– Senedd Cymru am 3:38 pm ar 21 Mawrth 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig. Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ystyried y Bil yn fanwl ar Gyfnod 1. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu at yr amrywiol ymgynghoriadau a thrafodaethau yr ydym wedi'u cael tra'n drafftio a datblygu'r Bil.
Cyn imi symud ymlaen i siarad ar yr argymhellion yn yr adroddiad, credaf ei bod yn bwysig atgoffa'r Aelodau pam fod y Pwyllgor Cyllid o'r farn bod angen y Bil hwn. Mae angen i'r cyhoedd yng Nghymru gael hyder yn yr ombwdsmon i archwilio pan fydd unigolion yn credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi trwy gamweinyddu neu drwy gyflenwi gwasanaethau. Mae'n bwysicach nag erioed bod gwasanaethau cyhoeddus yn darparu ar gyfer pobl Cymru a bod yr ombwdsmon yn cael ei rymuso i sicrhau bod ein gwasanaethau'n canolbwyntio ar y dinesydd.
Mae'r Bil yn ymestyn pwerau'r ombwdsmon mewn pedwar prif faes. Credwn fod y gallu i ymgymryd â phwerau ar ei liwt ei hunan yn bwysig, ac mae ganddo botensial i sicrhau manteision sylweddol. Bydd caniatáu i'r ombwdsman dderbyn pob cwyn ar lafar yn gwella cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal. Bydd ymchwiliad i faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd preifat yn galluogi'r ombwdsmon i archwilio cwyn gyfan, gan ddilyn y dinesydd ac nid y sector. Ac, yn olaf, gallai gweithdrefnau trin cwynion arwain at well gwasanaeth i unigolion a chael y cwmpas i wella gwasanaethau o ganlyniad i ddysgu o arfer da.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi gwneud 19 o argymhellion a gallaf dderbyn pob un namyn un o'r rhain. Rwy'n falch o weld bod y pwyllgor wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r penderfyniad hwnnw y prynhawn yma. Wrth ymateb i'r adroddiad, byddaf yn ymdrin â'r prif themâu sydd yn deillio ohono.
Hoffwn ddechrau gydag argymhelliad 10, sy'n gofyn bod memorandwm esboniadol diwygiedig ac asesiad effaith rheoleiddiol yn cael eu cyhoeddi cyn Cyfnod 2, gan ystyried argymhellion y pwyllgor. Dyma'r unig argymhelliad nad wyf yn medru ei dderbyn. Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn darparu mecanwaith ar gyfer diwygio'r memorandwm esboniadol ar ôl trafodion Cyfnod 2 ac mae hyn wedi dod yn arfer safonol. Pe bai'r Bil hwn yn mynd ymlaen ymhellach, byddwn yn falch iawn o gyhoeddi memorandwm esboniadol diwygiedig ar ôl Cyfnod 2, gan ystyried unrhyw newidiadau a wnaed i'r Bil. Am y rheswm hwn, nid wyf yn teimlo y byddai'n briodol i dderbyn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, yr wyf yn fwy na pharod i ystyried a oes tystiolaeth fwy cadarn nawr ar gael ac i asesu a oes angen newidiadau i'r amcangyfrifon cost yn sgil hynny, a byddaf yn rhoi diweddariadau ysgrifenedig i'r pwyllgor wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Yn ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i ymgynghoriad y pwyllgor ar y Bil, cododd nifer o bryderon ynghylch ei swyddogaethau. Mae argymhellion 7, 8, 9 a 18 yn ymdrin â'r rhain ac rwy'n hapus i wneud y newidiadau angenrheidiol i'r Bil i ymdrin â'r pryderon hyn. Bydd y rhain yn sicrhau cyfrinachedd gwybodaeth ac amddiffyn yr archwilydd rhag hawliadau difenwi. Mae’r Bil yn ailadrodd y gofyniad cyffredinol i’r archwilydd osod copi ardystiedig o gyfrifon yr ombwdsmon o flaen y Cynulliad o fewn pedwar mis. Bydd angen ystyried y cais i newid hwn, yn argymhelliad 9, yng nghyd-destun gwaith ehangach y pwyllgor ar y gofyniad hwn.
Nid yw'r ombwdsmon yn dod o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae gennym ombwdsmon dwyieithog sy'n gweithredu swyddfa gydag ethos dwyieithog, ond mae angen inni sicrhau bod hyn yn parhau i'r dyfodol. Felly, yr wyf yn derbyn argymhelliad 6 a byddaf, mewn ymgynghoriad ag eraill, megis Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, yn ystyried sut y gellir cyflawni hyn orau.
Mae nifer o'r argymhellion yn ymwneud â diweddaru’r asesiad effaith rheoleiddiol. Dyma argymhellion 11 i 17 ac argymhelliad 19. Yr wyf yn fodlon derbyn yr holl argymhellion hyn. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol wrth y pwyllgor fy mod yn croesawu ei benderfyniad i gomisiynu cynghorydd arbenigol i adrodd ar oblygiadau ariannol y Bil. Rwy'n falch o nodi fod yr ymgynghorydd arbenigol hwn yn gefnogol i ymestyn pwerau'r ombwdsmon yn y pedwar prif faes. Yn y bôn, mae’r argymhellion hyn yn delio â'r costau posib yn deillio o’r Bil gan argymell bod mwy o waith yn cael ei wneud i ddangos amrediad y costau hynny.
Er enghraifft, o ran argymhellion 11 a 12, mae’r ffigurau a gynhwysir yn yr asesiad yn adlewyrchu tystiolaeth a dderbyniwyd gan yr ombwdsmon ar gostau. Fodd bynnag, yr wyf yn fwy na pharod i ailystyried lefelau'r amcangyfrifon hyn a diwygio'r asesiad os oes angen. Rwy'n credu ei fod yn werth nodi y byddai unrhyw newidiadau yn y cyd-destun hwn yn lleihau costau cyffredinol y Bil.
Mae argymhellion 14 a 15 yn ymwneud â chostau sy'n gysylltiedig â chwynion llafar. Rwy'n credu bod gwerth mewn nodi fod gan yr ombwdsmon ddisgresiwn ar hyn o bryd i dderbyn cwynion llafar o dan y Ddeddf bresennol, Deddf 2005. Felly, ni fydd pob cwyn llafar yn arwain at faich gwaith ychwanegol i'r ombwdsmon, ond rwy’n barod i ystyried dadansoddiad pellach ar 40 y cant o gwynion yn cael eu gwneud ar lafar.
Mae argymhelliad 17 yn ymwneud â rhan bwysig y Bil sy’n delio ag ymchwilio i ddarpariaeth llwybr gofal cyhoeddus a phreifat ar y cyd. Byddaf yn ymgynghori yn bellach yn y maes hwn i geisio am fwy o fanylion.
Rwyf hefyd yn hapus i sicrhau bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn y pen draw yn cydymffurfio â'r canllawiau yn Llyfr Gwyrdd Trysorlys Ei Mawrhydi, sef argymhelliad 19.
Nid yw’n fwriad yn y Bil i darfu ar draws rhwymedigaethau statudol eraill. Mae argymhellion 2, 3 a 5 yn dangos bod aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn pryderu, o bryd i'w gilydd, am y perygl posibl o ran dyblygu gwaith rhwng yr ombwdsmon a gwahanol reoleiddwyr. Rwy'n gobeithio y llwyddais i roi sicrwydd i'r pwyllgor am y gwahaniaeth rhwng rôl yr ombwdsman a rheoleiddwyr eraill, ac, er y gallant edrych ar yr un ystod eang o faterion, maent yn edrych arnynt o ddau safbwynt hollol wahanol. Mae'r trefniadau o fewn y Bil yn adlewyrchu'r rhai sydd ar hyn o bryd yn Neddf 2005, ac yn mynd ymhellach, mewn gwirionedd, i alluogi mwy o gydweithio. Serch hynny, rwy'n hapus i dderbyn argymhellion 2, 3 a 5 i sicrhau cydweithio da, cadw cofnodion priodol a rhoi ystyriaeth ddyledus i rwymedigaethau eraill sy'n deillio o'r gyfraith.
Hoffwn i sôn yn gryno am adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a diolch i aelodau'r pwyllgor hwnnw am ystyried y Bil. Rwyf yn falch iawn bod y pwyllgor wedi cymeradwyo'r dull yr ydym wedi'i ddefnyddio gyda'r Bil hwn wrth gynhyrchu darn cyfunol o ddeddfwriaeth sydd ar gael yn ddwyieithog. Cofiwch fod Deddf wreiddiol 2005 yn Ddeddf Tŷ'r Cyffredin ac ar gael yn Saesneg yn unig. Rydw i hefyd yn falch bod y pwyllgor yn fodlon ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd wedi'i gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd i'w gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth. Mae'r cydbwysedd hwn wedi dod o Ddeddf 2005, ac wedi'i seilio ar yr ymgynghoriad ar gyfer y Bil drafft. Mae'r rhannau o'r Ddeddf wreiddiol sydd eisoes mewn grym wedi bod yn effeithiol ac wedi gweithio'n dda dros y 13 mlynedd diwethaf.
Yr wyf yn fodlon derbyn yr argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor materion cyfansoddiadol, yn amodol, wrth gwrs, ar y trafodaethau angenrheidiol gyda Llywodraeth Cymru, gan fod y ddarpariaeth hon yn ymwneud â phwerau posib Gweinidogion Cymru o dan y Bil.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed beth sydd gan y Plenary i'w ddweud ar y Bil ac ar yr adroddiadau, ac, wrth gwrs, ymateb i'r ddadl maes o law. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. A gaf fi galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ac i amlinellu ein canfyddiadau o'r gwaith craffu a wnaethom ar y Bil. Gan fod y Bil wedi cael ei gyflwyno gan y Pwyllgor Cyllid, rydym hefyd wedi cyflawni'r gwaith craffu ariannol ochr yn ochr â'n gwaith craffu cyffredinol. Buaswn yn hoffi diolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith craffu hwnnw, y rheini a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth ar lafar, ac yn benodol, aelodau o'r cyhoedd a ymatebodd i'r ymgynghoriad ysgrifenedig neu a gwblhaodd ein harolwg ar-lein.
Roedd ein gwaith craffu yn canolbwyntio ar y darpariaethau o fewn y Bil lle yr argymhellir y newidiadau mwyaf sylweddol i bwerau'r ombwdsmon, fel yr amlinellwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol wrth gyflwyno'r ddadl hon: felly, galluogi'r ombwdsmon i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, darparu mwy o hyblygrwydd o ran sut y gellir gwneud cwynion, caniatáu i gwynion sy'n cynnwys elfen gofal iechyd preifat a chyhoeddus gael eu harchwilio, a rhoi pwerau i'r ombwdsmon bennu gweithdrefnau cwyno enghreifftiol ar gyfer awdurdodau rhestredig. Roedd ein gwaith craffu hefyd yn cyfeirio at elfennau eraill o'r Bil, gan gynnwys gofynion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.
Rydym wedi gwneud cyfanswm o 19 argymhelliad, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar elfennau o'r asesiad effaith rheoleiddiol, ac rwy'n croesawu'r ohebiaeth gan yr Aelod sy'n gyfrifol a'r sylwadau a wnaed yn gynharach mewn perthynas â derbyn 18 o'r argymhellion hynny.
Ddirprwy Lywydd, roedd cefnogaeth glir ac eang i'r Bil hwn, er nad oedd yn unfrydol. Clywsom rai pryderon gan randdeiliaid. Er eu bod yn cefnogi'r egwyddorion cyffredinol, codwyd materion a oedd yn ymwneud â gweithredu rhai o'r darpariaethau yn y ddeddfwriaeth. Roedd y materion hyn yn cynnwys creu cymhlethdod ychwanegol mewn fframwaith rheoleiddio sydd eisoes yn orlawn, a'r effaith ariannol ar awdurdodau cyhoeddus, sydd eisoes, wrth gwrs, yn ymdopi â hinsawdd ariannol anodd. Ond er gwaethaf y pryderon hyn, roedd y dystiolaeth a gawsom yn cefnogi'r honiadau a wnaed yn y memorandwm esboniadol, a chan yr Aelod sy'n gyfrifol, y bydd y Bil yn gwella cyfiawnder cymdeithasol, yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, ac yn ysgogi gwelliannau yn y broses o ymdrin â chwynion, ac yn fwy cyffredinol, gwasanaethau cyhoeddus. Roeddem felly'n hapus i argymell y dylai'r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
Symudaf ymlaen yn awr at rai o'r darpariaethau penodol, gan ddechrau gydag adrannau 4 a 5. Mae'r adrannau hyn yn darparu pwerau i'r ombwdsmon gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun heb fod angen i aelod o'r cyhoedd wneud cwyn.
Clywsom gan yr Aelod sy'n gyfrifol, yr ombwdsmon cyfredol, a'i gymheiriaid yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, fod hwn yn arf hollbwysig ym mhecyn cymorth yr ombwdsmon. Mae hefyd yn un sydd ar gael i'r rhan fwyaf o'u cymheiriaid ledled y byd. Nodasom y pryderon a godwyd gan randdeiliaid ynglŷn â chreu cymhlethdod ychwanegol yn y fframwaith rheoleiddio hwnnw sydd eisoes yn orlawn, ond ymatebodd yr Aelod sy'n gyfrifol i'r pryderon hyn drwy ein hatgoffa o'r gwahaniaeth rhwng rolau a dulliau rheoleiddwyr ac ombwdsmon. Yr ombwdsmon sy'n mynd i'r afael â phryderon o safbwynt y dinesydd, ac roeddem yn ystyried bod honno'n ddadl gref. Rydym yn cefnogi'r cynnig hwn, felly, i ymestyn pwerau'r ombwdsmon. Un argymhelliad yn unig a wnaethom mewn perthynas â'r darpariaethau hyn, sef rhoi dyletswydd ychwanegol ar yr ombwdsmon i ymgynghori â rheoleiddwyr cyn cychwyn ar ymchwiliad ar ei liwt ei hun, ac rwy'n falch fod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Gan symud ymlaen at y darpariaethau ar gyfer gwneud ac atgyfeirio cwynion at yr ombwdsmon, mae'r Bil yn ceisio cael gwared ar y cyfyngiadau ar sut y gellir gwneud neu atgyfeirio cwynion. Ar hyn o bryd, ni ellir ond gwneud cwynion llafar yn ôl disgresiwn yr ombwdsmon. Clywsom dystiolaeth glir y gall hyn ei gwneud yn fwy anodd i'r rhai mwyaf agored i niwed gael mynediad at wasanaethau'r ombwdsmon. Er ein bod wedi canolbwyntio ar gwynion llafar, rydym wedi nodi y bydd darpariaethau'r Bil yn galluogi'r ombwdsmon i addasu yn y dyfodol a derbyn cwynion ar unrhyw ffurf y maent yn ei ystyried yn briodol. Mae hyn yn helpu i ddiogelu'r ddeddfwriaeth ar gyfer y dyfodol a bydd yn caniatáu i'r ombwdsmon addasu i unrhyw newidiadau technolegol. Rydym yn credu y bydd y darpariaethau hyn yn gwella mynediad at wasanaethau'r ombwdsmon, ac felly un argymhelliad yn unig a wnaethom mewn perthynas â'r darpariaethau hyn. Mae argymhelliad 3 yn galw am welliannau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon gadw cofrestr o'r holl gwynion, nid cwynion ar lafar yn unig, ac unwaith eto, rwy'n falch fod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Rydym hefyd wedi galw ar yr ombwdsmon i fyfyrio ar y dystiolaeth a gawsom wrth ddatblygu unrhyw ganllawiau. Os caiff y Bil hwn ei basio, bydd yna fater yn codi, a byddwn, yn ystod ein gwaith craffu parhaus ar yr ombwdsmon, yn monitro cynnydd mewn perthynas â'r materion hyn.
Ddirprwy Lywydd, mae adran 4 o'r Bil yn cyflwyno pwerau i'r ombwdsmon i bennu gweithdrefnau ymdrin â chwynion. Roedd hon yn un o'r elfennau yn y Bil a ysgogodd fwyaf o drafodaeth gan randdeiliaid. Yn benodol, clywsom bryderon ynglŷn â sut y byddai gweithdrefnau enghreifftiol a bennwyd gan yr ombwdsmon yn rhyngweithio â'r gweithdrefnau ymdrin â chwynion sy'n bodoli'n barod. Roedd llawer o'r drafodaeth hon yn canolbwyntio ar y rheoliadau 'Gweithio i Wella' o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol. Roedd pryderon na fyddai'r diffiniad o ddeddfiadau o fewn y Bil yn cynnwys y rheoliadau hyn, ac er ein bod wedi nodi'r holl bryderon hyn, rydym yn credu ei bod yn gwbl briodol i'r ombwdsmon chwarae rhan yn y broses o bennu gweithdrefnau ymdrin â chwynion. Rydym yn credu y bydd hyn yn helpu i arwain at welliannau yn y broses o ymdrin â chwynion, a gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus, gobeithio. Cawsom ein calonogi gan yr enghraifft yn yr Alban, lle mae pwerau tebyg wedi cael eu rhoi i ombwdsmon yr Alban. Fodd bynnag, rydym yn credu y gellid cael mwy o eglurder mewn perthynas â sut y bydd yr ombwdsmon yn ystyried canllawiau anstatudol sydd eisoes yn bodoli, megis 'Gweithio i Wella', wrth lunio a gorfodi gweithdrefnau cwyno enghreifftiol. Felly, gwnaethom argymhelliad 5, sef bod gwelliannau'n cael eu cyflwyno i ddarparu'r eglurder pellach hwn, ac unwaith eto, rwy'n falch fod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Gan symud ymlaen at ddarpariaethau sy'n gosod dyletswydd ar yr ombwdsmon i lunio strategaeth iaith Gymraeg, rydym yn croesawu camau i gryfhau'r gofynion hyn. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod y Bil yn mynd yn ddigon pell. Rydym yn credu bod gormod yn cael ei adael i ddisgresiwn yr ombwdsmon ac y dylai'r ombwdsmon lynu wrth egwyddorion safonau iaith Gymraeg. Rydym yn cydnabod na fyddai'n briodol i'r ombwdsmon gael ei gynnwys yn uniongyrchol yn y safonau, ond credwn y dylai, mewn egwyddor, ddarparu gwasanaethau dwyieithog cymaradwy i'r gwasanaethau cyhoeddus o fewn ei gylch gwaith, ac unwaith eto, rwy'n falch o nodi'r ymrwymiad a wnaed gan yr Aelod sy'n gyfrifol i ailedrych ar y darpariaethau hyn, ac y caiff ei wneud mewn ymgynghoriad â Chomisiynydd y Gymraeg ac eraill.
Un mater y canolbwyntiwyd arno, Ddirprwy Lywydd, oedd craffu ariannol, ac fe wnaethom benodi cynghorydd arbenigol, Dr Gavin McBurnie, fel y soniwyd yn gynharach. Mae'r rhan fwyaf o'n hargymhellion yn canolbwyntio ar y goblygiadau ariannol hynny. Braf oedd clywed yr ombwdsmon a'r Aelod sy'n gyfrifol yn gwneud ymrwymiadau clir na fyddai'r ombwdsmon yn ceisio sicrhau unrhyw gynnydd yn y gyllideb sy'n uwch na 0.03 y cant o wariant grant bloc Cymru. Fodd bynnag, rydym yn ceisio rhagor o wybodaeth am yr asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â'r costau anuniongyrchol ac yn benodol, costau'r awdurdodau rhestredig sy'n rhan o gylch gwaith yr ombwdsmon.
Nid ydym yn credu bod yr argymhellion a wnaethom er mwyn ceisio mwy o eglurder yn afresymol, ac unwaith eto, croesawaf y ffaith fod yr Aelod wedi derbyn pob un ond un ohonynt.
Gwn fod amser—
Ydi, mae amser yn brin.
—yn brin, Ddirprwy Lywydd, felly efallai y gallaf symud ymlaen a dweud, i gloi, ein bod yn croesawu'r Bil hwn yn fawr iawn. Mae ein hargymhellion wedi'u nodi. Cyfeiriwyd atynt gan yr Aelod sy'n gyfrifol.
I gloi, Lywydd, rydym yn credu y bydd y Bil hwn yn cyflawni ei fwriadau polisi, a charem alw ar y Cynulliad i gefnogi'r egwyddorion cyffredinol.
Diolch. A gaf fi alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fe fyddwch yn falch iawn o glywed ein bod wedi adrodd ar y Bil hwn ar 9 Mawrth ac un argymhelliad yn unig a wnaethom i'r Aelod sy'n gyfrifol, ac o ganlyniad, bydd fy nghyfraniad yn gymharol fyr.
Mewn perthynas â'r angen am y Bil, rydym yn croesawu'r dull a fabwysiadwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol wrth ddarparu Bil sy'n ddarn cyfunol o ddeddfwriaeth, ac rydym yn credu ei fod yn cynrychioli'r dull arfer gorau roedd y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn ei hyrwyddo yn ei adroddiad, 'Deddfu yng Nghymru'. Bydd yn sicrhau bod deddfwriaeth bwysig yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog. Ni ddylid tanbrisio manteision hyn i ddinasyddion Cymru.
Fel rydym yn ei wneud wrth graffu ar bob Bil, rhoesom ystyriaeth i'r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn a gaiff ei adael i is-ddeddfwriaeth. Rydym yn fodlon ar y Bil yn hyn o beth. Mewn perthynas â sut y bydd yr ombwdsmon a Chomisiynydd Plant Cymru yn gweithio gyda'i gilydd, rydym yn cytuno â'r Aelod sy'n gyfrifol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y dylid nodi'r manylion ar wyneb y Bil. Hyderwn y bydd yr Aelod sy'n gyfrifol yn cyflwyno'r gwelliannau angenrheidiol.
Gan droi yn awr at bwerau Harri VIII, rydym ni a'r pwyllgor a'n rhagflaenodd wedi craffu'n drylwyr ac yn rheolaidd ar y defnydd o bwerau Harri VIII. Er bod nifer sylweddol o bwerau o'r fath yn cael eu defnyddio y Bil hwn, nodwn eu bod yn gul o ran eu cwmpas. Nodwn ymhellach fod chwech o'r naw pŵer Harri VIII yn ymwneud ag ymgynghori. Am y rheswm hwnnw, rydym yn fodlon â'u defnydd yn y Bil hwn. Fel y pwyllgor sy'n gyfrifol am graffu ar is-ddeddfwriaeth, byddwn yn gallu monitro defnydd Gweinidogion Cymru o'r pwerau hyn yn ofalus, os caiff y Bil ei basio.
Mae fy sylwadau terfynol yn ymwneud ag adran 78 o'r Bil. Mae adran 78(1) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud
'(a) darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig neu atodol, a
'(b) darpariaethau darfodol, trosiannol, neu arbed,
'sydd yn eu barn hwy yn angenrheidiol neu’n hwylus'.
Rydym wedi bod o’r farn yn gyson y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio dull mwy penodol yn hytrach na’r pwerau mwyaf eang sydd ar gael iddi. Ni ddylai’r pwyllgor hwn fod yn eithriad. Rydym yn pryderu'n arbennig mewn perthynas â'r geiriau 'angenrheidiol neu'n hwylus'. Yn ein barn ni, byddai'r gair 'angenrheidiol' yn ddigon. Mae ein hunig argymhelliad yn awgrymu bod yr Aelod sy'n gyfrifol yn cyflwyno gwelliant i'r Bil i ddileu'r geiriau 'neu'n hwylus' yn adran 78(1).
Nawr, diolch i'r Aelod am ei ymateb ffurfiol i'n hadroddiad a'r sylwadau y mae newydd eu gwneud. Nodaf ei fod yn credu y bydd y pŵer i wneud darpariaeth sy'n angenrheidiol o dan adran 78 yn ddigon ac am y rheswm hwnnw, gellid dileu 'hwylus'. O ganlyniad, rwy'n croesawu ei ymrwymiad i ddwyn y mater hwn i sylw Gweinidogion Cymru yn yr wythnosau nesaf.
Rydym yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried cyflwyno gwelliant i egluro bod y pŵer yn adran 78 yn ymestyn i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol. Pe bai gwelliant yn cael ei gyflwyno, ein barn ni, wrth gwrs, yw y dylai, fel pŵer Harri VIII, fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gychwyn fy nghyfraniad i'r ddadl drwy gofnodi bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth pwysig y mae'r ombwdsmon yn ei ddarparu yng Nghymru? Mae swyddfa'r ombwdsmon yn darparu modd o helpu'r bobl nad ydynt wedi derbyn y lefel o wasanaeth y mae ganddynt hawl i'w disgwyl gan y sector cyhoeddus. Felly, rydym yn edrych yn gadarnhaol ar y mesurau a fyddai'n helpu'r ombwdsmon i gyflawni'r rôl hanfodol hon. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am graffu ar y Bil ac am eu hadroddiadau dilynol, ac i'w Cadeiryddion am eu cyfraniad i'r ddadl hon.
Nid Bil y Llywodraeth yw'r Bil hwn wrth gwrs. Cafodd ei gyflwyno i'r Cynulliad gan y Pwyllgor Cyllid, a mater i'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil yw bwrw ymlaen â'r argymhellion a wnaed gan y ddau bwyllgor. Fodd bynnag, hoffwn gymryd y cyfle hwn i nodi safbwynt y Llywodraeth, yn enwedig yng ngoleuni'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae'r Bil yn cynnig pwerau newydd i'r ombwdsmon mewn pedwar maes gwahanol, a byddaf yn rhoi sylw i bob un yn ei dro.
Mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig y dylai'r ombwdsmon allu derbyn cwynion ar lafar. Rydym hefyd yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, fel y nododd John Griffiths, y dylai'r ombwdsmon gadw cofrestr o'r holl gwynion a dderbyniwyd. Mae gan hyn botensial i gynhyrchu gwybodaeth fwy gwerthfawr am ansawdd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hefyd yn cefnogi'r argymhelliad ynglŷn â phŵer i archwilio darparwyr gofal iechyd preifat pan fydd cwyn yn berthnasol i'r GIG a gofal iechyd preifat. Unwaith eto, rydym yn cytuno ag argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai'r Pwyllgor Cyllid wneud mwy o waith i wella asesiad effaith rheoleiddiol y Bil, yn enwedig o ran y costau i ddarparwyr gofal iechyd preifat. Nid oes unrhyw waith costio wedi'i wneud ar yr adran hon yn asesiad effaith rheoleiddiol y Bil ar hyn o bryd.
Trof yn awr at yr argymhelliad i alluogi'r ombwdsmon i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Mae'r Llywodraeth wedi dilyn y dystiolaeth yn ofalus mewn perthynas â'r adran hon o'r Bil, ac mae'n derbyn y ddadl y bydd yr ombwdsmon mewn sefyllfa i ymateb i themâu a materion a ddaw'n amlwg ar draws y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn rhannu rhai o'r pryderon a fynegwyd gan randdeiliaid ynglŷn â'r posibilrwydd y gallai'r ombwdsmon ddyblygu gwaith ymchwilio sydd eisoes ar y gweill gan reoleiddwyr ac arolygwyr eraill. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi argymell y dylid cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon ymgynghori â rheoleiddwyr a chomisiynwyr eraill cyn cychwyn ar ymchwiliad ar ei liwt ei hun. Rydym yn cefnogi hyn gan y byddai'n helpu i leihau'r risg o orgyffwrdd, dryswch a dyblygu.
Ddirprwy Lywydd, trof yn awr at argymhelliad olaf y Bil: y pŵer i'r ombwdsmon bennu safonau cwynion cyffredin ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae'r Llywodraeth wedi edrych yn ofalus ar y dystiolaeth a roddwyd yn ystod proses Cyfnod 1, gan gynnwys dadansoddiad o'r asesiad effaith rheoleiddiol gan arbenigwr annibynnol mewn perthynas â safonau cwynion cyffredin. Mae gennym bryderon, a adlewyrchwyd gennym yn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor, ynglŷn ag a allai'r pŵer i bennu safonau cwynion cyffredin dorri ar draws gweithdrefnau cwyno statudol sy'n bodoli'n barod, gyda llawer ohonynt yn weithdrefnau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi cytuno arnynt ac wedi eu pasio. Rydym yn credu y gallai fod yn ddefnyddiol i'r ombwdsmon gyhoeddi egwyddorion a gweithdrefnau ymdrin â chwynion enghreifftiol i ddarparu cysondeb ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Ond ni ddylai'r rhain danseilio gweithdrefnau cwyno statudol sy'n bodoli'n barod, megis 'Gweithio i Wella', y cyfeiriwyd ato eisoes yn y ddadl hon. Gallai hyn greu ansicrwydd i sefydliadau unigol ac i'r ombwdsmon ac achwynwyr. Gallem gefnogi'r rhan hon o'r Bil pe bai'r Aelod sy'n gyfrifol yn cyflwyno gwelliannau i sicrhau bod y prosesau cwyno statudol sy'n bodoli'n barod yn cael eu parchu. Rwy'n falch o nodi bod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn hyn yn ei ymateb i adroddiad y pwyllgor.
Ddirprwy Lywydd, mae gan Lywodraeth Cymru rai pryderon hefyd ynglŷn ag adran 71 o'r Bil, sydd, fel y clywsom, yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon fod â strategaeth iaith Gymraeg. Codwyd hyn gan Gomisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod y broses graffu. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi dweud bod angen cryfhau'r adran hon o'r Bil, a byddem yn hapus iawn i weithio gyda'r Aelod sy'n gyfrifol i gyflwyno gwelliant a fydd yn sicrhau bod yr ombwdsmon yn ddarostyngedig i ofynion safonau iaith Gymraeg. Wedi dweud hynny, bydd y Llywodraeth yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) heddiw.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud ychydig eiriau am y camau nesaf a datblygiad y Bil. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi nodi argymhelliad clir iawn yn ei adroddiad y dylid gwneud gwaith pellach ar gostau ariannol y Bil a'r asesiad effaith rheoleiddiol. Fel y cânt eu cyflwyno ar hyn o bryd, ac fel y nododd yr Aelod sy'n gyfrifol yn ei araith agoriadol, ceir nifer o fylchau yn y costau a nifer o feysydd lle mae angen datblygu'r dystiolaeth ariannol, gan gynnwys trylwyredd costau rhedeg yr ombwdsmon a'r costau i ddarparwyr gofal iechyd preifat. Hyd nes y caiff y gwaith hwn ei wneud, ni fydd y Llywodraeth yn cyflwyno penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Bydd hyn yn rhoi amser i'r Pwyllgor Cyllid roi ystyriaeth bellach i'r asesiad effaith rheoleiddiol ac i ymgymryd â'r gwaith yn unol ag argymhellion y pwyllgor. Bydd unrhyw gostau ychwanegol am ddarparu pwerau ychwanegol i'r ombwdsmon yn cael eu talu o gronfa gyfunol Cymru. A dweud y gwir yn blaen, bydd gwario mwy o arian ar yr ombwdsmon yn golygu llai o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen mewn cyfnod o gyni parhaus. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn cael dadansoddiad trylwyr o'r costau.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, wedi cyfarfod â'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil ac wedi rhannu dadansoddiad cyfreithiol o'r Bil sy'n nodi nifer o feysydd lle mae angen gwneud newidiadau i sicrhau ei fod yn gweithio'n gywir, os caiff ei weithredu, er mwyn cyflawni'r bwriad polisi a nodwyd. Dylwn bwysleisio bod y rhain yn ofynion hanfodol ar gyfer effeithiolrwydd, yn hytrach na gwelliannau ac ychwanegiadau dewisol. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i weithio gyda'r Aelod sy'n gyfrifol wrth i'r Bil fynd rhagddo er mwyn datrys y materion a amlygwyd.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r mater hwn eto heddiw ac yn sicr, fel aelod o'r pwyllgor, byddaf yn ei gefnogi, a byddwn yn ei gefnogi, wrth iddo basio Cyfnod 1 yn y Siambr hon.
Mae galwadau wedi bod i gynyddu pwerau'r ombwdsmon ers 2013, ac rydym yn teimlo ei bod yn hollbwysig fod rôl yr ombwdsmon yn cael ei thrawsnewid. Ni ddylai neb sy'n defnyddio unrhyw un o'n gwasanaethau cyhoeddus deimlo cywilydd eu bod wedi gorfod gwneud cwyn os ydynt yn teimlo bod angen iddynt wneud hynny. A phan aiff pethau o chwith, mae'n rhaid i bawb ohonom allu craffu ar y camgymeriadau ac unioni pethau. Rydym wedi gweld bod cyrff cyhoeddus Cymru yn wynebu cynnydd yn nifer y cwynion: iechyd, 38 y cant; gwasanaethau cymdeithasol, 9 y cant.
Mae ychydig o achosion rwyf wedi eu cyflwyno i'r ombwdsmon fy hun fel Aelod Cynulliad wedi tynnu sylw at yr angen gwirioneddol am ymchwilio a chraffu effeithiol pan fo pethau wedi mynd o chwith, neu lle mae pobl wedi disgyn drwy'r rhwyd, yn enwedig o fewn y gwasanaeth iechyd—mae'n rhaid i mi ddweud, lle y gall esgeulustod o'r fath fod yn fater o fywyd neu farwolaeth mewn gwirionedd. Mewn achosion o'r fath, lle nad yw'n bosibl troi'r cloc yn ôl, mae sicrwydd na fydd unrhyw deulu arall yn gorfod mynd drwy'r un dioddefaint yn aml yn rhywfaint o gysur ynddo'i hun. Ac mae nifer y teuluoedd rwyf wedi siarad â hwy—yn wir, mae proses yr ombwdsmon yn helpu i gadw cydbwysedd, mewn gwirionedd, pan fydd pethau wedi mynd o chwith.
Mae bwriadau polisi cyffredinol y Bil o ran diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed a gwella cyfiawnder cymdeithasol yn rhai y credaf y byddai pob un ohonom yn eu cefnogi yn y Siambr hon. Byddai cael gwared ar y gofyniad i wneud cwyn yn ysgrifenedig, er enghraifft, yn galluogi'r rheini nad ydynt yn gallu ysgrifennu i leisio eu pryderon. Ac roedd yn peri cryn ofid, mewn gwirionedd, pan oeddem yn sôn am ganran y bobl sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd gwael iawn yng Nghymru—hwy yw'r sector anghofiedig yma, a bydd y cymorth hwn yn cynnwys y rheini. I'r perwyl hwn, rydym yn cefnogi'r cynnig i gryfhau pwerau'r ombwdsmon.
Rydym yn croesawu'r cynigion hir ddisgwyliedig o fewn y Bil i alluogi'r ombwdsmon i ymgymryd ag ymchwiliadau ar ei liwt ei hun lle y ceir materion thematig. Ombwdsmyn pump o aelodau Cyngor Ewrop yn unig sydd heb y pŵer hwn, felly mae'n hen bryd i Gymru ddal i fyny â gweddill y DU ac Ewrop. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi safbwynt llugoer Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r pŵer hwnnw, ond o fewn y paramedrau cywir, credaf fod pŵer o'r fath yn hanfodol er mwyn gwella'r broses o ddiogelu ac amddiffyn aelodau mwy agored i niwed yn ein cymdeithas ac mae ganddo'r potensial i chwarae rôl ataliol sylweddol hefyd. Wrth gyflwyno tystiolaeth i'r pwyllgor, roedd rhanddeiliaid, yn gyffredinol, yn cefnogi'r pwerau hyn ac yn gefnogol i fwrw ymlaen â'r rhannau cadarnhaol, ar ôl clywed bod pwerau ymchwilio ar eu liwt eu hunain yn gyffredin ledled Ewrop. Felly, mae yna gorff o arferion da y bydd y Bil hwn yn datblygu ohono mewn cyfnodau diweddarach.
Rydym hefyd yn croesawu'r pwerau arfaethedig i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â'r sector iechyd preifat, a fydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r canlyniadau y bydd yr ombwdsmon yn gallu eu sicrhau. Ond yn amlwg, mae angen i mi egluro mai'r sector preifat o fewn y llinell ofal yw hwnnw pan fo'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd yn ogystal. Mae yna stori ofnadwy am aelod o'r cyhoedd a oedd yn gorfod aros pum mlynedd a hanner am ymateb i gŵyn am driniaeth breifat a gafodd ei diweddar ŵr.
Yn olaf hefyd, croesewir pwerau arfaethedig i sefydlu gweithdrefn unffurf i ymdrin â chwynion ar draws y sector cyhoeddus ac i weithio ar y cyd â chomisiynwyr eraill, cynghorwyr statudol, rheoleiddwyr ac Archwilydd Cyffredinol Cymru i geisio ysgogi gwelliannau yn y modd yr ymdrinnir â chwynion gwasanaethau cyhoeddus ac ymatebion i'r dinesydd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod pryderon o fewn y pwyllgor mewn perthynas â 'Gweithio i Wella' a'r canllawiau cwyno statudol o ran gweithdrefnau cwyno ar hyn o bryd, oherwydd credaf fod yna deimlad ar draws y sector bod angen gweithdrefn gwyno gyson a chadarn iawn yma yng Nghymru yn y lle cyntaf. Wedi'r cyfan, mae gan yr ombwdsmon dueddiad i beidio â chymryd rhan tan y bydd bobl wedi ceisio gwneud cwyn drwy'r broses gwyno, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych, yn fy mhrofiad fy hun o weithio ar nifer o achosion ar ran fy etholwyr, nid yw 'Gweithio i Wella' yn gwella pethau bob amser.
Mae'r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion mewn perthynas â diwygiadau amrywiol i'r asesiad effaith rheoleiddiol cyn i hwn gael ei ystyried yng Nghyfnod 2. Wrth gwrs, mae ein cefnogaeth i fwrw ymlaen â'r Bil yn amodol ar hyn. Rwy'n falch o nodi bod 18 o'n 19 argymhelliad wedi cael eu derbyn, ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei hystyried yn y Siambr hon, nid yw'r cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn wedi cael ei gyflwyno eto, er gwaethaf ymateb yr Aelod sy'n gyfrifol i adroddiad y pwyllgor ddoe. Buaswn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro heddiw beth yw'r rheswm am yr oedi, ac yn cadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r penderfyniad ariannol o fewn yr amser gofynnol. Mae llawer o waith wedi'i wneud ar hyn, ac nid ydym eisiau iddo fethu oherwydd hyn.
A ydych yn dirwyn i ben?
Ydw. Os nad yw hwn yn pasio, ni fydd y pwyllgor yn gallu dechrau ar broses graffu Cyfnod 2, a gallai'r Bil aros mewn rhyw fath o limbo. Beth bynnag, edrychaf ymlaen at gymryd rhan yn y broses o graffu ar y ddeddfwriaeth hon yn y dyfodol. Diolch.
Rwy'n cefnogi'r Bil ombwdsmon arfaethedig. Rwy'n falch mai argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yw cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, neu byddai'r ddadl hon wedi dod i ben yn llawer cynt nag y bydd mewn gwirionedd. Rwyf hefyd yn cytuno â Mark Drakeford y gellir gwella pob deddfwriaeth a gyflwynir yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i bawb ohonom ei ystyried o bosibl. A gaf fi hefyd ddiolch i Simon Thomas am arwain ar y Bil drwy gydol y Cynulliad hwn? Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd i Jocelyn Davies, a gadeiriodd y Pwyllgor Cyllid yn y Cynulliad diwethaf a chynhyrchu'r sail ar gyfer y Bil hwn.
Hoffwn ganolbwyntio ar dri phrif bwynt heddiw. Mae'r gallu i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, sydd ar gael i sawl ombwdsmon arall, yn bwysig, ond mae hefyd yn bwysig gwirio a chydbwyso er mwyn sicrhau nad yw hyn yn cael ei gamddefnyddio. Mae awgrymu y dylai'r ombwdsmon ymgynghori â rheoleiddwyr a chomisiynwyr eraill cyn gwneud hynny yn un pwysig. Hefyd, os yw'r Cynulliad yn rheoli cyllideb yr ombwdsmon, ac os yw'r Cynulliad yn credu nad yw ymchwiliadau ar ei liwt ei hun yn cynnig gwerth am arian, yna gall wrthod darparu cyllid ar eu cyfer yn y dyfodol. Credaf fod hynny'n allweddol. Y peth arall yw, heb ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, os oes gennych saith o gartrefi nyrsio sy'n eiddo i un cwmni, a'n bod wedi cael cwynion o bedwar ohonynt, ni allwch ymweld ag unrhyw un o'r tri arall sy'n eiddo i'r un cwmni, sy'n debygol o fod â'r un problemau, oherwydd nid ydych wedi cael cwyn amdanynt. Y perygl yw y bydd yr arferion gwael yn y pedwar cyntaf yn cael eu cyflawni yn y tri arall ac ni fyddwch yn gallu ymchwilio.
Un o'r cynigion allweddol yw bod cwynion yn cael eu derbyn ar lafar. Rydym ni fel Aelodau yn derbyn cwynion ar lafar yn rheolaidd. Mae nifer o bobl yn llawer hapusach yn siarad â ni ac yn gwneud cwynion ar lafar nag y maent yn eu gwneud yn ysgrifenedig, boed yn e-bost neu'n llythyr. Nid ydynt yn teimlo'n hyderus i ysgrifennu. Bydd caniatáu i'r ombwdsmon dderbyn cwynion ar lafar yn caniatáu i bobl nad ydynt yn cwyno ar hyn o bryd i wneud hynny. Mae gallu'r ombwdsmon i dderbyn cwynion ar lafar yn cydymffurfio â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011, a elwir gyda'i gilydd yn 'Gweithio i Wella'. Felly, nid ydym eisiau sefyllfa lle y gallwch fynd at y GIG, lle rydych yn dilyn gweithdrefn gwyno'r GIG i'r pen, ac yna pan fyddwch eisiau mynd at yr ombwdsmon, ni allwch gwyno ar lafar, mae'n rhaid i chi ei gwyno'n ysgrifenedig. Bydd hynny'n atal nifer o bobl. Bydd y bobl hynny'n llai addysgedig, yn llai abl i ddilyn y broses, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn yr ystafell hon yn dymuno i hynny ddigwydd. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod y bobl nad ydynt yn hapus yn cyflwyno eu cwynion yn ysgrifenedig yn gallu eu cyflwyno ar lafar.
Rwy'n cytuno y dylai'r ombwdsmon gael pŵer i ymchwilio i driniaethau meddygol preifat. Rydym wedi cael achosion lle mae pobl wedi mynd at y GIG, wedi mynd yn ôl at ofal iechyd preifat, wedi mynd at y GIG unwaith eto, ac mae ganddynt broblem. Mae'r ombwdsmon yn gallu ymdrin â'r ddau ymweliad â'r GIG, ond nid yw'n gallu ymdrin â'r darn yn y canol sydd wedi cael ei wneud yn breifat. Mae honno'n broblem bendant, ac mae'n un y mae'r ombwdsmon ei hun yn ei chydnabod. Ni all fod yn siŵr ar ba gam a lle y digwyddodd y broblem. Mae'n cyfyngu ar allu'r ombwdsmon i ymchwilio i ofal preifat fel rhan o lwybr gofal claf y GIG. Mae'n golygu na all roi ymateb llawn i'r achwynydd ac rwy'n teimlo bod hyn, ac rwy'n siŵr bod pobl eraill yn teimlo bod hyn yn anfoddhaol. Dylid cymhwyso'r un egwyddorion ag ar gyfer gofal iechyd y GIG mewn unrhyw ganfyddiad sy'n ymwneud â chamweinyddu neu fethiant gwasanaethau er mwyn sicrhau cysondeb.
Mae'r Bil hwn yn ymwneud â gwella gallu'r ombwdsmon i ymdrin â chwynion pobl Cymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i'w gefnogi oherwydd mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl rydym ni yma i'w cynrychioli.
Diolch i Simon Thomas am ei waith fel yr Aelod arweiniol ar y Bil hwn a hefyd i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Clywsom gryn dipyn o dystiolaeth yn y pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol ar y Bil hwn ac rydym wedi sicrhau rhywfaint o gonsensws ar y pwyllgor ynglŷn â'r angen am fwy o bwerau i'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus.
Yn UKIP, at ei gilydd rydym yn cefnogi'r Bil hwn. Rydym yn cytuno gyda'r nod o'i gwneud yn haws i bobl ymdrin â'r ombwdsmon, gan gynnwys pobl sydd am wneud cwyn lafar oherwydd nad oes ganddynt hyder i wneud cyflwyniad ysgrifenedig. Cytunaf â siaradwyr blaenorol ar y pwynt hwn, y bydd yn ehangu nifer y bobl sy'n gallu gwneud cwynion.
Trafodwyd hawl yr ombwdsmon i gychwyn ei ymchwiliadau ei hun yn fanwl yn ystod ymchwiliad y pwyllgor. Credaf fod hwn yn offeryn gwerthfawr ar gyfer yr ombwdsmon os yw'n amau efallai fod problemau systemig yn digwydd rywle yn y sector gwasanaethau cyhoeddus. Wrth gwrs, gall fod anawsterau, fel yr amlinellodd Mike Hedges, ac mae angen gwirio a chydbwyso, ond rwy'n credu bod y gofyniad i ymgynghori gyda'r rheoleiddiwr wedi ymdrin â hynny. Ond rhaid inni hefyd gofio, os darganfyddir problemau systemig, yn y pen draw, gallai fod arbedion cost pan gaiff y rheini eu nodi a'u cywiro.
Rydym hefyd yn croesawu gallu'r cyhoedd i fynd ar drywydd cwynion sy'n ymwneud â thriniaeth feddygol breifat, hynny yw pan fydd y driniaeth yn ymwneud â'r GIG ar ryw adeg. Felly, yn gyffredinol, rydym yn croesawu egwyddorion y Bil ac rydym yn cefnogi'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn ac yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Fel y clywsom, mae'r ombwdsmon yn chwarae rôl hanfodol yn sicrhau bod unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder yn gallu gwneud cwyn, a hefyd yn gallu gwneud y gŵyn yn hyderus y bydd yn cael ei thrin yn deg. Mae llawer o siaradwyr wedi trafod y rhan fwyaf o'r meysydd roeddwn i am roi sylw iddynt. Mae'n ymddangos ei bod yn haws cyfrif nifer y pwyllgorau nad ydynt wedi bod yn gysylltiedig â'r Bil ombwdsmon na'r nifer a fu'n rhan ohono. Y cyfan a ddywedaf yw mai pleser oedd gweithio ar y Pwyllgor Cyllid gyda'r Cadeirydd, Simon Thomas, ar ddatblygu hyn.
Ni wnaethom y penderfyniad i fwrw ymlaen â'r Bil hwn yn hawdd. Cawsom lawer o drafod a dadlau yn ei gylch, oherwydd roeddem yn sylweddoli nad ydych am ddeddfu'n ddifeddwl, nid ydych am or-reoleiddio, nid ydych am wneud cyfraith ddiangen, os oedd gan yr ombwdsmon bwerau i gyflawni ei dasgau o fewn y ddeddfwriaeth bresennol a oedd yno. Ond fe wnaethom benderfynu, ar y cyfan, ers cyflwyno Deddf 2005, fod ymarfer gorau a safonau rhyngwladol wedi symud ymlaen a theimlem ei bod yn bwysig i ddeddfwriaeth Cymru adlewyrchu hyn.
Rwy'n cytuno â geiriau fy nghyd-Aelod o'r Pwyllgor Cyllid, Mike Hedges, a ddywedodd os oedd cwyn yn galw am olrhain cwyn drwy'r broses, o'r sector cyhoeddus i'r sector preifat ac yn ôl, hyd yn oed os yw ond yn y sector preifat am ychydig iawn o amser, fel yn achos cwyn feddygol, yna roedd hi'n ymddangos yn wallgof y dylai fod cyfyngiad ar symud y gŵyn honno ymlaen.
Rwy'n cytuno hefyd ag aelodau'r pwyllgor cydraddoldeb, os ceir problem yn ymwneud â llythrennedd rhywun ac nad ydynt ond yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud cwyn ar lafar, fel sy'n digwydd yn aml, yna nid yw'n iawn gwrthod y gŵyn honno ar sail y modd y'i gwnaed yn unig. A dylai'r broses gael ei diogelu ar gyfer y dyfodol, oherwydd os oes ffordd newydd o gyflwyno cwynion yn y dyfodol, dylid cydnabod hynny yn ogystal. Ar yr un pryd, fel y dywedodd yr ombwdsmon ei hun, mae'n rhaid i chi hefyd warchod rhag cwynion blinderus, ac mewn unrhyw system gwynion, byddwch yn cael cyfran, lleiafrif, ond lleiafrif sylweddol weithiau, o gwynion sydd naill ai'n fwriadol flinderus neu'n dod i ben yn ystod proses y gŵyn honno, a rhaid caniatáu ar gyfer hynny'n ogystal.
Mae hwn yn fath gwahanol o Fil, fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, oherwydd nid yw'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, caiff ei ystyried gan bwyllgor, ac yna mae gan y Llywodraeth ei rôl i'w chwarae, wrth gwrs. Ond fel y dywedais ar y dechrau, rwy'n llwyr gydnabod y llwyth gwaith sydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, felly ni wnaethom wasgu arno i ddatblygu hwn mewn gwagle heb unrhyw ddadl, gan feddwl, 'Gadewch inni gael darn arall o gyfraith yng Nghymru.' Roeddem yn credu bod ei angen, ond ar yr un pryd, credaf fod rhai o'r gwelliannau a gyflwynwyd yn werth eu hystyried, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd yn ôl at y Pwyllgor Cyllid a bwrw ati yn awr ar weddill y broses hon, ac rwy'n gobeithio bod y ddeddfwriaeth sy'n disgyn ar y Llywodraeth—dywedaf ei bod yn dod drwy flwch post y Llywodraeth; nid Bil ydyw, mae'n—beth bynnag yw'r broses y mae deddfwriaeth yn ei dilyn i gyrraedd Llywodraeth Cymru, a bod honno, wedyn, yn ddeddfwriaeth y gellir ei chymeradwyo gan y Cynulliad hwn.
Roedd Tony Benn yn arfer dweud,
Pa bŵer sydd gennych? O ble y'i cawsoch? Er budd pwy rydych yn ei arfer? I bwy rydych chi'n atebol? A sut y gallwn gael gwared arnoch chi?
Nawr, ymddengys bod yr ombwdsmon yng Nghymru yn mwynhau grym llwyr bron. Mae grym yn llygru, dywedir wrthym, ac mae grym llwyr yn llygru'n llwyr. Felly, sut y gall unigolyn cyffredin droi at yr ombwdsmon yng Nghymru os caiff ei drin yn wael gan yr ombwdsmon? A'r ateb yng Nghymru yw na all wneud hynny. Yr unig opsiwn sydd ar gael yw adolygiad barnwrol neu bleidlais yn y Cynulliad. Felly, oni bai bod gan berson ffrindiau gwirioneddol gyfoethog sy'n barod i ariannu adolygiad barnwrol, mae gan yr ombwdsmon rym absoliwt fwy neu lai, ac ni all hynny fod yn iawn.
Mae unigolyn yng ngogledd Cymru yn honni iddynt gael eu bwlio gan yr ombwdsmon. Mae preswylydd yng Nghaerdydd yn nodi bod yr ombwdsmon yn llwgr. Mae person yn Sir Gaerfyrddin yn dweud bod yr ombwdsmon wedi celu pethau, ac mae hefyd yn honni llygredigaeth, ac rwyf wrthi'n edrych ar yr honiadau hyn. Ymddengys bod yr ombwdsmon yn dibynnu ar orchmynion cau ceg, ac rwyf am siarad am fy mhrofiad i, oherwydd cafodd yr achos roeddwn yn rhan ohono a lle y cefais fy nyfarnu'n euog o dramgwydd ei wrthod yn y lle cyntaf. Ar ôl ymyrraeth bersonol yr ombwdsmon yn unig y dechreuodd yr ymchwiliad i fy achos i.
Nawr, roedd y swyddog ymchwilio yn fy achos i yn gyn reolwr gyda chyngor Caerdydd a adawodd yr awdurdod pan oeddwn yn ddirprwy arweinydd yn ystod proses ailstrwythuro, ac nid oeddwn yn cael galw tystion yn fy nhribiwnlys. Gwrthododd yr ombwdsmon ddatgelu negeseuon e-bost a oedd yn ymwneud â fy achos. Yn ystod y tribiwnlys, dywedwyd bod trawsgrifiad yn anghywir—trawsgrifiad llys a oedd yn cefnogi fy safbwynt. Cafodd llawer o aelodau o'r cyhoedd eu gwahardd rhag dod i'r tribiwnlys hefyd, ac mae llawer o bobl yn dweud mai ffars a sioe wleidyddol oedd yr achos.
Roedd gennyf brawf hefyd fod yr ombwdsmon wedi trafod fy achos, pan oedd i fod yn gyfrinachol, gydag unigolyn arall. Roedd gennyf negeseuon testun a ddynodai hyn, ac nid oeddwn yn cael eu cyflwyno. Sut y gall hynny fod yn iawn? Felly, afraid dweud bod gennyf bryderon enfawr—enfawr—ynglŷn â swydd yr ombwdsmon yng Nghymru a'r pŵer y mae'n ei fwynhau. Yn fy marn i, mae'r pwerau hyn eisoes yn cael eu camddefnyddio. Felly, pam ar y ddaear y buaswn yn pleidleisio dros ragor o bwerau? Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig.
Diolch. A gaf fi alw ar Simon Thomas i ymateb i'r ddadl? Simon.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau heddiw. A gaf i, yn gyntaf oll, jest cydnabod a bod yn glir ynglŷn â'r cyfraniadau gan y ddau bwyllgor, wrth gwrs? Rwy'n falch iawn i groesawu eu hymateb nhw a'r ymateb cyffredinol i'r pwerau sydd yn y Mesur sydd gerbron y Cynulliad heddiw, a hefyd eiriau cynnes y Cwnsler Cyffredinol, yn gyffredinol, i’r pwerau hyn, ond, wrth gwrs, hefyd y geiriau o rybudd ar ambell un yn ogystal, a byddwn ni’n edrych ar sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod y Pwyllgor Cyllid, wrth baratoi fersiwn nesaf o’r Bil yma, yn ymateb i ofynion y Llywodraeth a hefyd gofynion y ddau bwyllgor arall.
A gaf i fod yn glir wrth John Griffiths, os caf i, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau? Er nad ydym ni’n gallu derbyn ailwneud yr asesiad rheoleiddio yn llawn cyn Cyfnod 2, am y rhesymau y gwnes i eu gosod allan—a gobeithio eich bod chi’n deall hefyd nawr fod rhaid i fi drafod gwelliannau gan y Llywodraeth, sydd hefyd yn effeithio ar hyn—byddaf i yn sicr yn ymrwymo i gadw’r pwyllgor wedi'i hysbysu o’r gwaith rydym ni’n ei wneud ar y rheoliadau hyn ac ar yr asesiadau. Ac wrth inni fynd drwy’r argymhellion a gweld a ydy’r ffigurau’n newid neu a ydym ni’n cael gwybodaeth newydd—beth bynnag rydym ni’n ei wneud, byddwn ni’n rhannu hynny gyda’r pwyllgor, fel bod y pwyllgor yna’n ymwybodol, gobeithio, ac erbyn bod y Llywodraeth yn hapus i gynnig penderfyniad ariannol, y bydd y pwyllgor hefyd yn gweld y darlun mwy cyflawn, ac wedyn byddwn ni’n gallu symud at ran dau o’r broses yma a gweld y gwelliannau sydd yn siapio’r Bil yn y pen draw.
Rwy'n croesawu’n arbennig fod Mick Antoniw, fel Cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiadol, wedi cydnabod bod hon yn Ddeddf crynhoi, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig jest atgoffa ein hunain mai dyma’r tro cyntaf i ni fel Cynulliad drafod y Ddeddf, a phwerau’r ombwdsman, oherwydd ei fod e, yn y lle cyntaf, wedi deillio o Dŷ’r Cyffredin, ac rwy'n credu ei fod e’n bwysig ein bod ni—er ein bod ni’n gyfrifol am argymell enw’r ombwdsman, a bod yr ombwdsman yn atebol i’r Cynulliad yma, nid ydym, wrth gwrs, wedi cael y cyfle i adolygu'r ddeddfwriaeth ers dros ddegawd, ac mae’n briodol, rydw i’n meddwl, ein bod ni’n gwneud hynny.
A gaf fi ddweud, ar rai o'r cyfraniadau i'r ddadl, yn amlwg, rwy'n croesawu'n gynnes yr Aelodau sydd o blaid y Bil, a bydd y Pwyllgor Cyllid am ystyried yr holl sylwadau a wnaed, ond fe'm trawyd yn arbennig, rwy'n credu, gan sylwadau gan bobl megis Mike Hedges a Janet Finch-Saunders a'r tu ôl i mi yma gan Gareth Bennett—pawb sydd wedi rhyngweithio gyda'r ombwdsmon ar ran eu hetholwyr ac sydd wedi gweld y gwaith a wna'r ombwdsmon, weithiau ar ddatrys problemau, ac weithiau ar nodi'r broblem er nad yw'n gallu ei datrys weithiau.
Mae'r pwerau newydd yn y Bil hwn yn caniatáu i'r ombwdsmon wneud rhywfaint o'r gwaith weithiau—. Soniodd Gareth Bennett am fethiant systematig rwy'n meddwl—problemau sydd, ers amser hir, wedi cael sylw gan Janet Finch-Saunders. Cynlluniwyd y pwerau hyn i ddwyn grwpiau neu unigolion at ei gilydd i oresgyn y rheini, ac maent yn canolbwyntio'n fawr iawn ar y dinesydd. Maent yn canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar y pwerau sydd angen i'r ombwdsmon eu harfer, nid fel ombwdsmon am ei fod yn unben bach, ond fel ombwdsmon ar ran pob un ohonom, ac ar ran ein holl ddinasyddion yn ogystal. Credaf y bydd llawer ohonom sydd wedi dod ar draws yr ombwdsmon—. Cefais broblemau wedi eu datrys gan yr ombwdsmon; cefais broblemau y dywedodd yr ombwdsmon wrthyf na allai eu datrys. Wel, wyddoch chi, mae rhywbeth o'i le weithiau ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac mae angen inni gydnabod hynny, ond gobeithio y bydd rhai o'r pwerau yn y Bil ynglŷn â gweithdrefnau cwyno yn y dyfodol yn ymdrin â rhai o'r methiannau hirsefydlog hynny. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y sylwadau hynny gan yr Aelodau. Roedd Nick Ramsay'n gefnogol i hynny hefyd a thanlinellodd y ffaith bod angen mynediad at gyfiawnder ac mae'r mynediad yn y pwerau hyn yn gwneud hynny.
Rwy'n cydnabod bod yna un Aelod nad yw o blaid y Bil hwn—neu o leiaf mae yna un Aelod wedi dweud ar goedd nad yw'n cefnogi'r Bil, ac wrth gwrs, roedd ef ei hun yn ddarostyngedig i adroddiad anffafriol drwy gyfrwng gweithdrefn yr ombwdsmon. Mewn ateb i gwestiwn Tony Benn, wrth gwrs, mae'r ombwdsmon yn atebol i'r Cynulliad hwn. Gall pleidlais yn y Cynulliad ddiswyddo'r ombwdsmon. Mae angen cofnodi nad yw pwerau'r ombwdsmon yn ddigyfyngiad. Ac rydym yn ymddiried yn yr ombwdsmon. Mae'n rhaid buddsoddi llawer o ymddiriedaeth mewn ombwdsmon, oherwydd bydd ef—ar hyn o bryd, ef ydyw—yn arfer pwerau mawr ar ein rhan, ac rydym yn awgrymu y dylai gael mwy o bwerau. Fodd bynnag, mae'r pwerau rydym yn eu hawgrymu yn bwerau pellach ym maes amddiffyn y dinesydd. Nid ydynt mewn unrhyw ffordd yn amharu ar y weithdrefn a nodwyd gan Neil McEvoy, sef ystyried cwynion ynghylch cynghorwyr lleol. Nid yw'r pwerau hyn yn ymwneud â hynny mewn unrhyw fodd, ac mae'r pwerau hynny eisoes wedi'u cynnwys, wrth gwrs, yn Neddf 2005 a basiwyd gan Dŷ'r Cyffredin.
Felly, wrth fwrw ymlaen â'r Bil, gobeithio y bydd pobl yn dod i'r casgliad y gallwn ddefnyddio'r ombwdsmon i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth inni nodi methiannau sy'n systematig neu'n rhedeg dros gyfnod o amser; gallwn ddefnyddio'r ombwdsmon i helpu ein dinesydd unigol pan fydd ef neu hi wedi dioddef rhyw anghyfiawnder oherwydd methiant gan awdurdodau cyhoeddus. Nid ydym am weld unrhyw rai o'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio am fod pawb ohonom eisiau gweld awdurdodau cyhoeddus perffaith yng Nghymru a gweinyddu cyfiawnder naturiol mewn modd perffaith yn Nghymru—nid yw bob amser yn digwydd. Ond pan welwn yr ombwdsmon yn arfer pwerau, yr hyn rydym am ei weld, yn ei dro, gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yw eu bod yn gwrando ar beth sydd gan yr ombwdsmon i'w ddweud, yn meddwl am y modd y maent yn arfer eu cysylltiadau a'u gweinyddiaeth eu hunain, yn meddwl am beth y gallant ei ddysgu o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig, neu hyd yn oed yn rhyngwladol, yn meddwl beth y gall yr ombwdsmon eu helpu i'w gyflawni, ac wrth gwrs, yn gwella eu hymddygiad eu hunain o ganlyniad i hynny. Ac mae'n ddrwg gennyf nad yw pawb wedi dysgu'r wers honno.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.