'n annerbyniol. Ni allwn gael sefyllfa lle nad yw pobl sydd angen mynediad at therapi seicolegol yn ei gael. Wrth i ni ddatrys problemau cyn iddynt waethygu, gwyddom weithiau y gall ddatrys pethau mewn ffordd sy'n gwneud pethau'n well ymhellach i lawr y ffordd. Felly, rwy'n bendant yn cefnogi'r angen i wario i arbed yn y maes penodol hwn fel y gallwn wneud pethau'n iawn yn y dyfodol.
Hoffwn dalu teyrnged yn ogystal, fel y gwnaeth y Cadeirydd, i'r sector gwirfoddol ac am y gwaith y maent yn ei wneud. Cawsom dystiolaeth emosiynol iawn gan fenywod a oedd wedi bod mewn sefyllfaoedd anodd dros ben, a rhai ohonynt wedi cyrraedd pwynt lle roeddent eisiau cyflawni hunanladdiad ar adegau, menywod a oedd wedi chwilio'n ddygn drwy eu hardaloedd lleol am gymorth ac a oedd wedi baglu'n sydyn ar draws grwpiau lleol yn aml iawn, grwpiau cymorth, grwpiau cymorth gan rai a oedd wedi bod drwy'r un peth. Ni allwn danbrisio eu gwerth yn fy marn i. Yn bersonol, hoffwn yn fawr weld y gwasanaethau hynny'n cael eu mapio ledled Cymru a chyllid sbarduno i'w helpu i dyfu ac i wella ansawdd yr hyn a wnânt. Os oes un peth y credaf y byddai'n gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i'r sefydliadau hynny, ychydig o arian sbarduno yw hwnnw, er mwyn iddynt dyfu'r rhwydweithiau cymorth y gallant eu darparu.
Felly, hoffwn longyfarch y Cadeirydd ar yr ymchwiliad rhagorol, ac er fy mod yn hapus iawn gydag ymateb y Llywodraeth, credaf fod rhai meysydd yn ddiffygiol yn yr ymateb hwnnw, ac edrychaf ymlaen at glywed gweddill y ddadl.
Rwyf innau hefyd am gychwyn drwy ategu’r diolchiadau i’r Cadeirydd a’m cyd-aelodau o’r pwyllgor, i’r clercod a’r swyddogion a hefyd i’r rhanddeilaid, sydd wedi chwarae rhan deinamig iawn yn y drafodaeth yma, mae’n rhaid imi ddweud—yn fwy felly yn yr achos yma, rydw i’n meddwl, nag mewn unrhyw ymchwiliad arall rydw i wedi bod yn rhan ohono fe. Mae’n rhaid imi ddweud hefyd, mae’n debyg mai hwn yw un o’r ymchwiliadau mwyaf dirdynnol rydw i wedi cael y profiad o fod yn rhan ohono fe yn fy amser i fan hyn yn y Cynulliad. Roedd clywed straeon rhai o’r mamau a oedd yn dioddef o salwch meddwl amenedigol yn dorcalonnus ar adegau, wrth gwrs, a chlywed y straeon yna ar yr adeg mwyaf bregus yn eu bywydau: eu bod nhw’n gorfod penderfynu gadael eu plant ar ôl er mwyn cael y gwasanaethau yr oedd eu hangen arnyn nhw i wella. Ni allaf ddychmygu unrhyw beth a fyddai, mewn gwirionedd, yn gwneud y cyflwr yn waeth na gorfod gwneud penderfyniad o’r fath. Ond rydw i yn cysuro fy hun, os caf i ddweud, drwy obeithio efallai mai hwn fydd un o’r ymchwiliadau mwyaf llwyddiannus hefyd o safbwynt gwireddu rhai o’r argymhellion y mae’r pwyllgor yn eu gwneud. Gwnaf i ddim siarad yn rhy fuan, ond rydw i yn meddwl bod arwyddion positif iawn o safbwynt rhai o’r prif argymhellion.
Yn amlwg, mae’r argymhelliad cyntaf o sefydlu rhwydwaith clinigol rheoledig wedi’i dderbyn gan y Llywodraeth, ac mae hynny yn rhywbeth rydw i’n ei groesawu yn fawr iawn. Rwy’n edrych ymlaen at glywed nawr gan y Gweinidog ynglŷn â’r gwaith sydd wedi digwydd ar y ffrynt yna o safbwynt sefydlu’r rhwydwaith a’r gwaith o recriwtio rôl arweinyddol a oedd i fod i ddigwydd yn ystod y flwyddyn ariannol yma, os ydw i’n deall yn iawn. Felly, byddwn i eisiau clywed pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud eisoes i’r perwyl yna.
Galwad clir arall o’r ymchwiliad, fel rydym ni wedi ei glywed yn barod, wrth gwrs, oedd honno am uned fewnol, 'in-patient', i famau a babanod. Ers i’r uned yng Nghaerdydd gau yn 2013, mae yna ddadlau wedi bod ynglŷn â’r angen i ailsefydlu y gwasanaeth. Mae yna, wrth gwrs, argymhelliad clir ynglŷn â'r lle y dylai’r uned yna fod, ond mae yna hefyd, fel rydym ni wedi ei glywed, neges glir ynglŷn â’r angen i ddarparu gwasanaeth yn y gogledd. Fel Aelod dros ranbarth y gogledd, ni fyddech chi ddim yn disgwyl i fi ddadlau yn wahanol. Mae yna gyfle fan hyn—mae yna gyfleoedd yr ydym ni wedi cyfeirio atyn nhw mewn cyd-destunau eraill yn y gorffennol—i ddatblygu gwasanaethau trawsffiniol, sydd ddim o reidrwydd yn golygu traffig unffordd o bobl sydd angen gwasanaeth yn gorfod teithio i orllewin Lloegr i gael mynediad i’r gwasanaethau yma. Mae yna gyfle fan hyn, rydw i'n meddwl, i ni droi hynny ar ei ben drwy drafodaeth gyda’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr i sefydlu canolfan o bosib yng ngogledd-ddwyrain Cymru a fyddai wedyn ar gael, wrth gwrs, i ardal a dalgylch ehangach. Felly, mae hynny yn rhywbeth—fel y mae’r adroddiad yn ei argymell—y mae angen iddo fod yn destun trafodaethau brys, a byddwn i’n gobeithio bod y Llywodraeth yn mynd ar ôl hynny.
Wrth gwrs, yn gyfochrog â’r ymchwiliad yma, mi gawsom ni gytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth a oedd wedi sicrhau ymrwymiad i greu darpariaeth arbenigol 'in-patient' iechyd meddwl amenedigol, a byddwn i’n awyddus i glywed beth yw’r diweddaraf o safbwynt gwireddu hynny. Rydw i'n gwybod am y gwaith y mae WHSSC wedi bod yn ei wneud wrth ystyried opsiynau, a byddai’n dda gwybod ble'r ydym ni arni, oherwydd bod amser yn bwysig yn y cyd-destun yma. Ond, yn sicr, rwy’n falch o rôl fy mhlaid i i sicrhau bod y gwasanaeth yma am ddod yn realiti yn y dyfodol, gobeithio, cymharol agos, os yn bosibl. Felly hefyd, wrth gwrs, yr elfen arall yn y gytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth i sicrhau £20 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol bob blwyddyn mewn gwasanaethau iechyd meddwl ehangach. Nid oes amheuaeth y bydd elfennau o hwnnw yn cyfrannu at lawer o'r uchelgais sydd yn yr adroddiad yma gan y pwyllgor, yn enwedig, fel mae'r Gweinidog wedi cydnabod wrth ymateb i'r argymhellion, mewn taclo'r amrywiaeth sydd wedi bod mewn gwasanaethau rhwng y gwahanol ardaloedd byrddau iechyd yng Nghymru. Mi glywsom y term 'loteri cod post', fel sy'n cael ei glywed mewn cyd-destunau eraill, ond yn sicr mae angen nawr mynd i'r afael â hynny.
Mae hyfforddiant y gweithlu ehangach, wrth gwrs, yn bwysig—y pwyslais a glywsom ni gan y Cadeirydd i fuddsoddi mewn ffactorau ataliol; hynny yw, buddsoddi i arbed. Mi glywsom ni ffigurau o safbwynt y gost nid yn unig i'r gwasanaeth iechyd ond i'r gymdeithas yn ehangach, a buddsoddi rhag blaen yn fodd o arbed pres, ac nid dim ond arbed pres, wrth gwrs, ond arbed y boen a'r gwewyr y mae'r unigolion hynny yn ei ddioddef lle fyddai modd efallai fod wedi taclo llawer o hyn llawer, llawer yn gynt.
Rydw i'n gweld bod amser yn fy erbyn i. Felly, mi wnaf i orffen drwy gyfeirio, wrth gwrs, at yr elfen arall—ffactor arall bwysig sy'n cael ei chydnabod, sef, stigma, sydd yn gyffredin i bob math o broblemau iechyd meddwl. Mi gymeraf i'r cyfle i atgoffa fy nghyd-Aelodau bod yfory yn Ddiwrnod Amser i Siarad, i helpu rhoi diwedd ar stigma iechyd meddwl, ac mae'n amserol iawn, yn fy marn i, ein bod ni'n trafod hwn heddiw. Mi fyddwn i'n annog pob Aelod, fel y byddaf i, i ddefnyddio'r cyfle i gael y sgwrs yna gyda phobl. Mae'n iawn i drafod problemau iechyd meddwl, ond mae hefyd yn iawn ac yn ddyletsywdd arnom ni i wneud popeth y gallwn ni i fynd i'r afael â phob agwedd ar y cyflyrau hynny, gan gychwyn gyda gwireddu argymhellion yr adroddiad hwn.
Mae Llyr newydd ddwyn fy lein. Wrth gwrs, mae'n amseru gwych: rydym yn sôn am yr adroddiad hwn ar y noswyl Diwrnod Amser i Siarad rwy'n credu, oherwydd yn amlwg fe gynhyrchoch chi eich adroddiad ym mis Hydref ac yna fe ymatebodd y Llywodraeth ym mis Tachwedd. Felly, da iawn arweinydd y tŷ am amserlennu'r drafodaeth hon heddiw.
Mae cael babi yn fusnes blêr. Un funud rydych chi'n fenyw yn eich siwt a swydd i fynd iddi, a'r funud nesaf rydych yn beiriant llaeth nad yw'n cael digon o gwsg ac yn gwbl ddibynnol ar bobl eraill i'ch galluogi i ddechrau ar y daith gydol oes o fod yn fam. A hynny gan dybio bod gennych fecanweithiau i'ch cefnogi, oherwydd os nad oes, neu os yw'r cymorth yn cael ei roi i chi'n amodol neu'n anfoddog neu'n ddigofus, mae'r daith yn llawer mwy heriol.
Felly, rwy'n credu bod hwn yn bwnc pwysig iawn. Credaf nad oes neb wedi sôn cyn belled eich bod, wrth gwrs, mewn mwy o berygl o drais yn y cartref os ydych yn feichiog. Mae'r rhai sydd wedi cael eu cam-drin o'r blaen bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cam-drin yn ystod beichiogrwydd na menywod heb hanes o drais. Ffactorau risg eraill ymhlith mamau sengl yw lefelau addysgol is, statws economaidd-gymdeithasol is, cam-drin alcohol a beichiogrwydd anfwriadol. Salwch meddwl amenedigol—ceir cysylltiad cryf â thrais yn y cartref, yn y cyfnod amenedigol a thrwy gydol eich oes. Nid ydynt o reidrwydd bob amser yn bresennol. Yn amlwg, gallwch gael iselder ôl-enedigol heb fod gennych bartner treisiol. Gallai'r rhesymau dros eich iselder fod heb gysylltiad o gwbl ag unrhyw beth fel hynny. Ond rhaid inni fod yn ymwybodol bod y risgiau hyn yn bodoli, a bod mamau'n agored iawn i niwed mewn gwirionedd pan fyddant yn cael eu babi cyntaf.
Felly, rwy'n meddwl bod eich argymhelliad 19, gofal parhaus gan fydwraig neu ymwelydd iechyd, yn gwbl hanfodol. Pan oeddwn i yn y sefyllfa hon, byddech yn cael hyd at 10 diwrnod o ymweld â'r cartref, oni bai eich bod yn cytuno ar y cyd nad oeddech ei angen am fod gennych fecanweithiau cymorth da. Ond y dyddiau hyn gwn nad yw mor gyson â hynny, ac nid oes cyfarwyddiadau'n dod gyda rhianta. Mae taer angen cyngor proffesiynol annibynnol ar famau heb yr ychwanegiadau emosiynol a gewch yn aml gan aelodau eraill o'r teulu.
Mae argymhelliad 16 yn teimlo fel pe baem yn mynd dros yr un tir eto fyth. Rwy'n falch o glywed bod Llyr yn credu bod hwn yn mynd i fod yn adroddiad arloesol, a'n bod o ddifrif yn mynd i newid pethau, ond mae arnaf ofn fy mod yn cofio trafod hyn amser maith yn ôl. Mae graddfa iselder ôl-enedigol Caeredin wedi bod mewn defnydd ers o leiaf 30 mlynedd ac mae'n offeryn syml iawn ar gyfer gofyn i fenywod sut y maent yn teimlo, sy'n eich galluogi i asesu risg posibl; yn amlwg, heb golli golwg ar eich gallu i arsylwi ar y fenyw a sicrhau eich bod wedi deall—. Rydych chi eisoes yn adnabod y person, felly gallwch arsylwi hefyd a ydych chi'n credu bod yna iselder ai peidio.
Ond mae'n destun gofid ein bod yn dal i sôn am yr angen i fydwragedd ac ymwelwyr iechyd a meddygon teulu ac unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n dod i gysylltiad â menywod ôl-enedigol gael y sgiliau hyn, a hefyd i ofyn y cwestiwn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n gwbl hanfodol ar gyfer diogelu'r fam a'r plentyn ein bod yn gofyn y cwestiynau hyn. Gofynnodd Lynne Neagle a allwn fforddio peidio â darparu'r gwasanaethau hyn, a'r ateb yw na allwn fforddio peidio ar unrhyw gyfrif, nid yn unig oherwydd yr effaith ar y fam ond oherwydd yr effaith ar y babi. Mae'r babi'n dechrau cyfathrebu y funud y mae'n gadael y groth, ac os nad yw'r fam, sef y prif berson y mae'r baban mewn cysylltiad â hi, yn cyfathrebu â'r baban, mae'r effaith yn gwbl ddinistriol. Pam y byddai'r baban yn trafferthu cyfathrebu os nad yw'n cael unrhyw ymateb gan yr oedolyn? Os yw'r oedolyn yn dioddef o iselder mawr, nid yw'n mynd i ymateb.
Felly, mae'n gwbl hanfodol fod gennym weithwyr proffesiynol yn rhan o hyn, yn ogystal ag aelodau'r teulu, er mwyn sicrhau, os yw'r person yn dioddef o iselder ysbryd amenedigol, fod pobl eraill o amgylch i siarad â'r baban, oherwydd fel arall mae'r canlyniadau'n rhai gydol oes: y methiant i sicrhau ymlyniad ag eraill, yr effaith ar ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol a ieithyddol y baban, hwyluso datblygiad iechyd meddwl da yn ystod plentyndod ac fel oedolyn—fel y clywsoch yn eich tystiolaeth.
Byddai'n ddiddorol iawn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet am yr offeryn asesu gwytnwch teuluoedd fel ffordd o ategu graddfa iselder ôl-enedigol Caeredin, oherwydd rhaid inni sicrhau nad yw deddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol yma a bod y rhai sydd fwyaf o angen gwasanaethau gweithwyr proffesiynol yn eu cael. Un o bob pump o fenywod—mae hynny'n golygu fod pawb angen y gwasanaeth hwn ac mae angen i bawb ddeall bod angen inni siarad â menywod am eu hiechyd meddwl amenedigol.
Yn gyntaf oll, hoffwn dalu teyrnged i'r menywod a'r teuluoedd sydd â phrofiad o heriau iechyd meddwl amenedigol a rannodd eu profiadau anodd gyda'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad. Cefais fy mrawychu gan y straeon gan fenywod a theuluoedd, ac ni allaf lai na theimlo mewn rhai achosion eu bod wedi cael cam mawr—ond nid gan y gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n ymdrechu i helpu menywod mewn system iechyd sy'n amlwg angen ei gwella'n sylweddol. Credaf mai tystiolaeth o ddycnwch ac ymrwymiad y gweithwyr iechyd proffesiynol ac elusennau yw'r ffaith bod menywod yn parhau i dderbyn gwasanaethau er gwaethaf yr amgylchiadau anodd.
Y peth mwyaf syfrdanol i mi oedd deall, er gwaethaf y nifer sylweddol o fenywod yng Nghymru a allai fod angen gofal fel cleifion mewnol, nad oes unrhyw gyfleuster gofal ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru ac na fu ers 2013 pan gaewyd yr unig uned mamau a babanod yng Nghymru. Ers hynny, mae'r pwyllgor yn amcangyfrif bod hyd at 100 o fenywod bob blwyddyn naill ai wedi gorfod manteisio ar ofal cleifion mewnol yn Lloegr, cyn belled â Llundain neu Nottingham, neu wedi cael eu trin mewn uned oedolion a'u gwahanu oddi wrth eu babanod. Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn nodi y byddai nifer y menywod sy'n cael eu derbyn i ofal cleifion mewnol a roddir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn awgrymu nad yw rhwng 45 a 65 o fenywod sydd angen gofal fel cleifion mewnol yn ei gael. Mae hynny'n llawer iawn o fenywod sy'n colli cyfle i gael y gofal perthnasol. Mae'n ddiffyg eithriadol o amlwg i mi.
Fel y nodwyd yn yr adroddiad, dywed canllawiau NICE y dylai menywod fod mewn uned mamau a babanod yn ddelfrydol, oni bai bod rhesymau cryf iawn dros iddynt beidio â bod yno. Nid yw'r rhesymau cryf hyn yn bodoli ar hyn o bryd. Y ffaith nad oes gennym un—nid yw hynny'n rheswm cryf i fenyw. Pam nad oes gennym un? Y rhesymau dros gau unig uned mamau a babanod Cymru, yn ôl y dystiolaeth a ddarparwyd, oedd: cyllid annigonol, camddealltwriaeth ynghylch pwy a allai gael mynediad i'r uned, fod yr uned yn rhy fach i ddatblygu arbenigeddau angenrheidiol a llai o ddiddordeb mewn, neu gydnabyddiaeth o faterion iechyd amenedigol ar y pryd. I mi, nid oedd yr un o'r rhesymau hyn yn cyfiawnhau cau'r uned. Roedd yr ateb i gadw'r uned mamau a babanod flaenorol ar agor yn nwylo'r bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru. Yn fy marn i, gwnaethant gam â llawer o fenywod a'u teuluoedd drwy gau'r uned honno.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio at ddiffyg gwybodaeth i fenywod am fanteision uned mamau a babanod, ond buaswn yn awgrymu y byddai nifer y cleifion mewnol yn anochel o fod yn well pe na bai rhwystrau megis pellter neu gael eu gwahanu oddi wrth eu plant yno yn y lle cyntaf. Yn ogystal, buaswn yn awgrymu ei bod yn eithaf dibwrpas cynghori menywod am fanteision gofal cleifion mewnol neu uned mamau a babanod pan nad yw'r gofal cywir yn mynd i fod ar gael iddynt.
Felly, rwy'n falch o nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylid adfer uned mamau a babanod yn ne Cymru. Er fy mod yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet yn datblygu'r cynlluniau hynny, ni fyddant yn hygyrch ar gyfer menywod a theuluoedd yng ngogledd Cymru. Mae'r adroddiad yn cydnabod, fel Ysgrifennydd y Cabinet, nad oes cyfradd eni ddigon uchel i allu cael uned mamau a babanod yng ngogledd Cymru. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru drafod yr opsiynau ar gyfer gogledd Cymru, ond nid yw'r ymateb manwl hwn yn mynd cyn belled ag ymrwymo i sefydlu uned mamau a babanod yng ngogledd Cymru sy'n hygyrch i bobl yng ngogledd Cymru a chanolbarth Cymru, boed yn cael ei rhannu gyda Lloegr neu beidio. Ymddengys nad yw'n ddim mwy nag addewid i feddwl amdano.
Yn bersonol, credaf fod yr argymhelliad ynghylch uned mamau a babanod yng ngogledd-ddwyrain Cymru, i'w rhannu â Lloegr, yn un rhagorol. Mae'r sefyllfa bresennol, lle mae Cymru'n dibynnu ar welyau i gleifion mewnol yn Lloegr, yn anghynaliadwy. Gall de Cymru gael uned mamau a babanod, ond bydd pobl yn y rhan fwyaf o weddill Cymru yn dal i orfod dibynnu ar allu Cymru i gomisiynu gwelyau yn Lloegr. Dywedodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru fod cael gwely mewn uned mamau a babanod yn dod yn fwyfwy anodd. Mae hyn yn gadael Cymru, yn enwedig hyd nes y cawn ein huned mamau a babanod ein hunain, ar drugaredd penderfyniadau a wneir gan GIG Lloegr a'r galwadau ar y gwasanaethau hynny yn Lloegr.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio at alw cudd am ofal amenedigol, a hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw priodol i'r alwad gan y pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i nodi lefel y galw am uned mamau a babanod yng Nghymru. Felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion ynglŷn â sut y mae lefel y galw am uned mamau a babanod ledled Cymru yn mynd i gael ei hasesu.
Pwynt arall yr hoffwn siarad amdano yw gofal parhaus. Un thema amlwg oedd bod y menywod angen gofal parhaus, a chlywsom mai anaml iawn y câi menywod ofal parhaus, os o gwbl. Un o'r heriau a nodwyd yn ystod ein hymchwiliad oedd nad oedd menywod eu hunain yn barod i adrodd am broblemau iechyd meddwl amenedigol. Ond heb ofal parhaus a'r gallu i ffurfio perthynas o ymddiriedaeth gyda gweithiwr iechyd proffesiynol, sut y mae menyw a'i theulu yn gallu teimlo'n hyderus i leisio unrhyw bryderon wrth y bobl hynny ynglŷn â sut y gallai menyw neu ei theulu fod yn teimlo? Nid oes gan weithwyr iechyd proffesiynol eu hunain bwynt cyfeirio ar gyfer asesu mamau a chynnig cymorth.
Felly, methiant systematig a pharhaus Llywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer y gweithwyr proffesiynol perthnasol sydd wedi creu'r sefyllfa hon. Rydym wedi methu hyfforddi ein staff ein hunain a bellach ni allwn recriwtio gweithwyr proffesiynol i'n gwasanaeth iechyd ein hunain. Mae hyn yn amddifadu menywod o ofal parhaus a pherthynas o ymddiriedaeth gyda gweithiwr iechyd proffesiynol go iawn y byddant yn teimlo'n ddigon diogel i drafod eu hiechyd meddwl â hwy.
Er gwaethaf hyn i gyd, fodd bynnag, caf fy nghalonogi gan ymateb cychwynnol Ysgrifennydd y Cabinet i'r adroddiad. Edrychaf ymlaen at glywed y newyddion diweddaraf maes o law am eich cynnydd yn gweithredu argymhellion yr adroddiad, yn enwedig argymhelliad 7 sy'n ymwneud â chreu uned mamau a babanod yng ngogledd Cymru i'w rhannu â Lloegr. Diolch.
Cytunaf â Michelle Brown mai un o'r elfennau sy'n peri penbleth—i mi o leiaf—am yr ymchwiliad oedd ceisio deall pam y caeodd yr uned mamau a babanod a oedd wedi bod yn weithredol yn Ysbyty Mynydd Bychan yng Nghaerdydd tan 2013. Nid wyf yn teimlo ein bod wedi mynd i wraidd y meddylfryd a'r cyfiawnhad dros wneud hynny ar y pryd, yn ddigonol i fy modloni i, o leiaf.
Yn sicr roedd yn ymddangos fel pe na bai'n cael ei hyrwyddo'n ddigon da ar draws y system iechyd yng Nghymru. Canfuom dystiolaeth o ogledd Cymru o bobl a ddaeth i'r uned honno yn y pen draw mewn gwirionedd, a llwyddodd i newid eu sefyllfa. Cawsant eu cyfeirio ati'n anffurfiol gan bobl y tu allan i'r Llywodraeth a'r system a ddarperir gan y byrddau iechyd.
Nid yw'n ddelfrydol i bobl yng ngogledd Cymru nad oes digon o bobl yno i gyfiawnhau uned newydd ar gyfer gogledd Cymru'n unig. Efallai y gellid sicrhau trefniant â Manceinion, gyda phobl o Fanceinion yn dod i ogledd Cymru am newid efallai neu a yw pobl o ogledd Cymru yn teithio i Gaerdydd neu i rywle arall yn ne Cymru ar adegau—mae Ysbyty Brenhinol Gwent wedi gwneud cais yn fy rhanbarth ac rwy'n gwybod y bu llawer o ystyried ynghylch gwahanol wasanaethau arbenigol ac i ble y dylent fynd. Er gwaethaf rhagoriaeth ysbyty Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, gwn y gallai nifer o ysbytai eraill wneud hyn yn fedrus.
Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn argymhellion 3 a 6. Dywedodd fod, a bu'n rhaid i mi wirio'r acronym yma:
'is-grŵp Haen 4 AWPMHSG wrthi'n costio'r opsiynau i'w hystyried, ac yn ystyried y pryderon a godwyd gan Gydbwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC). Bydd yr opsiynau'n cael eu cyflwyno i'r Cydbwyllgor ym mis Ionawr.'
O gofio ei bod yn 31 Ionawr heddiw, rwy'n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym beth oedd barn y cydbwyllgor ar yr argymhellion hynny. Hoffwn bwysleisio, ar ran y pwyllgor cyfan, mai'r hyn y teimlem ei fod yn bwysig oedd y dylai fod uned mamau a babanod mewn bodolaeth. Rydym yn credu, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu hefyd rwy'n meddwl, fod digon o alw yn ne Cymru i gyfiawnhau cael un. O ystyried y costau sefydlog a bod angen gofal arbenigol yn yr uned mamau a babanod honno, mae'n fy nharo bod yn rhaid iddi fod yn uned mamau a babanod lawn yn hytrach na model gwahanol o ddarpariaeth sy'n fwy lleol. Ni allaf weld sut y mae hynny'n gweithredu ar sail cleifion mewnol gyda gwasanaethau amenedigol arbenigol i famau, gan nad yw'r galw'n ddigonol i gyfiawnhau sawl canolfan gyda'r lefel o arbenigedd sy'n angenrheidiol. Felly, gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynny.
I ddilyn sylwadau Jenny Rathbone, os deallais yn iawn, credaf iddi gyfeirio at y ffaith bod un o bob pump o famau angen rhywfaint o gyswllt posibl gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl ar hyn o bryd, a chredaf ichi ddweud wedyn fod hynny'n golygu pawb, ac ni lwyddais i ddilyn hynny'n iawn, ond mae'n amlwg yn nifer sylweddol. Pan fyddwch yn edrych ar lwybr neu'n meddwl sut y mae'r gofal yn gweithredu yn y maes hwn, rwy'n meddwl y ceir categorïau gwahanol. Ceir menywod sydd wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl neu sydd â phroblemau efallai gyda thriniaeth weithredol ar yr adeg y maent yn beichiogi ac yna'n rhoi genedigaeth—. Fe ildiaf, Jenny.
Er eglurder, mewn gwirionedd yr hyn y bwriadwn ei ddweud oedd bod angen i bawb gael ei sgrinio oherwydd ei fod yn un o bob pump. Oherwydd bod nifer yr achosion mor uchel, ni allwn ddweud mai lleiafrif bach yn unig yw hwn.
Buaswn yn cytuno â chi ar hynny, a chredaf fod amgylchiadau geni a'r ffordd y mae'r system iechyd yn ei gefnogi yn caniatáu hynny. Mae ein baban bellach yn wyth mis oed, ond pan roddodd fy ngwraig enedigaeth ym mis Mai y llynedd, cawsom ein synnu'n fawr gan ansawdd y ddarpariaeth a chymaint a gawsom o ran ymweliadau gan y fydwraig a faint o ryngweithio a gawsom cyn cael ein rhyddhau o'r gwasanaeth hwnnw. Tra bod y lefel honno o sylw yn cael ei rhoi, mae'n gyfle i ymchwilio i'r materion hyn ar gyfer sgrinio. Weithiau mae'n eithaf anodd gwneud diagnosis deuol i weld a yw rhywun yn dioddef o iselder ôl-enedigol neu beidio, er enghraifft, ond ceir rhai awgrymiadau neu arwyddion fod hynny'n risg neu y gallai fod. A chredaf, yn yr amgylchiadau hynny, fod cael cam i lawr a cham i fyny yn y system, o bosibl yn cynnwys y trydydd sector, yn bwysig iawn. Felly, mewn rhai achosion, lle y caiff babi ei ryddhau ond y credir bod sail ar gyfer gwaith dilynol, weithiau gwneir hynny drwy'r ymwelydd iechyd ond hefyd o bosibl, drwy'r trydydd sector, a nodi'r amgylchiadau lle mae'n werth gwneud yr ychydig waith dilynol ychwanegol i weld a allwch ddal pobl. Felly, mae gennych grŵp sydd eisoes mewn cysylltiad ac eraill nad ydynt mewn cysylltiad.
Ac yna ceir y pethau sy'n wirioneddol ddifrifol. Gwnaeth seicosis ôl-enedigol gryn argraff arnaf, a hoffwn ganmol Sally Wilson yn arbennig, a oedd yn dyst gwych a fu o gymorth mawr i mi ddeall y mater. Mae'r graddau y gall cleifion ymateb i rywun o'r trydydd sector sydd wedi bod drwy'r profiad hwnnw eu hunain mor bwysig, a theimlaf fod angen inni wneud mwy er mwyn i'n systemau iechyd integreiddio'r cymorth trydydd sector unigryw hwnnw i roi'r cymorth y maent yn ei haeddu a'i angen i fenywod yn yr amgylchiadau hyn.
Diolch. Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig hon. Mae'r Cadeirydd a siaradwyr eraill wedi amlinellu maint y broblem a sut y mae'n effeithio ar y babi yn ogystal â'r fam a'r plant eraill yn y teulu.
Mae'r mater yr uned mamau a babanod wedi'i wneud yn glir iawn. Credaf fod pawb yn cytuno. Mae'r holl siaradwyr sydd wedi dweud unrhyw beth y prynhawn yma wedi gwneud achos dros gael uned mamau a babanod arbenigol, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi ymateb yn dda i hynny. Oherwydd fe glywsom straeon gofidus iawn ynglŷn â sut oedd absenoldeb uned mamau a babanod leol yn ei gwneud yn anodd iawn i fenywod a oedd angen gofal fel cleifion mewnol ac a wynebodd ddewis ofnadwy mewn gwirionedd o orfod mynd i wardiau gofal seiciatrig oedolion naill ai heb eu babanod, neu fynd i uned mamau a babanod yn Lloegr, yn aml iawn ymhell i ffwrdd.
Clywsom gan un gwirfoddolwr trydydd sector a oedd angen help, ond roedd ei huned mamau a babanod agosaf ym Manceinion, ac fe wrthododd oherwydd y pellter y byddai'n rhaid iddi ei deithio, a fyddai'n golygu ei bod i ffwrdd oddi wrth ei rhwydwaith o gymorth teuluol. Ond wrth edrych yn ôl, roedd hi'n gwybod mai dyna fyddai wedi bod orau i'w hiechyd meddwl. Yn sicr, yr hyn rwyf wedi ei deimlo o'r ymchwiliad hwn yw'r manteision mawr a all ddod o driniaeth ar gyfer cleifion mewnol, ac nid wyf yn meddwl fy mod yn ymwybodol o hynny cyn inni wneud yr ymchwiliad hwn mewn gwirionedd. Felly, roedd hi'n ofnadwy meddwl fod pobl yn methu cael y gwasanaeth hwnnw.
Roedd yn siomedig fod yr uned mamau a babanod wedi cau yng Nghaerdydd yn 2013. Rai blynyddoedd cyn hynny, fe gymerais ran yn helpu i'w chadw ar agor, ond yn y bôn, credaf nad oedd digon o ddefnydd ar y gwelyau, ond efallai fod hynny oherwydd nad oedd dealltwriaeth iawn o'r hyn yr oedd angen y gwelyau ar ei gyfer. Beth bynnag, y neges glir gan ein pwyllgor yw y dylid cael uned mamau a babanod ar hyd coridor yr M4, ac y dylid gwneud trefniadau yng ngogledd Cymru. Credaf mai dyna un o'n hargymhellion cryfaf.
Yn ail, roeddwn am gyfeirio'n fyr at y mater a grybwyllwyd ynghylch bwydo ar y fron. Mae pawb ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw bwydo ar y fron i iechyd plant, ond mae hefyd yn bwysig iawn i'r broses o fondio rhwng y fam a'r plentyn, sydd yn ei dro wrth gwrs yn helpu iechyd meddwl y fam. Ac rwy'n bryderus ynghylch rhywfaint o'r dystiolaeth a gawsom, a oedd fel pe bai'n dangos bod mamau a oedd wedi methu bwydo ar y fron ac yn teimlo eu bod yn fethiant yn wynebu mwy o risg o gael problemau iechyd meddwl amenedigol. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol ohono, oherwydd credaf fod yn rhaid inni wneud popeth a allwn, fel Llywodraeth, i hyrwyddo bwydo ar y fron, ond yn amlwg, cawsom dystiolaeth ei fod yn anodd iawn i fenywod ar adegau, ac y gall hyn wneud iddynt deimlo'n fwy bregus. Felly, roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn a wnaed.
Hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth, fel aelod o'r pwyllgor, i'r farn honno, a nodi, er y gwrthodwyd yr argymhelliad ar y sail honno, mae'r Llywodraeth wedi ymgymryd â ffrwd waith ac efallai mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw cael rhagor o ddealltwriaeth o effaith anawsterau bwydo ar y fron ar iechyd meddwl amenedigol.
Ie. Diolch ichi am yr ymyriad. Credaf fod hynny'n bendant yn rhywbeth y dylem edrych arno.
Roeddwn am orffen, unwaith eto, drwy adleisio'r themâu sydd wedi codi y prynhawn yma am bwysigrwydd y trydydd sector a'r grwpiau gwirfoddol y cyfarfuom â hwy, a oedd, yn fy marn i, yn gwbl eithriadol, er enghraifft yr hyn a elwir bellach yn Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru ond a arferai gael ei alw'n Recovery Mummy. Fe'i sefydlwyd gan un o fy etholwyr, Charlotte Harding, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymweld â chanolfan Gogledd Llandaf lle mae'n gweithio. Sefydlodd y grŵp mewn ymateb i'r prinder o wasanaethau sydd ar gael, a hithau wedi byw drwy seicosis ôl-enedigol, gorbryder amenedigol ac iselder. Mae hi wedi dioddef ac wedi gwella o alcoholiaeth, hunan-niwed, agoraffobia a bu'n brwydro am wyth mlynedd ag anhwylderau bwyta, ac mae'n siarad yn agored am yr anawsterau enfawr y mae hi wedi bod drwyddynt. Ac yn awr, mae ei sefydliad yn cynnig grŵp cymorth cyfeillgarwch i famau newydd, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, ymarferion ôl-enedigol a hefyd cymorth un i un ar gyfer tadau newydd.
Rhoddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ynghylch y galw enfawr sydd yna am ei gwasanaethau. Mae meddygon teulu yn gyrru pobl ati, ac eto grŵp gwirfoddol yw hwn, yn gweithredu heb ddim arian o gwbl. Credaf mai dyna un o'r materion pwysicaf i mi—mai pobl yn ei sefyllfa hi sydd yn y sefyllfa orau i roi'r cymorth unigol hwnnw i bobl eraill, i famau eraill, ond mae arnynt angen arian i wneud hynny. Felly, hoffwn orffen, mewn gwirionedd, gyda phle ar ran y grwpiau unigryw hyn fel Recovery Mummy, gan mai dyma'r grwpiau y credaf y dylem roi cymorth ychwanegol tuag atynt a'u gwneud, yn y bôn, yn rhan go iawn o'r gwasanaeth cyfan.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ynghyd â'r Cadeirydd, am eu gwaith ar yr ymchwiliad hwn ac ar gyfer yr adroddiad.
Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn gyffredin iawn, ac yn effeithio ar oddeutu 20 y cant o fenywod ar ryw adeg yn ystod y cyfnod amenedigol. Maent hefyd yn fater iechyd cyhoeddus pwysig, nid yn unig oherwydd eu heffaith niweidiol ar y fam, ond hefyd oherwydd y dangoswyd eu bod yn peryglu datblygiad emosiynol, gwybyddol a hyd yn oed corfforol y plentyn, gyda chanlyniadau hirdymor difrifol. Canfu astudiaeth gan y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl fod iselder, gorbryder a seicosis amenedigol yn costio cyfanswm hirdymor i gymdeithas o tua £8.1 biliwn am bob cohort blwyddyn o enedigaethau yn y DU. Mae hyn yn cyfateb i gost o ychydig o dan £10,000 am bob genedigaeth unigol yn y wlad. Mae bron i dri chwarter y gost hon yn ymwneud ag effeithiau andwyol ar y plentyn yn hytrach nag ar y fam. Gwelodd ymchwil a gynhaliwyd gan Ysgol Economeg Llundain yn 2014 nad oedd 70 y cant o famau yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, a chaeodd yr unig uned mamau a babanod i gleifion mewnol yng Nghymru yn 2013.
Fel y mae adroddiad y pwyllgor yn nodi, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Mae'r chwistrelliad diweddar o £1.5 miliwn wedi gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol arbenigol, ond fel y darganfu'r pwyllgor, ceir amrywio annerbyniol yn y ddarpariaeth o wasanaethau ledled Cymru. Mae gan famau hawl i wasanaethau o'r fath, ac ni ddylid pennu mynediad yn ôl cod post. Rwy'n croesawu argymhellion y pwyllgor i sefydlu rhwydwaith clinigol wedi'i arwain gan glinigwyr, a fydd yn darparu'r arweiniad cenedlaethol angenrheidiol ynghyd â'r arbenigedd sydd ei angen i ddatblygu'r gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol a'r gweithlu. Mae hyn yn hanfodol os ydym am ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf ym mhob cymuned yng Nghymru.
Hefyd, rwy'n croesawu'n gynnes argymhelliad y pwyllgor i sefydlu uned mamau a babanod yn ne Cymru. Mae canllawiau NICE yn argymell defnyddio uned mamau a babanod ar gyfer rhoi triniaeth cleifion mewnol i famau newydd. Ers cau uned mamau a babanod Caerdydd yn 2013 mae'r gofal ar gyfer mamau sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol wedi bod yn druenus o annigonol yn ôl Cymdeithas Seicolegol Prydain. Caeodd yr uned mamau a babanod, nid oherwydd nad oedd ei hangen; fe gaeodd oherwydd ei bod yn cael ei chamreoli. Roedd cyllid annigonol a chamreoli gwelyau yn rhai o'r rhesymau a ddatgelwyd i'r pwyllgor. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cael uned yn ne Cymru.
Croesawaf yn fawr argymhellion y pwyllgor ar hyn a'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhellion hynny. Edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yn fuan. Mae hwn yn fater rhy bwysig i lusgo ymlaen am fisoedd a blynyddoedd.
Hoffwn ddiolch unwaith eto i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am eu gwaith rhagorol ar yr adroddiad hwn, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion. Edrychwn ymlaen yn awr at weld cynnydd cyflym yn cael ei wneud gan y byddwn yn gweld rhwng 3,000 a 7,000 o famau newydd yn dioddef o broblem iechyd meddwl amenedigol eleni, a heb driniaeth gyflym a phriodol, bydd y fam a'r plentyn yn dioddef yr effeithiau am flynyddoedd i ddod. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad ar iechyd meddwl amenedigol, ac i'r Cadeirydd am y ffordd yr agorodd y ddadl heddiw. Croesawaf y ddadl heddiw, sy'n adlewyrchu pa mor bell rydym wedi dod o ran cydnabod problemau iechyd meddwl amenedigol. Diolch byth, mae'r dyddiau pan oedd materion iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac yn y cyfnod amenedigol yn cael eu diystyru fel cwynion cyffredin a fyddai'n diflannu dros amser yn perthyn i'r gorffennol. Ceir mwy o ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth a rhaid i'r rhain arwain at ofal gwell o lawer i'n galluogi i fynd i'r afael â phroblemau a all effeithio'n ddifrifol ar deuluoedd, fel y nodwyd yn y ddadl heddiw, yn arbennig pan fo pobl yn gallu teimlo ar eu mwyaf bregus.
Rwy'n falch iawn o gytuno mewn egwyddor â 23 allan o'r 27 o argymhellion yn yr adroddiad, ac fe grynhoaf rhai o'r camau rydym yn eu cymryd sy'n codi o'r ymchwiliad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod camau wedi'u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf i wella gwaith atal ac ymyrraeth gynnar. Felly, mae cofnod mamolaeth Cymru, rhaglen Plentyn Iach Cymru, a'r offeryn newydd ar gyfer asesu gwytnwch teuluoedd a grybwyllwyd gan Jenny Rathbone yn helpu i nodi'n gynnar pa gymorth iechyd meddwl ychwanegol y gallai fod ei angen ar famau newydd. Ar y pwynt penodol hwnnw, datblygwyd yr offeryn asesu gwytnwch teuluoedd drwy gymorth y Llywodraeth, gydag arweiniad a chyllid, ac ers mis Hydref y llynedd mae holl ymwelwyr iechyd Cymru yn cael hyfforddiant ar ei ddefnydd. Felly, rydym yn edrych ar—[Anghlywadwy.]—i wella ymarfer a helpu'r teuluoedd mwyaf anghenus.
Ac wrth gwrs, mae'r £1.5 miliwn y flwyddyn o fuddsoddiad ychwanegol a wnaethom, gan ei roi tuag at adeiladu gwasanaethau cymunedol ym mhob bwrdd iechyd, wedi bod yn allweddol ar gyfer darparu cymorth mor agos i'r cartref â phosibl ar gyfer mwy o deuluoedd ledled Cymru. Mewn rhai ardaloedd, arweiniodd at sefydlu gwasanaethau cymunedol sy'n dal i fod yn newydd iawn, tra bod eraill wedi gallu defnyddio'r arian ychwanegol i ehangu gwasanaeth presennol.
Yr hyn sy'n bwysig yw bod gennym yr ymrwymiad a'r mecanwaith ar waith i sicrhau safonau gofal cyson ledled Cymru. Felly, rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor y dylem sefydlu rhwydwaith clinigol a reolir ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yma yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith yn cael ei arwain gan glinigydd arweiniol i helpu i sicrhau gwelliannau, gan gynnwys gweithredu safonau clinigol yn genedlaethol a chasglu data. Bydd yn darparu ar gyfer rheolaeth ac atebolrwydd mwy ffurfiol, a bydd y gwaith yn adeiladu ar y gwaith rhagorol a wneir gan grŵp llywio iechyd meddwl amenedigol Cymru. A hoffwn ddiolch i'r bobl hynny am eu hymrwymiad parhaus i wella mynediad ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl amenedigol. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer y rhwydwaith newydd, ac mae cyfarfodydd wedi dechrau rhwng y Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd gwladol i roi hyn ar waith yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae adroddiad y pwyllgor yn cyfeirio hefyd at yr angen i ddatblygu safonau a chanlyniadau. A phwynt a wnaed gan y Cadeirydd ac eraill oedd bod canllawiau drafft ar gyfer fframwaith safonau integredig yng Nghymru wedi'u cyflwyno i grŵp llywio Cymru yr wythnos diwethaf. Bydd y llwybr a'r safonau'n cefnogi canlyniadau mwy cyson ar gyfer menywod a'u teuluoedd ble bynnag y bônt yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau i wneud cynnydd.
Ac ar hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus, mae'r grŵp llywio yn datblygu fframwaith dysgu a datblygu ar gyfer staff yma yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i hynny gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Bydd y rhwydwaith clinigol newydd hefyd yn monitro a nodi hyfforddiant pellach i fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. A byddaf hefyd yn disgwyl i'r rhwydwaith newydd ystyried sut y mae'r ddarpariaeth bresennol yn bodloni anghenion y boblogaeth mewn perthynas â'r iaith Gymraeg.
Wrth gwrs, mae'r pwyllgor yn ymwybodol o'n hymrwymiad i ddarparu gofal arbenigol i gleifion mewnol yn ne Cymru. Rwy'n falch o gadarnhau bod prif weithredwyr y byrddau iechyd yng Nghydbwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ddydd Llun wedi cefnogi'r angen am gyfleuster i famau a babanod a gofynnodd am achosion busnes manwl ym mis Mai eleni. Nawr, gallai hynny olygu addasu adeilad sy'n bodoli eisoes ar ystâd y GIG fel mesur dros dro cyn ystyried opsiynau mwy hirdymor. Bydd angen o hyd inni ystyried sut i wneud yn siŵr fod uned newydd yn cael ei defnyddio'n briodol ac yn llawn, oherwydd lle bynnag y caiff ei lleoli yng nghoridor de Cymru, fe fydd yn eithaf pell i lawer o fenywod mewn gwirionedd. Felly, mae angen inni feddwl am yr uned mamau a babanod nid fel yr ateb, ond fel rhan o'r ateb yn ogystal â gwella ein gwasanaethau cymunedol.
Ac rwy'n falch fod y pwyllgor wedi cydnabod, er bod achos dros ddarpariaeth i gleifion mewnol yn ne Cymru, ni allwn ddweud y byddai'r ddarpariaeth yn ne Cymru hefyd yn cynnwys y gogledd yn ogystal. Felly, cafwyd cydnabyddiaeth unwaith eto nad oes niferoedd digonol yng ngogledd Cymru i gynnal gwasanaeth diogel i gleifion mewnol ar gyfer gogledd Cymru yn unig. Rwy'n cydnabod yr hyn a oedd gan y Cadeirydd i'w ddweud ar y pwynt hwn, a dywedaf yn garedig wrth yr Aelodau, ar rai o'r sylwadau a wnaed, nad ydym mewn sefyllfa i orfodi cyrff y GIG yn Lloegr i ddefnyddio cyfleuster yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, mae sgwrs yn mynd rhagddi ynglŷn â'r hyn y gellid ei wneud drwy weithio ochr yn ochr â phartneriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Ac yn wir, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymchwilio i opsiynau ar gyfer hynny—gofal mewnol ar gyfer trigolion gogledd Cymru. Byddaf yn disgwyl i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a byrddau iechyd fynd ati'n gyflymach i weithio gyda'i gilydd i gytuno ar fodel gofal i gleifion mewnol dros y misoedd nesaf. I roi syniad o'r gwariant presennol: rhagwelir y bydd cost bresennol lleoliadau oddeutu £0.5 miliwn eleni, a gellid gwneud gwell defnydd ohono tuag at ddarparu gwasanaethau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, rydym yn darparu £40 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf tuag at wasanaethau iechyd meddwl, a bydd byrddau iechyd yn ei ddefnyddio i wella gwasanaethau yn unol â chynllun cyflawni 'Law yn llaw at iechyd meddwl'.
I nodi rhai o'r argymhellion na chawsant eu derbyn lle mae gwaith eisoes ar y gweill—ar fwydo ar y fron, a grybwyllwyd yn y ddadl heddiw, ceir grŵp gorchwyl yr oeddwn yn falch o glywed cyfeiriad ato yng nghyfraniadau Julie Morgan a Hefin David, sy'n edrych ar arferion bwydo ar y fron ledled Cymru. Disgwylir iddo gyflwyno ei adroddiad ym mis Mawrth. Mae'n bwysig nad mater iechyd meddwl amenedigol yn unig ydyw. Mae yna nifer o resymau pam ein bod am ddeall yn well faint o gefnogaeth a roddwn i fenywod a phartneriaid ar gyfer bwydo ar y fron, a'r amgylchedd ehangach yn y gymdeithas yn gyffredinol, fel bod menywod yn cael eu cynorthwyo i allu bwydo ar y fron yn gyhoeddus mewn amryw o leoliadau. Rydym yn llawer rhy gyfarwydd ag achosion parhaus lle mae pobl yn anoddefgar ac yn disgwyl i fenywod symud o'r neilltu neu gael eu rhoi o ffordd y cyhoedd. Credaf fod hynny'n anghywir. Mewn gwirionedd, credaf fod angen inni lynu mwy—. Galwaf am onestrwydd a mesurau aeddfed ar amrywiaeth o wasanaethau iechyd, ac mae hwn yn bendant yn un ohonynt. Mae angen i'r cyhoedd i gyd gymryd rhan, ac mae'n beth hollol naturiol i'w wneud, ac mae angen inni gynorthwyo menywod ac eraill i wneud hynny. O ran meddyginiaeth wrth gwrs, dylid asesu mamau sy'n bwydo ar y fron a menywod beichiog sydd angen meddyginiaeth yn unigol, a rhoi cynllun gofal ar y cyd ar waith. A mater i'r menywod hynny a'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yw gwneud dewisiadau priodol ynghylch meddyginiaeth a deall y risgiau o ddarparu meddyginiaeth neu beidio â gwneud hynny.
Ar rôl ymwelwyr iechyd, mae byrddau iechyd wedi rhoi gwasanaethau cymunedol amlddisgyblaethol ar waith. Ac mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol wedi gweithio gyda'r maes bydwreigiaeth generig a'r gwasanaeth ymwelwyr iechyd i godi ymwybyddiaeth o'r broses atgyfeirio ar gyfer iechyd meddwl amenedigol er mwyn ceisio sicrhau darpariaeth ôl-enedigaeth ddi-dor. Ac fel y cydnabu'r Cadeirydd ar y cychwyn, nid yw hon yn nodwedd anghyffredin cyn neu ar ôl rhoi genedigaeth, ac mae'n rhan o'r hyn y dylai'r gwasanaeth generig allu ei gyflawni a'i nodi. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan dystiolaeth a chyngor proffesiynol ynghylch cymysgedd sgiliau'r staff sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu'r gwasanaeth sydd ei angen ar bobl Cymru. Ac roedd yn galonogol clywed sylwadau Mark Reckless am ei brofiad ei hun pan aned babi i'r teulu yma yng Nghymru a lefel y gwasanaeth a gawsant. Ac ni ddylem golli golwg ar hynny. Mewn gwirionedd, mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo gyda'n bydwragedd a'n timau ymwelwyr iechyd yma yng Nghymru, yn rhannol oherwydd bod awydd gwirioneddol o fewn y proffesiwn i ddysgu ac i wella, ac mae'n nodwedd arbennig o'n gwasanaeth yma yng Nghymru.
Gallaf weld bod fy amser yn dod i ben, Ddirprwy Lywydd, felly rwyf ond eisiau cydnabod yn y pwynt olaf mai'r garreg filltir fawr nesaf fydd cyhoeddi prosiect ymchwil i'r gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru gan yr NSPCC, Mind Cymru a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Disgwylir iddo gael ei gwblhau cyn hir. Edrychaf ymlaen at ddarllen ei ganfyddiadau a ddylai roi darlun cliriach inni o sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yma yng Nghymru yn diwallu anghenion teuluoedd ar hyn o bryd, a hefyd beth arall sydd angen inni ei wneud i ddeall a diwallu'r anghenion hynny'n well.
Diolch. Galwaf ar Lynne Neagle, fel y Cadeirydd, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n mynd i orfod bod yn gyflym iawn oherwydd nid oes gennyf lawer o amser, felly ni fyddaf yn gallu ymateb i bwyntiau pawb, ond diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, ac mae'n wych gweld y fath amrywiaeth o siaradwyr ar draws y Siambr ar y pwnc pwysig hwn. Rwyf am geisio mynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau o'r ddadl.
Cyfeiriodd Darren Millar at bwysigrwydd triniaethau seicolegol, ac mae hynny'n gwbl allweddol. Cawsom dystiolaeth rymus iawn yn y maes hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cofio y gellid lliniaru'r materion yr ymdriniwyd â hwy ynghylch meddyginiaeth drwy fynediad at therapïau seicolegol oherwydd, yn aml, caiff meddyginiaeth ei rhoi i lenwi gwacter. Hefyd, soniodd Darren am bwysigrwydd yr angen i fapio gwasanaethau a chyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb at y gwaith sy'n cael ei wneud, yr ymchwil ar hynny, a chredaf y bydd hwnnw'n waith defnyddiol iawn yn y dyfodol ac rwy'n gobeithio y gall y pwyllgor ddychwelyd ato.
Cawsom ein hatgoffa gan Llyr ynglŷn ag amseriad y ddadl hon a'r ffaith mai yfory yw Diwrnod Amser i Siarad a'r materion ynghylch stigma a drafodwyd gennym, a Jenny hefyd. Roedd stigma yn thema amlwg iawn yn yr ymchwiliad hwn ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio bod stigma yn broblem benodol i fenywod sydd â salwch meddwl amenedigol oherwydd eu bod yn ofnus iawn y gallant fod mewn sefyllfa lle y gallai eu plentyn gael ei gymryd oddi wrthynt. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â stigma. Crybwyllodd Jenny hynny hefyd, a nododd faterion yn ymwneud â gofal parhaus, a siaradodd Michelle am hynny hefyd—thema gyson arall yn yr ymchwiliad. Mae menywod wedi blino gorfod dweud yr un stori wrth nifer o weithwyr proffesiynol gwahanol. Mae'n bwysig iawn, er gwaethaf y cyfyngiadau a geir mewn perthynas â'r gweithlu, ein bod yn ceisio cael y berthynas barhaus honno gyda bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.
Cyfeiriodd Mark a Julie at bwysigrwydd y trydydd sector. Ac roedd honno, fel y dywedodd Julie, yn dystiolaeth bwerus iawn mewn gwirionedd—fod gennym sefydliadau sydd yn llythrennol yn rhedeg ar gasgliadau bagiau siopa mewn archfarchnadoedd, ac eto maent yn cael atgyfeiriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol a chan feddygon teulu, ac yn syml iawn, mae'n rhaid i hynny ddod i ben. Rhaid inni gael system lle mae byrddau iechyd a chyrff eraill yn cydnabod y rôl sydd ganddynt ac yn eu hariannu yn unol â hynny.
Fel nifer o'r Aelodau, ychwanegodd Caroline Jones ei chefnogaeth i sefydlu uned mamau a babanod yng Nghymru. Mae'n gwbl allweddol a chredaf fod yn rhaid inni gofio bod salwch meddwl amenedigol, yn ogystal â bod yn amser anodd iawn i fenywod wrth gwrs, yn un o brif achosion marwolaeth ymhlith mamau mewn gwirionedd. Gall canlyniadau peidio â chael y gofal yn gywir fod yn ddifrifol iawn. Felly, mae angen inni fuddsoddi yn y ddarpariaeth hon a'i chael yn iawn.
Felly, a gaf fi gloi drwy ddiolch eto i bawb a gyfrannodd at y ddadl, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet, holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith caled ar yr ymchwiliad hwn, tîm y pwyllgor sydd, fel bob amser, wedi bod yn wych, a phawb a fu'n ymwneud â ni ar y gwaith pwysig hwn? Byddwn yn ailystyried hyn ar sail reolaidd ac yn monitro gweithrediad yr adroddiad yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.
Rwy'n bwriadu symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i fwrw ymlaen i alw'r bleidlais. Iawn.