5. Cynnig Comisiwn y Cynulliad: Ymgynghori ynghylch Diwygio'r Cynulliad

– Senedd Cymru am 2:57 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 2:57, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 ar yr agenda yw cynnig Comisiwn y Cynulliad, sef ymgynghoriad ar ddiwygio'r Cynulliad, a galwaf ar y Llywydd i gynnig y cynnig—Lywydd.

Cynnig NDM6646 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

2. Yn cymeradwyo penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i ymgynghori ynghylch cynigion y Panel a diwygiadau eraill yn ymwneud ag etholiadau, yr etholfraint a threfniadau mewnol y gellir eu rhoi ar waith o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:58, 7 Chwefror 2018

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser cyflwyno'r cynnig yn fy enw i.

Y llynedd, pasiwyd Deddf Cymru 2017, gan nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru. Mae yna wahanol safbwyntiau yn y Siambr hon ynghylch y Ddeddf yna a'r hyn y mae'n ei olygu i ddyfodol datganoli yng Nghymru. Serch hynny, yr wyf yn siŵr y gallem ni i gyd gytuno bod datganoli pwerau dros ein trefniadau etholiadol a mewnol ein hunain yn ddatblygiad pwysig. Mae'n gyfle i ni sicrhau bod ein Senedd genedlaethol yn adlewyrchu'n well y gymdeithas yr ydym yn ei chynrychioli ac yn gweithio yn y modd mwyaf effeithiol posib wrth ymateb i anghenion ein cymunedau.

Cam cyntaf pwysig yw defnyddio'r pwerau hyn i newid enw'r Cynulliad i 'Senedd Cymru', i sicrhau bod pawb yn deall beth mae'r sefydliad hwn yma i'w gyflawni, a sut mae'n gweithio gyda phobl Cymru ac ar ran pobl Cymru.

Mae'r Comisiwn hefyd wedi rhoi mesurau eraill ar waith, gan gynnwys sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru i ysbrydoli a chynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad, a gweithredu argymhellion y tasglu newyddion digidol annibynnol i'w gwneud hi'n haws i bobl ddeall yr hyn y mae'r Cynulliad yn ei wneud a chael y wybodaeth ddiweddaraf amdano.

Fodd bynnag, pan ddaw Deddf Cymru i rym y mis Ebrill yma, byddwn yn gallu mynd ymhellach na hyn, i newid maint y Cynulliad, system etholiadol a threfniadau mewnol y sefydliad, yn ogystal ag etholfraint ein hetholiadau, gan gynnwys yr oedran pleidleisio.

Y llynedd, sefydlodd Comisiwn y Cynulliad banel arbenigol ar ddiwygio etholiadol i roi cyngor cadarn a gwleidyddol ddiduedd i ni ar nifer yr Aelodau sydd eu hangen ar y Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Ers hynny, fel rŷch chi'n gwybod, mae'r panel wedi cyhoeddi adroddiad manwl ac argymhellion penodol sy'n cynnwys neges glir ar gapasiti ein sefydliad. Daeth i'r casgliad bod y Cynulliad, gyda dim ond 60 Aelod, yn rhy fach i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol. Hoffwn ddiolch, ar y pwynt yma, i'r panel, o dan gadeiryddiaeth Laura McAllister, am yr adroddiad cynhwysfawr a thrylwyr y maent wedi'i gyflwyno i ni.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:00, 7 Chwefror 2018

Mae pob un yn y Siambr hon yn deall yn iawn nad yw galw am fwy o wleidyddion o reidrwydd yn mynd i fod yn boblogaidd. Serch hynny, mae'r adroddiad yma'n amlygu'r angen i weithredu i fynd i'r afael â'r bwlch mewn capasiti. Nododd y panel y cynigion sydd eisoes wedi'u gweithredu drwy ddulliau eraill er mwyn cynyddu capasiti'r Cynulliad, ond ni fu'r dulliau hynny ynddynt eu hunain yn ddigon. Felly, mae gan Gomisiwn y Cynulliad gyfrifoldeb i archwilio beth yn fwy y gellir ei wneud.

Er mwyn ethol mwy o Aelodau, mae angen system i wneud hynny, wrth gwrs, ac mae'r panel wedi ffafrio tair system benodol yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion craidd. Mi fydd ymgynghoriad gan Gomisiwn y Cynulliad yn gwahodd ymatebion i'r argymhellion hyn, ynghyd â rhai awgrymiadau eraill ynglŷn â'r trefniadau etholiadol a threfniadau mewnol sydd wedi eu codi eisoes gan bwyllgorau'r Cynulliad yma yn eu gwaith blaenorol. Fe fydd yr ymgynghoriad hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys y syniadau arloesol a blaengar yn adroddiad y panel am sicrhau amrywiaeth o ran cynrychiolaeth, yn enwedig o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau, ac edrychaf ymlaen at glywed y sylwadau ynglŷn â sut y gall cynigion ar gyfer y systemau etholiadol arwain at Gynulliad sy'n adlewyrchu'n well y bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethau. Felly, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r pleidiau ar yr argymhellion hyn, ac ar unrhyw awgrymiadau amgen eraill y maent yn credu y gallent ddenu'r consensws anghenrheidiol yma yn y Siambr.

Mae adroddiad y panel arbenigol yn ei gwneud yn glir: os bydd y Cynulliad yn derbyn yr achos i gynyddu maint y Cynulliad a newid ein system etholiadol, yna nawr, yn ystod tymor y Cynulliad yma, yw'r amser i weithredu ac i ddeddfu. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn faterion sy'n mynd i wraidd ein trefniadau cyfansoddiadol, a dyna pam mae'r cydweithredu rhwng y pleidiau gwleidyddol ar y mater hwn dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod mor bwysig. Diolch i arweinwyr y pleidiau am eu mewnbwn, ac i'r Aelodau unigol hynny—ac, yn wir, i'r cynrychiolwyr sydd wedi mynychu cyfarfodydd o'r grŵp cyfeirio gwleidyddol. Rydw i'n ddiolchgar iawn am y ffordd gadarnhaol, adeiladol a sensitif y mae pawb wedi ymgysylltu â'r materion anodd yma.

Fy mwriad yw parhau yn y modd hwnnw, a dylai diwygiad mor bwysig â hyn bob amser gael ei yrru ar sail drawsbleidiol, gyda chonsensws gwleidyddol eang yn y Siambr yma, ac yn fwy eang. Mi fydd ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys cwestiynau penodol am leihau'r oedran pleidleisio i gynnwys pobl sy'n 16 ac 17, i ganiatáu pawb sy'n preswylio yng Nghymru yn gyfreithlon i bleidleisio, hyd yn oed os nad ydynt yn ddinasyddion y Deyrnas Gyfunol, ynghyd â rhai carcharorion. 

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ddatganiad i’r Siambr yma bythefnos yn ôl, gan amlinellu ei gynigion ef ar gyfer diwygio etholiadau llywodraeth leol, yn cynnwys newidiadau tebyg i’r etholfraint. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei ymrwymiad i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i sicrhau bod ein cynigion ar gyfer diwygio yn cael eu datblygu i greu fframwaith cydlynus, ymarferol ac effeithiol ar gyfer etholiadau yng Nghymru i'r dyfodol. Y cam nesaf o'r gwaith yw ymgysylltiad eang gyda holl Aelodau'r Cynulliad, gyda chymdeithas ddinesig a gwleidyddol, ac, yn fwy na dim, gyda phobl Cymru.

Bwriad y Comisiwn yw lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus yr wythnos nesaf, gan ofyn am farn ar argymhellion y panel arbenigol, ac ar ddiwygiadau posibl eraill i drefniadau etholiadol a gweithredol y Cynulliad. Mae angen i'r sgwrs yma gynnwys ystod eang o leisiau o bob cwr o Gymru: pobl sy'n ymgysylltu â'r Cynulliad yn aml, pobl na fyddent byth yn ystyried ymateb i ymgynghoriad y Cynulliad, a phobl a allai fod yn gwybod ychydig yn unig am y sefydliad ar hyn o bryd. I'r perwyl yma, felly, bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau gwahanol a fydd yn helpu pobl i ddeall y cynigion ac ymateb mewn ffyrdd addas. Er enghraifft, yn ogystal â chyhoeddi dogfen ymgynghori ffurfiol, fe fyddwn yn lansio gwefan fach i ddarparu gwybodaeth am y cynigion a helpu pobl i ymateb ar y materion sydd bwysicaf iddynt. 

Mae'r cynnig gerbron y Cynulliad heddiw yn gwahodd Aelodau i gymeradwyo penderfyniad y Comisiwn i ymgynghori â phobl Cymru ar y ffordd ymlaen—dim mwy, dim llai. Bydd gwrando ar farn pobl, deall eu pryderon ac adeiladu ar eu syniadau yn ein helpu i benderfynu a yw'r amser yn iawn i gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r sefydliad a chynnwys y ddeddfwriaeth honno. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig yma heddiw, a thrwy hynny sicrhau mai lleisiau y bobl yr ydym ni yn eu gwasanaethu fydd yn llunio dyfodol ein Senedd ni.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:05, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae gennym nifer o siaradwyr. Fe geisiaf eich cynnwys i gyd yn yr amser byr sydd gennym ar gyfer y ddadl, ond rwyf am apelio arnoch i gofio efallai na chaiff eich cyd-Aelodau eu galw. Felly, os gallwch fod mor gryno ag y gallwch. Diolch. Angela Burns.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw yn fawr iawn. Hoffwn hefyd gofnodi diolch y Ceidwadwyr Cymreig yn ffurfiol i Laura McAllister a'i thîm. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr ymgysylltu sydd wedi digwydd â chynrychiolwyr gwleidyddol, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw, oherwydd mae'n hanfodol bellach yn ein barn ni ein bod yn gofyn i bobl Cymru am eu safbwyntiau ac nad ydym yn achub y blaen ar eu barn. Rydym yn ystyried mai'r cyfrifoldeb allweddol ar gyfer Comisiwn y Cynulliad yw sicrhau bod gan y Cymry ddealltwriaeth glir o'r cyfrifoldebau ychwanegol a ddaw yn sgil Deddf Cymru 2017. Rydym yn credu bod gan Gomisiwn y Cynulliad gyfrifoldeb clir iawn i sicrhau bod gan bobl Cymru ddealltwriaeth dda o'r cynigion a wnaed gan y panel arbenigol. Mae'r cynigion hyn yn eithaf cymhleth o ran eu manylder. Mae rhai ohonynt yn dechnegol iawn, yn enwedig argymhellion 6 a 7, sy'n sôn ynglŷn â sut y gallwn bleidleisio, neu sut y gall pobl Cymru bleidleisio dros Aelodau'r Cynulliad. Credaf fod angen eglurder gwirioneddol ynghylch unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol fel y gall pobl ddeall yn glir iawn beth yw'r gwahanol opsiynau. Mae'n system eithriadol o gymhleth.

Credwn yn gryf iawn hefyd fod gan Gomisiwn y Cynulliad gyfrifoldeb mawr iawn bellach i sicrhau y gall cymaint â phosibl o bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Rhaid iddo gynnwys mwy na'r rhanddeiliaid arferol. Rhaid inni gysylltu â'r bobl i gyd. Felly, byddwn yn eich annog i edrych ar ffyrdd arloesol a gwahanol o gyrraedd pobl, pa un a ydynt yn y gogledd, y de, y dwyrain neu'r gorllewin, i sicrhau bod pawb yn cael cyfle.

Nid Cynulliad ydym bellach ond Senedd, ac mae'n hanfodol fod gan Aelodau'r Cynulliad yn y lle hwn y gallu, yr amser a'r adnoddau at eu defnydd i allu craffu'n effeithiol ar Lywodraeth Cymru. Wrth imi eistedd yma'n gwrando ar araith agoriadol y Llywydd, dros fy mlynyddoedd o fod yn Aelod Cynulliad, rwyf wedi bod yn y brif wrthblaid bob amser, namyn un blip bach iawn, ac rwy'n gwybod pa mor bwysig yw gallu craffu pan ydych yn y rôl honno i allu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a dwyn y blaid sy'n llywodraethu i gyfrif, oherwydd mae'n rhaid gallu pwyso a mesur ym mhob cymdeithas, a mae'n rhaid inni allu pwyso a mesur pwy bynnag sydd yn Llywodraeth yng Nghymru. Er mwyn gwneud hynny mae angen i ni fod yn effeithiol, yn deg, yn ddiduedd ac yn llawer llai llwythol ein natur mewn perthynas â phwyllgorau, a rhaid inni hefyd alluogi plaid lywodraethol i gael mainc gefn gadarn, oherwydd dyna'r ffordd y mae democratiaeth wirioneddol dda yn gweithio. Felly, gallwn weld bod yr alwad i weithredu, yr alwad i adolygu sut rydym yn rhedeg ein Cynulliad, yr alwad i adolygu'r arfau sydd gennym at ein defnydd, o bwys enfawr bellach. Ond mae'n un anodd i'w esbonio i bobl, a rhaid inni ei gwneud yn glir iawn—neu mae dyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i'w gwneud yn glir iawn—fod pobl Cymru yn deall hynny, ac yna, pan fyddant wedi penderfynu, rhaid i ni wrando arnynt a chadw at hynny, oherwydd eu Senedd hwy yw hon wedi'r cyfan.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:09, 7 Chwefror 2018

Diolch i'r Llywydd am gyflwyno'r ddadl yma heddiw, ac i Laura McAllister a'i thîm am waith mor drwyadl. Mae hon, wrth gwrs, yn ddadl lle'r ydym ni wedi bod yn trafod o'r blaen. Rydw i'n cofio mynd, ar ran Plaid Cymru, i roi tystiolaeth i'r comisiwn Richard ynglyn ag ehangu'r Cynulliad y pryd hwnnw, pan benderfynwyd neu yr argymhellwyd y dylem ni symud—hyd yn oed dros 10 mlynedd yn ôl—at Gynulliad o 80 Aelod, a dyma ni yn dal, felly, yn 60. Felly, mae'n hen bryd inni siarad â phobl Cymru ynglŷn ag argymhellion trwyadl, go iawn, a phwrpasol iawn ar gyfer troi Cynulliad sydd yn esblygu’n Senedd yn Senedd go iawn, gyda chydbwysedd go iawn rhwng y Llywodraeth a’r gwrthbleidiau.

Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu’r adroddiad yn fawr iawn, ond nid ydw i eisiau sarnu chwaith ar ymgynghoriad go iawn â’r cyhoedd. Felly, nid ydw i ond eisiau sôn ychydig am yr egwyddorion y mae Plaid Cymru’n teimlo eu bod yn bwysig wrth inni edrych ar hwn, gan gadw, wrth gwrs, yr opsiynau ar agor ar gyfer y dulliau o gyflawni’r egwyddorion hyn.

Yn gyntaf oll, rydw i eisiau sôn am y ffaith bod angen ehangu capasiti a gallu’r Cynulliad i graffu ar y Llywodraeth a dal y Llywodraeth i gyfrif. Mae hyn yn rhywbeth y mae Angela Burns newydd sôn amdano hefyd. Wrth gwrs, fel arfer, mae hwn yn cael ei ddisgrifio fel 'mwy o wleidyddion', ond hoffwn i ei ddisgrifio fe yn hytrach fel mwy o wleidyddion ond llai o rym i’r Llywodraeth, achos y Llywodraeth sydd yn gorfod wynebu Senedd fwy grymus, mwy pwerus yn Llywodraeth sydd yn gallu bod yn fwy atebol—yn gorfod bod yn fwy atebol—i gyhoedd Cymru. Rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn colli gwleidyddion yng Nghymru. Byddwn ni’n colli Aelodau Senedd Ewrop, ac rŷm ni o hyd yn trafod colli Aelodau Seneddol San Steffan drwy ddiwygio seneddol.

Yr ail egwyddor yw estyn yr etholfraint bleidleisio i bobl ifanc. Rydw i’n gwybod, drwy drafod ag ysgolion fy hunan, fod pobl ifanc yn rhannu yn eithaf 50:50 ar y materion yma eu hunain, ond rydw i yn credu bod estyn yr hawl yna i bobl ifanc i bleidleisio o 16 ymlaen yn rhywbeth y dylem ni nawr ystyried o ddifrif ar y cyd â’r newidiadau sy’n digwydd i’r cwricwlwm cenedlaethol.

Yn drydedd, wrth gwrs, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr y bydd beth bynnag yr ŷm ni’n ei wneud yn gyfystyr neu’n gyfartal â chyfranogaeth pleidleisiau sydd gyda ni eisoes yn y Cynulliad, neu hyd yn oed yn gwella ar hynny. Ac mae yn bwysig i Blaid Cymru ein bod ni’n taro’r cydbwysedd yn iawn rhwng atebolrwydd lleol a’r ffaith bod pleidleisiau dros Gymru i gyd yn cael eu hadlewyrchu gymaint ag sy’n bosibl yn y lle hwn yn y ffordd y mae pobl yn pleidleisio. Rŷm ni’n dathlu’r ffaith bod isetholiad wedi digwydd ddoe ac yn croesawu Jack Sargeant fel Aelod newydd, sydd yn dangos bod yna brawf yn y broses, ac er efallai fod yna rai yn siomedig yn y nifer a oedd wedi troi mas, roedd hi’n eithaf calonogol a dweud y gwir fod bron un o bob tri o bobl Alun a Glannau Dyfrdwy wedi pleidleisio mewn isetholiad—mae’n well nag ambell isetholiad yn San Steffan. Ond, po fwyaf yr ydym yn gallu adeiladu ar gyfranogaeth, gorau y bydd y Senedd yma yn ymdrin â’r materion ger bron.

Wrth gwrs, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod ni’n cadw ac yn gwella ar y gynrychiolaeth gan y ddau ryw yma. Mae hwn yn rhywbeth y mae Siân Gwenllian wedi sôn yn ddiweddar yn y Cynulliad amdano. Mae yna argymhellion pendant gan Laura McAllister yn yr adroddiad. Yr hyn a ddywedaf i nawr yw nad yw hi’n anghyffredin o gwbl mewn democratiaeth fodern gweld prosesau a thechnegau yn eu lle i sicrhau bod y senedd yn cynrychioli, gymaint ag sy’n bosibl, ddynion a menywod yn gyfartal.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:13, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ac rwy'n meddwl, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ei bod hi'n hen bryd sicrhau bod y Cynulliad hwn yn cael ei drawsnewid yn Senedd Cymru mewn enw, ac nid mewn enw'n unig, ond o ran ei chyfansoddiad a'i statws yn ogystal. Mae hyn oherwydd yr hanes sydd gennym. Peidiwch â chamgymryd: roedd rhoi cynulliad yn lle senedd i Gymru yn gwbl fwriadol; cawsom ein hualu'n fwriadol o'r dechrau. Dim pwerau deddfwriaethol tan refferendwm 2011, wrth gwrs. Dim pwerau trethu o gwbl. Nid oedd gennym Lywodraeth hyd yn oed yn nyddiau cyntaf y Cynulliad. Dyna pa mor gaeth yr oeddem, ac roedd y disgrifiad 'cyngor sir ar stilts' yn llawer rhy agos i'r gwir o'm rhan i. Ond rydym wedi symud ymlaen; rydym wedi dod yn Senedd go iawn yn ein trafodaethau, yn y ffordd rydym wedi cydweithio ar y ddeddfwriaeth drethu dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae'n bryd cydnabod hynny ar y cyd ac mewn ymgynghoriad â phobl Cymru. Ond rwy'n sicr yn obeithiol y daw hynny i gyfnod lle y mae gennym graffu go iawn ar y Llywodraeth gyfan, o ba liw bynnag yn wleidyddol.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:14, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n codi i siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd grŵp Llafur y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r materion a godwyd yn adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad yn faterion, nid i'r Llywodraeth yn y lle cyntaf, ond i ni fel cynrychiolwyr ein pleidiau gwleidyddol, ac i'n cymunedau a'n pleidiau'n fwy eang eu hystyried.

Hoffwn gofnodi diolch fy mhlaid i'r Athro Laura McAllister am ymgymryd â'r darn sylweddol hwn o waith. Mae ehangder arbenigedd aelodau'r panel wedi sicrhau archwiliad manwl o faterion cymhleth iawn. Maent yn faterion sy'n haeddu ystyriaeth ac ymgynghori llawn.

Ceir dau faes yn yr adroddiad lle mae gennym bolisi presennol. Yn gyntaf, mae Llafur Cymru yn cefnogi pleidlais yn 16 oed, fel y gwelwyd yn y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru i ymestyn yr etholfraint yn yr etholiadau llywodraeth leol. Dyma ymrwymiad a wnaed yn ein maniffesto yn 2016 ac rydym yn cefnogi cynigion i ymestyn hyn i etholiadau'r Cynulliad hefyd. Yn ail, mae gan Lafur Cymru draddodiad balch o ethol menywod yng Nghymru. Mae gennym fwy o fenywod yn y Senedd hon nag unrhyw blaid arall, a menywod yw dros 50 y cant o'n grŵp. Er ei bod wedi cymryd 80 mlynedd i Blaid Cymru ethol menyw i'r Senedd, ac nid yw'r Torïaid, er mawr gywilydd, byth wedi ethol menyw i Dŷ'r Cyffredin o Gymru, o'r 11 o ASau o Gymru sy'n fenywod, Llafur yw 10 ohonynt. Ac nid yn unig yn San Steffan a Bae Caerdydd y mae Llafur Cymru yn arwain ar hyn. Mewn siambrau cynghorau ledled Cymru, mae gan Lafur Cymru fwy o fenywod yn cynrychioli eu cymunedau nag unrhyw blaid arall. Yn fy etholaeth i, Cwm Cynon, mae dros hanner y cynghorwyr lleol, a dros hanner cynghorwyr Llafur Cwm Cynon, yn fenywod.

Ond nid wyf am fynd dros ben llestri. Mae dulliau cadarnhaol i gynyddu nifer y menywod yn chwarae rhan arwyddocaol a thrwy hynny, yn trawsnewid fy mhlaid. Rhoddodd hyn lais i fenywod a helpu i wneud y lle hwn yn arena well a mwy adeiladol i drafod dyfodol ein gwlad. Mae gan bob plaid ddyletswydd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r cymunedau y maent yn ceisio'u cynrychioli. Ni ddylai gymryd panel o arbenigwyr i wneud hynny'n glir i unrhyw un. Bydd rhai ohonoch yn cytuno â'r cwotâu fel y'u nodwyd yn adroddiad y panel arbenigol. Bydd eraill yn anghytuno. Beth bynnag yw eich barn, gobeithio y gallwn i gyd gytuno fod arnom angen mwy o fenywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, i sefyll etholiadau, a llwyddo mewn gwleidyddiaeth. Nid wyf eisiau inni fod angen cwotâu, ond yn arbennig nid wyf am i unrhyw blaid feddwl y gallant aros hyd nes y cânt eu gorfodi gan y gyfraith i fod o ddifrif ynghylch cynrychiolaeth gyfartal.

Ddirprwy Lywydd, 100 mlynedd yn ôl cafodd rhai menywod yr hawl i bleidleisio. Mae o fewn ein gafael i roi llais go iawn i bob menyw hefyd. Mae'r grŵp Llafur wedi cael trafodaeth gychwynnol ar feysydd eraill yr adroddiad, a byddwn yn parhau â'r rhain. Byddwn hefyd yn cyfrannu at yr ymgynghoriad y mae ein plaid wedi ymrwymo iddo yn ystod 2018 cyn adrodd i'n cynhadledd yn 2019. Ddirprwy Lywydd, i gloi, hoffwn ddiolch eto i'r panel arbenigol am eu gwaith ac edrychaf ymlaen at ymwneud â chasgliadau ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:17, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, am gyflwyno'r cynnig heddiw ar ran Comisiwn y Cynulliad. Hefyd, hoffwn ddiolch i'r panel arbenigol am gynhyrchu ei adroddiad, a'r grŵp cyfeirio gwleidyddol ei hun, sydd wedi bod yn cyfarfod dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd cyfarfodydd y grŵp cyfeirio gwleidyddol yn ddiddorol iawn, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf, er bod yn rhaid imi nodi mai un yn unig a fynychais yn bersonol, a hynny fel dirprwy. Ond gwrandaowdd UKIP yn ofalus ar y panel a'r hyn a oedd ganddynt i'w ddweud, ac ar ymateb y pleidiau gwleidyddol hefyd.

Ond rwy'n credu bod barn y pleidiau gwleidyddol am y newidiadau arfaethedig hyn yn llai pwysig mewn gwirionedd na barn y cyhoedd amdanynt. Dyna pam y mae UKIP yn cefnogi'r ymgynghoriad cyhoeddus ac felly'n hapus i gefnogi'r cynnig heddiw. Ond teimlwn y dylai'r ymgynghoriad weithredu fel ffordd o addysgu etholwyr Cymru am y newidiadau arfaethedig hyn, a chredwn mai'r mwyaf ohonynt yw'r cynllun arfaethedig i ehangu'r Cynulliad. Credwn fod hwn yn fater mor fawr fel y dylai'r ymgynghoriad arwain at refferendwm yn y pen draw, gan na ellir pennu fod unrhyw gydsyniad poblogaidd wedi'i roi heb inni gael refferendwm o'r fath yn gyntaf.

Nawr, o ran y materion eraill, pleidlais yn 16 oed: mae gennym bolisi cenedlaethol ar hynny hefyd, ac rydym yn gwrthwynebu ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed. Cynrychiolaeth gyfartal o ran rhywedd: credwn y dylai hynny fod yn fater i'r pleidiau gwleidyddol eu hunain benderfynu yn ei gylch. Y broblem gyda'r ymgynghoriad yw sut i gael ymglymiad eang, a sut i sicrhau y caiff lleisiau eu clywed yn hynny ac nid yr hen wynebau'n unig—hynny yw, y rhanddeiliaid sydd eisoes yn gwbl gefnogol i'r Cynulliad fel sefydliad ac a fyddai'n ddigon bodlon gweld Cynulliad estynedig. Rhaid inni sicrhau nad yw'r ymgynghoriad wedi'i rigio mewn unrhyw ffordd.

Nawr, mae'r Llywydd wedi siarad am yr angen am gonsensws yn y lle hwn, ond hefyd am yr angen am ryw fesur o gydsyniad poblogaidd. Yn UKIP, credwn y byddai'n annoeth bwrw ymlaen, yn enwedig gydag ehangu'r Cynulliad, heb sicrhau'r cydsyniad poblogaidd hwnnw drwy gyfrwng refferendwm.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:20, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi hefyd ymuno â'r Aelodau eraill i longyfarch Laura McAllister a'r panel am lunio adroddiad awdurdodol? Credaf ei fod cystal ag unrhyw beth a fyddai wedi'i gynhyrchu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac mae'n dilyn traddodiad balch o adrodd cyfansoddiadol a fu gennym yn ein hanes ers datganoli. Efallai ein bod wedi gorfod gwneud llawer o'r meddwl ar hyd y ffordd—ac felly cawsom gomisiwn Richard, cawsom gomisiwn Silk, a chomisiwn Holtham, er bod hwnnw'n ymwneud yn fwy uniongyrchol â Llywodraeth Cymru. Maent yn gorff o dystiolaeth gwych iawn ar y materion cyfansoddiadol canolog hyn yn fy marn i. Ni chredaf y gall unrhyw un ohonom amau prif ganfyddiad yr adroddiad, sef—a dyfynnaf—fod y Cynulliad

'yn rhy fach a bod gormod o bwysau arno.'

Rwyf wedi gwasanaethu yn y Cynulliad o'r cychwyn yn 1999. Rwyf wedi ei weld yn esblygu a sylweddolaf, yn glir iawn, fod swm y gwaith a wnawn yn rhyfeddol—a'r rheswm am hynny yw ein bod yn cael cefnogaeth dda, yn meddu ar staff rhagorol, ac wedi dysgu addasu ein gweithdrefnau. Ond nid yw o reidrwydd yn ddigymell mewn rhai agweddau, ac mae cynnal capasiti y gwaith a wnawn yn rhoi llawer o straen ar rannau penodol o'r strwythur deddfwriaethol, ac mae'n briodol inni edrych ar hyn. Mae'r adroddiad yn dweud bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau ychwanegol arnom. Nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno'n llwyr â hynny, ond yn sicr pan fyddwch yn ein cymharu â'r Alban a Gogledd Iwerddon, rydym yn llai o lawer ac mae angen inni roi sylw i hyn.

A gaf fi droi at yr hyn a ddywedodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol? Un o'u canfyddiadau canolog oedd nad oes gennym ond oddeutu 42 o ACau sy'n gallu bod yn aelodau o bwyllgorau i graffu ar Lywodraeth Cymru. Dyma sydd wrth wraidd ein gwendid, mewn gwirionedd; nad oes digon o ACau ar gyfer gwaith craffu. Beth bynnag a ddywedwn am ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, mae wedi cynhyrchu pwerau gweithredu cryf dros ben. Roeddwn yn siarad â rhywun y diwrnod o'r blaen a brotestiodd yn erbyn fy nefnydd o'r gair 'ffederal', a dywedais, 'Wel, mewn gwirionedd, yn y DU, rydym y tu hwnt i ffederaliaeth; mae ein Llywodraethau'n llawer cryfach na'r rhan fwyaf o Lywodraethau ffederal yn y byd gorllewinol.' Felly, mae angen inni gael deddfwrfa bwerus hefyd i graffu ar waith y Cynulliad hwnnw.

Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn tynnu sylw at y ffaith y byddai cynyddu'r aelodaeth yn eu barn hwy yn galw am newid y system etholiadol, ac mae'n well ganddynt y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Ond fy hun, nid wyf yn credu ei bod yn ddoeth inni gysylltu cynyddu maint y Cynulliad gyda system etholiadol newydd. Gallai un ddifetha'r llall os nad ydym yn ofalus iawn, a chredaf fy mod wedi synhwyro tôn o'r fath yng nghyfraniad Vikki Howells. Credaf y byddai'n ddoeth iawn inni edrych ar yr hyn sy'n hanfodol, sef gweld a allwn gynyddu maint y Cynulliad gyda chefnogaeth y cyhoedd.

Nawr, fe ddywedais 'rhwng 20 a 30'. Yn sicr, rwy'n credu y byddai 30 o aelodau ychwanegol yn gofyn gormod. Byddai hynny'n cynyddu ein maint o hanner. Yng Ngogledd Iwerddon, maent yn ystyried torri ychydig, i lai na 90 rwy'n credu. Pe baem yn awgrymu nifer mwy cymedrol o 75 Aelod, rwy'n cynnig y byddai cyfran yr Aelodau etholaethol o gymharu â'r Aelodau rhanbarthol yn aros yr un fath. Felly, ni fyddai'n rhaid inni newid y system etholiadol—er y byddai angen 50 o etholaethau ar gyfer ethol yn uniongyrchol wrth gwrs. Felly, byddai'n rhaid i gomisiwn ffiniau gyfarfod i wneud hynny. Ond o leiaf gallem fwrw ymlaen ar sail gwarchod system etholiadol bresennol y system aelod ychwanegol, sy'n cynhyrchu lefel eithaf uchel o gymesuredd. Dyna pam y mae wedi para ers cyhyd yn yr Almaen. Felly, dyna fyddai fy awgrym. Gwn hefyd y gallech gadw'r gyfran honno pe bai gennych 90 o Aelodau, ond credaf y byddai hynny'n gofyn gormod mewn gwirionedd o ystyried yr hinsawdd wleidyddol gyffredinol ar hyn o bryd.

Yn olaf a gaf fi droi at rôl dinasyddion? Credaf ein bod yn gweld grym mawr yn cael ei greu yn awr dros gynnwys dinasyddion, ac rydym yn symud yn bendant iawn tuag at ddemocratiaeth gyfranogol. Mae democratiaeth gynrychioliadol ar drai, mae dinasyddion angen llawer mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau ac rwy'n croesawu hynny. Dyna pam yr awgrymais y dylem edrych ar sefydlu siambr dinasyddion ar ryw bwynt yn y Cynulliad Cenedlaethol. Nawr, efallai y byddwch am wneud hynny ar ugeinfed pen-blwydd datganoli a gofyn i'r siambr honno edrych ar y cyfansoddiad yn ei gyfanrwydd. Efallai mai dyna fydd un dasg, ond gallai hefyd edrych ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ac awgrymu eitemau ar gyfer y rhaglen ddeddfwriaethol honno.

Ond mae gennyf un cyngor i'r Comisiwn: credaf fod angen rhywbeth llawer mwy gweithredol o ran cynnwys dinasyddion na'r hyn a welais yn cael ei awgrymu hyd yma mewn perthynas ag ymgynghori. Mae angen rheithgor neu banel dinasyddion fan lleiaf arnom i edrych ar y cwestiwn hwn, oherwydd gallai agor y drysau i wneud y polisi hwn yn ymarferol. Pe baem yn cael cefnogaeth rymus gan y cyhoedd, a bod hynny'n amlwg yn ddiduedd, credaf y gallem symud ymlaen ar y mater hwn. Nid wyf wedi fy argyhoeddi gan y rhai sy'n dweud, 'Wel, bydd yn costio £100,000 neu £200,000 i redeg y math hwnnw o banel neu reithgor.' Wedi'r cyfan, rydym yn ystyried cynnydd sylweddol yn ein haelodaeth, a fydd yn creu miliynau o bunnoedd o wariant ychwanegol. Felly, dyna fy nghyngor i i'r Comisiwn: sicrhewch fod dinasyddion yn cael lleisio barn.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:26, 7 Chwefror 2018

Rwyf hefyd yn croesawu adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio trefniadau etholiadol y Cynulliad, ac yn llongyfarch pawb sydd ynghlwm â’r gwaith, a llongyfarch y Comisiwn a’r Llywydd am gomisiynu’r gwaith yn y lle cyntaf, a symud yn gyflym iawn, a dweud y gwir, yn sgil cael Deddf Cymru 2017, sydd yn gwneud hyn yn bosib o’r diwedd. Heb y Ddeddf yna, wrth gwrs, ni fyddem ni ddim fan hyn yn trafod hyn.

Y cam nesaf ydy cynnal ymgynghoriad eang a deallus ar y materion sydd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad, nid yn unig am y nifer o Aelodau Cynulliad—ac rwyf ychydig bach yn bryderus y bydd y drafodaeth yn mynd i’r fan honno; y bydd faint o Aelodau Cynulliad sydd eu hangen ac a oes angen cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad rhywsut yn dominyddu’r drafodaeth. Mae angen pwysleisio y materion pwysig eraill sydd yn cael eu crybwyll fan hyn. Rwy’n credu bod angen trefniadau newydd erbyn hyn. Canran fechan a bleidleisiodd ddoe yn yr is-etholiad yng Nglannau Dyfrdwy, ac er efallai nad yw Simon yn poeni’n ormodol am hynny, rwy’n meddwl ei fod yn dangos bod angen newid—bod angen i bobl deimlo bod yna werth i’w pleidlais nhw, a bod pobl yn teimlo bod y bobl sy’n cael eu hethol wir yn gynrychioladol o’r boblogaeth gyfan.

Mae argymhellion 14 i 16 yn ymwneud â chynnig y bleidlais i bobl ifanc 16 a hŷn ac, wrth gwrs, mae angen yr addysg wleidyddol i gyd-fynd efo hynny, ac rwy’n falch o weld bod argymhellion 15 ac 16 yn cyfeirio’n benodol at hynny. Mae yna lawer iawn o bobl ifanc yn awchu am yr hawl i bleidleisio, ac rwy’n mawr obeithio y bydd yr agwedd yma ar yr adroddiad yn cael sêl bendith pobl ifanc a, gobeithio, sêl bendith pawb sydd yn ymboeni am ddyfodol ein gwlad ni.

Argymhelliad 10: mae gen i ddiddordeb penodol yn hwn fel llefarydd cydraddoldeb Plaid Cymru. Argymhelliad 10, wrth gwrs, ydy’r argymhelliad sydd yn sôn am gydbwysedd o ran y rhywiau, ac mae argymhelliad 10 yn golygu—. Yr argymhelliad yma ydy bod cwota rhywedd yn cael ei integreiddio i’r system etholiadol a sefydlir ar gyfer 2021. Yn sicr, rwy’n credu bod angen cael cydbwysedd rhywedd drwy Ddeddf, a bod angen i’r Cynulliad yma fod yn arwain y ffordd yng Nghymru fel bod cyrff cyhoeddus hefyd yn dilyn yn yr un ffordd, a’n bod ni yn osgoi dadlau mewnol pleidiol, achos dyna sydd yn tueddu i ddigwydd pan mae’r mater yn cael ei adael i’r pleidiau yn unig. Rwy’n credu bod angen Deddf gwlad.

Mi fyddwn i’n annog, felly, pawb i gymryd rhan yn y drafodaeth yn yr ymgynghoriad yma, ac rwyf yn gobeithio y bydd yn ysgogi trafodaeth am y Cynulliad ei hun, ac yn addysgu pobl am werth y Cynulliad, yn ogystal ag ysgogi trafodaeth ehangach am rôl menywod ym mywyd cyhoeddus Cymru.      

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:30, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac yn croesawu'r ymgynghoriad a fydd yn dilyn ar 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Rwy'n mynd i gyfeirio'n benodol at yr argymhellion, sy'n ceisio ehangu cyfranogiad menywod a phobl ifanc yn y Cynulliad hwn, Senedd Cymru. A chredaf ei bod yn briodol ein bod yn ystyried yr argymhellion hyn—nid wyf yn credu ei fod wedi'i gynllunio o reidrwydd—yn yr wythnos rydym yn dathlu canmlwyddiant rhoi'r bleidlais yn rhannol i fenywod, ac edrych yn ôl ar yr arloeswyr, ganrif yn ôl, a fu'n ymladd i gael y bleidlais. A beth fyddent hwy'n ei feddwl heddiw, o ran lle rydym yn mynd?

Gwn y byddai'r rhai a ymladdodd dros ein hawl i bleidleisio 100 mlynedd yn ôl wedi cefnogi camau cadarnhaol y Blaid Lafur, fel y nododd Vikki Howells, yn arwain at sefydlu'r Cynulliad, gyda gefeillio etholaethau—rhoesom sylwadau ar hynny ddoe. Arweiniodd at ethol niferoedd mwy nag erioed o fenywod Llafur yn 1999, gan fy nghynnwys i; yn wir, cefais fy ngefeillio gyda'r Prif Weinidog, Carwyn Jones. Ac mor falch y byddai'r swffragetiaid yn ein hetholaethau i weld cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003, oherwydd y camau cadarnhaol hynny i raddau helaeth. Ond yn anffodus, rydym wedi llithro'n ôl o'r cydraddoldeb arloesol hwnnw, ac mae angen mynd i'r afael â hynny. Credaf fod angen inni ddefnyddio'r cyfle hwn i archwilio—ac rwy'n falch fod y Llywydd wedi sôn am ymchwilio yn yr ymgynghoriad hwn y newidiadau arfaethedig yn argymhellion 9, 10 ac 11.

Ddoe, galwodd Natasha Davies o Chwarae Teg arnom i fanteisio ar y cyfle hwn i bleidleisio dros senedd sy'n gweithio i fenywod. Ac rwy'n annog—fel y mae eraill wedi gwneud—y gymdeithas ddinesig ehangach i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, yn ogystal â'r byd gwleidyddol a'r pleidiau gwleidyddol. Rydym am wybod beth y mae Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, Merched y Wawr, y Soroptimyddion, ein fforymau pobl ifanc, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, undebau llafur, grwpiau tenantiaid, yn ogystal â'n cymunedau ffydd a di-ffydd, yn ei feddwl o'r cyfleoedd hyn—rheithgorau dinasyddion, fel y mae David wedi crybwyll. Mae angen inni fynd ati i ymgynghori ar yr etholfraint wleidyddol ehangaf sy'n bosibl i bobl Cymru. Ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, ymgynghori ar yr argymhelliad i ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Nawr, rwy'n credu bod Richards eisoes wedi cael ei grybwyll, Ddirprwy Lywydd. Yn 2002, gadewch i ni gofio, Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan a gyhoeddodd y comisiwn annibynnol, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Llafur, yr Arglwydd Richards o Rydaman, i edrych ar bwerau a threfniadau etholiadol y Cynulliad. Cyhoeddodd ei adroddiad—mae'n werth edrych eto ar ei adroddiad—yn 2004. Mae argymhellion megis y ffaith y dylai'r Cynulliad gael pwerau deddfu sylfaenol wedi cael eu gwireddu, a strwythur y corff corfforaethol wedi'i ddisodli gan y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa, ac wrth gwrs, mabwysiadwyd cymaint o'i argymhellion, ond mae'r argymhellion ehangach ar y trefniadau etholiadol—maint y Cynulliad; wrth gwrs, roedd Richards yn argymell newid i 80 o Aelodau—yn dal ar y gweill.

Ni chanolbwyntiodd Richards ar y materion y soniais amdanynt heddiw—ac y bu Siân Gwenllian a Vikki Howells yn siarad amdanynt yn wir—o ran sut y ceisiwn gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar gyfer y Cynulliad hwn, Senedd Cymru. A chredaf fod yna ddiben i'n presenoldeb yma. Rhaid inni edrych yn ôl ar esiampl ein chwiorydd ym mudiad y Swffragetiaid, sy'n ein galluogi i fod yma heddiw, ac edrychaf ymlaen i weld beth fyddai cenedlaethau'r dyfodol yn ei ddisgwyl gennym o ran manteisio ar y cyfleoedd sydd gennym i greu Senedd sy'n addas i'r diben, o ran y gynrychiolaeth ehangaf i bobl yng Nghymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

Galwaf ar y Llywydd i ymateb i'r ddadl. Llywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd hi'n dacteg anfwriadol gennyf i i adael cyn lleied o amser i fi fy hunan i ymateb i'r ddadl. Mae'n amlwg, o ran amseru areithiau, fy mod i mas o bractis ar hynny ar y llawr yma erbyn hyn.

Jest i gyfeirio, felly, yn gyflym iawn, at rai o'r prif bwyntiau sydd wedi cael eu gwneud—rhai ohonyn nhw'n gyffredin ar draws y cyfraniadau. Y pwynt wnaeth Angela Burns ar y cychwyn, wrth gwrs, ynglŷn â sicrhau bod yr ymgynghoriad rŷm ni'n cychwyn arno mor eang ag sy'n bosib, o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni i wneud y gwaith hynny, ac yn ymestyn allan i bob cornel yng Nghymru, yna rŷm ni'n mynd i wneud pob ymdrech i wneud hynny. Fe wnaeth David Melding gyfeirio at y pwynt penodol ynglŷn â cheisio bod mor arloesol â phosib ynglŷn â'r gwaith rydym ni'n ei wneud ar ymgynghori—panel dinasyddion, citizens' panel, jiwri. Fe wnaeth y Comisiwn edrych ar hyn, ac, yn anffodus, fel y mae David Melding wedi cyfeirio ato, fe wnaethom ni ddod i benderfyniad, yn yr achos yma, fod hyn yn ymddangos yn rhy ddrud i'w gyflawni, er cymaint byddai gwerth hynny wedi bod i ni fod yn gwneud hynny.

Fe wnaeth nifer o bobl gyfrannu o safbwynt eu pleidiau, ac roedd yn werthfawr i glywed beth yw polisïau cyfredol nifer o'r pleidiau ar rai o'r materion y byddwn ni'n ymgynghori arnyn nhw, a gwnaeth nifer hefyd wedi cyfeirio at yr hyn y gallwn ni fod yn edrych arno ac sy'n deillio allan o'r adroddiad ar gyfartaledd rhywedd. Ac fel dywedodd Vikki Howells, fe fedrid edrych, wrth gwrs, i ddefnyddio deddfwriaeth i sicrhau cyfartaledd rhywedd, ond dylai hynny ddim osgoi cyfrifoldeb pob un o'r pleidiau, a phob un ohonom ni fel Aelodau fan hyn, i sicrhau o fewn ein pleidiau ein bod ni'n hyrwyddo ymwneud menywod yn fwyfwy, a phobl o gefndiroedd sydd ddim yn cael eu cynrychioli fan hyn yn ddigonol i fod yn ymwneud â'n gwleidyddiaeth ni yma yng Nghymru. 

Diolch i David Melding yn benodol am gynnig opsiwn amgen i'r tri opsiwn a gynigiwyd gan y panel—opsiwn o 75 Aelod. Nid ydym wedi cychwyn ar yr ymgynghoriad eto, ac er hynny, rydym yn cael opsiwn newydd i'w ystyried. Felly, rwy'n werthfawrogol o'r meddwl y tu ôl i'r opsiwn yna yn sicr.

Mae nifer o Aelodau wedi crybwyll taw'r hyn sy'n greiddiol i adroddiad y panel, yr hyn sy'n greiddiol i natur y drafodaeth rŷm ni wedi'i chael y prynhawn yma, yw'r angen i sicrhau bod y cydbwysedd rhwng y Cynulliad, y Senedd yma, gwaith ei phwyllgorau, gwaith y Siambr yma, a gwaith y Llywodraeth yn gweithio er lles pobl Cymru—sicrhau mwy o sgrwtini, gwell sgrwtini. Mae gwell sgrwtini yn arwain at well deddfwriaeth, gwell penderfyniadau polisi gan Lywodraeth, ac mae hynny i gyd yn y pen draw o fudd i bobl Cymru fel rŷm ni'n eu cynrychioli nhw yn y Senedd yma. Felly, diolch am yr ymateb calonogol i symud ymlaen, gobeithio, i'r cam o awdurdodi yr ymgynghoriad pellach ar y materion diddorol a dyrys yma gyda phobl Cymru. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:37, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.